Coleg Morgannwg Prosbectws Rhan-Amser

Page 1


Croeso i Goleg Morgannwg Croeso i gylchgrawn Coleg Morgannwg, os ydych yn ystyried ymuno â ni o fis Medi 2011 ar gwrs rhan amser, gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen am y cyrsiau a’r cyfleusterau sydd ar gael a fydd yn eich helpu chi i lwyddo. Byddwch yn ymuno â ni ar adeg cyffrous yn ein hanes gyda Champws Dysgu newydd Taf Elai (TELC) ar y ffordd i gael ei gwblhau ac yn paratoi i groesawu’r garfan gyntaf o fyfyrwyr o fis Medi 2012. Eisoes bu hon yn flwyddyn lwyddiannus i Goleg Morgannwg, rydyn ni wedi derbyn nifer o wobrau am arferion da a nodedig ac yn eu plith: Gwobr Ansawdd Cymru, Gwobr Cymdeithas y Colegau Beacon, Gwobr Iechyd a Lles a Gwobr y Ddraig Werdd. Hefyd, y llynedd dyfarnwyd Gwobr Buddsoddwyr mewn Pobl a Safon Ansawdd Sgiliau Sylfaenol Cynulliad Cymru i ni. Mae’r Coleg wrth ei fodd i dderbyn y gwobrau hyn sy’n cydnabod y gwaith rhagorol sy’n digwydd yn y coleg. Rwy’n sicr y cewch y datblygiadau sy’n digwydd a’r cyfleoedd a ddisgrifir yn y cylchgrawn hwn yn ddefnyddiol a deniadol. Os hoffech wybod rhagor wrth i chi benderfynu pa gwrs i’w ddilyn a ble i ddysgu, cysylltwch â ni. Edrychwn ymlaen at chwarae rhan bwysig yn eich paratoadau ar gyfer eich dyfodol personol a phroffesiynol. Mrs Judith Evans, Pennaeth/Prif Weithredwraig

Dyddiadau ar gyfer eich Dyddiadur Tymor

Dechrau

Gorffen

5 Medi 24 Hydref

21 Rhagfyr 28 Hydref

Tymor y Gwanwyn Hyd y tymor Hanner tymor

3 Ionawr 13 Chwefror

5 Ebrill 17 Chwefror

Tymor yr Haf

23 Ebrilll 4 Mehefin

22 Mehefin 8 Mehefin

Tymor yr Hydref

Hyd y tymor Hanner tymor

Hyd y tymor Hanner tymor

Cynnwys 1

Ble rydyn ni a ble rydyn ni am fynd

2

Sut i Wneud Cais a Chymorth i Fyfyrwyr

4

Learndirect / Gwasanaethau Busnes

5

ESF

6

Cyflawniadau’r Coleg

8

Addysg Uwch

10 Gofal, Plentyndod a Sgiliau Sylfaenol 12 Y Diwydiannau Creadigo 14 Addysg Gyffredinol

Digwyddiadau Agored & Dyddiadau Ymweld Yng Ngholeg Morgannwg... Rydyn ni’n meddwl am syniadau gwahanol... Ydych chi?

15 Proffesiynol a gweinyddui 18 Y Diwydiannau Gwasanaethu 20 Technoleg (Peirianneg)

Ymunwch â ni yn ystod un o’n digwyddiadau agored...

22 Technoleg (Adeiladu)

Diwrnod Cynghori – 19 Mai 2011

24 Sgiliau Dysgu Gydol Oes

Diwrnod Gwybodaeth AU - 26 Mai 2011

28 Cyrsiau Cymunedol

Dyddiadu Cynghori - 31 Awst & 1 Medi 2011

30 Ffurflen Ymholiad

Mae Coleg Morgannwg wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a geir yn y cylchgrawn hwn mor gywir â phosibl ar adeg ei argraffu. Y bwriad yw darparu cyfarwyddyd cyffredinol i gyrsiau a chyfleusterau ac nid yw’n ffurfio unrhyw ran o gontract. Mae Coleg Morgannwg yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i unrhyw gwrs, adnoddau cyrsiau neu gymorth neu eu tynnu nôl. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n darparu amgylchedd o ansawdd uchel a bywiog ar gyfer cwrdd ag anghenion dysgwyr, cyflogwyr a’r gymuned ehangach..

Cynorthwyir rhai o’n cyrsiau gan gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd drwy brostect Pontydd i Waith.

Coleg Achredig Prifysgol Morgannwg


Gyda phedwar prif gampws ar draws Rhondda Cynon Taf, mae Coleg Morgannwg yn hawdd ei gyrraedd ble bynnach rydych yn byw.

Morgannwg.ac.uk college@morgannwg.ac.uk

Mae Campws Dysgu Taf Elai (TELC) yn cael ei godi a’r gobaith yw y bydd wedi ei orffen erbyn mis Medi 2012. Bydd y staff a’r myfyrwyr yn symud o’r safle presennol yn Rhydyfelin (chi, efallai!) ac edrychwn ymlaen i groesawu’n carfan gyntaf o fyfyrwyr newydd. Bydd yno gyfleusterau dysgu gwych ar gyfer Busnes ac Astudiaethau Proffesiynol, Astudiaethau Gofal a Phlentyndod, Arlwyo, Cyfrifiadura, Technoleg Gwybodaeth, Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformio, Gwallt a Harddwch, Gwyddoniaeth a Chwaraeon. ...a chanolfan ddysgu, campfa, creche, siop goffi, bwyty, salon gwallt a harddwch, cyfleusterau cynadledda a hyfforddiant o’r radd flaenaf, mannau mawr ar gyfer cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio yn ogystal â llyfrgell Bwrdeistref Sirol. Er mwyn gweld y cynlluniau llawn a phrofi ‘rhith daith’ o’r campws newydd, ewch i’n gwefan

morgannwg.ac.uk/developments

Yn agor Medi 2012 1


’n n astudio sy yd i’r rhagle h ny o fo d n o a d d yn yddwn geiswyr b , ym is u a g lp e n h le i ffurf yddo. oleg em gan y C d i’ch cyfarw ch yn derbyn st w lia d e sy d w fy yf yd c n lw r a d e P gyf Sefy enion. r cyfleus ar er eu hangh nghenion a threfnu amse a addas ar gyf h c trafod eich a to a yn l n so w a d n h yd rt b e b d gu mwy wybodaeth tod y cyfwelia r gael. Cawn gyfle i ddys le iofyn ys yn c a n w a h u’r cyf sydd nffurfiol fydd ewch chitha darpariaeth C d . ir y yb d a to u Cyfweliad a a ys ili rbenigol cyw u, sg aeth i chi am l y cyngor a diddordeba e h a c ic e , yn u d rhoi gwybod ïa o b b egis eich ho sicrhau eich amdanoch m liad hwn yw e w yf r gael i chi. c y d a elir y Bwri ynau sydd a si p o ll o h cwestynau. enigol: cynh ’r o rb l a o d d o lia e yb w w ym . Gallai’r ch gyf ac i ddod yn faes astudio r liad hwn cew a e w rp a yf d c y h ic n Yn dily tor yn e â’r cyfweliad n gyda thiw un diwrnod yr r a l d y tiwtor cyfweliad hw a n yn wyrach. Byd gael ei g h n d w ia h d d yd lia d e d yn nhw cyfw u ar mor addas yd o i hwynnol ne a p yc c d o fo d ra yd th ydd chi a cyfarw dol ar i chi lw au’n fanwl i o si m yr a c ’r yn d ro lu fo i chi hwn yn eg au yn gofyn llai’r cynnig a si G yr c r. e ’r o yf i c a h ar eic ol; mae rh iadau penod gael canlyn f. ob amser yn wneud praw aff Derbyn b st ’r u e n s w mp nderfynwch asanaeth Ca , felly, os pe h w c G lla ff e a h st d ym n Byd â chyflawni’r enio d eich angh os methwch fo u e ra n d r i e d yf c ro ba eich croeso i chi yntaf, bydd yn addas ar c rs is w w c e d yw h d ic na er e ediad ar gyf gofynion myn .. siarad â nhw

d cais Sut i wneu

Cymorth i Fyfyrwyr… Eich helpu chi i feddwl am syniadau gwahanol Staff Gwasanaethau Campws yn darparu man cysylltu ar gyfer myfyrwyr ac maen nhw’n helpu drwy rhoi help, cyngor a chyfarwyddyd di-duedd. Lleolir Gwasanaethau Campws ger derbynfa pob campws. Yn benodol gall staff Gwasanaethau Campws ateb eich cwestiynau ar ymrestru ar gyrsiau, ffioedd, grantiau a help ariannol arall. Mae Swyddogion Lles sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig hefyd ar gael i’ch helpu a’ch cynghori gydag unrhyw broblem bersonol ac ymarferol.

Darperir cymorth ar gyfer Myfyrwyr ag Anawsterau Dysgu a/neu Dyslecsia Gan un o arbenigwyr y tîm Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr. Byddan nhw’n gwneud pob ymdrech rhesymol i sicrhau na fydd unrhyw fyfyriwr neu ddarpar fyfyriwr dan unrhyw anfantais oherwydd eu hanabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion penodol cyn gynted â phosib yn ystod y broses o wneud cais, caiff popeth ei drin yn sensitif a’i ddefnuddio i baratoi eich Cynlluniau Cymorth Unigol.

Llais a Barn Mae Senedd y Myfyrwyr yn gweithredu i wella’r coleg drwy gynrhychioli’r myfyrwyr ar bob agwedd o fywyd coleg. Mae’n gysylltiedig ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) ac mae’n darparu fforwm ar gyfer myfyrwyr i drafod y materion sy’n effeithio arnyn nhw gydag aelodau’r Senedd yn cynrychioli myfyrwyr ar wahanol grwpiau a phwyllgorau gan gynnwys y Corff Llywodraethol. Mae gan bob campws ei Senedd Myfyrwyr ei hun; maen nhw wedyn yn ethol aelodau ar Senedd Myfyrwyr y coleg cyfan.

Y Canolfannau Dysgu (LCs) yw canolbwynt yr holl weithgareddau sydd ar gael i fyfyrwyr lle ceir ystafelloedd astudio ac ystod eang o adnoddau o ddeunydd cyfrifiadurol, deunydd printiedig (llyfrau a chylchgronau) i ffilmiau meicro a phecynnau dysgu rhyngweithiol. Ceir Cyfrifiaduron, Byrddau Smart a chaledwedd arall ar gyfer gwaith ‘yn y dosbarth’ ac i fyfyrwyr baratoi cyflwyniadau ac i gyflwyno gwaith cwrs/gwaith prosiect.

2

www.morgannwg.ac.uk


Dysgu yn Gymraeg Nod Coleg Morgannwg yw meithrin ethos Gymreig ac i gynorthwyo ein myfyrwyr i barhau i ddysgu a byw drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn yn eich cynorthwyo drwy gyfrwng y Gymraeg wrth i chi wneud cais am gwrs, tra byddwch chi’n astudio’ch dewis gwrs ac wrth i chi baratoi ar gyfer eich dyfodol.

Cymorth Gofal Plant Os hoffech astudio yny coleg ond bod gennych gyfrifoldebau gofal plant, efallai gallwn ni helpu Mewn amgylchiadau arbennig gall y coleg dalu 100% o gostau gofal plant ar gyfer gofalwr plant neu feithrinfa hyd at uchafswm o £140 yr wythnos. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Gwasanaethau Campws.

Meithrinfa Ddydd Mae meithrinfa ddydd ar gampws Aberdâr. Mae Meithrinfa First Steps yn feithrinfa ddydd ar gyfer plant myfyrwyr sy’n mynychu’r coleg ac hefyd mae ar agor i’r cyhoedd. Mae’r Feithrinfa wedi’i chofrestru gydag Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru. Maen nhw’n cadarnhau’r holl rhagofalon angenrheidiol megis tân a diogelwch. Mae’r holl staff yn gymwys ac yn darparu gofal o’r ansawdd gorau ar gyfer y plant. Ein nod yw darparu awyrgylch diogel, hapus, hwyliog a gofalgar o fewn amgylchedd gartrefol. Gall pob plentyn ddysgu sgil newydd a datblygu’n gymdeithasol, yn emosiynol, yn gorfforol ac yn ddeallusol. Caiff yr holl sgiliau hyn eu hannog drwy chwarae.

Cyfleoedd Cyfartal Mae Coleg Morgannwg wedi ymrwymo i weithredu ei Bolisi Cyfleoedd Cyfartal yn effeithiol. Ystyrir pob darpar fyfyriwr ar sail eu haddasrwydd waeth beth fo’u rhyw, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu tarddiad ethnig, eu cenedl, eu trefniadau domestig, eu statws priodasol, anabledd, anawsterau dysgu, eu hoed, eu cred gwleidyddol neu grefyddol. Mae datganiad llawn ar gael os gwneir cais amdano.

Diogelu Plant ac Oedolion Agored i Niwed Mae Coleg Morgannwg yn cydnabod bod gan aelodau staff a dysgwyr rôl bwysig i’w chwarae i ddiogelu lles plant ac oedolion agored i niwed ac i weithredu rhag iddyn nhw gael eu cam-drin. Mae gan y coleg, mewn ymgynghoriad gyda’r Gwasnaethau Cymdeithasol, bolisïau cynhwysfawr ysgrifenedig i sicrhau mai lles y plentyn neu’r oedolyn agored i niwed sy’n ganolog i’w weithgareddau.

Ffioedd Dysgu Myfyrwyr rhan amser Caiff cyrsiau eu prisio’n unigol a bydd manylion megis ffioedd ar ar gael os gwne holiadau yn y pr ir cais amdanyn is. . nhw. Rydyn ni’n Yn y mwyafrif o cynnwys costau achosion, ni chod ychwanegol ir ffi oe dd ar be rson sy’n astudi • Ddi-waith ac yn o cyrsiau hyd at derbyn Lwfans Ce ac yn cynnwys le isio Gwaith yn Se Cyflogaeth a Ch fel 3 os ydyn nh iliedig ar Incwm ymorth w’n: ne u el fe n gymhorthdal incw • Rhai sy’n derb m y Lwfans yn Budd-dal Tret h y Cyngor neu • Rhai sy’n derb Fudd-dal Tai yn Credyd Treth Gw aith (gydag incw • Pobl sy’n derb m o lai na £15050 yn budd-dal anab yn dod i mewn i’r ledd/analluedd aelwyd) • Pobl dros 60 oe di fri fol d ac yn derbyn credyd Pensiwn • Ffoaduriaid ne (gwarantu Cred u’n geiswyr lloch yd yn unig) es yn derbyn yr Deddf Lloches a hyn sy’n gyfwer Menwfudo 1999 th â budd-dal yn se ) a’r rhai sy’n diby • Pobl sy’n astu iliedig ar incwm nnu arnyn nhw dio cyrsiau sgilia (cymorth yn ôl am u hanfodol a ch odau Lefel 1 neu is. yrsiau cyffredinol ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwy • Pobl yn mynyc hu cyrsiau ‘blasu r Ieithoedd Eraill) ’ a chyrsiau erai ar • Pobl o dan 19 ll a ddefnyddir fe oed sydd ddim l rh an o fe nt ra yn u ca re el eu hariannu ga criwtio-cyfranogi Gallai myfyrwyr . n gynllun arall y Addysg Uwch Rh llywodraeth. an Amser dderby Ffoniwch 0144 n help gyda’u ffi 3 663250/663 oedd drwy gynl 014 am ragor lun hepgor ffioe Gellid cyfeirio am o fanylion. dd AU. gylchiadau eithria dol o galedi at Re ddileu ffioedd yn olwr y Gwasanae seiliedig ar y dy thau Myfyrwyr a stiolaeth a ddar Codir ffioedd cy perir. allai ddewis yn ôl rsiau wrth y flwyd disgresiwn ostw dyn. ng neu Nodyn Pwysig: Ffioedd Cofrest ru , Ar ho liad ac Asesiad Efallai bydd eich cwrs yn un lle rh aid talu’r ffioedd cynnwys yn y ffi uchod yn ychw cychwynnol. Ef anegol i ffioedd allai na fydd rhai ffioedd ychwan eich cwrs a bydd d i’r myfyrwyr hy egol hyn. y rhain yn cael nny sy’n cael eu eu heithrio rhag ta lu ffioedd dysg u dalu’r

3


Adeiladu Sgiliau Bydd y cwrs llawn amser hwn yn galluogi’r myfyriwr i ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol i sicrhau swydd barhaol. Bydd y sgiliau hyn yn cynnwys llythrennedd, rhifedd a TG. Rhoddir cymorth i chwilio am swydd gan gynnwys canfod ffynonellau swyddi, llenwi ffurflenni a chreu CV. Cynhelir y cwrs ar y cyd â Swyddfa Byd Gwaith ac mae ar gyfer oedolion sy’n ddi-waith sy’n derbyn naill ai Lwfans Ceisio Gwaith neu fudd-dal yr Adran Gwaith a Phensiynau. Gall myfyrwyr gael lwfansau hyfforddi a thelir eu holl gostau teithio. Cynigir cyrsiau Tystysgrifau City and Guilds mewn Llythrennedd Oedolion a Rhifedd Oedolion a’r Sgiliau Allweddol Ehangach. Rydyn ni hefyd yn cynnig Tystysgrif Lefel Mynediad mewn Defnyddio TG gan symud ymlaen i CLAIT RhCA ar gyfer pob myfyriwr sy’n dymuno swydd Weinyddol neu’n dymuno cael gwybodaeth TG sylfaenol.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Brett neu Sue yn yr Adran Adeiladu Sgiliau (Skillbuild), Pontypridd ar 01443 663025

Learndirect @ Coleg Morgannwg Os ydych yn oedolyn yn byw yng Nghymru, yna mae Learndirect ar eich cyfer chi. Yn ifanc, yn hen, yn ddechreuwr rhonc neu’n dymuno gloywi’ch sgiliau mae gan Learndirect rywbeth ar eich cyfer chi. Yr hyn sy’n wych am ddysgu gyda Learndirect yw bod y cyrsiau mor hyblyg. Gallwch astudio’ch cwrs yn eich canolfan leol neu o’ch cartref neu’ch gwaith os ydych ar y rhyngrwyd. Mae’r cyrsiau wedi’u trefnu yn gyfnodau dysgu byr, fel y gallwch ddysgu ar eich cyflymder eich hun a phryd bynnag sy’n eich siwtio chi. Mae canolfannau Coleg Morgannwg yn cynnig amgylcheddau ymlaciol a chefnogol i chi ddysgu a chewch diwtor i’ch helpu yn ystod eich cwrs. Mae ein cyrsiau ar-lein yn rhoi mynediad uniongyrchol i hyfforddiant uchel ei ansawdd. Maen nhw’n effeithiol, yn rymus, hawdd eu defnyddio ac yn cynnig hyfforddiant o’r radd flaenaf o’ch bwrdd gwaith cyfrifiadur. Isod cewch ‘flas’ o rai o’r cyrsiau sydd ar gael. TG yn y Cartref ac yn y Swyddfa

Cyflwyniad i’r Rhyngrwyd

Cychwyn

Cyfathrebu Electronig (E-bost)

Syrffio’n Uniongyrchol Ar-lein Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (ECDL)

Prosesydd geiriau, Taenlenni, bas data ac Argraffu ar y We

IT2 Cyflwyniadau yn Defnyddio PowerPoint MS

Iechyd a Ffitrwydd

Sgiliau Oes

Sillafwyr

Sgiliau Allweddol/Cymhwyso Rhifau a Chyfathrebu

Sgiliau Saesneg (ESOL)

Cael Swydd

Sgiliau Hanfodol ar gyfer Gwaith

Blasu Rhifau Ar-lein Trin Geiriau

Am ragor o wybodaeth e-bostiwch Learndirect@Morgannwg.ac.uk (mewn partneriaeth gyda Choleg Ystrad Mynach)

Yn darparu gwasanaet ac unigolion sy’n gwne

Rydyn ni’n arbenigo yn y mey

Hyfforddiant ar gyfer

Trwyddedigion • Iechyd & Dioge Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyllido Gall ‘Impact’ gael cy cynnwys Sgiliau Sylfaenol ar gyf (Gwella Sgiliau Arwain a Rheoli)

4

www.impact.morgannwg.ac.uk


Prosiectau a Gyllidir gan Arian Cymdeithasol Ewrop Mae Consortiwm De Ddwyrain Cymru yn cynnwys chwe Coleg Addysg Bellach, Consortiwm Torfaen, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerdydd a Phrifysgol Cymru Casnewydd. Bu’r consortiwm yn llwyddiannus yn ei gynigion am arian i gyflenwi gwahanol brosiectau, Sgiliau Sylfaenol ar gyfer y Gweithle • Cynorthwy-ydd Sgiliau Hanfodol Oedolion/Hyfforddiant Athrawon Mewn cydweithrediad â Choleg y Barri, Coleg Penybont, Coleg Gwent, Coleg Merthyr Tudful, Addysg Oedolion a Chymunedol Torfaen a Choleg Ystrad Mynach. Nid Prosiect Sgiliau Sylfaenol ar gyfer y gweithle yw codi lefelau sgiliau sylfaenol gweithwyr cyflogedig drwy gynyddu a mireinio cymorth sgiliau sylfaenol yn y gweithle. Wrth gydweithio gyda chyflogwyr, bydd y prosiect yn codi ymwybyddiaeth o fanteision gweithlu medrus a bydd yn darparu cymorth ychwanegol i ddelio â’r sgiliau sylfaenol a nodwyd. Bydd y prosiect yn cael ei gynnal tan fis medi 2013. Bydd prosiect Cynorthwy-ydd Sgiliau Hanfodol Oedolion/Hyfforddiant Athrawon ar gael i alluogi athrawon sgiliau sylfaenol a chynorthwywyr yng Nghymru gael eu hyfforddi er mwyn cynyddu gallu’r gweithlu i fynd i’r afael ag anghenion llythrennedd, rhifedd a ieithyddol dysgwyr. Cynlluniwyd y prosiect i gwrdd â gofynion: Strategaeth Sgiliau Sylfaenol Cenedlaethol • cyllid Ewropeaidd fframwaith Sgiliau hanfodol Cymru

• Fframwaith Ansawdd ac Effeithiolrwydd.

Mae’n cynnig cyfle i gyflogwyr, yn cydweithio gyda’r consortiwm i ddatblygu gallu i gynorthwyo sgiliau sylfaenol o fewn eu sefydliadau.

Pontydd i Waith Prosiect a ariennir gan Ewrop yw Pontydd i Waith yn gweithio ar draws chwe ardal yn Ne Cymru – Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerffili. Nod y prosiect yw cynorthwyo oedolion er mwyn ennill sgiliau a hyder i’w galluogi i symud ymlaen i gyflogaeth. Drwy brosiect Pontydd i Waith, cynigir cyfarwyddyd, hyfforddiant a chymorth i’r rhai sydd ddim mewn addysg lawn amser, ddim yn gweithio neu’n gweithio llai nag 16 awr er mwyn eu helpu i mewn i gyflogaeth. Ymhlith yr ystod eang o gyrsiau sydd ar gael mae Cynyddu Hyder, Sgiliau Llythrennedd a Rhifedd, Sgiliau Cyflwyniadau Personol ayb er mwyn helpu i ennill sgiliau a chymwysterau newydd. Gellir cael help ychwanegol gyda chostau Gofal Plant a chostau Teithio.

thau ar gyfer busnesau¸ sefydliadau eud ‘imp@ct’ positif

ysydd canlynol:

r Masnach • Diogelwch bwyd

elwch a’r Amgylchedd • Sgiliau Rheoli Peirianneg

llid i gynorthwyo anghenion eich sefydliad. Mae’n fer y gweithle a gaiff ei ariannu 100% a chyllid ELMS hyd at 70%.

Cynadleddau/Llogi Ystafelloedd Mae gennym nifer fawr ac amrywiaeth eang o ystafelloedd y gellir eu llogi ar ein pedwar campws a chyfleusterau cynadleddau eithriadol sydd wedi’u lleoli yng nghanol y gymuned gyda digon o le parcio yn Aberdâr, Nantgarw, Pontypridd a’r Rhondda.

Gwella Busnes Gall Impact @ Coleg Morgannwg gynnig ystod o wasanaethau a thechnegau gwella busnes drwy ei gorff o staff profiadol iawn a all ffocysu ar: Gweithgynhyrchu Darbodus, Rheoli Prosiect, Torri Gwastraff ac Ymgynghoriaeth

Academi Sba Mae’r Academi Sba yn cynnig ystod o driniaethau Harddwch a Sba moethus. Bydd ein tîm o therapyddion cymwys iawn yn darparu ein hystod Platinwm o driniaethau ar gyfer ein cleientiaid. Bydd ein myfyrwyr eithriadol yn cynnig ein hystod Arian o driniaethau drwy’r dydd ar Ddydd Mawrth a Dydd Mercher a Nos Iau, dim ond yn ystod y tymor

I holi am unrhyw un o’r gwasanaethau uchod anfonwch e-bost at: impact@morgannwg.ac.uk neu Ffonio: 01443 663024 5


Mae Coleg Morgannwg wedi ennill nifer o wobrau am arferion da a nodedig gan gynnwys Buddsoddwyr mewn Pobl, Safon Sgiliau Sylfaenol Llywodraeth Cynulliad Cymru a Gwobr y Ddraig Werdd. Hefyd yn ddiweddar, cyflawnodd y coleg y canlynol:

Coleg Morgannwg yn ennill gwobr genedlaethol Enillodd Coleg Morgannwg un o wobrau mwyaf clodfawr y DU am ei gyfraniad nodedig i addysg bellach. Dyfarnwyd Gwobr Edge i’r coleg am Addysgu a Dysgu Ymarferol am ei radd sylfaen mewn saernio gwisgoedd ar gyfer y theatr a’r sgrîn. Mae gwobrau Cymdeithas Colegau Beacon yn cydnabod colegau sy’n darparu addysgu ymarferol rhagorol sy’n golygu bod myfyrwyr yn cael profiadau dysgu real, ystyrlon, heriol a rhai fydd yn newid eu bywydau. Mae Gwobrau Beacon y DU eang yn darparu cydnabyddiaeth genedlaethol am ragoriaeth a datblygiadau newydd yn ogystal â chydnabod talentau staff ar bob lefel. Maen nhw’n amlygu lled ac ansawdd addysg yn sector y colegau. Mae gan y coleg gysylltiadau cryf gyda chwmnïau cynhyrchu ffilm ac enillodd y wobr am y cwrs a ddatblygwyd i gwrdd ag anghenion y diwydiant am sgiliau ymarferol uwch eu lefel mewn saernio gwisgoedd. Yn ystod y cwrs bydd myfyrwyr yn cynhyrchu gwisgoedd ar gyfer cynhyrchiadau theatr a sgrîn ac yn elwa o weithio ochr yn ochr gyda phobl broffesiynol cwmnïau theatr, dawns, sgrîn ac opera. Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i gwblhau rhaglen radd BA lawn mewn saernïo gwisgoedd yn y brifysgol, tra bydd gweddill y myfyrwyr yn cael swyddi yn y ‘West End’ yn Llundain neu’n mynd i weithio yn y diwydiant teledu a ffilm. Dwedodd Peter Mitchell, Prif Swyddog Gweithredol interim sefydliad addysg annibynnol Edge, “Mae Coleg Morgannwg yn arddangos pwysigrwydd darparu llwybrau addysgol uchel eu hansawdd ar gyfer myfyrwyr ac mae’r prosiect hwn yn amlygu’r dyfodol llwyddiannus y gall y dull hwn o fynd ati ei gynnig i bobl ifanc. Hoffwn eu llongyfarch ar ennill y Wobr a gobeithio y byddan nhw’n parhau i arwain y ffordd ar gyfer Colegau eraill ar draws y DU.” Cyflwynwyd y wobr i Goleg Morgannwg gan John Hayes AS, y Gweinidog Gwladol dros Addysg Bellach, mewn seremoni yn San Steffan.

Gwobr y Llywydd Ar ben hyn, enillodd Coleg Morgannwg hefyd Wobr Llywydd Cymdeithas y Colegau yn yr un seremoni. Dewiswyd y Coleg o 17 o enillwyr Gwobrau Cymdeithas Colegau Beacon fel enghraifft nodedig o gyflawniad ym maes addysg bellach gan yr Arglwydd Willis o Knaresborough, Llywydd Ymddiriedolaeth Elusennol Cymdeithas y Colegau. Dewisodd yr Arglwydd Willis Goleg Morgannwg oherwydd i ystod ac uchelgais y cwrs wneud argraff ddofn arno.

6

Coleg yn ennill Gwobr ‘Y Sefydliad sydd wedi Gwella Fwyaf’ Enillodd Coleg Morgannwg y Wobr am y Sefydliad sydd wedi Gwella Fwyaf, gwobr a noddir gan SONY UK TEC mewn Cinio Gala yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, a fynychwyd gan bobl bwysig o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat. Cyflwynwyd y wobr gan Mr Steve Dalton, Rheolwr Gyfarwyddwr SONY UK TEC, am ddangos gwelliannau flwyddyn ar ol blwyddyn ar draws pob agwedd o weithgareddau’r sefydliad o edrych ar dueddiadau lleiafswm o dair blynedd. Mae hefyd yn asesu y pellter a deithiwyd gan sefydliadau yn erbyn meincnodau/safonau eraill megis Buddsoddwr mewn Pobl, Safonau Amgylcheddol y Ddraig Werdd ayb. Mae ennill Gwobr Ansawdd Cymru, y wobr nodedig hon yn glod i unrhyw fusnes ac mae’r coleg yn ymfalchïo yn ei gyflawniad.

Gwobr Arian Iechyd Corfforaethol Mynychodd cynrychiolwyr o Goleg Morgannwg seremoni gyflwyno gwobrau ‘Cymru Iach’ ym Mhorth Talbot i dderbyn Gwobr Arian Iechyd Corfforaethol. Hwn yw’r ail goleg yn unig y dyfarnwyd y lefel hon iddo. Y Safon Iechyd Corfforaethol yw marc ansawdd cenedlaethol ar gyfer lles yn y gweithle. Gall unrhyw sefydliad sydd wedi mabwysiadu arferion i wella iechyd a lles eu gweithwyr wneud cais. Mae’r safon yn daith barhaus o arferion da a gwelliannau a gellir ei defnyddio fel modd i gynorthwyo datblygiad polisïau sy’n hyrwyddo iechyd a lles gweithwyr cyflogedig. Datblygwyd y safon i gydnabod arferion da ac i dargedu’r materion allweddol afiechydon y gellir eu rhwystro. Daeth hyrwyddo Iechyd a Lles yn rhan hanfodol o werthoedd craidd y Colegau ac mae wedi golygu sefydlu grŵp Iechyd a Lles sydd wedi cynnal mentrau megis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron, Diwrnod Dim Ysmygu, Ymwybyddiaeth o Stres a’r Sialens iechyd “28 diwrnod o gwmpas Coleg Morgannwg”. Bydd y Coleg yn parhau â’r daith hon gan obeithio y bydd yn cyflawni’r Safon Aur neu’r Platinwm. Mae sesiynau eraill hefyd wedi cynnwys sesiynau ymwybyddiaeth o Ganser Gwddf y Groth, Canser y Ceilliau ac Anhwylderau Cyhyrysgerbydol.


7


Mae cyfleoedd Addysg Uwch yn bodoli yn y Coleg drwy gysylltiadau gyda Phrifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, yn cynnig y cymwysterau canlynol: BA Cyd-Anrhydedd, Gradd Sylfaen, PCET, HND a HNC. Y cyrsiau Addysg Uwch a gynigir Gradd Sylfaen mewn Rheoli Busnes Tystysgrif Ôl-radd mewn Addysg/Tystysgrif mewn Addysg TAR (PCET) Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod HNC Peirianneg Awyrofod Gradd Sylfaen mewn Technoleg Cyfathrebu Gwybodaeth HNC mewn Rheoli Busnes Gradd Sylfaen /BA Anrhydedd Llunio Gwisgoedd ar gyfer y Sgrîn a’r Llwyfan HNC mewn Cyfrifiaduraeth Gradd Sylfaen mewn Adeiladu Cynaliadwy a Thirfesur HNC mewn Adeiladu BA (Anrh) Addysg ac Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET) HNC mewn Gwasanaethau Trydanol ar gyfer Adeiladau UHOVI Menter yw Athrofa Prifysgolion Blaenau’r Cymoedd (UHOVI) sy’n torri tir newydd wrth ddarparu cyfleoedd ar gyfer pobl a busnesau lleol. Gan gynnig ystod o gyrsiau addysg uwch mewn nifer o wahanol feysydd pwnc, nod Athrofa Prifysgolion Blaenau’r Cymoedd yw dysgu’n lleol. Gall unrhywun dros oed ysgol sy’n byw neu’n gweithio ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf neu Dorfaen astudio gydag UHOVI. Dydy hi ddim o bwys os ydych yn ddi-waith neu beidio a does dim rhaid meddu ar gymwysterau bob amser oherwydd ein bod yn ystyried profiad o fywyd a gwaith yn ogystal. Mae UHOVI yn cydweithio mewn partneriaeth gyda Choleg Morgannwg i gynnig ystod o gyrsiau ar gampws Aberdâr a Nantgarw. Bydd hyn yn cynnwys nifer o Raddau Sylfaen, wedi’u llunio’n arbennig i ddarparu sgiliau perthnasol a gwybodaeth ar gyfer y diwydiannau sydd eisoes yn bodoli yn yr ardal neu ddiwydiannau sy’n tyfu yn yr ardal. Am ragor o wybodaeth am gyrsiau yn cychwyn ym mis Medi 2011, ewch i: www.uhovi.ac.uk neu ffonio 01495 357900. Mae UHOVI yn bartneriaeth strategol rhwng Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru Casnewydd.

www.morgannwg.ac.uk 8

Mynediad i Addysg Uwch Llwybr gwahanol yw hwn i fyfyrwyr aeddfed symud i mewn i Addysg Uwch. Gellir astudio hwn dros un flwyddyn llawn amser neu dros ddwy flynedd rhan amser. O fewn rhaglen y Dyniaethau byddwch yn astudio detholiad o’r canlynol: Cymdeithaseg, Seicoleg, y Gyfraith, Hanes a Llenyddiaeth Saesneg yn ogystal â Sgiliau Hanfodol a Sgiliau Gwaith. Mae cwrs rhagbaratoadol hefyd ar gael yn y Dyniaethau i symud ymlaen i gwrs Mynediad. O fewn y rhaglen Wyddoniaeth byddwch yn astudio Bioleg, Cemeg a Ffiseg yn ogystal â Sgiliau Hanfodol a Sgiliau Gwaith. Agored Cymru yw’r corff dyfarnu. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud cais am gyrsiau Gradd Anrhydedd mewn Addysg Uwch mewn ystod o feysydd y Dyniaethau neu Wyddoniaeth. Mae’r cwrs 1 flwyddyn llawn amser (2 flynedd rhan amser) yn cynnig llwybr i mewn i addysg uwch. Bwriad y cwrs yw darparu amgylchedd cefnogol a chyfeillgar i’ch galluogi i ddatblygu’ch potensial. Mae nifer o gynfyfyrwyr wedi ennill Graddau a Dyfarniadau Uwch eraill. Does dim angen cymwysterau academaidd ffurfiol, fodd bynnag, dylai ymgeiswyr sylweddoli bod angen ymroddiad o’r radd uchaf gan y bydd myfyrwyr yn gweithio ar safon lefel tri. Hefyd cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad. Cewch eich asesu’n barhaus a bydd profion ar ddiwedd pob uned. Bydd disgwyl i chi gynnal ffeiliau’ch cwrs a phob portffolio i’r safonau anghenrheidiol. Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus byddwch yn gallu symud i gwrs Gradd neu gwrs Diploma Uwch mewn Prifysgol neu Sefydliad Addysg Uwch o’ch dewis.

Y cyrsiau Mynediad sydd ar gael yw: Mynediad i Broffesiynau Iechyd Mynediad i’r Dyniaethau Mynediad i Wyddoniaeth


Coleg Morgannwg yn helpu tair chwaer heb gyflawni i gael yr ysfa am yrfa Ymrestrodd tair chwaer o Bontypridd heb gael eu boddhau yn eu swyddi, ar yr un cwrs coleg ar yr un diwrnod a nawr maen nhw’n edrych ymlaen at ddyfodol mwy disglair. Cychwynnodd Bethan Edwards, 27, Rhianydd Edwards, 25, a Zoe Najian, 19 ar gwrs Mynediad i’r Dyniaethau yng Ngholeg Morgannwg i wella’u rhagolygon am ddarpar yrfa. Ni feddyliodd Bethan, oedd cyn hyn yn fam llawn amser, erioed y byddai mynd i brifysgol yn opsiwn iddi. Yn yr ysgol, ni chwblhaodd TGAU oherwydd roedd yn dioddef o epilepsi a oedd mor wael nes iddi orfod gadael ysgol yn 15 oed. Yng Ngholeg Morgannwg mae Bethan wedi llwyddo i gwblhau ei TGAU yn ogystal a RhCA yn y Dyniaethau. Mae Zoe, a oedd cyn hyn yn gweithio ar linell gynhyrchu mewn ffatri, hefyd yn gweithio tuag at RhCA. Mae Bethan a Zoe yn gobeithio mynd i’r brifysgol y flwyddyn nesaf ar ôl cwblhau’r Diploma i fod yn athrawon ysgol gynradd. Roedd gan Rhianydd, oedd yn gweithio mewn tafarn cyn cychwyn yn y coleg, Lefelau UG eisoes ac felly doedd dim rhaid iddi wneud cwrs RhCA a mynd ymlaen yn syth ar y cwrs Diploma. Mae Rhiannydd sy’n ddarpar weithiwr cymorth yn astudio Tai â Chymorth ym Mhrifysgol Caerdydd. Dwedodd Bethan: “Roedd y tair ohonon ni wedi canfod ein hunain heb ddim yn ein hysgogi nac ychwaith yn cyflawni dim yn ein bywydau. Felly, pan glywson ni am ddiwrnod agored Coleg Morgannwg aethon ni yno i weld beth oedd ganddyn nhw i’w gynnig. Ar ôl sylweddoli pa mor hawdd fyddai hi i ennill cymwysterau, fe wnaethon ni ymrestru yn syth a dydyn ni ddim wedi difaru dim ers hynny. “Dw i mor falch mod i wedi cael ail siawns i sefyll TGAU ac mae Coleg Morgannwg wedi bod mor gefnogol yn fy helpu i gyflawni fy nod. Hefyd mae fy merch yn mynd i’r crèche yn y coleg ac mae hyn yn help mawr ac yn gysur i feddwl ei bod hi mor agos.”

Dal yn ansicr? Dewch i gael sgwrs yn ystod ein Diwrnod Gwybodaeth – 26 Mai 2011

bethan, rhianydd a zoe

9


Karen Stagg Cwblhaodd Karen Stagg y Diploma Mynediad i Broffesiynau Iechyd yn llwyddiannus ym mis Gorffennaf 2010 ar ôl astudio ddwy noson yr wythnos am ddwy flynedd. Rhwystr gyntaf Karen oedd goresgyn tyfiant yn y chwarren thyroid a oedd yn ei gwneud i deimlo’n flinedig a swrth iawn. Bu rhaid i Karen gael llawdriniaeth i dynnu ei chwarren thyroid ond cadwodd i fynd a chyflwyno’i gwaith cwrs ar amser (tasg sy’n digalonni pobl ar y gorau). Bu rhaid i Karen gymryd hormonau, yn lle’r rheiny byddai’r chwarren thyroid yn eu cynhyrchu fel arfer, a doedd hi ddim yn poeni’n ormodol pan ddatblygodd pennau tost er eu bod nhw’n aml yn ei llethu. Ar ôl archwiliad cafwyd bod Karen yn dioddef o gyflwr anghyffredin oedd yn ei gwanychu, cyflwr cynyddol o’r enw Syndrom Arnold-Chiari. Abnormaledd y benglog yw hwn, lle mae’r benglog yn rhy fach i letya’r ymennydd ac o ganlyniad mae’r ymennydd yn bochio allan ar waelod y benglog ac yn cywasgu madruddyn y cefn. Yn fuan iawn, yr enw a roddodd Karen ar Syndrom Arnold-Chiari oedd ‘that Arnold’ ac roedd Karen hyd yn oed yn cellwair nad ei phenglog hi oedd yn rhy fach ond mai ei hymennydd hi oedd wedi tyfu ers iddi gychwyn ar y cwrs mynediad! Does dim llawer o fyfyrwyr sy’n gorfod ymdopi â’r cyflyrrau bu rhaid i Karen eu dioddef. Yr hyn sydd wedi symbylu Karen yw ei phenderfyniad a’i hawch i fod yn nyrs a dyma sydd wedi cynnal ei ffocws dros y flwyddyn ddiwethaf – mae ei record presenoldeb yn dystiolaeth o hyn a daeth i’r coleg hyd yn oed y diwrnod ar ôl iddi gael tynnu ei chwarren thyroid! Ar ôl cwblhau ei chwrs sicrhaodd Karen ei lle ar gwrs y mae galw mawr amdano ym Mhrifysgol Morgannwg ac erbyn hyn maae’n astudio BN mewn Iechyd Meddwl.

Barbara Protheroe Mae Barbara Protheroe yn fyfyrwraig â nam ar ei golwg yn astudio gyda grŵp cyfrifiadurol rhan amser. “Daeth i’r coleg ym mis Medi i wella’i sgiliau defnyddio’r e-bost a Rhyngrwyd a theimlai y bydden nhw’n eu helpu i weithio gyda SIDS (Cynllun Galw Heibio ar gyfer y Rhai â nam ar eu Synhwyrau) y mae’n ei gynnal yn y Ganolfan Plant yn Rhydyfelin. Bwriad y grŵp yw darparu cymorth i bobl neu eu teuluoedd sy’n colli eu golwg. Mae hefyd yn rhan o godio ymwybyddiaeth o nam ar y golwg, y problemau y mae pobl sydd wedi colli eu golwg yn eu hwynebu yn eu cymunedau lleol a’r cymorth sydd ar gael. Bu Barbara hefyd yn rhedeg y grŵp Guides ers blynyddoedd ac yn flaenorol addysgodd Braille yn y gymuned. Mae hi’n berson sydd ddim yn gadael i’w dallineb ei rhwystro rhag gwneud dim na’i rhwystro rhag helpu eraill sydd yn yr un sefyllfa â hi. Yn ddiweddar enillodd Barbara wobr ‘Above and Beyond’ a hi oedd yr enillydd drwodd a thro yn seremoni Diwrnod Rhyngwladol y Merched RhCT. Mae’n wir ysbrydoliaeth i bawb!

www.morgannwg.ac.uk 10


Mae’r Ysgol Gofal, Plentyndod ac Astudiaethau Sylfaenol yn darparu ystod o gyrsiau o Lefel Mynediad i Lefel 5, gyda nifer yn arwain at gyfleoedd am swyddi o fewn y sectorau Gofal a Gofal Plant. Mae amrywiaeth yn y ddarpariaeth a’i nod yw darparu ar gyfer oedolion sy’n awyddus i newid gyrfa yn ogystal â’r rhai sy’n chwilio am waith cyflogedig.

Rhan Amser Diwrnod

Hyd

Aberdâr

Pontypridd

Rhondda

CACHE Diploma mewn Gofal Plant ac Addysg Lefel 3 (blwyddyn 1)

3 blynedd

-

-

-

-

Mer

2.00-8.00

Gwaith chwarae Lefel 2 & 3

20 wythnos

-

-

ID

ID

-

-

Cyflwyniad i Gynghori

7 wythnos

-

-

Llun

9.30-12.30

-

-

Cynghori Canolradd

25 wythnos

-

-

Llun

9.30-12.30

-

-

Tystysgrif Edexcel BTEC Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn ysgolion lefel 2

1 flwyddyn

-

-

Llun

12.00-4.00

-

-

Tystysgrif Edexcel BTEC Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn ysgolion lefel 3

1 flwyddyn

-

-

Mer

12.00-4.00

-

-

Gofal, Dysg a Datblygiad Plant Lefel 2 Dyfarniad Gwybodaeth

1 flwyddyn

-

-

Llun

5.00-7.00

-

-

Mynediad i Addysg Uwch (Proffesiynau Iechyd) Diploma

2 flynedd

-

-

-

-

Llun 6.00-9.00 & Mer

Cyflwyniad i Gynghori

7 wythnos

Maw 5.00-8.00

Llun

6.00-9.00

-

-

Cynghori Canolradd

25 wythnos

Maw 5.00-8.00

Llun

6.00-9.00

-

-

Cynghori Uwch Lefel 4

2 flynedd

-

-

Mer

5.00-9.00

-

-

Tystysgrif Edexcel BTEC Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn ysgolion lefel 2

1 flwyddyn

-

-

Llun

5.00-9.00

-

-

Tystysgrif Edexcel BTEC Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 3

1 flwyddyn

-

-

Mer

5.00-9.00

-

-

Rhan Amser Nos

Dysgu o Hirbell

Hyd

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Diploma Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)

Hyblyg

Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)

Hyblyg

Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (yn amodol ar gael ei gymeradwyo)

Hyblyg

Cynorthwywyr Addysgu City & Guilds 5329 Lefel 2 Dyfarniad mewn Gwaith Cymorth mewn Ysgolion

Hyblyg

Lefel 2 Tystysgrif mewn Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion

Hyblyg

Lefel 3 Dyfarniad mewn Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion

Hyblyg

Lefel 3 Tystysgrif mewn Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion

Hyblyg

Lefel 3 Diploma Cynorthwyo Addysgu a Dysgu Arbenigol mewn Ysgolion

Hyblyg

Blynyddoedd Cynnar City & Guilds 4227

Hyblyg

Lefel 2 Diploma Gofal, Dysg a Datblygiad Plant

Hyblyg

Lefel 3 Diploma Gofal, Dysg a Datblygiad Plant

Hyblyg

Sgiliau Sylfaenol Rhan Amser

Aberdâr

Pontypridd

Rhondda

Arlwyo

-

-

Sgiliau ar gyfer Byd Gwaith

Sgiliau Oes

Synhwyraidd

-

-

Iaith Arwyddion Lefel 1, 2 & 3

-

-

Gall y cyrsiau, y dyddiadau, yr amseroedd a’r lleoliadau uchod gael eu newid; gwneir pob ymdrech i gynnig gwybodaeth am unrhyw newid yn y ddarpariaeth. 11


Cyfweliad gydag Elen Thomas – Myfyrwraig Colur y Celfyddydau Cynhyrchu Pam dewis Coleg Morgannwg? Ces gyngor gan ffrind oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Morgannwg ar yr adeg pan oedd eu darlithydd yn berson proffesiynol o fyd diwydiant ac felly fe allai drosglwyddo gwybodaeth yn syth o’r diwydiant ei hun yn hytrach na pherson oedd heb gefndir byd diwydiant. Hefyd, o’r ymchwil a wnes i fy hun, teimlais mai hwn oedd y cwrs gorau cyffredinol o’r math hwn.

Beth ddwedech chi oedd uchafbwyntiau eich amser yno? A bod yn onest, yr uchafbwynt oedd ac yw’r darlithydd Jane Beard, mae’n athrawes berffaith, mae’n nabod ei phwnc a’i addysgu’n wych. Dw i’n dal mewn cysylltiad â hi ac mae bob amser yn barod ei chyngor. Wir, alla i ddim ei chanmol hi ddigon.

Sut wnaethoch chi baratoi ar gyfer diwydiant mor gystadleuol? Mae’n rhoi’r wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen arnoch chi i fynd i mewn i’r diwydiant ar lefel hyfforddai, er bydd angen gwneud tipyn o waith ac ymarfer gartref. Mae rhaid bod yn benderfynol a symbylu’ch hunan i wneud yn dda.

Beth yw uchafbwynt personol eich gyrfa? Mae pob swydd yn gyffrous a gwahanol. Gweithies i ar setiau mawr a bach, ar ffilm a theledu. Dw i’n mynd i gwrdd â phobl ddiddorol a hwyliog a dwi’n cael gwneud swydd dwi’n ei charu. Beth sydd well na hynny?

Mae cyfoeth profiad yn helpu myfyrwyr Astudiodd Jane Beard lefel A Gwyddoniaeth yn ei Hysgol Ramadeg leol, a phawb yn meddwl y byddai’n dilyn ôl troed academaidd ei theulu. Ond sylweddolodd yn fuan nad dyma oedd hi am ei ddilyn fel gyrfa a newidiodd i astudio’r Dyniaethau a Chelf. Cafodd le ar gwrs coleg 3 blynedd ac ar ôl ei gwblhau derbyniwyd hi i Ysgol Hyfforddi Colur y BBC yn Llundain. Yn dilyn yr hyfforddiant hwn, roedd Jane yn ddigon ffodus i gael gwaith gyda BBC Wales lle gweithiodd am 13 o flynyddoedd ar amrywiaeth o raglenni gan gynnwys Adloniant Ysgafn, rhaglenni plant a dramau. Gyda theulu ifanc, dewisodd Jane aros yng Nghymru ac am yr 17 mlynedd diwethaf bu’n gweithio fel artist colur Llawrydd; ymhlith ei phrosiectau diweddar mae Dr Who, Torchwood a Young Victoria. Cychwynnodd perthynas Jane gyda’r coleg pan ofynnwyd iddi addysgu cwrs Tystysgrif Genedlaethol y Celfyddydau Cynhyrchu (Colur) ar gampws Rhondda am wythnos – mae’n dal i addysgu’r cwrs - 3 blynedd yn ddiweddarach! Dwedodd Jane “Dw i wirioneddol yn mwynhau fy ngwaith ac wedi bod yn ffodus i weithio ar brosiectau amrywiol, cwrdd â phobl ddiddorol iawn. Dwi’n cael boddhad o ddarlithio yng Ngholeg Morgannwg, mae’r myfyrwyr mor dalentog ac mor frwd a derbyniwyd pedwar eisoes ar gyrsiau yn Grimsby, Gwlad yr Haf, Bournemouth ac hefyd ar gwrs Effeithiau Arbennig yn Llundain. Bu’n wych i rannu fy mhrofiadau a’r gobaith yw y bydd yn rhoi cipolwg iddyn nhw ar y diwydiant a’r cyfleoedd sydd o’u blaen”.

12


Mae maes y Diwydiannau Creadigol yn darparu ystod eang o gyrsiau ar wahanol lefelau yn y Celfyddydau Perfformio, y Celfyddydau Cynhyrchu, Colur, Technoleg Cerddoriaeth, Cynhyrchu yn y Cyfryngau, Teledu a Ffilm, Celf a Dylunio gyda llwybrau mewn ffasiwn/Tecstiliau/Gwisgoedd, Celfyddydau Graffeg, Dylunio 3D a Ffotograffiaeth. Mae ystod y cyrsiau galwedigaethol yn paratoi myfyrwyr ar gyfer mynediad i’r diwydiannau cyffrous hyn drwy ddatblygiad creadigol, personol, ar sail sgiliau gwybodaeth a thechnegol o fewn amgylchedd cefnogol a phroffesiynol. Addysgir cyrsiau Celf a Dylunio mewn adeilad newydd pwrpasol ar Gampws Nantgarw. Mae’r llawr gwaelod yn cynnwys gweithdy gwneud printiadau a chyfleusterau reprograffeg yn ogystal â gweithdy 3D a stiwdios arbenigol. Ar y llawr cyntaf ceir ffasiwn, tecstiliau a gwisgoedd gyda gweithdy torri patrymau a pheiriannu, cyfleusterau sy’n safonol i’r diwydiant, cyfleusterau lliwio a nifer o stiwdios golau mawr pwrpasol. Mae’r adran graffeg/ffotograffaieth a dylunio digidol yn cynnwys ystafell dywyll, stiwdio ffotograffiaeth, ystafell bywluniad, stiwdios cyfrifiadurol a dylunio digidol ac mae dwy stiwdio fawr celf graffeg ar y llawr uchaf. Mae cyfleusterau gwych ar gyfer cyrsiau’r Celfyddydau Perfformio, Colur, Cerddoriaeth a’r Cyfryngau ar Gampws Rhondda mewn canolfan newydd ar gyfer y Cyfryngau a’r Celfyddydau Perfformio. Mae’r datblygiad nodedig hwn yn cynnwys mannau aml-swyddogaethol h.y. Awditoriwm gyda 150 o seddau, stiwdio Ddawns, Stiwdio Ymarfer, Ystafelloedd y Cyfryngau a stiwdio safonol i’r diwydiant ar gyfer technoleg glywedol ddigidol o’r radd flaenaf.

Enw’r Cwrs a Nod y Cymhwyster

Hyd

Rhan Amser Nos

Y Rhondda

Canolfan Gelfyddydol, Nantgarw

Diwrnod

Amser

Diwrnod Amser

UG Ffotograffiaeth

1 Flwyddyn

-

-

Iau

6.00-9.00

A2 Ffotograffiaeth

1 Flwyddyn

-

-

Maw

6.00-9.00

Tystysgrif BTEC lefel 2 mewn Ffotograffiaeth

1 Flwyddyn

-

-

Mer

6.00-9.00

Tystysgrif BTEC Lefel 3 mewn Celfyddyd Gain

1 Flwyddyn

-

-

Llun

6.00-9.00

Tystysgrif BTEC lefel 3 yn y Celfyddydau Cynhyrchu - Colur

1 Flwyddyn

Llun

5.00-9.00

-

-

Gall y cyrsiau, y dyddiadau, yr amseroedd a’r lleoliadau uchod gael eu newid; gwneir pob ymdrech i gynnig gwybodaeth am unrhyw newid yn y ddarpariaeth.

Sylwer: Ni ellir eithrio rhag talu am y cyrsiau isod; bydd rhaid talu costau llawn y cyrsiau. Cysylltwch ag Amanda Darlington i gael manylion a chostau.

Cyrsiau Byr Cwrs byr mewn gwneud Printiadau Cwrs Byr mewn Ffasiwn Cwrs Byr mewn Ffotograffiaeth

www.morgannwg.ac.uk 13


Aberystwyth, dyma ni’n dod Pedwar myfyriwr Lefel A yw myfyrwyr cyntaf Coleg Morgannwg i basio arholiadau i studio ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Medi. Roedd y pedwar yn llwyddiannus a chynigiwyd lle iddyn nhw: Georgia Evans a Scott Morgan ar y cwrs Troseddeg a Danielle Birrell ar y cwrs Hanes. Cafodd Rhianydd Keene, a fynychodd yr ysgol haf a chyflawni teilyngdod, gynnig di-amod ynghyd ag ysgoloriaeth o £1000.

Rhan Amser

Hyd

Aberdâr

Pontypridd

Rhondda

* Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg / Tystysgrif Raddedig Addysg (TAR)

2 flynedd

-

Llun/ Iau

-

Mynediad i’r Dyniaethau

1 neu 2 flynedd

3.00-9.00 9.00-4.00

* Rhyddfreintiwyd y cyrsiau hyn drwy Brifysgol Morgannwg Pynciau TGAU

Aberdâr

Pontypridd

Rhondda

Iaith Saesneg

Iau 9.00-12.00

Llun 3.00-5.30 Iau 9.00-12.00

-

TGCh

-

-

Iau 1.00-4.00

Mathemateg

Iau 1.00-4.00

Rhan Amser Dydd

-

-

-

Llun 3.00-5.30 Iau 1.00-4.00

-

Llun 6.00-8.30

-

Rhan Amser Nos Iaith Saesneg

Maw 6.00-8.30

Llun 6.00-8.30

Iechyd a Ffisioleg Dynol

-

Llun 6.00-8.30

Mathemateg

Iau 6.00-8.30

Llun 6.00-8.30 Iau 6.00-8.30

Llun 6.00-8.30

Pynciau UG/A:

Aberdâr

Pontypridd

Rhondda

-

Rhan Amser Dydd Astudiaethau Busnes

-

-

Iaith a Llenyddiaeth Saesneg

-

-

Astudiaethau Ffilm

-

-

Y Gyfraith

-

-

Astudiaethau’r Cyfryngau

-

-

Cymdeithaseg

-

-

Rhan Amser Nos

-

-

Bioleg/Bioleg Dynol

-

Llun/Iau 6.00-9.00

-

Y Gyfraith

Maw 6-8.30 UG yn unig

-

-

Llun/Iau 6.00-8.30

Llun/Iau 6.00-8.30

Llun 6.00-9.00

UG yn unig

Seicoleg Cymdeithaseg

UG yn unig

Gall y cyrsiau, y dyddiadau, yr amseroedd a’r lleoliadau uchod gael eu newid; gwneir pob ymdrech i gynnig gwybodaeth am unrhyw newid yn y ddarpariaeth. 14


Ym maes cwricwlwm Proffesiynol a Gweinyddu mae ystod amrywiol o gyrsiau gweinyddu a busnes proffesiynol ac mae’n cynnwys llwybrau Mynediad i Addysg Uwch a llwybrau Rhwydwaith Coleg Agored. Mae Gweinyddu a Thechnoleg Gwybodaeth yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyblyg rhagorol mewn technoleg gwybodaeth, sgiliau swyddfa a goruchwylio o lefel dechreuwyr hyd at lefel uwch. Cyflawnir Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs) mewn Gweinyddu a TG a chyflawnir hwy drwy ein Rhith Gwmnïau sy’n gwella cyfleoedd gwaith a chyflogaeth. Mae ein cyrsiau’n darparu cymwysterau galwedigaethol o ansawdd uchel sy’n galluogi symud ymlaen i Addysg Uwch. Mae Dysgu o Hirbell a Learndirect hefyd ar gael fel opsiwn ar-lein. Mae Astudiaethau Busnes a Phroffesiynol yn darparu ystod o raglenni rhan amser o ansawdd mewn Busnes a Rheolaeth ym maes Astudiaethau Busnes, Cyfrifeg, Cynorthwywyr Addysgu a Rheoli. Cynigir ystod eang o gyrsiau o fewn pob maes, yn caniatàu i fyfyrwyr ennill cymwysterau a fydd yn ddefnyddiol yn y gweithle neu i symud ymlaen i Addysg Uwch. Rydyn ni’n cynnig cyrsiau HNC/Gradd Sylfaen mewn Busnes a Rheolaeth, Cyfrifeg AAT ar dair lefel, gwahanol raglenni Goruchwylio Rheolaeth a chwrs diwrnod rhan amser Dyfarniad Cenedlaethol mewn Busnes. Cyfrifiaduraeth – mae cyrsiau ar gael o lefel dechreuwyr hyd at lefel uwch yn darparu chyfleoedd gyrfaol rhagorol ar gyfer y rhai sy’n dymuno ymuno â’r diwydiant hwn ac ar gyfer y rhai sydd eisoes yn cael eu cyflogi yn y sector. Addysg Gyffredinol – mae hyn yn cynnwys cyrsiau TGAU UG ac A2 yn ogystal â rhaglenni Mynediad i Addysg Uwch. Mae pob rhaglen yn llwybr derbyniol i gyflogaeth, i yrfaoedd proffesiynol ac i Addysg Uwch. Yn ychwanegol at addysgu ffurfiol, gydag amrywiaeth o strategaethau addysgu dysgu, cynorthwyir dysgwyr gan raglenni tiwtorial. Gellir cyfuno astudiaethau TGAU a Lefel A gydag unedau eraill i gyflawni Bagloriaeth Cymru. Caiff cyflogwyr a’r rhai sy’n dychwelyd i’r farchnad lafur amrywiaeth o gyrsiau i weddu i’w hangenion. Mae’r staff addysgu yn brofiadol ac yn gymwys yn eu maes. Mae pob cwrs yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau addysgu a dysgu i annog pob myfyriwr i gyflawni eu potensial.

Donna Price Mae gan Donna swydd llawn amser ac mae wedi bod yn cwblhau eu hastudiaethau rhan amser. Yn ddiweddar cwblhaodd Donna HNC mewn Rheoli a Busnes yn llwyddiannus ynghyd â Gradd Sylfaen mewn Rheoli a Busnes yng Ngholeg Morgannwg. Heblaw bod ganddi swydd lawn amser a bywyd teuluol prysur gyda phlant yn eu harddegau, dangosodd Donna ei bod yn fyfyrwraig ymroddedig, brwd ac yn gweithio’n galed o fewn ein carfan rhan amser a chyflawnodd ganlyniadau gwych. Erbyn hyn mae Donna wedi symud ymlaen i wneud Gradd BA Anrhydedd mewn Rheolaeth a Busnes ym Mhrifysgol Morgannwg ac eisoes wedi cael canlyniadau ardderchog am y modiwlau y mae hi’n eu hastudio.

Tracy Pearce Oherwydd amgylchiadau teuluol ac ychydig o rwystrau cafodd Tracy ei hun gartref heb hyder nag ysgogiad. Pan awgrymodd ffrind y dylai ymrestru ar gwrs coleg, roedd Tracy yn amharod ond ar ôl ystyried, daeth i sylweddoli bod rhaid iddi wneud rhywbeth ar gyfer ei dyfodol. Ymwelodd Tracy â’r coleg a siarad â Rhian Morris, tiwtor TG a’i chynghori ar y cyrsiau oedd ar gael yn y coleg a’r llwybr gyrfaol y gallai’r rhain arwain atyn nhw. Er gwaethaf ei phryderon, ymrestrodd Tracy ar gwrs NVQ TG Gweinyddu a Swyddfa. Dwedodd “Ar y cychwyn ron i wir yn nerfus ond roedd Rhian yn ysbrydoliaeth a gyda’i help fe wnes i orffen y cwrs ac ennill yr hyder i chwilio am waith cyflogedig. Erbyn hyn dw i’n cael fy nghyflogi gan Securitas Security ac yn edrych ymlaen at y dyfodol. Faswn i ddim wedi cyflawni hyn heb amynedd a dealltwriaeth rhain – mae’n diwtor gwych a’i hymroddiad i’w myfyrwyr dros 110%. 15


Gweinyddu a Thechnoleg Gwybodaeth

Aberdâr

Pontypridd

Rhondda

Rhan Amser Diwrnod

Hyd

Diwrnod/Amser

Diwrnod/Amser

Diwrnod/Amser

Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd – dysgu ar-lein drwy Learndirect a dysgu cyfunol

35 wythnos

Iau

Maw 1.00-4.00

-

Lefel 1 newydd RhCA Tystysgrif ITQ mewn Sgiliau Defnyddwyr TG

35 wythnos

Gwe 10.00-12.00

Llun

1.00-3.00

I’w drefnu I’w drefnu

Tystysgrif newydd C&G ar gyfer Defnyddwyr TG Cychwyn TG -ITQ

35 wythnos

Mer

9.00-12.00

Llun

I’w drefnu

Llun

I’w drefnu

Dyfarniadau newydd RhCA Lefel 1/2/3 mewn Cynhyrchu Testun (Busnes Proffesiynol)

35 wythnos

Mer

9.30-12.00

Iau

1.00-3.30

Iau

1.00-3.30

Tystysgrif newydd EDI Lefel 2 Tystysgrif mewn Egwyddorion Busnes a Gweinyddu

35 wythnos

-

-

Llun

1.00-4.00

-

-

Tystysgrif newydd EDI Lefel 3 Tystysgrif mewn Egwyddorion Busnes a Gweinyddu

35 wythnos

-

-

Maw 1.00-4.00

-

-

Rhan Amser Nos

Hyd

Diwrnod/Amser

Diwrnod/Amser

Diwrnod/Amser

Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd – dysgu ar-lein drwy Learndirect dysgu cyfunol

35 wythnos

Maw 6.00-9.00

Llun

Mer

6.00-9.00

Uwch Drwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd

35 wythnos

-

Llun/Mer 5.30-8.00

-

-

Lefel 1 newydd RhCA Tystysgrif ITQ mewn Sgiliau Defnyddwyr TG

35 wythnos

Maw 6.00-8.00

Mer

Mer

6.00-8.00

NLefel 2 newydd RhCA Tystysgrif ITQ mewn Sgiliau Defnyddwyr TG

35 wythnos

I’w drefnu

I’w drefnu

Dyfarniadau newydd RhCA Lefel 1/2/3 mewn Cynhyrchu Testun (Busnes Proffesiynol)

35 wythnos

Iau

6.00-9.00

Llunn 6.00-9.00

Llun 6.00-9.00 or Mer

Tystysgrif newydd C&G ar gyfer Defnyddwyr TG Cychwyn TG -ITQ

35 wythnos

Iau

6.00-9.00

Mer

Llun

Cyfrifiaduraeth

9.00-12.00

-

-

6.00-9.00

6.00-8.00 -

6.00-9.00

-

I’w drefnu

6.00-9.00

Aberdâr

Pontypridd

Rhondda

Rhan Amser Nos

Hyd

Diwrnod/Amser

Diwrnod/Amser

Diwrnod/Amser

City & Guilds 7574-02 L2 Tystysgrif ar gyfer Defnyddwyr TG (Cynnal Cyfrifiadur Personol)

35 wythnos

Maw 6.00-9.00

-

-

-

*HNC/ Gradd Sylfaen Cyfrifiaduraeth blwyddyn 1 a 2

2 flynedd

-

-

Llun/ 5.00-9.00 Mer

-

-

RhCA Dylunio Gwefan

35 wythnos

-

-

I’w drefnu 6.00-9.00

-

-

RhCA Ystafell Dywyll Ddigidol

35 wythnos

Maw 6.00-9.00

-

-

-

Aberdâr

Pontypridd

Rhondda

Diwrnod/Amser

Diwrnod/Amser

Diwrnod/Amser

Astudiaethau Busnes a Phroffesiynol

-

-

Rhan Amser Dydd

Hyd

AAT Sylfaen

1 flwyddyn -

-

Mer

9.00-4.00

-

-

AAT Canolradd

1 flwyddyn -

-

Iau

9.00-4.00

-

-

AAT Technegydd

1 flwyddyn -

-

Llun

9.00-4.00

-

-

Rhan Amser Nos AAT Sylfaen

1 flwyddyn Maw 3.00-9.00

Llun&Mer 6.00-9.00

-

-

AAT Canolradd

1 flwyddyn Maw 3.00-9.00

Llun&Mer 6.00-9.00

-

-

AAT Technegydd

1 flwyddyn -

Llun&Mer 6.00-9.00

-

-

www.morgannwg.ac.uk 16

-

-


Busnes

Aberdare

Pontypridd

Rhondda

Rhan Amser Dydd

Hyd

Diwrnod/Amser

Diwrnod/Amser

Diwrnod/Amser

BTEC Dyfarniad Cenedlaethol mewn Busnes

2 flynedd

Maw 9.00-4.00

Maw 9.00-4.00

-

-

*HNC mewn Rheoli a Busnes

2 flynedd

-

-

Mer

-

-

2 flynedd

-

-

Llun&Mer 6.00-9.00

-

-

1 flwyddyn -

-

Hyblyg

-

-

2 flynedd

-

Iau

-

-

2.30-9.00

Rhan Amser Nos *HNC mewn Rheoli a Busnes Dysgu o Hirbell *Gradd Sylfaen Rheoli Busnes Rhaglenni Hyfforddi Athrawon Rhan Amser Dydd *Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg / Tystysgrif Raddedig Addysg (TAR)

-

9.00-4.00

Dyfarniadau Asesydd Dyfarniad Lefel 3 mewn Deall Egwyddorion ac Arferion Asesu

Hyblyg

Dyfarniad Lefel 3 mewn Asesu Cymhwysedd yn y Gweithle

Hyblyg

Dyfarniad Lefel 3 mewn Asesu Cyflawniadau Galwedigaethol

Hyblyg

Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol

Hyblyg

Dyfarniadau Sicrhau Ansawdd Dyfarniad Lefel 4 mewn deall Sicrhau Ansawdd Mewnol Prosesau ac Arferion Asesu

Hyblyg

Dyfarniad Lefel 4 mewn deall Sicrhau Ansawdd Mewnol Prosesau ac Arferion Asesu

Hyblyg

Tystysgrif Lefel 4 mewn Arwain Sicrhau Ansawdd Mewnol Prosesau ac Arferion Asesu

Hyblyg

Cyrsiau Rheoli

Aberdâr

Pontypridd

Rhondda

Rhan Amser Dydd

Hyd

Diwrnod/Amser

Diwrnod/Amser

Diwrnod/Amser

Dyfarniad lefel 3 Rheoli Rheng Flaen (ILM)

2 awr

Iau

10.00-1.00

Hyblyg

Hyblyg

Dyfarniad lefel 2 mewn Arwain Tîm (ILM)

3 awr

Iau

10.00-1.00

Hyblyg

Hyblyg

Rhaglenni Rheoli wedi’u haddasu ar gyfer gofynion unigolion (yn y gweithle neu yn y coleg)

Hyblyg

Hyblyg

Hyblyg

Hyblyg

Dyfarniad lefel 5 mewn Rheoli (ILM)

3 awr

Maw 4.00-7.00

-

-

Rhaglenni Rheoli wedi’u haddasu ar gyfer gofynion unigolion (yn y gweithle neu yn y coleg)

Hyblyg

Hyblyg

Hyblyg

Rhan Amser Nos -

-

Hyblyg

* Rhyddfreintiwyd y cyrsiau hyn drwy Brifysgol Morgannwg Gall y cyrsiau, y dyddiadau, yr amseroedd a’r lleoliadau uchod gael eu newid; gwneir pob ymdrech i gynnig gwybodaeth am ddarpariaeth amgen.

17


Mae Carol-Ann Bennett newydd gwblhau Lefel 3 NVQ yng Ngholeg Morgannwg Pontypridd ac wedi cychwyn ar ei gwaith gyda Bauhaus Aveda yng Nghaerdydd Mynychodd y coleg am 3 blynedd, cychwynnodd ar ei rhaglen drin gwallt fel myfyrwraig rhan amser gyda’r nos a chwblhaodd NVQ lefel 1 a 2 mewn Trin Gwallt yn ei hail flwyddyn. Yn ystod ei thrydedd blwyddyn daeth yn fyfyrwraig llawn amser a chwblhaodd NVQ lefel 3 mewn Trin Gwallt a Gwasanaethau Cwsmeriaid. Achubodd Carol-Ann ar bob cyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaethau gwallt a digwyddiadau arddangos gwallt ynghyd ag hyrwyddo’i galluoedd mewn ‘fashion shoots’. Gwnaeth gais am gystadleuaeth fyd eang Pro Style Gallery BaByliss 2010 ac aeth ymlaen i’w hennill. Ei gwobr oedd cael mynychu Salon International a gweithio gyda Patrick Cameron (un o enwogion y byd trin gwallt a Gwrw trin gwallt hir), Adam Reed a chriw Salon International a Thîm Trin Gwallt Babyliss am dri diwrnod. Mae Salon International yn ddigwyddiad pwysig iawn a fynychir gan drinwyr gwallt o bob cwr o’r byd.

O Brynu i Steilio Bu Stephen Lewis yn frwd dros drin gwallt erioed ond ar ôl gadael ysgol cafodd ei hun ym maes gwerthu, yn gwerthu ffonau symudol. Sylweddolodd yn fuan nad dyma oedd am ei wneud a phan ofynnodd ffrind iddo weithio yn ei salon trin gwallt, neidiodd at y cyfle. Mwynhaodd y tasgau sylfaenol yn y salon a gan sylweddoli potensial Stephen argymhellodd ei ffrind iddo fynd ar gwrs trin gwalltiau yng Ngholeg Morgannwg ac mae wedi symud ymlaen i’r cwrs presennol, Lefel 3. Dwedodd Stephen “Oherwydd y pwysau sydd mewn lleoliadau gwaith, ar un pwynt des yn agos i roi’r gorau i bethau; dydy bod yn un o’r ifancaf mewn salon ddim yn hawdd! Ond gyda chymorth y staff yng Ngholeg Morgannwg, yn enwedig fy nhiwtor, Anne Hopkins, daliais ati a dwi wedi ennill hyder ynof fy hyn a’m gallu. Yn ddiweddar, cystadlodd y coleg mewn cystadleuaeth yn erbyn colegau a salons o bob cwr o Gymru. Roedd y safon yn uchel iawn ac ron i wrth fy modd i ddod yn ail am Dorri Gwallt Dynion a thrydydd yn y categori Torri Gwallt Merched; dyfarnwyd y wobr gyntaf i’r coleg am y Tîm Gorau. Dw i mor falch mod i wedi chymryd y cam cyntaf ac ymrestru yng Ngholeg Morgannwg. Dw i ddim wedi edrych yn ôl!

Myfyrwyr yn helpu cleifion Mae myfyrwyr Coleg Morgannwg wedi cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau codi arian, ac yn eu plith darparu triniaethau therapiwtig i godi arian i ganolgan Ganser Felindre. Cydweithiwyd ymhellach i ddatblygu cyfleoedd lleoliad gwaith sy’n cyfrannu at amrywiaeth o amgylcheddau i’n myfyrwyr ennill profiad ym maes therapïau harddwch a therapïau cyflenwol. Mae Helen Tyler, Rheolwraig Gwasanaethau Therapi yng Nghanolfan ganser Felindre yn cydnabod y manteision a welir ar y wardiau, mae’n dweud “Y geiriau ‘Trît’ yw hyn, nid triniaeth’ sy’n crynhoi sut mae’r cleifion yn teimlo.”

Llwyddiant Cyflenwol Dywed cyn-fyfyrwraig, Angela Green, “Ron i wrth fy modd yn astudio Therapïau Cyflenwol HND yn arbennig y gymysgedd o wahanol therapïau gan iddo roi sylfaen eang i mi adeiladu arno. Roedd fy ffocws bob amser ar y lleoliad clinigol a dechreuais weithio yng Nghanolfan Ganser Felindre ar fy lleoliad gwaith yn ystod fy astudiaethau. Chwe blynedd yn ddiweddarach, yn rhinwedd fy swydd, fi yw Arweinydd Clinigol Therapïau Cyflenwol mewn adran brysur yn Felindre a chael boddhad mawr o ddefnyddio fy therapïau er lles a chymorth cleifion a staff.”

www.morgannwg.ac.uk 18


Darlithydd gyda chyfoeth o Brofiad Mae Nicola Davies, darlithydd yng Ngholeg Morgannwg yn rhedeg Salon Harddwch llwyddiannus iawn ac yn hapus i drosglwyddo cyfoeth o wybodaeth ymarferol, am fanwerthu a marchnata i’r myfyrwyr. Enillodd ei salon wobr ‘Innovative Salon of the Year’ ar fwy nag un achlysur a chafodd ei enwebu am Salon Rhanbarthol y Flwyddyn. Mae Nicola hefyd yn ysgrifennu colofn mewn cylchgrawn sy’n darparu cyngor ar harddwch ac yn adolygu’r datblygiadau diweddaraf yn y Diwydiant harddwch. Mae’n ymfalchïo ar ddarparu’r profiad proffesiynol eithaf ar gyfer y cleient ac mae’r brwdfrydedd hwn dros wasanaeth i gwsmeriaid yn cael ei drosglwyddo i’r myfyrwyr yn ystod sesiynau ymarferol gyda chleientiaid yn y coleg, profiad sydd, yn nhyb myfyrwyr, yn amhrisiadwy wrth ddod â phrofiad go wir i’w profiad dysgu yn y coleg. Wedi’r cyfan, mewn diwydiant sydd mor ymarferol mae angen mwy na theori i greu therapydd harddwch gwych.

Rydyn ni’n faes cwricwlwm blaengar deinamig y mae ei ffocws ar sicrhau eich bod yn cael y profiad addysgu a dysgu gorau posibl. Mae Trin Gwallt, Harddwch a Chyflenwol yn cynnig portffolio gyrfaol sy’n eang ac amrywiol. Sicrhawn y byddwch yn cyflawni cymwysterau, sgiliau a phriodweddau a fydd yn eich darparu ar gyfer gyrfa broffesiynol amrywiol, gyffrous ac un fydd yn rhoi boddhad i chi o fewn y sector lles sy’n datblygu’n barhaus.

Aberdâr

Pontypridd

Rhondda

Nantgarw

Rhan Amser Dydd

Hyd

Diwrnod/Amser

Diwrnod/Amser

Diwrnod/Amser

Diwrnod/Amser

NVQ Lefel 3 Trin Gwallt

1 flwyddyn

-

-

Llun 12.00-9.00

-

-

-

-

NVQ Lefel 2 Trin Gwallt

2 flwyddyn

-

-

Llun 5.30-8.30 & Mer

-

-

-

-

NVQ Lefel 2 Gwaith Barbwr

1 flwyddyn

Iau

6.00-9.00

Llun 6.00-9.00

Mer 6.00-9.00

-

-

NVQ Lefel 2 Therapi Harddwch

2 flwyddyn

-

-

Llun 6.00-9.00 & Mer

Llun 6.00-9.00 & Mer

-

-

Rhan Amser Nos

Sylwer: Ni ellir eithrio rhag talu am y cyrsiau isod; bydd rhaid talu costau llawn y cyrsiau. Aberdâr

Pontypridd

Rhondda

Nantgarw

Rhan Amser Nos

Hyd

Diwrnod/Amser

Diwrnod/Amser

Diwrnod/Amser

Diwrnod/Amser

NVQ Lefel 3 Gwaith Barbwr

1 flwyddyn

-

-

Llun 6.00-9.00

-

-

-

-

NVQ Lefel 2/3 Gwasanaethau Ewinedd

1 flwyddyn

-

-

Llun 6.00-9.00 & Mer

-

-

-

-

Adweitheg

1 flwyddyn

-

-

-

-

-

-

Llun I’w drefnu

Aromatherapi

1 flwyddyn

-

-

-

-

-

-

Maw 6.00-9.00

Tylino Pen Dull Indiaidd

Fesul tymor (x12 wythnos)

-

-

-

-

-

Tylino Swedaidd

1 flwyddyn

-

-

Mer 6.00-9.00

-

I’w drefnu 6.00-9.00 -

-

-

Gall y cyrsiau, y dyddiadau, yr amseroedd a’r lleoliadau uchod gael eu newid; gwneir pob ymdrech i gynnig gwybodaeth am unrhyw newid yn y ddarpariaeth.

19


Cerys Williams Daeth Cerys Williams i’r Coleg ar raglen “Llwybrau i Brentisiaethau” yn 2009 a chwblhaodd pob elfen o’r cwrs yn llwyddiannus; Dyfarniad Cenedlaethol mewn Peirianneg, Bagloriaeth Cymru, Sgiliau Gwaith a phob Sgil Allweddol. Llwyddodd Cerys i gael swydd gydag Allavard Springs am 3 blynedd o brentisiaeth mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu. Yn ddiweddar, enillodd Cerys wobr “Best Learner Finalist” am raglen Llwybrau i Brentisiaethau yn seremoni flynyddol Ffederasiwn Cyflogwyr Peirianneg (EEF) ym Mharc Margam. Hefyd yn ddiweddar enillodd y wobr orau mewn peirianneg yn seremoni gwobrwyo’r coleg.

Daniel Watkins Daeth Daniel Watkins i’r coleg yn 2003 ar raglen “Mynediad Prif Ffrwd” ac o’r adeg honno bu’n astudio’n barhaus ar wahanol gyrsiau peirianneg o lefel 2 i lefel 3 cyn cyflawni Tystysgrif Genedlaethol Gweithgynhyrchu, Dyfarniad Cenedlaethol mewn Peirianneg¸ CAD a Weldio. Enillodd Daniel ddwy wobr yn y coleg am y myfyriwr peirianneg gorau yn ogystal â chael ei gynnig i gystadlu yng nghystadleuaeth “World Skills” yn CAD. Ar hyn o bryd, mae Daniel yn astudio rhaglen Radd BEng mewn Peirianneg ym Mhrifysgol Morgannwg..

www.morgannwg.ac.uk 20


Mae darpariaeth ragorol ym maes cwricwlwm Peirianneg. Y maes hwn yw prif ddarparwr hyfforddiant ar gyfer cynllun Prentisiaethau Modern drwy NVQs mewn peirianneg Mecanyddol, Trydanol a Pheirianneg Awyrofod ac mae hefyd yn darparu ystod lawn o raglenni BTEC. Y rhain yw’r llwybrau sefydledig i mewn i Addysg Uwch a/neu gyflogaeth. Ceir amrediad eang o gyrsiau rhan amser dydd a nos yn cynnig rhaglenni mewn rhaglenni NC/CNC sy’n cael eu cynnig rhan amser, CAD/CAM, Electroneg, Systemau Niwmatig a Hydrolig, Gwneuthuriad a Weldio. Ceir hefyd ystod eang o raglenni Cynllunio gyda Chyfrifiadur (CAD) yn defnyddio’r feddalwedd Autocad diweddaraf.

Rhondda

Nantgarw

Rhan Amser Dydd

Hyd

Diwrnod

Amser

Diwrnod

Amser

City & Guilds 2800 mewn Electroneg

1 flwyddyn

-

-

Iau

9.00-5.00

City & Guilds 2800 mewn Peirianneg Mecanyddol lefel 2

1 flwyddyn

Iau

9.00-5.00

-

-

City & Guilds 2800 Peirianneg Gweithgynhyrchu Mecanyddol lefel 3

2 flynedd

-

-

Mer

9.00-6.00

City & Guilds 2300 Cymhwysedd Peirianneg drwy Gymorth Cyfrifiadur CNC ADO Line Tyst Rhan 2.

1 flwyddyn

-

-

Maw

9.00-5.00

City & Guilds 2300 Cymhwysedd Peirianneg drwy Gymorth Cyfrifiadur CNC ADO Line ‘Inventor Course’ Tyst Rhan 2

1 flwyddyn

-

-

Maw

9.00-5.00

City & Guilds 2800 Electroneg blwyddyn 2

1 flwyddyn

-

-

Maw

9.00-5.00

City & Guilds 2240 Electroneg Rhan 2/3

1 flwyddyn

-

-

Maw

9.00-5.00

BTEC Lefel 3 Diploma Awyrofod blwyddyn 1

1 flwyddyn

-

-

Mer

9.00-7.00

BTEC Lefel 3 Diploma Awyrofod blwyddyn 2

1 flwyddyn

-

-

Llun

9.00-7.00

BTEC Lefel 3 Diploma Mecaneg/ Gweithgynhyrchu bl. 1

1 flwyddyn

-

-

Mer

9.00-7.00

BTEC Lefel 3 Diploma Mecaneg/ Gweithgynhyrchu bl. 2

1 flwyddyn

-

-

Llun

9.00-7.00

BTEC Lefel 3 Diploma Trydaneg/Electroneg bl. 1

1 flwyddyn

-

-

Mer

9.00-7.00

BTEC Lefel 3 Diploma Trydaneg/Electroneg bl. 2

1 flwyddyn

-

-

Llun

9.00-7.00

* Gradd Sylfaen mewn Mecatroneg bl. 1

1 flwyddyn

-

-

Maw

9.00-7.00

* Gradd Sylfaen mewn Mecatroneg bl. 2

1 flwyddyn

-

-

Maw

9.00-7.00

* Gradd Sylfaen mewn Awyrofod bl. 1 (Mecanyddol ac Afioneg)

1 flwyddyn

-

-

Maw

9.00-7.00

* Gradd Sylfaen mewn Awyrofod bl. 2 (Mecanyddol ac Afioneg)

1 flwyddyn

-

-

Llun

9.00-7.00

Systemau Niwmatig

1 flwyddyn

-

-

Llun

6.00-7.30

Cynllunio gyda Chyfrifiadur 2D CAD

1 flwyddyn

-

-

Llun

6.00-8.00

Cynllunio gyda Chyfrifiadur 3D CAD

1 flwyddyn

-

-

Maw neu Iau

6.00-8.00

City & Guilds 2800 Electroneg blwyddyn 1

1 flwyddyn

-

-

Llun

6.00-9.00

City & Guilds 2800 Electroneg blwyddyn 2 rhan 1

1 flwyddyn

-

-

Maw

6.00-9.00

City & Guilds 2800 Electroneg blwyddyn 2 rhan 2

1 flwyddyn

-

-

Mer

6.00-9.00

Rhan Amser Nos Amrywiaeth o gyrsiau/unedau City & Guilds ac NVQ mewn:-

Gall y cyrsiau, y dyddiadau, yr amseroedd a’r lleoliadau uchod gael eu newid; gwneir pob ymdrech i gynnig gwybodaeth am ddarpariaeth amgen. * Rhyddfreintiwyd y cyrsiau hyn drwy Brifysgol Morgannwg

21


Terry Edwards yn adeiladu gyrfa wych Ymrestrodd Terry ar gwrs Adeiladu yn y coleg ac ar ôl ei gwblhau yn llwyddiannnus, symud ymlaen i gwrs Adeiladu HNC. Gyda’i gymwysterau, ei ysgogiad a’i egni mae Terry wedi cael gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant Adeiladu. Mae ganddo gyfoeth o brofiad ymhob agwedd o’r busnes a bu’n Rheolwr Prosiect, Rheolwr Contractau ac yn Gyfarwyddwr. Nawr, mae Terry yn Gyfarwyddwr Gweithredu / Dirprwy Reolwr Gyfarwyddwr gydag Andrew Scott Cyf.

Cynllunio’i ddyfodol – y chwaraewr rygbi, Ceri Sweeney, yn cael sbarc o ysbrydoliaeth Pan benderfynodd Ceri hyfforddi fel trydanwr, Coleg Morgannwg oedd y lle amlwg iddo astudio. “Maen nhw wedi bod yn wych, yn caniatáu i mi ffitio fy astudiaethau o gwmpas fy hyfforddiant rygbi, a dydy e ddim yn ddrwg o beth i gael crefft arall dan fy melt.” “Baswn i’n argymell i bawb sy’n ystyried dysgu crefft ymweld â Choleg Morgannwg am gyngor ar y cymwysterau sydd angen arnyn nhw a’r lle gorau iddyn nhw astudio. Dw i wir yn mwynhau’r cwrs.”

22


Anogir myfyrwyr i ddatblygu ystod eang o sgiliau dysgu gan ddefnyddio offer a chyfleusterau modern ardderchog. Mae myfyrwyr yn ennill cymwysterau academaidd a/neu galwedigaethol gwerthfawr ar gyfer darpar gyflogaeth neu gyflogaeth bresennol. Mae gennym Ganolfan Dechnoleg o’r radd flaenaf ar gampws Nantgarw yn werth miliynau o bunnoedd ac mae yna adnoddau dysgu crefftau adeiladu gwych ar gampws Rhondda. Maen nhw’n bodoli i sicrhau bod Coleg Morgannwg yn cynnig cyfleusterau addysgu nodedig a chymorth i bawb sy’n dymuno astudio Crefftau Adeiladu gan gynnwys y canlynol:

Nantgarw Rhan Amser Dydd

Hyd

Diwrnod

Amser

BTEC Lefel 3 Diploma mewn Adeiladu / Peirianneg Sifil blwyddyn 1

1 flwyddyn

Llun

9.00-8.00

BTEC Lefel 3 Diploma mewn Adeiladu / Peirianneg Sifil blwyddyn 2

1 flwyddyn

Maw

9.00-8.00

*Gradd Sylfaen mewn Adeiladu’n Gynaladwy blwyddyn 1

1 flwyddyn

Mer

10.00-9.00

* Gradd Sylfaen mewn Adeiladu’n Gynaladwy blwyddyn 2

1 flwyddyn

Iau

10.00-9.00

EMTA Gosod Trydan NVQ 2

1 flwyddyn

Llun neu Maw

9.00-8.30

City & Guilds Gwaith Gosod Trydan lefel 2

1 flwyddyn

Maw

9.00-8.30

City & Guilds Gwaith Gosod Trydan lefel 3

1 flwyddyn

Iau

1.00-8.30

City & Guilds Gwaith Gosod Trydan lefel 3 & EMTA NVQ 2

1 flwyddyn

Iau

9.00-8.30

CGLI Tystysgrif mewn Gwaith Plymio Lefel 2 (WBL) blwyddyn 1

1 flwyddyn

Maw

9.00-6.30

CGLI Tystysgrif mewn Gwaith Plymio Lefel 2 (WBL) blwyddyn 2

1 flwyddyn

Iau

9.00-6.30

CGLI Tystysgrif mewn Gwaith Plymio Lefel 2

1 flwyddyn

Iau

9.00-6.30

* Gradd Sylfaen mewn Adeiladu’n Gynaladwy blwyddyn 1

1 flwyddyn

Mer

4.30-9.00

* Gradd Sylfaen mewn Adeiladu’n Gynaladwy blwyddyn 2

1 flwyddyn

Iau

4.30-9.00

City & Guilds 2391 Tystysgrif Lefel 3 mewn Archwiliad, Profi ac Ardystio Gosodiadau Trydanol

16 wythnos

Maw neu Iau

5.30-8.30

City & Guilds Argraffiad 17eg Rheoliadau IEE ar Weirio

16 wythnos

Mer neu Iau

6.00-9.00

City & Guilds 2391 Tystysgrif Lefel 3 mewn Dylunio, Codi a Gwirio Gosodiadau Trydanol

1 flwyddyn

Llun

6.00-9.00

Rhan Amser Nos

Gall y cyrsiau, y dyddiadau, yr amseroedd a’r lleoliadau uchod gael eu newid; gwneir pob ymdrech i gynnig gwybodaeth am ddarpariaeth amgen

* Rhyddfreintiwyd y cyrsiau hyn drwy Brifysgol Morgannwg

www.morgannwg.ac.uk 23


Michael Cude Ar ôl newid gyrfa bymtheg mlynedd yn ôl o’r sector preifat i’r sector gwasanaethau cyhoeddus, aeth Mike i mewn i lywodraeth leol a chafodd swydd fel Swyddog Hamdden o fewn y Grŵp Gwasanaethau Amgylcheddol. Hwn yw un o bedwar grŵp o fewn y Cyngor sy’n darparu gwasanaethau yn Rhondda Cynon Taf i thua 234,000 o bobl. Roedd yn gweithio mewn adeilad oedd newydd gael ei godi ar gyfer gweithgareddau hamdden o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac yn ystod ei dair blynedd cyntaf daeth Mike yn Rheolwr Iau. Daeth cyfle iddo gael uwch swydd o fewn y maes gwasanaethau a bu’n llwyddiannus i’w chael. Am y 12 mlynedd diwethaf cyflogwyd Mike fel un o Brif Reolwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae Mike yn pwysleisio bod Coleg Morgannwg wedi bod yn fecanwaith cymorth hanfodol i hyrwyddo gwella gyrfa ac yn ffactor allweddol i’w alluogi i gyflawni llu dyletswyddau ei rôl o fewn y sefydliad. Enghraifft o hyn yw’r NVQ Lefel 4 diweddar mewn Rheoli Busnes y cafodd Mike gymorth parhaus gan asesydd penodedig y cwrs. Roedd NVQ Lefel 4 Rheoli Busnes yn ffitio i mewn yn dda gyda’i yrfa ac roedd pwyslais y cwricwlwm ar feysydd megis cynllunio strategol a rheolaeth ariannol a gafodd yn ddiddorol iawn. Mae Mike yn dweud bod y cwrs hwn wedi cynyddu ei hyder a’i symbyliad. Ar ôl iddo gwblhau NVQ lefel 4 Rheoli Busnes, ymfalchiodd Mike yn ei gyflawniad; ysgogodd hyn ef i astudio ymhellach. Trafododd yr opsiynau gyda’i asesydd. Ar hyn o bryd mae Mike ar ei flwyddyn o gwrs Dysgu o Hirbell MA mewn Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae Mike yn credu na fyddai wedi breuddwydio am hyn ychydig o flynyddoedd yn ôl. Mae Mike yn frwd yn ei gefnogaeth o’r coleg ac yn canmol a hyrwyddo’r Coleg i ddefnyddwyr Canolfannau Cymunedol eraill. Mae’n tynnu eu sylw at y manteision mae ef yn bersonol wedi eu cael drwy help a chymorth rhaglenni dysgu cymunedol Coleg Morgannwg yng Nghanolfan Gymunedol Waen Wen. Yn ddiweddar, derbyniodd Mike wobr yn Seremoni Wobrwyo’r Coleg am ei waith caled a’i ymroddiad.

David Griffiths – Profiad Dysgwr Fy enw i yw David Griffiths. Dychwelais i fyd addysg gyda Workchoices yn 2006, fel y gallwn helpu fy mhlant gyda’u gwaith cartref a hefyd gwella fy llawysgrifen a fy sillafu. Ar y cychywn ron i’n ofnus i gerdded i mewn drwy’r drws a gofyn cwestiynau am unrhyw gwrs. Yn ffodus i fi, ces ddigon o blwc i gerdded drwy’r drws ac ymrestru. Fe wnes i wirioneddol fwynhau’r cwrs. Ces lawer o gymorth gan y darlithwyr gyda fy rhifedd a fy llythrennedd. Don i ddim yn sylweddoli pa mor wael oedd fy sgiliau ac ron i wrth fy modd yn cyflawni Cymwysterau City and Guilds mewn Saesneg a Mathemateg. Gyda help a chymorth yr holl ddarlithwyr ces fy enwebu am Wobr Dennis Davies i Fyfyrwyr a fi enillodd. Ron i’n ddiolchgar i’r holl ddarlithwyr a ddangosodd hyder ynddo i. Ers i mi ymrestru ar gwrs Workchoices cynyddodd fy hyder a fy hunan barch 100%. Wedyn, gyda hyder, roeddwn yn gallu mynychu’r campws newydd yn Aberdâr ac ymrestru ar gwrs dwy flynedd mewn TG. Tra’n astudio’r cwrs TG enillais i a fy nheulu Wobr NIACE (“Family NIACE INSPIRE AWARD”), diwrnod bythgofiadwy i ni fel teulu. Ar hyn o bryd, dw i’n gwneud cwrs dwy flynedd Mynediad i’r Dyniaethau gyda Choleg Morgannwg a fydd yn y pen draw gobeithio, yn fy ngalluogi i fynd ymlaen i brifysgol i ennill gradd. Hoffwn ddiolch i bawb ar gwrs Workchoices am roi’r cyfle i mi i gyflawni fy nymuniadau. 24


Rosemary Brown “Fy enwi i yw Rosemary Brown. Dw i’n 52 oed, gadewais yr ysgol yn 16 oed heb ddim cymwysterau. Dechreuais fynychu Canolfan Adnoddau Waen Wen 11 mlynedd yn ôl. Wyth mlynedd yn ôl roedd rhaid i mi lenwi CV a sylweddoli pa mor wag oedd fy CV o’i gymharu ag un pawb arall a theimlais yn chwithig. Dyna pryd penderfynais ymrestru ar gyrsiau cymunedol yng Ngholeg Morgannwg. Oherwydd diffyg hyder, dim ond ar gyrsiau crefft wnes i ymrestru, ond o astudio ar y cyrsiau hyn ces hyder a symbyliad i fynd ymhellach. Yna, ymrestrais ar gwrs cyfrifiadurol i ddechreuwyr ac o’i gwblhau, teimlo y gallwn wella fy hunan! Wedyn fe wnes i gwblhau lefel 1 a 2 prosesu geiriau – ddim yn ddrwg, meddyliais, o rywun na allai ddefnyddio cyfrifiannell! Yna, gofynnwyd i mi a hoffwn wneud NVQ 2 mewn Gweinyddu ac fe wnes i ei gwblhau’n llwyddiannus – gan deimlo mor falch ohonof fi fy hun! Dw i nawr yn gwneud NVQ 3 mewn Gweinyddu ac NVQ 2 mewn Datblygiad Cymunedol ar yr un pryd a fydd, gobeithio, yn datblygu fy rhagolygon am yrfa yn y dyfodol. Pan dw i’n meddwl yn ôl i’r CV gwag hwnnw, dwi mor falch ohonof fy hun a gyda fy hunan barch ar gynnydd bydd rhaid i mi lenwi 2 dudalen y tro nesaf bydd rhaid i mi lenwi CV! Mae’n profi nad ydych yn rhy hen i ddysgu – ddim yn ddrwg am famgu i dri.”

Dysgu yn rhoi’r cynhwysion i Heather lwyddo Bum mlynedd yn ôl roedd Heather Loveridge, rhiant sengl yn ei phedwar degau yn ddi-waith, yn ddigymhwyster ac yn ddi-hyder. Heddiw mae Heather ynghyd â’i chwaer Sian yn berchen caffi a busnes arlwyo llwyddiannus The Giant’s Bite, a leolir yng nghanol Pontypridd gyferbyn â’r YMCA. Bu taith Heather i gyrraedd fan hyn yn un hir ond dyma’i gwobr am ei hymroddiad, ei hegni a’i brwdfrydedd drwy gydol ei hamser yn dysgu fel oedolyn. Dros y pum mlynedd diwethaf cwblhaodd Heather lu o gyrsiau o fewn ei chymuned leol gyda chymorth Partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf Glyncoch. Ymhlith y cyrsiau hyn mae cwrs tiwtor ‘Get Cooking’, cwrs City & Guilds mewn Tiwtora yn y Gymuned a Modiwl Adfywio Cymunedol gyda Phrifysgol Morgannwg a Sgiliau Sylfaenol gyda Choleg Morgannwg. Hefyd, bu Heather yn wirfoddolwraig werthfawr yng Nglyncoch drwy gynorthwyo gyda digwyddiadau, yn helpu i sefydlu grŵp gwrth-ddirwasgiad ‘Depression Busting’, wedi rhedeg ei chwrs coginio ei hun am 15 wythnos ar gyfer aelodau eraill y gymuned ac yn ddiweddar hi oedd Gweinyddydd Wythnos Addysg Oedolion ar gyfer Rhondda Cynon Taf i gyd, hyn oll yn wirfoddol. Nid yw’r rhain ond ychydig o enghreifftiau o weithgareddau Heather wrth iddi gyflawni ei breuddwyd o fod yn berchen ar ei busnes arlwyo ei hun. “Mae addysg oedolion a gwirfoddoli wedi gwneud byd o wahaniaeth i mi. Mae wedi rhoi sgiliau newydd i mi, ffrindiau newydd a hyder a dwi’n ceisio ysbrydoli pawb i ddysgu beth bynnag fo’u hoed” meddai Heather.

^ Proffil Partneriaeth Treorci – Grwp Sefydlwyd y grŵp ym mis Ionawr 2010 ar ôl cyfarfodydd gyda Swyddfa Byd Gwaith Treorci a Llyfrgell Treorci. Roedd y Swyddfa Byd Gwaith am i grŵp o gleientiaid ymestyn eu sgiliau TGCh tu allan i’r swyddfa. Yn flaenorol roedd y coleg wedi cynnig grwpiau sgiliau sylfaenol yn y Swyddfa Byd Gwaith, felly roedd perthynas dda eisoes yn bodoli. Roedd adran Sgiliau Dysgu Gydol Oes eisoes wedi sefydlu partneriaeth lwyddiannus gyda llyfrgell Treorci ac yn hapus i ddarparu’r lleoliad ar gyfer menter newydd. Ystyriwyd bod y cyfeiriadau ac ymglymiad staff y Swyddfa Byd Gwaith wedi bod yn gyson ac ymroddedig. Rhyddhawyd aelod o staff o’r Swyddfa Byd Gwaith i gynorthwyo’r grwpiau a gweithiodd hyn yn dda oherwydd eu bod wedi gallu ehangu’r cwrs i gynnwys sgiliau chwilio am waith, ysgrifennu CV a chwilio am swydd. Roedd y llyfrgell yn cynorthwyo’r prosiect drwy ddarparu amgylchedd croesawgar, adnoddau am ddim a lleoliad tu allan i’r Swyddfa Byd Gwaith. Roedd cyfraddau cadw a chyflawniad y dysgwyr yn rhagorol cyflawniad 100%, cadw 88%, cwblhau’n llwyddiannus 88%. Mae’r grŵp hefyd yn llwyddo i symud dysgwyr yn eu blaen – prif lwybr dilyniant yn y coleg yw Adeiladu Sgiliau (Skillbuild) ac mae llawer o’r dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs yn llyfrgell Treorci yn ymuno â chwrs Dysgu yn y Gweithle llawn amser Adeiladu Sgiliau. Mae dysgwyr eraill wedi mynd ymlaen i’r cwrs nesaf i ymestyn eu haddysg tra bod nifer fechan o ddysgwyr wedi symud ymlaen i gyflogaeth. I raddau helaeth, ymroddiad y tri prif bartner yn darparu addysg o ansawdd yn y gymuned sy’n gyfrifol am lwyddiant y prosiect. 25


Mae’r adran Sgiliau Dysgu Gydol Oes yn darparu ystod eang o gyrsiau, yn rhai galwedigaethol a datblygiad personol, mewn ystod eang o leoliadau ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf – yn cydweithio â phartneriaid cymunedol i ddarparu’r cyrsiau rydych chi eu hangen!

Cymwysterau OCN: Celf, Crefft, TG, Gwalltiau, Harddwch, Therapïau Cyflenwol, Rheoli Stres, iaith Arwyddo, Ffotograffiaeth, ‘Photoshop’, Aml-gyfrwng a Dylunio Gwefan

Cymwysterau NVQ: Gweinyddu, Gwasanaethau Cwsmeriaid, Arwain a Rheoli Tîm.

Yn cael ei gynnig mewn partneriaeth â: Sefydliad

Cyswllt

Rhif

Canolfan Dechnoleg Aberdâr

Michelle Cox

01685 889070

Neuadd Abergorci

Ken Richards

01443 439596

Bryncynon (Feel Good Factory)

Suzanne Marchment

01443 479018

Ysgol Gynradd Brynna

01443 237828

Canolfan Cana (Penywaun)

Helen Boggis

01685 814645

Canolfan Gymunedol Cwm Clydach

Keith Jenkins

01443 440510

Eglwys Cornerstone

Ann Whitmore

01685 872825

Canolfan Gymunedol Cwmparc Ysgol Babanod Cwmaman

01443 776920 Lesley Rees (Pennaeth)

01685 875862

Canolfan Gymunedol Darrenlas

01443 473291

Canolfan Gymunedol Fernhill a Glenboi

01443 479158

Canolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg

Heulyn Rees

01443 219589

Cymdeithas Gymunedol Gilfach Goch

Joanne Roe

01443 675004

Canolfan Gymunedol Glyncoch

Jenny O’Hara

01443 486496

Neuadd Bentref Hirwaun

Joan Higgins

01685 814730

Canolfan Gymunedol Y Ddraenen Wen

Cathy Isles

Ysgol Gynradd Hendreforgan

Kevin Stroud

01443 672258

Canolfan Galw Heibio Llanharan

Sian Davies

01443 229723

Cymunedau’n Gyntaf Maerdy, Tŷ Teify

Ros Davies

01443 755687

Canolfan Addysg Oedolion Meisgyn Tŷ Model, Llantrisant

Sylvia Hughes-Williams

01443 476750/01443 237758

Partneriaeth Penrhys

Wayne Carter

01443 755008

Pennaeth

01443 772433

Canolfan Gymunedol Rhigos

Rita Moses

01685 812186

Neuadd Bentref Sain Ffagan

Elizabeth Makin

01685 872827

Coleg Cymunedol Tonypandy

Julie Atkins

01443 436171

Ysgol Gynradd Tonyrefail

Pennaeth

01443 673966

Prosiect ‘on-Track’ Tylorstown

Elaine Edwards

01443 757055

Canolfan Gymunedol Waunwen

Mike Cude

01443 688133

Pensiynwyr Ystrad

Horrace Burge

Canolfan Blynyddoedd Cynnar Ynyscynon

Pennaeth

Neuadd Penrhiwceiber Ysgol Gynradd Gymunedol Penyrenglyn Ysgol Uwchradd Pontypridd

26

01443 424901


Angen gwella’ch sgiliau? •

Dysgwch sut mae: Rheoli Cyllidebau, Llenwi Ffurflenni, Ysgrifennu Llythyr/Adroddiad ac Ysgrifennu’n Greadigol

Ymunwch ag un o’n Pedwar Grŵp Darllen i drafod y llyfrau diweddaraf

Gadewch i ni’ch helpu i helpu’ch plentyn. Symiau! Sillafu! Darllen!

Mae gennym ystod eang o adnoddau i gynorthwyo’ch dysgu, gan gynnwys TG

Ble rydyn ni? Capel Tre-Rhondda – Glynrhedynog Mewn partneriaeth â’r Ffatri Gelf. Mae’r ganolfan hon, sydd wedi ei lleoli yng nghanol Glynrhedynog (Ferndale), yn cynnig ystod o gyrsiau galwedigaethol a datblygiad personol, TG, Ysgrifennu Creadigol, Hanes Lleol a llawer mwy. Am ragor o wybodaeth ffoniwch: 01443 735 463 (yn ystod y tymor yn unig)

Yn eich Cymuned Leol Mae gennym gyrsiau hefyd sy’n cael eu darparu yn eich cymuned leol – ffoniwch 01443 407 863 am ragor o wybodaeth.

Ysgolion Cynradd Rhondda Cynon Taf Hoffech chi gynorthwyo’ch plentyn yn yr ysgol a chael sgil newydd i chi’ch hunan? Rydyn ni’n gweithio mewn ysgolion cynradd drwy’r cyfan o RhCT i gefnogi Dysgu’r Teulu. I ddod i wybod ble rydyn ni, ffoniwch: 01443 668870

Dychwelyd i’r Gwaith Ydych chi’n ystyried mynd nôl i’r gwaith ac yn awyddus i ddiweddaru’ch sgiliau? Mae ganddon ni’r union gwrs i chi!! Cysylltwch â’n Tîm Dysgu yn Seiliedig yn y Gweithle ar 01443 663098 (Mae grantiau ar gael)

www.morgannwg.ac.uk 27


“cael mwy allan o fywyd” Os ydych am gychwyn ar gwrs Addysg Oedolion rhan amser yn Rhondda Cynon Taf, nawr yw’r amser delfrydol i wneud hynny. Mae gennym raglen newydd gyffrous o ddosbarthiadau Addysg Oedolion ar gael: cyfrifiaduron, ffotograffiaeth digidol, iaith arwyddo ac olrhain eich achau i enwi ond ychydig! Cynhelir y cyrsiau yn ystod y dydd a gyda’r nos yn y cymunedau lleol. Mae Addysg Oedolion yn rhoi’r cyfle i chi ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â ffrindiau newydd a dechrau o’r newydd. Gall pob cwrs roi cymhwyster gwerthfawr i chi a chynnig llwybrau i chi symud ymlaen i raglenni astudiaeth eraill. Mae Cwrs Addysg Oedolion yn cael ei gynnal yn y gymuned yn eich ymyl chi!

Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01443 741332 neu e-bostiwch adulteducation@rhondda-cynon-taff.gov.uk

Pontydd i Waith Os ydych yn ddi-waith neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos, gall Pontydd i Waith gynnig cymorth a hyfforddiant am ddim i chi ddatblygu’r sgiliau sydd angen arnoch chi i symud i mewn i Addysg Uwch neu Gyflogaeth.

Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01443 743968

Dysgu’r Teulu Wrth ei ddefnyddio wnewch chi byth anghofio! Ydych chi erioed wedi teimlo ychydig yn rhydlyd neu’n ei chael yn anodd dilyn pan fydd eich plentyn yn dod adre o’r ysgol gyda gwaith cartref a hynny'n ei gwneud hi’n anodd i chi ei helpu! Ymunwch ag un o’n rhaglenni Dysgu’r Teulu i helpu’ch plentyn ac i’ch helpu chi i adolygu’ch sgiliau Rhifedd, Darllen ac Ysgrifennu a gweithio ar y cyfrifiadur, yn ogystal ag awgrymiadau ar sut i fyw’n iach. Mae rhaglenni Dysgu’r Teulu wedi helpu llawer o rieni i ddysgu sgiliau newydd ac adolygu hen sgiliau sydd wedi mynd yn angof. Mae dysgu gyda’ch plentyn yn fodd perffaith i ddeall sut i helpu’ch plentyn gyflawni yn yr ysgol a deall pa mor wahanol yw addysg plant heddiw yn ogystal â chodi’ch hyder chi.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01443 743967 28


Rhaglen Camau Dysgu Mae’r rhaglen Camau Dysgu yn darparu dosbarthiadau i Oedolion ag Anableddau Dysgu drwy’r cyfan o sir Rhondda Cynon Taf ac mae’r pynciau’n cynnwys Coginio, Cyfrifiaduron, Celf a Chrefft, Sgiliau Byw’n Annibynnol, Sgiliau Sylfaenol a Chrochenwaith a llawer iawn mwy.

Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01443 743964.

Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg Glamorgan Welsh for Adults Centre Your one stop shop for everything you need to know about learning Welsh. Courses held at communities throughout Rhondda Cynon Taff, Bridgend and Merthyr daytime, evening and weekends. All levels - from complete beginners to fluent speakers - Entry, Foundation, Intermediate & Advanced. Cyrsiau ar gael ar hyd a lled Rhondda Cynon Tâf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful - yn ystod y dydd, gyda'r nos a dros y Sul. Mae cwrs i bawb - o ddechreuwyr pur i siaradwyr rhugl - Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch, Hyfredredd. We'd love to hear from you/Cysylltwch â ni heddiw Ffôn/Phone : 01443 483600 E-bost/E-mail : Welsh@glam.ac.uk Gwefan/Web Site : www.glam.ac.uk/welsh

www.morgannwg.ac.uk 29


Torrwch ar hyd y llinell ddotiau a’i hanfon yn ôl mewn amlen at: Yr Adran Farchnata, Coleg Morgannwg Campws Y Rhondda, RHADBOST, Llwynypia, Tonypandy RhCT CF40 2BR

I wneud yn siŵr ein bod yn ymateb yn gyflym a chywir i’ch ymholiad, rhowch y manylion isod i ni, os gwelwch yn dda:-

Ydych chi’n fyfyriwr yn barod?

Ydw

Nac ydw

Ydych chi wedi astudio yng Ngholeg Morgannwg yn ystod y 3 blynedd diwethaf? Do

Teitl:

Mr

Rhyw: Gwryw

Mrs

Miss

MS

Naddo

Arall:

Benyw

Cyfenw: Enw(au) Cyntaf : Cyfeiriad

Cod Post Cyfeiriad e-bost: Ffôn (Cartref):

Rhif symudol:

Dyddiad geni Ym mha gwrs (gyrsiau) mae ganddoch chi ddiddordeb ynddo/ynddyn nhw?

Llawn Amser

Rhan amser

Arall (e.e. Dysgu o Hirbell, E-Ddysgu, ‘Learndirect’)

Dyddiad cychwyn fyddech chi’n ei ddewis: Medi

(blwyddyn) Neu arall

I ddibenion y Swyddfa’n Unig Gwybodaeth wedi ei bostio gan :

Dyddiad:

Cofnodwyd ar QL gan:

Dyddiad:

Cod Adnabod y Myfyriwr:

Neu ewch ar ein gwefan:

www.morgannwg.ac.uk 30

(mis a blwyddyn)


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.