Skip to main content

St David's Awards 26 brochure

Page 1


The Rt Hon Eluned Morgan MS First Minister of Wales
Y Gwir Anrh Eluned Morgan AS
Prif Weinidog Cymru

Croeso

Rwy’n falch iawn y gallwch ymuno â mi heno i ddathlu cyflawniadau rhyfeddol teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant 2026. Maent yn sicr wedi cyfrannu’n helaeth at gymunedau ledled Cymru.

Gwobrau Dewi Sant yw’r gwobrau uchaf y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi i bobl yng Nghymru – ein system

Anrhydeddau ein hunain. Mae’r holl deilyngwyr yn haeddu cael eu cydnabod am eu cyflawniadau eithriadol, ac mae cyfraniad pob unigolyn at fywyd Cymru yn destun balchder i ni i gyd.

Dros y deuddeg mlynedd diwethaf, rydym wedi cydnabod mwy na 300 o bobl sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Maen nhw’n aelodau o’r teulu, ffrindiau, cydweithwyr, sydd i gyd yn arwyr o fewn ein cymdeithas ac y mae’n fraint i ni gael byw yn eu plith.

Eleni, cafwyd cannoedd o enwebiadau ar gyfer unigolion, timau a grwpiau o bob cwr o Gymru. Ac, yn yr un modd â’r blynyddoedd blaenorol, roedd safon yr enwebiadau yn eithriadol o uchel. Roedd hyn yn golygu bod gwaith pwyllgor ymgynghori’r gwobrau yn anodd iawn.

Hoffwn ddiolch i’r Athro Jean White CBE, a gadeiriodd y trafodaethau eleni, a holl aelodau’r pwyllgor am fod mor barod i roi o’u hamser.

Mae’r noson hon yn ddathliad o holl deilyngwyr ac enillwyr anhygoel 2026. Diolch. Byddwch yn ysbrydoli cymaint o bobl – rydych chi’n llysgenhadon gwirioneddol i Gymru.

Hoffwn longyfarch pob un ohonoch a diolch i chi am bopeth rydych chi wedi’i wneud – ac yn parhau i’w wneud – dros ein cenedl. Llongyfarchiadau mawr i chi.

Gobeithio y cewch chi noson wych!

I am delighted you can join me this evening to celebrate the remarkable achievements of our St David Awards finalists for 2026. They have made great contributions to communities across Wales.

The St David Awards are the highest awards that the  Welsh Government can give to people in Wales – our very own Honours system. All finalists deserve to be recognised for their exceptional achievements, and each individual’s contribution to Welsh life is a source of pride for us all.

Over the last twelve years, we have recognised more than 300 finalists – family members, friends, colleagues, who are all heroes of Welsh society that we are privileged to have living amongst us.

This year, there were hundreds of nominations for individuals, teams and groups from all over Wales. And, as in previous years, the standard of the nominations was exceptionally high. This made the work of the awards’ advisory committee very difficult.

I would like to thank Professor Jean White CBE, who chaired this year’s deliberations, and all the committee members for giving their time so generously.

This evening is a celebration of all of our amazing 2026 finalists and winners. Diolch. You will inspire so many people – you are true ambassadors for Wales.

I congratulate each of you and thank you for all you have done – and continue to do – for our nation. Llongyfarchiadau mawr i chi.

I hope you have a wonderful evening!

Seramegydd / Ceramicist

Dylunydd Gwobr Dewi Sant 2026 yw’r seramegydd Daniel Boyle. Mae Daniel yn byw ac yn gweithio yn Silian, ger Llanbedr Pont Steffan. Drwy ddefnyddio slipiau a gwydriad halen a lludw sy’n rhoi lliw hynod i’w grochenwaith mae Daniel yn cynhyrchu gweithiau unigryw a chyfoes.

The designer of the 2026 St David Award is ceramicist Daniel Boyle. Daniel lives and works in Silian, Lampeter and produces one‑off thrown salt and ash glazed stoneware. The vibrant slips and glazes used on the ware produce unique works which are contemporary and individual.

Aelodau Pwyllgor

Ymgynghorol 2026 Gwobrau Dewi Sant St David Awards 2026 Advisory Committee Members

Cyn Brif Swyddog Nyrsio Cymru

Former Chief Nursing Officer for Wales

Cyn Gyfarwyddwr CBI Cymru

Former Director of CBI Wales

Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys

Chief Constable Dyfed Powys Police

Cyn Olygydd, Western Mail

Former Editor, Western Mail

Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilmiau LHDTC+ Gwobr Iris

Director of Iris Prize LGBTQ+ Film Festival

Athro yn Ysgol y Biowyddorau

Prifysgol Caerdydd

Professor, School of Biosciences, Cardiff University

Yr Athro / Prof. Jean White CBE
Ian Price OBE
Ifan Charles
Catrin Pascoe
Berwyn Rowlands
Yr Athro / Prof. Steve Ormerod

Cyfarwyddwr, Concrete Canvas Ltd Director, Concrete Canvas Ltd

Cadeirydd, Chwaraeon Cymru Chair, Sport Wales

Prif Wirfoddolwr, ScoutsCymru

Chief Volunteer, ScoutsCymru

Inderpal Singh MD, MSc, FRCP

Meddyg Ymgynghorol a Geriatregydd; Arweinydd Clinigol Cenedlaethol,

Iechyd Esgyrn, Cymru

Consultant Physician & Geriatrician; National Clinical Lead, Bone Health, Wales

Cyn Gyfarwyddwr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant, Sir Gaerfyrddin

Former Director of Education and Children’s Services, Carmarthenshire

Peter Brewin MBE
Rhian Moore
Y Farwnes / Baroness Tanni Grey Thompson DBE, DL
Gareth Morgans MBE

Categorïau a Teilyngwyr Categories and Finalists

Cyflwynir 11 gwobr i enillwyr y categorïau canlynol heno: 11 awards will be presented to the winners of the following categories this evening:

Dewrder Bravery

Liz Hopkin, Fiona Elias, Darrel Campbell

James Reilly

William Newbury

Busnes Business Arwr Cymunedol Community Champion

Brød – Y Becws Danaidd

Brød – The Danish Bakery de Novo Solutions

ROCKWOOL Ltd

Faith in Families

Grŵp Dysgu Rhieni, Ysgol Uwchradd Cathays / Parent Learning Group

Cathays High School

Rusna Begum

Diwylliant Culture

Luke Evans

Max Boyce MBE

Theatr Ieuenctid Gorllewin

Morgannwg / West

Glamorgan Youth Theatre

Ceidwad yr Amgylchedd Environment Champion

Deorfa Cynrig Hatchery

Dani Robertson

Gail Davies Walsh

Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg Innovation, Science and Technology

Canolfan Barrett ar gyfer Rheoli

Helminth / Barrett Centre for Helminth Control

Dr Elin Haf Davies

Yr Athro / Prof. Joanne Davies

Gwasanaethu’r Cyhoedd Public Service

Dr Tipswalo Day

Innes Robinson

Jan Luke

Robert Scott

Chwaraeon Sport

Jess Fishlock MBE

Lauren Price MBE

Alan Williams

Gwirfoddoli Volunteering

Advocates and Angels

Brian Jones

Eileen Hodge

Person Ifanc Young Person

Anwen Grace Rodaway

Bowen Cole

Cian Evans

Gwobr Arbennig y Prif Weinidog

First Minister’s Special Award

Dewrder

Dyma wobr i’r rheini sydd wedi ymddwyn yn eithriadol o ddewr neu sydd wedi dangos dewrder neilltuol yn eu cymeriad trwy wneud y peth iawn mewn sefyllfa anodd. Gallai olygu bod yn ddi ofn neu’n gorfforol ddewr, a gweithredu heb feddwl am niwed posibl i’w hunain.

Bravery

Awarded to those who have demonstrated remarkable, courageous behaviour or character; doing what is right in difficult situations. This may entail fearlessness or physical bravery and involves acting despite possible harm to themselves.

Liz Hopkin, Fiona Elias, Darrel Campbell

Mae athrawon rhagorol Ysgol Dyffryn Aman yn cael eu hanrhydeddu fel teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant i gydnabod eu dewrder anhygoel yn ystod ymosodiad cyllell yn eu hysgol ar 24 Ebrill 2024.

Yn y digwyddiad, cafodd y Dirprwy Bennaeth Fiona Elias, y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol Liz Hopkin, ac un o’r disgyblion, eu trywanu. Er gwaethaf ei hanafiadau difrifol, bu gweithredoedd dewr Liz Hopkin yn allweddol wrth achub bywydau. Ymatebodd y cyn Bennaeth Cynorthwyol Darrel Campbell yn gyflym hefyd, gan ddiarfogi’r ymosodwr ac atal niwed pellach.

Mae Fiona Elias wedi dangos dewrder a chryfder drwy ddychwelyd i’r gwaith yn fuan ar ôl yr ymosodiad, gan barhau i gefnogi disgyblion a staff ar adeg mor heriol.

Roedd dewrder y tri aelod o staff wrth amddiffyn disgyblion a staff eraill mewn moment o argyfwng, yn gwbl arbennig.

Trwy eu gweithredoedd, llwyddasant i osgoi trasiedi waeth, a chynnal y safonau uchaf o uniondeb, anhunanoldeb, ac ymrwymiad i gymuned yr ysgol gyfan. Gyda’i gilydd, maent yn enghraifft o wir ysbryd Gwobr Dewi Sant am Ddewrder.

The outstanding teachers of Ysgol Dyffryn Aman are being honoured as finalists for the St David Awards in recognition of their extraordinary bravery during a knife attack at their school on 24 April 2024.

Deputy Headteacher Fiona Elias, Additional Learning Needs

Co ordinator Liz Hopkin, and a pupil all sustained multiple stab wounds in the incident. Despite her severe injuries, Liz’s courageous actions were instrumental in saving lives.

Former Assistant Headteacher Darrel Campbell responded rapidly, successfully disarming the attacker and preventing further harm.

Fiona Elias has shown bravery and resilience by returning to work within a short period following the attack, continuing to support pupils and staff during a challenging time.

Their collective bravery protected other pupils and staff, and brought much needed reassurance during a moment of crisis.

Their actions not only averted tragedy but also exemplified the highest standards of integrity, selflessness, and commitment to the entire school community. Together, they exemplify the true spirit of the St David Award for Bravery.

James Reilly

Mae James Reilly, cyn-aelod o’r Peirianwyr Comando Brenhinol, wedi parhau i ddangos dewrder a gwasanaethu eraill ymhell ar ôl ei yrfa filwrol.

Bellach wedi ymgartrefu yn Wrecsam gyda’i wraig Sarah, ei ferch Mara a’i fab newydd anedig Dylan, mae James yn gweithio fel plymwr a pheiriannydd gwresogi yn ei gymuned leol.

Un diwrnod, ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, daeth James yn arwr go iawn. Pan welodd menyw mewn trafferthion difrifol mewn dyfroedd rhewllyd, wnaeth James Ymateb yn syth. Heb oedi dim, aeth James i mewn i’r dŵr rhewllyd, gan gymorthwyo a thawelu’r ddynes wrth iddo ef ac eraill weithio gyda’i gilydd am dros awr nes i’r gwasanaethau brys gyrraedd.

Drwy weithredu yn benderfynol a dyfalbarhau gyda chymorth pobl eraill oedd gerllaw a’r swyddog tân Chris Argent, fel lwyddodd James i achub bywyd y ddynes y diwrnod hwnnw.

Mae ei ymateb greddfol i helpu rhywun mewn perygl yn gwneud James yn gwbl deilwng i fod ar y rhestr fer am Wobr Dewi Sant.

James Reilly, a former member of the Commando Royal Engineers, has continued to demonstrate courage and service long after his military career.

Now settled in Wrexham with his wife Sarah, daughter Mara and newborn son Dylan, James has transitioned to civilian life as a dedicated plumber and heating engineer, making a positive impact in his local community.

His bravery faced the ultimate challenge at Greenfield Valley Heritage Park, where he selflessly responded to a woman in grave distress, spotted struggling in icy waters. Without hesitation, James entered the freezing water, securing and reassuring the woman as he and others worked together for over an hour until emergency services arrived.

James’ decisive action, with help from bystanders and fire officer Chris Argent, saved a life that day. His instinctive response to help someone in danger in a time of crisis makes James a worthy finalist for this St David Award.

William Newbury

Dangosodd William Newbury o Ben-y-bont ar Ogwr ddewrder eithriadol yn wyneb perygl yn ystod digwyddiad erchyll yng Nghaerdydd ar 30 Mawrth 2025.

Wrth ymweld â ffrindiau yn ardal Llanrhymni, clywodd William sgrechian ofnadwy a darganfod ei ffrind Emily Drew a’i babi newydd anedig dan ymosodiad gan dri chi y tu mewn i’w cartref. Heb oedi eiliad, aeth i mewn i’r eiddo trwy ffenestr, gan ddiogelu’r babi yn gyflym mewn cadair wthio a’i roi tu allan i’r tŷ. Wrth i’r cŵn barhau i ymosod, helpodd William Emily i ddianc drwy’r ffenestr, gan ei chau y tu ôl iddi rhag i’r cŵn eu dilyn.

Wedi’i ddal y tu mewn, defnyddiodd William giât babi i amddiffyn ei hun, gan ddioddef ymosodiad parhaus am tua 15 munud. Arweiniodd ei weithredoedd anhunanol at anafiadau difrifol, wythnos yn yr ysbyty, nifer o lawdriniaethau a chreithiau parhaol. Mae dewrder a greddf William i amddiffyn eraill mewn sefyllfa sy’n peryglu bywyd yn ei wneud yn wirioneddol deilwng o’r Wobr Dewrder.

William Newbury, a resident of Bridgend, demonstrated exceptional courage in the face of danger during a harrowing incident in Cardiff on 30 March 2025.

While visiting friends in the Llanrumney area, William heard desperate screams and discovered his friend Emily Drew and her newborn baby were under attack from three dogs inside their home. Without hesitation, he entered the property through a window, quickly securing the baby in a pushchair and ensuring the child’s safety outside. As the dogs continued to attack, William bravely helped Emily to escape through the window, closing it behind her to prevent the dogs from following.

Trapped inside, William used a baby gate to defend himself, enduring a sustained attack for around 15 minutes. His selfless actions resulted in serious injuries, requiring a week in hospital, multiple surgeries, and leaving lasting scars. William’s unwavering bravery and instinct to protect others in a life threatening situation makes him a truly deserving finalist for the Bravery Award.

Busnes

Dyma wobr i’r rheini sydd, drwy eu hymdrechion, wedi cael llwyddiant ysgubol mewn busnes. Gallai hyn gynnwys creu swyddi iddyn nhw eu hunain ac i eraill.

Business

Awarded to those who have achieved remarkable success in business. This may include the creation of meaningful employment for oneself and others.

Brød – Y Becws Danaidd

Becws Danaidd yw Brød, a sefydlwyd yn 2015 gan Betina Skovbro. Dyma esiampl ddisglair o dreftadaeth ddiwylliannol a rhagoriaeth fusnes yng Nghaerdydd. O’i gwreiddiau yn Denmarc, mae Betina wedi cyflwyno pobi Sgandinafaidd i Gymru, gan drawsnewid Brød o gaffi bach cymdogol i fecws crefftus sy’n enwog yn genedlaethol.

Gan groesawu miloedd o gwsmeriaid bob wythnos, mae Brød wedi tyfu’n ganolfan gymunedol unigryw, fywiog. Bellach mae’r busnes yn gweithredu ar bedwar safle ac yn cyflogi dros 40 o staff, gan feithrin talent o’r sylfaenol hyd at y mwyaf medrus. Gydag ymroddiad cryf i gynaliadwyedd economaidd, mae Brød wedi cynnal deg prentisiaeth yn ei ddegawd cyntaf, gan roi cyfleoedd pwysig i bobyddion newydd ddatblygu eu sgiliau.

Yn ogystal, mae Brød yn blaenoriaethu’r economi leol trwy defnyddio cynhwysion lleol a lleihau gwastraff bwyd trwy blatfformau digidol fel Too Good To Go. Mae’r cyfuniad eithriadol hwn o draddodiad diwylliannol, crefftwaith medrus ac ysbryd cymunedol yn gwneud Brød yn enwebai gwirioneddol haeddiannol ar gyfer Gwobr Dewi Sant am Fusnes yng Nghymru.

Brød – The Danish Bakery

Brød – The Danish Bakery, established in 2015 by Betina Skovbro, stands as a shining beacon of cultural heritage and business excellence within Cardiff. Drawing deeply on her Danish roots, Betina has introduced Wales to authentic Scandinavian baking, successfully transforming Brød from a humble neighbourhood café into a nationally celebrated artisan bakery.

Welcoming thousands of customers every week, Brød has evolved into a distinctive, vibrant community hub. Now operating across four sites, the business provides employment to over 40 staff, actively nurturing talent from entry level to skilled roles. Its dedication to economic sustainability is highlighted by hosting ten apprenticeships in its first decade, offering crucial opportunities for new bakers to develop artisan skills.

Additionally, Brød prioritises the local economy by sourcing ingredients regionally and minimising food waste through digital platforms like Too Good To Go. This exceptional blend of cultural tradition, skilled craftsmanship and community spirit makes Brød a truly deserving nominee for the St David Award for Business in Wales.

de Novo Solutions

Sefydlwyd de Novo Solutions yn 2021 gan Mark Sweeny yn Langstone, De Cymru ac mae eisoes wedi ennill ei blwyf ym mhlith Busnesau Bach a Chanolig gorau’r DU. Mae Mark yn arweinydd ysbrydoledig ac yn arloeswr digidol; llwyddodd i harneisio pŵer Oracle Cloud a ServiceNow i drawsnewid Cyllid, Adnoddau Dynol, Caffael a Chyflogres ar gyfer cleientiaid mawr fel Trysorlys EF, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Chyngor Dinas Abertawe.

O dan ei arweiniad, mae de Novo wedi cael llwyddiant masnachol sylweddol. Mae gwasanaeth unigryw de Novo wedi galluogi trawsnewid digidol ac AI a datrysiadau arloesol ar gyfer llywodraeth ganolog, llywodraeth leol ac addysg.

Cafodd Mark ei enwi’n Entrepreneur Technoleg y Flwyddyn GBEA Cymru 2023 ac roedd de Novo yn #8 yn rhestr y Sunday Times o’r 100 Cwmni sy’n Tyfu Gyflymaf ac ar restr UK Tech Fast 50 Deloitte yn 2025. Heblaw tyfu’r busnes, mae hefyd am feithrin talent Cymru drwy brentisiaethau a mentora. Gweledigaeth a ffocws Mark yn y gymuned a’i arloesedd sy’n gyrru llwyddiant economaidd a gwir newid cymdeithasol.

de Novo Solutions was founded in 2021 by Mark Sweeny in Langstone, South Wales and has quickly established itself as one of the UK’s leading SME businesses. Mark, an inspiring leader and digital innovator, has harnessed the power of Oracle Cloud and IT platform ServiceNow to transform Finance, HR, Procurement, and Payroll for major clients, including HM Treasury, the Ministry of Justice and Swansea City Council.

Under his guidance, de Novo has achieved significant commercial success, and has developed unique service propositions enabling digital and AI transformation, pioneering industry solutions for central, local government and education.

Mark’s achievements include being named GBEA Wales Technology Entrepreneur of the Year (2023), with de Novo ranked #8 Sunday Times 100 Fastest Growing Companies as well as the Deloitte’s UK Tech Fast 50 in 2025. His dedication extends beyond business growth; being committed to nurturing Welsh talent through apprenticeships and mentoring. Mark’s vision and community focus demonstrate how innovation and leadership can drive both economic success and positive social change in Wales.

ROCKWOOL Ltd

Mae ROCKWOOL Ltd, Pen-y-bont ar Ogwr, yn enwog am eu cynnyrch inswleiddio gwlân cerrig o graig folcanig naturiol, sy’n gallu gwrthsefyll tân a sŵn gydag effeithlonrwydd thermol rhagorol – elfen hanfodol o adeiladau diogel a chynaliadwy ledled y DU. Gan gofleidio egwyddorion yr economi gylchol, mae ROCKWOOL Ltd yn buddsoddi mewn prosesau cynhyrchu blaengar, ynni effeithlon ac yn hyrwyddo ailgylchadwyedd, gan leihau allyriadau carbon. Fel cyflogwr pwysig yng Nghymru, mae ROCKWOOL Ltd yn meithrin talent drwy ymwneud ag ysgolion lleol, prentisiaid a sefydliadau cymunedol, gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr STEM.

Defnyddir eu deunydd inswleiddio mewn prosiectau adeiladu amlwg ledled y wlad, ac mae Pen y bont ar Ogwr yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel canolfan rhagoriaeth yn y maes. Trwy gydweithio â llywodraeth a diwydiant, mae ROCKWOOL Ltd yn helpu i lunio safonau adeiladu mwy diogel a gwyrdd, ac yn cael effaith fyd eang mewn gwyddoniaeth a thechnoleg.

Mae eu hymrwymiad i gynaliadwyedd, swyddi a sgiliau yn gwneud ROCKWOOL Ltd yn enwebai teilwng am Wobr Busnes Dewi Sant.

ROCKWOOL Ltd, in Bridgend, is a trailblazer in Welsh manufacturing for its stone wool insulation, made from volcanic rock. The company’s innovative product has outstanding fire resistance, soundproofing, and thermal efficiency – vital for safe and sustainable buildings across the UK.

Embracing the principles of the circular economy, ROCKWOOL Ltd invests in advanced, energy efficient production processes and champions recyclability, actively reducing carbon emissions. As a significant employer in Wales, ROCKWOOL Ltd is dedicated to nurturing local talent by engaging with schools, apprentices, and community organisations, inspiring the next generation of STEM professionals.

Their insulation solutions feature in prominent construction projects nationwide, with Bridgend recognised internationally as a centre of excellence in the field. Through collaboration with government and industry partners, ROCKWOOL Ltd helps to shape safer, greener building standards, underscoring Wales’ global impact in science and technology. Their commitment to sustainability, jobs, and skills development makes ROCKWOOL Ltd an exemplary nominee for the St David Award for Business.

Arwr

Cymunedol

Gwobr ar gyfer pobl sydd wedi, neu’n parhau i, hyrwyddo mentrau sy’n gwella bywydau pobl yn eu cymuned leol neu gymunedau ledled Cymru.

Community Champion

Intended for people who have worked to improve their local community or communities across Wales on an ongoing basis.

Faith in Families

Mae Faith in Families, Abertawe, yn gadarnle o dosturi ac arloesedd sy’n ailddiffinio rôl elusen gymunedol.

Mewn cymdogaethau sy’n wynebu tlodi a chaledi, mae eu ‘Cwtches Cymunedol’ yn darparu mannau diogel lle mae plant yn ffynnu a theuluoedd yn cael cefnogaeth hanfodol.

Yn 2024 sefydlodd yr elusen y Cwtch Mawr, sef ‘Banc Pob Dim’ cyntaf Cymru. Yn ei blwyddyn gyntaf yn unig, cynhyrchodd y fenter bron i £28 miliwn mewn gwerth cymdeithasol.

Erbyn mis Tachwedd 2024, roedd Cwtch Mawr wedi dosbarthu dros filiwn o eitemau hanfodol, gan helpu dros 30,000 o deuluoedd a gwneud defnydd da o nwyddau dros ben.

Cynigir pob math o wasanaethau eraill, fel gofal plant, cyngor, hyfforddiant, cymorth i deuluoedd a rhieni, uwchsgilio oedolion, a meithrin dyfodol gwell. “Cwtch, nid cardod” yw arwyddair Faith in Families; maen nhw’n adfer urddas, yn ennyn gobaith, ac yn adeiladu cymunedau cryfach. Mae eu heffaith eithriadol yn eu gwneud yn deilyngwyr haeddiannol am Wobr Dewi Sant, drwy ddangos beth sy’n bosibl wrth weithredu gyda thosturi.

Faith in Families is a powerhouse of compassion and innovation, redefining the role of a community charity in Swansea. In neighbourhoods grappling with poverty and crisis, their ‘Community Cwtches’ provide safe spaces where children flourish and families find vital support.

In 2024, Faith in Families pioneered Cwtch Mawr, Wales’ first Multibank. In its first year alone, the initiative generated nearly £28 million in social value. By November 2024, Cwtch Mawr had distributed over one million essential items, supporting more than 30,000 families and keeping surplus goods in use.

Their holistic approach includes childcare, advice, training, and family support groups, empowering parents, upskilling adults, and nurturing brighter futures. Guided by their motto, “Hugs not Handouts”, Faith in Families restores dignity, instils hope, and builds resilient communities. Their extraordinary impact makes them a truly deserving finalist for the St David Award for Community Spirit and a beacon of what is possible when compassion meets action.

Grŵp Dysgu Rhieni

Ysgol Uwchradd Cathays

Mae’r Grŵp Dysgu Rhieni yn Ysgol Uwchradd Cathays, dan arweiniad eu tiwtor, Christina Roy, yn enghraifft ryfeddol o rymuso cymunedol ar lawr gwlad yng Nghaerdydd. Ers 2014, mae’r fenter fywiog hon wedi gweithio’n ddiflino i gefnogi rhieni – menywod o gefndiroedd amrywiol yn bennaf – trwy ddarparu cyrsiau achrededig a heb eu hachredu, clwb brecwast, a rhaglen rhannu bwyd hollbwysig.

Mae eu dull holistig yn mynd i’r afael ag anfantais addysgol yn ogystal ag anghenion beunyddiol teuluoedd yn un o gymunedau mwyaf amlddiwylliannol Cymru, lle siaredir dros 65 o ieithoedd. Mae effaith y grŵp yn ddwfn, gyda channoedd o fenywod yn ennill cymwysterau, yn ailymuno â byd gwaith, ac yn meithrin hyder i helpu eu plant i ddysgu.

Yn ystod y pandemig, llwyddwyd i gynyddu brechiadau drwy sesiynau ymwybyddiaeth iechyd y grŵp. Ac mae eu prosiect cymunedol Caerdydd Glân a nifer o wobrau e.e. gwobr Ysbrydoli! Dysgu Oedolion, yn dangos ymrwymiad parhaus i lesiant cymdeithasol ac economaidd. Nod parhaol y Grŵp Dysgu Rhieni yw cynhwysiant, gwytnwch a thrawsnewid cadarnhaol i deuluoedd ledled Caerdydd.

Parent Learning Group Cathays High School

The Parent Learning Group at Cathays High School, led by Adult Learning Wales tutor Christina Roy, is a remarkable example of grassroots community empowerment in Cardiff. Since 2014, this vibrant initiative has worked tirelessly to support parents – predominantly women from diverse backgrounds – by providing both accredited and non-accredited courses, a breakfast club, and a vital food sharing programme.

Their holistic approach not only tackles educational disadvantage but also addresses the day to day needs of families in one of Wales’s most multicultural communities, where over 65 languages are spoken. The group’s impact is profound, with hundreds of women gaining qualifications, re‑entering employment, and building confidence to support their children’s learning.

During the pandemic, they delivered life saving health awareness sessions and successfully boosted vaccine uptake. Their Clean Cardiff community project and numerous accolades, including the Inspire! Adult Learner Award, demonstrate an ongoing commitment to social, economic, and health wellbeing.

The Parent Learning Group’s lasting legacy is one of inclusion, resilience, and positive transformation for families across Cardiff.

Rusna Begum

Mae Rusna Begum o Gasnewydd yn arbennig oherwydd ei hymrwymiad cyson i wasanaethu, i arwain ac i sicrhau cynhwysiant. Ar ben ei swydd arferol gyda’r Gwasanaeth Iechyd, sefydlodd Rusna KidCare4U, sy’n cefnogi bron i 500 o bobl bob wythnos – menywod, pobl ifanc, a theuluoedd amrywiol ar ymylon cymdeithas.

Mae Rusna yn ysbrydoli eraill fel Ynad, aelod o Banel Cynghori Annibynnol Heddlu Gwent, ac ar fwrdd Sefydliad Bevan, a sawl rôl wirfoddol arall. Mae Rusna wedi chwalu rhwystrau mewn addysg, chwaraeon a chyflogaeth – gan alluogi menywod i gael profiad gwaith, pobl ifanc i ennill cymwysterau hyfforddi a rhoi Gwobr Dug Caeredin ar gael am y tro cyntaf yn ei chymuned.

Mae hi wedi hyrwyddo rhaglenni iechyd a lles sy’n parchu diwylliant amrywiol; wedi hyrwyddo negeseuon iechyd cyhoeddus effeithiol yn ystod y pandemig, ac wedi meithrin balchder trwy ddathliadau diwylliannol. Mae arweinyddiaeth dosturiol Rusna, a’i gwaith o blaid amrywiaeth, wedi trawsnewid bywydau di ri. Dynes ysbrydoledig yng nghymdeithas Cymru.

Rusna Begum, a distinguished community champion from Newport, is celebrated for her unwavering commitment to service, leadership, and inclusion. An NHS professional by day, Rusna also founded KidCare4U, which supports nearly 500 people weekly, empowering women, young people, and working with diverse families from marginalised households.

Rusna inspires others as a Magistrate, a member of the Independent Advisory Panel for Gwent Police, and as a board member of the Bevan Foundation, amongst various voluntary roles. Rusna’s initiatives have broken barriers in education, sport, and employment – enabling women to gain work experience, young people to access coaching qualifications and making the Duke of Edinburgh Award accessible for the first time in her community.

She has championed culturally sensitive health and wellbeing programmes, advocated for effective public health messaging during the pandemic, and fostered pride through cultural celebrations. Rusna’s compassionate leadership and advocacy for diversity have transformed countless lives, making her a role model and an inspiring figure within Welsh society.

Diwylliant

Dyma wobr i rai sydd wedi rhagori yn y celfyddydau a diwylliant, mewn unrhyw iaith neu gyfrwng.

Gallai gynnwys, ymhlith eraill, y rheini sydd wedi llwyddo i roi Cymru ar lwyfan y byd.

Culture

For those who have excelled in the arts and culture, in any language or medium. This can include, but is not limited to, those who have succeeded in putting Wales on the world stage.

Luke Evans

Enwebwyd Luke Evans oherwydd ei lwyddiannau eithriadol fel actor, canwr ac eiriolwr. Wedi’i eni ym Mhont-y-pŵl a’i fagu yn Aberbargoed, mae taith Luke o Gymoedd De Cymru i enwogrwydd byd-eang yn tystio i’w gryfder, talent, a balchder yn ei dreftadaeth Gymreig.

O berfformiadau rhagorol yn y West End yn Llundain i rolau mewn ffilmiau mawr fel The Hobbit, Dracula Untold, Beauty and the Beast, a Fast & Furious 6, mae wedi cyfareddu cynulleidfaoedd ledled y byd.

Ac yn ogystal â’i lwyddiannau artistig, mae Luke yn eiriolwr angerddol dros welededd LHDTC+ ac ymwybyddiaeth o iechyd Meddwl. Defnyddia ei enwogrwydd i hyrwyddo cynhwysiant a hunan dderbyn. Mae ei hunangofiant, ‘Boy from the Valleys’, yn hanes llawn ysbrydoliaeth a gobaith, dilysrwydd a dewrder. Yn ogystal â hyn oll, mae Luke wedi rhyddhau dau albwm stiwdio: At Last ac A Song For You. I ddathlu ei ail albwm fe berfformiodd Luke mewn cyngerdd arbennig, Luke Evans Showtime! yn ei ardal enedigol, yn yr ICC, Casnewydd.

Mae Luke yn deilwng o Wobr Dewi Sant am Ddiwylliant oherwydd ei greadigrwydd eithriadol, balchder diwylliannol, a chyfraniadau ystyrlon i ddiwylliant Cymru, gartref a thramor.

Luke Evans is celebrated for his exceptional achievements as an actor, singer, and advocate. Born in Pontypool and raised in Aberbargoed, Luke’s journey from the Valleys of South Wales to global stardom embodies resilience, talent, and unwavering pride in his Welsh heritage.

From acclaimed performances in London’s West End to starring roles in international blockbusters such as The Hobbit trilogy, Dracula Untold, Beauty and the Beast, and Fast & Furious 6, he has captivated audiences worldwide.

Luke is a passionate advocate for LGBTQ+ visibility and mental health awareness, using his platform to champion inclusivity and self acceptance. His memoir, ‘Boy from the Valleys’, offers inspiration and hope, reflecting his authenticity and courage. Luke has also released two studio albums: At Last, and A Song For You. To celebrate his second album, he recorded a special homecoming concert, Luke Evans Showtime! at ICC Wales Newport.

Luke exemplifies the St David Award for Culture through his exceptional creativity, cultural pride, and meaningful contributions to Welsh culture both at home and abroad.

Max Boyce MBE

Mae Max Boyce MBE yn ffigwr chwedlonol yn niwylliant Cymru. Mae ei gyfuniad unigryw o gomedi, cerddoriaeth a barddoniaeth wedi atseinio ar draws cenedlaethau.

Wedi’i eni yng Nglyn-nedd, cipiodd Max galon y genedl o’r 1970au ymlaen, gan ddefnyddio ei ffraethineb a’i gynhesrwydd i ddathlu hunaniaeth Gymreig, angerdd rygbi, ac ysbryd cymunedau’r glowyr. Roedd ei albwm eiconig We All Had Doctors’ Papers ar frig Siart Albymau’r DU, ac mae ei anthem fythol Hymns and Arias yn dal i atseinio ar draws stadia rygbi, gan uno cefnogwyr a chymunedau.

Y tu hwnt i’r llwyfan perfformio, mae Max yn llysgennad diwylliannol, gan ddod â hiwmor, gwerthoedd a gwytnwch Cymreig i gynulleidfaoedd byd eang. Mae ei waith elusennol, ei farddoniaeth deimladwy – fel When Just The Tide Went Out – a’i boblogrwydd hirhoedlog yn dyst i’w ddylanwad parhaol.

Wedi’i anrhydeddu ag MBE a cherflun yn ei dref enedigol, mae ymrwymiad Max Boyce i Gymru a’i phobl yn ddiwyro. Enwebai gwirioneddol haeddiannol ar gyfer Gwobr Diwylliant Dewi Sant.

Max Boyce MBE stands as a legendary figure in Welsh culture, whose unique blend of comedy, music, and poetry has resonated across generations. Born in Glynneath, Max captured the heart of the nation from the 1970s onwards, using his wit and warmth to celebrate Welsh identity, rugby passion, and the spirit of mining communities. His iconic album We All Had Doctors’ Papers topped the UK Albums Chart, and his timeless anthem Hymns and Arias still echoes across rugby stadiums, uniting fans and communities.

Beyond the stage, Max has acted as a cultural ambassador, bringing Welsh humour, values and resilience to global audiences. His charitable work, moving poetry – such as When Just The Tide Went Out – and enduring popularity are testaments to his lasting impact. Honoured with an MBE and a statue in his hometown, Max Boyce’s commitment to  Wales and its people is unwavering, making him a truly deserving nominee of the St David Award for Culture.

Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg

Mae Cwmni Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg, a sefydlwyd ym 1975, yn gonglfaen i fywyd diwylliannol Cymru sydd wedi meithrin talent ifanc ledled De Cymru ers 50 mlynedd.

Diolch i greadigrwydd ysbrydoledig y cwmni theatr, mae perfformwyr, awduron a gweithwyr creadigol di ri wedi camu ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol – o’r West End a’r Royal Shakespeare Company i gynyrchiadau teledu, ffilm a radio. Mae cyn fyfyrwyr fel Michael Sheen a Russell T. Davies wedi siapio’r diwydiannau creadigol a hunaniaeth Gymreig, tra bod eraill wedi mynd ymlaen i gyfoethogi addysg, gofal iechyd a chymunedau, gyda’u doniau artistig. Mae’r cwmni yn ymfalchïo mewn cynyrchiadau arloesol, cynhwysol wedi’u llwyfannu mewn lleoliadau amrywiol, gan feithrin hyder, cydweithio ac ymdeimlad o berthyn. Er gwaethaf heriau ariannu, mae’n parhau i ysbrydoli dros 75 o bobl ifanc bob blwyddyn, ac wedi cyffwrdd â mwy na 3,000 o fywydau. Dyma sefydliad sy’n dyst i bŵer parhaol y celfyddydau i drawsnewid bywydau a chryfhau diwylliant cyfoethog Cymru.

West Glamorgan Youth Theatre

West Glamorgan Youth Theatre Company (WGYTC), founded in 1975, is a cornerstone of Welsh cultural life, celebrating 50 years of nurturing young talent across South Wales.

Renowned for inspiring creativity, WGYTC has propelled countless performers, writers, and creative professionals onto national and international stages – from the West End and the Royal Shakespeare Company to acclaimed television, film, and radio productions. Its alumni, including Michael Sheen and Russell T. Davies, have shaped the creative industries and Welsh identity, while others have gone on to enrich education, healthcare, and communities, passing on the spirit of artistry and resilience.

The company prides itself on innovative, inclusive productions staged in diverse venues, fostering confidence, collaboration, and a sense of belonging. Despite funding challenges, WGYTC continues to inspire over 75 young people annually, with its legacy touching more than 3,000 lives. Today, WGYTC stands as a testament to the enduring power of the arts to transform lives and strengthen the rich cultural fabric of Wales.

Ceidwad yr

Amgylchedd

Dyfernir y wobr i berson neu grŵp sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i wella yr amgylchedd – yn lleol, ar draws Cymru neu yn rhyngwladol.

Environment

Champion

Awarded to a person or group who have made an outstanding contribution to improving their environment, either locally, Wales wide or internationally.

Deorfa Cynrig Hatchery

Yn greiddiol i ymdrechion adfer rhywogaethau yng Nghymru mae tîm Deorfa Cynrig — Dr John Taylor, Oliver Brown, Richard Davies, a Haydn Probert o Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r arbenigwyr hyn yn magu ac yn adfer rhai o’r rhywogaethau gwyllt sydd dan y bygythiad mwyaf yn y DU: llygod dŵr, cimychiaid afon crafanc wen, cregyn gleision perlog dŵr croyw a’r brithyll melyn.

Mae eu gwaith yn gymysgedd o sgiliau gwyddonol, addasu a meddwl arloesol, bwydo a glanhau saith diwrnod yr wythnos, perffeithio dulliau bridio, a datblygu atebion cynaliadwy fel tyfu llysiau hydroponig ar gyfer llygod dŵr.

Mae’r tîm wedi magu dros 7,000 o gimychiaid afon yn llwyddiannus, wedi ailgyflwyno 10,000 o lygod dŵr, cynnal treialon blaengar i olrhain eogiaid er mwyn tracio cadwraeth afonydd, ac ailgyflwyno cregyn gleision perlog ac adfer poblogaeth brin iawn o frithyllod melyn oedd ar fin diflannu.

Mae’r tîm yn yn rhannu ei wybodaeth yn eang, gan feithrin y genhedlaeth nesaf o arbenigwyr trwy weithio gyda gwirfoddolwyr. Mae ymrwymiad a phenderfyniad tîm Deorfa Cynrig yn fodel o stiwardiaeth amgylcheddol, diogelu bioamrywiaeth a helpu rhywogaethau mwyaf bregus Cymru.

At the heart of Welsh species recovery stands the Cynrig Hatchery team — Dr John Taylor, Oliver Brown, Richard Davies, and Haydn Probert of Natural Resources Wales. These specialists tirelessly rear and restore some of the UK’s most threatened wildlife: water voles, white-clawed crayfish, freshwater pearl mussels, and arctic char.

Their work is a blend of scientific skill, adaptability and innovative thinking, feeding and cleaning seven days a week, perfecting breeding methods, and developing sustainable solutions like hydroponic vegetable growing for water voles.

The team’s efforts have seen over 7,000 crayfish successfully reared, 10,000 water voles reintroduced, cutting edge salmon tracking environmental impact trials, the first reintroduction of freshwater pearl mussels in Wales and the restoration of a rare population of Arctic Char facing imminent extinction.

They share their knowledge widely, nurturing both wildlife and the next generation of experts through volunteer engagement. The Cynrig Hatchery team’s commitment and determination are a model of environmental stewardship, protecting biodiversity and helping secure Wales’ most at‑risk species.

Dani Robertson

Dani Robertson yw Swyddog Awyr Dywyll Parc Cenedlaethol Eryri. Hi sy’n gyfrifol am reoli Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol fwyaf y DU, ac mae ei swydd unigryw yn dechrau ar ôl i’r haul fachlud.

Mae hi’n arwain ‘Prosiect Nos’, gan greu partneriaethau ledled Cymru i fynd i’r afael â’r bygythiad cynyddol o lygredd golau.

Mae gwaith Dani yn cyfuno arbenigedd gwyddonol, cadwraeth a gwerthfawrogiad diwylliannol dwfn, wrth iddi eirioli’n ddiflino dros ddiogelu awyr nos Cymru ar gyfer bywyd gwyllt, cymunedau a chenedlaethau’r dyfodol.

Trwy strategaethau goleuo arloesol, hyrwyddo’r pwnc yn ddwyieithog a chynnal digwyddiadau ar gyfer y cyhoedd, mae Dani yn ailgysylltu pobl â rhyfeddod y sêr. Mae ei dylanwad yn ymestyn o lunio polisi cenedlaethol – hi oedd cyd awdur Canllawiau Arfer Da Cymru ar Awyr Dywyll – i ysbrydoli miliynau drwy ei rhaglen ddogfen a’i llyfr ar BBC1.

Trwy ei hymroddiad cadarn, mae Dani wedi rhoi Cymru ar flaen y gad mewn cadwraeth awyr dywyll, gan arddangos dyfeisgarwch, dyfalbarhad a stiwardiaeth gref – rhinweddau sy’n ganolog i Wobr Dewi Sant am yr Amgylchedd.

Dani Robertson is an inspirational environmental champion, serving as the Dark Skies Officer of Eryri National Park. Dani manages the UK’s largest International Dark Sky Reserve, where her unique role begins as dusk falls.

She leads ‘Prosiect Nos’, forging partnerships across Wales to tackle the growing threat of light pollution. Dani’s work blends scientific expertise, conservation, and a deep cultural appreciation, as she advocates tirelessly for the protection of Wales’ night skies for wildlife, communities, and future generations.

Through innovative lighting strategies, public engagement events, and bilingual outreach, Dani reconnects people with the wonder of the stars. Her influence extends from shaping national policy, having co authored Wales’ Good Practice Guidance on Dark Skies – to inspiring millions through her BBC1 documentary and book.

Through her steadfast dedication, Dani has made Wales a leading example in dark sky conservation, showcasing resilience, ingenuity, and stewardship – qualities central to the St David Award for Environment.

Gail Davies-Walsh

Mae Gail Davies-Walsh yn arweinydd trawsnewidiol ym maes diogelu’r amgylchedd. Hi yw Prif Swyddog Gweithredol Afonydd Cymru — corff ymbarél chwe Ymddiriedolaeth Afonydd Ranbarthol Cymru. Gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn y sector dŵr, mae Gail yn cyfuno gwybodaeth dechnegol a gwyddonol ddofn gydag ymrwymiad diwyro i iechyd a bioamrywiaeth ein hafonydd.

Ers ymuno ag Afonydd Cymru, mae wedi dod yn eiriolwr deinamig, dibynadwy i’r llywodraeth, cyrff statudol a chymunedau. Mae Gail wedi sefydlu strategaethau ariannu arloesol, meithrin gwytnwch sefydliadol ymhlith yr Ymddiriedolaethau, a hyrwyddo dulliau seiliedig ar natur o adfer afonydd.

Mae ei dylanwad yn ymestyn o lunio polisïau a rheoliadau cenedlaethol mawr i rymuso grwpiau lleol a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd ar faterion critigol, megis llygredd amaethyddol ac ansawdd dŵr. Yn gyfrannwr cyson ar y cyfryngau ac mewn fforymau polisi, mae dull cydweithredol, positif Gail wedi rhoi canlyniadau go iawn – sef afonydd glanach, iachach am genedlaethau i ddod.

Gail Davies-Walsh is a transformative leader in Welsh environmental protection, currently serving as CEO of Afonydd Cymru — the umbrella body for Wales’ six Regional Rivers Trusts. With over 25 years experience in the water sector, Gail combines deep technical and scientific knowledge with an unwavering commitment to the health and biodiversity of Welsh rivers.

Since joining Afonydd Cymru, her dynamic advocacy has made her a trusted voice to government, statutory bodies, and communities alike. Gail’s achievements include pioneering funding strategies, fostering organisational resilience among the Trusts, and championing nature based solutions to river restoration.

Her influence extends from shaping major national policies and regulations to empowering local groups and raising public awareness on critical issues, such as agricultural pollution and water quality. Frequently sought after by the media and policymakers, Gail’s collaborative, positive and results driven approach has left a tangible legacy – ensuring cleaner, healthier rivers for generations to come.

Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Dyma wobr ar gyfer pobl sydd wedi datblygu technegau neu atebion sy’n bodloni gofynion newydd ac sydd wedi darparu cynnyrch, prosesau, gwasanaethau, technolegau neu syniadau effeithiol sydd ar gael i bawb mewn cymdeithas.

Innovation, Science and Technology

Intended for those who have developed techniques or solutions that meet new requirements and who have provided effective products, processes, services, technologies or ideas that are available to society at large.

Canolfan Barrett ar gyfer Rheoli Helminth

Mae’r gwyddonwyr yng Nghanolfan Barrett ar gyfer

Rheoli Helminth, Prifysgol Aberystwyth, ar flaen y gad yn fyd-eang ym maes parasitoleg, gan gyfuno canrif o dreftadaeth wyddonol Cymru ag ymchwil fodern arloesol.

Yn enwog am eu gwaith arloesol ar y pryf llydan parasitig, maent wedi astudio cylch bywyd cymhleth a gwendidau yr organebau dinistriol hyn, sy’n bygwth iechyd miliynau o bobl ledled y byd ac yn achosi colledion enfawr i amaethyddiaeth.

Mae eu dull trawsddisgyblaethol wedi arwain at ddatblygiadau mewn bioleg foleciwlaidd, brechlynau a chyffuriau, a’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial wrth ddarganfod cyffuriau.

Mae dulliau canfod DNA amgylcheddol y Ganolfan wedi trawsnewid dulliau rheoli da byw yng Nghymru a thu hwnt, gan atal clefydau yn gynharach ac yn well. Mae eu hymchwil yn achub bywydau ond hefyd yn diogelu bywoliaeth ffermwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol dryw gyfnewid gwybodaeth ac atebion ymarferol. Mae gweledigaeth y tîm ymroddedig hwn yn enghraifft o arloesedd Cymru – gan gyfuno trylwyredd gwyddonol, tosturi, a gweithio gyda’r gymuned i daclo rhai o heriau iechyd a diogelwch bwyd mwyaf y byd.

Barrett Centre for Helminth Control

The scientists at the Barrett Centre for Helminth Control, Aberystwyth University, stand at the forefront of global innovation in parasitology, blending a century of Welsh scientific heritage with pioneering modern research.

Renowned for their world leading work on parasitic flatworms, they have unravelled the complex lifecycles and vulnerabilities of these devastating organisms, which threaten the health of millions across the globe and inflict enormous losses on agriculture. Their collaborative, cross‑disciplinary approach has delivered breakthroughs in molecular biology, vaccine and drug target identification, and the use of artificial intelligence for drug discovery.

The Centre’s groundbreaking environmental DNA detection methods have transformed livestock management in Wales and beyond, enabling earlier, more accurate disease surveillance and prevention. Their research not only saves lives but also protects livelihoods, supporting farmers and healthcare professionals with knowledge exchange and practical solutions. Humble yet visionary, this dedicated team exemplifies the spirit of Welsh innovation – combining scientific rigour, compassion, and community engagement to tackle some of the world’s most persistent health and food security challenges.

Dr Elin Haf Davies

Mae Dr Elin Haf Davies yn cyfuno arbenigedd aruthrol mewn gwyddoniaeth, technoleg a budd cymdeithasol.

Yn hanu o bentref gwledig Parc, ger y Bala, dechreuodd

Elin Haf ei gyrfa fel nyrs bediatrig yn Ysbyty Great Ormond Street, cyn astudio am ddoethuriaeth PhD mewn niwrowyddoniaeth a gweithio fel rheoleiddiwr yn yr Asiantaeth Meddyginiaethau Ewropeaidd.

Fel sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Aparito yn Wrecsam, mae hi wedi chwyldroi monitro cleifion o bell, gan wneud treialon clinigol yn fwy hygyrch i gleifion ledled y byd trwy ddulliau digidol arloesol. O dan arweinyddiaeth Elin, mae Aparito wedi denu buddsoddiad gan y cwmni fferyllol byd eang Eli Lilly, ond mae hi’n parhau wrth y llyw, gan sicrhau rhagoriaeth barhaus a chyrhaeddiad byd eang.

Yn ogystal â’i hysbryd entrepreneuraidd, merch anturus iawn yw Elin Haf; mae hi wedi rhwyfo ar draws dau gefnfor, arwydd o’i gwytnwch a’i hymroddiad personol i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer clefydau prin. Yn awdur llyfrau a siaradwr ysbrydoledig, mae Elin Haf yn hyrwyddo iechyd plant ac yn rhoi llais a grym i blant hefyd drwy weithio gyda nifer o elusennau. Mae ei hymroddiad i arloesi a chymuned yn ei gwneud hi’n enwebai haeddiannol ar gyfer y wobr hon.

Dr Elin Haf Davies stands as a formidable force at the intersection of science, technology and social impact. Hailing from Parc, near y Bala, Elin Haf’s journey began in paediatric nursing at Great Ormond Street Hospital and evolved through a PhD in neuroscience and as a regulator at the European Medicines Agency.

As founder and CEO of Aparito, based in Wrexham, she has revolutionised remote patient monitoring, making clinical trials more accessible for patients worldwide by using innovative digital solutions. Her leadership saw Aparito’s success attract global pharmaceutical giant Eli Lilly, yet she remains at the helm, ensuring continued Welsh excellence with global reach.

Beyond her entrepreneurial acumen, Elin Haf’s adventurous spirit, demonstrated by rowing across two oceans, reflects her resilience and she is driven to raise awareness and funds to fight rare diseases. A published author and inspirational speaker, Elin Haf champions children’s health and empowerment, working with numerous charities. Her dedication to innovation and community makes her a deserving nominee for this award.

Yr Athro / Prof. Joanne Davies

Mae’r Athro Joanne Davies, Pennaeth Efelychu a Chyfarwyddwr Sefydlu SUSIM ym Mhrifysgol Abertawe, yn ffigwr arloesol mewn addysg feddygol ac arloesedd gofal iechyd.

Gan gyfuno empathi ac arbenigedd arloesol, mae Joanne yn trawsnewid y maes hyfforddiant i fyfyrwyr a chlinigwyr, gan bontio rhwng y byd academaidd, diwydiant a gofal iechyd i sicrhau bod dysgu seiliedig ar efelychu yn cael effaith yn y byd go iawn.

Mae ei harweinyddiaeth wedi gosod Cymru ar flaen y gad o ran hyfforddiant meddygol, gan integreiddio’r safonau addysgol ac ymchwil uchaf wrth ddefnyddio technoleg arloesol a platfformau digidol pwrpasol i wella cymhwysedd gwaith tîm, diogelwch cleifion a systemau.

Mae dylanwad Joanne yn ymestyn yn fyd eang. Mae hi wedi cydweithio â GIG Cymru, arweinwyr diwydiant, partneriaid rhyngwladol, a rhaglenni arloesol blaenllaw o Abertawe i’r Dwyrain Canol a Zambia. Mae ei gweledigaeth yn gosod safonau newydd ar gyfer addysg hyblyg, gan gefnogi staff rheng flaen lle mae’n cyfrif fwyaf.

Mae Joanne yn ysbrydoli a chyflawni ar ran y cleifion a’r proffesiwn trwy ei harloesedd dyngarol.

Prof. Joanne Davies, Head of Simulation and Founding Director of SUSIM at Swansea University, is a pioneering figure in medical education and healthcare innovation.

Renowned for her blend of compassion and cutting edge expertise, Joanne tirelessly transforms the training landscape for students and clinicians, bridging academia, industry, and healthcare to ensure simulation based learning yields real‑world impact.

Her visionary leadership has positioned Wales at the forefront of medical training, integrating the highest educational and research standards including use of innovative technology and bespoke digital platforms to enhance competence, resilience, teamwork, patient and system safety.

Joanne’s influence extends globally, forging collaborations with NHS Wales, industry leaders, international partners, and leading groundbreaking programmes from Swansea to the Middle East and Zambia. Her visionary approach and leadership sets new standards for flexible, resilient education, supporting frontline staff where it matters most.

Joanne is inspiring and delivering lasting benefits to patients and professionals alike. She exemplifies innovation with humanity.

Gwasanaethu’r

Cyhoedd

Gwobr ar gyfer unigolyn neu dîm sy’n gweithio yn y rheng flaen o fewn GIG Cymru neu’r sector Addysg gan roi gwasanaeth eithriadol i bobl Cymru.

Public Service

For an individual or team working in frontline services within NHS Cymru or the Education sector who have gone the extra mile to provide an exceptional service to the people of Wales.

Dr Tipswalo Day

Mae Dr Day yn Obstetregydd a Gynaecolegydd ysbrydoledig sy’n trawsnewid gofal mamolaeth i fenywod yng Nghymru a thu hwnt.

Fel Ymgynghorydd yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin, hi sydd wrth y llyw gyda’r tîm amenedigol sydd wedi ennill clod mawr am ei ymrwymiad i ddiogelwch cleifion a diwylliant cadarnhaol yn y gweithle.

Yn llawn angerdd am ofal teg, mae Dr Day wedi arloesi mentrau sydd wedi arwain at ostyngiad sylweddol mewn marw‑enedigaethau ac anafiadau i’r ymennydd mewn genedigaeth. Gwnaeth hyn trwy wella’r gwaith tîm a chreu diwylliant o ddysgu.

Yn addysgwr dawnus, mae hi wedi datblygu adnoddau hyfforddi arloesol ac wedi arwain rhaglenni a gydnabyddir ar lefel genedlaethol. Mae ymrwymiad Dr Day i fynd i’r afael â gwahaniaethau yn amlwg – hi wnaeth sefydlu Race Matters in Maternity, cynhadledd gyntaf Cymru ar gyfer taclo anghydraddoldebau mewn canlyniadau mamolaeth. Gofynnir am ei chyngor yn aml fel arbenigwr; mae’n gwasanaethu ar fyrddau cynghori ac wedi ei chydnabod gyda sawl gwobr fawreddog am ei eiriolaeth a’i harweinyddiaeth.

Mae Dr Day yn llysgennad gwirioneddol ar gyfer gwasanaethau iechyd mwy diogel a mwy cynhwysol, sy’n ymgorffori tosturi, rhagoriaeth a newid cadarnhaol.

Dr Day is an inspirational Obstetrician and Gynaecologist dedicated to transforming maternity care for women in Wales and beyond.

As a Consultant at Glangwili General Hospital, Carmarthen, she is a driving force behind a perinatal team celebrated for its award winning commitment to patient safety and a positive workplace culture.

Renowned for her passion for equitable care, Dr Day has pioneered initiatives that have significantly reduced stillbirths and birth related brain injuries through improved teamwork and a culture of learning.

A gifted educator, she has developed innovative training resources and led programmes recognised at national level.

Dr Day’s commitment to tackling disparities is evident in her founding of Race Matters in Maternity, Wales’ first conference dedicated to addressing inequalities in maternity outcomes. Frequently consulted as an expert, she serves on advisory boards and has been recognised with multiple prestigious awards for her advocacy and leadership.

Dr Day is a true ambassador for safer and more inclusive NHS services, embodying compassion, excellence and  positive change.

Innes Robinson

Mae Innes Robinson yn ffigwr trawsnewidiol mewn addysg yng Nhgymru, fel pennaeth Gweithredol Ysgol Uwchradd Pencoedtre ac Ysgol Uwchradd Whitmore yn y Barri. Yn wreiddiol o Loegr, ymunodd â’r proffesiwn drwy’r rhaglen Teach First yn Llundain. Ond mae Innes wedi gwneud ei farc ar ysgolion ledled de Cymru.

Yn adnabyddus am ei frwdfrydedd heintus a’i bositifrwydd di‑baid, mae Innes yn sbarduno newid er gwell. Mae’n ysbrydoli staff, disgyblion a rhieni. Penodwyd Innes i Ysgol Uwchradd Pencoedtre ar adeg dyngedfennol yn dilyn mesurau arbennig a gweithredu diwydiannol, ac mewn byr amser adfywiodd ddiwylliant, ymddygiad ac ethos yr ysgol. Mae ei arweinyddiaeth ymarferol, ei uchelgais pendant a’i bresenoldeb gweladwy ar draws y ddwy ysgol wedi ennyn ymdeimlad newydd o falchder a phwrpas.Ag yntau wedi chwarae rhan allweddol wrth drawsnewid 3 ysgol, mae Innes wedi codi safonau addysgol a meithrin amgylchedd lle mae myfyrwyr yn ffynnu a staff wedi’u grymuso.

Innes Robinson stands as a transformative figure in Welsh education, serving as executive headteacher of both Pencoedtre High and Whitmore High Schools in Barry. Originally from England and joining the profession through the Teach First programme in London, Innes has made an indelible mark on schools across south Wales.

Renowned for his infectious enthusiasm and relentless positivity, he is a catalyst for meaningful change, inspiring staff, pupils, and parents alike. Innes was appointed to Pencoedtre High during a critical period following special measures and industrial action, and in astonishingly little time, he revitalised the school’s culture, behaviour, and ethos. His hands on leadership, unwavering ambition, and visible presence across both schools have galvanised communities, instilling a renewed sense of pride and purpose. With a proven track record, having played a key role in the successful turnaround of three schools, Innes has not only elevated educational standards but also fostered environments where students flourish and staff feel empowered.

Jan Luke

Jan Luke yw calon Ysgol Gynradd Roch, Sir Benfro. Yn Gynorthwyydd Cymorth Dysgu ym Mlynyddoedd

5 a 6 ac un o Hyrwyddwyr ELSA a Llesiant yr ysgol, mae Jan yn adnabyddus am ei haelioni a’i hymrwymiad diflino i feithrin llesiant emosiynol a chymdeithasol y disgyblion.

Sefydlodd grŵp gofalu sydd eisoes yn trawsnewid bywydau plant agored i niwed, gan gynnig cysondeb, gofal a chefnogaeth greadigol. P’un a yw’n casglu bwyd dros ben ar gyfer prosiectau coginio, yn arwain clybiau ar ôl ysgol/gwyliau, neu fel Comisiynydd Clwb Merlod Sir Benfro, mae Jan yn helpu ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

Mewn trasiedi, mae hi’n ffynhonnell gadarn o gryfder, gan arwain disgyblion a staff trwy alar gydag empathi a gwytnwch. Er gwaethaf ei heriau iechyd ei hun, mae Jan bob amser yn bresennol, gan gynnig clust i wrando, cymorth ymarferol, a chefnogaeth ddiflino. Mae hi’n arwr anhysbys – un y bydd ei dylanwad yn cael ei deimlo am flynyddoedd i ddod.

Jan Luke is the heart of Roch CP School, Pembrokeshire, serving as both a beloved Learning Support Assistant in Years 5 and 6 and one of the school’s ELSA and Wellbeing Champions. Renowned for her boundless compassion and tireless commitment, Jan goes above and beyond to nurture pupils’ emotional and social wellbeing.

Jan founded a nurture group that is already transforming the lives of vulnerable children, offering consistency, care, and creative support. Whether collecting surplus food for cooking projects, leading afterschool/ holiday clubs, or bringing her energy as District Commissioner of Pembrokeshire Pony Club, Jan’s impact extends far beyond the classroom.

In times of tragedy, she emerges as a steadfast source of strength, guiding both pupils and staff through grief with empathy and resilience. Despite her own health challenges, Jan is always present, offering a listening ear, practical help, and unwavering support. Her quiet determination, humility, and ability to inspire trust make her an unsung hero – one whose influence will be felt for years to come.

Robert Scott

Mae Robert Scott yn swyddog carchar ymroddedig yn CEF Berwyn. Gŵr sy’n ymgorffori pŵer trawsnewidiol addysg o fewn gwasanaeth cyhoeddus.

Ar ôl ymuno â’r cynllun peilot Hyfforddiant Oedolion Ifanc i ddechrau, aeth Rob ati yn ddiwyd i gwblhau’r cymhwyster Hyfforddi’r Hyfforddwr Lefel 2 gyda Dysgu Oedolion Cymru. Nawr, mae’n defnyddio ei brofiadau i ysbrydoli a hwyluso sesiynau hyfforddi ar gyfer ei gyd swyddogion, gan feithrin diwylliant o gydweithredu a datblygiad proffesiynol parhaus o fewn y carchar.

Mae effaith Rob yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’w lwyddiannau personol; mae ei ymrwymiad wedi ysgogi cydweithwyr i gychwyn ar eu llwybrau dysgu eu hunain, gan gryfhau’r bartneriaeth rhwng Dysgu Oedolion Cymru, Cymdeithas y Swyddogion Carchardai, a CEF Berwyn.

Gan werthfawrogi gwaith tîm, cyd barch a phwysigrwydd dysgu gydol oes, mae Rob yn arwain trwy esiampl, gan gredu y gall pob unigolyn wella gyda’r gefnogaeth gywir. Mae ei ymroddiad diwyro, ei ostyngeiddrwydd, a’i allu i feithrin newid cadarnhaol yn eithriadol, gan sicrhau y bydd ei ddylanwad o fudd i gymuned y carchar am flynyddoedd i ddod.

Robert Scott is a dedicated prison officer at HMP Berwyn, whose journey epitomises the transformative power of education within public service.

Initially joining the Young Adults Training pilot as a learner, Rob’s proactive spirit saw him complete the Level 2 Train the Trainer qualification with Adult Learning Wales. Now, he leverages his experiences to inspire and facilitate peer‑led training sessions for fellow officers, fostering a culture of collaboration and continuous professional development within the prison.

Rob’s impact reaches far beyond personal achievement; his commitment has galvanised colleagues to embark on their own learning journeys, strengthening the partnership between Adult Learning Wales, the Prison Officers Association, and HMP Berwyn.

Valuing teamwork, mutual respect and the importance of lifelong learning, Rob leads by example, believing every individual can improve with the right support. His unwavering dedication, humility, and ability to nurture positive change is exceptional, ensuring his influence will benefit the prison community for years to come.

Chwaraeon

Dyma wobr ar gyfer unigolyn, tîm neu grwˆp yng Nghymru sydd wedi llwyddo i ragori neu helpu i ragori yn y campau ar lefel genedlaethol neu ryngwladol.

Sport

For an individual, team or group in Wales who have achieved or helped achieve excellence in the field of sport on a national or international level.

Jess Fishlock MBE

Jess Fishlock MBE, a anwyd yng Nghaerdydd, yw’r  pêl-droediwr sydd weid ennill y nifer uchaf o gapiau

Cymru. Ac mae hi’n arloeswr ym maes pêl-droed merched. Chwaraeodd Jess am y tro cyntaf gyda’r tîm hŷn pan oedd ond yn 16 oed, a sefydlodd ei hun yn gyflym fel talent eithriadol, gan ddod y chwaraewr cyntaf o Gymru – gwryw neu fenyw – i gyrraedd 100 o gapiau. Yn y pen draw, cynrychiolodd Jess ei gwlad 165 o weithiau.

Roedd ei harweinyddiaeth yn hollbwysig wrth arwain

Tîm Cenedlaethol Merched Cymru i’w rowndiau terfynol

Pencampwriaeth UEFA Ewropeaidd cyntaf erioed yn 2025, gan nodi carreg filltir hanesyddol i bêl droed Cymru. Yn ei gyrfa clwb mae Jess wedi chwarae ar sawl cyfandir, gan ennill teitlau yn Lloegr, Awstralia, yr Alban, yr Almaen, a Ffrainc, gan gynnwys buddugoliaethau Cynghrair y Pencampwyr gyda Frankfurt a Lyon.

Oddi ar y cae, mae hi’n eiriolwr uchel ei pharch dros gydraddoldeb, gan ennill MBE am ei gwasanaethau i bêl‑droed a’r gymuned LHDTC+. Ymrwymiad diwyro, gwytnwch a phresenoldeb ysbrydoledig Jess sy’n ei gwneud yn fodel rôl ar gyfer athletwyr uchelgeisiol. Ac mae ei llwyddiant mewn chwaraeon a’i hymroddiad i’w gwlad yn wirioneddol ryfeddol.

Born in Cardiff, Jess Fishlock MBE is Wales’ most capped footballer and a trailblazer in women’s football. Making her senior debut at just 16, Jess quickly established herself as an outstanding talent, becoming the first Welsh player – male or female – to reach 100 caps, and ultimately representing her country 165 times.

Her leadership was pivotal in guiding the Wales Women’s National Team to their first ever UEFA European Championship finals in 2025, marking an historic milestone for Welsh football. Jess’ club career spans continents, with title wins in England, Australia, Scotland, Germany, and France, including Champions League triumphs with Frankfurt and Lyon.

Off the pitch, she is a respected advocate for equality, earning an MBE in recognition of her services to football and the LGBTQ+ community. It’s Jess’ unwavering commitment, resilience, and inspirational presence have made her a role model for aspiring athletes. Her sporting achievements and dedication to her country are truly remarkable.

Lauren Price MBE

Mae Lauren Price MBE, o Fargoed, yn athetwraig hynod sydd wedi ailddiffinio llwyddiant drwy ddod i’r brig mewn nifer o wahanol gampau.

Ar ôl rhagori i ddechrau mewn pêl droed a chic focsio, aeth Lauren ymlaen i gystadlu mewn bocsio. Cafodd lwyddiant hanesyddol yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020 fel pencampwr bocsio Olympaidd cyntaf erioed Cymru, pen enillodd y fedal aur yn yr adran pwysau canol. Roedd ei buddugoliaeth yn y Gemau Olympaidd yn foment arbennig iawn, wnaeth ysbrydoli cenhedlaeth newydd o athletwyr Cymru.

Wedi trosglwyddo i’r rhengoedd proffesiynol, mae Lauren wedi cynnal record ddiguro ac wedi cipio teitlau pwysau welter byd WBA, IBF, WBO, a Ring Magazine yn 2024, gan ennill parch byd‑eang am ei gallu technegol a’i meistrolaeth o’r gamp.

Y tu allan i’r cylch bocsio, mae Lauren yn llysgennad balch dros Gymru, gan ddathlu ei gwreiddiau yn aml ac yn ysgogi eraill gyda’i stori o ddyfalbarhad ac ymroddiad. Mae ei llwyddiannau arloesol wedi gosod sail ar gyfer dyfodol bocsio menywod ac yn dod â balchder aruthrol i chwaraeon Cymru.

Lauren Price MBE, born in Newport and raised in Bargoed, is a trailblazing Welsh athlete whose extraordinary journey has redefined success across several sports.

Initially excelling in football and kickboxing, Lauren’s relentless determination led her to boxing, where she made history at the Tokyo 2020 Olympic Games as Wales’ first ever Olympic boxing champion, securing gold in the middleweight division. Her Olympic triumph was a landmark moment, inspiring a new generation of Welsh athletes.

Transitioning to the professional ranks, Lauren has maintained an unbeaten record and captured the WBA, IBF, WBO, and Ring Magazine world welterweight titles in 2024, earning widespread respect for her technical prowess and dedication to her sport.

Beyond her athletic achievements, Lauren is a proud ambassador for Wales, frequently celebrating her roots and motivating others with her story of resilience and versatility. Her groundbreaking accomplishments continue to shape the future of women’s boxing and bring immense pride to Welsh sport.

Gareth Joseph Photography

Alan Williams

Mae Alan yn hyfforddwr hwylio dingi cenedlaethol o Gaernarfon ac mae hefyd yn meithrin hyfforddwyr.

Mae wedi bod yn allweddol wrth hyfforddi a chefnogi hwylwyr ifanc i ddatblygu o hwylio dingi yn lleol ar lynnoedd a dyfroedd Cymru i gystadlaethau hwylio rhyngwladol a’r Gemau Olympaidd.

Mae Alan yn hyfforddi drwy gydol y flwyddyn, yn aml mewn amodau môr heriol a gwyntoedd cryfion, gan helpu morwyr i ddatblygu eu sgiliau.

Mae wedi ysbrydoli sawl cenhedlaeth ac wedi sicrhau bod morwyr a’u teuluoedd yn mwynhau’r gamp gydol eu hoes.

Mae llawer ohonynt bellach yn ymwneud yn broffesiynol neu’n gwirfoddoli ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Mae Alan yn addysgu cymwysterau hyfforddi cenedlaethol ac mae wedi ysgrifennu dau lyfr hyfforddi hwylio dingi sydd wedi’u cyfieithu i nifer o ieithoedd.

Mae wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu strategaeth rheoli diogelwch ar lefel y DU ac mae’n angerddol dros gyflawni rhagoriaeth ym maes hyfforddi a mentora.

Yn 2019, derbyniodd Alan Wobr Cadwyn Hyfforddi BBC Wales a Sports Coach UK am hyfforddi Hannah Mills OBE ac yn 2003 enillodd deitl Hyfforddwr Rasio y Flwyddyn y DU gan y Gymdeithas Hwylio Frenhinol.

Alan is a national dinghy sailing coach and coach developer from Caernarfon.

He has been pivotal in coaching and supporting young sailors to develop from grassroots dinghy sailing on the coastal waters and lakes of Wales to international sailing competitions and the Olympic Games.

Alan coaches year round, often in challenging sea states and strong winds, supporting sailors to develop their skills.

He has inspired several generations and ensured that sailors and their families have a lifelong love for the sport. Many he has coached are now involved professionally or volunteering across Wales and the UK.

Alan teaches national race coaching qualifications and has authored two dinghy sailing coaching books translated into numerous languages.

He has been instrumental in developing safety management strategy at UK level and is passionate about driving excellence in coaching and mentoring.

In 2019, Alan received the BBC Wales & Sports Coach UK Coaching Chain Award for coaching Hannah Mills OBE and in 2003 became the Royal Yachting Association’s UK Racing Coach of the Year.

Gwirfoddoli

Gwobr ar gyfer pobl sydd wedi rhoi neu’n parhau i roi eu hamser yn ddi‑dâl i gefnogi prosiectau ar lawr gwlad, sefydliadau lleol, neu elusennau cenedlaethol Cymru.

Gan gynnwys y rhai sy’n helpu i godi ymwybyddiaeth a chodi arian er budd lleol ac ehangach.

Volunteering

Intended for people who have given and/or continue to give their unpaid time to support grassroots projects, or national Welsh charities, or local organisations. This includes those who help to raise awareness and fundraise for the local and wider good.

Advocates and Angels

Mae Advocates and Angels, elusen o wirfoddolwyr a sefydlwyd yn Abertawe gan Bethan Germon er cof am ei merch Lydia, yn llusern o obaith i deuluoedd Cymru sy’n wynebu anabledd, salwch, ysbyty neu brofedigaeth.

Wedi’u hysgogi gan brofiad personol a thosturi, mae Bethan a’i thîm ymroddedig o wirfoddolwyr di dâl yn darparu Pecynnau

Gofal Chrysalis brys hanfodol i rieni a phlant ar adegau o argyfwng, gan roi cysur ac urddas pan fo ei angen fwyaf. Mae nhw hefyd yn trefnu adnoddau pwrpasol ar gyfer gofalwyr plant ag anghenion cymhleth, yn ogystal â’r Clwb Glöynnod Byw, sy’n cynnig cysur i deuluoedd mewn profedigaeth.

Bellach mae Advocates and Angels wedi helpu dros 10,000 o deuluoedd. Maen nhw’n gweithio mewn partneriaeth agos â wardiau, hosbisau a grwpiau cymunedol y Gwasanaeth Iechyd, gan ddarparu eiriolaeth a chymorth Cymraeg rhwng cymheiriaid. Er gwaethaf cyllid cyfyngedig a dim staff cyflogedig, mae empathi, dyfeisgarwch ac ymrwymiad diwyro yr elusen yn sicrhau nad oes unrhyw deulu yng Nghymru yn wynebu caledi neu alar ar ei ben ei hun. Dyma yw gwir ysbryd gweithredu gwirfoddol a gofal cymunedol.

Advocates and Angels, a volunteer-driven charity founded in Swansea by Bethan Germon in memory of her daughter Lydia, stands as a beacon of hope for Welsh families facing disability, illness, hospitalisation, or bereavement.

Motivated by personal experience and compassion, Bethan and her dedicated team of unpaid volunteers provide vital emergency Chrysalis Care Packages to parents and children during moments of crisis, ensuring comfort and dignity when it is needed most. Their support extends to bespoke resources for carers of children with complex needs, as well as the Butterfly Club, which offers solace to bereaved families.

With an impressive record of assisting more than 10,000 families, Advocates and Angels works in close partnership with NHS wards, hospices, and community groups, delivering peer led advocacy and Welsh language support.

Despite limited funds and no paid staff, the charity’s empathy, resourcefulness, and unwavering commitment ensure that no family in Wales faces hardship or grief alone, embodying the true spirit of voluntary action and community care.

Brian Jones

Mae Brian Jones, o Benmaenmawr, Sir Conwy, wedi gwirfoddoli gyda thîm Cŵn Chwilio ac Achub Rhyngwladol Prydain (BIRD) ers dros bedwar degawd.

Nawr yn ei 80au, mae Brian yn parhau i chwarae rôl ganolog fel arweinydd tîm, gan arwain BIRD trwy argyfyngau di-ri gartref a thramor.

Mae Brian wedi bod yn allweddol yn ystod Digwyddiadau mawr fel daeargrynfeydd yn Nhwrci, India, Pacistan ac Algeria a llifogydd yn Mozambique a gyda ffoaduriaid Kosovo ac Wcráin. Yn ogystal, mae wedi helpu i chwilio am lawer o bobl ar goll yng Nghymru a Lloegr.

Mae ymroddiad cadarn Brian hefyd i’w weld yn ei waith diflino i godi arian. Mae’n sefyll ym mhob tywydd yn arwerthiant cist car Mona bob wythnos i sicrhau bod gwaith hanfodol y tîm cŵn achub yn parhau. Mae Brian wastad yn barod i rannu ei ddoethineb gyda chenedlaethau o wirfoddolwyr a chynnig cefnogaeth heb ragfarn.

P’un a yw’n trefnu hyfforddiant, mynychu lleoliadau rhyngwladol, neu’n rhoi clust i wrando, mae gostyngeiddrwydd a dewrder Brian yn ei osod ar wahân. Mae ei ymrwymiad gydol oes i helpu eraill wedi gwneud gwahaniaeth mawr, gan sefydlu BIRD fel conglfaen gwasanaethau achub a gwneud Brian yn enwebai gwirioneddol haeddiannol ar gyfer y wobr hon.

Brian Jones, from Penmaenmawr, Conwy, is a remarkable volunteer whose devotion has defined the British International Search and Rescue Dogs (BIRD) team for over four decades. Now in his 80s, Brian continues to play a pivotal role as team leader, guiding BIRD through countless emergencies both at home and overseas.

He has played a vital role during major earthquakes in Turkey, India, Pakistan and Algeria, floods in Mozambique and for Kosovan and Ukrainian refugees. In addition, he has been involved in searches for many missing persons in England and Wales.

Brian’s steadfast dedication is matched only by his tireless fundraising, standing in all weathers at the Mona car boot sale every week to ensure the team’s vital work continues. He is renowned for his gentle approach, sharing wisdom with generations of volunteers and offering support without judgement.

Whether organising training, attending international deployments, or lending a compassionate ear, Brian’s humility and courage set him apart. His lifelong commitment to helping others has made a profound difference, establishing BIRD as a cornerstone of rescue services and making Brian a truly deserving nominee for this award.

Eileen Hodge

Cyd-sefydlodd Eileen Hodge o Gonwy elusen Therapy Dogs Nationwide 10 mlynedd yn ôl. Ers 20 mlynedd a mwy bu’n gwirfoddoli yn helpu plant ac unigolion agored i niwed. Mae hi’n arwain tîm o 30 o wirfoddolwyr ymroddedig gan ddefnyddio ei chŵn, addas i’r gwaith, i gynnig cysur, cwmnïaeth a hyder i’r rhai sy’n wynebu heriau emosiynol, ymddygiadol a datblygiadol.

Mae Eileen a’i chŵn yn ymweld ag ysgolion, llyfrgelloedd a chanolfannau meddygol, gan helpu plant i oresgyn ofnau, meithrin sgiliau llythrennedd, a gwella ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth. Mae hi hefyd yn rhoi cefnogaeth werthfawr i bobl sy’n byw gyda dementia, awtistiaeth, a chyflyrau iechyd meddwl. Yn y pandemig, roedd tosturi Eileen yn arbennig o amlwg wrth iddi deithio’r rhanbarth i helpu plant pryderus i ymdopi â brechiadau.

Drwy recriwtio gwirfoddolwyr newydd yn ddiflino, trefnu digwyddiadau, a chodi ymwybyddiaeth, mae Eileen wedi trawsnewid bywydau di ri ar draws y Gogledd. Mae empathi ac ymroddiad Eileen yn ysbrydoliaeth i’r rhai y mae’n eu helpu.

Un sy’n deilwng iawn o wobr Dewi Sant.

Eileen Hodge, based in Conwy, co-founded a charity, Therapy Dogs Nationwide 10 years ago. She has devoted more than two decades to voluntary work supporting children and vulnerable individuals. She leads a team of 30 dedicated volunteers for a national charity, using her dogs, which are temperament assessed for their suitability, to offer comfort, companionship, and confidence to those facing emotional, behavioural, and developmental challenges.

Eileen’s innovative approach sees her and her dogs visiting schools, libraries, and medical centres, helping children overcome fears, build literacy skills, and improve classroom behaviour. She also provides valuable support to people living with dementia, autism, and mental health conditions. During the pandemic, Eileen’s compassion was particularly evident as she travelled the region to help anxious children cope with vaccinations.

Tirelessly recruiting new volunteers, organising events, and raising awareness, Eileen has transformed countless lives across North Wales. Her empathy, leadership, and unwavering dedication make her not only an inspiration to those she supports, but also an outstanding nominee for this award.

Person Ifanc

Rhoddir y wobr hon i berson neu grwˆp ifanc eithriadol hyd at 19 oed sy’n ysbrydoli mewn unrhyw faes yng Nghymru.

Young Person

This award will be given to an exceptional and inspirational young person or group of up to 19 years of age in any field in Wales.

Anwen-Grace Rodaway

Mae Anwen yn berson ifanc ysbrydoledig o fro Gŵyr, sy’n cael ei chydnabod am ei gwytnwch, ei charedigrwydd a’i phenderfyniad eithriadol.

Wedi cael diagnosis o awtistiaeth, mae Anwen wedi goresgyn heriau personol sylweddol i ragori yn academaidd ac yn bersonol.

Daeth yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn ddim ond 13 oed, gan ddod yn llais cryf i bobl ifanc ag anableddau. Cododd ymwybyddiaeth am dan ddiagnosis merched ag awtistiaeth; arweiniodd fentrau fel glanhau traethau a gwnaeth gyfweliadau ar faterion cymdeithasol.

Yn dilyn y cyfyngiadau symud Covid, nid oedd Anwen yn gallu dychwelyd i addysg oherwydd iechyd meddwl gwael. Ond, er gwaethaf yr anawsterau, llwyddodd Anwen i gael canlyniadau rhagorol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gan ennill gwobrau Myfyriwr y Flwyddyn Ffotograffiaeth a’r Dyniaethau ac Ieithoedd. Creodd fannau cefnogol i fyfyrwyr LHDTC+ a chyfrannodd at banel cydraddoldeb ei choleg.

Ar hyn o bryd, mae hi’n ysgrifennu nofel ac yn ei blwyddyn gyntaf o’r cwrs gradd Creu Ffilm ym Mhrifysgol Aberystwyth lle mae’n gynrychiolydd undeb y myfyrwyr. Mae ymroddiad ac ysbryd positif Anwen wrth ymdrechu i sicrhau newid yn ysbrydoliaeth i bob person ifanc yng Nghymru.

Anwen is an inspiring young person from Gŵyr, recognised for her exceptional resilience, kindness and determination. Diagnosed with autism, Anwen has overcome significant personal challenges to excel academically and personally.

She served as a representative on the Welsh Youth Parliament at just 13, becoming a strong voice for young people with disabilities, raising awareness about the underdiagnosis of girls with Autism, and leading initiatives such as beach cleans and interviews on social issues.

Following lockdowns, Anwen was unable to return to education due to poor mental health. Despite setbacks, Anwen returned to education, achieving outstanding results at Gower College Swansea, winning both Photography and Humanities and Languages Student of the Year awards. She created supportive spaces for LGBTQ+ students and contributed to her college’s equality panel.

Currently, she is writing a novel and is in her first year of Filmmaking at Aberystwyth University where she is academic student union rep. Anwen’s dedication and positive spirit in striving to bring about change serve as inspiration to all young people in Wales.

Bowen Cole

Mae Bowen Cole yn arweinydd ifanc eithriadol o Abertawe, mae ei effaith ar gymdeithas Cymru yn bellgyrhaeddol. O Gymru a Rwanda, mae Bowen wedi neilltuo ei arddegau i hyrwyddo cynhwysiant, gwrth-hiliaeth, ac ymgysylltu gwleidyddol ieuenctid.

Fel aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, Senedd Ieuenctid Ewrop, ac Etholaeth Gorllewin Abertawe, mae wedi ysbrydoli llawer o bobl o liw i ddilyn rolau mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus.

Mae ymrwymiad Bowen yn cael ei adlewyrchu yn ei waith fel Swyddog Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a’i ymdrechion i roi llais i’r rhai sydd wedi’u tangynrychioli ledled Cymru. Mae Bowen wedi gweithio gyda Phwyllgor Coffa’r Frenhines Elizabeth II, wedi ymddangos fel myfyriwr poster i Orseinon ledled De Cymru, ac wedi ymgysylltu ag arweinwyr amlwg gan gynnwys y Brenin Charles III a Paul Kagame.

Yn rhyngwladol, mae Bowen wedi cyfrannu at ddiplomyddiaeth drwy raglen ‘Taith i Rwanda’ ar S4C a thrwy ymgysylltu ag Uchel Gomisiwn Rwanda, lle cafodd wahoddiad i gefnogi’r cysylltiadau rhwng Rwanda a Chymru. Trwy waith cyfryngau cenedlaethol gyda’r BBC ac S4C, mae Bowen yn cyfleu empathi, arweinyddiaeth ac ymrwymiad dwfn i wasanaeth cyhoeddus rhagorol.

Bowen Cole is an exceptional young leader from Swansea whose impact on Welsh society is far-reaching. Welsh and Rwandese, Bowen has dedicated his teenage years to championing inclusion, anti-racism, and youth political engagement. As a member of the Welsh Youth Parliament, European Youth Parliament, and Swansea West Constituency, he has inspired many people of colour to pursue roles in politics and public life.

Bowen’s commitment is reflected in his work as the Black, Asian and Minority Ethnic Officer at Gower College Swansea and his efforts to amplify under represented voices across Wales. Bowen has worked with the Queen Elizabeth II Memorial Committee, been featured as the poster student for Gorseinon across South Wales, and engaged with prominent leaders including King Charles III and Paul Kagame.

Internationally, Bowen has contributed to diplomacy through S4C’s ‘Taith i Rwanda’ and through engagement with the Rwandan High Commission, where he was invited to support ties between Rwanda and Wales. Through national media work with the BBC and S4C, Bowen conveys outstanding empathy, leadership, and a deep commitment to public service.

Cian Evans

Mae Cian Evans, plentyn 11 oed o Bontardawe, wedi dangos gwytnwch a thosturi eithriadol yn wyneb trasiedi ofnadwy.

Yn ddwy oed, bu Cian mewn damwain car ar yr M4 a hawliodd fywydau ei fam, Rebecca, a’i chwaer heb ei geni, Cari. Er iddo yntau ddioddef anafiadau difrifol a llawdriniaethau, mae Cian wedi troi ei boen yn ymgyrch bwerus i helpu eraill. Mae’n dal i weld arbenigwyr am driniaeth barhaus ond dyw hynny ddim yn ei atal rhag cefnogi eraill sydd mewn angen.

Yn ddiweddar, cwblhaodd Cian her Tri Chopa Cymru, gan godi dros £10,000 ar gyfer Harry’s Fund, sef gwasanaeth cwnsela i blant a theuluoedd sy’n wynebu trawma. Hefyd, cododd £2,700 i Ambiwlans Awyr Cymru drwy’r her ar lein Walk 100km ym mis Ebrill 2023. Mae penderfyniad diwyro, ac ymdrechion codi arian Cian wedi dod ag achubiaeth i eraill. Enwebai rhagorol ar gyfer Gwobr Dewi Sant yn y categori Person Ifanc.

Cian Evans, a remarkable 11-year-old from Pontardawe, has shown extraordinary resilience and compassion in the face of unimaginable tragedy.

At the age of two, Cian survived a devastating car accident on the M4 that claimed the lives of his mother, Rebecca, and unborn sister, Cari. Despite suffering severe injuries and enduring multiple surgeries, Cian has transformed his pain into a powerful drive to help others. He continues to see specialists for ongoing treatment but remains undeterred in his mission to support those in need.

Cian recently completed the Welsh Three Peaks challenge, raising over £10,000 for Harry’s Fund, a counselling service supporting children and families facing trauma. Additionally, he raised £2,700 for the Welsh Air Ambulance by undertaking the Walk 100km Virtual Challenge in April 2023. Cian’s unwavering determination, selflessness, and fundraising efforts have provided vital lifelines for others, making him an outstanding role model and a truly deserving nominee for a St David Award in the Young Person category.

Llongyfarchiadau i’r holl deilyngwyr! Congratulations to all our finalists!

Gwobr Arbennig y Prif Weinidog

Dewis personol gan y Prif Weinidog yw’r wobr hon – ni ellir enwebu rhywun yn uniongyrchol ar ei chyfer. Gallai wobrwyo gorchest grŵp neu unigolyn. Gallai’r enillydd gael ei ddewis o blith enillwyr y gwobrau eraill neu ei ddewis yn annibynnol.

First Minister’s Special Award

The personal gift of the First Minister –you cannot nominate for it directly. It could reflect collective as well as individual achievement. The recipient may be selected from one of the other award winners or may be selected independently of them.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
St David's Awards 26 brochure by Central Design Team Publications - Issuu