Skip to main content

Emerging Plan (WELSH) for web

Page 1


Cynllun Rheoli Dŵr

Dyffryn Hafren

Ein cynllun sy’n dod i’r amlwg

17 Rhagfyr 2025 i 11 Mawrth 2026

Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren

Beth yw'r cynllun a pham mae ei angen?

Mae afonydd Hafren Uchaf wrth wraidd ein cymunedau. Maent yn darparu dŵr, yn cynnal bywyd gwyllt, ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer hamdden a ffermio.

Mae tywydd eithafol yn achosi i'r afonydd hyn fygwth ein cartrefi, ein busnesau a'n bywydau beunyddiol. Mae llifogydd a sychder yn taro'n galetach, yn gyflymach ac yn agosach at adref. Nid yw effaith hyn yn cael ei mesur mewn lefelau dŵr cynyddol yn unig, ond mewn cartrefi coll, cynaeafau coll a bywoliaeth coll. Nid yw parhau fel yr ydym yn opsiwn.

Ni allwn atal llifogydd, ond gallwn leihau'r effaith y mae'n ei chael ar ein cymunedau. Er mwyn meithrin gwydnwch, mae angen i ni gydweithio i storio ac arafu dŵr yn ystod llifogydd a sicrhau bod digon ar gael yn ystod cyfnodau sych. Drwy weithio gyda'r tir, gallwn hefyd gefnogi ffermio, creu swyddi, a helpu ein cymunedau i aros yn gryf ac yn gysylltiedig.

Ble mae Hafren Uchaf?

Gweler map o Hafren Uchaf ar dudalen 9.

Lleddfu pwysau ar gymunedau ffermio

Lleihau amlder a dwyster straen dŵr

Mae Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren (SVWMS)

yn ystyried sut y gallai reoli dŵr orau ar raddfa dalgylchoedd. Mae'n archwilio gwahanol ffyrdd o ddod â'r prosesau naturiol a pheirianneg sensitif gorau ynghyd i wireddu ein huchelgeisiau - Hafren Uchaf fywiog, gwydn a llewyrchus, nawr ac yn y dyfodol.

Pwy sy'n ymwneud ag SVWMS?

Mae'r SVWMS yn cael ei ddatblygu gan bartneriaeth graidd rhwng Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Powys a Chyngor Swydd Amwythig. Fe'i cefnogir hefyd gan sawl partneriaeth a sefydliad arall ar draws dalgylch Hafren Uchaf.

Mae SVWMS yn cefnogi uchelgeisiau cenedlaethol

Mae'r bartneriaeth hon yn caniatáu i ni alinio SVWMS

â'r nodau a'r dyheadau ehangach ar gyfer Cymru a Lloegr fel y'u hamlinellir yng Nghynllun Amgylcheddol

25 Mlynedd Llywodraeth y DU a Deddf Llesiant

Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru. Rydym yn dwyn ynghyd arferion gorau cenedlaethol a rhyngwladol i ysgogi newid gwirioneddol a pharhaol sy'n cyd-fynd â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.

Am beth mae'r ddogfen hon?

Mae'r ddogfen hon yn rhannu â chi ein cynllun sy'n dod i'r amlwg ar gyfer lleihau llifogydd yn Hafren Uchaf.

Mae'r cynllun yn nodi graddfa'r ymyrraeth yr ydym yn credu a allai fod ei hangen i reoli dŵr yn well ar draws y dalgylch, ond bydd cymryd rhan yn ei chyflawniad yn wirfoddol. Rydym yn cydnabod y pwysau y mae llawer yn y dalgylch yn eu teimlo, a byddwn yn cydweithio wrth i'r cynllun ddatblygu i sicrhau bod gwybodaeth leol yn ysgogi'r atebion cywir yn y lle cywir. Ein bwriad yw creu fframwaith sy'n cyflwyno enghreifftiau gwych o reoli dŵr cynaliadwy rydym eisoes yn eu gweld ar draws y dalgylch ar raddfa fwy, gan greu dull ariannu sy’n sicrhau bod y rhai sy’n darparu gwerth ehangach yn cael eu gwobrwyo’n briodol amdano.

Gwnaethom ymgynghori ar y weledigaeth ar gyfer yr SVWMS yng ngwanwyn 2024. Ers hynny, rydym wedi bod yn ymgysylltu â chymunedau a phartneriaid ar draws y dalgylch, ac yn cynnal dadansoddiad i'n helpu i nodi pa ymyriadau rheoli dŵr sydd eu hangen i leihau'r risg o lifogydd. Cyflwynir canlyniadau cychwynnol y gwaith hwn yn y ddogfen hon.

Creu swyddi newydd a chyfleoedd buddsoddi

Sicrhau bod seilwaith yn gallu gwrthsefyll tywydd eithafol yn well

Diogelu cartrefi a bywoliaeth

Cysylltu pobl â natur

Cynnig sy’n dod i’r amlwg yw hwn, nid cynnig terfynol. Bydd cyfleoedd parhaus i chi fod yn rhan o'r cynllun a'n helpu i fireinio ein ffordd o feddwl. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth o'r ymgynghoriad hwn i lywio strategaeth ddrafft y byddwn yn ymgynghori â chi arni rhwng hydref 2026 a dechrau 2027.

Hoffem glywed gennych

Mae eich dyheadau, eich blaenoriaethau, eich profiad, eich arbenigedd a'ch gwybodaeth leol am yr ardal yn hanfodol i lwyddiant y cynllun. Mae tudalen 14 yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.

Beth mae SVWMS yn ei olygu i chi

Manteision i bobl, natur a'r economi leol

Bydd SVWMS yn lleihau'r risg o lifogydd, gan ddarparu manteision eang i bobl a'r amgylchedd. Rydym yn disgwyl gweld amrywiaeth o fuddion, gan gynnwys:

• Mwy o allu i wrthsefyll tywydd eithafol

• Cymorth i ffermydd a busnesau lleol

• Bioamrywiaeth a chynefinoedd naturiol wedi'u hadfer

• Iechyd afonydd ac ansawdd dŵr gwell

• Cyfleoedd gwaith newydd a thwf economaidd

• Gwell iechyd a llesiant

• Mannau hamdden gwell a mynediad at natur

Er mwyn bod yn llwyddiannus, ni allwn lunio strategaeth sy'n amlinellu pa ymyriadau sy'n mynd ble yn unig. Mae angen i ni barhau i ffurfio partneriaethau effeithiol er mwyn:

• Ymdrin â’r pryderon mwyaf a datgloi’r cyfleoedd lleol gorau

• Digolledu tirfeddianwyr, a chwilio am ffyrdd o wneud i ymyriadau ar eu tir weithio iddynt yn ariannol

• Ariannu a chyllido'r SVWMS yn y tymor byr a'r tymor hir

• Adeiladu a chynnal yr ymyriadau

ansawdd aer

Dŵr daear gwydn

Iechyd pridd a chadwraeth gwell

Mwy o gyfalaf naturiol

Datblygiadau’n cefnogi cymunedau lleol

Twf economaidd £

Llai o e eithiau ac aflonyddwch oherwydd tywydd eithafol

Cymunedau lleol

Ffermwyr/ Tirfeddianwyr

Busnesau

Beth mae’r manteision hyn yn ei olygu i:

• Llai o risg llifogydd ac effeithiau cysylltiedig ar gymunedau

• Mwy o leoedd hamdden a mynediad at natur

• Ansawdd dŵr gwell, amgylcheddau lleol a bioamrywiaeth

• Mwy o gyfleoedd am swyddi a thwf economaidd

• Cyfleoedd i leoli ymyriadau ar dir gan ddarparu ffynhonnell refeniw ychwanegol

• Gallu cynyddol i reoli dŵr i gefnogi ffermio cynhyrchiol yn ystod cyfnodau gwlyb a sych

• Mwy o gyfleoedd am swyddi a thwf economaidd

• Llai o aflonyddwch oherwydd digwyddiadau llifogydd

• Cynnydd mewn twristiaeth leol ac ymweliadau hamdden

• Llai o aflonyddwch i gwsmeriaid a chadwyni cyflenwi

Adfer bioamrywiaeth

Iechyd afonydd ac ansawdd dŵr gwell

Gwell arferion amaethyddol

Gwell iechyd a llesiant

Opsiynau gwaith atyniadau newydd a chy rous

Gwell cynhyrchiant ermydd

Mwy o twristiaeth a hamdden

Gwell fynediad at natur

Diogelu cymunedau

Adnoddau dŵr gwydn

Busnesau newydd a gwydn

Gwell

Ein dull gweithredu

Mae angen i ni storio llawer o ddŵr

Rydym wedi gwneud dadansoddiad manwl o'r hyn y gallwn ei ddisgwyl o ddigwyddiadau tywydd eithafol nawr ac yn y dyfodol.

I ymdopi â'r her hon, bydd angen storio hyd at 100 miliwn metr ciwbig o ddŵr yn ystod llifogydd. Mae hyn yn cyfateb i 40,000 o byllau nofio maint Olympaidd, neu 3.8 mlynedd o ddefnydd dŵr dyddiol ar gyfer holl Swydd Amwythig a Phowys gyda'i gilydd.

Bydd storio dŵr dros dro, a'i ryddhau'n araf, yn lleihau'r llifogydd a deimlir i lawr yr afon yn sylweddol.

Mae nodi ble y gallem storio dŵr, faint, ac am ba hyd wedi bod yn hanfodol i ddeall beth sy'n bosibl.

Mae ein dull o ddatrys y broblem hon yn cynnwys y gymuned a phartneriaid

Dangosir y dull rydym yn ei gymryd i ddatblygu SVWMS yn y diagram i'r dde.

Mae pawb yn hanfodol i’r dull gweithredu hwn

Rydym yn awyddus i ymgysylltu â chymunedau, perchnogion tir, busnesau a ffermwyr i sicrhau bod SVWMS yn llwyddiannus. Mae ein dull gweithredu yn dangos sut rydym wedi ymgysylltu â chi drwy gydol y broses, a sut y byddwn yn parhau i wneud hynny. Mae tudalen 14 yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.

Adborth ac ymgysylltiad parhaus

Deall y dalgylch

Archwilio pa fathau o ymyriadau a allai weithio

Mireinio ein hymyriadau

Mireinio ein dull gweithredu

Dros 230 o ffynonellau data

Ymgysylltu â chymunedau lleol a phartneriaid i gael mewnwelediadau lleol

Ymweliadau niferus â’r safle i ddeall yr ardal yn well

Mathau diffiniedig o ymyriadau: gwella defnydd tir, rheoli llifogydd naturiol, peirianneg

Dealltwriaeth ddatblygedig o heriau a chyfleoedd

Syniadau wedi'u profi a'u cyflwyno drwy ein rhaglen arddangoswyr

Defnyddio offer digidol i archwilio gwahanol gyfuniadau o ymyriadau

Asesu effeithiau posibl ymyriadau i ddod o hyd i'r rhai sydd â'r mwyaf o fanteision

Ymgysylltu â chymunedau, partneriaid a'r llywodraeth i lunio ein cynigion

Asesiad economaidd a mireinio'r dull ariannu

Asesiad o gynaliadwyedd i sicrhau'r canlyniad gorau i'r rhanbarth

Datblygu strategaeth a thrywydd i gyflawni

rydym ni yma

Pa ymyriadau rydym yn eu hystyried

Rhaid i natur a pheirianneg gydweithio

Mae tri math o ymyriadau rheoli llifogydd yn cael eu harchwilio i sicrhau y gall y cynllun storio'r dŵr llifogydd sydd ei angen. Mae’r rhain yn cynnwys: Gwella defnydd tir: megis lleiniau clustogi, coetiroedd gwlyb, plannu coed, adfer gorlifdiroedd, adfer mawn a rheoli pridd. Mae'r mesurau hyn yn helpu i arafu llif dŵr, gwella cynefinoedd, a chefnogi ffermio a bywyd gwyllt.

Rheoli llifogydd naturiol: megis storio gorlifdir goddefol, nodweddion gwanhau dŵr ffo a defnyddio deunydd prennaidd mawr. Mae'r mesurau hyn yn gweithio gyda'r dirwedd i leihau'r risg o lifogydd a darparu manteision ychwanegol i bobl a natur.

Ardaloedd storio llifogydd dros dro (FSAs): ymyriadau a gynlluniwyd i storio dŵr dros dro yn ystod digwyddiadau llifogydd mawr, gan leihau effaith llifogydd. Mewn rhai achosion, bydd angen i ardaloedd storio llifogydd dros dro ddal dyfnder o 2-10m o ddŵr yn ystod digwyddiadau llifogydd mwy eithafol.

Taro’r cydbwysedd cywir

Mae gan reoli llifogydd naturiol rôl i'w chwarae wrth leihau'r risg o lifogydd ac mae'n cynnig llawer o fanteision, (gweler tudalen 5 am ragor o wybodaeth am hyn). Fodd bynnag, mae angen ymyriadau peirianyddol i roi mwy o sicrwydd wrth leihau'r risg o lifogydd yn ystod digwyddiadau eithafol.

Mae'r SVWMS yn cael ei ddatblygu i leihau'r risg o lifogydd ar draws y dalgylch, ond efallai y bydd rhai ardaloedd o hyd lle mae angen ymyrraeth fwy lleol, fel waliau llifogydd isel neu wydnwch ar lefel eiddo. O dan yr amodau presennol ni fyddai'r mathau hyn o nodweddion yn bosibl oherwydd lefelau'r llifogydd a welwyd neu a ragwelwyd. Gyda SVWMS byddai'r dulliau hyn yn fwy ymarferol.

Dysgwch fwy

Gallwch ddysgu mwy am y weledigaeth, y diben a'r ymyriadau allweddol a ragwelir ar gyfer SVWMS ar ein gwefan: www.severnvalleywatermanagementscheme. commonplace.is/cy-GB

Deunydd prennaidd mawr Adfer Gorlifdir

Storio Gorlifdir Goddefol

Nodweddion Gwanhau Dŵr Ffo Llain Glustogi

Plannu Coed
Adfer Mawn Rheoli Pridd
Cau Ffosydd / Llenwi Rhigolau
Ardal storio llifogydd dros dro
Coetir Gwlyb

Y cynllun sy’n dod i’r amlwg

Y cyfleoedd sy'n dod i'r amlwg

Drwy ymgysylltu a dadansoddi data, mae gennym ddarlun o ba ymyriadau a allai fod yn bosibl ar draws y dalgylch, yn ogystal â'r maint a'r nifer sydd eu hangen.

Mae ein dadansoddiad wedi dangos bod angen rheoli hyd at 100 miliwn metr ciwbig o ddŵr llifogydd yn ystod digwyddiadau eithafol – sy'n cyfateb i 3.8 mlynedd o ddefnydd dŵr dyddiol ar gyfer Swydd Amwythig a Phowys i gyd.

Beth mae'r cynllun sy'n dod i'r amlwg yn ei ddangos?

Mae'r ardaloedd a ddangosir mewn gwyrdd yn dangos ble mae'r cyfleoedd gorau i ddefnyddio gwella defnydd tir neu ymyriadau rheoli llifogydd yn naturiol i reoli risg llifogydd. Nid ydym wedi pennu pa gymysgedd penodol o ymyriadau y gellid eu defnyddio gan fod hyn yn dibynnu, yn rhannol, ar anghenion tirfeddianwyr a rheolwyr lleol.

Mae'r cylchoedd melyn yn dangos yr ardaloedd chwilio lle credwn y byddai ardaloedd storio llifogydd dros dro yn fwyaf effeithiol wrth leihau’r risg o lifogydd yn lleol ac ledled y dalgylch. Bydd yr union leoliadau, sut olwg sydd ar y rhain, a beth y gellid defnyddio'r tir ar ei gyfer pan nad yw'n storio dŵr llifogydd yn cael eu llunio gan eich syniadau ac astudiaethau mwy manwl.

Hoffem glywed gennych

Rydym wedi ymrwymo i glywed gan gymunedau, busnesau, ffermwyr ac eraill i ddatblygu a chyflwyno SVWMS.

Mae'r dudalen hon yn amlinellu rhai cwestiynau penodol yr hoffem gael eich adborth arnynt.

Mae tudalen 14 yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.

Ardaloedd

storio llifogydd dros dro

Pwy ydym ni Yr hyn rydym yn ei ofyn i chi

Ni allwn leihau'r risg o lifogydd i eiddo gyda rheoli llifogydd yn naturiol neu ymyriadau gwella defnydd tir yn unig.

Rydym wedi nodi meysydd lle rydym yn credu y gallent weithio orau. Bydd ardaloedd storio llifogydd yn bennaf ar dir sydd eisoes wedi'i orlifo yn ystod glaw trwm.

Mewn rhai lleoedd, bydd angen i ni gynyddu dyfnder y dŵr dros dro o 2-10m mewn digwyddiadau llifogydd.

Gall lleoli ardaloedd storio llifogydd ar dir ddarparu ffynhonnell incwm i dirfeddianwyr –mewn rhai achosion ar dir sydd â chynhyrchiant cyfyngedig ar hyn o bryd.

Dim ond yn ystod ac ar ôl digwyddiadau llifogydd y byddant yn dal dŵr llifogydd. Y tu allan hyn, gellid defnyddio'r tir ar gyfer gweithgareddau eraill.

Rydym wedi nodi ble mae'r cyfleoedd gorau yn y dalgylch.

Rheoli llifogydd yn naturiol

Gwella defnydd tir

Mae rheoli llifogydd yn naturiol a gwella defnydd tir yn perfformio orau pan gânt eu defnyddio leihau llifogydd llai difrifol, ond ni allant storio'r holl ddŵr llifogydd mewn digwyddiadau mwy eithafol.

Gwyddom fod cyflawni ar raddfa fawr yn datgloi'r manteision amgylcheddol mwyaf.

Gall y dull o wella defnydd tir fod yn hyblyg. Er enghraifft, gallai plannu un erw o goed ar borfa gael effaith debyg i ddwy erw o ddulliau rheoli pridd gwell.

Argraff o sut olwg fyddai ar ardal storio llifogydd dros dro yn Hafren Uchaf fel arfer (chwith) ac yn ystod stormydd (dde).

Helpwch ni i ddatblygu ein dealltwriaeth o'r ardaloedd storio llifogydd bras a sut rydym yn gwneud y defnydd gorau o'r gorlifdiroedd presennol i storio dŵr.

Beth hoffech chi i ni ei ystyried wrth i ni fynd ymlaen archwilio defnyddiau eraill o'r ardaloedd hyn pan nad ydynt yn gorlifo?

Helpwch ni i nodi sut y gallwn ni weithio gyda thirfeddianwyr yn y ffordd fwyaf effeithiol i fireinio lleoliadau.

Helpwch ni i archwilio pa ymyriadau fyddai'n gweithio orau i chi, yn eich ardal chi.

Helpwch ni i nodi'r lleoliad gorau i leoli ymyriadau rheoli llifogydd naturiol neu wella defnydd tir ar eich tir.

Mae'r map hwn yn dangos meysydd ar gyfer cyfleoedd i reoli dŵr yn well.Ni fydd yn rhaid i bopeth ddigwydd ym mhobman, ond mae maint yr ymyrraeth sydd ei hangen i reoli'r risg llifogydd bresennol a'r risg llifogydd yn y dyfodol yn sylweddol.

Rydym am gydweithio â chi i gydddatblygu atebion ar draws y ddalgylch, gan sicrhau ein bod yn creu model ariannu sy'n talu am y gwerth rydych yn ei greu.

Man cychwyn cychwynnol yw'r cynllun hwn ond chi fydd yn llywio ac yn berchen ar y manylion a gaiff eu datblygu. Nid yw hyn yn achos o golli neu ildio tir, ond o bosibl meddwl am sut y gall y tir hwnnw greu buddsoddiad newydd a gwahanol.

Ardaloedd dangosol lle credwn y gallai ardaloedd storio llifogydd fod fwyaf effeithiol wrth leihau risg llifogydd lleol a dalgylch.

Llangedwyn

Llanerfyl

Y Trallwng

Worthen

Stockton

Caersŵs

Llandinam

Cyfleoedd wella defnydd tir Allwedd

Ardaloedd chwilio am ardaloedd storio llifogydd

Dros dro Cyfleoedd Rheoli Llifogydd Naturiol

Ffin is-ddalgylch

Ffin Cymru a Lloegr Afonydd

Y Drenewydd
Y Trallwng
Minsterley
Llyn Efyrnwy
Cronfa Ddŵr Clywedog
Croesoswallt Amwythig

Lle gall natur helpu

Ble yn y dalgylch mae gwahanol ymyriadau fwyaf effeithiol?

Rydym am weithio gyda chi i nodi cyfleoedd ar gyfer cyflawni ymyriadau rheoli llifogydd naturiol a gwella defnydd tir.

Nid yw pob ymyrraeth yn addas ar gyfer pob lleoliad. Rydym wedi archwilio pa wahanol ddulliau sy'n gweithio orau mewn gwahanol feysydd.

Mae'r ymyriadau wedi'u trefnu o ran eu cynaliadwyedd i’r ardaloedd hynny.

Tanat

Gwella defnydd tir Rheoli llifogydd yn naturiol

• Lleiniau clustogi

• Plannu coed

• Cam sero

• Adfer mawn

• Ailgysylltu gorlifdiroedd

• Rheoli Pridd

Efyrnwy

Gallwch ddysgu mwy am y weledigaeth, y diben a'r ymyriadau allweddol a ragwelir ar gyfer SVWMS ar ein gwefan: www.severnvalleywatermanagementscheme. commonplace.is/cy-GB

Perry

Gwella defnydd tir Rheoli llifogydd yn naturiol

• Nodweddion gwanhau dŵr ffo

• Deunydd prennaidd mawr

• Cau ffosydd

• Storio gorlifdir goddefol

Gwella defnydd tir Rheoli llifogydd yn naturiol

• Adfer mawn

• Lleiniau clustogi

• Plannu coed

• Cam sero

• Coetir gwlyb

• Ailgysylltu gorlifdiroedd

• Deunydd prennaidd mawr

• Nodweddion gwanhau dŵr ffo

• Cau ffosydd

• Llenwi rhigolau

• Storio gorlifdir goddefol

Hafren and Clywedog

Gwella defnydd tir Rheoli llifogydd yn naturiol

• Lleiniau clustogi

• Plannu coed

• Cam sero

• Adfer mawn

• Ailgysylltu gorlifdiroedd

• Rheoli pridd

• Coetir gwlyb

• Gosod argloddiau yn ôl

• Deunydd prennaidd mawr

• Nodweddion gwanhau dŵr ffo

• Cau ffosydd

• Storio gorlifdir goddefol

• Llenwi rhigolau

• Cam sero

• Lleiniau clustogi

• Rheoli pridd

• Ailgysylltu gorlifdiroedd

• Nodweddion gwanhau dŵr ffo

• Deunydd prennaidd mawr

• Storio gorlifdir goddefol

Rea

Gwella defnydd tir Rheoli llifogydd yn naturiol

• Lleiniau clustogi

• Rheoli pridd

• Cam sero

• Ailgysylltu gorlifdiroedd

• Plannu coed

• Nodweddion gwanhau dŵr ffo

• Deunydd prennaidd mawr

• Storio gorlifdir goddefol

Hafren, Rhiw a Chamlad

Gwella defnydd tir Rheoli llifogydd yn naturiol

• Lleiniau clustogi

• Cam sero

• Rheoli pridd

• Ailgysylltu gorlifdiroedd

• Plannu coed

• Nodweddion gwanhau dŵr ffo

• Deunydd prennaidd mawr

• Storio gorlifdir goddefol

Paratoi ar gyfer cyflawni yn y dyfodol

Ariannu a Chyflawni

I baratoi ar gyfer y strategaeth, rydym wedi dechrau gweithio gyda phartneriaid y prosiect, gan archwilio sut y gallwn gydweithio i gyflawni ein hamcanion cyffredin. Gwyddom fod gweithio'n effeithiol ar draws ffin Cymru a Lloegr yn golygu mynd i'r afael â heriau cyffredin a datblygu atebion cyffredin.

Mae angen i'r atebion hynny weithio i gymunedau lleol, hybu gwydnwch a chadw cymeriad unigryw'r ardal.

Partneriaeth y Gororau Ymlaen

Ffurfiwyd Partneriaeth y Gororau Ymlaen gan ddod â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol ynghyd ar draws Powys, Sir Fynwy, Swydd Amwythig a Swydd Henffordd i sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud yn seiliedig ar weledigaeth a rennir. Yn bartneriaeth drawsffiniol, sy'n canolbwyntio ar ffyniant gwledig a chydnerthedd hirdymor, mae'r bartneriaeth yn cynnig cyfle unigryw i ystyried ffordd newydd o weithio.

Gobeithio y bydd y ffordd newydd hon o weithio yn ein helpu i ddenu buddsoddiad a chefnogi cyflawniad.

Mae'r bartneriaeth yn archwilio mecanweithiau ariannu, gan weithio gyda buddsoddwyr preifat a chyhoeddus posibl, yn ogystal ag arweinwyr ffermio, i ddeall sut y gallai pecyn ariannu gefnogi darpariaeth yn y dyfodol.

Yn hollbwysig, rydym yn gwybod bod angen i gyllid dalu am y peth iawn yn y lle iawn, a'i fuddsoddi mewn ffermwyr, cymunedau a busnesau lleol i gael yr effaith fwyaf. Ein nod yw creu prosesau ariannu sy'n caniatáu i fuddsoddwyr gefnogi'r canlyniadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sydd bwysicaf i'n cymunedau.

Bydd rhagor o wybodaeth am y mathau o gyllid sy'n cael eu hystyried a beth mae hyn i gyd yn ei olygu i dirfeddianwyr a rheolwyr yn cael ei chyflwyno yn y strategaeth ddrafft y flwyddyn nesaf.

Dysgu o wneud

Nid ydym am i SVWMS fod yn ymarfer damcaniaethol ac rydym yn ymwybodol y gall y realiti ar lawr gwlad deimlo'n wahanol iawn.

Er mwyn dysgu drwy wneud a llunio SVWMS, mae gennym gyfres o brosiectau arddangos sy'n cael eu cyflwyno gyda, a gan, dros 30 o sefydliadau partner gwahanol.

Mae'r prosiectau hynny (a ddisgrifir ar dudalen 13) yn ein helpu i wneud y canlynol:

• Dangoswch sut olwg all fod ar reoli llifogydd yn naturiol

• Deall sut y gall rheoli llifogydd yn naturiol ategu arferion ffermio presennol yn llwyddiannus

• Deall ble mae rhwystrau yn y byd go iawn (megis prosesau cydsynio neu ganiatáu)

• Sicrhau y gallwn agor llwybrau gyrfa yn y dyfodol i'r gymuned

Dysgu gennych chi

Mae SVWMS yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â chi.

Eich mewnbwn

Eich tir

Eich buddsoddiad Eich

Dyfodol

Y Rhaglen Arddangos

Beth yw’r prosiectau?

Mae dros 30 o sefydliadau partner wedi dod ynghyd ar draws 8 tîm prosiect i brofi sut y gall gwella defnydd tir ac ymyriadau rheoli llifogydd naturiol weithio i fynd i'r afael â risg llifogydd a’r gallu i wrthsefyll sychder yn Hafren Uchaf.

Mae'r prosiectau wedi'u cynllunio i'n helpu i ddeall sut y gallwn greu a chyflawni atebion sy'n cefnogi dulliau cynhyrchu bwyd, gwella prosesau cyflenwi presennol (megis cydsynio a thrwyddedu cyflymach), datblygu mentrau dan arweiniad y gymuned, a nodi ffynonellau cyllid newydd ac amrywiol.

Trosolwg o’r prosiectau

Nant Rea – Gweithio gyda ffermydd yn y dalgylch i greu ac adeiladu cynlluniau rheoli llifogydd naturiol cymhleth i leihau’r risg i bobl leol, cartrefi a rhwydweithiau ffyrdd. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall costau, sut y gallwn ddylunio ymyriadau, a chyflymu prosesau cydsynio.

Cegidfa – Wedi'i ganolbwyntio ar ddarparu nodweddion rheoli llifogydd naturiol ar raddfa fach. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall y costau dan sylw, a sut i rymuso ffermwyr lleol, contractwyr a chymunedau i gyflawni ymyriadau rheoli llifogydd.

Perry a Mawndir – Yn cynnwys ffermwyr yn dylunio a gweithredu dulliau rheoli llifogydd yn naturiol. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall sut y gall gwahanol fusnesau ffermio gefnogi dulliau rheoli llifogydd yn naturiol – gan gynnwys defnyddio priddoedd mawndir fel ymyrraeth.

Depave Croesoswallt – Yn dangos sut i drosi arwynebau anhydraidd o amgylch tref (e.e. concrit) yn arwynebau sy'n caniatáu i ddŵr lifo drwyddynt. Bydd hyn yn mynd i'r afael â llifogydd, yn creu mannau gwyrdd newydd ac yn grymuso cymunedau lleol i fynd i'r afael â llifogydd.

Canolfan Byw gyda Newid Hinsawdd – Datblygu llwybrau gyrfa, sgiliau a chyfleoedd addysgol newydd yn Hafren Uchaf. Mae'n canolbwyntio ar sut y bydd paratoi ar gyfer newid hinsawdd yn llunio gwaith a chyflogaeth yn Hafren Uchaf.

Geo-ofodol – Arloesi mewn technoleg mapio i lywio’r broses o wneud penderfyniadau yn y dyfodol, gwella dealltwriaeth o amodau llifogydd a sychder lleol, a chefnogi monitro dŵr dan arweiniad y gymuned.

Ystâd Attingham – Yn ein helpu i ddeall y ffordd orau o lywio cynllunio, caniatâd, dylunio a gwella newid defnydd tir i wella cynefinoedd a phrofiad ymwelwyr. Rydym wrthi’n trafod cydweithio rhwng landlordiaid a thenantiaid.

Dyfodol Ffermio y Gororau – Mae grŵp o ffermwyr, ymgynghorwyr ac academyddion wedi mynd ati i ddeall tirwedd ffermio bresennol Hafren Uchaf.

Pwy sy’n cymryd rhan?

Yn ofalus maent yn casglu barn, mewnwelediadau a gweledigaeth y gymuned ffermio ei hun ar gyfer rheoli tir a dŵr Hafren Uchaf yn y dyfodol. Bydd y tîm hefyd yn cynnal ymchwil benodol i fusnesau fferm ac ail-lenwi dŵr daear. Noder bod Dyfodol Ffermio y Gororau yn grŵp gwahanol i Bartneriaeth y Gororau Ymlaen; fodd bynnag, maent yn cydweithio'n agos. Beth rydym yn ei ddysgu

Dros y misoedd nesaf byddwn yn cyhoeddi astudiaethau achos o'r Rhaglen Arddangoswyr yn amlinellu'r canlyniadau allweddol a'r gwersi a ddysgwyd.

Bydd y rhain yn llywio'r strategaeth ddrafft ac yn helpu i gynllunio'r gwaith o gyflawni'r strategaeth.

Sut y gallwch gymryd rhan

Rydym am i bawb gael y cyfle i ddysgu am SVWMS a rhannu eu barn. Dyna pam rydym yn cynnal digwyddiadau ymgynghori mewn lleoliadau ar draws y dalgylch. Mae'r digwyddiadau hyn ar agor i bawb, a bydd aelodau o’n tîm prosiect ar gael i ateb eich cwestiynau.

Gallwch hefyd weld deunyddiau ymgynghori a rhoi adborth mewn llyfrgelloedd lleol a chanolfannau hamdden cymunedol yn y lleoliadau a restrir ar y dudalen nesaf. Rydym yn eich annog i ddod, cymryd rhan, a helpu i lunio dyfodol rheoli dŵr yn eich cymuned.

Ein gwefan

Mae'r holl newyddion a gwybodaeth ddiweddaraf am SVWMS ar ein gwefan. Yn ystod y cyfnod ymgynghori, gallwch weld yr holl ddeunyddiau a rhoi adborth ar-lein yn: www.severnvalleywatermanagementscheme. commonplace.is/cy-GB

Digwyddiad ymgynghori

Byddwn yn cynnal digwyddiadau galw heibio pwrpasol mewn lleoliadau ar draws y dalgylch dros yr wythnosau nesaf (gweler manylion ar dudalen 15). Bydd aelodau tîm y prosiect ar gael yn y lleoliadau galw heibio hyn i ateb cwestiynau a darparu deunyddiau printiedig.

Rydym hefyd yn croesawu barn ar ffyrdd eraill y gallwn ymgysylltu a rhannu'r gwaith rydym yn ei wneud orau. Am unrhyw awgrymiadau, cysylltwch â ni drwy ein gwefan.

Lleoliadau copi caled

Rydym yn cydnabod nad oes gan bawb fynediad at wasanaethau ar-lein. Gallwch ddod o hyd i’n deunyddiau ymgynghori ar ffurf copi caled mewn llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden cymunedol yn y lleoliadau a restrir ar dudalen 15.

Lleoliadau cymorth

Rydym yn deall y gallai rhai pobl fod angen cymorth i ddeall y cynigion a rhoi eu hadborth y tu allan i'r digwyddiadau galw heibio. Ewch i'n lleoliadau cymorth i gael help i gwblhau eich adborth ar yr ymgynghoriad.

Lleoliadau digwyddiadau ymgynghori

Bydd pob digwyddiad ymgynghori yn rhedeg o 2yp

7yp

Melverley – 06 Ionawr 2026

Neuadd Bentref Melverley

Croesoswallt, SY10 8PH

Betws – 13 Ionawr 2026

Neuadd Bentref Betws

Betws Cedewain, Y Drenewydd, Powys, SY16 3DS

Y Trallwng – 15 Ionawr 2026

Neuadd y Dref

42 Broad Street, Y Trallwng, SY21 7JQ

Amwythig – 20 Ionawr 2026

Theatr Hafren

Frankwell, Amwythig, SY3 8FT

Caersŵs – 28 Ionawr 2026

Eglwys Presbyteriaeth

Main St, Caersŵs, SY17 5EN

Minsterley – 30 Ionawr 2026

Neuadd y Plwyf Minsterley

A488, Minsterley, Amwythig, SY5 0EH

Croesoswallt – 04 Chwefror 2026

Clwb Criced Croesoswallt

Morda Rd, Croesoswallt SY11 2AY

Llanfyllin – 09 Chwefror 2026

Llyfrgell Llanfyllin

Canolfan Ieuenctid a Chymunedol, Adeiladau'r

Cyngor, Llanfyllin, SY22 5DB

Llanidloes – 12 Chwefror 2026

Hanging Gardens Project

Bethel Street, Llanidloes, SY18 6BS

Croesoswallt

Llyfrgell Croesoswallt

Arthur St, Croesoswallt SY11 1JN

Croesoswallt

Canolfan Hamdden

Shrewsbury Rd, Croesoswallt SY11 4QB

Gobowen, Croesoswallt

Llyfrgell Gobowen

St Martins Road, Croesoswallt, SY11 3NP

Y Drenewydd

Llyfrgell y Drenewydd

Park Lane, y Drenewydd, SY16 1EJ

Y Drenewydd

Canolfan Hamdden Maldwyn

Plantation Ln, Y Drenewydd SY16 1LH

Y Trallwng

Canolfan Hamdden Flash

Salop Rd, Y Trallwng SY21 7DH

Y Trallwng

Y Lanfaa/Welshpool Library

The Canal Wharf, Y Trallwng, SY21 7AQ

Amwythig

Llyfrgell Amwythig

Castle Gates, Amwythig, SY1 2AS

Amwythig

The Quarry Swimming and Fitness Centre Priory Rd, Amwythig, SY1 1RU

Croesoswallt

Llyfrgell Croesoswallt Arthur St, Croesoswallt SY11 1JN

Amwythig

Llyfrgell Amwythig

Castle Gates, Amwythig SY1 2AS Y Drenewydd

Llyfrgell y Drenewydd Park Lane, Y Drenewydd SY16 1EJ Y Trallwng

Y Lanfaa/Welshpool Library The Canal Wharf, Y Trallwng, SY21 7AQ

Camau nesaf

2019–2020

Ffurfio’r Bartneriaeth

Dalgylchoedd

Haf - Hydref 2026

Llunio’r strategaeth ddra

Hydref 2026 - dechrau 2027

Ymgynghori ar y strategaeth ddra

2021–2024

Astudiaethau cychwynnol yn cael cyllid

Gwanwyn 2024

Gosod ein Hamcanion Cynaliadwyedd

Nawr

Ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg

Gwanwyn 2027

Diweddaru a chwblhau’r strategaeth

Hydref 2024 - Haf 2025

Ymgysylltu â’r cyhoedd

Haf 2027

Mabwysiadu’r strategaeth

2027 ymlaen

Cyflwyno SVWMS

Y Strategaeth

Nid yw'r cynllun sy'n dod i'r amlwg a gyflwynir yn y ddogfen ymgynghori hon yn gynnig terfynol; mae'n amlinellu'r camau nesaf wrth ddatblygu'r strategaeth ddrafft.

Rydym yn ymgysylltu â chi nawr i lunio'r ymyriadau rheoli llifogydd a fydd yn rhan o'r strategaeth hon. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall beth fydd a beth na fydd yn gweithio, a nodi unrhyw ystyriaeth bellach sydd ei hangen.

Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, bydd dadansoddiad pellach o oblygiadau economaidd ac amgylcheddol, a byddwn yn datblygu dull ariannu sy'n creu buddsoddiad a refeniw i'r rhai sy'n cefnogi’r broses o gyflawni'r prosiect hwn yn y dyfodol.

Byddwn yn ymgynghori ar ein strategaeth ddrafft rhwng hydref 2026 a 16 gaeaf 2027.

Beth wedyn?

Mae'r strategaeth hon ar raddfa nad yw llawer wedi rhoi cynnig arni o'r blaen. Bydd ei llwyddiant yn gofyn am arloesi a gweithio ar draws ffiniau ffisegol, gwleidyddol a sefydliadol.

Rhan allweddol o'n camau nesaf fydd cydweithio'n agos â Phartneriaeth y Gororau Ymlaen er mwyn sicrhau bod dull rhanbarthol yn cael ei gymryd i sicrhau cyllid a dyrannu buddsoddiad.

Cadw mewn cysylltiad

Gyda'n gilydd gallwn warchod a gwella Hafren Uchaf. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â chi drwy gydol datblygiad y strategaeth. Rhowch unrhyw adborth ffurfiol erbyn 11 Mawrth 2026 i’n helpu i ddatblygu’r strategaeth. Gallwch gyflwyno eich adborth arlein, anfon eich adborth drwy e-bost i SVWMS@ environment-agency. gov.uk neu drwy’r post i: SVWMS, The Environment Agency, Hafren House, Welshpool Road, Shelton, Bicton Heath, Shrewsbury SY3 8BB.

Sicrhewch eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf drwy edrych ar ein gwefan: www.severnvalleywatermanagementscheme.commonplace.is/cy-GB

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch hefyd gysylltu â ni yn SVWMS@environment-agency.gov.uk

Sicrhewch eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf drwy edrych ar ein gwefan severnvalleywatermanagementscheme.commonplace.is/cy-GB

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Cynllun, gallwch gysylltu â ni yn SVWMS@environment-agency.gov.uk

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook