Caerdydd, Mewn partneriaeth â Phrifysgol gol De Cymru. ifys Phr da Prifysgol Metropolitan Caerdyd
Canllaw Cymunedol Llety Caerdydd Eich siop un stop ar gyfer cyngor i fyfyrwyr a byw yn y gymuned.
@ ca rd if fd ig s
CR OE SO GA N LET Y CA ER DY DD!
WN ME WN D II ME MU D SY MU IO SY WIR IO TR WIR ES TR RH ES RH Dilynwch y canllaw hwn i gael trefn ar bethau wrth symud i mewn, ticiwch pan fyddwch wedi gwneud y gwahanol elfennau.
RYDYN NI WRTH EIN BODD YN EICH CROESAWU I’CH CYMDOGAETH NEWYDD! Ond rydyn ni’n gwybod, pan fyddwch chi newydd gychwyn ar dymor newydd a chyrraedd cartref newydd, bod llawer yn digwydd. Felly rydyn ni wedi llunio’r canllaw defnyddiol hwn i’ch helpu i ymgartrefu.
Beth yw Llety Caerdydd? Mae Llety Caerdydd yn bartneriaeth rhwng tair Prifysgol Caerdydd a’r Cyngor. Rydyn ni’n gweithio gyda’r heddlu, y gwasanaeth tân, a’r bwrdd iechyd lleol ynghyd â llawer o brojectau cymunedol i’ch cynorthwyo tra’ch bod chi’n byw oddi ar y campws. Rydyn ni yma i’ch helpu i gael profiad da yn rhan o gymuned Caerdydd, gan eich cadw’n ddiogel, yn iach ac yn hapus. Felly, traed fyny, mwynhewch baned a threuliwch ychydig o amser yn darllen y canllaw byr hwn. Dylai ateb rhai cwestiynau cychwynnol, ond i gael rhagor o wybodaeth ac i gysylltu, ewch i’n gwefan lletycaerdydd.co.uk
Cynnwys 3 – Rhestr Wirio Symud i Mewn 4 – Eich Cymuned 6 – Ailgylchu a Gwastraff 7 – Diogelwch y cartref 8 – Diogelwch Tân 10 – Teithio o amgylch Caerdydd 11 – Iechyd a Lles 12 – Dinas Ddiogel da 14 – Sŵn - byddwch yn gymydog 16 – Rhestr Wirio Symud Allan
2
Ydych chi wedi cofio…
Beth i’w wneud:
Rhentu Doeth Cymru - cadarnhewch fod eich landlord yn gofrestredig a bod y person sy’n gosod ac yn rheoli’r eiddo yn drwyddedig gyda Rhentu Doeth Cymru
Gallwch wirio hyn drwy ddefnyddio gwefan Rhentu Doeth Cymru http://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/gwirio-cofrestr/
Contract tenantiaeth a thystysgrif Diogelwch Nwy – Oes copi gennych?
Gwnewch yn siŵr bod gennych gopi; gofynnwch i’ch landlord/asiant gosod am hyn os nad yw wedi darparu un. Mae hyn yn bwysig!
Bond/Blaendal – Ydych chi’n gwybod Rhif Adnabod eich Blaendal a manylion lle mae eich bond wedi ei ddiogelu? Mae tri chynllun blaendal posibl.
Edrychwch ar eich contract tenantiaeth a’ch mewnflwch i gael manylion. Os nad ydych yn siŵr, holwch eich landlord neu cysylltwch â’ch Gwasanaeth Blaendaliadau Tenantiaeth. Cadwch Rif Adnabod eich Blaendal yn ddiogel, bydd ei angen arnoch chi pan fyddwch yn symud allan!
Rhestr Gynnwys – Ydych chi wedi llenwi rhestr wirio’r rhestr gynnwys yn ofalus?
Gwiriwch y rhestr gynnwys cyn ei llofnodi. Rhowch wybod i’r landlord/ asiant yn ysgrifenedig am unrhyw atgyweiriadau sydd angen eu gwneud. Tynnwch luniau fel prawf o gyflwr eiddo cyn dod â’ch eiddo eich hun i’r cartref.
Nwy, trydan a dŵr – Ydych chi wedi cysylltu â’ch cyflenwyr?
Cysylltwch â’r cwmnïau cyfleustodau a rhowch ddarlleniadau mesuryddion iddyn nhw. Rhowch enwau pob cydletywr ar filiau. Dŵr Cymru - 0800 052 0145 www.dwrcymru.com. Dewch o hyd i fanylion eraill ar fil diweddar.
Iechyd a diogelwch – Ydych chi wedi cofrestru gyda’ch Meddygfa leol a gwirio bod gennych larymau tân sy’n gweithio?
Cofrestrwch gyda’ch Meddygfa leol. Gwiriwch fod gennych synwyryddion mwg a charbon monocsid sy’n gweithio. Cysylltwch â’r Gwasanaeth Tân am wiriad risg tân yn y cartref AM DDIM ar 0800 169 1234
Trwydded Deledu – Oes gennych un?
Prynwch drwydded deledu yn www.tvlicensing.co.uk Os yn byw mewn eiddo a rennir, dim ond un drwydded deledu sydd ei hangen. Rhannwch y gost rhwng y lletywyr i gyd
Y Dreth Gyngor – Oes gennych dystysgrif eithrio o’r Dreth Gyngor?
Gofynnwch i’ch Prifysgol am hyn. Anfonwch at Cyngor Caerdydd, Adran Treth Gyngor, Blwch Post 9000, Caerdydd CF10 3WD.
Ailgylchu a Sbwriel – Ydych chi’n gwybod eich diwrnod casglu gwastraff ac ailgylchu? Byddwch yn gyfrifol am eich sbwriel neu wynebu Hysbysiad Cosb Benodedig gan Gyngor Caerdydd.
Gwirio eich diwrnod casglu yn www.lletycaerdydd.co.uk/ailgylchugwastraff neu lawrlwythwch app “Cardiff Gov” i gael negeseuon atgoffa am ddim – mae gwahanol finiau yn cael eu casglu mewn gwahanol wythnosau! Rhowch wastraff/eitemau i’w hailgylchu ar y palmant y tu allan i’ch eiddo erbyn 6am ar y diwrnod casglu (ond nid cyn 4.30pm y prynhawn cynt).
Diogelwch – Ydych chi’n nabod eich cymdogion? Cyflwynwch eich hunan!
Mae helo cyflym yn ffordd dda o ddod i adnabod eich cymuned. Byddwch yn ofalus o ran faint o sŵn yr ydych yn ei wneud a byddwch yn ystyriol o’ch cymdogion!
Diogelwch –Ydych chi wedi diogelu eich pethau gwerthfawr?
Cofrestrwch bethau gwerthfawr gyda www.immobilise.com a rhowch eich enw a’ch cyfeiriad cartref arnyn nhw gyda phen UV.
Parcio – Oes gennych chi drwydded barcio? Neu cynilwch eich ceiniogau a helpwch y blaned drwy deithio llesol!
Gwiriwch a oes angen trwydded arnoch yn www.caerdydd.gov.uk/ parcio. Gorau oll os gallwch adael eich car gartref! Mae’n hawdd cyrraedd Caerdydd ar droed, ar fws neu ar feic.
Wedi gwneud?
3
BY DD WC H YN RH AN WE ITH GA R O’C H CY MU NE D! MAE CAERDYDD YN UN O’R DINASOEDD SY’N TYFU GYFLYMAF YN EWROP AC RYDYCH CHI’N DEBYGOL O FOD YN BYW YNG NGHANOL PRIFDDINAS CYMRU. Hyd yn oed os ydych chi’n byw’n agos at y campws, rydych chi’n rhannu’r gymuned gyda thrigolion lleol. Gall cymryd rhan yn y gymuned wneud gwahaniaeth mawr i’ch profiad yn y brifysgol – dyma ambell awgrym:
DEWCH I ADNABOD EICH CYMDOGION Mae helo cyfeillgar yn werthfawr iawn! Os oes angen help arnoch chi i dorri’r garw, defnyddiwch y cerdyn post sydd yng nghanol y canllaw hwn.
CLYBIAU A CHY MDEITHASAU Mae gan Gaerdyd d ddiwylliant cyfoethog. Beth bynnag fo’ch diddordebau, mae ’n debygol y bydd clwb neu gymdeit has gerllaw. Mae eich Undeb Myfyr wyr yn lle da i ddechrau chwilio.
4
PROJECTAU CYMUNEDOL Gall gwirfoddoli ddatblygu sgiliau, rhoi hwb i’ch CV a’ch cysylltu hi â’ch cymuned. Gall hefyd gael effaith gadarnhaol iawn ar eich lles. Mae yna sefydliadau sy’n arbenigo mewn gwirfoddoli gan fyfyrwyr – edrychwch ar: Sgiliau a Gwirfoddoli Cymru (SVC) • Elusen leol sy’n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr
a’r gymuned ledled de Cymru. Mae eu projectau’n rhoi cymorth i oedolion a phlant ag anableddau a/neu gyflyrau iechyd meddwl, gofalwyr ifanc, y digartref, y GIG, a mentrau diogelwch cymunedol ac amgylcheddol.
svcymru.org e-bost info@svcymru.org Gwirfoddoli Caerdydd (Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd) • Tîm gwirfoddoli mewnol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd gallwch ddechrau eich project gwirfoddoli eich hun gyda ni neu ddod i lawer o’n cyfleoedd a’n digwyddiadau eraill. Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano ar ein gwefan anfonwch e-bost a byddwn yn hapus i helpu.
cardiffstudents.com/volunteering E-bost: Volunteering@Cardiff.ac.uk Gwirfoddolwch gyda ni! • Mae Llety Caerdydd yn cynnal project Hyrwy
ddwyr Amgylcheddol, mewn partneriaeth gyda Phroject Gwirfoddoli gan Fyfyrwyr yr Heddlu a Chynllun Gwirfoddoli Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Mae rhagor o fanylion yn lletycaerdydd.co.uk/gwirfoddoli
5
D IO G E LW C H Y C A RTR E F GALL TAI MYFYRWYR FOD YN DARGED I LADRON. Maen nhw’n llawn teclynnau uch el eu gwerth ac mae myfyrwyr yn aml oddi cartref yn ystod y dydd a’r nos. Ar hap y mae’r rha n fwyaf o ladron yn taro, ond ma e hynny’n golygu y gallwch dre chu ’r lladron drwy roi’r camau canlyn ol ar waith. Peidiwch â rhoi eich enw na’ch cyfeiriad ynghlwm wrth • allwed di eich tŷ oes gennych gât neu fynedfa gefn, sicrhewch ei bod • ynOscael ei chadw ar gau ac yn ddiogel bob amser Sicrhewch fod drysau a ffenestri wedi’u cloi pan • fyddw ch yn mynd allan Osgowch gadw allweddi sbâr wedi’u cuddio o dan y mat • drws ffrynt neu mewn lleoliadau eraill y tu allan i’r eiddo Cadwch bethau gwerthfawr yn ddiogel allan o olwg y • ffene stri Os ydych chi’n mynd adref dros y gwyliau, ewch â’ch • holl bethau gwerthfawr popeth wedi’i gloi
gyda chi a gwnewch yn siŵr bod
Cofrestrwch eich holl eiddo am ddim ar www. immobilise.com, a marciwch eich eiddo gyda beiro Uwch Fioled - bydd hyn yn ein helpu i ddychwelyd eitemau atoch os byddant yn mynd ar goll neu’n cael eu dwyn. 6
DI OG ELWC H TÂ N Mae’r Cyngor, Rhentu Doeth Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub â De Cymru yn cydweithio i sicrhau bod gan Dai Amlfeddiannaeth thrwydded fesurau diogelwch tân digonol ar waith. Mae’n syniad rau y da gwybod beth i’w wneud os bydd tân yn digwydd a’r mesu gallwch eu rhoi ar waith i leihau’r risg. Dyma ambell awgrym: OS YDYCH CHI’N
LLWYBRA
U DIANC
GWIRIO GWENER! Profwch larymau mwg / CO unwaith yr wythnos – dylai fod larwm ar bob llawr o’ch cartref.
Cynlluniw ch lwybr dianc i’r prif ddr ws ymlaen ll a w ( a ’i gadw’n a nnibendo d, mae hyn ny’n cyn nwys beiciau!) CANHWY LLAU
Diffodd wch gan h gadael ystafell wyllau cyn a pheid â’u rhoi iwch yn agos at unrh beth a yw a ll ai fy OSGOWCH WEF RWYR Os ydych chi’ nd ar dân. nd ANSWYDDOGOL AR GYFER canhwyllau b efnyddio ach neu ‘tea ligh EICH TECLYNNA ts’, U mewn r rhowch nhw hywb Gall y rhain fo dal can eth sy’n d yn hwyllau ddiffygiol ac . achosi
tân. I gael rh agor wybodaeth, ew o ch i electricalsafe ty first.org.uk
SMYGU
Defnyddiwch flwch llwch iawn - ni d bin nac unrhyw b eth a allai fynd ar dan a pheidiwch byt hâ smygu yn y gw ely.
BYDDWCH YN OFALUS WRTH GO GINIO
DRYSAU
Yn enwe dig ar ôl noson all an – mae ’n hawdd a nghofio am y bwyd sy dd a neu syrt r y ffwrn hio i gys gu. Prynwch bryd tecawê y n lle!
Cadwch ddrysau ar gau os (gan gynnwys yn y nos) – r fu’ ara yn hyn e ma , tân bydd ol. dd lledaeniad yn sylwe
CYNGOR DIOGELWCH I gael rhagor o gyngor diogelwch tân neu i drefnu ymgynghoriad diogelwch tân, ewch i lletycaerdydd. co.uk/DiogelwchTân
7
AIL GY LC HU MY FY RW YR CA ER DY DD WYDDECH CHI FOD CYMRU’N GENEDL SYDD AR FLAEN Y GAD O RAN AILGYLCHU? Mae’n rhywbeth rydyn ni’n falch ohono yng Nghaerdydd felly sicrhewch eich bod chi’n deall y system ailgylchu a gwastraff, yn didoli’ch gwastraff ac yn ei gadw’n lân.
Mae’r AP CARDIFF GOV yn gadael i chi:
nodyn atgoffa cyn eich diwrnod • Osod biniau, i roi gwybod i chi pa ailgylchu/gwastraff sydd angen ei roi allan i’w gasglu
yr eitemau cywir i’w rhoi • Gweld yn eich bag ailgylchu gwyrdd/cadi gwastraff bwyd
holl offer sydd ei angen • Archebu’r arnoch i ailgylchu gartrefGweld lle
gallwch chi gasglu bagiau ailgylchu yn eich ardal chi
casgliad ar gyfer eitemau • Trefnu mawr, swmpus e.e. matresi, cadeiriau
Cesglir ailgylchu sych (pecynnu) gyda’i gilydd ym magiau gwyrdd y cyngor BOB WYTHNOS.
Cesglir gwastraff bwyd (amrwd ac wedi ei goginio) o’r cadi bwyd brown BOB WYTHNOS.
Dylech gael cadi cegin bach ac un mwy i roi’r gwastraff bwyd allan, yn barod i’w gasglu. * Gallwch ddefnyddio’r ap Cardiff Gov i archebu bagiau ailgylchu, cadis bwyd a bagiau cadi.
Os nad yw eich gwastraff wedi’i gasglu ar eich diwrnod casglu, neu os oes gennych sticer pinc ar eich bagiau ailgylchu, mae angen i chi weithredu. Ewch â’r gwastraff nôl i mewn i’ch eiddo a’i lanhau neu efallai y cewch Hysbysiad Cosb Benodedig o £100.
8
Rhowch eich ailgylchu/ gw astraff wrth ymyl y ff ordd erbyn 6am fa n hwyrach ar y diwrnod casg lu (neu’r noson flaenoro l).
Cesglir gwastraff na ellir ei ailgylchu BOB PYTHEFNOS. Efallai bydd gennych fin olwynion du neu fel arall, efallai bydd gennych fagiau gwastraff “â stribedi coch”. Os oes gennych fagiau, maen nhw’n cael eu danfon i’ch cartref ddwywaith y flwyddyn ac mae cyfyngiad llym ar waith o ran faint y gellir eu defnyddio. Os oes gennych fin du, rhaid i wastraff ffitio y tu mewn i’ch bin. Os yw’ch cartref yn ei chael hi’n anodd gynnwys yr holl wastraf f na ellir ei ailgylchu mewn bin du neu fagiau stribedi coch, efallai y byddwch yn gymwys i gael eich asesu ar gyfer bin mwy/bagiau stribed coch ychwanegol. I gael rhagor o wybodaeth am hyn a gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu eraill, ewch i lletycaerdydd.co.uk/ailgylchu-gwastraff
Bagiau du ger biniau? Wedi derbyn sticer pinc ar eich bagiau ailgylchu? Byddwch yn ofalus gallech gael Hysbysiad Cosb Benode dig o £100
9
TE ITH IO O AM GY LC H CA ER DY DD MAE CAERDYDD YN DDINAS GRYNO IAWN, YN WASTAD AC YN RHWYDD TEITHIO O’I CHWMPAS Dyna pam y byddem yn argymell eich bod yn peidio dod â char gyda chi i’r brifysgol oni bai bod gennych amgylchiadau penodol sy’n dibynnu ar ddefnyddio cerbyd. Y ffordd orau o archwilio ein dinas yw ar droed, neu ar feic, sy’n ddelfrydol o ran byw ar gyllideb myfyrwyr.
Beicio - Mae llwybrau beicio ar wahân Caerdydd yn ehangu, gan wneud beicio hyd yn oed yn haws. Mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu map sy’n addas i feicwyr y gallwch ei lawrlwytho i’ch ffôn. Os nad oes gennych feic, mae digon o ddewisiadau CH ar gael. Gallwch logi beic o Pedal Power sydd wedi’i YN NERFUS YNGHYL BEICIO? leoli yng nghaeau Pontcanna, neu Nextbike sydd â gor gorsafoedd ledled y ddinas gydag aelodaeth arbennig i Dim problem. Mae Cyn nig cyn yn dd rdy Cae fyfyrwyr. Os hoffech brynu beic, mae gan Hyfforddiant cio sesiynau hyfforddi bei Beicio Cymru ddetholiad o feiciau fforddiadwy wedi’u n ydy nad l bob i m ddi am hyd , hadnewyddu ar gael. eto yr cw nhw’n fei I gael rhagor o wybodaeth am yr holl opsiynau beicio hyn, ewch i lletycaerdydd.co.uk/teithioynyddinas
at Lefel 3 y Safonau Hyfforddiant Beicio Cenedlaethol. Gellir eu trefnu drwy e-bostio k RSO1@cardiff.gov.u
EIC H IEC HY D A’C H LLE S PAN FYDDWCH YN SYMUD TY, DYLECH GOFRESTRU GYDA MEDDYGFA LEOL AR UNWAITH . Bydd angen rai wythnosau ar gyf er y broses gofrestru weithiau, felly cofiwc h rhoi hyn ar eich rhestr o bethau “i’w gwneu d” a pheidio ag aros tan i chi fod yn sâl. I ddo d o hyd i bractis cyf fredinol wrth eich ym yl chi, ewch i lletycaerdydd.co.uk/meddygte ulu
LLES
Mae symud i gymdogaeth newy dd yn gyffrous ond ma e’n gallu bod yn heriol. Os ho ffech gael rhagor o wyboda eth ynghylch gofalu am eich lle s neu wasanaethau cy morth lleol, ewch i lletycaer dydd .co.uk/lles
Wyddech chi y gallwch gael gafael ar lawer o wasanaethau iechyd heb orfod ymweld â’r Meddyg Teulu? Mae Dewis Doeth yn gynllun sydd â’r nod o’ch helpu i wneud y dewis gofal iechyd cywir pan fyddwch yn teimlo’n sâl. Gallwch ddod o hyd i wasanaethau gofal iechyd lleol yn dewisdoethcymru.org.uk
Trafnidiaeth Gyhoeddus - Mae cyswllt bws prifysgol, bws cyhoeddus neu reilffordd rhwng pob un o gampysau’r brifysgol. Mae gostyngiadau ar gael ar gyfer rhai grwpiau oedran neu deithwyr sy’n dewis defnyddio appiau teithio.
10
Tacsis - Mae llawer o dacsis ar gael i’w llogi yng Nghaerdydd. Os cewch eich hun heb ddigon o arian i dalu am dacsi, mae rhai Und ebau Myfyrwyr hyd yn oed yn cynnig cynllun Tac si Diogel i drefnu lifft adref i chi. I gael rhagor o wybodaeth am yr holl opsiynau teithio hyn, ewch i lletycaerdydd.co.uk/teithioynydd inas
11
DI NA S DD IO GE L MAE CAERDYDD YN DDINAS FYWIOG AC MAE DIGON I’CH CADW’N DDIFYR. Rydyn ni eisiau i chi gael hwyl a bod yn ddiogel wrth fynd allan felly dyma ambell awgrym i chi.
Rydyn ni eisiau i chi gael nosweithiau cofiadwy allan (am y rhesymau cywir!) Byddwch yn ofalus os ydych yn yfed cyn mynd llan, yn enwedig os nad chi sy’n arllwys. Wrth gymdeithasu yn y cartref, gall fod yn anodd gwybod faint o alcohol sy’n cael ei yfed.
Osgowch ddiodydd nad ydych chi wedi eu gweld yn cael eu harllwys, a pheidiwch byth â gadael eich diod.
12
gen ac an ch n a l l w son a iogel Ar no ae Bws D ru yn M m help? dlu De Cy dinas yn y Hed ol d am o can chwilio wn i l o r t n e y pa , m fod laidd rheo un a allai niwed. di yw unrh llfa agore gan staf f sefy orthwyir nllun r “Cy yr yn ’ c a i ’ s e F rw yr taf f d ddolw bar, s - Gwirfo flawni’r ” Stryd lu sy’n cy dau d He d yletswyd un d droed. ar
Dilynwch y wybodaeth ddiweddaraf am y rheolau ar gymdeithasu a Covid-19, maen nhw wedi’u llunio ar gyfer lles pawb - cardiffdigs.co.uk/ covid-19 Os ydych chi’n mynd allan fel grŵp, ewch adref fel grŵp ac os ydych yn cerdded, arhoswch mewn ardaloedd prysur sydd wedi eu goleuo’n dda. Mae caniatâd yn hanfodol mewn gweithgarwch rhywiol. Os nad yw rhywun yn rhoi caniat âd neu os yw heb y gallu i roi caniatâd, mae cael rhyw gyd a’r person hwnnw yn drais rhywiol. Felly sicrhewch fod eic h partner yn cydsynio. Dyw Aflonyddu Rhywiol byth yn dderbyniol – felly os gwelwch rywun yn cael ei aflonyd du, gofynnwch a ydyn nhw’n iawn. Mae’n #IawnHoli
eich gelwch Personol io D pp A ch hw Lawrlwyt olion yn gwahanol Brifysg ae M l. go ys if Pr ifysgol ol appiau (Mae Pr an ah gw o di yd defn fnyddio De Cymru yn de ol sg fy ri Ph a d Caerdyd dio rdydd yn defnyd ae C et M ae m Safezone ac fio ac i od sut i danysgri yb gw el ga I ). y CallM iogel th am gadw’n dd ae od yb w o or ag gael rh . i lletycaerdydd ch ew , su ha it de wrth gym -personol co.uk/diogelwch
13
SŴ N:
BYDDWCH YN GYMYDOG DA O FYW YN Y DDINAS, mae pobl yn derbyn y gall rhywfaint o sŵn deithio, ond cofiwch y byddwch yn byw yn yr un stryd â rhai nad ydyn nhw’n fyfyrwyr, yn deuluoedd a gweithwyr shifft. Gall niwsans sŵn effeithio’n ddifrifol ar les unigolyn a chreu tensiynau rhwng cymdogion. Felly rydym yn eich annog i gwrdd â’ch cymdogion – nid eu digio!
Cymydog swnllyd yn effeithio arnoch chi? Cnociwch y drws yn gwrtais ac egl urwch y broblem mewn modd digyffro, efallai nid ydyn nhw’n ymwybodol o’r broblem ac y byd dan nhw’n barod i gytuno i ddistewi ychydig. Fod d bynnag, os nad yw hyn yn gweithio, gallwch gys ylltu â’r Cyngor i gael cymorth. I gael rhagor o wyb odaeth am sŵn, partïon a sut i gysylltu â’r Cyngor i gael cymorth, ewch i lletycaerdydd.co.uk/sŵ n
14
AMBELL AWGRYM!
nwch eich hun i’ch cymdogion ac • Cyflwy ystyriwch rannu manylion cyswllt. Mae bod yn
gyfeillgar ac yn hynaws yn talu ar ei ganfed. Os ydych chi newydd symud i mewn, mae’n gyfle perffaith – gallech ddefnyddio’r cerdyn post sydd yn y canllaw hwn i dorri’r garw!
yliwch am lefel y sŵn rydych chi’n ei greu • Medd bob amser yn ystod y dydd a’r nos. Nid yw’n wir y gallwch greu faint fynnoch o sŵn cyn 11pm!
wch fod ffenestri a drysau ar gau er • Sicrhe mwyn lleihau faint o sŵn sy’n teithio.
chwarae cerddoriaeth, byddwch yn • Wrth ymwybodol o lefel y bas - mae’n teithio’n bell.
ch â rhoi seinyddion yn erbyn waliau sydd • Peidiw rhyngoch chi a’ch cymydog. h y gall cymdogion fod yn cysgu pan foch • Cofiwc yn cerdded adref gyda ffrindiau yn hwyr y nos. Efallai bod ganddyn nhw waith yn gynnar.
Mae rheolau arbennig ar gyfer cymd eithasu gart ref i’ch cadw ch i a’r gymun ed yr ydych yn byw ynddi’n ddiogel rhag Covid-19. Y wybodae th ddiwedd araf – cardiffd igs.co.uk/ covid-19
15
RH ES TR WIR IO SY MU D ALL AN Dilynwch y camau hyn i geisio sicrhau y cewch eich blaendal yn ôl yn llawn. Ticiwch ar ôl cwblhau pob elfen er mwyn i chi beidio ag anghofio rhywbeth pwysig. Ydych chi wedi cofio…
Beth i’w wneud:
Rhent – Ydych chi wedi talu eich rhent i gyd?
Sicrhewch fod eich landlord wedi cael yr holl rent os nad ydych chi’n siŵr.
Bond/Blaendal – Ydych chi’n gwybod Rhif Adnabod eich Blaendal a manylion lle mae eich bond wedi ei ddiogelu? Mae tri chynllun blaendal posibl.
Edrychwch ar eich contract tenantiaeth a’ch mewnflwch e-byst am fanylion. Os nad ydych yn siŵr, holwch eich landlord neu cysylltwch â Gwasanaeth Blaendal eich Tenantiaeth.
Rhestr Gynnwys – Ydych chi wedi gwirio’r rhestr gynnwys a gwblhaoch pan symudoch i mewn? Chwiliwch am ddifrod nad oedd yno pan gyrhaeddoch.
Gwiriwch y rhestr gynnwys gyda’ch landlord. Trefnwch ddyddiad archwilio. Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Diogelu Blaendal y Denantiaeth os oes anghytuno ynghylch y blaendal/bond.
Ailgylchu a Sbwriel – Ydych chi wedi symud yr holl ailgylchu/gwastraff o’r eiddo a’ch gardd flaen a chefn?
Ewch i: https://www.lletycaerdydd.co.uk/cy/gwastraff-ac-ailgylchu/ i weld pryd mae eich diwrnod casglu neu lawrlwythwch app “Cardiff Gov” i gael negeseuon atgoffa am ddim - yn aml bydd diwrnodau casglu’n newid adeg gwyliau’r banc.
Os oes gennych eitemau i’w cyfrannu neu wastraff ychwanegol – cynlluniwch ymlaen llaw. Edrychwch ar y dewisiadau sydd ar gael i chi yn lletycaerdydd.co.uk/ailgylchu-gwastraff
Rhowch ailgylchu/gwastraff/eitemau ar y palmant y tu allan i’ch eiddo erbyn 6am ar y diwrnod casglu (ond nid cyn 4.30pm y prynhawn cynt).
Trwydded Deledu – Ydych chi wedi dweud wrthyn nhw eich bod yn symud allan? Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys am ad-daliad rhannol!
Diweddarwch eich manylion ar www.tvlicensing.co.uk
Post – Ydych chi wedi newid eich cyfeiriad yn ôl i gyfeiriad eich cartref dros yr haf?
Cysylltwch â’ch Meddyg, Banc, Cwmni ffôn symudol, Ffrindiau, Teulu, y DVLA, Cyflogwr.
Allweddi – Ydych chi wedi dychwelyd eich allweddi i’ch landlord/asiantaeth gosod tai?
Rhowch yr allweddi i’r landlord/asiantaeth gosod tai ar ddiwedd yr archwiliad symud allan.
Biliau - Nwy, trydan a dŵr Sicrhewch eich bod wedi talu biliau sy’n ddyledus.
Nodwch ddarlleniadau mesuryddion a rhowch wybod i gwmnïau cyfleustodau am eich dyddiad symud allan.
Wedi gwneud?