Skip to main content

Adroddiad Bord Gron

Page 1

Hyb Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) Digwyddiadau Bord Gron Themâu Trafod


Cyflwyniad Mae'r Hyb Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) wedi bod yn gweithio i gynyddu ymwybyddiaeth o ymchwil i ACE yng Nghymru ers 2017. Yn ystod yr amser hwnnw, rydym wedi gwrando ar yr heriau a chyfleoedd niferus mae'r ymchwil yn eu codi i bobl, yn enwedig y rheiny sy'n gweithio o fewn gwasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector. Mae'r adborth a dderbynnir gennym yn datgan yn glir bod pobl yn deall ac, yn gyffredinol, bod pobl yn awyddus i wybod yr hyn y gallant ei wneud i wneud gwahaniaeth. Mae rhai themâu cryf a rhwystrau posib i greu cenedl sy'n wybodus am ACE wedi dod i'r amlwg drwy'r adborth hwn, ac roedd yr Hyb yn awyddus i ymchwilio ymhellach i'r themâu hyn ar y cyd â chynrychiolwyr dethol o amrywiaeth o sectorau a sefydliadau yng Nghymru drwy gyfres o Ddigwyddiadau Bord Gron. Diben yr ymarfer hwn oedd symud ymlaen o ymwybyddiaeth drwy ddysgu gan ymatebion cadarnhaol ac effeithiol, a thynnu oddi ar wybodaeth sectorau penodol a lleol i ddylanwadu ar yr agenda wrth fynd rhagddo. Cynhaliwyd grwpiau ffocws gyda rhieni a chyda phobl ifanc cyn y trafodaethau born gron i sicrhau ein bod yn ystyried eu barn hefyd. Cynhaliwyd y Digwyddiadau Born Gron ar: 10 Ebrill 2019 - Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam 9 Mai 2019 - Freedom Church, Caerdydd 23 Mai 2019 – New Life Church, Llandrindod Roedd ffurf y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniad o setiau o sleidiau Negeseuon Craidd yr Hyb Cymorth ACE, ynghyd â chanfyddiadau o grwpiau ffocws rhieni a phobl ifanc. Gwahoddwyd adfyrfyrdodau ar yr adborth gan y cynadleddwyr, ac unrhyw ddiweddariadau ar ACE yn eu gwaith, eu maes polisi ayyb. Gofynnwyd y cwestiynau canlynol: Beth arall y mae angen ei wneud i alluogi ymwybyddiaeth o ACE, eu hatal a'u lliniaru? Sut gallwn gefnogi ein gilydd orau i gyflawni ymwybyddiaeth ACE, eu hatal a'u lliniaru?

Cyflwynwyd themâu allweddol a'u trafod ymhellach mewn sesiwn ddilynol ar gyfer arweinyddion a phrif ddylanwadwyr ar 17eg Mehefin, Coleg Caerdydd a'r Fro, Caerdydd.


Themâu Trafod

Geiriau allweddol ac iaith gyffredin Mae'r ymchwil i ACE ac iaith ACE wedi darparu iaith (gyffredin) a rennir ar draws amrywiaeth o wasanaethau/sectorau cyhoeddus. Mae ymwybyddiaeth gyffredin o effaith ACE gydol oes yn bwysig, yn ogystal â dealltwriaeth a rennir o gydnerthedd. Mae peth wrthwynebiad wedi bod. Nid yw ACE yn newydd – mae rhai gweithwyr proffesiynol/ymarferwyr yn teimlo eu bod wedi'u tanseilio gan y "brandio" newydd. Mae rhai gweithwyr proffesiynol wedi bod yn gweithio ym maes ACE ers blynyddoedd ac yn croesawu'r iaith (gyffredin) newydd gan ei bod hi'n darparu cyfle i gydlynu ymagwedd/systemau amlasiantaeth ac yn cynnig cyfleoedd i'r rhain fod yn gynaliadwy. I eraill, mae agenda "newydd" wedi bod yn frawychus. Mae angen inni ddatblygu ac ehangu gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud a chynnig sicrwydd o iechyd cyhoeddus na fydd ACE yn cael eu disodli gan "y syniad newydd sbon nesaf." Mae ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig sail wyddonol gadarn ynghylch yr hyn yr oedd llawer o weithwyr proffesiynol eisoes yn ei wybod. A yw hyn wedi arwain at feirniadaeth o'r gwasanaethau maent yn eu darparu? Diffygion ynghylch ehangder, cyrraedd a thrylwyredd y gwasanaethau hyn. Mae'r ffocws pennaf wedi bod ar yr ACE, y profiadau negyddol ac effaith y rhain, yn hytrach nag ar y datrysiadau. Dechrau taith hir yw bod yn ymwybodol o ACE a fydd yn tywys ein cymdeithas tuag at ffordd o gydfyw, bod yn llai beirniadol a chyd-ddeall ein gilydd yn well. Trauma/ACE yw'r cyd-destun, ond beth yw'r pwynt os nad gwella yw'r ffocws? Felly, mae angen iaith sy'n seiliedig yn fwy ar gryfderau. Yn ogystal â chydnerthedd, caredigrwydd, trugaredd, dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth, geiriau allweddol yr agenda ACE yw perthnasoedd, cysylltiadau, lles, dyheadau, hunan-reoli ac ymdopi. Mae lles staff a chymorth iddynt yr un mor bwysig i les a chymorth a gynigir/a ddarperir i ddefnyddwyr gwasanaeth/cleientiaid/cleifion. Nid yw'r agenda ACE yn ymwneud â phlant yn unig - mae angen ymagwedd gydol oes. Mae defnyddio iaith glir yn bwysig, e.e. pan fyddwn yn siarad am 'cymorth cynnar', a ydym ni'n golygu yn gynnar ym mywyd neu yn gynnar o ran y broblem ei hun?


Sgrinio/archwilio ACE Mae'r iaith gyffredin a ddarperir gan yr agenda ACE yn grymuso pobl i fod yn "chwilfrydig", gan ddarparu fframwaith ar gyfer holi: "Beth sydd wedi digwydd i chi? Sut mae hyn wedi effeithio arnoch chi? Beth sy'n bwysig i chi?”. I lawer o bobl, dyma'r tro cyntaf y gofynnwyd iddynt ac y gwrandawyd arnynt. Wedi dweud hynny, mae'n bwysig mai'r bobl iawn sy'n gofyn. Pwy sydd â pherthynas bresennol? Nhw ddylai fod yn gofyn y cwestiynau. Pan fydd perthynas, gyda'r amser angenrheidiol a'r caniatâd. Caniatâd i ddarparu'r cymorth priodol. Pan na fydd caniatâd, dylid herio hyn. Mae angen newid diwylliant mewn sefydliadau. Wrth fod yn chwilfrydig a gofyn am ACE, mae angen inni ystyried y risg o ail-drawmateiddio pobl gan weithwyr proffesiynol gwahanol, gwasanaethau gwahanol yn gofyn yr un cwestiynau am eu profiadau eto ac eto. Mae ymagwedd systemau gyfannol yn ofynnol; sut gall y system ganolbwyntio'n fwy ar yr unigolyn, rhaid ystyried ‘teithiau cwsmeriaid’ gydag isadeiledd i gefnogi gweithio traws-asiantaethau (e.e. rhannu gwybodaeth). Mae'n bwysig cofio nad oes angen inni ofyn am ACE er mwyn gweithio mewn ffordd sy'n drawma-wybodus. Gallwn fod yn drugarog ac yn chwilfrydig a hwyluso'r broses o ddatblygu cydnerthedd cyffredinol heb ofyn am ACE yn benodol. Mae risg o fod yn rhy broffesiynol wrth archwilio ACE/sgrinio am ACE. Nid oes angen diagnosis ar unigolion bob tro er mwyn cyrchu cymorth. Rhaid i weithwyr proffesiynol/gwasanaethau ystyried yr hyn y mae angen iddynt ei wybod am unigolyn er mwyn diwallu ei anghenion. Pa gymorth/darpariaeth sydd eisiau ar yr unigolyn? Sut gall gwasanaethau/systemau ganolbwyntio'n fwy ar yr unigolyn (sef "beth sy'n bwysig i'r unigolyn?") Ceir hefyd beryg ein bod yn gorsymleiddio ACE drwy eu gwneud yn ymarfer ticio blychau er mwyn 'patholegoleiddio' unigolyn. Mae peryg o orsymleiddio'r trawma a brofwyd. Ni fydd profiad un unigolyn yr un peth â phrofiad unigolyn arall – mae angen ystyried cyd-destun, adfyd ehangach, adnoddau cydnerthedd. Lle bo cyfle priodol ar gyfer archwilio/sgrinio ACE, mae angen inni fod yn benodol am ddulliau a phryd, ble a sut y dylid eu defnyddio. Mae angen rhagor o dystiolaeth i gefnogi'r broses o roi sgrinio/archwilio ACE ar waith yn ymarferol. Er y gall fod mantais i sgrinio ACE oherwydd y gall gynnig proses casglu gwybodaeth i lywio'r cymorth sy'n cael ei gynnig/darparu, ni ddylai sgrinio ar gyfer ACE greu trothwyon ar gyfer gwasanaethau.


Cyd-destun Yn aml, mae ACE a ffurfiau eraill o drawma ac adfyd yn elfennau sylfaenol i bobl ddiamddiffyn sy'n ymddangos problemau cymdeithasol, economaidd ac iechyd. Mae angen inni ddeall yn well yr achosion sylfaenol o ymddygiad, symptomau a phroblemau sy'n dod i'r amlwg yn y gwasanaethau. Nid yr ACE, y profiad, neu'r "peth" sy'n bwysig yn unig, ond hefyd y cyddestun (personol a strwythurol). Mae angen bod gweithwyr proffesiynol ym maes ACE yn gallu ehangu ar drylwyredd eu gwaith er mwyn cynnwys adfyd cymdeithasol ac economaidd. Gall ymchwil/iaith ACE orsymleiddio yr hyn sydd wedi digwydd i rywun. Mae angen gwrando ar stori gyfan unigolyn a'i hystyried. Nid yw'r rhestr o ACE (naw neu un ar ddeg) yn ystyried pob ffurf ar drawma ac adfyd. Mae angen naratif mwy cymhleth arnom a fydd yn cynnwys adfyd ehangach ac yn ystyried cyd-destun. Hefyd, mae angen i'r cyd-destun polisi adlewyrchu hyn. Mae angen gweithio trawsbleidiol arnom sy'n mynd y tu hwnt i drawma yn ystod plentyndod ac sy'n ystyried y cyd-destun, sef adfyd cymdeithasol ac economaidd ac anghydraddoldebau strwythurol. Mae peryg y bydd gwaith ACE yn canolbwyntio ar yr unigolyn pan mai problem strwythurol yw hi mewn gwirionedd. Ceir peryg y caiff teuluoedd eu labeli'n deuluoedd ag ACE heb ystyried y cyd-destun o adfyd ehangach. (Gwarthnod dwbl tlodi ac ACE. Gwarthnod "cymorth am ddim", gwarthnod gofyn am gymorth, ofn o dderbyn "ymyrraeth". Gall tlodi leihau'r mynediad at adnoddau cydnerthedd. Ar y llaw arall, gellir ystyried ardaloedd sy'n fwy cefnog fel rhai â llai o gydlyniant cymunedol.) Mae darpariaeth gymunedol a chydnerthedd cymunedol yn berthnasol i liniaru anawsterau sy'n gysylltiedig ag ACE. Mae'r ffocws yn symud o'r teulu ac i'r gymuned. Mae cydgysylltedd cymunedol yn hollbwysig. Mae angen ymwybyddiaeth fwy ymhlith y cyhoedd, ac mae angen i bawb fod yn ymwybodol o ACE a deall ymddygiad fel dulliau o oroesi ac ymdopi. Mae angen inni sicrhau y caiff prosesau brandio a chyfathrebu â'r cyhoedd eu gwneud yn graff drwy ddefnyddio ymgyrch sy'n seiliedig ar gryfderau hynny yw, nerth perthnasoedd ac ymagweddau perthynol. Mae risg nad yw gwasanaethau'n barod. Nid yw strwythurau a systemau ar waith i gefnogi ymateb trawma-wybodus. Yn ogystal mae trothwyon yn broblem. Mae angen uwchsgilio'r rhai hynny sy'n gallu cau'r bylchau.


Cefnogi'r gweithlu Mae hyfforddiant Ymwybyddiaeth o ACE ledled Cymru yn arwain at ymwybyddiaeth well ac yn sbarduno ffyrdd gwahanol o feddwl, gan helpu i herio tybiaethau, deall gwraidd yr ymddygiad a'r symptomau, deall yr unigolyn a chael sgyrsiau gwell. Er bod llawer o hyfforddiant cynyddu ymwybyddiaeth a hyfforddi yn cael ei gynnal, mae angen rhagor o hyfforddiant. Mae ACE yn berthnasol i bawb ac mae angen i bawb fod yn ymwybodol o ACE. Mae risg bod hyfforddiant Ymwybyddiaeth ACE yn darparu dealltwriaeth arwynebol ond ei fod yn diystyru rhai agweddau, e.e. cyd-destun, adnoddau cydnerthedd a'r "ac felly?". Gyda llawer o hyfforddiant yn cael ei gynnig ledled Cymru (gan ddarparwyr amrywiol, gan gynnwys ymgynghorwyr preifat), beth arall gallwn ei wneud i sicrhau ansawdd yr hyfforddiant a/neu wasanaethau sy'n hawlio eu bod yn drawma-wybodus? A oes rôl cymeradwyo i'r Hyb? Mae lles a chymorth i staff yn rhan hollbwysig o fod yn drawma-wybodus. Mae cefnogi'r gweithlu i fod yn fwy trawma-wybodus yn ehangach nag Ymwybyddiaeth ACE. Dylid arfogi'r gweithlu i ddatblygu ei ymarfer, cynnal sgyrsiau da a bod yn berthynol o ran ei ymagwedd. Wrth inni symud o waith cyffredinol i waith sy'n fwy penodol o ran ei dargedu, mae angen inni hwyluso'r broses o raeadru arbenigedd ar draws holl haenau'r gweithlu a chynnig cefnogaeth er mwyn newid ymarfer, e.e. drwy oruchwylio proffesiynol. Mae angen inni feddwl ymhellach nac hyfforddiant. Mae angen bod lles staff yn rhan bwysig o ymagwedd sy'n wybodus am ACE. Mae ymgynghoriad gweithlu, goruchwylio, ymarfer adfyfyriol, sgyrsiau adfyfyriol, gwasanaethau cefnogi lles staff, goruchwylio grŵp, cefnogaeth gan gymheiriaid, e.e. rhwydweithio adfyfyrio a thrugarog i weithwyr, oll yn elfennau pwysig o ran datblygu sgiliau, hyfforddi a chefnogi. Nid yw Ymwybyddiaeth ACE ar ei ben ei hun yn ddigonol, ac mae angen inni sicrhau nad ydym yn rhuthro wrth ddefnyddio'r hyn sy'n ymddangos i weithio mewn un maes/sector/sefydliad a'i ddefnyddio ym meysydd eraill? Nid yw un dull yn briodol ym mhobman. Mae angen ymagwedd sector penodol/a arweinir gan sector, wedi'i seilio ar dystiolaeth. Beth yw bod yn drawma-wybodus yn eich sector/sefydliad/gwasanaeth chi? Wrth i'r sail dystiolaeth ynghylch ffyrdd effeithiol o atal ACE, mynd i'r afael â nhw a'u lliniaru ehangu, ac wrth gymryd camau gweithredu, mae angen cyfleoedd arnom i ddysgu ar y cyd.


Nid yw ACE yn ymyriad arall gyda chyllid cysylltiedig er mwyn ei gyflawni, felly sut gallwn weithio'n wahanol? Mae bwriad ac angerdd cyffredinol gan staff rheng flaen i weithio mewn ffordd sy'n drawma-wybodus ond mae angen cefnogaeth gan y sefydliad. Mae angen ymagwedd sefydliadol ymrwymiad gan yr arweinyddiaeth, arweinyddiaeth ddewr, diwylliant o fewn y sefydliad,

Caniatâd i weithio mewn ffordd wahanol/caniatâd i weithio mewn ffordd fwy perthynol, polisïau a gweithdrefnau sy'n seiliedig ar drawma a chefnogaeth i'r gweithlu. Mae angen ystyried y diffyg cysylltiad posib rhwng gweithio mewn modd sy'n drawma-wybodus a'r sail ar gyfer mesur gwasanaethau cyhoeddus. Er enghraifft, trugaredd a gorfodi; cefnogi pobl wrth hefyd ystyried gofynion diogelwch a strwythurol y mae'n rhaid i ni, fel gweithwyr proffesiynol, gydymffurfio â nhw. Mae angen i'r tirlun polisi gefnogi sefydliadau yn yr ymagwedd hon, yn ogystal â hwyluso'r newid yn y systemau sy'n ofynnol.

Y Tîm Rheoli Mae angen ymrwymiad o'r haenau uchaf (arweinwyr a chomisiynwyr). Heb hyn, nid oes llawer o ddiben o gael pobl sy'n ymwybodol o ACE. Mae angen ymrwymiad cadarn. Mae gwasanaethau'n defnyddio’r disgwrs iawn, ond maent yn parhau i gael eu llywio gan amcanion. Er y gall fod yn heriol mewn rhai lleoliadau a sectorau (e.e. i gydbwyso risg/gorfodi ag ymagweddau trugarog neu wedi'u harwain gan amcanion yn erbyn perthynol), mae angen bod newid yn yr iaith a'r ymagwedd, o iaith sy'n cosbi i iaith sy'n drugarog ac ymagweddau perthynol. Ni all gweithlu newid ei arferion oni bai bod newid o ran polisi a strwythur.

Newid systemau Mae Astudiaeth ACE Cymru wedi darparu dala lleol ar gyfer materion sydd yn faterion traws-agenda o bwys y mae angen mynd i'r afael â nhw, er nad ydynt yn faterion newydd. Yng Nghymru, mae enghreifftiau o sefydliadau sy'n cydweithio, mewn ffordd gydweithredol, tuag at atal ACE, mynd i'r afael â nhw a'u lliniaru. Mae angen mwy o waith, ar lefelau lleol a chenedlaethol, er mwyn cydlynu a chymryd camau ar y cyd. Mae ystyried prosesau comisiynu a sianeli cyfathrebu rhwng asiantaethau yn bwysig er mwyn datblygu newid trawsffurfiol.


Ar hyn o bryd, mae'r system yn lliniaru yn erbyn y newid system sy'n angenrheidiol. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio'n annibynnol ar sail ar strategaeth, polisi a'r ffordd y caiff gwasanaethau eu comisiynu. Mae angen i'r agenda ACE herio'r ymagwedd cynllunio polisi seilo hwn.

Mae angen rhagor o ddarpariaeth gyffredinol a gwasanaethau atal sylfaenol. Pe tai buddsoddiad gwell gennym mewn rhaglenni â thargedau cyffredinol, ym maes ataliaeth, dylai fod yn bosib inni atal problemau rhag gwaethygu. Mae angen inni herio cynllunio polisi seilo ac ystyried effeithiolrwydd a gwerth. Os ydym yn cydlynu ar draws gwasanaethau gwahanol, ni fydd hyn yn golygu mwy o arian ond, yn hytrach, buddsoddiad gwell. Er enghraifft, pan fydd gwasanaethau'n gwneud yr un pethau dwywaith (nid yn unig ym maes ACE), mae angen yr hyblygrwydd a'r caniatâd i gyfuno cyllid a llywodraethu i (atal "adeiladau ymerodraeth"/"amddiffynoldeb") a chefnogi gweithio aml-asiantaeth. Dylai dealltwriaeth lywodraethol drawsbleidiol o ACE, cefnogaeth ac arweinyddiaeth allu cefnogi'r ymagwedd angenrheidiol. Yn ogystal â rôl Llywodraeth Cymru, mae angen i'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a'r Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus arwain yr her (gan gydnabod bod strwythur y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a'r Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus yn dal i fod yn newydd a bod datblygu perthnasoedd ar draws partneriaethau yn ofynnol er mwyn galluogi cymryd risg).

Cydnerthedd Mae angen dealltwriaeth well ac a rennir o gydnerthedd. Caiff y term 'cydnerthedd' ei ddefnyddio'r rhy eang (o ran strategaeth). Mae angen gwneud rhagor o waith i ddisgrifio ac egluro'r hyn y mae 'cydnerthedd' yn ei ddefnyddio a sut mae'n berthnasol i realiti cyd-destunau gwahanol. Er enghraifft: Cydnerthedd pobl ifanc pan fydd pryderon diogelu. Nid yw'r atebion o reidrwydd i'w canfod mewn gwasanaethau ond yn y gymuned. Dylai fod mwy o ffocws ar gydnerthedd cymunedol. Mae angen dealltwriaeth well arnom o asedau cymunedol a dealltwriaeth a rennir o'r dystiolaeth mewn perthynas â lliniaru ACE. Nid yw'n ddigon dweud wrth bobl fod angen iddynt fod yn fwy gwydn. Ni ellir rhoi bai ar bobl am ACE. Nid yw diffyg cydnerthedd yn wendid.


Newid diwylliant Ar hyn o bryd, mae diffyg cysylltiad rhwng y canlyniadau y mae eu hangen i atal ACE, mynd i'r afael â nhw a'u lliniaru a'r canlyniadau sy'n sail i fesur gwasanaethau. Canlyniadau "ysgafnach" yw'r pethau allweddol y dylem ni fod yn canolbwyntio arnynt.

Mae angen inni gael caniatâd i wneud pethau'n wahanol a bod yn (fwy) wybodus am drawma/ACE a pheidio â chael ein mygu gan bolisïau a phrosesau. Mae anghenion y newid diwylliant yn cynnwys ymateb ar lefel gymunedol i ymddygiad/symptomau a disgwyliadau gwasanaethau er mwyn ymateb i ymddygiad/symptomau. Mae hefyd angen inni ystyried y rhai hynny 'heb ddiagnosis' neu'r rhai hynny nad ydynt yn bodloni trothwyon (gan gynnwys ystyried y cysylltiadau ag ymddygiad sy'n niweidiol i iechyd). Mae ymateb cymunedol yn hollbwysig. Fel arall, mae risg o redeg ar ôl diagnosis, sef "Dylanwad ACE" posib. Mae angen inni feddwl am sut mae gwasanaethau'n mynd ati i "ymdrin" ag atal, lliniaru ac ymateb i ACE. Mae angen inni feddwl yn ehangach, h.y. ymagweddau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar y teulu cyfan. Mewn gwirionedd, nid oes ots beth yw natur yr ymyriad. Y berthynas sy'n bwysig. Os nad yw'r berthynas yn bodoli, ni all yr ymyriad weithio. Rhaid ystyried trothwyon ar gyfer gwasanaethau a sut y dyrennir gwasanaethau yn aml gan eithrio'r rhai hynny nad ydym yn gallu diwallu eu hanghenion (neu ymdopi â nhw). Sut mae agweddau staff yn parhau hyn – a yw eithrio pobl yn help staff i deimlo'n well (neu'n waeth) na'r ffordd y mae'r ffordd o ymdrin â nhw yn gwneud iddynt deimlo. Mae angen i hyfforddiant/ymagweddau datblygu sefydliadol/anghenion llunio gwasanaethau ystyried ymlyniad ac ACE a'r hyn mae'n ei olygu i staff. Beth sy'n rhwystr i'r newid diwylliant angenrheidiol hwn? Iaith strategol – mae angen i fod yn drawma-wybodus gynnwys iaith megis meithrin, magu plant, cydnerthedd. Mae angen ymrwymiad strategol a chaniatâd i weithio'n wahanol. Newid diwylliant a dewrder (ar hyn o bryd, mae ofn am beidio â gwybod yr hyn i'w wneud, y "ac felly?" Mae hyn yn wahanol i ddiogelu, lle mae eglurder ynghylch gwybod yr hyn a dylid ei wneud. Beth yw'r goblygiadau ynghylch gorfodi o'i gymharu â thrugaredd a'r angen i fodloni targedau/sail mesur gwasanaethau?


Beth arall mae angen ei wneud? Mae angen inni fod yn fwy dewr a gweithio gyda systemau cyfan i gyflawni newid trawsffurfiol

Datblygu'r naratif Wrth gydnabod bod y drafodaeth yn fwy cymhleth nac ACE, mae angen naratif mwy soffistigedig (ACE, ACE gydol oes, profiadau cymunedol andwyol, tlodi ac adfyd ehangach). Mae angen inni ddisgrifio'r 'ac felly?' drwy fframwaith gwerthoedd sy'n seiliedig ar asedau.

Cymorth i'r gweithlu Parhau i gynyddu ymwybyddiaeth am ACE ar draws gweithluoedd y sector cyhoeddus a'r sector gwirfoddol - mae ACE yn berthnasol i bawb. Datblygu Ymwybyddiaeth ACE ymhellach a symud tuag at bobl, polisïau ac arferion sy'n wybodus am ACE.

Hyfforddiant a chymorth ychwanegol i'r gweithlu, a fydd yn cynnwys y canlynol:   

 

Cyfleoedd dysgu anffurfiol gyda chydweithwyr (gyda chymorth diwylliannol y sefydliad) Perthnasoedd a chysylltiadau rhwng swyddi proffesiynol/ymarferwyr (cyd-ddealltwriaeth, dysgu ar y cyd, uwchsgilio a chefnogaeth) Cysylltiadau rhwng arbenigwyr/swyddi proffesiynol ac ymarferwyr a fydd yn darparu cyfleoedd uwchsgilio a chymorth, e.e. goruchwylio clinigol a mentora. Ymagwedd datblygu gweithlu, e.e. ystyried rolau cyrff a rheoleiddwyr proffesiynol i bennu cyfeiriad. Iaith ACE yw iaith yr ymchwil. Caniatâd y gweithlu i ddefnyddio ei fersiwn o'r iaith. Hyfforddiant i hwyluso cyfieithu'r iaith hon i Gymraeg/Saesneg sy'n hawdd eu deall/yr iaith fwyaf perthnasol i'r sector/gwasanaeth/sefydliad.


Sicrhau ansawdd yr adnoddau/pecynnau hyfforddi ayyb sydd ar gael. Gwerthusiad o'r hyn sy'n gweithio orau, i bwy ac ym mha gyd-destun? Newid diwylliant sefydliadol - Caniatâd i ddod â hunaniaeth lawn i'r gwaith ac ymarfer drwy lens ACE. Rhannu arfer da drwy Rwydwaith ACE. Mae angen camau lliniaru ar gyfer straen empathig ac ystyried materion datblygu'r gweithlu (toriadau i adnoddau, cyfyngiadau rheoleiddio/gwthio a thynnu – mae angen ymagwedd sy'n arwain o'r brig yn sefydliadol ond ar lefel genedlaethol hefyd)

Arweinyddiaeth ddewrach Mae angen un "llais ACE" yng Nghymru, sef ymagwedd gyson (ar draws Llywodraeth Cymru, yr Hyb ACE, y Rhaglen EAT) ar gyfer gwasanaethau yng Nghymru, boed wedi'u datganoli ai peidio. Mae angen i negeseuon a hyfforddiant fod yn debyg, ond gyda'r hyblygrwydd i'w gwneud mewn ffordd wahanol.   

Cydbartneriaeth, craffu a llywodraethu PI a thargedau o'u cymharu â charedigrwydd/canlyniadau ysgafnach Mae'r hyn rydym yn dymuno ei newid yn ganlyniad o garedigrwydd a thrugaredd – sut gellir mesur hyn?

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol fel cyfrwng ar gyfer cyflawni gweithgareddau atal a lliniaru ACE. Cynnwys camau atal, lliniaru ac ymateb i ACE ym mhob Cynllun Lles Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Nid blaenoriaeth/nod lefel uchel (sy'n amwys o bosib) yn unig, ond camau penodol/dulliau cyflwyno sydd wedi'u hystyried yn drylwyr ag ymagwedd meddwl am systemau. Mae hefyd angen inni ddefnyddio lens ACE i ystyried gweithgareddau eraill yn y cynlluniau, gan sicrhau bod penderfynyddion iechyd a phenderfynyddion cymdeithasol iechyd meddwl wedi'u gwreiddio'n llawn yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Yn ogystal, mae angen ymagwedd gonsortiwm arnom ledled Cymru er mwyn ystyried sut gallwn gefnogi ein gilydd yn well, yn lleol ac yn genedlaethol. O ran sut y caiff gwasanaethau eu comisiynu a'r fframweithiau monitro sydd ar waith, mae angen ystyried sut i fesur y canlyniadau perthynol angenrheidiol. Yn enwedig yn y sector statudol, efallai na fydd yr ofn o beidio â dilyn gweithdrefnau, cyrraedd targedau ayyb yn arwain at yr ymateb perthynol y mae ei angen.


Arweinyddiaeth drawsbleidiol. Arweiniad gan Lywodraeth Cymru – sut rydym yn cyflwyno lens ACE fel lliain drwy wasanaethau cymorth arbenigol (Iechyd Meddwl, Cyffuriau ac Alcohol, VAWDASV) ar lefel leol. Buddsoddi er mwyn arbed – buddsoddi mewn adnoddau er mwyn arbed yn y tymor hir. Mae angen ymrwymiad tymor hir sy'n pontio cenedlaethau. Mae angen cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn (y gwasanaethau cymdeithasol a lles).

Cymunedau sy'n ymwybodol o ACE Hyfforddiant ymwybyddiaeth ACE i gymunedau – ond sut? Mae'n bosib nad oes un ffordd sy'n briodol i bawb. Mae angen cynnig dwyieithog fel rhan o hyn. Sut gallwn dynnu ar agendau cysylltiedig? E.e. Urdd, Ffermwyr Ifanc. Hyfforddiant i nyrsys ysgol a gweithwyr proffesiynol a sefydliadau "angor" eraill yn y gymuned sydd angen bod yn ymwybodol o/gwybodus am ACE, megis canolfannau hamdden a chyfleusterau chwaraeon. Gweithwyr cymuned, cysylltiadau cymunedol – ble dylem eu defnyddio? A yw'r rôl/ethos wedi diflannu? Ymgyrch cyfryngau cymdeithasol Angen cymryd risgiau wrth anfon negeseuon cyffredinol a bod yn fwy hyderus. Ystyried ymgyrchoedd eraill – ‘Amser i Newid’ – ar gyfer ysbrydolaeth. Newid systemau yng nghais y 3ydd sector (cronfa'r Loteri Genedlaethol) i gynnwys neges gyson gan LlC, yr Hyb a'r Rhaglen EAT. Cyfeirio a mynediad at wasanaethau cymorth drwy gysylltiadau cymunedol, rhagnodwyr cymdeithasol, llyw-wyr systemau.


Ymchwil Rhagor o ymchwil ar sgrinio ac archwilio ACE, gan gynnwys ystyried materion sy'n ymwneud ag isadeiledd y gwasanaethau sydd ar waith. Yn ogystal, mae angen datganiad sefyllfa ar sgrinio/archwilio ACE. Rhagor o dystiolaeth ar yr hyn sy'n gweithio, i bwy ac ym mha gyddestun. Ymarfer buddion cost. Dysgu o werthuso.

Sut gallwn gefnogi ein gilydd orau? Meddwl am systemau. Mae angen inni gydweithio'n gydweithredol er mwyn datblygu'r atebion. Chwilio am atebion yn y gymuned. Tir cyffredin. Diwylliant o feithrin amgylcheddau lle mae'r holl asiantaethau yn deall ei gilydd. Dod â gweithio seilo i ben. Mae angen inni fod yn gydlynus o ran y ffordd rydym yn gweithio a rhaid arwain hyn o'r brig ac o'r gwaelod. Er enghraifft, gweithio seilo yn genedlaethol (e.e. PHW/Rhaglen EAT, F1000D, Llywodraeth Cymru) sydd yna'n arwain at broblemau/materion/ymagweddau cul yn lleol neu heriau gyda phartneriaethau lleol.

Sicrhau bod gwasanaethau'n cyd-fynd â'i gilydd er mwyn osgoi aildrawmateiddio unigolion/teuluoedd drwy ofyn yr un cwestiynau iddynt dro ar ôl tro. Ymagwedd gydlynus drwy gydlynoldeb, e.e. rolau wedi'u diffinio'n glir. Bydd cydlynu gwasanaethau'n cefnogi cynnig trugarog lle ceir dewis, e.e. dewis ynghylch pa weithwyr proffesiynol y mae unigolion yn ymgysylltu â nhw a'r cymorth y gallant ei gyrchu. Dylai gwefan yr Hyb Cymorth ACE ddarparu mynediad at amrywiaeth o adnoddau. A oes posibilrwydd i gyflwyno'r wefan fesul sector? Rhwydwaith adfyfyrio a thrugaredd ar gyfer y gweithlu. Trafodaeth am y ffyrdd rydym yn cefnogi ein gilydd o fewn y gweithlu a rhannu cymorth staff ac ymagweddau lles a dulliau ar gyfer dod â'n holl bersonoliaeth i'r gwaith. Mae angen inni gadw lles staff wrth wraidd popeth a wnawn. A oes cyfle i fanteisio ar Gyfarwyddwyr Datblygu Sefydliadol ar gyfer yr holl Wasanaethau Cyhoeddus ac adrannau Lles Staff?


Llunio polisi a gwneud penderfyniadau drwy ymagwedd teulu cyfan/unigolyn cyflawn/ymagwedd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn/lens ACE.

Mae angen diogelwch a sicrwydd ar y gweithlu o ran cyllid ac ymrwymiad i waith ataliol. Mae angen bod y gweithlu yn teimlo ein bod yn ei werthfawrogi. Ymateb graddedig. Cymorth iawn ar yr amser iawn. Gwasanaethau cyffredinol, ymyrryd yn gynnar, wedi'u targedu. (Hunan-atgyfeirio. Nid yw hyn am gyfeirio. Mae'n cyfeirio at y berthynas lle gellir cyflwyno ymyriad.)


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Adroddiad Bord Gron by ACESupportHub - Issuu