Skip to main content

11342_Demonstrator_Report Welsh 01-compressed

Page 1


Cynllun Rheoli Dŵr

Dy ryn Hafren

Diweddariad ar Brosiectau Arddangos

Mawrth 2026

Lleoliadau’r Prosiectau Arddangos

Mae'r 8 Prosiect Arddangos wedi'u lleoli ar draws dalgylch Hafren uchaf fel y gwelir yn y map yma. Mae 6 o'r prosiectau Arddangos yn seiliedig ar ddalgylch neu leoliad. Mae'r ddau brosiect sy'n weddill, sef Prosiect Arddangos Ffermio’r Dyfodol yn y Gororau a Phrosiect Arddangos CLiCC, yn ymchwilio i themâu a materion ar draws Hafren uchaf i gyd gan nad yw ermio a gyrfaoedd yn gyfyngedig i ardaloedd bach o'r rhanbarth yn unig ond o bryder cy redinol.

Mae'r map hefyd yn dangos lledaeniad dangosol dulliau posibl o wrthsefyll llifogydd a sychder, megis addasu i ddefnydd tir, rheoli llifogydd yn naturiol a chreu storfa dros dro ar gyfer dŵr llifogydd. Mae'r darnau melyn yn dangos ble mae'r chwiliad am leoliadau nodweddion storio dŵr llifogydd yn debygol o ddechrau. Noder, er bod y Prosiectau Arddangos yn gosod mesurau rheoli llifogydd naturiol yn weithredol i'w profi a'u treialu, nad yw'r strategaeth gy redinol ar gyfer Hafren uchaf wedi'i chwblhau eto. Mae'r ddogfen strategaeth derfynol i fod ar gael erbyn mis Mawrth 2027.

Ardaloedd dangosol lle credwn y gallai ardaloedd storio llifogydd fod fwyaf e eithiol wrth leihau risg llifogydd lleol a dalgylch.

Llangedwyn

Llanerfyl Y Trallwng

Worthen

Stockton

Caersŵs

Llandinam

Canolfan

Byw gyda Newid Hinsawdd

Ffermio’r Dyfodol yn y Gororau

Llanwddyn
Llanidloes

Dad-balmentu Croesoswallt

Nant Cegidfa

Perry a Mawndiroedd

Ystad A ingham

Nant Rea

Prosiect Arddangos Geo-ofodol

Allwedd

Ardaloedd chwilio am ardaloedd storio llifogydd dros dro

Cyfleoedd Rheoli Llifogydd yn Naturiol

Cyfleoedd i wella defnydd tir

Ffin is-ddalgylch

Y n rhwng Cymru a Lloegr

Afonydd

Trosolwg o’r Prosiectau Arddangos

Mae'r prosiectau Arddangos yn ceisio profi ac ymchwilio i'r ffordd orau o addasu dalgylch Hafren uchaf i sicrhau’r gallu i wrthsefyll llifogydd a sychder i bobl a bywyd gwyllt yn y dyfodol. Mae'r ffeithlun hwn yn crynhoi nifer y nodweddion rheoli llifogydd newydd ar sail natur a osodwyd gan dri o'r prosiectau Arddangos, sef Cegidfa, Reabrook ac Attingham, hyd at Wanwyn 2026. Mae pob nodwedd yn dod â manteision arafu dŵr i amddiffyn cartrefi, bywoliaeth a chysylltiadau trafnidiaeth, maent yn cyfoethogi mannau bywyd gwyllt ac yn meithrin gallu i wrthsefyll sychder ar gyfer dalgylch Hafren uchaf. Mae pob math o nodwedd rheoli llifogydd yn naturiol yn gweithredu naill ai i atal ac arafu llif stormydd dros dro, annog ymdreiddiad, anweddiad ac amsugno gan wreiddiau coed neu ddarparu storfa ychwanegol o gyfeintiau brig o ddŵr tymhorol. Mae pob nodwedd hefyd yn eistedd ochr yn ochr â defnyddiau tir presennol sy'n glustogi elfennau cynhyrchu bwyd ac yn gwarchod priddoedd.

Mae llawer eisoes yn cael ei ddeall am effeithiolrwydd nodweddion Rheoli llifogydd yn Naturiol ond llai am economeg gosod, dadansoddi cost a budd, cynnal a chadw hirdymor, dynameg newid defnydd tir, aillenwi dŵr daear a datblygu sgiliau sector contractwyr arbenigol. Y themâu hyn a mwy yw gwaith timau’r prosiectau Arddangos a defnyddir y mewnwelediadau a geir i lywio a ffurfio strategaeth Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren.

18 Rhwystrau Diferion

19 Pyllau a Grëwyd

6. 2 km

O Gyrsiau Dŵr Wedi’u Gwella

3947

O Goed wedi’u Plannu

144 m³

O Ddŵr Ffo Ychwanegol Nodweddion Arafu

Cronfa

22 O Wlyptiroedd Newydd

8. 6 ha O Gynefinoedd Wedi’u Creu

Y Drenewydd

Y Trallwng Minsterley

0. 2 ha

O Goetir Gwlyb

138

Rhwystrau Deunydd

Gwlyptiroedd Prennaidd Mawr

6. 9 km

O Ffensys

109 m

O Berthi

2.17ha

1, 845 m³

Storfeydd Llifogydd

O Bridd wedi’i Awyru

Llyn Efyrnwy
Cronfa Ddŵr Clywedog
Croesoswallt
Amwythig

Cynllun Rheoli Dŵr

Dyffryn Hafren

Diweddariad ar Brosiectau Arddangos

Cyflwyniad i Gynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren

Mae Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren (SVWMS) yn rhaglen strategaeth sy'n anelu at "gadw a gwella Dyffryn Hafren Uchaf drwy greu cymunedau ffyniannus ac amgylcheddau gwydn drwy reoli dŵr yn gynaliadwy a chyfannol".

Mae Afon Hafren yn rhan annatod o fywyd y rhai sy'n byw ac yn gweithio o'i chwmpas. Mae'n darparu manteision a chyfleoedd i fywyd gwyllt, trafnidiaeth a hamdden, yn ogystal â dŵr ar gyfer ffermio a defnyddiau cymunedol. Bydd y rhai sy'n byw ger Afon Hafren yn gwybod am yr hanes hir o lifogydd sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf, gan achosi difrod i gartrefi a busnesau, effeithio ar seilwaith lleol a tharfu ar deithio. I’r gwrthwyneb, mae cymunedau lleol hefyd wedi profi cyfnodau o dywydd sych estynedig ac, mewn rhai achosion, sychder sydd wedi arwain at gyfyngiadau ar ddefnydd dŵr lleol.

Yn 2022, aeth dalgylch Hafren Uchaf o amodau llifogydd gaeaf i statws sychder ffurfiol o fewn wyth mis. Defnyddiwyd cronfeydd dŵr a dŵr daear i gynnal y cymunedau a bywyd gwyllt a oedd yn dibynnu ar y cyflenwad dŵr a ddarperir gan afon Hafren. Er mwyn darparu gwydnwch i'r cymunedau hynny y mae llifogydd yn effeithio arnynt yn rheolaidd, mae angen i ni storio'r hyn sy'n cyfateb i 65 biliwn litr o ddŵr yn ystod llifogydd.

Os yw Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren am gefnogi cadwraeth a gwella Hafren Uchaf yn effeithiol drwy greu cymunedau ffyniannus ac amgylcheddau naturiol gwydn, mae angen i ni brofi ein rhagdybiaethau ynghylch beth allai hynny ei olygu a sut y gellid ei wneud. Wrth i'r cynllun ddod at ei gilydd, cytunwyd i geisio cyllid gan Defra i gefnogi rhaglen o 8 prosiect peilot neu Arddangos i gynnal ymchwil ac arloesi atebion ar sail natur a ddarperir er mwyn meithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r hyn y bydd ei angen i feithrin gallu sylweddol i wrthsefyll llifogydd a sychder yn rhan uchaf Hafren ar gyfer cymunedau Cymru a chymunedau Lloegr ar draws y ffin.

Cyflwyniad i'r Prosiectau Arddangos

Mae'r rhaglen Arddangos yn gydweithrediad rhwng sefydliadau amgylcheddol uchel eu parch, awdurdodau rheoli risg llifogydd lleol, sefydliadau academaidd, ymgynghorwyr arbenigol a chynrychiolwyr o'r gymuned ffermio. Mae gan bob prosiect sefydliad arweiniol fel y rhestrir isod.

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau lleol a rhanddeiliaid i ddatblygu a phrofi atebion rheoli dŵr hirdymor ar gyfer Hafren Uchaf a fydd yn lleihau'r risg o lifogydd, ac yn cefnogi natur, pobl a'r economi. Mae dyfarniad cyllid Defra o £4.5m a wnaed yn 2022 yn cael ei ddal gan Asiantaeth yr Amgylchedd ac yn cael ei gyhoeddi fel grant i Gyngor Swydd Amwythig sy'n rheoli'r rhaglen. Mae pob prosiect wedi cael y dasg o ymchwilio i agwedd wahanol ar gynllun strategol newydd Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren.

• Cegidfa – Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren –Profi dulliau rheoli llifogydd yn naturiol; archwilio ymgysylltiad cymunedol effeithiol; meithrin sgiliau contractwyr lleol

• Nant Rea – Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren –Ymchwilio i’r heriau o greu cynlluniau rheoli llifogydd naturiol cymhleth; dylunio a thrwyddedu

• Perry a Mawndiroedd – Ymddiriedolaeth Natur Swydd Amwythig – Atebion a gynlluniwyd gan ffermwyr ar gyfer rheoli dŵr llifogydd; mapio mawn a phartneriaethau

• Dad-balmantu Croesoswallt – Ymddiriedolaeth Natur Swydd Amwythig – trosi tirweddau tref anhydraidd yn atebion llifogydd athraidd; cymunedau ar y bwrdd

• Parc Attingham – Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol –adfer dŵr a natur ar ystadau mawr; cydweithio rhwng tenantiaid, landlordiaid a'r cyhoedd sy'n ymweld

• CLiCC – Prifysgol Caer – gyrfaoedd rheoli dŵr a llwybr dysgu; addasu i newid hinsawdd

• Geo-ofodol – Prifysgol Caer – arolwg a mapio arloesol ar gyfer rheoli llifogydd; y gallu i wrthsefyll llifogydd a gynlluniwyd gan y gymuned

• Ffermio’r Dyfodol yn y Gororau – Prifysgol Caer –clywed llais y ffermwyr; profi economeg y dyfodol; ymchwil i ddŵr daear; rhannu gwybodaeth

Rhoi gwybod i chi am y Prosiectau

Arddangos

Bydd timau prosiect yr Arddangoswr yn cynhyrchu cyfres o nodiadau technegol byr a chryno, astudiaethau achos hirach a manylach, ac 8 adroddiad cryno. Bydd pob un yn gallu dod â phrofiad uniongyrchol go iawn i Gynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren i sicrhau ei fod yn dod yn gymorth polisi cadarn ar gyfer dyfodol Hafren Uchaf, yn seiliedig ar egwyddorion ac arferion profedig.

Dechreuodd y prosiect Arddangoswr cyntaf, Cegidfa, ddechrau 2022, a disgwylir iddo gwblhau ei waith erbyn mis Mawrth 2026. Bydd y 7 prosiect Arddangos arall yn adrodd drwy gydol 2026 ac yna'n cyflwyno eu hadroddiadau terfynol erbyn diwedd mis Mawrth 2027.

I ddysgu mwy am y prosiectau Arddangos dilynwch y ddolen hon – https:// severnvalleywatermanagementscheme.commonplace. is/cy-GB

Gan ddiolch i bartneriaid Rhaglen Arddangos Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren: Cyngor Swydd Amwythig, Asiantaeth yr Amgylchedd, Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren, Ymddiriedolaeth Natur Swydd Amwythig, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Prifysgol Caer, Faulkner and Mayne Agricultural Services, Grŵp Ffermwyr Maesmawr, Grŵp Ffermwyr Gogledd Swydd Amwythig, Hannah Fraser Consulting, Richard Maryniak, Partneriaeth y Gororau Ymlaen, 3Keel ac Ernst Young.

Diolch i Defra am ariannu'r rhaglen.

Cegidfa Prosiect Arddangos

Cyflwyniad

Dechreuodd Prosiect Arddangos Cegidfa yng Ngwanwyn 2022. Dan arweiniad Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren, gyda chefnogaeth partner gan Gyngor Sir Powys, Cyngor Swydd Amwythig ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Prosiect Nant Cegidfa yw'r prosiect cyntaf i gael ei gyflawni ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr o fewn Partneriaeth Afon Hafren.

Nod prosiect Arddangos Cegidfa yw profi atebion arloesol i’r gallu i wrthsefyll llifogydd yn nalgylch Hafren Uchaf yn y hirdymor, a defnyddio technegau rheoli llifogydd yn naturiol (ailgysylltu gorlifdiroedd, creu gwlyptiroedd, argaeau malurion prennaidd a phlannu coetiroedd) i 'arafu llif' dŵr.

Mae'r prosiect hwn yn mynd i'r afael â pherygl llifogydd o fewn dalgylch Cegidfa ar ddwy lefel. Yn gyntaf, mae'n gosod amrywiaeth o fesurau Rheoli Llifogydd yn Naturiol (NFM) traddodiadol, i wneud cyfraniad uniongyrchol at fynd i'r afael â risg llifogydd, ac adeiladu gwydnwch yn nhirwedd y pridd. Ochr yn ochr â hyn, bydd y prosiect yn ystyried sut i gefnogi mwy o ymwybyddiaeth o opsiynau rheoli tir a dŵr ar gyfer rheolwyr tir a ffermwyr drwy'r Ap Hydroleg Ffermydd.

Nod y prosiect yw lleihau'r risg o lifogydd drwy ychwanegu storfa ddŵr llifogydd dros dro ychwanegol. Gwneir hyn drwy greu coetir, perthi, pyllau ac argaeau sy'n gollwng dŵr. Bydd cynnydd hefyd yng ngwydnwch ecolegol y dalgylch drwy greu cynefinoedd coetir a gwlyptiroedd.

Mae swyddogion Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren wedi bod yn gweithio gyda thirfeddianwyr i gyflawni'r mesurau hyn a arweinir gan ffermydd ar draws y dalgylch gan ystyried anghenion a nodau unigol y ffermydd, gan weithio gyda chontractwyr a chyflenwyr lleol.

Ymgysylltu â Thirfeddianwyr

Er mwyn cyflawni'r prosiect ar raddfa fawr, bu angen ymgysylltu â thirfeddianwyr gryn dipyn. Mae hyn wedi'i gychwyn ar sail o’r naill n erm i’r llall, er mwyn sicrhau'r budd pennaf i'r ermydd a'u cymdogion uniongyrchol gan eu bod yn aml yn rhannu niau ochr yn ochr â chyrsiau dŵr, glynnoedd prennaidd, a gwrychoedd. Mae'r niau hyn yn gweithredu fel mesurau bioddiogelwch ar gyfer y ermydd, ac mae eu gwrychoedd a'u hymylon yn rhoi amddi yniad i stoc a bywyd gwyllt fel ei gilydd.

Mae awydd sylweddol bellach am y math o waith Rheoli Llifogydd yn Naturiol yng nghymuned ermio Dalgylch Cegidfa gan fod nodau ac e eithiau'r prosiect yn cael eu deall yn well o'r sgyrsiau a'r cyfnewidiadau y mae Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren (SRT) wedi'u cynnal wrth giât y erm, ochrau'r yrdd ac mewn digwyddiadau cyhoeddus. Mae safonau gwaith uchel y contractwyr lleol wedi helpu i gefnogi amcanion y prosiect ac adeiladu enw da i SRT.

Map yn dangos ermydd sy'n gweithio yn Nalgylch Cegidfa. Mae oren yn dangos ermydd lle mae'r ymgysylltu wedi'i gwblhau, mae gwyrdd yn dangos ermydd lle mae gwaith yn mynd rhagddo

Mae tîm prosiect SRT a gyflogwyd i gyflawni'r prosiect yn ymarferwyr profiadol yn y maes mewn rheoli cadwraeth sy'n wynebu'r cyhoedd Mae ganddynt brofiad uniongyrchol o negodi a chydweithio â ermwyr a thirfeddianwyr i adfer a chreu nodweddion rheoli llifogydd naturiol a mosaigau cynefinoedd ar raddfa dalgylch gan gynnwys: gwlyptiroedd, coetiroedd glannau afonydd a dolydd gorlifdir. Yn ogystal â chyflawni'r prosiect maent yn darparu cyngor i ermwyr ac yn rhoi cymhellion i arferion amaethyddol adfywiol.

Ymwelodd swyddogion y prosiect â'r ermydd ac yna ar ôl rhoi esboniad didwyll ac agored o'r SVWMS a chynnal trafodaethau boddhaol, byddent yn cwmpasu'r erm yn ystod taith gerdded o amgylch y safle gyda pherchennog y tir lle cafodd yr holl weithrediadau adfer tirwedd posibl eu mapio ar fap sylfaenol y erm. Yna lluniwyd y map hwn a chytunwyd ar fanylebau ar gyfer y gwaith gyda'r ermwr, a gafodd y ddealltwriaeth mai dim ond y gweithrediadau â'r manteision Rheoli Llifogydd yn Naturiol mwyaf fyddai'n cael blaenoriaeth.

Ers dechrau'r prosiect, mae wedi gosod dros 100 o rwystrau malurion pren gollyngol i arafu llif mewn llednentydd i fyny'r afon. Mae bron i 20 o byllau a basnau wedi cael eu creu a'u hadfer i gynyddu'r storfa dŵr llifogydd dros dro. Erbyn diwedd y prosiect bydd dros gilometr o berthi newydd wedi'u plannu a thua 2 hectar o goetir newydd. Hyd yma mae dros 17 o fusnesau erm wedi cymryd rhan yn y prosiect ac wedi gwneud eu rhan i wella’r gallu i wrthsefyll llifogydd yn nalgylch Cegidfa.

Heriau a phroblemau

Er bod y prosiect wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yma, mae yna hefyd rai heriau i ddysgu ohonynt a'u goresgyn. Mae lefel uchel o ansicrwydd a gofal yn y gymuned ermio ynghylch cynlluniau amaeth-amgylcheddol oherwydd profiadau'r gor ennol a'r presennol. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gefnogaeth ariannol hirdymor ar gyfer cynnal a chadw nodweddion rheoli llifogydd yn naturiol. Ar hyn o bryd dim ond dyfalu y gallai sta y prosiect ei wneud y byddai'r mesurau Rheoli Llifogydd yn Naturiol a grëwyd ar y ermydd o fudd iddynt yn y dyfodol fel ynhonnell incwm, pan gyhoeddir cynlluniau o'r fath. Roedd di yg profiad mewn gweithrediadau rheoli cadwraeth gan gontractwyr lleol hefyd yn rhwystr, meddylfryd y ermwr a'r contractwr, yn achos draenio, oedd anfon unrhyw lif dros dir i'w draeniau cae agosaf ac i'w osydd a'u cyrsiau dŵr ac oddi ar y erm cyn gynted â phosibl. Mae gan ddulliau draenio da rôl allweddol mewn rheoli tir a'r gobaith yw y gellir defnyddio'r un sgiliau a gwybodaeth i ddal dŵr llifogydd yn ôl er mwyn caniatáu i systemau draenio i lawr yr afon ymdopi â llifau brig. Trefnodd tîm y prosiect gyfres o sesiynau arfer da a helpodd i fynd i'r afael â'r bwlch profiad ymhlith timau lleol gan arwain at fanteision i bawb.

Teimlwyd heriau tebyg yn achos rhwystrau prennaidd oedd yn gollwng lle'r oedd arfer cy redin ar ermydd yn cadw cyrsiau dŵr yn glir o falurion prennaidd fel na allai unrhyw ddŵr oedi ar gaeau'r erm. Gellir cyflawni lleoli nodweddion yn ofalus i arafu llifau ac osgoi gorlifo tir âr neu borfa ond mae angen i hyder perchnogion tir wrth leoli'r nodweddion hyn dyfu.

Bydd deall sut i ddefnyddio'r tir i reoli llifau a lleihau e eithiau llifogydd drwy arafu llifau mewn un rhan o'r dalgylch a'u cyflymu mewn rhan arall yn cymryd amser a chefnogaeth.

‘Ydych chi yma i ddwyn fy nhir am goed?!’ oedd ymateb cy redin gan ermwyr i sta prosiect yn galw heibio i ermydd. Ar ddiwedd y rhan fwyaf o sgyrsiau, cyrhaeddwyd dealltwriaeth gy redin o’r “goeden gywir yn y lle cywir”.

Roedd plannu perthi yn opsiwn poblogaidd gan fod ermwyr yn amlwg yn cefnogi adfer y perthi gan eu bod yn gweithredu fel lloches i stoc ac yn rhwystrau bioddiogelwch yn y erm.

Nid oedd e aith gychwynnol y prosiect o ran sylw yn y cyfryngau mor e eithiol ag y gobeithiwyd, ac arweiniodd llawer o ymweliadau neu alwadau i ermydd at honni nad oeddent yn gwybod dim am y prosiect. I fynd i'r afael â'r mater hwn, mynychodd sta Sioe boblogaidd Cegidfa gyda'n model hambwrdd dŵr modelu llifogydd rhyngweithiol EmRiver. Roedd hyn yn llwyddiant mawr o ran creu diddordeb yng Nghynllun Rheoli Dŵr Dy ryn Hafren ac yn bwysicaf oll, cynhyrchodd lawer o gyfleoedd ar gyfer ymweliadau erm yn y dyfodol gan sta y prosiect.

Ymchwil a Monitro

Yn ogystal â chwrdd â ermwyr a siarad am ble gallai'r cyfleoedd fod ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol, mae tîm y prosiect wedi defnyddio mapiau hanesyddol ac mae arolygon topogra g eraill fel LIDAR [Canfod Golau a Chwmpasu] wedi ein galluogi i weld ble mae nodweddion hanesyddol fel hen berthi, pyllau a ble mae sianeli dŵr wedi'u haddasu. Mae hyn yn caniatáu i ni adfer nodweddion sydd wedi mynd ar goll yn y dirwedd, a all fod yn fwy deniadol i dirfeddianwyr na chreu nodwedd newydd.

Enghrai o hyn yw erm Tirnewydd, lle helpodd dangos hen fap yr Arolwg Ordnans i argyhoeddi ermwr i adfer coetir hanesyddol. Plannwyd hwn ar ddiwrnod cor oraethol busnes yn Swydd Amwythig o dan raglen Iechyd a Llesiant sta cwmni lleol. Plannwyd coetiroedd ar hen ôl troed coetir hynafol wedi'i glirio a gallai gwirfoddolwyr weld arwyddion hyn wrth blannu ymhlith clychau'r gog a blodau'r gwynt.

Map OS 1888-1915 yn dangos coetir hanesyddol yn erm Tirnewydd. Mae polygonau coch yn dangos yr ardaloedd a adferwyd fel rhan o brosiect arddangos Cegidfa.

Gan ddefnyddio Modelau Arwyneb Digidol (LIDAR) a mapiau hanesyddol, crëwyd map o berthi hanesyddol ar draws y dalgylch, a all ein galluogi i bennu e aith bosibl adfer, yn ogystal â chreu ocws ar gyfer cyflawni.

Pob perth sydd wedi'i disbyddu yn Nalgylch Cegidfa, mae gwyrdd yn dangos lle mae perth wedi'i thynnu'n llwyr, mae glas yn dangos lle mae bylchau yn y berth.

Mae monitro hefyd wedi'i gynnal ar ymyriadau a ddarparwyd fel argaeau sy'n gollwng a nodweddion gwanhau drwy luniau treigl amser trapiau camera. Gosodir trapiau camera ar y nodwedd ac i dynnu llun bob 10 munud. Mae hyn yn golygu pan fo storm bod y glawiad a'r dŵr sy'n cael ei gofnodi. Mae modd cael mesuriadau meintiol o hyn hefyd drwy osod byrddau mesur yn y nodwedd a fydd yn dangos lefel y dŵr ar lif storm. Mae hwn yn adnodd gwych ar gyfer ymgysylltu â thirfeddianwyr a'r cyhoedd, gan ei fod yn dangos bod gosod mesurau Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn e eithiol, a faint o ddŵr y gellir ei ddal yn ôl gydag un nodwedd. Mae hyn hefyd yn caniatáu i ni weld e aith y nodweddion rydym yn eu gosod, gan na allwn yn aml fynd i'r safle i'w gweld mewn llifogydd, gan fod yrdd wedi'u gorlifo ac yn anhygyrch.

Y dechneg monitro arall rydym wedi'i defnyddio yw defnyddio Cofnodwyr Lefel Solnist i ddangos y gwahaniaeth yng ngollyngiad dau nant gymharol. Mae gan un nant fesurau rheoli llifogydd naturiol wedi'u gosod, ac nid oes gan y llall unrhyw fesurau. Nid ydym wedi cael canlyniadau o hyn eto, ond rydym yn gobeithio gweld gwahaniaeth mesuradwy yn y ddau rwd.

Rydym hefyd yn chwilio am ordd o fesur yn gyson y gyfaint ychwanegol a storir gan y mesurau Rheoli Llifogydd yn Naturiol rydym yn eu gweithredu. Efallai y byddwn yn edrych ar o eryn Ailgyflenwi Ymddiriedolaeth yr Afonydd fel ordd o wneud hyn. Fodd bynnag, bydd angen gwneud mwy o waith i ddeall sut mae ei fesurau'n cyd-fynd â'n hallbynnau ein hunain.

Ap Hydroleg Ffermydd

Mae Ap Hydroleg Ffermydd yn cael ei ddatblygu fel dyfais ymgysylltu i gyflwyno gwybodaeth i ermwyr ynghylch risgiau a chyfleoedd sy'n ymwneud â rheoli dŵr. Bydd y wybodaeth hon yn benodol i leoliad daearyddol pob erm, gan roi gwybodaeth bersonol i ddefnyddwyr sy'n berthnasol i'w safle a'u busnes erm. Gobeithir y bydd hyn yn gwasanaethu fel modd o ysbrydoli ermwyr i ymgymryd â rhai o'r opsiynau a gyflwynwyd. Mae cytundeb rhannu data wedi'i sicrhau i integreiddio Mapiau Cyfle Atebion ar Sail Natur Cynllun Rheoli Dŵr Dy ryn Hafren i'r adnodd, gan greu rhyngwyneb defnyddiwr ar gyfer cael mynediad at y data hwn yn rhwydd, a gwneud y mwyaf o'i fanteision ac atal yr angen i atgynhyrchu'r set ddata hon. Bydd yr Ap ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Y bwriad yw profi'r Ap yn ystod blwyddyn olaf y cynllun.

Enghrai o ddisbyddu perthi ar raddfa erm, a sut mae LIDAR yn dangos perthi gweddilliol a nodir gan linellau gwyrdd a glas.

Nant Rea

Prosiect Arddangos

Cyflwyniad

Dechreuodd prosiect Arddangos Nant Rea ym mis Ionawr 2024, a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2027. Mae'r prosiect yn cael ei gyflawni gan Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren sydd ag ymrwymiad hirdymor i weithio er mwyn gwella dalgylch Nant Rea. Nod y prosiect yw dangos y manteision y gellir eu cyflawni gan ddefnyddio mesurau rheoli llifogydd yn naturiol (NFM) i arafu llif dŵr yn ystod llifogydd a stormydd. Mae hefyd yn anelu at ddangos y manteision o weithio gyda thirfeddianwyr, gan eu grymuso i weithredu'r mesurau hyn fel rhan annatod o'u busnes fferm, yn hytrach na’u gweld fel pe baent yn tynnu tir allan o gynhyrchiant fel y digwyddai yn hanesyddol o bosibl gyda chynlluniau Rheoli Llifogydd yn Naturiol.

Mae'r prosiect yn darparu atebion ar sail natur ac sydd wedi'u hariannu'n llawn, technegau Rheoli Llifogydd yn Naturiol (NFM) megis ailgysylltu gorlifdiroedd, creu gwlyptiroedd, argaeau malurion prennaidd a phlannu coetir ar draws llethrau i 'arafu llif' dŵr.

Cefndir y Dalgylch

Mae Nant Rea yn ddalgylch mawr sy'n cwmpasu tua 190km2. Tir amaethyddol gwledig ydyw yn bennaf, ond mae ei ran isaf yn llifo drwy Amwythig i ymuno ag Afon Hafren wrth Bont Lloegr. Mae'n cynnwys gwastadedd llifogydd eang rhwng bryniau Cefn Digoll i'r gogledd a Charneddau Teon i'r de, gyda nifer o lednentydd yn llifo oddi ar ddwy ochr y bryniau hyn. Mae ei ffynhonnell wedi'i lleoli yn y gorlifdir ym Mhwll Marton, safle SoDdGA a Ramsar dynodedig. Mae pentrefi sy'n dioddef llifogydd wedi'u lleoli ar bob un o'r prif lednentydd, ac mae Nant Rea yn cyfrannu at lifogydd yn ardal Coleham yn Amwythig wrth ei chydlifiad ag Afon Hafren.

Dull

O ystyried maint mawr y dalgylch a nifer yr isafonydd unigol, nid yw'r prosiect hyd yma wedi ceisio targedu ardaloedd penodol i nodi tirfeddianwyr addas (galwadau oer), ond i weithio gyda thirfeddianwyr sydd wedi cysylltu â SRT gyda syniadau (arweiniadau cynnes). Mae hyn yn manteisio ar brosiectau cyflawni cyfalaf a wnaed mewn blynyddoedd blaenorol gan ddefnyddio Cronfa Gwella Amgylchedd Dŵr Asiantaeth yr Amgylchedd (WEIF-EA) sydd wedi helpu i ddatblygu cysylltiadau ac adeiladu enw da SRT am gyflawni mesurau ar draws y dalgylch mewn modd pro esiynol. Efallai y bydd angen symud tuag at fwy o ddulliau galwadau diwahoddiad wrth i'r prosiect fynd rhagddo, ond bydd y ddarpariaeth hyd yma yn helpu i dargedu ardaloedd ar gyfer hyn er mwyn sicrhau'r manteision gorau posibl. Yn dilyn y cyswllt cychwynnol, mae SRT yn cynnal ymweliad â'r safle i edrych ar syniadau'r tirfeddianwyr ac, os yw'n briodol, gwneud awgrymiadau ar gyfer opsiynau ychwanegol neu amgen a allai ehangu'r manteision y gellid eu cyflawni. Adolygir gwybodaeth ben desg sydd ar gael yn rhwydd i wirio bod y lleoliad bwriadedig yn addas ar gyfer y mesurau. Unwaith y bydd cynllun amlinellol ar waith, mae rheolwr prosiect Asiantaeth yr Amgylchedd yn cael ei gymryd i weld y safle a chadarnhau a allai'r syniad fynd ymlaen o dan y prosiect Arddangos, neu a allai fod yn

fwy addas ar gyfer ceisio cyllid amgen fel Cronfa Gwella'r Amgylchedd Dŵr neu Goetiroedd Hafren. Mewn rhai achosion, mae prosiectau'n dod yn bartneriaethau rhwng sawl ynhonnell ariannu.

Unwaith y bydd cymeradwyaeth wedi'i chael i fwrw ymlaen, yna cai y syniadau eu datblygu'n fanylach. Gall hyn gynnwys gwneud cais i Gyngor Swydd Amwythig am ganiatâd Cwrs Dŵr Cy redin (OWC), neu i Asiantaeth yr Amgylchedd am Drwydded Gweithgaredd Perygl Llifogydd (FRAP). Yn ogystal, bydd rhai safleoedd yn ardal Nant Rea lle mae draenio yn cael ei reoli gan y Bwrdd Draenio Mewnol, a chynhelir ymgynghoriad priodol yn yr achosion hynny. Hyd yma, ymgymerwyd ag un prosiect mawr o fewn ardal y BDM, ac ar gyfer hyn dirprwyodd y BDM ei bwerau draenio statudol i Gyngor Swydd Amwythig. Os yw'r safle'n dangos tystiolaeth o ddiddordeb botanegol, cynhelir arolwg addas gan ecolegydd yr SRT neu fotanegydd lleol, a gall y canlyniadau lunio'r cynllun dylunio. Mewn rhai achosion, mae ymgysylltu â chontractwr addas yn gynnar yn fuddiol i fireinio syniadau yn gynllun gweithio. Mae SRT wedi datblygu cysylltiadau da gyda nifer o gontractwyr profiadol dibynadwy yn yr ardal sy'n cynnig ystod o sgiliau sydd eu hangen i gyflawni mesurau Rheoli Llifogydd yn Naturiol o ansawdd uchel a hirhoedlog. Cyn ymgymryd â gwaith, cai dogfennaeth iechyd a diogelwch ei llunio, gan gynnwys gwirio cynlluniau gwasanaeth ar gyfer y safleoedd.

Cynlluniodd a chwblhaodd prosiect Arddangos Nant Rea brosiectau Gor ennaf 2025

Heriau

Ymgysylltu

Mae prosiect Arddangos Rea yn brosiect uchelgeisiol iawn gyda'i amcanion yn cynnwys 35ha o wlyptiroedd, a >150 o argaeau gollyngol, yn ogystal â chysylltiad coetir a gorlifdir. Er y bu lefel dda o ddiddordeb hyd yma ac erbyn mis Gorffennaf 2025 roedd prosiectau a gwblhawyd mewn 14 o dirfeddianwyr wedi cynnwys bron i 50 o nodweddion gwlyptiroedd, dim ond tua 3ha yw cyfanswm arwynebedd gwirioneddol y gwlyptiroedd a grëwyd hyd yma, felly mae targed y prosiect [35ha] yn heriol iawn. Nodwyd nad yw tirfeddianwyr yn y dalgylch hwn byth yn gofyn am argaeau sy'n gollwng, ac felly mae'r 31 a osodwyd hyd yma wedi dod o dirfeddianwyr â diddordeb y gellir eu perswadio i ychwanegu’r nodweddion hyn ochr yn ochr â gwlyptiroedd. Fodd bynnag, maent hefyd yn cael eu hystyried yn 'beryglus' gan rai tirfeddianwyr, ac mewn o leiaf un achos ni roddwyd caniatâd i fwrw ymlaen oni bai eu bod yn dod gyda thaliadau cynnal a chadw sylweddol, nad ydynt ar gael o dan y prosiectau Arddangos. Er bod rhai tirfeddianwyr wedi ymgyflwyno’n frwdfrydig i ddefnyddio eu tir i arafu'r llif, gan gydnabod manteision defnyddio tir i amddiffyn cartrefi a rheoli llifau brig yn lleol, nid yw pawb yn argyhoeddedig bod y dull amlswyddogaethol hwn yn ymarferol. Mae 2024 eithriadol o wlyb a 2025 sych iawn hyd yma yn rhoi pwysau ariannol mawr ar y gymuned ffermio, ac nid yw cau’r cynllun Cymhelliant Ffermio Cynaliadwy (SFI) yn sydyn yn gynharach yn 2025 wedi helpu'r ymgyrch gyffredinol tuag at ffermio mwy ystyriol o natur mewn rhai achosion.

Wrth i'r rhan fwyaf o brosiectau arweiniadau cynnes droi'n gynlluniau a gyflawnwyd, mae'n dod yn angenrheidiol ystyried dulliau galwadau diwahoddiad, sydd yn eu natur yn heriol, ac yn debygol o gael effaith amser ar biblinell y prosiect. Fodd bynnag, gobeithir y gallai cynlluniau presennol ddarparu adnodd addysgol.

Mae'r mesurau sydd wedi'u cwblhau hyd yn hyn yn dangos gwahanol ffyrdd o arafu'r llif mewn gwahanol leoliadau, gyda llawer o amrywiad rhwng cynlluniau gorlifdir ac ucheldir. Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd y gallu i gyflawni mesurau ar raddfa fawr yn dibynnu ar opsiynau i dirfeddianwyr geisio iawndal ariannol parhaus megis cytundebau stiwardiaeth haen uwch ar gyfer tynnu ardaloedd mwy allan o ddefnydd cynhyrchiol, a/neu addasu eu cynlluniau fferm a'u model busnes. Ar hyn o bryd, mae mynediad at gynlluniau haen uwch addas sy'n seiliedig ar ddŵr yn ansicr, a gobeithir, wrth i’r cynlluniau hynny ddechrau cael eu cyflwyno, y bydd tirfeddianwyr yn teimlo eu bod yn cael eu hannog i edrych ar y mesurau tymor hwy a graddfa fwy.

Partneriaethau cyllid

Yn amlwg, mae llawer o fanteision amgylcheddol o'r prosiectau Arddangos. Fodd bynnag, mantais ychwanegol yw'r gallu ar adegau i ymuno â ffynonellau cyllid eraill i gyflawni uchelgeisiau perchnogion tir. Mae gan brosiect Arddangos Rea amcanion penodol nad yw pob syniad gan berchennog tir yn eu bodloni. Hyd yma, mae'r prosiect wedi ymuno â nifer o gynlluniau eraill i ganiatáu mwy o hyblygrwydd yn yr hyn a ddarperir, gan gynnwys:

• Severn Valley REAction: cyllid o Gronfa Gwella Amgylchedd Dŵr Asiantaeth yr Amgylchedd, a ddarperir gan SRT.

• Severn Woodlands: cynllun creu coetiroedd a ariennir gan Asiantaeth yr Amgylchedd, a gyflwynir gan SRT

• Hedgerow Heroes: prosiectau creu perthi a gyflwynir gan CPRE Swydd Amwythig.

Mae partneriaethau fel y rhain yn hanfodol i gadw momentwm ymgysylltu â thirfeddianwyr wrth symud ymlaen, ynghyd â chynnal hygrededd gwelliannau amgylcheddol, fel pan fo’r ymateb cychwynnol i gais gan dirfeddiannwr yw 'mae'n ddrwg gen i na all fy mhrosiect ariannu hynny' gellir ei ddilyn gyda 'ond rwy'n gwybod am gynllun a allai helpu'.

Perry and Peatlands Prosiect Arddangos

Cyflwyniad

Dechreuodd Prosiect Perry a Mawndiroedd ym mis Medi 2024, dan arweiniad Ymddiriedolaeth Natur Swydd Amwythig, a'i reoli gan Gyngor Swydd Amwythig drwy

Bartneriaeth Afon Hafren. Mae'r prosiect yn archwilio cyfleoedd ar gyfer atebion ar sail natur a gynlluniwyd gan ffermwyr i reoli llif dŵr, lleihau'r risg o lifogydd, a darparu mwy o wydnwch tirwedd i wrthsefyll newid hinsawdd yn Afon Perry a'i dalgylchoedd cysylltiedig yn ddaearyddol.

Mae enghreifftiau o atebion ar sail natur yn cynnwys ailgysylltu gorlifdiroedd, creu gwlyptiroedd, rheoli tir cynaliadwy neu wlypach ar draws priddoedd mawn, neu ardaloedd mawndir wedi'u hadfer yn llawn. Mae gan yr ymyriadau hyn y fantais ychwanegol o wella cynefinoedd, bioamrywiaeth, a mwy o atafaelu a storio carbon.

Mae tîm y prosiect yn gweithio gyda'r ymgynghorwyr amaethyddol lleol Faulkner and Mayne Sustainable Agriculture Ltd (Kate Mayne a Sarah Faulkner) a Grŵp Ffermwyr Gogledd Swydd Amwythig, i gysylltu'n uniongyrchol â busnesau ffermio a gwledig o fewn y

dalgylch ffocws. Mae ffermwyr a thirfeddianwyr yng ngogledd Swydd Amwythig eisoes yn ymuno â'r sgwrs, ac yn dylanwadu ar y prosiect drwy rannu eu gwybodaeth, eu mewnwelediad a'u hatebion ar gyfer dylunio cynlluniau rheoli llifogydd naturiol ar eu tir.

Mae gan brosiect Perry a Mawndiroedd bum ffrwd waith –

1. Ymgysylltu â busnesau ffermwyr – gwybodaeth leol am reoli dŵr ar dir fferm

2. Safleoedd Arddangos a gynlluniwyd gan ffermwyr ar y fferm – rheoli llifogydd yn naturiol

3. Mapio mawn – data manylach

4. Astudiaeth mawndir ar raddfa tirwedd – arolwg cyflwr manwl

5. Ffurfio Partneriaeth Mawn y Gororau – hyb cydweithio

Nodau ac amcanion

Nod Prosiect Perry a Mawndir yw dangos dull arloesol a chynaliadwy hirdymor o leihau risg llifogydd ar raddfa fawr drwy ddarparu:

•Ardaloedd rheoli tir wedi'i addasu, ermio gwlypach, neu ardaloedd wedi'u hail-wlychu ar fawn iseldir heb ei ddynodi o dan dir erm, i gadw ac arafu dŵr, gwella bioamrywiaeth, gwella ansawdd dŵr, a chynyddu potensial atafaelu a storio carbon.

•Creu cynefin coetir brodorol a fydd yn darparu cynefin, yn cysgodi afonydd, ac yn darparu rôl atafaelu carbon.

•Creu cynefin gwlyptir, a fydd yn hwyluso datblygiad hydroleg fwy naturiol, ac yn darparu cynefin newydd.

•Gwell gwybodaeth a dysgu am adfer mawndiroedd ac arferion rheoli tir.

•Bydd y Prosiect yn rhannu'r dystiolaeth a'r dysgu i ddylanwadu ar Gynllun Rheoli Dŵr Dy ryn Hafren a Phartneriaeth Afon Hafren ehangach. Bydd hyn yn cynnwys:

•Gwell dealltwriaeth o'r potensial ar gyfer storio dŵr o fewn y mawndir a geir yn y dalgylch a sut y gall mawndir, plannu coed a Rheoli Llifogydd yn Naturiol [NFM] gydfodoli ac ategu ei gilydd.

•Gwell dealltwriaeth o'r cyfleoedd posibl o amgylch cyllid gwyrdd neu gyfleoedd ariannu eraill a all gefnogi ermwyr i greu a chynnal mawndiroedd sy'n cael eu rheoli neu eu hadfer yn gynaliadwy, plannu coed ac ymyriadau eraill sy'n Rheoli Llifogydd yn Naturiol.

•Gwell dealltwriaeth o sut y gellir integreiddio ymyriadau Rheoli Llifogydd yn Naturiol i fusnesau ermio a'r economi wledig.

•Creu ardaloedd arddangos er mwyn helpu i annog ermwyr lleol i chwilio am ddefnyddiau amgen a mwy cynaliadwy o fawndir ac annog rhoi atebion eraill ar sail natur ar waith.

Ymgysylltu â busnesau ermio a gwledig

Mae trafodaethau a chyfweliadau â ermwyr yn ardal y prosiect wedi helpu i gael cipolwg ar ddefnydd a gwerth presennol mawndir a phriddoedd mawnog i fusnesau ermio lleol, a sut mae goblygiadau newid hinsawdd yn cael eu profi ar lawr gwlad.

Adborth gan Ffermwyr

Crynhoir isod ddetholiad o'r themâu a'r pynciau adborth a gafwyd:

Newidiadau mewn patrymau tywydd

1.Newidiadau mewn patrymau glawiad gyda digwyddiadau glawiad 'o arddull trofannol'.

2.Mae amlder llifogydd wedi cynyddu

3.Mae llifogydd o afonydd, neu ardaloedd o ddŵr llonydd a achosir gan ddŵr o wyneb, yn para'n hirach, gan achosi difrod a chost sylweddol i briddoedd, cnydau a pheiriannau.

Newidiadau mewn dulliau rheoli tir a draenio

1.Mae pryder gan ermwyr ynghylch di yg rheoli llystyfiant ar gyrsiau dŵr a draeniau allweddol.

2.Mae pryder ynghylch e eithiau dŵr o trefol i ddalgylch gwledig.

3.Di yg canfyddedig o ddull cydgysylltiedig gan gyr rheoleiddio a chynllunio i reoli dŵr trefol a gwledig.

4.Lle profir gorlif dŵr llifogydd hirdymor, mae ermwyr yn ystyried a fyddai gwahanol urfiau o reoli tir yn briodol.

5.Mae problemau gyda phriddoedd dwrlawn wedi achosi i gnydau newid o'r gaeaf i'r gwanwyn.

6.Mewn rhai blynyddoedd, nid yw amodau'r ddaear wedi bod yn addas i blannu a chynaeafu cnydau'r gwanwyn mewn tymor, neu maent wedi arwain at gnydau heb eu cynaeafu yn cael eu gadael yn y caeau.

Afon Perry a Baggy Moor

7. Mae gan ermwyr gyfoeth o wybodaeth am ymyriadau draenio tir. Fodd bynnag, nid yw symiau sylweddol o wybodaeth yn cael eu cofnodi na'u mapio'n urfiol, ac mae’n wynebu risg o gael ei cholli.

8.Mae cadwraeth mawn a rheolaeth weithredol mewn tirweddau ermio iseldir yn gysyniad newydd i rai busnesau.

9.Mae angen cynllunio unrhyw newidiadau arfaethedig i reoli tir a/neu ddraenio er mwyn creu cyfleoedd i adfer mawn a storio dŵr i gefnogi capasiti cynhyrchiol mewn darnau eraill o dir.

10.Nid yw goblygiadau posibl newid defnydd tir o ermio'n weithredol i goetir neu wlyptiroedd yn hysbys, gan arwain at ansicrwydd ac amharodrwydd ynghylch gwneud y newidiadau hyn.

Newidiadau i rydiau cyllid

1.Mae sawl cyhoeddiad a newid i gyllid wedi arwain at ansicrwydd ynghylch strwythurau busnes, cynllunio ar gyfer olyniaeth, a buddsoddi yn y dyfodol.

2.Yn Lloegr, nid oes unrhyw gynlluniau amaethamgylcheddol tymor byr na hyblyg ar hyn o bryd a allai gefnogi creu a/neu gynnal atebion rheoli dŵr ar sail natur. Mae newidiadau diweddar i gynlluniau presennol wedi tanseilio hyder yn nibynadwyedd cynigion ariannu yn y dyfodol.

Cynlluniau yn y dyfodol

Cynhelir digwyddiadau rhannu gwybodaeth, sydd ar gael i ermwyr a thirfeddianwyr, ddiwedd 2025 a thrwy gydol 2026, er mwyn cael dealltwriaeth ddyfnach o'r heriau a wynebir, a rhannu canfyddiadau a chyfleoedd y prosiect.

Safleoedd arddangos

Mae pum erm yn Lloegr, ac un yng Nghymru wedi'u nodi i fwrw ymlaen â gwaith pellach yn 2026.

Bydd gwaith yn y safleoedd hyn yn canolbwyntio ar ddeall y broses a'r caniatâd sydd eu hangen i weithredu atebion ar natur sail ar ardaloedd mawn a rhai nad ydynt yn fawn. Gallai atebion ar sail natur gynnwys blocio osydd a rhigolau, cael gwared ar ddraeniad tir i greu ardaloedd glaswelltir gwlyb, ail-igam-ogamu draeniau, creu pyllau dŵr tymhorol a gwlyptiroedd, creu nodweddion gwanhau dŵr, plannu coed a pherthi, newid arferion rheoli tir ar fawn, neu ail-wlychu ardaloedd mawndir.

Bydd safleoedd eraill lle mae presenoldeb mawn eisoes yn hysbys, yn canolbwyntio ar ymchwilio i ddyfnder a chyflwr y mawn, a sut y gellid ei reoli'n fwy cynaliadwy, ei ermio o dan amodau gwlypach, neu gael adferiad mawndir llawn. Cynhelir ymchwil i gyfleoedd cyllid gwyrdd, gan gynnwys Elw Net Bioamrywiaeth a'r Cod Mawndir, i ddeall sut y gallai ermwyr gael mynediad at yr opsiynau hyn i gefnogi'r math hwn o waith.

Gorlif dŵr llifogydd ar briddoedd mawnog yn arwain at gnydau heb eu cynaeafu

Mapio mawn

Cyhoeddwyd Map Mawn Lloegr newydd gan Natural England ym mis Mai 2025. Mae Mapiau Mawn cyhoeddedig yn bwysig gan y byddant yn dylanwadu ar y Strategaeth Adfer Natur Leol. Mae'r Strategaeth Adfer Natur Leol (LNRS) yn nodi beth allai fod y cyfleoedd â'r flaenoriaeth uchaf mewn lleoliad penodol. Nid oes rhwymedigaeth ar ermwyr i gyflawni'r camau a ddangosir yn yr LNRS. Fodd bynnag, mae'r meysydd hyn yn tynnu sylw at lle gallai camau gweithredu wneud gwahaniaeth gwirioneddol - a disgwylir y bydd y llywodraeth a sefydliadau lleol yn cefnogi ymdrechion yn y mannau hyn drwy gyllid, cyngor a chyfleoedd eraill. Gobeithir y bydd y strategaeth a'r map yn ysbrydoli gweithredu gwirfoddol a chydweithio er mwyn helpu natur i ynnu.

Mae sawl gwahaniaeth rhwng y map mawn newydd hwn a mapiau priddoedd mawnog hanesyddol. Yn ogystal, drwy wybodaeth a gafwyd o'r gweithdai gyda ermwyr lleol, mae'r mapiau hyn hefyd yn wahanol i'r adroddiadau ar bresenoldeb mawn a fapiwyd gan y rhai sydd â gwybodaeth a phrofiad o amodau tir lleol. Bydd y prosiect yn cefnogi ymdrechion i gywiro'r gwallau yn y gwaith mapio mawn lleol.

Astudiaeth mawndir ar lefel y dirwedd

Mae'r prosiect yn edrych ar y potensial ar gyfer adfer mawndiroedd o fewn Afon Perry a'i dalgylchoedd cyfagos. Gallu nodi cyfleoedd ar gyfer rheoli neu adfer mawndiroedd yn gynaliadwy, a sefydlu sut y gellid ymgymryd â'r gwaith hwn ar lefel leol a thirwedd. Mae angen dealltwriaeth well o swyddogaeth ecolegol, hydrolegol a hydroddaearegol y mawndir o fewn ardal y prosiect hon.

Ardal dôl wlyb wedi'i chynnig ar gyfer creu nodweddion arafu dŵr

Mae'r ymgynghorwyr arbenigol Rigare Ltd, sy'n darparu gwasanaethau a chyngor ar bynciau ecohydroleg a hydroddaeareg mawndir a gwlyptiroedd, wedi cael eu cyflogi i gynnal ymchwil sy'n dechrau ateb y cwestiynau hyn. Yn ogystal, gyda chefnogaeth Rhanbarth Arloesi Diwifr Uwch Partneriaeth Afon Hafren, bydd rhwydwaith o synwyryddion lefel dŵr o bell yn cael eu defnyddio o fewn amgylcheddau mawndir ar draws y dalgylch. Bydd data a chasgliadau o'r ymchwil, pan fyddant wedi'u cwblhau, yn cael eu hanonymeiddio a'u rhannu â'r gymuned ermio leol a chyda chydweithwyr sy'n gweithio ym maes ymchwil mawndiroedd. Bydd y gwaith yma a'r mewnwelediadau a geir yn cael eu defnyddio i ddylanwadu ar Gynllun Rheoli Dŵr Dy ryn Hafren, yn enwedig ei argymhellion mewn perthynas â phriddoedd mawndir yn rhan uchaf Hafren.

Adran o'r map mawn newydd (Cyhoeddwyd y map gan Natural England) (h ps://england-peat-map-portal-ncea.hub.arcgis.com/)

Datblygu Partneriaeth Mawn y Gororau

Mae gan fawndiroedd rôl allweddol i'w chwarae yn adferiad natur, ac mae gan lawer o fusnesau, sefydliadau, elusennau a Phrifysgolion lleol ddiddordeb mewn adfer a rheoli mawndiroedd, defnydd tir cynaliadwy, mawndiroedd ermio, a'r gwasanaethau amgylcheddol a ddarperir gan fawn ar draws rhanbarth y Gororau. Mae llawer o brosiectau, gwaith pwysig ac ymchwil yn y maes hwn eisoes yn cael ei wneud yn lleol. Mae Prosiect Arddangos Perry a Mawndiroedd yn cefnogi Ymddiriedolaeth Natur Swydd Amwythig i urfio Partneriaeth Mawn y Gororau i ddod â'r grwpiau hyn ynghyd i rannu gwybodaeth a sgiliau sy'n gysylltiedig â mawndir, a meithrin cydweithrediad rhwng rhanddeiliaid ledled y rhanbarth.

o o er

wedi'i osod mewn os cae

Enghrai
monitro

Dad-balmantu – Croesoswallt

Prosiect Arddangos

Cyflwyniad

Gall llifogydd yn aneddiadau, pentrefi a threfi rhan uchaf Hafren beryglu bywyd, difrodi eiddo, achosi aflonyddwch ac effeithio ar iechyd a busnesau. Gall rhwydweithiau draenio traddodiadol gael eu gorlethu a'r arwyneb caled, a gall y tarmac a'r concrit a geir lle rydym yn byw waethygu problemau. Drwy gynyddu gallu ein hamgylchoedd i ymdreiddio ac amsugno glaw, er mwyn mynd i'r afael â 'mannau gwlyb' llifogydd lleol, gallwn wneud y lleoedd rydym yn byw ynddynt yn fwy diogel rhag llifogydd ac yn fwy gwydn.

Nod prosiectau Dad-balmantu Croesoswallt yw dangos sut y gallwn greu mannau trefol sy'n gallu gwrthsefyll llifogydd yn well. Mae Croesoswallt yn dref ffiniol brysur a bywiog ond fel eraill mae'n dioddef o lifogydd mewn mannau. Mae Croesoswallt yn gorwedd o fewn dalgylchoedd dwy afon yn Swydd Amwythig, y Morda sy'n codi ym Mynydd y Berwyn yng Nghymru a'r Perry sy'n cychwyn i'r gogledd i'r dref, er bod Nant Gyffredin, llednant o'r afon hon, yn cychwyn rywle o dan y dref. Mae llawer o'r draeniad o dan y dref yn Fictoraidd yn ymestyn allan o ganol y drefn â mur hen o’i chwmpas.

Fel trefi eraill, mae cyfleoedd o amgylch y dref lle gellid gwneud newidiadau i wella draeniad a chreu mwy o fannau gwyrdd hefyd. Mae prosiect Dad-balmantu

Croesoswallt yn cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Natur Swydd Amwythig, ac mae gan ei dîm Adfer Tirwedd hanes hir o ddod ag atebion ar sail natur i gymunedau lleol i fynd i'r afael ag iechyd, llesiant, ansawdd dŵr neu, yn yr achos hwn, y gallu i wrthsefyll llifogydd.

Mae ein lleoedd trefol yn gymhleth ac mae gwneud newidiadau i'r ffordd maent yn gweithio i wella eu gallu i wrthsefyll llifogydd yn golygu ymchwilio, ymgynghori a chydweithio manwl. Mae prosiect Dad-balmantu

Croesoswallt yn gweithio'n agos gyda Chyngor Tref

Croesoswallt, nifer o sefydliadau cymunedol ac unigolion i ddeall y cyfleoedd a'u dylunio gyda'i gilydd. Bydd yr holl waith hwn yn cael ei gofnodi a'i ddefnyddio i ddeall sut y gallai cymunedau eraill yn rhan uchaf Hafren hefyd wella eu gallu i wrthsefyll llifogydd drwy atebion ar sail natur.

Ymchwilio i’r cyfleoedd

Mae Dad-balmantu Croesoswallt wedi bod yn archwilio'r dref, gan edrych ar leoedd lle mae potensial i newid arwynebau o darmac wedi'i selio, slabiau concrit neu ardaloedd anhydraidd eraill i ddeunyddiau athraidd, pridd, graean, gwelyau plannu newydd neu byllau coed. Mae mannau gwlyb o amgylch Croesoswallt wedi'u nodi a'u defnyddio i amlygu ardaloedd targed ar gyfer nodweddion Dad-balmantu posibl.

Mae set ddata gyflawn wedi'i llunio gyda gwybodaeth am y math o dir, cyfleustodau, safleoedd gwarchodedig a pherchnogaeth tir wedi'i chynnwys gan ddefnyddio mapio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol [GIS]. Nawr bod y gwaith mapio o bell wedi'i wneud, mae'r tîm wedi bod allan yn y dref yn edrych yn agosach ar y cyfleoedd y mae'r gwaith mapio wedi'u nodi i weld pa rai y gellir eu gwneud mewn gwirionedd. Bydd y nodweddion mwyaf effeithiol yn cael eu cynllunio yn ôl anghenion yr ardal.

Nod y prosiect yw cynnwys amrywiaeth o nodweddion megis gerddi glaw, pantiau [ffosydd draenio bas], ymylon priffyrdd glaswelltog ac eitemau casglu dŵr glaw, megis casgenni dŵr, ar draws sawl lleoliad yng Nghroesoswallt. Caiff y rhain eu gosod gan gontractwyr profiadol.

Er y bydd pob lleoliad yn cynnig mantais fach o ran lleihau'r llwyth glawiad ar y draeniau neu'r priffyrdd lleol, gall effaith gronnol llawer o newidiadau wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Bydd y tîm hefyd yn edrych i fyny'r afon o ganol y dref, allan i'r cefn gwlad cyfagos i weld a oes cyfleoedd i arafu'r llif ond heb effeithio ar gynhyrchu bwyd a gwneud i'r manteision o ran gwrthsefyll llifogydd deimlo'n ehangach.

Nodau ac amcanion Dad-balmantu Croesoswallt

Bydd y Prosiect yn darparu tystiolaeth a dysgu a all helpu lleoedd eraill yn rhan uchaf Hafren i allu gwrthsefyll llifogydd yn well. Nod y prosiect yw:

• Creu 2 hectar o gynefin newydd neu well drwy greu nodweddion newydd fel gerddi glaw ac ymyriadau rheoli llifogydd yn naturiol eraill. Cyflawnir hyn drwy nodi cyfleoedd i wella athreiddedd wyneb y ddaear i amsugno dŵr storm a thrwy wella sut y gall mannau gwyrdd helpu i reoli glawiad brig.

• Cefnogi cymunedau lleol sydd wedi’u heffeithio gan lifogydd a’r rhai sy’n ymwneud yn weithredol â mannau gwyrdd Croesoswallt. Mae tîm y prosiect yn gweithio i gefnogi a galluogi mynediad at gyfleoedd ariannu, cynorthwyo i ddatblygu syniadau prosiect, hyrwyddo cynhwysiant a sicrhau bod Dad-balmantu wedi'i wreiddio ym muddiannau'r gymuned leol.

• Cynhyrchu astudiaethau achos, gwybodaeth dechnegol ac adroddiad terfynol i arwain ac ysbrydoli cymunedau eraill i ystyried sut y gallent drawsnewid eu ffyrdd, strydoedd, cynlluniau adeiladau a mannau gwyrdd i gefnogi’r gallu i wrthsefyll llifogydd yn well.

Bydd y prosiect yn darparu'r manteision allweddol hyn:

• Y gallu i wrthsefyll perygl llifogydd yn well yn nhref Croesoswallt.

• Mwy o fioamrywiaeth a gwelliant amgylcheddol drwy greu mannau gwyrdd.

• Manteision carbon cadarnhaol a gwelliannau ansawdd aer drwy greu seilwaith gwyrdd trefol.

• Ymgysylltiad cynyddol a gwell â'r gymuned leol a pherchnogion tir.

• Datblygu ymchwil Dad-balmantu i gefnogi’r gallu cymunedol i wrthsefyll llifogydd yn y dyfodol yn rhan uchaf Hafren.

Parc Attingham Prosiect Arddangos

Cyflwyniad

Wedi'i lleoli ar ymyl Gwastadedd Swydd Amwythig, mae Ystad Attingham, sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac sy'n 1600 hectar o faint, wedi'i rhannu'n ddwy afon, sef y Tern a'r Hafren, ac mae eu cydlifiad ar yr ystad. Y tu hwnt i'r Parc a'r Ardd Gofrestredig Gradd II, mae mwyafrif yr ystad yn cynnwys tir fferm dan denantiaeth, a gwasgariad o goetir mewnol. Mae'r iseldir ffrwythlon hon wedi dioddef o golli a rhannu cynefinoedd a draenio tir sylweddol yn ystod yr 20fed ganrif oherwydd dwysâd amaethyddol.

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi dechrau cyflawni gweledigaeth feiddgar 10 mlynedd ar gyfer newid defnydd tir ar raddfa'r dirwedd yn Attingham i gyrraedd ei thargedau cynefin a charbon, a chwarae ei rhan wrth ymateb i argyfyngau natur a hinsawdd byd-eang. Wrth wraidd y weledigaeth mae ystad amaethyddol flaenllaw sy'n arddangos ffermio âr a chymysg cynaliadwy sy'n darparu priddoedd iach, dŵr glân, y gallu i wrthsefyll newid hinsawdd, a bywyd gwyllt sy'n ffynnu. Bydd y weledigaeth hon yn cael ei chyflawni mewn partneriaeth â thenantiaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn ymgysylltu â phobl leol i gysylltu â natur drwy ehangu mynediad a chyfranogiad mewn adferiad natur.

Nodau ac amcanion

Nod y prosiect Arddangos yn Attingham yw archwilio sut y gellir gweithio gyda nifer o denantiaid fferm ar ystad fawr i gyflawni newidiadau defnydd tir, atebion ar sail natur, a storio ac arafu dŵr er mwyn rhoi cipolwg ar gyflwyno Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren yn y dyfodol. Gyda chymorth y prosiect Arddangos, bydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gallu dechrau trawsnewid yr ystad a chyflymu’r broses o gyflawni gweledigaeth Attingham ar gyfer adfer natur.

Yn benodol, mae'r prosiect yn cefnogi dylunio, hwyluso a chyflawni cyfleoedd rheoli llifogydd naturiol mewn cydweithrediad â ffermwyr tenant Attingham. Rhagwelir y bydd gwelliant amgylcheddol ehangach yn y dyfodol yn cael ei ddatgloi drwy'r prosiect Arddangos.

Mae pedwar prif faes gwaith y mae tîm y prosiect Arddangos yn Attingham yn canolbwyntio arnynt:

• Gweithgareddau hwyluso, ymgysylltu a chefnogi ffermwyr tenant

• Gwaith arolygu, dylunio a chaniatadau sydd eu hangen i ddatblygu cyfleoedd a nodwyd yn brosiectau y gellir eu cyflawni

• Cyflawni nifer o ymyriadau rheoli llifogydd yn naturiol

• Ymgysylltu â phobl i'w hannog i gysylltu â natur

Hwyluso, ymgysylltu a chefnogi ffermwyr tenant

Mae gan Ystad Attingham chwe thenant fferm sy'n rheoli 1400ha, sy'n rhedeg systemau ffermio cymysg o dir âr a da byw ar gyfer cynhyrchu cig. Maent yn cynnal cymysgedd o gynlluniau amaeth-amgylcheddol - Stiwardiaeth Lefel Uwch, Stiwardiaeth Cefn Gwlad a Menter Ffermio Cynaliadwy. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi rhannu'r weledigaeth adfer natur 10 mlynedd gyda'r tenantiaid ac wedi cychwyn ar daith i annog ffermio mwy ystyriol o natur ar draws yr ystad, gan alluogi dulliau rheoli llifogydd yn naturiol. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:

• Profion pridd ac arolygon cynefinoedd

• Rhoi gwybod am leoliad ymyriadau ond hefyd am ymarferoldeb newid defnydd tir, er enghraifft i adfer glaswelltir cyfoethog ei rywogaethau.

• Digwyddiadau rhwng cyfoedion

• Teithiau cerdded fferm ar Ystad Attingham ac Ystad Dudmaston yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol er mwyn helpu i feithrin dealltwriaeth o beth yw ffermio sy'n ystyriol natur mewn gwirionedd, a rhannu safbwyntiau ffermwyr sydd eisoes yn gweithredu newidiadau defnydd tir.

• Cymorth i ymuno â chynlluniau amaethamgylcheddol

• Comisiynwyd adroddiadau annibynnol allanol ar gyfer pob tenant i ymchwilio i'r ffordd y gellir moneteiddio newid i ffermio sy'n ystyriol o natur a darparu atebion ar sail natur, ac egluro effeithiau newidiadau arfaethedig ar arferion ffermio cyfredol.

• Datblygu ceisiadau Haen Uwch Stiwardiaeth Cefn Gwlad (CSHT) Ymgysylltu â Natural England, a chysylltu â dau denant sydd wedi cael gwahoddiad i wneud cais am CSHT yn 2025. Datblygu cynllun ar y cyd sy'n cyd-fynd â busnes y fferm a chyflawni gweledigaeth ystad Attingham yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a phrosiect arddangos SVWMS.

• Cylchlythyr chwarterol i rannu digwyddiadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a phartneriaid sydd ar ddod, rhannu canfyddiadau o arolygon, a newyddion ystadau eraill.

• Arolygon rhywogaethau – adar, gloÿnnod byw, ystlumod, infertebratau saprosylig, ymlusgiaid, llygod y cynhaeaf. Mae'r rhain wedi'u cynnal i ddangos lle mae newid defnydd tir a ffermio sy'n ystyriol o natur eisoes yn cael effaith ac yn llesol i rywogaethau. Mae'r arolygon hefyd yn dangos lle mae potensial i ehangu arfer da ar ffermydd unigol i amddiffyn poblogaethau rhywogaethau presennol.

Uchafbwyntiau'r arolwg

• Adar y gaeaf - Haid o 65 o gornchwiglod, pibyddion gwyrdd a gïachod cyffredin mewn ychydig o leoliadau a chyffylogod

• Adar sy'n defnyddio coridor yr afon: Hwyaid yr eithin, hwyaid danheddog, glas y dorlan a mulfrain

• Rhywogaethau adar ar y rhestr goch, petris, yn bridio ar yr ystad. Ar un adeg roedd yn gyffredin mewn tir fferm isel, fel Attingham, ond mae wedi gweld gostyngiadau dramatig yn ei boblogaeth (92% dros y 60 mlynedd diwethaf).

• Gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf ynghyd â dulliau mwy traddodiadol, roedden yn gallu cadarnhau bod Attingham yn gartref i ystlumod du. Ychydig iawn o safleoedd bridio sy'n hysbys yn y DU ar hyn o bryd ac mae’n well ganddynt dirweddau bugeiliol gyda choetir collddail, dolydd gwlyb a chyrff dŵr felly dylai'r gwaith rydym yn bwriadu ei gyflawni drwy'r prosiect fod o fudd uniongyrchol i'r rhywogaeth hon.

Hyfywedd, arolygu a dylunio atebion ar sail natur

Yn dilyn Adroddiad Arfarnu Cyfleoedd a gynhyrchwyd gan Arup yn 2023, mae tîm prosiect Arddangos Attingham wedi bod yn cynnal archwiliadau dichonoldeb, arolygu a gwirio argymhellion yr adroddiad ar gyfer atebion ychwanegol ar sail natur. Mae'r gweithgareddau canlynol wedi'u cwblhau gan ddefnyddio cyfuniad o staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gwirfoddolwyr ac ymgynghorwyr allanol.

• Perthi - Arolygu cyflwr perthi i nodi ble mae angen plannu rhai newydd i lenwi bylchau.

• Rhwystrau malurion prennaidd sy'n gollwng - Mae gwaith dylunio wedi'i gwblhau ar leoliadau posibl ar gyfer gosod rhwystrau prennaidd mewn ffosydd ac mae Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin wedi'i sicrhau gan Gyngor Swydd Amwythig.

•Pyllau - Arolygon pyllau i asesu addasrwydd cynefinoedd a chasglu samplau eDNA ar gyfer y fadfall ddŵr gribog, helpodd hyn i ddenu cyllid ychwanegol drwy Ymddiriedolaeth Natur Swydd Amwythig.

•Gwaith dichonoldeb a dylunio creu gwlyptiroedd –gallai chwe lleoliad ar draws yr Ystad gael cyfleoedd i greu/adfer cynefin gwlyptiroedd neu eniau, ailigam-ogamu sianeli/ osydd, creu crafiadau neu adfer hydroleg tir parc.

•Adolygiad o Gynllun Rheoli Cadwraeth Parc

A ingham - Bydd hyn yn llywio sut mae Tir Parc Cofrestredig A ingham yn cael ei reoli yng ngoleuni aeddfedrwydd y dirwedd a heriau amgylcheddol, megis newid hinsawdd a disbyddu natur.

•Creu coetir - Mae cynllun ar gyfer creu coetir 28ha yn Ffermydd Uckington a Wheathill wedi'i lywio gan arolwg geo segol a gynhaliwyd ar draws Ystad

A ingham i nodi lleoliadau sensitifrwydd uchel, canolig ac isel ar gyfer plannu coed. Ffactorau eraill a ystyriwyd wrth leoli'r cynllun plannu arfaethedig oedd buddiannau bioamrywiaeth presennol, cyfleustodau fel llinellau pŵer a datblygiadau arfaethedig. Bydd y coetiroedd hyn yn atafaelu carbon, yn gwella iechyd pridd a threiddiad (gan leihau dŵr o), yn cynhyrchu cynefinoedd newydd rhagorol ar gyfer bywyd gwyllt, ac yn darparu lloches i bobl gysylltu â natur a threulio amser yn yr awyr agored gyda'r manteision iechyd a llesiant cyfatebol a fydd yn eu cyflawni.

Perthi, pyllau a rhwystrau sy'n gollwng

Ar ôl cryn ymdrech i gynllunio a sicrhau caniatâd, mae nifer y nodweddion newydd yn cynyddu'n gyson. Y gaeaf diwethaf 2024-25, plannodd y tîm prosiect gyda gwirfoddolwyr 68m o berthi ar erm Lower Be on. Y gaeaf hwn bydd gwaith yn dechrau ar draws yr Ystad ar fwy o berthi, adfer pyllau a gosod rhwystrau prennaidd mawr i arafu llif yn y nifer o osydd a nentydd bach ar draws daliad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Cysylltu â natur

Os ydym yn awyddus i'n gwaith yn A ingham fod yn gynaliadwy, mae angen i ni gynnwys mwy o bobl yn y gwaith o ofalu am a diogelu'r dirwedd a'r holl natur sy'n ei galw'n gartref.

•Recriwtio ac ymgysylltu â gwirfoddolwyrRecriwtiwyd a hy orddwyd 29 o wirfoddolwyr gweithredol, a chrëwyd rolau gwirfoddol newydd i ddenu ystod ehangach o bobl er mwyn helpu gydag arolygon bywyd gwyllt, profion ansawdd dŵr, arolygon a phlannu perthi ac arolygon afonydd. Mae'r gwirfoddolwyr hyn wedi rhoi yn hael bron i 400 awr o amser gwerthfawr mewn ychydig dros flwyddyn i gefnogi'r prosiect.

Gwersi a ddysgwyd – heriau a llwyddiannau

Ers i'r prosiect ddechrau, mae tîm yr Ymddiriedolaeth

Genedlaethol wedi gweithio'n galed iawn i gwblhau eu gwaith cynllunio, arolygu cynnar a dylunio fel y gallant fwrw ymlaen â gwaith ymarferol gwirioneddol. Nid yn unig y gofynnwyd i'r prosiect greu nifer o nodweddion newydd yn y dirwedd ond hefyd i ddarganfod pa mor hawdd, neu efallai pa mor anodd, yw gweithio drwy bethau fel y broses drwyddedu. Mae'r tîm wedi bod yn cofnodi ac yn nodi'r heriau o wneud y gwaith fel y gallant drosglwyddo eu dysgu drwy Gynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren a hwyluso'r ffordd i eraill. Ceir isod rywfaint o'r dysgu hyd yma:

• Mae'r prosiect wedi rhoi cyfle anhygoel i feithrin gallu staff a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrth gyflawni gwaith adfer natur.

• Mae angen i gynnal a rheoli Atebion ar Sail Natur gael ei ategu gan amgylchedd rheoleiddio ac ariannol sefydlog sy'n rhoi cymhellion, ac yn galluogi tirfeddianwyr a thenantiaid i sicrhau hyfywedd hirdymor newid defnydd tir ac ymyriadau rheoli llifogydd yn naturiol. Ar hyn o bryd mae ansicrwydd sylweddol ynghylch cynlluniau ariannu amaethamgylcheddol a diffyg aliniad rhyngddynt.

• Mae'r rhan fwyaf o'r fframwaith cyfreithiol/ rheoleiddiol sy'n llywodraethu'r broses gydsynio yn rhy gymhleth a phrin iawn oedd y ddealltwriaeth ohoni ar gyfer y mathau o ymyriadau a gynigir i gyflawni atebion ar sail natur. Mae hyn yn ychwanegu oedi, costau ac adnoddau ychwanegol ar gyfer cyflawni prosiectau y tu hwnt i reolaeth yr ymgeisydd, ac wrth wneud hynny nid yw'n cyflawni'r gwerth gorau am arian i gyllidwyr.

• Mae bod yn rhan o ystâd gyda hanner miliwn o ymwelwyr yn cynnig cyfle gwych i gynnwys nifer mawr o bobl mewn gwaith adfer natur a meithrin cysylltiad pobl â natur. Fodd bynnag, mae hefyd yn golygu bod yn rhaid i'r cyfathrebu ac ymgysylltu ynghylch adfer natur gyd-fynd â rhaglen gweithgareddau bresennol sy'n cwmpasu holl agweddau eraill Parc Attingham. Yn yr un modd, rydym wedi dioddef oherwydd ein llwyddiant ein hunain gyda'r prosiect yn denu sylw sylweddol yn fewnol ac yn allanol e.e. Cyfleoedd ffilmio / i'r wasg, ymweliadau â safleoedd sy'n wych ar gyfer rhoi proffil uchel i'r prosiect a chael cefnogaeth. Fodd bynnag, gall fod yn drwm ar adnoddau ac yn cymryd llawer o amser i staff y prosiect eu darparu.

• Drwy’r rhwydwaith o brosiectau Arddangos, bu’n bosibl i’r tîm rannu gwybodaeth a phrofiad o wahanol agweddau ar ymyriadau rheoli llifogydd yn naturiol, darganfod gwahanol ffyrdd o ddatrys problemau a chael mynediad at gontractwyr dibynadwy.

• Yn yr achosion lle mae tenantiaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn cytundebau tenantiaeth sy'n dod o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 a lle nad yw'r tenant yn dueddol o weithredu Atebion ar Sail Natur / ffermio sy'n ystyriol o natur, mae opsiynau cyfyngedig ar gael i berchennog y tir i negodi newid i'r sefyllfa hon. Mae tîm y prosiect yn treulio amser i ddeall ble gallai hyn adael y ddwy ochr wrth i ni wynebu amodau hinsoddol, economaidd ac ecolegol heriol yn y blynyddoedd i ddod.

• Cyfyngiadau a chyfleoedd - Mae amrywiol gyfyngiadau'n bodoli sy'n cyfyngu ar y cyfnod o amser i ymgymryd â chyflawniadau cyfalaf, er enghraifft, osgoi tymhorau pan fydd bywyd gwyllt sensitif yn bridio. Pan fyddwch yn cyfuno hyn ag amodau tywydd anrhagweladwy ac amrywiol iawn, mae'n cyfyngu'n sylweddol y cyfnod ar gyfer ymgymryd â gwaith ar amser teg. Mae tîm y prosiect yn ymchwilio i'r ffordd orau o raglennu ystod eang o waith buddiol yn y ffordd orau bosibl.

Canolfan Byw gyda Newid Hinsawdd (CLiCC)

Prosiect Arddangos

Cyflwyniad

Mae ein patrymau tywydd yn newid, mae cyfnodau llifogydd a sychder yn cynyddu o ran difrifoldeb ac yn mynd yn fwy eithafol. Nid digwyddiadau untro yw'r rhain ond tuedd hinsoddol o newid y mae angen i ni addasu a pharatoi ar ei chyfer. Er mwyn ein helpu i ymdopi â thywydd mwy amrywiol, mae angen arnom bobl sy’n meddu ar sgiliau a gwybodaeth i amddiffyn a gofalu am ein cymunedau yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd, meithrin adnoddau dŵr a chefnogi twf yn ein rhanbarth. Mae'r Prosiect Arddangos y Ganolfan Byw gyda Newid Hinsawdd neu CLiCC dan arweiniad Prifysgol Caer yn awyddus i'n helpu i ddeall pa fathau o arbenigedd a chreu swyddi sydd eu hangen i gadw i fyny â newid hinsawdd yn rhan uchaf Hafren.

Bydd tîm ymchwil CLiCC yn helpu Partneriaeth y Gororau Ymlaen, sef cydweithrediad rhwng Cyngor Powys, Cyngor Swydd Amwythig, Cyngor Swydd Henffordd a Chyngor Sir Fynwy i gynhyrchu twf cyflogaeth a sgiliau rhanbarthol yn rhanbarth trawsffiniol y Gororau.

Nod prosiect Arddangos CLiCC yw gwella dulliau rheoli dŵr ym Masn Afon Hafren drwy ddarparu adnoddau sgiliau a gynlluniwyd ar y cyd gan y gymuned a nodi anghenion cyflogaeth, a thrwy hynny ddod â phobl ynghyd i fynd i'r afael â heriau rheoli dŵr a newid hinsawdd. Mae'n gofyn yn bwysig beth yw nodweddion y bwlch sgiliau rheoli adnoddau dŵr, a pha gapasiti ac adnoddau sydd angen eu datblygu yn yr ardal? Bydd tîm y prosiect hefyd yn darganfod a yw adnoddau presennol fel canolfannau arloesi yn ddigonol i ddiwallu anghenion y dyfodol neu a allai adnoddau rhithwir helpu.

Mae hon yn dasg gymhleth gyda llawer o gamau bach, ac yn bwysig iawn, mae pob un o'r camau hyn wedi'u cynllunio gan bobl Powys a Swydd Amwythig, gan ddefnyddio Ymchwil Gweithredu Cyfranogol (PAR).

Mae PAR yn ddull ymchwil cydweithredol sy'n cynnwys cyfranogwyr yn weithredol yn y broses ymchwil i fynd i'r afael â materion cymdeithasol a chreu newid cadarnhaol, drwy weithredu. Nid yw'n trosglwyddo gwybodaeth ac ymchwil i 'arbenigwyr' academaidd. Mae pob cam yn arwain at ganlyniad cadarnhaol, ymarferol y gellir ei adolygu. Gall y broblem sy'n cael ei datrys esblygu wrth i atebion ymddangos, gan arwain at brosiect addasadwy a gwydn.

Sgiliau: Cyhoeddwyd yn ddiweddar y bydd y sector dŵr yn recriwtio 50,000 o bobl erbyn 2030, gyda gweinidogion yn llofnodi'r Addewid Sgiliau Dŵr i sicrhau cymorth i weithwyr. Mae hyn yn cynnwys recriwtio 5,000 o brentisiaid dros y pum mlynedd nesaf a lansio Gwobr Ymchwil Watershot flynyddol newydd gwerth £25,000. Mae'r mentrau hyn yn nodi blaenoriaeth bwysig i'r sector, yn enwedig gan fod Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau (UKCES, 2016) wedi nodi bod mwy na thraean o swyddi gwag yn y diwylliant dŵr a diwydiannau cysylltiedig rhwng 2011 a 2015 oherwydd prinder sgiliau. Honnodd Svilpa (2022) hefyd y bydd angen 63,000 o gyflogeion newydd dros y 5 mlynedd nesaf, er bod llawer o adroddiadau'n ddiffygiol o ran data ategol y gellir ei wirio.

Mae rheoli adnoddau dŵr yn absennol o gynlluniau sgiliau lleol yng Nghanolbarth Cymru a rhanbarth y Gororau. Mae'r llenyddiaeth yn dangos dirywiad mewn rhaglenni MSc hydroddaeareg, gydag ymwybyddiaeth isel gyffredinol mewn ysgolion a cholegau yn cael ei hawgrymu fel rheswm dros y nifer isel o fyfyrwyr. Mae hyn yn rhedeg ochr yn ochr â llwybrau amgen cyfyngedig i yrfaoedd adnoddau dŵr, yn enwedig ar lefelau mynediad/ galwedigaethol. Mae cystadleuaeth â sectorau “gwyrdd” eraill fel ynni adnewyddadwy a thechnoleg amaethyddol am dalent yn cael ei rhoi fel un o’r problemau recriwtio sy’n wynebu peirianneg. Mae yna arwyddion hefyd bod pobl ifanc yn gadael ardaloedd gwledig oherwydd amlygrwydd swyddi cyfyngedig a heriau economaidd-gymdeithasol (e.e. tai). Er bod yr heriau hyn yn sicr yn dod i'r amlwg, mae canlyniadau cychwynnol o'r cyfweliadau'n awgrymu y gallai'r dirwedd sgiliau a recriwtio WRM fod yn fwy cynnil nag y mae'r llenyddiaeth yn ei awgrymu a'r heriau'n fwy cymhleth.

O'r llenyddiaeth, gweithdai a chyfweliadau, nodwyd a chrynhowyd grwpiau gyrfa er mwyn rhoi trosolwg o'r sector. Y grwpiau gyrfa a nodwyd yw rheoleiddio a pholisi, peirianneg a thechnegol, gwyddonol a dadansoddol, cyfathrebu a rheoli.

Hyd yma, mae data ansoddol wedi'i gasglu drwy weithdai a chyfweliadau lled-strwythuredig gan ddilyn gweithdrefnau ymchwil safonol i archwilio nodweddion y bwlch sgiliau rheoli dŵr.

• Gweithdai: Cynhaliwyd 5 gweithdy drwy Teams neu wyneb yn wyneb

• Cyfweliadau Lled-Strwythuredig: 18 cyfweliad un-iun, yn para hyd at awr.

Mae cam cyntaf y prosiect wedi caniatáu i'r tîm nodi grwpiau sgiliau a rhai o'r llwybrau swyddi sy'n berthnasol i’r gallu i wrthsefyll newid hinsawdd yn nyfodol Hafren uchaf.

Gofod Arloesi: Wrth ddylunio gofod arloesi, mae'n bwysig deall sut y gallant fod o fudd i ni a chynnal adolygiad llenyddiaeth i adeiladu dealltwriaeth sylfaenol. Nododd ymchwil diweddar dair amod ar gyfer datblygu gwledig cynaliadwy i fynd i'r afael â'r dirywiad;

1. datblygu gweithgareddau economaidd newydd

2. entrepreneuriaeth leol a all sefydlu ac ehangu'r gweithgareddau newydd hyn; a 3) cyfalaf cymdeithasol a all gefnogi entrepreneuriaeth mewn gweithgareddau newydd gan ddefnyddio'r rhwydweithiau cymdeithasol a ddarperir [Li et al 2019]. Mae'r pethau hyn i gyd yn cael eu cefnogi gan fannau arloesi a gallant helpu ardaloedd gwledig nid yn unig i oroesi ond i ffynnu.

Mae mannau arloesi yn darparu llwyfan strwythuredig ar gyfer meithrin y cydweithrediadau hyn rhwng grwpiau rhanddeiliaid. Er enghraifft, mae'r model Helics Pedwarplyg (QH) sy'n integreiddio llywodraeth, diwydiant, y byd academaidd, a chymdeithas sifil wedi'i ddefnyddio'n effeithiol i ddylunio atebion wedi'u teilwra i heriau gwledig fel technoleg amaethyddol neu fynediad at wasanaethau iechyd.

Er nad oes un "model" ar gyfer datblygu gwledig cynaliadwy, mae gwaith mannau, polisïau a mentrau arloesi angen cefnogaeth ac ymgysylltiad cymunedol.

Canfyddiadau interim

Mae ymchwil sgiliau CLiCC hyd yma yn dangos bod yr her wirioneddol i'r sector yn gorwedd llai mewn niferoedd recriwtio a mwy yn yr angen am sgiliau trawsddisgyblaethol a llwybrau lefel mynediad clir i yrfaoedd rheoli adnoddau dŵr. Gall arloesi gefnogi'r bwlch hwn drwy godi ymwybyddiaeth a hwyluso sgwrs ynghylch y sgiliau sydd eu hangen, ond dim ond os yw hyn yn cael ei gefnogi gan bobl leol. Drwy Ymchwil Gweithredu Cyfranogol, gall CLiCC helpu i droi petruster cymunedol ynghylch cysyniadau fel Arloesi yn gyfranogiad gweithredol, gan sicrhau ei fod yn cael ei ddeall ac yn gyfnewid yn deall y bobl leol.

Gyda'i gilydd, mae'r llinynnau gwaith hyn yn creu'r amodau i Bowys a Swydd Amwythig ddenu, datblygu a chadw'r dalent a'r gymuned sydd eu hangen ar gyfer gwydnwch gwledig hirdymor. Wrth wneud hynny, mae gan CLiCC y potensial i weithredu fel angor ar gyfer twf cynhwysol, gan ddarparu manteision sydd yn ymarferol ac yn seiliedig ar anghenion y gymuned. Er bod mwy o amcanion yn parhau, mae'r rownd gyntaf o ymchwil sgiliau wedi bod yn llwyddiannus, ac er bod arloesi’n symud ymlaen yn arafach, bydd y canlyniad yn cyfiawnhau'r buddsoddiad mewn pobl a lleoedd.

Bydd tîm CLiCC yn cynhyrchu cyfres o astudiaethau achos a nodiadau technegol er mwyn helpu i lywio Strategaeth Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren.

Geo-ofodol

Prosiect Arddangos

Cyflwyniad

Dechreuodd y Prosiect Arddangoswr Geo-ofodol yng Ngwanwyn 2025. Dan arweiniad Prifysgol Caer mewn cydweithrediad â Wolf Logic a Phartneriaeth Hafren, a chyda rheolaeth prosiect gweithredol gan Gyngor Swydd Amwythig ac wedi'i lywio gan reolwyr rhaglen yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Nod y prosiect Arddangos Geo-ofodol yw gwella ein dealltwriaeth o botensial ac e aith dulliau rheoli llifogydd naturiol o fewn is-ddalgylch Nant Habberley yn Swydd Amwythig, a datblygu methodolegau a fydd yn caniatáu i'r gwaith hwn gael ei gyflwyno ar raddfa ehangach. I gyflawni hyn bydd y prosiect yn:

•Datblygu methodoleg ar gyfer nodi lleoliadau Rheoli Llifogydd yn Naturiol [NFM] gorau posibl gan ddefnyddio data geo-ofodol eglur iawn.

•Mesur e aith ymyriadau Rheoli Llifogydd yn Naturiol a gynlluniwyd ar lif a storio dŵr wyneb.

•Cyd-ddylunio ap symudol dan arweiniad rhanddeiliaid ar gyfer rhannu data a mewnwelediadau.

•Mae tîm y prosiect wedi bod yn gweithio gyda thirfeddianwyr ac ochr yn ochr â thîm Arddangos

Nant Rea [Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren] i ganolbwyntio ymdrechion ar ardaloedd lle gwyddys bod ymyriadau Rheoli Llifogydd yn Naturiol wedi'u cynllunio. Mae Partneriaeth Hafren wedi cwblhau sgan laser 3D llawn o ardal ocws sy’n cwmpasu tua 37 hectar, lle mae cyfres o ymyriadau i'w gweithredu. Gosodwyd synwyryddion lefel dŵr a glawiad amser real ers mis Medi 2025.

Trosolwg o sgan laser manwl a gynhaliwyd gan Bartneriaeth Hafren

Dadansoddi Data

Ar ôl casglu data, cynhelir dadansoddiad geo-ofodol i fapio'r potensial ar gyfer mwy o ymyriadau rheoli llifogydd yn naturiol yn seiliedig ar nodweddion tirwedd sy'n deillio o sganio laser a delweddau lloeren, tra bydd dadansoddiad meintiol a modelu yn cael eu cynnal i werthuso effeithiau mesurau Rheoli Llifogydd yn Naturiol a weithredwyd yn yr ardal. Bydd hyn yn cael ei arwain gan Dr Andrew Miles o Brifysgol Caer.

I ddechrau, mae'r data sganio laser wedi'i drawsnewid yn fodelau tir digidol ac arwyneb digidol 0.1 m, 100 gwaith yn fwy manwl na'r LIDAR cydraniad 1 m sydd ar gael ar hyn o bryd drwy'r asiantaeth amgylchedd ac yn darparu llawer mwy o fanylion o dan y canopi a'r llystyfiant. Mae'r cynnydd cantplyg hwn mewn atebion yn caniatáu inni symud y tu hwnt i fapio sianeli mawr i nodi llwybrau llif arwyneb cynnil ond hanfodol, ffosydd a micro-dopograffeg sy'n gwbl anweledig mewn setiau data presennol. Dyma'r allwedd i ddatgloi dealltwriaeth wirioneddol o ble bydd ymyriadau bach yn cael yr effaith fwyaf.

Mae'r dull hwn yn caniatáu gwaith mapio manwl o lwybrau llif arwyneb ac mae dadansoddiad cychwynnol wedi defnyddio hyn i fodelu lleoliadau storio posibl y gellid eu creu drwy weithredu argaeau neu fyndiau sy'n gollwng.

Bydd dadansoddiad yn y dyfodol yn ystyried ystod llawer ehangach o ymyriadau Rheoli Llifogydd yn Naturiol, megis plannu perthi ar draws llethrau, ailgysylltu gorlifdiroedd, gwelliannau rheoli pridd (e.e., lleihau cywasgiad), a blocio rhigolau.

Bydd defnyddio delweddau lloeren eglur iawn (3m) ar adegau mynych yn rhoi dealltwriaeth o batrymau gwlybaniaeth arwyneb ac iechyd llystyfiant, a all gyfrannu ymhellach at nodi safleoedd sy'n addas ar gyfer mesurau Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn ogystal â mesurau ehangach o gyfalaf naturiol.

Bydd gosod y synwyryddion yn y fan a'r lle yn rhoi dealltwriaeth fanwl iawn i ni o sut mae'r dalgylch yn ymateb i stormydd a digwyddiadau glaw eraill. Prif rôl y synwyryddion fydd darparu data hanfodol o'r byd go iawn ar gyfer calibradu a dilysu'r dadansoddiad hydrolegol a ddatblygwyd o'r sganiau laser eglur iawn.

Bydd unrhyw ddigwyddiadau glaw a gofnodir yn ystod y cyfnod cyn-ymyrraeth byr hwn yn caniatáu i'r tîm ddilysu'r dadansoddiad hwn, gan sicrhau eu bod yn adlewyrchu ymateb gwirioneddol y dalgylch yn gywir. Ar ôl rhoi'r mesurau Rheoli Llifogydd yn Naturiol ar waith, bydd y dadansoddiad yn cymharu'r data newydd a welwyd o'r synwyryddion yn erbyn y senario cyn yr ymyrraeth. Mae'r dull dadansoddol cadarn hwn yn caniatáu i ni barhau i fesur effaith yr ymyriadau—megis gostyngiad mewn uchafbwyntiau llifogydd neu oedi yn llif y dŵr—a darparu tystiolaeth bendant o berfformiad Rheoli Llifogydd yn Naturiol. Bydd y mewnwelediadau hyn yn hanfodol i'w rhannu â thirfeddianwyr a rhanddeiliaid drwy'r ap sy'n cael ei ddatblygu gan Wolf Logic.

Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Datblygu Apiau Ochr yn ochr ag elfen ddadansoddol y prosiect, bydd yr prosiect arddangos hefyd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol i ddeall eu hanghenion a'u dyheadau o ran deall cyfleoedd Rheoli llifogydd yn Naturiol ac ymateb i ddalgylchoedd. Bydd yr elfen hon o'r prosiect yn cael ei harwain gan yr Athro Cyswllt Namrata BhattacharyaMis o Brifysgol Caer. Mae unrhyw set ddata ond mor ddefnyddiol ag y caiff ei ddefnyddio, felly drwy ddeall anghenion gwahanol randdeiliaid gellir sicrhau bod y data yn cael ei hidlo a'i ganolbwyntio ar lefel briodol i ddarparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar ffurf sy'n hawdd ei deall. Gall hyn gynnwys cipolwg ar gyfleoedd posibl i dirfeddianwyr ar gyfer rheoli llifogydd a rhybudd ymlaen llaw am risgiau llifogydd posibl i breswylwyr lleol, yn ogystal â'r cyfle i wyddonwyr dinasyddion gyfrannu data ac arsylwadau ychwanegol at y prosiect.

Byddwn yn cysylltu â'r gymuned drwy gyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus a grwpiau ffocws. Mae'r mewnwelediadau a gynhyrchir o'r ymchwil rhanddeiliaid hwn yn hanfodol, gan y byddant yn llywio dadansoddiad data'r prosiect a datblygiad yr ap gan Wolf Logic yn uniongyrchol. Mae hyn yn sicrhau bod y cynnyrch terfynol yn borth defnyddiol sydd wedi'i dargedu'n benodol at anghenion ei ddefnyddwyr.

Mae'r ap ei hun wedi'i gynllunio i fod yn ganolfan hawdd ei defnyddio, a bydd yn cynnwys Mapiau Rheoli Llifogydd yn Naturiol rhyngweithiol, yn dangos allbynnau ein dadansoddiad data, gan dynnu sylw at gyfleoedd posibl ar gyfer ymyriadau Rheoli Llifogydd yn Naturiol. Data dalgylch byw, gan arddangos gwybodaeth amser real o synwyryddion ar lefelau afonydd a glawiad i roi rhybudd ymlaen llaw am risgiau llifogydd posibl a chyfraniadau cymunedol, gan greu cyfleoedd i wyddonwyr dinasyddion a grwpiau lleol gyfrannu eu data a'u harsylwadau gwerthfawr eu hunain drwy lanlwythiadau a chyflwyno ffurflenni.

E eithiau Hirdymor a’u Cyflwyno ar Raddfa Fwy

Nod prosiect hwn yw cyflawni canlyniadau uniongyrchol, pendant ar gyfer dalgylch Nant Habberley a ramwaith parhaol y gellir ei ehangu i'w gyflwyno ar raddfa fwy.

Prif Gyflawniadau'r Prosiect

Erbyn diwedd y prosiect, bydd yn cynhyrchu cyfres o allbynnau gwerthfawr:

•"Gefell Ddigidol" Eglur Iawn: Set ddata sylfaenol ar gyfer yr ardal ocws 37 hectar, gan gynnwys y Modelau Tirwedd ac Arwyneb Digidol cydraniad 0.1m, sydd 100 gwaith yn fanylnach na data LIDAR presennol.

•Gwell dealltwriaeth hydrolegol: Gwerthusiad manwl o e aith bosibl ymyriadau Rheoli Llifogydd yn Naturiol.

•Mapiau Cyfleoedd Rheoli Llifogydd yn Naturiol

Cynhyrchion geo-ofodol sy'n nodi'n glir y lleoliadau mwyaf addawol ar gyfer gwaith Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn y dyfodol yn seiliedig ar y dadansoddiad tirwedd manwl.

•Ap Ymgysylltu â Rhanddeiliaid: Ap symudol hawdd ei ddefnyddio, wedi'i gyd-ddatblygu â rhanddeiliaid lleol ac wedi'i adeiladu gan Wolf Logic, sy'n cael ei gynllunio ar gyfer cynnal a chadw hirdymor, cost isel y tu hwnt i oes gychwynnol y prosiect.

E eithiau Hirdymor a’u Cyflwyno ar Raddfa Fwy

Gwir waddol y prosiect fydd ei gyfraniad at reoli dŵr cynaliadwy ar draws Dy ryn Hafren cyfan a thu hwnt:

•Glasbrint Methodolegol: Y prif ganlyniad hirdymor yw llif gwaith wedi'i brofi a'i fireinio. Bydd y glasbrint hwn yn darparu methodoleg glir i awdurdodau a grwpiau eraill gymhwyso'r un dadansoddiad eglur iawn i ddalgylchoedd eraill yn llawer cyflymach ac yn fwy coste eithiol.

•Buddsoddi ar Sail Tystiolaeth: Drwy fesur e aith mesurau Rheoli Llifogydd yn Naturiol, bydd y prosiect yn darparu'r dystiolaeth gadarn sydd ei hangen i gyfiawnhau buddsoddiad yn y dyfodol mewn cynlluniau rheoli llifogydd naturiol a gwella cyfalaf naturiol.

•Ymrwymiad Uwch gan Randdeiliaid: Bydd yr ap a'r broses ymgysylltu yn creu ordd newydd bwerus o gyfathrebu â thirfeddianwyr a phreswylwyr, gan ddangos iddynt fanteision pendant Rheoli Llifogydd yn Naturiol ar eu tir a helpu i feithrin ymddiriedaeth ac annog cyfranogiad yn y dyfodol.

Esbonio amlinelliad a nodau'r prosiect

Ffermio’r Dyfodol yn y Gororau

Prosiect Arddangos

Cyflwyniad

Mae Dyffryn Hafren Uchaf yn dirwedd wledig weithredol sy'n cynnal systemau ffermio hynod gynhyrchiol, cymunedau ffyniannus ac amgylchedd naturiol cyfoethog. Fodd bynnag, mae hefyd yn rhanbarth lle mae effeithiau newid hinsawdd yn gynyddol amlwg ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r dalgylch wedi profi digwyddiadau llifogydd mynych ac yna cyfnodau sych hir. I gymunedau ffermio, mae'r eithafion hyn yn arwain at ddifrod i gnydau, costau uwch ar gyfer porthiant a lloches, erydiad pridd, seilwaith wedi'i ddifrodi, ac amhariadau ar batrymau pori. I'r gymuned ehangach, maent yn cyflwyno mwy o risgiau o lifogydd, prinder dŵr, ansawdd dŵr is, a phwysau ar fioamrywiaeth.

Yn y cyfamser, mae ffermwyr yn addasu i newidiadau sylfaenol mewn polisi a marchnadoedd amaethyddol. Mae'r pwysau amgylcheddol hyn yn cyd-daro â newidiadau sylweddol mewn polisi a marchnadoedd ffermio, gan greu her ddwbl i fusnesau ffermio. Yma y mae diddordeb mewn dulliau Rheoli Llifogydd yn Naturiol (NFM) a chyllid gwyrdd yn tyfu, er bod ffermwyr yn parhau i fod yn ofalus. Mae blynyddoedd o brosiectau tymor byr, cyngor gwrthgyferbyniol, a chynlluniau “un ateb sy’n addas i bawb” wedi creu blinder a diffyg ymddiriedaeth. Mae llawer yn teimlo dan bwysau o bob ochr. Mae Prosiect Arddangos Ffermio’r Dyfodol yn y Gororau wedi'i gynllunio i ymateb i'r heriau hyn. Bydd yn dod â ffermwyr, cymunedau, ymchwilwyr a llunwyr polisi ynghyd i brofi sut y gall busnesau ffermio addasu i hinsawdd sy'n newid wrth barhau i weithredu'n gynaliadwy a diogelu'r amgylchedd.

Yr Hyn y Bydd yn Prosiect yn ei Wneud

Bydd y prosiect yn gweithredu fel arddangoswr byw (prawf) yn archwilio sut y gall busnesau ffermio yn Hafren Uchaf addasu a ffynnu. Nodau'r prosiect yw:

• Gweithio g yda ffermwyr – gan ddefnyddio eu profiadau yn y byd go iawn, eu heriau, a'u huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.

• Profi mesurau ymarferol – profi arferion rheoli pridd, dŵr a thir ar ffermydd gweithredol.

• Cynhyrchu tystiolaeth – mynd i’r afael â bylchau mewn gwybodaeth am wydnwch a rheoli llifogydd yn naturiol, a sut mae’r rhain yn ymwneud â busnesau ffermio a’r economi ffermio.

• Cysylltu cymunedau – cysylltu ffermwyr, cynghorwyr ac ymchwilwyr ledled Cymru a Lloegr.

• Edrych tua’r dyfodol – archwilio sut y gall polisïau sy’n dod i’r amlwg a marchnadoedd newydd gefnogi cymunedau gwledig a chydnerthedd (drwy blatfform amgylcheddol).

• Cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) – drwy gydweithio, integreiddio, cynnwys, y tymor hir ac atal. Bydd hefyd yn cefnogi manteision posibl ar draws ffiniau ac i lawr yr afon.

Partneriaid y Prosiect

Mae Prifysgol Caer yn arwain y prosiect mewn cydweithrediad â thîm cryf o bartneriaid:

• Hannah Fraser Consulting (Fforwm Dŵr Swydd Amwythig) – darparu arbenigedd hydroddaearegol ac arwain treialon ail-lenwi dŵr daear

• Faulkner and Mayne Sustainable Agriculture (Sarah Faulkner a Kate Mayne) – hwyluswyr profiadol grwpiau ffermwyr, gyda gwybodaeth helaeth am bolisi amaethyddol a systemau fferm ymarferol

• Grŵp Ffermwyr Maesmawr (Heather Mitchell) – grŵp clwstwr sefydledig arobryn yng Nghymru gyda hanes cryf o ran iechyd pridd, bioamrywiaeth a rheoli dŵr. Bydd yn sicrhau bod llais ffermio yng Nghymru yn cael ei glywed.

• Mae Richard Maryniak – o Aqualate Consulting yn arweinydd Profion a Threialon Defra, yn aelod o bwyllgor arweinyddiaeth Llwyfan Buddsoddi Amgylcheddol y Gororau ac yn Gadeirydd CaBA Hafren Uchaf. Mae hefyd yn ffermio fel rhan o deulu Ystad Aqualate, sydd wedi'i lleoli o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a thirwedd gadwraeth Ramsar.

Gweithgareddau Cynlluniedig

Bydd y prosiect yn cael ei gyflawni drwy nifer o feysydd gweithgaredd cydgysylltiedig.

• Mae'r prosiect yn cefnogi adeiladu capasiti ym Mhartneriaeth Dalgylch Hafren Uchaf a bydd yn gweithio gyda'r aelodau i greu canolfan ragweithiol i gefnogi cydweithio. Byddant hefyd yn cynnal ymarfer mapio â llaw i brosiectau byw a phrosiectau posibl yn Nalgylch Hafren Uchaf.

• Cydweithio â sefydliadau partner eraill i ddatblygu mecanwaith cyllid gwyrdd (Llwyfan Buddsoddi Amgylcheddol y Gororau)

• Bydd Fforwm Dŵr Swydd Amwythig yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau rhannu gwybodaeth i gefnogi'r gymuned ranbarthol o weithwyr proffesiynol rheoli dŵr, sef nid yn unig arbenigwyr sefydledig ond hefyd ymgeiswyr newydd ac ifanc i'r sector.

• Bydd y tîm yn gwrando ac yn cysylltu â ffermwyr, cynghorwyr, awdurdodau lleol a chymunedau i asesu sut y gellir llunio ymgysylltiad ffermwyr yng Nghynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren. Y nod yw dylanwadu ar sut mae cyllid yn y dyfodol yn cael ei drin a'i strwythuro. Hynny yw mewn ffordd sy'n diwallu anghenion ffermio yn ogystal â’r gallu i wrthsefyll llifogydd a sychder. Bydd y tîm yn asesu cynlluniau amgylcheddol fel y Fenter Ffermio Cynaliadwy yn Lloegr a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yng Nghymru i lywio strategaeth Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren sy'n dod i'r amlwg ynghylch eu haddasrwydd a'u haddasiad yn y dyfodol.

Amcanion – Ffermio’r Dyfodol yn y Gororau

Mae tîm y prosiect wedi mynd ati i ymchwilio, drafftio a chyhoeddi Adroddiad Ffermio’r Dyfodol yn y Gororaucyfrif manwl, trawsffiniol o amodau a chyfleoedd ffermio. Bydd yr adroddiad yn cynnwys y canlynol:

• Tystiolaeth gadarn ar sut mae arferion rheoli tir yn effeithio ar ddŵr a gwydnwch

• Astudiaethau achos dan arweiniad ffermwyr yn arddangos arferion cynaliadwy sy'n hinsawddddeallus

Mae'r tîm hefyd yn anelu at gefnogi twf rhwydweithiau cryfach o ffermwyr a chynghorwyr sy'n cydweithio ar draws ffiniau. Hefyd maent yn gobeithio nodi llwybrau ymarferol ychwanegol i ffermwyr gael mynediad at farchnadoedd amgylcheddol a chyllid gwyrdd ar delerau sy'n cefnogi eu busnesau.

Sicrhewch eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf drwy fynd i’n gwefan h ps://severnvalleywatermanagementscheme.commonplace.is/cy-GB

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Cynllun, gallwch gysylltu â ni yn SVWMS@environment-agency.gov.uk

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
11342_Demonstrator_Report Welsh 01-compressed by commonplace.is - Issuu