Skip to main content

Gair Bach o Gyngor Rhifyn 1 test

Page 1

Gair bach o

Gyngor Gorffennaf 2021

Rhifyn 1

Staff Cyngor Gwynedd

BET YN BENDRAW’R BYD

Hefyd yn y rhifyn yma: • • • • •

Gardd gogoneddus yn brofiad bythgofiadwy. Concro Marathon i gasglu arian. Llecynnau gwyrdd yn cynnig llesiant. Her gerdded. Cyngor yn 25.


Gair bach gan y golygydd Croeso i’r rhifyn cyntaf o Gair Bach o Gyngor. Fel mae’r enw yn awgrymu dyma fersiwn bach o’r cylchgrawn arferol fydd yn cael ei ryddhau bob chwech i wyth wythnos. Mi fydd y cylchgrawn llawn sy’n cael ei argraffu a’i anfon i leoliadau gwaith yn cael ei gyhoeddi fel yr arfer o gwmpas y Nadolig. Yn y rhifyn yma rydym yn dal fyny hefo rhai o aelodau staff y Cyngor a chael darganfod beth maent wedi bod yn ei wneud dros y misoedd diwethaf. Mae’r Cyngor yn dathlu penblwydd arbennig eleni ac mi fyddwn yn hel atgofion gydag un aelod o staff sydd wedi bod yma ers y cychwyn un. Cofiwch os hoffech chi gyfrannu at y rhifyn nesaf mae modd i chi gysylltu drwy e-bostio cyfathrebumewnol@gwynedd.llyw. cymru neu ffonio 01286 679341. Ffion.


Her gerdded Fel rhan o’r prosiect ‘Camu Ymlaen’ rydym yn annog pawb i ddilyn camau syml y ‘5 Ffordd at Les’. Dyma ganllaw at ddarparu cymorth i bawb ddod o hyd i gydbwysedd, adeiladu gwytnwch a hybu llesiant meddyliol a chorfforol. Bod yn actif yw un o’r camau yma, ac wrth gwrs mae cerdded yn ffordd wych o gadw’n heini. Mae’n llesol i’r meddwl ac yn ffordd o weld a dod i adnabod eich milltir sgwâr. Mae cerdded yn un o’r newidiadau bach y gallwn eu gwneud i wella ein hiechyd yn y tymor byr a’r tymor hir. Mae cerdded yn hawdd. Does dim angen offer arbennig, a gall pawb o bob oed ei fwynhau. A dweud y gwir, dyna’r ffordd hawsaf o gadw’n heini yn yr awyr agored!

Heriwch eich hun ac ewch allan am dro bob dydd, does dim rhaid cerdded yn bell. Rhannwch eich straeon gyda ni, ac anfonwch luniau o deithiau eich milltir sgwâr drwy Facebook Staff Cyngor Gwynedd neu e-bostiwch CyfathrebuMewnol@gwynedd.llyw.cymru


Bet yn troedio Llwybr y Pererinion Llongyfarchiadau mawr iawn i Bet Huws sy’n gweithio fel Swyddog Datblygu Iaith yn yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol am gwblhau taith gerdded ar hyd rhan o Lwybr y Pererinion yn ddiweddar. Cafodd Bet gwmni Gareth Roberts o Fenter Fachwen ar y daith o Lanberis i Aberdaron er mwyn codi arian tuag at Hosbis Dewi Sant. Dewch i ni felly ddal fyny hefo Bet a chael darllen mwy am y daith:

cyntaf. Ymlaen â ni wedyn o Benygroes i Drefor cyn symud ymlaen i Dudweliog a chwblhau’r daith yn Aberdaron. Wrth ddychmygu’r bererindod nôl yng nghanol y gaeaf, ’roni wedi rhagweld dyddiau hirfelyn tesog, shorts, fest ac eli haul?!...felly, munud ola’ pnawn Sul piciais i siop Grib Goch yn y pentref i nôl esgidiau cerdded gwrth-ddŵr...a chap...a chôt wrth-ddŵr ysgafn. ’Dwi mor falch nes i hynny neu ni fuasai’n brofiad mor gyfforddus!!

“Nôl ym mis Chwefror wrth droedio Cwm Brwynog cefais syniad a fyddai’n plethu fy niddordeb mewn anturiaethau a gofal diwedd oes, sef cerdded Llwybr y Pererinion o Lanberis i Aberdaron yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Cymru Garedig (Dying Matters in Wales). Diolch i’r drefn, ’roedd yr antur hefyd yn apelio at fy ffrind a chydymaith droeon, Gareth Roberts, a dyma fynd ati i droi’r cysyniad yn realiti.

Dyma gychwyn fore Llun heibio Capel Coch ac i fyny drosodd am Waunfawr gan ddilyn y llwybr drwy’r hen bentref tuag at yr afon. Wedi croesi’r bont, troi i fyny am Rosgadfan a gwyro i’r chwith oddi ar y lôn a chanfod ein hunain mewn coedwig fwsog cyn esgyn eto tuag at gyrion Moel Tryfan. Gyda dim ond y Mignaint a’r Mynydd Mawr o’n blaenau, ’roedd ‘na wir ymdeimlad o “Pererin wyf mewn anial dir” tan i ni gyrraedd Fron ac ymuno â Llwybr y Chwareli drwy Dorothea. Yna cyd-gerdded â’r Llyfni heibio Talysarn i ganol Penygroes. Mae cymaint o gladdu a chloddio

Penderfynwyd rhannu’r siwrnai’n bedwar cymal gan deithio o Lanberis i Benygroes ar y diwrnod

“Diolch i’r drefn, ’roedd yr antur hefyd yn apelio at fy ffrind a chydymaith droeon, Gareth Roberts...”


Bet a Gareth wedi cyrraedd pen y daith.

wedi digwydd i’n tirwedd, a chymaint o hanesion a lywiodd bywydau ein hynafiaid, ac felly ninnau, o’r herwydd. Gadael Penygroes fore Mawrth a dilyn llwybrau blodau gwylltion a phorthmyn heibio ffermydd a dolydd i Gapel Uchaf. Galw gyda theulu am banad yng Nghlynnog Fawr cyn ymweld ag Eglwys a ffynnon Beuno Sant, a chromlech Bachwen. Yna dilyn llwybr hudolus, llawn garlleg gwyllt cyn ymuno â’r lôn i Drefor....a gweld lle ’roeddan ni’n mynd drennydd: sef Bwlch yr Eifl. ’Roedd Bwlch yr Eifl fore Iau yn ddipyn o her ond ’roedd y golygfeydd o’r top yn werth pob ymdrech, a throsodd â ni wedyn am eglwys Pistyll, sydd bellach wedi’i llyncu gan unedau gwyliau. Mae’r defnydd o’r gair “datblygiad” yn y cyd-destun yma yn un sy’n fy nharo’n od a deud y lleia’?!? Yna ar hyd llwybrau gwartheg a defaid i Nefyn a Phorthdinllaen gan ddilyn yr arfordir a’i gildraethau smyglwyr i Dudweiliog. Gadawsom y glaw yn Nhudweiliog fore Gwener a cherdded traethau a llwybrau llawn malwod am

Langwnnadl gyda’r heulwen yn ein hannog. Cawsom ginio hyfryd ar lan y môr traeth Penllech cyn mynd ‘mlaen heibio Porthor a chartref y brain: dwi’m yn meddwl i mi ddod ar draws cymaint ohonynt: cannoedd!!...a’r sŵn, er yn fyddarol, eto’n swynol. Yna, dilyn yr afon i Aberdaron dirion deg, a dathlu pen ein taith efo hufen iâ hyfryd Glasu. Bu’n brofiad arbennig a gwerthfawr tu hwnt...gwir bererindod i mi fy hun ar ôl blwyddyn mor boncyrs! ’Roedd bywyd yn llythrennol mor ddistaw am bedwar diwrnod: dim ceir, dim sŵn heblaw cân yr adar, yr afon a thonnau, a’r ymdeimlad o hamddena...yn fy atgoffa o’m mhlentyndod. ’Roedd bod ynghanol natur yn ei ogoniant gwyllt a throedio hanes: hen adfeilion aelwydydd a gwaith hefyd yn fy atgoffa o’m gwreiddiau. Difyr oedd yr ymdeimlad a gefais i a Gareth wrth ddod ar draws y niferus fythynnod gwyliau ar ein taith: er yn hyfryd, ’roedd calon y cartref wedi diflannu, a’u gadael yn “oer”. Cyfanswm o 47.8 milltir a chyfanswm o £1,250 i’r Hosbis hyd yn hyn. Diolch yn fawr i bawb am eu cefnogaeth a chyfraniadau hael.”


Concro Marathon i gasglu arian Fel rhan o ‘Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl’ a gynhaliwyd yn ddiweddar mae’r Cyngor wedi bod yn hyrwyddo y 5 Ffordd at Les. Un o themâu’r 5 Ffordd at Les yw ‘Bod yn actif’, ac un aelod o staff sydd wedi ymgymryd â hyn ydi Iwan Evans sy’n gweithio fel Swyddog Iechyd Amgylchedd Tai. Yn ddiweddar bu i Iwan a’i ffrindiau ymgymryd mewn tipyn o her wrth iddynt gymryd rhan yn y Dyfi ‘Ultra’ Marathon i godi pres ar gyfer elusennau sy’n agos iawn at eu calonnau. Y nod oedd cwblhau’r cwrs 50 milltir mewn 15 awr sydd yn ddipyn o gamp gan fod y ras yn dringo dros 15 copa mynydd ac yn dringo 3000 o fetrau. Ac yntau wedi cael cyfle i roi ei draed fyny erbyn hyn, dyma gyfle i Iwan rannu ei brofiad hefo ni.

“Roedd cymryd rhan yn y marathon yn brofiad anodd a heriol ond yn bennaf oll, yn un gwerth chweil.”

“Roedd cymryd rhan yn y marathon yn brofiad anodd a heriol ond yn bennaf oll, yn un gwerth chweil. Roedd rhai darnau yn well na’i gilydd ond roedd cael cwmni gweddill y bois yn y tîm yn brofiad da iawn gan ein bod yn gallu helpu a hybu ein gilydd drwy’r darnau anodd- dwi’n falch iawn ohonynt. Profiad calonogol oedd gweld ein holl ffrindiau a theulu yn dod allan i’n cefnogi hefo bwyd, diodydd a bloeddiau uchel. Dwi ddim yn meddwl fydden ni wedi medru cwblhau hanner y ras, heb sôn am ei gorffen hi heb ein cefnogwyr gwych. Doedd yr un ohonom erioed wedi gwneud ffasiwn ras o’r blaen - roedd rhai o’r criw yn cychwyn o’r cychwyn go iawn! Roedd hyfforddi yn rhan fawr o baratoi wrth reswm,. Ond, gan fod cyfyngiadau COVID mewn lle ar


y pryd roedd hynny yn rwystr arall. Doedd dim modd teithio yn bell, roedd rhaid ymarfer ar stepen drws fel petai, a doedd bob un ohonom ddim yn byw wrth ymyl mynyddoedd! Roedd rhaid ceisio cadw at leiafrif o oddeutu 20 milltir bob wythnos ac yna yn raddol ei godi i uchafswm o 70 milltir! Saff dweud na fyddai’r un ohonom yn methu’r dyddiau hynny! Roedd rhaid ystyried deiet a’r math o fwyd oedd angen ei fwyta – gels egni , fferins ac yn y blaen. Mae’n rhaid i mi ddweud fod fy nghydweithwyr yn y Cyngor wedi bod o help yn gwneud “fflapjacs” blasus i ni ei gael ar y diwrnod, ac roeddwn i’n llowcio brechdanau tiwna fel dyn o’i go ar y diwrnod hefyd! Yn ogystal â’r pellter mawr o 50 milltir a’r 3000 medr o ddringo, roedd y llwybr yn mynd a ni i lefydd reit anial ac anghysbell ar adegau, i ddyfnderoedd a chorneli tywyllaf sir Feirionnydd! Roedd yn bwysig iawn ein bod ni’n medru dilyn y llwybr cywir . Doedd dim arwyddion ar gael i ni ar y diwrnod, felly roedd peidio mynd ar goll yn her yno’i hun! Fe wnaethon ni weiddi ar ambell un oedd efo’i fap ar ben ei lawr yn rhedeg i’r cyfeiriad anghywir ambell waith! Yn ogystal â hynny, roedd delio efo anafiadau yn bwysig iawn hefyd, doedd traed un neu ddau o’r bois ddim yn edrych yn iach iawn erbyn y diwedd!! Dwi’n meddwl mai’r her fwyaf oedd ceisio cadw meddylfryd positif

a hwyliau da pan oedd rhywun wedi blino ac mewn poen. Mae’n saff i ddweud ein bod ni gyd wedi cael llond bol ar ein gilydd erbyn diwedd y ras!! Roedd yna deimlad o ryddhad mawr wrth gwblhau’r marathon a’n bod yn cael eistedd i lawr o’r diwedd efo potel o gwrw a pheidio meddwl am faint o filltiroedd oedd ar ôl i’w wneud! Mae o wedi bod yn deimlad reit ryfedd meddwl beth mae rhywun yn mynd i wneud ar benwythnosau i ddod, gan fod dim angen hyfforddi rhagor! Rydym yn mor falch a diolchgar i weld fod pobl yn dal i gyfrannu at yr elusennau rydym yn casglu pres sef Ambiwlans Awyr Cymru, Mind, a British Heart Foundation. Dyna ydi’r agwedd bwysicaf ar ddiwedd y dydd, ac os ydi’r pres rydym wedi codi yn gwneud y gwahaniaeth lleiaf i helpu’r dair elusen yma byddem yn ddigon hapus dwi’n amau. Mae un o fy ffrindiau wedi cael cymorth gan yr Ambiwlans Awyr yn ddiweddar ac mae sawl aelod o deulu a ffrindiau’r tîm sy’n cymryd rhan wedi dioddef o broblemau’r galon. Rydym hefyd wrth gwrs yn gwybod am bwysigrwydd iechyd meddwl yn enwedig dros y cyfnod heriol hefo Covid yn ddiweddar felly mae’r achosion yma i gyd yn agos at ein calonnau. Diolch o galon i bawb sydd wedi cyfrannu - rydych yn arwyr.”


Llecynnau gwyrdd yn cynnig llesiant I’r rhai ohonoch sy’n byw yn ardal Caernarfon efallai i chi sylwi fod tu allan i ganolfan Byw’n Iach Arfon yn edrych ychydig yn wahanol yn ddiweddar. Mae datblygiad cyffrous yn mynd ymlaen yno wrth i fannau gwyrdd ar dir y ganolfan gael eu troi’n erddi cymunedol er budd y gymuned leol. Bwriad y prosiect yw galluogi unigolion o wahanol oedrannau, cefndiroedd ac anghenion l i ddod at ei gilydd er mwyn datblygu sgiliau newydd a chymdeithasu er budd eu hiechyd a lles. Mae’r criw sy’n gyfrifol am y prosiect yn chwilio am wirfoddolwyr felly os oes gennych ddiddordeb mewn garddio, mae croeso i chi ymuno. Am fwy o fanylion ar sut y gallwch wirfoddoli cysylltwch gyda Terry Williams ar 07813594777. Mae’r cais yma am wirfoddolwyr yn agored i unrhyw un felly cofiwch sôn wrth aelodau o’r teulu neu gyfeillion rydych yn meddwl fyddai gan yr amser a’r gallu i helpu.

Emma Quaeck, Stephanie Birt a Andrew Owen.

Dywedodd Terry Williams, Cydlynydd Cynllun Cyfeirio i Ymarfer: “Bydd y darn tir o flaen y ganolfan yn cael ei ddatblygu i fod yn ardd synhwyraidd yn cynnwys amrywiaeth o eitemau fydd yn addas i unigolion o bob oed ac anghenion iechyd corfforol a/neu meddyliol i’w mwynhau. Bwriedir plannu planhigion gydag aroglau arbennig sydd hefyd yn denu amrywiaeth o fywyd gwyllt i’r ardd. Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau gwahanol megis cerrig, pren, rwber a gwair er mwyn creu llwybrau synhwyraidd o amgylch yr ardd. Drwy osod eitemau cerddorol addas ar gyfer yr awyr agored o gwmpas yr ardd byddwn yn galluogi unigolion i gyfrannu ac ymateb i’w synhwyrau.” Yn ogystal â galluogi unigolion i arbrofi gyda’r gwahanol eitemau o fewn yr ardd mae sicrhau man tawel yr un mor bwysig felly mi fydd rhan o’r ardd yn cynnwys meinciau ar gyfer cymdeithasu neu wrth gwrs i fwynhau ychydig o dawelwch a’r byd natur mae’r ardd yn ei ddenu. Ychwanegodd Terry: “Rydym hefyd yn edrych at ddatblygu rhandiroedd o flaen y Ganolfan. Bydd hyn yn rhoi cyfle i unigolion o bob oed a gwahanol anghenion i dyfu cynnyrch eu hunain. Mae’r ganolfan yn gartref i Cegin Arfon sydd yn cael ei redeg gan Tîm Anableddau Dysgu Gwynedd. Mae’r gwasanaeth yn rhoi profiad gwaith i unigolion o’r gymuned sydd yn byw gydag anableddau. Y bwriad ydi defnyddio’r cynnyrch sy’yn cael ei dyfu yn yr ardd yn y caffi. Rydym yn gobeithio hefyd gallu cyfrannu ychydig o’r cynnyrch i’r banc bwyd lleol yn ogystal a phrosiect pryd a glud y Tîm Anableddau Dysgu.” “Fel tîm Cyfeirio i Ymarfer rydym yn disgwyl cynnydd sylweddol yn y nifer o bobl sy’n byw gyda cyflyrau iechyd meddwl yn cael eu cyfeirio i’n cynllun dros y misoedd nesaf, ac mae COVID-19 yn ffactor yn hyn. Bydd y prosiect hwn yn rhoi cyfleoedd i’r bobl hyn


gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol tu allan . Mae datblygu llefydd diogel yn yr awyr agored i bobl gymdeithasu yn dod yn fwy pwysig er budd iechyd a lles, a bydd y gerddi yma yn agored i’r holl gymuned yn yr ardal, ac yn adnodd amhrisiadwy i’r unigolion rheiny sy’n byw yng nghanol tref Caernarfon ond heb erddi,” eglurodd Terry.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch Byw’n Iach ar y cyfryngau cymdeithasol neu cysylltwch a Terry ar 07813594777. Os ydych yn hoff o arddio neu eisiau dysgu mwy, beth am ymuno gyda grŵp Facebook PALU ‘MLAEN sydd wedi cael ei greu ar gyfer staff y Cyngor.

Disgyblion Ysgol Pendalar.


Cyngor yn 25 Cadw ein hanes yn fyw Eleni mae Cyngor Gwynedd yn dathlu penblwydd arbennig iawn. Mae 25 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r Cyngor gael ei sefydlu ar ei ffurf bresennol yn dilyn adrefnu Llywodraeth Leol. Mae dipyn wedi newid dros y blynyddoedd ac un aelod o staff sydd wedi bod yma ar hyd y daith ydi Nest Thomas. Mae Nest yn wyneb cyfarwydd fel Rheolwr Amgueddfeydd a’r Celfyddydau yn yr Adran Economi a Chymuned ac eleni bydd yn nodi 35 o flynyddoedd ers iddi ddechrau gweithio i’r Cyngor. Dyma felly gyfle i ni hel atgofion gyda Nest ac edrych ymlaen i’r dyfodol.

Edrych yn ôl Yn 1986 cefais fy mhenodi fel Swyddog Amgueddfeydd dan hyfforddiant. Ar y pryd roeddwn yn gweithio fel archifydd yn Coventry ac roeddwn yn lwcus i gael dod ‘nôl i Gymru. Cychwynnais yn Hydref 1986 a chael fy lleoli yn yr Archifdy efo’r Gwasanaeth Amgueddfeydd ag Archifau. Mae’r Gwasanaeth wedi newid cryn dipyn ers i mi ddechrau efo’r Cyngor. Ychwanegwyd orielau celf i fy rôl ac erbyn 2010 fe’m penodwyd yn rheolwr ar y Gwasanaeth Amgueddfeydd a’r Celfyddydau a oedd yn cynnwys y Celfyddydau Cymunedol a Pherfformio (theatrau).

Rwyf wedi cyfarfod â llawer o bobl ddifyr trwy fy ngwaith fel Olwen Carey Evans, merch Lloyd George; David Bellamy tra’n plannu coeden; gwaith ffilmio gyda Huw Edwards y newyddiadurwr a Dan Snow yr hanesydd; Owain Fôn Williams, y peldroediwr a llawer o wleidyddion. Dwi’n cofio mynd i ddigwyddiad yn Llundain a digwydd troi rownd a phwy oedd yno ond Margaret Thatcher, cefais dipyn o fraw!

Hanes diweddar y gwasanaeth Ar hyn o bryd rydym yn ymateb i pandemig Covid-19 fel pawb arall. Bu’n rhaid cau lawr yn sydyn ac addasu i weithio o adref. Yn raddol rydym wedi dod i arfer gyda hyn ac mae’n ffordd hyblyg iawn o weithio. Rydym yn gyfrifol am gasgliadau ac adeiladau hanesyddol Gwynedd ar ran ein cymunedau, felly mae’n rhaid sicrhau eu bod yn ddiogel, tra’n galluogi’r tîm weithio’n saff.

Mae cryn dipyn wedi newid yn y ffordd ‘da ni’n gweithio dros y blynyddoedd. Dwi’n cofio troi fyny i fy ngwaith â’r “boss” ar y pryd, sef Bryn R Parry, yn dwyn fy sylw at beiriant yn ei swyddfa - y cyfrifiadur cyntaf yn yr Archifdy! Roedd wedi cael ei droi ymlaen ond doedd gynnon ni ddim syniad sut i’w ddefnyddio ac roedd pawb yn rhythu arno. Roedd gan bawb arall typewriters a tippex. Roedd oes yr e-bost (a mwy) ar y ffordd ac mae wedi newid ein ffordd o weithio’n llwyr. Dwi hefyd yn cofio Bryn Parry yn anfon fi i dŷ yn Llundain i nôl cannoedd o lyfrau ar gyfer Amgueddfa Lloyd George. Felly, ffwrdd â ni, dwy ohonom mewn fan hefo map i ganol Llundain. Roedd hyn cyn yr oes SAT NAV ond fe wnaethom lwyddo i ffeindio’r tŷ. Nest Thomas


Nest gyda’r diweddar Meredith Edwards.

Addaswyd ein rhaglenni a’n gweithgareddau a’u rhoi ar-lein. Felly, er bod ein safleoedd ar gau, roedd y clo yn gyfnod prysur i ni. Dwi’n credu bydd llawer o’r hyn a ddatblygwyd yn parhau wedi cyfnod y pandemig os ydynt yn helpu ni ymgysylltu’n well. Wrth gynllunio i ail agor yn ddiogel rydym wedi cyflwyno system archebu tocyn, llif unffordd ac ati. Bellach mae Storiel, Bangor ac Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy wedi ail agor ac mae’n wych gallu croesawu pobl draw. Mae’n gyfle, nid yn unig i weld yr arddangosfeydd , ond hefyd i ni allu cefnogi artistiaid a chyflenwyr drwy hyrwyddo eu gwaith a’u cynnyrch. Yn raddol byddem yn edrych ar ail gychwyn cynnal gweithgareddau hefyd. Yn 2021/22 mi fydd Neuadd Dwyfor, Pwllheli, sydd yn cael ei uwchraddio, yn ail agor a bydd y ddarpariaeth theatr a sinema yn ail gychwyn yn Ysgol Godre’r Berwyn, Bala. Felly er yn gyfnod anodd ac ansicr i bawb rydym wedi ceisio adnabod cyfleoedd i gyrraedd pobl Gwynedd. Mae’n adnoddau ar-lein wedi cynyddu fel arddangosfeydd, gweithgareddau, adnoddau dysgu a gwybodaeth am yr arteffactau. Nid pawb sydd efo mynediad at dechnoleg nac yn dymuno gweld pethau ar-lein felly anfonwyd pecynnau o weithgareddau allan i gefnogi teuluoedd a phobl ifanc yn eu cartrefi. Drwy gydweithio efo nifer o fudiadau a phrosiectau cynigwyd gweithgareddau Celfyddydau Cymunedol ar-lein fel sesiynau “Babis a Ni”, “Lleisiant i Mi” ar gyfer llesiant meddwl, Crefft er Lles, Gŵyl Gofalwyr, Criw Celf i bobl ifanc, cyngherddau gan gerddorion o Wynedd a llawer mwy. Trefnwyd cynhadledd i’r celfyddydau, dosbarthwyd dros 1,000 o becynnau, rhai drwy’r banciau bwyd, a rhoddwyd grantiau i

rai drefnu gweithgareddau yn ein cymunedau. Ar hyn o bryd rydym yn edrych ar ddatblygu cynllun celfyddydau ar bresgripsiwn i Wynedd. Yn ddiweddar cefais fy mhenodi fel Llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru, sydd yn fudiad sy’n cynrychioli’r sector. Mae hyn ar wahân i fy ngwaith pob dydd - sy’n fraint efo dipyn o gyfrifoldeb.

Beth yw eich hoff arteffact a pham? I fi mae’r “Welsh Not” yn sefyll allan. Mae’n enghraifft brin o rywbeth syml, sef darn o bren efo llythrennau wedi ei gerfio arno, ond yn symbolaidd iawn. Fe’i defnyddiwyd i geisio atal disgyblion rhag siarad Cymraeg yn yr ysgol ac mae enghreifftiau tebyg mewn gwledydd eraill fel Llydaw a Hawaii. Mae un gwreiddiol i’w weld yn Storiel a defnyddir un replica mewn gwersi dysgu Fictoraidd yn Amgueddfa Lloyd George i ysgolion gan ddangos y gosb o siarad Cymraeg yn y gorffennol. Mae eitemau yn aml iawn yn ysgogi ymateb- mae unrhyw un sydd wedi gwylio’r “Repair Shop” yn gwybod pa mor bwerus yw effaith rhai arteffactau arnom. Dwi’n credu bod ein diwylliant yn bwysig ac yn gyfrwng i gefnogi ein heconomi, llesiant, hunaniaeth, mwynhad o fywyd, dysgu a llawer mwy. Rwyf yn ffodus o weithio gyda thîm gwych ac yn falch iawn ohonynt o’r gwaith maent yn ei gyflawni. Dwi’n gobeithio caf barhau yn y swydd am bach mwy i arwain y Gwasanaeth Amgueddfeydd a’r Celfyddydau!


Cyngor yn Rydym eisoes wedi clywed gan aelod o staff sydd wedi bod yn rhan o’r Cyngor ers nifer fawr o flynyddoedd ond mae’n anodd i rai staff ddychmygu sut le oedd Gwynedd yn 1996. Dewch i ni felly ddod i adnabod rhai o wynebau newydd y Cyngor, yr aelodau staff rheini sydd yr un oed a Chyngor Gwynedd.

Catrin Davies, Hyfforddai Proffesiynol Rheolaeth Cefn Gwlad ‘’Mae pawb o’r Cyngor wedi bod yn hollol groesawgar tuag ataf ac wedi bod yn gefnogol iawn ers i mi ddechrau gweithio o gartref ar ddechrau fy swydd. Dwi’n falch o fod yn rhan o dîm sydd yn cynnig y gorau i bobol Gwynedd.’’

Chloe Roberts, Swyddog Llesiant a Cydlynydd Partneriaeth Iechyd a Lles Gwynedd “Mae fy mhrofiad i o weithio yng Nghyngor Gwynedd yn gadarnhaol iawn. Mae’n braf cael cydweithio gyda nifer o bobl wych o ddydd i ddydd ac mae’r ymdeimlad o weithio fel tîm yn amlwg ers y diwrnod cyntaf, dwi’n teimlo’n falch iawn o fod yn rhan ohono.”

Mirain Llwyd Roberts, Cydlynydd Pontio’r Cenedlaethau “Rwyf yn gweithio trwy gynnal prosiectau sy’n dod a phobl a phlant o bob oedran at ei gilydd gan wneud hyn i leihau unigrwydd ac er budd pawb ynghlwm. Hyd yma rwyf wedi mwynhau gweithio yn y cyngor ac yn gwerthfawrogi’r holl gyfleoedd rwyf wedi’i gael yn sgil fy swydd.”


n 25 Nanw Mair Griffith, Swyddog Cefnogi Rhieni “Mae gweithio yng Nghyngor Gwynedd wedi rhoi gymaint o brofiadau gwych i mi. Nid yn unig rydw i’n cael gweithio mewn tîm clos a chyfeillgar lle rydw i’n dysgu cymaint o bethau yn ddyddiol gan fy nghydweithwyr, rydw i hefyd yn cael cydweithio â’r rhieni a’r plant anhygoel yn ein cymdeithas.”

Sara Marged Jones, Swyddog Data Gwastraff/Ailgylchu “Fe ymunais â’r Cyngor yn syth ar ôl graddio o Brifysgol drwy ennill lle ar Gynllun Rheolwyr Yfory yn ôl yn 2018. Fel person sydd yn union yr un oed â Chyngor Gwynedd, rwy’n teimlo’n ffodus iawn fy mod yn cael datblygu fy ngyrfa yn y Sir ble cefais fy magu.”


Profiad bythgofiadwy mewn gardd ogoneddus Beth sy’n eich sbarduno chi i dorchi’ch llewys i wneud dipyn o waith yn yr ardd? Mae un aelod o staff y Cyngor wedi cael ei ysbrydoli gan ardd ei breuddwydion, wedi iddi gael trip i’w gofio fel gwobr mewn cystadleuaeth yng nghylchgrawn Gardener’s World cyn y cyfnod clo diwethaf. “Dwi’n hoff iawn o arddio,” meddai Rachel Martin sy’n gweithio fel Cymhorthydd Archifau yn yr Adran Economi a Chymuned. “Rydw i’n mwynhau sefyll yn ôl ar ddiwedd y diwrnod a theimlo’n falch o’r hyn dwi wedi ei wneud yn yr ardd. Roeddwn wrth fy modd yn ennill y gystadleuaeth ac fel gwobr cefais i a’r gŵr fynd i Endsleigh Estate ger Tavistock yn Devon i aros am ddwy noson. Cymerodd saith awr a hanner i gyrraedd ond yn wir werth y drafferth. Cawsom aros mewn suite moethus iawn lle’r oedd potel o champagne, siocled a mefus yn aros amdanom. Fe wnaeth y Prif Arddwr fynd a ni o gwmpas y stad i ddangos y gwaith anhygoel gafodd ei wneud ar ddechrau’r 19eg ganrif gan Sir Humphrey Repton. Roedd y gerddi yn hyfryd gyda llynnoedd a rhaeadrau wedi cael eu hadeiladu gan Repton. Plannwyd dros filiwn o goed ar y stad ac roedd pob un yn eu gogoniant hydrefol. Yn ôl a ni wedyn am de prynhawn a phen dwmpian wrth y tân nes amser swper. Ciniawa fel brenin, a chael potel o win wedi ei ddewis gan y Sommelier fel rhan o’r wobr, a phob parch iddo, doedd hi ddim y botel rataf ar y rhestr! Dwi’n ddiolchgar iawn i Gardener’s World am y profiad bythgofiadwy.”

Rachel Martin.

Does dim rhaid i chi gael aceri o dir i gael budd o werthfawrogi bywyd gwyllt a rhoi cynnig ar dyfu pethau newydd. Un o’r llawer o bleserau sy’n dod o arddio ydi cael rhannu’ch profiad a sgwrsio efo eraill am beth sy’n tyfu’n dda – a ddim cystal! Dyna pam fod grŵp Palu Mlaen wedi ei sefydlu ar gyfer staff y Cyngor – dyma gyfle i rannu syniadau ac i ofyn cwestiynau i’n gilydd, ar fforwm ddigidol ar y funud, er mwyn cael y gorau o’r hyn sydd gan ein gerddi a’n patios i’w cynnig. Pa bynnag ben o’r sbectrwm garddio rydych arno - os ydych yn arddwr brwd sy’n cymryd tyfu llysiau o ddifri neu hefo ambell botyn blodau wrth y drws ffrynt - mae yna le yn y grŵp Palu Mlaen i chi! Mae’r grŵp Facebook wedi ei gyfyngu i staff y Cyngor yn unig, ond yn wahanol i’r grwpiau eraill y Cyngor rydych o bosib yn rhan ohonynt, gall unrhyw un ddechrau sgwrs, holi cwestiwn, rannu llun neu ymateb. I ymuno, chwiliwch am Palu Mlaen ar Facebook.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Gair Bach o Gyngor Rhifyn 1 test by Cyfathrebu Mewnol - Issuu