2 minute read

Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau

Mae Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau: cynllun gweithredu ar gyfer Cymru 2015-2020, wedi gweddnewid profiadau dysgu disgyblion ledled Cymru ers 2015. Drwy wneud y celfyddydau a chreadigrwydd yn ganolog i addysg, mae’r rhaglen arloesol hon wedi cynorthwyo ysgolion i ddatblygu ymagweddau newydd at gynllunio’r cwricwlwm. Mae hefyd wedi cynorthwyo athrawon i ymchwilio i ymagweddau arloesol at addysgu ac wedi cynorthwyo disgyblion i dyfu fel dysgwyr creadigol annibynnol sy’n fwy ymgysylltiedig, yn fwy hyderus ac yn cyflawni mwy. Ym mis Chwefror 2020, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, roedd Cyngor Celfyddydau Cymru’n falch i gyhoeddi ail gam i’r rhaglen. Yn yr ail gam hwn roeddem yn canolbwyntio ar barhau i gynorthwyo ysgolion ar y daith at ddatblygu a chyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Mae’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol wedi parhau i fod yn ganolog i gyflawni’r rhaglen, gan ddarparu cyfleoedd i fwy o ysgolion, disgyblion ac athrawon brofi’r ymagwedd weddnewidiol hon at ddysgu ac addysgu. Mae’r cam hwn wedi’i fwriadu i: • gynorthwyo mwy o ysgolion i ddatblygu ymagweddau creadigol at ddysgu ac addysgu, gan adeiladu ar wybodaeth ac arbenigedd yr ysgolion sydd eisoes yn cymryd rhan yn y Cynllun Ysgolion Creadigol

Arweiniol

• darparu cyfleoedd Dysgu Proffesiynol Parhaus i athrawon ac artistiaid

• cynorthwyo ysgolion i ymchwilio i ymagweddau creadigol at ddatblygu a chynllunio’r cwricwlwm

• cynorthwyo â’r gwaith o ddatblygu sgiliau creadigol ein dysgwyr

• parhau i ehangu cyfleoedd i ddysgwyr gael profiadau celfyddydol a diwylliannol o ansawdd da drwy gynllun Ewch i Weld

Gwaith allweddol yn 2021/22

• 330 o ysgolion wedi ymgysylltu ag ail gam y rhaglen • Mwy na 20,500 o ddysgwyr wedi ymgysylltu â gweithgareddau

Dysgu Creadigol • Mwy na 450 o athrawon wedi ymgysylltu â’r rhaglen • Mwy na 500 o weithwyr creadigol proffesiynol wedi ymgysylltu â’r rhaglen • Cymerodd 34 o ysgolion rhan mewn fersiwn ar-lein o’r Cynllun

Ysgolion Creadigol Arweiniol yn ystod y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud • Dyfarnwyd 58 o grantiau Ewch i Weld ers ail-agor y cynllun ym mis

Hydref 2021, er budd mwy na 4,500 o ddysgwyr • 42 o grantiau Ewch i Greu wedi cynorthwyo mwy na 2,000 o ddysgwyr • 133 o grantiau’r Gronfa Adferiad Dysgu Creadigol wedi cynorthwyo mwy na 6,000 o ddysgwyr i ddychwelyd i’r ysgol • 85 o ysgolion yn cymryd rhan yn ail flwyddyn/ym mlwyddyn 2 eu prosiectau Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol a lansiwyd ym mis

Medi 2020

• 19 o ysgolion uwchradd wedi cymryd rhan yng nghynllun Cynnig

Gwell i Ysgolion Uwchradd er mwyn eu cynorthwyo i archwilio, datblygu a gwreiddio ymhellach eu dealltwriaeth o ddysgu creadigol ar y cyd yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad ac archwilio sut i gynllunio a darparu’r cwricwlwm wrth ymbaratoi at y Cwricwlwm i Gymru. • Mae 4 ysgol, mwy na 1,200 o ddysgwyr a 22 o ymarferwyr creadigol wedi cymryd rhan ym mhrosiect Cynefin, yn archwilio amrywiaeth yng Nghymru, yn y gorffennol ac yn y presennol • ynghyd â’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

Cymru, buom yn gweithio/gweithiasom gyda chohort o 10 uwch arweinydd o ledled Cymru • mwy na 800 o athrawon ac ymarferwyr creadigol wedi mynychu sesiynau hyfforddiant Dysgu Creadigol