Llawlyfr Capel Seion.

Page 1

LLAWLYFR YR EGLWYS

Capel Seion

DREFACH, LLANELLI

ARWEINYDD: Y BNR GWYN ELFYN LLOYD JONES B.A.


P ENNOD 1

Cyflwyniad Dathlwyd tri chanmlwyddiant ers sefydlu’r eglwys yng Ngapel Seion yn 2012. Mae’r llawlyfr yma yn gosod sail i weithgaredd yr eglwys ar gyfer y dyfodol.


Llawlyfr yr Eglwys

Capel Seion Drefach Llanelli Sir Gaerfyrddin SA14 7BN Argraffiad cyntaf: Ail argraffiad : Trydydd argraffiad: Argraffiad electronig:

2000 dan arweniad Y Parcheg. Emlyn Dole B.D. 2006 dan arweiniad Y Parcheg. Wilbur Ll Roberts 2013 dan arweiniad Gwyn Elfyn Lloyd Jones B.A. 2013 dan arweiniad Gwyn Elfyn Lloyd Jones B.A.

Mae`r awdur yn awyddus i`r aelodau ymateb wrth dynnu sylw at unrhyw wall neu gamgymeriad yn y llawlyfr neu wneud sylwadau ar ei gynnwys trwy nodi rhain yn yr adran nodiadau ar ddiwedd y llawlyfr a dychwelyd y daflen i`r awdur er mwyn diweddaru`r cynnwys. Darllener Arweinydd yn lle Gweinidog yn y llawlyfr yma. Rhif yr Elusen :

Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

248076

Y Bnr Gwyn Elfyn Lloyd Jones B.A. Arweinydd Capel Seion Eifionydd 30 Teras Caeglas Pontyberem Llanelli, Sir Gaerfyrddin. SA15 5AW 01269 870893 07970 410278 gwynelfyn@gmail.com

ii


Rhagair

Y Parchedig T. Elfyn Jones ( y diweddar )

Un ganllaw oedd i`r bompren i groesi afon Bargoed gerllaw fy nghartref bore oes. Dwy wers addysgais wrth ei chroesi oedd peidio ag edrych i lawr i`r afon yn enwedig ar adeg llifogydd rhag cael fy swyno, a`r llall oedd cofio bod y bont dderw yn llithrig ar ôl y glaw. Ond nid un ganllaw sydd yn Llawlyfr Capel Seion ond llawer, a rheiny yn gwneud pontydd yn ddiogel i`w croesi. Ac o`r braidd bod angen i mi enwi`r pontydd a`r canllawiau gan y byddwn fel aelodau yn darllen y Llawlyfr a`i ail ddarllen, gobeithio dro ar ôl tro. Y mae ei gynhyrchu wedi hawlio llawer o ddwys ystyried a myfyrdod gweddigar, a theg yw i`r arweinwyr ofyn am ymateb oddi wrthym ni oll. Ond da fydd inni gofio mai llawforwyn y Deyrnas Nefol yw`r Eglwys ar y llawr. Trai a llanw yw hanes yr Eglwys drwy`r canrifoedd, ond yr un yw`r Deyrnas o oes i oes. “ Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, gorfoledded y ddaear “ meddai`r Salmydd ganrifoedd yn ol. A`r un Arglwydd sydd wrth y Llyw heddiw. “ Mi wn i ” meddai Spurgeon, “ y gallai Duw achub y byd hebof fi, ond pan ddywedodd y cawn ei gynorthwyo, mi ganmolais ei Enw am y fraint ac am yr anrhydedd ” Er na feddem ddoniau disglair y pregethwr hwnnw, mae lle i ni gyd yn y Winllan. Peidiwn ag edrych lawr wrth groesi pontydd a gwyliwn rhag llithro. Fy mraint i yw cyflwyno`r Llawlyfr cynhwysfawr hwn i aelodau Capel Seion gan ddymuno y bydd yn dwyn bendith.

Medi 2000 ! !

!

!

!

!

!

!

!

!

!

iii


Gweddiwn

Y Parchedig D.M.Davies ( y diweddar )

Hollalluog a thragwyddol Dduw, ein Tad, a thad ein Harglwydd a`n Gwaredwr Iesu Grist, deuwn ger dy fron yn isel ac yn ostyngedig mewn gweddi. Diolchwn i ti fod yr “ orsedd fawr yn rhydd ac y gwrandewir llais y gwan ” Diolchwn i ti am yr Eglwys fyd-eang, corff Crist, ac am y fraint o gael bod yn aelodau ynddi hi. Gwna ni yn dystion gweithgar a chydwybodol ar hyd ein hoes. Llanw ni ag ysbryd i`th addoli gyda gwylder a pharchedig ofn. Gad i ni oll sydd ger dy fron ymdeimlo â`n rhwymedigaeth i gysegru ein bywyd a`i holl brofiadau yn llwyr i ti, fel na byddo i neb ohonom anturio ar hyd llwybrau newydd a dieithr heb dy arweiniad dwyfol. Ac yng ngeiriau yr emynydd : “ Teyrnasa dros ein daear oll, Myn gael pob gwlad i drefn. O! adfer dy ddihalog lun Ar deulu dyn drachefn ” Ac i Ti, yr unig wir Dduw, yn Dad , Mab, ac Ysbryd Glân, y byddo`r clod, yr anrhydedd, y gallu, a`r gogoniant trwy`r holl fyd, er mwyn Iesu Grist, ein Harglwydd a`n Gwaredwr. Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy enw. Deled dy deyrnas, gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd. Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol. A maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i`n dyledwyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth: eithir gwared ni rhag drwg. Canys eiddot Ti yw y deyrnas, a`r nerth a`r gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Mawrth 2000

iv


v


Cydnabyddiaeth

Mae’r diaconiaid a’r aelodau yn ddiolchgar i’r canlynol am eu cymorth wrth baratoi’r llawlyfr.

Y diweddar Barchedig Tudor Lloyd Jones am ei arweiniad. Siân Elfyn Jones am adolygu a chywiro. Mr. Gwyn Elfyn Jones, Mrs. Myfanwy Bowen, Mrs. Ann Thomas, Mr.Stephen Thomas, Dr. Michael Jones, Mr. Gareth Griffiths a Mr. Graham Lewis am adolygu a chynnig syniadau a sylwadau ar y drafftiau cynderfynol. Marged Griffiths am brosesu geiriau. Y diweddar Barchedig T.Elfyn Jones a`r diweddar Barchedig D.M Davies am eu cyfraniadau ac am adolygu`r gwaith gorffenedig.

vi


P ENNOD 2

Cefndir Er mwyn bod yn deilwng o’i galwedigaeth ac yn effeithiol yn ei gwaith y mae’n ofynnol i’r eglwys weithio o fewn fframwaith rheolau a threfn sefydliadol.


Yn ei gariad a’i ras gwelodd Duw yn dda i’n galw yng Nghrist yn

P ENNOD 2 Cefndir

weithwyr i’w Deyrnas. Nid heb ryfeddod yr ymglywodd neb â’r alwad hon yng Nghrist, a chofio am ei anghymwyster i’r fath dasg, ac nid llai rhyfeddod yw’r ffaith fod Duw yn ei Hollalluogrwydd yn defnyddio pobl, er eu holl ffaeleddau, i gyflawni ei waith yn y byd. Y mae a wnelo holl waith eglwys â’r awydd i geisio ymateb yn gadarnhaol i alwad Duw arnom, ac wrth berthyn i eglwys y mae pobl yn eu gosod eu hunain mewn man i gael eu defnyddio gan Dduw.

2.1 Cyflwyniad

2.6 Hanes Eglwys Capel Seion

2.2 Pwrpas y Llawlyfr

2.7 Strwythur Gweinyddu ac Atebolrwydd

2.3 Yr Eglwys Gynulleidfaol

2.8 Datganiad Cenhadaeth

2.4 Yr Annibynwyr

2.9 Cyfamod Eglwysig

2.5 Y Cyfundeb a`r Cwrdd Chwarter

2.1 Cyflwyniad Er mwyn bod yn deilwng o’i galwedigaeth ac yn effeithiol yn ei gwaith y mae’n ofynnol i’r eglwys weithio o fewn fframwaith rheolau a threfn sefydliadol. O ganlyniad i ymateb y Gymdeithas Genhadol a`r diaconiaid aethpwyd ati i lunio llawlyfr a fyddai’n gosod trefn ar ein gweithgareddau fel eglwys yng Nghapel Seion. Yn wyneb y ffaith fod cymaint wedi datblygu ar sail traddodiad ac arfer, y mae gwir berygl i wybodaeth ffeithiol am ein gweithgarwch fod yn beth coll. Gall hynny esgor ar anwybodaeth, a hynny maes o law, ar gryn dipyn o ansicrwydd wrth i’r naill genhedlaeth ddilyn y llall i arwain yr eglwys. Mae`r llawlyfr yn cyflwyno gwybodaeth am holl weithgarwch yr eglwys, gan fawr hyderu y bydd hynny `n gymorth i `r aelodau sy’n ymwneud â gwaith yr eglwys mewn unrhyw ffordd.Mae gan bob mudiad, sefydliad neu fusnes preifat gynllun gweithredu a rheoli sy’n gosod sylfaen a fframwaith adeiladol i’w gweithgareddau. Bwriad y llawlyfr yw casglu ynghyd holl adrannau’r eglwys sy’n cydweithio i gynnal y datganiad cenhadaeth er mwyn cyflwyno strwythur gweledol i’r hyn sy’n weithredol eisoes drwy gydweithrediad yr aelodau.

Y Parchedig Tudor Lloyd Jones

Nid yw’r pecyn yn anhyblyg o bell ffordd gan mai disgrifiad o’r eglwys heddiw ydyw: gall cynlluniau’r eglwys newid ac felly bydd cynnwys y llawlyfr yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru mewn cytgord â’r newidiadau hyn. Mae’r llawlyfr wedi’i anelu at aelodau o’r eglwys sy’n dewis ei ddarllen ond yn bennaf at ddarpar weinidogion, y diaconiaid a phenaethiaid adrannau o’r eglwys. Mae’r pecyn yn hwyluso’r broses o ddysgu am weithgareddau a dyletswyddau i unrhyw aelod o’r eglwys sy’n derbyn dyletswydd newydd neu wrth gwrs i unrhyw aelod sydd am ei astudio. Bydd y pecyn yn cael ei adolygu`n flynyddol trwy gydweithrediad â’r eglwys a’r penderfyniadau wneir o fewn pwyllgorau ac is-bwyllgorau a`u cadarnhau gan y Cwrdd Eglwys. Mae cydlynydd y llawlyfr yn ymddiheuro am unrhyw wall sy’n amlwg ac yn annog aelodau i gysylltu er mwyn diwygio, addasu neu gywiro’r cynnwys. Nid yw`r tudalennau wedi eu rhifo er mwyn hwyluso`r broses o ychwanegu at y llawlyfr yn flynyddol. Os dymunir copiau â phrint bras yna cysylltwch â`r awdur ac fe ddarperir copiau arbennig ar eich cyfer. Mae`n bosibl hefyd gwneud tapiau o`r cynnwys ar gyfer y rhai sydd eu hangen. Dr. W. Griffiths Chwefror 2013

8


2.2 Pwrpas y Llawlyfr

2.4 Yr Annibynwyr

Pwrpas y llawlyfr yw rhoi gwybodaeth i chi am y canlynol: -

Mae pob eglwys yn hunan lywodraethol. Yr awdurdod terfynol o fewn yr eglwys yw’r Cwrdd Eglwys. Mae pob pwyllgor ac is bwyllgor yn atebol i’r Cwrdd Eglwys lle mae’r aelodau wedi cyfarfod yn rheolaidd gan weddio am arweiniad Ysbryd Duw iddi wrth wneud ei phenderfyniadau.

1. Beth sy’n digwydd yn yr eglwys. 2. Pwy sy’n gyfrifol am beth. 3. Sut mae’r gwahanol elfennau o’r eglwys wedi eu trefnu. 4. Rhestr o’r diaconiaid a’u swyddi arbennig. 5. Rhestr o’r aelodau a’u dyletswyddau arbennig.

2.3 Yr Eglwys Gynulleidfaol I Gynulleidfaolwyr, cynulliad o bobl wedi dod ynghyd yn enw’r Arglwydd Iesu, o dan arweiniad yr Ysbryd Glân, i fyfyrio’r Ysgrythurau, yw’r eglwys. Y mae’n bod er mwyn Duw, i’w addoli a’i wasanaethu. Pa le, a phryd bynnag y daw’r gynulleidfa ynghyd y mae’r eglwys yno a’i holl aelodau yn gyd-radd â’i gilydd. Addewid ei Harglwydd yw sail ei bodolaeth. “Lle mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw, yno yr wyf yn eu canol.” Y mae’r gynulleidfa leol yn meddu ar nodweddion y wir eglwys ac o’r herwydd yn gyflawn ynddi hi ei hunan, o dan awdurdod Duw, ac yn atebol i Dduw yn unig. Gan mai eglwys gynulleidfaol ydyw y mae aelodaeth ohoni yn ddibynnol ar berthyn i’r gynulleidfa leol. Oni fyddo dyn yn perthyn i’r gynulleidfa ni fydd modd iddo mewn gwirionedd berthyn i’r eglwys.

Mae Eglwysi’r Annibynwyr mewn undeb â’i gilydd ac mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yno i gynorthwyo, cynghori ac arwain ond heb ymyrryd yn hunan lywodraeth yr eglwys leol. Mae’r Undeb yn pennu tâl aelodaeth o’r Undeb yn ôl rhif aelodau’r eglwys ac felly hefyd y mae’n pennu swm at y Drysorfa Gynorthwyol.

2.5 Y Cyfundeb a’r Cwrdd Chwarter Mae Capel Seion yn perthyn i Gyfundeb Dwyrain Caerfyrddin a Brycheiniog. Y mae rôl y Cwrdd Chwarter gyda’r Eglwys leol yn debyg iawn i’n cysylltiad â’r Undeb. Mae eglwysi’r Cyfundeb yn uno â’i gilydd ac yn barod i gynorthwyo, hyfforddi a chydweithio, ond nid yw’n ymyrryd yn yr eglwys leol. Disgwylir i’r eglwys gyfrannu tâl aelodaeth i’n Cyfundeb yn flynyddol. Mae’n Cwrdd Chwarter yn ddolen gydiol rhwng yr eglwys a’n Undeb. Bydd y Cwrdd Chwarter yn cyfarfod bob chwarter ac yn symud o amgylch y Cyfundeb i gynnal eu heisteddiad. Mae’r Gynhadledd yn agored i holl aelodau rheolaidd Eglwysi’r Cyfundeb. Disgwylir y Gweinidog a dau gynrychiolydd o leiaf o bob eglwys i fod yn bresennol. Bydd hawl gan bawb a fo’n bresennol i bleidleisio.

9


2.6 Hanes Capel Seion

2.7 Strwythur Gweinyddol ac Atebolrwydd Capel Seion

Crynodeb o Bennod 5.0 Gellir olrhain gwreiddiau eglwys Capel Seion drwy eglwys Panteg (Felin-wen) i gynulleidfa o bobl perthynol i hen eglwys Sir Gaerfyrddin a aferai rhai addoli o dan arweiniad Apostol y Sir, Stephen Hughes, yn Ogof Cwmhwplin, yn ardal Pencader, rhywbryd wedi 1662. Yn 1712 yr adeiladwyd y capel anghydffurfiol cyntaf ym mhlwyf Llanddarog a’i enwi’n Seion. Mae’n debyg mai fel gorsaf bregethu mewn perthynas â Phanteg y codwyd y lle yn gyntaf a gweinidogion y lle hwnnw a wasanaethai’r gynulleidfa. Bu addoli yn yr ardal cyn codi capel, wrth gwrs, ond yn wyneb erledigaeth o du’r Eglwys Wladol gorfodwyd y gynulleidfa i addoli yn y dirgel. Bu gan yr eglwys nifer o fannau yn ardal Mynydd-cerrig a Chapel Seion i ymgynnull ynddynt. Dichon mai’r mwyaf hysbys yw hen goeden dderw ar dir y Clos Isa’. Yn 1714 y corfforwyd Seion yn eglwys. Aelodau a ryddhawyd o Banteg oedd y gynulleidfa gyntaf. Nid rhyfedd, a chofio mai hi yw’r eglwys anghydffurfiol hynaf yn y fro, iddi ddod yn fam eglwys Annibynwyr yr ardal, er i hynny ddigwydd mewn ffordd anuniongyrchol.

ADRAN STRATEGOL

Cwrdd Chwarter

Yr Undeb

Bu dwy gangen mewn perthynas â’r eglwys, sef Nebo, Mynydd-cerrig a Hebron, Drefach. Ysgolion Sul a gynhaliwyd ynddynt gan fwyaf er iddynt weld cryn ddefnydd fel canolfannau cymdeithasol. Daeth einioes Nebo i ben yn 1999 wedi 103 o flynyddoedd. Deil Hebron, sydd mewn man cyfleus yn y pentre’ i wasanaethu’r eglwys a’r gymuned yn gyffredinol. (Am fraslun o hanes yr eglwys gweler y llyfryn, Hanes Capel Seion, Gwilym Evans - 1981 a phennod 5.1 )

Cwrdd Eglwys

Aelodau Capel Seion

Cwrdd Diaconiaid

Y Weinidogaeth

ADRAN WEITHREDOL

Is-bwyllgorau

Adrannau

Gofal Arbennig

Adeiladau

Yr Ysgol Sul

Coleg Aberystwyth

Y Gymanfa

Y Chwiorydd

Ysgol Sul y Plant

Y Fynwent

Yr Ieuenctid

Cymorth Cristnogol

Bugeiliol

Y Clwb Plant

Ymddiriedolwyr

Y GymdeIthas Genhadol

Y Gymanfa

Anghydfod diwinyddol a barodd i rai aelodau ymadael yn 1800 i sefydlu Bethania, Y Tymbl Uchaf. Drwy’r eglwys honno y daeth eglwysi Annibynol canol Dyffryn Gwendraeth Fawr i fodolaeth.

Yn cynnwys llinellau atebolrwydd

Swyddi Arbennig

Oedfaon

Gwasanaethau

Gofalwr

Cyhoeddus

Bedydd

Y Capel

Y Cymundeb

Priodas

Hebron

Oedfa’r Plant

Angladd

Diolchgarwch Nadolig Sul Y Pasg Cyrddau Mawr Y Gymanfa

10


2.8 Datganiad Cenhadaeth

Ein cenhadaeth yw esbonio ac ehangu teyrnas Dduw yn ardal y Mynydd Mawr yng Nghwm Gwendraeth trwy fywyd a thystiolaeth pobl Dduw yng Nghapel Seion.

d)

Eiriol ar ran y byd.

dd)

Ymgysegru ein hunain o`r newydd iddo.

Yn y capel ceir: a)

Llonyddwch.

b)

Distawrwydd.

Eglwys Gristnogol yw Capel Seion wedi ei galw i fodolaeth gan Dduw, i’w addoli. Unig amcan yr eglwys yw dwyn gogoniant i enw Duw.

c)

Hamdden.

ch)

Ymdeimlad o Ysbrydolrwydd.

Cred yr eglwys fod Duw wedi ei charu yng Nghrist, a’i fod yn rhinwedd y cariad hwnnw wedi maddau pechodau, clirio cydwybod a dileu euogrwydd.

d)

Paratoad a chymorth i addoli.

Ar sail y cariad hwn y dynesa Cristnogion gerbron Duw, gan lwyr gredu mai ewyllys Duw yw eu cael yn eiddo iddo, ac mai eu braint yw cael ymateb yn gadarnhaol i gariad Duw yn Iesu Grist. I Gristnogion, y mae’r Beibl yn Ysgrythurau Sanctaidd, sy’n cynnwys Gair Duw. Y mae Duw yn llefaru ynddo a thrwyddo. Y Beibl yw ffynhonnell ein gwybodaeth am Dduw a’i ymwneud â dynion. Ynddo y dysgwn am Iesu a chlywed ei efengyl. Y mae efengyl Iesu Grist yn newyddion da, nid yn unig i’r Eglwys, ond drwy’r eglwys, i’r byd ac yn foddion i waredu’r byd o’i bechod, a’i ddwyn i’r bywyd sydd yng Nghrist. Braint yr eglwys yw cael cyhoeddi’r newyddion da i’r byd a cheisio yn nerth yr Ysbryd Glân ddwyn tystiolaeth i waith achubol Duw yn Iesu Grist. Cred yr Eglwys mai yn Iesu Grist yn unig y mae bywyd yn bosibl i’r unigolyn a’r gymdeithas.

Yn yr addoliad ceir: a)

Croeso i’r addoliad a gwahoddiad i addoli.

b)

Cwmni a chymdeithas addolwyr eraill.

c)

Moliant - Emynau Traddodiadol/Clasurol o’r Caniedydd/Caniedydd yr Ifanc.Caneuon Ffydd.

ch)

Darlleniadau o’r Ysgrythurau o’r Beibl Cymraeg Newydd.

d)

Arweiniad mewn gweddi a chyfle i gyd-weddio Gweddi’r Arglwydd.

dd)

Pregethu`r Efengyl.

e)

Cyhoeddiad o ddigwyddiadau perthynol i’r eglwys ac i’r gymuned

Credir fod yr oedfa yn: a)

Galluogi’r gynulleidfa i ddynesu gerbron Duw yn addolgar.

Am hynny, ceir yng Nghapel Seion:

b)

Galluogi’r gynulleidfa i ymdeimlo â phresenoldeb Duw.

Addoliad Cyhoeddus er mwyn:

c)

Cadarnhau’r gynulleidfa yn eu ffydd a’u cred.

ch)

Adeiladu cymuned Gristnogol.

a)

Sylweddoli “trugareddau Duw” drachefn a thrachefn.

d)

Cymhwyso’r addolwyr ar gyfer bywyd y deyrnas yn y byd.

b)

Cydnabod ein dyled a’n diolch iddo.

dd)

Annog yr addolwyr i ymarfer eu ffydd yn feunyddiol.

c)

Moliannu a sancteiddio ei enw.

ch)

Cyffesu ein pechodau a deisyf maddeuant.

11


Wedi’r oedfa, disgwylir i’r addolwyr ddwyn gogoniant i Dduw a thystiolaeth i’r efengyl, trwy: a)

Feithrin defosiwn ac addoliad personol.

b)

Fyw bywyd llawn o weithredoedd da, Crist tebyg.

c)

Berthyn i fudiadau dyngarol ac elusennol.

ch)

Gefnogi pob dim da a dyrchafol yn y gymuned.

d)

Ddwyn dimensiwn ysbrydol/Cristnogol i’w fywyd personol, teuluol a chymunedol.

Y nod yw: a)

Gogoneddu Duw.

b)

Helaethu Teyrnas Dduw.

c)

Dwyn pobl i’r bywyd Cristnogol.

ch)

Adeiladu’r Eglwys.

d)

Gwella a iachau’r byd.

“Am hynny, yr wyf yn ymbil arnoch, frodyr (a chwiorydd), ar sail tosturiaethau Duw, i’ch offrymu eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw. Felly y rhowch iddo addoliad ysbrydol.” Rhuf. 12;1. Ein cenhadaeth yw esbonio ac ehangu teyrnas Dduw yn ardal Gwendraeth trwy fywyd a thystiolaeth pobl Dduw yng Nghapel Seion. Rydym yn esbonio bywyd trwy, 1. Ein cydaddoliad a`n ysbryd unigol. 2. Ein brawdoliaeth a’n gweithgareddau cymdeithasol.

Egwyddorion ein credo, 1. Datganiad o ffydd

Beth rydym yn credu

2. Datganiad o gyfamodi

Sut rydym yn bwriadu byw Atodiad 1

3. Cyfansoddiad

Sut rydym yn gweithredu

Atodiad 6

Egwyddorion Arweiniol, 1. Y bwriad i arloesi yn hytrach na sefyll yn llonydd. 2. I ddewis a dilyn y gorau o draddodiadau’r eglwys. 3. I fod yn ymddiriedolwyr a gofalwyr o’r neges Gristnogol.

Rydym yn ehangu ein tystiolaeth trwy, 1. Ddatblygu aelodaeth trwy gymell pobl newydd i’r eglwys. 2. Gadw’r aelodaeth presennol.

4. I ddatgan ein gonestrwydd wrth gyfathrebu neges Duw. 5. Y bwriad i gynnal eglwys yn y modd gorau posib. 6. I estyn allan i’r gymuned

12


2.9 Cyfamod Eglwysig Er nad os gennym fel Annibynwyr gyffes ffydd, eto yr ydym wedi ffurfio cytundebau neu gyfamodau a byddai cynulleidfaoedd yn aml yn cyd adrodd y cyfamod. Dyma dalfyriad o un o gyfamodau pwysicaf yr ail ganrif ar bymtheg. “Gwnawn yma gyfamod difrifol â’n gilydd” 1. Y bydd inni yn wastadol gydnabod a chyffesu Duw fel ein Duw ni yn Iesu Grist. 2. Y bydd inni ymdrechu hyd eithaf ein gallu, - a gras Duw yn ein cynorthwyo, i rodio yn Ei ffyrdd a’i ordeiniadau Ef yn ôl ei air ysgrifenedig Ef - unig reol digonol bywyd da i bob dyn. 3. Y bydd inni o gariad cywir fod ar ein gorau i wella a chryfhau ein cymundeb â’n gilydd, gan gynghori, ceryddu, cysuro, cynorthwyo a dioddef ein gilydd mewn amynedd ac ymostwng bob amser i lywodraeth Crist yn Ei eglwys. 4. Y bydd inni ymroi i gadw’r cyfamod hwn, nid yn ein nerth ein hunain, ond yng ngrym Crist. Ni chyfyngwn ein hunain chwaith i eiriau y cyfamod hwn, eithr ein dyletswydd bob amser fydd derbyn pob goleuni a gwirionedd pellach a ddatguddir i ni yng Ngair Duw.

13


P ENNOD 3

Adran Strategol Duw sy’n gwaredu ei bobl yw ein Duw ni. Yn ôl yr Ysgrythur fe’n hetholwyd yng Nghrist cyn seilio’r byd er clod i’w ras gogoneddus.


3.1 3.2 3.3 3.4 3.5

P ENNOD 3 Adran Strategol

Ein Ffydd Aelodaeth Cwrdd Eglwys Diaconiaid Y Weinidogaeth

3.1.2 Yr Addunedau A ydych yn cyffesu fod Iesu Grist yn Waredwr ac yn Arglwydd eich bywyd?

3.1 Ein Fydd

A ydych yn addo ufuddhau i ewyllys Duw a byw yn ôl ei Air tra byddwch byw? A ydych yn cyfamodi â ni yn yr eglwys hon i gyflawni eich dyletswyddau fel aelodau, ac yn addo dwyn tystiolaeth mewn gair a gweithred i Iesu Grist?

3.1.1 Datganiad Duw sy’n gwaredu ei bobl yw ein Duw ni. Yn ôl yr Ysgrythur fe’n hetholwyd yng Nghrist cyn seilio’r byd er clod i’w ras gogoneddus. Credwn iddo ein hatgenhedlu i fywyd newydd a’n trosglwyddo i deyrnas ei Fab, ei waith Ef ydym. Sail parhad yr Eglwys yw gweithgarwch yr Ysbryd Glân yn galw pobl, gan eu donio â ffydd, fel y bydd ym mhob cenhedlaeth dystion i rym ei gariad. O’u gwirfodd mynegodd y cyfeillion hyn eu bwriad i fyw y bywyd Cristionogol a’u hawydd i ymuno â phobl Dduw. Trwy arwydd a sêl bedydd daethant yn gyfranogion o’r cyfamod gras ac yn aelodau o deulu’r ffydd. Gan iddynt gael eu meithrin gan yr Ysbryd Glân deuant yn awr i gyffesu eu ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist, i gyfamodi â ni yn yr eglwys hon, ac i dderbyn braint a chyfrifoldeb cyflawn aelodaeth o Eglwys Crist.

15


3.2 Aelodaeth

3.2..2 Rôl a Chyfrifoldebau’r Aelodaeth 3.2.1 Proffil

I ymrwymo i ddysgeidiaeth yr Arglwydd.

3.2.2 Rôl a Chyfrifoldebau

Ymrwymiad i garu a gofalu am ein cydaelodau.

3.2.3 Dyletswyddau Bugeiliol a Rheoli

I rannu cyfrifoldeb yn nhrefniadau’r eglwys.

3.2.4 Ffrindiau i’r Achos

Presenoldeb yn ein hoedfaon.

3.2.5 Cyfarwyddiadau i’r Aelodau

Ymrwymiad ariannol i’r eglwys.

3.2.6 Trefn Derbyn Aelodau Newydd

3.2..3 Dyletswyddau Bugeiliol a Rheoli 3.2.1 Proffil Henuriaid Yng Nghapel Seion mae 194 (Hydref 1999) o aelodau, yn bennaf o bentrefi Drefach, Mynydd Cerrig, Capel Seion a Chwm Mawr a phentrefi cyfagos yn nghylch y Mynydd Mawr ym mhen uchaf Cwm Gwendraeth. Ardal ôl ddiwydiannol, ddifreintiedig â chanran uchel o ddiweithdra ydyw.

Ysgol Sul:

Cyfanswm - 30

Ieuenctid:

Cyfanswm - 9

Mynychu Oedfaon: Cyfanswm – 70

1. Dysgu

1 Timotheus .3:2 / 3:5 / 2:24 / 4:11,13

2. Bugeilio a Chwnsela

Titus 3:9 1 Pedr 5:2 Actau 20:28

3. Amddiffyn

Titus 3:9,10,11 Actau 20:29-31

4. Arwain

Hebreaid 13:17

5. Llywodraethu

1 Timotheus 5:17

Diaconiaid

Rhennir yr aelodau i ddosbarthiadau arbennig.

Galwedigaeth bwysig a difrifol yw bod yn ddiacon, a phrif amcan ethol diaconiaid yw sicrhau personau ymroddedig a duwiol i gynorthwyo yn y gwaith o hyfforddi a bugeilio a threfnu.

Mae pob un o`r dosbarthiadau dan ofal un o`r diaconiaid.

Aelodau etholedig y Cwrdd Eglwys sy’n gyfrifol i’r eglwys am “Goruchwilio trefniadau ymarferol yr eglwys o ddydd i ddydd”

Actau 6:1-7

Dosbarth A Ardal Mynyddcerrig, Bancffosfelen, Pontyberem. Dosbarth B Ardal Capel Seion, Porthyrhyd, Llanddarog. Dosbarth C Ardal Heol Afallon, Mary Street, Heol Ddu. Dosbarth D Ardal Bron yr Ynn, Uwch Gwendraeth, Cwmmawr. Dosbarth E Ardal Heol Blaenhirwaun, Caegwyn Dosbarth F

Ardal Brynglas, Crosshands

Arweinwyr Grwpiau Arbennig Mae’r arweinwyr yma yn gyfrifol i’r eglwys am y canlynol. 1. Gofalu

Er budd i agweddau cymdeithasol ac ysbrydol yr aelodau.

2. Trefnu Trefnu’r gwahanol weithgareddau mewn cydweithrediad. 3. Gwybodaeth Anghenion arbennig yn cael eu cyflwyno i’r diaconiaid. e.e. Ymweld â’r cleifion a.y.y.b. Timotheus 2.2:2

Gweler Adran Dyletswyddau am enwau`r diaconiaid

16


3.2..4 Ffrindiau i’r achos Ffrindiau sy’n cyfrannu yn ariannol ac yn presenoli eu hunain yng ngweithgareddau’r eglwys yn achlysurol.

1. Bydd angen i unrhyw un sydd am ymaelodi dderbyn ei baratoi naill ai trwy gyrddau paratoad arferol neu trwy i’r gweinidog ei gyfweld gan ddisgrifio’r amodau a’i dderbyn mewn cymundeb. 2. Disgwylir i bob aelod bresenoli ei hunan yn yr oedfaon yn gyson.

3.2..5 Cyfarwyddiadau i’r Aelodau - Chwefror 2013 1. Disgwylir i bob aelod ddefnyddio amlenni i holl gasgliadau’r eglwys. Nid oes cyfrif ar unrhyw gyfran ar wahân i hynny. 2. Ni fydd yr Ysgrifennydd Ariannol yn gyfrifol am unrhyw wall yn y cyfrifon, drwy esgeulusdod aelodau yn defnyddio amlenni ei gilydd, neu amlenni o’r flwyddyn cynt. 3. Os dymunir gall aelodau gyfrannu i’r eglwys yn fisol drwy wneud trefniant â’u banc i drosglwyddo arian mewn ffurf ‘Bankers Order’. Os am fanylion pellach ymgynghorwch â’r trysorydd. 4. Disgwylir i bob aelod gyfrannu £100 o leiaf cyn y caiff freintiau llawn yr eglwys, os bydd heb gyfrannu tuag at drysorfa’r eglwys yn ystod y flwyddyn bydd y cyfryw yn di-aelodi ei hun, oni fydd amgylchiadau arbennig. 5. Awgrymir yn garedig i aelodau a symudant i eglwysi eraill, y disgwylir iddynt, cyn cael ‘Llythyr Aelodaeth’ oddi wrth yr Ysgrifennydd Gohebol fod wedi gwneud eu rhan yn rhesymol, os yn eu gallu, i gyflawni eu rhwymedigaeth ariannol at yr eglwys.

3. Dylai pob aelod fod yn barod i wasanaethu yn yr eglwys yn ôl y ddawn a’r gallu a roddwyd iddo. Nodiadau:

Pwynt 9 : 1998 Argymhelliad ar gyfer ei ychwanegu.

3.2.6 Trefn Derbyn Aelodau Newydd Derbyn o had yr Eglwys Yr arfer yw i`r gweinidog siarad â rhieni yr ifanc yn gyntaf, yna siaradâ`r rhai ifanc i`w cymell i ymaelodi. Os ceir ateb cadarnhaol dylid trefnu cynnal cyfres o ddosbarthiadau iddynt i sôn am hanes yr Eglwys, trin yr Ysgrythurau, egluro`r Ffydd Gristnogol a phwysleisio ystyr a braint bod yn aelodau o Gorff Crist. Mewn eglwys ddifugail dylid cymell diacon neu aelod cymwys i gyflawni`r gwaith. Derbyn aelod trwy lythyr Arferir derbyn aelod trwy lythyr o eglwys arall a gellir derbyn oedolyn heb lythyr. Y mae`r cais am ymaelodi yn warant o ddilysrwydd yr ymgeisydd.

6. Pan fydd marwolaeth dymunir ar i’r perthnasau ymgynghori â’r Gweinidog cyn trefnu amser yr angladd. 7. Awgrymir eto yn garedig ar i unrhyw un a wyr am afiechyd ymhlith aelodau’r eglwys wneud y peth yn hysbys i’r gweinidog neu un o’r swyddogion fel y gellir ymweld â hwynt heb golli amser. 8. Disgwylir i bob aelod gyflawni ei addewid tuag at yr eglwys erbyn, neu cyn y Sul olaf o’r flwyddyn, er mwyn hwyluso gwaith yr Ysgrifennydd Ariannol o fantoli cyfrifon yr eglwys a chyflwyno’r adroddiad yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

17


3.3 Cwrdd Eglwys 3.1.1 Rôl a Chyfrifoldebau

3.3.1 Rôl a Chyfrifoldebau 1. Pan fydd angen Cwrdd Eglwys dylid hysbysu’r Eglwys o’r dyddiad gan ei gyhoeddi o leiaf ddau Sul cyn y dyddiad. 2. Dylid hysbysu’r eglwys yn fras o’r hyn y dymunir ei drafod e.e. Y Fynwent, Cyflog Gweinidog, Amserau’r Oedfaon, a.y.y.b. 3. Os bydd aelod am godi mater hollol wahanol a newydd yn ystod cwrdd eglwys yna dylid ei hysbysu y derbynir ei gynnig fel rhybudd gynigiad i’w drafod yn y Cwrdd Eglwys nesaf. Fe fydd hynny’n rhoi amser i’r diaconiaid a phob aelod gael amser i feddwl ac ystyried y rhybudd gynigiad.

4. Yr hyn a wna Cwrdd Eglwys yw ceisio, yn weddigar, ewyllys yr Arglwydd, ac ymateb yn gadarnhaol i’r hyn fydd yn rhyngu bodd Duw. Nodiadau :Nid yw’r Cwrdd Eglwys yn gynrychioliadol o’r aelodaeth gan mai canran fechan o thua 10% gan amlaf sy’n mynychu’r Cwrdd Eglwys.

18


3.4 Diaconiaid

2.4.1 Rôl a Chyfrifoldebau Aelodaeth 2.4.2 Cwrdd Diaconiaid Gweler Cyfres y Genhadaeth Gartref

Pan fo gweinidog wedi ymddeol yn ymaelodi yn y capel yr arferiad yw rhoi iddo/ iddi’r teitl o Ddiacon Anrhydeddus. Er nad oes unrhyw ‘awdurdod’ i’r swydd mae’r cyfryw ‘ar gael’ pan fo angen ei gymorth a’i gyngor.

1. Bod yn Gristion

Henuriaid

2. Bod yn Ddiacon

Mae’r haen yma yn ymestyniad o’r drefn bresennol ac yn anrhydeddu diaconiaid am ystod helaeth eu cyfraniad tuag at yr eglwys.

3. Trefnu Oedfa 4. Bod yn Swyddog Eglwys 2.4.3 Ymddiriedolwyr

3.4.1 Rôl a Chyfrifoldebau • Dewisir diaconiaid o blith aelodau’r capel yn ôl y drefn gan y Cwrdd Eglwys. • Mae pob un a ddewisir yn ddiacon ac sy’n derbyn y swydd yn un o’r ymddiriedolwyr hefyd. • Dylid gwneud hyn yn glir i’r gynulleidfa wrth ethol diaconiaid. • Rhaid ‘gwneud’ y person yn ymddiriedolwr dan gyfarwyddyd cyfreithiwr. • Y mae’r diaconiaid yn atebol i’r Cwrdd Eglwys. Prif ddyletswyddau’r Diaconiaid yw: 1. Dysgu

1 Timotheus 3:2 / 3:5 / 2:24 / 4:11,13

2. Bugeilio a Chwnsela

Titus 3:9 1 Pedr 5:2 Actau 20:28

3. Amddiffyn

Titus 3:9,10,11 Actau 20:29-31

4. Arwain

Hebreaid 13:17

5. Llywodraethu

1 Timotheus 5:17

Prif gyfrifoldebau’r henuriaid : Gweler Diaconiaid uchod. Ni ddisgwylir i’r henuriaid ymgymeryd â dyletswyddau beichus yr eglwys ond yn hytrach canolbwyntio ar gwnsela a chynghori ar faterion o bwys i’r eglwys trwy’r diaconiaid. 3.4.2 Cwrdd Diaconiaid Bwriad: - Cynhelir cwrdd diaconiaid misol, neu yn amlach, yn ôl y gofyn. Y diaconiaid sy’n gyfrifol am roi arweiniad i’r eglwys. Mae swydd diacon yn anrhydeddus ac y maent i ofalu am fuddiannau`r eglwys a rhoddi arweiniad daionus i`w cyd-aelodau Trafodir a gwyntyllir pob mater sydd yn ymwneud â’r eglwys gan y diaconiaid yn eu cyfarfodydd ac ar ddymuniad yr eglwys i adrodd canlyniad eu trafodaethau yn ôl i`r eglwys Cyflwynir y materion hyn i’r eglwys naill ai yn ystod y cyhoeddiadau, cyfarfod y Gymdeithas Genhadol neu gan amlaf yn y Cwrdd Eglwys. 3.4.3 Ymddiriedolwyr Yn enw’r ymddiriedolwyr y delir pob eiddo, ‘yn gyfreithiol’. Rhaid ‘gwneud’ pob ymddiriedolwr trwy gyfarwyddyd cyfreithiwr. 1. Diaconiaid yr Eglwys. Gweler Ymddiriedolwyr – Atodol 8.0 Dyletswyddau Un bleidlais sydd gan yr Undeb fel pob ymddiriedolwr arall.

“Goruchwilio trefniadau ymarferol yr eglwys o ddydd i ddydd” Actau 6:1-7

Rhydd eu presenoldeb yr hawl i Capel Seion i ddefnyddio rhif y Comisiwn Elusennau sydd gan yr Undeb. Rhif Elusen: 248076

1. Gofalu

Er budd agweddau cymdeithasol ac ysbrydol yr aelodau.

2. Trefnu

Trefnu’r gwahanol weithgareddau mewn cydweithrediad â’r aelodau.

3. Gwybodaeth

Anghenion arbennig yn cael eu cyflwyno i’r diaconiaid.

Diaconiaid Anrhydeddus

19


3.5 Y Weinidogaeth

8. Bydd y disgrifiad swydd a chytundeb cyflogaeth yn cael ei adolygu yn dilyn trafodaethau rhwng y gweinidog a diaconiaid yr eglwys.

• Darllener arweinydd yn lle gweinidog. 2.5.1 Rôl a Chyfrifoldebau 2.5.2 Dyletswyddau’r Weinidogaeth Adolygir y Disgrifiad Swydd a Chytundeb Cyflogaeth yn flynyddol.

3.5.2 Dyletswyddau’r Weinidogaeth: 1. Y gweinidog fydd Llywydd y Capel a Chadeirydd y Cwrdd Eglwys. Penderfyniad yr is-bwyllgorau fydd ethol eu swyddogion.

3.5.1 Rôl a Chyfrifoldebau: Gweinidog i Grist yng Nghapel Seion, Drefach. Disgrifiad Swydd. Ni fydd y disgrifiad yma’n berthnasol i weinidog a ‘gyflogi’r’ ar ffurf gontract Gweler y ddogfen perthnasol sydd gan yr ysgrifennydd 1. Mae’r swydd yn un rhan amser. 2. Bydd Capel Seion yn gyfrifol am dalu: • Cyflog. • Lwfans Tŷ`. • Unrhyw gostau ynglyn â gwaith y weinidogaeth ar ran y Capel. • Cyfran y Capel tuag at gynllun pensiwn. 3. Telir y gyflog yn llawn, llai Yswiriant Cenedlaethol, a Thâl Salwch Statudol, yn ystod unrhyw gyfnod o salwch byr.

2. Bydd rhyddid gan y gweinidog i bregethu’r efengyl yn ôl ei ddehongliad ei hun. 3. Bydd y gweinidog yn gyfrifol am holl wasanaethau’r capel. 4. Y gweinidog fydd â’r cyfrifoldeb o arolygu pob gwaith bugeiliol sy’n gysylltiedig â’r capel. 5. Bydd y gweinidog yn cael ei annog a’i gefnogi i ychwanegu at ei addysg ôlraddol yn ystod ei weinidogaeth. 6. Bydd y gweinidog yn datblygu a chyfarwyddo strategaeth yr eglwys mewn cydweithrediad â’r eglwys a swyddogion yr eglwys. 7. Bydd angen datgelu diddordebau ariannol a diddordebau heb fod yn rhai ariannol yng nghyfarfod blynyddol y diaconiaid. Gweler Disgrifiad Swydd a Chytundeb Cyflogaeth am ragor o fanylion.

Gweler disgrifiad llawnach yn y ddogfen Disgrifiad Swydd a Chytundeb Cyflogaeth 4. Bydd adolygiad cyflog yn digwydd yn flynyddol. 5. Bydd gan y gweinidog 13 o Suliau rhydd yn ystod y flwyddyn. 6. Bydd y gweinidog yn cymryd pedair wythnos fel gwyliau bob blwyddyn sy`n gynwysiedig yn y Suliau rhydd 7. Ni fydd y swydd yn dod i ben heb rybudd o dri mis gan naill ai’r gweinidog neu’r capel.

20


P ENNOD 4

Adran Weithredol Mae bwrlwm yr eglwys yn galw am fframwaith i gynnal yr holl weithgareddau. Mae hyn yn gosod sylfaen a phatrwm i’r aelodau baratoi ar eu cyfer.


4.1 Gwasanaethau

P ENNOD 4 Adran Weithredol

4.2 Gwasanaethau Arbennig 4.3 Adrannau o`r Eglwys 4.4 Cyfrifoldebau 4.5 Is-bwyllgorau

4.1.4 Oedfaon Arbennig 1. Diolchgarwch:

4.1 Gwasanaethau 3.1.1

Oedfaon Wythnosol

3.1.2

Cymundeb

3.1.3

Oedfa’r Plant

3.1.4

Gwasanaethau / Oedfaon Arbennig

• Oedfa Bregethu yn yr hwyr nos Fawrth yn ystod yr Hydref lle gwahoddir pregethwr i wasanaethu. • Y casgliadau am y dydd i Gronfa’r Genhadaeth.

2. Nadolig: 4.1.1 Oedfaon Wythnosol Cynhelir Oedfaon Cyhoeddus bob dydd Sul am 10.30 a.m. a 5.30 p.m. oni newidir amserau’r oedfaon am resymau arbennig, er enghraifft, Canu Carolau

• Trefnir oedfaon arbennig gan y Plant a’r Ieuenctid ar un o’r Suliau cyn Gwyl y Nadolig. • Cynhelir Gwylnos, dan ofal y gweinidog a’r Ieuenctid am hanner nos Noswyl y Nadolig.

4.1.2 Y Cymundeb Gweinyddir Y Cymundeb ar y Sul cyntaf o bob mis. Cynhelir yr oedfaon yn ystod y bore oni newidir y drefn mewn amgylchiadau arbennig. 4.1.3 Oedfa’r Plant

3. Sul Y Pasg: • Trefnir Oedfa Gymundeb yn y bore.

Ar fore’r ail Sul y mis cynhelir Oedfa’r Plant gyda’r Ysgolion Sul yn gyfrifol am wahanol rannau o’r oedfa, a’r gweinidog neu bregethwr gwâdd neu aelod o`r eglwys yn dweud gair wrth y plant.

22


4. Cyrddau Mawr:

4.2.1 Priodas

• Cynhelir oedfaon arbennig ddwy waith y flwyddyn. 1. Yr ail Sul ym Mehefin 2. Yr ail Sul yn Hydref Gwahoddir pregethwyr o ddewis yr aelodau i’r oedfaon hyn. Oedfaon Pregethu am 10.30 a.m. a 5.30 p.m. Oedfa’r Plant am 2.00 p.m.

Cyffredinol 1. Rhaid cysylltu â’r gweinidog neu’r ysgrifennydd i ddiogelu’r dyddiad. Hwy fydd yn awdurdodi’r gofalwr i agor y capel. 2. Y sawl sy’n priodi sy’n gyfrifol am y blodau, a.y.y.b. Os ydynt yn gadael y blodau dros y Sul wedi’r briodas dylent gysylltu â threfnydd blodau’r capel, Y Fns Esme Lloyd. 3. Os ydynt am organydd o’r tu allan i gylch organyddion y capel rhaid cael caniatad y swyddogion.

4.1.5 Y Gymanfa Ganu: Cynhelir y Gymanfa Ganu yn flynyddol ar Sul y Blodau. Yr Oedfaon:

4. Rhaid iddynt gysylltu â Pherson Awdurdodedig, Dr Michael Jones neu Mal James i gwblhau pob trefniant gydag ef.

1. Oedfa’r Plant:

10.30 a.m.

5. Er nad oes angen Cofrestrydd yn y briodas rhaid i’r ddau sy’n priodi fynd i swyddfa’r Cofrestrydd a’i hysbysu o’u bwriad i briodi.

2. Oedfa’r Oedolion:

2.00 p.m.

6. Rhaid rhoi rhybudd o ddim llai na thair wythnos a dim mwy na thri mis.

Pwyllgor y Gymanfa fydd yn trefnu’r Oedfaon hyn.

Aelod Cyflawn

Rai Suliau cyn y Gymanfa trefnir Sul y Rihyrsal.

Ni chodir tâl am y capel nac am y gweinidog a`r organydd.

Gwneir hyn gan Ysgrifennydd Y Gymanfa, Ysgrifennydd Cyhoeddiadau a’r Gweinidog.

Lle na bo’r sawl sy’n priodi wedi cyrraedd isafswm y gofyn ariannol yn y flwyddyn flaenorol rhaid iddo/iddi wneud y swm hwnnw i fyny i’r gofyn.

Bydd casgliadau’r dydd yn mynd i goffrau Pwyllgor y Gymanfa.

Rhai heb fod yn aelodau

Athrawon yr Ysgolion Sul sy’n gyfrifol am ddewis emynau ar gyfer oedfa’r plant.

Gyda chaniatad y swyddogion cant ddefnyddio’r capel ar y telerau a nodir gan y swyddogion.

4.2 Gwasanaethau

Bydd aelodau yn cael y flaenoriaeth ar y rhai nad ydynt yn aelodau. Tal o £150.00, sydd ddim yn cynnwys organydd.

4.2.1 Priodas 4.2.2 Bedydd 4.2.3 Angladd

23


4.2.2 Bedydd Cyffredinol Bedydd arferol yr Annibynwyr yw trwy daenelliad. Arferwn fedydd babanod. Bedydd Plant 1. Disgwylir i’r rhieni hysbysu’r gweinidog neu’r ysgrifennydd o’u hawydd i fedyddio’r plant. 2. Gweinyddir yr ordinhad yn yr addoliad cyhoeddus a dylid hysbysu’r eglwys y Sul blaenorol. 3. Nid oes raid wrth rieni bedydd am fod yr eglwys yn ymgymryd â’r cyfrifoldeb hwnnw. 4. Pan fo rhaid bedyddio yn y cartref, oherwydd afiechyd neu amgylchiadau eraill, dylid sicrhau bod aelodau o’r eglwys yn bresennol gyda’r gweinidog a dylid hysbysu’r eglwys am y bedydd. 5. Cyflwynir tystysgrif i rieni y sawl a fedyddiwyd.

• Y teulu fydd yn gyfrifol am flodau ar fwrdd y capel ac os ydynt yn dymuno gadael y blodau yno dros y Sul wedi’r angladd rhaid iddynt gysylltu â’r trefnydd blodau, Y Fns Esme Lloyd. • Pan fo teulu’n gofyn am gael gadael y corff o fewn yr Eglwys dros rai dyddiau rhaid cael caniatad y swyddogion.

6. Ceisir annog rhieni i roi ystyriaeth ddifrifol i ystyr a natur y gwasanaeth. 7. Disgwylir i rieni nad ydynt yn aelodau o’r eglwys wneud cyfraniad am gael bedyddio eu plant. Bedyddio Oedolion. Y mae bedyddio oedolion yn ofynnol pan fydd ymgeisydd am aelodaeth eglwysig heb ei fedyddio yn blentyn.

4.2.3 Angladd Cyffredinol • Rhaid cysylltu â’r gweinidog neu’r ysgrifennydd cyn trefnu’n derfynol, dyddiad ac amser yr angladd. Hwy fydd yn hysbysu’r gofalwr ynglyn ag agor y capel, a.y.y.b.

Aelod Cyflawn • Ni chodir tâl am ddefnyddio`r capel nac am wasanaeth y gweinidog a`r organydd. Rhai heb fod yn aelodau • Gyda chaniatad y swyddogion cânt ddefnyddio’r capel ar y telerau a nodir gan y swyddogion. • Gan fod yr eglwys wedi pasio na cheir claddu neb ond aelodau a chyfeillion yr achos ni all y sawl sy tu allan i’r cylch hwn gael ei gladdu yn y fynwent neu yr ardd goffa. • Lle mae bedd eisoes gan deulu fe ganiateir iddynt gladdu yno.

24


4.3 Adrannau o’r Eglwys 4.3.1 Adrannau a Grwpiau

1. Meithrin cymdeithas Gristnogol a dyfnhau yr ymdeimlad o deulu Cristnogol. 2. Mae’r Gymdeithas yn rheoli ei hunan. Er yn rhan annatod o’r capel mae’n hunan gynhaliol.

4.3.2 Gwasanaethau Cefnogol 4.3.3 Gweithgareddau Lletach

3. Yn wir mae wedi cyfrannu o’i choffrau yn helaeth i’r capel.

4.3.1 Adrannau a Grwpiau

4.3.1.3 Ieuenctid

4.3.1.1 Yr Ysgol Sul

Nid yw’r Ieuenctid yn cyfarfod ar hyn o bryd ond gweler bwriad a phrif nod yr Ieuenctid fel a ganlyn:

Yr Ysgol Sul sy‘n gyfrifol am ei threfniadaeth ei hun. O dro i dro bydd athrawon y ddwy Ysgol Sul, Hebron a Chapel Seion, yn cyfarfod i drafod yr hyn sy’n gyffredin rhyngddynt. e.e. gwasanaethau ac oedfaon ar y cyd ac emynau’r plant ar gyfer dydd y Gymanfa. Bwriad:

Bwriad: • Gweithgareddau.

e.e. anerchiadau, paratoi ar gyfer gwasanaeth, a.y.y.b.

• Chwaraeon.

e.e. tenis bwrdd, pêl droed, pêl rwyd, a.y.y.b.

• Cymdeithasu.

Meithrin plant/ieuenctid yng ngwirioneddau a dyletswyddau`r ffydd Gristnogol. Hynny yw, helpu rhieni i fod yn ffyddlon i’w haddewidion yn y gwasanaeth bedydd.

- Cymdeithas Ieuenctid Capel Seion (CICS) neu Pobol Ifanc

e.e. ymysg ei gilydd a gwahoddedigion.

Dewisant Lywydd, Trysorydd ac Ysgrifennydd o blith ei gilydd a chefnogir hwy gan nifer o aelodau`r eglwys. Prif nod:

Prif nod: 1. Creu dolen fywiol rhwng y bobol ifanc a’r Eglwys. Dwyn pobl i adnabyddiaeth o’r Arglwydd Iesu Grist, a’u helpu i’w gyffesu’n Arglwydd eu bywydau, ac i ddewis pobl Iesu yn bobl iddynt hwythau.

2. Dyfnhau ffydd yr ieuenctid.

4.3.1.2 Y Chwiorydd

4.3.1.4 Y Clwb Plant - Y Gobeithlu

Aelodaeth:

Nid yw’r Clwb Plant yn cyfarfod ar hyn o bryd ond gweler bwriad a phrif nod Y Clwb Plant fel a ganlyn:

Chwiorydd y capel a ffrindiau ffyddlon i’r achos.

Bwriad: • Hybu a chefnogi ei gilydd yn y ffordd Gristnogol. • Cefnogi achosion da.

3. Eu tynnu i fewn i weithgaredd yr Eglwys.

Rhennir yr amser rhwng Storiau addas a gweithgareddau diddorol i’r plant a dysgu emynau Y Gymanfa.

• Datblygu perthynas â chymdeithasau a Christnogion eraill yn yr ardal. Prif nod y chwiorydd yw:

25


Bwriad:

4.3.2 Gwasanaethau Cefnogol

• Clwb o hwyl er mwyn i’r plant fwynhau yng ngwmni’i gilydd a threulir rhan o’r noson yn hyfforddi’r plant yng ngweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r eglwys.

4.3.2.1 Cwmni Mentro

Prif nod:

Sefydlwyd Cwmni Mentro yn 1993 gan bedwar teulu sy’n aelodau o Gapel Seion, ond er nad yw’r Cwmni’n cwrdd, gweler bwriad a phrif nod y Cwmni fel a ganlyn:-

1. Trwytho’r plant yn y ffydd Gristnogol a’u gwneud yn aelodau llawn.

Bwriad:

2. Gweithredu nod yr Ysgol Sul.

• Cynorthwyo Eglwys Capel Seion trwy ymgyrchoedd codi arian. • Hyrwyddo gwaith Cristnogol yr eglwys yn y gymdeithas.

4.3.1.5 Y Gymdeithas Genhadol Ffurfiwyd y Gymdeithas Genhadol ar ddechrau Milflwydd fel ymateb pendant gan yr eglwys gyfan i`r angen i gynllunio`r dyfodol mewn cyfnod lle`r oeddem heb weinidog ac fel ymateb i`r ddogfen Ein Hargyfwng Ein Cyfle gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Aelodau`r Gymdeithas : ymlaen

Prif nod Cwmni Mentro yw: 1. Codi arian: Gwneir hyn drwy gynnal gweithgareddau arbennig er mwyn codi arian ar gyfer prosiectau penodol yn unol â blaenoriaethau a gytunwyd rhwng Cwmni Mentro a’r eglwys.

Holl aelodau`r eglwys sydd am gyfrannu i`r ffordd

Bwriad :

2. Hyrwyddo: Gwneir hyn drwy gynllunio rhaglen hyrwyddo, drwy weithgareddau yn sgîl ymgyrchoedd codi arian ac wrth fanteisio ar y cyfleon y deuir ar eu traws yn y gymuned.

• Proffilio, asesu anghenion, blaenoriaethu cynllunio o fewn yr adnoddau sydd gennym ac ychwanegu adnoddau sydd yn angenrheidiol ar gyfer y dyfodol. 4.3.2.2 Swn Seion Prif nod : Cylchlythyr i’r aelodau. Pedwar rhifyn y flwyddyn. 1. Clodfori Enw`r Arglwydd trwy dystiolaeth ei bobl yng Nghapel Seion ac ehangu ei deyrnas trwy weithrediadau ei bobol wrth ddilyn y trywydd yn Cyfleoedd Boddhaol gan Y Parchedig Hmar Sangkhuma : 2. Ychwanegu at nifer y bobl sy`n mynychu`r eglwys 3. Edrych ar yr eglwys. Beth sydd angen ei gryfhau neu newid ? 4. Dwyn eglwys a chymdeithas yn nes at ei gilydd mewn perthynas ystyrlon.

Bwriad: • I ledaenu’r newydd da am yr Arglwydd a rhoi gwybodaeth am weithgareddau’r eglwys i’r aelodau. Prif nod Swn Seion yw:

5. Dod o hyd i`r ffyrdd gorau o feithrin ein heglwys.

1. Cyflwyno’r newyddion da i’r holl aelodau.

6. Swyddogion :

2. Rhoi gwybodaeth am holl weithgareddau’r eglwys.

Cadeirydd ac Ysgrifennydd yr Eglwys

3. Rhoi cyfle i’r aelodau fynegi eu barn a’u anghenion Cristnogol. 4. Bod yn ddolen gyswllt i’r aelodau sy’n methu mynychu’r capel.

26


4.4 Gweithgareddau Lletach Bugeilio - sicrhau fod yr holl aelodau yn cael eu cadw mewn cysylltiad cyson â’r eglwys. 4.4.1 Diaconiaid 4.4.2 Eglwys

4.4.1 Diaconiaid

Swyddogaethau Arbennig

• Dewisir Cadeirydd ac Is-gadeirydd o’r diaconiaid. • Y Gweinidog fydd llywydd y diaconiaid ac ef fydd yn cadeirio’r Cwrdd Diaconiaid.

4.4.1.1. Ysgrifennydd Gohebol: • Dolen gyswllt yr eglwys. • Cadw cofnodion o weithgarwch yr eglwys a’r cwrdd diaconiaid. • Gohebu a derbyn gohebiaeth ar ran yr eglwys. • Yn un o dri i arwyddo sieciau ar ran yr eglwys.

4.4.1.2. Trysorydd: • Cyfrifoldeb am holl wedd gyllidol yr eglwys. • Gofal am gyfrifon yr eglwys. • Cadw llyfrau ariannol yr eglwys. • I drefnu taliadau cydnabyddiaeth y gweinidog, mewn perthynas ag awdurdodau y dreth incwm a yswiriant cenedlaethol. • Yn un o dri i arwyddo sieciau ar ran yr eglwys.

27


4.4.1.3. Ysgrifennydd y Cyhoeddiadau:

• I gadw trefn ar eiddo’r Swyddfa Gofrestru yn ôl y gofyn - dychwelyd ffurflenni yn chwarterol.

• I sicrhau gwasanaeth gweinidog/pregethwr i bulpud Capel Seion ar • I sicrhau y manylion cyfreithiol oddi wrth y rhai a briodir.

a)

Suliau Rhydd y gweinidog.

Amrywio

b)

Suliau Cyrddau Mawr.

2

• I fod yn gyfrifol am holl wedd gyfreithiol gwasanaeth priodas.

c)

Oedfa Ddiolchgarwch.

1

ch)

Unrhyw achlysur arall yn ôl y gofyn.

• I gyflenwi yr angen am Berson Awdurdodedig mewn eglwysi cymdogol yn ôl dymuniad y Swyddfa Gofrestru.

4.4.1.4. Ysgrifennydd Ariannol:

4.4.1.7. Is-Gofrestrydd Priodasau:

• Cynorthwyo’r Trysorydd gyda’r trefniadau ariannol.

• I ddirprwyo yn absenoldeb y Person Awdurdodedig.

• I sicrhau cywirdeb a threfn yr Adroddiad Ariannol blynyddol. 4.4.1.8. Swyddogion y Fynwent: 4.4.1.5. Ysgrifennydd Cyfamodi:

• I sicrhau fod rheolau y fynwent yn cael eu gweithredu.

• Y mae awdurdodau’r dreth incwm yn barod i ad-dalu’r dreth ar gyfraniadau elusennol 4.4.1.9. Dosbarthwyr: • I sicrhau fod aelodau sy’n dreth dalwyr yn cael cyfle i gyfamodi. • Yn annog aelodau i gyfamodi.

• Trefnir aelodaeth yr eglwys yn chwe adran/dosbarth. A-F.

• * I wneud y trefniadau perthnasol i sicrhau ad-daliad treth incwm ar gyfraniadau aelodau sy’n dreth dalwyr.

• I fod yn ddolen gyswllt rhwng yr eglwys â’r aelodau yn ei ddosbarth.

• I sicrhau fod y trefniadau yn ddilys.

4.4.1.6. Cofrestrydd Priodasau: • Person wedi ei apwyntio gan yr eglwys i gofrestru priodasau yng Nghapel Seion.

• I gyfrif cyfraniadau wedi oedfa nos Sul. • Cadw cyfrif o’r cyfraniadau. • Dosbarthu’r Adroddiad.

4.4.1.10.

Swyddog Datblygu :

• Cynorthwyo’r gweinidog i ddatblygu cynnwys y ddogfen ‘Y Ffordd Ymalen’ • Atebol i’r Cwrdd Diaconiaid a’r Cwrdd Eglwys

• Wedi ei awdurdodi gan y Swyddfa Gofrestru yn Berson Awdurdodedig i gofrestru priodasau yng Nghapel Seion. • I fod yn bresennol mewn priodas neu sicrhau dirprwy.

28


4.4.2 Yr Eglwys

4.4.2.5. Swyddogion y Gymanfa Ganu

4.4.2.1. Arweinydd y Gân

• Trefnu oedfaon y Gymanfa.

• Arweinydd y Gân sy’n gyfrifol am ganiadaeth y cysegr o Sul i Sul.

• Dewis Arweinydd, Organydd, Llywyddion, Eitemau, a.y.y.b.

• Ef / Hi sy’n arwain Yr Ysgol Gân ac yn penderfynu os oes angen ymarferion ychwanegol a.y.y.b.

4.4.2.6. Organyddion

4.4.2.2. Ysgrifennydd y Coleg

• Cyfeilio i oedfaon cyhoeddus yr eglwys.

• Cesglir yn flynyddol at Goleg Aberystwyth oddi wrth yr aelodau.

• Bydd yr organyddion yn trefnu eu rota eu hunain

• Bydd Ysgrifennydd Y Coleg yn sicrhau fod y cyfraniad yn cael ei anfon. • Yr Ysgrifennydd yma yw ein dolen gyswllt â’r Coleg. 4.4.2.3. Ysgrifennydd Ysgol Sul y Plant • Mae’r plant yn cael amlenni i roi eu cyfraniad ynddynt a chesglir hwy yn fisol ar fore Sul Oedfa’r Plant. • Yr Ysgrifennydd sy’n gyfrifol am y llyfr sy’n cofnodi eu cyfraniadau ac ar ddiwedd blwyddyn am baratoi y cyfansymiau i’n Adroddiad Ariannol. • Mae hawl gan y diaconiaid i symud arian o’r cyfrif i gyfrif cyffredinol yr Eglwys. • Y Trysorydd sy’n talu am yr amlenni blynyddol a llyfr cyfrifon. • Nid eiddo’r Ysgol Sul yw’r cyfrif hwn. Gall y diaconiaid ganiatau iddynt gael cyfran pan fo angen am hynny yn codi. Sefydlwyd Eglwys y Plant er mwyn hyfforddi’r plant i gyfrannu at goffrau’r Eglwys.

4.4.2.4. Ysgrifennydd y Genhadaeth • I sicrhau fod yr eglwys yn cyfrannu yn flynyddol at y genhadaeth. • I sicrhau oedfaon perthnasol i wneud casgliad at y genhadaeth ac i hysbysu’r eglwys o’r bwriad. • I ddosbarthu Cardiau’r Genhadaeth i’r plant a’u casglu drachefn. • I ddosbarthu tystysgrifau casglu’r plant.

29


4.4 Gweithgareddau Lletach Rôl a Chyfrifoldebau 4.5.1

Y Fynwent

4.5.2

Adeiladau

4.5.3

Y Gymanfa

4.5.4

Yr Ysgol Sul

4.5.5

Pwyllgor Bugeiliol

4.5.6

Ariannol

4.5.1 Is-bwyllgor Y Fynwent Aelodaeth: • Y Gweinidog a’r diaconiaid ynghyd ag aelodau a etholir atynt. • Mae hawl ganddynt i gyfethol rhai atynt fel pwyllgor. • Cadeirydd: Y Gweinidog : Ysgrifennydd yr Eglwys. Bwriad: 1. Y pwyllgor sy’n gyfrifol am drafod materion perthynol i’r fynwent gan weithredu yn unol â Rheolau Mynwent Capel Seion. 2. Maent yn atebol i’r diaconiaid ac yn atebol yn y pen draw i`r Cwrdd Eglwys.

4.5.2 Is-bwyllgor Adeiladau Aelodaeth: • Y Gweinidog a’r diaconiaid a benodir gan y diaconiaid ag aelodau a etholir atynt a dybiant fydd yn werthfawr i weithgareddau’r pwyllgor. Mae hawl ganddynt i gyfethol rhai atynt fel pwyllgor. • Y Cadeirydd: Aelod o’r diaconiaid. • Ysgrifennydd yr Eglwys

30


Bwriad:

ac o blith aelodau’r eglwys sy’n ffyddlon a gweithgar yn wahanol adrannau’r capel e.e.

1. Y pwyllgor sy’n gyfrifol am drafod materion perthynol i’r adeiladau, gan weithredu wedi cyflwyno eu hadroddiadau i’r Cwrdd Diaconiaid. Fel pob pwyllgor arall maent yn atebol yn y diwedd i `r Cwrdd Eglwys.

• Ieuenctid a Phlant, Chwiorydd, a.y.y.b. Mae hawl ganddynt i gyfethol rhai atynt fel pwyllgor. Bwriad:

4.5.3 Is-bwyllgor Y Gymanfa

1. Cynllunio rhaglen sy’n cynnwys strwythur a phroses, gyda’r nod o benodi gweinidog i arwain yr eglwys trwy’r weinidogaeth.

Aelodaeth: • Etholir y pwyllgor gan aelodau’r Ysgol Gân ac maent yn gweithredu am ddwy flynedd. Y drefn bresennol yw: dwy Soprano, dwy Alto, dau Denor a dau Bas. • Swyddogion:

2. Maent i ddod a’u hadroddiad i’w gadarnhau gan y diaconiaid ac maent yn atebol i’r diaconiaid ac yn atebol yn y pen draw i`r Cwrdd Eglwys.

Cadeirydd: Ysgrifennydd: Trysorydd:

• Aelodau parhaol: Swyddogion y Pwyllgor, Yr Organyddion, Arweinydd y Gân.

4.5.5 Is-bwyllgor Yr Ysgol Sul Aelodaeth:

Bwriad:

• Y Gweinidog, Athrawon Yr Ysgolion Sul, Y Trysorydd, Yr Ysgrifennydd.

1. Y swyddogion ac aelodau parhaol y pwyllgor sydd yn gyfrifol am Raglen y Gymanfa bob blwyddyn ac am benodi Arweinydd gwâdd a threfnu oedfaon dydd y Gymanfa.

Bwriad:

2. Ymddiriedir y gwaith o ddewis emynau plant i rai aelodau o’r pwyllgor mewn ymgynghoriad â swyddogion yr Ysgol Sul. 3. Mae’r casgliadau ar ddydd Y Gymanfa yn mynd i goffrau’r Pwyllgor hwn a hwy sy’n gyfrifol am yr holl gostau sydd ynglyn â’r Gymanfa.

1. Y pwyllgor yma sy’n gyfrifol am gynllunio rhaglen yr Ysgol Sul trwy gydweithrediad y ddwy Ysgol Sul.

4.5.6 Is-bwyllgor Ariannol Aelodaeth:

4.5.4 Is-bwyllgor Bugeiliol Aelodaeth: • Gellir os dymunir gan y diaconiaid godi Pwyllgor Bugeiliol pan fydd yr eglwys yn ‘chwilio’ am weinidog. • Dewisir o nifer y diaconiaid gan gynnwys Ysgrifennydd yr Eglwys - Gohebol, yr Is-Gadeirydd (Cadeirydd y diaconiaid pan fyddwn heb weinidog ) a’r Trysorydd

• Y Gweinidog, Y Trysorydd, Cadeirydd, Is-gadeirydd, Ysgrifennydd yr Eglwys– Gohebol. • Hefyd gellir cyfethol unigolion y tybir y byddant o wasanaeth i`r pwyllgor Bwriad: 1. Paratoi cynllun ariannol ar gyfer y Cwrdd Diaconiaid a chynghori’r cwrdd yn ôl yr angen

31


P ENNOD 5

Adran Hanes Ni ellir son am Anghyffurfiaeth heb grybwyll enw Stephen Hughes (1622-1688 ). Y mae hanes crefydd y Sir a’r dref, ac yn siroedd y gorllewin yn wir ynghlwm wrth ei enw ef


P ENNOD 5 Hanes a Llyfryddiaeth

Capel Seion

5.1

Hanes Capel Seion

Y Parchedig Dyfrig Rees / T.Elfyn Jones

5.2

Hanes yr Annibynwyr

Y Parchedig Dyfrig Rees

5.3

Ein Gwreiddiau

Copi Llyfrgell

5.1 Hanes Capel Seion Yr hanes hyd at Y Parchedig Luther Mosley gan gan Y Parcheg Dyfrig Rees. Hanes Y Parchedigion Eifion Powell, Tudor Lloyd Jones a Dyfrig Rees gan Y Parcheg T.Elfyn Jones.

Ni ellir son am Anghydffurfiaeth heb grybwyll enw Stephen Hughes ( 1622-1688 ). Adwaenid yr eglwysi cynulleidfaol Piwritanaidd bychain yma a thraw yn Sir Gaerfyrddin yn oes Strephen Hughes, ac am genhedlaeth ar ôl hynny, fel “ Eglwys Stephen Hughes “. Y mae hanes crefydd y Sir a`r dref , ac yn siroedd y gorllewin yn wir ynghlwm wrth ei enw ef. Cafodd fywoliaeth Meidrim yn 1664 a Merthyr ( Caerfyrddin ) cyn hynny. Tua 1658 dechreuodd gyhoeddi llyfrau Cymraeg i`r werin a rhan o waith y Ficer Pritchard ( Cannwyll y Cymry ) yn 1659. Gydag adferiad y Frenhiniaeth yn 1660 gorfodwyd ef i ymadael â`i blwyfi. Ychydig a wyddys amdano yng nghyfnod yr erlid, heblaw iddo barhau i bregethu a chadw ysgolion. Yn 1677/8 dygodd drwy`r wasg argraffiad rhad o`r Beibl. Gwelir felly, ei fod, nid yn unig yn apostol Anghydffurfiaeth, ond yn un o`r gwyr a ddechreuodd droi gwerin Cymru yn geidwaid yr iaith. Un o gynulleidfaoedd bore Ymneilltuaeth oedd honno ym Mhencader. Y mae`n sicr fod gan Stephen Hughes ddisgyblion yma tua 1650. Cyfarfyddent gyntaf yn nhy Llynddwfr, ac wedi hynny yn adeg yr erlid yn ogof Cwmhwlpin yn ardal Dolgran.

33


O eglwys Pencader daeth yr aelodau i sefydlu eglwys Panteg, Felinwen yn 1669. Olynydd Stephen Hughes a gweinidog yr eglwys o 1690-1707 oedd Thomas Bowen. Dilynwyd ef gan Christmas Samuel. Ymddengys iddo wasanaethu`r eglwys o 1707-1711 heb ei urddo. Yn 1711 yr ordeiniwyd ef a bu`n weinidog yr eglwys, gyda chymorth eraill tan ei farw yn 1764.

Samuel Jones

Capel Seion

Evan Griffith

Codwyd Capel Seion yn 1712 yn rhyw orsaf pregethu mewn cysylltiad â Phanteg. Cyn i Phillip Lloyd, Heol Ddu, Foelgastell, roddi tir i`w adeiladu mae`n debyg i`r gynulleidfa fod yn addoli yng nghyffuniau y Clos Isaf, ac hefyd yng nghyffuniau y Gagal wrth Bentre Garn, Mynyddcerrig. Aelodau eglwys Panteg, a oedd yn byw ym mhlwyfi Llanarthne a Llanddarog a sefydlodd eglwys Capel Seion yn 1714. Ceir y cofnod canlynol yn llyfr cofnodion Panteg.

Evan Griffith oedd gweinidog nesaf yr eglwys a bu`n gweinidogaethu o 1752-1802. Bu ei weinidogaeth yn dra llwyddiannus a chynyddodd yr eglwys yn fawr iawn. Yr oedd er hynny, yn tueddu at Undodiaeth, a pharodd hynny i nifer o`i gynulleidfa anghytuno ag ef. Canlyniad yr anghytuno hwnnw oedd i nifer o`r aelodau ymadael â`r eglwys a ffurfio eglwys ym Methania, Llannon, ( Y Tymbl Uchaf ) yn mis Gorffennaf 1800.

“ Owen Evans, Elizabeth Owen, Thomas William ( henuriad ), Jane Thomas, Rees William, David William Rees, Rees David William, Janet William, Cathrin William.

William Gibbon

Yr aelodau uchod yn Llanarthne a Llanddarog, a ddarfu i ni eu dismiso i fod mewn undeb gyda`i gilydd yng Nghapel Seion, Hydref 1714, tan olygyddiaeth Mr. William Evans, Hydref 7fed, 1714, hyd oni cheir amser i osod bugail arnynt. “

? -1768

Yn gweinidogaethu gydag ef oedd Samuel Jones ( ?- 1768 ). Bu`n weinidog yng Nghapel Seion o 1715 – 1752, ynhyd â gweinidogaeth Tirdonkin, Abertawe o 1720-1759, a chadw ysgol yn ei gartref, Pentwyn, Llannon. Cyhuddid ef gan rai o fod yn ddiffygiol yn ei ffydd, Ariad, ond tystiolaethai ei bregethau ei fod yn ddyn efengylaidd iawn ei ysbryd a`i farn. 1752-1802

1751-1814

Bu William Gibbon yn gweinidogaethu o ? – 1814. Yn frodor o Glandwr, Penfro, cafodd ei ordeinio yng Nghapel Isaac, Llandeilo yn 1780. Yn wr o ddaliadau Calfinaidd. Yn y cyfnod hwn ail-adeiladwyd a helaethwyd y capel. David Lewis Jones 1788-1830

Gweinidogion Capel Seion William Evans

? -1718

Yr oedd William Evans ( ? – 1718 ) wedi ei ordeinio ym Mhencader yn 1688. Yn 1702, symudodd i Gaerfyrddin i arolygu eglwysi yr Annibynwyr. Roedd yn cadw ysgol dan nawdd yr SPCK ac yn hyfforddi dynion ar gyfer y weinidogaeth. Yr oedd yn Galfinaidd ei ddiwinyddiaeth. Ef a gyfieithodd Gyffes Ffydd Westminster i`r Gymraeg. Christodicus Lewis

? - 1715

Cafwyd gweinidog yn fuan wedi sefydlu`r eglwys. Ni wyddys pryd y dechreuodd. Christoducus Lewis ei weinidogaeth ond bu yng Nghapel Seion hyd 1715.

Yn frodor o Bencader ac yn aelod o`r eglwys yno. Yn 1813 dewiswyd ef yn athro yn y clasuron yng Ngholeg Caerfyrddin, ac yn weinidog i Gapel Seion. Yr oedd yntau eto yn tueddu at Undodiaeth, ond ni phrofodd hynny yn faen tramgwydd iddo nac i`r eglwys gan fod yn y gynulleidfa bellach, gymysgedd o dueddiadau diwinyddol. Gwelir ei fedd wrth fur y capel. Joseph Evans *

1801-1867

Hanai Joseph Evans o Drelech, ac ordeiniwyd ef yng Nghapel Seion, mis Mawrth, 1832. O 1833-1841 bu`n weinidog ym Methania, a chymryd gofal Caesalem yn 1835. Nid oedd sefyllfa`r eglwys yn gwbl foddhaol ar ei ddyfodiad. Yr oedd wedi ei hysgio gan ddadleuon diwinyddol a gwir berygl i rannu`n bleidiau. Er hynny, trwy ei bregethu cadarn ac abl, daeth yr eglwys at uniongrededd unwaith eto ac yn heddychol.

34


Dioddefai dipyn oddi wrth lesgedd corfforol a meddyliol ac ysbardun cadarn iddo yn y dyddiau hynny oedd ei gyfaill o Drelech, David Rees, oedd erbyn hyn yn weinidog yng Nghapel Als. Ar waethaf y diffyg hwn yr oedd yn sicr yn ddyn o athrylith arbennig. Terfynodd ei weinidogaeth yn 1865. Claddwyd ef ym mynwent Caersalem.

David Rhydderch* Daeth i Gapel Seion yn 1913 yn frodor o`r Rhondda. Dychwelodd yno ymhen deng mlynedd i Tylorstown. Yr oedd yn wr ysbrydol iawn, ac yn heddychwr cadarn adeg Rhyfel 1914 – 1918. Rhys Morgan Rhys*

William Edward Evans *

1835 –1901

Brodor o Landdewi-brefi a ordeiniwyd yng Nghapel Seion a Chaersalem yn 1866. Meithrinodd genedlaethau o bobl gadarn trwy gynnal dosbarthiadau Beiblaidd ac yr oedd yn dipyn o eilun gyda phlant a phobl ifanc. Llwyddodd i ddileu llawer o hen arferion ofergoelus a phaganaidd yn yr ardal. Cymerai ddiddordeb yn y byd gwleidyddol a bu`n gadeirydd y Cyngor Dosbarth rai troeon. Bu yma tan ei farw a chladdwyd ef ym mynwent Caersalem. Yn 1873 cytunwyd ar brydles y tir safai`r eglwys a`r fynwent arno ac yn 1878 adeiladwyd y capel presennol, Ty Capel yn cynnwys festri uwchben ac ystabl. Cost y cyfan oedd £1,300 Yn 1896 codwyd festri Nebo i fod yn lle cyfleus i gynnal Ysgol Sul a Chwrdd Gweddi i bobl cyffiniau Mynydd Llangyndeyrn. Benjamin Morris*

1873 – 1942

Daeth i Gapel Seion a Chaersalem o Hebron, Clydach yn 1904 yn union cyn Diwygiad 1904/5. Yr oedd yn wr bywiog iawn ac effro ac yn bregethwr grymus ac ysgubol. Llwyddodd i gael pobl o bob oedran i gymryd rhan yn gyhoeddus yn y cyfarfodydd a meithrinodd arweinwyr diogel i`r eglwys. Bellach, yn 1913 ac aelodaeth y ddwy eglwys yn croesi deuddeg cant, bu rhaid iddo ddewis un o`r eglwysi i`w gwasanaethu. Caersalem a ddewiswyd ganddo, a bu yno am bum mlynedd cyn dychwelyd i fro ei febyd, i Frynberian i ffermio. Bu`n ddiweddarach yn weinidog Ebeneser, Trefdraeth. Ar ôl y Diwygiad teimlwyd fod angen ehangu`r cyfleusterau ac yn 1906 prynwyd tir ychwanegol i adeiladu festri, cegin ac ystabl ac ehangu`r fynwent eto ar gae Llethrgarw. Yn 1908 codwyd festri Hebron yn Nrefach.

Gwr urddasol ei wedd a`i osgo ac yn gymeriad cadarn. Fel pregethwr, `roedd yn sylweddol ac efengylaidd bob amser. Bu`n was da a ffyddlon i`w Arglwydd Luther Mosley*

1904 – 1994

Sefydlwyd ef yng Nhapel Seion yn 1947 a bu yn weinidog yma tan 1960. Gŵr cadarn ei argyhoeddiadau ydoedd yn ymroi â`i holl egni i waith y weinidogaeth. Perthynai iddo urddas arbennig a chas beth ganddo oedd anhrefn o unrhyw fath. Nid rhyfedd i`r eglwys felly o dan ei arweiniad fwrw ati yn 1952 i adnewyddu`r adeilad. Ef hefyd a ddechreuodd Eglwys y Plant a`i briod Megan Mosley, Gymdeithas y Chwiorydd. William Eifion Powell*

1933 - 2009

Mae Eifion Powell yn wr hoffus, diymhongar ac yn ysgolhaig gwych. Mae`n pregethu`r efengyl yn rymus, a`r ddawn lenyddol yn amlwg yn ei bregethu. Daeth i Gapel Seion yn 1963 ac ymadael yn 1966 ar ol derbyn galwad i Harrow Llundain. Bu`n Athro Coleg yr Annibynwyr 1992 – 98. Tudor Lloyd Jones*

1930 – 1998

Meddai ar bersonoliaeth ddeniadol, gan gyflwyno`r Gair yn glir a gwrandadwy. Roedd yn sicr ei neges ac yn swynol ei lais. Bu`n fugail hoffus i`r ardal. Daeth i Gapel Seion yn 1968 ac ymddeol yn 1995. Roedd ganddo`r ddawn o wneud ffrindiau a`u cadw`n gyfeillion agos. Bu iddo ddylanwadu`n ddwfn ar ieuenctid y fro gan eu hannog a`u cyfarwyddo`n arweinwyr amlwg yn eu cymunedau. Llwyddodd i ennill cefnogaeth ystod o bobl o bob math o gefndir ac argyhoeddiad ond efallai ei ddawn mwyaf oedd ei allu i gyfuno neges yr efengyl yn syml ac yn gadarn o effeithiol gan hyrwyddo Crist yng nghanol pob gweithgaredd.

35


Dyfrig Rees*

1960 -

Mae`n meddu ar bersonoliaeth gref, enillgar. Pregethwr huawdl sy`n ddwfn ei fyfyrdod yn yr Ysgrythurau. Mae`n weithiwr di-arbed yn y Winllan ac yn fugail gofalus o`i braidd. Daeth i Gapel Seion yn 1996, ac yna symud i ofalaeth Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia Tycroes yn 1999.

Emlyn Dole*

1960 -

Mae'r Parchedig Emlyn Dole yn weinidog a bugail ffyddlon i'r Arglwydd sydd wedi ei fendithio a doniau niferus ac amrywiol. Mae ganddo ddiddordebau llydan a thraws-ffiniol sydd wedi dylanwadu'n fawr ar ei gymuned a sydd wedi estyn ym mhell tu hwnt i'w gartref yng Nghwm Gwendraeth. Bu'r eglwys yng Nghapel Seion yn ffodus o dderbyn ei weinidogaeth rhwng 2001 i 2004.

Wilbur Lloyd Roberts

1944 -

Noder : Mae`r * yn dynodi bod llun o`r gweinidogion yma i`w gweld yn nghyntedd y capel

36


5.2 Hanes yr Annibynwyr Gan Y Parchedig Dyfrig Rees John Penry, 1563 – 1593 o Gefnbrith ar lethrau Epynt oedd y Cymro cyntaf o Annibynnwr y gwyddom amdano. Dichon iddo ddechrau ei bererindod ysbrydol fel Pabydd ond ar ddiwedd ei ymdaith fer trwy Biwritaniaeth esgobol a phresbyteriaeth, roedd yn aelod o eglwys Annibynnol Southwark yn Llundain, mam eglwys Llanfaches, Gwent. Y mae`r eglwys hon yn parhau o dan adain yr United Reformed Church ers 1997 a gweinidog o Annibynnwr yn gofalu amdani, y Parchedig Shem Morgan o Gaerfyrddin. Sefydlu eglwys Llanfaches ym mis Tachwedd 1639 oedd dechrau ffurfiol Annibyniaeth ac Ymneilltuaeth yng Nghymru, a thadau`r gweithgarwch oedd clerigwyr Piwritanaidd eglwys Loegr, pobl fel William Wroth, William Erbury a Walter Cradoc, ac ychydig yn ddiweddarach Morgan Llwyd a Vavasor Powell. Protest dros ddiwygio`r eglwys Loegr oedd amcan y Piwritaniaid gan na theimlent fod trefn yr eglwys honno yn gyfrwng effeithiol i gyhoeddi`r efengyl a dwyn dynion i iachawdwriaeth. Mynnent fod gormod o flas Pabyddiaeth yn parhau ynddi gyda`i seremoniaeth a`i ofergoeliaeth. Gwrthodent ymostwng i ben-arglwyddiaeth y Frenhiniaeth ac i drefn a rheol y Llawlyfr Gweddi Cyffredin. Iddynt hwy, nid oedd ond un ffordd o achub dynion a gwella cyflwr eu bywydau, sef trwy bregethu`r efengyl a hynny yn ôl goleuni a chyfarwyddyd cydwybod hyd yn oed os y golygai hynny dor-cyfraith. Rhwng 1635 – 1660 cafodd y mudiad Annibynnol gyfle i osod seiliau Ymneilltuaeth Cymru. Mewn canolfannau trwy bob sir ond un, sefydlwyd eglwysi oedd â`u dylanwad yn ymestyn dros siroedd cyfain. Heblaw eu gwaith crefyddol arbennig, llwyddasant i sefydlu ugeiniau o ysgolion. Daeth cyfnod cyntaf Annibyniaeth i ben gyda adferiad y Frenhiniaeth yn 1660 ac adferiad cyfundrefn eglwys Loegr rhwng 1660 – 1662 – cyfnod terfysglyd a llawn o helyntion blin, mewn crefydd a gwleidyddiaeth. Dydd tywyll iawn yn hanes Anghydffurfiaeth oedd Awst 24, 1662 pryd y pasiwyd Deddf Unffurfiaeth yn gorfodi offeiriaid eglwys Loegr i gydymffurfio â rheol a threfn yr eglwys a`r Frenhiniaeth neu golli eu bywoliaeth. Gwrthododd dwy fil o offeiriaid Cymru a Lloegr â chydymffurfio, yn eu plith y goreuon a`r mwyaf dysgedig yn y wlad.

Eu hunig gynhaliaeth ysbrydol yn gymdeithasol bellach oedd ymgynnull yn ddirgel yn nhai ei gilydd, mewn ysguboriau neu mewn cilfachau diarffordd. Ni chaent addoli yn yr eglwys blwyf. Ar waethaf pob gelyniaeth, ffynnu a wnaeth y cynulliadau bychain hyn. Dewisodd y gweinidogion gollodd eu bywoliaethau gadw ysgol a symud o fan i fan i fugeilio`u cynulleidfaoedd gwasgaredig. Eu diogelwch oedd bod ar gerdded o blwyf i blwyf ac o sir i sir. O ran credo, Calfinaidd pur oeddynt. Crist oedd y pen ac yn ffynhonnell uniongyrchol bywyd pob eglwys; ufudd-dod i Grist yn sail aelodaeth eglwysig a chyffesu Crist yn amod cyfeillach ysbrydol. Er enghraifft “ A short confession made by the Church of Christ meeting at Tirdonkin, Anno Domini 1700 .“ Mynydd bach Treboeth, Abertawe ) Amod aelodaeth oedd ffydd “ yn yr unig wir Dduw…a`r Arglwydd Iesu Grist…a`r Ysbryd Glan.” Duw yn ddaioni pennaf, Crist yn Waredwr ac yn Iachawdwr, a`r Ysbryd Glân yn Santeiddydd. Yr oedd pob aelod i gyflwyno ei brofiad personol o Dduw yng ngwydd yr holl eglwys cyn dod yn aelod. Yr aelodau oedd â`r hawl i ddewis gweinidogion, athrawon, henuriaid a diaconiaid. Y gweinidog yn unig oedd i weinyddu`r cymun. Yr oedd yr eglwys yn ddigyfaddawd ar faterion disgyblaeth ac ymdriniwyd â phechodau â llaw gref er enghraifft “ passing under censure of excommunication was re-admitted to Church communion on his public confession of repentance and newness of life before the whole church “ Yn 1689 pasiwyd Deddf Goddefiad oedd i waredu yr Anghydffurfwyr o`r cyfreithiau a fu`n eu herbyn am genhedlaeth. Mae`n wir na chawsant ryddid llwyr am flynyddoedd eto ond yr oedd y gwreiddyn bellach wedi cydio yn ddwfn yn y tir ac yn dwyn llawer o ffrwyth. Erbyn hyn yr oedd yr ail genhedlaeth o Ymneilltuwyr wedi dod yn arweinwyr ac nid oedd pall ar eu gweithgarwch.

37


Rhan bwysig iawn o`r gweithgarwch oedd sefydlu academiau addysgol gan nad oedd drysau prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt yn agored iddynt fel Ymneilltuwyr. Diau mai`r un fwyaf hysbys yw academi Samuel Jones, Brynllywrach, Llangynwyd. Plentyn yr academi trwy linach di-dor yw Coleg yr Annibynwyr Cymraeg. Y mae`n debyg fod safon yr addysg gyfrenid ynddynt yn uchel iawn, yn wir cyfuwch â safonau prifysgolion eu dydd.

5.3 Llyfryddiaeth

5.3.1 Y Beibl 5.3.2 Caneuon Ffydd 5.3.2 Caniedydd

Diau mai y digwyddiad mwyaf yn hanes crefydd y ddeunawfed ganrif yn Lloegr a Chymru oedd y deffroad mawr a elwir yn Ddiwygiad Methodistaidd. Er bod llawer o`r Ymneilltuwyr yn ei groesawu, y mae`n wir serch hynny na chafodd groeso cyffredinol. Yn sicr, bu`n gyfrwng i osod egni a brwdfrydedd yn yr eglwysi ymneilltuol. Yr oedd eglwysi mawr canolog yn ymganghennu erbyn hyn, a chafwyd cyfnod o dwf ac ymledu cyson hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. A`r Annibynwyr wedi deillio o ormes ac anghyfiawnder nid rhyfedd i gariad at ryddid a diwygio ddod yn reddfol iddynt, nid yn unig ym myd crefydd ond ym mhob maes o fywyd. Gellir hawlio bod gwyr mawr yr Annibynwyr ymysg yr amlycaf o ddiwygwyr cymdeithasol y cyfnod. Pobl fel Samuel Roberts, Llanbrynmair a`i frodyr a David Rees, Llanelli. Un o gyfraniadau mwyaf Ymneilltuaeth yn oes Victoria oedd creu cydwybod gymdeithasol ynghylch amodau byw dynion o dan yr amgylchiadau a gododd drwy`r Chwyldro Diwydiannol. Pregethwyd yr “efengyl gymdeithasol” a dangosodd pregethwyr eu hochor gyda`r tlawd a`r gorthrymedig a`r di-freintiedig. Cysylltodd llawer ohonynt eu hunain wrth blaid wleidyddol arbennig. Rhyddfrydwyr oedd yr Ymneilltuwyr at ei gilydd ac yn nes ymlaen yn y ganrif yn arweinwyr y Mudiad Llafur. Bu`r Annibynwyr hefyd yn gryf iawn eu tystiolaeth o blaid heddwch. Y gydwybod ymneilltuol a gadwodd yn fyw yr hen bwyslais Piwritanaidd ar lendid a moes a buchedd, ar onestrwydd a geirwiredd, ac ar hunan-ddisgyblaeth mewn arferion ac ymddygiad. Daeth y Mudiad Dirwestol i rym a`r ‘Band of Hope’ yntau i fod yn weithgarwch nodweddiadol o Ymneilltuaeth.Gyda diwygiad crefyddol nerthol yr agorodd yr ugeinfed ganrif yng Nghymru gan ennyn bywyd newydd i`r eglwysi ymneilltuol yn enwedig yng Nghymoedd y De. Chwythodd dylanwadau croes i hwnnw weddill y ganrif yn sgil dau ryfel byd. Cerddodd materoliaeth yn drwm yn y wlad gan ysigo ymlyniad llaweroedd i`r ffydd Gristnogol. Dichon mai deuparth o ysbryd ac argyhoeddiad ein tadau sydd ei angen fwyaf arnom bellach, i`n bywhau a`n hadnewyddu.

• Y Caniedydd • Caniedydd yr Ifanc 5.3.3 Llyfrau • Llyfr Gwasanaeth 1998

Ty John Penry

• Llyfr Gwasanaeth 1962

Ty John Penry

• Llawlyfr Gweddio Blynyddol

Ty John Penry

5.3.4 Cyfres y Genhadaeth Gartref • Bod yn Gristion

W.E.Powell

• Bod yn Ddiacon

E.S.John

• Trefn Oedfaon

Geraint Tudur

• Bod yn swyddog Eglwys T. Arfon Williams 5.3.5 Priod waith yr eglwys yw ei chenhadaeth

Y Parchedig Hmar Sangkhuma

5.3.6 Ein Hargyfwng Ein Cyfle

Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

5.3.7 Adeilad o Ddiddordeb Pensaerniol neu Hanes Arbennig

Cadw

Cyhoeddiadau Capel Seion 5.3.8

Hanes Nebo

1897 – 1997

Helen Owens

5.3.9

Hanes Capel Seion

1712 – 1980

Gwilym Evans

38


5.3.10 Ein Gwreiddiau

Dathlu 275 mlynedd

5.3.11 Adroddiadau

1940 – 1970

Cyflwyniad Arbennig

Rhodd gan Caerwen Gibbard

5.3.12 Adroddiadau`r Gymdeithas Genhadol 1999 Y Cadeirydd 5.3.13 Llusern Ffydd

2013 Dathlu 300 mlwyddiant

Y Ddarlith Goffa

Y Parcheg. Tudor Lloyd Jones

5.3.13 Yr Enw Mwyaf Mawr

1996 Tâp / Ysgrif Parcheg. Tudor Ll Jones

1. Aflonyddu ar y Cysurus 2001 Tâp / Ysgrif R Alun Evans 2. Cynorthwyo’r Galarus

2002 Tâp / Ysgrif Dr. Rosina Davies

3. Y Winllan Wen

2003 Tâp / Ysgrif Parcheg. T.R.Jones

4. Y Christ Croeshoeliedig 2004 Yr Athro Hywel Teifi Edwards 5. Yr Athro Gwyn Thomas 2005 Y Parchedig Wilbur lloyd Roberts

39


P ENNOD 6

Adran Atodol Ceir gwahanol agweddau o weinyddiaeth yr eglwys yn yr atodiad yma gan gynnwys cyfraniad y Gymdeithas Genhadol i’r Ffordd Ymlaen.


P ENNOD 6 Adran Atodol

6.1 Y Gymdeithas Genhadol

6.7 Oedfaon

6.2 Swyddi

6.8 Cymorth i’r Oedfaon

6.3 Adeiladau a’r Fynwent

6.9 Cymorth i’r Aelodau

6.4 Rheolau’r Fynwent

6.10 Taliadau a Derbyniadau

6.5 Cyhoeddiadau

6.11 Adran Nodiadau

6.6 Dyletswyddau

Nod 1. Gosod y cyd-destun a chynllunio fframwaith adeiladu 2. Casglu sylwadau a syniadau`r eglwys

6.1 Y Gymdeithas Genhadol

6.1.1 Ymateb Eglwys Capel Seion i `Ein Hargyfwng Ein Cyfle` Cyhoeddwyd y llyfryn `Ein Hargyfwng Ein Cyfle` yn 1999, ar drothwy`r milflwydd ac ar drothwy newid mawr yn arferion addoliad ein cymdeithas. Amcan y llyfryn oedd gwahodd ein heglwysi i gyfarfod i ystyried eu sefyllfa. O ganlyniad i gyfres o weithdai gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg sefydlodd y Cwrdd Diaconiaid weithgor o bedwar diacon a`r nod o ffurfio ffordd i annog yr holl eglwys i gymryd rhan i gynllunio ei dyfodol. Yn ystod y cyfarfod cychwynnol ar y pumed o Rhagfyr 1999 i gyflwyno`r bwriad o ffurfio cymdeithas newydd oedd yn gynrychioliadol o`r holl eglwys, derbyniwyd yn unfrydol y syniad ac etholwyd Gethin Thomas yn gadeirydd ac Ysgrifennydd yr Eglwys – Gohebol yn ysgrifennydd i`r gymdeithas. Bwriad y Gymdeithas Genhadol Cynorthwyo i esbonio ac ehangu teyrnas Dduw trwy fywyd a thystiolaeth ei bobl wrth addoli a dwyn gogoniant i`w enw yng Nghapel Seion.

3. Datblygu cynllun er cynnydd i Eglwys Capel Seion sy`n adlewyrchiad o anghenion y ffydd Gristnogol a`r eglwys yng Nghapel Seion.

Amcanion 1. Cyfarfod yn fisol er mwyn casglu gwybodaeth am anghenion yr aelodau 2. Gwahodd aelodau o Adran Genhadaeth yr Annibynwyr atom er mwyn dilyn trywydd cyson sydd yn adlewyrchiad o`r eglwys yng Nghymru 3. Cynllunio fframwaith rheoli a strategaeth er mwyn cynllunio fframwaith dibynadwy ar gyfer yr holl weithgarwch fydd angen dros y blynyddoedd nesaf.

Proses • Bydd y gymdeithas yn cwrdd wedi oedfa`r hwyr ar ddyddiad a fydd yn gyfleus, tua unwaith y mis ac eithrio mis Awst. • Bydd yr aelodau yn derbyn adroddiad ar waith ymchwil i anghenion ac yna bydd y cadeirydd yn annog trafodaeth ar yr adroddiad.

41


• Gwneir crynodeb o`r prif ymatebion a chyflwynir rhain i`r aelodau yn ystod y cyfarfod nesaf o`r Gymdeithas Genhadol.

Wrth i`r gymdeithas ddatblygu nerth a momentwm tybiwn bydd modd i gyhoeddi`r ymatebion mewn cyfrol a fydd at ddefnydd eraill yn y dyfodol.

• Aethpwyd ati yn chwe mis cyntaf o `r flwyddyn 2000 i broffilio, ac asesu anghenion yr aelodau a chafwyd cyfarwyddyd, anogaeth a chefnogaeth y cenhadwr Y Parchedig Hmar Sangkhuma i`r gweithgareddau.

Gellir llunio fframwaith o`r cynlluniau ac adolygu`r datblygiadau yn ôl llwyddiant y gweithgarwch.

• O`r ymatebion dros y chwe mis cyntaf daeth yn glir mai datganiad bwriad ac egwyddorion sylfaenol y Gymdeithas Genhadol yw`r canlynol, sy`n seiliedig ar y bwriad sylfaenol a ddisgrifiwyd eisioes.

Datganiad Cenhadaeth

Bydd cadw at y genhadaeth, y bwriad, y nod a`r amcanion yn holl bwysig i lwyddiant y Gymdeithas Genhadol ac anogir pob aelod o`r eglwys i fuddsoddi eu hymdrechion er llwyddiant yr eglwys yng Nghapel Seion.

Nodyn: Mae crynodebau o`r holl weithgarwch hyd yn hyn wedi eu dosbarthu i`r aelodau hynny oedd yn bresennol yn y cyfarfodydd. Bydd copiau ar gael yn llyfrgell yr eglwys a gan yr ysgrifennydd os dymuna unrhyw un gopi ychwanegol.

Cenhadeth y gymdeithas yw datblygu tim o aelodau creadigol, blaengar ac ymatebol er mwyn darparu`r gofal gorau posibl i`r ffydd Gristnogol yn Nghapel Seion gan wneud hynny trwy ymateb i anghenion a gwella gwerth a photensial ei haelodau o fewn yr adnoddau sydd gennym. Er mwyn llwyddo mae angen tim sy`n gweithredu ac yn cydweithio mewn modd holistaidd sy`n annog, ymbweri, cynorthwyo ac yn sbarduno`r aelodau i geisio`r nod trwy ethos gynhwysol.

Egwyddorion Sylfaenol • Osgoi sefyllfaoedd a fyddai`n peri erydiad i`r gweithgareddau • Gweithio gyda`n gilydd • Datblygu hyfforddiant yn rhan o`r datblygiadau • Datblygu`r ethos gynhwysol a gweithio mewn tim • Hyrwyddo`r consept o weithio`n draws ffiniol gyda`r gymdeithas • Cynyddu gwerth ein gweithgaredd trwy gydweithio • Adolygu`r gwaith trwy werthuso cyson • Adeiladu ar y gorau o weithgareddau`r eglwys • Annog perchnogaeth

42


6.2 Swyddi 6.2.1 Gofalwr 6.2.2 Glanhawr

6.2.1 Gofalwr Nid swydd yw gofalwr y capel mwyach. Cymerwyd y rôl hon gan aelod ymroddgar o`r eglwys ac fe ddisgrifir ystod dyletswyddau gofalwr yma er mwyn ein hatgoffa o faint y gyfrifoldeb. Dirprwyir y dyleswyddau i gyd neu rai ohonynt yn ystod gwyliau a chyfnodau arbennig i aelod arall o`r diaconiaid

6.2.1.1 Capel

• Cyfarwyddo`r glanhawr a hysbysu`r glanhawr am wasanaethau arbennig a digwyddiadau pwysig sydd i`w cynnal yn y capel. • Hysbysu`r Cwrdd Diaconiaid o unrhyw ddiffygion neu ddifrod tu fewn a thu allan i`r capel. • Hysbysu`r diaconiaid o gyflwr y Fynwent, yr Ardd Goffa a`r llwybrau a chadw gofal diogelwch i`r cyhoedd o`r radd flaenaf trwy hysbysu diaconiaid o unrhyw anhawster all beri niwed. • Bydd y gofalwr yn gyfrifol am ddiogelwch y muriau a hysbysu`r diaconiaid o unrhyw ddiffygion. • Bydd y gofalwr yn gyfrifol am ddarparu bin sbwriel i`r cyhoedd, ei gadw`n daclus a threfnu ei wacau. • Bydd y gofalwr mewn cydweithrediad â`r glanhawr yn gyfrifol am gadw golwg ar ddeunyddiau ac offer glanhau a sicrhau eu bod mewn cyflwr boddhaol.

Dyletswyddau cyffredinol : Y gofalwr fydd bennaf gyfrifol am baratoi a darparu`r adnoddau angenrheidiol ar gyfer ystod o wahanol anghenion. Rhestrir y mwyafrif ohonynt fel a ganlyn :

Rhennir y dyletswyddau canlynol rhwng y diaconiaid : • Archebu deunyddiau glanhau mewn cydweithrediad â`r glanhawr a`r trysorydd.

• Agor y gatiau, drysau`r capel a`r toiledau.

• Ansawdd a defnydd yr organ ( mewn cydweithrediad â`r organyddion )

• Paratoi`r pulpud, sedd fawr a bwrdd y cymun.

• Diogelu trefniadau`r casgliad a`r llyfrau cofnodi ariannol

• Diogelu trefniadau llyfryddiaeth i`r gweinidog a`r organydd yn ogystal â nifer ac ansawdd llyfrau emynau ar gyfer aelodau a chydaddolwyr.

• Diogelu`r archeb parhaol am flodau yn ystod gwasanaethau arferol ac achlysuron arbennig

• Paratoi`r cyntedd a`r hysbysfwrdd.

• Diogelu cywirdeb y cloc

• Trefniadau gwres canolog yn ôl gofynion cleimatig. • Archebu olew mewn cydweithrediad â`r trysorydd • Trefniadau trydan. Newid bylbiau a stripedi golau ac archebu deunyddiau mewn cydweithrediad â`r trysorydd. Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau diogelwch.

43


Paratoadau arbennig :

6.3 Adeiladau a’r Fynwent

Gwasanaethau 6.3.1 Y Capel a`r Festri

1.1

Oedfaon :

Gosod rhifau`r emynau

1.2

Priodasau : Glanhau`r conffeti

1.3

Bedyddio :

1.4

Angladdau :

6.3.3 Y Fynwent a’r Ardd Goffa

Paratoi adnoddau bedyddio.

• Agor storfa adnoddau`r fynwent, • Cyfarwyddo`r agorwr bedd ynglyn â thipio pridd a cherrig. • Y Trefnwr Angladdau fydd yn gosod `cones` ar yr heol. 1.5

6.3.2 Canghennau

Cymundeb : • Paratoi bwrdd a llestri`r Cymun. • Archebu a pharatoi bara a gwin cymundeb • Archebu gwydrau gwin yn ôl yr angen.

6.2.1.2 Y Festri Paratoadau Cyffredinol • Agor y gatiau, drws y festri • Cadw`r allwedd yn ddiogel yn y capel • Cyfarwyddo`r glanhawr • Diogelu safon glendid a diogelwch o`r radd flaenaf yn y gegin.

6.3.1 Capel Gweler Hanes Capel Seion, Mae Capel Seion yn un o eglwysi hynaf Cwm Gwendraeth, yn wir yn fam eglwys i nifer yn ardal y Mynydd Mawr. Codwyd y capel yn 1712 ac ail adeiladwyd yn 1848. “Yn ôl yr hen ddefod eglwysig adeiladwyd yr hen gapel gyda`i dalcenni tua`r dwyrain a`r gorllewin ond y capel newydd yn groes i hynny, gyda`i ochrau tua`r dwyrain a`r gorllewin”. 1 O ganlyniad i ail-arolwg Cadw o gymuned Gorslas mae adeilad y capel wedi`i restru fel un o ddiddordeb pensaerniol neu hanesyddol arbennig. 2 Festri Codwyd y Festri yr un amser ag ail adeiladwyd y capel. Mae yn Ysgol Sul i blant ardal Capel Seion ac fe`i defnyddir ar gyfer achlysuron arbennig i arlwyo ac yn fan cyfarfod.

6.2.2 Glanhawr

6.3.2 Canghennau

• Bydd glanhawr y capel a`r festri yn derbyn cyfarwyddiadau gan ofalwr y capel.

Hebron

• Y glanhawr fydd bennaf gyfrifol am lanhau adeiladau`r capel megis y capel, festri, toiledau a`r storfa adnoddau.

Adeiladwyd yn 1908 yn ystod y Diwygiad pan oedd poblogaeth y pentref yn cynyddu a`r galw am addoldy yn cryfhau. Mae Hebron wedi cael defnydd helaeth dros y ganrif gan nifer fawr o sefydliadau a mudiadau`r ardal ac yn ffocws i weithgareddau`r pentref hyd heddiw.

44


Erbyn hyn mae cyflwr Hebron yn anfoddhaol ac mae`r eglwys yn ystyried cynlluniau ar gyfer ei hadnewyddu. Yn Hebron sefydlwyd Ysgol y Gwendraeth cyn adeiladu`r ysgol bresennol.

6.3.3 Y Fynwent a’r Ardd Goffa

Y Fynwent Mae`r fynwent yn amgylchynu`r capel wrth i genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth gael eu claddu yno. Mae`r hen fynwent ar yr ochr ddeheuol ac wrth i`r hen gerrig beddau syrthio codwyd hwynt a`u pwyso yn erbyn y muriau cerrig. Mae`r fynwent newydd ar lethr gorllewinol tir y capel ac amgylchynir hi gan byst coed a thorrir y gwair mewn cytundeb blynyddol â chwmni tirlunio. Mae `compound` ar gael i deuluoedd ei ddefnyddio ar gyfer taflu hen flodau a sbwriel iddo a gwaceir y bin sbwriel yn ol y galw. Mae yna `gompound `arall tu hwnt i`r ffin sydd wedi ei ffensio ar gyfer trefnwyr angladdau dipio cerrig a phridd ar ol ail osod y beddau. Gwaceir y compound yma unwaith eto yn ol y galw.Mae`r darn o dir rhwng y ffens a`r cloddiau yn eiddo i`r capel ac fe rentir y darn yma ar gyfer ei bori. Yr Ardd Goffa Yn union â ffiniau gorllewinol y capel adeiladwyd gardd goffa a chedwir enwau y rhai y gwasgarwyd eu llwch mewn llyfr arbennig yng nghyntedd y capel. Anogir pob teulu sydd ag anwyliaid wedi eu claddu yng Nghapel Seion i gadw`r beddau mewn cyflwr da. Torri Gwair Mae gan yr Eglwys gontract gyda chwmni sy`n torri gwair a byddant yn gyfrifol am lanhau`r llwybrau a`r fynwent a chadw rhwng y beddau`n daclus.

Cyfeirnodau

1

Capel Seion 1712 – 1980 Gwilym Evans

2

Cadw Adeilad o Ddiddordeb Pensaerniol neu Hanesyddol

45


6.4 Rheolau’r Fynwent 6.4.1

Rheolau’r Fynwent

6.4.1 Rheolau’r Fynwent.

1. Rhoddir lle yn y Fynwent neu i gladdu llwch yn yr Ardd Goffa yn rhad i’r canlynol: i.

Pob aelod cyflawn a rheolaidd o eglwys Capel Seion. Oni fydd yr aelod wedi rhoi`r cyfraniad aelodaeth dyledus yn ystod y flwyddyn llawn ddiwethaf, bydd rhaid cyfrannu`r swm hwnnw.

ii. Cyfaill ffyddlon yr achos sydd wedi cyfrannu y swm dyledus yn ystod y flwyddyn llawn ddiwethaf. Y mae’r hawliau hyn yn cynnwys lle i gymar ac i blentyn nad yw yn ennill cyflog. 2. Gellir cael pris pan fyddir yn ail agor bedd i rai nad ydynt yn aelodau, a phris am gladdu llwch mewn casged yn y rhan o’r ardd neu’r fynwent dan feddiant gan y rhai hynny, oddi wrth Ysgrifennydd y Fynwent. 3. Ni chaniateir gwneud gwaith brics yn unrhyw fedd. 4. Ni fydd hawl trosglwyddo’r tir heb ganiatad y swyddogion.

9. Bydd rhaid i bob bedd gyfarfod ymhob ffordd â’r ddeddf gladdu gyfredol. 10. Bydd dyfnder pob bedd o leiaf saith troedfedd. Bydd pum troedfedd o ganol y bedd cyfochrog. 11. Disgwylir i bob bedd gael ei adael yn wastad ac yn lân gan y torrwr beddau cyn gynted ag sydd bosibl i alluogi’r gofalwr i hau gwair a’i dorri’n gyson. Dyletswydd y teulu fydd cadw’r bedd yn glir o hen blanhigion neu flodau wedi gwywo a’u gosod yn y lle sydd wedi ei neilltuo i’r pwrpas. 12. Penfaen yn unig a ganiateir ar fedd a hwnnw heb fod yn uwch na thair troedfedd, gan adael digon o le i weithiwr i symud yn hwylus rhwng y beddau. 13. Os bydd angen ail-agor bedd disgwylir i’r perchennog symud y cwrbynnau a gadael popeth yn ddiogel. Oni wneir hyn, ni fydd yr eglwys yn gyfrifol am unrhyw niwed neu ddamwain a ddigwydd. 14. Bydd hawl gan bwyllgor y fynwent, ar ôl hysbysu’r teulu, i wneud unrhyw waith ar fedd er mwyn osgoi difrod neu berygl i berson neu`r bedd. 15. Ni chaniateir gosod carreg na chwrbyn nac unrhyw waith arall yn y fynwent heb ganiatâd yr ysgrifennydd neu’r gofalwr. 16. Gwneler unrhyw daliad ynglyn â’r fynwent i’r eglwys. 17. Ni ddylai unrhyw garreg goffa yn yr Ardd Goffa fod yn fwy na 15”x18” a dylid gosod pob carreg ar y ‘slab’ sydd yna’n barod. Yn ogystal, dylai pob carreg fod yn gydnaws gyda’r cerrig coffa sydd yno eisioes.

5. Gan nad oes bellach gytundeb rhwng yr eglwys ag unrhyw un i dorri beddau, mater preifat fydd hynny rhwng y teulu a’r trefnwr angladdau. Amodau Arbennig 6. Ni chaniateir claddedigaeth heb ganiatâd y gweinidog neu’r ysgrifennydd, neu dri o aelodau Pwyllgor y Fynwent. 7. Dymunir i’r teulu ymgynghori â’r gweinidog neu un o’r swyddogion cyn trefnu amser yr angladd. Ni chaniateir claddu ar ôl un o’r gloch ddydd Sadwrn, oni fydd amgylchiadau arbennig, nac ar y Sul oni fydd y gyfraith yn gofyn hynny. 8. Yn y fynwent trefnir y beddau mewn rhesi, a phob bedd newydd yn gyfochrog â’r olaf nes gorffen y rhes.

1. Mae’r Eglwys yn annibynnol felly mae ganddi hawl i benderfynu a gosod ei rheolau ei hun. 2. Os nad yw aelod yn aelod llawn yna telir y gwahaniaeth rhwng ei (ch) gyfraniad a`r aelodaeth lawn i’r eglwys. 3. Os bydd partner â bedd yna bydd rhaid defnyddio’r bedd hwnnw.

46


4. Os bydd bedd gan deulu, mae hawl gan y teulu ei ddefnyddio ond yr eglwys sy’n penderfynu a oes lle ynddo. 5. Eraill sydd am eu claddu yn y fynwent neu’r ardd goffa fydd y rhai sydd wedi cyfrannu’n gyson. e.e. cyfaill i’r achos.

6.5 Cyhoeddiadau 6.5.1

Adroddiad Blynyddol

6.5.2

Ffurflenni a Thaflenni Gwybodaeth

6.5.3

Hyrwyddo - Swn Seion

6.5.1 Adroddiad Blynyddol Un o ddyletswyddau pob corff elusennol, gwirfoddol neu stadudol yw cynhyrchu dogfen sy`n croniclo hanes y corff hwnnw dros y flwyddyn gan ystyried agweddau ariannol yn rhan hanfodol ohono.

Mae`r Adroddiad yn cynnwys incwm a threuliau`r eglwys dros y flwyddyn ac fel pob eglwys mae`n hanfodol er mwyn goroesi gael llif arian sy`n galluogi`r eglwys fuddsoddi yn ei dyfodol yn nhermau cynnal gweinidog, cynnal a chadw`r adeiladau, treuliau angenrheidiol a phryniant adnoddau , offer a deunydd arbennig.

Mae`r cyflwyniad i`r adroddiad yn casglu digwyddiadau`r flwyddyn ynghyd ac yn gosod trywydd i`r eglwys am y flwyddyn sydd i ddod. Mae hefyd yn annog cyfranogaeth ac yn diolch am y cyfraniadau a wneir i`r eglwys yng Nghapel Seion dros y flwyddyn.

6.5.2 Ffurflenni a Thaflenni Gwybodaeth Bwriad y Gymdeithas Genhadol yw datblygu ffurflenni gwybodaeth ar wahanol agweddau o fywyd yr eglwys.

Cynnwys yr Adroddiad.

6.5.3 Hyrwyddo - Sŵn Seion

1. Swyddogion yr Eglwys

Y tro cyntaf i`r eglwys gyhoeddi cylchgrawn oedd yn 1997. Bwriad Sŵn Seion yw ymestyn neges yr efengyl i gynifer o bobl yr ardal ag y gallwn gan hyrwyddo`r neges Gristnogol mewn ffordd syml a darllenadwy.

2. Cyfarwyddiadau i`r aelodau 3. Adran er cof am aelodau hunasant yn yr Iesu 4. Cyflwyniad 5. Rhestr o`r aelodau fesul dosbarth (ardal) 6. Maintolen :

Derbyniadau a thaliadau adrannau o`r eglwys a chyfraniadau

7. Ystadegau 8. Trefn oedfaon

Cyhoeddir pedwar rhifyn y flwyddyn erbyn hyn dan ofal ein golygydd Siân Elfyn Jones a mawr obeithiwn i`r cylchgrawn gynyddu mewn nifer ei ddarllenwyr a chynnwys dros y blynyddoedd nesaf. Mae angen deunydd o bob math er mwyn apelio at gynulleidfa lydan ac erfynir ar aelodau gyfrannu`n hael a chyson i sicrhau llwyddiant i waith yr eglwys.

Mae`r ddogfen neu`r Adroddiad yn cael ei pharatoi gan Mrs Caroline Jones sydd yn ddiacones â chyfrifoldeb cynorthwyo’r Trysorydd yn eglwys Capel Seion. Mae’n casglu ynghyd holl gyfraniadau`r aelodau a ffrindiau i`r achos ac yn eu cyflwyno fesul cyfrannwr a dosbarth (ardal) o`r pentref neu ddalgylch.

47


6.6 Dyletswyddau

Aelodau:

6.6.1

Pwyllgorau

6.6.2

Ymddiriedolwyr

6.6.3

Cyfrifoldebau

6.6.4

Is-bwyllgorau

6.6.5

Aelodau Unigol 1999/2000

6.6.6

Adrannau a Gweithgareddau

6.6.7

Gwasanaethau Cefnogol

6.6.8

Yr Eglwys

6.6.1 Pwyllgorau Cwrdd Diaconiaid: Cyfrifoldeb am yr eglwys ac yn atebol i’r Cwrdd Eglwys

Br. Handel Greville

DA

48 Bron yr Ynn, Drefach, Llanelli, SA14 7AH

Br. Graham Lewis

Glynderwen, Capel Seion, Pontyberem, SA15 5AT

Three Counties, Llanarthne, Caerfyrddin SA32 8JD Ffôn: 01558 669152

Br. Teifion Sewell

Bryngrug, Mynyddcerrig, Llanelli, SA15 5BD

Br. Maldwyn Williams

SA14 6HS Bns. Esme Lloyd Br. Mal James

SA17 5DN Br. Caryl Bowen

SA15 5AW

01269 870355

Y Berllan, Drefach, Llanelli, SA14 7BY

Cadeirydd: Bns. Ann Davies

Ffôn: 01269 841362

Llys Cerdd, Uwch Gwendraeth, Drefach

Br. Stephen Thomas

SA14 7AR Bns Caroline Jones

Ffôn: 01269 843767

Eifionydd, 30 Teras Caeglas,

Ffôn: 01269 844994

Pontyberem, Llanelli, Sir Gaerfyrddin. SA15 5AW

Trysorydd:

Ffôn: 01269 870085

Geenfield, Pontyberem, Llanelli

Br. Gethin Thomas

Is-gadeirydd:

Ffôn: 01269 842303

Hafod, Crwbin. Caerfyrddin

Ebost: gwynelfyn@gmail.com

Godrig, 13 Heol Blaenhirwaun, Drefach, Llanelli, Sir Gâr. SA14 7AN

Ffôn: 01269 844399

Min y Nant, Drefach, Llanelli

Eifionydd, 30 Teras Caeglas, Pontyberem Llanelli, Sir Gaerfyrddin. SA15 5AW Ffôn: 01269 870893 / 07970 410278

Ffôn: 01269 870722

Derlwyn Garage, Y Tymbl, Llanelli,

SA14 7BB Br. Gwyn Elfyn Lloyd Jones. B.A.

Ffôn: 01269 870405

Dr. Michael Jones

Llywydd: Arweinydd ac Ysgrifennydd:

Ffôn: 01269 841472

Dr. Wayne Griffiths

Ffôn: 01269 870893

Y Wenallt, Heol Dan Yr Allt, Drefach, Llanelli, Sir Gâr SA14 7 BQ Ffôn: 01269 84871

Br. Gareth Griffiths Manteg, 14a Heol Singleton, Tymbl Uchaf. SA14 6DS Ffôn: 01269 841280

DA – Diacon Anrhydeddus ers 2004.

48


Swyddogion / Diaconiaid Anrhydeddus Y Parchedig Wilbur Lloyd Roberts

Rhiw’r Dorth, Pentrefelin, Llandeilo, Sir Gâr. SA14 7AB Ffôn: 01558 823272

6.6.2 Ymddiriedolwyr:

Enwau sydd ar Memorandwm 1971

Aelodau: Br. Handel Greville

48 Bron yr Ynn, Drefach, Llanelli, SA14 7AH

01269 841472

6.6.3 Cyfrifoldebau Ysgrifennydd yr Eglwys - Gohebol :

Gwyn Jones

01269 870893

Ysgrifennydd Cyhoeddiadau

Gwyn Jones

01269 870893

Trysorydd:

Gareth Griffiths

01269 841280

Ysgrifennydd Ariannol:

Gareth Griffiths

01269 841280

Ysgrifennydd Cyfamodi:

Stephen Thomas

01269 844994

Cofrestrydd Priodasau:

Dr. Michael Jones

01267 275238

Cofrestrydd Cynorthwyol:

Br. Mal James

01279 870085

Swyddog Datblygu :

Dr. Wayne Griffiths 01269 841871

Arweinwyr Dosbarth Dosbarth A

Teifion Sewell

01269 870722

Dosbarth B

Gethin Thomas

01269 841362

Dosbarth C

Dr. Michael Jones

01267 275238

Dosbarth D

Graham Lewis

01269 870405

Dosbarth E

Caryl Bowen

01269 870355

Dosbarth F

Stephen Thomas

01269 844994

49


6.6.4 Is-bwyllgorau

6.6.5 Gwasanaethau

1.Is-bwyllgor y Fynwent

Oedfaon Wythnosol Cadeirydd :

Graham Lewis ( Ymddeol )

Ysgrifennydd:

Ysgrifennydd yr Eglwys - Gohebol

Aelodau :

Teifion Sewell

Ysgrifennydd Cyhoeddiadau : Cyhoeddwyr:

Gwyn Jones

01269 870893

Rota Misol: Mae’r rhestr canlynol yn newid yn aml. Cysylltwch â’r Arweinydd am fanylion pellach.

2. Is-bwyllgor Adeiladau Ionawr

Gareth Griffiths

01269 841280

Cadeirydd :

Mal James

Chwefror

Wayne Griffiths

01269 841871

Ysgrifennydd :

Ysgrifennydd yr Eglwys

Mawrth

Gwyn Jones

01269 870893

Aelodau :

Teifion Sewell

Ebrill

Dr. Michael Jones

01267 275238

Eurof Thomas

Mai

Stephen Thomas

01269 844994

3. Is-bwyllgor y Gymanfa

Mehefin Cadeirydd:

Gethin Thomas

Gorffennaf

Gareth Griffiths

01269 841280

Ysgrifennydd:

Caroline Jones

Awst

Wayne Griffiths

01269 841871

Trysorydd:

Graham Lewis

Medi

Gwyn Jones

01269 870893

Hydref

Dr. Michael Jones

01267 275238

Tachwedd

Stephen Thomas

01269 844994

4. Is-bwyllgor Bugeiliol Cadeirydd:

Stephen Thomas

Ysgrifennydd:

Ysgrifennydd yr Eglwys

Aelodau:

O blith y diaconiaid

Rhagfyr

Priodi Cofrestrydd :

5. Is-bwyllgor Yr Ysgol Sul Cadeirydd:

Y Gweinidog / Cadeirydd y diaconiaid Stephen Thomas

Aelodau

Yr athrawon

Dr. Michael Jones

01267 275238

Cofrestrydd Cynorthwyol: Mal James

01267 870085

Ysgrifennydd yr Eglwys:

Gwyn Jones

01269 870893

Gofalwr y Capel:

Graham Lewis

01269 870405

Bedydd

6. Is-bwyllgor Ariannol Cadeirydd:

Stephen Thomas

Ysgrifennydd yr Eglwys:

Gwyn Jones

01269 870893

Trysorydd:

Gareth Griffiths

Gofalwr y Capel:

Graham Lewis

01269 870405

Ysgrifennydd:

Diacon

50


Angladd

6.6.7 Gwasanaethau Cefnogol Ysgrifennydd yr Eglwys:

Gwyn Jones

01269 870893

Trefnydd y Blodau

Esme Lloyd

01269 842303

Cwmni Mentro

Gofalwr y Fynwent

Graham Lewis

01269 870405

Yr aelodau gwreiddiol yw`r canlynol. Ychwanegir at y rhestr yma.

5. Arweinyddion y Gân Arweinyddion

Gwyn a CarolineJones

01269 870893

Gethin a Ann Thomas

01269 831362

Marie Seymour

dim yn y cyfeirlyfr

Stephen a Cathryn Thomas

01269 844994

Gary Anderson

01269

Wayne a Ann Griffiths

01269 841871

6. Blodau Elsie Evans

01269 841979

Blodau`r Cwm

01269 831030

Sŵn Seion

Golygydd

-Yr Arweinydd

6.6.8 Yr Eglwys 6.6.6 Adrannau a Gweithgareddau

Arweinydd y Gân

Marie Seymour

dim yn y cyfeirlyfr

Gary Anderson

01269

Ysgrifennydd y Coleg

Esme Lloyd

01269 842303

Ysgrifennydd Eglwys y Plant

Ann Davies

01269 843767

Ysgrifennydd y Genhadaeth

Ann Thomas

01269 841362

Adrannau 1. Yr Ysgol Sul Capel Seion

Ysgrifennydd

Ann Davies

01269 843767

Trysorydd

Ann Thomas

01269 831362

Caroline Jones

01269 870893

Cadeirydd

Ann Davies

01269 843767

Ysgrifennydd

Caroline Jones

01269 870893

2. Y Chwiorydd

Organyddion

Trysorydd 3. Yr Ieuenctid Trefnydd Cadeirydd Is Gadeirydd Ysgrifennydd

Gofalwyr Glanhawr

Caroline Jones

01269 870893

Elsbeth James

01269 870085

Ann Davies

01269 843767

Julie Humphreys

01269 844652

Capel Seion Graham Lewis

01269 870405

Hebron

01269 842303

Esme Lloyd

Capel Seion Yr aelodau yn eu tro Hebron Yr aelodau yn eu tro

Trysorydd

51


6.7 Oedfaon 6.9.1

Trefn Oedfaon

6.9.2

Cymorth i`r Oedfaon

6.9.3

Anghenion Arbennig

6.7.1 Trefn yr Oedfaon Bydd y gweinidog yn amrywio trefn y gwasanaethau fel bo angen 1. Oedfa Arferol

2. Oedfa Cwrdd Plant

Gweddi

Trefn arferol gydag

Emyn

Eitem gan y plant

Darlleniad

Dweud Adnodau

Emyn Gweddi Cyhoeddiadau Emyn Pregeth Emyn Y Fendith 3.

Oedfa Gymun

Trefn Oedfa arferol yna gweinyddu`r Cymun Emyn Y Fendith 4. Oedfa Priodas

5. Oedfa Bedydd

Ymdeithgan

Trefn Oedfa Arferol

Emyn

fel arfer daw`r Bedydd

52


Y Gwasanaeth Priodasol

ar ôl y darllen

6.8

Cymorth i`r Oedfaon

Darllen a Gweddi Gweddi Agoriadol

Emyn Ymdeithgan

6. Angladd

7. Oedfaon Arbennig

Emyn

Trefn Oedfa Arferol

Darllen

gyda threfniadau /

Pregeth / Teyrnged

siaradwyr arbennig

Gweddi Emyn Organydd

1. Yn ein haddoliad heddiw, bywha di ein cydwybod, O! Dduw, â`th sancteiddrwydd, portha ein meddwl â`th wirionedd, pura ein dychymyg â`th harddwch, agor ein calonnau â`th gariad, a phlyg ein hewyllys i`th bwrpas dwyfol. Amen 2. Mor deg dy bebyll di O! Dduw. Mor hawddgar dy gynteddoedd. Diolchwn i Ti am y fraint o gael dod i`th gysegr, a gofynnwn am dy fendith ar ein hoedfa, yn enw Iesu Grist. Amen.

Gweddi`r Arglwydd Ein Tad yr Hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw. Deled dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd. Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.

Cyfrifoldeb yr eglwys a`r teulu fydd cysylltu a`r organydd yn enwedig ar gyfer angladd.

A maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i`n dyledwyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg. Canys eiddot Ti yw`r deyrnas,a`r nerth a`r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen

Gweddi Ar Derfyn Oedfa Cariad yr Arglwydd Iesu a`n tynno ato`i Hun, gallu`r Arglwydd Iesu a`n nertho yn ei wasanaeth, llawenydd yr Arglwydd Iesu a lanwo ein heneidiau, a bendith Dduw a fo arnom yn awr ac yn oes oesoedd. Amen. Gras Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân fyddo gyda ni oll. Amen. Anogir yr aelodau i hysbysu`r ysgrifennydd o anghenion arbennig a fydd o gymorth i`r aelodau er mwyn eu ychwanegu yn y Llawlyfr

53


6.9 Cymorth i`r Aelodau 6.9.1 Cyfeiriadau, rhifau ffôn a dyletswyddau swyddogion 6.9.2 Cyfeiriadau, rhifau ffôn a dyletswyddau defnyddiol eraill

6.9.1 Cyfeiriadau, rhifau ffôn a dyletswyddau swyddogion 1. Gweler yr adroddiad / atodiad perthnasol 4.12.2 Cyfeiriadau, rhifau ffôn a dyletswyddau defnyddiol eraill

4. Menter Cwm Gwendraeth Deris Williams

Rheolwr Gyfarwyddwr

Heol Caerfyrddin,Crosshands, Sir Gâr. SA14 6SU Ffôn : 01269 831281 / Ffacs : 01269 831818

5. Ysgol Gynradd Drefach Mrs. Manon Jones Pennaeth Ysgol Gynradd Drefach, Drefach, Llanelli Sir Gâr, SA147AN Ffôn : 01269 841564

1. Undeb yr Annibynwyr Cymraeg Y Parchedig Dr Geraint Tudur Undeb Yr Annibynwyr Cymraeg. Ty John Penri, 11 Heol Sant Helen, Abertawe, SA14 4AL

6. Shelter Cymru John Puzey Cyfarwyddwr 25 Walter Rd, Abertawe, SA11 5NN Ffôn : 01792 469400 / Ffacs : 01792 460050

Ffôn: 01792 467040/652542 7. NSPCC Cymru 2. Cymdeithas Y Byddar Sir Caerfyrddin

Julie Richards

Rheolwr Apêl

Carys Vaughan, Swyddog Cyhoeddusrwydd

1 Heol Penlan, Caerfyrddin, Sir Gâr. SA31 IDN

124 Heol Bryngwili, Crosshands, Llanelli

Ffôn : 01267 223934 / Ffacs : 01267 223935

Sir Gâr Ffôn : 01269 845481 8. Cymorth Cristnogol 3. Cyngor Ysgolion Sul

Rhanbarth De Orllewin a Chanolbarth Cymru

Aled Davies, Swyddog Datblygu

Tom .T. Davies

Prifysgol Cymru Bangor, Ysgol Addysg,

12 Heol Dwr, Caerfyrddin

Ysgrifennydd SA31 1PY

Safle`r Normal, Adeilad Meirion, Gwynedd LL57 2PX

54


6.10 Taliadau a Derbyniadau

6.10.1.3 Torri Gwair Capel a Hebron

6.10.1 Taliadau

6.10.1.4 Gofalwr

6.10.2 Derbyniadau

Capel a Hebron : aelod ffyddlon.

6.10.1 Taliadau

Cedwir allweddi Hebron gan Esme Lloyd Gweler Adran Dyletswyddau.

6.10.1.1 Gweinidogion Telir gweinidogion sy`n llenwi Suliau i`r eglwys fesul oedfa gan ystyried natur yr oedfa a threfniadau teithio fel â ganlyn : Gweinidogion

Pregethwyr Cynorthwyol

Oedfa fore neu nos

£20.00 + Costau Teithio £15.00 + Costau Teithio

Oedfaon bore a nos

£40.00 + Costau Teithio £30.00 + Costau Teithio

Oedfaon Cyrddau Mawr

£60.00 + Costau Teithio

Gwasanaeth Arbennig Claddu

£40.00

Claddu Llwch

£10.00

Priodas

£25.00

Costau Teithio

Nid oes gofalwr i`r capel. Gwneir dyletswyddau gofalwr gan

Cedwir allweddi`r Capel gan Ysgrifennydd yr Eglwys – Gohebol a`r Diaconiaid.

Noder : Disgrifiwyd y prif daliadau yn unig yn yr adran yma. Gweler: Cyfrifon yr Eglwys am ddisgrifiad o`r taliadau yn llawn.

Gwasanaeth

Contract Blynyddol £700.00

6.10.2 Derbyniadau 6.10..2.1 Hebron Mudiadau ac Unigolion Heb drydan

£20.00

A thrydan

£25.00

Dadansoddiad o`r gost

0.22 ceiniog y filltir

Yr adeilad +/- y gegin

£20.00

Trydan

£ 5.00

Gofalwr*

£ 5.00

*Trefniant preifat rhwng y benthycwr a`r gofalwr Ni roddir tâl ar gyfer llety na chinio oherwydd bod trefniadau lletya yn bodoli eisioes 6.10.1.2 Glanhau Capel a Hebron Glanhau Hebron / mis

Glanhau`r Capel / mis £15.00

£30.00

Pan fydd Hebron yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau elusennol, di-elw e.e. Ymchwil Cancr, Ymchwil y Galon mae`r eglwys yn derbyn y taliad ac yn trafod beth i`w wneud. Fel arfer maent yn rhoi tâl yn ol i`r achos neu yn rhoi rhan ohono yn ôl. Ychwaneger £5.00 os bydd trydan yn cael ei ddefnyddio gan y benthycwr. Gorsaf Bleidleisio

Cyngor Sir Gaerfyrddin

£75.00

55


6.10.2.2 Y Fynwent

6.10.2.4 Priodi

Telir am adnoddau ac am wasanaeth y canlynol : Gweinidog.

Telir am adnoddau`r eglwys ac am wasanaeth y canlynol : Gweinidog.

Aelodau

Aelod

Ni fydd tal i aelodau llawn1.

Dim tâl i aelodau llawn.

Mynediad i`r fynwent*

£10.00.

*Telir o gostau`r Trefnwr Angladdau. chodir tâl am gladdu aelod llawn. Onid yw cyfraniad yr aelod am y flwyddyn yn gyflawn, yna rhaid talu`r gwahaniaeth i`r eglwys fel rhan o gost yr angladd.

Os nad yw cyfraniad yr aelod yn llawn yna telir y gwahaniaeth rhwng ei gyfraniad a`r aelodaeth i`r eglwys am gael priodi.

1Ni

Heb fod yn aelod I`r Eglwys

£80.00

( Yr Eglwys yn talu gweinidog -£25.00 )

Heb fod yn aelod llawn Costau Claddu

£80.00

Mynediad i`r fynwent*

£10.00.

Os yw `r un neu`r ddau sy`n priodi yn ffrind i`r achos yna telir y gwahaniaeth rhwng ei (ch) gyfraniad a`r aelodaeth lawn i`r eglwys am gael priodi.

*Telir o gostau`r Trefnwr Angladdau. Os yw`r ymadawedig yn ffrind i`r achos yna telir y gwahaniaeth rhwng ei gyfraniad a`r aelodaeth lawn i`r eglwys am gael claddu.

6.10.2.5 Bedydd Aelodau Ni fydd tâl i aelodau llawn.

6.10.2.3 Yr Ardd Goffa. Telir am adnoddau ac am wasanaeth y canlynol: Gweinidog.

Os nad yw cyfraniad y teulu am y flwyddyn yn llawn yna telir y gwahaniaeth rhwng eu cyfraniad a`r aelodaeth lawn i`r eglwys am gael bedyddio.

Yr Organydd ( gwasanaeth yn y Capel )*

Heb fod yn aelod

*Trefniant preifat rhwng y teulu a`r organydd

Os yw un neu`r ddau o`r rhieni wedi cyfrannu fel ffrind i`r achos yna telir y gwahaniaeth rhwng ei (ch) gyfraniad a`r aelodaeth lawn i`r eglwys am gael bedyddio.

Aelod

I`r eglwys.

£25.00

Gweler 6.10.2 Uchod Heb fod yn aelod llawn Costau claddu llwch

£25.00

Mynediad i`r fynwent

£10.00

56


6.11 Nodiadau Ysgrifennwch unrhyw newid neu welliand sydd angen i ddiweddaru’r llawlyfr yn y darn gwag isod ac yna ei ddychwelid i’r Arweinydd.

57


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.