BBC NOW - Spring / Summer 2024 (Cymraeg)

Page 1

CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

GWAN WY N HAF 2024

AR DAITH AR YR AWYR AR-LEIN

bbc.co.uk/now


BAE’R TRI CHLOGWYN, GŴYR, CYMRU.


CROESO CYNNES GAN EIN CYFARWYDDWR Ymgollwch yn llwyr mewn byd cerddorol hudolus gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC y tymor hwn, ac ymuno â ni am amrywiaeth anhygoel o gerddoriaeth mewn lleoliadau ledled y De, ac ar-lein. Rydyn ni’n falch iawn o barhau i gydweithio â Ryan Bancroft, ein Prif Arweinydd, gan fod ei arweinyddiaeth artistig yn dod ag egni unigryw a hudolus i’n perfformiadau. Ar ben hynny, mae BBC NOW yn edrych ymlaen at groesawu amrywiaeth o unawdwyr ac arweinwyr gwadd adnabyddus i’n llwyfannau dros y misoedd nesaf. Felly, beth sydd ar y gweill ar gyfer y bobl sy’n mwynhau cerddoriaeth ledled Cymru a thu hwnt? Mae ein repetoire y tymor hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o genres cerddorol; gan gynnwys y campweithiau tragwyddol sydd wedi siapio ein treftadaeth ddiwylliannol a cherddorfaol, creadigaethau arloesol a bywiog gan artistiaid cyfoes, concerti i offerynnau taro, a chyfuniad o gerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth werin. Peidiwch â cholli ein dathliad Dydd Gŵyl Dewi yn Abertawe! Cyfle i fwynhau’r perfformiad cyntaf yn y DU o goncerto Syr Karl Jenkins i’r sacsoffon i ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed, ochr yn ochr â pherfformiad o’i waith hudolus ‘Dewi Sant’, perl cerddorol prin gan William Mathias, a chadwyn o’ch hoff alawon Cymreig. Bydd y chwaraewr sacsoffon talentog, Jess Gillam, yn rhannu’r llwyfan â’r hyfryd Nil Venditti fel rhan o’n dathliadau ar ein diwrnod cenedlaethol.

Rydyn ni’n ymweld â Glan yr Afon yng Nghasnewydd fis Mai i ddathlu cerddoriaeth Americanaidd gyda Ryan Bancroft, a aned yn Los Angeles, a’r feiolinydd carismatig, Ben Baker. I deuluoedd, dewch draw i ddigwyddiad CBeebies arbennig: cyngerdd Antur y Cefnforoedd yn Abertawe fis Mehefin, lle byddwn yn teithio’n ddwfn o dan y tonnau gyda ffrindiau CBeebies JoJo a Gran Gran. Fis Gorffennaf, gall teuluoedd hefyd fwynhau’r perfformiad cyntaf yn y DU o ‘Yr ynys lle nad yw byth rhy hwyr’, wedi’i adrodd gan Elin Llwyd. Y tu hwnt i’r llwyfan, rydyn ni wedi ymrwymo i gyflwyno mentrau newydd a chyffrous ar gyfer pobl ifanc a chymunedau yng Nghymru. Drwy gynnwys digidol arloesol, gan gynnwys cyngherddau sy’n cael eu ffrydio’n fyw o’n cartref yn Neuadd Hoddinott y BBC, ein nod yw sicrhau bod pawb yng Nghymru yn teimlo eu bod yn rhan o’n stori gerddorol. Mae ein holl waith yn seiliedig ar bartneriaethau cryf sy’n ein hysbrydoli, yn ein herio, ac yn ein galluogi i gyflawni cenhadaeth graidd y BBC – sef darparu gwybodaeth, addysg ac adloniant. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at eich croesawu chi i’n perfformiadau yn ystod y tymor. Dymuniadau gorau

Lisa Tregale Director


HELO A CHROESO I DYMOR CYNGHERDDAU GWANWYN A HAF 2024 YNG NGHAERDYDD AC ABERTAWE Mae cyfle i glywed hyfrydwch cerddorol dros y misoedd nesaf, gan ddechrau gyda phrif arweinydd BBC NOW, Ryan Bancroft, yn arwain 13eg Symffoni ‘Babi Yar’ Shostakovich ochr yn ochr â Choncerto Cyntaf Beethoven i’r Piano gyda’r rhyfeddol Jonathan Biss. Bydd yr Arweinydd o Japan, Nodoka Okisawa, yn ymuno â ni ar gyfer ein cyngerdd Folk Fusions, lle mae alawon gwerin o Japan ac Ewrop yn gwrthdaro, gan gynnwys cerddoriaeth gan Tōru Takemitsu, Kikuko Kanai ac 2il goncerto gwych Franz Liszt i’r piano, a berfformir gan y ffantastig Iyad Sughayer. Ym mis Mawrth, bydd Martyn Brabbins yn dychwelyd i’r podiwm ynghyd â’r fiolinydd arobryn, Liya Petrova, a bydd ein harweinydd poblogaidd, Tadaaki Otaka, yn dychwelyd ym mis Ebrill gyda rhaglen o gerddoriaeth gan Grace Williams, Mathias ac Elgar. Bydd Harry Bicket yn dychwelyd at y gerddorfa a’r corws gyda’n harlwy o gerddoriaeth hyfryd ar gyfer y Pasg sy’n cynnwys Ich habe genug gan Bach a gwaith Vaughan Williams, Five Mystical Songs. Byddwn hefyd yn croesawu Sofi Jeannin yn ôl i’n tywys drwy berfformiad cyntaf y byd o ddau ddarn o waith, sef Sounds of Stardust gan Alexander Campkin a’r Concerto i Offerynnau Taro gan Dani Howard ar gyfer cerddor eithriadol, y Fonesig Evelyn Glennie.

Byddwn yn cyflwyno première byd arall, gyda Joana Carneiro wrth y llyw, sef The Celestial Stranger gan Stephen McNeff, cyn i ni ymgolli yng ngwaith disglair Schoenberg, Verklärte Nacht (Y Nos wedi’i Gweddnewid) – y gwaith a arweiniodd at wawr newydd o ymwybyddiaeth donyddol. Ym mis Mai, ymunwch â ni ar gyfer archwiliad parhaus Ryan Bancroft o gerddoriaeth Charles Ives gyda’i Ail Symffoni, ynghyd â gweithiau gan Samuel Barber – y Concerto i’r Ffidil, a fydd yn cael ei berfformio gan Benjamin Baker, a’i waith mwyaf poblogaidd, mae’n debyg, sef yr Adagio ar gyfer Llinynnau. Ym mis Mehefin, bydd Ryan yn cloi’r prif dymor yn arwain y Concerto i’r Soddgrwth gan Dvořák, a fydd yn cael ei berfformio gan Alisa Weilerstein a’i doniau cyfareddol, yn ogystal â’r Negro Folk Symphony, darn llawn ysbryd gan William Dawson. Mae’n anrhydedd ac yn bleser di-ben-draw i weithio ochr yn ochr â cherddorion mor dalentog a staff mor ymroddedig i ddod â’r arlwy cerddorol ehangaf bosib i chi. Mae rhywbeth i bawb y tymor hwn, ac alla i ddim aros i’w rannu â chi. Matthew Wood Pennaeth Cynllunio a Chynhyrchu Artistig (Uwch Gynhyrchydd)


SHOSTAKOVICH 13 GYDA RYAN BANCROFT O’i gymal agoriadol beiddgar i’w ddiweddglo hynod a chwareus, mae Concerto Rhif 1 Beethoven i’r Piano yn un o weithiau mwyaf mawreddog a herfeiddiol ei genhedlaeth. Cafodd ei berfformio gyntaf yn 1798 gan Beethoven ei hun. Ni wyddwn lawer am ei wreiddiau hyd heddiw, ond rydyn ni yn gwybod mai ei ail goncerto oedd hwn mewn gwirionedd, ond ei fod wedi’i gyhoeddi gyntaf, ac felly cafodd ei alw’n Goncerto Rhif 1. Er bod Shostakovich yn aml yn pechu’r Sofietiaid ac yn cael ei ddiarddel am ei arddangosiadau amlwg o hunanfynegiant ac am ei ddewis o ysbrydoliaeth lenyddol, llwyddodd i dawelu’r dyfroedd gyda Symffonïau dieiriau 11 a 12; ond trodd y drol unwaith eto gyda’r ysbrydoliaeth a sbardunodd naratif ei 13eg Symffoni. Mae trydedd symffoni ar ddeg Shostakovich, y cyfeirir ati’n aml yn ôl ei llysenw, Babi Yar, yn ddarn theatrig a throsgynnol, sy’n llawn hiwmor chwerw ac sy’n cynnwys gosodiadau i eiriau o waith Yevtushenko yn portreadu erchyllterau Ymgyrch Barbarossa yn erbyn yr Iddewon yn Rwsia, a’r hyn yr oedd Khrushchev yn ei wrthwynebu oedd yr islais gwrth-Semitaidd a’r ffaith nad oedd y testun yn cyfeirio at y miloedd o bobl nad oeddent yn Iddewon a gafodd eu taflu yn y ceunant. Bron iddo ganslo’r première a gwaharddodd unrhyw adolygiadau gan y wasg. Ni chafodd ei chlywed am dros 20 mlynedd ond tua diwedd yr 20fed ganrif daeth yn fwy poblogaidd eto. Nid yw hyn yn syndod o gofio dyfeisgarwch a chywreinrwydd cerddoriaeth Shostakovich, gyda’i chyferbyniadau llym, ei ffraethineb craff a’i chanolbwynt cyweiraidd amwys, wedi’i chyfuno â naws glasurol gynnil a hiraeth rhamantus.

RADICAL DRAMATIG BYWIOG

NOS SADWRN 10/2/24 7.30PM Neuadd Brangwyn, Abertawe DYDD SUL 11/2/24 3PM Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

BEETHOVEN Concerto i’r Piano Rhif 1 SHOSTAKOVICH Symffoni Rhif 13 – RYAN BANCROFT Arweinydd JONATHAN BISS Piano JAMES PLATT Bass CORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC


CYFUNIADAU GWERINOL – JAPAN A DWYR AIN EWROP Mewn rhaglen sydd wedi ei hysbrydoli gan gerddoriaeth werin, rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r arweinydd o Japan, Nodoka Okisawa, i’r podiwm. Daw arddulliau jazz a blues wyneb yn wyneb â cherddoriaeth angladdol a waltz anarferol o bruddglwyfus ond siriol yng ngwaith cerddor arall o Japan, 3 Film Scores gan To-ru Takemitsu. Gan ddatblygu ei llais cyfansoddi unigryw ei hun, Kikuko Kanai oedd un o’r merched cyntaf yn Japan i gyfansoddi cerddoriaeth glasurol Gorllewinol, gan gadw ei threftadaeth gerddorol o Okinawa. A hithau’n ymroddedig i drawsgrifio caneuon gwerin, defnyddiodd y rhain fel sail ar gyfer ei gweithiau ei hun, gan gynnwys ei Chyfres Ffantasi Okinawa. Yn enwog yn yr un modd am ddefnyddio cerddoriaeth werin frodorol yn ei weithiau, roedd Franz Liszt nid yn unig yn gyfansoddwr dylanwadol, ond hefyd yn bianydd cyngerdd penigamp, felly does dim rhyfedd bod ei goncertos i’r piano ymysg ei ddarnau a berfformir amlaf heddiw. Gyda rhamantiaeth hynod, alawon trawsnewidiol a cadenzas tanllyd, daw ei ail goncerto yn fyw dan ofal y pianydd Jordanaidd-Palestinaidd sydd wedi ennill sawl gwobr, Iyad Sughayer. Mae plwc cynhenid Tsiecaidd, teitlau rhaglennol ffansi a’i gariad at faledau gwerin Karel Erben yn disgleirio yn The Wood Dove Dvořák, gyda’i offeryniaeth ddramatig ac atgofus yn troi’n alawon trawsnewidiol. Daw’r goleuni i gwrdd â’r cysgodion, galar i gwrdd â chariad, a darnau corawl i gwrdd â dawnsfeydd – yn syml iawn, adrodd straeon symffonig ar ei orau.

TRAWIADOL CLODFORUS YSBRYDOLEDIG

NOS SADWRN 24/2/24 7.30PM Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

TAKEMITSU 3 Film Scores KIKUKO KANAI Okinawa Fantasy Suite [Premiere DU] LISZT Concerto i’r Piano Rhif 2 DVOŘÁK The Wood Dove – NODOKA OKISAWA Arweinydd IYAD SUGHAYER Piano


CASTELL SHURI, OKINAWA, JAPAN. MACHLUD HAUL.


STR AVAGANZA DYDD GŴYL DEWI Pa ffordd well o ddathlu Dydd Gŵyl Dewi na thrwy gerddoriaeth gan gyfansoddwyr eiconig o Gymru, a berfformir gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC?

NOS IAU 29/2/23, 7.30PM Neuadd Brangwyn, Abertawe

Rydyn ni’n dathlu 90 mlynedd ers genedigaeth William Mathias, drwy berfformio ei gyfansoddiad Holiday Overture. Ysgrifennwyd yr agorawd hon ym 1971 yn arbennig ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yna, symudwn ymlaen at Karl Jenkins gyda pherfformiad cyntaf yn y DU o’i goncerto i’r sacsoffon, Stravaganza. Cyfansoddwyd y concerto hwn ar gyfer yr amryddawn Jess Gillam, sef yr unawdydd sy’n perfformio heno. Ni fyddai’n Ddydd Gŵyl Dewi heb ganu, felly mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn camu i’r llwyfan i berfformio caneuon o waith Jenkins, sef Dewi Sant, yn ogystal â chadwyn o’ch hoff alawon Cymreig.

WILLIAM MATHIAS Holiday Overture KARL JENKINS Stravaganza [Premiere y DU] KARL JENKINS Dewi Sant JEFF HOWARD A Welsh Celebration GRACE WILLIAMS Fanfare and Hen Wlad Fy Nhadau – NIL VENDITTI Arweinydd JESS GILLAM Sacsoffon CORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC CÔR CENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU

YSGOGOL DATHLIADOL BYWIOG

BWTHYN YNG NGHEFN GWLAD, CYMRU. TIWLIPAU PINC A CHENNIN PEDR MELYN MEWN GWELY BLODAU YN Y GWANWYN.



R ACHMANINOV 2 GYDA MARTYN BR ABBINS Mae Grace Williams yn rhoi cipolwg cynnar ar y gerddoriaeth hynod neilltuol y byddai hi’n ei chyfansoddi yn nes ymlaen yn ei bywyd gyda darn agoriadol cyngerdd heno, ei cherddoriaeth i’r llinynnau, yr Elegy. O’r Praeludium dramatig i’r Adagio synfyfyriol, mae Concerto Nielsen i’r Ffidil yn daith gyffrous drwy harmoni, ystum a naws, ac mae’n bleser gennym groesawu enillydd Cystadleuaeth Ffidil Nielsen 2016, y fiolinydd medrus o Fwlgaria, Liya Petrova, fel unawdydd. Mae Ail Symffoni Rachmaninov yn un o’i weithiau enwocaf, ac nid yw’n fawr o syndod pam! Disgleirdeb deinamig, gorfoledd persain a harddwch hudolus sydd yn y darn hynod emosiynol hwn o gerddoriaeth. I arwain, rydym yn estyn croeso yn ôl i un o ffefrynnau BBC NOW, Martyn Brabbins.

NOS WENER 8/3/24 7.30PM Neuadd Brangwyn, Abertawe NOS SADWRN 9/3/24 7.30PM Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

GRACE WILLIAMS Elegy for Strings NIELSEN Concerto i’r Ffidil RACHMANINOV Symffoni Rhif 2 – MARTYN BRABBINS Arweinydd LIYA PETROVA Ffidil

CELFYDD SONIARUS GWEFREIDDIOL


YR HAUL YN CODI DROS GYLCH MEINI YNG NGOGLEDD CYMRU.


BOED I’R HOLL FYD GANU YM MHOB CWR Mae ysbryd y Pasg, er ei fod yn gynnil, yn treiddio drwy’r cyngerdd hwn, gyda Harry Bicket yn dychwelyd i arwain Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC. Y cyfansoddwr o Frasil, José Maurício Nunes Garcia, fydd yn dechrau’r noson gyda’i Agorawd Zemira, ac mae’r bariton anhygoel, Julien Van Mellatens, yn perfformio Ich habe genug gan Bach. Mae’r gwaith hwn yn gwbl addas ar gyfer unrhyw gyngerdd y Pasg, gyda thestun sy’n adrodd hanes puro Mair ac yn cyhoeddi ei hawydd i ddianc rhag trallod y ddaear yn ôl at Iesu. Nid oes llawer yn gwybod mai ar gyfer y Pasg y cafodd Symffoni Rhif 26 Haydn ei hysgrifennu, er pan edrychwn yn ddyfnach ar y gerddoriaeth, mae llawer o awgrymiadau amlwg. Cafodd ei hysgrifennu mewn Sturm und drang (storm a straen) nodweddiadol, mae’r awyrgylch dymhestlog a’r cywair lleiaf yn sail i ddyfyniadau o ganeuon plaen Passontide, sy’n fwy perthnasol i eglwys na’r neuadd gyngerdd. Hefyd ar gyfer y Pasg, ysgrifennwyd Five Mystical Songs gan Vaughan Williams, sy’n gosod pedwar testun o ‘The Temple: Sacred Poems’ gan y bardd a’r offeiriad o Gymru, George Herbert. Yn ysbrydol ac yn uniongyrchol wrth gyflwyno, mae’r pum symudiad yn cyferbynnu o ddistaw a myfyriol i weiddi o ganmoliaeth fuddugoliaethus.

GOGONEDDUS YSBRYDOL SWYNGYFAREDDOL

NOS WENER 22/3/24 7.30PM Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

GARCIA Agorawd Zemira J.S. BACH Ich habe genug HAYDN Symffoni Rhif 26 ‘Lamentazione’ VAUGHAN WILLIAMS Five Mystical Songs – HARRY BICKET Arweinydd JULIEN VAN MELLAERTS Bariton CORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC


PIER Y MWMBWLS, Y MWMBWLS, PENRHYN GŴYR.


CWM BYCHAN NEAR BEDDGELERT, SNOWDONIA NATIONAL PARK. A SMALL MOUNTAIN STREAM FLOWS THROUGH THE ROCKS, HEATHER AND GORSE.


ENIGMA VARIATIONS Er bod Grace Williams wedi ysgrifennu ei morlun cerddorol hudolus, Sea Sketches, yn Llundain, cafodd y gwaith ei ysbrydoli gan hiraeth am y môr yn y Barri. Mae Cymreictod pendant hefyd yn perthyn i Goncerto William Mathias i’r Delyn; gyda’r delyn yn cael ei chyflwyno i’r gynulleidfa fel offeryn cyfeiliant, gan adlewyrchu ei rôl draddodiadol yng ngherddoriaeth Cymru, cyn symud i safle mwy unawdol, a dyfynnu’r gân Gymreig Dadl Dau yn ei symudiad clo. I berfformio, rydyn ni’n falch iawn o groesawu Catrin Finch, telynores ffantastig o Gymru ac wyneb cyfarwydd iawn i BBC NOW. Gan daro cydbwysedd rhwng yr ysgafn a’r uchelwrol, mae Enigma Variations gan Elgar yn gasgliad dyfeisgar o frasluniau cerddorol o’i ffrindiau a hunanbortread astrus – enigma wedi’i guddio o fewn y sgôr wrth i bob amrywiad gael ei dagio gyda llythrennau cyntaf llysenwau’r ffrindiau. I arwain rydyn ni’n falch iawn o gael estyn croeso unwaith eto i’r Arweinydd Llawryfog annwyl Tadaaki Otaka.

DARLUNIADOL DIGAMSYNIOL CAIN

NOS IAU 11/4/24 7.30PM Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd NOS WENER 12/4/24 7.30PM Neaudd Brangwyn, Abertawe

GRACE WILLIAMS Sea Sketches MATHIAS Concerto for Harp ELGAR Enigma Variations – TADAAKI OTAKA Aweinydd CATRIN FINCH Telyn


PONT WERDD CYMRU, SIR BENFRO. CODIAD HAUL GER Y BWA A’R PILERI CREIGIOG NATURIOL AR ARFORDIR Y DE-ORLLEWIN.


LLWCH SÊR AC ENEIDIAU Gyda dau berfformiad cyntaf y byd ac un o berlau’r repertoire corawl, mae’n bleser gennym groesawu’r arweinydd dihafal Sofi Jeannin yn ôl ochr yn ochr â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, y Fonesig Evelyn Glennie ac enillydd Gwobr Cynulleidfa Canwr y Byd Caerdydd, Julieth Lozano Rolong, am noson o archwilio a darganfod cerddorol. Ond yn gyntaf, premiere byd gan Alexander Campkin a’i Sounds of Stardust. Bydd y Fonesig Evelyn Glennie, yr offerynnwr taro o fri, yn camu i’r llwyfan i berfformio concerto newydd Dani Howard i offerynnau taro am y tro cyntaf, cyn i ni ddathlu campwaith lleisiol Poulenc 60 mlynedd ar ôl ei farwolaeth. Wedi’i ysgrifennu mewn ymateb i farwolaeth ei gyfaill agos, yr artist Christian Bérard, mae Stabat Mater yn cwmpasu’r tywyll a’r golau – cynrychiolaeth wirioneddol o’i Gatholigiaeth ddidwyll, ond hefyd ei ffraethineb a’i gymeriad bywiog.

NOS IAU 18/4/24 7.30PM Neuadd Hoddinott y BBC Caerdydd

ALEXANDER CAMPKIN Sounds of Stardust [Premiere Byd] DANI HOWARD Percussion Concerto: The Wizard of Menlo Park [Premiere Byd] POULENC Stabat Mater – SOFI JEANNIN Arweinydd DAME EVELYN GLENNIE Offerynnau taro JULIETH LOZANO ROLONG Soprano CORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

ARALLFYDOL ATMOSFFERIG DIRGEL


ARCHWILIADAU AMERICANAIDD Ymunwch â ni i ddathlu cerddoriaeth glasurol Americanaidd gyda’n Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, a aned yn Los Angeles fis Mai eleni! Mae Adagio for Strings Barber, sy’n boblogaidd ledled y byd, yn un o’r darnau mwyaf nodedig yn y repertoire cerddorfaol a dyma’i waith enwocaf mae’n siŵr – caiff ei ddefnyddio mewn ffilm a theledu, ac mae’n deimladwy am iddo gael ei berfformio yn angladd Roosevelt ac yn dilyn llofruddiaeth JFK, rydych chi’n siŵr o fod wedi clywed y darn eiconig hwn!

NOS WENER 3/5/24 7.30PM Glan yr Afon, Casnewydd

Mae ei goncerto i’r ffidil yn llai adnabyddus, ond yr un mor drawiadol. Ysgrifennwyd yn y 1930au pan oedd digyweiredd yn chwilio am sylw, a chafodd yr alaw draddodiadol, y rhythm, yr harmoni a’r offeryniaeth o gerddoriaeth Barber ei pherfformio gyda mwy na brwdfrydedd ysgafn. Mae themâu gorfoleddus a thymherus weithiau’n dominyddu, gyda naws yr orient, gwerin a chaledni Rwsiaidd; mae cydamseriad a gwrthrhythmau arbennig yn sbarduno naratif cyffrous ac mae meistrolaeth yn drech ar bob tro. I berfformio’r unawd, rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r fiolinydd carismataidd, Ben Baker.

BARBER Violin Concerto

Rydym yn parhau i archwilio cerddoriaeth Charles Ives gyda Ryan Bancroft, gyda’i Ail Symffoni. Yn enwog am ddyfynnu alawon enwog America, y symffoni hon yw ei waith pwysig cyntaf sy’n archwilio’r benthyca hwn yn llawn, wedi’i gyfuno â dylanwadau Ewropeaidd – cipolwg ar ddod â’i blentyndod a’i fywyd fel oedolyn at ei gilydd.

EMOSIYNOL DYLANWADOL SYFRDANOL

NOS SADWRN 4/5/24 7.30PM Neuadd Hoddinott y BBC Caerdydd

BARBER Adagio for Strings

IVES Symphony No. 2 – RYAN BANCROFT Arweinydd BEN BAKER Ffidil


PONT GLUDO, CASNEWYDD. MACHLUD HAUL Y TU ÔL I’R BONT HANESYDDOL A ADEILADWYD YM 1906 ER MWYN CROESI AFON WYSG.


BAE CAERFAI, SIR BENFRO. EITHIN AR LWYBR ARFORDIR SIR BENFRO AR HYD Y BAE.


CONCERTO I GERDDORFA GAN BARTÓK Dyma’r tro cyntaf i waith Caroline Shaw, The Observatory, gael ei berfformio yn y DU. Gyda’i gyfuniad o ddryswch ac eglurder, blaendir a chefndir, yr ysbrydoliaeth ar gyfer y darn oedd ymweliad ag Arsyllfa Griffin ger Hollywood Bowl. Ynddo, mae’n archwilio ffyrdd newydd o edrych ar y bydysawd, gan asio’r hen a’r newydd mewn llif ymwybod nad yw byth yn dod i ben yn yr union le y dechreuodd. Bydd concerto eiconig Ravel i’r piano, sy’n gyforiog o gyferbyniadau telynegol, alawon sionc a llinellau cymhleth cyfoethog i’r piano, yn cael ei berfformio gan y pianydd heb ei ail, Sergio Tiempo, wrth iddo ymddangos am y tro cyntaf gyda BBC NOW. Dathliad pur o gerddoriaeth a lliwiau offerynnau, I gloi’r rhaglen syfrdanol hon, cawn berfformiad o Goncerto Bartok i Gerddorfa, gyda’i adleisiau o gerddoriaeth werin, dan arweiniad Giancarlo Guerrero, yr arweinydd o Costa Rica sydd wedi ennill Gwobr Grammy.

LLIWGAR DEINAMIG GAFAELGAR

NOS IAU 9/5/24 7.30PM Neuadd Hoddinott y BBC Caerdydd NOS WENER 10/5/24 7.30PM Neuadd Brangwyn, Abertawe

CAROLINE SHAW The Observatory [Premiere DU] RAVEL Concerto i’r Piano yn G BARTÓK Concerto i Gerddorfa – GIANCARLO GUERRERO Arweinydd SERGIO TIEMPO Piano


PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG, POWYS.

YCHYDIG O GANU NOSWEITHIOL Mae goleuadau nefolaidd, pefriol yn disgleirio yn y noson hon o gerddoriaeth arloesol. Mae cyfres Fauré o Pelléas et Mélisande yn agor mewn arddull sionc ond cythryblus – Lleoliad cerddorol cyntaf drama Maurice Maeterlinck o’r un enw, a fyddai’n ysbrydoli cyfansoddwyr enwog eraill fel Debussy, Sibelius a Schoenberg. Rydyn ni’n symud i uchelfannau mwy etheraidd gyda’r perfformiad cyntaf erioed o The Celestial Stranger gan Stephen McNeff; ac yna, 150 mlynedd ers geni Schoenberg, rydym yn dathlu’r cyfansoddwr radical hwn gyda pherfformiad o waith a newidiodd gwrs yr hanes cerddorol rydyn ni’n gyfarwydd ag ef – gyda symudiad chwyldroadol mewn tonyddiaeth a’r dadansoddiad o’r system draddodiadol donyddol, sef Verklärte Nacht, yn taflu ei enw allan i’r byd ac yn nodi dechrau ei daith fel y crëwr cerddoriaeth dodecaffonig, sy’n fwy adnabyddus fel cyfresiaeth. I arwain BBC NOW am y tro cyntaf, rydyn ni’n croesawu’r arweinydd hyfryd o Bortiwgal, Joana Carniero.

CHWYLDROADOL ANGERDDOL GOLEUOL

NOS IAU 16/5/24 7.30PM Neuadd Hoddinott y BBC Caerdydd

FAURÉ Cyfres Pelléas et Mélisande STEPHEN MCNEFF The Celestial Stranger [Premiere Byd] SCHOENBERG Verklärte Nacht (fersiwn 1943) – JOANA CARNEIRO Arweinydd GAVAN RING Tenor


ANTUR Y CEFNFOROEDD GYDA CHERDDORFA GENEDLAETHOL GYMREIG Y BBC Ymunwch ag antur gerddorol arforol llawn hwyl CBeebies i’r teulu i gyd! Cymerwch anadl ddofn a phlymio o dan y dŵr yn llong danfor y neuadd gyngerdd gyda’i chriw cerddorol, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae ffrindiau CBeebies, JoJo a Gran Gran ar fwrdd y llong danfor gyda chynllun Gran Gran, ac mae llong danfor saffari Andy yn barod i fynd. Ymunwch â’r criw i chwilio am greaduriaid sydd mewn perygl, darganfod ffeithiau diddorol, a chasglu synau a lluniau ar gyfer eich llyfr lloffion o’r môr. Digwyddiad aml-gyfrwng hudolus sy’n cynnwys alawon thema CBeebies, danteithion cerddorfaol, ffilm ac animeiddiad byw gydag ambell syrpreis ar hyd y ffordd.

TEULUOL HWYLIOG RHYNGWEITHIOL

DYDD SADWRN 1/6/24 3PM Arena Abertawe

KARIN HENDRICKSON Arweinydd


ADEILAD CANOLFAN MILENIWM CAERDYDD, NEUADD HODDINOTT AC ADEILAD Y PIERHEAD, BAE CAERDYDD.


CYNGERDD CLOI’R TYMOR Mae Alisa Weilerstein, y chwaraewr soddgrwth bydenwog, yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yng nghyngerdd olaf y tymor ar gyfer un o’r concerti i’r soddgrwth uchaf ei barch. Wrth i Dvořák ail-fyw ei fywyd llawn mwynhad ond hefyd yn llawn colled, disgleiria arbenigedd alawol, egni bywiog a chariad at gerddoriaeth gwerin ei famwlad yn ei goncerto soddgrwth rhagorol. Yn yr un modd, mae dyfeisiadau cerddorol greddfol, offeryniaeth gyfoethog, ac archwiliad o’r gadeirlan “fel drws symbolaidd i mewn ac allan o’r byd hwn” yn llwyfan ar gyfer awyrgylch breuddwydiol, synfyfyriol, arallfydol. Mae hyn yn ymledu drwy waith medrus Higdon o daith sonig drwy ofod cysegredig ac i fyny i’r nefoedd – Blue Cathedral.

NOS IAU 6/6/247.30PM Neuadd Hoddinott y BBC Caerdydd

Dychmygwch hyn – Tachwedd 1934, yn Neuadd Carnegie a symffoni newydd sbon yn cael ei chyflwyno, gan dderbyn cymeradwyaeth frwd a llawer o bobl yn moesymgrymu i’r cyfansoddwr diymhongar. Y cyfansoddwr hwnnw oedd William Dawson, Americanwr Affricanaidd 35 oed, a oedd wedi ffoi o’i gartref yn 13 oed er mwyn gwireddu ei freuddwyd o astudio cerddoriaeth; a’r darn oedd... y Negro Folk Symphony. Dechreuodd Dawson gyfansoddi cerddoriaeth synhwyrus a gonest a oedd “yn sicr ddim yn waith gan ddyn gwyn” a chafodd ei ysbrydoli gan “gerddoriaeth werin negroaidd” pan oedd yn blentyn bach. Mae’r symffoni hon, sydd wedi’i llunio’n fedrus ac yn llawn emosiwn, yn athrylith pur, a phwy well i arwain y diweddglo cyffrous hwn i’r tymor na’n Prif Arweinydd, Ryan Bancroft.

-

YSBRYDOLEDIG EICONIG AMRYWIOL

NOS WENER 7/6/24 7.30PM Neuadd Brangwyn, Abertawe

DVOŘÁK Concerto i’r Soddgrwth JENNIFER HIGDON Blue Cathedral DAWSON Negro Folk Symphony RYAN BANCROFT Arweinydd ALISA WEILERSTEIN Soddgrwth


CYNNAL Y DYDDIAD AR GYFER CYNGERDD Y TEULU BBC NOW!

THE ISLAND OF NEVER TOO LATE DYDD SUL 28/7/24 3PM Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

SARAH LIANNE LEWIS The Island of Never too Late – GRANT LLEWELLYN Arweinydd ELIN LLWYD Adroddwr JULIE DOYLE Cyfieithydd BSL


HOW TO BOOK NEUADD HODDINOTT Y BBC Lefel 2, Canolfan Mileniwm Cymru Plas Bute, Caerdydd, CF10 5AL Tocynnau: 02920 878444 wmc.org.uk NEUADD BRANGWYN The Guildhall, Abertawe, SA1 4PE Tocynnau: 01792 475715 brangwyn.co.uk

Dysgwch ragor am Gerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn bbc.co.uk/now neu drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol: Twitter: @BBCNOW @BBCNOWCYMRAEG Facebook: Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC Instagram: @_bbcnow

GLAN YR AFON, CASNEWYDD Ffordd y Brenin, Casnewydd, NP20 1HG Tocynnau: 01633 656757 newportlive.co.uk ARENA ABERTAWE Oystermouth Road, Maritime Quarter, Copr Bay, Abertawe, SA1 3BX Tocynnau: 01792 804770 swansea-arena.co.uk

Cofiwch ein dilyn i gael yr holl newyddion a chynnwys diweddaraf am BBC NOW, ac rydyn ni bob amser yn falch o glywed gennych chi, felly cofiwch gysylltu drwy unrhyw un o’r uchod, neu drwy anfon e-bost atom yn now@bbc.co.uk

Copi: Amy Campbell-Nichols Dylunio: Graffeg BBC Cymru Ffotograffiaeth: Yusef Bastawy, James Fear a Kirsten McTernan



BBC NATIONAL ORCHESTRA AND CHORUS OF WALES CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC


TUDALEN GYNNWYS

bbc.co.uk/now

DYDDIAD

CYNGERDD TEITL

NAWS

10/2/24

Shostakovich 13 gyda Ryan Bancroft

Radical, dramatig, bywiog

24/2/24

Cyfuniadau Gwerinol – Japan a Dwyrain Ewrop

Trawiadol, clodforus, ysbrydoledig

NHC

29/2/24

Stravaganza Dydd Gŵyl Dewi

Sgogol, dathliadol, bywiog

NBA

8/3/24 9/3/24

Rachmaninov 2 gyda Martyn Brabbins

Celfydd, soniarus, gwefreiddiol

22/3/24

Boed i’r Holl Fyd Ganu ym mhob Cwr

Gogoneddus, ysbrydol, swyngyfareddol

Enigma Variations

Darluniadol, digamsyniol, cain

Llwch Sêr ac Eneidiau

Arallfydol, atmosfferig, dirgel

Archwiliadau Americanaidd

Emosiynol, dylanwadol, syfrdanol

GA

Concerto i Gerddorf a Gan Bartók

Lliwgar, deinamig, gafaelgar

NHC

16/5/24

Ychydig o Ganu Nosweithiol

Chwyldroadol, angerddol, goleuol

NHC

1/6/24

Antur y Cefnforoedd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Teuluol, hwyliog, rhyngweithiol

AA

Cyngerdd Cloi’r Tymor

Ysbrydoledig, eiconig, amrywiol

11/2/24

11/4/24 12/4/24 18/4/24 3/5/24 4/5/24 9/5/24 10/5/24

6/6/24 7/6/24

LLEOLIAD

NBA NHC

NBA NHC NHC NHC NBA NHC

NHC

NBA

NHC NBA

NHC

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

GA

Glan yr Afon, Casnewydd

NBA

Neuadd Brangwyn, Abertawe

AA

Arena Abertawe


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.