Papur Briffio
Briffiad ar y 100 diwrnod cyntaf a beth mae hynny’n ei olygu i Fabanod, Plant, a Phobl Ifanc Cyn yr etholiad, cyhoeddodd Plaid Cymru fap o’u blaenoriaethau ar gyfer 100 diwrnod cyntaf y llywodraeth. Gan fod y garreg filltir hon bellach wedi mynd heibio, mae Llywodraeth newydd Cymru wedi dechrau rhoi arwyddion clir o’i phrif flaenoriaethau a’r meysydd y mae’n bwriadu canolbwyntio arnynt yn y tymor byr a chanolig. Mae’r briffiad hwn yn rhoi trosolwg o’r prif ddatblygiadau a chynnydd a wnaed yn erbyn y nodau a’r ymrwymiadau a gafwyd gan Lywodraeth newydd Cymru yn ystod y 100 diwrnod cyntaf, ac yn ystyried beth gallai’r datblygiadau hyn olygu i fabanod, plant a phobl ifanc ledled Cymru. Y Seithfed Senedd
Yn y Seithfed Senedd newydd, mae bellach 96 o Aelodau (ASau), o gymharu â’r 60 aelod oedd yn y Senedd flaenorol. Mae 67 o’r aelodau etholedig yn newydd i’r Senedd, ac mae hynny’n creu her a chyfle i Blant yng Nghymru a’n haelodau ddatblygu perthnasoedd yn gynnar yn y trafodion er mwyn sicrhau bod y materion blaenoriaeth sy’n cael effaith ar fabanod, plant a phobl ifanc yn ddigon gweladwy yn y Senedd, a hefyd bod pob AS newydd yn gwybod pwy ydyn ni a beth rydyn ni’n dadlau o’i blaid fel sefydliadau. Cyn yr etholiad, bu Plant yng Nghymru yn ymgysylltu â’r ASau ar y pryd, yn ogystal ag ymgeiswyr ar draws yr holl bleidiau gwleidyddol trwy ein hymgyrch, trwy fynychu digwyddiadau, cynadleddau’r pleidiau, cynnal cyfarfodydd a chyhoeddi ein Maniffesto Pencampwyr Dros Blant a 5 cyhoeddiad thematig ategol ynghylch meysydd blaenoriaeth. Mae’r adduned Pencampwyr dros Blant yn galw ar bob gwleidydd ar draws yr holl bleidiau i ymrwymo i fod yn ‘Bencampwr dros Blant’, gan sefyll i fyny dros hawliau plant a chreu cyfleoedd iddyn nhw a’u blaenoriaethau gael eu clywed ar hyd tymor y Senedd hon. Gweinidogion y Llywodraeth
Mae gan Lywodraeth newydd Cymru 10 aelod yn y Cabinet a 5 Dirprwy Weinidog sydd â theitlau a phortffolios gwahanol i’r Llywodraeth flaenorol. Ochr yn ochr â nifer o aelodau sydd newydd eu hethol, mae llawer wedi bod yn gefnogwyr ac yn ymgyrchwyr brwd dros y materion blaenoriaeth sy’n cael effaith ar fabanod, plant a phobl ifanc yn flaenorol pan oedden nhw’n wrthblaid.
Un o alwadau maniffesto Pencampwyr Dros Blant Plant yng Nghymru oedd penodi Gweinidog Cabinet penodol ar gyfer Babanod, Plant a Phobl Ifanc, er mwyn cryfhau’r cydlynu ar fuddiannau plant ar draws pob maes polisi, a darparu arweiniad clir ac atebolrwydd o ran hawliau plant. Er na chyflawnwyd hynny, bydd y gwaith hwnnw’n cael ei arwain gan y Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, sydd hefyd yn Ddirprwy Brif Weinidog, Sioned Williams AS. Er bod hynny’n rhoi cyfle i ymgorffori hawliau plant yn well mewn meysydd polisi megis tlodi plant, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, sy’n rhan o’r un portffolio, byddwn ni’n parhau i ddadlau o blaid creu gweinidog cabinet penodol ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc. Fe wnaethon ni alw hefyd am greu Pwyllgor Cabinet i Blant, er mwyn gwella cydlyniant ac atebolrwydd, ac i osgoi unrhyw berygl bod materion sy’n effeithio ar fabanod, plant a phobl ifanc mewn meysydd megis iechyd, tai, trafnidiaeth, yr amgylchedd a chyllid yn derbyn llai o sylw wrth i Weinidogion ymateb i bwysau gwahanol elfennau sy’n cystadlu â’i gilydd yn eu portffolios unigol. Mae gan nifer o Weinidogion gyfrifoldebau sylweddol ar draws meysydd sy’n allweddol o ran polisi plant. Ymhlith y rhain mae Siân Gwenllian AS, y Gweinidog Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio; Delyth Jewell AS, y Gweinidog Iechyd Menywod, Gofal Cymdeithasol a Iechyd Meddwl; Mark Hooper AS, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, ac Anna Brychan AS, y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg. Mae gan Dafydd Trystan AS rôl drosfwaol fel Gweinidog Effeithiolrwydd a Chyfansoddiad y Llywodraeth, sy’n cynnwys cyfrifoldeb am gefnogi cyflawni a sicrhau bod blaenoriaethau’r llywodraeth yn fesuradwy ac yn gyflawnadwy. Mae pob un o’r rolau hyn yn cynnwys cyfrifoldebau a fydd yn cael effaith ar blant a phobl ifanc. O ganlyniad, bydd yn bwysig bod pob Gweinidog yn cynnal hawliau plant yn eu portffolios eu hunain, ac yn adrodd am eu cynnydd o ran gwella deilliannau a llesiant plant.
Pwyllgor y Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Mae maniffesto Plant yng Nghymru yn galw am graffu cadarn gan y Senedd ar benderfyniadau sy’n effeithio ar fabanod, plant a phobl ifanc. Mae’r Senedd newydd wedi sefydlu Pwyllgor ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a fydd dan gadeiryddiaeth Sera Evans AS. Mae rhestr lawn aelodau’r pwyllgor i’w gweld yma.
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Pwyllgor ym mis Gorffennaf, lle buon nhw’n trafod eu gweithgarwch cynnar a’u cylch gorchwyl, ochr yn ochr â’r gyllideb ddrafft ategol. Ers hynny maent wedi rhyddhau ymgynghoriad ar gyfer unigolion a sefydliadau, er mwyn cynnig syniadau ar gyfer blaenoriaethau’r dyfodol fydd yn helpu i lunio rhaglen waith y Pwyllgor. Bydd Plant yng Nghymru yn cyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad hwn, yn ogystal â darparu ymatebion ar ran rhai o’n gweithgorau a’n rhwydweithiau. Blaenoriaethau i Lywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’u blaenoriaethau cychwynnol yn eu cynllun 100 diwrnod cyntaf, ac mae llawer o fentrau a fydd yn cael effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol ar fabanod, plant a phobl ifanc. Yn eu plith mae Anghenion Dysgu Ychwanegol, iechyd meddwl, iechyd ataliol, strategaethau newydd ar gyfer diwylliant a chanser, a datblygiadau a newidiadau a gynlluniwyd ym meysydd addysg a iechyd. Hefyd mae ymrwymiadau i leihau tlodi plant a gwella mynediad at gymorth cynnar, gan ganolbwyntio adnoddau ar ataliaeth. Mae’n galonogol bod llawer o’r cynigion yn cyfateb i’r blaenoriaethau a nodwyd ym maniffestos Plant yng Nghymru. Isod ceir rhai o’r blaenoriaethau proffil uchel a amlinellwyd yng nghynllun y 100 diwrnod cyntaf sy’n arbennig o berthnasol i fabanod, plant a phobl ifanc.
Strategaeth Tlodi Plant
Un o’r galwadau mwyaf gan Lywodraeth Cymru yw’r un am ddatblygu Strategaeth Tlodi Plant newydd. O ystyried yr ymrwymiad i leihau tlodi plant, mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi ailsefydlu’r Grŵp Arbenigol ar Dlodi Plant, sy’n cynnwys aelodau o’n Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant (ECPN) Cymru i gefnogi’r broses. Bydd Plant yng Nghymru, ochr yn ochr ag aelodau o ECPN Cymru, yn cynghori Llywodraeth Cymru wrth lunio’r strategaeth newydd, a sicrhau bod targedau clir mesuradwy, yn ogystal â cherrig milltir ar gyfer cyflawni sy’n amlwg ac yn gyflawnadwy, er mwyn cynorthwyo tryloywder ac atebolrwydd. Cynnal – Taliad Plant Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i beilota Cynnal, y cynllun Taliad Plant Cymru arfaethedig, sy’n targedu’r teuluoedd â’r angen mwyaf. Mae disgwyl i’r peilot ddarparu £10 yr wythnos i deuluoedd cymwys â phlant sy’n derbyn Credyd Cynhwysol. Mae’r manylion i’w cadarnhau, gan gynnwys pa awdurdodau lleol fydd yn cymryd rhan, pa mor hir bydd y peilot yn parhau, a beth fydd amserlen estyn y cynllun. Mae’r ymrwymiad hwn yn cyfateb yn amlwg i alwad maniffesto Pencampwyr Dros Blant am system Taliad Plant Cymru newydd, fel rhan o ddull ehangach o leihau tlodi plant. O’i beilota’n dda, gallai Cynnal helpu i leihau’r pwysau ar deuluoedd incwm isel a gwella safonau byw plant. Sefydlwyd Grŵp Llywio Arbenigol Cynnal mewn cydweithrediad â’r sefydliadau sy’n aelodau o Plant yng Nghymru, er mwyn helpu i ddylunio a chynghori ynghylch gweithrediad y peilot, ac mae’r cyfarfod cyntaf eisoes wedi’i gynnal. Cyd-gadeirydd y grŵp yw Steffan Evans o Sefydliad Bevan a’r Dirprwy Brif Weinidog, ac mae’n cynnwys aelodau o leoliadau gofal plant, academia, a’r trydydd sector. Bydd Plant yng Nghymru yn awyddus i ddysgu sut mae teuluoedd yn cael eu canfod a’u cefnogi i gael mynediad i’r taliad, ydy’r swm yn ddigonol i wneud gwahaniaeth ystyrlon, ac a oes gan y peilot ddigon o ddylanwad i helpu i godi teuluoedd allan o dlodi dwfn. Gofal Plant
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ehangu’r cynnig gofal plant i fwy o deuluoedd sydd â phlant rhwng 9 mis a 4 blwydd oed. Mae ehangu’n raddol yn cynnwys cwblhau estyn y 12.5 awr o ofal plant a ariannir i bob plentyn 2 oed; datblygu cynlluniau lleol i ehangu’r cynnig i 20 awr yn achos plant 2-4 oed, ac yn y dyfodol ar gyfer gofal plant sy’n cael ei ariannu i blant 9 mis i 2 flwydd oed. Mae Plant yng Nghymru yn cefnogi’r cyhoeddiad hwn, gan fod gofal plant a’r angen am fuddsoddi pellach wedi’u hamlygu yn ein maniffesto Pencampwyr Dros Blant a’n maniffesto Babanod a Phlant Ifanc.Gall buddsoddi yn y gweithlu gofal plant a darparu gofal plant plentyn-ganolog hygyrch, fforddiadwy o safon uchel ar gyfer oedrannau ac anghenion gwahanol gefnogi’r nod o leihau tlodi plant a galluogi rhieni i gael mynediad at gyflogaeth a chyfleoedd hyfforddi. Sefydlwyd Grŵp Llywio Arbenigol ar Ofal Plant i lywio a goruchwylio’r gwaith hwn, ochr yn ochr â chefnogi cyflwyno ymrwymiadau gofal plant ehangach. Mae aelodau o’r grŵp hwn hefyd yn rhan o Grŵp Gweithredu Blynyddoedd Cynnar Plant yng Nghymru, ac yn cyfrannu gwybodaeth ac arbenigedd gwerthfawr wrth helpu i lunio trafodaethau a phenderfyniadau.
Bydd llwyddiant yr ehangu yn dibynnu ar sut mae’n cael ei roi ar waith a’r adnoddau sy’n cael eu darparu. Ymhlith y materion allweddol mae capasiti’r gweithlu, ansawdd y ddarpariaeth, materion cefn gwlad, cefnogaeth i blant ag anghenion ychwanegol, gofal plant cyfrwng Cymraeg, fforddiadwyedd i deuluoedd, ac a all y plant a’r teuluoedd sy’n wynebu perygl tlodi fwyaf gael mynediad at y cynnig ac elwa ohono. Prydau Ysgol am ddim i ddisgyblion Ysgol Uwchradd
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ehangu prydau ysgol am ddim i’r holl ddisgyblion ysgol uwchradd sy’n byw ar aelwydydd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol o fis Medi 2026. Mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol sydd â’r potensial i leihau newyn a thaclo tlodi bwyd i lawer o blant a phobl ifanc. Mae hefyd yn adlewyrchu galwad maniffesto Pencampwyr Dros Blant i estyn y ddarpariaeth gyfredol ac adolygu’r meini prawf cymhwyster, gan barhau i weithio tuag at hawl gyffredinol. Gan fod disgwyl i hyn gael ei roi ar waith ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd, gallai hyn ddod yn un o’r mesurau tlodi plant cyntaf i symud ymlaen o ymrwymiad i gyflawni o dan y Llywodraeth newydd. Bydd yr ehangu hwn yn arbennig o arwyddocaol i blant mewn teuluoedd incwm isel sydd ar hyn o bryd wedi’u cau allan gan drothwyon cymhwysedd cyfyngol. Fodd bynnag, er bod hyn i’w groesawu, nid yw’r mesur yn cyflawni uchelgais maniffesto Plant yng Nghymru ar gyfer hawl gyffredinol dros amser, ac nid yw’n ymdrin â’r angen am sicrhau bod darpariaeth brecwast am ddim ar gael yn yr ysgolion. Byddwn yn parhau i ddadlau o blaid llwybr ac amserlen clir tuag at hawl gyffredinol, ochr yn ochr â mesurau mwy cyffredinol i daclo ansicrwydd bwyd ymhlith plant a phobl ifanc. Hawliau Dynol
Roedd ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), ochr yn ochr â chytuniadau CU eraill, yn gyhoeddiad allweddol a wnaed gan Lywodraeth newydd Cymru yn y cynllun 100 diwrnod cyntaf. Mae hyn yn adlewyrchu un o’r prif geisiadau ym maniffesto allweddol Plant yng Nghymru, ac rydyn ni’n croesawu’n llawn ymrwymiad y Gweinidog i flaenoriaethu ymgorffori hawliau plant ymhellach yng nghyfraith Cymru. Bydd Grŵp Monitro CCUHP Cymru Plant yng Nghymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni a’i weithredu’n effeithiol, a chefnogi monitro parhaus ar CCUHP yng Nghymru. Casgliad
Mae’r 100 diwrnod cyntaf wedi rhoi syniad cynnar o gyfeiriad Llywodraeth newydd Cymru a’u blaenoriaethau cynnar, y bydd llawer ohonynt yn cael effaith sylweddol ar fabanod, plant a phobl ifanc os cânt eu cyflwyno’n llawn fel y bwriadwyd. Rydyn ni’n croesawu’r rhethreg barhaus ynghylch hawliau plant, gyda ffocws cychwynnol ar feysydd polisi megis tlodi plant, gofal plant, addysg, iechyd ataliol, ehangu prydau ysgol am ddim, a newid ffocws i gyfeiriad ymyrraeth gynnar ac ataliaeth. Byddwn ni’n parhau i fonitro fel sefydliad a thrwy ein grwpiau strategol sut mae’r ymrwymiadau hyn yn cael eu symud ymlaen yn ymarferol. Bydd Plant yng Nghymru yn parhau i eiriol dros y blaenoriaethau a gyflwynwyd yn ein maniffesto Pencampwyr dros Gymru a’n maniffestos ehangach sector-benodol. Byddwn ni’n gweithio i sicrhau bod hawliau plant yn parhau’n ganolog i benderfyniadau, a bod babanod, plant a phobl ifanc yn cael cyfleoedd ystyrlon i’w lleisiau gael eu clywed ar faterion a fydd yn effeithio arnyn nhw.
Byddwn hefyd yn parhau i ymgysylltu ag ASau, Gweinidogion a swyddogion trwy ein grwpiau strategol, ein digwyddiadau, ein cyfarfodydd a’n Grŵp Trawsbleidiol newydd ei ailsefydlu ar gyfer Babanod, Plant a Phobl Ifanc. Bydd yr ymgysylltu hwn yn bwysig wrth ddatblygu dealltwriaeth o rôl Plant yng Nghymru, cryfhau perthnasoedd gyda llunwyr penderfyniadau, a chefnogi holl gynrychiolwyr ASau a Llywodraeth Cymru i fod yn Bencampwyr dros Gymru ar hyd tymor newydd y Senedd.