Bwrdd lechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr University Health Board
Yma i Helpu yn ystod eich Profedigaeth
Ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, hoffem gydymdeimlo â chi yn eich profedigaeth. Mae llawer o bethau y bydd angen i chi eu gwneud dros y dyddiau nesaf a bwriad y llyfryn hwn yw eich helpu yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae staff mewn ysbytai a gwasanaethau cymunedol ar gael i roi’r wybodaeth, y cyngor a’r cymorth sydd eu hangen arnoch. Gall y Tîm Caplaniaeth Aml-Ffydd roi cyngor i chi ynghylch cysylltu ag arweinwyr cymunedau ffydd yn ogystal â chynnig cymorth ar faterion ysbrydol a diwylliannol. Rydym yn byw mewn cymdeithas amlddiwylliannol lle mae ysbrydolrwydd, ffydd a diwylliant ein cymuned leol yn adlewyrchu ysbrydolrwydd, ffydd a diwylliant y byd ehangach. Mae ysbrydolrwydd, ffydd a diwylliant yn arbennig o bwysig yn ystod gofal diwedd oes a gofal yn ystod profedigaeth. Mae’r gwasanaeth Caplaniaeth Ysbytai yn ffynhonnell gwybodaeth ac arweiniad defnyddiol yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae’r gwasanaeth ar gael 24/7 drwy switsfwrdd yr ysbyty. Mae’r llyfryn hwn yn cynnwys gwybodaeth ymarferol i berthnasau yn dilyn profedigaeth yn ogystal â rhywfaint o arweiniad am y teimladau ac ymateb i alar a allech fod yn eu profi.
Yn dilyn marwolaeth anwylyd, yn un o’r ysbytai canlynol bydd angen i chi gysylltu â: Gwasanaethau Profedigaeth Ysbyty Glan Clwyd Bodelwyddan LL18 5UJ Ffôn: 03000 844123 Dydd Llun i ddydd Gwener 10am - 4pm (ac eithrio gwyliau banc) Gwasanaethau Profedigaeth Ysbyty Maelor Wrecsam LL13 7TD Ffôn: 03000 847570 Dydd Llun i ddydd Gwener 10am - 4pm (ac eithrio gwyliau banc) Gwasanaethau Profedigaeth Ysbyty Gwynedd Bangor LL57 2PW Ffôn: 03000 850865 Dydd Llun i ddydd Gwener 10am - 4pm (ac eithrio gwyliau banc) Bydd y Gwasanaethau Profedigaeth yn rhoi gwybod i chi beth fydd yn digwydd nesaf yn dilyn marwolaeth eich anwylyd.
Cynnwys Rhif y Dudalen Archwiliwr Meddygol ............................................... 1 Rôl yr Uwch Grwner................................................... 2 Cofrestrydd, Genedigaethau a Marwolaethau........ 3 Dywedwch Wrthym Unwaith.................................... 7 Cysylltu â Threfnwr Angladdau................................. 8 Gweld Eich Anwylyd yn yr Ysbyty............................. 8 Rhoi Meinweoedd ac Organau................................. 8 Oes Gennych chi Ymholiad? ..................................... 9 Ydych chi’n Dymuno Codi Pryder?............................ 10 Galar a Phrofedigaeth............................................... 11 Grwpiau Cymorth....................................................... 16
Archwiliwr Meddygol Mae pob marwolaeth yn cael ei hadolygu gan feddyg annibynnol a elwir yn Archwiliwr Meddygol. Nid cyflogai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r Archwiliwr Meddygol – mae’n gwbl annibynnol. (Gallai’r broses gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith o’r dechrau i’r diwedd.) Bydd yr Archwiliwr Meddygol yn craffu ar nodiadau meddygol y claf, yna caiff y wybodaeth ei throsglwyddo i swyddog archwiliwr meddygol. Bydd swyddog yr archwiliwr meddygol yn siarad â’r meddyg a wnaeth drin y claf ddiwethaf. Os cytunir ar achos y farwolaeth, bydd swyddog yr archwiliwr meddygol yn cysylltu â’r perthynas. Bydd yn dweud wrthynt beth sydd wedi’i gytuno fel achos y farwolaeth a hefyd yn gofyn a oedd unrhyw bryderon ynghylch triniaeth neu ofal y claf cyn iddo farw. Ar yr amod nad oes unrhyw bryderon, bydd swyddog yr archwiliwr meddygol yn anfon y dystysgrif feddygol wedi’i chwblhau i Swyddfa’r Cofrestrydd yn yr Ardal lle digwyddodd y farwolaeth. Bydd y Cofrestrydd yn ffonio’r perthynas i wneud apwyntiad i fynd i’r swyddfa i gofrestru’r farwolaeth. Ffôn: 02921 500699 E-bost: northwales.medicalexaminersoffice@wales.nhs.uk
-1-
Rôl yr Uwch Grwner Yn achlysurol bydd angen i’r meddyg hysbysu’r Uwch Grwner am farwolaeth y claf. Y Crwner fydd yn penderfynu ar un o’r canlynol: 1 - Yn cytuno ag achos y farwolaeth a bydd yn rhoi Rhan A i’r cofrestrydd. 2 - Bydd yn gorchymyn post mortem i sefydlu achos marwolaeth. 3 - Bydd yn agor ac yn gohirio cwest heb bost mortem. Os - 1 Bydd y Cofrestrydd yn ffonio’r perthynas gydag apwyntiad. Os - 2 neu 3 bydd Swyddog y Crwner yn cysylltu â’r perthynas. Uwch Grwner - Gogledd Ddwyrain / Canolbarth Cymru Adeilad y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 1YN Ffôn: 01824 708047 E-bost: coroner@denbighshire.gov.uk Uwch Grwner - Gogledd Orllewin Cymru Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH 01286 672804 Swyddogion y Crwner Ffôn: 01745 588816 -2-
Cofrestrydd, Genedigaethau a Marwolaethau (gweler tudalennau 5 a 6 am restr o swyddfeydd)
Bydd y cofrestrydd genedigaethau a marwolaethau yn ffonio’r perthynas gydag apwyntiad i ymweld â swyddfa’r cofrestrydd. Bydd y cofrestrydd yn gofyn am y wybodaeth ganlynol: 1
Enw llawn y Claf sydd wedi marw.
2
Cyfeiriad post llawn.
3
Dyddiad a Man Geni.
4
Galwedigaeth.
5
Enw Cyn Priodi (os yn briod).
6
Rhif GIG (os yw’n hysbys).
7
Os yw’r claf am gael ei gladdu / amlosgi.
8
Enw’r Trefnwr Angladdau neu Direct / Pure / Simplicity Cremations.
Pwy sy’n gallu cofrestru’r farwolaeth? 1
Perthynas i’r claf, a oedd yn bresennol ar adeg y farwolaeth.
2
Perthynas, a oedd yn bresennol yn ystod y salwch diwethaf.
3
Perthynas, sy’n byw yn yr isranbarth neu a oedd yn yr isranbarth lle digwyddodd y farwolaeth.
4
Unigolyn a oedd yn bresennol ar adeg y farwolaeth.
5
“Y Deiliad” os oeddent yn gwybod am y farwolaeth.
6
Unrhyw garcharor os oedd yn gwybod am y farwolaeth.
7
Yr unigolyn / ysgutor / awdurdod sy’n gofalu am waredu’r corff. -3-
Bydd y cofrestrydd yn rhoi: Tystysgrif Werdd - mae hon i’w rhoi i’r trefnydd angladdau. Bydd angen i chi ofyn i’r cofrestrydd am gopïau o’r dystysgrif marwolaeth (codir tâl am hyn – gellir talu ag arian parod neu gerdyn). Mae angen copïau o’r dystysgrif marwolaeth ar gyfer y Banc / Cymdeithasau Adeiladu, Ewyllysiau, Pensiynau Preifat / Gwaith, Buddsoddiadau ac ati. Cofrestru trwy ddatganiad Yn achlysurol, os nad yw’r unigolyn sy’n cofrestru’r farwolaeth yn byw yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth, gellir gwneud trefniadau i gofrestru’r farwolaeth trwy ddatganiad. Mae hyn yn golygu y gall y Swyddfa Gofrestru lle digwyddodd y farwolaeth e-bostio’r dystysgrif at gofrestrydd sy’n lleol i’r hysbysydd. Fodd bynnag, bydd copïau o’r dystysgrif yn cael eu postio at yr hysbysydd gan y swyddfa gofrestru lle digwyddodd y farwolaeth
-4-
Swyddfeydd Cofrestru Ffoniwch i drefnu apwyntiad, ni chaniateir cyfarfodydd yno heb drefnu apwyntiad o flaen llaw. Ynys Môn Swyddfa Cofrestru, Canolfan Busnes Ynys Môn, Parc Busnes Bryn Cefni, Llangefni, LL77 7XA 01248 751925
De Sir Ddinbych Y Swyddfa Gofrestru, Neuadd y Dref, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN 01824 708100 Sir y Fflint Y Swyddfa Gofrestru Neuadd Llwynegrin, Yr Wyddgrug, CH7 6NR 01352 703333
Caer Y Swyddfa Gofrestru, Merchants House, Crook Street, Caer, CH1 2BE 0300 123 7037 Conwy Y Swyddfa Gofrestru, Neuadd y Dref, Stryd Lloyd, Llandudno, Conwy, LL30 2UP 01492 576525 Gogledd Sir Ddinbych Y Swyddfa Gofrestru, Neuadd y Dref, Ffordd Wellington, Y Rhyl, LL18 1BA 01824 708100
-5-
Gwynedd Yng Ngwynedd gellir cofrestru marwolaeth sy’n digwydd yn y sir yn unrhyw un o’r swyddfeydd a restrir isod trwy drefniant ymlaen llaw yn unig. Er mwyn trefnu apwyntiad i gofrestru marwolaeth unrhyw le yng Ngwynedd ffoniwch: 01766 771000 Gwasanaeth Cofrestru Gwynedd Prif Swyddfa Cyngor Gwynedd, Stryd y Castell, Caernarfon, LL55 1SE
Parhad Swyddfeydd Cofrestru Swyddfeydd Ardal Gwynedd Y Swyddfa Gofrestru Swyddfeydd y Cyngor Ffordd y Cob Pwllheli, LL53 5AA Y Swyddfa Gofrestru, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg Dolgellau, LL40 2YB
Sir Amwythig The Guildhall, Frankwell Quay, Amwythig, Swydd Amwythig, SY3 8HQ 0345 678 9016 Wrecsam Y Swyddfa Gofrestru, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY 01978 298997
Llangollen Y Swyddfa Gofrestru Y Capel, (Llyfrgell) Stryd y Castell, Llangollen, LL20 8NU 01824 706187 Y Rhyl Gweler Gogledd Sir Ddinbych Rhuthun Gweler De Sir Ddinbych
-6-
Dywedwch Wrthym Unwaith Mae “Dywedwch Wrthym Unwaith” yn wasanaeth rhad ac am ddim, a gefnogir gan y Swyddfa Gofrestru, sy’n cynnig cymorth i deuluoedd roi gwybod i adrannau llywodraeth leol a chanolog am farwolaeth eich anwylyd ar adeg anodd. Gyda’ch caniatâd chi, bydd Gwasanaethau Cyngor Lleol ac Adrannau’r Llywodraeth Ganolog perthnasol yn cael gwybod am y brofedigaeth gan gynnwys: Yr Adran Gwaith a Phensiynau, Y Swyddfa Basbort, Trwyddedau Gyrru a Phensiynau Rhyfel. Bydd angen i chi ddarparu rhif Yswiriant Gwladol yr un a fu farw (os ydych yn ei wybod) a dogfennau perthnasol (er enghraifft Pasbort, Trwydded Yrru, Cerdyn Llyfrgell, Bathodyn Glas) Os nad yw’r wybodaeth ar gael ar adeg eich apwyntiad gyda’r Cofrestrydd, bydd y Cofrestrydd yn egluro sut i gael mynediad at y gwasanaeth o gartref gan ddefnyddio cyfeirnod a gwasanaeth cysylltu dros rad-ffôn gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael hyd at 28 diwrnod ar ôl cofrestru marwolaeth. Dywedwch wrth y Swyddfa Gofrestru yr hoffech ddefnyddio’r gwasanaeth “Dywedwch Wrthym Unwaith” pan fyddwch yn ffonio i wneud eich apwyntiad gyda nhw neu fel arall ewch i www.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.
-7-
Cysylltu â Threfnydd Angladdau Mae’n bwysig cysylltu â threfnydd angladdau cyn gynted â phosibl fel y gallant ddechrau gwneud trefniadau ar eich rhan. Nid oes angen i chi aros nes bod y Dystysgrif Feddygol Marwolaeth wedi’i chyhoeddi. Bydd eich trefnydd angladdau yn gallu eich cynghori a’ch cefnogi chi a’ch teulu yn ystod y cyfnod hwn.
Gweld Eich Anwylyd Yn yr Ysbyty Efallai na fydd bob amser yn bosibl gweld eich anwylyd yn yr ysbyty. Efallai y bydd angen gwneud trefniadau drwy eich trefnydd angladdau.
Rhoi Organau a Meinwe Ni all pawb sy’n marw roi rhodd bywyd trwy roi organau a meinwe, am lawer o resymau. Os yw rhoi organau a/neu feinwe yn bosibilrwydd, bydd aelod o staff yn cysylltu â chi i drafod penderfyniad hysbys diwethaf eich anwylyd. Gallwch gysylltu â’r Gwasanaethau Meinwe am ragor o wybodaeth yn uniongyrchol ar 0800 432 0559. Am unrhyw gyngor, gallwch ffonio’r llinell Gyfeirio Rhoddwyr Organau ar 03000 20 30 40 neu’r Gwasanaethau Meinwe ar 0800 432 0599. Mae’r rhain ar gael 24 awr y dydd.
-8-
Oes Gennych chi Ymholiad? Gall colli rhywun mor gyflym ac yn annisgwyl fod yn sioc a gall wneud i chi deimlo’n flin a/neu’n anobeithiol. Pan fyddwch yn colli rhywun sy’n bwysig i chi, mae’n normal i chi ofyn cwestiynau, neu fod eisiau deall mwy am y sefyllfa. Os oes gennych ymholiad, cysylltwch â’n Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS). Os oes: • Gennych broblem ond ddim yn gwybod pwy i holi. • Os ydych eisiau siarad â rhywun nad yw’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch gofal. • Os ydych eisiau canmol gwasanaethau neu aelodau unigol o staff. • Os oes gennych awgrym ar sut y gallwn wella. Byddwn yn: • Gwrando ar eich sylwadau, awgrymiadau, canmoliaeth ac ymholiadau ac yn ymdrechu i ddatrys problemau cyn gynted â phosibl. • Cynnig cyngor diduedd a chymorth i gleifion, teuluoedd, gofalwyr a ffrindiau. • Cysylltu â’n staff ac, os yw’n briodol, sefydliadau eraill i’ch cynorthwyo. • Darparu gwybodaeth am sefydliadau eraill a all roi gwybodaeth neu gyngor i chi. • Cynorthwyo i wella gwasanaethau drwy adrodd ar themâu a thueddiadau a godwyd gan ein defnyddwyr gwasanaeth. • Cadw eich gwybodaeth yn gyfrinachol oni bai bod rheswm eithriadol – er enghraifft i amddiffyn plant, chi neu unigolyn arall. -9-
Datrys eich ymholiadau: Bydd Swyddog PALS yn gwneud eu gorau i ddatrys problemau a materion yn sydyn ac yn uniongyrchol gyda’r staff perthnasol. Mae ganddynt fynediad at uwch reolwyr yn y Bwrdd Iechyd i gael cymorth i ddatrys materion pe bai angen. BCU.PALS@wales.nhs.uk Ffôn: 03000 851 234
Ydych chi’n Dymuno Codi Pryder? Os ydych yn teimlo y gallwch wneud hynny, y lle gorau i ddechrau yw drwy siarad ag aelod o’n Tîm Pryderon, gallwch gysylltu â’r tîm ar: 03000 851 234. Gallant geisio datrys eich pryder ar unwaith. Os nad yw hyn yn helpu neu os nad ydych am siarad â staff a ddarparodd y gwasanaeth, yna gallwch gysylltu ag aelod o Dîm Pryderon y Bwrdd Iechyd. Ffôn: 03000 851 234 E-bost: bcu.complaintsteam@wales.nhs.uk Llythyr: Y Tîm Cwynion, Ysbyty Gwynedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW. Os oes angen mwy o gymorth arnoch, gallwch gysylltu â Llais Cymru sy’n gorff annibynnol a sefydlwyd i gynrychioli buddiannau a phryderon cleifion a’u teuluoedd. Conwy/Gwynedd/Sir Ddinbych/Sir y Fflint/Wrecsam: 01978 356178
- 10 -
Galar a Phrofedigaeth Galaru yw ein hymateb emosiynol i golled a gall fod yn drallodus ac yn ddryslyd. Efallai y byddwch chi’n teimlo’n unig gan ei bod hi’n ymddangos nad oes neb yn deall yn iawn sut rydych chi’n teimlo. Mae hyn oherwydd bod profiad unigol pawb o alaru yn unigryw ac yn bersonol iddyn nhw. Rydym yn mynegi ein galar yn gyhoeddus trwy alaethu, a all gynnwys cardiau, blodau, canhwyllau, gwisgo dillad penodol, seremonïau crefyddol a dathliadau bywyd. Dim ond rhan o’r broses alaru yw’r angladd. Mae angen i chi ganiatáu cymaint o amser ag sydd angen i chi’ch hun i ddod i delerau â’ch colled. Yn ein cymdeithas, nid yw galaru yn dueddol o gael ei gydnabod yn llawn a gellir ei osgoi hyd yn oed oherwydd gall pobl fod yn ofnus o’r hyn nad ydyn nhw’n ei ddeall. Fodd bynnag, mae cydnabod eich teimladau chi a rhai pobl eraill yn bwysig iawn i’ch lles. Teimladau Nid oes unrhyw reolau ynghylch y broses naturiol o alaru; mae’n brofiad gwahanol iawn i bawb a bydd ymatebion yn amrywio. Gall sut rydych chi’n teimlo ddibynnu ar eich perthynas flaenorol â’r unigolyn sydd wedi marw a sut roeddech chi’n teimlo amdano, yn ogystal â’ch profiadau personol chi a’ch amgylchiadau presennol. Efallai y byddwch yn profi ystod eang o deimladau y mae’n anodd gwneud synnwyr ohonynt. Gall galar fod yn brofiad anniben ac anrhagweladwy sy’n mynd a dod fel tonnau. Ar y dechrau, efallai y cewch ormod o sioc i deimlo unrhyw beth. Mae llawer o bobl mewn profedigaeth yn teimlo fel - 11 -
eu bod wedi fferru ac ymdeimlad o anghrediniaeth; wrth i chi ddod dros y sioc a deall realiti’r hyn sydd wedi digwydd, efallai y byddwch chi’n profi rhai o’r teimladau mwyaf pwerus a gawsoch erioed. Gallech deimlo: • Yn drist, yn isel eich hwyliau, mewn trallod, yn methu â mwynhau bywyd, ac iselder hyd yn oed. • Yn ofidus, yn ofnus, yn orbryderus ac yn methu ymlacio. • Yn ddig tuag at eraill megis eich teulu, ffrindiau, gweithwyr gofal iechyd, Duw, neu’r unigolyn sydd wedi marw hyd yn oed. • Yn euog ac yn beio eich hun. • Yn unig, hyd yn oed pan fyddwch yng nghwmni pobl eraill. • Teimlad o ryddhad ar ôl y farwolaeth, efallai yn dilyn cyfnod o ofid yn y cyfnod yn arwain at y farwolaeth. • Ymdeimlad o hiraeth ac fel petasech yn chwilio am yr unigolyn sydd wedi marw.
- 12 17 -
Sut Gallai Galar Effeithio Arnaf i’n Gorfforol? Efallai y byddwch yn: • Flinedig ac wedi ymlâdd heb unrhyw egni i gyflawni tasgau syml. • Methu cysgu yn ôl eich arfer. • Poenus, megis cur pen, poen cefn, a phoenau cyhyrol. • Newidiadau yn eich chwant bwyd megis peidio â theimlo’n llwglyd, methu â mwynhau bwyta, neu eisiau gorfwyta, a allai arwain at golli pwysau neu fagu pwysau. • Teimlo’n sâl, eich stumog yn troi, ac efallai bydd newidiadau yn y ffordd yr ydych yn cael eich gweithio. • Ymwrthedd isel ac efallai y byddwch yn dal mân heintiau fel annwyd yn haws. Sut Gallai Galar Effeithio Ar Fy Meddyliau? Efallai y byddwch chi: • Fel nad ydych yn gallu canolbwyntio a chofio’n glir. • Yn bryderus ac yn hel meddyliau dro ar tro am yr unigolyn sydd wedi marw a’r digwyddiadau a arweiniodd at ei farwolaeth. • Yn ddiymadferth ac yn anobeithiol am y dyfodol. • Ymdeimlad o afrealiti a datgysylltiad oddi wrth y byd o’ch cwmpas.
- 13 -
Sut Gallai Hyn Effeithio Ar Fy Ymddygiad? Efallai y byddwch chi: • Yn ddig, yn flin ac yn ddrwgdybus o bobl eraill. • Yn aflonydd ac yn methu setlo ac ymlacio. • Yn ddagreuol neu’n methu crio. • Ffafrio eich cwmni eich hun ac yn gwrthod eraill, fel ffrindiau, teulu, a sefyllfaoedd cymdeithasol. Gall sylweddoli bod rhai o’r teimladau, y meddyliau a’r ymddygiadau hyn yn normal eich helpu i deimlo’n llai unig ac nad ydych yn colli arni. Ni all neb ddweud pa mor hir y byddwch chi’n teimlo fel hyn. Roedd eich perthynas â’r unigolyn cyn iddo farw yn unigryw, felly hefyd eich teimladau o alar a’u dwyster a’u hyd. Mae galaru yn hanfodol i helpu pobl i ddod o hyd i ffordd o fyw eu bywydau tra’n dal i deimlo eu bod yn gallu cofio’r unigolyn sydd wedi marw a dal eich gafael ar eich atgofion ohonynt. Beth Allaf i Ei Wneud i Helpu Fy Hun? Mae’n bwysig peidio ag anghofio am eich iechyd eich hun. Os ydych yn teimlo fel y gallwch, ceisiwch fwyta prydau rheolaidd yn hytrach na byrbrydau a cheisiwch orffwys digon, hyd yn oed os na allwch gysgu. Yn ystod cyfnod o straen, gall fod yn demtasiwn i deimlo y byddai bywyd yn haws petaech chi’n symud tŷ neu’n gwneud penderfyniadau am eiddo eich anwylyd ond mewn gwirionedd nid yw hwn yn amser da i wneud newidiadau mawr yn eich bywyd - efallai na fydd yr hyn sy’n ymddangos yn iawn ar hyn o bryd yn ymddangos yn iawn ymhen rhai misoedd. Os na allwch osgoi gorfod gwneud penderfyniadau pwysig, ceisiwch eu trafod gyda rhywun y gallwch ymddiried ynddo a rhywun a all eich helpu i ystyried gwahanol opsiynau.
- 14 -
Beth y Gall Eraill Ei Wneud i Fy Helpu? Mae profedigaeth yn effeithio ar deuluoedd mewn llawer o wahanol ffyrdd. Bydd pob aelod o’r teulu yn ymdopi â phrofedigaeth mewn ffyrdd gwahanol. Efallai y byddwch yn teimlo’r angen i siarad â phobl am y sawl sydd wedi marw dro ar ôl tro gan sôn am y salwch a’r farwolaeth, yr amseroedd da a’r drwg. Gall teuluoedd a ffrindiau helpu i wrando ar yr atgofion a’u rhannu, er efallai y gallai hyn fod yn anodd neu’n anghyfforddus iddynt ar adegau, gan nad oes llawer o bobl yn gwybod beth i’w ddweud. Mae’n bwysig cysylltu â nhw pan fyddwch eu hangen oherwydd gall fod yn anodd i eraill wybod sut rydych yn teimlo a beth y gallant ei wneud i helpu. Os ydych yn teimlo fel na allwch rannu eich teimladau gyda theulu a ffrindiau, neu os nad oes gennych berthynas agos â neb, neu os ydych yn profi problemau parhaus wrth ymdopi â bywyd o ddydd i ddydd, yna gall fod yn werth ystyried mathau eraill o gymorth Meddyg Teulu Efallai y gall eich meddyg teulu eich helpu ond os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, gall ef/hi argymell cwnselydd neu grwpiau cymorth lleol.
- 15 -
Grwpiau Cymorth Gall ymuno â grŵp cymorth fod yn gyfle i gwrdd â phobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg. Oherwydd fod manylion cyswllt ar gyfer grwpiau lleol yn newid yn aml, rydym wedi cynnwys rhestr o sefydliadau cenedlaethol sy’n gallu rhoi’r wybodaeth leol ddiweddaraf. Mae llawer o’r sefydliadau hyn yn cynnig cymorth emosiynol a chyngor ar faterion ymarferol, fel budd-daliadau DWP neu faterion tai. Age UK Cyngor ymarferol i bobl dros 50 oed yn dilyn profedigaeth. Llinell wybodaeth: 0800 678 1602 www.ageuk.org.uk Cruse Bereavement Care Yn cynnig cefnogaeth, cymorth a chyngor i’r rhai sy’n galaru. Llinell Gymorth: 0808 808 1677 www.cruse.org.uk Switchboard LGBT Yn cynnig clust i wrando ar lesbiaid a dynion hoyw, eu teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr sy’n wynebu profedigaeth. Llinell Gymorth: 0800 0119 100 www.switchboard.lgbt
- 16 -
SAD Cefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan Farwolaeth Sydyn ar y Galon. Llinell Gymorth: 01277 811215 www.sadsuk.org.uk Samariaid y Rhyl a Gogledd Ddwyrain Cymru Rhoi cymorth emosiynol cyfrinachol 24 awr y dydd. Llinell Gymorth: 116 123 or 0330 094 5717 www.samaritans.org Support after Murder and Manslaughter Cefnogaeth a gwybodaeth i bobl y mae llofruddiaeth neu ddynladdiad wedi effeithio arnynt. Llinell Gymorth: 0121 472 2912 www.samm.org.uk Survivors of Bereavement by Suicide Yn bodoli i fodloni anghenion a lleddfu unigrwydd pobl sydd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad perthynas neu ffrind. Llinell Gymorth: 0300 111 5065 www.uksobs.com WAY Widowed & Young Yn cynnig cefnogaeth, cymorth a dealltwriaeth i weddwon ieuengach na 50 oed. www.widowedandyoung.org.uk
- 17 -
Ar gyfer plant sydd mewn profedigaeth Grief Encounter Elusen yn Llundain sy’n helpu plant trwy brofedigaeth. Llinell Gymorth: 0808 802 0111 www.griefencounter.org.uk Cruse for children and young people Llinell Gymorth: 0808 808 1677 www.hopeagain.org.uk Bwrdd Iechyd - Iechyd Meddwl Llinell Gymorth: 111 + 2 St Kentigern Hospice Yn rhoi cefnogaeth dros y ffôn a gwybodaeth i blant mewn profedigaeth a’u teuluoedd yn nalgylch yr Hosbis. Llinell Gymorth: 01745 585221 www.stkentigernhospice.org.uk Nightingale House Hospice Release Yn agored i bob plentyn mewn profedigaeth a’u teuluoedd yn nalgylch yr Hosbis. Llinell Gymorth: 01978 316 800 www.nightingalehouse.co.uk Winston’s Wish Cymorth i blant sy’n galaru a’u teuluoedd. Llinell Gymorth: 08088 020 021 www.winstonswish.org Ar y we: Ymdopi â galar Cyngor ymarferol a chymorth emosiynol i unrhyw un sy’n wynebu profedigaeth gyda dolenni da i wybodaeth bellach www.bbc.co.uk - 18 -
Ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, hoffem gydymdeimlo â chi â’ch teulu yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Cyfeirnod: Llyfryn Profedigaeth (WXB) Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2026 Dyddiad Adolygu: Mawrth 2028
- 19 -
The Hospital would like to thank RNS Publications for publishing this information and the following pages contain some features from services offering their help at this time. Whilst the Hospital is grateful of their support it does not endorse or recommend any of the services that they provide. Please note, whilst information is correct at the time of publication, this may be subject to future change.
STOPPING JUNK MAIL If someone you know has died, we can reduce the amount of unwanted marketing post being sent to them, stopping painful daily reminders. By registering with our free service, the names and addresses of the deceased are removed from mailing lists, stopping most advertising mail within as little as six weeks.
Call: 0333 006 8114 OR
Visit our website: www.stopmail.co.uk bereavement support network stop mail
here to help
Calls are charged at standard landline rates. Calls from mobiles are included in inclusive call packages. © Bereavement Support Network Ltd 2026
When all you want is either a simple cremation or funeral We understand how expensive funerals can be and specialise in providing a valued service. In recent years families have increasingly chosen more straightforward options. We can connect you with a local partner who can offer a simple and dignified cremation from £990.00, as well as more traditional funerals where we can add personal touches to reflect your wishes.
CREMATION SUPPORT Supporting families nationally
admin@cremationsupport.co.uk
To discuss how we can provide a discreet and caring service for your loved one and confirm a fixed price:
call
0808 169 8454
Direct Cremation is from
£990.00
Price valid at time of publication but may be subject to change.
Do you need help with
Probate? You may need help, support or advice on what to do when someone dies in relation to probate. It may not always appear obvious if it will be required.
Call: 0333 240 0360 We offer free guidance on the legal and financial aspects of bereavement including your responsibilities and whether probate is required. You may need to establish whether a property is held in joint names or tenants in common, we can perform a simple check at no cost to establish the title deeds. This service is provided by
bereavement support network here to help
Connecting you with managed and D.I.Y. Probate Solutions Calls are charged at standard landline rates. Calls from mobiles are included in inclusive call packages.
JONES FAMILY FUNERAL DIRECTORS A Mother and Daughter Independently Run Establishment Personal caring service from qualified professionals Private Chapel of Rest Available 24 hours a day, 7 days a week All areas covered
Pick A Family Not A Firm Please contact us at: 01978 784997 enquiries@jonesfamilyfunerals.co.uk www.jonesfamilyfunerals.co.uk
Or visit us: 25 Chester Street, Wrexham, LL13 8BG
A trading style of Turnside Marketing Ltd
This publication has been jointly developed between ourselves and the hospital. We hope that it has been or will be of help at this time and we welcome any comments or suggestions that you may have. Please contact us either by phone, email or by post. RNS Publications, Trium House, Unit 15, Broughton Way, Whitehills, Blackpool FY4 5QN
01253 832400 enquiries@rns.co.uk
Cyhoeddwyd gan RNS Publications © Ffôn: 01253 832400 R22