HYB CYMORTH ACE ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018 – 19
CROESO Croeso i’n hadroddiad blynyddol 2018-19, sy’n dathlu uchafbwyntiau, effaith a chyflawniad dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r cynnydd sydyn o egni ac angerdd wrth gymhwyso gwybodaeth ACE i ymarfer mewn gwasanaethau cyhoeddus a thrydydd sector dros y flwyddyn ddiwethaf yn ein hysgogi yn Hyb Cymorth ACE i herio agweddau, calonnau a meddyliau ymhellach er mwyn gwthio’r chwyldro hwn sydd yn wybodus am drawma ac sy’n canolbwyntio ar y dinesydd cyn belled â gallwn fynd ag ef. Mae addysg, gwaith ieuenctid, tai a’r heddlu yn arwain y rhuthr, ac amlygir enghreifftiau o hyn yn yr adroddiad hwn. Fel hwyluswyr dysgu, rydym wedi cael ein hysbrydoli a’n harwain yn barhaus gan yr adborth o bob rhan o sectorau a chymunedau i hogi perthnasedd yr agenda i les pobl Cymru. Mae llawer i’w wneud, ond mae’r adroddiad hwn yn rhoi cyfle i ni ystyried pa mor bell ydym wedi dod ac ar ysgwyddau rhai camau mawr a gymerwyd gan y rhai hynny a amlygwyd yma rydym yn symud ymlaen. Rydym yn falch o ddweud ein bod yn gwneud Cymru’n arweinydd y byd o ran mynd i’r afael â, lliniaru ac atal ACEs.
Jo Hopkins Cyfarwyddwraig Hyb Cymorth ACE Rwyf wedi mwynhau fy chwe mis cyntaf yn fawr fel Cyfarwyddwraig Hyb Cymorth ACE, ac rwyf wrth fy modd i gyhoeddi adroddiad blynyddol sy’n adlewyrchu’r gwaith da sydd wedi digwydd o’r blaen, ond mae hefyd yn rhoi ymdeimlad o’n cyfeiriad, ein blaenoriaethau a’n heffaith wrth i ni symud i gyflenwi ein cynllun ar gyfer 2019/20. Mae’r ymroddiad, brwdfrydedd ac angerdd sydd gan gynifer ohonoch chi i fwrw ymlaen â’r agenda hon wedi creu argraff arnaf, nid yn unig i gynyddu ymwybyddiaeth o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, ond wrth wneud y newidiadau trawsnewidiol i’r systemau a fydd yn cael yr effaith wirioneddol ar fywydau pobl. Rwy’n cael fy ysbrydoli’n gyson gan y straeon syfrdanol o ymarfer, arweinyddiaeth, cynhwysiant a thrugaredd sy’n wybodus am drawma. Gobeithiaf ein bod wedi cipio rhywfaint o hynny yma, ond edrychwch ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth ynghylch ymgyrchoedd, digwyddiadau a’r dystiolaeth sy’n cefnogi’r effaith mae ein gwaith yn ei chael. Rwy’n falch o’n tîm bach o wyth unigolyn ymroddedig sy’n helpu i drawsnewid y sectorau tai, addysg, chwaraeon ac ieuenctid gan ymgorffori’r ymagweddau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid sefydledig a newydd, gan gynnwys yr heddlu a’r rhaglen Gweithredu’n Gynnar gyda’n Gilydd. Mae’r mudiad cymdeithasol yn ennill cryfder a momentwm ac rwy’n edrych ymlaen at barhau â hynny eleni ac i gam nesaf y gwaith hwn.
Matt Jukes Cadeirydd y Bwrdd Cynghori Fel Cadeirydd Grŵp Cynghori Hyb Cymorth ACE, mae’n bleser gennyf gyflwyno’r adroddiad blynyddol hwn a myfyrio ar faint o gynnydd mae Hyb ACE wedi’i wneud eleni wrth gyflawni yn ôl y cynlluniau ar gyfer cyflenwi a nodwyd. Nid mater o nodi pwyntiau ar raglen yn unig yw hwn. Bellach rydym yn gweld gwir ystyr y gwaith hwn ar fywydau pobl. Mae’r hyfforddiant addysg y gallwch ddarllen amdano ar dudalen 8 wedi helpu i gyflawni gostyngiad mewn gwaharddiadau lle mae wedi cael ei gyflwyno. Ar draws ystod o wasanaethau, mae ymwybyddiaeth o ACE eisoes yn arwain at bolisi ac arferion mwy ymgysylltiol a phendant. Ond mae tystiolaeth o’r niwed a achosir gan ACEs yn dangos pa mor bell rydym yn gorfod teithio. Rhaid i ni barhau i weithio’n gydweithredol â phartneriaid fel y rhaglen Gweithredu’n Gynnar gyda’n Gilydd tuag at ein cyd-gweledigaeth ynghylch ACE yng Nghymru. Mae rôl Hyb ACE o ran cynnig cyfeiriad strategol, dylanwadu a galluogi sectorau bellach wedi’i chyfuno â’r rhaglen Gweithredu’n Gynnar Gyda’n Gilydd, gan weithredu gwybodaeth ac ymchwil ACEs o fewn y sectorau plismona a chyfiawnder troseddol. Mae sawl sector arall wedi manteisio ar eu cyfleoedd eu hunain, fel yr adlewyrchir yma mewn enghreifftiau megis y sector tai. Er enghraifft, trwy weithredu amgylchedd sy’n seiliedig ar seicoleg, mae Tai Taf wedi gweld gostyngiad o 33% mewn digwyddiadau treisgar a gostyngiad o 84% yn nifer y digwyddiadau sy’n galw am ymyrraeth gan yr heddlu. Mae neges yr adroddiad hwn, er gwaethaf ei ffocws ar drawma, yn optimistaidd. Gallwn ni wneud newid Gallwn ni ganolbwyntio nid yn unig ar gael gwasanaethau ymatebol ond ar wytnwch cynyddol ac atal niwed i genedlaethau’r dyfodol.
Tracey Cooper
www.wlga.wales
Prif Weithredwr Iechyd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Cyhoeddus Cymru Welsh Local Government Association
Chris Llewelyn @Welshlga Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Rydym wrth ein bodd i gyflwyno Adroddiad Blynyddol Hyb Cymorth ACE, yn myfyrio ar yr hyn sydd wedi bod yn flwyddyn wych o waith arloesol i ddatblygu Cymru sy’n wybodus am ACE. Mae Hyb ACE wedi arwain y ffordd wrth hwyluso dysgu ar draws sectorau yn ein gwasanaethau cyhoeddus a thrydydd sector, gan gymhwyso’r wybodaeth ACE i arferion er mwyn gwella iechyd a lles pobl yng Nghymru. Trwy bartneriaethau cydweithredol Hyb Cymorth ACE gyda’r rhaglen First 1000 Days, a chyda Rhaglen
Gweithredu’n Gynnar Gyda’n Gilydd i greu system blismona a chyfiawnder troseddol sy’n wybodus am Dr Chris Llewelyn
ACE yng Nghymru, rydym wedi gweld momentwm gwych i wella ein blynyddoedd cynnar a rhoi’r cychwyn Prif Weithredwr | Chief Executive gorau i blant mewn bywyd. Er ein bod yn ifanc fel cenedl wrth weithredu ar ACEs, mae’n galonogol gweld y canlyniadau a amlygir yn yr adroddiad hwn eisoes.
Fe4gafodd Chris Llewelyn ei eniHyb a'i fagu yng Nglanaman, Sir | Adroddiad Blynyddol Cymorth ACE 2018 Gaerfyrddin. Mae e'n byw bellach mewn pentref cyfagos, Garnant, gyda'i wraig Julie a'u tri mab, Morgan, Macsen ac Owain. Cafodd Chris ei addysgu yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman cyn astudio ym Mhrifysgol Caerlŷr, Coleg Prifysgol
Chris Llewelyn was born and brought up in the village of Glanaman in Carmarthenshire. He now lives in the neighbouring village of Garnant with his wife Julie and their three sons, Morgan, Macsen and Owain. Chris was educated at the Aman Valley Comprehensive School
POPETH YNGLYN Â PHROFIADAU NIWEIDIOL YN YSTOD PLENTYNDOD Mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) yn brofiadau trawmatig sy’n digwydd yn ystod plentyndod ac sy’n cael eu cofio gydol oes. Mae’r profiadau hyn yn amrywio o gam-drin geiriol, meddyliol, rhywiol a chorfforol, i gael eich magu mewn aelwyd lle mae cam-drin domestig, cam-drin alcohol, rhieni’n gwahanu’n elyniaethus neu gam-drin cyffuriau.
BETH YW PWRPAS HYB CYMORTH ACE? Sefydlwyd hyb ACE i helpu i fynd i’r afael ag ACEs. Rydym yn helpu i greu’r amgylchedd ar gyfer newid ac yn cefnogi unigolion, cymunedau a sefydliadau i helpu i greu cymdeithas sy’n ymwybodol o ACE.
ATAL ACEs rhag digwydd ym mywydau plant
CEFNOGI YMYRRAETH YN GYNNAR pan yw plant yn profi ACEs er mwyn lleihau eu heffeithiau
ADEILADU GWYTNWCH mewn oedolion sydd wedi profi ACEs i’w hatal rhag cael eu trosglwyddo drwy genedlaethau.
PETHAU RYDYM YN CREDU YNDDYNT YW: EIN FFOCWS:
1
HYRWYDDO AC ADEILADU GWYTNWCH
2
HERIO ANGHYDRADDOLDEBAU STRWYTHUROL
3
PWER PERTHNASOEDD
4
BOD YN GYNHWYSOL I BOB CYMUNED
5
HYRWYDDO GWASANAETHAU A CHYMDEITHAS GAREDIG A THOSTURIOL
Lledaenu hysbysrwydd a gwybodaeth am ACEs
Rhannu tystiolaeth ynghylch yr hyn y gall sefydliadau ei wneud yn wahanol i helpu i atal a lliniaru ACEs
Datblygu gwybodaeth a sgiliau ymysg gweithwyr proffesiynol
Tynnu ar ddysgu unigolion, cymunedau, sefydliadau a’r system ehangach a’i rannu
Ysgogi newid a thrawsnewid yn y system yn lleol ac yn genedlaethol.
Adroddiad Blynyddol Hyb Cymorth ACE 2018 | 5
TAI CAMAU TUAG AT SECTOR SY’N WYBODUS AM DRAWMA
 chyllid parhaus gan Lywodraeth Cymru, cefnogaeth Cymorth Cymru a rhai hyfforddwyr syfrdanol, hyd yn hyn mae bron i 1600 o staff Tai a Digartrefedd ledled Cymru wedi cael eu hyfforddi yn PATH (Atal, ACEs, Trawma, a Digartrefedd). Mae’r hyfforddiant yn addysgu staff am effaith cysylltiadau a thrawma, gan eu helpu i greu a darganfod sut i fod yn wybodus yn seicolegol yn eu hyarferion a sut y gall eu sefydliad fod yn wybodus am drawma er mwyn atal digartrefedd. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi PATH, sy’n cael ei gydnabod fel ffactor sy’n cyfrannu at atal digartrefedd trwy leihau achosion o droi allan a helpu i arfer y ddyletswydd i atal o dan y Ddeddf Atal Digartrefedd.
Mae’r gwaith yn dechrau cael effaith amlwg ar y sector, gan newid ieithwedd ac agweddau, o feio a chywilyddio, i dosturi a chwilfrydedd, hyd yn oed yn dylanwadu ar sectorau eraill, megis gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl a phlant sy’n gofyn am fewnbwn tebyg. Yn fwyaf trawiadol, mae comisiynwyr ac arweinwyr yn defnyddio’r wybodaeth i drawsnewid y system gyflenwi gwasanaeth, gan ei ddisgrifio fel “hollol syfrdanol a thrawsnewidiol” ac “yn wirioneddol ddefnyddiol a threiddgar, erbyn hyn mae gennym fan cyfeirio i sicrhau bod Amgylcheddau Wedi’u Llywio’n Seicolegol (PIE) yn feincnod*” (*arweinwyr a chomisiynwyr a gyfwelwyd o leiaf 6 mis ar ôl yr hyfforddiant)
6 | Adroddiad Blynyddol Hyb Cymorth ACE 2018
ARFER ACE YM MAES TAI: Jackie Amos, Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Lleoedd, Tai Taf- “Mae creu PIEs yn ein llety â chymorth ar gyfer menywod ifanc digartref wedi trawsnewid ein darpariaeth o wasanaethau.
60% Mae gan bron i 60% o’r menywod ifanc rydym yn gweithio gyda nhw 4 ACE neu fwy ac felly roeddem yn gwybod bod rhaid i ni fabwysiadu ymagwedd sy’n sy’n wybodus am drawma os oeddem wir am fod o ddifrif am helpu i wneud gwahaniaeth yn eu bywydau. Fe wnaethom gynnal hyfforddiant PATH, adolygu ein strwythurau staffio, ein polisïau a’n gweithdrefnau, dileu ein rheolau tŷ a phrosesau rhybuddio a dechrau gweithio gyda seicotherapydd i sicrhau bod ein staff hefyd yn emosiynol ddiogel ac iach.
33%
O fewn 3 mis i’w weithredu, gwelsom 33%
84%
a gostyngiad o 84% yn nifer y digwyddiadau’n galw am ymyrraeth gan yr heddlu. Wrth gwrs, gall hyn amrywio wrth i fenywod ifanc symud i mewn gyda ni a dechrau ymddiried a theimlo’n ddigon diogel i ddechrau newid ymddygiad sydd wedi eu helpu i oroesi, ta waeth pa mor niweidiol oedd yr ymddygiad hwnnw, ond fe gwyddom nawr mai’r ymagwedd hon yw’r un a fydd yn eu helpu i lwyddo yn y diwedd. Fel sefydliad, rydym wedi penderfynu nad yw ymagwedd sy’n seiliedig ar seicoleg yn rhywbeth rydych chi’n ei wneud, mae’n rhaid iddo fod yn rhywbeth amdanoch sy’n llywio ein holl benderfyniadau a pherthnasoedd. Rydym bellach wedi dechrau ei weithredu ar draws y sefydliad ac rydym eisoes yn gweld y manteision mae’n eu cynnig, gan ddechrau ag adolygiad o’n hymagwedd at ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein tai anghenion cyffredinol sydd bellach yn gweld lefelau boddhad ar 95% ”
TAI CYMRU A’R GORLLEWIN Mae Sarah* wedi bod yn byw gyda Tai Cymru a’r Gorllewin (WWH) ers 2015. Roedd hi’n byw mewn fflat anghenion cyffredinol ag un ystafell wely. Heb unrhyw deulu na ffrindiau agos, arddangosodd hi ymddygiad yr oedd rhai yn ei gael yn heriol. Byddai hi’n siarad yn agored am ei bywyd i unrhyw un a fyddai’n gwrando. Roedd y cam-drin sy’n dal i’w phoeni’n anodd i lawer ei glywed. Roedd yn aml yn cael ei hosgoi gan drigolion nad oedden nhw’n fodlon neu’n gallu gwrando arni. Doedd hi ddim yn ymddiried yn y dynion. Fe dyfodd pryderon am les Sarah ar ôl y Nadolig 2015. Ar ôl dychwelyd i’r gwaith yn dilyn pythefnos egwyl y Nadolig, roedd yn ymddangos bod Sarah wedi colli pwysau a’i bod yn bryderus ac yn gynhyrfus. Doedd hi ddim wedi mwynhau’r Nadolig, ac roedd wedi ei dreulio ar ei phen ei hun. Nid oedd staff WWH yn gwybod beth i’w wneud; nid oeddent yn ‘arbenigwyr’ ac fe wnaethon nhw gyfeirio Sarah at y meddyg teulu a gwasanaethau eraill a allai helpu, fel y gwnaed sawl gwaith o’r blaen. Roedd y gwasanaethau’n adnabod Sarah yn dda. Hyd yn oed ar ôl pryderon staff, nid oedd y meddyg teulu yn gallu helpu, ac roedd yn ymddangos bod y sefyllfa’n mynd o gwmpas mewn cylchoedd. Felly, fe wnaeth staff WWH ail-drefnu. Trwy ddeall taith Sarah hyd yn hyn, roeddent yn sylweddoli, er eu bod yn gwybod popeth am y materion cyflwyno, y problemau, y cwynion, nid oeddent yn wir adnabod Sarah yn dda iawn - os o gwbl. Sut beth oedd bywyd, wrth edrych trwy lygaid Sarah? Aethon nhw ati i gael sgwrs gyda Sarah - dim ffurflenni, dim strwythur a dim agenda, gan feithrin cydberthynas a gofyn cwestiynau gwahanol. Siaradodd Sarah yn agored am ei bywyd cythryblus - nid oedd hyn yn wahanol, ond ar un adeg, fe wnaeth Sarah grybwyll amser yn ei phlentyndod nad oedd mor boenus; gofynnodd y staff am yr amser hwnnw:
Dywedwch ragor wrthym am hyn? Beth oedd yn gwneud i chi deimlo’n dda? ”
A oedd unrhyw adegau eraill a wnaeth i chi deimlo fel hyn, a wnaeth i chi deimlo’n hapus?”
Fe wnaeth amseroedd hapusach Sarah helpu i sefydlu dechreuadau ‘Beth sy’n Bwysig’. • “Dw i am deimlo’n ddiogel” • “Dw i am fod yn ardal X - rhywle dw i’n gyfarwydd ag ef” • “Dw i am fod gyda phobl eraill, a rhannu prydau a gweithgareddau gyda nhw” • “Dw i am fwynhau mynd allan, yn yr ardd” Fe wnaeth WWH archwilio opsiynau i helpu Sarah i gyflawni’r hyn oedd yn bwysig iddi. Roedd Penaethiaid Gwasanaethau yn amheus ar y dechrau, ond roeddent yn teimlo’n fwy sicr pan wnaeth staff rannu taith Sarah a beth oedd yn bwysig iddi. Fe gyflwynwyd Sarah i gynllun ymddeol a fyddai’n rhoi popeth a oedd yn bwysig iddi Roedd yn anodd ar y dechrau ac roedd yn cymryd amser i breswylwyr ymgyfarwyddo â Sarah, o fewn blwyddyn, fodd bynnag, roedd Sarah wedi setlo’n dda, roedd hi wedi datblygu perthynas dda gyda’r preswylwyr eraill. Fe ddaeth Sarah yn
(*mae enwau wedi’u newid)
drymach ac roedd yn llai cynhyrfus - mae hi hyd yn oed yn chwerthin nawr. Fe wnaeth newid y ffocws oddi ar y materion/problemau sy’n cyflwyno i ganolbwyntio ar yr unigolyn a ‘beth sy’n bwysig’ wedi dod â llawer o ddysgu ac eiliadau o oleuni i staff ar bob lefel. • Rhagdybiaethau staff mai dod ag ‘arbenigwr’ i mewn yw’r ateb • Nid oedd atgyfeiriadau/asesiadau o reidrwydd yn ateb i Sarah • Staff yn cymryd/yn cael amser i wrando • Dod yn well o ran gofyn cwestiynau da • Sgiliau gwrando gweithredol • Hyder wrth gael y sgwrs briodol • Deall y broblem gywir i’w datrys Roedd WWH yn sylweddoli efallai na fyddai’n gallu ‘datrys’ iechyd meddwl pobl, ond trwy ddeall beth sy’n bwysig i berson, ac yn eu helpu i wireddu eu nodau/ gweithredoedd, gallant ddatrys problemau rheoli. Wedyn gall hyn ddiffodd y galw am fethiant a bod yn gost effeithiol i’r busnes.
Adroddiad Blynyddol Hyb Cymorth ACE 2018 | 7
ADDYSG YSGOLION CRYF, CYNHWYSOL, SY’N WYBODUS AM DRAWMA Ein huchelgais yw i bob ysgol yng Nghymru fod yn gryf, cynhwysol ac yn wybodus am drawma, gan helpu plant i ffynnu a chael y dechrau gorau mewn bywyd. Rydym yn cefnogi hyn trwy ddarparu hyfforddiant i wneud amgylchedd yr ysgol yn ymwybodol o ACE, ac yna’n gallu ymateb yn hyderus i drawma, yn unol â nod Llywodraeth Cymru i sicrhau cynhwysiant, lles, ymddygiad a phresenoldeb disgyblion, gan gefnogi datblygiad yr ymagwedd ysgol gyfan.
Q
A
Hyd yn hyn, mae dros 309 o Lysgenhadon ACE (hyrwyddwyr ar gyfer gyrru agenda ACE ymlaen mewn ysgolion), athrawon ac arweinwyr ysgolion wedi’u hyfforddi, 140 o arolygwyr Estyn ac ymgynghorwyr her, a 95 o ‘Hyfforddwyr yr Hyfforddwyr’.
Mae hyn yn cael effaith sylweddol ar y sector, gan eu harwain i greu amgylcheddau mwy maethlon mewn ysgolion, gan drawsnewid prosesau i leihau gwaharddiadau a gwella lles. Mae plant yn teimlo’n hapusach, gan gael eu cynnwys a’u croesawu, â charedigrwydd a thosturi yn flaenllaw yn arferion ac ymddygiadau’r ysgol.
Ar ben hynny, mae Estyn wedi dechrau ymweld ag ysgolion ar gyfer adolygiadau thematig ar ymarfer sy’n wybodus am drawma, a fydd yn ysgogi newid systemau ymhellach ac yn ymgorffori diwylliant sy’n wybodus am drawma.
8 | Adroddiad Blynyddol Hyb Cymorth ACE 2018
YMARFER ACE: DISGLEIRIO GOLAU AR YSGOLION SY’N WYBODUS AM DRAWMA
YSGOL GYFUN PENCOED Yn ddiweddar, adroddodd Ysgol Gyfun Pencoed ym Mhen-y-bont ar Ogwr ostyngiad yn nifer y diwrnodau a gollwyd oherwydd gwaharddiadau.Yn ystod y flwyddyn ysgol yn syth ar ôl yr hyfforddiant, roedd hyn yn ostyngiad o 57% (ond efallai fod gwaharddiadau wedi bod yn y flwyddyncyn cwblhau’r hyfforddiant); y flwyddyn ddilynol mae’n 48%(o’i gymharu â diwrnodau gwahardd cyn yr hyfforddiant).
Mae Ysgol Gyfun Pencoed yn ystyried eu bod ar daith i ddod yn ysgol sy’n wybodus am drawma, ac maent yn cymryd holl staff yr ysgol gyda nhw. Maent yn teimlo bod yr hyfforddiant wedi cryfhau empathi, gwybodaeth broffesiynol ac arferion grŵp craidd o staff tuag at eu dysgwyr.
Mae Pencoed wedi sefydlu nifer o brosiectau ac arferion ochr yn ochr â’u hyder cynyddol fel ysgol wrth ymateb i anghenion dysgwyr yr effeithir arnynt gan ACE, gan gynnwys ffocws llawer cliriach ar adeiladu a chefnogi gwytnwch dysgwyr. Y newid mwyaf yw cryfhau’r tîm bugeiliol sydd wedi’i gynllunio ar gyfer mis Medi 2019, ynghyd â gweithredu’r Hyb Bugeiliol ’ar gyfer tymor yr haf. Bydd hwn yn ddrws troi ar gyfer disgyblion sydd, oherwydd materion bugeiliol (ACEs), yn ei chael yn anodd cyrchu’r cwricwlwm. Gall disgyblion gael eu hunan-gyfeirio neu gael eu cyfeirio gan y tîm bugeiliol. Mae pob un o ysgolion bwydo Pencoed a llywodraethwyr wedi’u dethol yn wybodus am ACE hefyd.
YSGOL GYN RADD LLW YN YR EOS
Mae Ysgol G ynradd Llwyn yr Eos yn Abe ysgol sy’n ar rystwyth yn ddangos ym agwedd ysgo gwneud peth l gyfan, ac sy au syfrdanol ’n ag adnoddau Mae ganddy cyfyngedig nt uned ymyr raeth â ffocw mewn carafá s ar y safle n sefydlog a gyllidir drwy ysgol, ac uned gyllideb yr synhwyraidd a gyllidir drw Mae llawer o y roddion. staff wedi gw eithio yn yr blynyddoedd ysgol ers lawer a wedi’u cyllido drwy’ Amddifadedd r Grant Disgyblion, ac maent yn iawn i gefnog ymroddedig i’r plant a’u teuluoedd yn sicrhau bod y gymuned i plant yn myn yc hu, yn cael eu yn cael y dech cefnogi ac rau gorau m ewn bywyd. Mae popeth ynghylch yr ysgol yn cano Mae’r staff yn lbwyntio ar ymwybodol les o’r sefyllfaoed plant yn eu hw d y mae’r ynebu – yr A CES cydnab ogystal â’r cy yddedig yn d-destun cym unedol ehan o’r ffactorau gach a rhai cymdeithasol heriol. Eleni hymdrechion , mae eu wedi cael eu cydnabod a’ gan arolygw u gwobrwyo yr Estyn a ro ddodd ‘rhag gyfer y catego orol’ iddynt rïau lles a ch ar efnogaeth a (mae pob ca chyfarwyddy tegori arall yn d dal yn dda!) yr hyn nad yw Serch hynny, ’r adroddiad yn ei ddweu bod gan eu he d o hyd yw thos a’u fford d wybodus o weithio dros drawma o yr 17 flynedd diwethaf, eu eu hymgysyllt cynhwysedd, u â rhieni a’r gymuned, yn gwaethaf cym golygu, er ryd plant wed i’u gwahardd wedi cael un , nid ydynt gwaharddiad yn y 17 mlyne pennaeth wed dd mae’r i bod yn ei sw ydd. Nid ydynt yn nodi’r rhai hy nny sy’n derb na phwy sydd yn gofal, wedi’u gwah ar dd o’r blaen; cynnwys yr ho maent yn ll blant yn yr hyn maent yn ac yn seilio’u ei wneud hymagwedd ar anghenio wrth galon. n y plentyn Mae’n enghra ifft wych o am ymatebol i dr gylchedd sy’n awma.
Adroddiad Blynyddol Hyb Cymorth ACE 2018 | 9
IEUENCTID CREU GWEITHLU IEUENCTID SY’N YMWYBODOL O ACE I GYMRU
Ar gyfer y sector gwasanaethau ieuenctid, nid yw egwyddorion a dysgu agenda ACE o reidrwydd yn newydd. Mae’r gweithlu hwn yn aml ar flaen y gad o ran delio â thrawma ac ymateb iddo, ac mae wedi cydnabod y cysylltiadau ers amser maith. Ein nod o fewn y sector hwn oedd codi ymwybyddiaeth o’r ymchwil ar ACEs er mwyn adeiladu ieithwedd ac ymagwedd a rennir tuag at ofal sy’n wybodus am drawma, a chreu cymuned a gweithlu sy’n ymwybodol o ACE. Mewn partneriaeth â’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, Cyfarwyddwr Theatr Jain Boon a Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS), mae Hyb Cymorth ACE wedi datblygu cwrs hyfforddi Ymwybyddiaeth o ACE am ddim i ymarferwyr sy’n gweithio mewn gwasanaethau ieuenctid a chyfiawnder ieuenctid ledled Cymru. Nod yr hyfforddiant yw cynyddu ymwybyddiaeth o ACE, eu heffaith ar ymddygiad a chynnig amrywiaeth o arfau i ymarferwyr wrth gefnogi gwytnwch ac hunan-reoleiddio, er mwyn galluogi staff i hyfforddi eraill. Mae ein grŵp cynghori gweithlu ieuenctid yn dod â mwy o fanylder i waith ieuenctid a’r gweithlu troseddau ieuenctid mewn perthynas â gwaith sy’n canolbwyntio ar ACE. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer y sector ac yn cefnogi’r hyb i ymgysylltu a chyfathrebu â’r sectorau hyn.
Mynychwyd diwrnodau hyfforddi gan 100 o gyfranogwyr (25 o bobl ym mhob sesiwn) ac reoddent wedi’u targedu at ystod o weithwyr proffesiynol ym maes gwaith ieuenctid o bob cwr o Gymru. Â gwybodaeth a hyder cynyddol, mae gweithwyr ieuenctid yn teimlo’n fwy galluog i ymgorffori egwyddorion ACE yn eu gwasanaethau.
10 | Adroddiad Blynyddol Hyb Cymorth ACE 2018
Mae gweithwyr ieuenctid yn teimlo eu bod yn cael mwy o werth a chydnabyddiaeth am eu profiad a’u gwybodaeth bresennol wrth gefnogi ACEs, ac maent yn teimlo bod gwybodaeth am ACEs wedi rhoi ieithwedd ac ymagwedd gyffredin iddynt at ofal sy’n wybodus am drawma ac awydd i gysylltu gwasanaethau ymhellach.
Roedd cyfranogwyr yn cael budd mawr o gael cyflwyniad i becyn cymorth er mwyn defnyddio’r hyn a ddysgwyd yn ymarferol i gymryd ymagwedd wybodus wedi’i seilio ar gryfder at ymateb i drawma. Y cam nesaf yw sicrhau bod derbyniad gan uwch reolwyr yn angenrheidiol i weithredu newid systemig sylweddol i sefydliad.
CHWARAEON ADEILADU GWYTNWCH A LLES MEDDWL MEWN UNIGOLION, A CHYMUNEDAU
Mae chwaraeon yn allweddol i adeiladu cymuned ar gyfer y rhai hynny a allai deimlo’n ynysig, a chefnogi gwytnwch a ffactorau amddiffynnol. Mae ymchwil ACEs yng Nghymru yn canmol yn benodol effaith chwaraeon ar gyfleoedd am gyfeillgarwch, manteision i iechyd meddwl a mynediad at fodelau rôl. Rydym wedi bod yn gweithio gyda nifer o Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol a phartneriaid allweddol ar draws y sector chwaraeon yng Nghymru fel Undeb Rygbi Cymru a Chwaraeon Cymru i atgyfnerthu ei rôl ymhellach wrth gefnogi pobl a bod yn gynhwysol er mwyn i bawb wireddu manteision cymryd rhan mewn chwaraeon, waeth beth yw eu gallu.
Diolch i’r awydd gan y sector chwaraeon i gysylltu ag agenda ACE, rydym wedi cyflwyno sesiwn ymwybyddiaeth o ACE i Chwaraeon Cymru Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac rydym wedi cyd-hwyluso hyfforddiant ar gyfer Gemau Stryd Cymru ac aelodau o gyrff llywodraethu cenedlaethol. Rydym wedi cynnal diwrnod ymwybyddiaeth o ACE ar y cyd ag Undeb Rygbi Cymru ar gyfer arweinwyr y sector chwaraeon a phartneriaid â buddiant i ddatblygu cydweithio o amgylch ACES, chwaraeon a gwytnwch.
Adroddiad Blynyddol Hyb Cymorth ACE 2018 | 11
TRAWSNEWID NEWID I SYSTEMAU Mae gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) rôl ganolog wrth yrru newid systemau fel y’i nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015). Sefydlwyd 19 BGC i ddod â sefydliadau lleol ynghyd a chryfhau’r ffordd maent yn cydweithio i wella lles y bobl ym mhob awdurdod lleol. Mae gan bob un o’r 19 BGC ACEs fel blaenoriaeth yn eu cynlluniau lles ac maent yn gwneud y newid o fod yn ymwybodol o ACE, i ymgorffori arfer sy’n wybodus am drawma.
Fe wnaethom gynnal digwyddiad cenedlaethol, a fynychwyd gan 60 o aelodau BGC o 14 BGC o bob cwr o Gymru. Yr amcan oedd eu cyflwyno i feddylfryd systemau er mwyn cymhwyso hyn at y ffordd maent yn ceisio cyflawni’r amcanion a nodwyd yn eu cynlluniau lles i fynd i’r afael ag ACEs.
ARFERION ACE: BGC SIR FYNWY Galluogodd y gwaith hwn i ni feddwl yn wahanol am yr hyn rydym yn ei wneud:
1
Ers hynny rydym wedi craffu’r effaith mae ein gwasanaethau cyfredol yn ei chael ar bobl a allai fod wedi profi Aces
2
Lle rydym yn gwybod bod gan bobl ACEs ac mae gennym wasanaethau ar waith, rydym wedi ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud i gysylltu pobl â’r gwasanaeth cywir ar yr adeg gywir? Fe wnath hyn ysgogi llawer o syniadau gwych ac yn lle gwasanaethau newydd, roedd yn ymwneud â gwasanaethau gwahanol, yn wybodus am drawma a dulliau gweithio gwahanol
3
This exercise was hugely helpful in the revolution happening in Monmouthshire at the bottom of the PSB page
12 | Adroddiad Blynyddol Hyb Cymorth ACE 2018
Yr hyn oedd yn fwyaf trawiadol oedd yr effaith y gall y gymuned gyfan ei chael wrth lliniaru a mynd i’r afael ag ACEs ac mae gennym gynlluniau i godi ymwybyddiaeth a lefelau sgiliau ar draws POB cymuned yn Sir Fynwy fel y gallant wneud gwahaniaeth (heb yr angen i gynnwys gwasanaethau)
“
Fe wnaethom dynnu ynghyd aelodau BGC a chymysgedd o arweinwyr strategol a gweithredol o bob rhan o’r sir i ‘ddigwyddiad meddwl systemau’ lle cawsom ein herio i gymhwyso lens ACE i’n dulliau presennol o weithio er mwyn ein helpu i ddatblygu cynllun cadarn ar gyfer mynd i’r afael ag ACEs yn lleol.”
DATGANIAD ARIANNOL Mae’r Hyb yn gyfrannwr allweddol o ran helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hymrwymiad i ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus sy’n ymwybodol o ACE, sy’n cymryd ymagwedd fwy ataliol at ACEs. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid am dair blynedd, sef cyfanswm o £1.2m ar gyfer sefydlu’r Hyb. 2018/19 oedd ail flwyddyn y cyllid hwn. Hefyd mae cyllid anuniongyrchol o £116k yn dod o Wasanaethau Iechyd a Cymdeithasol drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru.
£
£
£ £
£1.2 MILIWN ar gyfer sefydlu’r Hyb
Adroddiad Blynyddol Hyb Cymorth ACE 2018 | 13
SGILIAU A GWYBODAETH ACES: GWYBODAETH YW GRYM
Mae gan Gymru uchelgeisiau i fod yn arweinydd byd-eang o ran trechu, lliniaru ac atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs). Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i ni i gyd fod yn ymwybodol o ACEs, yr hyn maen nhw’n ei olygu i ni fel unigolion a phawb o’n cwmpas, a deall ein rôl unigryw wrth fynd i’r afael â hwy, yn ein bywydau proffesiynol a phersonol fel ei gilydd.
Mae ein ffrwd waith sgiliau a gwybodaeth yn datblygu o hyd, ac rydym wedi datblygu amrywiaeth o gynhyrchion i sefydliadau eu defnyddio yn eu gwaith, gan ddysgu o anghenion sectorau rydym yn gweithio gyda nhw a gwerthuso ein gwaith wrth i ni fynd ymlaen. Mae’r Hyb Cymorth ACE wedi cydgynhyrchu Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth a fydd yn helpu pawb yng Nghymru i ddeall ein rhan ni wrth drechu ac atal ACEs. ochr yn ochr â phrosbectws hyfforddiant ACE. Bydd yn ein helpu i herio ni ein hunain a meddwl “Beth alla i wneud yn wahanol?” ac adnabod yr hyn rydym eisoes yn ei wneud. Mae’r fframwaith
yn ymwneud â phawb, nid gweithwyr ac ymarferwyr ar y rheng flaen yn unig, wrth gefnogi pobl y mae trawma wedi effeithio arnynt, adnabod bod effeithiau ACEs yn eang a’u bod yn effeithio ar bobl o bob oedran ac o bob cefndir. Ein gweledigaeth ar gyfer Sgiliau A Gwybodaeth ACE yw iddi fod yn rhan o becyn cymorth sefydliad; cyfres o adnoddau sy’n cefnogi sefydliadau i ddod yn wybodus am ACE, neu i ddod yn fwy gwybodus am ACE.
EIN DYSGU Un o’r pethau gwych am fethodoleg werthuso Hyb ACE yw ei gallu i addasu, gan nodi’r angen i newid pan nad yw rhywbeth yn gweithio. Rydym yn symud i ffwrdd o hyfforddiant generig o blaid yr ymagwedd a arweinir gan y sector, ymagwedd fwy cynaliadwy o ddarparu hyfforddiant sy’n cael ei gyd-gynhyrchu gan y sector ac sy’n creu gweithgarwch gwella sy’n berthnasol i’w gwasanaethau a’r system maent yn gweithredu ynddi er mwyn ei ymgorffori’n llawn yn eu sectorau a’u sefydliadau.
ADDYSG
HYFFORDDIANT PATH TAI
• 1
Cydnabyddiaeth ACE
• 1
Sylfaen
• 2
Nodi trawma, ymateb yn briodol, datblygu gwytnwch
• 2
3-days
• 3
Ymagwedd PATH tuag at ddod yn ysgol sy’n wybodus am ACE
• 3
Y Tîm Rheoli
IEUENCTID
AMLASIANTAETHOL
• 1
Creu Gweithlu Ieuenctid sy’n Ymwybodol o ACE
• 1
Cyflwyniad i ACEs (Pecyn e-ddysgu) Dan ddatblyiad
• 2
Creu Hyfforddi’r Hyfforddwr i’r Gweithlu Ieuenctid sy’n Ymwybodol o ACE
• 2
Cyflwyniad Ymwybyddiaeth o ACE
• 3
1 diwrnod Gwybodus am ACE (Hyfforddi’r Hyfforddwr)
• 4
ACE-Medrus Dan Ddatblygiad
DIWYLLIANT AC ARWEINIAD
EGLURDER A HYDER
CYDNABYDDIAETH GWAITH DILYNOL A MONITRO AC YMATEB
• Egwyddorion ar gyfer sefydliadau sy’n wybodus am ACE
• Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth ACE
• Hyfforddiant / Dysgu Proffesiynol
• Archwiliad Sgiliau / Offer LNA
• Cynllun Gweithredu Cyflawni
• Pecyn cymorth parodrwydd
• Adolygiad gan gymheiriaid, monitro a gwella
• Hyfforddiant / Dysgu Proffesiynol
Adroddiad Blynyddol Hyb Cymorth ACE 2018 | 15
CYFATHREBU Mae ein hethos cyfathrebu bob amser wedi bod yn ymwneud â negeseuon cadarnhaol, parhaus, ysbrydoledig, ac ysgogol o amgylch ACEs a beth sy’n helpu i adeiladu gwytnwch, gan gipio momentwm y gwaith sy’n digwydd yng Nghymru.
Ym mis Mawrth 2019 yn unig, fe wnaeth
Rydym yn cyhoeddi, hyrwyddo ac annog cyfnewid gwybodaeth, ac rydym wedi creu mannau ar-lein i bobl gysylltu a rhannu. Trwy drosi tystiolaeth yn gynnwys y gellir ei rannu, rydym yn ymdrechu i helpu pobl a sefydliadau i ddysgu a deall sut olwg sydd ar sefydliadau sy’n ymwybodol o ACE ac sy’n wybodus am drawma.
o bobl wahanol fewngofnodi i’n safle. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae adnoddau o’n Hyb Gwybodaeth wedi cael eu lawrlwytho dros
GWEFAN Fe wnaethom lansio ein gwefan Hyb Cymorth ACE: www.aceawarewales.com ym mis Gorffennaf 2018. Naw mis ar ôl hynny, mae ein gwefan yn chwarae rôl hanfodol yng nghyfathrebiadau Hyb ACE.
4,565
5,000 o weithiau, mae ein Blog wedi dod yn un o’n tudalennau mwyaf poblogaidd, â thros
8,000
16 | Adroddiad Blynyddol Hyb Cymorth ACE 2018
o olygon.
EIN HEGWYDDORION
TWITTER Mae ein cyfrif Twitter yn chwarae rôl hanfodol wrth ledaenu a rhannu negeseuon sy’n ymwneud â’r gwaith sydd yn digwydd yng Nghymru. Mae dilynwyr yn teimlo ei fod yn gyfrif defnyddiol, cadarnhaol, ysbrydoledig ac ysgogol i’w ddilyn, â thwf anhygoel o 3,400 o ddilynwyr o fewn 12 mis* (*Cymerwyd o sampl a arolygwyd ym mis Hydref 2018.)
ADNODDAU
FACEBOOK Mae gan ein fforwm caeëdig ar Facebook 250 o aelodau o’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol. I lawer, mae’n lle i gysylltu ag unigolion eraill sy’n angerddol am fynd i’r afael ag ACEs yng Nghymru.
Mae galw cyson, uchel am adnoddau, fideo ac erthyglau gan nifer cynyddol o ymwelwyr â’r wefan. Ac mae cwmpas i wella o hyd, rydym am barhau i wella dyluniad ac ymarferoldeb, gan sicrhau bod ein gwefan yn brofiad mwy personol i’w hymwelwyr.
Rydym yn ddynol, yn gymdeithasol ac yn gymwynasgar
Rydym yn weledol, gan ddefnyddio delweddau a fideo i adrodd straeon ac adeiladu cysylltiadau emosiynol
DIGWYDDIADAU INSTAGRAM Rydym ar Instagram @acehubwales
Rydym wedi cynnal digwyddiadau ACE mewn Ymarfer ledled Cymru sydd wedi bod yn agored i’w mynychu ar draws sectorau ag agenda amrywiol a diddorol i weddu i bob angen. Fe wnaeth y digwyddiadau hyn ein helpu i arddangos effaith Hyb ACE trwy arddangos y sectorau rydym wedi gweithio ynddynt.
96% Yn ein digwyddiad CanolbarthGorllewin Cymru, roedd 96% o’r mynychwyr yn teimlo bod y digwyddiad wedi eu hysbrydoli i weithredu yn y dyfodol.
CYSYLLTIADAU CYHOEDDUS A’R CYFRYNGAU
Rydym yn dathlu straeon llwyddiant
Rydym yn siarad am faterion difrifol ond rydym yn optimistaidd ac wedi ein cyffroi y bydd newid
Rydym yn gadarnhaol, rydym yn ysbrydoli ac yn cymell
Sylw gan Good Morning Wales BBC Cymru - wedi ei neilltuo mwy nag 17 munud i ACE, gan gynnwys cyfweliadau byw gan Arweinydd ein Sector Addysg Sian Griffiths a Chyfarwyddwr yr Hyb, Jo Hopkins, ynghyd â chyfweliad wedi’i gyn-recordio gyda’r Athro Mark Bellis.
Rydym yn gynhwysol, gan adeiladu tîm, mudiad. Rydym yn dechrau sgwrs ac yn annog rhannu syniadau
CYNALIADWYEDD
1 Ymwreiddio dysgu ACE mewn cymwysterau gwaith ieuenctid a dysgu proffesiynol ar gyfer athrawon.
2 Byddwn ni’n parhau i archwilio cyfleoedd ehangach ar gyfer ymwreiddio dysgu am ACEs ac ymarfer sy’n wybodus am ACE trwy waith a gynlluniwyd i greu lleoliadau addysg uwch, addysg bellach ac ‘addysg a hyfforddiant ôl-16’ eraill sy’n ymwybodol o ACE.
3 Byddwn ni’n gweithio gyda meysydd polisi allweddol i ymwreiddio ACES yn y strategaethau hanfodol a Llywodraeth Cymru.
EDRYCH TUA’R DYFODOL Ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus yn lansio ym mis Mehefin 2019
Ymgysylltu â phrofiadau ehangach ymhlith cymunedau
Hyfforddiant a gyd-gynhyrchir gan y sector chwaraeon
Gwaith sector-benodol ag iechyd (GIG) a gofal cymdeithasol i nodi meysydd ffocws allweddol i gefnogi, ac alinio â datblygiadau allweddol ynghylch gwasanaethau integredig
18 | Adroddiad Blynyddol Hyb Cymorth ACE 2018
Gweithredu sefydliadau sy’n wybodus am ACE / Pecyn cymorthDod yn sefydliad sy’n wybodus am ACE
Arolwg sylfaenol cenedlaethol o fapio ymwybyddiaeth o ACE ymhlith gweithwyr proffesiynol
Ymagwedd integredig at ddatblygu’r sector addysg uwch/addysg bellach i fod yn wybodus am drawma a chefnogi datblygu sgiliau a chynnwys cyrsiau
Gwaith penodol i ACE i gryfhau gwaith i fynd i’r afael â phrofiadau anffafriol ym myd oedolion sy’n effeithio ar blant
Llywio polisi cyhoeddus a datblygu proses a gweithio gyda meysydd polisi allweddol i ymwreiddio ACES yn y strategaethau hanfodol a Llywodraeth Cymru
Digwyddiadau bord gron i ganolbwyntio ar symud y naratif o ymwybyddiaeth i newid sefydliadol a chymdeithasol
Hyb Cymorth ACE: Cysylltwch â ni ACE@wales.nhs.uk @acehubwales /acehubwales/ @acehubwales