CANLLAW ADDYSG UWCH I
YMGEISWYR
MAE CYMHWYSTER LEFEL PRIFYSGOL O FEWN EICH GAFAEL
CROESO I COLEG GWENT Mae cymhwyster prifysgol o fewn eich gafael...ac nid oes rhaid talu’n ddrud. Mae ein hamrywiaeth cynyddol o gyrsiau Addysg Uwch yn golygu y gallwch astudio cyrsiau prifysgol ar ein holl gampysau.
yn y drws. Bydd astudio gyda ni yn rhoi’r fantais gystadleuol i chi gan fod y rhan fwyaf o’n cyrsiau AU yn cynnwys profiad gwaith. Felly, yn ogystal â gallu rhoi eich dysg ar waith yn y diwydiant perthnasol, mae’n edrych yn wych ar eich CV!
Yn Coleg Gwent rydym yn cydnabod bod addysg uwch yn fuddsoddiad cadarn yn eich dyfodol. P’un ai a hoffech ennill mantais yn y farchnad swyddi hynod gystadleuol, atgyfnerthu’ch rhagolygon am ddyrchafiad neu ddilyn cyfeiriad gyrfa hollol newydd hyd yn oed, gallwn eich helpu chi i gyflawni’ch dyheadau.
Mae’r broses ymgeisio yn bwysig, felly dylai’r llawlyfr hwn eich helpu chi i ddeall rhai o’r prosesau sydd o’ch blaen yn ogystal â pha wasanaethau, cymorth ac adnoddau y gallwch eu disgwyl unwaith y byddwch wedi ymrestru gyda ni.
Gallwch ddisgwyl addysgu o’r ansawdd orau gan ein darlithwyr arbenigol - mae gan y cwbl brofiad helaeth yn eu diwydiant, felly nid yn unig y byddwch yn dysgu gan y goreuon, gallant roi cyngor gwych i chi ar sut i ddechrau eich gyrfa hefyd. Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr yn chwilio am ymgeiswyr sydd â phrofiad gwaith perthnasol, ond yn aml mae’n anodd rhoi troed
Gobeithio y bydd hwn yn ddefnyddiol ac edrychwn ymlaen at eich cwrdd, siarad â chi ac ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych chi.
Guy Lacey Pennaeth
Ymgeisiwch Apply online ar-lein now nawr at www.coleggwent.ac.uk/he ar www.coleggwent.ac.uk/he
BETH NESAF? 1
Dechreuwch ar eich Taith i ennill cymhwyster lefel Prifysgol...
2 MYNYCHU DIGWYDDIAD AGORED COLEG GWENT Mynychwch un o’n digwyddiadau agored a chewch gwrdd â’n tîm arbenigol! P’un ai a hoffech drafod un o’n cyrsiau addysg uwch gyda’n tiwtoriaid profiadol, dysgu mwy am ariannu’ch cwrs neu, os hoffech edrych ar ein cyfleusterau a dysgu am fywyd coleg – cofrestrwch nawr ar gyfer un o’n digwyddiadau agored rhithiol neu ein digwyddiadau agored wyneb yn wyneb ar y campws!
PORI DRWY’R CYRSIAU AC YMGEISIO Yn dibynnu ar eich cwrs dewisol, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi wneud cais drwy UCAS, i’r brifysgol sy’n achredu’ch cwrs neu’n uniongyrchol i Coleg Gwent - cysylltwch â ni i gael gwybod beth sydd angen i chi ei wneud.
Cofrestrwch nawr ar gyfer un o’n digwyddiadau agored rhithiol neu ein digwyddiadau agored wyneb yn wyneb ar y campws! Ewch i’n gwefan i ddysgu mwy www.coleggwent.ac.uk/agored
4
3
CAEL A DERBYN CYNNIG
MYNYCHU CYFWELIAD
Cynnig diamod: mae eich lle wedi’i sicrhau ac nid yw’n dibynnu ar unrhyw amodau.
Mae’n bosibl y gofynnir i chi fynychu cyfweliad i drafod eich cais. Os gwnaethoch gais drwy UCAS, bydd eich UCAS Track yn cael ei ddiweddaru ag amodau eich cynnig. Os ydych wedi gwneud cais drwy’r Coleg, bydd meini prawf y cynnig yr un fath.*
Cynnig amodol: bydd angen i chi fodloni meini prawf penodol cyn y gallwch ymrestru. Cynnig newid cwrs: gall y cynnig yr ydych yn ei gael gan UCAS/ Coleg fod ar gyfer cwrs gwahanol i’r un y gwnaethoch gais amdano yn wreiddiol. Mae hyn yn golygu eich bod wedi cael cynnig cwrs arall oherwydd na allwn gynnig lle i chi yn eich dewis gwreiddiol.
5 YMGEISIO AM GYLLID MYFYRWYR
6 DIWRNOD CANLYNIADAU*
7
*(Rhaid i chi allu profi bod gennych y cymwysterau priodol sy’n amodol ar gyfer cael eich derbyn ar eich rhaglen. Mae gan y brifysgol/coleg yr hawl i dynnu cynnig o le yn ôl neu ganslo cofrestriad os na allwch brofi, pan ofynnir i chi wneud, fod gennych y cymwysterau priodol). *I’r rhai sy’n aros am ganlyniadau
studentrecruitment@coleggwent.ac.uk helo@coleggwent.ac.uk 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
YMRESTRU A DECHRAU AR EICH CWRS!
ASTUDIO YN COLEG GWENT RHESYMAU I ASTUDIO YN COLEG GWENT
Staff ymroddedig ac ysbrydoledig Mae gan ein darlithwyr ysbrydoledig wybodaeth gyfredol, ragorol yn eu pynciau a phrofiad helaeth o addysgu yn ogystal â phrofiad nodedig mewn diwydiant, felly nid yn unig ydych chi’n dysgu gan y goreuon, ond gallant roi cyngor da i chi ar sut i ddod o hyd i waith pan fyddwch yn graddio hefyd. Mae ein dosbarthiadau llai yn golygu y byddwch yn cael cymorth personol rhagorol gan staff darlithio a gan ein staff cymorth ymroddedig - ac mae ein campysau lleol yn gyfeillgar a chroesawgar.
Ennill profiad y Brifysgol Mae ein partneriaethau cryfion â Phrifysgol De Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerwrangon, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Pearson yn golygu y bydd gennych fynediad at yr holl adnoddau sydd eu hangen arnoch i lwyddo. Os byddwch yn cwblhau cwrs yn llwyddiannus a ddyfarnir gan un o’n prifysgolion partner, cewch dystysgrif gan y brifysgol a chewch eich gwahodd i seremoni raddio.
Rydym ni’n lleol Gallwch arbed arian ar deithio a llety ac ni fyddwch yn mynd i gost fel y byddech yn ei wneud wrth astudio oddi cartref. Yn ogystal, bydd gennych fwy o amser i’w dreulio gyda theulu, ffrindiau neu yn y gwaith.
Profiad yn y gweithle Fel rheol, mae ein cyrsiau yn cynnwys dysgu yn y gweithle yn ogystal ag yn y coleg, felly byddwch yn ennill sgiliau sy’n ymwneud â gyrfa a phrofiad mewn diwydiant penodol a dyna mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, felly cewch gyfle da i ddod o hyd i yrfa eich breuddwydion.
Er mwyn llwyddo Mae dros hanner ein myfyrwyr AU yn ychwanegu at eu gradd yn ein prifysgolion partner.
Ymgeisiwch Apply online ar-lein now nawr at www.coleggwent.ac.uk/he ar www.coleggwent.ac.uk/he
Nid oes rhaid talu’n ddrud Mae rhai o’n cyrsiau addysg uwch yn rhatach na’r rheiny mewn prifysgolion, felly gallech fod yn arbed £££.
Digonedd o Ddewis Mae ein hystod eang o bynciau ac opsiynau astudio yn golygu y gallwch astudio’n llawn amser neu’n rhan amser, i gyd-fynd â gwaith neu ymrwymiadau eraill. Mae ein cymwysterau Addysg Uwch yn broffesiynol berthnasol a allai rhoi’r fantais gystadleuol i chi, gan arwain at botensial cyflog uwch, cyfleoedd gwell a gyrfa fwy gwerth chweil.
CANOLBWYNTIO AR GYLLID Mae cwrs addysg uwch yn fuddsoddiad yn eich dyfodol ac er bod costau ynghlwm â dysgu, boed hynny’n amser yr ydych yn ei fuddsoddi neu eich ffioedd dysgu, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys am gymorth ariannol sy’n golygu y gallai gostio llai nag y credwch. Wrth astudio addysg uwch, bydd dau brif gost - ffioedd dysgu a’ch costau byw. Fodd bynnag, bydd cymorth ariannol ar gael drwy fenthyciadau (y bydd rhaid i chi eu haddalu) a grantiau/bwrsariaethau (nad oes rhaid i chi eu had-dalu).
Myfyrwyr Addysg Uwch Llawn Amser* Gall myfyrwyr sy’n astudio eu cwrs addysg uwch cyntaf, sydd fel arfer yn byw yng Nghymru, gael Benthyciad Ffi Dysgu o hyd at uchafswm o £9,250, nid yw hwn yn seiliedig ar incwm eich aelwyd. Yn ogystal â’r benthyciad hwn, gallwch gael cymorth cynhaliaeth hefyd
Myfyrwyr Addysg Uwch Rhan Amser* Gall myfyriwr sy’n astudio yng Nghymru wneud cais am fenthyciad ffioedd nad yw’n seiliedig ar brawf modd o hyd at £2,625 i dalu am eu ffioedd blynyddol. Mae angen i fyfyrwyr astudio ar ddwysedd o 25% o leiaf er mwyn bod yn gymwys. Gall myfyrwyr wneud cais am gymorth costau byw blynyddol o hyd at uchafswm o £5,111.25. Bydd swm y grant neu’r benthyciad a ddyfarnir i chi yn dibynnu ar y nifer o oriau y byddwch yn eu treulio yn astudio ac incwm eich aelwyd.
Ymgeisio am Gyllid Bydd angen i chi wneud cais am gyllid cyn dechrau ar eich cwrs; gorau po gyntaf y gwnewch hyn a chofiwch; bydd rhaid i chi ail-ymgeisio am gyllid ar gyfer pob blwyddyn academaidd. Mae’n bosibl y cewch gyllid ychwanegol os oes gennych oedolion neu blant sy’n dibynnu arnoch yn ariannol.
Mae manylion llawn yr holl gymorth ariannol a sut i wneud cais ar gael ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru:
www.studentfinancewales.co.uk a gwefan Cyllid Myfyrwyr Lloegr: *Ffigyrau a gwybodaeth yn gywir ar yr adeg argraffu a gallant newid. Gwiriwch wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru/Lloegr am y wybodaeth ddiweddaraf cyn i chi ymgeisio.
www.gov.co.uk/student-finance
studentrecruitment@coleggwent.ac.uk helo@coleggwent.ac.uk 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
5
ADDYSGU A DYSGU Yn Coleg Gwent, rydym yn ymroddedig i gyflwyno addysg ragorol, wedi’i chefnogi gan ymchwil i’ch cynorthwyo chi i gyrraedd eich llawn botensial. Mae ein cyrsiau wedi’u datblygu gan arbenigwyr pwnc yn cydweithio yn y coleg a’r sefydliadau partner, felly cewch y profiad dysgu gorau posibl.
Sut fyddwch chi’n dysgu Bydd y staff sydd ynghlwm â chyflwyno’ch rhaglen astudio yn tynnu ar eu profiad academaidd a galwedigaethol i’ch darparu â’r gweithgareddau addysgol mwyaf cyfredol ac ysbrydoledig. Yn ystod eich cwrs, byddwch yn profi ystod eang o wahanol fathau a dulliau addysgu a gweithgareddau dysgu. Mae’r rhain wedi’u dewis i hwyluso’r dull mwyaf effeithiol i gyflwyno cynnwys a deilliannau dysgu. Gweler isod enghreifftiau o’r rhain;
E-ddysgu a thechnoleg Bydd eich prif raglen yn cael ei chefnogi gan amgylchedd dysgu rhithwir a fydd yn darparu mynediad i adnoddau dysgu i gefnogi’ch cwrs, rhannu cyhoeddiadau, gwaith adolygu rhyngweithiol a phodlediadau, yn ogystal â dolenni defnyddiol at adnoddau a fydd yn cefnogi’ch rhaglen. Cewch fynediad hefyd at ystod eang o dechnolegau sy’n cefnogi’ch dysg, gan gynnwys byrddau gwynion rhyngweithiol, blogiau, wicis a phodlediadau. *Yn dibynnu ar y corff dilysu
Darlithoedd rhithiol ac wyneb yn wyneb Seminarau Gweithdai a gwaith grŵp Grwpiau astudio Darlithwyr gwadd ac Ymweliadau Addysgiadol Fforymau Trafod
Ein partneriaid cydweithredol:
Ymgeisiwch Apply online ar-lein now nawr at www.coleggwent.ac.uk/he ar www.coleggwent.ac.uk/he
PROFIAD GWAITH A CHYFLOGADWYEDD Mae Coleg Gwent yn sefydliad mentrus ac rydym yn ymdrechu i greu ystod o gyfleoedd ymarferol difyr a hwyliog i wella’ch sgiliau a chreu rhwydweithiau a chysylltiadau newydd. Gellir ymgymryd â phrofiad gwaith yn ystod y tymor, cyfnodau o wyliau neu fel blwyddyn allan yn ystod eich HND/Gradd Sylfaen/Gradd BSc, neu wedi hynny. Anogwn ein holl ddysgwyr i wneud peth brofiad gwaith yn ystod eu cwrs. P’un ai a ydych yn chwilio am wythnos, tymor, neu flwyddyn, mae digonedd o opsiynau i gyd-fynd â’ch anghenion.
Y Gymuned a Gwirfoddoli Mae nifer o resymau dros ymgymryd â gwaith gwirfoddol, gallwch wneud gwahaniaeth go iawn yn y gymuned drwy wirfoddoli gyda sefydliadau lleol a grwpiau cymunedol. Cewch brofiadau gwerthfawr, sy’n newid bywydau, yn ogystal â chynorthwyo eraill, a chael cipolwg ar faes gwaith neu brofiad ymarferol sy’n cefnogi’ch astudiaethau ymhellach.
Cyfuno Astudiaeth gyda Gwaith Mae nifer o gyfleoedd yng nghyffiniau’r coleg i chi gael swydd ran amser ochr yn ochr â’ch astudiaethau.
Gwobr Dug Caeredin Mae nifer o bobl ifanc yn credu bod cyflawni Gwobr Dug Caeredin yn newid eu bywydau. Antur hwyliog ac yn her enfawr, tair lefel Gwobr ddilyniadol (Efydd, Arian ac Aur) ac ystod eang o weithgareddau sy’n cynnig posibilrwydd diddiwedd i unrhyw un sydd rhwng 14 a 24 oed. Mae miliynau o bobl ifanc yn y DU eisoes wedi cymryd rhan yng ngwobr cyflawniad ieuenctid blaenllaw y byd - yn gwthio ffiniau personol, ennill sgiliau newydd a chyfoethogi eu CVs a’u rhagolygon am waith.
studentrecruitment@coleggwent.ac.uk helo@coleggwent.ac.uk 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
7
BYWYD MYFYRIWR A CHYFOETHOGI Mae mwy i fywyd myfyriwr na’r hyn a ddysgwch yn yr ystafell ddosbarth. Cewch lawer o gyfleoedd i wneud ffrindiau newydd, datblygu’ch sgiliau bywyd ymhellach, dod yn fwy annibynnol ac ennill cymwysterau a phrofiad i wella’ch cyflogadwyedd. Mae ein rhaglen gyfoethogi, CG Extra, yn rhoi cyfle i chi ddysgu rhywbeth newydd neu ennill rhagor o gymwysterau yn ystod eich cyfnod gyda ni.
Clybiau a Chymdeithasau
Chwaraeon a Ffitrwydd
Gwobrau myfyrwyr
Cymerwch ran mewn clybiau a chymdeithasau lle gallwch gwrdd â ffrindiau newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau gydag eraill sy’n rhannu’r un diddordebau. Gallwch ymuno â’n clybiau drama a cherddoriaeth hyd yn oed, a chymryd eich lle ar ganol y llwyfan!
Mae naill ai campfa ar Gampysau ein Coleg, neu gysylltiadau cryfion â champfeydd lleol, felly dewch i gadw’n heini yn ein gweithgareddau chwaraeon a ffitrwydd wythnosol, ac efallai cewch gyfle i gynrychioli’r coleg yn un o’n timau chwaraeon.
Bob blwyddyn, byddwn yn dathlu llwyddiant myfyrwyr yn ein seremonïau gwobrwyo. A hwythau yr un mor gofiadwy ag ydynt am godi’ch calon, mae’r gwobrau yn cydnabod gwaith caled a chyflawniadau myfyrwyr sy’n sefyll allan ac wedi mynd y filltir ychwanegol i gyrraedd eu nodau. Bydd seremonïau graddedigion yn cael eu cynnal gan ein prifysgolion partner dyfarnu.
Mae gofalu am anifeiliaid wastad wedi bod yn bwysig i mi, felly roedd y cwrs hwn yn berffaith i mi. Ers graddio rwyf wedi dechrau fy musnes fy hun fel Nyrs Filfeddygol locwm yn ymweld â phractisau yn ôl yr angen.
ERIN WYATT Nyrsio Milfeddygol ar Gampws Brynbuga Coleg Gwent Seremoni graddio wedi ddilysu gan y darparwr cwrs, Prifysgol De Cymru
*Llun wedi darparu gan Prifysgol De Cymru
Ymgeisiwch Apply online ar-lein now nawr at www.coleggwent.ac.uk/he ar www.coleggwent.ac.uk/he
CYDRADDOLDEB AC AMRYWIAETH Yn Coleg Gwent, mae ein gwerthoedd craidd yn hyrwyddo parch a goddefgarwch tuag at bawb. Rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ein coleg yn fan lle mae pawb, yn staff neu ddysgwyr, yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu parchu. Dylem ni i gyd ddisgwyl i leoliad dysgu fod yn gynhwysol ac yn llawn potensial i newid bywydau pobl er gwell.
EIN SIARTER AMRYWIAETH DIM BEIRNIADAETH
MAE YMDDYGIAD YN BWYSIG
sylweddoli ein bod oll yn GWERTHFAWROGI SAFBWYNTIAU ERAILL
studentrecruitment@coleggwent.ac.uk helo@coleggwent.ac.uk 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
PARCH AT BAWB
DERBYN NAD OES CYWIR NAC ANGHYWIR
9
YN EICH CEFNOGI ‘HWB CYMRAEG’: CYMORTH GYDAG ASTUDIO’N GYMRAEG A DWYIEITHOG Mae gennym gymorth ar bob campws os hoffech ddysgu’n Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae ‘HWB Cymraeg’ yn cynnig gwybodaeth ynghylch buddion astudio’n ddwyieithog, cymorth un i un i gwblhau gwaith yn Gymraeg neu’n ddwyieithog, arweiniad ynghylch defnyddio apiau i gynorthwyo gydag astudiaeth ddwyieithog a pharatoi ar gyfer asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.
TIWTORIAID PERSONOL Fel dysgwr addysg uwch, cewch gymorth unigol gan diwtor personol o ddechrau eich taith yn Coleg Gwent. Cewch diwtorialau rheolaidd a bydd eich tiwtor yn monitro eich cynnydd yn agos ac yn eich cefnogi drwy eich astudiaethau yn y coleg. Bydd eich tiwtor yn eich cynorthwyo i deimlo’n gartrefol yn y coleg, eich arwain drwy eich cwrs, cynnig cymorth drwy unrhyw gyfnodau anodd a dathlu llwyddiannau.
ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL (ADY) Wedi i chi gael cadarnhad gan Cyllid Myfyrwyr Cymru/Lloegr, os ydych wedi cofrestru anhawster dysgu a/neu anabledd, gallwn ddarparu llawer o gefnogaeth. Gallai hyn gynnwys: Cymorth yn y dosbarth gan Gymhorthydd Cymorth Ychwanegol Sesiynau ychwanegol i helpu gydag aseiniadau a gwaith cwrs Cymorth gan Weithiwr Cymorth Cyfathrebu (i fyfyrwyr byddar) Cymorth Dyslecsia
HYBIAU AU
SWYDDOGION CYNNYDD ADDYSG UWCH Ar bob campws mae gennym Swyddog Cynnydd Addysg Uwch a fydd yn eich cefnogi gydag arweiniad academaidd a bugeiliol drwy gydol eich rhaglen astudio. Mae Swyddogion Cynnydd Addysg Uwch yn ymroddedig i’ch cefnogi chi drwy unrhyw anhawster, sy’n cynnwys eich cyfeirio at ein timau arbenigol perthnasol. Mae ein cefnogaeth yn cynnwys: Sgiliau astudio Cefnogaeth academaidd Problemau gyda phresenoldeb Cyngor ariannol Ymdopi â straen a gorbryder
Defnyddio meddalwedd hygyrchedd gan gynnwys hyfforddiant cychwynnol
Ar rai campysau mae ardal ddynodedig yn arbennig i’n dysgwyr Addysg Uwch sydd â; cyfrifiaduron, mannau gwaith grŵp a soffas ar gyfer astudio’n dawel neu ymlacio. Beth am fynd am dro o’u cwmpas yn un o’n digwyddiadau agored?
EIN LLYFRGELLOEDD Mae ein llyfrgelloedd ar y campysau yn lle gwych i astudio - bydd gennych eich holl adnoddau dysgu ar flaenau’ch bysedd yn ogystal â llyfrau, cyfnodolion, e-Lyfrau a DVDs. Cewch ddefnyddio cyfrifiaduron neu gysylltu’ch dyfais eich hun â’n Wi-Fi am ddim. Mae staff ar gael i’ch cynorthwyo i ddod o hyd i adnoddau a defnyddio gwasanaethau eraill megis llungopïo, laminadu a rhwymo.
Trefniadau mynediad ar gyfer arholiadau Os oes angen cymorth arnoch, siaradwch â’ch Tiwtor Personol, cysylltwch â Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol y campws (ALNCo) neu’r swyddog Cynnydd Addysg Uwch.
MEDDA CHI Yn Coleg Gwent, rydym yn ystyried eich safbwyntiau a’ch profiadau ac yn defnyddio’r rhain er mwyn i ni wella profiad dysgwyr yn barhaus. Mae nifer o ffyrdd y gallwch roi adborth i ni; llais cynrychiolwyr dosbarth, fforymau dysgwyr, pwyllgorau a grwpiau, yn ogystal â holiaduron adborth dysgwyr.
Ymgeisiwch Apply online ar-lein now nawr at www.coleggwent.ac.uk/he ar www.coleggwent.ac.uk/he
EIN CAMPYSAU
5 canolfan lleol, unigryw, 1 profiad dysgu rhagorol. I ddysgu mwy ynghylch ein campysau, neu i fynd ar daith 360, edrychwch ar ein wefan:
www.coleggwent.ac.uk/campysau
CYSYLLTWCH Â NI Mae ein Campysau yn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf i roi’r profiad dysgu gorau posibl i chi.
Mae eich dyfodol disglair yn dechrau yn Coleg Gwent!
O gyfleusterau gweddïo aml-ffydd, Costa Coffee i ystafelloedd golygu cyfryngau proffesiynol - mae’r holl gyfleusterau ar ein campysau!
Ar-lein: www.coleggwent.ac.uk Ffoniwch ni: 01495 333777
1
E-bost: admissions@coleggwent.ac.uk
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rydym ar gyfryngau cymdeithasol - dilynwch ni!
Rhodfa Calch, Glynebwy, NP23 6GL
2
Campws Dinas Casnewydd Heol Nash, Casnewydd, NP19 4TS
3
Caerphilly Torfaen
Parth Dysgu Torfaen
Newport
Heol Dewi Sant, Cwmbrân, NP44 1DF
5
Monmouthshire
Campws Crosskeys Ffordd Rhisga, Crosskeys, Caerphilly, NP11 7ZA
4
Blaenau Gwent
Campws Brynbuga Y Rhadyr, Brynbuga, Monmouthshire, NP15 1XJ
Cardiff
studentrecruitment@coleggwent.ac.uk helo@coleggwent.ac.uk 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
11
NODIADAU:
Ymgeisiwch Apply online ar-lein now nawr at www.coleggwent.ac.uk/he ar www.coleggwent.ac.uk/he