Mid & North Wales Tours | Teithiau Canolbarth a Gogledd Cymru (2013-14)

Page 1

Mid & North Wales Tours Teithiau Canolbarth a Gogledd Cymru

2013-14


Join us on tour! Ymuno â ni ar daith! The BBC National Orchestra of Wales is on the move again, taking to the road during next season to visit venues throughout Mid and North Wales – with a selection of timeless classics and romantic masterpieces. We know that, whatever your tastes, you’ll find something in our concerts to enjoy. We’re joined by two hotly-tipped young conductors Nicholas Collon and Michael Francis, one of today’s leading cellists, Daniel MuellerSchott and up-and-coming violinist Callum Smart. Do take a few minutes to look through this brochure and we look forward to you joining us for what promises to be another stimulating season.

0800 052 1812

bbc.co.uk/now

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar fynd unwaith eto, ar daith yn ystod y tymor nesaf i roi tro am oedfannau ledled y Canolbarth a’r Gogledd – mae yma ddewis o glasuron bythol a champweithiau rhamantaidd. Felly gwyddom, waeth beth sydd at eich dant chi, y cewch chi rywbeth i gael blas arno yn ein cyngherddau. Daw dau arweinydd ifanc mawr eu clod aton ni, Nicholas Collon a Michael Francis; un o soddgrythorion blaenllaw ein dydd, Daniel Mueller-Schott; a’r ffidler llawn addewid Callum Smart. Cofiwch roi ychydig funudau o’ch amser i fwrw golwg ar y llyfryn yma ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn dod aton ni i’r hyn sy’n addo bod yn dymor symbylol eto.

Thomas Søndergård, Principal Conductor / Prif Arweinydd


Dvořák & Tchaikovsky Friday / Gwener 08.11.2013, 7.30pm Aberystwyth Arts Centre / Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Saturday / Sadwrn 09.11.2013, 7.30pm Neuadd Prichard-Jones Hall, Bangor

Sunday / Sul 10.11.2013, 3pm Venue Cymru, Llandudno

DVOR˘ÁK Cello Concerto / Concerto Soddgrwth TCHAIKOVSKY Symphony No 6 / Symffoni Rhif 6 (Pathétique) Conductor / Arweinydd Michael Francis Cello / Soddgrwth Daniel Müller-Schott Two great tragic romantic masterpieces. Living in America, Dvor˘ák received news of the death of his youthful sweetheart and poured his complex emotions into the heart-tugging melodies of his Cello Concerto. On the other side of the world, Tchaikovsky had recently finished his emotionally raw Pathétique Symphony: the testament of a man at the end of his tether. Dau gampwaith rhamantaidd trasig. Pan oedd yn byw yn America, clywodd Dvor˘ák am farwolaeth cariad ei lasoed ac arllwys ei deimladau cymhleth i alawon calonrwygol ei Concerto Soddgrwth. Ar ochr arall y byd, roedd Tchaikovsky newydd orffen ei Symffoni Pathétique deimladol gignoeth: testament dyn wedi dod i ben ei dennyn.

0800 052 1812

bbc.co.uk/now


Christmas Celebrations Dathlu’r Nadolig Saturday / Sadwrn 21.12.2013, 3pm & 7pm Sir Thomas Picton School, Haverfordwest Ysgol Syr Thomas Picton, Hwlffordd Conductor / Arweinydd Grant Llewellyn Join in the Christmas cheer with festive, orchestral favourites, including Sleigh Ride by Leroy Anderson and ballet music by Tchaikovsky, plus a chance to sing-along! Dewch i ymuno yn hwyl y Nadolig â ffefrynnau cerddorfaol yr wˆyl, gan gynnwys Sleigh Ride gan Leroy Anderson a cherddoriaeth ballet gan Tchaikovsky, heb sôn am gyfle i forio canu!

Family tickets Tocynnau teulu

£12.50 £12.50 for for 11 adult adult and and up up to to 22 children children am am 11 oedolyn oedolyn aa hyd hyd at at 22 oo blant blant

£18 £18 for for 22 adults adults and and up up to to 44 children children am am 22 oedolyn oedolyn aa hyd hyd at at 44 oo blant blant

0800 052 1812

bbc.co.uk/now


Viennese Classics Clasuron Fienna

An Evening of Romance Noson o Ramant

Thursday / Iau 13.02.2014, 7.30pm

Saturday / Sadwrn 15.02.2014, 7.30pm

Aberystwyth Arts Centre / Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Neuadd William Aston Hall, Wrexham / Wrecsam

Friday / Gwener 14.02.2014, 7.30pm

Sunday / Sul 16.02.2014, 3pm

Neuadd Prichard-Jones Hall, Bangor

Venue Cymru, Llandudno

BEETHOVEN Leonore Overture No 1 / Agorawd Leonore Rhif 1 MOZART Violin Concerto No 5 / Concerto Ffidil Rhif 5 SCHUBERT Symphony No 9 / Symphony Rhif 9 Conductor / Arweinydd Nicholas Collon Violin / Ffidil Callum Smart It’s easy to hear why Schubert’s Ninth Symphony is known as the “Great” with its noble themes, inexhaustible energy and romantic warmth. Experience it next to the drama of Beethoven and Mozart’s Turkish inspired Concerto. Yn sgil ei themâu urddasol, ei hegni dihysbydd a’i chynhesrwydd rhamantaidd, hawdd clywed pam yr adwaenir Nawfed Symffoni Schubert fel “Great”. Fe’i clywch ochr yn ochr â drama Beethoven a Concerto Mozart a ysbrydolwyd gan wlad Twrci.

What the Critics Say

Barn y Beirniaid

“Watching Collon, it was easy to see the juxtaposition in Mozart’s music between the quirky and the sublime. With his innovative conducting style, Collon was able to present Mozart both as an exemplary classical composer and as an experimental and energetic young man.”

“Wrth wylio Collon, roedd hi’n hawdd gweld cyfosod y mympwyol a’r arddunol yng ngherddoriaeth Mozart. Yn ei ddull arwain sy’n torri tir newydd, roedd Collon yn gallu cyflwyno Mozart fel cyfansoddwr clasurol o waed coch cyfan ac ar yr un pryd fel dyn ifanc arloesol ac egnïol.”

Bachtrack

Bachtrack

BERLIOZ Love Scene from / Yr Olygfa Garu o Roméo et Juliette BRUCH Violin Concerto No 1 / Concerto Ffidil Rhif 1 RIMSKY-KORSAKOV Scheherazade Conductor / Arweinydd Nicholas Collon Violin / Ffidil Chloë Hanslip Berlioz captured the white heat of young love with an intensity that took music to dizzying new heights in his Roméo et Juliette symphony. Relive its rapture alongside two other great romantic masterworks full of drama and youthful passion. Yn ei symffoni Roméo et Juliette daliodd Berlioz wres gwynias cariad glasoed â dwyster aeth â cherddoriaeth i uchelfannau newydd penfeddwol. Cewch ail-fyw ei pherlewyg ochr yn ochr â dau gampwaith rhamantaidd mawr arall sy’n llawn drama ac angerdd glasoed.

0800 052 1812

bbc.co.uk/now


Festival Appearances O Gwmpas y Gwyliau The Orchestra perform at a number of festivals across Wales throughout the year. Tickets and further information are available from the festival Box Offices. Mae’r Gerddorfa’n perfformio mewn nifer o wyliau ledled Cymru yn ystod y flwyddyn. Mae tocynnau a gwybodaeth ar gael gan Swyddfeydd Tocynnau’r gwyliau.

Thursday / Iau 29.05.2014, 7pm St David’s Cathedral Festival Gw ˆ yl Eglwys Gadeiriol Tyddewi

MESSIAEN L’Ascension MAHLER Symphony No 4 / Symffoni Rhif 4 Conductor / Arweinydd Jac van Steen Soprano Ailish Tynan

Ticket information announced spring 2014 Cyhoeddir yr wybodaeth am docynnau yng ngwanwyn 2014

01437 721890 www.stdavidscathedral.org.uk Our website is regularly updated with details of our festival appearances – visit the concert diary at bbc.co.uk/now or call the Audience Line on 0800 052 1812.

Save Money Arbed Arian Families

Teuluoedd

Join us as a family to save money:

Dewch aton ni fel teulu i arbed arian:

1 adult and up to 2 children £12.50; 2 adults and up to 4 children £18.

1 oedolyn a hyd at 2 o blant £12.50; 2 oedolyn a hyd at 4 o blant £18.

Students

Myfyrwyr

Students with a valid NUS card and under-18s can buy the best available tickets for just £6 each.

Caiff myfyrwyr a chanddyn nhw gerdyn dilys UCM, a phobol ifainc dan 18 oed godi’r tocynnau gorau sydd ar gael am ddim ond £6 yr un.

Concessions

Consesiynau

Discounts are available for disabled patrons, wheelchair users, claimants and over 65s – please ask for details when booking.

Mae disgowntiau ar gael i gyngherddwyr anabl, defnyddwyr cadair olwyn a phobl dros 65 oed – gofynnwch am fanylion pan fyddwch yn codi tocynnau.

Groups

Grwpiau

Come as a group of 10 or more to claim a 15% discount.

Dewch fel grwp o 10 neu mwy i hawlio gostyngiad o 15%.

Book NOW

Codwch Docynnau NAWR

Tickets are available directly from the Orchestra through our dedicated Audience Line on 0800 052 1812. You may also book directly with the venue using the contact details overleaf. Discounts are available for all performances.

Mae tocynnau ar gael yn uniongyrchol gan y Gerddorfa drwy ein Llinell Cynulleidfaoedd un pwrpas ar 0800 052 1812. Gallwch hefyd godi tocynnau’n uniongyrchol gan yr oedfan gan ddefnyddio’r manylion cysylltu drosodd. Mae disgowntiau ar gael i bob perfformiad.

Byddwn yn diweddaru ein gwefan yn rheolaidd i roi gwybod am ein hymddangosiadau mewn gwyliau – ewch i’r dyddiadur cyngherddau yn bbc.co.uk/now neu roi caniad i’r Llinell Cynulleidfaoedd ar 0800 052 1812.

0800 052 1812

bbc.co.uk/now


Venue Information Gwybodaeth am yr Oedfannau Aberystwyth Arts Centre Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth £13-19 01970 623232 aber.ac.uk/artscentre Booking through the venue incurs a £1 postage charge per order. Mae tâl postio o £1 yr archeb am godi tocynnau drwy’r oedfan.

Neuadd Prichard-Jones Hall, Bangor £12.50 01248 382828 pontio.co.uk Booking through the venue incurs a 50p postage charge per order. Mae tâl postio o 50c yr archeb am godi tocynnau drwy’r oedfan.

Neuadd William Aston Hall, Wrexham £9.25-15.50 01978 293293 glyndwr.ticketsolve.com Booking through the venue incurs a £2 booking fee per order and a 60p postage charge per order. Mae tâl codi tocynnau o £2 yr archeb a 60c o dâl postio am bob archeb am godi tocynnau drwy’r oedfan.

Sir Thomas Picton School, Haverfordwest Ysgol Syr Thomas Picton, Hwlffordd £15 0800 052 1812 bbc.co.uk/now

Venue Cymru, Llandudno £11-20 01492 872000 venuecymru.co.uk Booking through the venue incurs a £3 booking fee per order. Mae tâl codi tocynnau o £3 yr archeb am godi tocynnau drwy’r oedfan.

0800 052 1812

bbc.co.uk/now


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.