Adroddiad canlyniadau
Ymgynghoriad ar y cynllun sy’n dod i’r amlwg ar
gyfer y SVWMS
Rhagfyr 2025 i Fawrth 2026
Ebrill 2026
Diben yr adroddiad canlyniadau hwn
Mae Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren (y SVWMS) yn Strategaeth sy’n cael ei datblygu mewn partneriaeth ag Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Sir Powys, Cyngor Swydd Amwythig a Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n ceisio
lleihau’r perygl o lifogydd i bobl, tir, busnesau a seilwaith ar draws Hafren Uchaf, yn ogystal â darparu manteision eang ar draws y dalgylch.
Ar 17 Rhagfyr 2025, gwnaethom lansio ymgynghoriad ar ein cynllun sy’n dod i’r amlwg. Roedd yr ymgynghoriad
yn gwahodd cymunedau, rhanddeiliaid a phartneriaid ar draws y dalgylch i roi eu hadborth ar y tri math o ymyriadau rheoli llifogydd sy’n cael eu hystyried; rheoli llifogydd yn naturiol, gwella’r ffordd y caiff tir ei ddefnyddio ac ardaloedd storio llifogydd dros dro.
Rydym wedi gwrando’n ofalus ar yr hyn rydych wedi’i ddweud wrthym, ac rydym yn defnyddio’r adborth rydych wedi’i roi i lunio’r strategaeth ddrafft a llywio ein gwaith. Bydd y ddogfen hon yn nodi’r hyn a rannwyd gennych yn ystod yr ymgynghoriad ac yn esbonio’r hyn rydym wedi’i wneud, a’r hyn rydym yn parhau i’w wneud, mewn ymateb i’r adborth hwnnw.
Os hoffech chi ddarllen am ein cynllun sy’n dod i’r amlwg a’r hyn rydym wedi’i wneud hyd yn hyn, gallwch weld y wybodaeth berthnasol ar ein gwefan yma: Dweud eich dweud heddiw - Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Strategaeth Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren - Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren
Mae’r ddogfen hon wedi’i strwythuro fel a ganlyn:
• Rhan 1: Yr hyn a ddywedsoch
• Rhan 2: Yr hyn rydym yn ei wneud a’r camau nesaf
Crynodeb o’n hymgysylltiad ar y cynllun sy’n dod i’r amlwg
Yn ystod Gaeaf 2025/26, gwnaethom ymgynghori ar ein cynllun sy’n dod i’r amlwg. Roedd y gweithgarwch ymgysylltu yn cynnwys:
• Ymgynghoriad a aeth yn fyw ar wefan SVWMS ar 17 Rhagfyr 2025
• Digwyddiadau galw heibio ym Melverley, Betws Cedewain, y Trallwng, Amwythig, Caersws, Minsterley, Croesoswallt, Llanfyllin, a Llanidloes.
Cynhaliwyd y digwyddiadau hyn ym mis Ionawr a mis Chwefror 2026
• Copïau caled o’r llyfryn ymgynghori ar gael mewn llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden ar draws y dalgylch, a chanolfannau cymorth wedi’u sefydlu mewn llyfrgelloedd dethol
• Datganiadau i’r wasg, diweddariadau ar y cyfryngau cymdeithasol, negeseuon
e-bost i restrau postio a chyfarfodydd â phartneriaid proffesiynol i godi
ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad a digwyddiadau galw heibio
• Presenoldeb yng nghyfarfodydd y Grŵp Gweithredu Llifogydd, gyda
chefnogaeth y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol
Cawsom bron i 100 o gyflwyniadau gan sefydliadau ac unigolion ar draws y dalgylch, a daeth bron i 220 o bobl i’r digwyddiadau galw heibio a gynhaliwyd gennym.
Hoffem ddiolch i bawb a gwblhaodd ffurflen adborth yr ymgynghoriad, a roddodd sylwadau, a ddaeth i ddigwyddiadau galw heibio ac a ymgysylltodd â ni ar y SVWMS. Mae eich adborth yn hanfodol i lywio datblygiad parhaus y SVWMS.
Yr hyn a ddywedsoch
Negeseuon allweddol a glywsom yn
ystod yr ymgysylltu
Yr hyn a ddywedsoch am...
Effaith llifogydd a sychder
Clywsom eich bod yn poeni’n fawr am y mannau lle rydych yn byw ac yn gweithio, a’ch bod yn poeni am yr effaith y gall llifogydd a sychder ei chael arnynt.
Rydych yn poeni am yr effeithiau y mae llifogydd a sychder yn eu cael ar yr amgylchedd, y dirwedd, amaethyddiaeth, diogelwch bwyd, yr economi leol, mynediad at wasanaethau, tai, a’r gymuned.
Clywsom sawl stori am yr effaith y mae digwyddiadau llifogydd wedi’i chael arnoch chi a’ch cymuned yn ddiweddar. Clywsom hefyd am y rôl hanfodol y mae tirfeddianwyr a ffermwyr yn ei chwarae wrth liniaru’r perygl o lifogydd nawr, a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar eu ffordd o fyw ac ar ddiogelwch bwyd yn yr ardal leol.
Cododd rhai ohonoch bryderon hefyd am yr hyn a fyddai’n digwydd pe bai
Cronfa Ddŵr Efyrnwy yn gorlifo, a’r goblygiadau y gallai hyn eu cael i gymunedau ac ymyriadau arfaethedig yn yr ardal.
Ar y cyfan, rydych chi i gyd yn cefnogi’r SVWMS a’i ymagwedd at leihau’r perygl o lifogydd. Fodd bynnag, rydych am fod yn sicr na fydd ymyriadau yn cynyddu’r perygl o lifogydd yn lleol ac rydych eisiau gwybod mwy am sut y bydd hyn yn cael ei ariannu a’i weithredu.
Ardaloedd Storio Llifogydd Dros Dro
Ar y cyfan, rydych yn cefnogi ardaloedd storio llifogydd dros dro ond rydych wedi gofyn am fwy o wybodaeth ynghylch sut rydym wedi penderfynu bod angen y rhain, ble byddant wedi’u lleoli, yr effeithiau y byddant yn eu cael ar yr ardal leol, a sut y byddant yn cael eu hariannu.
Cwestiynodd sawl person yr angen am yr ardaloedd storio hyn, gan nodi y dylid ymchwilio i opsiynau eraill fel clirio cyrsiau dŵr, rheoli llifogydd yn naturiol a defnyddio afancod.
Gofynnodd sawl person am fwy o wybodaeth am raddfa’r ardaloedd storio llifogydd dros dro arfaethedig a pham mae angen iddynt fod o’r maint hwn.
Roedd pobl yn cydnabod mai dim ond yn ystod digwyddiadau glaw uchel y bydd yr ardaloedd storio hyn yn mynd dan ddŵr ac yn cytuno y byddai manteision yn gysylltiedig â defnyddio’r ardaloedd hyn ar gyfer gweithgareddau eraill fel pori a hamdden.
Yr hyn a ddywedsoch am...
Rheoli llifogydd yn naturiol a gwella’r ffordd y caiff tir ei ddefnyddio
Ar y cyfan, roedd cefnogaeth eang i reoli llifogydd yn naturiol a gwella’r ffordd y caiff tir ei ddefnyddio, yn enwedig gan eu bod yn cynnig nifer o fanteision i’r amgylchedd a hamdden. Gofynnodd sawl person am fwy o wybodaeth am y manteision y byddai’r ymyriadau hyn yn eu darparu, gan gynnwys sut y byddent yn gwella bioamrywiaeth a natur.
Nodwyd cyfleoedd ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol a gwella’r ffordd y caiff tir ei ddefnyddio mewn llawer o ardaloedd, gan gynnwys Hafren Uchaf ac Efyrnwy, Nant Rea, Afon Trannon, Afon Perry, Camlad, Dyffryn Teme, Amwythig, Swydd Amwythig, Hyssington, Afon Tern, Marton Pool, a Llanidloes.
Gwnaethoch dynnu sylw at bwysigrwydd gweithio gyda ffermwyr, yn ogystal â chydweithio â chynghorau lleol a darparwyr seilwaith.
Gweithio gyda thirfeddianwyr
Dywedsoch wrthym, os yw’r cynllun am lwyddo, mae’n rhaid iddo weithio law yn llaw â ffermwyr, tirfeddianwyr, a chymunedau sy’n gwybod ac yn rheoli’r tir hwn.
Rhaid i dirfeddianwyr sy’n cynnal ymyriadau llifogydd ar eu tir gael eu digolledu’n
deg. Mae angen i’r iawndal fod yn dryloyw, rhaid i ffynonellau cyllido gael eu nodi, a rhaid i fframwaith polisi clir sy’n nodi rolau a chyfrifoldebau tirfeddianwyr a’r SVWMS gael ei sefydlu’n gynnar.
Codwyd pryderon ymarferol hefyd am yr amser y mae tir yn ei gymryd i adfer ar ôl
llifogydd, a’r hyn y mae hyn yn ei olygu o ran trefniadau iawndal a rheoli stoc yn ystod cyfnodau gwlyb.
Pwysleisiodd ymatebwyr fod yn rhaid i unrhyw ymyriadau fod yn wirfoddol, ac y dylid cysylltu â thirfeddianwyr ac ymgynghori â nhw cyn i gynlluniau gael eu cyhoeddi. Cododd sawl person bryderon am y defnydd posibl o bwerau prynu gorfodol, a fyddai’n tanseilio’r ymddiriedaeth a’r perthnasoedd cydweithredol y mae’r cynllun yn dibynnu arnynt.
Yr hyn a ddywedsoch am...
Gweithio gyda’r gymuned
Ar y cyfan, rydych yn gefnogol i’r cynllun ac yn awyddus i barhau i gymryd rhan a helpu i’w lunio.
Mae ffermwyr a thirfeddianwyr eisiau cymryd rhan fel partneriaid wrth nodi ble a sut mae ymyriadau yn cael eu cyflawni. Rydym yn cytuno bod gwybodaeth leol yn amhrisiadwy, a bod y rhai sy’n gweithio’r tir bob dydd yn y sefyllfa orau i helpu i ddylunio atebion a fydd yn gweithio yn ymarferol.
Rydych yn gofyn am fwy o eglurder ynghylch amserlenni, y camau nesaf, a sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud. Gofynnodd sawl ymatebydd am fwy o wybodaeth i ddeall yn well y sylfaen dystiolaeth y tu ôl i’r cynllun sy’n dod i’r amlwg ac i weld asesiad manylach o’r opsiynau a ystyriwyd a’r effeithiau y maent yn debygol o’u cael.
Er bod rhai yn cydnabod efallai na fydd y lefel hon o fanylder ar gael eto o ystyried cyfnod presennol y cynllun, mae’r awydd am dryloywder yn glir a dylid ei ddiwallu lle bynnag y bo modd.
Yr hyn rydym yn ei
wneud
Sut rydym yn ymateb i’ch adborth a chamau nesaf y SVWMS
Mae eich adborth yn llywio’r ffordd y mae’r SVWMS yn datblygu. O ganlyniad i’r hyn a ddywedsoch wrthym, byddwn yn:
Gliriach ynglŷn â’r hyn y bydd y Strategaeth yn ei wneud a’r hyn na fydd yn ei wneud
Byddwn yn gwahanu’n glir rôl Strategaeth y SVWMS (gosod cyfeiriad, opsiynau a chyfleoedd ariannu) oddi wrth ddatblygiad parhaus Cynllun Cyflawni (a fydd yn cadarnhau lleoliadau, dyluniadau a dulliau cyflawni).
Bydd y cynllun cyflawni yn parhau i gael ei ddatblygu ar ôl i Strategaeth y SVWMS gael ei chwblhau a bydd yn cynnwys cydweithrediad agos parhaus â chymunedau, tirfeddianwyr a phartneriaid.
Ymrwymo i ddadansoddiad dyfnach, ar lefel leol cyn gwneud penderfyniadau
Wrth i’r cynllun cyflawni ddatblygu, byddwn yn cynnal gwaith modelu, arolygon ac ymweliadau/ymchwiliadau safle, gan gynnwys dadansoddiad manwl o ymddygiad asedau presennol, i ddeall effeithiau lleol yn well cyn i unrhyw ymyriadau gael eu cadarnhau.
Cryfhau ein dull o weithio gyda thirfeddianwyr Gallwn gadarnhau y bydd cyfranogiad yn wirfoddol ac y byddwn yn gweithio’n uniongyrchol gyda thirfeddianwyr i ddatblygu iawndal teg, tryloyw a threfniadau hirdymor.
Rydym yn gweithio ar ba iawndal, cymhelliant a mecanweithiau eraill sydd eu hangen i gefnogi’r gwaith o gyflawni ymyriadau ar y tir.
Parhau i archwilio’r ffordd y caiff y Strategaeth ei chyllido a’i chyflawni
drwy Bartneriaeth y Gororau Ymlaen
Mae Partneriaeth y Gororau Ymlaen yn archwilio ffyrdd o helpu i ddatgloi cyllid, cydlynu partneriaid a chefnogi’r gwaith o gyflawni’r SVWMS yn y tymor hir.
Sicrhau bod y cynllun yn wirfoddol ac ymrwymo i beidio â defnyddio pwerau prynu gorfodol
Dim ond trwy weithio mewn partneriaeth â thirfeddianwyr y byddwn yn bwrw ymlaen ag ymyriadau. Nid yw’r SVWMS yn mynd ar drywydd gorchmynion prynu gorfodol.
Gwella sut rydym yn esbonio ardaloedd storio llifogydd dros dro
Rydym yn gwneud mwy o waith i esbonio pam y gallai fod eu hangen, sut y byddent yn gweithredu, a sut y gallai tir barhau i gael ei ddefnyddio y tu allan i ddigwyddiadau llifogydd.
Rhoi mwy o bwyslais ar dryloywder ac ymgysylltu parhaus
Byddwn yn rhannu gwybodaeth yn gliriach, yn cynnwys cymunedau yn gynharach, ac yn creu mwy o gyfleoedd i bobl barhau i chwarae rhan wrth i’r cynllun ddatblygu.
Parhau i fwydo’r hyn a ddysgir o brosiectau arddangos i’r Cynllun
Rydym yn defnyddio prosiectau byd go iawn ar draws y dalgylch i ddysgu am yr hyn sy’n gweithio yn ymarferol ac i lywio penderfyniadau yn y dyfodol.
Rydym eisiau clywed mwy gennych wrth i’r SVWMS ddatblygu
Clywsom lawer o syniadau gan gymunedau a rhanddeiliaid ynghylch sut y gallem ymgysylltu â chi yn y dyfodol, ac rydym wrthi’n defnyddio eich adborth ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu ein cynllun ymgysylltu ar gyfer y cam nesaf.
Digwyddiadau’r Haf
Byddwn yn mynychu nifer o ddigwyddiadau dros yr haf i hyrwyddo’r cynllun a pharatoi ar gyfer yr ymgynghoriad nesaf. Cadwch lygad ar ein gwefan am ragor o fanylion: Dweud eich dweud heddiw – Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren
Ymgynghoriad Gaeaf 2026
Byddwn yn lansio ein hymgynghoriad terfynol ar y strategaeth ddrafft yn ystod gaeaf 2026/2027
Rydym yn croesawu eich barn
Os oes gennych chi unrhyw syniadau ar sut y gallwn gryfhau ymgysylltiad, neu sut y gallwn gadw mewn cysylltiad â chi a/neu grwpiau rydych chi’n ymwneud â nhw, cysylltwch â ni yn SVWMS@environment-agency.gov.uk.