Cylchgrawn Hydref Plant yng Nghymru 2026
Cynnwys RHIFYN 98
Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai Y Ganolfan Iechyd Emosiynol Tai Pawb
PLENTYNDOD IACH: CEFNOGI PLANT I FFYNNU
Hefyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Cyngor Caerdydd Chwarae Cymru
Golygydd: Louise O’Neill louise.oneill@childreninwales.org.uk Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (SPARC), Caerdydd, CF24 4HQ 029 2034 2434 info@childreninwales.org.uk Bluesky: @childreninwales.org.uk Facebook: @childreninwales Instagram: @Children_in_wales LinkedIn: Children in Wales
Nid yw’r farn a fynegir yn y cyhoeddiad hwn o reidrwydd y farn Plant yng Nghymru, ac rydym ni’n cadw’r haw i olygu cyn cyhoeddi Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313 Rhif Cofrestru’r Cwmni: 2805996
HYDREF 2026 | 03
Cynnwys 05
Cyflwyniad gan y Prif Weithredwr, Hugh Russell
06
Diweddariad gan y Tîm Polisi
08
Rhaglen Adeiladu Lleisiau Plant yng Nghymru
09
Diweddariad Cymru Ifanc
10
Diweddariad gan y Tîm Hyfforddi
12
Datblygiad Proffesiynol a Hyfforddiant
14
Digwyddiadau 2026
15
Galwad am gyfraniadau i’n cylchgrawn Gaeaf 2026
16
Cymru mewn perygl o fagu un o’r cenedlaethau lleiaf iach mewn degawdau (Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant)
18
Iechyd meddwl plant yng Nghymru: galwad i weithredu (Plant yng Nghymru)
20
Barod i Ddysgu, Barod i Dyfu: Deall datblygiad plant a pharodrwyddar gyfer yr ysgol led led Gwent (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chyngor Dinas Casnewydd)
22
Darparu dulliau teulu cyfan o wella iechyd a llesiant (Barnardo’s Cymru)
24
Mae plentyndod iach yn dechrau gyda chwarae (Cyngor Caerdydd)
26
Creu plentyndod iachach trwy ymyrraeth gynnar a chymorth sy’n ystyriol o drawma (Llamau)
28
Symud, dysgu, ffynnu: Rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant (Ysgol Penrhyn Dewi)
30
Cartref iach i bob plentyn (Tai Pawb)
32
Gweithredu ar farn pobl ifanc: Creu plentyndod iachach drwy hawliau plant (Uned Hawliau Plant Castell-nedd Port Talbot)
34
Beth sy’n creu plentyndod iach? (Heol Chwarae Rol – Role Play Lane)
04 | PLANT YNG NGHYMRU
36
Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn Conwy – Diweddariad Chwaraeon a Bwyd Haf 2026 (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)
38
Creu plentyndod iachach drwy Fwyd a Hwyl (CLILC)
40
Plant carcharorion yng Nghymru: Mae’n amser i wneud yr anweledig yn weledig (Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai, Canolfan Gyfreithiol Plant Cymru a Phrifysgol Newcastle)
42
Adeiladu plentyndod iach trwy gysylltiad cymunedol (Prosiect Oaktree, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)
44
Cyd-gynhyrchu plentyndod iachach: beth mae’r dystiolaeth yn ei ddweud (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr)
46
Natur sylfaenol iechyd emosiynol (Y Ganolfan Iechyd Emosiynol)
48
Mwy na chwtsh yn unig: Rhoi babanod wrth galon ymarfer (Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent)
50
Plentyndod iach: gweld y plentyn y tu hwnt i’r ymddygiad (Family Pathway CIC)
52
Cefnogi lles a dyfodol cadarnhaol i bobl ifanc Conwy (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)
54
Rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i fabanod a phlant trwy symud (Blynyddoedd Cynnar Cymru)
56
Gweithio Gyda’n Gilydd i Greu Plentyndodau Iachach (Cyngor Sir Gaerfyrddin)
58
Ymgorffori hawliau plant mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc – ie, gallwn ni wneud hynny! (Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe)
60
Mae chwarae’n rhan annatod o ofal iechyd (Chwarae Cymru)
62
Gwella ansawdd yr aer rydyn ni’n ei anadlu yng Nghymru (Awyr Iach Cymru / Asthma + Lung UK Cymru)
HYDREF 2026 | 05
Cyflwyniad gan y Prif Weithredwr, Hugh Russell Croeso cynnes i gylchgrawn yr Hydref Plant yng Nghymru. Ein ffocws y chwarter hwn yw Plentyndod Iach – mater o’r pwysigrwydd mwyaf posibl yng Nghymru ar hyn o bryd. Rwy’n ysgrifennu hwn ychydig wythnosau ar ôl i’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant gyhoeddi adroddiad sy’n peri pryder mawr, sef Cyflwr Iechyd Plant 2026: Cymru, sydd wedi’i grynhoi yn y rhifyn hwn gan Dr Lizzy Nickerson. Nid wyf am dynnu oddi ar erthygl Dr Nickerson drwy ei chrynhoi ymhellach yma, ond mae’n wirioneddol dorcalonnus ei darllen. Rydym yn cefnogi galwadau’r Coleg ar Lywodraeth newydd Cymru i wneud cynnydd o ran Cynllun Iechyd Plant sy’n glir ac yn uchelgeisiol. Mae’r adroddiad yn disgrifio anghydraddoldebau sy’n ehangu ledled Cymru ac yn rhybuddio nad ydym yn gweld y cynnydd y dylem ei weld mewn nifer o ddangosyddion allweddol, o bydredd dannedd i ordewdra. Mae plant sy’n tyfu i fyny yng Nghymru yn dioddef canlyniadau iechyd sy’n anghymesur o negyddol. Mae’r holl anghydraddoldebau iechyd hyn, ynghyd â’r ystadegau sy’n peri pryder, yn cynrychioli argyfwng ar y gorwel i’r GIG; bydd plant yn heneiddio a’u hangen am ofal gan y wladwriaeth yn cynyddu, sef problemau y mae angen mynd i’r afael â nhw heddiw. Mae gan blant hawl i’r iechyd gorau posibl (Erthygl 24 o CCUHP) ac mae’n amlwg bod gwaith i’w wneud yng Nghymru. Mae’r ystod eang o waith a gyflawnir gan aelodau Plant yng Nghymru, i helpu plant i wireddu eu hawliau cynhenid yn y maes hwn, yn cael ei amlinellu mewn dros 20 o erthyglau gwych yn y rhifyn hwn. Rydym yn hynod falch o gynrychioli aelodau sy’n gweithio mewn meysydd mor amrywiol â’r rhai a gynrychiolir yma – llywodraeth leol; tai; chware; addysg; newid yn yr hinsawdd a llawer mwy. Mae pawb wedi’u huno gan ddiddordeb cyffredin mewn sicrhau’r canlyniadau iechyd gorau i blant. Mae Plant yng Nghymru yn ymwneud yn uniongyrchol â rhan o’r gwaith hwn: mae erthygl ragorol gan fy nghydweithiwr Rachel Beddoe yn y rhifyn hwn, er enghraifft, sy’n cwmpasu’r galwadau i weithredu gan
y Rhwydwaith Iechyd Meddwl Plant rydym yn ei gynnull. Rydym hefyd yn falch iawn o gyfrannu at waith rhwydwaith Awyr Iach Cymru, dan arweiniad Asthma + Lung UK. Mae’r rhwydwaith wedi goruchwylio cynnydd sylweddol wrth fynd i’r afael â llygredd aer yng Nghymru, ac mae ei waith yn cael ei drafod mewn erthygl ddiddorol iawn gan Gadeirydd y Rhwydwaith, Joseph Carter. Mae symud a gweithgarwch corfforol yn thema arall sy’n rhan amlwg o’r rhifyn: mae gwaith Blynyddoedd Cynnar Cymru a amlinellir yma, er enghraifft, yn canolbwyntio ar annog plant ifanc i fod yn gorfforol egnïol trwy raglenni amrywiol; mae hyn yn cynnwys y gwaith ‘Symudwyr Bach, Siaradwyr Bach’, sy’n hyrwyddo symud a gweithgarwch ar y cyd ag amlygiad i’r iaith Gymraeg. Mae Ysgol Penrhyn Dewi yn enghraifft o ddarpariaeth ragorol ar gyfer plant ychydig yn hŷn (3–6 oed); mae staff yr ysgol wedi ymgymryd â hyfforddiant i benderfynu sut y gallant gynnwys gweithgarwch corfforol yn eu cwricwlwm. Mae rhai darnau hefyd sy’n gwneud i chi feddwl ac yn ymdrin â chefnogaeth i grwpiau penodol o blant – y rhai sydd angen gofal a sylw ychwanegol fwyaf – megis y gwaith a amlygwyd gan yr Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai a’i phartneriaid academaidd. Mae ei darn yn amlinellu profiadau negyddol anghymesur plant y mae carcharu aelodau o’u teuluoedd yn effeithio arnynt, ac yn galw am weithredu i fynd i’r afael â’r mater. Mae hon yn broblem arbennig o ddifrifol yng Nghymru, sydd â’r gyfradd garcharu uchaf yng Ngorllewin Ewrop – llawer uwch na chyfradd Lloegr. Fel bob amser, nid yw’r cyfrif geiriau yn caniatáu i mi grybwyll yr holl waith ysgrifennu rhagorol sydd yn y rhifyn hwn, ond rwy’n gobeithio y bydd darllenwyr yn dod o hyd i ddigon i ysbrydoli eu harferion, ac efallai hefyd ein dull polisi o ymdrin ag iechyd plant yma yng Nghymru. Diolch o galon i’n holl gyfranwyr a darllenwyr. Hugh
06 | PLANT YNG NGHYMRU
Diweddariad gan y tîm Polisi
Hyrwyddwyr dros Blant – cyflawni ein blaenoriaethau Nawr bod y Senedd wedi sefydlu ei phwyllgorau craffu ynghyd â chadeiryddion ac aelodau newydd, mae’r tîm polisi wedi bod yn brysur yn ymgysylltu â gwleidyddion newydd a’r rhai sy’n dychwelyd i hyrwyddo ein blaenoriaethau a ddatblygwyd gyda’n partneriaid a’n haelodau cyn yr Etholiad fis Mai diwethaf. Yn ystod yr haf, ymatebodd y tîm i ymgynghoriadau pwyllgor, gan dynnu sylw at flaenoriaethau gan gynnwys tlodi plant, iechyd meddwl plant, y 1,000 diwrnod cyntaf, cymorth i rieni, ymgorffori CCUHP a diwygio’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Gallwch ddarllen ein hymatebion i’r ymgynghoriadau hyn ar dudalennau gwe perthnasol y Pwyllgor. Gallwch ddarllen ein blaenoriaethau yma.
Cynnydd tuag at ymgorffori CCUHP Mae ymgorfforiad llawn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yng nghyfraith Cymru yn parhau i fod yn ffocws allweddol i’n gwaith polisi. Yn ddiweddar, gwnaethom gyhoeddi briffiad yn adolygu cynnydd Llywodraeth Cymru yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf, a chroesawyd ei hymrwymiad i ddatblygu cynigion i ymgorffori confensiynau allweddol y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol, gan gynnwys CCUHP. Mae’r ymgyrch hirsefydlog hon yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Plant yng Nghymru. Roeddem yn falch o gyfrannu at y Gyngres Hawliau Dynol yng Nghaerdydd, ochr yn ochr â’r Dirprwy Brif Weinidog Sioned Williams, AS, gan rannu gwersi o Gymru a chlywed am effaith gadarnhaol deddfwriaeth CCUHP yr Alban. Gallwch ddarllen ein briffiad ar y 100 diwrnod cyntaf yma. Gallwch ddarllen maniffesto Grŵp Monitro CCUHP yma.
HYDREF 2026 | 07
Mynd i’r afael â thlodi plant – gwrando ar ein haelodau Gan weithio ochr yn ochr â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, rydym yn awyddus i glywed gan ymarferwyr, addysgwyr, llunwyr polisi ac eraill sy’n cefnogi plant a theuluoedd sy’n byw mewn tlodi neu mewn perygl o dlodi ledled Cymru. Mae ein harolygon sydd newydd eu lansio yn anelu at nodi’r heriau sy’n wynebu teuluoedd sy’n byw mewn tlodi neu sydd mewn perygl o dlodi, a byddant yn helpu i lunio ein hadroddiad nesaf ar dlodi plant a theuluoedd, sydd i’w gyhoeddi yng ngwanwyn 2027. Cwblhewch yr arolwg yma.
Pontio’r Bwlch – Dathlu Gwahaniaeth Mae Plant yng Nghymru yn parhau i gefnogi datblygiad Pontio’r Bwlch – Dathlu Gwahaniaeth, rhaglen hyfforddi dan arweiniad rhieni sy’n helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall yn well brofiadau plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a niwrowahaniaeth. Wedi’i ddatblygu gan rieni o Lleisiau Bettws, mae’r hyfforddiant yn tynnu ar brofiad go iawn i helpu i greu cymorth mwy cynhwysol. Drwy fodel hyfforddi’r hyfforddwyr, caiff rhieni eu grymuso i ddod yn ymarferwyr cymunedol sy’n defnyddio eu profiadau go iawn, gan rannu eu gwybodaeth i wella gwasanaethau a chanlyniadau i blant a theuluoedd ledled Cymru.
Iechyd meddwl plant – galwad i weithredu
Fel y mae un rhiant sy’n cymryd rhan yn y prosiect yn egluro: “Rydym yn angerddol iawn ac eisiau rhannu ein profiadau.”
Drwy ein Rhwydwaith Iechyd Meddwl Plant, rydym yn parhau i eirioli dros ddull ataliol sy’n seiliedig ar hawliau o ran cefnogi iechyd meddwl plant yng Nghymru.
Gallwch gael gwybodaeth bellach am yr hyfforddiant hwn yma a gwrando ar bodlediad y mae rhieni wedi’i recordio.
Er bod Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Llywodraeth Cymru yn darparu fframwaith pwysig, credwn y dylai camau gweithredu ganolbwyntio ar greu’r amodau sy’n helpu plant i ffynnu drwy berthnasoedd cefnogol, ysgolion cynhwysol a chymorth amserol. Mae galwadau’r Rhwydwaith am gamau gweithredu yn canolbwyntio ar atal, ymyrryd yn gynnar a chyfranogiad plant. Darllenwch fwy am ein Rhwydwaith Iechyd Meddwl Plant a’r galwadau am gamau gweithredu mewn erthygl ar wahân yn y cylchgrawn hwn.
Edrych i’r dyfodol Mae newid ystyrlon yn digwydd pan fydd barn a phrofiadau plant, pobl ifanc, rhieni ac ymarferwyr yn llywio polisi. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda’n haelodau, ein partneriaid a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i sicrhau bod hawliau, llesiant a chyfleoedd plant yn parhau i fod yn flaenoriaeth ledled Cymru.
RHAGLEN ADEILADU LLEISIAU
Mae Plant yng Nghymru yn falch o gyflwyno Adeiladu Lleisiau. Gwasanaeth ymgynghori a gynlluniwyd i helpu sefydliadau i ymgorffori cyfranogiad ieuenctid ystyrlon a chyd-gynhyrchu yn eu gwaith.
Gyda dros 30 mlynedd o arbenigedd mewn hawliau plant, rydym yn cynnig cefnogaeth wedi’i theilwra gan gynnwys datblygu strategaethau, hyfforddi staff a hwyluso llais ieuenctid. Mae ein pecynnau hyblyg wedi’u cynllunio i sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn llunio gwasanaethau a pholisïau mewn gwirionedd.
ADEILADU
LLEISIAU
I archwilio sut y gallai Adeiladu Lleisiau gefnogi eich sefydliad, cysylltwch â: Kate.thomas@childreninwales.org.uk am ragor o wybodaeth. GWELD MWY
Gallwch hefyd edrych ar ein llyfryn digidol a’n harddangosfa fideo i weld sut rydym eisoes yn gwneud gwahaniaeth gyda Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
HYDREF 2026 | 09
Diweddariad Cymru Ifanc Pobl ifanc yn arwain newid ledled Cymru Mae wedi bod yn flwyddyn brysur a chyffrous i Cymru Ifanc, gyda phobl ifanc o bob rhan o’r wlad yn helpu i lunio prosiectau, digwyddiadau a chyfleoedd sy’n rhoi mwy o rym i leisiau plant a phobl ifanc. Un o’r uchafbwyntiau arbennig fu cynllunio Uwchgynhadledd Cymru Ifanc 2026 , sy’n cael ei chynnal ar 21 Tachwedd 2026 yn SBARC, Caerdydd. Yn gynharach eleni, daeth ein gwirfoddolwyr ymroddedig rhwng 18 ac 25 oed ynghyd ar gyfer cwrs preswyl yng Nglan-llyn i gyd-ddylunio’r digwyddiad, gan sicrhau bod pobl ifanc wrth wraidd pob agwedd ar y rhaglen. O ddatblygu syniadau ar gyfer gweithdai i nodi themâu a blaenoriaethau allweddol, mae gwirfoddolwyr wedi chwarae rhan flaenllaw wrth greu Uwchgynhadledd sy’n adlewyrchu’r hyn sydd bwysicaf i bobl ifanc yng Nghymru. Mae Cymru Ifanc hefyd yn parhau i greu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddylanwadu ar brosesau gwneud penderfyniadau ar lefel genedlaethol. Bob pum mlynedd, mae’r DU yn adrodd i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ar ei chynnydd wrth gynnal hawliau plant. Drwy Sgwrs Fawr Cymru Ifanc 2026, gwahoddir plant a phobl ifanc ledled Cymru i rannu eu barn ar yr hyn y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio arno i wella bywydau plant a phobl ifanc. Bydd eu hadborth yn helpu i amlygu blaenoriaethau allweddol ac yn sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed fel rhan o’r broses bwysig hon.
Wrth edrych ymhellach i’r dyfodol, rydym wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau cyllid Taith ar gyfer ymweliad dysgu rhyngwladol i Malta ym mis Mawrth 2027. Bydd staff a gwirfoddolwyr Cymru Ifanc yn archwilio dulliau o hyrwyddo cyfranogiad pobl ifanc ar y cyd â phartneriaid rhyngwladol, yn cyfnewid syniadau ac yn dod â gwersi gwerthfawr yn ôl i Gymru i gryfhau cyfleoedd i bobl ifanc yma gartref. Ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb frwdfrydedd, creadigrwydd ac ymrwymiad ein haelodau a’n gwirfoddolwyr. Boed yn helpu i gynllunio digwyddiadau cenedlaethol, yn cyfrannu at ymgynghoriadau neu’n cynrychioli barn pobl ifanc, maent yn parhau i sicrhau bod lleisiau plant wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau ledled Cymru. I gael rhagor o wybodaeth neu i gymryd rhan, anfonwch e-bost at young.wales@childreninwales.org.uk
10 | PLANT YNG NGHYMRU
Diweddariad gan y tîm Hyfforddi Cefnogi plentyndod iach yng Nghymru Mae plentyndod iach yn ymwneud â mwy na llesiant corfforol. Mae angen i blant deimlo’n ddiogel, wedi eu gwerthfawrogi a’u clywed, gyda chyfleoedd i chwarae, datblygu eu hunaniaeth, ffurfio perthnasoedd cadarnhaol a chymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Yn Plant yng Nghymru, rydym yn credu dylai pob plentyn gael y gefnogaeth sydd ei hangen arno i fwynhau datblygiad iach a chytbwys o fabandod hyd at oedolaeth.
Dull gweithredu seiliedig ar hawliau Mae ein gwaith yn seiliedig ar hawliau plant ac ar gydnabod plant fel unigolion y mae eu hanghenion yn newid wrth iddynt dyfu a datblygu. Yng Nghymru, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu’r fframwaith cyfreithiol allweddol ar gyfer gofal a chymorth. Er bod llawer o’r Ddeddf yn defnyddio iaith sy’n niwtral o ran oedran, mae’r darpariaethau sy’n gwahaniaethu rhwng plant ac oedolion yn cydnabod statws unigryw plant fel unigolion sy’n datblygu, a phwysigrwydd cefnogi’r datblygiad iach hwnnw yn yr ystyr ehangaf.
•
Datblygiad a pherthnasoedd: •
Gwaith uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc – cwrs sy’n archwilio gweithgareddau ymarferol sy’n cryfhau’r sgiliau sydd eu hangen ar ymarferwyr i feithrin perthnasoedd ymddiriedus, ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc er mwyn deall anghenion unigol a darparu cefnogaeth effeithiol
•
Rôl chwarae mewn datblygiad iach – archwilio sut mae chwarae yn cefnogi dysgu, cyfathrebu, creadigrwydd, hyder a llesiant emosiynol
Diogelwch a llesiant: •
Diogelu - Rydym yn darparu ystod o hyfforddiant sy’n cydymffurfio â’r safonau cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant, dysgu a datblygu ym maes diogelu. Mae’r rhain yn mynd i’r afael ag anghenion dysgu pobl yn Grwpiau A, B, C ac F, gan atgyfnerthu arferion diogel ac ymwybyddiaeth o’r cyfrifoldebau penodol i’r rôl sy’n gysylltiedig â chadw plant yn ddiogel. Mae gennym lwyddiant blaenorol o greu ymatebion pwrpasol i anghenion hyfforddi staff sy’n bodloni gofynion y safonau, gan ystyried y cyd-destun hefyd
•
Deall ac ymateb i bryder ymhlith plant a phobl ifanc – helpu ymarferwyr i adnabod arwyddion pryder ac ymateb mewn ffyrdd sy’n sensitif, yn briodol ac yn gefnogol
Cefnogi’r gweithlu sy’n gweithio gyda phlant Mae gan bob aelod o’n tîm hyfforddi brofiad o weithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn amrywiaeth o rolau. Maent yn cyflwyno’r arbenigedd ymarferol hwn i gyrsiau sydd wedi’u llunio i helpu ymarferwyr ar draws y gweithlu ehangach ym maes plant i drosi egwyddorion sy’n seiliedig ar hawliau yn arferion bob dydd ac i hyrwyddo datblygiad iach plant.
Hyfforddiant ar waith Mae ein cyrsiau’n ymdrin â meysydd ymarfer allweddol sy’n cefnogi hawliau, llesiant, cyfranogiad a datblygiad plant.
Llais a chyfranogiad: •
Cyflwyniad i Fodel cyfranogiad Lundy – helpu ymarferwyr i greu cyfleoedd ystyrlon i blant a phobl ifanc fynegi eu barn a sicrhau bod y farn honno’n cael ei chymryd o ddifrif
Cefnogi plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn penderfyniadau – datblygu dulliau ymarferol sy’n rhoi lleisiau plant wrth wraidd gwasanaethau a chymorth
Os hoffech chi wybod mwy am yr hyfforddiant rydym yn ei gynnig, gan gynnwys cyrsiau a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy’n rhad ac am ddim i’w mynychu, ewch i: Hyfforddiant a Digwyddiadau | Plant yng Nghymru
HYDREF 2026 | 11
12 | PLANT YNG NGHYMRU
Datblygiad Proffesiynol a Hyfforddiant TACHWEDD Newidiadau DBS Hydref 2026: Beth sy’n Newydd, Pwy sy’n cael ei Effeithio a Beth i’w Wneud 11 Tachwedd 2026 o 12.30 – 13.30 Digwyddiad Ar-lein Rhad ac am ddim
Pryder Ymhlith Pobl ifanc: Ei Adnabod, Cefnogaeth a Gwydnwch 12 Tachwedd 2026 o 09:30 – 16:00
Ymunwch â ni ar gyfer y weminar rhad ac am ddim hwn sy’n archwilio’r newidiadau allweddol i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gyflwynwyd o 1 Medi 2026 a’r hyn maen nhw’n ei olygu i sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl.
Aelodau: £126, Nad yw’n aelodau: £140
Digwyddiad Ar-lein Mae’r cwrs un diwrnod hwn wedi’i gynllunio i ddyfnhau eich dealltwriaeth o bryder, ei achosion, a’i effaith ar iechyd meddwl a chorfforol. Byddwch yn ennill offer ymarferol i gefnogi pobl ifanc yn fwy effeithiol mewn lleoliadau personol a phroffesiynol.
Diogelu Grŵp F ar gyfer Uwch Arweinwyr 25 Tachwedd 2026 o 09:30 – 16:00 Digwyddiad Ar-lein
Cyflwyniad i Fodel Lundy a Chyfranogiad Pobl Ifanc 25 Tachwedd 2026 o 09:30 – 15:30 Digwyddiad Wyneb yn Wyneb Rhad ac am ddim
Aelodau: £126, Nad yw’n aelodau: £140
Dysgwch y manylion am Brosiect Dull Lundy a gwelwch sut y gall drawsnewid eich dull gweithredu mewn sesiwn wyneb yn wyneb. Mae’r hyfforddiant undydd hwn yn archwilio sut i gynnwys plant a phobl ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau mewn ffordd ystyrlon, gan ddefnyddio Model Cyfranogiad Lundy.
Diogelu arbenigol ar gyfer arweinwyr, gan ganolbwyntio ar ddyletswyddau statudol, llywodraethu, a strategaethau i ymgorffori diwylliant diogelu cryf. Y cwrs rhyngweithiol hwn wedi’i gynllunio ar gyfer Prif Weithredwyr, Cyfarwyddwyr a Chadeiryddion Bwrdd - y rhai sydd yn y pen draw yn gyfrifol am ddiogelu o fewn eu sefydliadau.
Dysgwch sut i greu Lle, Llais, Cynulleidfa a Dylanwad fel bod pobl ifanc yn llunio’r gwasanaethau sy’n effeithio arnynt.
Cefnogi Plant sydd a Phrofiad o Ofal: O Ymrwymiad i Weithredu - Creu Cyfleoedd sy’n Gwneud Gwahaniaeth Gwirioneddol 9 Rhagfyr 2026 o 09:30 – 15:30
Hawliau Plant a Chyfranogiad ar gyfer Phobl Ifanc 11-25 Oed 10 Rhagfyr 2026 o 09:30 – 15:30
Digwyddiad Ar-lein Rhad ac am ddim
Cwrs rhyngweithiol sy’n archwilio hawliau a chyfranogiad pobl ifanc yng Nghymru. Dysgwch ddeddfwriaeth allweddol, technegau ymarferol, a sut i gynnwys pobl ifanc mewn gwneud penderfyniadau - gan gynnwys sefydlu fforymau ieuenctid. Meithrinwch sgiliau, mynd i’r afael â rhwystrau, a chreuwch gynllun gweithredu i ymgorffori cyfranogiad yn eich gwaith.
Mae’r sesiwn hyfforddi hon wedi’i chynllunio i helpu sefydliadau i gael dealltwriaeth glir ac ymarferol o beth mae rhianta corfforaethol yn ei olygu, yn enwedig mewn perthynas â’r egwyddorion a’r ymrwymiadau sydd wedi’u nodi yn Siarter Rhianta Corfforaethol Cymru. Mae’r sesiwn hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb neu rôl mewn cefnogi plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
Digwyddiad Ar-lein Rhad ac am ddim
HYDREF 2026 | 13
2026 - 2027 Hawliau Plant a Chyfranogiad i Blant o Dan 11 oed 16 Tachwedd 2026 o 09:30 – 15:30 Digwyddiad Ar-lein
Rhad ac am ddim
Cwrs diddorol sy’n archwilio hawliau a chyfranogiad plant yng Nghymru. Dysgwch ddeddfwriaeth allweddol, offer ymarferol, a dulliau sy’n canolbwyntio ar y plentyn i gynnwys plant mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Meithrinwch hyder, mynd i’r afael â rhwystrau cyfranogiad, a chreuwch eich cynllun gweithredu eich hun ar gyfer gweithio’n effeithiol gyda phlant.
Cefnogi Plant sydd a Phrofiad o Ofal: O Ymrwymiad i Weithredu - Creu Cyfleoedd sy’n Gwneud Gwahaniaeth Gwirioneddol 24 Tachwedd 2026 o 09:30 – 15:30 Digwyddiad Ar-lein Rhad ac am ddim Mae’r sesiwn hyfforddi hon wedi’i chynllunio i helpu sefydliadau i gael dealltwriaeth glir ac ymarferol o beth mae rhianta corfforaethol yn ei olygu, yn enwedig mewn perthynas â’r egwyddorion a’r ymrwymiadau sydd wedi’u nodi yn Siarter Rhianta Corfforaethol Cymru. Mae’r sesiwn hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb neu rôl mewn cefnogi plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
RHAGFYR Diogelu Grŵp C ar gyfer yr Arweinydd Diogelu Dynodedig ac Uwch Ymarferwyr 1 & 2 Rhagfyr 2026 o 09:30 – 16:00 Digwyddiad Ar-lein Dwyieithog Aelodau: £252, Nad yw’n aelodau £280 Wedi’i gynllunio ar gyfer Arweinwyr Dynodedig Diogelu ac ymarferwyr uwch, mae’r cwrs hwn yn cryfhau eich arbenigedd wrth reoli cyfrifoldebau diogelu, gwneud penderfyniadau gwybodus, ac arwain arferion diogelu effeithiol.
IONAWR 2027
Hawliau Plant a’r Blynyddoedd Cynnar 1 Rhagfyr 2026 o 09:30 – 15:30 Digwyddiad Ar-lein Rhad ac am ddim Mae’r cwrs hyfforddi hwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi’i anelu at ymarferwyr sy’n gweithio gyda babanod a phlant ifanc o dan saith oed neu gyda’u teuluoedd mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys gofal plant, cymorth i deuluoedd, gwaith chwarae, gweithgareddau awyr agored a chelfyddydol. Bydd mynychwyr yn cael cyfle i archwilio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a dysgu sut mae’n berthnasol i fabanod a phlant ifanc.
CHWEFROR 2027
Grŵp B Diogelu Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion mewn Perygl 19 Ionawr 2027 o 09:30 – 16:00
Rheoli am y Tro Cyntaf: Sylfeini Rheoli Effeithiol 4 & 5 Chwefror 2027 o 09:30 – 16:00
Digwyddiad Ar-lein
Digwyddiad Ar-lein
Aelodau: £126, Nad yw’n aelodau: £140
Aelodau: £252, Nad yw’n aelodau £280
Meithrin hyder a gwybodaeth gyfoes i ddiogelu’r rhai sydd yn eich gofal. Ymdrin â deddfwriaeth allweddol, adnabod arwyddion cam-drin, deall rolau a chyfrifoldebau, ac ymateb yn effeithiol i bryderon wrth ymarfer gweithio’n ddiogel a rhannu gwybodaeth.
Dysgwch y sgiliau angenrheidiol ar gyfer eich profiad cyntaf fel rheolwr – o ddirprwyo i gyfathrebu. Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn ar-lein ymarferol a diddorol, a gynlluniwyd i’ch helpu i ffynnu wrth i chi symud i rôl reoli. Dan arweiniad y hwylusydd arbenigol Deryl Dix, bydd y sesiwn hon yn rhoi’r offer hanfodol a’r mewnwelediadau i chi i lwyddo fel rheolwr llinell gyntaf.
14 | PLANT YNG NGHYMRU
Digwyddiadau 2026
Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o’r digwyddiadau uchod, cysylltwch â: emma.butler@childreninwales.org.uk
Gweminar fyw am ddim
Newidiadau DBS Hydref 2026: Beth sy’n Newydd, Pwy sy’n cael ei Effeithio a Beth i’w Wneud Dyddiad Dydd Mercher, 11 Tachwedd 2026 Amser 12.30pm – 1.30pm Lleoliad Ar-lein Ymunwch â ni ar gyfer y weminar rhad ac am ddim hwn sy’n archwilio’r newidiadau allweddol i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gyflwynwyd o 1 Medi 2026 a’r hyn maen nhw’n ei olygu i sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl.
ARCHEBWCH LE YMA
Gweminar fyw am ddim
Uwchgynhadledd Cymru Ifanc 2026 Dyddiad Dydd Sadwrn, 21 Tachwedd 2026 Amser 10am - 4pm Lleoliad Spark, Heol Maindy, Caerdydd CF24 4HQ Ein dathliad blynyddol o leisiau ifanc yng Nghymru. Anogir aelodau i ddod â’r bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda i’r digwyddiad cyffrous ac ysbrydoledig hwn. Mae mynediad i Uwchgynhadledd Cymru Ifanc yn rhad ac am ddim, ac mae wedi’i gynllunio i fod yn gynhwysol ac yn groesawgar i bawb. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig ac yn llenwi’n gyflym, felly cofrestrwch eich diddordeb yn gynnar.
ARCHEBWCH LE YMA
Cadwch y dyddiad
Cynhadledd Flynyddol Plant yng Nghymru 2027 Dyddiad Gwanwyn 2027 Lleoliad Techniquest, Bae Caerdydd Cadwch lygad ar eich Newyddion i Aelodau a sianeli cyfryngau cymdeithasol Plant yng Nghymru i gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn; bydd tocynnau ‘adar cynnar’ rhatach i aelodau ar gael o fis Rhagfyr 2026.
Gweminar fyw am ddim
Canfyddiadau o Arolwg Blynyddol 2026 ar Dlodi Plant a Teuluoedd Dyddiad Mawrth 2027 Amser I’w gadarnhau Lleoliad Ar-lein Ymunwch â ni ar gyfer y weminar hon sy’n rhad ac am ddim, lle cewch glywed am y prif ganfyddiadau o Adroddiad Arolwg Blynyddol Plant yng Nghymru ar Dlodi Plant a Theuluoedd.
HYDREF 2026 | 15
Galwad am gyfraniadau i’n cylchgrawn Gaeaf 2026 THEMA
LLOCHES, HAWLIAU A PHERTHYN
Mae Erthygl 22 o’r CCUHP yn nodi’n benodol y dylai plant sy’n ceisio statws ffoadur, neu sy’n cael eu hystyried yn ffoaduriaid, dderbyn amddiffyniad a chymorth dyngarol priodol. Bydd ein cylchgrawn Gaeaf yn taflu goleuni ar brofiadau plant a phobl ifanc sy’n ceisio lloches ac yn ffoaduriaid yng Nghymru, gan archwilio sut y gallant gael mynediad at eu hawliau, addysg, cefnogaeth iechyd a lles, llety diogel, cyfleoedd cyfranogiad ac ymdeimlad o berthyn yng Nghymru fel Cenedl Noddfa. Bydd hefyd yn archwilio’r rôl ehangach y gall cymunedau, gwasanaethau a sefydliadau ei chwarae wrth greu amgylcheddau croesawgar a chefnogol. Gallai meysydd posibl ar gyfer cynnwys gynnwys: •
Hawliau plant a’r Genedl Noddfa – beth mae ymrwymiad Cymru yn ei olygu yn ymarferol i blant a phobl ifanc sy’n ceisio noddfa?
•
Cymuned a chynhwysiant – enghreifftiau o arfer da a sut mae cymunedau ledled Cymru yn cefnogi plant a theuluoedd sy’n ceisio noddfa
•
Gwrando ar blant a phobl ifanc – eu profiadau, eu safbwyntiau, eu gobeithion a’u dyheadau
•
•
Addysg a theimlo’n rhan o gymuned – profiadau plant sy’n ceisio lloches a phlant ffoadur mewn ysgolion, colegau a lleoliadau dysgu eraill
Rôl gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol – sut gall sefydliadau sicrhau bod eu gwaith yn gynhwysol, yn seiliedig ar hawliau ac yn ymatebol i anghenion plant a phobl ifanc ffoadur ac sy’n ceisio lloches
•
Iechyd a lles – rhwystrau i gael cymorth priodol a phwysigrwydd dulliau sy’n ystyriol o drawma ac sy’n canolbwyntio ar y plentyn
•
•
Tai a chymorth – yr heriau penodol sy’n wynebu plant a phobl ifanc sy’n ceisio lloches, gan gynnwys plant sy’n ceisio lloches heb fod yng nghwmni oedolyn
Cyfranogiad pobl ifanc – sicrhau bod gan blant a phobl ifanc sy’n ceisio noddfa gyfleoedd i ddylanwadu ar y penderfyniadau a’r polisïau sy’n effeithio arnynt
•
Edrych i’r dyfodol – beth arall sydd angen digwydd i wneud Cymru yn Genedl Noddfa wirioneddol groesawgar a chynhwysol i bob plentyn
Bydd yr argraffiad hwn yn cynnig cydbwysedd rhwng polisi, ymchwil, profiad bywyd ac enghreifftiau o arfer da, gan roi hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth ei wraidd. Canllawiau cyflwyno: •
Dylai erthyglau fod rhwng 500 a 750 o eiriau
•
Cyflwynwch eich erthygl yn Saesneg ac yn Gymraeg
•
Ysgrifennwch eich erthygl yn MS Word a chynnwys teitl ynghyd ag enw a sefydliad yr awdur
•
Gallwch gynnwys delweddau JPEG o ansawdd uchel neu logo eich sefydliad os dymunwch
•
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw Dydd Iau, 7 Ionawr 2027
Anfonwch grynodeb byr o’r erthygl rydych yn ei chynnig drwy e-bost at membership@childreninwales.org.uk Unwaith y byddwn wedi’i dderbyn, cadarnheir eich lle. Sylwch: caiff y cylchgrawn ei rannu’n gyhoeddus ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gan roi cyfle i’ch cyfraniad gyrraedd cynulleidfa ehangach y tu hwnt i’n haelodau.
16 | PLANT YNG NGHYMRU
Dr Lizzy Nickerson, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant
Cymru mewn perygl o fagu un o’r cenedlaethau lleiaf iach mewn degawdau Fel paediatregydd, mae fy nod bob amser yn un syml: helpu teuluoedd a gwneud yn siŵr bod pob baban, plentyn a pherson ifanc yn cael y cyfle i fwynhau bywyd diogel, hapus ac iach. Ond yn fwy a mwy aml, rwyf yn canfod fy hun yn gofalu am blant y mae eu hiechyd a’u llesiant yn cael eu tanseilio gan heriau sydd ymhell y tu hwnt i’w rheolaeth. Ledled Cymru, mae llawer o fy nghydweithwyr yn sylwi ar yr un tueddiadau pryderus. Mae mwy o blant yn byw gyda gordewdra, cyflyrau iechyd meddwl, iechyd gwael y geg, a phroblemau iechyd tymor hir, sy’n aml yn gofyn am gymorth mwy a mwy cymhleth. Nid yw’r heriau hyn yn bodoli ar eu pen eu hunain. Maent yn effeithio ar allu’r plant i ddysgu, i feithrin perthnasoedd ac i chwarae rhan gyflawn mewn bywyd pob dydd, ac mae hyn y diwedd yn effeithio ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt a’u siawns mewn bywyd. Y mis diwethaf, cyhoeddodd y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (RCPCH) ein brîff Cyflwr Iechyd Plant Cymru , ac wrth ei gyhoeddi daeth rhybudd plaen, ond nid annisgwyl: rydym mewn perygl o fagu un o’r cenedlaethau lleiaf iach yng Nghymru. Mae dros chwarter (27.3%) plant 4- i 5 oed dros eu pwysau neu’n byw â gordewdra. Dyma’r gyfradd uchaf a gofnodwyd yng Nghymru hyd yma a’r gyfradd uchaf ymysg holl genhedloedd y DU Roedd gan dros chwarter (27%) plant 5 i 6 oed bydredd dannedd amlwg yn 2024/25.
Roedd plant sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig bron ddwywaith yn fwy tebygol o fod â phydredd dannedd (37.6%) na rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (19.8%) Amcangyfrifir fod 135,000 o blant a phobl ifanc yng Nghymru’n byw â chyflwr iechyd meddwl y gellir rhoi diagnosis ohono. Tua un o bob chwech o rai 8 i 10 oed, un o bob pump o rai 11 i 16 oed, ac un o bob pedwar o rai 17 i 24 oed Mae’r niferoedd sy’n cael eu brechu wedi gostwng yn is na’r lefelau a argymhellir ac mae’n gryn bryder o hyd, gydag ychydig iawn o frechlynnau arferol yng Nghymru bellach yn cyrraedd y targed brechu o 95% sy’n arwain at berygl sylweddol o glefydau heintus Ni fu llawer o newid mewn marwolaethau babanod gyda 3.5 o farwolaethau ym mhob 1,000 o enedigaethau byw yn 2024, yr un gyfradd ag yn 2018 Mae pob ystadegyn yn cynrychioli plentyn. Plentyn nad yw’n gallu chwarae a chymdeithasu oherwydd problemau iechyd. Plentyn yn ei arddegau na all fynd i’r ysgol am eu bod yn aros am gymorth iechyd meddwl. Teulu sy’n cael anhawster cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Nid yw’r rhain yn brofiadau ynysig. Dyma’r realiti i ormod o blant a phobl ifanc. Yr hyn sy’n achos pryder arbennig yw bod brîff yr RCPCH yn dal i dynnu sylw at yr anghydraddoldebau amlwg sy’n diffinio bywyd plentyn. Mae’r ardal lle mae plentyn yn byw, incwm eu teulu, a’r cyfleoedd
HYDREF 2026 | 17
sydd ar gael yn eu cymuned yn parhau i gael dylanwad sylweddol ar eu hiechyd. Fel cenedl, ni allwn dderbyn sefyllfa lle mae rhagolygon plentyn yn cael eu penderfynu gan eu cod post neu’r amgylchiadau y cawsant eu geni ynddynt. Mae’r pryderon a fynegwyd gan yr RCPCH a fy nghydweithwyr yn cael eu rhannu gan y cyhoedd. Canfu arolwg diweddar mai llai na thraean (27%) y rhai a holwyd sy’n teimlo bod Llywodraeth Cymru’n gwneud digon i hybu iechyd plant, gyda chyfran lai fyth (18%) yn teimlo bod gwariant presennol y GIG ar iechyd plant yn ddigon. Dyna pam rwyf yn credu bod angen brys am Gynllun Iechyd Plant cynhwysfawr i Gymru. Dylai cynllun o’r fath roi plant a phobl ifanc yng nghalon prosesau penderfynu, a fyddai’n golygu bod pob adran o’r Llywodraeth yn gyfrifol am y plentyn ac yn creu fframwaith clir i wella bywydau plant. Rhaid iddo fod wedi’i seilio ar dystiolaeth, wedi’i lywio gan ddata dibynadwy a’i seilio ar brofiadau babanod, plant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Bydd y penderfyniadau a wnawn heddiw yn ffurfio nid yn unig eu dyfodol hwy ond dyfodol Cymru. Os ydym am weld y genhedlaeth nesaf yn ffynnu, rhaid inni weithredu’n awr. Ni all iechyd plant gael ei drin yn eilradd mwyach. I ddysgu mwy am y gwaith uchod, anfonwch e-bost at Sarah Williamson yn: enquiries-wales@rcpch.ac.uk
18 | PLANT YNG NGHYMRU
Rachel Beddoe, Swyddog Gwybodaeth Ymchwil a Pholisi, Plant yng Nghymru
Iechyd meddwl plant yng Nghymru: galwad i weithredu. Atal, hawliau a chymorth cydgysylltiedig ar gyfer plentyndod iachach: galwadau gan y Rhwydwaith Iechyd Meddwl Plant Mae iechyd meddwl plant yn sylfaenol i ddysgu, datblygiad, perthnasoedd a gwydnwch. Eto i gyd, mae llawer o blant yng Nghymru yn wynebu pwysau a all danseilio llesiant, gan gynnwys tlodi, straen teuluol, unigrwydd, bwlio, gwahaniaethu, niwed sy’n gysylltiedig â chyfryngau cymdeithasol, a phryder am y dyfodol. Mae plentyndod iach yn dibynnu nid yn unig ar wasanaethau, ond ar yr amodau sy’n cael eu creu mewn cartrefi, ysgolion a chymunedau fel bod plant yn teimlo eu bod yn perthyn, yn ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi a’u clywed. Mae Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant 2025–2035 Llywodraeth Cymru yn nodi uchelgais ar gyfer atal, ymyrryd yn gynnar, cydraddoldeb a chymorth integredig. Ar gyfer plant, rhaid i’r uchelgais hwn droi’n gamau gweithredu ymarferol, amserol sy’n seiliedig ar hawliau. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn cydnabod hawliau plant i iechyd, datblygiad, amddiffyniad, chwarae a chyfranogiad, gan gynnwys yr hawl i gael
eu clywed mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Mae’r hawliau hyn yn arbennig o bwysig ym maes iechyd meddwl. Dylid llunio gwasanaethau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer plant ar y cyd â phlant, gan dynnu ar eu profiadau i lywio polisi, dylunio gwasanaethau ac atebolrwydd. Rhaid i ddull sy’n seiliedig ar hawliau flaenoriaethu atal hefyd. Mae iechyd meddwl da yn cael ei feithrin trwy brofiadau bob dydd: perthnasoedd diogel, chwarae, gweithgarwch corfforol, amser yn yr awyr agored, ysgolion cefnogol, cyfeillgarwch, ymdeimlad o berthyn a hyder i ofyn am gymorth. Mae hyn yn golygu na ellir diogelu iechyd meddwl drwy wasanaethau yn unig. Mae angen gwybodaeth hygyrch ar blant, camau gweithredu i herio stigma, ac ysgolion sy’n gallu adnabod trallod, ymateb gyda thosturi a’u cysylltu â chymorth. Mae ysgolion yn ganolog i atal. Dyma lle mae plant yn dysgu, yn meithrin perthnasoedd ac yn treulio rhan helaeth o’u diwrnod, a lle gellir sylwi’n gynnar ar newidiadau mewn ymddygiad neu lesiant emosiynol. Mae Dull Ysgol Gyfan Cymru
HYDREF 2026 | 19
o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol yn cydnabod bod llesiant yn cael ei lunio gan yr amgylchedd addysg cyfan, gyda chefnogaeth gwasanaethau iechyd a’r gymuned ehangach. Tu hwnt i ysgolion, mae angen system ar blant sy’n hawdd ei chyrchu ac sydd wedi’i chydgysylltu o’u cwmpas. Mae hyn yn golygu cysylltiadau cryfach ar draws gofal plant, addysg, iechyd, cymunedau a theuluoedd; cymorth digidol ac wyneb yn wyneb sy’n gweithio gyda’i gilydd; gwiriadau rheolaidd wrth aros am gymorth; uwchgyfeirio cyflym pan fydd iechyd meddwl yn dirywio; a throsglwyddiadau cryfach o wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc i wasanaethau oedolion. Mae gwella iechyd meddwl plant yng Nghymru yn fwy eang nag ehangu gwasanaethau clinigol. Mae’n ymwneud â chreu’r amodau lle gall plant ffynnu. Mae hefyd yn ymwneud â mynd i’r afael â’r amgylchiadau sy’n tanseilio llesiant, cefnogi rhieni a gofalwyr, sicrhau bod gan oedolion dibynadwy y sgiliau i nodi trallod, creu amgylcheddau diogel a chynhwysol, a lleihau stigma ynghylch iechyd meddwl. Nid absenoldeb salwch yn unig yw iechyd meddwl. I blentyn, gall olygu teimlo’n ddigon diogel i ddysgu, cael rhywun i droi ato, cael amser i chwarae, cael ei dderbyn fel ag y mae a gwybod bod ei lais yn cyfrif. Dyma elfennau sylfaenol plentyndod iach, a rhan o’r hyn y dylai pob plentyn yng Nghymru allu ei ddisgwyl. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru yn darparu fframwaith polisi pwysig, ond dim ond pan fydd polisi yn newid profiadau bob dydd plant y daw’n ystyrlon. Gallwch ddarllen galwadau rhwydwaith iechyd meddwl plant am gamau gweithredu yma. Mae rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith Iechyd Meddwl Plant i’w gweld yma. Os hoffech ddysgu mwy am y gwaith hwn, anfonwch e-bost at: Rachel.beddoe@childreninwales.org.uk
20 | PLANT YNG NGHYMRU
Eryl Powell, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Mandy Shide, Cyngor Dinas Casnewydd
Barod i Ddysgu, Barod i Dyfu: Deall datblygiad plant a pharodrwydd ar gyfer yr ysgol led led Gwent Mae rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob babi a phlentyn yn Faes Ffocws ac yn flaenoriaeth allweddol i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent. Yn 2025-26, daeth partneriaid ledled Gwent ynghyd i archwilio cwestiwn pwysig: sut allwn ni gefnogi ddatblygiad plant a theuluoedd sy’n profi tlodi a’u parodrwydd ar gyfer yr ysgol yn well? Y cwestiwn hwn oedd sail y prosiect Barod i Ddysgu, Barod i Dyfu, a ariannwyd drwy Grant Arloesi a Chefnogi Cymunedau Tlodi Plant Llywodraeth Cymru. Cyflwynwyd y prosiect mewn partneriaeth â phob un o’r pum awdurdod lleol yng Ngwent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Home-Start Cymru, Cydweithrediad Ymchwil Penderfynyddion Iechyd Torfaen a phartneriaid o bob cwr o’r rhanbarth. Arweiniwyd y gwerthusiad annibynnol gan yr Athro David Egan a chydweithwyr ym Mhrifysgol De Cymru. Mae ymchwil yn dangos bod sgiliau cymdeithasol, emosiynol, cyfathrebu ac annibyniaeth plant yn chwarae rhan hanfodol yn eu datblygiad a’u lles, tra gall tlodi gael effaith sylweddol ar ddatblygiad plant a chanlyniadau addysgol diweddarach. Gyda thua un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi (Llywodraeth Cymru, Strategaeth Tlodi Plant Cymru: Adroddiad Cynnydd 2025), mae deall y ffordd orau o gefnogi plant a theuluoedd yn ystod y blynyddoedd cynnar yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol. Cyfunodd y prosiect ddwy ffrwd waith. Yn gyntaf, cefnogodd ymyrraeth wedi’i thargerdu, a ddarparwyd gan Home-Start, Cymru 52 o deuluoedd ledled Gwent. Derbyniodd teuluoedd gefnogaeth ymarferol a oedd yn canolbwyntio ar chwarae, cyfathrebu, arferion, rhyngweithio cymdeithasol a datblygiad plant, ochr yn ochr â chefnogaeth deuluol ehangach a phecyn adnoddau am ddim i annog dysgu gartref. Roedd
canfyddiadau’r gwerthusiad yn galonogol. Nodwyd bod angen cefnogaeth ar lawer o blant ar draws meysydd datblygiadol gan gynnwys cyfathrebu, iaith, rhyngweithio cymdeithasol, datblygiad emosiynol a sgiliau annibyniaeth. Ar ôl cymryd rhan, gwelwyd gwelliannau mesuradwy yn y plant yn y meysydd hyn. Gwelwyd newidiadau cadarnhaol hefyd yn hyder rhieni, ymgysylltiad â datblygiad plant a sefydlu trefn arferol gartref, gan helpu teuluoedd i deimlo’n fwy parod am y cyfnod o newid wrth gychwyn yr ysgol. Ochr yn ochr â hyn, casglodd gweithgarwch ymgysylltu farn 287 o rieni a gofalwyr a barn 160 o ymarferwyr o bob cwr o Went ar ddatblygiad plant, parodrwydd ar gyfer yr ysgol a’r gefnogaeth sydd ei hangen ar deuluoedd. Dangosodd y canfyddiadau fod rhieni ac ymarferwyr yn rhannu barn gyffredin bod parodrwydd ar gyfer yr ysgol yn cwmpasu ystod eang o sgiliau datblygiadol. Fodd bynnag, daeth gwahaniaethau i’r amlwg. Rhoddodd ymarferwyr bwyslais penodol ar ddatblygiad lleferydd ac iaith a sgiliau toiled, tra bod rhieni’n fwy tebygol o dynnu sylw at hyder, hapusrwydd, cyfeillgarwch a dysgu cynnar. Tynnodd y canfyddiadau hyn sylw at bwysigrwydd datblygu dealltwriaeth fwy cyson o ddatblygiad plant a pharodrwydd ar gyfer yr ysgol ar draws gwasanaethau a chymunedau. Thema allweddol arall oedd effaith tlodi ar ddatblygiad plant. Nododd ymarferwyr a theuluoedd rwystrau a oedd yn gysylltiedig â fforddiadwyedd, mynediad at gyfleoedd, gwasanaethau ac adnoddau. Ar yr un pryd, tynnodd y gwerthusiad sylw at bwysigrwydd perthnasoedd cryf, cysylltiadau cymunedol a gwasanaethau cymorth blynyddoedd cynnar wrth helpu plant a theuluoedd i ffynnu.
HYDREF 2026 | 21
•
Datblygu dealltwriaeth gyffredin o ddatblygiad plant a pharodrwydd ar gyfer yr ysgol ledled Gwent
•
Creu canllawiau ac adnoddau hygyrch i deuluoedd ac ymarferwyr
•
Cryfhau cefnogaeth ar gyfer datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu
•
Gwella cefnogaeth i deuluoedd
“Mae Barod i Ddysgu, Barod i Dyfu wedi dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau’n dod ynghyd o amgylch cyd-uchelgais i wella canlyniadau i blant a theuluoedd. Mae’r prosiect wedi cryfhau ein dealltwriaeth o ddatblygiad plant a pharodrwydd ar gyfer yr ysgol ledled Gwent, gan ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr a fydd yn helpu i siapio gwasanaethau, polisïau a phartneriaethau yn y dyfodol. Yn bwysicaf oll, mae wedi creu cyfleoedd i bartneriaid ddysgu oddi wrth ei gilydd a datblygu dull mwy cydgysylltiedig o gefnogi plant yn ystod y blynyddoedd cynnar.”
•
Gwella cydweithio ar draws iechyd, addysg, awdurdodau lleol a’r trydydd sector
Eryl Powell, Cadeirydd, Grŵp Llywio Barod i Ddysgu, Barod i Dyfu
•
Rhannu arfer effeithiol
•
Parhau i ddysgu gan blant, teuluoedd ac ymarferwyr trwy werthuso ac ymgysylltu parhaus
“Ni ddylai cyfleoedd plant gael eu pennu gan amgylchiadau ariannol eu teulu. Mae Barod i Ddysgu, Barod i Dyfu wedi rhoi cipolwg gwerthfawr inni ar yr heriau y mae rhai teuluoedd yn eu hwynebu a’r gefnogaeth a all wneud y gwahaniaeth mwyaf. Drwy wrando ar rieni a gofalwyr, rydym wedi cryfhau ein dealltwriaeth o’r rhwystrau a all effeithio ar ddatblygiad plant a pharodrwydd ar gyfer yr ysgol, gan ein helpu i nodi cyfleoedd i leihau anghydraddoldebau a gwella canlyniadau i blant ledled Gwent.”
Nododd y gwerthusiad saith argymhelliad ar gyfer gweithredu yn y dyfodol, gan gynnwys:
Efallai yn bwysicaf oll, atgyfnerthodd y prosiect werth gwrando ar blant, teuluoedd ac ymarferwyr. Rhoddodd y sgyrsiau hyn fewnwelediad gwerthfawr i ddatblygiad plant, yr hyn sydd ei angen ar blant i ffynnu, a lle gall gwasanaethau gydweithio’n fwy effeithiol i gefnogi teuluoedd. Mae’r hyn sydd wedi’i ddysgu o Barod i Ddysgu, Barod i Dyfu eisoes yn helpu i siapio gwaith parhaus ledled Gwent. Gan adeiladu ar y canfyddiadau, mae partneriaid wedi sicrhau cyllid gan Sefydliad 1001 o Ddiwrnodau Critigol i gyflawni’r ymyrraeth To & Fro, gan gryfhau ymhellach y gefnogaeth i blant a theuluoedd yn ystod y blynyddoedd cynnar critigol. Mae’r canfyddiadau hefyd yn cael eu hymgorffori o fewn blaenoriaethau ehangach y Dechrau Gorau mewn Bywyd ledled Gwent ac yn dylanwadu ar ddulliau lleol, gan gynnwys agenda gwrth-dlodi Casnewydd a gwaith parodrwydd ar gyfer yr ysgol ar y cyd ym Mlaenau Gwent. Mae’r gwerthusiad wedi cael derbyniad cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru ac mae’n helpu partneriaid i nodi, rhannu ac adeiladu ar arfer effeithiol ledled y rhanbarth. Gellir cael mynediad at yr adroddiad gwerthuso llawn, y crynodeb gweithredol a’r fersiwn gyfeillgar i blant o’r canfyddiadau yma: Asesiad Anghenion Strategol ar y Cyd y Dechrau Gorau mewn Bywyd gan Gwent - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (Sgroliwch i lawr i ‘Ein Gwaith Arall’).
Mandy Shide, Cyngor Dinas Casnewydd
“Mae bod yn rhan o’r bartneriaeth hon wedi bod yn fraint wirioneddol i Home-Start Cymru. Mae dechrau yn yr ysgol yn garreg filltir fawr i bob plentyn, ond i deuluoedd sy’n byw mewn tlodi, gall ddod â phryderon ychwanegol, o gost gwisgoedd ysgol i beidio â gwybod beth i’w ddisgwyl neu sut orau i helpu eu plentyn i deimlo’n barod. Gan weithio ochr yn ochr â’n partneriaid, mae ein gwirfoddolwyr hyfforddedig wedi darparu cefnogaeth gyson, uni-un i rieni yn eu cartrefi eu hunain, gan eu helpu i ddeall y newid wrth gychwyn yn yr ysgol a thyfu mewn hyder. Mae’r berthynas ddibynadwy honno wedi galluogi teuluoedd i ymgorffori arferion ac ymddygiadau cadarnhaol, fel darllen gyda’i gilydd, sefydlu amseroedd gwely a pharatoi ar gyfer y diwrnod ysgol, a fydd o fudd i’w plant ymhell ar ôl eu tymor cyntaf. Rydym wedi gweld yn uniongyrchol faint o wahaniaeth y mae’n ei wneud pan fydd teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u cynnwys, ac rydym yn falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd.” Iestyn Evans, Home Start Cymru
22 | PLANT YNG NGHYMRU
Mark Carter a Hayley Smith, Barnardo’s Cymru
Darparu dulliau teulu cyfan o wella iechyd a llesiant Yn Barnardo’s Cymru, rydyn ni wedi dysgu pan fydd plentyn neu berson ifanc yn cael trafferth, anaml iawn y bydd yr achosion a’r canlyniadau’n ymwneud â nhw yn unig. Mae plant yn datblygu o fewn rhwydwaith o berthnasau sy’n cynnwys teulu, ysgol, ffrindiau a chymuned. Mae modelau bio-seico-gymdeithasol yn pwysleisio’r rhyngweithio rhwng ffactorau biolegol, seicolegol a chymdeithasol mewn datblygiad iach. Pan darfir ar y cydbwysedd hwn, mae’r perthnasoedd o amgylch plentyn yn dod yn hanfodol i adferiad, gwydnwch a datrys problemau. Ac eto, gall y rhai sydd agosaf at y plentyn hefyd fod yn profi straen ar rieni, salwch, profedigaeth, tlodi, anabledd neu wrthdaro teuluol. Gall profiadau’r rhieni eu hunain lywio eu hymateb, ac efallai y bydd brodyr a chwiorydd a phartneriaid hefyd yn teimlo’r effaith. Gwasanaethau sy’n canolbwyntio’n llwyr ar un unigolyn neu broblem sy’n dod i’r amlwg, sydd mewn perygl o fethu anghenion y teulu ehangach ac un o’u cryfderau mwyaf: ei gilydd.
Mae’r ddealltwriaeth hon yn ganolog i Wasanaeth Lles Teuluoedd Caerdydd, a ddarperir gan Barnardo’s Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth yn darparu cymorth teulu cyfan dan arweiniad clinigol i deuluoedd sydd â phlant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed. Mae ymarferwyr yn archwilio’r heriau sy’n effeithio ar y system deuluol ac yn datblygu pecynnau wedi’u teilwra sy’n cyfuno cymorth i deuluoedd ag ymyriadau seicotherapiwtig. Mae’r cynnig gofal fesul cam yn cynnwys cwnsela i oedolion, pobl ifanc a chyplau; therapïau chwarae, celf a drama; sesiynau teulu; grwpiau creadigol; arweiniad ymarferol; a chysylltiadau â gwasanaethau eraill a gefnogir. Mae ymarferwyr yn gweithio o safbwynt y teulu, gan gydnabod bod teuluoedd yn arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain. Mae ffurf ar y cyd yn nodi beth sydd bwysicaf, sut mae’r teulu’n diffinio newid a’r cyfuniad cywir o gymorth. Gall ymyriadau redeg ochr yn ochr â’i gilydd, gyda chynlluniau’n addasu wrth i ymddiriedaeth ddatblygu ac anghenion newid.
AUTUMN 2026 | 23
Mae ymarfer teulu cyfan hefyd yn hyrwyddo tegwch. Gall teuluoedd ymgysylltu drwy wahanol ddulliau therapiwtig, gyda chymorth wedi’i deilwra o amgylch diwylliant, iaith, anabledd, niwrowahaniaeth a hygyrchedd yn hytrach na disgwyl i bawb ffitio un llwybr. Mae’r hyblygrwydd hwn yn bwysig. Roedd un person ifanc a oedd yn profi mudandod dethol a phryder cynyddol yn teimlo bod grŵp therapi creadigol yn llethol. Yn hytrach nag ystyried hyn fel ymddieithrio, fe wnaeth y gwasanaeth addasu. Cawsant therapi celf unigol tra oedd eu rhieni’n cael cwnsela cyplau. Mynegodd y person ifanc deimladau anodd, siaradodd yn gyfforddus yn ystod apwyntiad meddyg teulu a mynd i’r ysgol uwchradd yn fwy hyderus. Datblygodd eu rhieni ddull myfyriol. Derbyniodd teulu arall gwnsela i oedolion, gweithdy chwarae therapiwtig a sesiynau Meithrin Cysylltiadau ar gyfer mam a’i merch naw oed. Helpodd y gwaith y fam i ystyried sut y dylanwadodd ei phrofiadau yn ystod ei phlentyndod ar ei sgiliau magu plant wrth ailadeiladu cysylltiad a hyder. Nid oedd angen y therapi chwarae a ragwelwyd i ddechrau ar ei merch mwyach, a disgrifiodd y fam y cymorth fel un a oedd yn ‘newid bywyd.’ Ymysg y rheini a roddodd adborth ar ganlyniadau, dywedodd 98.5% fod eu llesiant emosiynol neu feddyliol wedi gwella, roedd 99.5% wedi gwella perthnasoedd teuluol ac roedd 98.8% wedi gwella gwydnwch teuluoedd. Dywedodd pob teulu a ymatebodd sy’n cael ei effeithio gan anabledd fod eu teuluoedd yn fwy gwydn. Dywedodd bron i 98% fod y gwasanaeth wedi bod o fudd iddynt, ac roedd 95.4% yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt. Mae’r canlyniadau hyn yn dangos beth sy’n dod yn bosibl wrth gomisiynu sy’n galluogi ymarferwyr medrus i weithio ar draws ffiniau. Mae’r bartneriaeth yn cysylltu arbenigedd therapiwtig â system cymorth cynnar Caerdydd, gan gynnwys addysg, iechyd, asiantaethau statudol a sefydliadau cymunedol, gan alluogi teuluoedd i gael gafael ar wasanaethau eraill pan fydd y rhain mewn sefyllfa well i ddiwallu eu hanghenion.
Mae’r model hwn yn cyd-fynd ag uchelgais NYTH Cymru ar gyfer cymorth sy’n meithrin, yn grymuso, yn ddiogel ac yn ddibynadwy. Mae’n troi atal yn weithredu ymarferol: gall cymorth cynharach gryfhau perthnasoedd a sgiliau ymdopi, gan leihau’r tebygolrwydd y bydd anawsterau’n troi’n argyfyngau sydd wedyn fel arfer yn gofyn am ymyriad statudol cost uwch. Mae comisiynu mewn partneriaeth yn creu mwy na gwasanaethau cydgysylltiedig; gall ddarparu profiad cydlynol o amgylch y teulu, gan ddod â sefydliadau at ei gilydd o amgylch nodau cyffredin. Pan fydd teuluoedd yn cael eu cefnogi’n gyffredinol, mae newid yn fwy tebygol o barhau. Drwy gryfhau a gweithio gyda theuluoedd, rydyn ni’n creu dyfodol mwy diogel, iach a hapusach i fabanod, plant, pobl ifanc a theuluoedd.
Gwybodaeth am Barnardo’s Cymru Yn Barnardo’s, mae ein pwrpas yn glir – newid plentyndod a newid bywydau, fel bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn ddiogel, yn hapus, yn iach ac yn fwy gobeithiol. Ers 150 o flynyddoedd a mwy, rydyn ni wedi bod yma i’r plant a’r bobl ifanc sydd ein hangen ni fwyaf – gan ddod â chariad, gofal a gobaith i’w bywydau a rhoi lle iddyn nhw deimlo eu bod yn perthyn. Y llynedd, fe wnaeth Barnardo’s Cymru roi cefnogaeth hanfodol i fwy na 11,000 o blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr yng Nghymru, drwy 35 a mwy o wasanaethau a phartneriaethau yng Nghymru. www.barnados.org.uk www.barnados.org.uk/cymru Os hoffech ragor o wybodaeth am y gwaith uchod, anfonwch e-bost at: cardifffamilywellbeing@barnardos.org.uk
24 | PLANT YNG NGHYMRU
Katie Martin, Cyngor Caerdydd
Mae plentyndod iach yn dechrau gyda chwarae I lawer o blant, amser chwarae yw un o rannau pwysicaf y diwrnod ysgol. Dyma pryd mae cyfeillgarwch yn cael ei feithrin, hyder yn tyfu, a phlant yn cael y rhyddid i archwilio, dychmygu a chysylltu ag eraill. Eto i gyd, mae chwarae yn aml yn cael ei anwybyddu wrth inni feddwl am iechyd a lles plant. Yng Nghaerdydd, mae rhaglen Criw’r Iard yn helpu i newid hynny. Wedi’i datblygu drwy Dîm Cwricwlwm Cyngor Caerdydd mewn partneriaeth â Gwasanaethau Chwarae Caerdydd, mae’r rhaglen yn hyfforddi disgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6 i fod yn aelodau o Griw’r Iard, gan eu grymuso i drefnu a hwyluso cyfleoedd chwarae i blant iau yn ystod amser egwyl ac amser cinio. Gan weithio ar system rota, mae Criw’r Iard yn cefnogi disgyblion iau i ymuno, bod yn actif a chael hwyl. Wrth wraidd y rhaglen mae cred syml: mae chwarae’n bwysig. Drwy sesiynau hyfforddi rhyngweithiol, mae disgyblion yn datblygu sgiliau arwain gan gynnwys empathi, cynhwysiant, cyfrifoldeb a chyfathrebu. Maent yn dysgu sut i drefnu gemau, annog cyfranogiad a sicrhau bod pawb yn teimlo bod croeso iddynt. Yn hytrach nag oedolion yn cyfarwyddo’r gweithgareddau, mae’r plant yn cymryd perchnogaeth o’r chwarae ac yn cefnogi ei gilydd. Mae’r angen am raglenni fel Criw’r Iard wedi dod yn fwyfwy amlwg ers pandemig COVID-19. I lawer o blant, amharwyd ar gyfleoedd i chwarae’n gymdeithasol, bod yn gorfforol actif a dysgu ochr yn ochr â’u cyfoedion. O ganlyniad, ni chafodd rhai
gemau iard traddodiadol a sgiliau cymdeithasol eu trosglwyddo’n naturiol o un genhedlaeth o blant i’r nesaf. Mae’r rhaglen yn helpu i ailadeiladu’r profiadau hyn drwy greu cyfleoedd i blant symud, chwarae, cysylltu a dysgu oddi wrth ei gilydd unwaith eto. Mae llawer o oedolion yn cofio chwarae gemau fel hopsgots, gemau sgipio, sownd yn y mwd, tag a chuddio. Fodd bynnag, wrth i sgriniau ac adloniant digidol chwarae rhan gynyddol ym mywydau plant, mae’r cyfleoedd i ddysgu a rhannu gemau iard wedi lleihau. Drwy raglen Criw’r Iard, cyflwynir disgyblion i gemau traddodiadol yn ogystal â gweithgareddau mwy newydd sydd wedi’u datblygu gyda Gwasanaethau Chwarae Caerdydd. Nid dod â gemau’r gorffennol yn ôl yn unig yw nod y rhaglen. Anogir aelodau Criw’r Iard i fod yn greadigol, gan addasu rheolau, datblygu syniadau newydd a chreu fersiynau cwbl newydd o gemau eu hunain. Mae hyn yn datblygu creadigrwydd, cyfathrebu, datrys problemau a sgiliau arwain, gan sicrhau ar yr un pryd fod y gweithgareddau’n parhau’n berthnasol ac yn ddiddorol i blant heddiw. Mae rhai o’r gemau iard mwyaf poblogaidd bellach yn addasiadau a grëwyd gan y plant eu hunain drwy syniadau a dychymyg aelodau Criw’r Iard. Mae chwarae yn sylfaenol i blentyndod iach. Drwy chwarae egnïol, mae plant yn datblygu ffitrwydd corfforol, cydsymud a sgiliau symud. Drwy chwarae cymdeithasol, maent yn dysgu cydweithio, cyfathrebu, empathi a sut i ddatrys gwrthdaro. Mae chwarae hefyd yn cefnogi lles emosiynol, gan helpu plant i feithrin cyfeillgarwch, gwydnwch ac ymdeimlad o berthyn.
HYDREF 2026 | 25
Nid y disgyblion iau yn unig sy’n elwa o’r rhaglen, ond aelodau Criw’r Iard eu hunain hefyd. Drwy arwain gweithgareddau a chefnogi eraill, mae disgyblion hŷn yn datblygu hyder, sgiliau arwain, cyfeillgarwch ac ymdeimlad o berthyn, gan barhau ar yr un pryd i fwynhau manteision chwarae. Mae ysgolion ledled Caerdydd yn cydnabod fwyfwy yr effaith gadarnhaol y gall chwarae dan arweiniad cyfoedion ei chael ar les, cynhwysiant a gweithgarwch corfforol. Mae’r diddordeb yn y rhaglen yn parhau i dyfu wrth i ysgolion weld gwerth rhoi cyfleoedd arwain ystyrlon i blant drwy rywbeth mor syml a phwerus â chwarae. Un datblygiad arbennig o gyffrous fu’r bartneriaeth ag Ysgol Uwchradd Woodlands. Gan weithio’n agos gyda staff, datblygwyd rhaglen Criw’r Iard bwrpasol i sicrhau bod y gweithgareddau’n ystyrlon ac yn hygyrch i ddysgwyr yn y lleoliad arbenigol. Mae’r prosiect wedi dangos bod cyfleoedd i chwarae, rhyngweithio’n gymdeithasol, arwain a theimlo ymdeimlad o berthyn yn bwysig i bob plentyn a pherson ifanc.
“Un o agweddau mwyaf trawiadol y rhaglen fu gweld plant yn cymryd perchnogaeth o’r chwarae. Dydyn nhw ddim wedi dysgu gemau yn unig, maen nhw wedi’u haddasu, eu gwella a chreu fersiynau cwbl newydd eu hunain.” Wrth edrych tua’r dyfodol, bydd y bartneriaeth rhwng Tîm Cwricwlwm Cyngor Caerdydd a Gwasanaethau Chwarae Caerdydd yn parhau i ehangu, gan gynnwys cyflwyno gemau iard drwy gyfrwng y Gymraeg i annog plant i ddatblygu a defnyddio eu Cymraeg drwy chwarae egnïol a rhyngweithio â’u cyfoedion. Os hoffech wybod mwy am y gwaith uchod, cysylltwch â Katie Martin, Arweinydd Cwricwlwm Iechyd a Lles, Cyngor Caerdydd, ar katie.martin@cardiff.gov.uk
26 | PLANT YNG NGHYMRU
Sam Lewis, Llamau
Creu plentyndod iachach trwy ymyrraeth gynnar a chymorth sy’n ystyriol o drawma Mae pob plentyn yn haeddu’r cyfle i dyfu i fyny’n ddiogel, yn iach ac yn gallu cyrraedd ei botensial llawn. Ac eto i lawer o blant ledled Cymru, gall profiadau o gam-drin domestig, trawma teuluol ac ansefydlogrwydd tai gael effaith ddofn ar eu hiechyd corfforol, eu lles emosiynol, eu datblygiad a’u cyfleoedd yn y dyfodol. Yn Llamau, credwn fod creu plentyndod iachach yn dechrau gydag ymyrraeth gynnar, gwrando ar blant a theuluoedd, a darparu’r gefnogaeth gywir cyn i heriau waethygu’n argyfwng. Drwy ein dull sy’n ystyriol o drawma ac sy’n canolbwyntio ar y person, rydym yn gweithio ochr yn ochr â menywod, plant a phobl ifanc i wella diogelwch, cryfhau lles a helpu teuluoedd i adeiladu dyfodol iachach. Mae cam-drin domestig yn parhau i fod yn un o brif achosion digartrefedd i fenywod a phlant. Mae ei effaith yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ddiogelwch corfforol uniongyrchol, gan effeithio ar iechyd meddwl, perthnasoedd teuluol, ymgysylltiad addysgol a chanlyniadau iechyd hirdymor. Y llynedd, cefnogodd Llamau fwy na 4,500 o fenywod, plant
a theuluoedd trwy ein gwasanaethau cam-drin domestig a rhai penodol i rywedd, gan eu helpu i dorri cylchoedd o gam-drin, trawma ac ansefydlogrwydd. Plant sydd wrth wraidd y gwaith hwn. Gwyddom fod profiadau cynnar yn llunio iechyd a lles gydol oes, a bod dod i gysylltiad â cham-drin yn gallu effeithio ar ddatblygiad emosiynol, hyder, perthnasoedd a gwydnwch. Mae ein Gwasanaethau Cam-drin Domestig Plant a Phobl Ifanc penodedig yn darparu cefnogaeth un-i-un a grŵp sy’n briodol i’w hoedran, gan helpu plant i ddeall eu profiadau, mynegi emosiynau a datblygu strategaethau ymdopi iach. Yn aml, darparu diogelwch a sefydlogrwydd yw’r cam cyntaf tuag at adferiad. Drwy ein gwasanaethau lloches a llety, rhoddir cyfle i blant sy’n dianc rhag cam-drin domestig fyw’n rhydd rhag ofn, weithiau am y tro cyntaf yn eu bywydau. Mae llety diogel a sicr yn lleihau amlygiad i drawma parhaus ac yn creu’r sylfaen ar gyfer lles emosiynol gwell, perthnasoedd teuluol cryfach ac ymgysylltiad gwell ag addysg a bywyd cymunedol.
HYDREF 2026 | 27
Mae atal yr un mor bwysig. Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc i archwilio perthnasoedd iach, caniatâd, rheolaeth drwy orfodaeth, diogelwch arlein a chyfathrebu parchus. Drwy roi gwybodaeth, hyder a gwydnwch i bobl ifanc, rydym yn eu helpu i wneud dewisiadau cadarnhaol a datblygu perthnasoedd iachach. Gall mynd i’r afael ag agweddau niweidiol yn gynnar atal cam-drin yn y dyfodol a chefnogi canlyniadau iechyd a lles gwell drwy gydol oes. Mae gweithio mewn partneriaeth hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth wella canlyniadau i blant. Fel rhan o’n contract Gwasanaethau Camdrin Domestig Caerdydd a adnewyddwyd yn ddiweddar, rydym wedi ymgorffori ymarferwyr cam-drin domestig arbenigol mewn hybiau cymunedol ochr yn ochr ag ymwelwyr iechyd. Mae hyn yn caniatáu i bryderon gael eu nodi’n gynharach ac i gymorth gyrraedd teuluoedd yn ystod rhai o gamau pwysicaf datblygiad plentyn.
meddwl gwael ac allgáu cymdeithasol. Drwy ymyrryd yn gynnar, rydym yn helpu pobl ifanc i aros mewn cysylltiad ag addysg, perthnasoedd cefnogol a gwasanaethau hanfodol. Er mai diogelwch yw’r flaenoriaeth uniongyrchol bob amser, y nod hirdymor yw gwella iechyd a lles plant a theuluoedd. Ar draws ein gwasanaethau cam-drin domestig a rhai sy’n benodol i rywedd, nododd 98% o’r bobl a gefnogwyd eu bod yn teimlo’n fwy diogel a nododd 97% fod ansawdd bywyd wedi gwella. Y tu ôl i’r ffigurau hyn mae plant sy’n profi mwy o sefydlogrwydd, perthnasoedd iachach ac amgylcheddau lle gallant dyfu a ffynnu. Wrth i Llamau nodi ei ben-blwydd yn 40 oed yn 2026, rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddatblygu ffyrdd arloesol o atal digartrefedd, lleihau effaith trawma a gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Fel yr eglura’r Prif Weithredwr Sam Austin:
Mae ymyrraeth gynnar yn hanfodol i leihau effaith hirdymor trawma ar iechyd a lles plant. Drwy ddarparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol cyn i heriau waethygu, gall teuluoedd gael mynediad at gymorth yn gynt ac adeiladu perthnasoedd dibynadwy â gwasanaethau. Mae gweithio’n agos gydag ymwelwyr iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill yn helpu i sicrhau bod plant yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.
“Am 40 mlynedd, mae Llamau wedi gweithio ochr yn ochr â phlant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n wynebu rhai o heriau anoddaf bywyd. Rydym yn gwybod bod atal ac ymyrraeth gynnar yn hanfodol i greu dyfodol iachach. Drwy ddarparu gwasanaethau arloesol sy’n ystyriol o drawma a gweithio’n agos gyda phartneriaid, gallwn sicrhau bod plant yn derbyn cefnogaeth cyn gynted â phosibl, gan eu helpu i ffynnu a lleihau’r risg o ddigartrefedd i genedlaethau’r dyfodol.”
Ni ellir gwahanu plentyndod iach oddi wrth lesiant rhieni a gofalwyr. Mae cefnogi mamau i wella o effeithiau cam-drin domestig, ailadeiladu hyder a chael mynediad at dai diogel yn creu amgylcheddau cartref iachach lle gall plant ffynnu. Drwy gymorth arbenigol, rhaglenni grŵp ac ymyriadau sy’n canolbwyntio ar adferiad, rhoddir i deuluoedd yr offer i gryfhau perthnasoedd, gwella lles a symud ymlaen yn gadarnhaol gyda’i gilydd.
Mae creu plentyndod iachach yn golygu cydnabod bod diogelwch, tai, lles emosiynol a pherthnasoedd teuluol yn anwahanadwy. Pan fydd plant yn cael eu hamddiffyn rhag trawma, eu cefnogi i feithrin gwydnwch a mynediad at y cymorth cywir ar yr amser cywir, maent yn gallu mwynhau plentyndod iach yn well a gwireddu eu potensial llawn. Drwy gydweithio, ymyrraeth gynnar ac ymrwymiad i atal, gallwn helpu i sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru y cyfle i dyfu i fyny’n ddiogel, yn iach ac yn llawn gobaith ar gyfer y dyfodol.
Mae ein rhaglenni atal digartrefedd ieuenctid ehangach hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau iachach. Drwy gyfryngu teuluol, cefnogaeth lles, llety arbenigol LHDTC+ a gwasanaethau ymyrraeth gynnar, rydym yn gweithio gyda phobl ifanc sy’n wynebu chwalfa deuluol, trawma neu heriau eraill a all gynyddu’r risg o ddigartrefedd, iechyd
I ddysgu mwy am waith Llamau, ewch i: www.llamau.org.uk
28 | PLANT YNG NGHYMRU
Sarah Williams, Ysgol Penrhyn Dewi
Symud, dysgu, ffynnu: Rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant Gall gweld plant yn rhedeg o dan barasiwt lliwgar, yn cydbwyso’n ofalus dros rwystrau awyr agored neu’n mwynhau gwasgu a siapio Disgo Toes edrych fel chwarae syml. Fodd bynnag, yn Campws Aidan, Ysgol Penrhyn Dewi, mae’r eiliadau hyn yn cynrychioli rhywbeth llawer mwy arwyddocaol. Maent yn enghreifftiau o ddull dysgu cyfoethog mewn symudiad sy’n rhoi datblygiad corfforol, emosiynol a gwybyddol plant wrth wraidd bywyd pob dydd yr ysgol. I’n dysgwyr ieuengaf, rhwng tair a chwe blwydd oed, nid yw symudiad yn cael ei ystyried yn seibiant o ddysgu. Symud yw dysgu.
nag erioed sicrhau bod plant yn cael cyfleoedd rheolaidd i symud, chwarae a datblygu llythrennedd corfforol o’r blynyddoedd cynharaf.
Ers sefydlu Ysgol Penrhyn Dewi, mae Campws Aidan wedi cynnig amgylchedd eang a bywiog lle mae plant yn mwynhau mynediad rhydd rhwng mannau dysgu dan do ac awyr agored drwy gydol y dydd. Mae’r rhyddid hwn yn caniatáu i blant ddilyn eu chwilfrydedd, archwilio eu diddordebau ac ymgysylltu â dysgu mewn ffyrdd sy’n teimlo’n naturiol ac yn ystyrlon. Boed y tu mewn neu’r tu allan, mae symudiad yn rhan annatod o’r profiad dysgu.
Daeth foment arbennig o ddylanwadol ym mis Chwefror 2025 pan mynychodd staff y Cyfnod Sylfaen sesiwn dysgu proffesiynol gyda Shonette Bason-Wood, sylfaenydd ‘Spread the Happiness’. Roedd llawer o’r staff eisoes yn gyfarwydd â gwaith ysbrydoledig Shonette, ond rhoddodd y diwrnod hyfforddi fewnwelediad newydd i’r rôl hanfodol y mae symudiad yn ei chwarae wrth gefnogi datblygiad a llesiant plant.
Mae ein hymrwymiad i addysgeg sy’n seiliedig ar symudiad wedi’i wreiddio mewn corff cynyddol o ymchwil sy’n amlygu pwysigrwydd gweithgarwch corfforol ar gyfer datblygiad yr ymennydd, llesiant a llwyddiant plant yn y dyfodol. Mewn byd lle mae ffyrdd o fyw eisteddog a defnydd o sgriniau yn dod yn fwyfwy cyffredin, credwn ei bod yn bwysicach
Mae datblygu arbenigedd staff wedi bod yn ganolog i’r daith hon. Mae llawer o aelodau ein tîm Cyfnod Sylfaen wedi cwblhau hyfforddiant SKIP (Successful Kinesthetic Instruction for Preschoolers) drwy Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae’r dysgu proffesiynol hwn wedi dyfnhau ein dealltwriaeth o’r cysylltiad pwerus rhwng symudiad a dysgu, gan alluogi staff i ymgorffori datblygiad corfforol yn bwrpasol ar draws pob maes o’r cwricwlwm.
Dychwelodd y staff yn llawn egni ac ysbrydoliaeth, gan rannu eu dysgu gyda chydweithwyr a mireinio’r ddarpariaeth ar draws y campws ymhellach. Heddiw, fel tanysgrifwyr i ‘Spread the Happiness’, mae ein tîm yn parhau i elwa ar adnoddau o safon uchel, cyfleoedd datblygiad proffesiynol ac ymchwil gyfredol sy’n llywio ein harfer.
HYDREF 2026 | 29
Mae effaith y daith hon i’w gweld bob dydd. Gan ddeall heriau plentyndod modern digidol a phwysigrwydd diwallu anghenion gweithgarwch corfforol plant, rydym wedi blaenoriaethu symudiad drwy gydol diwrnod yr ysgol. Mae gweithgareddau fel Rhedeg Dyddiol, Toes Disgo, ‘Scribble While You Wiggle’ a Rhigymau Parasiwt wedi dod yn rhan annatod o’n trefniadau dyddiol. Yn hytrach na bod yn weithgareddau ar wahân, maent wedi’u hymgorffori’n ofalus mewn sesiynau cofrestru, ffoneg a phrofiadau dysgu ehangach. Mae’r cyfleoedd hyn yn helpu plant i ddatblygu cryfder craidd, cydbwysedd, cydsymud a sgiliau echddygol manwl, tra hefyd yn cefnogi canolbwyntio, cyfathrebu, gwydnwch a rheolaeth emosiynol. Maent yn darparu profiadau llawen ac egniol sy’n paratoi plant i ddysgu a ffynnu. Mae symudiad yng Nghampws Aidan yn ymestyn ymhell y tu hwnt i sesiynau penodol. Mae ein hamgylcheddau wedi’u cynllunio’n fwriadol i annog plant i symud yn naturiol drwy’r dydd wrth iddynt ddringo, cydbwyso, cludo adnoddau, adeiladu, cloddio, ymchwilio ac ymgymryd â chwarae dychmygus. Gellir gweld plant yn ysgubo dail o’r ardd, yn cario deunyddiau rhydd i greu ardal adeiladu neu’n datblygu eu cydbwysedd a’u hyder drwy gyrsiau rhwystrau sydd wedi’u cynllunio ganddynt eu hunain. Mae’r profiadau hyn, sy’n ymddangos yn syml, yn gyfoethog o ran dysgu. Wrth symud, mae plant yn cryfhau eu cyhyrau, yn datblygu cydsymud ac yn dysgu rheoli risg. Ar yr un pryd, maent yn datblygu annibyniaeth, sgiliau datrys problemau, creadigrwydd a gwydnwch. Nid yw datblygiad corfforol yn rhywbeth ar wahân; mae wedi’i wau i wead dysgu bob dydd. Wrth gwrs, mae plentyndod iach yn ymwneud â mwy na iechyd corfforol yn unig. Mae symudiad hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi lles meddyliol. Mae chwarae gweithredol yn helpu plant i reoli emosiynau, sefydlu perthnasoedd cadarnhaol a datblygu ymdeimlad o berthyn. Mae’n creu cyfleoedd ar gyfer llwyddiant, cydweithio a hunanhyder ar oedran pan fo’r seiliau hyn mor bwysig. Rydym hefyd yn cydnabod bod rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant yn gofyn am bartneriaeth gref rhwng yr ysgol a’r cartref. Trwy brosiectau ymgysylltu
cymunedol, sesiynau Chwarae ac Aros bob hanner tymor a chyfleoedd dysgu i deuluoedd, rydym yn ceisio helpu rhieni a gofalwyr i ddeall yn well bwysigrwydd symudiad yn ystod plentyndod cynnar. Mae ein sesiynau Chwarae ac Aros yn gwahodd teuluoedd i mewn i’n hamgylchedd dysgu i brofi dysgu cyfoethog mewn symudiad drostynt eu hunain ac i archwilio ffyrdd ymarferol o gefnogi datblygiad eu plant gartref. Haf diwethaf, roeddem yn falch iawn o groesawu Dr Amanda John, a gyflwynodd weithdy Mini Movers i rieni a’u plant. Rhoddodd y sesiwn fewnwelediad gwerthfawr i ddatblygiad corfforol tra’n arfogi teuluoedd â gweithgareddau syml a hwyliog y gallent eu parhau y tu hwnt i gatiau’r ysgol. Yn Ysgol Penrhyn Dewi, credwn fod pob plentyn yn haeddu’r cyfle i symud, dysgu a ffynnu. Trwy amgylcheddau ysbrydoledig, staff hynod fedrus a phartneriaethau cryf gyda theuluoedd, rydym yn creu diwylliant lle mae symudiad, llesiant a dysgu yn mynd law yn llaw. Drwy creu cyrff hyderus, meddyliau iach a mwynhad gydol oes o fyw’n gweithredol, gobeithiwn roi i’n dysgwyr ieuengaf nid yn unig y dechrau gorau posibl yn yr ysgol, ond hefyd y sylfaen gryfaf bosibl ar gyfer bywyd.
“Mae’r dechrau gorau mewn bywyd yn dechrau gyda’r rhyddid i symud, chwarae, archwilio a ffynnu.” Os hoffech wybod mwy am y gwaith sy’n cael ei wneud yn yr ysgol, anfonwch e-bost at Sarah Williams, Pennaeth y Cyfnod Sylfaen: GoodridgeS1@Hwbcymru.net
30 | PLANT YNG NGHYMRU
Amy Bainton, Tai Pawb
Cartref iach i bob plentyn Mae cartref yn bopeth. Cartref yw’r man lle dylen ni fod yn gynnes, yn saff, yn gyfforddus, ac yn ddiogel. Hwn yw’r man lle mae ein diwrnod yn dechrau ac yn gorffen, a lle gall ein cyrff a’n meddyliau orffwys. Ond, rydyn ni’n gwybod bod gormod o blant yng Nghymru nad ydyn nhw’n byw mewn cartrefi sy’n eu rhoi ar ben ffordd i ffynnu. Mae 31% o blant Cymru’n byw mewn tlodi, ac mae dros 2,000 o blant yn byw mewn llety dros dro ar hyn o bryd – gall hyn olygu eu bod yn byw mewn llety gorlawn neu anaddas, gan gynnwys teulu’n rhannu un ystafell mewn gwesty neu lety gwely a brecwast. Credir bod 31% o blant yn byw mewn cartref sy’n orlawn ar sail dadansoddiad o’r Cyfrifiad diwethaf1. Yn amlwg, mae bod heb gartref saff ac addas yn effeithio ar gynifer o rannau eraill o fywyd plentyn – iechyd, addysg, iechyd meddwl – a gall y canlyniadau emosiynol a’r canlyniadau o ran llesiant gael effaith enfawr. Mae plant yn haeddu bywyd cartref sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n obeithiol am eu bywydau – yn awr ac yn y dyfodol. Pan nad yw rhywbeth mor sylfaenol â chartref yn creu’r amgylchiadau hynny, gall atseinio drwy gydol bywyd plentyn. Gan gydweithio fel clymblaid Cefnogi’r Bil, mae Tai Pawb, Shelter Cymru a CIH Cymru yn credu bod deddfu i greu Hawl i Gartref Digonol yng nghyfraith Cymru yn gyfle i fynd i’r afael â’r problemau hyn sydd wedi bod yn anodd eu goresgyn cyhyd yng Nghymru. Mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i ddeddfu i greu’r Hawl i Gartref Digonol yng Nghymru. Mae hwn yn gyfle pwysig i bawb yng Nghymru. Mae’n creu dull o weithredu sy’n seiliedig ar hawliau i fynd i’r afael â’r broblem sydd wrth wraidd cynifer o broblemau eraill; sicrhau bod gan bob babi, plentyn a pherson ifanc gartref saff ac addas.
Mae’r Hawl i Gartref Digonol yn hawl ddynol sy’n mynd y tu hwnt i gael to dros eich pen. Mae’n golygu y dylai pawb gael mynediad at gartref saff, diogel, fforddiadwy a hygyrch sy’n addas i bobl fyw ynddo, heb wahaniaethu. Mae cartref digonol hefyd yn cynnwys diogelwch deiliadaeth cyfreithiol, mynediad at wasanaethau, a’r gallu i fyw gydag urddas ac i chwarae rhan lawn yn y gymdeithas. Os gwnawn ni ymrwymo i wireddu’r Hawl i Gartref Digonol mewn ffordd flaengar yng Nghymru, canfu dadansoddiad annibynnol o’r costau a’r manteision2 y gallai greu buddiannau amrywiol i wasanaethau Cymru a’i chymdeithas. Ar sail canfyddiadau Alma Economics, gall rhoi terfyn ar ddigartrefedd a gwneud addasiadau tai gynhyrchu tua £1 biliwn o arbedion costau i GIG Cymru dros gyfnod o 30 mlynedd oherwydd gostyngiad yn y defnydd o sawl gwasanaeth cymorth, yn ogystal â manteision oherwydd gostyngiad yn nifer y damweiniau yn y cartref. Mae hon yn un enghraifft o’r ffordd y gallai’r hawl gael effaith enfawr ar y miloedd o blant sydd ar hyn o bryd yn wynebu canlyniadau iechyd andwyol cartrefi lle ceir lleithder a llwydni, neu effaith y trawma o beidio â chael gwreiddiau mewn cartref saff ar eu hiechyd meddwl. Mae gan blant ag anableddau hawl i gartref y gellir ei addasu i ddiwallu eu hanghenion, ond mae gennym ni brinder cronig o gartrefi y gellir eu haddasu a chartrefi sydd wedi’u haddasu, rhywbeth sy’n creu brwydr ddiangen i blant a’u teuluoedd. Bu i Alma Economics hefyd amcangyfrif y byddai’r gwelliannau tai a fyddai’n deillio o ymgorffori’r Hawl i Gartref Digonol yn gwireddu manteision o ran addysg a llesiant plant. O ymgorffori’r Hawl i Gartref Digonol, gallai olygu bod mwy o incwm teulu ar gael i’w wario ar faeth, rhywbeth sy’n helpu i wella gallu plentyn i chwarae rhan lawn mewn addysg ac i elwa’n llawn arni.
HYDREF 2026 | 31
Yn y sector plant, rydyn ni’n gwybod am rym dull o weithredu sy’n seiliedig ar hawliau ar ôl blynyddoedd lawer o ymgyrchu i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn llwyr. Rydyn ni’n gweld sut mae plant yn cael eu grymuso i ddadlau dros eu hawliau, i arfer eu hawl i gael pobl i wrando arnyn nhw, ac i gael pobl i ymgysylltu â nhw ynglŷn â’r penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw. Mae llawer i’w ddysgu o’r profiad o ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhannol, wrth inni symud tuag at ddeddfu dros Hawl i Gartref Digonol. Mae pob plentyn yn haeddu plentyndod hapus a gobeithiol, ac mae cartref yn sylfaen i blentyndod o’r fath. Mae angen inni fod yn ddigon dewr i gymryd y camau i warantu hyn fel hawl, a hon yw’r foment inni fod yn ddewr. Ni ddylai fod yn fater o lwc nac amgylchiad fod rhai plant yn cael eu magu mewn cartref sy’n saff ac yn addas tra nad yw eraill. Nid rhywbeth sy’n cael ei ennill yw cartref, ond hawl ddynol sylfaenol y mae gan bob un ohonon ni hawlogaeth iddi. Dylai’r Hawl i Gartref Digonol fod yn foment pan fo Llywodraeth Cymru’n gofyn sut gallwn ni sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y cartref y mae’n ei haeddu. I ddysgu mwy am y gwaith polisi a wneir gan Tai Pawb, anfonwch e-bost at Amy Bainton, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus, yn: amy@taipawb.org
1 https://www.bevanfoundation.org/views/links-child-poverty-housing/ 2 https://www.taipawb.org/wp-content/uploads/2026/05/Alma-Economics-Back-the-Bill-Final-Phase-2-report.pdf
32 | PLANT YNG NGHYMRU
Clare Pritchard, Uned Hawliau Plant Castell-nedd
Gweithredu ar farn pobl ifanc: Creu plentyndod iachach drwy hawliau plant Mae creu plentyndod iachach yn dechrau drwy wrando Ar draws Cwm Afan Uchaf, mae’r prosiect KnowURights wedi bod yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc i archwilio eu hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ac i sicrhau bod eu lleisiau’n helpu i siapio’r penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Drwy weithdai sy’n seiliedig ar hawliau a gyflwynir mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol, mae pobl ifanc wedi archwilio pynciau sy’n cynnwys llesiant emosiynol, perthyn, iechyd meddwl a chyfranogiad, gan ddatblygu dealltwriaeth gryfach o’u hawliau a’u rôl yn eu cymunedau. Mae Erthygl 12 CCUHP yn datgan bod gan blant yr hawl i fynegi eu barn yn rhydd ar bob mater sy’n effeithio arnynt, ac i’r farn honno gael ei chymryd o ddifrif. Mae Erthygl 24 yn cydnabod hawl pob plentyn i’r safon iechyd uchaf posibl, gan gynnwys iechyd meddwl a llesiant. I ni, mae cysylltiad agos rhwng yr hawliau hyn. Mae
canlyniadau iechyd plant yn gwella pan fyddwn yn gwrando arnynt, yn eu parchu ac yn eu cynnwys yn y gwaith o lunio’r cymorth sydd ar gael iddynt. Ym mis Mehefin, nododd pobl ifanc a gymerodd ran mewn gweithdy pleidleisio mai cymorth iechyd meddwl oedd un o’u prif flaenoriaethau. Yn hytrach na gorffen gydag ymgynghori, canolbwyntiodd y prosiect ar sicrhau bod barn pobl ifanc yn arwain at weithredu ystyrlon. Mae hon yn un o egwyddorion craidd dull KnowURights. Dylai cyfranogiad fod yn rhywbeth parhaus. Dylai plant a phobl ifanc weld sut mae eu barn yn dylanwadu ar benderfyniadau, gwasanaethau a buddsoddiad yn eu cymunedau. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae pobl ifanc wedi cymryd rhan mewn gweithdai ar draws Cwm Afan Uchaf a oedd yn canolbwyntio ar lesiant emosiynol, gwydnwch, perthyn ac ymwybyddiaeth o iechyd meddwl. Mae’r sesiynau hyn yn creu cyfleoedd diogel a chroesawgar i blant a phobl ifanc drafod pryderon, edrych ar emosiynau, a magu hyder wrth ofyn am gymorth pan fo angen. Drwy weithgareddau creadigol, trafodaethau ac ymgysylltu â chyfoedion,
HYDREF 2026 | 33
mae pobl ifanc yn dysgu bod siarad am “deimladau mawr” yn normal ac yn bwysig. Drwy weithgareddau cymunedol, gan gynnwys sesiynau Siarad Wrth y Bwrdd sy’n cael eu cynnal gan Uned Hawliau Plant Castell-nedd, mae pobl ifanc wedi gallu cwrdd â gwasanaethau mewn amgylcheddau anffurfiol a diddorol, fel y Cydlynydd Llesiant newydd i Blant a Phobl Ifanc ar gyfer Clwstwr GIG Afan a Phort Talbot. Mae’r sesiynau hyn yn helpu i chwalu rhwystrau, meithrin ymddiriedaeth ac annog sgyrsiau am lesiant heb y pwysau sy’n aml yn gysylltiedig â lleoliadau cymorth ffurfiol. Mae’r prosiect hefyd wedi dangos pwysigrwydd creu cyfleoedd i blant a phobl ifanc nodi’r hyn sydd eisoes yn cefnogi eu llesiant. Mae gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar berthyn wedi annog plant i nodi’r lleoedd lle maen nhw’n teimlo’n ddiogel, lle mae croeso iddyn nhw, a lle maen nhw’n teimlo eu bod wedi’u cysylltu yn eu cymunedau. Roedd llawer wedi nodi pwysigrwydd oedolion dibynadwy, cyfeillgarwch, clybiau ieuenctid a hybiau cymunedol. Dywedodd pobl ifanc wrthym yn gyson fod cael mannau lle maen nhw’n teimlo bod pobl yn gwrando arnyn nhw ac yn eu gwerthfawrogi yn chwarae rhan bwysig o ran cefnogi eu hiechyd meddwl a’u llesiant. Yn bwysig, mae cymunedau lleol yn fwy awyddus i gyd-ddylunio gwasanaethau gyda phobl ifanc yn hytrach na dim ond dylunio gwasanaethau ar eu cyfer.
Mae cyfarfodydd a drefnwyd gan arweinwyr hybiau cymunedol lleol wedi dod â darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl a sefydliadau cymunedol at ei gilydd i ystyried sut gall blaenoriaethau pobl ifanc siapio darpariaeth llesiant yn y dyfodol. Bydd plant a phobl ifanc yn gweithio ochr yn ochr ag oedolion ar bob cam. Mae’r nod yn glir: dylai prosiectau a buddsoddiadau yn y dyfodol adlewyrchu’r blaenoriaethau a nodwyd gan y bobl ifanc eu hunain a’u cynnwys ar bob cam o brosiect, o’r sgwrs gyntaf hyd at y camau dylunio, cyflawni a gwerthuso. Drwy weithio ochr yn ochr â phobl ifanc yn hytrach na gwneud penderfyniadau ar eu rhan, gall cymunedau greu cymorth mwy effeithiol, hygyrch ac ystyrlon sy’n ymateb i anghenion lleol. Mae’r prosiect KnowURights wedi dangos nad yw cyfranogiad plant yn weithgaredd ychwanegol; mae’n adnodd hanfodol ar gyfer creu plentyndod iachach. Pan fydd pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, maen nhw’n datblygu hyder, hunanwerth ac ymdeimlad cryfach o berthyn. Pan fydd cymunedau’n gwrando ac yn gweithredu, bydd gwasanaethau’n fwy effeithiol. Pan fydd hawliau’n cael eu rhoi ar waith, bydd iechyd a llesiant yn gwella. I gael mwy o wybodaeth am brosiect KnowURights, cysylltwch â: clairep@childrensrightsunit.org.uk
34 | PLANT YNG NGHYMRU
Joanne Baldock, Heol Chwarae Rol - Role Play Lane
Beth sy’n creu plentyndod iach? Mae plentyndod iach yn cynnwys llawer o bethau. Mae angen cyfleoedd ar blant i chwarae, symud, bwyta’n iach, creu ac archwilio. Mae angen cyfleoedd arnynt i gyfathrebu, meithrin cyfeillgarwch, magu hyder a theimlo eu bod yn perthyn. Mae eu lles emosiynol yr un mor bwysig â’u hiechyd corfforol, ac mae lles yr oedolion sy’n gofalu amdanynt yn bwysig hefyd. Yn Heol Chwarae Rol - Role Play Lane, dyma’r mathau o gyfleoedd rydym yn eu darparu bob dydd drwy amrywiaeth o sesiynau a gweithgareddau i blant a theuluoedd. Mae chwarae rôl yn rhoi cyfleoedd i blant ddefnyddio eu dychymyg, arwain eu chwarae eu hunain, cyfathrebu, datrys problemau a rhyngweithio ag eraill. Yn ogystal â hyn, mae ein sesiynau cerddoriaeth a symud yn annog gweithgarwch corfforol, cydsymud a mynegiant; mae sesiynau synhwyraidd i fabanod a phlant bach yn galluogi ein plant ieuengaf i archwilio drwy eu synhwyrau; ac mae coginio, crefft, drama a chanu yn cynnig cyfleoedd i greu, dysgu sgiliau newydd a magu hyder. Nid yw’r profiadau hyn yn digwydd ar wahân. Efallai bod plentyn sy’n cymryd rhan mewn sesiwn goginio yn dysgu am fwyd, ond mae hefyd yn dilyn cyfarwyddiadau, datblygu annibyniaeth, rhoi cynnig ar rywbeth newydd ac yn profi’r balchder o greu rhywbeth ei hun. Mewn sesiwn cerddoriaeth a symud, nid gweithgarwch corfforol yn unig sy’n digwydd; mae plant hefyd yn gwrando, cyfathrebu, mynegi eu hunain a rhyngweithio ag eraill.
Rydym hefyd yn gweld beth sy’n digwydd pan fydd plant yn cael y cyfle i ddychwelyd. I ddechrau, roedd un plentyn, Harry, yn ei chael hi’n anodd ymuno â’n sesiynau cerddoriaeth a symud. Drwy ddychwelyd i’r un amgylchedd cyfarwydd a chroesawgar, gwelsom ei hyder yn tyfu. Yn raddol, dechreuodd ymuno mwy, rhyngweithio a theimlo’n fwy cyfforddus o fewn y grŵp. Gall yr hyn sy’n ymddangos yn gamau bach i eraill fod yn gyflawniadau enfawr i blentyn unigol. Mae’r parhad hwnnw’n bwysig i ni. Gall teuluoedd ddod drwy ein drysau am y tro cyntaf gyda babi neu blentyn bach ac, wrth i’w plentyn dyfu, gallant gael mynediad at wahanol weithgareddau a phrofiadau. Mae ein darpariaeth yn parhau drwy blentyndod a thu hwnt, gan gynnwys sesiynau Sgiliau Bywyd i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), sy’n cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ymarferol, annibyniaeth, cyfeillgarwch a hyder. Weithiau, mae lles hefyd yn tyfu mewn mannau annisgwyl. Rydym yn darparu byrbrydau iach yn ystod llawer o’n sesiynau a ariennir. Wrth i’r plant eistedd a bwyta gyda’i gilydd, mae rhieni a gofalwyr yn dechrau sgwrsio’n naturiol. Mae’r sgyrsiau’n troi at gwsg, defnyddio’r toiled, dewisiadau ac arferion bwyta, datblygiad a heriau bob dydd bywyd teuluol. Rhennir profiadau, ceir sicrwydd ac mae cyfeillgarwch yn ffurfio rhwng oedolion yn ogystal â phlant. Mae dau aelod o’n tîm rheoli wedi cwblhau hyfforddiant maeth, gan helpu i lywio ein dull o
HYDREF 2026 | 35
ddarparu byrbrydau iach a gweithgareddau bwyd. Mae pedwar aelod o staff hefyd yn dilyn cymwysterau Gwaith Chwarae, tri ar Lefel 2 ac un ar Lefel 3, gan ddatblygu ymhellach ddealltwriaeth ein tîm o bwysigrwydd chwarae ym mywydau plant. Rydym hefyd yn credu y dylai’r cyfleoedd hyn fod yn hygyrch. Canfu ein harolwg cymunedol ym mis Mawrth 2025 fod 67.6% o’r ymatebwyr wedi cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw, gyda 16.7% arall yn ateb “efallai”, tra dywedodd 89.5% fod sesiynau a ariennir yn eu galluogi i fynychu. Ochr yn ochr â’n darpariaeth gyffredinol fforddiadwy, mae sesiynau a ariennir a chyfleoedd penodol i blant ag ADY yn ein helpu i leihau rhai o’r rhwystrau y mae teuluoedd yn eu hwynebu. Yr haf hwn, ychwanegodd Meithrin Natur: Nature Nurture, ein prosiect lles blynyddoedd cynnar, elfen arall. Drwy bartneriaethau a gweithgareddau i blant 0–5 oed a’u teuluoedd, buom yn archwilio sut y gall natur, chwarae yn yr awyr agored, creadigrwydd a phrofiadau synhwyraidd gyfrannu at les. Derbyniodd ein harolwg cymunedol cysylltiedig 167 o ymatebion, gan roi llais i deuluoedd ynghylch yr hyn maent yn ei werthfawrogi a’r cyfleoedd yr hoffent eu gweld yn cael eu datblygu. I ni, nid oes un elfen unigol sy’n creu plentyndod iach. Mae chwarae, symud, maeth, creadigrwydd, archwilio, cyfathrebu, cyfeillgarwch, hyder, cynhwysiant, natur a chysylltiad i gyd yn chwarae rhan.
Gall darparu’r cyfleoedd hyn drwy wahanol gyfnodau plentyndod gael effaith barhaol hefyd. Mae plant yn magu hyder, teuluoedd yn ffurfio cyfeillgarwch a phobl ifanc yn datblygu sgiliau ac annibyniaeth. Yn bwysicaf oll, cânt gyfleoedd i gymryd rhan yn eu cymuned a theimlo eu bod yn perthyn iddi. Yn Heol Chwarae Rol - Role Play Lane, rydym yn gweld y gwahanol elfennau hyn yn dod at ei gilydd bob dydd, gan gefnogi a chyfoethogi profiadau plant a chreu cyfleoedd nid yn unig ar gyfer y sesiwn y maent yn ei mynychu heddiw, ond ar gyfer twf, cysylltiad ac ymdeimlad o berthyn wrth iddynt dyfu. Os hoffech wybod mwy am waith Heol Chwarae Rol, cysylltwch â: visitsatroleplaylane@gmail.com
36 | PLANT YNG NGHYMRU
Chris Gledhill a Celida Caldecott, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn Conwy Diweddariad Chwaraeon a Bwyd Haf 2026 Mae Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn Conwy wedi cael tymor yr haf prysur iawn, gyda chanolbwynt penodol ar hyrwyddo a gwella iechyd a lles plant a phobl ifanc yn sir Conwy. Trwy ein rhaglen arloesol ‘Chwaraeon a Bwyd’ fe wnaethom helpu i ddarparu brecwast a chinio maethlon i blant a phobl ifanc ar draws Sir Conwy wrth eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol trwy chwaraeon a hamdden. Roedd y rhaglen hefyd yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc diamddiffyn i gael mynediad at gefnogaeth a chyngor, wrth ddatblygu a gwella eu gwybodaeth a sgiliau a pharatoi byrbrydau a phrydau iach. Cynhaliwyd Chwaraeon a Bwyd yn Llanrwst am yr ail flwyddyn yn olynol ac unwaith eto, cafwyd presenoldeb da gyda mwy na 100 o bobl ifanc yn cyfranogi dros y rhaglen tair wythnos. Roedd y prosiect yn darparu amgylchedd diogel a chroesawgar lle’r oedd pobl ifanc yn gallu mwynhau amrywiaeth o weithgareddau, cymdeithasu gyda
ffrindiau a gwneud rhai newydd, a chael mynediad at brydau maethlon. Ar gyfer nifer o deuluoedd lleol, roedd y rhaglen yn cynnig cefnogaeth werthfawr yn ystod gwyliau’r haf trwy ddarparu dau bryd dyddiol i bobl ifanc. Roedd hyn wedi helpu i leihau’r pwysau ariannol, a sicrhau fod gan blant a phobl ifanc fynediad rheolaidd at fwyd iach trwy gydol y dydd. Mae lefelau presenoldeb a’r ymgysylltiad cadarnhaol yn dangos pwysigrwydd y rhaglen o ran cefnogi pobl ifanc a theuluoedd yn y gymuned leol. Gobeithiwn adeiladu ar y llwyddiant hwn a darparu’r rhaglen eto’r flwyddyn nesaf. Fe wnaethom hefyd dreialu Chwaraeon a Bwyd yng Ngogledd Conwy am y tro cyntaf, gan ddarparu sesiynau ar draws naw diwrnod yn ystod gwyliau’r haf. Cafodd y rhaglen dderbyniad da, gyda phresenoldeb o fwy na 10 o bobl ifanc ym mwyafrif y sesiynau. Roedd yr adborth gan gyfranogwyr yn hynod o gadarnhaol, gyda nifer yn mynegi diddordeb mewn
HYDREF 2026 | 37
mynychu darpariaeth debyg yn y dyfodol. Ar y cyd â Chwaraeon a Bwyd, fe ddarparom raglen amrywiol o weithgareddau trwy gydol yr haf, gan gynnwys chwaraeon aer, glanhau traeth a barbeciw ar y traeth. Nododd y bobl ifanc mai eu hoff weithgareddau oedd glanhau’r traeth a’r barbeciw. Yn benodol roeddent yn gwerthfawrogi’r cyfle i roi’n ôl i’w cymuned trwy helpu i gadw’r arfordir yn lân, a datblygu synnwyr dyfnach o falchder yn eu hamgylchedd lleol. Roedd y sesiwn yn annog gwaith tîm, cyfrifoldeb amgylcheddol ac ymgysylltiad cymunedol, gan ddarparu profiad hwyliog a boddhaus i bawb ynghlwm. Ynghyd â’r rhaglen Chwaraeon a Bwyd, mae’r Tîm Ysgolion Bro wedi cael haf gwych arall yn cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd ledled Conwy. Roedd yn bleser gennym helpu i gyflwyno’r rhaglen Bwyd a Hwyl mewn 13 o ysgolion, gan ddarparu gweithgareddau hwyliog, prydau maethlon a chyfleoedd cyffrous drwy’r gwyliau. Roedd y presenoldeb yn anhygoel o uchel, gyda channoedd o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan ac yn creu atgofion bythgofiadwy. Hefyd parhaodd y tîm i gefnogi teuluoedd ar hyd a lled y sir, gan sicrhau bod ganddynt fynediad at gyngor, arweiniad a chyfleoedd pan oeddent eu hangen fwyaf. Mae wedi bod yn wych gweld sut all weithgareddau ar gyfer pobl ifanc sy’n eu hannog nhw i gymryd rhan a dysgu sgiliau newydd, wrth eu bwydo hefyd, yn gallu mynd yn bell tuag at liniaru ansicrwydd bwyd i deuluoedd.
Os hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw un o’r mentrau uchod, anfonwch e-bost at: Chris.Gledhill@conwy.gov.uk
38 | PLANT YNG NGHYMRU
Alexandra Gdula, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
Creu plentyndod iachach drwy Fwyd a Hwyl Mae pob plentyn yn haeddu’r cyfle i dyfu i fyny’n iach, yn hapus ac wedi’i gefnogi. Fodd bynnag, i lawer o deuluoedd, gall gwyliau’r ysgol ddod â heriau ychwanegol, gan gynnwys ansicrwydd bwyd, llai o gyfleoedd i fod yn gorfforol egnïol, arwahanrwydd cymdeithasol a phwysau cynyddol ar les teuluol. Ledled Cymru, mae rhaglen cyfoethogi gwyliau’r ysgol Llywodraeth Cymru, Bwyd a Hwyl, yn helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn a sicrhau bod plant yn gallu mwynhau plentyndod iachach, beth bynnag fo’u hamgylchiadau. Bellach yn ei hunfed flwyddyn ar ddeg ac yn cael ei chyflwyno drwy ddull amlasiantaethol, mae’n darparu prydau bwyd iach, gweithgarwch corfforol, cyfleoedd cyfoethogi a phrofiadau cymdeithasol cadarnhaol i blant yn ystod gwyliau’r haf. Mae’n adlewyrchu dull ataliol o gefnogi iechyd a lles plant, gan gydnabod bod plentyndod iach yn cael eu siapio nid yn unig gan fynediad at ofal iechyd, ond hefyd gan gyfleoedd i ddysgu, chwarae, cysylltu a ffynnu.
Hyrwyddo ffyrdd iach o fyw Mae bwyta’n iach, gweithgarwch corfforol a chyfoethogi wrth galon Bwyd a Hwyl. Mae’r brecwastau a’r cinio a ddarperir yn bodloni
safonau bwyd ysgol, ac mae plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau addysg bwyd ymarferol a phleserus. Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu i feithrin perthynas gadarnhaol â bwyd, gan greu arferion iach a all bara am oes. Darperir ystod amrywiol o weithgareddau eraill dros o leiaf 12 diwrnod, sy’n helpu plant i aros yn egnïol wrth ddatblygu hyder, gwydnwch, gwaith tîm a sgiliau cymdeithasol. I lawer o blant, mae’n cynnig mynediad at weithgareddau na fyddent fel arall ar gael yn ystod y gwyliau. Mae gwerthusiadau’r rhaglen yn nodi cynnydd mewn gweithgarwch corfforol, mwy o fwynhad o gymryd rhan mewn chwaraeon strwythuredig a chreu cysylltiadau â darparwyr gweithgareddau lleol fel canlyniadau allweddol. Yn bwysig, mae’r manteision yn ymestyn i’r flwyddyn academaidd newydd. Canfu gwerthusiad 2025 fod presenoldeb ym mis Medi wedi cynyddu 2.69% yn dilyn cyfranogiad, ar draws sampl o 567 o ddysgwyr mewn 13 o ysgolion a oedd yn newydd i’r rhaglen. Mae adborth ehangach gan blant, rhieni a staff ysgolion yn tynnu sylw at effeithiau cadarnhaol ar les, ymddygiad, perthnasoedd ac ymgysylltiad â threfn ysgol, gan helpu plant i ddychwelyd i’r ysgol yn teimlo’n fwy cysylltiedig, hyderus ac yn barod i ddysgu.
HYDREF 2026 | 39
Cefnogi iechyd meddwl a lles Mae plentyndod iach yn dibynnu ar fwy nag iechyd corfforol yn unig. Mae angen amgylcheddau diogel ar blant lle maent yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn perthyn ac yn cael eu cefnogi. Mae Bwyd a Hwyl yn creu mannau croesawgar lle gall plant gryfhau cyfeillgarwch, meithrin perthnasoedd gydag oedolion dibynadwy a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n hyrwyddo hyder, creadigrwydd a lles emosiynol. Mae adborth gan randdeiliaid yn tynnu sylw’n gyson at effaith gadarnhaol y rhaglen ar hapusrwydd, hyder a chysylltedd cymdeithasol. Mae gwerthusiadau wedi nodi gwelliannau mewn lles emosiynol, gostyngiadau mewn unigedd a diflastod, a mwy o gyfleoedd i blant gymdeithasu a datblygu cyfeillgarwch yn ystod gwyliau’r haf. Mae amgylchedd cyfarwydd yr ysgol yn chwarae rhan bwysig drwy gynnal trefn a chysylltiadau â chyfoedion a staff yn ystod y gwyliau, gan helpu i wneud y broses o ddychwelyd i addysg ym mis Medi yn haws. Mae adborth gan staff yn dangos bod plant yn dychwelyd i’r ysgol yn fwy brwdfrydig ac ymgysylltiedig, tra bod rhieni’n aml yn gwerthfawrogi’r strwythur a’r parhad y mae’r rhaglen yn eu darparu.
Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd Mae tlodi yn parhau i fod yn un o’r ffactorau mwyaf arwyddocaol sy’n dylanwadu ar ganlyniadau iechyd plant. Mae teuluoedd sy’n wynebu caledi ariannol yn aml yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd ynghylch bwyd, gofal plant a mynediad at weithgareddau cyfoethogi yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae’r rhaglen yn helpu i leihau’r pwysau hyn drwy alluogi plant i gael mynediad at brofiadau sy’n cefnogi eu datblygiad corfforol, emosiynol a chymdeithasol. Mae rhieni’n gyson yn nodi Bwyd a Hwyl fel ffynhonnell werthfawr o ryddhad ariannol yn ystod y cyfnod gwyliau. Trwy brydau bwyd teuluol ar y cyd, digwyddiadau dathlu a chyfleoedd i gysylltu â gwasanaethau lleol, mae perthnasoedd rhwng ysgolion, teuluoedd a chymunedau’n cael eu cryfhau,
gan helpu i adeiladu ymddiriedaeth, cysylltiadau cymdeithasol a rhwydweithiau cymorth tymor hwy. Yn bwysig, mae’r rhaglen yn mabwysiadu dull cynhwysol sy’n osgoi stigma.
Buddsoddi mewn dyfodol iachach Mae creu plentyndod iachach yn gofyn am gydweithio, atal ac ymrwymiad i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i ffynnu. Mae Bwyd a Hwyl yn dangos grym gweithio mewn partneriaeth wrth gefnogi iechyd corfforol, lles emosiynol ac ymgysylltiad addysgol plant, wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ehangach sy’n gallu effeithio ar gyfleoedd bywyd. Wrth i Gymru barhau i flaenoriaethu lles plant a phobl ifanc, mae rhaglenni fel Bwyd a Hwyl yn dangos bod buddsoddi mewn plentyndod iach yn fuddsoddiad mewn canlyniadau addysgol, cymunedau cryfach a dyfodol mwy disglair. Mae tystiolaeth o werthusiadau’r rhaglen yn amlygu effeithiau cadarnhaol ar les, hyder, ymgysylltiad â’r ysgol, gweithgarwch corfforol a phresenoldeb ym mis Medi, tra bod plant, rhieni ac ysgolion yn parhau i adrodd am fanteision sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i wyliau’r haf. Mae Bwyd a Hwyl wedi datblygu’n un o raglenni cyfoethogi gwyliau mwyaf sefydledig a gwerthfawr Cymru. Trwy gyfuno prydau iach, profiadau cyfoethog, gweithgarwch corfforol ac ymgysylltiad parhaus ag ysgolion a chymunedau, mae’n rhoi cyfleoedd i blant aros yn iach, yn gysylltiedig ac wedi’u cefnogi dros gyfnod yr haf. Wrth i’r galw barhau i gynyddu, mae’r rhaglen yn parhau i fod yn enghraifft gref o sut y gall gweithredu ataliol a chydweithredol greu plentyndod iachach a dyfodol cryfach i blant a theuluoedd ledled Cymru. Os hoffech wybod mwy am y gwaith hwn, cysylltwch â: alexandra.gdula@wlga.gov.uk
40 | PLANT YNG NGHYMRU
Aimee Hutchinson, Pact (Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai), Dr Rhian Croke, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru a Dr Steph Scott, Prifysgol Newcastle
Plant carcharorion yng Nghymru: Mae’n amser i wneud yr anweledig yn weledig Amcangyfrifir bod 5,000 o blant yng Nghymru sydd â rhiant yn y carchar, a’u bod yn ymdopi ag ystod eang o heriau ychwanegol o ganlyniad i hynny. Ond mae llawer ohonyn nhw’n anweledig o hyd i’r gwasanaethau a’r gweithwyr proffesiynol a allai eu helpu. Yn Pact, rydym wedi dadlau ers tro bod plant sy’n dioddef gan fod rhiant yn y carchar yn haeddu mwy o gydnabyddiaeth, dealltwriaeth a chefnogaeth. Mae tystiolaeth newydd, o ddadansoddiad y Weinyddiaeth Gyfiawnder o blant yng Nghymru sy’n dioddef gan fod aelod o’r teulu yn y carchar, yn cadarnhau bod angen mynd i’r afael â’r her hon ar frys.
cartref wedi cael ei garcharu yn profi dau neu ragor o fathau o amddifadedd, o’i gymharu â dim ond 20% o’u cymheiriaid. Canfuwyd bod ffactorau sy’n gwneud teuluoedd a chartrefi yn agored i niwed, gan gynnwys cam-drin domestig, camddefnyddio sylweddau, salwch meddwl rhiant ac anableddau dysgu, hefyd fwy na phum gwaith yn fwy cyffredin ymhlith teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio.
Tystiolaeth newydd: her y mae angen mynd i’r afael â hi ar frys
Roedd heriau addysgol hefyd yn fwy cyffredin. Roedd gan fwy na dau o bob tri (68%) phlentyn a oedd yn dioddef gan fod aelod o’r cartref yn y carchar Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) wedi’u nodi, o’i gymharu â 43% o’r plant yn y grŵp cymhariaeth. Mae’r ffigurau hyn yn dangos i ba raddau y mae carcharu yn croestorri ag anghenion cymorth ehangach y mae ysgolion yn dod ar eu traws bob diwrnod.
Mae’r ymchwil, a oedd yn defnyddio data cysylltiedig i archwilio plant sy’n byw mewn cartrefi sydd wedi cael eu heffeithio gan garcharu, yn dangos bod plant sy’n dioddef gan fod rhywun yn y carchar yn llawer mwy tebygol o brofi anfantais a bod yn agored i niwed mewn nifer o agweddau ar eu bywydau. Mae’r data’n datgelu bod mwy na hanner (52%) y plant sy’n dioddef gan fod rhywun yn y
Mae’r ffactorau hyn yn ddangosyddion anfantais gymdeithasol; maen nhw hefyd yn cael eu cydnabod fel penderfynyddion canlyniadau iechyd gwael. Mae plant sy’n dod i gysylltiad â nifer o brofiadau niweidiol yn wynebu mwy o risg o orbryder, iselder, anawsterau ymddygiadol ac iechyd corfforol hirdymor gwaelach. Gall carcharu rhiant ynddo’i hun fod yn ddigwyddiad trawmatig, sy’n aflonyddu ar berthnasoedd sefydlog
Credyd llun i:Andy Aitchison
ac yn creu ansicrwydd ar adeg pan fydd ar blant fwyaf o angen sicrwydd a chefnogaeth. Ac eto, er gwaetha’r heriau hyn, nid oes dull statudol o nodi plant pan fydd rhiant yn mynd i garchar.
Poblogaeth gudd Fel y nodwyd gan y prosiect ASPIRE a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, mae cefnogaeth yn aml yn dibynnu ar y cwestiwn a yw teuluoedd yn datgelu eu hamgylchiadau, rhywbeth y mae llawer, yn gwbl ddealladwy, yn gyndyn o’i wneud oherwydd bod arnynt ofn cael eu barnu neu eu gwahaniaethu. O ganlyniad, yn aml iawn mae cyfleoedd i ymyrryd yn gynnar yn cael eu colli: mae’r plant hyn yn rhan o “boblogaeth gudd.” Nid yw nodi yn ymwneud â diffinio plant yn ôl gweithredoedd rhiant. Mae’n ymwneud â chydnabod y gallent fod angen cymorth ychwanegol yn ystod cyfnod o newid mawr. Mae llawer o blant sy’n dioddef gan fod rhiant yn y carchar yn dangos gwydnwch rhyfeddol, ac â’r cymorth priodol, gallant ffynnu. Fel yr eglura Fae, un o Lysgenhadon Ifanc Pact yng Nghymru sydd â rhiant yn y carchar:
“Byddaf yn meddwl yn amI pa mor wahanol y byddai pethau wedi gallu bod pe bai cymorth priodol ar gael i blant fel fi. Byddai wedi gallu lleihau’r unigrwydd ro’n i’n ei deimlo a helpu pobl i adnabod y gorbryder a’r iselder ro’n i’n ei brofi o oedran cynnar.”
Sefyllfa unigryw Cymru Drwy ei hymrwymiad i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a’i fframwaith deddfwriaethol ehangach sy’n hyrwyddo lles a hawliau plant, mae Cymru wedi dweud yn gyson bod pob plentyn yn bwysig. Y cwestiwn nawr yw a yw plant sy’n dioddef gan fod rhiant yn y carchar yn cael eu cynnwys yn llawn yn yr ymrwymiad hwn. Yn Pact a Chanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, credwn fod atebion ymarferol o fewn cyrraedd. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu systemau
HYDREF 2026 | 41
i nodi plant sy’n dioddef gan fod rhiant yn y carchar a hyfforddi gweithwyr proffesiynol mewn ysgolion i ymateb yn briodol. Gellid gweithredu model Ymgyrch Encompass sydd ar hyn o bryd yn rhoi gwybod i ysgolion yng Nghymru am ddigwyddiad cam-drin domestig yn y cartref, hefyd i roi gwybod i ysgolion pan fydd rhiant yn cael ei anfon i garchar, gan alluogi cefnogaeth gyfarwydd a buan tra’n diogelu preifatrwydd. Os yw Cymru o ddifri ynglŷn â lleihau anghydraddoldebau iechyd a gwella canlyniadau i blant sy’n agored i niwed, rhaid i blant sy’n dioddef gan fod rhiant yn y carchar gael eu cydnabod fel grŵp blaenoriaeth. Mae’r dystiolaeth yn cynyddu. Mae’r angen yn glir. Mae’n amser i wneud Cymru yn wlad lle nad yw plant sy’n dioddef gan fod rhiant yn y carchar yn gudd mwyach, a’u bod yn cael eu gweld, eu clywed a’u cefnogi.
Cymerwch ran mewn ymchwil newydd Mae Pact yn cefnogi rhaglen ymchwil bum mlynedd newydd dan arweiniad Prifysgol Newcastle, sy’n ceisio datblygu cymorth system gyfan i blant sy’n rhan o’r system cyfiawnder teuluoedd. Mae’r cam cyntaf yn dod ag arbenigedd traws-sector – y sector gwirfoddol, iechyd y cyhoedd, gofal cymdeithasol, cyfiawnder troseddol, addysg, gwaith ieuenctid ac ymchwil – at ei gilydd i fapio’r gefnogaeth bresennol. Mae lleisiau Cymru yn hollbwysig i’r prosiect hwn. Er mwyn darganfod rhagor cysylltwch ag Arweinydd y Prosiect, Steph Scott ar steph.scott@ncl.ac.uk
42 | PLANT YNG NGHYMRU
Faye Willet, Prosiect y Dderwen, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Adeiladu plentyndod iach trwy gysylltiad cymunedol Wrth ystyried plentyndod iach, yn aml rydym yn meddwl am fynediad at ofal iechyd, bwyta’n iach neu weithgarwch corfforol. Er bod y rhain yn bwysig, mae plentyndod iach hefyd yn cael ei adeiladu trwy berthnasau cadarnhaol, cymunedau cryf a synnwyr o berthyn. Yn ystod haf 2026, gweithiodd Prosiect y Dderwen ar y cyd â Chartrefi Conwy i gynnal nifer o ddigwyddiadau cymunedol ym mröydd tai cymdeithasol lleol. Roedd y digwyddiadau hyn yn dod a phlant, pobl ifanc, teuluoedd a phreswylwyr hŷn ynghyd trwy amrywiaeth o weithgareddau am ddim, wedi’u dylunio i annog cyfranogiad, cysylltiad a balchder cymunedol. Ar yr olwg gyntaf, gall y rhain edrych fel diwrnodau hwyl cymunedol syml. Fodd bynnag, roeddent wedi darparu llawer mwy nac adloniant yn unig. Ar gyfer nifer o deuluoedd, yn arbennig y rhai sy’n wynebu tlodi, arwahanrwydd cymdeithasol a heriau eraill, roedd y digwyddiadau hyn yn
cynnig cyfle i gwrdd â chymdogion, adeiladu perthnasau a chael mynediad at gefnogaeth mewn amgylchedd croesawgar ac anffurfiol. Mae ymchwil yn amlygu pwysigrwydd cymunedau cysylltiedig i gefnogi lles plant a phobl ifanc. Mae teimlo’n rhan o gymuned yn helpu pobl ifanc i ddatblygu hyder, gwytnwch a synnwyr cadarnhaol o hunaniaeth. Gall hefyd leihau teimladau o arwahanrwydd, creu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddatblygu perthnasau cefnogol gydag oedolion y gellir ymddiried ynddynt tu allan i’r teulu agos. Un o agweddau mwyaf pwerus digwyddiadau’r haf oedd y cyfle ar gyfer ymgysylltiad rhynggenedlaethol. Cyfranogodd plant a phobl ifanc ar y cyd â rhieni, neiniau a theidiau a phreswylwyr hŷn, gan greu cyfleoedd naturiol ar gyfer sgyrsiau a phrofiadau a rennir. Mewn oes lle gall gwahanol genedlaethau deimlo’n ddatgysylltiedig o’i gilydd, helpodd y digwyddiadau hyn i chwalu rhwystrau ac adeiladu dealltwriaeth o fewn cymunedau lleol.
HYDREF 2026 | 43
Roedd y bartneriaeth hefyd yn rhoi cyfle i gyflwyno dull gwaith ieuenctid mewn mannau lle’r oedd pobl ifanc yn treulio amser yn naturiol. Yn hytrach nac aros i anawsterau godi, roedd gweithwyr ieuenctid yn gallu ymgysylltu gyda phlant a phobl ifanc yn gynnar, gan adeiladu perthnasau a chreu profiadau cadarnhaol o wasanaethau cefnogi. Mae’r dull ataliol hwn yn elfen allweddol i waith Prosiect y Dderwen ac yn adlewyrchu’r gred y gall ymyrraeth gynnar helpu i atal problemau rhag gwaethygu yn ddiweddarach mewn bywyd. Roedd y digwyddiadau hefyd yn dangos gwerth gwaith partneriaeth. Trwy ddod a dulliau datblygu cymunedol, gwaith ieuenctid a thai ynghyd, fe lwyddom i greu gofodau cynhwysol a chroesawgar i breswylwyr, lle roeddent yn teimlo’r gallu i gymryd rhan. Roedd ymrwymiad Cartrefi Conwy i ymgysylltu gyda thenantiaid a chefnogi lles cymunedol yn cyd-fynd â chanolbwynt Prosiect y Dderwen ar ddatblygiad ieuenctid cadarnhaol ac ymyrraeth gynnar. Ar gyfer nifer o blant, mae plentyndod iach yn cael ei siapio gan y gefnogaeth maent yn derbyn yn y cartref neu’r ysgol, yn ogystal â’r amgylchedd ehangach o’u cwmpas. Mae cymunedau diogel, perthnasau y gellir ymddiried ynddynt a chyfleoedd i gyfranogi oll yn cyfrannu at ganlyniadau iechyd a lles cadarnhaol. Gall ddigwyddiadau cymunedol deimlo’n fach ar eu pen eu hunain, ond gallent chwarae rôl bwysig i feithrin cysylltiadau cymunedol sy’n helpu plant a theuluoedd i ffynnu.
Wrth i wasanaethau ar draws Cymru barhau i archwilio ffyrdd o wella canlyniadau iechyd a lles ar gyfer plant a phobl ifanc, mae gwerth mewn cydnabod y cyfraniad gall ddulliau cymunedol eu gwneud. Mae creu cyfleoedd i bobl ddod ynghyd, cryfhau perthnasau cymdogaethol a sicrhau fod pobl ifanc yn cael eu gwerthfawrogi o fewn eu cymunedau yn sylfaen pwysig ar gyfer plentyndod iach. Fe ddangosodd y bartneriaeth rhwng Prosiect y Dderwen a Chartrefi Conwy dros yr haf, mai’r ffordd fwyaf effeithiol i gefnogi plant a phobl ifanc weithiau yw creu gofodau lle gall gymunedau ddod ynghyd, cysylltu a pherthyn. Trwy’r profiadau a rennir, rydym yn helpu i adeiladu cymunedau cryfach a dyfodol iachach i blant a phobl ifanc ar draws Conwy. Os hoffech archwilio’r gwaith hwn yn fanylach, cysylltwch â: faye.willet3@conwy.gov.uk
44 | PLANT YNG NGHYMRU
Siwan Sutton a Brian Laing, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cyd-gynhyrchu plentyndod iachach: beth mae’r dystiolaeth yn ei ddweud Caiff iechyd plant ei lywio cyn iddynt weld gweithiwr iechyd proffesiynol: gan brofiadau gartref, yn yr ysgol, mewn mannau chwarae ac yn eu cymunedau. Eto i gyd, caiff gwasanaethau i blant a theuluoedd eu cynllunio’n rhy aml heb fewnbwn ystyrlon gan gymunedau. Yng Ngogledd Cymru, mae Gwell Gogledd Cymru yn newid hyn drwy roi cymunedau wrth wraidd gwella iechyd. Cynhaliodd ein Cyfarwyddiaeth Iechyd Cyhoeddus adolygiad o’r dystiolaeth i ateb dau gwestiwn: i) pa ddulliau ymgysylltu â chymunedau a chydgynhyrchu sy’n effeithiol, a ii) pa effaith a gânt ar iechyd a llesiant y boblogaeth? Roedd yn cynnwys 28 astudiaeth (2014-2025). Nid oedd pob un yn canolbwyntio ar blant, ond mae’r gwersi’n berthnasol i fabanod, plant, pobl ifanc a theuluoedd.
Beth sy’n gweithio i greu plentyndod iachach? •
Pobl ddibynadwy mewn lleoedd cyfarwydd. Mae dulliau dan arweiniad cymheiriaid sy’n meithrin perthnasoedd, fel teithiau cerdded grŵp, caffis cymunedol a chanolfannau galw heibio, yn cyrraedd pobl â phrofiadau gwael o wasanaethau ffurfiol. I deuluoedd, gallai hyn olygu rhieni’n cefnogi rhieni, cysylltwyr cymunedol neu weithwyr ieuenctid
•
Tynnu sylw at yr amgylchedd lleol. Yng Ngogledd Iwerddon, cyd-gynhyrchwyd cynllun gweithredu ar bwysau iach plant drwy gyfuno mapio amgylcheddol â gweithdai cymunedol. Nododd trigolion rwystrau lleol, fel diffyg mannau gwyrdd neu fynediad at fwyd iach, a chynllunio atebion dan arweiniad y gymuned
•
Rhannu grym o’r cychwyn. Defnyddiodd rhaglen Act Early yn Bradford a Tower Hamlets, sy’n canolbwyntio ar iechyd plant ac anghydraddoldebau, Ymholi Gwerthfawrogol i lunio strategaeth gyd-gynhyrchu ar sail cydraddoldeb, cydfuddiant a’r gallu i weithredu
•
Mae iaith a diwylliant yn bwysig. Mae iaith hygyrch, nad yw’n rhy glinigol, a dulliau sy’n cydfynd â diwylliant pobl yn meithrin ymddiriedaeth. Yng Nghymru, mae hynny’n cynnwys y Gymraeg a hunaniaethau unigryw ein cymunedau
•
Mae cymorth yn galluogi cyfranogiad gwirioneddol. Mae hyfforddiant, mentora a rolau clir yn helpu aelodau’r gymuned i gyfrannu’n hyderus. Hebddynt, gall cyd-gynhyrchu fod yn ymarfer symbolaidd yn unig
HYDREF 2026 | 45
Pam mae’n bwysig Mae’r dystiolaeth yn cysylltu ymgysylltu â chymunedau a chyd-gynhyrchu â gwell llesiant meddyliol, mynediad at wasanaethau a chydlyniant cymunedol. Mae’r manteision fwyaf ymhlith pobl dan anfantais. Mae data Astudiaeth Hydredol Aelwydydd y DU yn dangos mai pobl â llesiant isel i ddechrau, neu o gefndiroedd difreintiedig, sy’n elwa fwyaf o gyfranogiad cymdeithasol. Mae’r adolygiad hefyd yn rhybuddio y gall cydgynhyrchu waethygu anghydraddoldebau, heb gynllunio gofalus, drwy gynnwys y rhai y clywir eu lleisiau eisoes yn unig. O ran iechyd plant, mae hynny’n golygu mynd ati i gynnwys y teuluoedd a’r bobl ifanc y clywir eu lleisiau lleiaf wrth wneud penderfyniadau.
O dystiolaeth i weithredu yng Ngogledd Cymru Mae’r adolygiad yn cynnig pedair elfen gysylltiedig i wreiddio cyd-gynhyrchu ledled y rhanbarth: i) B uddsoddi mewn strwythurau ac integreiddio systemau ii) Meithrin gallu a datblygu’r gweithlu iii) Gwreiddio tegwch a chynhwysiant iv) S icrhau effaith barhaol drwy werthuso, dysgu ac atebolrwydd Mae fframwaith ymarferol yn nodi’r camau, pwy ddylai eu harwain, a sut i fesur cynnydd. Dangosodd y prosiect cyd-ddylunio cymunedol ym Mae Cinmel, rhan o Gam Darganfod Gwell Gogledd Cymru gyda chefnogaeth Comisiwn Bevan, werth rhoi llais i gymunedau ar lefel leol iawn. Canfu’r adolygiad fod cyd-gynhyrchu’n gwella llesiant corfforol a meddyliol cyfranogwyr ac yn cynnig manteision economaidd-gymdeithasol i’w cymunedau. Drwy feithrin ymddiriedaeth a meddwl yn hirdymor, gall wneud gwasanaethau’n fwy hyblyg, cynaliadwy a chost-effeithiol. Ond mae profiad Bae Cinmel yn dangos bod angen amser ac ymrwymiad parhaus.
Ers yr adolygiad, mae Gwell Gogledd Cymru wedi symud o dystiolaeth i weithredu. Datblygwyd Fframwaith Rhanbarthol Llesiant, Atal ac Angori gyda phartneriaid. Cafodd ei lywio gan ddigwyddiad ym mis Mawrth 2026 gyda dros 100 o arweinwyr traws-sector, a’i gymeradwyo gan Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru ym mis Mai 2026. Mae’n ymrwymo partneriaid i weithio gyda chymunedau ar sail gyfartal, gyda phlant wrth ei wraidd: mae’r flaenoriaeth ‘Rhoi’r dechrau gorau i bob plentyn’ yn canolbwyntio ar y 1,000 diwrnod cyntaf, mannau chwarae cynhwysol a chymorth cyd-gysylltiedig i deuluoedd. Mae’r neges i bawb sy’n ceisio gwella iechyd plant yng Nghymru yn glir. Nid ymgynghoriad un tro yw cyd-gynhyrchu; mae’n ymrwymiad hirdymor i greu amodau ar gyfer rhannu grym, cynllunio cynhwysol gyda phobl a dysgu parhaus. Dywedir bod angen pentref cyfan i fagu plentyn, ac mae’r dystiolaeth yn dangos bod plentyndod iach yn cael ei greu gyda chymunedau, nid ei ddarparu iddynt yn unig. Mae’r adolygiad llawn, Dulliau Effeithiol o Ymgysylltu â’r Gymuned a Chyd-gynhyrchu, a’u Heffaith ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth, ar gael gan Gyfarwyddiaeth Iechyd Cyhoeddus BIPBC: BCU.PHIREPan@wales.nhs.uk
46 | PLANT YNG NGHYMRU
Dr Robin Lerner, The Centre for Emotional Health
Natur sylfaenol iechyd emosiynol Iechyd emosiynol
Yr effeithiau tonnog
Mae pobl yn dibynnu ar eu hiechyd emosiynol – hunanymwybyddiaeth ac ymwybyddiaeth gymdeithasol, hunangred, sgiliau perthynas a mwy – bob dydd. Mae pob penderfyniad i adael y tŷ am dro, gyrru car, ymuno â champfa neu ofyn am gymorth yn defnyddio iechyd emosiynol. Mae’n anoddach arfer y sgiliau hynny wrth wynebu heriau fel tywydd garw, digwyddiad lle bu bron i ddamwain ddigwydd yn ddiweddar, yr argyfwng costau byw neu sylw sy’n brifo.
Mae’r Centre for Emotional Health yn elusen genedlaethol sy’n cynnig amrywiaeth o raglenni – a gynhelir gan staff hyfforddedig ledled Cymru, gan gynnwys llawer o raglenni Dechrau’n Deg – sy’n cefnogi rhieni a gofalwyr i feithrin eu hiechyd emosiynol. Mae staff yn creu mannau meithringar i fyfyrio ar brofiadau, datblygu hunanymwybyddiaeth ac empathi, ac adeiladu hyder. Er bod y rhaglenni wedi’u hanelu at rieni a gofalwyr, mae pobl sydd wedi cymryd rhan mewn rhaglenni blaenorol wedi disgrifio’r effaith ar agweddau ar eu bywydau fel oedolion nad ydynt yn ymwneud â magu plant.
Mae plant yn datblygu eu hiechyd emosiynol eu hunain drwy eu perthnasoedd â’r oedolion o’u cwmpas. Maen nhw’n gwylio sut mae oedolion yn rheoli emosiynau, yn datrys problemau, yn siarad, yn dangos empathi ac yn adfer perthnasoedd pan fydd pethau’n mynd o’i le. Gall llawer o bobl nodi’r dylanwad a gafodd eu rhieni a’u gofalwyr eu hunain ar eu plentyndod – rhannau ohono’n anodd, a rhannau eraill yn gadarnhaol. Mae rhai yn cofio oedolion a ddangosodd garedigrwydd a dealltwriaeth, a oedd yn annog chwarae – pobl a oedd yn unigolion cadarn ond teg. Mae eraill yn cofio oedolion a oedd yn gosbol, yn annheg neu’n angharedig. O rianta i’r gampfa, i’r gweithle ac i’r gymuned, mae sylfaen iechyd emosiynol yn llywio’r ffordd y mae pobl yn ymddwyn. Mae’r sylfaen hon yn rhan angenrheidiol o feithrin pobl alluog, teuluoedd cefnogol a chymunedau gofalgar.
Dechreuodd pobl ymweld â’r gampfa’n rheolaidd ar ôl magu’r hyder i ofyn pan nad oeddent yn siŵr sut i ddefnyddio peiriant. Dechreuodd un cwpl fusnes ffrydio gemau fideo fel gŵr a gwraig, gan feithrin cymuned o amgylch diddordeb cyffredin. Roedd un fam yn falch o fod wedi dysgu gyrru er mwyn gallu ymweld â ffrindiau a chynnal ffynhonnell bwysig o gefnogaeth. Effeithiau ehangach gwella iechyd emosiynol – gan gynnwys gallu derbyn cymorth gan eraill ac adeiladu rhwydweithiau o gefnogaeth ymatebol – yw’r hyn sy’n sicrhau bod newid yn para. Mae ymddygiadau rhianta yn aml yn adlewyrchu profiadau a phatrymau sy’n ymestyn dros flynyddoedd neu genedlaethau. Nid yw’n ddisgwyliad priodol y gall pobl newid rhywbeth sydd wedi’i sefydlu ers tro byd yn hawdd neu’n gyflym. Pan fydd rhiant yn gwneud cynnydd, mae’n gyflawniad cenedlaethol.
HYDREF 2026 | 47
Ymarferwyr o bob rhan o Gymru yn dod ynghyd ar gyfer digwyddiad dysgu ar y cyd am y Rhaglen Feithrin (Caerdydd, 2026)
Sylfaen i blant
Edrych i’r dyfodol
Gellir cryfhau iechyd emosiynol a rhianta fel ei gilydd. Gan ddefnyddio data gan bobl sy’n cymryd rhan yn ein rhaglenni ledled Cymru a gweddill y DU, mae’n bosibl mesur sut mae cryfhau’r sgiliau hynny yn gwella canlyniadau i oedolion a phlant. Mae rhieni sy’n magu hyder drwy empathi, gan ddangos cynhesrwydd tuag at eraill a chwarae’n hyderus gyda phlentyn, hefyd yn gweld gwelliant yn eu llesiant meddyliol eu hunain. Yng Nghaerdydd, mae mwy na 70% o rieni sy’n dechrau gyda llesiant meddyliol isel yn gorffen gyda llesiant meddyliol cyfartalog neu uchel.
Mae gan Gymru nodau uchelgeisiol ar gyfer ei phlant, gan gynnwys ehangu gofal y blynyddoedd cynnar, ffocws ar gadw pobl yn iach, a chymunedau lleol cryfach. Mae’r cyfan yn dibynnu ar bobl sydd â’r iechyd emosiynol i wneud penderfyniadau cadarnhaol ac i feithrin perthnasoedd. Gall Cymru adeiladu ar waith Dechrau’n Deg a rhaglenni eraill, a chydnabod pwysigrwydd gwella iechyd emosiynol fel sylfaen i’r newidiadau mawr hyn.
Mae sgiliau cymdeithasol plant yn gwella pan fydd rhieni a gofalwyr yn rheoli eu teimladau eu hunain yn well, yn gallu gosod ffiniau heb deimlo’n euog, ac yn cynnig disgyblaeth garedig a thawel. Mae mwy na hanner y rhieni y mae eu plant yn dechrau gyda sgiliau cymdeithasol isel yn nodi gwelliant sylweddol, ac mae’r gwelliant hwnnw’n parhau ar ôl i’w rhaglen ddod i ben. Mae rhieni yng Nghaerdydd hefyd yn adrodd eu bod yn dod yn agosach at eu plant a bod llai o wrthdaro gartref. Mewn geiriau eraill, mae gallu cynnig empathi a chefnogaeth emosiynol i eraill yn ffactor allweddol ar gyfer llesiant meddyliol yr unigolyn ei hun. Mae cael oedolion diogel a hyderus o gwmpas (hyd yn oed pan fyddant yn fwy hyderus o ran disgyblaeth) yn helpu plant i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol eu hunain.
Mwy o wybodaeth Gwrandewch ar brofiad tad o Gaerdydd o’r Rhaglen Feithrin yma. I gael rhagor o wybodaeth am raglenni gan The Centre for Emotional Health, ewch i: www.centreforemotionalhealth.org.uk neu e-bostiwch hello@emotionalhealth.org.uk Mae’r Centre for Emotional Health (Family Links yn gynt) yn elusen genedlaethol ac yn ddarparwr hyfforddiant proffesiynol, sy’n gweithio gydag awdurdodau lleol, sefydliadau’r sector gwirfoddol, carchardai, ysgolion a gweithleoedd. Mae rhaglenni sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer rhieni a gofalwyr, gan The Centre for Emotional Health, yn canolbwyntio ar hunanymwybyddiaeth, empathi a hunanreoleiddio, ac yn cefnogi pobl i feithrin a chynnal perthnasoedd cadarnhaol.
48 | PLANT YNG NGHYMRU
Laura James, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Mwy na chwtsh yn unig: Rhoi babanod wrth galon ymarfer ‘Rwyf bellach yn sylweddoli bod yr adegau symlaf o ofal yn aml yn cael yr effaith fwyaf ar ddatblygiad babi’ Ymarferydd ystafell fabanod Er bod arferion fel bwydo, newid a chysuro yn rhan bwysig o ofalu am fabanod, mae ymarferwyr sy’n gweithio gyda babanod yn gwybod bod yr adegau hyn yn ymwneud â llawer mwy na diwallu anghenion sylfaenol. Maent yn gyfleoedd i feithrin perthnasoedd diogel, ymateb i gyfathrebu babanod, a chefnogi eu dysgu, eu datblygiad a’u lles. Mae pob rhyngweithiad, pob ymateb i wylo, pob gwên a rennir a phob cyfle i archwilio yn cyfrannu at ddatblygiad ymennydd a synnwyr diogelwch y babi. Mae’r 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd yn gyfnod o dwf rhyfeddol, gan osod sylfeini a all ddylanwadu ar ddysgu, iechyd a lles trwy gydol plentyndod ac wedi hynny. Gan gydnabod pwysigrwydd y cyfnod cynnar hwn, datblygodd Tîm Gofal Plant a Chwarae Blaenau Gwent ‘Mwy na Chwtsh yn Unig’ – rhaglen dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr gofal plant sy’n gweithio gyda phlant rhwng 0 a 2 oed ym meithrinfeydd dydd yr awdurdod lleol.
‘Wrth i ni wrando ar ymarferwyr, daeth neges glir i’r amlwg: roeddent am ddeall yn well safbwyntiau babanod a’r effaith sydd ganddynt ar eu profiadau cynharaf’ Swyddog sicrhau ansawdd Datblygwyd y rhaglen yn sgil sgyrsiau gydag ymarferwyr yn ystod ymweliadau cefnogi ansawdd gyda thîm cynghori’r awdurdod lleol. Mynegasant yr angen am ddysgu proffesiynol i gefnogi dealltwriaeth ddyfnach o ddatblygiad babanod, ymlyniad, sut olwg sydd ar hawliau plant o safbwynt baban, a sut y gallent ddarparu profiadau sy’n diwallu anghenion babanod yn wirioneddol. Dangosodd gwerthusiadau cyn hyfforddiant, er bod ymarferwyr yn teimlo’n hyderus mewn llawer o agweddau ar arferion yn yr ystafell fabanod, eu bod yn awyddus iawn i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o ymlyniad, ac effaith y 1,000 diwrnod cyntaf ar ddatblygiad babi. Myfyriodd ymarferwyr hefyd ar rai o’r heriau cyffredin yr oeddent yn eu hwynebu yn eu gwaith bob dydd, gan gynnwys meithrin ymlyniadau â babanod newydd sy’n mynychu’r lleoliad, cefnogi newidiadau drwy
HYDREF 2026 | 49
gydol y dydd, a chynllunio profiadau ystyrlon sy’n ymateb i chwilfrydedd naturiol babanod. Siaradon nhw hefyd am sicrhau bod amgylcheddau awyr agored yn cael eu defnyddio’n aml ac mewn ffyrdd addas, deniadol a phwrpasol. Paratôdd y Tîm Cynghori ar Ofal Plant raglen pedwar mis o sesiynau rhyngweithiol lle archwiliodd ymarferwyr themâu, gan gynnwys rôl oedolyn galluogol yng ngofal baban; manteision cael amgylchedd effeithiol; sut olwg sydd ar chwarae ystyrlon a chwilfrydig; a sut i gefnogi arfer parchus trwy ddulliau sy’n canolbwyntio ar y plentyn. Yn ganolog i bob trafodaeth roedd neges syml ond pwerus: mae babanod yn unigolion cymwys a galluog sydd â hawliau, lleisiau a dewisiadau sy’n haeddu cydnabyddiaeth. Anogwyd ymarferwyr gan y dysgu proffesiynol i fyfyrio nid yn unig ar yr hyn maen nhw’n ei wneud, ond ar y rheswm pam maen nhw’n ei wneud. O ailystyried arferion ac amgylcheddau i ystyried sut mae babanod yn profi’r byd, cafodd cyfranogwyr eu herio i edrych ar arferion bob dydd o safbwynt gwahanol. Mae hyn yn adlewyrchu dyheadau’r Adduned i Fabanod yng Nghymru a fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar, sy’n pwysleisio hawliau plant, perthnasoedd ymatebol, a gofal o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar anghenion a phrofiadau’r plentyn.
‘Roeddwn i’n gweld y sesiwn ar y 1,000 diwrnod cyntaf mor werthfawr. Mae wir wedi pwysleisio i mi pa mor bwysig yw rôl ymarferwyr yr ystafell fabanod yn natblygiad cyffredinol plant’ Ymarferydd ystafell fabanod Mae’r ymateb gan leoliadau wedi bod yn hynod gadarnhaol. Disgrifiodd ymarferwyr eu bod yn teimlo’n fwy hyderus, yn fwy myfyriol, ac yn fwy ymwybodol o’r effaith y mae perthnasoedd ymatebol yn ei chael ar ddatblygiad a lles babanod. Thema allweddol a ddaeth i’r amlwg o adborth y cyfranogwyr oedd y bwriad i ‘arafu’ a dod yn
fwy presennol mewn ymarfer bob dydd. Disgrifiodd ymarferwyr werthfawrogiad newydd o gymryd amser i fod ‘gyda’ babanod, gan gydnabod bod dysgu a datblygiad ystyrlon wedi’u gwreiddio mewn perthnasoedd ymatebol a meithringar. Efallai mai’r dysgu mwyaf arwyddocaol oedd y sylweddoliad nad yw ymarfer ystafell fabanod o ansawdd uchel yn cael ei ddiffinio gan yr hyn a ddarparwn i fabanod, ond gan sut rydym yn cysylltu â nhw, yn ymateb iddynt, ac yn rhannu profiadau gyda nhw. Mae’r newid hwn mewn meddylfryd eisoes wedi arwain at newidiadau mewn arferion, gyda lleoliadau yn addasu amgylcheddau, yn ailystyried trefniadau, ac yn creu mwy o gyfleoedd ar gyfer rhyngweithio ystyrlon sy’n seiliedig ar berthnasoedd. Wrth i bwysigrwydd y 1,000 diwrnod cyntaf gael ei gydnabod fwyfwy, mae ‘Mwy na Chwtsh yn Unig’ yn tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae ymarferwyr yn ei chwarae wrth gefnogi datblygiad, lles ac ymdeimlad o ddiogelwch babanod, ac yn ein hatgoffa bod cefnogi ein babanod lleiaf yn waith arbenigol, medrus a hynod bwysi. Os hoffech glywed mwy am y gwaith uchod, cysylltwch â: Laura.James@blaenau-gwent.gov.uk
50 | PLANT YNG NGHYMRU
Elsa Torres, Family Pathway CIC
Plentyndod iach: gweld y plentyn y tu hwnt i’r ymddygiad Dylai plentyndod iach gynnwys llawenydd, cyfeillgarwch, chwarae a’r rhyddid i ddysgu heb deimlo bod bod yn chi eich hun yn broblem. Ond i rai plant, mae’r diwrnod ysgol yn dod yn rhywbeth i’w oroesi. Mae eu trallod yn weladwy, ond gall yr anghenion sydd wrth ei wraidd aros yn gudd. Ystyriwch Sam, plentyn ysgol gynradd ffuglennol sy’n adlewyrchu profiadau o waith eiriolaeth gyda theuluoedd. Mae ganddo syniadau i’w rhannu, diddordebau sy’n ei swyno ac ymdeimlad cryf o degwch. Mae hefyd yn cael anhawster darllen ac ysgrifennu, mae angen lle personol arno, ac mae’n ei chael yn anodd pan fydd disgwyliadau’n newid heb rybudd. Gall oedolion weld plentyn sy’n gwrthod ysgrifennu, yn cynhyrfu pan fydd rhywun yn cyffwrdd â’i eiddo neu’n gadael yn sydyn. Gall disgrifiadau fel “herfeiddiol” neu “aflonyddgar” ddominyddu sgyrsiau. Yn raddol, mae’r plentyn yn diflannu y tu ôl i gofnod o ddigwyddiadau, ac mae’r sylw’n symud tuag at ei reoli yn hytrach na deall ei brofiad. I Sam, mae ei grŵp cyfoedion yn hynod bwysig. Mae’n dyheu am berthyn: am chwarae, chwerthin, cael hwyl a dysgu ochr yn ochr â’i gyd-ddisgyblion.
Mae’r perthnasoedd hyn yn ganolog i’w les. Mae ymchwil gyda phobl ifanc yn eu harddegau yn cysylltu ymdeimlad o berthyn yn yr ysgol â chymorth gan athrawon, cyfoedion a rhieni (Allen et al., 2018). Mae ei athrawon yn dweud nad ydynt bob amser yn deall beth sy’n sbarduno ei drallod. Mae’n cael ei dynnu allan o wersi ar gyfer sesiynau “meithrin”, ond mae’n profi hyn fel cael ei ynysu a’i eithrio oddi wrth y plant y mae am fod gyda nhw. Mae cyfoedion hefyd yn ei alw’n “dwp”, gan wneud ei ddyhead i berthyn yn fwy poenus. Ond gall ei ymddygiad ddod yn brif darged yr ymyriadau, tra bo’r profiadau sy’n cyfrannu at ei drallod yn cael llai o sylw. Mae angen i oedolion fynd i’r afael â’r ffordd y mae cyfoedion yn ei frifo, rhwystrau i ddysgu a theimladau o gael ei eithrio, wrth ei gefnogi. Rhaid i’w helpu i gymryd rhan a meithrin cyfeillgarwch fod yn rhan o’r ymateb. Mae ymdrin ag ymddygiad yn gofyn am chwilfrydedd. Os yw Sam yn gwthio gwaith i ffwrdd, a yw’r dasg yn hygyrch? A yw’n gwybod sut i ddechrau? A yw’n poeni y bydd ei anawsterau’n dod i’r amlwg o flaen ei gydddisgyblion? Os yw’n gadael, beth ddigwyddodd cyn hynny? Mae angen archwilio’r cwestiynau hyn gyda’n gilydd, yn hytrach na chymryd esboniadau’n ganiataol.
HYDREF 2026 | 51
Nid yw Sam bob amser yn gallu dod o hyd i’r geiriau i ddisgrifio’r hyn sy’n digwydd iddo. Efallai na fydd gofyn iddo yn syth ar ôl digwyddiad yn helpu. Efallai y bydd angen amser arno, oedolyn y mae’n ymddiried ynddo, cyfle i dynnu llun neu ffordd arall o gyfathrebu. Mae ei lais yn bwysig. Mae model cyfranogiad Lundy yn amlygu gofod, llais, cynulleidfa a dylanwad: mae angen cymorth ar blant i fynegi barn, pobl sy’n gwrando a dylanwad ar benderfyniadau (Lundy, 2007). Mae gwrando ar ei rieni yn ganolog. Efallai y byddant yn sylwi ar bryder cyn ysgol, blinder llethol wedyn neu batrymau ar draws sefyllfaoedd. Mae athrawon yn cyfrannu gwybodaeth am ddysgu, cyfeillgarwch a bywyd yn yr ystafell ddosbarth. Mae angen defnyddio’r safbwyntiau hyn i feithrin dealltwriaeth ar y cyd, gan archwilio gwahaniaethau heb ddiystyru pryderon. Pan nad yw staff yn deall trallod Sam, dylai’r ansicrwydd hwnnw arwain at ymchwilio ymhellach a gweithio gyda gwasanaethau a all helpu i egluro ei anghenion. Gall arbenigedd mewn seicoleg addysg, therapi galwedigaethol neu therapi lleferydd ac iaith gyfrannu, yn dibynnu ar y cwestiynau sy’n codi. Dylid ceisio cyngor ochr yn ochr â darparu cymorth ymarferol, yn hytrach na defnyddio hynny fel rheswm dros aros. Rhaid i Sam a’i rieni aros yn ganolog i’r broses hon. Dylai eu disgrifiadau o’u profiadau lywio’r cwestiynau y mae gweithwyr proffesiynol yn eu gofyn, y cymorth y maent yn ei argymell a’r ffordd y caiff ei effaith ei hadolygu. Y diben yw galluogi dysgu, cyfranogiad a diogelwch. Mae partneriaeth yn dod yn ystyrlon pan fydd yn newid ei brofiad bob dydd. Gallai hyn olygu cytuno pwy sy’n ei groesawu, sut y caiff newidiadau eu hesbonio, ble y gall geisio cymorth a sut y bydd oedolion yn ymateb pan fydd yn teimlo wedi’i lethu. Dylai cyfrifoldebau fod yn glir, gyda dyddiad adolygu wedi’i gytuno. Mae diwallu ei anghenion dysgu yr un mor bwysig. Gall gwaith nad yw’n hygyrch iddo ddyfnhau ei ofn o fethu. Mae angen addysgu ar Sam sy’n mynd i’r afael ag anawsterau llythrennedd, ynghyd â ffyrdd
o gyfrannu ei syniadau. Dylai cymorth ddiogelu ei fynediad at ddysgu, cyfeillgarwch a bywyd yn yr ystafell ddosbarth, gyda Sam yn helpu i asesu ei effaith. Mae’r amgylchedd hefyd yn bwysig. Gall gorlenwi, sŵn, cyffwrdd annisgwyl neu gyfarwyddiadau aneglur ei gwneud yn anoddach cymryd rhan. Gallai arferion rhagweladwy, lle personol wedi’i ddiogelu a chyfarwyddiadau y gall ymdopi â nhw helpu. Mae angen i oedolion wirio eu heffaith gyda Sam, gan gynnwys a yw’r sesiynau “meithrin” yn ei helpu i deimlo ei fod yn perthyn neu’n ei adael yn teimlo wedi’i eithrio. Nid yw deall trallod yn dileu’r angen am ddiogelwch. Gall oedolion ddiogelu pawb, helpu Sam i ddod ato’i hun ac archwilio’r hyn a ddigwyddodd yn ddiweddarach heb ei fychanu. Mae angen cymorth ar athrawon hefyd: dulliau cyson, cynllunio ar y cyd ac arbenigedd priodol. Mae angen i arweinwyr ysgolion wneud hyn yn bosibl. Ledled Cymru, dylid ystyried plentyndod iach drwy brofiadau bob dydd. A all Sam ddysgu, chwarae a chysylltu ag eraill? A yw’n ymddiried mewn oedolion i wrando? Mae ei hyder, ei gyfeillgarwch a’i ymdeimlad o ddiogelwch yn bwysig ochr yn ochr ag unrhyw ostyngiad mewn digwyddiadau. Nid yw plentyn tawelach o reidrwydd yn blentyn hapusach. Mae plentyndod iach yn golygu bod Sam yn gwybod ei fod yn perthyn, hyd yn oed pan fydd yn ei chael yn anodd. Mae’n golygu bod yr ysgol, rhieni a gwasanaethau’n rhannu’r cyfrifoldeb am ddeall a diwallu ei anghenion. Yn anad dim, mae’n golygu ei weld fel plentyn y mae ei les yn bwysig, y mae ei lais yn cyfrif ac y dylid bod yn uchelgeisiol am ei ddyfodol. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Elsa Torres, Ymgynghorydd Addysg Arbenigol mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ac eiriolwr dros lais dysgwyr a rhieni: elsa@familypathway. co.uk or www.familypathway.co.uk
Cyfeiriadau Allen, K, Kern, ML, Vella-Brodrick, D, Hattie, J and Waters, L (2018). What schools need to know about fostering school belonging: a meta-analysis. Educational Psychology Review, 30(1), 1–34. https://doi.org/10.1007/s10648-016-9389-8 Lundy, L (2007). ‘Voice’ is not enough: conceptualising Article 12 of the United Nations Convention on the Rights of the Child. British Educational Research Journal, 33(6), 927–942. https://doi.org/10.1080/01411920701657033
52 | PLANT YNG NGHYMRU
Tracey Owen, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwyl
Cefnogi lles a dyfodol cadarnhaol i bobl ifanc Conwy Mae TRAC, sy’n sefyll am Bontio, Gwella Cyrhaeddiad a Dewisiadau, wedi dod yn rhan hanfodol o’r gefnogaeth les sydd ar gael o fewn saith ysgol uwchradd Conwy. Gan weithio ar y cyd gydag ysgolion, teuluoedd ac asiantaethau partner, mae TRAC yn darparu cefnogaeth wedi’i dargedu i rai o ddysgwyr mwyaf diamddiffyn y sir. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar atal, ymyrraeth gynnar a chreu cyfleoedd, gan helpu pobl ifanc i oresgyn heriau cyn iddynt ddod yn fwy anodd eu datrys. Mae lles pobl ifanc 11 i 16 oed yn bwysicach nac erioed. Ar draws ysgolion uwchradd Conwy, mae nifer cynyddol o bobl ifanc yn wynebu heriau sy’n effeithio eu haddysg a’u hiechyd emosiynol, hyder a chyfleoedd yn y dyfodol. Gall anawsterau mewn perthynas â gorbryder, iechyd meddwl gwael, profedigaeth, amgylchiadau teuluol, cyfrifoldebau gofalu, tlodi a phresenoldeb ysgol isel, greu rhwystrau sylweddol i ddysgu a chyflawni. Mae sicrhau bod y bobl ifanc hyn yn derbyn y gefnogaeth iawn ar yr amser iawn yn hanfodol os ydynt am barhau i ymgysylltu mewn addysg a chyrraedd eu llawn botensial.
Yn ei hanfod, mae TRAC yn ymwneud â pherthnasau. Mae nifer o bobl ifanc sy’n ei chael yn anodd yn yr ysgol, yn cario beichiau nad ydynt yn weledol i ddechrau. Mae rhai yn ymdopi gyda theimladau o orbryder neu hunan-barch isel, ac mae eraill yn ymdopi gydag anawsterau teuluol, colled, trawma neu ansefydlogrwydd am eu dyfodol. Gall y profiadau hyn gael effaith sylweddol ar bresenoldeb, ymddygiad, cyrhaeddiad a lles cyffredinol. Mae gweithwyr TRAC yn darparu presenoldeb oedolyn cyson y gellir ymddiried ynddynt ym mywydau pobl ifanc. Trwy gymryd amser i wrando, deall a meithrin perthnasau ystyrlon, maent yn creu gofod diogel lle mae pobl ifanc yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi. Ar gyfer nifer o ddysgwyr, mae cael rhywun sy’n annibynnol o staff yr ysgol ac yn gallu cynnig cefnogaeth ddiduedd yn gwneud gwahaniaeth.
HYDREF 2026 | 53
Mae effaith y dull hwn yn cael ei adlewyrchu yn lleisiau’r bobl ifanc eu hunain. Eglurodd un dysgwr:
“Mae wedi helpu efo fy iechyd meddwl, achos o’r blaen doeddwn i ddim eisiau dod i’r ysgol ac roedd y syniad yn codi ofn arna i.” Dywedodd person ifanc arall:
“Mae cael Sam fel fy ngweithiwr TRAC wedi fy annog i ddod i’r ysgol pan oeddwn i mewn lle isel. Os na fyddai Sam yn weithiwr TRAC i mi ac yn fy helpu a fy nghefnogi i drwy flynyddoedd yr ysgol, ni fuaswn i wedi dod yn ôl i’r ysgol o gwbl.” Efallai mai un o’r enghreifftiau mwyaf pwerus oedd pan ddywedodd un person ifanc:
“Dydw i ddim yn cerdded allan o’r gwersi bellach.” Mae’r sylwadau hyn yn dangos effaith gwirioneddol y gall gefnogaeth lles effeithiol ei gael. Maent yn dweud hanes pobl ifanc sy’n teimlo’n fwy diogel, yn fwy gwydn ac yn gallu rheoli’r heriau maent yn eu hwynebu yn well. Mae’r dull ymyrraeth gynnar yn hanfodol. Trwy helpu pobl ifanc i ddatblygu strategaethau ymdopi, adeiladu gwytnwch a gwella ymwybyddiaeth emosiynol, mae TRAC yn cefnogi canlyniadau hirdymor gwell. Mae pobl ifanc yn dysgu sut i reoli heriau yn fwy effeithiol, datblygu perthnasau iachach ac ennill yr hyder sydd ei angen i gymryd rhan lawn mewn bywyd ysgol.
Mae’r rhaglen hefyd yn cefnogi dyheadau yn y dyfodol a chynnydd cadarnhaol. Mae lles a chyflawniad yn cysylltu’n agos, a phan mae person ifanc yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth a chysylltiad, maent yn fwy tebygol o ymgysylltu mewn dysgu ac ystyried eu nodau yn y dyfodol. Mae teimlo’n ddiogel, cael eu gweld a’u gwerthfawrogi yn hanfodol ar gyfer lles. Mae pob person ifanc yn haeddu rhywun sydd ar eu hochr, sy’n credu ynddynt, yn arbennig yn ystod y cyfnodau lle maent yn ei chael yn anodd credu yn eu hunain. Ar gyfer nifer o bobl ifanc yng Nghonwy, mae gweithwyr TRAC yn darparu anogaeth, sefydlogrwydd a gobaith. Wrth i ysgolion barhau i ymateb i anghenion lles cymhleth, mae rhaglenni megis TRAC yn chwarae rhan hanfodol i sicrhau bod dysgwyr diamddiffyn yn parhau i ymgysylltu, cael eu cefnogi a bod yn obeithiol am y dyfodol. Mae TRAC yn fwy na phrosiect, mae’n rhaff achub i nifer o bobl ifanc. Mae’n eu helpu nhw i barhau i gysylltu gydag addysg, gwella eu lles emosiynol a datblygu sgiliau a hyder sydd ei angen i ffynnu yn yr ysgol a thu hwnt. Trwy fuddsoddi mewn lles pobl ifanc heddiw, mae Conwy’n helpu i adeiladu cymunedau iachach, mwy gwydn a mwy llwyddiannus ar gyfer y dyfodol. Os hoffech drafod y fenter uchod yn fanylach, anfonwch e-bost at: tracey.owen1@conwy.gov.uk
54 | PLANT YNG NGHYMRU
Leo Holmes, Blynyddoedd Cynnar Cymru
Rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i fabanod a phlant trwy symud Mae babanod yn symud! O tua 7-8 wythnos ar ôl beichiogi mae babanod yn symud yn y groth. Mae llawer o’r symudiadau hyn yn anwirfoddol ac yn cael eu gyrru gan ymatebion i ddatblygiad y system nerfol. Mae symud yn iaith gyntaf babanod ac mae’r berthynas rhwng symudiad a’r ymennydd wedi’i sefydlu ymhell cyn geni. Mae’r berthynas hon yn hynod bwysig trwy gydol y blynyddoedd cynnar. Mae plant yn datblygu integreiddio synhwyraidd trwy symud; Mae mwy o symudiad yn golygu mwy o archwilio - mwy o ddata i’r ymennydd ymgysylltu ag ef os dymunwch, a mwy o ddysgu. Fel elusen, rydym yn deall y berthynas rhwng symudiad, datblygiad synhwyraidd, gwybyddiaeth, a sefydlu’r sylfeini sy’n caniatáu i blant adeiladu ar gyfer dysgu a datblygiad yn y dyfodol. Rydym wedi creu ystod o wasanaethau i rannu’r wybodaeth hon, a chefnogi ymarfer blynyddoedd cynnar. Rydym wedi buddsoddi yn y rhain oherwydd bod y cyfleoedd cywir yn y cam datblygiadol cywir yn helpu i sicrhau bod pob plentyn yn tyfu gyda’r sylfeini gwybyddol, cymdeithasol, emosiynol a chorfforol i ffynnu.
Babi Actif, Plentyn Bach Actif a Phlentyn Actif Un o’r ffyrdd rydym yn gwneud hyn yw drwy ein cynnig o hyfforddiant asyncronig: Babi Actif, Plentyn Bach Actif a Phlentyn Actif. Mae’r cyrsiau hyn yn canolbwyntio ar symudiad a phrofiadau symud penodol, wedi’u teilwra ar gyfer plant o’u geni hyd at bump oed. Maent yn rhoi’r wybodaeth, yr offer a’r hyder i ymarferwyr a rhieni gefnogi a meithrin symudiad ar bob cam o ddatblygiad plentyn. Mae Babi Actif yn canolbwyntio ar brofiadau symud cynharaf babanod. Mae’r cwrs yn ymdrin â chanllawiau gweithgarwch corfforol, pwysigrwydd chwarae ar y llawr ac amser bol, a’r ffyrdd hynod ddiddorol y mae babanod yn dechrau darganfod eu cyrff a deall sut maent yn symud. Mae Babi Actif hefyd yn archwilio adweithiau cyntefig, pwysigrwydd croesi’r llinell ganol, deall y synhwyrau, a gwerth symudiad ysgogiad isel a gorffwys fel rhan o ddiwrnod cytbwys. Mae Plentyn Bach Actif yn canolbwyntio ar blant rhwng 18 mis a 3 oed. Mae’n darparu cyfleoedd i
HYDREF 2026 | 55
ymarferwyr gynnig profiadau sy’n defnyddio’r corff cyfan, ynghyd ag amgylchedd sy’n hyrwyddo chwarae symud digymell ac agored, wedi’i deilwra i anghenion symud unigol pob plentyn. Mae’r cwrs yn ymdrin â thwf esgyrn, ystum corff delfrydol, datblygiad gweledol, a datblygiad ac integreiddio’r system synhwyraidd, ochr yn ochr â datblygiad y system nerfol a phwysigrwydd atal yr adweithiau cyntefig. Mae Plentyn Actif yn edrych ar ddatblygiad niwroffisiolegol a chorfforol, a’r cysylltiad â’r cwricwlwm. Mae’n archwilio pam mae cyfleoedd pedagogaidd ar gyfer llythrennedd corfforol mor bwysig wrth gynllunio’r cwricwlwm. Mae’r cwrs yn ymdrin â datblygiad a dilyniant echddygol, gan edrych yn fanwl ar batrymau symud, diddordebau symud, sgemâu a chwarae symud digymell dan do ac yn yr awyr agored, gan gynnwys sut i arsylwi ac asesu’r rhain yn effeithiol. Mae’r hyfforddiant hefyd yn ystyried pwysigrwydd agweddau ac uchelgeisiau oedolion tuag at symudiad plant, a’r rôl sydd gan ymarferwyr wrth feithrin hyder a chreu cyfleoedd ar gyfer symud a chwarae digymell o fewn y cwricwlwm. Mae’n archwilio sut olwg sydd ar amgylchedd symud chwareus, ochr yn ochr â’r syniad o bum profiad symud y dydd, a gwerth profiadau symud araf, parhaus a rheoleiddio. Yn olaf, mae’r cwrs yn dod â symudiad yn fyw drwy ganu gweithredol, adrodd straeon a chwarae creadigol gan ddefnyddio deunyddiau. Gyda’i gilydd, mae’r cyrsiau hyn yn rhoi dealltwriaeth gadarn i bawb sy’n gofalu am blant ifanc, boed gartref neu mewn lleoliad gofal plant, o pam mae symud yn bwysig a sut i gefnogi datblygiad symud plant ar bob cam o’u taith.
Symudwyr Bach, Siaradwyr Bach Mae symudiad ac iaith yn mynd law yn llaw, ac mae Symudwyr Bach, Siaradwyr Bach yn rhaglen hwyliog, ryngweithiol i rieni a’u babanod rhwng 6 wythnos a 12 mis oed, sy’n cyfuno symudiad, profiadau synhwyraidd a chyfathrebu cynnar.
Mae’r sesiynau’n cefnogi datblygiad corfforol, synhwyraidd a chymdeithasol babanod drwy weithgareddau chwareus, caneuon, rhigymau a rhyngweithio, gan gyflwyno rhieni i eiriau, ymadroddion a chaneuon Cymraeg syml y gallant eu defnyddio gyda’u babi gartref ac allan o gwmpas. Mae’n ffordd hamddenol a phleserus i deuluoedd archwilio’r Gymraeg gyda’i gilydd o’r cychwyn cyntaf, gan feithrin hyder rhieni i ddefnyddio’r Gymraeg yn rhan o arferion a rhyngweithiadau bob dydd.
Ein hymgyrch Hyrwyddwr Symud Y tu hwnt i’n cynnig hyfforddiant, rydym yn cynnal ein hymgyrch Hyrwyddwr Symud, sy’n codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd symud ym mywydau plant ifanc ymhlith aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru. Mae’r ymgyrch yn rhannu gwybodaeth a mewnwelediadau am sut y gellir sicrhau bod cyfleoedd i symud yn rhan o fywyd bob dydd plant ifanc, mewn lleoliadau gofal plant ac yn y cartref. Rydym yn gwybod bod rhieni a gofalwyr yn chwarae rôl yr un mor bwysig â’r ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant, felly mae’r ymgyrch yn darparu arweiniad a chefnogaeth i helpu teuluoedd i blethu cyfleoedd i symud i mewn i fywyd cartref hefyd. Mae hyn yn cynnwys adnoddau hawdd eu rhannu a’u deall, fel posteri, sy’n helpu i ledaenu negeseuon syml ac ymarferol am bwysigrwydd symud ym mywydau plant, gartref ac yn y gymuned. If you would like to learn more about the above work or the work of Early Years Wales in general, please contact: leoh@earlyyears.wales
56 | PLANT YNG NGHYMRU
Tina Taylor, Cyngor Sir Gaerfyrddin
Gweithio Gyda’n Gilydd i Greu Plentyndodau Iachach Mae sylfeini iechyd a lles gydol oes yn cael eu sefydlu yn ystod beichiogrwydd a blynyddoedd cynharaf bywyd plentyn. Gall y cymorth y mae plant a theuluoedd yn ei dderbyn yn ystod y cyfnod hwn gael effaith barhaol ar iechyd corfforol, lles emosiynol a chyfleoedd yn y dyfodol. Drwy adnabod anghenion yn gynnar a darparu cymorth amserol, gall gwasanaethau helpu teuluoedd i feithrin gwydnwch, lleihau anghydraddoldebau a rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant.
o fewn cymunedau lleol yn helpu i sicrhau bod teuluoedd yn gallu cael mynediad at gymorth pan fo’i angen arnynt, yn agos at eu cartrefi.
Mae’r Tîm Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar yn bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Sir Caerfyrddin, sy’n darparu cymorth integredig i deuluoedd o gyfnod beichiogrwydd hyd at bumed pen-blwydd plentyn. Drwy ddod â Bydwragedd, Ymwelwyr Iechyd a Gweithwyr Cymorth ynghyd mewn un gwasanaeth, mae’r tîm yn cynnig cymorth cydgysylltiedig sy’n canolbwyntio ar y teulu ac sydd wedi’i gynllunio i wella canlyniadau i blant a chryfhau lles teuluoedd.
Mae cymorth yn aml yn dechrau yn ystod beichiogrwydd, pan fo Bydwragedd yn meithrin perthnasoedd o ymddiriedaeth gyda rhieni sy’n disgwyl babi ac yn adnabod unrhyw anghenion ychwanegol. Gall teuluoedd wedyn gael mynediad at gymorth pwrpasol gan y Gweithiwr Cymorth Paratoi ar gyfer Bod yn Rhiant, sy’n eu helpu i baratoi ar gyfer rhianta, meithrin hyder a chael arweiniad ymarferol yn ystod beichiogrwydd ac yn ystod misoedd cynnar bod yn rhiant.
Wedi’i leoli yng Nghymoedd Aman a Gwendraeth, mae’r tîm yn cefnogi tua 650 o fenywod beichiog a 2,200 o blant rhwng 0 a 5 oed ar unrhyw adeg benodol. Mae gweithio
Mae Ymwelwyr Iechyd a Gweithwyr Cymorth Teuluol yn parhau â’r gefnogaeth hon wrth i blant dyfu, gan helpu teuluoedd i feithrin hyder, datblygu sgiliau magu plant a chryfhau gwydnwch. Drwy weithio ar y cyd a
Wrth galon y model mae’r ddealltwriaeth fod lles plant yn gysylltiedig yn agos â lles eu rhieni a’u gofalwyr. Mae perthnasoedd cryf, iechyd meddwl cadarnhaol ac amgylcheddau cartref cefnogol oll yn cyfrannu at ddatblygiad iach plant. Am y rheswm hwn, mae’r tîm yn mabwysiadu dull sy’n cynnwys y teulu cyfan, gan gydnabod bod cefnogi rhieni yn helpu plant i ffynnu.
HYDREF 2026 | 57
rhannu gwybodaeth, gall gweithwyr proffesiynol ymateb yn gyflym i bryderon sy’n dod i’r amlwg a chydlynu cymorth yn unol ag anghenion y teulu. Mae’r dull cydgysylltiedig hwn yn lleihau dyblygu ac yn darparu profiad mwy di-dor i deuluoedd. Mae atal ac ymyrraeth gynnar yn ganolog i waith y tîm. Trwy gyfuniad o wasanaethau cyffredinol a gwasanaethau wedi’u targedu, gall teuluoedd gael mynediad at wybodaeth, cyngor, cymorth ymarferol a chefnogaeth ddatblygiadol o gyfnod beichiogrwydd ymlaen. Mae’r dull rhagweithiol hwn yn hyrwyddo datblygiad iach, yn gwella lles ac yn helpu i atal heriau rhag gwaethygu. Mae’r tîm hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth gryfhau cysylltiadau cymunedol. Mae ystod eang o grwpiau a gweithgareddau teuluol rhad ac am ddim ac sy’n hawdd eu cyrraedd yn darparu cyfleoedd i rieni a gofalwyr gwrdd ag eraill, lleihau unigedd a datblygu rhwydweithiau cymorth. Mae’r cysylltiadau hyn yn helpu i feithrin hyder, annog cefnogaeth gan gyfoedion a chyfrannu at well lles i blant ac oedolion fel ei gilydd. Mae lleihau anghydraddoldebau iechyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol. Gall tlodi, unigedd cymdeithasol ac iechyd meddwl gwael gael effaith sylweddol ar les teuluoedd a chanlyniadau plant. Trwy gymorth hygyrch sy’n seiliedig ar berthynas, mae’r tîm yn helpu i sicrhau bod teuluoedd sy’n wynebu heriau ychwanegol yn cael yr help sydd ei angen arnynt, pan fo ei angen fwyaf arnynt. Adlewyrchir effaith y gwasanaeth yn ei gyrhaeddiad. Mae tua 33% o famau yn cael cymorth ychwanegol un-i-un yn ystod beichiogrwydd neu o fewn y deg diwrnod cyntaf ar ôl rhoi genedigaeth. Ar draws y boblogaeth ehangach o blant 0 i 5 oed, mae 26% o deuluoedd yn manteisio ar gymorth unigol estynedig, tra bo 60% yn cymryd rhan yng ngrwpiau a gweithgareddau’r Tîm Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar. Drwy ddod â gwasanaethau iechyd ac awdurdod lleol ynghyd, mae’r Tîm Integreiddio’r
Blynyddoedd Cynnar yn helpu i greu plentyndodau iachach ledled Sir Gaerfyrddin, gan gefnogi teuluoedd, cryfhau cymunedau a helpu mwy o blant i ffynnu o ddechrau cyntaf eu bywydau. Efallai mai’r mesur mwyaf pwerus o effaith y tîm yw geiriau’r teuluoedd eu hunain:
“Roedd Suzanne yn help mawr gyda phopeth oedd angen cymorth arnon ni ag e. Os nad oedd ganddi’r atebion, byddai’n canfod nhw ac yn cysylltu’n syth. Esboniodd bopeth yn glir o’r dechrau i’r diwedd a rhoddodd gyfle i mi ddod i adnabod fy mabi yn well hefyd. Roedd hi’n gefnogol iawn gyda fy sefyllfa anodd. Fel mam am y tro cyntaf oedd yn poeni, hi oedd y person gorau i’m cefnogi” “Mae’r staff yn rhagorol ac, fel mam am y tro cyntaf, gwnaethon nhw i mi deimlo fy mod yn gwneud gwaith da hyd yn oed pan oeddwn i’n teimlo nad oeddwn! Roedd y gefnogaeth yn cael ei darparu gartref hefyd, ac roedden nhw’n deall pan anghofiais am apwyntiad oherwydd apwyntiad ysbyty. Gwasanaeth rhagorol y dylai pawb gael mynediad ato. Diolch yn fawr” “Mae’r gefnogaeth rydw i wedi’i derbyn wedi bod yn anhygoel, ac nid oedd byth yn broblem galw heibio i fy nghartref cyn gynted ag y byddwn yn anfon neges. Roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi’n fawr” “Mae’r grŵp hwn wedi bod yn wych ar gyfer fy lles meddyliol gan ei fod wedi rhoi lle i mi gymdeithasu a gwneud ffrindiau, ac mae’n rhad ac am ddim, sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr” “Rwyf wedi bod yn cael trafferth gyda chyflwyno bwydydd solet, ac roedd hynny’n gwneud i mi deimlo dan straen ac yn bryderus iawn. Ond ar ôl y gefnogaeth a gefais, rwy’n teimlo llawer mwy hamddenol ynghylch y broses” Os hoffech wybod mwy am waith y tîm gwych hwn, anfonwch e-bost at: TTaylor@carmarthenshire.gov.uk
58 | PLANT YNG NGHYMRU
Sarah Griffith, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Ymgorffori hawliau plant mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - ie, gallwn ni wneud hynny! Ble y dechreuon ni Yn 2022, ac yntau’n weddol newydd yn ei swydd fel Seicotherapydd Celf yng Ngwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) Bae Abertawe, manteisiodd Sarah Griffith ar y cyfle i ddod yn Hyrwyddwr Hawliau Plant. Mae gan y GIG nifer o rolau Hyrwyddwr ar gael i staff sydd â diddordeb mewn datblygu newid, codi ymwybyddiaeth neu rannu adnoddau o fewn eu maes clinigol. Roedd Bae Abertawe eisoes wedi datblygu Siarter Hawliau Plant hygyrch, gyda phosteri dwyieithog – a grëwyd ac a ddyluniwyd ar y cyd â phlant a phobl ifanc – yn cael eu harddangos mewn clinigau. Fodd bynnag, roedd Sarah eisiau archwilio sut y gellid rhoi dull sy’n seiliedig ar hawliau plant ar waith ym mhractis dyddiol CAMHS. Dyna pryd y cyflwynwyd hi i Jannine Smith, Cyfarwyddwr Uned Hawliau Plant Castell-nedd Port Talbot, a ddarparodd gymorth i ddatblygu’r rôl newydd.
Ein taith hawliau plant CAMHS hyd yn hyn Ym mis Rhagfyr 2023, trefnwyd diwrnod allanol i holl staff CAMHS a chynhaliwyd gweithdy ar hawliau plant. Rhoddodd y sesiwn ryngweithiol hyfforddiant i staff ar y CCUHP ac archwilio sut y gellid ymgorffori ei egwyddorion yn y gwaith bob dydd. Ysgogodd y gweithdy drafodaeth fywiog a diddordeb sylweddol ymhlith tîm CAMHS. Sylweddolodd Sarah bwysigrwydd creu tîm o Hyrwyddwyr a gwahoddodd gynrychiolwyr o bob tîm CAMHS i ymuno â grŵp Hawliau Plant. Yn dilyn y gweithdy, ac yn defnyddio gwybodaeth a gasglwyd gan Jannine, lluniodd y grŵp gynllun
gwaith tair blynedd ar gyfer hawliau plant. Yn seiliedig ar bum egwyddor ‘The Right Way’ – Ymgorffori, Peidio â gwahaniaethu, Grymuso, Cymryd rhan ac Atebolrwydd – mae’r cynllun yn cynnwys camau gweithredu ar gyfer timau unigol a gwasanaeth ehangach CAMHS. Mae rhai yn gamau syml sy’n rhoi canlyniadau cyflym, fel sicrhau bod gwybodaeth am hawliau plant yn cael ei harddangos ym mhob clinig ac ystafell gyfarfod tîm amlddisgyblaethol. Mae eraill yn uchelgeisiau hirdymor, gan gynnwys dod o hyd i ffyrdd effeithiol a chynaliadwy o gynnwys plant a phobl ifanc wrth ddatblygu gwasanaethau ac wrth recriwtio. Mae’r grŵp yn cyfarfod dair neu bedair gwaith y flwyddyn i adolygu ac i ddiweddaru’r cynllun gwaith. Mae’r aelodau’n rhannu gwybodaeth a datblygiadau gyda’u timoedd, yn casglu tystiolaeth yn erbyn targedau ac yn cyflwyno awgrymiadau ar gyfer camau gweithredu yn y dyfodol.
Sut olwg sydd ar lwyddiant? Erbyn 2026, mae’r grŵp wedi tyfu i wyth clinigwr CAMHS. Mae gweithio gyda Jannine wedi darparu mynediad at ‘gyfaill beirniadol’ gwybodus sy’n gefnogol ac sydd hefyd yn gofyn cwestiynau heriol a defnyddiol. Mae’r cynllun gwaith yn parhau i fod yn ddogfen fyw - uchelgeisiol ond realistig ochr yn ochr â chyfrifoldebau clinigol y tîm. Mae’r uwch dîm rheoli yn cefnogi cyfranogiad y grŵp, gyda chynrychiolydd yn mynychu cyfarfodydd uwch reolwyr misol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf a dod â safbwynt hawliau plant i drafodaethau polisi a datblygu gwasanaethau. O fewn cyfarfodydd
HYDREF 2026 | 59
clinigol wythnosol, mae clinigwr enwebedig yn dod â safbwynt hawliau plant i drafodaethau, gyda’r safbwyntiau hyn yn cael eu cofnodi a’u gweithredu. Mae gwybodaeth am hawliau plant hefyd wedi’i hymgorffori yn y ffurflen asesu. Mae hyn yn golygu, o’r eiliad y bydd plant a theuluoedd yn dechrau rhyngweithio â CAMHS, eu bod yn cael gwybod am eu hawliau ac am ddyletswydd y gwasanaeth i ddiogelu’r hawliau a’r lles hynny ym maes gofal iechyd. Yn y pen draw, nid gwella prosesau yn unig yw diben y gwaith hwn, ond gwella profiad y plant a’r bobl ifanc sy’n defnyddio CAMHS. Drwy wneud hawliau plant yn rhan o sgyrsiau, asesiadau a phenderfyniadau o ddydd i ddydd, mae’r tîm eisiau i blant a phobl ifanc deimlo eu bod yn cael gwybodaeth dda, yn cael eu gwrando arnynt ac yn cael eu parchu yn eu gofal - gan ddeall bod ganddynt lais, bod eu barn yn bwysig a bod ganddynt hawl i gymryd rhan mewn penderfyniadau ynghylch eu gofal iechyd. Mae’r bartneriaeth gydag Uned Hawliau Plant NPT a BAYouth wedi bod yn arbennig o werthfawr. Mae pobl ifanc wedi helpu CAMHS i nodi meysydd lle gellid gwella eu profiad, gan gynnwys newidiadau i ardaloedd clinigol ac ystafelloedd aros, yn ogystal â gwelliannau i wybodaeth ysgrifenedig er mwyn ei gwneud yn fwy hygyrch a chroesawgar. Mae hyn yn cynrychioli newid pwysig: yn hytrach na phenderfynu ar sail barn gweithwyr proffesiynol ynghylch yr hyn sydd ei angen ar blant a phobl ifanc, mae CAMHS yn creu cyfleoedd iddynt ddweud beth fyddai’n gwneud gwahaniaeth.
o’r cychwyn cyntaf. Mae’r tîm yn dechrau gweld hyn yn cael ei adlewyrchu yn y ffordd y mae’n cyfathrebu â phlant a theuluoedd, yn casglu eu barn ac yn ystyried y farn honno wrth ddatblygu gwasanaethau. Fel clinigwyr gofal iechyd, mae’r tîm yn deall pwysigrwydd meithrin, arweiniad ac amddiffyniad, yn enwedig pan na all teuluoedd ddiwallu anghenion plant. I Sarah a’i chydweithwyr, mae llwyddiant yn golygu mynd ymhellach na hongian Siarter Hawliau Plant ar y wal. Mae’n golygu sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gwybod am eu hawliau a bod yr hawliau hynny’n cael eu cynnal ac eu parchu yng ngwaith dyddiol CAMHS. Dywedodd Jannine Smith, Cyfarwyddwr Uned Hawliau Plant Castell-nedd Port Talbot:
“Rydym yn falch iawn o’r cynnydd y mae CAMHS yn ei wneud. Mae eu gwaith yn dangos, drwy gryfhau cyfranogiad plant a phobl ifanc wrth ddatblygu gwasanaethau, a grymuso gweithwyr proffesiynol i gynnal eu hawliau, eu bod yn helpu i greu gwasanaethau sy’n fwy ymatebol ac teg, ac yn mynd i’r afael â rhai o’r anghydraddoldebau a all effeithio ar iechyd a lles plant a phobl ifanc.” I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Sarah.Griffith3@wales.nhs.uk
Mae gwaith y gwasanaeth bellach yn cael ei gydnabod fel arfer da, a bydd yn cael ei gynnwys fel astudiaeth achos yn adnoddau hyfforddi ‘The Right Way’ Comisiynydd Plant Cymru. I CAMHS, mae gwreiddio hawliau plant yn golygu na ddylai llais person ifanc fod yn ystyriaeth ychwanegol ar ddiwedd proses – dylai helpu i lunio’r broses honno
Cyfeiriad Y Ffordd Gywir – Dull sy’n Seiliedig ar Hawliau Plant, Comisiynydd Plant Cymru.
60 | PLANT YNG NGHYMRU
Marianne Mannello, Chwarae Cymru
Mae chwarae’n rhan annatod o ofal iechyd Mae chwarae o bwys ble bynnag y mae plant. Fydd chwarae ddim yn llai pwysig pan fydd plentyn yn mynd i ysbyty, hosbis, clinig neu ystafell driniaeth. Mae’r angen i chwarae’n parhau trwy gydol afiechyd, triniaeth a gwellhad – gan ddod yn bwysig iawn pan fydd bywyd yn teimlo’n ansicr, yn ddychrynllyd neu allan o reolaeth plentyn. Mae chwarae’n cynnig cynefindra, cysylltiad ac enydau o lawenydd. Mae’n helpu plant i wneud synnwyr o’r hyn sy’n digwydd ac i ddal i fod yn blant, ac nid dim ond yn gleifion.
Pam fod chwarae’n bwysig yn ystod gofal iechyd
Mae’r gwaith yma’n dechrau gyda hawliau plant. Mae cysylltiad agos rhwng Erthygl 24, ac Erthygl 31, o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Tra bod Erthygl 24 yn gwarchod mynediad i ofal iechyd da, mae cyfleoedd i chwarae, gorffwys a hamdden wedi eu diogelu yn Erthygl 31. Mae cael cyfleoedd i chwarae’n cefnogi iechyd a lles corfforol a meddyliol plant, tra bod iechyd da’n eu galluogi i gyfranogi’n llawn mewn chwarae a hamdden. Mae Sylw Cyffredinol rhif 17, sef arweiniad Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn ar Erthygl 31, yn pwysleisio bod yr hawl i chwarae’n berthnasol ym mhobman, yn cynnwys ysbytai, hosbisau, clinigau cleifion allanol a lleoliadau gofal iechyd cymunedol. Mae’n nodi y dylai plant yn y lleoliadau hyn gael cyfleoedd dyddiol a mannau priodol ar gyfer chwarae a hamdden, wedi eu cefnogi gan staff hyfforddedig ble fo angen.
Nid yw cyfleoedd i chwarae fel rhan o daith gofal iechyd yn elfennau ychwanegol dewisol neu’n rhywbeth braf i dynnu eu sylw. Maent yn rhan o ofal pediatrig tosturiol, effeithiol. Mae’r dystiolaeth yn rymus. Mae chwarae’n gallu: •
Lleihau pryder, ofn a straen
•
Lleihau profiad plant o boen
•
Cynorthwyo gyda pharatoi ar gyfer triniaethau
•
Helpu plant i ddeall salwch a thriniaeth
•
Adfer hyder, dewis ac ymdeimlad o reolaeth
•
Cryfhau perthynas deuluol
•
Helpu plant i ymwneud yn weithredol gyda thriniaeth a gwellhad
Dyma pam fod y gweithlu chwarae iechyd medrus yn bwysig. Bydd arbenigwyr chwarae iechyd yn defnyddio chwarae therapiwtig i ddiogelu lles emosiynol plant cyn, yn ystod ac ar ôl derbyn triniaeth. Mae gweithwyr chwarae iechyd, cynorthwywyr, arweinwyr chwarae a gweithwyr ieuenctid ysbytai i gyd yn meddu ar arbenigedd penodol. Maent yn helpu plant ac arddegwyr i lywio eu ffordd trwy ofal iechyd mewn ffyrdd sy’n parchu oedran, datblygiad, cyfathrebu ac anghenion yr unigolyn.
HYDREF 2026 | 61
Yn ogystal, mae darpariaeth dda yn gofyn am i’r amodau cywir gael eu gwreiddio yng nghynlluniau gofal plant: •
Amser i chwarae
•
Gofodau penodedig a hyblyg
•
Adnoddau addas
•
Mynediad i’r awyr agored ble fo’n bosibl
•
Cyfleoedd sy’n briodol i’w hoedran ar gyfer arddegwyr
Chwarae’n Dda yng Nghymru Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Chwarae Cymru wedi dwyn ynghyd reolwyr chwarae iechyd ar draws Cymru, gan greu rhwydwaith i rannu ymarfer, dynodi heriau a chreu llais cyfunol cryfach. Rydym wedi cynnal gweithdai ar gyfer staff gofal iechyd ac uwch-randdeiliaid polisi, ymgysylltu gyda’n cydweithwyr yn GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, a chynnal arolygon gyda staff sy’n cefnogi plant mewn ysbytai, hosbisau, gwasanaethau cleifion allanol a chlinigau cymunedol. Mae’r ymgysylltiad hwn wedi cadarnhau neges glir: mae ymarfer rhagorol yn bodoli, ond mae’r ddarpariaeth yn anghyson a heb ei hariannu’n ddigonol. Ein cam cyffrous nesaf yw Chwarae’n Dda yng Nghymru, partneriaeth dwy flynedd o hyd gyda’r Starlight Children’s Foundation, yr elusen genedlaethol dros chwarae mewn gofal iechyd. Gan adeiladu ar y pecyn cymorth Play well a lansiwyd gan GIG Lloegr a Starlight yn 2025, bydd y prosiect yn gweithio i wreiddio safonau, arweiniad ac arddulliau o safon mewn gofal pediatrig. Ochr yn ochr â gweithredu’r prosiect, bydd yn darparu cefnogaeth i deuluoedd a hyfforddiant proffesiynol, gan gynyddu hyder a sgiliau o amgylch ymarfer seiliedig ar chwarae. Bydd Grŵp Gorchwyl cenedlaethol yn dwyn ynghyd arbenigedd o chwarae iechyd, iechyd plant, polisi, gwelliant a hawliau plant. Ei fwriad yw deall yr hyn sy’n gweithio yn y cyd-destun Cymreig, dysgu oddi wrth y plant, teuluoedd ac ymarferwyr, a chreu’r achos dros well deilliannau i blant.
Mae’n hanfodol inni drin yr hawl i chwarae fel rhan o ofal iechyd o safon. Mae egni gwirioneddol am yr agenda hon yng Nghymru: ymarferwyr medrus, partneriaid cefnogol a diddordeb cynyddol mewn polisi. Dylai pob plentyn gael amser, lle, caniatâd a chefnogaeth i chwarae trwy gydol eu taith gofal iechyd. Pan fyddwn ni’n gwarchod chwarae, byddwn yn gwarchod plentyndod – ac yn helpu i wneud gofal iechyd yn fwy ymatebol ac yn well ar gyfer plant a’u teuluoedd. Mae Chwarae Cymru wedi cyhoeddi adnoddau ymarferol a pholisi yr ydym wedi’u defnyddio i gynyddu ymwybyddiaeth gyda phenderfynwyr, rhwydweithiau proffesiynol a sefydliadau ar draws y system bediatreg: •
Mae ein taflen wybodaeth Chwarae mewn gofal iechyd yn egluro’r rolau arbenigol a geir yn y gweithlu a’r ymyriadau sy’n cefnogi plant a theuluoedd trwy gydol taith gofal iechyd
•
Mae ein papur briffio Ffocws ar chwarae – Chwarae mewn gofal iechyd, a gymeradwywyd gan Starlight Children’s Foundation, yn dwyn ynghyd yr achos hawliau, tystiolaeth ac economaidd dros chwarae, yn archwilio’r sefyllfa yng Nghymru ac yn cyflwyno argymhellion ar gyfer polisi
I ddysgu mwy am y gwaith uchod, cysylltwch â: Marianne@play.wales
62 | PLANT YNG NGHYMRU
Joseph Carter, Cadeirydd Awyr Iach Cymru (ochr yn ochr â Plant yng Nghymru) a Phennaeth Asthma + Lung UK Cymru
Gwella ansawdd yr aer rydyn ni’n ei anadlu yng Nghymru O’u hanadl cyntaf un, mae plant yn arbennig o agored i lygredd aer am nifer o resymau. Mae eu hysgyfaint yn tyfu ac yn datblygu, ac nid yw eu hamddiffynfeydd wedi datblygu’n llawn; maen nhw’n anadlu’n gynt nag oedolion, sy’n golygu eu bod nhw’n anadlu mwy o aer yn gymharol â’u pwysau corff. Yn ogystal, mae bod yn agosach at y ddaear a threulio mwy o amser yn yr awyr agored yn golygu eu bod nhw’n wynebu mwy o risg ac, wrth gwrs, does ganddyn nhw ddim gymaint o allu i reoli eu hamlygiad 1. O’r eiliad y mae plentyn yn gadael yr ysbyty, mae’n agored i’r aer gwenwynig o’i gwmpas. Oherwydd y traffig, y cerbydau sy’n gadael i’r injan redeg pan maen nhw’n llonydd, y diwydiant, amaethyddiaeth a llosgi domestig, bydd eu hysgyfaint bach yn cael eu heffeithio gan y llygredd. Yng Nghymru, amcangyfrifir bod llygredd aer yn achosi rhwng 1,000 a 1,400 o farwolaethau cynamserol bob blwyddyn 2; Mae gennym y cyfraddau marwolaethau resbiradol gwaethaf yng Ngorllewin Ewrop 3. Yn 2024, amlinellodd Datganiad Safbwynt y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yr effeithiau niweidiol o fod yn agored i lygredd aer 1. Mae’r effeithiau’n dechrau cyn geni ac yn parhau yn y
blynyddoedd cynnar, trwy gydol plentyndod ac yn ystod llencyndod. Effeithir ar organau sy’n datblygu; mae’r risg o glefyd cronig yn ddiweddarach mewn bywyd yn cynyddu. Mae llygredd aer yn effeithio ar y system gyfan yn y tymor byr a’r tymor hir. Gall amlygiad i lygryddion effeithio ar dwf a datblygiad y ffoetws ac arwain at enedigaeth gynamserol a phwysau geni isel. Mae anghydraddoldeb yn ffactor sylweddol yma. Y rhieni sydd lleiaf tebygol o fod yn berchen ar gar yw’r un bobl y bydd eu plant yn fwyaf agored i lygredd cerbydau pobl eraill. Mae llygredd aer yn aml yn uwch mewn ardaloedd sydd â lefelau uwch o dai cymdeithasol, yn hytrach nag yn y maestrefi gwyrddlas. Fodd bynnag, gellir gwrthdroi’r niwed a wnaed i ysgyfaint plant. Canfu astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol Queen Mary yn Llundain, a oedd yn cynnwys mwy na 3,400 o blant, fod twf yr ysgyfaint yn Llundain wedi gwella yn dilyn cyflwyno ULEZ yn 2019 4. Mae hyn yn dangos nad oes angen i ni dderbyn aer brwnt. Ni yw Awyr Iach Cymru, clymblaid o sefydliadau iechyd, amgylcheddol a hawliau plant yng Nghymru sy’n gweithio i wella ansawdd yr aer rydym ni i gyd yn ei anadlu.
HYDREF 2026 | 63
Yn unol â Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant, rydym yn annog Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gymryd mwy o gamau i helpu i ddiogelu ysgyfaint bregus pobl ifanc. Dywedodd y Cenhedloedd Unedig y dylai gwladwriaethau gymryd y camau canlynol ar unwaith – gwella ansawdd yr aer drwy leihau llygredd aer yn yr awyr agored ac yn y cartref, er mwyn atal marwolaethau ymhlith plant, yn enwedig y rhai dan bump oed. Hoffem weld rhwydwaith trylwyr ac effeithiol ar gyfer monitro llygredd aer, gan gynnwys cyflwyno monitorau PM2.5 ac NO2 ym mhob ysgol ac ar bob safle GIG. Rydym yn argymell cyflwyno Parthau Aer Glân, lle bo angen, gan ystyried yn ofalus grwpiau sy’n economaidd ddifreintiedig a phobl anabl, a rhoi pwerau i awdurdodau lleol gau neu ddargyfeirio ffyrdd pan fydd llygredd ger ysgolion yn uwch na’r terfynau diogel. Ac mae pobl yng Nghymru eisiau gweld camau gweithredu ynghylch aer gwenwynig. Mae’r arolwg blynyddol diweddaraf gan Opinion Matters o 1,000 o bobl yng Nghymru, a gynhaliwyd ar gyfer Asthma + Lung UK Cymru, yn dangos bod dros 72% o bobl yn poeni am ansawdd yr aer o amgylch ysgolion. Hoffai dros 65% weld monitro’n cael ei gyflwyno y tu allan i ysgolion, ac mae 73% yn cytuno y dylid gwahardd cerbydau rhag aros gyda’r injan yn rhedeg pan maen nhw’n llonydd wrth giatiau ysgolion 5.
ysgolion, cytunodd 73.1% (net), anghytunodd 8.3% (net), ac roedd 18.6% o bobl nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno. Hoffem hefyd weld Llywodraeth newydd Cymru yn cyflymu’r broses o weithredu Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 ac yn gwneud mwy i ddiogelu ysgyfaint plant. Fel sy’n wir am yr ULEZ yn Llundain, mae pwysau mawr gan grwpiau moduro i wanhau’r camau i fynd i’r afael â llygredd aer; ond fel rydym wedi’i weld yn Llundain, mae lleihau traffig yn gweithio, ac mae plant a chymunedau yn iachach o ganlyniad. Mae angen i weinidogion osod targedau ansawdd aer sy’n gyfreithiol-rwym ar gyfer nitrogen deuocsid (NO2) – risg iechyd sylweddol sy’n gysylltiedig ag allyriadau cerbydau – yn ogystal ag ar gyfer llygredd gronynnol (PM2.5). Hoffem hefyd i’r llywodraeth ddefnyddio rhybuddion iechyd cyhoeddus i roi gwybod i bobl ledled Cymru am lefelau llygredd lleol, ac am sut i leihau’r risgiau i’w hiechyd. Fel rydym wedi’i weld yn Llundain, pan gaiff camau eu cymryd i amddiffyn ysgyfaint ein plant rhag mygdarthau gwenwynig traffig, mae’n gweithio; felly, gadewch i ni beidio â gadael i Gymru fod ar ei hôl hi. Os hoffech wybod mwy am yr uchod, cysylltwch â: jcarter@asthmaandlung.org.uk
Pan ofynnwyd a fyddai pobl yn hoffi gweld llygredd aer yn cael ei fonitro y tu allan i ysgolion, cytunodd 65% (net), anghytunodd 8.3% (net), ac roedd 25.8% o bobl nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno. Pan ofynnwyd a ddylid gwahardd injans cerbydau rhag rhedeg tra bod y cerbyd yn llonydd ger Cyfeiriadau 1 Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (RCPCH). 2024. Air Pollution in the UK-Position Statement. Ar gael yma (Awst 2026) 2 Cyfoeth Naturiol Cymru / SoNaRR 2025: Aer 3 Y Comisiwn Ewropeaidd, Eurostat 2025. Achosion marwolaeth Chwefror 2026. Ar gael yma 4 Mae gwybodaeth am yr adroddiad ar gael yma 5 Cynhaliwyd yr ymchwil gan Opinion Matters ar ran Asthma + Lung UK Cymru, ymhlith sampl o 1,000 o oedolion yng Nghymru 16 oed a hŷn. Casglwyd y data rhwng 19.12.25 a 06.01.26. Mae Opinion Matters yn cadw at reolau’r Market Research Society ac yn cyflogi aelodau ohoni; mae’r gymdeithas honno’n seiliedig ar egwyddorion ESOMAR. Mae Opinion Matters hefyd yn aelod o’r British Polling Council.
childreninwales.org.uk/cy