Hyb Cymorth Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACE) Prosbectws Hyfforddiant ACE
Allwedd: Ymwybyddiaeth o ACE
ACE-Wybodus
ACE-Fedrus
ACE-Ddylanwadwr
Cyflwyniad Mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) yn brofiadau trawmatig sy’n digwydd yn ystod plentyndod ac maent yn cael eu cofio drwy gydol eu bywydau. Mae’r profiadau hyn yn amrywio o ddioddef cam-drin meddyliol, rhywiol a chorfforol i gael eu magu mewn cartref lle ceir cam-drin domestig, rhieni’n gwahanu’n elyniaethus neu salwch meddwl rhieni, cam-ddefnyddio alcohol neu gyffuriau neu garcharu.
Sefydlwyd Hyb Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) er mwyn helpu i fynd i’r afael ag ACE. Bydd yn helpu i greu amgylchedd ar gyfer newid a chefnogi unigolion, cymunedau a sefydliadau er mwyn helpu i greu cymdeithas sy’n ymwybodol o ACE. Y weledigaeth gyffredinol o Gymru yn arwain y byd yn y gwaith o atal, lleddfu a mynd i’r afael ag
Atal ACE rhag digwydd ym mywydau plant Cefnogi ymyriadau cynnar pan fydd plant yn profi ACE er mwyn lleihau eu heffeithiau Meithrin cadernid ymhlith oedolion sydd wedi profi ACE i’w hatal rhag cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall.
Un o nodau Hyb Cymorth ACE yw datblygu gwybodaeth a sgiliau ymhlith gweithwyr proffesiynol. Datblygwyd Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth ACE sy’n disgrifio’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar y gweithlu er mwyn bod yn wybodus am ACE, yn Fedrus gydag ACE ac yn Ddylanwadwyr ACE.
Gwybodus am ACE Mae pob gweithiwr â chyswllt uniongyrchol â phobl (gan gynnwys cydweithwyr, defnyddwyr gwasanaeth, cleientiaid, cleifion, aelodau’r cyhoedd) a allai fod wedi profi ACE yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn bod yn wybodus am ACE.
Medrus gydag ACE Mae gweithwyr rheng flaen sy’n cael cyswllt rheolaidd gyda phobl (darparwyr gwasanaethau/cefnogaeth i’r cyhoedd a allai fod wedi profi ACE) yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau i fod yn fedrus gydag ACE.
Egwyddorion ar gyfer datblygu a chynnal cymorth sefydliadol, diwylliannol a systemig sy’n galluogi pobl Wybodus a Medrus ffynnu a rhoi o’u gorau
Gwybodaeth a sgiliau cyffredinol sy’n sail i bopeth arall
Gwybodaeth a sgiliau cymhwysol
Mae pobl sy’n Wybodus am ACE yn deall beth yw ACE a’u heffaith ar draws
Mae pobl sy’n Fedrus gydag ACE yn Wybodus am ACE a hefyd wedi
Allwedd: Ymwybyddiaeth o ACE
ACE-Wybodus
ACE-Fedrus
Dylanwadu ar ACE Dylanwadwyr yw pob arweinydd, rheolwr a chomisiynydd strategol
Mae Dylanwadwyr ACE yn bobl â rôl arweinyddiaeth a/neu
ACE-Ddylanwadwr
cwrs bywyd. Maent yn deall sut i gyfathrebu’n effeithiol ac yn gwybod pryd i geisio cyngor a chymorth.
datblygu gwybodaeth a sgiliau manylach a chynhwysfawr am fod yn Wybodus am ACE. Gallant werthuso materion yn feirniadol a defnyddio sgiliau a gwybodaeth i gefnogi pobl.
strategol. Maent yn Wybodus am ACE, maent yn galluogi eraill i ddod yn Wybodus am ACE, ac yn Fedrus am ACE a sicrhau bod cefnogaeth briodol ar gael i’r gweithlu. Maent yn sicrhau dull sy’n Wybodus am ACE o reoli gwasanaethau a thimau. Yn bwysicaf oll, maent yn creu diwylliant sy’n cydnabod ACE fel rhywbeth sydd angen ymateb o safon.
Mae Prosbectws Hyfforddiant ACE yn disgrifio’r amrediad o becynnau hyfforddiant cyffredinol a’r rhai ar gyfer sectorau penodol sydd ar gael yng Nghymru. O fewn y prosbectws ei hun, mae gwybodaeth ar gael am:
Nodau hyfforddiant a chanlyniadau dysgu Y gynulleidfa darged Sut y gellir cael mynediad i’r hyfforddiant – dulliau cyflenwi (yn fewnol, hyfforddi’r hyfforddwr, cyrsiau agored)
Sut mae’r hyfforddiant yn cymharu â Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth ACE.
Allwedd: Ymwybyddiaeth o ACE
ACE-Wybodus
ACE-Fedrus
ACE-Ddylanwadwr
Cynnwys Hyfforddiant ar gyfer Sectorau Penodol Addysg
Ysgolion Cynradd o (Sesiwn 1) Hyfforddiant Ymwybyddiaeth ACE o (Sesiwn 2) Adnabod trawma, ymateb yn briodol, datblygu cadernid o (Sesiwn 3) Dull PATH at ddod yn Ysgol sy’n Wybodus am ACE
Ysgolion Uwchradd o (Sesiwn 1) Hyfforddiant Ymwybyddiaeth ACE o (Sesiwn 2) Adnabod trawma, ymateb yn briodol, datblygu cadernid o (Sesiwn 3) Dull PATH at ddod yn Ysgol sy’n Wybodus am ACE
Tai
Hyfforddiant Tai PATH (Atal, ACE, Gwybodus am Drawma, Digartrefedd) o Sylfaen o 3-diwrnod o Arweinwyr
Chwaraeon
Mae'n fwy na dim ond chwaraeon!
Gwaith Ieuenctid
Creu Gweithlu Ieuenctid sy’n Ymwybodol o ACE Creu Hyfforddi’r Hyfforddwr ar gyfer Gweithlu Ieuenctid sy’n Ymwybodol o ACE
Hyfforddiant aml-sector (Generig) Cyflwyniad i ACE (Pecyn E-ddysgu) Cyflwyniad ar Ymwybyddiaeth ACE Hyfforddiant Ymwybyddiaeth ACE ac Ymarfer sy’n Wybodus am ACE Hyfforddi’r Hyfforddwr Ymwybyddiaeth o ACE ac Ymarfer sy’n Wybodus am ACE
Allwedd: Ymwybyddiaeth o ACE
ACE-Wybodus
ACE-Fedrus
ACE-Ddylanwadwr
Hyfforddiant ar gyfer Sectorau Penodol
Sector: Addysg – Ysgolion Cynradd Teitl yr Hyfforddiant: (Sesiwn 1) Hyfforddiant Ymwybyddiaeth ACE Trosolwg Cyflwyniad 3 awr o hyd gyda nodiadau atodedig yr hyfforddwr sy’n codi ymwybyddiaeth o ACE a chanfyddiadau o astudiaeth Cymru. Gellir cyflwyno’r hyfforddiant hwn yn ystod sesiwn HMS hanner diwrnod ar gyfer pob aelod o staff. Pwy fydd yn elwa? Mae’r hyfforddiant yn berthnasol i unrhyw un sy’n gweithio mewn lleoliad ysgol. Canlyniadau dysgu Cyflwyniad i ACE, trawma cysylltiedig a’r effaith ar hyd cwrs bywyd Dealltwriaeth o’r ffordd y gall pob un ohonom ymateb i ACE Amlinelliad o’r rhaglen Argymhellir y dylid cwblhau’r offer paratoi ysgol cyn yr hyfforddiant. Mae hyfforddiant dilynol yn cynnwys: Ymarfer sy’n Wybodus am ACE – Adnabod trawma, ymateb yn briodol, datblygu cadernid a dull PATH o ddod yn Ysgol sy’n Wybodus am ACE. Dulliau cyflwyno Mae deunyddiau ar gael ar Hyb Dysgu Digidol ar gyfer Cymru Llywodraeth Cymru. Dylid defnyddio’r nodiadau i hyfforddwyr i’w cynorthwyo i gyflwyno’r hyfforddiant a sicrhau bod negeseuon allweddol yn cael eu cyflwyno. Gellir cyflwyno’r hyfforddiant hwn i bob aelod o staff yn ystod sesiwn HMS hanner diwrnod neu mewn sesiynau gyda’r hwyr os byddai hynny’n fwy addas i ysgolion. Mae’r hyfforddiant hwn yn ffurfio rhan o raglen 3 sesiwn. Mae Hyb Cymorth ACE yn argymell cyflwyno sesiwn 1 yn ystod tymor yr Hydref 2018 a sesiwn 2 yn ystod tymor y Gwanwyn 2019 gyda staff hyfforddedig sydd ag arbenigedd yn y maes hwn. Bydd nifer o hyfforddwyr ar gael o fis Medi 2018 i gynorthwyo ysgolion. Dylai ysgolion sydd wedi cwblhau sesiwn 1 a 2 ystyried, gyda’u gwasanaeth Seicoleg Addysg, y posibilrwydd o ddefnyddio eu hamser a glustnodwyd ar gyfer Seicoleg Addysg i hwyluso dull PATH er mwyn hwyluso ysgol gyfan i ymgorffori arfer sy’n Wybodus am ACE. I gael gwybodaeth bellach, cysylltwch ag: ACE@wales.nhs.uk
Allwedd: Ymwybyddiaeth o ACE
ACE-Wybodus
ACE-Fedrus
ACE-Ddylanwadwr
Hyfforddiant ar gyfer Sectorau Penodol
Sector: Addysg – Ysgolion Cynradd Teitl yr hyfforddiant: (Sesiwn 2) Adnabod trawma, ymateb yn briodol, datblygu cadernid Trosolwg Mae’r cyflwyniad 2 awr hwn yn ceisio gwella sgiliau cyfathrebu o fewn ysgolion a datblygu dealltwriaeth ysgolion o gadernid o fewn dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Pwy fydd yn elwa? Mae’r hyfforddiant yn berthnasol i unrhyw un sy’n gweithio mewn lleoliad ysgol. Canlyniadau dysgu Cynyddu hyder wrth ymateb i anghenion ACE unigolion; Datblygu a gwella sgiliau cyfathrebu ysgol o fewn ysgol sy’n Wybodus am ACE; Rhoi blaenoriaeth i’n llesiant ein hunain fel staff ysgol; Datblygu cadernid plant a phobl ifanc sy’n wynebu caledi. Amlinelliad o’r rhaglen Anogir yr ysgolion i adlewyrchu ar eu dulliau cyfathrebu presennol a sut y gallant feithrin amgylchedd meithringar ac empathetig i bob plentyn. Ar ôl cwblhau’r rhaglen, bydd ysgolion wedi datblygu eu gweledigaeth eu hunain o ysgol sy’n wybodus am ACE ac wedi nodi ffyrdd allweddol ymlaen. Mae’r hyfforddiant hwn yn ffurfio rhan o raglen 3 sesiwn. Mae Hyb Cymorth ACE yn argymell cyflwyno sesiwn 1 yn ystod tymor yr Hydref 2018 a sesiwn 2 yn ystod tymor y Gwanwyn 2019 gyda staff hyfforddedig sydd ag arbenigedd yn y maes hwn. Bydd nifer o hyfforddwyr ar gael o fis Medi 2018 i gynorthwyo ysgolion. Dylai ysgolion sydd wedi cwblhau sesiwn 1 a 2 ystyried, gyda’u gwasanaeth Seicoleg Addysg, y posibilrwydd o ddefnyddio eu hamser a glustnodwyd ar gyfer Seicoleg Addysg i hwyluso dull PATH er mwyn hwyluso ysgol gyfan i ymgorffori ymarfer sy’n Wybodus am ACE. I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag: ACE@wales.nhs.uk
Allwedd: Ymwybyddiaeth o ACE
ACE-Wybodus
ACE-Fedrus
ACE-Ddylanwadwr
Hyfforddiant ar gyfer Sectorau Penodol
Sector: Addysg – Ysgolion Cynradd Teitl yr hyfforddiant: (Sesiwn 3) dull PATH at ddod yn ysgol sy’n Wybodus am ACE Trosolwg Sesiwn hyfforddiant olaf ar gyfer yr ysgol gyfan, gan ddefnyddio dull PATH at ddod yn ysgol sy’n Wybodus am ACE. Mae’n sesiwn 2.5 awr sy’n cael ei chyflwyno gan 2 Seicolegydd Addysg. Pwy fydd yn elwa? Mae’r hyfforddiant yn berthnasol i unrhyw un sy’n gweithio mewn lleoliad ysgol. Canlyniadau dysgu Cynyddu hyder wrth ymateb i anghenion ACE unigolion; Datblygu’r dulliau a ddefnyddiwn gyda’n plant i ddatblygu ysgol sy’n Wybodus am ACE; Parhau i flaenoriaethu ein llesiant a’n cadernid ein hunain fel staff yr ysgol. Amlinelliad o’r rhaglen Yr ysgol i greu cynllun gweithredu ar ôl cwblhau’r 3 sesiwn. Gall hyn ffurfio rhan o’r Cynllun Gwella Ysgol ar gyfer llesiant. Gall cydlynwyr ysgolion iach gynorthwyo ysgolion i gyflawni’r nodau yn y cynllun. Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant, dylai ysgolion ystyried: Adnoddau i’w dilyn gyda chynlluniau gwersi awgrymedig ar gyfer Iechyd a Llesiant. Ymgorffori Ymarfer sy’n Wybodus am ACE trwy ethos yr ysgol gyfan. Parhau i ailymweld â’r Cynllun Gweithredu a gwerthuso’r systemau presennol. Dulliau cyflwyno Mae’r hyfforddiant hwn yn rhan o raglen 3 sesiwn. Mae Hyb Cymorth ACE yn argymell cyflwyno sesiwn 1 yn ystod tymor yr Hydref 2018 a sesiwn 2 yn ystod tymor y Gwanwyn 2019 gyda staff hyfforddedig sydd ag arbenigedd yn y maes hwn. Bydd nifer o hyfforddwyr ar gael o fis Medi 2018 i gynorthwyo ysgolion. Dylai ysgolion sydd wedi cwblhau sesiwn 1 a 2 ystyried, gyda’u gwasanaeth Seicoleg Addysg, y posibilrwydd o ddefnyddio eu hamser a glustnodwyd ar gyfer Seicoleg Addysg i hwyluso dull PATH er mwyn hwyluso ysgol gyfan i ymgorffori ymarfer sy’n Wybodus am ACE. I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag: ACE@wales.nhs.uk
Allwedd: Ymwybyddiaeth o ACE
ACE-Wybodus
ACE-Fedrus
ACE-Ddylanwadwr
Hyfforddiant ar gyfer Sectorau Penodol
Sector: Addysg – Ysgolion Uwchradd Teitl yr Hyfforddiant: (Sesiwn 1) Hyfforddiant Ymwybyddiaeth ACE Trosolwg Cyflwyniad 3 awr gyda nodiadau atodedig yr hyfforddwr, sy’n codi ymwybyddiaeth o ACE a’r canfyddiadau o astudiaeth Cymru. Pwy fydd yn elwa? Mae’r hyfforddiant yn berthnasol i unrhyw un sy’n gweithio mewn lleoliad ysgol. Canlyniadau dysgu Cyflwyniad i ACE, trawma cysylltiedig a’r effaith ar hyd cwrs bywyd Dealltwriaeth o’r ffordd y gall pob un ohonom ymateb i ACE Amlinelliad o’r rhaglen Argymhellir y dylid cwblhau’r offer paratoi ysgol cyn yr hyfforddiant. Mae hyfforddiant dilynol yn cynnwys: Ymarfer sy’n Wybodus am ACE – Adnabod trawma, ymateb yn briodol, datblygu cadernid a dull PATH o ddod yn Ysgol sy’n Wybodus am ACE. Dulliau cyflwyno Mae deunyddiau ar gael ar Hyb Dysgu Digidol ar gyfer Cymru Llywodraeth Cymru. Dylid defnyddio’r nodiadau i hyfforddwyr i’w cynorthwyo i gyflwyno’r hyfforddiant a sicrhau bod negeseuon allweddol yn cael eu cyflwyno. Gellir cyflwyno’r hyfforddiant hwn i bob aelod o staff yn ystod sesiwn HMS hanner diwrnod neu mewn sesiynau gyda’r hwyr os byddai hynny’n fwy addas i ysgolion. Mae’r hyfforddiant hwn yn ffurfio rhan o raglen 3 sesiwn. Mae Hyb Cymorth ACE yn argymell cyflwyno sesiwn 1 yn ystod tymor yr Hydref 2018 a sesiwn 2 yn ystod tymor y Gwanwyn 2019 gyda staff hyfforddedig sydd ag arbenigedd yn y maes hwn. Bydd nifer o hyfforddwyr ar gael o fis Medi 2018 i gynorthwyo ysgolion. Dylai ysgolion sydd wedi cwblhau sesiwn 1 a 2 ystyried, gyda’u gwasanaeth Seicoleg Addysg, y posibilrwydd o ddefnyddio eu hamser a glustnodwyd ar gyfer Seicoleg Addysg i hwyluso dull PATH er mwyn hwyluso ysgol gyfan i ymgorffori ymarfer sy’n Wybodus am ACE. I gael gwybodaeth bellach, cysylltwch ag: ACE@wales.nhs.uk
Allwedd: Ymwybyddiaeth o ACE
ACE-Wybodus
ACE-Fedrus
ACE-Ddylanwadwr
Hyfforddiant ar gyfer Sectorau Penodol
Sector: Addysg – Ysgolion Uwchradd Teitl yr hyfforddiant: (Sesiwn2) Adnabod trawma, ymateb yn briodol, datblygu cadernid Trosolwg Mae’r cyflwyniad 2½ awr hwn yn ceisio gwella sgiliau cyfathrebu o fewn ysgolion a datblygu dealltwriaeth ysgolion o gadernid o fewn dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Pwy fydd yn elwa? Mae’r hyfforddiant yn berthnasol i unrhyw un sy’n gweithio mewn lleoliad ysgol. Canlyniadau dysgu Cynyddu hyder wrth ymateb i anghenion ACE unigolion; Datblygu a gwella sgiliau cyfathrebu ysgol o fewn ysgol sy’n Wybodus am ACE; Blaenoriaethu ein llesiant ein hunain fel staff ysgol; Datblygu cadernid plant a phobl ifanc sy’n wynebu caledi. Amlinelliad o’r rhaglen Anogir yr ysgolion i adlewyrchu ar eu dulliau cyfathrebu presennol a sut y gallant feithrin amgylchedd meithringar ac empathetig i bob plentyn. Ar ôl cwblhau’r rhaglen, bydd ysgolion wedi datblygu eu gweledigaeth eu hunain o ysgol sy’n Wybodus am ACE ac wedi nodi ffyrdd allweddol ymlaen. Dulliau cyflwyno Mae deunyddiau ar gael ar Hyb Dysgu Digidol ar gyfer Cymru Llywodraeth Cymru. Dylid defnyddio’r nodiadau i hyfforddwyr i’w cynorthwyo i gyflwyno’r hyfforddiant a sicrhau bod negeseuon allweddol yn cael eu cyflwyno. Mae’r hyfforddiant hwn yn ffurfio rhan o raglen 3 sesiwn. Mae Hyb Cymorth ACE yn argymell cyflwyno sesiwn 1 yn ystod tymor yr Hydref 2018 a sesiwn 2 yn ystod tymor y Gwanwyn 2019 gyda staff hyfforddedig sydd ag arbenigedd yn y maes hwn. Bydd nifer o hyfforddwyr ar gael o fis Medi 2018 i gynorthwyo ysgolion. Dylai ysgolion sydd wedi cwblhau sesiwn 1 a 2 ystyried, gyda’u gwasanaeth Seicoleg Addysg, y posibilrwydd o ddefnyddio eu hamser a glustnodwyd ar gyfer Seicoleg Addysg i hwyluso dull PATH er mwyn hwyluso ysgol gyfan i ymgorffori arfer sy’n Wybodus am ACE. I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag: ACE@wales.nhs.uk
Allwedd: Ymwybyddiaeth o ACE
ACE-Wybodus
ACE-Fedrus
ACE-Ddylanwadwr
Hyfforddiant ar gyfer Sectorau Penodol
Sector: Addysg – Ysgolion Uwchradd Teitl yr hyfforddiant: (Sesiwn 3) dull PATH at ddod yn ysgol sy’n Wybodus am ACE Trosolwg Sesiwn hyfforddiant olaf ar gyfer yr ysgol gyfan, gan ddefnyddio dull PATH at ddod yn ysgol sy’n Wybodus am ACE. Mae’n sesiwn 2.5 awr sy’n cael ei chyflwyno gan 2 Seicolegydd Addysg. Pwy fydd yn elwa? Mae’r hyfforddiant yn berthnasol i unrhyw un sy’n gweithio mewn lleoliad ysgol. Canlyniadau dysgu Cynyddu hyder wrth ymateb i anghenion ACE unigolion; Datblygu’r dulliau a ddefnyddiwn gyda’n plant i ddatblygu ysgol sy’n Wybodus am ACE; Parhau i flaenoriaethu ein llesiant a’n cadernid ein hunain fel staff yr ysgol. Amlinelliad o’r rhaglen Yr ysgol i greu cynllun gweithredu ar ôl cwblhau’r 3 sesiwn. Gall hyn ffurfio rhan o’r Cynllun Gwella Ysgol ar gyfer llesiant. Gall cydlynwyr ysgolion iach gynorthwyo ysgolion i gyflawni’r nodau yn y cynllun. Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant, dylai ysgolion ystyried: Adnoddau i ddilyn gyda chynlluniau gwersi awgrymedig ar gyfer Iechyd a Llesiant. Ymgorffori Ymarfer sy’n Wybodus am ACE drwy ethos yr ysgol gyfan. Parhau i ailymweld â’r Cynllun Gweithredu a gwerthuso’r systemau presennol. Dulliau cyflwyno Mae’r hyfforddiant hwn yn rhan o raglen 3 sesiwn. Mae Hyb Cymorth ACE yn argymell cyflwyno sesiwn 1 yn ystod tymor yr Hydref 2018 a sesiwn 2 yn ystod tymor y Gwanwyn 2019 gyda staff hyfforddedig sydd ag arbenigedd yn y maes hwn. Bydd nifer o hyfforddwyr ar gael o fis Medi 2018 i gynorthwyo ysgolion. Dylai ysgolion sydd wedi cwblhau sesiwn 1 a 2 ystyried, gyda’u gwasanaeth Seicoleg Addysg, y posibilrwydd o ddefnyddio eu hamser a glustnodwyd ar gyfer Seicoleg Addysg i hwyluso dull PATH er mwyn hwyluso ysgol gyfan i ymgorffori ymarfer sy’n Wybodus am ACE. I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag: ACE@wales.nhs.uk
Allwedd: Ymwybyddiaeth o ACE
ACE-Wybodus
ACE-Fedrus
ACE-Ddylanwadwr
Hyfforddiant ar gyfer Sectorau Penodol
Sector: Tai Teitl yr Hyfforddiant: PATH Tai (Atal, ACE, Gwybodus am Drawma, Digartrefedd) Hyfforddiant - Sylfaen Trosolwg Mae’r cwrs 1 diwrnod hwn yn darparu cyflwyniad i ACE ac Amgylcheddau sy’n Wybodus yn Seicolegol (PIE). Pwy fydd yn elwa? Mae’r hyfforddiant yn berthnasol i unrhyw un sy’n gweithio yn y sector tai. Canlyniadau dysgu Cynyddu dealltwriaeth o’r dull PIE Gwella dealltwriaeth o bobl ag anghenion ac ACE cymhleth Dysgu i ddefnyddio offer a sgiliau seicolegol a all fod yn ddefnyddiol ar gyfer gwella rhyngweithio, cefnogaeth a gwaith Amlinelliad o’r Rhaglen Mae’r cwrs sylfaen hwn, a ddatblygwyd gan Cymorth Cymru, mewn partneriaeth â Hyb Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ar greu Amgylcheddau sy’n Wybodus yn Seicolegol ar gyfer pobl sy’n gweithio yn y sector tai a digartrefedd, mae’n cwmpasu ACE, ymlyniad, trawma a’r ymennydd, ymddygiad diogelwch, Y Model Gwybyddol, Deall PIE, Pum Elfen PIE ac Amgylcheddau Sy’n Galluogi. Gellir dilyn y cwrs sylfaen 1 diwrnod hwn fel sesiwn unigol neu ran o’r rhaglen hyfforddiant 3 diwrnod. Ar gyfer dull gweithredu sefydliad cyfan, mae hyfforddiant penodol ar gael ar gyfer arweinwyr sy’n cael eu cefnogi gan y Fframwaith Amgylcheddau Gwybodus yn Seicolegol ar gyfer Cyflenwi a Dylunio Gwasanaethau Dulliau cyflwyno Mae’r cynnwys a’r dulliau cyflwyno yn cael eu hadolygu. I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag: ACE@wales.nhs.uk
Allwedd: Ymwybyddiaeth o ACE
ACE-Wybodus
ACE-Fedrus
ACE-Ddylanwadwr
Hyfforddiant ar gyfer Sectorau Penodol
Sector: Tai Teitl yr Hyfforddiant: PATH Tai (Atal, ACE, Gwybodus am Drawma, Digartrefedd) Hyfforddiant – 3 diwrnod Trosolwg Mae Diwrnod 1 y cwrs 3 diwrnod hwn yn darparu cyflwyniad i ACE ac Amgylcheddau sy’n Wybodus yn Seicolegol (PIE). Mae diwrnod 2 a diwrnod 3 yn adeiladu ar y wybodaeth lefel sylfaen ac yn trafod y sgiliau sydd eu hangen i weithredu PIE. Pwy fydd yn elwa? Mae’r hyfforddiant yn berthnasol i unrhyw un sy’n gweithio yn y sector tai. Canlyniadau dysgu Cynyddu dealltwriaeth o’r dull PIE Gwella dealltwriaeth o bobl ag anghenion ac ACE cymhleth Dysgu i ddefnyddio offer a sgiliau seicolegol a all fod yn ddefnyddiol ar gyfer gwella rhyngweithio, cefnogaeth a gwaith Amlinelliad o’r Rhaglen Mae’r cwrs 3 diwrnod hwn, a ddatblygwyd gan Cymorth Cymru, mewn partneriaeth â’r Hyb Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ar greu Amgylcheddau sy’n Wybodus yn Seicolegol ar gyfer pobl sy’n gweithio yn y sector tai a digartrefedd, mae’n cwmpasu ACE, ymlyniad, trawma a’r ymennydd, ymddygiad diogelwch, Y Model Gwybyddol, Deall PIE, Pum Elfen PIE ac Amgylcheddau sy’n Galluogi (cwrs sylfaen 1 diwrnod) a datblygu sgiliau, galluoedd a gwybodaeth er mwyn gallu meithrin perthnasoedd effeithiol a darparu PIE. Ar gyfer dull gweithredu sefydliad cyfan, mae hyfforddiant penodol ar gael ar gyfer arweinwyr sy’n cael eu cefnogi gan y Fframwaith Amgylcheddau Gwybodus yn Seicolegol ar gyfer Cyflenwi a Dylunio Gwasanaethau Dulliau cyflwyno Mae’r cynnwys a’r dulliau cyflwyno yn cael eu hadolygu. I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag: ACE@wales.nhs.uk
Allwedd: Ymwybyddiaeth o ACE
ACE-Wybodus
ACE-Fedrus
ACE-Ddylanwadwr
Hyfforddiant ar gyfer Sectorau Penodol
Sector: Tai Teitl yr hyfforddiant: PATH Tai (Atal, ACE, Gwybodus am Drawma, Digartrefedd) Hyfforddiant – Arweinwyr Trosolwg Mae Diwrnod 1 y cwrs 3 diwrnod hwn yn darparu trosolwg o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) ac Amgylcheddau sy’n Wybodus yn Seicolegol (PIE). Mae’n darparu gwybodaeth am elfennau PIE, yn ystyried pa rolau sydd gan arweinwyr ym mhob un o’r elfennau hyn ac yn archwilio’r heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil PIE. Mae’r cwrs hwn yn adlewyrchol ac yn darparu cyfle i’r cynrychiolwyr ystyried eich sefyllfa chi a’ch sefydliad o ran yr elfennau PIE a gwybod beth i’w wneud nesaf. Pwy fydd yn elwa? Mae’r hyfforddiant yn berthnasol i arweinwyr yn y sector tai. Canlyniadau dysgu Deall beth yw ystyr bod yn wybodus yn seicolegol, fel unigolyn, rheolwr, arweinydd, tîm a sefydliad. Datblygu syniadau ar sut i weithredu neu ehangu elfennau allweddol PIE i’ch gwaith a’ch sefydliad. Datblygu neu gadarnhau eich dealltwriaeth o arfer adlewyrchol ar gyfer gweithio’n effeithiol. Datblygu syniadau a dealltwriaeth o sut y gall gweithio mewn ffordd sy’n wybodus yn seicolegol eich helpu i gyflawni eich amcanion gwaith/tîm/sefydliadol. Amlinelliad o’r Rhaglen Datblygwyd y cwrs hwn gan Cymorth Cymru, mewn partneriaeth â’r Hyb Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ar greu Amgylcheddau sy’n Wybodus yn Seicolegol ar gyfer pobl sy’n gweithio yn y sector tai a digartrefedd. Bydd yr hyfforddiant yn galluogi arweinwyr i weithredu’r Fframwaith ar gyfer Cyflenwi a Dylunio Amgylcheddau sy’n Wybodus yn Seicolegol o fewn eu sefydliad. Ar gyfer unigolion eraill yn eu sefydliad, mae yna gwrs sylfaen unigol 1 diwrnod neu gwrs PIE tri diwrnod. Dulliau cyflwyno Mae’r cynnwys a’r dulliau cyflenwi yn cael eu hadolygu. I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag: ACE@wales.nhs.uk
Allwedd: Ymwybyddiaeth o ACE
ACE-Wybodus
ACE-Fedrus
ACE-Ddylanwadwr
Hyfforddiant sy'n Benodol i'r Sector
Sector: Chwaraeon Teitl yr hyfforddiant: Mae'n fwy na dim ond chwaraeon! Trosolwg Mae'r cwrs 3 awr hwn yn rhoi cyflwyniad i ACEs a grym chwaraeon o ran atal, lliniaru a mynd i'r afael ag ACEs Pwy wnaiff elwa? Mae'r hyfforddiant yn berthnasol i hyfforddwyr ac unrhyw un sy'n gweithio yn y sector chwaraeon. Deilliannau dysgu Cynyddu dealltwriaeth o ACEs Cynyddu dealltwriaeth o rôl yr hyfforddwr mewn perthynas ag ACES Dysgu am rôl yr hyfforddwr fel “dwylo diogel” Cynyddu dealltwriaeth o effaith trawma dirprwyol a phwysigrwydd hunanofal Braslun o'r rhaglen Datblygwyd y cwrs hwn gan Ganolfan Cymorth ACEs Cymru mewn cydweithrediad â Thîm Seicoleg Cymunedol Gwent, Chwaraeon Cymru a grŵp gorchwyl a gorffen arbenigol sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r sector chwaraeon yng Nghymru. Dulliau darparu Rydym yn cydweithio â'r sector i archwilio dulliau cyflwyno cynaliadwy I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: ACE@wales.nhs.uk
Allwedd: Ymwybyddiaeth o ACE
ACE-Wybodus
ACE-Fedrus
ACE-Ddylanwadwr
Hyfforddiant ar gyfer Sectorau Penodol
Sector: Gwaith Ieuenctid Teitl yr Hyfforddiant: Creu Gweithlu Ieuenctid sy’n Ymwybodol o ACE Trosolwg Bydd yr hyfforddiant hwn yn cefnogi’r broses o ddarparu’r offer i’w defnyddio a fydd yn galluogi pobl ifanc i fod yn ymwybodol o’u ACE eu hunain, yr effaith y maent yn ei chael ar eu hymddygiad eu hunain a thechnegau hunan-reoleiddio. Pwy fydd yn elwa? Mae’r cwrs hwn yn berthnasol i weithwyr ieuenctid yng Nghymru. Canlyniadau dysgu Beth yw Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE); Pam eu bod yn bwysig; Beth yw’r darlun yng Nghymru Sut mae ACE yn effeithio ar iechyd a llesiant Sut y gallwn ymateb i ACE Amlinelliad o’r Rhaglen Mae hwn yn gwrs undydd ac mae’n cyd-fynd â’r Model Adferiad Trawma a Model Rheoli Achosion Gwell. Dulliau Cyflwyno Manylion yr hyfforddwr I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag: ACE@wales.nhs.uk
Allwedd: Ymwybyddiaeth o ACE
ACE-Wybodus
ACE-Fedrus
ACE-Ddylanwadwr
Hyfforddiant Aml-Sector (Generig)
Sector: Generig Teitl yr hyfforddiant: Pecyn E-ddysgu Cyflwyniad i ACEs Trosolwg Gellir cyrchu'r e-ddysgu naill ai fel cyflwyniad byr i ACEs neu fel rhagarweiniad ar gyfer hyfforddiant dilynol.
Pwy wnaiff elwa? Mae'r cwrs e-ddysgu yn addas ar gyfer holl staff gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru.
Deilliannau dysgu
Beth yw Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) Cyffredinrwydd ACEs yng Nghymru. Y risgiau sy'n gysylltiedig ag ACEs a'u heffaith trwy gydol bywd Beth i'w wneud i atal ac ymateb i ACEs.
Braslun o'r rhaglen Mae angen tua 30 munud i gwblhau'r e-ddysgu hwn. Dulliau darparu Dilynwch y camau canlynol i gael mynediad at y cwrs: 1. 2.
Trowch at wefan Learning@Wales Mewngofnodwch neu dilynwch y cyfarwyddiadau i greu cyfrif newydd os nad ydych chi wedi defnyddio'r wefan o'r blaen 3. Chwiliwch am y cwrs trwy fewnbynnu “Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod” yn y bar chwilio 4. Mewnbynnwch yr allwedd cofrestru: pHW2020%
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: ACE@wales.nhs.uk
Allwedd: Ymwybyddiaeth o ACE
ACE-Wybodus
ACE-Fedrus
ACE-Ddylanwadwr
Hyfforddiant Aml-sector (Generig)
Sector: Generig Teitl yr hyfforddiant: Cyflwyniad ar Ymwybyddiaeth ACE Trosolwg Mae’r gyfres hon o sleidiau cyflwyno yn adnodd y gellir ei gyflwyno i’r rhai sydd wedi mynychu hyfforddiant ACE ac sydd â dealltwriaeth o ACE a beth mae’n ei olygu i fod yn Wybodus am ACE. Pwy fydd yn elwa? Mae cynnwys y cyflwyniad yn berthnasol i’r gweithlu cyfan yng Nghymru. Canlyniadau dysgu Cyflwyniad i ACE, trawma cysylltiedig ac effaith hyn ar hyd cwrs bywyd Dealltwriaeth o’r ffordd y gall pob un ohonom ymateb i ACE Amlinelliad o’r Rhaglen Mae hwn yn gyflwyniad 30 munud sy’n darparu gwybodaeth. Dulliau cyflwyno I dderbyn copi o’r adnodd cysylltwch ag ACE@wales.nhs.uk I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag: ACE@wales.nhs.uk
Allwedd: Ymwybyddiaeth o ACE
ACE-Wybodus
ACE-Fedrus
ACE-Ddylanwadwr
Hyfforddiant Aml-sector (Generig)
Sector: Generig Teitl yr Hyfforddiant: Hyfforddiant Ymwybyddiaeth ACE ac Ymarfer sy’n Wybodus am ACE Trosolwg Mae’r hyfforddiant hwn yn ceisio darparu’r wybodaeth a’r deunyddiau sydd eu hangen i gyflwyno hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) ac Ymarfer sy’n Wybodus am ACE. Pwy fydd yn elwa? Mae’r hyfforddiant hwn yn berthnasol i unrhyw un sy’n dymuno cynyddu eu hymwybyddiaeth o ACE a beth mae’n ei olygu i fod yn Wybodus am ACE. Canlyniadau dysgu Cynorthwyo’r gweithlu i gynyddu eu hymwybyddiaeth o ACE, trawma cysylltiedig a’r effaith ar draws cwrs bywyd Galluogi unigolion i ymateb yn gymwys a hyderus gan ddefnyddio dull gweithredu sy’n Wybodus am ACE Cefnogi dull gweithredu system gyfan gyda phartneriaid er mwyn atal a lleddfu ACE Amlinelliad o’r Rhaglen Mae hwn yn gwrs hyfforddiant hanner diwrnod. Dulliau cyflwyno Dull y Ganolfan Cymorth ACEs o ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ynghylch ACEs yw cydweithio â sectorau i gydgynhyrchu atebion hyfforddi pwrpasol, sy'n cynorthwyo i ymgorffori arferion sy'n ystyriol o Drawma ac ACEs ac archwilio dulliau darparu cynaliadwy. I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag: ACE@wales.nhs.uk
Allwedd: Ymwybyddiaeth o ACE
ACE-Wybodus
ACE-Fedrus
ACE-Ddylanwadwr
Hyfforddiant Aml-sector (Generig)
Sector: Generig Teitl yr hyfforddiant: Hyfforddi’r Hyfforddwr Ymwybyddiaeth ACE ac Ymarfer sy’n Wybodus am ACE Trosolwg Mae’r cwrs Hyfforddi’r hyfforddwr hwn yn ceisio cymhwyso hyfforddwyr gyda’r wybodaeth a’r deunyddiau sydd eu hangen i gyflwyno hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) ac Ymarfer sy’n Wybodus am ACE. Pwy fydd yn elwa? Mae’r cwrs hwn ar gyfer hyfforddwyr profiadol a fydd yn gallu cyflwyno’r hyfforddiant ACE yn eu sefydliad eu hunain a/neu i sefydliadau eraill yng Nghymru. Canlyniadau dysgu Cynorthwyo’r gweithlu i gynyddu eu hymwybyddiaeth o ACE, trawma cysylltiedig a’r effaith ar draws cwrs bywyd Galluogi unigolion i ymateb yn gymwys a hyderus gan ddefnyddio dull gweithredu sy’n Wybodus am ACE Cefnogi dull gweithredu system gyfan gyda phartneriaid er mwyn atal a lleddfu ACE Amlinelliad o’r rhaglen Mae hwn yn gwrs 1 diwrnod i ddarparu’r deunyddiau i hyfforddwyr allu cyflwyno hyfforddiant Ymwybyddiaeth ACE ac Ymarfer sy’n Wybodus am ACE. Dulliau cyflwyno Dull y Ganolfan Cymorth ACEs o ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ynghylch ACEs yw cydweithio â sectorau i gydgynhyrchu atebion hyfforddi pwrpasol, sy'n cynorthwyo i ymgorffori arferion sy'n ystyriol o Drawma ac ACEs ac archwilio dulliau darparu cynaliadwy. I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag: ACE@wales.nhs.uk
Allwedd: Ymwybyddiaeth o ACE
ACE-Wybodus
ACE-Fedrus
ACE-Ddylanwadwr