Skip to main content

British Sign Language CYM Full Course Outline

Page 1

Cymwysterau Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Trosolwg


Cymwysterau Iaith Arwyddion Prydain Cydnabuwyd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gan y llywodraeth fel iaith yn ei rhinwedd ei hun ym mis Mawrth 2003. Mae'r BDA (British Deaf Association) yn awgrymu mai BSL yw iaith gyntaf neu ddewis iaith dros 87,000 o bobl fyddar yn y DU. Iaith ystumiau gweledol yw BSL, gyda'i hegwyddorion a gramadeg ei hun, sy'n hollol wahanol i strwythur gramadegol yr iaith Saesneg. Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Mae Iaith Arwyddion Prydain yn ffordd weledol o gyfathrebu gan ddefnyddio ystumiau, mynegiant yr wyneb ac iaith y corff gyda'i geirfa, gramadeg a chystrawen ei hun. Nid yw'n ddibynnol ar, nac yn gysylltiedig â'r Saesneg ac fe'i defnyddir yn bennaf gan bobl sy'n fyddar neu i gefnogi'r rhai sydd â cholled clyw. Yn debyg i iaith lafar, mae amrywiadau rhanbarthol. Er enghraifft, mae gan yr arwydd ar gyfer 'gwyliau' oddeutu 10 -12 o arwyddion amrywiol yn dibynnu ar ba ran o'r DU rydych chi ynddi. Mae Iaith Arwyddion Prydain yn iaith real, lawn a byw sy'n rhan o dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ac sy’n un o ieithoedd brodorol y DU. Mae hefyd yn borth i ddysgu, llwybr tuag at ymdeimlad o hunaniaeth Fyddar, a'r ffordd y mae pobl Fyddar yn goroesi ac yn ffynnu mewn byd sy’n clywed (Ffynhonnell: BDA, 2014). Mae ALS yn darparu hyfforddiant ar lefelau 1, 2 a 3

Ar gyfer pwy mae'r cymwysterau hyn? Mae'r cymwysterau hyn ar gyfer pobl sy'n dymuno cyfathrebu'n effeithiol â phobl Fyddar.

Buddion i unigolion: • •

1

Datblygu hyder wrth gyfathrebu â'r gymuned Fyddar Dyfarniad BSL a gydnabyddir yn genedlaethol gan ddefnyddio cymwysterau achrededig corff dyfarnu Signature

acttraining.org.uk


Buddion i gyflogwyr: • •

Rhoi'r sgiliau a'r hyder i weithwyr gyfathrebu â phobl Fyddar Meithrin diwylliant cynhwysol o fewn y sefydliad

Sut mae'r dysgu'n digwydd? Mae'r cwrs yn fodel cymysg sy'n seiliedig ar addysgu wyneb yn wyneb, hunanastudio ac ymarfer gan ddefnyddio'r adnoddau ar-lein fel gwaith cartref. Mae'n ofynnol bod pob cyfranogwr ar y cwrs Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn gallu ymrwymo i bresenoldeb o 95%

Dyfarniad Iaith Arwyddion Prydain Lefel 1 Mae Dyfarniad Lefel 1 mewn Iaith Arwyddion Prydain wedi'i gynllunio i addysgu dysgwyr i gyfathrebu â phobl Fyddar trwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar ystod o bynciau sy'n cynnwys defnydd syml, bob dydd. Byddant yn ennill sgiliau sylfaenol a hyder wrth gynhyrchu a derbyn BSL.

Mae Dyfarniad Lefel 1 mewn Iaith Arwyddion Prydain yn addas ar gyfer pobl sydd: • • • • •

eisiau dysgu sgiliau iaith sylfaenol er mwyn cynnal sgyrsiau syml gyda phobl Fyddar eisiau dysgu sgiliau iaith newydd fel rhan o raglen astudio eisiau symud ymlaen i astudio a/neu gyflogaeth fwy datblygedig gan ddefnyddio BSL yn y dyfodol am astudio ar gyfer datblygiad personol yn rhieni, teulu, ffrindiau neu gydweithwyr i bobl Fyddar.

Cynnwys Mae pob modiwl isod yn gofyn am bresenoldeb yn yr 20 sesiwn addysgu wyneb yn wyneb a chyfanswm o 10 awr o hunan-astudio ac ymarfer. Modiwl 1: Cyflwyniad i BSL Modiwl 2: BSL ar gyfer Sgwrsio Modiwl 3: Cyfathrebu am fywyd bob dydd drwy gyfrwng BSL Cynhelir asesiad ar gyfer Modiwl 1 yn wythnos 12, fe asesir y 2 fodiwl arall ar ôl cwblhau'r hyfforddiant, ac asesir dysgwyr ar yr amcanion canlynol:

2

acttraining.org.uk


• • • •

Deall a defnyddio ystod gyfyngedig o eiriau a brawddegau syml trwy gyfrwng BSL Cymryd rhan mewn sgyrsiau syml, bob dydd trwy gyfrwng BSL Rhoi a dilyn cyfarwyddiadau syml gan ddefnyddio BSL Rhoi a dilyn datganiadau neu ddisgrifiadau cyfarwydd syml trwy gyfrwng BSL

Gan: • •

Arddangos Sgiliau Ymarferol – a gynhelir gan y tiwtor A chynnal Sgwrs trwy gyfrwng BSL – a gynhelir gan asesydd allanol am uchafswm o 5 munud

Dull Cyflwyno Cyfanswm o 20 sesiwn wyneb yn wyneb wythnosol o 3 awr yr un.

Tystysgrif Iaith Arwyddion Prydain Lefel 2 Mae’r cymhwyster Iaith Arwyddion Prydain wedi ei ddylunio i alluogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau i gyfathrebu â phobl Fyddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd bob dydd. Bydd y cymhwyster yn galluogi dysgwyr i gymryd rhan mewn sgyrsiau mwy amrywiol nag ar Lefel 1. Bydd y cwrs yn datblygu cyfathrebu BSL ar gyfer profiadau bywyd go iawn, arferol a dyddiol. Bydd dysgwyr yn gallu deall y rhan fwyaf o gyfathrebiadau rheolaidd a meddu ar ddigon o ddealltwriaeth ramadegol i ymdopi â rhywfaint o gyfathrebu anarferol. Bydd dysgwyr yn dysgu nifer o amrywiadau rhanbarthol iaith arwyddion.

Mae’r cymhwyster Tystysgrif Iaith Arwyddion Prydain lefel 2 yn addas ar gyfer pobl sydd: • • • • •

yn dymuno cyflawni sgiliau iaith ar lefel ganolradd i wella cyfathrebu â phobl Fyddar yn fyddar ac eisiau ennill cymhwyster yn eu hiaith frodorol yn deulu, ffrindiau a chydweithwyr pobl Fyddar eisiau symud ymlaen o astudio Lefel 1 BSL, ac sydd efallai yn awyddus i symud ymlaen i lefelau astudio BSL uwch yn ddiweddarach yn astudio ar gyfer datblygiad personol.

Cynnwys Mae 3 modiwl, yn cael eu cyflwyno dros 30 sesiwn o 3 awr wyneb yn wyneb gyda 15 awr ychwanegol o hunan-astudio ac ymarfer ar gyfer pob modiwl.

3

acttraining.org.uk


Mae’r cymhwyster wedi ei seilio ar 3 thema bob dydd: Sgwrs Bob Dydd, Bwyta ac Yfed, Gwario a Siopa Modiwl 1: Sgiliau Derbyn BSL Modiwl 2: Sgiliau Cynhyrchu BSL Modiwl 3: Sgiliau Sgwrsio BSL

Asesiad Ceir asesiad ar ôl cwblhau'r addysgu sy’n cynnwys: • •

Arholiad amlddewis Cyflwyniad o 3-5 munud a sgwrs a gynhelir gydag asesydd annibynnol

Dull cyflwyno Mynychu 30 sesiwn wyneb yn wyneb wythnosol o 3 awr.

Tystysgrif Iaith Arwyddion Prydain Lefel 3 Mae'r cymhwyster Tystysgrif Lefel 3 mewn Iaith Arwyddion Prydain yn diwallu anghenion dysgu'r rhai sydd eisoes â chymhwysedd BSL ar Lefel 2 ac sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth. Rhaid i ddysgwyr llwyddiannus allu dangos cymhwysedd ar Lefel 3 Safonau Iaith Galwedigaethol y DU (Instructus 2012). Mae hyn yn golygu y bydd y dysgwr yn gallu deall a defnyddio BSL amrywiol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd gwaith a chymdeithasol. Bydd y dysgwr yn datblygu gwybodaeth uwch am strwythur a swyddogaeth Iaith Arwyddion Prydain a dealltwriaeth o'r Gymuned Fyddar a Diwylliant Byddar.

Gofynion Hanfodol Er mwyn cael eu cofrestru ar gyfer cwrs ac asesiad sy'n arwain at y cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr allu dangos cymhwysedd BSL ar lefel 2.

Mae'r lefel hon yn addas ar gyfer pob sy’n: Gweithio'n rheolaidd gyda phobl Fyddar (er enghraifft gweithwyr cymdeithasol, athrawon y Byddar, cyfathrebwyr a gweithwyr gwirfoddol, gweithwyr o fewn sefydliadau Byddar, ysgolion, ac ati), y rhai sy’n awyddus i weithio yn y cyd-

4

acttraining.org.uk


destunau hyn, a'r rhai sy'n dymuno ehangu eu gwybodaeth a'u sgiliau Iaith Arwyddion Prydain.

Cynnwys Un modiwl sy'n cynnwys y sgiliau sydd eu hangen er mwyn: Cyd-destun naturiol defnyddio BSL mewn rhyngweithiadau dwy ffordd (trafodaethau, sgyrsiau, trafodaethau, ac ati), yn ogystal â rhyngweithio unffordd (monologau, cyflwyniadau ac yn y blaen). Felly, disgwylir i'r ymgeisydd ddangos sgiliau derbyn a chynhyrchu mewn rhyngweithiadau dwyffordd ac unffordd. Mae Signature yn argymell mai’r dull gorau o addysgu ac asesu'r cymhwyster hwn yw drwy ddatblygu sgiliau derbyn a chynhyrchu gyda'I gilydd. Mae'r modiwl yn seiliedig ar 43 sesiwn addysgu wyneb yn wyneb wythnosol gyda thiwtor a 120 awr ychwanegol o hunan-astudio ac ymarfer

Asesiad Asesiad

Dull asesu

Hyd

Cyflwyniad Ffurfiol

Allanol

8 -10 munud

Sgwrs Anffurfiol

Allanol

10 - 12 munud

Sgiliau Derbyn

Allanol

Tua 1 awr

Dull cyflwyno Cyfanswm o 43 sesiwn wythnosol o 3 awr.

5

acttraining.org.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
British Sign Language CYM Full Course Outline by ACT - Issuu