Cyrsiau Addysg Uwch Coleg Morgannwg 2012

Page 1


Croeso i Goleg Morgannwg

Croeso i Goleg Morgannwg, os ydych yn ystyried astudio cwrs Addysg Uwch ym mis Medi, gobeithio y gwnewch chi fwynhau darllen am y cyrsiau a’r adnoddau sydd gennym i’w cynnig, cyrsiau a fydd o gymorth i chi lwyddo yn eich cynlluniau ar gyfer gyrfa. Cynigir ein cyrsiau Addysg Uwch mewn partneriaeth â Phrifysgol Morgannwg, Prifysgol Cymru, Casnewydd a UHOVI (Athrofa Sefydliad Prifysgolion Blaenau’r Cymoedd). Byddwch yn ymuno â ni ar adeg cyffrous iawn gyda Champws Dysgu newydd Taf Elai (TELC) bron wedi’i gwblhau yn barod i groesawu’r grŵp cyntaf o fyfyrwyr ym mis Medi 2012 Eisoes bu hon yn flwyddyn lwyddiannus i Goleg Morgannwg, enillon ni nifer o wobrau am arferion da a nodedig gan gynnwys: Gwobr Ansawdd Cymru, Gwobr ‘Beacon’ Cymdeithas y Colegau Beacon (AoC), Gwobr Iechyd a Lles a Gwobr y Ddraig Werdd. Mae’r rhain yn ychwanegol at Wobr Buddsoddwyr mewn Pobl (IIP) a Safon Ansawdd Sgiliau Sylfaenol Llywodraeth Cynulliad Cymru a enillon ni y llynedd. Mae’r coleg yn llawenhau wrth dderbyn y gwobrau hyn, gan eu bod yn cydnabod y gwaith rhagorol sy’n digwydd yn y coleg. Dw i’n sicr y cewch y datblygiadau sy’n digwydd a’r cyfleoedd a ddisgrifir yn y llyfryn hwn yn ddefnyddiol a deniadol. Os hoffech wybod rhagor tra’n penderfynu pa gwrs i’w ddilyn a ble i astudio, cysylltwch â ni. Edrychwn ymlaen at chwarae rhan bwysig yn eich paratoadau ar gyfer eich dyfodol personol a phroffesiynol.

Mrs Judith Evans, Pennaeth/Prif Weithredwraig

Cynorthwyir rhai o’n cyrsiau gan gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd drwy brostect Pontydd i Waith.

Coleg Achredig Prifysgol Morgannwg


Mae ein Campws Dysgu Taf Elai (TELC) yn tyfu o flaen ein llygaid a bydd wedi’i gwblhau erbyn Medi 2012. Bydd staff am myfyrwyr yn symud o’r safle presennol yn Rhydyfelin ac rydyn ni’n edrych ymlaen i groesawu’r garfan gyntaf o fyfyrwyr newydd. Bydd yno gyfleusterau gwych ar gyfer Astudiaethau Gofal a Phlentyndod, Arlwyo, Cyfrifiaduraeth, Technoleg Gwybodaeth, Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformiadol, Gwallt a Harddwch, Gwyddoniaeth a Chwaraeon. ...a chanolfan ddysgu, campfa, crèche, siop goffi, bwyty, salon gwallt a harddwch, cyfleusterau o’r ansawdd flaenaf ar gyfer cynadledda a hyfforddiant, lleoedd mawr gwag ar gyfer cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformiadol yn ogystal â Llyfrgell Bwrdeistrefol Sirol. I weld y cynlluniau cyflawn a phrofi ‘rhith daith’ drwy’r campws newydd, ewch i’n gwefan:

morgannwg.ac.uk/developments


Mae Coleg Morgannwg wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth sydd yn y llyfryn hwn mor gywir â phosibl adeg ei argraffu. Bwriad y llyfryn yw darparu cyfarwyddyd cyffredinol ar gyfer cyrsiau a chyfleusterau ac nid yw’n rhan o unrhyw gontract. Mae Coleg Morgannwg yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i gyrsiau, adnoddau cyrsiau neu i’r cymorth a ddisgrifiwyd neu eu tynnu’n nôl heb rybudd. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n darparu amgylchedd dysgu bywiog, uchel ei ansawdd i gwrdd ag anghenion ac uchelgeisiau dysgwyr, cyflogwyr a’r gymuned ehangach.

Ewch i’n gwefan www.morgannwg.ac.uk


Sut gall Coleg Addysg Bellach gynnig cyrsiau Addysg Uwch? Mae llawer o fyfyrwyr, yn enwedig y rhai sy’n dymuno astudio rhan amser, yn ei chael hi’n anodd ac anghyfleus i deithio ar gyfer astudio. Am y rheswm hwn, mae nifer o golegau Addysg Bellach nawr yn cynnig cyrsiau Addysg Uwch (AU) drwy bartneriaethau gyda Phrifysgolion. Mae Coleg Morgannwg yn gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o sefydliadau Addysg Uwch fel bod Graddau Sylfaen a Diplomas a Thystysgrifau Cenedlaethol ar gael ar stepen eich drws. Bu’r Coleg yn cydweithio gyda’i sefydliadau partner yn AU ers blynyddoedd. Dros y blynyddoedd hynny mae cannoedd o fyfyrwyr wedi dewis y cyfleustra o fod yn Fyfyriwr Prifysgol yn eu coleg lleol tra’n cael mynediad i gyfleusterau ac adnoddau Prifysgol eu hastudiaeth. A fydd y cwrs dw i’n ei astudio yr un peth â’r un a gynigir yn y Brifysgfol? Bydd. Cynllunir y cyrsiau a gyflenwir yng Ngholeg Morgannwg gan y rhai a gynigir yn y brifysgol ac maen nhw’r un fath. Partneriaethau Addysg Uwch Mae Coleg Morgannwg hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda UHOVI (Athrofa Prifysgolion Blaenau’r Cymoedd) i gynnig ystod o gyrsiau. Mae hyn yn cynnwys nifer o Raddau Sylfaen, wedi’u cynllunio’n arbennig i ddarparu sgiliau a gwybodaeth berthnasol ar gyfer egin ddiwydiannau’r rhanbarth neu’r rhai sy’n bodoli eisoes. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.uhovi.ac.uk neu ffonio 0800 1223 220. Mae UHOVI yn ymwneud â dysgu’n lleol. Gyda’r cynnydd mewn mynediad i fwy o ddewis o gyrsiau addysg uwch, ni fu erioed yn haws i ddarganfod beth allai dysg ei olygu i chi. Rydyn ni’n cynnig ystod o Raddau Sylfaen a chymwysterau proffesiynol mewn nifer o feysydd pwnc gwahanol, yn ogystal â chyrsiau byr a gynlluniwyd fel y cyflwyniad perffaith i addysg uwch. Mae cyrsiau ar gael mewn Colegau Addysg Bellach a lleoliadau lleol ar draws rhanbarth y Cymoedd. Mae UHOVI yn bartneriaeth strategol rhwng Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd.


Cyflawniadau’r Coleg Mae Coleg Morgannwg wedi ennill llawer o wobrau am arferion da a nodedig gan gynnwys Gwobr Buddsoddwyr mewn Pobl (IIP) a Safon Ansawdd Sgiliau Sylfaenol Cynulliad Cymru a Gwobr y Ddraig Werdd. Mae’r coleg hefyd yn ddiweddar wedi cyflawni’r canlynol: Coleg Morgannwg yn ennill gwobr addysg genedlaethol Enillodd Coleg Morgannwg un o wobrau mwyaf clodfawr y DU am ei gyfraniad nodedig i addysg bellach. Dyfarnwyd Gwobr Edge i’r coleg am Addysgu a Dysgu Ymarferol am ei radd sylfaen mewn saernio gwisgoedd ar gyfer y theatr a’r sgrîn. Mae gwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau yn cydnabod colegau sy’n darparu addysgu ymarferol rhagorol sy’n golygu bod myfyrwyr yn cael profiadau dysgu real, ystyrlon, heriol a rhai fydd yn newid eu bywydau. Mae Gwobrau Beacon y DU eang yn darparu cydnabyddiaeth genedlaethol am ragoriaeth ac arloesedd yn ogystal â chydnabod talentau staff ar bob lefel. Maen nhw’n amlygu ehangder ac ansawdd addysg yn sector y colegau. Mae gan y coleg gysylltiadau cryf gyda chwmnïau cynhyrchu ffilm ac enillodd y wobr am y cwrs a ddatblygwyd i gwrdd ag anghenion y diwydiant am sgiliau ymarferol uwch eu lefel mewn saernio gwisgoedd. Yn ystod y cwrs bydd myfyrwyr yn cynhyrchu gwisgoedd ar gyfer cynhyrchiadau theatr a sgrîn ac yn elwa o weithio ochr yn ochr gyda phobl broffesiynol cwmnïau theatr, dawns, sgrîn ac opera. Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i brifysgol i gwblhau rhaglen radd BA gyflawn mewn saernïo gwisgoedd, tra bydd gweddill y myfyrwyr yn cael swyddi yn y ‘West End’ yn Llundain neu’n mynd i weithio yn y diwydiant teledu a ffilm. Dwedodd Peter Mitchell, Prif Swyddog Gweithredol interim sefydliad addysg annibynnol Edge, “Mae Coleg Morgannwg yn arddangos pwysigrwydd darparu llwybrau addysgol uchel eu hansawdd ar gyfer myfyrwyr ac mae’r prosiect hwn yn amlygu’r dyfodol llwyddiannus y gall y dull hwn o fynd ati ei gynnig i bobl ifanc. Hoffwn eu llongyfarch ar ennill y Wobr a gobeithio y byddan nhw’n parhau i arwain y ffordd ar gyfer Colegau eraill ar draws y DU.” Hefyd, enillodd Coleg Morgannwg Wobr Llywydd Cymdeithas y Colegau yn yr un seremoni. Dewiswyd y Coleg o 17 o enillwyr Gwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau fel enghraifft nodedig o gyflawniad ym maes addysg bellach gan yr Arglwydd Willis o Knaresborough, Llywydd Ymddiriedolaeth Elusennol Cymdeithas y Colegau. Dewisodd yr Arglwydd Willis Goleg Morgannwg oherwydd i ystod ac uchelgais y cwrs greu argraff ddofn arno. Y Coleg yn ennill Gwobr ‘Y Sefydliad sydd wedi Gwella Fwyaf’ Enillodd Coleg Morgannwg y Wobr am y Sefydliad sydd wedi Gwella Fwyaf, gwobr a noddir gan SONY UK TEC mewn Cinio Gala yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, a fynychwyd gan bobl flaenllaw o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat. Cyflwynwyd y wobr gan Mr Steve Dalton, Rheolwr Gyfarwyddwr SONY UK TEC, am ddangos gwelliant flwyddyn ar ol blwyddyn ar draws pob agwedd o weithgareddau’r sefydliad gan ystyried tueddiadau dros leiafswm o dair blynedd. Mae hefyd yn asesu pa mor bell mae’r sefydliad wedi datblygu yn erbyn meincnodau/safonau eraill megis Buddsoddwyr mewn Pobl, Safonau Amgylcheddol y Ddraig Werdd ayb. Mae ennill Gobr Ansawdd Cymru, y wobr nodedig hon, yn glod i unrhyw fusnes ac mae’r coleg yn ymfalchïo yn ei gyflawniad.


Dyfarnu gwobrau i golegau a dysgwyr sy’n perfformio orau Mewn seremoni ysblennydd yng Ngwesty’r Hilton yng Nghaerdydd, cydnabyddwyd dysgwyr ac athrawon nodedig fel y perfformwyr gorau ar draws colegau yng Nghymru a derbyniodd saith coleg wobr am welliannau a weithredwyd ganddyn nhw er budd dysgwyr. Mae Gwobrau Blynyddol ColegauCymru yn cydnabod cyflawniadau nodedig gan ddysgwyr, athrawon a cholegau ac roedd ansawdd y rhai a gynigiodd am Wobrau ColegauCymru 2011 yn eithriadol o uchel. Roedd y ffaith bod y colegau wedi codi eu safonau eleni wedi creu argraff ar y paneli barnu. Enillodd Coleg Morgannwg y wobr am Arweinyddiaeth Effeithiol ar gyfer Cyflenwi Sgiliau. Dwedodd Dr John Graystone, Prif Weithredwr ColegauCymru: “Llongyfarchiadau i bob enillydd. Mae’r gwobrau hyn yn sicrhau bod arferion da yn cael eu cydnabod yn briodol. Mae’r gwobrau hefyd yn ganolog i ymdrechion parhaus y colegau i godi safonau drwyddi draw yn eu sefydliad drwy ddysgu gan y goreuon. Mae Gwobrau ColegauCymru 2011 nid yn unig er budd dysgwyr ond maen nhw o werth i ystod o sefydliadau cenedlaethol uchel eu parch. Coleg Morgannwg yn arwain y ffordd ar gyfer Cymru iachach a hapusach Coleg Morgannwg yw’r coleg addysg bellach cyntaf yng Nghymru i dderbyn y wobr nodedig am ei safonau uchel ym maes iechyd a lles. Bu’r coleg yn gweithio’n galed i gynnal a gwella iechyd a lles ei staff a dyfarnwyd Safon Aur Iechyd Corfforaethol iddo gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Ar ôl derbyn y wobr arian y llynedd parhaodd Coleg Morgannwg gyda’i ymrwymiad i greu amgylchedd gwaith delfrydol ar gyfer ei staff o 500. Cymeradwywyd y coleg am yr ystod o ymyriadau iechyd a lles a weithredwyd, megis hyrwyddo bwyta’n iach ar draws pob campws a sefydlu proses gefnogol ar gyfer staff i ddychwelyd i’r gwaith. Y categorïau a asesir ydy hyrwyddo iechyd, maethiad, gweithgareddau corfforol, iechyd cyffredinol, iechyd galwedigaethol ac adferiad, a iechyd a diogelwch. Mae’r coleg yn benderfynol o barhau i adeiladu ar ei safonau iechyd a lles a’r gobaith yw y bydd newidiadau positif pellach yn gwneud Coleg Morgannwg yn un o’r deg lle gorau i weithio ynddo yng Nghymru. Safon Iechyd Corfforaethol, a gynhelir gan Llywodraeth Cymru, yw marc ansawdd ar gyfer hyrwyddo iechyd y gweithle yng Nghymru. Mae pedwar categori, efydd, arian, aur a platinwm ar gyfer sefydliadau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector sy’n gweithredu arferion i hyrwyddo iechyd a lles eu gweithwyr.


Gwisgo sêr byd y theatr a ffilm Mae Samantha Jones a Kate Barton wedi defnyddio’r cysylltiadau a wnaethon nhw tra’n astudio ar gyfer gradd Sylfaen mewn Saernïo Gwisgoedd Theatr a Ffilm yn y coleg. Fel rhan o’i hastudiaethau, lleolwyd Kate gyda chwmniau nodedig ar gyfer ei phrofiad gwaith, gan gynnwys pedwar mis fel gwneuthurwr /cynorthwy-ydd gwisgoedd ar Young Dracula, cynhyrchiad y BBC, a phrosiect byw gyda chynhyrchiad Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, Maisey Day. Ers gadael y coleg bu’n gweithio lawn amser gyda chwmni Opera Cenedlaethol Cymru fel gwneuthurwr gwisgoedd ar gynhyrchiadau megis, La Traviata, Madame Butterfly a Die Meistersinger Von Nurnberg. Roedd profiad gwaith Samantha yn cynnwys gweithio ochr yn ochr gyda chynllunydd gwisgoedd ar “The Importance of being Earnest”, cynhyrchiad Theatr Mappa Mundi, gweithio’n broffesiynol ar daith gyda Theatr Na n’Og fel cynorthwy-ydd meistres y gwisgoedd. Graddiodd yn 2009 ac mae’n credu bod y cwrs wedi rhoi’r sgiliau a’r hyder iddi fynd yn syth i mewn i’r diwydiant. Dewisodd Samantha lwybr gweithio ar ei liwt ei hun ac ymhlith y cynyrchiadau y mae ei henw wedi’i restru am ei gwaith cyn-gynhyrchu gyda’r gwisgoedd mae sioeau fel y The Sound of Music, Les Miserables a Hairspray. Mae wedi gweithio i Ganolfan Mileniwm Cymru a Bale Brenhinol Birmingham a hi oedd cynllunydd gwisgoedd y ffilm Masterpiece, a ddaeth i’r brig eleni. Mae Samantha hefyd yn gwneud a newid gwisgoedd priodas ac mae yn y broses o sefydlu ei busnes ei hun. dwedodd “ Dw i wrth fy modd gyda’r gwaith ac mae gwaith gen i am y ddwy nesaf yn barod!”

Llwyddiant i Gareth Jones “Bu’n flynyddoedd ers i mi adael yr ysgol heb lawer o gymwysterau. Penderfynais, ar ôl 18 mlynedd yn gweithio fel postmon mod i am gael gyrfa, nid dim ond ar fy nghyfer i fy hun ond hefyd i ysbrydoli fy mhlant i fynd i’r brifysgol. Mynychais Goleg Morgannwg yn ystod 2003 i astudio Mynediad i Wyddoniaeth. Roedd y staff addysgu yn wych, yn cynorthwyo fy nysgu ac yn fy arwain i drwy’r broses ymddangosiadol gymhleth o ddod o hyd i gwrs gradd a gwneud cais i’r brifysgol. Enillais Wobr Jane Hodge ar gyfer myfyrwyr yn 2004 a rhoddodd hyn hyder i mi yn fy ngallu ar ôl cymaint o flynyddoedd tu allan i’r byd addysg. Enillais le ar gwrs gradd 4 blynedd a chychwynnais yn 2006 gan gwblhau fy Ngradd yn 2010 ac ennill gradd Anrhydedd dosbarth cyntaf. Yn dilyn hyn, penderfynais ddilyn gyrfa addysgu, ac ar ôl cael lle ar gwrs TAR, dychwelais i Goleg Morgannwg i wneud rhan o fy ymarfer dysgu yn 2011. Eleni ces i fy nerbyn i ddilyn fy nghyrfa ymhellach gan gychwyn ar gwrs gradd ymchwil PhD 3 blynedd ym Mhrifysgol Morgannwg. Rhoddodd fy amser yng Ngholeg Morgannwg ail gyfle i mi gyflawni rhywbeth amgenach ac yn fwy pwysig, yr hyder i “fynd amdani”, os galla i ei wneud e, yna gall unrhywun!’ Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n ennill Gradd a nawr dw i’n cychwyn ar PhD.”


Swydd ddelfrydol i gyn beiriannydd yn y Fyddin Ar ôl gyrfa yn y fyddin a rhedeg ei fusnes ei hun, mae’r peiriannydd Mark Lewis wedi dod o hyd i’w swydd ddelfrydol yn addysgu darpar dechnegwyr y dyfodol. Rhoddodd profiad Mark fel uwch NCO yn y Royal Engineers a’i gymwysterau wybodaeth o’i bwnc iddo. Astudiodd Mark ar gwrs TAR ac yn ddiweddar, cyflogwyd e i addysgu peirianneg ar gampws Nantgarw. dwedodd Mark, “Mae UHOVI wedi bod yn ddelfrydol i fi. Ron i’n gobeithio mynd yn ôl i’r brifysgol ond ces i astudio tra’n addysgu a magu’n teulu. Mae’n fodd gwych o ddod ag addysg o safon uchel i gymunedau’r cymoedd”.

Adeiladu ei ddyfodol Nicholas Clements yw’r myfyriwr cyntaf i fanteisio ar leoliad gwaith ar brosiect newydd Campws Tâf Elai is Mae Nicholas wedi ymrestru ar gwrs gradd Sylfaen Adeiladu Cynaliadwy a chafodd y cyfle i weithio gyda staff Laing O Rourke; y prif gontractwyr sy’n adeiladu campws newydd y coleg. Mae’n gweithio ochr yn ochr â’r contractwyr am bedwar diwrnod ac yn treulio un diwrnod yn astudio yn y coleg. Cynorthwyodd Nicholas hefyd i gynhyrchu DVD ar gyfer Lansiad UHOVI (Athrofa Prifysgol Blaenau’r Cymoedd).


Beth allwch chi ei astudio Mae Coleg Morgannwg yn cynnig nifer o gymwysterau Addysg Uwch yn y categorïau canlynol: Uwch Dystysgrif Genedlaethol (HNC) Cymwysterau addysg uwch yn ymwneud â gwaith (galwedigaethol) yw HNCs. Tra bod graddau baglor yn dueddol o ganolbwyntio ar gaffael gwybodaeth, bwriad HNC yw rhoi sgiliau i chi sy’n rhoi’r wybodaeth honno ar waith mewn swydd benodol a hynny’n effeithiol. Y cyrsiau HNC sydd ar gael: HNC Peirianneg (Awyrofod) HNC Cyfrifiaduraeth HNC Rheolaeth a Busnes

Person Proffesiynol Graddedig mewn Addysg / Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg TAR (addysg a hyfforddiant ôl orfodol) Mae’r cwrs proffesiynol addysg hwn ar gael i unrhyw un sy’n addysgu neu’n dymuno addysgu ym myd addysg barhaus ac ôl orfodol. Mae’n cynnwys addysg uwch, bellach ac addysg oedolion yn ogystal â meysydd eraill. Mae cwrs TAR yn canolbwyntio’n bennaf ar ddatblygu’ch sgiliau addysgu ac nid y pwnc yr ydych yn bwriadu ei addysgu.

Mynediad i Addysg Uwch Mae’r cwrs hwn yn cynnig llwybr i mewn i Addysg Uwch ar gyfer y rhai heb fawr neu ddim cefndir addysgol sy’n dymuno symud ymlaen i astudio mewn Prifysgol. Bwriad y cwrs yw darparu amgylchedd cefnogol a chyfeillgar i’ch galluogi i ddatblygu’ch potensial. Mae nifer o gyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i ennill Graddau a Dyfarniadau Uwch eraill. Y cyrsiau Mynediad sydd ar gael: Mynediad i Broffesiynau Iechyd Mynediad i’r Dyniaethau Mynedaid i Wyddoniaeth


Rhaglen Flwyddyn Sylfaen, cymryd eich camau cyntaf tuag at Radd Sylfaen. Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd ddim, am ba reswm bynnag, yn meddu ar ofynion mynediad Gradd Sylfaen. Fe’i astudir cyn eich dewis o Radd Sylfaen er mwyn eich helpu i ddatblygu’r gallu, y sgiliau a’r hyder angenrheidiol i astudio ar lefel addysgol uwch. Bydd modiwlau megis sgiliau astudio yn helpu i’ch paratoi a rhoi dealltwriaeth i chi o’r technegau a’r dulliau fydd eu hangen arnoch i gyflawni’r cymhwyster o’ch dewis. Mae nifer o lwybrau thematig ar gael fel y gallwch gaffael gwybodaeth ym maes eich dewis bwnc. O gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallwch symud yn syth i astudio am Radd Sylfaen. Y Cyrsiau Blwyddyn Sylfaen sydd argael: Astudiaethau Busnes Peirianneg Trydan ac Electronig Peirianneg Mecatronig Gwasanaethau Trydan ar gyfer Adeiladau Adeiladau Cynaliadwy a Gwaith Syrfeo Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) Y Dyniaethau o 2012 Graddau Sylfaen Graddau y mae cyflogwyr yn eu hystyried o werth mawr ac wedi’u cynllunio i ddarparu’r wybodaeth a’r sgiliau perthnasol ar gyfer egin ddiwydiant y rhanbarth neu’r diwydiannau sydd eisoes yn bodoli yno. Cyfunir astudiaeth academaidd gyda dysgu yn y gweithle mewn meysydd sy’n allweddol i’r pwnc fel y cewch gyfle i ddysgu yn y gweithle yn ogystal ag yn y dosbarth. Gallai myfyrwyr sy’n cwblhau Gradd Sylfaen yn llwyddiannus symud ymlaen i gwrs gradd perthnasol. Fel arfer, mae hyn yn golygu blwyddyn ychwanegol o astudio Llawn Amser (neu’n gyfwerth rhan amser). Y Cyrsiau Graddau Sylfaaen sydd ar gael: Saernïo Gwisgoedd ar gyfer y Sgrîn a’r Theatr Astudiaethau Plentyndod Rheoli Salon (Yn amodol ar gael ei ddilysu) Astudiaethau Busnes Adeiladau Cynaliadwy a Gwaith Syrfeo Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) Peirianneg Mecatronig Peirianneg Trydan ac Electronig Gwasanaethau Trydan ar gyfer Adeiladau Y Dyniaethau o 2012 felly, os ydych am gyfle i astudio ar gyfer cwrs cymhwyster prifysgol yng Ngholeg Morgannwg darllenwch ymhellach neu ffoniwch ni i gael rhagor o wybodaeth.


Gradd Sylfaen/ BA Anrhydedd Saernïo Gwisgoedd ar gyfer y Sgrîn a’r Theatr Llawn Amser | Nantgarw Braslun o’r Cwrs Mae’r cwrs 2 flynedd hwn yn eich cyflwyno i faes saernïo gwisgoedd ar gyfer ffilm a’r theatr. Mae cysylltiadau ardderchog gyda’r diwydiant ac felly’n gallu darparu cyfleoedd i weithio fel rhan o dîm cynhyrchu fel gwneuthurwyr gwisgoedd. Bydd y cwrs yn eich paratoi drwy roi’r sgiliau angenrheidiol i chi ddatblygu’n arbenigwyr yn y maes. Gofynion Mynediad Tariff UCAS: 260 points o unrhyw un o’r canlynol: TGA lefel A, BTEC Diploma mewn Astudiaethau Sylfaen (Celf a Dylunio) ar lefel teilyngdod. Derbynnir cymwysterau rhynglwadol cyfwerth. Caiff y rhai heb cymwysterau o’r fath eu hystyried yn unigol a gellid efallai rhoi ystyriaeth i ystod eang o brofiad blaenorol. Bydd pob ymgeisydd yn cael cyfweliad ar sail portffolio. Bydd rhaid cwblhau Gradd Sylfaen yn llwyddiannus cyn cael mynediad i flwyddyn olaf blwyddyn atodol BA (Anrh). Beth fydda i’n astudio? Bydd angen i chi feddu dawn greadigol a gallu i ddefnyddio’ch gwybodaeth am gynllunio a’ch sgiliau creadigol i ddehongli syniadau. Mae astudio gwsigoedd yn eu cyd-destun hanesyddol yn rhan annatod o’r cwrs a bydd ymchwil i wisgoedd cyfnod yn gyfeirnod ac yn gymorth drwy’r broses ddehongliadol. Mae caffael sgilliau arbenigol megis torri patrymau, saernïo dillad a’u haddurno yn rhoi’r wybodaeth hanfodol sydd ei hangen arnoch chi i gychwyn ar y broses o saernïo gwisgoedd. Cyflwynir meysydd arbenigol megis gwaith staes, teilwra, gleinwaith a brodwaith drwyddi draw yn y cwrs gan ymestyn a chyfloethogi’ch arbenigedd. Bydd y cwrs yn rhoi cipolwg i chi ar fyd proffesiynol ffilm a thear gan ymweld yn allanol â’r diwydiant a chyfle i gael lleoliad gwaith ar draws ystod eang o gwmnïau ffilm/theatr ar draws y wlad. Bydd hyn yn rhoi profiad i chi o gymhwyso’ch sgiliau a’ch gwybodaeth a gweithio o fewn tîm ac yn annibynnol mewn amgylchedd proffesiynol. Sut caf fy asesu? Bydd asesu’n cynnwys aseiniadau ysgrifenedig, dysgu drwy brofiad yn y labordy, arholiad ac adroddiadau ymchwil o ran gweithle diwydiannol.


Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod Llawn Amser | Aberdâr & Rhondda

Braslun o’r Cwrs Mae’r cwrs hwn yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y rhai sy’n dymuno ennill dealltwriaeth o weithgareddau’n ymwneud ag Astudiaethau Plentyndod. Mae’n fanteisiol i’r rhai hynny sy’n bwriadu dilyn gyrfa yn y maes hwn neu ar gyfer y rhoi hynny sydd eisoes yn gweithio yn y maes hwn, neu sydd eisoes yn gweithio yn y sector gofal plant ac yn dymuno gwella eu rhagolygon gyrfaol. Gofynion Mynediad Dylech feddu ar un o’r canlynol: Diploma Cenedlaethol BTEC, Diploma Lefel 3 CACHE mewn Gofal Plant ac Addysg, cymhwyster Mynediad i Iechyd neu’r Dyniaethau neu gymhwyster cyfwerth. Hefyd cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad. Beth fydda i’n astudio? Ymhlith y modiwlau y byddwch yn eu hastudio bydd: Blwyddyn 1 (Modiwlau Lefel 1) Gwerthoedd ac Amrywiaeth; TG a Dulliau Ymchwil; Cyfathrebu a Phartneriaeth; Credydau Arfer a Chwarae (Lefel 2). Blwyddyn 2 (Modiwlau Lefel 2) Tueddiadau mewn Iechyd Babanod; Materion Cwricwlaidd; Deddfwriaeth; Datblygiad y Plentyn; Datblygu Ymarferion Proffesiynol a Chredydau Ymarfer. Sut caf fy asesu? Cewch eich asesu’n bennaf drwy aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau a phortffolios. Dyfarnwyd gan Brifysgol Morgannwg


Gradd Sylfaen mewn Rheoli Salon

(Yn amodol ar gael ei ddilysu)

Llawn Amser | Nantgarw

Braslun o’r Cwrs Os ydych yn berchen ar fusnes harddwch bach neu’n ei reoli, neu os ydych am wella’ch rhagolygon gyrfaol yn y diwydiant cystadleuol hwn, mae’r cwrs hwn yn darparu cyfle i chi ddatblygu’r sgiliau busnes perthnasol. Hwn yw’r dull perffaith o gaffael cymhwyster ar gyfer y diwydiant harddwch gan y bydd popeth a ddysgwch yn yr ystafell dosbarth yn ymwneud yn uniongyrchol â’r gweithle, ac mae prosiectau’n seiliedig ar waith yn rhan hanfodol o’r cwrs. Mae hefyd yn gyfle gwych i rwydweithio a rhannu profiadau gyda pherchnogion busnesau bach yn yr ardal a bydd anerchiadau rheolaidd gan siaradwyr gwâdd yn nodweddd allweddol o’r cwrs. Gofynion Mynediad Fel arfer un o’r canlynol: 2 Lefel A, AVCE (yr Uwch GNVQ gynt), Tystysgrif Genedlaethol BTEC, NVQ perthnasol (lefel 3 neu 4), Tystysgrif Mynediad i Addysg Uwch neu gymhwyster cydnabyddedig arall. Caiff cymwysterau eraill eu hystyried yn unigol, yn enwedig pan ystyrir myfyrwyr aeddfed. Beth fydda i’n astudio? Byddwch yn astudio pob agwedd o redeg busnes, o’i gynllunio a’i farchnata i adnoddau dynol a iechyd a diogelwch, ynghyd â modiwlau arbenigol a fydd yn ymwneud yn uniongyrchol â’r diwydiannau trin gwallt a harddwch. Byddwch yn dysgu drwy ddarlithoedd, trafodaethau a gwaith grŵp, cwblhau prosiectau, cyflwyniadau, adroddiadau, astudiaethau achos a phortffolios o waith – y bydd llawer ohonyn nhw’n ymwneud yn uniongyrchol â’r hyn byddwch yn ei wneud yn eich swydd o ddydd i ddydd. Gan y byddwch yn gweithio ac yn astudio ar yr un pryd, ceir cyfleoedd i astudio tu allan i’r coleg drwy ddysgu o hirbell. Dyfarnwyd gan Brifysgol Cymru, Casnewydd


Gradd Sylfaen mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Llawn Amser / Rhan Amser | Pontypridd / Nantgarw 2012

Braslun o’r Cwrs Bwriad y cwrs 2 flynedd hwn yw darparu sylfaen eang o wybodaeth a sgiliau TG. Yn ogystal â sgiliau technegol, byddwch yn datblygu sgiliau rhyngbersonol a phroffesiynol i’ch helpu i lwyddo yn y diwydiant hwn. Mae gogwydd ymarferol cadarn i’r cwrs hwn ac mae’n cynnwys cyfnod o ddysgu yn y gweithle yn ystod yr ail flwyddyn. A gyda chyfuniad o fodiwlau o’ch dewis, gallwch deilwra cynnwys y cwrs i gwrdd â’ch dyheadau gyrfaol. Gofynion Mynediad TGAU Mathemateg a Saesneg gradd 3 neu uwch a 120 o bwyntiau ar lefel A neu gyfwerth. Gallai myfyrwyr aeddfed gael eu derbyn heb gymhwyster, yn amodol ar gyfweliad. Beth fydda i’n astudio? I gyflawni cymhwyster Gradd Sylfaen, byddwch yn astudio: 100 credyd ar lefel 4, gan ddewis o’r modiwlau canlynol: ECDL: Uwch Brosesu Geiriau; ECDL: Uwch Daenlenni; ECDL: Uwch Gronfeydd Data; ECDL: Uwch Gyflwyniadau; Datblygiad Proffesiynol a Sgiliau Busnes; Datblygu Cymhwyso’r Rhyngrwyd; Cymhwyso Busnes; Datblygu Systemau Gwybodaeth; Datrys Problemau Cyfrifiaduro; System Cyfrifiaduraeth a Chysyniadau Rhwydweithio. 80 credyd ar Lefel 5 i gynnwys modiwlau o: Rheoli Systemau Gwybodaeth; Datblygu Cymhwyso Rhyngrwyd Cyfoethog; Dadansoddi a Chynllunio Systemau Gwybodaeth; Gweinyddu Rhwydwaith a’i Ddiogelu; Astudiaeth Annibynnol mewn Cyfrifiaduraeth; Dysgu yn y Gweithle. Sut caf fy asesu? Caiff y cwrs ei gyflenwi drwy gymysgedd o ddarlithoedd traddodiadol, tiwtorialau a sesiynau ymarferol. Bydd pob modiwl yn cynnwys aseiniadau a gaiff eu hasesu a bydd rhai yn cynnwys arholiadau ar y diwedd. Dyfarnwyd gan Brifysgol Morgannwg


Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Busnes Rhan Amser | Pontypridd / Nantgarw 2012

Braslun o’r Cwrs Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n dymuno symud i yrfa mewn rheolaeth a busnes a’i nod yw darparu dealltwriaeth o natur sefydliadau, sut maen nhw’n cael eu rheoli a’r amgylchedd cyfnewidiol y maen nhw’n gweithredu ynddo. Cwrs rhan amser hyblyg yw hwn a’i nod yw datblygu gwybodaeth, sgiliau a chymwyseddau a fydd yn galluogi myfyrwyr i ddilyn gyrfa mewn rheoli. Caiff ymgeiswyr llwyddiannus gymhwyster busnes eang ei sail. Gofynion Mynediad Does dim angen cymwysterau mynediad ar fyfyrwyr aeddfed dros 21 oed. Mae angen 1 Lefel A neu gymhwyster Lefel 3 ar fyfyrwyr o dan 21 oed. Beth fydda i’n astudio? Byddwch yn astudio’r modiwlau canlynol: Prosiect Byw; Profiad o Gyflogaeth ac Ystyried Ymarferion. Sut caf fy asesu? Cewch eich asesu drwy aseiniadau unigol ac aseiniadau grŵp, arholiadau ysgrifenedig a chyflwyniadau llafar. Dyfarnwyd gan Brifysgol Morgannwg


HNC mewn Busnes a Rheoli Rhan Amser | Pontypridd / Nantgarw 2012

Braslun o’r Cwrs Mae’r cwrs 2 flynedd rhan amser hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n dymuno symud i yrfa mewn rheolaeth a busnes a’i nod yw darparu dealltwriaeth o natur sefydliadau, sut maen nhw’n cael eu rheoli a’r amgylchedd cyfnewidiol y maen nhw’n gweithredu ynddo. Nod y cwrs yw datblygu gwybodaeth, sgiliau a chymwyseddau a fydd yn galluogi myfyrwyr i ddilyn gyrfa mewn rheoli. Caiff ymgeiswyr llwyddiannus gymhwyster busnes eang ei sail. Gofynion Mynediad Does dim angen cymwysterau mynediad ar fyfyrwyr aeddfed dros 21 oed. Mae angen 1 Lefel A neu gymhwyster Lefel 3 ar fyfyrwyr o dan 21 oed. Beth fydda i’n astudio? Ymhlith y modiwlau HNC y byddwch yn eu hastudo fydd: Rheoli ac Ymddygiad Sefydliadol; Marchnata; Sefydliadau, Cystadleuaeth a’r Amgylchedd Busnes; Dadansoddiad Strategol o Fusnes; Menter Rheoli; Adnoddau Dynol a Rheoli Gwybodaeth Ariannol. Sut caf fy asesu? Cewch eich asesu drwy aseiniadau unigol ac aseiniadau grŵp, arholiadau ysgrifenedig a chyflwyniadau llafar.


HNC Cyfrifiaduraeth Rhan Amser | Pontypridd / Nantgarw 2012

Braslun o’r Cwrs Nod y cwrs rhan amser hwn yw cyflwyno addysg gyfrifiadurol drwyadl i’r myfyrwyr. Byddwch yn datblygu ystod o sgiliau a thechnegau cyfrifiadurol a phriodweddau personol eraill a fydd yn eich helpu i ymdopi â chyfleoedd gwaith sy’n gyfnewidiol iawn. Gofynion Mynediad Fel arfer dylech fod o leiaf yn 18 oed ac wedi cyflawni un o’r lleiafswm gofynion mynediad canlynol: i) Yn meddu ar Dystysgrif Genedlaethol BTEC. ii) Yn meddu ar o leiaf un TGA Lefel a ynghyd â 3 TGA Lefel ‘O’/TGAU eraill gradd A, B neu C. iii) Yn meddu ar GNVQ neu NVQ ar Lefel Uwch neu, iv) Wedi cael profiad perthnasol helaeth mewn chyflogaeth. Beth fydda i’n astudio? Blwyddyn 1: Datblygu Systemau Gwybodaeth, Cyflwyniad i Raglennu, System Cyfrifiaduraeth a Chysyniadau Rhwydweithio, Cyflwyniad i Amlgyfryngau ac Awduro’r We. Blwyddyn Dau: Dadansoddi Systemau Gwybodaeth a’u Cynllunio, Datblygu Bas Data, Datblygu a Rheoli Gwefan. Sut caf fy asesu? Asesir drwy gyfuniad o waith unigol a gwaith grŵp, profion ac arholiadau diwedd blwyddyn wedi paratoi / heb baratoi.


Person Graddedig Proffesiynol mewn Addysg / Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (TAR) (Addysg a Hyfforddiant ôl orfodol) Rhan Amser | Aberdâr & Pontypridd / Nantgarw 2012

Braslun o’r Cwrs Mae’r cwrs addysgol rhan amser proffesiynol hwn ar gael i unrnhyw un sy’n addysgu neu’n dymuno addysgu mewn addysg barhaus neu ôl orfodol. Mae hyn yn cynnwys addysg uwch, addysgu bellach ac addysg oedolion yn ogystal â meysydd eraill. Gofynion Mynediad Ar gyfer pobl sydd eisoes yn athrawon, does dim gofynion mynediad. os ydych yn bwriadu addysgu ond ddim yn addysgu ar hyn o bryd, dylech fod yn gymwys a/neu’n brofiadol yn eich dewis faes. Fel arfer mae hyn yn golygu NVQ Lefel 3 ym mhwnc eich maes. Beth fydda i’n astudio? Blwyddyn 1: Cysyniadau a Phrosesau Addysgu , Cymhwyso Sgiliau Addysgu, Cynllunio ac Asesu Dysgu ac Ymarfer Dysgu Proffesiynol. Blwyddyn 2: Cynllunio Cwrwicwlwm, Addysgu a Dysgu Arloesol ac Ymarfer Dysgu Proffesiynol 2 ynghyd â 2 Fodiwl Opsiynol. Sut caf fy asesu? caiff pob uned ei asedu drwy aseianiadysgrifenedig. Bydd hefyd ddisgwyl i chi gadw cofnod o weithgareddau proffesiynol y byddwch yn cael; ei asesu arno. Dyfarnwyd gan Brifysgol Morgannwg


Gradd Sylfaen mewn Adeiladu Cynaliadawy a Gwaith Syrfeo Rhan Amser | Nantgarw

Braslun o’r Cwrs Mae’r diwydiant adeiladu yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gyrfaol gan gynnwys swyddi fel Rheolwyr Safle, Ymgynghorwyr Diogelwch a Chynllunwyr Prosiect. Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno’r wybodaeth a’r sgiliau arbenigol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i gynorthwyo datblygu a rheoli’r amgylchedd adeiledig. Mae’n cynnwys dysgu yn y gweithle am gyfnod o 15 wythnos a hynny’n galluogi myfyrwyr i roi eu gwybodaeth academaidd ar waith. Cefnogir y cwrs gan Asset Skills, y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer rheoli cyfleusterau, tai, eiddo cynllunio, glanhau a pharcio a gan Construcion Skills, Y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer pob ran o’r diwydiant adeiladu o benseiri i osodwyr brics. Gofynion Mynediad Fel arfer, 1 Lefel a 5 pwnc TGAU gradd C neu uwch; neu Dystysgrif Genedlaethol/Diploma Cenedlaethol/Uwch GNVQ/AVCE mewn Astudiaethau Adeiladu (neu debyg). Gallai myfyrwyr gael eu derbyn heb gymwysterau, yn amodol ar gyfweliad. Beth fydda i’n astudio? Yn ystod Blwyddyn 1 byddwch yn astudio modiwlau craidd, ynghyd â modiwlau o ystod o opsiynau. Yn ysod blwyddyn 2, byddwch yn astudio modiwlau a addysgir ynghyd â modiwl dysgu yn y gweithle. Blwyddyn 1: Technoleg Adeiladu 1; Cyfraith yr Amgylchedd Adeiledig; Deunyddiau a Gwyddoniaeth; Ymarfer Prosiect; Syrfeo a Mesur Adeiladau; Cynllunio Datblygiad Personol; Tystysgrif Genedlaethol NEBOSH ar gyfer Iechyd a Diogelwch. Blwyddyn 2: Technoleg Adeiladu 2; Ymarfer Proffesiynol 2; Astudiaeth Annibynnol; Gwerthuso a Datblygu Prosiect; Tendro ac Amcangyfrif Dysgu yn y Gweithle. Sut caf fy asesu? Cewch eich addysgu drwy ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau a bydd rhaid i chi dreulio amser ychwanegol yn gweithio ar gyflwyniadau, aseiniadau ac ymarferion datrys problemau. Asesir mwyafrif y modiwlau drwy gyfuniad o arholiadau a gwaith cwrs. Dyfarnwyd gan Brifysgol Morgannwg


Gradd Sylfaen Gwasanethau Trydan ar gyfer Adeiladau Rhan Amser | Nantgarw

Braslun o’r Cwrs Addysgir y cwrs drwy ddarlithoedd, tiwtorialau a gwaith labordy. Nod y cwrs yw cyflenwi cyfran sylweddol o’r deunydd yn y gweithle. Byddai hyn yn cynnwys y Dystysgrif Gyflogaeth, y prosiect a System Brofi Electronig a’i Dibynadwyedd. Cwrs dwy flynedd yw hwn a fyddai’n cynnwys cyfnod yn ystod yr haf i gwblhau peth o’r astudio seiliedig ar y gweithle. Mae peth hyblygrwydd wrth sefydlu hyd y cwrs er mwyn caniatáu i’r myfyrwyr a’u cyflogwyr i astudio ar y cyflymder maen nhw’n eu ddymuno. Gofynion Mynediad Fel arfer byddai disgwyl bod gennych Dystysgrif/Diploma Genedlaethol. Gellir ystyried cymwysterau eraill gan benderfynu o un i un, yn arbennig wrth ystyried myfyrwyr aeddfed. Beth fydda i’n astudio? Blwyddyn 1: Electroneg ac Egwyddorion; Dylunio Gosodiadau Trydan a Dylunio Goleuadau a Systemau Pŵer. Blwyddyn 2: Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD); Dyluniad a Chyfrifiad mewn Dylunio ar gyfer Gwasanaethau Trydan; Adeiladau Cynaliadwy; Prosiect Unigol a Busnes a Diogelwch a Chyflogadwyedd. Sut caf fy asesu? Asesir ar sail aseiniadau ysgrifenedig, profiad o ddysgu drwy labordy a thrwy arholiad. Hefyd drwy ymchwil, adroddiadau a phortffolio yn y gweithle. Dyfarnwyd gan Brifysgol Morgannwg


Gradd Sylfaen mewn Peirianneg Trydan ac Electroneg Rhan Amser | Nantgarw Braslun o’r Cwrs Mae hwn yn gwrs 2 flynedd, sy’n cynnwys cyfnod haf i gwblhau peth o’r astudiaethau sy’n seiledig ar waith yn y diwydiant. Mae peth hyblygrwydd wrth sefydlu hyd y cwrs er mwyn caniatáu i’r myfyrwyr a’u cyflogwyr i astudio ar y cyflymder maen nhw’n eu ddymuno. Mae’n gwrs arbennig o addas i’r rhai o fewn y sector Peirianneg. Caiff y cwrs ei gyflwyno drwy ddarlithoedd, tiwtorialau a gwaith labordy. Cynlluniwyd y cwrs fel bod cyfran dda ohono’n cael ei drafod yn y gweithle. Byddai hyn yn cynnwys prosiect y Dystysgrif Cyflogaeth (lle bo hynny’n addas) a Rheoli a Diogelwch. Gofynion Mynediad Fel arfer byddai disgwyl bod gennych Dystysgrif/Diploma Genedlaethol. Gellir ystyried cymwysterau eraill gan benderfynu o un i un, yn arbennig wrth ystyried myfyrwyr aeddfed. Beth fydda i’n astudio? Blwyddyn 1: Mathemateg i Beirianwyr; Technoleg Trydan; Electroneg 1 a Chyflwyniad i waith Rhaglennu a Systemau wedi eu Mewnosod. Blwyddyn 2: Mathemateg; Egwyddorion, Method ac Efelychiad Trydaneg; Systemau Electroneg a Phrosiect. * Ar yr adeg hwn gallai myfyrwyr ddewis gadael gyda HNC yn eu maes arbenigol. I gwblhau Gradd Sylfaen gallwch ddewis un o’r rhain: Rheoli a Diogelwch mewn Peirianneg Diwydiannol neu Systemau Prawf a Dibynadwyedd mewn Electroneg a Thystysgrif Profiad Cyflogaeth. Sut caf fy asesu? Bydd asesu’n cynnwys aseinadau ysgrifenedig, dysgu o brofiad yn y labordy, arholiad ac adroddiadau ymchwil yn ymwneud â’r gweithle. Dyfarnwyd gan Brifysgol Morgannwg


Gradd Sylfaen mewn Peirianneg Mecatronig Rhan Amser | Nantgarw Braslun o’r Cwrs Mae hwn yn gwrs 2 flynedd, sy’n cynnwys cyfnod haf i gwblhau peth o’r astudiaethau sy’n seiledig ar waith yn y diwydiant. Mae peth hyblygrwydd wrth sefydlu hyd y cwrs er mwyn caniatáu i’r myfyrwyr a’u cyflogwyr i astudio ar y cyflymder maen nhw’n eu ddymuno. Mae’n gwrs arbennig o addas i’r rhai o fewn y sector Peirianneg. Caiff y cwrs ei gyflwyno drwy ddarlithoedd, tiwtorialau a gwaith labordy. Cynlluniwyd y cwrs fel bod cyfran dda ohono’n cael ei drafod yn y gweithle. Byddai hyn yn cynnwys prosiect y Dystysgrif Cyflogaeth (lle bo hynny’n addas) a Rheoli a Diogelwch. Gofynion Mynediad Fel arfer byddai disgwyl bod gennych Dystysgrif/Diploma Genedlaethol. Gellir ystyried cymwysterau eraill gan benderfynu o un i un, yn arbennig wrth ystyried myfyrwyr aeddfed. Beth fydda i’n astudio? Blwyddyn 1: Mathemateg i Beirianwyr; Technoleg Trydan; Rheolyddion Rhesymeg y gellir eu Rhaglennu a Chyflwyniad i waith Rhaglennu ‘C’ a Systemau wedi eu Mewnosod. Blwyddyn 2: Mathemateg; Egwyddorion, Method ac Efelychiad Trydan; Systemau Mecatroneg a phrosiect. * Ar yr adeg hwn gallai myfyrwyr ddewis gadael gyda HNC yn eu maes arbenigol. I gwblhau Gradd Sylfaen gallwch ddewis un o’r rhain: Rheoli a Diogelwch mewn Peirianneg Diwydiannol neu Systemau Prawf a Dibynadwyedd mewn Electroneg a Thystysgrif Profiad Cyflogaeth. Sut caf fy asesu? Byddd asesu’n cynnwys aseiniadau ysgrifenedig, dysgu drwy brofiad yn y labordy, arholiad ac adroddiadau ymchwil yn ymwneud â gweithle yn y diwydiant. Dyfarnwyd gan Brifysgol Morgannwg


HNC Peirianneg Awyrofod Rhan Amser | Nantgarw

Braslun o’r Cwrs Cynigir HNC Peirianneg Awyrofod yn nisgyblaethau peirianneg awyrennau ac afioneg. Mae’n rhaglen 2 flynedd rhan amser, fel arfer 1 diwrnod ynghyd ag 1 noson yr wythnos dros 10 neu 12 uned. Hefyd, ceir uned atodol gyda’r nos a gynigir i’r rhai sydd angen mynediad mwy hyblyg i HNC. Mae’r noson honno hefyd yn darparu cyfle ar gyfer unigolion sydd eisoes yn meddu ar gymhwyster HNC i ennill unedau ychwanegol. Gofynion Mynediad Fel arfer, mae gofynion mynediad i’r Rhaglen yn golygu cymhwyster Lefel Genedlaethol neu gyfwerth; GNVQ Uwch neu Lefel A gyda’r profiad diwydiannol perthnasol neu, ar gyfer ymgeiswyr aeddfed sy’n meddu ar flynyddoedd o brofiad eang a gwiradwy. Beth fydda i’n astudio? Mathemateg; Gwyddoniaeth; Peirianneg; Cynllunio; Prosiect; Astudiaethau Busnes ac Egwyddorion Systemau Awyren ynghyd ag unedau priodol yn dibynnu ar ddisgyblaeth a dull yr astudio i wneud eich cyfanswm naill ai’n 10 neu 12 uned. Sut caf fy asesu? Asesir drwy gyfuniad o waith unigol a gwaith grŵp, profion ac arholiadau wedi paratoi/ heb baratoi.


Mynediad i Addysg Uwch - Proffesiynau Iechyd Llawn Amser / Rhan Amser | Aberdâr, Pontypridd / Nantgarw 2012 & Rhondda

Braslun o’r Cwrs Mae’r cwrs 1 flwyddyn llawn amser neu 2 flynedd rhan amser hwn yn cynnig llwybr i Addysg Uwch mewn Proffesiwn Iechyd. Nod y cwrs yw darparu amgylchedd cefnogol a chyfeillgar i’ch galluogi i ddatblygu’ch potensial a’ch paratoi ar gyfer astudiaeth prifysgol. Mae nifer o gyn-fyfyrwyr wedi symud ymlaen a llwyddo i ennill Graddau a Dyfarniadau Uwch eraill megis Graddau Nyrsio, Therapi Galwedigaethol a Bydwreigiaeth. Gofynion Mynediad Rhaid i chi ymrwymo i ddatblygu’ch gallu. Does dim angen cymwysterau academaidd ffurfiol, er dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol bod y cwrs yn gofyn am lefel uchel o ymroddiad gan y bydd y myfyrwyr yn gweithio ar safon lefel tri. Bydd rhaid i bob ymgeisydd sefyll prawf mynediad i ganfod lefel eu sgiliau llythrennedd a rhifedd; hefyd cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad. Sylwer: ar gyfer proffesiynau Nyrsio ym maes Iechyd, bydd angen gwiriad CRB arnoch a rhaid datgan pob collfarn / rhybudd yn eich erbyn. Efallai bydd angen i chi hefyd drafod rhai cyflyrrau meddygol gydag Adrannau Iechyd Galwedigaethol. Beth fydda i’n astudio? Byddwch yn astudio Cymdeithaseg, Seicoleg, Ffisioleg Dynol a Iechyd, Astudiaethau Iechyd a Sgiliau Allweddol TGCh, Rhifedd a Chyfathrebu. Astudir ar lefel 2 ar y cychwyn ac yna symudir ymlaen i lefel 3. Sut caf fy asesu? Cewch eich asesu’n barhaus, traethodau a chyflwyniadau llafar gyda rhai profion diwedd uned. Bydd disgwyl i chi hefyd gynnal ffeiliau’ch cwrs a phortffolio’ch aseiniadau i’r safonau angenrheidiol.


Mynediad i Addysg Uwch mewn Gwyddoniaeth Llawn Amser /Rhan Amser | Pontypridd / Nantgarw 2012

Braslun o’r Cwrs Mae’r cwrs 1 flwydddyn Llawn Amser neu dwy flynedd rhan amser hwn yn darparu llwybr carlam i mewn i Addysg Uwch ar gyfer myfyrwyr heb gymwysterau ffurfiol. Nod y cwrs yw darparu amgylchedd cefnogol a chyfeillgar i’ch galluogi i ddatblygu’ch potensial ac i’ch paratoi ar gyfer astudio ar lefel Prifysgol, gyda channoedd o gyn-fyfyrwyr yn mynd ymlaen i ennill graddau a dyfarniadau eraill. Gofynion Mynediad Does dim angen cymwysterau academaidd ffurfiol, er dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol bod y cwrs yn gofyn am lefel uchel o ymroddiad a bod mwyafrif safon y gwaith ar lefel 3 (cyfwerth â Lefel A). Yn ychwanegol, cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad. Beth fydda i’n astudio? Byddwch yn astudio Bioleg, Cemeg a Ffiseg ar Lefel 3. Byddwch hefyd yn astudo Sgiliau Allweddol mewn Cyfathrebu, Rhifedd a TGCh. Sut caf fy asesu? Cewch eich asesu’n barhaus gyda phrofion diwedd uned. Bydd disgwyl i chi hefyd gynnal ffeiliau’ch cwrs a phortffolio’ch aseiniadau i’r safonau angenrheidiol. Cyfleoedd Gyrfaol a Dilyniant Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch wneud cais am gyrsiau gradd Anrhydedd mewn Addysg Uwch mewn ystod o feysydd Gwyddonol.


Mynediad i Addysg uwch, Dyniaethau Llawn Amser / Rhan Amser | Aberdâr, Pontypridd / Nantgarw 2012 & Rhondda

Braslun o’r Cwrs Mae’r cwrs 1 flwydddyn Llawn Amser neu dwy flynedd rhan amser hwn yn darparu llwybr carlam i mewn i Addysg Uwch ar gyfer myfyrwyr heb gymwysterau ffurfiol. Nod y cwrs yw darparu amgylchedd cefnogol a chyfeillgar i’ch galluogi i ddatblygu’ch potensial ac i’ch paratoi ar gyfer astudio ar lefel Prifysgol, gyda channoedd o gyn-fyfyrwyr yn mynd ymlaen i ennill graddau a dyfarniadau eraill. Gofynion Mynediad Does dim angen cymwysterau academaidd ffurfiol, er dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol bod y cwrs yn gofyn am lefel uchel o ymroddiad a bod mwyafrif safon y gwaith ar lefel 3 (cyfwerth â Lefel A). Yn ychwanegol, cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad. I’r rheiny sy’n ystyried bod angen rhagor o amser arnyn nhw i gyrraedd y safon angenrheidiol ar gyfer gwaith lefel 3, cynigir cyrsiau 1 flwyddyn Mynediad Lefel 2 ar gampws Aberdâr a Phontypridd, cyrsiau a fydd yn paratoi myfyrwyr i symud ymlaen i’r cwrs Mynediad Lefel 3 y flwyddyn ganlynol. Beth fydda i’n astudio? Byddwch yn astudio detholiad o’r pynciau canlynol: Cymdeithaseg, Seicoleg, Y Gyfraith, Hanes a Llenyddiaeth Saesneg, i gyd ar lefel 3. Byddwch hefyd yn astudio unedau Sgiliau Sylfaenol mewn Cyfathrebu, Rhifedd a TGCh. Sut caf fy asesu? Cewch eich asesu’n barhaus drwy ystod o aseiniadau a gwaith prosiect. Bydd disgwyl i chi hefyd gynnal ffeiliau’ch cwrs a phortffolio’ch aseiniadau i’r safonau angenrheidiol.


Beth nawr? Mae gwneud cais am gwrs yng Ngholeg Morgannwg yn syml Mae Tîm ein Gwasanaethau Campws yma i’ch helpu i benderfynu pa gwrs sydd yn iawn i chi. Maen nhw’n cynnig cyngor di-duedd, cyfarwyddyd a chymorth yn ystod yr holl broses gwneud cais. Gallwch wneud cais drwy gydol y flwyddyn, ond cofiwch fod cyrsiau poblogaidd yn llenwi’n gyflym – felly, peidiwch â’i gadael hi’n rhy hir i gofrestru’ch diddordeb. Os oes diddordeb gennych chi mewn unrhyw un o’n cyrsiau, naill ai cwblhewch a chyflwyno’r ffurflen ymholiad cwrs ar ein gwefan https://wst.morgannwg.ac.uk/public/enquiry.aspx ac yna cewch wahoddiad i gwblhau ffurflen gais ar–lein a gaiff ei hanfon atoch neu gallwch ffonio’r campws o’ch dewis (mae’r rhifau ar dudalen 2).

Cymorth Ariannol Ceir ystod o grantiau, cynlluniau bwrsari, cynlluniau benthyciadau a thaliadau sydd ar gael i helpu gyda ffïoedd cwrs. A dibynnu ar eich amgylchaidau personol, gallech fod yn gymwys ar gyfer cymorth ariannol sy’n golygu y gallai’ch cwrs fod yn derbyn cymhorthdal neu hyd yn oed am ddim. Bydd y dolenni isod yn eich helpu i ddeall y costau perthnasol a’r cymorth ariannol sydd ar gael.

Ceir rhagor o wybodaeth ar y gwefannau hyn: http://money.glam.ac.uk/ www.newport.ac.uk www.uhovi.ac.uk www.studentfinancewales.co.uk Neu ffoniwch y campws o’ch dewis, (rhifau ar dudalen 2). Cymorth tra byddwch yn y coleg Mae gan Goleg Morgannwg nifer o wasanaethau i gynorthwyo dysgwyr yn ystod eu hamser yn y coleg gan gynnwys: Gwasanaethau Campws, Cyngor Lles, Gyngor Gyrfaoedd, Senedd y Myfyrwyr (Yr Undeb), Canllaw Ariannol Am ragor o wybodaeth ewch i http://www.morgannwg.ac.uk/stdinf_services.aspx


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.