Mae pleidiau gwleidyddol yn rhannu eu syniadau cyn Etholiad y Senedd ym mis Mai 2026. Mae'r canllaw hwn yn egluro beth mae'r prif bleidiau'n dweud y maen nhw eisiau ei wneud i helpu babanod, plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Plaid Geidwadol Cymru
Maen nhw'n dweud eu bod nhw eisiau helpu teuluoedd a sicrhau bod plant yn cael dechrau da mewn bywyd. Maen nhw eisiau cefnogi teuluoedd a gwella addysg.
Maen nhw'n addo:
Gwneud costau gofal plant yn rhatach ac am ddim o 9 mis oed ymlaen
Helpu neiniau a theidiau sy'n gofalu am wyrion ac wyresau
Gwella darllen, ysgrifennu a mathemateg mewn ysgolion
Cynyddu prentisiaethau a hyfforddiant swyddi
Gwella cefnogaeth iechyd meddwl i blant
Atal teuluoedd â phlant rhag cael eu rhoi mewn gwestai
Cefnogi gofalwyr ifanc gyda chostau teithio ac addysg
Reform UK
Maen nhw'n dweud eu bod nhw eisiau codi safonau ysgolion a gwella sgiliau.
Maen nhw eisiau gwella cefnogaeth i blant sydd angen cymorth ychwanegol yn yr ysgol ac i athrawon gael mwy o gefnogaeth.
Maen nhw'n addo:
Canolbwyntio ar bynciau ysgol craidd fel Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth
Gwella cefnogaeth i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Cynyddu cefnogaeth arbenigol mewn ysgolion
Cefnogi iechyd meddwl a lles plant mewn ysgolion
Creu mwy o brentisiaethau, gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig
Recriwtio mwy o ymwelwyr iechyd i gefnogi babanod a theuluoedd
Plaid Lafur Cymru
Maen nhw'n dweud eu bod nhw eisiau gwneud bywyd yn decach a lleihau tlodi plant. Maen nhw eisiau helpu gyda chostau byw drwy gynnig trafnidiaeth ratach a mwy o leoedd gofal plant.
Maen nhw'n addo:
Ehangu gofal plant a chludiant rhatach i bobl ifanc
Gwella cefnogaeth i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Lleihau amseroedd aros ar gyfer asesiadau iechyd meddwl
Darparu prydau ysgol am ddim
Cefnogi plant sydd wedi bod mewn gofal i aros yn agos at adref
Atal plant rhag cael eu rhoi mewn llety gwely a brecwast
Plaid Cymru
Maen nhw'n dweud eu bod nhw eisiau rhoi hawliau plant yn gyntaf. Maen nhw'n dweud y dylid gwrando ar blant a'u trin yn deg.
Maen nhw'n addo:
Gwneud hawliau plant yn rhan o'r gyfraith
Darparu addysg gynnar a gofal plant fforddiadwy
Gwella gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc
Lleihau tlodi plant gyda chymorth ariannol ychwanegol
Gwella tai i deuluoedd
Ei gwneud hi'n haws symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion
Plaid Werdd Cymru
Maen nhw'n dweud eu bod nhw eisiau i blant fod yn hapus, yn iach ac yn ddiogel. Maen nhw'n dweud bod dyfodol plant yn bwysig iawn.
Maen nhw'n addo:
Ehangu gofal plant am ddim
Canolbwyntio ar lesiant yn ogystal â dysgu mewn ysgolion
Gwella cefnogaeth iechyd meddwl a chymorth cynnar
Lleihau tlodi plant a chost bywyd ysgol
Helpu teuluoedd i fyw mewn cartrefi cynnes a diogel
Darparu bysiau rhatach neu am ddim i bobl ifanc
Plaid Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Maen nhw'n dweud eu bod nhw eisiau cymorth cynnar a chyfleoedd gwell, fel nad yw problemau'n tyfu'n fwy yn ddiweddarach. Maen nhw eisiau cefnogi plant i symud o'r ysgol i addysg bellach, hyfforddiant neu waith.
Maen nhw'n addo:
Darparu mwy o ofal plant am ddim o 9 mis oed
Cefnogi plant a allai fod yn cael trafferth yn yr ysgol
Gwarantu addysg neu hyfforddiant ar ôl gadael yr ysgol