Skip to main content

Canllaw brentisiaethau i gyfloqwyr

Page 1

| 1

Canllaw i brentisiaethau ar gyfer cyflogwyr acttraining.org.uk


| 2

| 3

Amdanom ni

Rhowch hwb i’ch busnes gyda phrentisiaethau Gall eich busnes ffynnu gyda’r sgiliau cywir yn y bobl iawn. Mae prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith yn rhoi profiad ymarferol i’ch gweithwyr tra’n ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol - gan sicrhau llwyddiant eich tîm a’ch busnes. Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut mae prentisiaethau’n gweithio, y cymorth sydd ar gael, a sut y gallwn eich helpu i adeiladu tîm medrus, sy’n barod at y dyfodol.

Cynnwys 3 4 5 6 8 10

Amdanom ni Manteision i’ch busnes Sut mae prentisiaethau yn gweithio? Llwybrau rydyn ni’n eu cynnig Cyllid a chymorth i gyflogwyr Sut i fwrw arni gyda phrentisiaethau

Ers 1988 mae ACT wedi tyfu i fod yn ddarparwr hyfforddiant mwyaf Cymru ac yn aelod balch o Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro (CCAF). Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i wella bywydau drwy ddysgu gan ddarparu prentisiaethau, lleoliadau Twf Swyddi Cymru+, a rhaglenni hyfforddi ar draws 30 o wahanol sectorau. Yn 2025, gweithiodd y sefydliad gyda mwy na 5,000 o ddysgwyr a 1,000 o gyflogwyr er mwyn uwchsgilio Cymru. Rydym yn cynnig dysgu seiliedig ar waith wedi’i ariannu’n llawn mewn amrywiaeth o bynciau o gyfryngau cymdeithasol a rheoli prosiectau i weinyddu busnes a dadansoddeg data. Ceir hefyd gyfleoedd i ddod â thalent newydd i’ch sefydliad drwy gyflogi prentis neu gyda’n lleoliadau Twf Swyddi Cymru+.

Mae cannoedd o gymwysterau i ddewis ohonynt ar draws nifer o sectorau, os oes gennych chi angen hyfforddiant, mae gennym ni’r datrysiad. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda chyflogwyr ar draws sectorau ledled Cymru, gan gynnwys y Bathdy Brenhinol, Howdens, Zurich Insurance, United Welsh, Tata Steel UK, nifer o fyrddau iechyd y GIG, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, a Phrifysgol Caerdydd.


| 4

| 5

Manteision i’ch busnes

Mae prentisiaethau’n fwy na hyfforddiant yn unig - maent yn fuddsoddiad yn eich busnes. Maent yn darparu gweithwyr brwd, medrus tra’n lleihau costau recriwtio a hyfforddi. Trwy gyfuno dysgu yn y gwaith â chymwysterau ffurfiol, mae aelodau staff yn ennill y sgiliau sydd eu hangen ar eich sefydliad. Gall prentisiaethau gefnogi eich busnes i: Gwella cynhyrchiant

Mae staff yn datblygu’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar eich busnes, gan helpu timau i weithio’n fwy effeithlon a chyflawni canlyniadau gwell. Mynd i’r afael â bylchau sgiliau

Mae rhaglenni hyfforddi wedi’u teilwra i’ch sefydliad, gan sicrhau bod gweithwyr yn ennill y sgiliau cywir i ddiwallu anghenion busnes presennol ac i’r dyfodol. Ymgysylltu ac ysgogi eich gweithlu

Mae prentisiaid yn cael eu cymell i ddysgu a gwneud cynnydd, yn aml yn dangos teyrngarwch cryf i gyflogwyr sy’n buddsoddi yn eu datblygiad. Ffordd gost-effeithiol o dyfu talent

Mae prentisiaethau’n darparu ffordd gost-effeithiol o uwchsgilio a datblygu eich gweithwyr presennol, gan leihau’r angen am recriwtio allanol tra’n cryfhau sgiliau a gallu o fewn y sefydliad.

Sut mae prentisiaethau yn gweithio? Mae prentisiaid yn dysgu yn y gwaith, gan ennill profiad ymarferol ochr yn ochr â chymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol. Maent yn derbyn o leiaf yr Isafswm Cyflog Prentis Cenedlaethol ac fel arfer maent yn cwblhau eu rhaglen dros 12–18 mis, gydag ymweliadau misol gan aseswr i gynnig arweiniad ac olrhain cynnydd. Uwchsgilio staff presennol

Nid ar gyfer newydd ddyfodiaid yn unig y mae prentisiaethau - maent hefyd yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau eich gweithwyr presennol. Gall ACT eich helpu i ddarganfod cyfleoedd hyfforddi sy’n cyd-fynd ag anghenion datblygu eich tîm, gan sicrhau bod eich staff yn ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol wrth barhau i gyfrannu at eich busnes. Cyflogi prentis newydd

Gall ACT eich helpu i ddod o hyd i’r prentisiaid cywir ar gyfer eich busnes. Rydym yn darparu cymorth gyda hysbysebu swyddi gwag (gan gynnwys ar y Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag), sgrinio ceisiadau, a pharatoi rhestr fer o ymgeiswyr. Gellir cynnig y cymorth recriwtio hwn heb gost ychwanegol i rolau prentisiaeth cymwys, gan eich helpu i gyflogi staff newydd medrus i mewn i’ch sefydliad.


| 6

| 7

Rydym yn darparu prentisiaethau ar draws amrywiaeth o anghenion busnes. P’un a ydych chi eisiau uwchsgilio staff presennol neu recriwtio talent newydd, gallwn baru’r rhaglen gywir i’ch nodau busnes. Llwybrau rydym yn eu cynnig: Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes Gan gynnwys Cymorth TG, Dadansoddeg Data, Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr a Seiberddiogelwch Sgiliau Gwyrdd ar gyfer Busnes Gan gynnwys Rheoli Ynni a Charbon a Chynaliadwyedd yn y Gweithle Rheolaeth Rhaglenni achrededig ILM gan gynnwys Rheoli Prosiectau a Chyngor ac Arweiniad

£

Gwasanaethau Ariannol Gan gynnwys AAT, Yswiriant a Bancio Manwerthu Adnoddau Dynol Achrededig CIPD Marchnata Gan gynnwys Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes, Dylunydd Cynnwys Digidol a CIM Marchnata Digidol

Mae’r holl raglenni yn seiliedig ar waith ac wedi’u hariannu’n llawn ar gyfer gweithwyr sy’n gymwys, gan roi cyfle i’ch busnes ddatblygu sgiliau gwerthfawr heb aflonyddwch. P’un a ydych chi’n recriwtio prentis newydd neu’n uwchsgilio gweithiwr presennol, mae’r rhaglenni wedi’u cynllunio i wneud y mwyaf o ddysgu, hybu cynhyrchiant, a chefnogi twf hirdymor.

Gweithrediadau Caffael a Chyflenwi Gan gynnwys CIPS mewn Gweithrediadau Caffael a Rheoliad a Chydymffurfiaeth Gwasanaethau Busnes Gan gynnwys Canolfan Gyswllt a Gwasanaethau Cwsmer Cefnogi Addysgu mewn Ysgolion Gan gynnwys Ymarferwr Dysgu Digidol a Dysgu a Datblygiad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc Gofal Plant, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Gan gynnwys Gwaith Chwarae Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd Clinigol Gan gynnwys Therapïau Trin Gwallt a Gwaith Barbwr


| 8

Cyllid a chymorth i gyflogwyr

Yn ACT mae gennym brofiad helaeth o helpu busnesau yng Nghymru i gael gafael ar gyllid ar gyfer prentisiaethau a chymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol. Mae llawer o’n cleientiaid yn elwa o raglenni wedi’u hariannu’n llawn, sy’n caniatáu i fusnesau ddatblygu staff heb fawr o gost neu am ddim. Gallwn eich helpu i wneud y gorau o gyllid Llywodraeth Cymru a’ch cefnogi i gael mynediad at gyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael. Gallwn hefyd gynghori ynglŷn ag oblygiadau Ardoll Prentisiaethau’r DU, gan eich cynorthwyo i ddeall beth sy’n berthnasol yng Nghymru a sut i wneud y mwyaf o’r manteision i’ch busnes.

| 9

Beth yw cyfrifoldebau’r cyflogwr?

Fel cyflogwr prentisiaeth, rydych chi’n gyfrifol am dalu cyflog y prentis ac unrhyw hyfforddiant ychwanegol sydd ei angen ar gyfer y rôl. Dylech hefyd ddarparu cymorth ac arweiniad parhaus er mwyn helpu’r prentis i ffynnu, datblygu eu sgiliau, a llwyddo yn eu rôl.

Pam buddsoddi mewn prentisiaethau?

Mae prentisiaethau’n darparu cymwysterau ymarferol, a gydnabyddir yn genedlaethol wrth adeiladu gweithlu medrus, llawn cymhelliant. Maent hefyd yn helpu i leihau costau - er enghraifft, gallai BBaCh Cymru arbed oddeutu 13.8% o gyflog blynyddol crynswth prentis ifanc yn sgil eithriadau Yswiriant Gwladol ar gyfer prentisiaid o dan 25 oed.

Pwy all gael mynediad at gyllid prentisiaethau?

Mae cyllid prentisiaethau ar gael i fusnesau o bob maint ac ym mhob sector yng Nghymru. Mae’r rhaglenni’n cael eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru ac maent wedi’u cynllunio i fod yn hyblyg, gan leihau tarfu tra’n gwneud y mwyaf o ddatblygu sgiliau.

Pa gymorth mae ACT yn ei ddarparu?

Rydym yn tywys cyflogwyr trwy bob cam o’r broses brentisiaeth. Mae hyn yn cynnwys deall eich anghenion sgiliau, dewis y rhaglen gywir, uwchsgilio staff presennol, neu ddod â thalent newydd i mewn. Mae ein haseswyr yn cwrdd â phrentisiaid a’u rheolwyr llinell yn rheolaidd i olrhain cynnydd a sicrhau bod dysgu yn aros ar y trywydd iawn.

Mae’r cyngor wedi cydweithio ag ACT fel ein prif bartner prentisiaethau yn y gweithle ers dros wyth mlynedd bellach. Mae’r arlwy o gymwysterau a gynigir yn cyd-fynd â’r rolau amrywiol ar draws y cyngor cyfan – o gasglu sbwriel, i ofalu, i gyfrifon, ac iechyd a diogelwch. Bydd wastad cymhwyster priodol sy’n alinio â rôl rhywun. Jane Westwood, Partner Busnes Adnoddau Dynol yng Nghyngor Dinas Casnewydd


| 10

Sut i fwrw arni gyda phrentisiaethau

Mae dechrau’n syml. Bydd ein tîm yn eich tywys bob cam o’r ffordd: 1

Trafod eich anghenion hyfforddi a’ch amcanion

2

Nodi llwybrau prentisiaeth addas

3

Cefnogi eich staff presennol i ennill sgiliau newydd neu recriwtio prentisiaid newydd

4

Adolygu anghenion eich busnes i helpu’ch sefydliad i fanteisio i’r eithaf ar yr hyfforddiant a chyllid sydd ar gael

Cysylltwch i darganfod mwy: 029 2046 4727

info@acttraining.org.uk acttraining.org.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Canllaw brentisiaethau i gyfloqwyr by ACT - Issuu