1 minute read

Rhagair

I lawer ohonom, roedd cyfyngiadau symud y pandemig Covid yn gyfle annisgwyl i ddysgu’n gyflym am ein daearyddiaeth leol. Yn gaeth i’r tŷ, roedd mynd allan am awr neu ddwy i gerdded a seiclo yn rhan reolaidd o ddiwrnod fy mhlant oedran ysgol gynradd a minnau, gan grwydro ar hyd y llwybrau a chilffyrdd ger ein cartref yn ymyl y Mynyddoedd Du. Roedd ymarfer corff, anadlu awyr iach a throchi ein hunain ym myd natur yn gwneud gwyrthiau i’n llesiant corfforol ac emosiynol yn ystod cyfnod anodd.

O edrych ar y map hawliau tramwy swyddogol yn ddiweddarach, synnais i weld bod uchafbwynt ein hoff daith ar feic – llwybr 1.5 milltir llydan â chlwydi siglo sy’n gyfeillgar i feiciau – yn newid statws ar hap rhwng priffordd, cilffordd a llwybr troed. Dan y gyfraith, roedd fy mhlant a minnau wedi bod yn tresmasu.

Yn aml, nid oes unrhyw berthynas rhwng y sefyllfa ar lawr gwlad a’r gwahaniaeth cyfreithiol rhwng cilffyrdd a llwybrau ceffylau sy’n agored i gerdded, beicio a marchogaeth, a llwybrau troed sy’n agored i gerdded yn unig. Ceir llwybrau ceffylau sy’n dod i ben ar ffin blwyfol, ond sy’n parhau fel llwybr troed. Ceir traciau fferm metlin a thramwyfeydd – llwybrau a ddyluniwyd ac a adeiladwyd ar gyfer teithio ar olwynion –lle mae hawl i gerdded ond dim hawl i seiclo. Cyfyngedig yw’r llwybrau sy’n croesi Tir Mynediad honedig ac sydd ar gael i bobl ar feiciau neu geffylau, os ydynt ar gael o gwbl. A mwy o lwybrau fesul milltir sgwâr o arwynebedd tir na Lloegr a’r Alban, mae Cymru’n ymhyfrydu yn ei llwybrau arfordirol epig a thraciau serth yr ucheldir, hen reilffyrdd a thramffyrdd mwynau, a’r llwybrau dyddiol diri yn y trefi, pentrefi a maestrefi dinesig ac o’u cwmpas. Wedi’u gwreiddio yn eu defnydd hanesyddol, mae llwybrau Cymru’n dreftadaeth a rennir ac yn bennod ddiddorol iawn yn hanes y genedl. Ac er gwaethaf y wefr o deithio ar hyd hen ffordd borthmyn neu lwybr pererinion hynafol, nid yw cynnal patrymau’r gorffennol yn unig yn ffordd dda o ddiwallu anghenion yr oes sydd ohoni, heb sôn am rai’r dyfodol.

Er clod Llywodraeth Cymru, mae wedi cydnabod y problemau hyn ac wedi llunio cynllun gweithredu beiddgar i gynyddu’r cyfleoedd i fwynhau’r awyr agored yng Nghymru. Yn naturiol, gohiriwyd yr ymdrech hwn gan y pandemig Covid. Mae’r adroddiad hwn yn ymyriad amserol i atgoffa’r Gweinidogion am yr angen dirfawr sydd i wella mynediad i gefn gwlad, a’r gefnogaeth gref sydd iddo ymysg pobl Cymru.

Jack Thurston

Awdur cyfres llyfrau tywys seiclo ‘Lost Lanes’