Skip to main content

BAFTA Cymru Awards 2026 Show Notes

Page 1

NODIADAU’R SIOE SHOW NOTES 2026


CYNNWYS CONTENTS

03 C roeso Welcome

27 Yr Enwebiadau The Nominations

06 D athlu Gwobr Siân Phillips Celebrating the Siân Phillips Award

58 Er Cof Am In Memoriam 60 Y Rheithgorau The Juries

14 Gwobr BAFTA 66 Partneriaid Cymru Siân Phillips Gwobrau Swyddogol am Gyfraniad Official Awards Arbennig i’r Byd Teledu Partners BAFTA Cymru 67 Prif Bartneriaid, Siân Phillips Award Cefnogwyr a for Outstanding Arianwyr Craidd Contribution Principal Partners, to Television Supporters and 20 G wobr BAFTA Core Funders Cymru Cyfraniad 68 Diolchiadau Arbennig i’r Grefft Acknowledgements BAFTA Cymru Award for Outstanding Contribution to Craft bafta.org @BAFTACymru #BAFTACymruAwards

1


RE-INTRODUCING BAFTA Albert BAFTA Albert works with the screen industries to turn the power of storytelling into measurable climate action; behind the scenes, on screen and beyond. We congratulate every nominee and all BAFTA Albert certified productions for their commitment to sustainability on and off screen. Find out more: baftaalbert.org

2


Mae Gwobrau BAFTA Cymru yn amlygu ac yn dathlu ehangder y doniau a’r gwaith o Gymru ar draws y diwydiannau sgrin. Rydyn ni’n genedl falch sydd â hanes hir a mawreddog yn y celfyddydau. Mae ffilmiau, gemau a rhaglenni teledu gwych yn ysbrydoli, a thrwy angerdd, creadigrwydd a gwydnwch y rhai a enwebwyd yn ein Gwobrau y byddwn yn sicrhau bod ein hunaniaeth Gymreig unigryw yn parhau i ddisgleirio’n llachar ar lwyfan y byd. Mae BAFTA yn bodoli i hyrwyddo ein diwylliant sgrin, ysbrydoli doniau newydd ac agor drysau i’r genhedlaeth nesaf – cenhadaeth sy’n cael ei chyflawni i raddau helaeth diolch i’n cymuned o dros 14,000 o aelodau, y mae llawer ohonynt yn galw Cymru yn gartref. Mae gennym gymuned gref gynyddol o weithwyr proffesiynol yma, sy’n cyfuno lleisiau profiadol a doniau sefydledig â newydd-ddyfodiaid. Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i ddarparu mwy o gyfleoedd iddyn nhw gysylltu, rhannu eu gwaith a meithrin cysylltiadau, drwy sesiynau rhwydweithio i’n haelodau a llawer o ddigwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal ledled y wlad, yn ogystal â mwy o ddigwyddiadau ar-lein.

CROESO

CROESO CYNNES I WOBRAU BAFTA CYMRU ELENI

3


Mae creu cymuned wirioneddol gysylltiedig, sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo doniau Cymru ar bob cam, yn hanfodol i sicrhau bod ein ffilmiau, gemau a rhaglenni teledu yn parhau i ddisgleirio fel golau pwysig a nodedig yn nhirwedd ehangach gwledydd Prydain a thu hwnt. Diolch i bawb sy’n gwneud y Gwobrau yma’n bosib a llongyfarchiadau i’r holl enwebeion eleni. Rydych chi’n ein gwneud ni’n falch. A VERY WARM WELCOME TO THIS YEAR’S BAFTA CYMRU AWARDS

4

The BAFTA Cymru Awards illuminates and celebrates the breadth of talent and work coming out of Wales across the screen industries. We are a proud nation with a long and prestigious history in the arts. Great films, games and TV inspire, and it’s through the passion, creativity and resilience of those nominated at our Awards that we will ensure our unique Welsh identity continues to shine brightly on the world stage. BAFTA exists to champion screen culture, inspire new talent and open doors for the next generation – a mission that is in large part achieved thanks to our community of 14,000-plus members, many of whom call Wales their home.


Creating a genuinely connected community, which supports and champions Welsh talent at every stage, is vital to ensuring our films, games and TV continue to sparkle as an important and distinctive light in the wider UK and international landscapes. Thank you to all those who make these Awards possible and congratulations to this year’s nominees. You make us proud.

Lee Walters Cadeirydd | Chair BAFTA Cymru

Hilary Rosen Cadeirydd | Chair BAFTA

WELCOME

We have a strong, growing community of professionals here, combining veteran voices and established talent with new entrants. We’ve been actively working to provide more opportunities for them to connect, share their work and build relationships, through our members meet-ups and many other events hosted across the nation, as well as our growing online activity.

5


DATHLU GWOBR SIÂN PHILLIPS CELEBRATING THE SIÂN PHILLIPS AWARD

Portread | Portrait: Francesca Jones

Cafodd gwobr Siân Phillips, a gafodd ei chyflwyno am y tro cyntaf yng Ngwobrau BAFTA Cymru 2005, ei sefydlu i ddathlu cyfraniad arbennig gan unigolyn o Gymru i’r diwydiannau sgrin. Eleni yw’r 20fed tro iddi gael ei dyfarnu, gyda phob un o’r 20 derbynnydd yn enwau cyfarwydd ar lwyfan y byd. Maen nhw’n cynrychioli’r gorau sydd gan ddiwydiannau creadigol Cymru i’w gynnig, o’r doniau eithriadol ar y sgrin i’r consurwyr sy’n gweithio y tu ôl i’r llenni. Eleni, mae’r wobr wedi’i hail-enwi’n Wobr Cyfraniad Arbennig Siân Phillips BAFTA Cymru i adlewyrchu’n well effaith y derbynwyr ar gelfyddydau’r sgrin. Gyda thros 140 o gyfraniadau ar sgrin a llawer mwy ar lwyfan, mae Siân Phillips yn un o actorion enwocaf gwledydd Prydain. Mae’n ysbrydoliaeth hyd heddiw, a does neb yn fwy addas i roi eu henw i’r wobr hon am Gyfraniad Arbennig.

7


First presented at the 2005 BAFTA Cymru Awards, the Siân Phillips Award was introduced to celebrate the significant contribution a Welsh individual has made to the screen industries. This year marks the 20th time it has been awarded, with all 20 recipients familiar names on the world stage. They represent the very best the Welsh creative industries have to offer, from exceptional onscreen talent to the magicians working behind the scenes. This year, the award has been retitled to the BAFTA Cymru Siân Phillips Outstanding Contribution Award to better reflect the recipients’ impact on the screen arts.

8

With more than 140 screen credits and many more for the stage, Siân Phillips is one of the UK’s most celebrated actors. She continues to be an inspiration, and no one is more fitting to lend their name to this Outstanding Contribution award.


luminous silk MADISIN RIAN WEARS SHADE 14

TH E SA ME ICON IC SI LK Y TEX TU RE U P TO 24H WEAR & NATU R AL GLOW* FOU N DATION NOW WITH EVEN BET TER COLOU R M ATCH 44 TRU ER-TO -SKI N SHADES *CONSUMER TEST ON 106 VOLU NTEERS


YR ANRHYDEDDAU YN LLAWN THE HONOURS IN FULL

10

2005 Rhys Ifans 2006 Russell T Davies 2007 Michael Sheen 2008 Ioan Gruffudd 2009 Ruth Jones 2010 Rob Brydon 2011

Matthew Rhys

2012 Robert Pugh 2013 Julie Gardner 2014 Jeremy Bowen 2015 Euros Lyn 2016 Siân Grigg 2017 Abi Morgan 2018 Lindy Hemming 2019 Bethan Jones 2022 Annabel Jones 2023 Rakie Ayola 2024 Mark Lewis Jones 2025 Bethan Rhys Roberts


ORIEL GWOBR SIÂN PHILLIPS SIÂN PHILLIPS AWARD GALLERY

2008

2016

11

2024

2015

2022


2014

2023

12

2025

2011

2017


2019

13

2013

2018

2005

2010

Delweddau | Images: BAFTA; Anthony Harvey / BAFTA / Shutterstock; Oliver Holms; Huw John; Francesca Jones; Mei Lewis; Jake Morley; Polly Thomas / BAFTA / REX / Shutterstock; Greg Williams; and Stuart Wilson


CAROL VORDERMAN

14


GWOBR BAFTA CYMRU SIÂN PHILLIPS AM GYFRANIAD ARBENNIG I’R BYD TELEDU Wrth feddwl am y safon ar gyfer menywod deallus, cryf ac annibynnol sy’n gweithio ym myd darlledu, does dim llawer yn gallu cystadlu â Carol Vorderman MBE. Ar ôl dod i’r amlwg fel athrylith mathemateg yn 21 oed, mae Carol wedi sicrhau ei lle fel enw uchel ei pharch mewn gyrfa amlweddog, gan gynnwys fel cyflwynydd rhaglenni dydd cyfarwydd, addysgwr angerddol, awdur llyfrau poblogaidd ac ymgyrchydd gwleidyddol a chymdeithasol di-flewyn-ar-dafod, ymhlith ei doniau niferus.

Portread | Portrait: Dan Kennedy / The Sunday Times / News Licensing Delwedd | Image: Channel 4 / Lifted Entertainment

Magwyd Carol yn y gogledd mewn tlodi llwyr, fel yr ieuengaf o dri o blant, gan riant sengl (roedd ei rhieni wedi gwahanu ers pan oedd hi’n dair wythnos oed). Roedd hi’n un o’r plant prydau ysgol am ddim mewn ysgol gyfun yn y Rhyl, lle llwyddodd i ragori. Ar ôl ennill lle i astudio peirianneg yng Nghaergrawnt pan oedd hi’n ddim ond 17 oed, digwydd gweld hysbyseb yn y Yorkshire Post yn cynnig gwaith i fenyw oedd â gwybodaeth dda o fathemateg oedd yr hyn osododd Carol ar ei llwybr ym myd darlledu. Ei mam wnaeth y cais mewn gwirionedd, gan ffugio llofnod Carol cyn dweud wrthi beth roedd hi wedi’i wneud. Fe ddaeth hi’n amlwg wedyn mai swydd oedd hon ar gyfer Countdown, y gêm deledu boblogaidd a lansiodd Channel 4 yn 1982. Gyda’i dawn wrth y bwrdd Llythrennau a Rhifau, magodd Carol fyddin o gefnogwyr gyda’i meddwl cyflym, ei charisma diamheuol a’i chwerthiniad diymatal. Ar ôl 26 mlynedd o ryfeddu’r gynulleidfa, gadawodd y rhaglen yn 2008.

15


Yn ystod ei blynyddoedd ar Countdown, ac ers hynny, mae wedi bod yn hollbresennol ar deledu gwledydd Prydain, gan arwain rhaglenni fel Loose Women, Pride of Britain Awards, Stars and Their Lives, Tomorrow’s World, Mysteries with Carol Vorderman a Better Homes, ac ymddangos fel gwestai neu gystadleuydd ar lu o rai eraill. Yn 2020, ymunodd â’i chyd-gyflwynydd Owain Wyn Evans i ddysgu Cymraeg ar gyfer rhaglen Iaith ar Daith S4C.

16

Rywle yn y canol, daeth o hyd i’r amser i sefydlu a rhedeg cwmni cynhyrchu annibynnol yn y nawdegau, yn ogystal ag ysgrifennu nifer o lyfrau addysgol i blant, a sefydlu’r wefan tiwtora ar-lein The Maths Factor ar gyfer plant 4-11 oed, sydd wedi dysgu bron i filiwn o blant hyd yn hyn. Yn fwy diweddar, wedi’i gyrru gan deimlad dwfn y dylai gwledydd Prydain ymdrechu am rywbeth gwell, ysgrifennodd Now What? On a Mission to Fix Broken Britain.

"DW I'N TEIMLO FEL Y DDYNES FWYA FFODUS YN Y BYD… MAE ENNILL Y WOBR YMA WIR YN RHOI'R EISIN AR Y GACEN."


Mae’r wobr hon, a gyflwynir yn enw un o brif arwyr byd y ddrama, Siân Phillips, yn ychwanegu at anrhydeddau eraill Carol, gan gynnwys cael ei phenodi’n MBE yn 2000. Meddai: “Dw i’n teimlo fel y ddynes fwya ffodus yn y byd. Fel merch fach ym Mhrestatyn oedd yn gwybod na fyddai Mam yn gallu fforddio prynu anrhegion Nadolig eto eleni, fyddwn i byth wedi breuddwydio am y bywyd dw i wedi’i gael gan y byd teledu. Ar ôl 44 mlynedd ar y sgrin fach, mae ennill y wobr yma wir yn rhoi’r eisin ar y gacen. Can diolch i chi BAFTA.”

17


BAFTA CYMRU SIÂN PHILLIPS AWARD FOR OUTSTANDING CONTRIBUTION TO TELEVISION In terms of setting the standard for strong, intelligent, independent women working in broadcasting, few names rival Carol Vorderman MBE. Shot to fame as a 21-year-old maths ace, Carol has since cemented her place as a respected household name across a multifaceted career, including cherished daytime show host, impassioned educator, bestselling author and outspoken political and social campaigner, among her many other talents.

18

"I’M THE LUCKIEST WOMAN IN THE WORLD… WINNING THIS AWARD IS TRULY THE ICING ON THE WELSH CAKE." Carol was brought up in abject poverty in North Wales, the youngest of three children with a single parent (her parents had separated when she was three weeks old). She was a free school meals’ child in a comprehensive in Rhyl where she excelled. After winning a place to read engineering at Cambridge when she was just 17, it was a serendipitous Yorkshire Post ad offering employment to a woman with good knowledge of maths that set Carol on her broadcasting path. It was actually her mother who made the application, forging Carol’s signature before telling her what she’d done. That job turned out to be for Countdown, the popular game show that launched Channel 4 in 1982.


Commanding the Letters and Numbers board, Carol’s quick wits, unmistakable charisma and irrepressible laugh won her a legion of fans. After 26 years wowing audiences, she finally left the show in 2008. During her Countdown years, and since, she’s been ever-present on British TV, fronting the likes of Loose Women, the Pride of Britain Awards, Stars and Their Lives, Tomorrow’s World, Mysteries with Carol Vorderman and Better Homes and guesting or competing on numerous others. She also joined fellow presenter Owain Wyn Evans to learn Welsh for S4C’s 2020 show, Iaith ar Daith. Somewhere in between, she found the time to found and run an independent production company in the 1990s, write multiple educational books for children and establish the online tutoring site The Maths Factor for 4-11 year olds, which has taught almost 1 million children to date. More recently, driven by a genuine concern for the UK to strive for better, she wrote Now What? On a Mission to Fix Broken Britain. This award, presented in honour of Welsh acting legend Siân Phillips, adds to Carol’s other accolades, including being appointed MBE in 2000. She says: “I’m the luckiest woman in the world. From being a little girl in Prestatyn who knew Mum couldn’t afford any Christmas presents again this year, I could never have dreamed of the life that TV has given me. After 44 years on the small screen, receiving this award is truly the icing on the Welsh cake. Thank you, BAFTA, a thousand times.”

19


LAUREN EVANS


GWOBR BAFTA CYMRU AM GYFRANIAD ARBENNIG I’R GREFFT Os oes un peth sy’n nodedig am waith y cyfarwyddwr castio Lauren Evans, ei gallu greddfol i weld potensial fyddai hynny, yn enwedig mewn actorion ifanc ar gyfer rhannau teimladwy a diffuant. Mae hyn i’w weld yn amlwg yng nghast amrywiol cyfresi fel Sex Education (2019-2023) a Lost Boys and Fairies (2024), sydd rhyngddynt wedi ennill pedwar enwebiad BAFTA i Lauren. Portread | Portrait: BAFTA / Oliver Holms Delweddau | Images: Stuart Wilson/BAFTA; Greg Willaims; Joe Maher

Efallai fod gonestrwydd plaen hyd yn oed yn bwysicach i lwyddiant I Swear (2025), ffilm fywgraffyddol bryfoclyd am John Davidson sy’n byw gyda chyflwr Tourette. Gwerth nodi bod y ffilm wedi ennill dwy BAFTA, un i’r prif actor Robert Aramayoa’r llall i Lauren. Efallai fod gwobrau mawr a chydnabyddiaeth gan y diwydiant yn ymddangos fel byd arall o gymharu â phentref genedigol Lauren yn yr Hendy yn Sir Gâr, ond allai hi ddim bod wedi cael hyfforddiant gwell. Cafodd Lauren brentisiaeth gyda dau o oreuon y byd, Kate Dowd a Nina Gold. Treuliodd chwe blynedd gyda Nina Gold, gan weithio’i ffordd i fyny o gynorthwyydd i swyddog, gan helpu i gastio ffilmiau llwyddiannus fel Paddington, The Theory of Everything (y ddwy yn 2014), Game of Thrones (2015-2017) a Star Wars: Episode VII: The Force Awakens (2015).

21


Ar ôl rhannu’r clod gyda Nina Gold fel cydgyfarwyddwr castio ar y ffilmiau hynod boblogaidd Paddington 2 a Taboo (y ddwy yn 2017), penderfynodd Lauren fynd yn annibynnol yn 2018. Ers hynny, mae wedi adeiladu portffolio grymus o waith, gan gynnwys Chloe (2022), Renegade Nell (2024) a The Great Escaper (2023). Gydag I Swear yn ennill iddi wobr BAFTA, BIFA a gwobr Urdd y Cyfarwyddwyr Castio – yr olaf yn ychwanegu at ei dwy wobr flaenorol ganddynt am Sex Education – mae Lauren wedi sicrhau ei lle fel un o gyfarwyddwyr castio blaenllaw’r diwydiant.

22

“DW I MOR FALCH O FOD YN BERSON CREADIGOL O GYMRU, A BYDD CAEL DATHLU HYN YN ÔL GARTREF… YN GYMAINT O GYFFRO.”


Wrth dderbyn y wobr arbennig hon gan BAFTA Cymru, meddai Lauren: “Dw i’n teimlo’n ostyngedig ac yn gwerthfawrogi’r fraint o fod y cyntaf i ennill y wobr yma. Dw i mor falch o fod yn berson creadigol o Gymru, a bydd cael dathlu hyn yn ôl gartref, yng nghanol pobl rydw i wedi’u hedmygu mor hir, yn gymaint o gyffro.”

BAFTA CYMRU AWARD FOR OUTSTANDING CONTRIBUTION TO CRAFT If the work of casting director Lauren Evans can be characterised by anything it would be her innate ability to spot potential, especially from young actors required for authentic and heartfelt roles. This is clearly on show in the diverse casts of Sex Education (2019-2023) and Lost Boys & Fairies (2024), which have earned Lauren four BAFTA nominations between them. Frank honesty was perhaps even more essential to the success of I Swear (2025), the provocative biopic of John Davidson who lives with the condition of Tourettes. Notably, the film won two BAFTAs, one for lead actor Robert Aramayo and the other for Lauren.

23


“I’M SO PROUD TO BE A WELSH CREATIVE, AND TO CELEBRATE THIS ON HOME SOIL… WILL BE SUCH A THRILL.” Industry recognition and awards may be a far cry from Lauren’s home village of Hendy in Carmarthenshire, but her training could not have been better. Lauren was stewarded by two of the world’s best, Kate Dowd and Nina Gold. She spent six years with the latter, working her way up from assistant to associate, helping cast such hits as Paddington, The Theory of Everything (both 2014), Game of Thrones (2015-2017) and Star Wars: Episode VII: The Force Awakens (2015).


After sharing the casting director credit with Gold on the hugely popular Paddington 2 and Taboo (both 2017), Lauren decided to go independent in 2018. Since then, she’s amassed a compelling portfolio of work, including the likes of Chloe (2022), Renegade Nell (2024) and The Great Escaper (2023). With I Swear winning her a BAFTA, a BIFA and a Casting Directors’ Guild award – the latter adding to her two previous CDG wins for Sex Education – Lauren has cemented her place as one of the industry’s leading casting directors. Receiving this special BAFTA Cymru award, Lauren says: “I am incredibly honoured and humbled to be the first recipient of this award. I’m so proud to be a Welsh creative, and to celebrate this on home soil, surrounded by people I have long admired, will be such a thrill.”

25


OFFICIAL CHAMPAGNE PARTNER TO BAFTA


31 Actores | Actress 33 Rhaglen Blant Children’s Programme 35 Cyfarwyddwr: Ffeithiol Director: Factual 37 Cyfarwyddwr: Ffuglen Director: Fiction

YR ENWEBIADAU THE NOMINATIONS

29 Actor

39 Golygu | Editing 41 R haglen Adloniant Entertainment Programme 43 Cyfres Ffeithiol | Factual Series

27

45 Ffilm Nodwedd / Deledu Feature / Television Film

49 Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen Photography and Lighting: Fiction 51 Cyflwynydd | Presenter 52 Ffilm Fer | Short Film 53 Rhaglen Ddogfen Sengl Single Documentary 55 Sain | Sound 56 Drama Deledu | Television Drama 57 Awdur | Writer

Roedd yr holl enwebiadau’n gywir ar adeg mynd i’r wasg . Nominations correct at time of press.

47 Newyddion a Materion Cyfoes News and Current Affairs


Official Wealth Management Partner of BAFTA

Brooks Macdonald and you. The Work of a Lifetime. Supporting career moments. Life’s big moments. Winning moments. Uncertain moments. Mortgages, insurance, investments, pensions, retirement - no matter the need. Tailored financial advice, made just for you.


ACTOR

CALLUM SCOTT HOWELLS Madfabulous Mad as Birds Films

JONATHAN PRYCE Under Salt Marsh Little Door Productions / Sky Atlantic

MATTHEW RHYS The Beast in Me 20th Television / Netflix

TOM CULLEN Trespasses Wildgaze Films / Channel 4

29


ACTORES ACTRESS

BUDDUG POVEY Rownd a Rownd Rondo Media / S4C

EVE MYLES The Guest Quay Street Productions / BBC One

GABRIELLE CREEVY The Guest Quay Street Productions / BBC One

SIAN REESE-WILLIAMS Power: The Downfall of Huw Edwards Wonderhood Studios / Channel 5

31


Discover brilliant experiences & breathtaking spaces at iccwales.com

95 minutes

From London

15 flexible

Meeting rooms to seat 10-900 delegates

4,000 sqm

Pillar free main hall

1,500

Tiered seater auditorium with inclusive AV package

5,000

Delegates maximum capacity

See our latest offers


RHAGLEN BLANT CHILDREN’S PROGRAMME

DREIGIAU CADI: Y BRIODAS! Yellow Barrels Ltd / S4C

ITOPIA Boom Cymru / S4C

YSBRYD YR OERFEL Cloth Cat / S4C

33


Congratulations to the nominees and winners of the BAFTA Cymru Awards 2026. To our partners at the heart of every production, we celebrate you and are proud to support you. We simplify production, so you can focus on the creative.

facilitiesbyadf.com

locationone.co.uk

portableroadways.com


CYFARWYDDWR: FFEITHIOL DIRECTOR: FACTUAL

ANDY PRITCHARD Fy Ffrind ar Death Row Darlun / S4C

JAMES HALE Cannabis Cove: Operation Seal Bay Lazerbeam / BBC One Wales

RHYS EDWARDS Y Crwydryn Docshed / S4C

SIÔN PIERCE LEWIS Stori’r Iaith Rondo Media / S4C

35


Goleuadau, camera, boddhad Lights, camera, satisfaction

Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr ac enwebeion gan archwilwyr swyddogol BAFTA. Congratulations to all winners and nominees from BAFTA’s Official Scrutineers. Gyda’n gilydd, yn helpu i roi’r gydnabyddiaeth i dalent y mae’n ei haeddu. Together, helping to give talent the recognition it deserves. deloitte.co.uk/TMT © 2026 Deloitte LLP. All rights reserved.


CYFARWYDDWR: FFUGLEN DIRECTOR: FICTION

EUROS LYN Wayward Sphere Media / Objective Fiction / Brick & Drum Productions / Springtime Yeti Entertainment / Netflix

GARETH BRYN Karen Pirie World Productions / ITV1

GRIFF ROWLAND Bariau Rondo Media / S4C

LEE HAVEN JONES The Lady Left Bank Pictures / ITV1

37


Gorilla Post Production Facilities congratulates all nominees and winners of this year’s BAFTA Cymru Awards Hoffai Ty Ôl-Gynhyrchu Gorilla longyfarch holl enwebeion ac enillwyr Gwobrau BAFTA Cymru eleni

www.gorillagroup.tv


GOLYGU EDITING

JULES CORNELL Richard Burton: Wild Genius Yeti Television / Bright Yellow Films / BBC One Wales 39

KEVIN JONES Madfabulous Mad as Birds Films

LEUSA GWENLLIAN Stori’r Iaith Rondo Media / S4C

MALI EVANS Y Golau: Dŵr Triongl / Long Story TV / S4C


INTRODUCING

GET THE ULTIMATE EDGE WHEN THE NETWORK IS BUSIEST

RootMetrics® UK RootScore® Report: H1 2026. Verify at ee.co.uk/claims. 73% availability. 45% faster: Ofcom July 2025

Best for network performance


RHAGLEN ADLONIANT ENTERTAINMENT PROGRAMME

AMOUR A MYNYDD Darlun / S4C

OTHER VOICES: CARDIGAN 2025 WITH HUW STEPHENS Triongl / South Wind Blows / Mwldan / BBC Two Wales

STIWDIO 24/7 Boom Cymru / S4C

Y LLAIS Boom Cymru / S4C

41


Host your next event at BAFTA 195 Piccadilly Housed in a historic Grade II listed building in the heart of London’s West End and spread over 5 floors, our award-winningly beautiful, flexible and technologically advanced spaces are perfect for professional or personal occasions such as screenings, weddings, receptions, presentations, gala-dinners, networking events, and meetings. Enquire now at baftapiccadilly@bafta.org

BAFTA 195 Piccadilly, London W1J 9LN baftapiccadilly@bafta.org @bafta195


CYFRES FFEITHIOL FACTUAL SERIES

FLAMING FEASTS Cwmni Da / BBC One Wales

SOS: EXTREME RESCUES Darlun / BBC One Wales

STORI’R IAITH Rondo Media / S4C

VANISHED WALES ITV Cymru Wales

43


FFILM NODWEDD / DELEDU FEATURE / TELEVISION FILM

MADFABULOUS Mad as Birds Films

MR BURTON Severn Screen / Promise Pictures / Brookstreet Pictures

THE MAN IN MY BASEMENT Protagonist Pictures / Good Gate Media / B.O.B. Filmhouse

TANAU’R LLOER Opra Avanti / OPRA Cymru / Severn Screen / S4C

45


NEWYDDION A MATERION CYFOES NEWS AND CURRENT AFFAIRS

CYMRU AR GYFFURIAU ITV Cymru Wales / S4C

FODEN: O BRIFATHRO I BEDOFFEIL Darlun / S4C

THE HOSPICE – CARING TO THE END ITV Cymru Wales

MAXINE HUGHES – CANSER: AR BA GOST? Jet TV / S4C

47


Sky would like to congratulate all the nominees and winners of the 2026 BAFTA Cymru Awards Hoffai Sky longyfarch holl enwebeion ac enillwyr Gwobrau BAFTA Cymru 2026

NOMINEES Writer | Claire Oakley Performance: Actor | Jonathan Pryce Photography & Lighting: Fiction | Adam Scarth


FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO: FFUGLEN PHOTOGRAPHY AND LIGHTING: FICTION

ADAM SCARTH Under Salt Marsh Little Door Productions / Sky Atlantic

LAURIE ROSE Madfabulous Mad as Birds Films

MATT FLANNERY Havoc Severn Screen / One More One / XYZ Films / Netflix

RICHARD STODDARD The Guest Quay Street Productions / BBC One

49


rondo.cymru

yetitelevision.com Llongyfarchiadau i enwebeion BAFTA Cymru Congratulations to this year’s nominees

RICHARD BURTON

WILD GENIUS


CYFLWYNYDD PRESENTER

HUW STEPHENS Other Voices: Cardigan 2025 with Huw Stephens Triongl / South Wind Blows / Mwldan / BBC Two Wales

MARI GRUG Mari Grug: Un Dydd Ar Y Tro Tinopolis / Captain Jac / S4C

SIAN ELERI Keep the World Away – Finding Gwen John Kailash Films Ltd / BBC Two Wales

51


FFILM FER SHORT FILM

52

BARCUD ITV Cymru / S4C

FLOCK Coup the Duke

GOFOD YMENNYDD | BRAIN SPACE Severn Screen

LOVE ME, HOLD ME, ALWAYS Black Lab Films


RHAGLEN DDOGFEN SENGL SINGLE DOCUMENTARY

BOOM TOWN: HOW MERTHYR MADE THE WORLD Little Bird Films / BBC One Wales

KEEP THE WORLD AWAY – FINDING GWEN JOHN Kailash Films Ltd / BBC Two Wales

RICHARD BURTON: WILD GENIUS Yeti Television / Bright Yellow Films / BBC One Wales

Y CRWYDRYN Docshed / S4C

53


Llongyfarchiadau i holl enwebeion ac enillwyr Gwobrau BAFTA Cymru! Congratulations to all BAFTA Cymru Awards nominees and winners!

Event production | Broadcast Facilities

www.shockwavedigital.co.uk


SAIN SOUND

SOUND TEAM Havoc Severn Screen / One More One / XYZ Films / Netflix 55

SOUND TEAM Madfabulous Mad as Birds Films

SOUND TEAM The Man in My Basement Protagonist Pictures / Good Gate Media / B.O.B. Filmhouse


DRAMA DELEDU TELEVISION DRAMA

THE GUEST Quay Street Productions / BBC One

56

STAD Cwmni Da / Triongl / S4C

Y GOLAU: DŴR Triongl / Long Story TV / S4C


AWDUR WRITER

CIRON GRUFFYDD Bariau Rondo Media / S4C

CLAIRE OAKLEY Under Salt Marsh Little Door Productions / Sky Atlantic

LISA BAKER Madfabulous Mad as Birds Films

MATTHEW BARRY The Guest Quay Street Productions / BBC One

57


ER COF AM

Mae BAFTA Cymru yn anrhydeddu’r cyfraniad gwerthfawr at ddiwydiannau sgrin Cymru a wnaed gan yr unigolion hynny a fu farw yn ystod y 12 mis diwethaf. Ewch i: bafta.org/in-memory-of/ BAFTA Cymru honours the esteemed contribution to the Welsh screen industries by those individuals who have sadly died in the last 12 months. Visit: bafta.org/in-memory-of/ Aled Gray Edwards Peiriannydd Sain Sound Engineer

58

Alun Gibbard Darlledwr Broadcaster Annabel Schofield Actores Actress David Jackson OBE Cyfarwyddwr Artistig Artistic Director


Raymond Llewellyn Actor

Eilir Llewelyn Jones Peiriannydd Golwg Vision Engineer

Richie Stevens Cyfarwyddwr Goleuo Lighting Director

Glyn Lewis Cyhoeddwr Announcer

Robin Evans Cynhyrchydd Producer

Huw Williams Awdur Comedi Comedy Writer

Sara Ogwen Williams Cyflwynydd, Cynhyrchydd Presenter, Producer

June Wyndham Davies Cynhyrchydd, Cyfarwyddwr Producer, Director Kim Holland Awdur Comedi Comedy Writer Laurie Webb Actor Owain Rhys Davies Actor Peter Gill OBE Actor, Cyfarwyddwr Actor, Director

Sulwyn Thomas Newyddiadurwr Journalist Tony Adams Actor Trevor Fishlock Newyddiadurwr, Darlledwr Journalist, Broadcaster

IN MEMORIAM

Desmond Barrit Actor

59


Y RHEITHGORAU

Actor Kezia Burrows* Annes Elwy Glenn Gaunt Hannah Marie Williams Jade Croot Laura Scrivano Laurie Kynaston Matthew Aubrey Sule Rimi William Beck

60

Actores Actress Gwawr Lloyd* Di Botcher Emily Barber Ian Puleston-Davies Julia Spencer Lauren Morais Lily Beau Louisa Palmer Sharon King

*Cadeirydd | Chair

Rhaglen Blant Children’s Programme Sioned Wyn* Bedwyr ab Ion Thomas Branwen Davies Catrin Rowlands Elin Haf Davies Janet Aethwy Llinos Mai Lowri Jones Sioned Roberts


Sioned Wyn* Craig Withycombe Gwion Hallam Gwion Owain Hannah Lowes Jacci Parry Kathryn Williams Matthew Tune

Golygu Editing Paul Osbaldeston* Alys Wilcox Charlotte Baker Erline O’Donovan-Clarke

THE JURIES

Cyfarwyddwr: Ffeithiol Director: Factual

Ian Durham Jon Rennie Meredith Leece Nikki McChristie Rachel Meyrick

Nick Leader Steffan Griffiths Cyfarwyddwr: Ffuglen Director: Fiction David P Davis* Anne Beresford Bethan Evans Catherine Linstrum Lisa Palfrey Mat McHale Peter Hoar Russell Owen Sam Ferguson

61


Rhaglen Adloniant Entertainment Programme Jenny Thompson* Bennett Arron

Sorelle Neil*

Carys Dodd

Ada Stachura

Colleen Rowlands Ramsey

Adam Partridge

Dream Orraya

David Banner

Henry Widdicombe

Edward Evers-Swindell

Mandy Watkins

Iwan Williams

Sara Williams

Joshua Trigg

Sarah Breese 62

Ffilm Nodwedd / Deledu Feature / Television Film

Cyfres Ffeithiol Factual Series Pete Rogers* Androo Gwynn Ffion Humphries Gwenllian Hughes Hamish Summers Hollie Abbott Jade George Lewis Megan Roberts Siobhan Logue Sion Llwyd

Amy Morgan


Newyddion a Materion Cyfoes News and Current Affairs Lee Walters* Dot Davies Elis Owen Emily Price Ffion Connick James Williams Justin Lewis

Cyflwynydd Presenter Stifyn Parri* Adrian Jones Cati Rhys Heledd Cynwal Lucy Owen Meilir Rhys Williams Molly Stephens Tudur Owen

Sian Lloyd Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen Photography and Lighting: Fiction Ifty Khan* Ashley Barron Bryan Gavigan Eira Wyn Jones Michael Paleodimos Nathalie Pitters Stuart Biddlecombe Tom Doran Vicky Morton

63


Ffilm Fer Short Film

Sain Sound

Gav Murphy*

Llinos Wynne*

Aled Owen

Anna Sulley

Aliyah Harfoot

Graeme Willetts

James Button

Helen Dickson

Josh Hicks

Kath Pollard

Josie Connor

Matthew Cox

Rhys Marc Jones

Sarah Elias

Simon Ryninks

Steffan Pringle

Tania Amsel Yassa Khan

64

Rhaglen Ddogfen Sengl Single Documentary Lee Walters* Cath Tudor Charlotte Greenstein Florence Browne Francesca Barbieri Huw Thomas Joanna Wright Owen Davies Rik Hall Vicky Matthews


Drama Deledu Television Drama Stifyn Parri* Angharad Lee Catrin Defis Dean Fagan Jenna Robbins Mabli Gwynne Mog McIntyre Philip Trethowan Rebecca Roughan Awdur Writer Nicko Vaughan* Catherine Tregenna Gina Lyons Hanna Jarman Owen Richards Rachel Dax Rebecca Jade Hammond Steve Doherty Tasha Dhanraj Vanessa Frances-Georgianna

65


PRIF BARTNERIAID PRINCIPAL PARTNERS Rheoli Cyfoeth Swyddogol Official Wealth Management Cerbyd Swyddogol Official Vehicle

PARTNERIAID GWOBRAU SWYDDOGOL OFFICIAL AWARDS PARTNERS Harddwch Swyddogol Official Beauty

66

Diodydd Meddal Swyddogol Official Soft Drink Gwin Swyddogol Official Wine Champagne Swyddogol Official Champagne Craffwyr Swyddogol Official Scrutineers Rhwydwaith Swyddogol Official Network Dŵr Swyddogol Official Water


BAFTA CYMRU

PARTNER BLYNYDDOL ANNUAL PARTNER

CEFNOGWYR BLYNYDDOL ANNUAL SUPPORTERS 67

ARIANWYR CRAIDD CORE FUNDERS


DIOLCHIADAU

MAE BAFTA CYMRU YN DYMUNO DIOLCH BAFTA CYMRU WISHES TO THANK I’r darlledwyr, i’r cwmnïau cynhyrchu ac i’r gweithwyr llawrydd am eu cymorth amhrisiadwy The broadcasters, production companies and freelancers for their invaluable assistance Cyflwynydd | Host Owain Wyn Evans Perfformiwr | Performer Bronwen Lewis

68

Sgript | Script Gareth Gwynn Cuebox Dave Marson ICC Wales Shockwave Digital Spectrum Displays SR Productions Services Working Word


Ein holl hysbysebwyr All our advertisers Ein holl aelodau rheithgor All our jury members Ein gwesteion arbennig a’n darllenwyr cyhoeddiadau All our special guests and citation readers Dyluniad Tlws | Trophy Design Toby Petersen Yn seiliedig ar ddyluniad gan Mitzi Cunliffe Based on a design by Mitzi Cunliffe Cyllidwyr Craidd BAFTA Cymru BAFTA Cymru Core Funders BBC Cymru Wales Channel 4 S4C Holl staff BAFTA All BAFTA staff

ACKNOWLEDGEMENTS

Ein holl noddwyr a phartneriaid All our sponsors and partners

69


PWYLLGOR BAFTA CYMRU BAFTA CYMRU COMMITTEE

70

Lee Walters* David P Davis Gavin Murphy Gwawr Lloyd Ifty Khan Jenny Thompson Kezia Burrows Llinos Wynne Nicko Vaughan Paul Osbaldeston Pete Rogers Sara Sugarman Sioned Wyn Sorelle Neil Stifyn Parri

*Cadeirydd | Chair


Argraffydd Printer Taylor Brothers

Gwaith Celf Allweddol Key Artwork Nayumi Suyama and Sami Moodie

Mae BAFTA Cymru yn defnyddio Fedrigoni Arena Smooth, gan gefnogi rhagoriaeth mewn print. Argraffwyd ar Arena Smooth Extra White 350gsm (clawr) a 140gsm (testun). Wedi’I gyflenwi gan Fedrigoni.

Dylunio Design hollieamelia.studio Hysbysebion Advertising Rhiannon Jones Ellie Mason Emma Price

BAFTA Cymru chooses Fedrigoni Arena Smooth, supporting excellence in print. Printed on Arena Smooth Extra White 350gsm (cover) and 140gsm (text). Supplied by Fedrigoni. Mae effaith carbon y papur hwn wedi’I fesur a’I gydbwyso drwy’r World Land Trust, elusen ecolegol. The carbon impact of this paper has been measured and balanced through the World Land Trust, an ecological charity.

Rhif tystysgrif Certificate no.: CBP 2240

NODIADAU’R SIOE DIOLCHIADAU SHOW NOTES CREDITS

Golygydd Argraffu Print Editor Toby Weidmann

71


Mae’r papurau a ddefnyddiwyd ar gyfer llyfryn eleni wedi’u hardystio gan Forest Stewardship Council®, ac mae 100% yn ailgylchadwy. The papers used for this year’s show notes are Forest Stewardship Council® certified, and are 100% recyclable.

Cyhoeddwyd gan Published by BAFTA 195 Piccadilly London W1J 9LN Tel: +44 (0)20 7734 0022 reception@bafta.org bafta.org Portreadau gweithredol Executive portraits Alex Sedgmond (Lee Walters) Kate Green (Hilary Rosen)

72

Er y gwnaed pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y wybodaeth a gynhwysir yn y cyhoeddiad hwn, ni all y Cyhoeddwyr dderbyn atebolrwydd am wallau neu hepgoriadau. No chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn heb ganiatâd ysgrifenedig BAFTA. Although every effort has been made to ensure the accuracy of the information contained in this publication, the Publishers cannot accept liability for errors or omissions. No part of this publication may be reproduced without the written permission of BAFTA. © BAFTA 2026


THE LION LOVES CINEMA

OFFICIAL VEHICLE PARTNER TO BAFTA


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
BAFTA Cymru Awards 2026 Show Notes by BAFTA - Issuu