BBC NOW - SEASON BROCHURE 2023/24 - CYMRAEG

Page 1

CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

TYMOR 23-24

SUT I ARCHEBU

Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth, Campws Penglais

Aberystwyth SY23 3DE

Tocynnau: 01970 623232

aberystwythartscentre.co.uk

Glan yr Afon, Casnewydd

Ffordd y Brenin, Casnewydd, NP20 1HG

Tocynnau: 01633 656757

newportlive.co.uk

Neuadd Brangwyn

The Guildhall, Abertawe, SA1 4PE

Tocynnau: 01792 475715

brangwyn.co.uk

Neuadd Dewi Sant

Yr Aes, Caerdydd, CF10 1AH

Tocynnau: 02920 878444

stdavidshallcardiff.co.uk

Neuadd Hoddinott y BBC

Lefel 2, Canolfan Mileniwm Cymru

Plas Bute, Caerdydd, CF10 5AL

Tocynnau: 02920 878444

stdavidshallcardiff.co.uk

Neuadd Prichard-Jones, Bangor

56 Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2AP

Tocynnau: 01248 351151

pontio.co.uk

Pontio, Bangor

Prifysgol Bangor, Pontio

Ffordd Deiniol, Bangor LL57 2TQ

Tocynnau: 01248 382828

pontio.co.uk

Theatr Brycheiniog

Canal Wharf, Aberhonddu, LD3 7EW

Tocynnau: 01874 611622

brycheiniog.co.uk

Theatr Hafren, Y Drenewydd

Heol Llanidloes, Y Drenewydd, Powys, SY16 4HU

Tocynnau: 01686 948100

thehafren.co.uk

Dysgwch ragor am Gerddorfa a Chorws Cenedlaethol

Cymreig y BBC yn bbc.co.uk/now neu drwy ein sianeli

cyfryngau cymdeithasol:

Twitter: @BBCNOW @BBCNOWCYMRAEG

Facebook: Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Instagram: @_bbcnow – –

Cofiwch ein dilyn i gael yr holl newyddion a chynnwys

diweddaraf am BBC NOW, ac rydyn ni bob amser yn falch o glywed gennych chi, felly cofiwch gysylltu drwy unrhyw un o’r uchod, neu drwy anfon e-bost atom yn now@bbc.co.uk – –

Ffotograffiaeth: Yusef Bastawy, James Fear

a Kirsten McTernan

Dylunio: Graffeg BBC Cymru

Copi: Amy Campbell

TUDALEN 4 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

CROESO CYNNES GAN

EIN CYFARWYDDWR

Ymgollwch yn llwyr mewn byd cerddorol hudolus gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC y tymor hwn, ac ymuno â ni am amrywiaeth anhygoel o gerddoriaeth mewn lleoliadau ledled Cymru, ac ar-lein.

Rydyn ni’n falch iawn o barhau i gydweithio â Ryan Bancroft, ein Prif Arweinydd, gan fod ei arweinyddiaeth artistig yn dod ag egni unigryw a hudolus i’n perfformiadau. Ar ben hynny, mae BBC NOW yn edrych ymlaen at groesawu amrywiaeth o unawdwyr ac arweinwyr gwadd adnabyddus i’n llwyfannau drwy gydol y flwyddyn.

Felly, beth sydd ar y gweill ar gyfer y bobl sy’n mwynhau cerddoriaeth ledled Cymru a’r tu hwnt ?

Mae ein repetoire y tymor hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o genres cerddorol; gan gynnwys y campweithiau tragwyddol a fu’n gyfrifol am siapio ein treftadaeth ddiwylliannol a cherddorfaol, creadigaethau arloesol a bywiog gan artistiaid cyfoes, cerddoriaeth o oes aur y jazz, a chyfuniad o gerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth y byd.

Rydyn ni’n lansio ein cyfres newydd o gyngherddau sy’n seiliedig ar fywyd a chyfraniadau cerddorol arbennig Grace Williams, y gyfansoddwraig o Gymru; gan ddathlu ei hetifeddiaeth ysbrydoledig ac arddangos dyfnder ei dawn gerddorol. Rydyn ni hefyd yn lansio cyfres newydd sy’n seiliedig ar y cyfansoddiadau gorau diweddaraf!

Wrth i Jurassic Park, y ffilm ddinosor boblogaidd, ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed eleni, ymunwch â ni yn y dathlu drwy fwynhau’r gerddorfa’n perfformio’n fyw i’r ffilm – gwledd i bawb o bob oed!

Unwaith eto, byddwn yn croesawu tymor yr ŵyl gyda’n cyngerdd carolau – gan ymuno â Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC a llu o gorysau plant o bob cwr o Gymru i ddathlu ysbryd y Nadolig drwy gyd-ganu alawon poblogaidd a chynnal perfformiadau a fydd yn siŵr o gynhesu’r galon.

Peidiwch â cholli dathliad Dydd Gŵyl Dewi! Cyfle i fwynhau perfformiad cyntaf yn y Deyrnas Unedig o goncerto Syr Karl Jenkins i’r sacsoffon i ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed, ochr yn ochr â pherfformiad o’i waith ‘Dewi Sant’, perl cerddorol prin gan William Mathias, a chadwyn o’ch hoff alawon Cymreig. Bydd y chwaraewr sacsoffon talentog, Jess Gillam, yn rhannu’r llwyfan â’r hyfryd Nil Venditti fel rhan o ddathliadau ein diwrnod cenedlaethol.

Y tu hwnt i’r llwyfan, rydyn ni wedi ymrwymo i gyflwyno mentrau newydd a chyffrous ar gyfer pobl ifanc a chymunedau yng Nghymru. Drwy gynnwys digidol arloesol, fel cyngherddau sy’n cael eu ffrydio’n fyw o’n cartref yn Neuadd Hoddinott y BBC, ein nod yw sicrhau bod pawb yng Nghymru yn teimlo eu bod yn rhan o’n stori gerddorol.

Mae ein holl waith yn seiliedig ar bartneriaethau cryf sy’n ein hysbrydoli, yn ein herio, ac yn ein galluogi i gyflawni cenhadaeth graidd y BBC – sef darparu gwybodaeth, addysg ac adloniant.

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at eich croesawu chi i’n perfformiadau yn ystod y tymor.

TYMOR 23-24 | TUDALEN 3

TUDALEN GYNNWYS

DATE CONCERT TITLE CONDUCTOR VENUE PAGE 15/9/23 Delweddau o’r Eidal Nil Venditti TB 20 16/9/23 Delweddau o’r Eidal Nil Venditti GA 20 22/9/23 Antony Hermus yn Arwain… Anthony Hermus NHC 22 23/9/23 Antony Hermus yn Arwain… Anthony Hermus TH 22 5/10/23 Mahler 3 Ryan Bancroft NDS 24 19/10/23 CoLaboratory: Fiona Monbet Fiona Monbet NHC 26 2/11/23 ‘Grace’ Martyn Brabbins, Emilie Godden NHC 28 11/11/23 Scheherazade Lionel Bringuier NDS 30 30/11/23 Dvořák 8 gyda Ryan Bancroft Ryan Bancroft CCA 32 1/12/23 Dvořák 8 gyda Ryan Bancroft Ryan Bancroft NPJ 32 2/12/23 Noson yng nghwmni Elin Fflur John Quirk P 33 8/12/23 Perfformio Picasso Ryan Bancroft NHC 34 10/12/23 Carolau’r Ŵyl Caerdydd Adrian Partington NDS 36 13/12/23 Jurassic Park in Concert Benjamin Pope NDS 38 14/12/23 Jurassic Park in Concert Benjamin Pope NBA 38 17/12/23 Carolau’r Ŵyl Bangor Adrian Partington NPJ 37 13/1/24 Jaime Martín yn Arwain… Jaime Martín NBA 40 14/1/24 Jaime Martín yn Arwain… Jaime Martín NDS 40 26/1/24 BBC NOW – NOW! Jordan de Souza NHC 42 10/2/24 Shostakovich 13 gyda Ryan Bancroft Ryan Bancroft NBA 44 11/2/24 Shostakovich 13 gyda Ryan Bancroft Ryan Bancroft NDS 44 24/2/24 Cyfuniadau Gwerinol – Japan a Dwyrain Ewrop Nodoka Okisawa NHC 46 1/3/24 Stravaganza Dydd Gŵyl Dewi Nil Venditti NDS 48 TUDALEN 4 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

NDS NEUADD DEWI SANT, CAERDYDD

NHC NEUADD HODDINOTT Y BBC, CAERDYDD

NBA NEUADD BRANGWYN, ABERTAWE

TH THEATRE HAFREN, Y DRENEWYDD

TB THEATR BRYCHEINIOG, ABERHONDDU

GA GLAN YR AFON, CASNEWYDD

CCA CANOLFAN Y CELFYDDYDAU ABERYSTWYTH

NPJ NEUADD PRICHARD-JONES, BANGOR

P PONTIO, BANGOR

D DEPOT, CAERDYDD

DATE CONCERT TITLE CONDUCTOR VENUE PAGE 8/3/24 Martyn Brabbins yn Arwain… Martyn Brabbins NBA 50 9/3/24 Martyn Brabbins yn Arwain… Martyn Brabbins NDS 50 22/3/24 Boed i’r Holl Fyd Ganu ym mhob Cwr Harry Bicket NHC 51 11/4/24 Tadaaki Otaka yn Arwain… Tadaaki Otaka NDS 52 12/4/24 Tadaaki Otaka yn Arwain… Tadaaki Otaka NBA 52 18/4/24 Llwch Sêr ac Eneidiau Sofi Jeannin NHC 54 3/5/24 Archwiliadau Americanaidd Ryan Bancroft GA 56 4/5/24 Archwiliadau Americanaidd Ryan Bancroft NHC 56 9/5/24 Abel Selaocoe a’r Concerto i Gerddorfa Giancarlo Guerrero NDS 58 10/5/24 Abel Selaocoe a’r Concerto i Gerddorfa Giancarlo Guerrero NBA 58 16/5/24 Ychydig o Ganu Nosweithiol Joana Carneiro NHC 60 1/6/24 CBeebies: Antur y Cefnforoedd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC - NDS 62 6/6/24 Cyngerdd Cloi’r Tymor Ryan Bancroft NDS 64 7/6/24 Cyngerdd Cloi’r Tymor Ryan Bancroft NBA 64 23/6/24 CoLaboratory: Abel Selaocoe - D 66
23-24 | TUDALEN 5
TYMOR

TROSOLWG O’R TYMOR GYDA MATTHEW WOOD, PENNAETH CYNHYRCHU ARTISTIG

Helo a chroeso i Dymor 2023-24.

Bydd Prif arweinydd BBC NOW, Ryan Bancroft, yn lansio ein prif dymor, gan symud i’r gêr uchaf ar unwaith gydag un o weithiau mwyaf y repertoire, sef 3ydd Symffoni epig

Mahler. Dyma ei symffoni hiraf a’r gwaith sy’n rhoi’r ddealltwriaeth gyffredinol orau i ni, efallai, o farn

Mahler am y byd yn ei gyflwr naturiol a’i gyflwr dwyfol.

Yn ymuno â ni ar y daith arwrol hon mae’r mezzo

soprano wych, Christianne Stotijn, ynghyd â menywod y Corws Cenedlaethol Cymreig a Chôr Cadeirlan

Caerloyw. Bydd Lionel Bringuier yn ymddangos am y tro cyntaf gyda BBC NOW ochr yn ochr â’r pianydd gwefreiddiol Zee Zee mewn rhaglen sy’n siŵr o fod yn un o’n rhai mwyaf poblogaidd eleni a fydd yn cynnwys

Concerto i’r Piano gan Grieg, sydd bob amser yn plesio, a Scheherazade hudolus Rimsky-Korsakov. Bydd Jaime

Martín yn dychwelyd i’r gerddorfa gyda’r chwaraewr

corn Ben Goldscheider mewn premiere byd gan

Gyfansoddwr Cyswllt BBC NOW Gavin Higgins cyn i Ryan ddychwelyd i arwain 13eg Symffoni ddirdynnol

Shostakovich ‘Babi Yar’ ynghyd â Choncerto Cyntaf

i’r Piano Beethoven gyda’r pianydd nodedig Jonathan Biss. Bydd Martyn Brabbins yn dychwelyd i arwain, gydag Inmo Yang, enillydd Cystadleuaeth Ffidil

Sibelius 2022, yn perfformio campwaith Sibelius. Bydd yr arweinydd llawryfog poblogaidd, Tadaaki

Otaka, yn dychwelyd gyda 9fed Symffoni Bruckner ym mlwyddyn pen-blwydd y cyfansoddwr yn 200 oed.

A chroeso’n ôl hir-ddisgwyliedig i’r arweinydd Giancarlo

Guerrero gyda Concerto i’r Gerddorfa gan Bartók, ochr yn ochr ag Abel Selaocoe, Artist Cyswllt BBC

NOW, gyda’i goncerto ei hun ar gyfer y soddgrwth.

Yna bydd Ryan yn cloi’r prif dymor drwy arwain Concerto

i’r Soddgrwth gan Dvořák, a fydd yn cael ei pherfformio gan y chwaraewr soddgrwth gyfareddol Alisa

Weilerstein, a gwaith ysbrydol William Dawson, Negro Folk Symphony.

Yn ein stiwdio yn Neuadd Hoddinott y BBC yng

Nghanolfan Mileniwm Cymru y mae’r gerddorfa’n arddangos mor eang yw ei hamrywiaeth, ac mae’n lle gwych i gael blas ar y gerddorfa mewn awyrgylch clyd. Mae toreth o ddanteithion cerddorol yn y gyfres hon, gan ddechrau gyda Fiona Monbet a’i thriawd jazz a fydd yn dychwelyd i roi perfformiad anffurfiol a chartrefol o glasuron Bwrlésg o Ffrainc yn y 1920au a’r 30au ynghyd â’r perfformiad cyntaf erioed o’i chyfres jazz. Yn ein cyfres gyntaf o ‘Grace’, byddwn yn arddangos gwaith meistr-gyfansoddwr Cymru, Grace Williams, ochr yn ochr â menywod a Chymry eraill talentog sy’n cyfansoddi. I ddilyn, byddwn yn cynnal y cyntaf o’n cyngherddau ‘NOW!’ lle

byddwn yn rhoi llwyfan i gyfansoddiadau newydd ac i gyfansoddwyr sy’n fyw heddiw o Gymru a ledled y byd. Bydd y trombonydd meistrolgar Jörgen van Rijen yn ymuno â ni ar gyfer y perfformiad cyntaf yn y DU o waith Tan Dun, Three Muses in Video Game Hanner can mlynedd ar ôl iddo farw, byddwn yn cydnabod cyfraniad sylweddol Picasso i gynllunio setiau a gwisgoedd ym myd y bale yn ein cyngerdd ‘Chwarae Picasso’ ac yn cyflwyno’r arweinydd Nodoka Okisawa am y tro cyntaf mewn cyngerdd sy’n cynnwys cerddoriaeth gan To¯ru Takemitsu a Kikuko Kanai. Bydd Harry Bicket yn dychwelyd i’r gerddorfa a’r corws gyda’n harlwy o gerddoriaeth hyfryd ar gyfer y Pasg sy’n cynnwys Ich habe genung gan Bach a gwaith Vaughan Williams, Five Mystical Songs. Byddwn hefyd yn croesawu Sofi Jeannin yn ôl i’n tywys drwy berfformiad cyntaf y byd o ddau ddarn o waith, sef Sounds of Stardust gan Alexander Campkin a choncerto Dani Howard ar gyfer yr offerynnwr taro anhygoel, y Fonesig Evelyn Glennie. Byddwn yn cyflwyno premiere byd arall, gyda Joana Carneiro wrth y llyw, sef The Celestial Stranger gan Stephen McNeff cyn i ni ymgolli yng ngwaith disglair Schoenberg,

TUDALEN
6 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

Verklärte Nacht (Y Nos wedi’i Gweddnewid) – y gwaith a arweiniodd at wawr newydd o ymwybyddiaeth donyddol.

Deng mlynedd ar hugain ar ôl rhyddhau’r ffilm gyntaf, bydd Jurassic Park, un o’r cyfresi ffilm mwyaf erioed, yn rhannu llwyfan â’r gerddorfa wrth i ni berfformio sgôr John Williams yn fyw i’r ffilm. Ymlaen wedyn i DEPOT, y warws yng Nghaerdydd, lle cawn gyfle i flasu “adrodd straeon drwy gyfrwng diwylliant ac atgofion cenedlaethau De Affrica sy’n tystio i wead dynoliaeth” mewn digwyddiad CoLab gydag Abel Sealocoe a Nduduzo Makathini. Mae’n gyfle rhy dda i’w golli! Cyfle arall sy’n rhy dda i’w golli yw ein harlwy blynyddol ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Eleni, bydd y sacsoffonydd o fri, Jess Gillam, ymysg sêr eraill cyffrous o Gymru, yn perfformio concerto Syr Karl Jenkins i’r sacsoffôn am y tro cyntaf yn y DU. Byddwn yn dathlu’r Nadolig â’n cyngerdd carolau traddodiadol gyda’r Corws Cenedlaethol Cymreig a chôr mawr o blant.

Ar y ffordd byddwn yn mynd i Ganolbarth a Gogledd Cymru gyda Ryan Bancroft a fydd yn arwain 8fed Symffoni afieithus Dvořák a Choncerto i’r Ffidil gan Glazunov gyda’r fiolinydd hynod dalentog Benjamin Billman, ac yn cael noson allan gyda’r canwrgyfansoddwr o Gymru, Elin Fflur, yn Pontio. Rydyn ni’n mynd yn ôl i Aberhonddu a Chasnewydd gyda’r arweinydd bywiog Nil Venditti i arddangos nifer o gampweithiau Eidalaidd ochr yn ochr â’r Concerto i’r Ffidil gan Grace Williams, a gaiff ei pherfformio gan Artist Cenhedlaeth Newydd y BBC, Geneva Lewis.

Yn y Drenewydd, bydd yr arweinydd Antony Hermus yn ymuno â ni ar gyfer Ail Symffoni ogoneddus Sibelius ochr yn ochr â’r Concerto i’r Obo gan Mozart, a fydd yn cael ei berfformio gan ein Prif Offerynnydd Adran a Chwaraewr Obo, Steve Hudson. Yn ôl â ni wedyn i

ynghyd â’r Concerto i’r Ffidil gan Samuel Barber a fydd yn cael ei berfformio gan Benjamin Baker yn ogystal â’i waith mwyaf poblogaidd, mae’n debyg, sef yr Adagio ar gyfer Llinynnau. Dros y ffin, byddwn yn parhau â’n cyfnod preswyl gyda Gŵyl Lichfield ac, wrth gwrs, byddwn yn dychwelyd i’r ŵyl fwyaf oll – Proms y BBC – ar gyfer pedwar cyngerdd.

Yn y cyfamser, mae ein hymrwymiad i’n cynulleidfaoedd ifanc yn parhau gyda’n sioeau i ysgolion a theuluoedd a nifer o brosiectau cymunedol eraill gyda’n sefydliadau partner gwych. Byddwn hefyd yn parhau â’n gwaith recordio ar gyfer BBC Radio 3, Radio Cymru a’n partneriaid masnachol, gan ddal ati â’n hamserlen brysur o draciau sain ar gyfer ffilm a theledu ar yr un pryd.

Mae’n anrhydedd ac yn bleser di-ben-draw i weithio ochr yn ochr â cherddorion mor dalentog a staff mor ymroddedig i ddod â’r arlwy cerddorol ehangaf bosib i chi. Mae rhywbeth i bawb yn nhymor 23-24 ac alla i ddim aros i’w rannu â chi.

TYMOR 23-24 | TUDALEN 7
TUDALEN 8 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

CROESO I’N CAR TREF…

Camwch drwy’r drysau metel eiconig, cymer wch sedd a gwnewch eich hun yn gartrefol ar gyfer tymor newydd o gyngherddau yn Neuadd Hoddinott y BBC.

Gyda seddi cyfforddus ar gyfer hyd at 350 o bobl, mae Neuadd Hoddinott y BBC yn lleoliad cyngerdd hawdd ei gyrraedd ar gyfer pob perfformiad, boed fel rhan o Gyfres o Gyngherddau neu berfformiadau allanol BBC NOW. Hwn hefyd yw prif stiwdio recordio ac ymarfer BBC NOW lle byddwn yn recordio ac yn perfformio traciau sain ar y teledu, cyngherddau ar y radio a recordiadau eraill. Wedi’i enwi ar ôl y cyfansoddwr enwog o Gymru, Alun Hoddinott, rydych chi’n siŵr o gael croeso cynnes iawn a chael gwrando ar y gerddoriaeth orau yng Nghymru, a’r tymor hwn byddwn ni hefyd yn ffrydio mwy o gyngherddau’n fyw yn uniongyrchol o Neuadd Hoddinott y BBC ledled Cymru, felly os nad ydych chi’n byw’n lleol, byddwch chi’n dal i deimlo’n gartrefol gyda ni!

I gael gwybod pa ddarllediadau sy’n cael eu cynnal yn Neuadd Hoddinott y BBC, dilynwch ni ar y cyfryngau neu edrychwch ar hafan ein gwefan.

NEUADD HODDINOTT Y BBC

Lefel 2, Canolfan Mileniwm Cymru

Plas Bute, Caerdydd, CF10 5AL –

CYSYLLTWCH: now@bbc.co.uk

“Rydw i’n teimlo’n gyffrous iawn am yr amrywiaeth o gerddoriaeth sydd gennym ar eich cyfer yn ein tymor

newydd. Mae campweithiau Symffonig o’ch blaen ar ffurf

Trydedd Symffoni Mahler, Wythfed Symffoni Dvořák, Ail Symffoni Brahms, Nawfed Symffoni Bruckner a Thrydedd Symffoni ar ddeg Shostakovich. Bydd cyngerdd CoLab Fiona

Monbet ym mis Hydref yn dod â gwledd liwgar o ddanteithion

theatrig at ei gilydd gydag un o’i gweithiau ei hun, ac ym mis

Rhagfyr byddwn yn cael trip i’r ballet gyda ‘Pulcinella’ a’i ‘Het Tri Chornel’. Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at flasu mwy o gyfuniadau

meistrolgar Abel Selaocoe o genres y Gorllewin a genres Affrica.”

Lesley Hatfield, Blaenwr

TYMOR 23-24 | TUDALEN 9

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu’r gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud mewn ysbytai a lleoliadau gofal. Gall y gwaith hwn ddylanwadu ar fywydau pawb sy’n gysylltiedig â hyn. Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at ein cyngerdd blynyddol gydag ysgolion cynradd. Mae cryn gyffro yn yr ystafell!”

Bea Carey, Cynhyrchydd Addysg

TUDALEN 10 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

Menter gynhwysol Addysgol a Chymunedol yw BBC

NOW CONNECT, a grëwyd gan Gerddorfa Genedlaethol

Gymreig y BBC. Mae’r fenter hon yn ymroddedig i gyflwyno cerddoriaeth gerddorfaol a chorawl y tu hwnt i neuaddau cyngherddau traddodiadol, a hynny mewn ysgolion, lleoliadau gofal iechyd, gweithleoedd a chymunedau ar hyd a lled Cymru.

Ein prif egwyddor yw’r gred gadarn y dylai pawb gael cyfle cyfartal i ymgysylltu â’r celfyddydau. Rydyn ni’n cydweithio’n agos â phartneriaid cymunedol sydd â safbwyntiau a gwybodaeth gwerthfawr am gymunedau lleol. Rydyn ni’n gwneud hyn er mwyn sicrhau bod ein rhaglenni addysgol a chymunedol yn cael dylanwad gwirioneddol a phellgyrhaeddol ar bob oed ac yn rhoi cyfle iddynt gael addysg gydol oes a mwynhau cerddoriaeth.

Rydyn ni’n ymdrechu i feithrin ymdeimlad o gynhwysiant a hygyrchedd, gan chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag cymryd rhan mewn cerddoriaeth. Drwy ddarparu profiadau ehangach gyda cherddoriaeth, gweithdai rhyngweithiol a chyngherddau, ein nod yw tanio creadigrwydd, ysbrydoli gwerthfawrogiad gydol oes i gerddoriaeth, a hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol ar hyd a lled Cymru.

Ein prif nodau yw rhoi profiadau cynhwysol mewn creu cerddoriaeth sy’n cael dylanwad ar bobl yn gymdeithasol. Rydyn ni hefyd eisiau cynnig rhaglenni arloesol sydd wedi’u cynllunio i wella iechyd a llesiant, sy’n cyfrannu at y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth drwy gefnogi Ysgolion a’r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yng Nghymru, sy’n hyrwyddo a meithrin talent amrywiol yng Nghymru, yn ogystal â chreu llwybrau proffesiynol yn y diwydiant.

I gofrestru i gael y wybodaeth ddiweddaraf neu i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i nowconnect@bbc.co.uk

“Rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd i orllewin Cymru, a gweithio gyda’n partner, sef Cyfansoddwyr Ifanc Dyfed, a Lynne Plowman, y Cyfansoddwr Preswyl er mwyn ysbrydoli myfyrwyr i gyfansoddi. Mae’r sgiliau a’r creadigrwydd y mae’r bobl ifanc yma yn eu dangos yn ysbrydoledig! Rwy’n edrych ymlaen yn bennaf at weithio gyda cherddorion ifanc talentog o bob cwr o Gymru yn ein cyngerdd gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ym mis Tachwedd. Bydd y cyngerdd yn gyffrous iawn, felly peidiwch â’i golli!”

Rhonwen Jones, Cynhyrchydd Addysg

TYMOR 23-24 | TUDALEN 11

Camwch i ddyfodol darlledu yn stiwdios diweddaraf a mwyaf blaengar y BBC yn

3 Sgwâr Canolog, Caerdydd

Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae effeithiau sain yn cael eu hychwanegu at eich hoff bodlediadau?

Neu sut beth yw darllen y newyddion?

Ymunwch â’n tywyswyr cyfeillgar i gael taith unigryw y tu ôl i’r llenni yn BBC Cymru Wales. Cewch ymweld â’n stiwdios teledu a radio diweddaraf i ddarganfod cyfrinachau creu rhaglenni’r BBC.

Ar eich taith byddwch yn ymweld ag un o ystafelloedd newyddion mwyaf y BBC, sy’n llawn technoleg arloesol gan gynnwys realiti estynedig, rhith-wirionedd a chamerâu robotig, ac yn cael cipolwg ar orielau teledu a chyfleusterau darlledu eraill.

bbc.co.uk/tours

Bydd pob taith gerdded yn para tua 90 munud. Fel canolfan ddarlledu fyw a gweithredol, does dim dwy daith yr un fath, felly bydd pob ymweliad yn unigryw. I archebu tocynnau ar gyfer grwpiau, neu os oes gennych chi ofynion mynediad penodol, ffoniwch 029 2087 8444. ARCHEBWCH DOCYNNAU NAWR

AM EIN CERDDORIAETH DRWY RAGLENNI CYNGHERDDAU DIGIDOL

Fel rhan o’n hymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol, mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd holl raglenni cyngherddau Cerddorfa

Genedlaethol Gymreig y BBC y tymor hwn ar gael mewn fformatau digidol yn unig. Drwy gael gwared ar yr angen am ddeunyddiau printiedig, gallwn leihau ein hôl troed carbon yn sylweddol ac atal tua 1 tunnell fetrig o bapur rhag mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn.

Mae sawl mantais drwy gynnig rhaglenni cyngherddau digidol.

Bydd rhaglen ddigidol pob cyngerdd ar gael drwy wefan Cerddorfa

Genedlaethol Gymreig y BBC ychydig ddyddiau cyn pob digwyddiad, er mwyn i chi ymgyfarwyddo â’r gerddoriaeth cyn y cyngerdd.

Byddwch chi’n gallu cael gafael ar wybodaeth gynhwysfawr am y repertoire, yr arweinydd a’r unawdwyr, yn ogystal â rhestr o gerddorion talentog Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a fydd yn perfformio yn y cyngerdd. P’un ai a ydych chi’n dod i’r rhaglenni’n bersonol, yn gwrando ar BBC Radio 3 neu’n mwynhau ein cyngherddau o’ch cartref drwy ffryd byw, gallwch chi eu dilyn yn hawdd drwy ein rhaglenni digidol.

Cadwch lygad am ein taflenni rhaglenni digidol, sydd wedi’u hargraffu ar bapur wedi’i wneud allan o hadau blodau gwyllt, ym mhob lleoliad rydyn ni’n perfformio. Drwy sganio’r cod QR ar y daflen gyda’ch ffôn, byddwch chi’n cael eich tywys yn uniongyrchol at wefan Rhaglen Ddigidol y Cyngerdd. Mae croeso i chi fynd â’r daflen adref a’i phlannu yn eich gardd neu yn eich blwch ffenestr, lle bydd yn dadelfennu ac yn blodeuo’n flodau hardd erbyn y gwanwyn!

Mae’n bleser gennym gynnig y llyfryn tymhorol dwyieithog hwn yn ddigidol ar wefan Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Hoffem i chi rannu URL y wefan â’ch ffrindiau a’ch teulu, a chroesawu dull mwy cynaliadwy ac eco-gyfeillgar o gael gafael ar wybodaeth am gyngherddau.

TYMOR 23-24 | TUDALEN 13

CYFRES CYNGHERDDAU DIGIDOL

Ewch ar daith gerddorol anturus drwy Gyfres o Gyngherddau Digidol BBC NOW. Cewch gyfle i gael blas ar repertoire cerddorfaol amrywiol ac eang – a hynny’n gyfleus ar eich ffôn, eich teledu neu eich cyfrifiadur. P’un a ydych chi gartref neu’n crwydro, mae’r casgliad rhyfeddol hwn yn aros amdanoch chi!

Mae wedi’i gynllunio i fod yn hygyrch ac i ddod â mwynhad i bawb, ble bynnag ydych chi, felly beth am fynd ati i wylio campweithiau adnabyddus gan enwogion fel Stravinsky a Ravel, yn ogystal â darganfod gweithiau newydd gan gyfansoddwyr byw.

Mae’r cyngherddau hyn wedi’u ffilmio yn Neuadd Hoddinott y BBC, ac maent yn rhoi profiad agos a phersonol i chi gyda’r gerddorfa.

Teimlwch y gerddoriaeth yn atseinio drwy eich sgrin wrth i chi wylio ein cerddorion ar waith. Er mwyn cyfoethogi eich dealltwriaeth a’ch gwerthfawrogiad o’r gerddoriaeth a’i harwyddocâd hanesyddol, mae nodiadau rhaglen i gyd-fynd â phob perfformiad, sydd wedi’u hysgrifennu’n arbennig ar gyfer y gyfres hon er mwyn i chi allu ymgolli yn y naratif.

“Mae bob amser yn gyffrous gweld pa repertoire fydd yn ymddangos bob tymor ac rydw i wrth fy modd bod y cyngerdd agoriadol yn cynnwys Trydedd Symffoni epig Mahler gyda’n prif arweinydd gwych, Ryan Bancroft. Yn y symffoni hon, ei symffoni hiraf, mae Mahler yn ymgorffori holl gwmpas emosiynau dynol o anobaith llwyr i ddyhead ysbrydol am gariad nefolaidd, ac mae’n gorffen gyda bendith galonogol sy’n codi’r ysbryd. Mae’r offeryniaeth ar gyfer y gwaith hwn yn enfawr ac mae’n cynnwys corau merched a phlant, unawd contralto gyfareddol a hyd yn oed gorn post oddi ar y llwyfan! Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at glywed unawd trombôn dramatig Donal yn y symudiad 1af. Rwy’n rhagweld y bydd hon yn noson a fydd yn aros yn y cof am gyfnod hir iawn.”

Valerie Aldrich-Smith, Prif Delyn

TUDALEN 14 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

Yn BBC NOW, rydyn ni eisiau i chi fwynhau ein cyngherddau heb wario gormod. Dyna pam mae BBC NOW yn cynnig tocynnau £5 ym mhob un o’n cyngherddau ac ym mhob un o’n lleoliadau!

P’un ai a ydych chi’n arbenigwr ar gerddoriaeth gerddorfaol, neu’n gwbl newydd i’n cerddoriaeth, rydych chi’n siŵr o fwynhau gwefr a phŵer eich cerddorfa symffoni genedlaethol yn perfformio’n fyw – felly dewch draw!

Does dim angen cod hyrwyddo, dim ond archebu ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn y lleoliad o’ch dewis, gan ddewis yr opsiwn tocyn myfyriwr.

CORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

Ydych chi’n frwd dros ganu ac eisiau cymryd rhan gyda’n Corws?

Wel, nid yw erioed wedi bod yn haws... anfonwch e-bost atom i’r cyfeiriad bbcncw@bbc.co.uk i fynegi eich diddordeb ac i drefnu clyweliad.

Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC, dan arweiniad ei Gyfarwyddwr

Artistig Adrian Partington, yn un o brif gorysau cymysg y DU ac mae wedi’i leoli yn Neuadd Hoddinott y BBC. Mae’n gweithio’n rheolaidd gyda

Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ogystal â pherfformio yn ei rinwedd ei hun. Roedd uchafbwyntiau Tymor 22-23 yn cynnwys cyngerdd o gerddoriaeth gemau fideo eiconig gyda’r cyfansoddwr cerddoriaeth gemau, Eimear Noone; Offeren Nelson gan Haydn gyda’r arbenigwr cerddoriaeth gynnar, Christian Curnyn; a Harmonium gan John Adams ym Mhroms y BBC, a ddarlledwyd hefyd ar BBC Four.

Bydd yn 40 mlynedd ers ffurfio’r corws yr hydref hwn, felly cadwch lygad am gynnwys arbennig y Corws ar ein gwefan a’r cyfryngau

TUDALEN 16 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

ON SALE NOW! AR WERTH NAWR!

UP TO 30% OFF – SUBSCRIBE NOW! HYD AT 30% ODDI AR Y PRIS – TANYSGRIFIWCH NAWR!

Je s s Gillam ©Robin Cl e wl e y Photog r ap h y

CERDDORIAETH I BAWB: EIN GWAITH YN Y GYMUNED

Pwysig iawn i bawb yma yng Ngherddorfa

Genedlaethol Gymreig y BBC yw sicrhau bod ein cerddoriaeth yn hygyrch i bawb yng Nghymru, a’r tymor hwn rydyn ni wedi ymrwymo i ehangu ein cyrhaeddiad ac ymgysylltu â gwahanol gymunedau, grwpiau gwirfoddol a mudiadau elusennol ar hyd a lled y wlad. Drwy gydweithio â’r partneriaid hyn, ein nod yw cyflwyno ein cerddoriaeth i gynulleidfaoedd newydd a meithrin cysylltiadau gwerthfawr.

Rydyn ni wedi bod yn meithrin partneriaethau hirdymor a dylanwadol er mwyn sicrhau bod cyfleoedd ar gael i bawb yn y dyfodol, ac wrth i ni baratoi ar gyfer y tymor nesaf, rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at gryfhau a dathlu’r partneriaethau hyn ymhellach.

Yn y tymor blaenorol, roedden ni wedi darparu tocynnau am ddim neu am bris gostyngol i amrywiaeth o bartneriaid cymunedol, ac wedi cynnig rhagor o gyfleoedd i fwynhau ein perfformiadau i gynulleidfa ehangach. Yn ogystal â hyn, fe wnaethom ni ddyrannu tocynnau i wirfoddolwyr ledled Cymru drwy’r cynllun Credydau Amser TEMPO, fel arwydd o werthfawrogiad am eu gwaith gwirfoddol amhrisiadwy a hanfodol.

Rydyn ni’n frwd dros y posibilrwydd o gydweithio er mwyn hyrwyddo grym cerddoriaeth a’i heffaith gadarnhaol ar bobl mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru. Os hoffech chi ddysgu mwy am ein mentrau cymunedol neu edrych ar bosibiliadau i ni gydweithio â’ch mudiad chi, mae croeso i chi gysylltu â ni. Gallwch chi gysylltu â ni drwy anfon e-bost i

TUDALEN 18 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Ffoaduriaid Wcráin wedi cael amrywiaeth wych o gyngherddau anhygoel drwy gydweithrediad rhwng BBC Now, Cardiff For Ukraine a Sunflowers Wales. Cafodd cannoedd o bobol o Wcráin a oedd wedi cael eu dadleoli ac wedi cael profiadau trawmatig, gyfle i ddianc rhag eu problemau drwy bŵer cerddoriaeth, a phrofi llawenydd cerddoriaeth fyw sy’n mynd y tu hwnt i unrhyw rwystr iaith. Mae effaith yr ymweliadau cyngerdd hyn wedi bod yn enfawr, gyda rhai’n dweud mai’r adegau hynny wrth wrando ar gerddoriaeth oedd y tro cyntaf iddyn nhw deimlo’n fyw eto. Roedd hynny’n eu cysylltu â’u bywyd blaenorol a theimlo’n obeithiol am y dyfodol. Mae’r bobl hyn yn diolch o galon am eu profiadau.” Dyakuyu! Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Дякую!

“Mae Race Council Cymru, ynghyd â’r 29 gymuned ethnig amrywiol yng Nghanolfan Amlddiwylliannol Abertawe, wedi elwa’n aruthrol o weithio gyda BBC NOW. Roedd y tocynnau am ddim a roddwyd i’n haelodau o gymunedau ethnig amrywiol – nifer ohonynt o gefndiroedd difreintiedig ac efallai erioed wedi cael cyfle na bod â’r adnoddau i fynd i gyngherddau o’r fath – yn rhoi sawl cyfle iddynt fynd i’r cyngerdd ac i wylio amrywiaeth o gyngherddau eraill. Maent wedi bod yn wych, yn ysgogol ac yn ddiddanol. Rydyn ni’n eithriadol o falch bod ein henoed ethnig amrywiol yn benodol wedi cael cyfle i gymryd rhan a mynd i’r cyngherddau hyn. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda chi i gyd eto.”

Yr Athro Uzo Iwobi CBE FLSW, Cyn-gynghorydd Polisi Arbenigol ar Gydraddoldeb i Lywodraeth Cymru, Is-lywydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Race Council Cymru, Sylfaenydd Canolfan Gymunedol Affricanaidd Cymru TYMOR 23-24 | TUDALEN
19

DELWEDDAU O’R EIDAL

Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’r arweinydd Nil

Venditti yn dychwelyd i Aberhonddu a Chasnewydd ym mis Medi eleni gyda rhaglen o waith gan Busoni, Bellini a Mendelssohn yn ogystal â gwaith rhapsodïaidd Grace Williams, Concerto i’r Ffidil, gyda’r hynod dalentog Geneva Lewis.

Fel teyrnged i operâu comig Mozart, mae’n bosib mai Agorawd Lustspiel Busoni yw ei waith mwyaf poblogaidd. Mae’r darn bach gwych hwn yn asio drama a melodïau toreithiog Mozart gydag offeryniaeth ramantaidd hwyliog. Cafodd Norma, opera bel canto gan Bellini sydd wedi’i lleoli yng ngwlad Gâl yng nghyfnod y Rhufeiniaid, ei llwyfannu am y tro cyntaf yn La Scala Milan yn 1831, yr un flwyddyn ag yr oedd y Mendelssohn ifanc yn teithio drwy’r Eidal. Haul y Canoldir, ei gelf a’i bensaernïaeth, ei ddefosiwn crefyddol ac ehangder ei dirweddau oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer ei Symffoni Eidalaidd, sef yr holl ryfeddodau a welodd â’i lygaid ei hun yn ystod ei deithiau.

RHAMANTUS DARLUNIADOL EIDALAIDD

NOS WENER 15/9/23 7.30PM

Theatr Brycheiniog, Aberhonddu

NOS SADWRN 16/9/23 7.30PM

Glan yr Afon, Casnewydd

BUSONI

Agorawd Lustspiel (Agorawd Gomedi)

G. WILLIAMS

Violin Concerto

BELLINI

Agorawd Norma

MENDELSSOHN

Symffoni Rhif 4 ‘Eidaleg’

NIL VENDITTI

Arweinydd

GENEVA LEWIS

Ffidil

TUDALEN 20 | CERDDORFA A
PORTMEIRION, GOGLEDD CYMRU. DYLUNIWYD AC ADEILADWYD GAN SYR CLOUGH WILLIAMS-ELLIS RHWNG 1925 A 1975 I EFELYCHU PENTREF EIDALAIDD.
CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
TYMOR 23-24 | TUDALEN 21
TUDALEN
|
22
CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

ANTONY HERMUS YN ARWAIN…

Mae Antony Hermus – yr arweinydd bywiog, carismatig ac egnïol o’r Iseldiroedd – yn ymuno â BBC NOW yng Nghaerdydd a’r Drenewydd fis Medi yma gyda rhaglen amrywiol o Wagenaar, Mozart a Sibelius. Ysgrifennwyd un o ffefrynnau Hermus, sef portread cerddorol Johan Wagenaar – Cyrano de Bergerac – ym 1905 ac mae’n rhamantus iawn o ran arddull. Mae’r portread hwn o Bergerac yn dangos elfennau o arwriaeth, hiraeth cain a harmoni ryfeddol, wedi’u cyfuno â llawenydd, hiwmor a dychan. Mae’r portread hefyd yn dangos elfen o ysbryd uniongyrchol a di-ben-draw. Bydd Steven Hudson, Prif Offerynnydd Adran a Chwaraewr Obo BBC NOW, yn camu ymlaen i chwarae’r unawd yn y Concerto i’r Obo gan Mozart. Yna, byddwn yn clywed Ail Symffoni Sibelius, sy’n boblogaidd ym mhedwar ban byd. Dyma’n wir feistr wrth ei waith.

NOS WENER 22/9/23 7PM

Neaudd Hoddinott y BBC, Caerdydd

DYDD SADWRN 23/9/23 3PM

Hafren, Y Drenewydd

WAGENAAR

Cyrano de Bergerac

MOZART

Concerto i’r Obo

SIBELIUS

Symffoni Rhif 2

ANTONY HERMUS

Arweinydd

STEVEN HUDSON

Obo

PERSAIN LLAWEN BYWIOG

TYMOR 23-24 | TUDALEN 23
LLYN EFYRNWY, POWYS. CRONFA DDŴR A ADEILADWYD YN Y 1880AU ER MWYN CYFLENWI DŴR FFRES I LERPWL. ADEILADWYD Y TŴR I DYNNU DŴR O’R LLYN. TUDALEN 24 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

TRAPHONT

MAHLER 3

Rydym yn agor ein Tymor ar gyfer 2023-24 gyda Thrydedd Symffoni siriol a hwyliog Mahler. Roedd gan natur le blaenllaw ym meddwl Mahler o hyd, ac mae’n bosibl mai’r portread cerddorol hollgynhwysol hwn yw’r mynegiant mwyaf uniongyrchol o’i olwg ef ar y byd. O ymdeithganau milwrol yr agoriad, i bortreadau disglair o’r cyfnos, o gân yr adar i ddawnsiau gwledig, mae’r gwaith hwn yn cynnwys peth o gerddoriaeth fwyaf angerddol, grymus a phrydferth Mahler.

Ymunwch â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC ochr yn ochr â’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft, y mezzo soprano

Christianne Stotijn a Chôr Cadeirlan Caerloyw ar gyfer yr epig symffonig hon.

EHANGOL DISGLAIR EMOSIYNOL

NOS IAU 5/10/23 7.30PM

Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

MAHLER

Symffoni Rhif 3

RYAN BANCROFT

Arweinydd

CHRISTIANNE STOTIJN

Mezzo soprano

CORWS CENEDLAETHOL

CYMREIG Y BBC

CÔR CADEIRLAN CAERLOYW

Ffilmiwyd gan BBC Studios Music Productions ar gyfer pennod o Inside Classical ar BBC Four yn y dyfodol.

TREFYNWY, AFON GWY. TRAPHONT HEN REILFFORDD A THIR FFERM GODIDOG AR AFON GWY.
TYMOR 23-24 | TUDALEN 25

CENTRAL PARK, EFROG NEWYDD, YR UDA.

GOLEUADAU’R DDINAS DRWY’R NIWL AR Y LLYN YN

CENTRAL PARK.

TUDALEN 26 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

COLABORATORY: FIONA MONBET

Gan gyfuno cerddoriaeth werin draddodiadol a jazz Americanaidd

â’i cheinder Ffrengig nodweddiadol, mae’r feiolinydd a’r cyfansoddwr

Fiona Monbet yn ymuno â BBC NOW yn ein cyngerdd CoLaboratory cyntaf ar gyfer tymor 23/24.

I agor y tymor, byddwn yn cyflwyno rhaglen wedi’i hysbrydoli gan draddodiadau Bwrlesg Ffrainc yn y 20au a’r 30au. Roedd gan y cyfansoddwyr Jacques Ibert, Erik Satie, Germaine Tailleferre a Darius Milhaud i gyd un peth yn gyffredin – ochr yn ochr â’u cyfansoddiadau mwy traddodiadol, roeddent i gyd yn gyfansoddwyr cerddoriaeth ffilm cynnar gwych, felly nid yw’n syndod bod eu cerddoriaeth yn llawn asbri ac mor hyfryd o ddarluniadwy.

Yn yr ail hanner, byddwn yn gadael Ffrainc ac yn teithio i strydoedd Efrog Newydd a jazz, a chyfansoddwr ffilm disglair arall, Leonard Bernstein, gyda’i Three Dance Episodes o’r sioe On the Town, cyn clywed y perfformiad cyntaf erioed o waith newydd Fiona Monbet ar gyfer ffidil, bas dwbl, piano, drymiau a cherddorfa.

Bydd Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i osod mewn dull cabaret, felly dewch â’ch diod i mewn a mwynhewch y cyngerdd hwn mewn awyrgylch clyd.

BYWIOG PERSONOL LLESMEIRIOL

NOS IAU 19/10/23 7.30PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

IBERT

Divertissement

SATIE

La Belle Excentrique

TAILLEFERRE

Petite Suite

MILHAUD

Le boeuf sur le toit

BERNSTEIN

On the Town: Three Dance Episodes

FIONA MONBET

Faubourg 23

FIONA MONBET

Ffidil/cyfarwyddwr

ZACHARIE ABRAHAM

Bas dwbl

AUXANE CARTIGNY

Piano

PHILIPPE MANIEZ

Drymiau

TYMOR 23-24 | TUDALEN 27

Mae Grace yn gyfres newydd gan BBC NOW sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo gwaith un o gyfansoddwyr mwyaf Cymru – Grace Williams.

Roedd gan Williams ddawn eithriadol, a hi oedd un o gyfansoddwyr cyntaf Cymru yn yr 20fed ganrif i ennill cydnabyddiaeth sylweddol ledled y byd. Roedd hi’n un o fyfyrwyr Vaughan Williams ac yn cyfoesi â chylch trawiadol o gyfansoddwragedd eraill, gan gynnwys Dorothy Gow, Imogen Holst, Elizabeth Maconchy ac Elisabeth Lutyens. Aeth ymlaen i ddatblygu llais unigryw a fyddai’n helpu i hyrwyddo cerddoriaeth gerddorfaol ar hyd a lled Cymru oedd mor annwyl ganddi. Yn y gyfres hon, byddwn yn edrych ar ei gweithiau mwyaf enwog ochr yn ochr â’r rhai sydd wedi cael eu hesgeuluso, ac yn edrych yn fanylach ar ei brwydrau â hunanfeirniadaeth llesteiriol a sut beth oedd ac yw bod yn gyfansoddwraig mewn maes yn llawn dynion. Ochr yn ochr â gweithiau gan Williams, bydd y gyfres hon hefyd yn hyrwyddo gweithiau eraill gan gyfansoddwragedd a thalent o Gymru.

“Rydw i wedi dod i gredu ei bod yn groes i natur i fenyw fod â thalent am unrhyw beth ar wahân i’r hyn sydd wedi’i nodi ym mhennod olaf Llyfr y Diarhebion.”
Geiriau Grace Williams wrth Gerald Cockshot 5 Rhagfyr 1948 TUDALEN 28 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

‘GRACE’

Grace yw ein cyfres newydd sy’n rhoi sylw i ferched sy’n gyfansoddwyr ac i dalent newydd o Gymru, ac yng nghyngerdd agoriadol y gyfres pleser o’r mwyaf yw gallu croesawu feiolinydd BBC NOW, sydd bellach yn arweinydd, Emilie Godden, i arwain y gwaith agoriadol.

Mae Emilie, sy’n cael ei mentora gan Martyn Brabbins, yn Gymrawd Arwain Leverhulme yn y Royal Conservatoire yn yr Alban ar hyn o bryd, mewn cysylltiad â Cherddorfa Symffoni BBC yr Alban, a bydd yn arwain premiere byd ein Cyfansoddwr Cyswllt, Sarah Lianne Lewis – The Sky Didn’t Fall. Wedyn, bydd un o ffefrynnau BBC NOW, Martyn Brabbins, yn camu ar y podiwm i arwain teyrnged i Kaija Saariaho, y cyfansoddwr o’r Ffindir a fu farw’n ddiweddar, ar ffurf y perfformiad cyntaf yn y DU o’i Gyfres o Emilie Yna, byddwn yn archwilio campwaith Grace Williams nad yw’n cael ei berfformio’n aml, sef ei Hail Symffoni.

CAIN ARLOESOL YSBRYDOLEDIG

NOS IAU 2/11/23 7.30PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

SARAH LIANNE LEWIS

*The Sky didn’t Fall [Premiere Byd]

SAARIAHO

Cyfres Emilie [Premiere DU]

G. WILLIAMS

Symffoni Rhif 2

MARTYN BRABBINS

Arweinydd

EMILIE GODDEN*

Arweinydd

EMMA TRING

Soprano

TYMOR 23-24 | TUDALEN 29
TRAETH BAE WHITMORE, YNYS Y BARRI. MACHLUD HAUL; YR AWR EURAIDD AR DRAWS Y BAE.

SCHEHERAZADE

Mae’r cyngerdd hwn yn llawn hud a lledrith, gan ddechrau gyda Prentis y Dewin gan Dukas. Mae’r stori gerddorol ryfeddol hon yn darlunio ysgub hud a’r anhrefn sy’n codi yn ei sgil. Mae’n gwbl gyfareddol!

O’r cyflwyniad nodweddiadol i ansawdd gwreiddiol y gwaith ysgrifenedig, mae’n hawdd deall pam fod Concerto Grieg i’r Piano yn cael ei ystyried yn gymaint o gampwaith; gyda haen ryfeddol o feistrolaeth a hunaniaeth Norwyaidd gadarn, mae cydymdeimlad cryf y cyfansoddwr â chaneuon gwerin yn hollbresennol. Yna mae Rimsky Korsakov yn cymryd yr awenau gyda’i gerddoriaeth llawn antur a swyn yn ei fersiwn ef o Fil ac Un o Nosweithiau gan Scheherazade. Mae’r gwaith godidog hwn yn llawn lliw ac asbri rhythmig a naws y Dwyrain.

HUDOLUS SWYNOL SYFRDANOL

NOS SADWRN 11/11/23 7.30PM

Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

DUKAS

Prentis y Dewin

GRIEG

Concerto i’r Piano

RIMSKY-KORSAKOV

Scheherazade

LIONEL BRINGUIER

Arweinydd

ZEE ZEE

Piano

CASTELL CONWY, GOGLEDD CYMRU. PANORAMA O’R CASTELL WEDI’I OLEUO YN Y NOS. TUDALEN 30 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
TYMOR 23-24 | TUDALEN 31

RYAN BANCROFT

Bydd y Prif Arweinydd Ryan Bancroft yn ymuno â ni ar daith eto’r hydref hwn, gan ddechrau’r rhaglen â gan Hannah Kendall. O’i fywiogrwydd llawn ynni a’i egni rhythmig i’w alawon melancolaidd a’i gywreinrwydd caboledig, mae’r gwaith yn seiliedig ar gerdd hynod ddeinamig Lemn Sissay o’r un enw.

Mae’r Concerto i’r Ffidil gan Glazunov, er iddo gael ei ysgrifennu dros ganrif cyn gwaith Hannah Kendall, yn dangos bywiogrwydd rhythmig a thelynegol tebyg. Mae’n cyfuno dawn virtuoso yr unawdydd â mynegiant telynegol ac emosiwn dwfn, gydag awyrgylch, tempo a deinameg sy’n newid rhwng symudiadau i greu’r cyfanwaith. Mae Dvořák yn adlewyrchu llawenydd pur y byd naturiol yn ei Wythfed Symffoni, sydd yr un mor rhythmig a melodaidd. Mae coralau tywyll, tawel yn ildio i unawdau arwrol ar y chwythbrennau, ac mae huodledd pruddglwyfus yn ildio i lawenydd hoenus yn y symffoni ddramatig gyffrous hon.

EGNÏOL CYFFROUS DEINAMIG

NOS WENER 1/12/23 7.30PM

Neuadd Prichard-Jones, Bangor

HANNAH KENDALL

Spark Catchers

GLAZUNOV

Concerto i’r Ffidil

DVOŘÁK

Symffoni Rhif 8

RYAN BANCROFT

Arweinydd

BEN BEILMAN

Ffidil

TUDALEN 32 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

NOSON YNG

NGHWMNI ELIN FFLUR

Tudur Owen yn cyflwyno Elin Fflur a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

BBC Radio Cymru yn cyflwyno noson ynghwmni Elin Fflur a’r Band a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Cyfle i glywed fersiynau cerddorfaol o ganeuon mwyaf poblogaidd Elin; a Tudur Owen fydd yn ei holi wrth iddi dathlu dau ddegawd o berfformiadau a nodi ugain mlynedd ers i ‘Harbwr Diogel’ gael ei dewis fel Cân i Gymru.

CYFAREDDOL | CYNNES | DIFYR

NOS SADWRN 2/12/23 8PM Pontio, Bangor

YNYS LAWD, YNYS MÔN. Y GOLAU AR OLEUDY YNYS LAWD YN DISGLEIRIO’N LLACHAR DRWY’R TYWYLLWCH YN YNYS LAWD. JOHN QUIRK Arweinydd
TYMOR 23-24 | TUDALEN 33
GRANADA, SBAEN. MURIAU A PHALAS YR ALHAMBRA. TUDALEN 34 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

PERFFORMIO PICASSO

Ac yntau’n adnabyddus fel un o artistiaid mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif ac am gyd-sefydlu’r mudiad Ciwbaidd, mae’n syndod cyn lleied o bobl sy’n gwybod bod yr artist Pablo Picasso wedi ymwneud llawer â dylunio’r gwisgoedd ar gyfer sawl ballet arloesol. Roedd ei gyswllt creadigol â’r impresario ballet, Sergei Diaghilev, yn un o gydweithrediadau mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif, a newidiodd natur ballet, ac a agorodd y drws i fyd newydd o archwilio artistig i Picasso.

50 mlynedd ar ôl ei farwolaeth, byddwn yn dathlu ei waith mewn cyngerdd sy’n cynnwys dim ond y gerddoriaeth o’r ballets yr oedd ef wedi dylunio ar eu cyfer – o Pulcinella Stravinsky lle cafodd straeon traddodiadol eu “trawsnewid yn llwyr yn gampweithiau modernaidd trawiadol, gan ail-ddychmygu’r ballet fel lleoliad ar gyfer arddulliau, siapiau a ffurfiau avant-garde oedd yn gwrthdaro

â’i gilydd” drwy ei wisgoedd a’i ddyluniadau ar gyfer setiau, i waith onglog, cyfwynebol ac avant-garde Satie, Parade, a chyfres Het Tri Chornel De Falla sy’n adrodd stori garu o Sbaen, wedi’i lleoli ym mynyddoedd Andalwsia.

NOS WENER 8/12/23 7.30PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

STRAVINSKY

Pulcinella

SATIE

Parade

STRAVINSKY

Ragtime

DE FALLA

Het Tri Chornel –

RYAN BANCROFT

Arweinydd

KATHARINE DAIN

Soprano

JORGE NAVARRO COLORADO

Tenor

MICHEL DE SOUZA

Bariton

LLIWGAR ANGERDDOL GOLEUEDIG

TYMOR 23-24 | TUDALEN 35

CAROLAU’R ŴYL

A oes unrhyw beth yn well na gwrando ar Garolau Nadolig mewn siwmperi cynnes, gyda channoedd o blant yn canu’n llawen, a’r cyfle i gydganu eich ffefrynnau Nadolig? Na, doedden ni ddim yn meddwl hynny chwaith! Cyfunwch hyn â darlleniadau gan eich hoff gyflwynwyr yn BBC Cymru Wales a chyfeiliant gwych offerynnau pres ac offerynnau taro BBC NOW, a dyna i chi anrheg Nadolig gynnar berffaith ar brynhawn Sul i’r teulu cyfan.

LLAWEN NADOLIGAIDD TWYMGALON

CARDIFF

Ymunwch â Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC gyda’u cyfarwyddwr artistig Adrian Partington, ynghyd â chôr plant o ysgolion ledled Cymru sydd wedi dod at ei gilydd ar gyfer y dathliad Nadolig blynyddol mawreddog hwn.

DYDD SUL 10/12/23 3PM

Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

ADRIAN PARTINGTON

Arweinydd

CORWS CENEDLAETHOL

CYMREIG Y BBC

CÔR PLANT UNEDIG

TUDALEN 36 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

BANGOR

DYDD SUL 17/12/23 3PM

Neuadd Prichard-Jones, Bangor

ADRIAN PARTINGTON

Arweinydd

Ymunwch ag Adrian Partington, cyfarwyddwr artistig Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC, ynghyd â chôr torfol o bob rhan o ogledd Cymru ar gyfer y dathliad Nadoligaidd disglair hwn.
23-24 | TUDALEN 37
PARC BUTE, CAERDYDD. EIRA YN GORCHUDDIO CASTELL CAERDYDD A’R PARC CYFAGOS.
TYMOR
TUDALEN 38 | CERDDORFA A
CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

JURASSIC PARK IN CONCERT

Pwy sy’n gallu anghofio cerddediad dirgrynol a byddarol y T-rex neu synau arswydus y velociraptor? Ymunwch â BBC NOW y mis Rhagfyr hwn ar gyfer Jurassic Park, yn fyw mewn cyngerdd.

Wedi’i lleoli ar Isla Nublar, dewch gyda ni i ddilyn stori Dr Alan Grant ac Ellie Sattler wrth iddynt frwydro i oroesi yn erbyn deinosoriaid y parc thema pan maent yn adfywio ac yn dianc o’u hamgaefeydd ac yn ceisio rheoli’r ddaear eto. Gyda delweddau gweledol trawiadol ac effeithiau arbennig arloesol, efallai nad yw’r antur llawn cyffro hon yn nodweddiadol o gyngerdd Nadolig, ond gyda Cherddorfa

Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio sgôr epig John William yn fyw i’r ffilm, mae’n ffordd briodol iawn o ddathlu pen-blwydd y ffilm eiconig hon yn 30 oed!

TEULUOL ATGOFUS GWEFREIDDIOL

NOS FERCHER 13/12/23 7.30PM

Neaudd Dewi Sant, Caerdydd

NOS IAU 14/12/23 7.30PM

Neaudd Brangwyn, Abertawe

JURASSIC PARK SGÔR FFILM

John Williams –

BENJAMIN POPE

Arweinydd

TYMOR 23-24 | TUDALEN 39

JAIME MARTÍN YN ARWAIN…

Y flwyddyn newydd hon, ymhyfrydwch yn y cyfle i glywed premiere byd gan ein Cyfansoddwr Cysylltiedig, Gavin Higgins, sydd newydd ennill gwobr RPS 2023 am ei Goncerto Grosso ar gyfer Band Pres a Cherddorfa. Wedi’i gyfansoddi ar gyfer ein hunawdydd heddiw, Ben Goldscheider, bydd yn sicr o fod yn berfformiad bythgofiadwy na ddylid ei golli.

Mae gorfoledd a ffresni’r gwanwyn yn treiddio drwy Ail Symffoni Brahms. O’i gymharu â’i symffoni gyntaf, a gymerodd 20 mlynedd i’w chwblhau, cafodd y symffoni hon ei hysgrifennu’n rhyfeddol o gyflym, ac mae’r campwaith hwn ymhlith y mwyaf poblogaidd o’r holl symffonïau rhamantus... ond i ddechrau, pa gymar gwell iddi na Galargan Parry i Brahms? Ac, i arwain, mae’n bleser gennym groesawu’r hynod dalentog Jaime Martín yn ôl.

LLAWEN SWYNOL GORFOLEDDUS

DYDD SADWRN 13/1/24 3PM

Neuadd Brangwyn, Abertawe

DYDD SUL 14/1/24 3PM

Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

PARRY

Elegy for Brahms

GAVIN HIGGINS

Horn Concerto [Premiere Byd]

BRAHMS

Symffoni Rhif 2

JAIME MARTÍN

Arweinydd

BEN GOLDSCHEIDER

Corn Ffrengig

TUDALEN 40 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

“Y tymor hwn, rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at chwarae ail Symffoni Brahms. Mae rhai blynyddoedd wedi mynd heibio bellach ers i BBCNOW chwarae’r symffoni hon a dyma un o fy ffefrynnau. Rydw i’n edmygu sut mae Brahms yn defnyddio’r gerddorfa. Roedd ganddo ddawn arbennig o gyfansoddi darnau ar gyfer y cyrn a’r offerynnau pres isaf. Mae’n amlwg mai Brahms yw cyfansoddwr y darn dim ond wrth wrando ar ddarn bach ohono, ac mae’r rhychwant emosiynol o’r ail symudiad tyner i’r pedwerydd symudiad afieithus yn daith rydw i bob amser yn hapus i fod wedi’i gwneud.”

Anna Cleworth, Feiolin Cyntaf

CEFN GWLAD CYMRU. BLODAU GWYLLT AR Y BRYNIAU.
TYMOR 23-24 | TUDALEN 41

GER LLYN IDWAL, PARC CENEDLAETHOL ERYRI. Y DŴR YN LLIFO O’R RHAEADR GER LLYN IDWAL, SEF LLYN BACH YNG NGHWM IDWAL AR FYNYDDOEDD Y GLYDERAU YN ERYRI.

BBC NOW – NOW!

Perfformiad cyntaf erioed, 3 pherfformiad cyntaf yn y DU a chyfansoddwr ifanc sydd ar ei ffordd i fod yn seren... BBC NOW – NAWR! Dyma ein cyfres gyfoes newydd sy’n ymroddedig i’r gerddoriaeth newydd orau o bob cwr o’r byd sy’n cael ei chyfansoddi heddiw.

Bydd Gavin Higgins, Cyfansoddwr Cyswllt BBC NOW, yn dechrau’r gyfres, gyda pherfformiad am y tro cyntaf erioed o’i ddarn Sarabande, cyn i ni droi at y cyfansoddwr Tsieineaidd-Americanaidd enwog sydd wedi ennill sawl gwobr, Tan Dun, a’i Three Muses in Video Game. Mae’r concerto hwn i’r trombôn yn talu teyrnged i gerddoriaeth gemau fideo, gan adlewyrchu cerddoriaeth draddodiadol Tsieina ar yr un pryd – gyda’i symudiadau wedi eu henwi ar ôl offerynnau Tsieineaidd hynafol. Y synau unigryw hyn yw’r awen i’r gerddorfa a’r unawdydd fel ei gilydd. I berfformio’r darnau, rydyn ni’n falch iawn o groesawu Jörgen van Rijen, a fu hefyd yn gyfrifol am berfformio’r gweithiau am y tro cyntaf erioed.

Mae cyfansoddiad un o gyfranogwyr Cyfansoddiad: Cymru yn 2023, Thomas Whitcombe, And the Skies Become Vermillion yn ein harwain i ddathlu pen-blwydd Ross Edwards yn 80 oed gyda’r perfformiad cyntaf yn y Deyrnas Unedig o’i waith rhythmig, lliwgar a bywiog, Chorale and Ecstatic Dance, ac yna daw perfformiad am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig o waith gan Syr James MacMillan. Ciplun cerddorol o Mariana, cerdd Alfred, Lord Tennyson, sydd ganddo –mae’r gwaith yn archwilio galar drwy alawon moddol mynegiannol, llawn tyndra, sy’n llawn ffrwydradau cysefin, unawdau galarus a theimladwy a gwrthbwynt cymhleth.

ARLOESOL UNIGRYW FFRES

NOS WENER 26/1/24 7.30PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

GAVIN HIGGINS

Sarabande [Premiere Byd]

TAN DUN

Three Muses in Video Game [Premiere DU]

THOMAS WHITCOMBE

And the Skies Become Vermillion

ROSS EDWARDS

Chorale and Ecstatic Dance [Premiere DU]

JAMES MACMILLAN

Her Tears Fell with the Dews at Even [Premiere DU]

JORDAN DE SOUZA

Arweinydd

J Ö RGEN VAN RIJEN

Trombôn

TUDALEN 42 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

“Y darn cyntaf rydw i’n edrych ymlaen ato yn y tymor i ddod yw ail symffoni Sibelius. Mae’n un o fy hoff ddarnau i wrando arno, a’i chwarae. Mae’n gyforiog o liwiau, awyrgylch a drama drwyddo draw. Sgorio Sibelius sydd i gyfrif am hyn, yn ddigamsyniol, boed yn ddigalon neu’n fuddugoliaethus. Mae yna ryw drawsgyweiriad bach astrus yn y trombôn sydd bob amser yn ein cadw ar flaenau ein traed. Mae’n mynd fel hyn – da, da, da, daah! Byddech chi’n synnu pa mor anodd ydyw i chwarae hwn yn y lle iawn.

Ym mis Hydref, byddwn yn perfformio trydedd symffoni Mahler. Cadwch lygad am Donal yn chwarae’r unawd ar hen drombôn Almaenig, fel y byddai Gustav wedi dymuno. Mae’r cynnig athronyddol hwn o tua 1895 yn archwilio ei berthynas â natur. Yn yr un modd ag ail symffoni Sibelius, mae cwmpas y sain yn eithriadol o eang a gwrthgyferbyniol, boed hynny’n sain arwrol y cyrn Ffrengig ar y dechrau, yr unawd stoicaidd a melancolaidd ar y trombôn, neu sain unig a hyfryd y corn post/yr unawd ar y flugelhorn oddi ar y llwyfan tua’r diwedd. O... ac mae rhai o’r offerynnau llinynnol a’r chwythbrennau hefyd yn dangos beth allan nhw ei wneud mewn mannau eraill!

Mae’r cyngerdd ar 26 Ionawr yn ennyn fy chwilfrydedd; bydd yn cynnwys ‘Concerto Tan Dun i’r trombôn – Three muses in video game.’ Rydw i’n gwneud fy mywoliaeth o chwarae’r trombôn a gemau fideo yw fy unig wendid. Bydd yn ddiddorol ac yn werth chweil gweld fy nau fyd yn gwrthdaro. Ac yn olaf, concerto Bartók i gerddorfa ar 9/10 Mai. Mae hynny dri diwrnod ar ôl fy mhen-blwydd ac rwy’n cael gwneud synau gwirion. Beth allai fod yn well?“

TYMOR 23-24 | TUDALEN 43
Darren Smith, Prif Drombôn Bas

SHOSTAKOVICH 13 GYDA RYAN BANCROFT

O’i gymal agoriadol beiddgar i’w ddiweddglo hynod a chwareus, mae Concerto Rhif 1 Beethoven i’r Piano yn un o weithiau mwyaf mawreddog a herfeiddiol ei genhedlaeth. Cafodd ei berfformio gyntaf yn 1798 gan Beethoven ei hun. Ni wyddwn lawer am ei wreiddiau hyd heddiw, ond rydyn ni yn gwybod mai ei ail goncerto oedd hwn mewn gwirionedd, ond ei fod wedi’i gyhoeddi gyntaf, ac felly cafodd ei alw’n Goncerto Rhif 1.

Er bod Shostakovich yn aml yn pechu’r Sofietiaid ac yn cael ei ddiarddel am ei arddangosiadau amlwg o hunanfynegiant ac am ei ddewis o ysbrydoliaeth lenyddol, llwyddodd i dawelu’r dyfroedd gyda Symffonïau dieiriau 11 a 12; ond trodd y drol unwaith eto gyda’r ysbrydoliaeth a sbardunodd naratif ei 13eg Symffoni. Mae trydedd symffoni ar ddeg Shostakovich, y cyfeirir ati’n aml yn ôl ei llysenw, Babi Yar, yn ddarn theatrig a throsgynnol, sy’n llawn hiwmor chwerw ac sy’n cynnwys gosodiadau i eiriau o waith Yevtushenko yn portreadu erchyllterau Ymgyrch Barbarossa yn erbyn yr Iddewon yn Rwsia, a’r hyn yr oedd Khrushchev yn ei wrthwynebu oedd yr islais gwrth-Semitaidd a’r ffaith nad oedd y testun yn cyfeirio at y miloedd o bobl nad oeddent yn Iddewon a gafodd eu taflu yn y ceunant. Bron iddo ganslo’r première a gwaharddodd unrhyw adolygiadau gan y wasg. Ni chafodd ei chlywed am dros 20 mlynedd ond tua diwedd yr 20fed ganrif daeth yn fwy poblogaidd eto. Nid yw hyn yn syndod o gofio dyfeisgarwch a chywreinrwydd cerddoriaeth Shostakovich, gyda’i chyferbyniadau llym, ei ffraethineb craff a’i chanolbwynt cyweiraidd amwys, wedi’i chyfuno â naws glasurol gynnil a hiraeth rhamantus.

RADICAL DRAMATIG BYWIOG

NOS SADWRN 10/2/24 7.30PM

Neuadd Brangwyn, Abertawe

DYDD SUL 11/2/24 3PM

Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

BEETHOVEN

Concerto i’r Piano Rhif 1

SHOSTAKOVICH

Symffoni Rhif 13

RYAN BANCROFT

Arweinydd

JONATHAN BISS

Piano

JAMES PLATT Bass

CORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

TUDALEN 44 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
TYMOR 23-24 | TUDALEN 45
CHWAREL LECHI DINORWIG, ERYRI. Y GAEAF YN CHWAREL LECHI DINORWIG, A’R WYDDFA DAN FLANCED O EIRA YN Y CEFNDIR.

CYFUNIADAU GWERINOL – JAPAN A DWYRAIN EWROP

Mewn rhaglen sydd wedi ei hysbrydoli gan gerddoriaeth werin, rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r arweinydd o Japan, Nodoka Okisawa, i’r podiwm. Daw arddulliau jazz a blues wyneb yn wyneb â cherddoriaeth angladdol a waltz anarferol o bruddglwyfus ond siriol yng ngwaith cerddor arall o Japan, 3 Film Scores gan

To¯ru Takemitsu. Gan ddatblygu ei llais cyfansoddi unigryw ei hun, Kikuko Kanai oedd un o’r merched cyntaf yn Japan i gyfansoddi cerddoriaeth glasurol Gorllewinol, gan gadw ei threftadaeth gerddorol o Okinawa. A hithau’n ymroddedig i drawsgrifio caneuon gwerin, defnyddiodd y rhain fel sail ar gyfer ei gweithiau ei hun, gan gynnwys ei Capriccio Okinawa

Yn enwog yn yr un modd am ddefnyddio cerddoriaeth werin frodorol yn ei weithiau, roedd Franz Liszt nid yn unig yn gyfansoddwr dylanwadol, ond hefyd yn bianydd cyngerdd penigamp, felly does dim rhyfedd bod ei goncertos i’r piano ymysg ei ddarnau a berfformir amlaf heddiw. Gyda rhamantiaeth hynod, alawon trawsnewidiol a cadenzas tanllyd, daw ei ail goncerto yn fyw dan ofal y pianydd Jordanaidd-Palestinaidd sydd wedi ennill sawl gwobr, Iyad Sughayer. Mae plwc cynhenid Tsiecaidd, teitlau rhaglennol ffansi a’i gariad at faledau gwerin Karel Erben yn disgleirio yn The Wood Dove Dvořák, gyda’i offeryniaeth ddramatig ac atgofus yn troi’n alawon trawsnewidiol. Daw’r goleuni i gwrdd â’r cysgodion, galar i gwrdd â chariad, a darnau corawl i gwrdd â dawnsfeydd – yn syml iawn, adrodd straeon symffonig ar ei orau.

NOS SADWRN 24/2/24 7.30PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

TAKEMITSU 3 Film Scores

KIKUKO KANAI

Capriccio Okinawa

LISZT

Concerto i’r Piano Rhif 2

DVOŘÁK

The Wood Dove –

NODOKA OKISAWA

Arweinydd

IYAD SUGHAYER Piano

TRAWIADOL CLODFORUS YSBRYDOLEDIG

TUDALEN 46 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

“Mae rhaglen 2023 yn byrlymu â cherddoriaeth ryfeddol, ond pe bai’n rhaid i mi ddewis ffefryn, yn sicr, y cyngerdd ‘Chwarae Picasso’ ym mis Rhagfyr fyddai hwnnw. Roedd cydweithio â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar gyfer perfformiad ychydig flynyddoedd yn ôl yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa i mi, ac ers hynny rwyf wedi

gweld rhai o’r gwisgoedd a’r cynlluniau set gwreiddiol yn arddangosfa ‘Picasso a Phapur’ yr Academi Gelf Frenhinol. Mae’n wirioneddol yn torri tir newydd!”

Daniel Trodden, Prif Chwaraewr Tiwba

CASTELL SHURI, OKINAWA, JAPAN. MACHLUD HAUL.
TYMOR 23-24 | TUDALEN 47

STRAVAGANZA DYDD GŴYL DEWI

Pa ffordd well o ddathlu Dydd Gŵyl Dewi na thrwy gerddoriaeth gan gyfansoddwyr eiconig o Gymru, a berfformir gan Gerddorfa

Genedlaethol Gymreig y BBC?

Rydyn ni’n dathlu 90 mlynedd ers genedigaeth William Mathias, drwy berfformio ei gyfansoddiad Holiday Overture. Ysgrifennwyd yr agorawd hon ym 1971 yn arbennig ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yna, symudwn ymlaen at Karl Jenkins gyda pherfformiad cyntaf yn y DU o’i goncerto i’r sacsoffon, Stravaganza. Cyfansoddwyd y concerto hwn ar gyfer yr amryddawn Jess Gillam, sef yr unawdydd sy’n perfformio heno. Ni fyddai’n Ddydd Gŵyl Dewi heb ganu, felly mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC a Chôr

Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn camu i’r llwyfan i berfformio caneuon o waith Jenkins, sef Dewi Sant, yn ogystal â chadwyn o’ch hoff alawon Cymreig.

YSGOGOL DATHLIADOL BYWIOG

NOS WENER 1/3/24 7.30PM

Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

MATHIAS

Holiday Overture

KARL JENKINS

Stravaganza [Premiere y DU]

KARL JENKINS

Dewi Sant

JEFF HOWARD

A Welsh Celebration

G. WILLIAMS

Fanfare and Hen Wlad Fy Nhadau –

NIL VENDITTI

Arweinydd

JESS GILLAM

Sacsoffon

CORWS CENEDLAETHOL

CYMREIG Y BBC

CÔR CENEDLAETHOL

IEUENCTID CYMRU

BWTHYN YNG NGHEFN GWLAD, CYMRU. TIWLIPAU PINC A CHENNIN PEDR MELYN MEWN GWELY BLODAU YN Y GWANWYN. TUDALEN 48 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
TYMOR 23-24 | TUDALEN 49

MARTYN BRABBINS YN ARWAIN…

Gan agor gyda’r themâu mwyaf hudolus a mynegiannol, mae Concerto Sibelius i’r Ffidil yn llawn tensiwn a harmonïau melancolaidd, ynghyd ag alawon hyfryd ac egni aruthrol. Mae’n bleser gennym groesawu enillydd Cystadleuaeth Ffidil Sibelius

2022, y virtuoso Inmo Yang sy’n feistr ar ei grefft, i berfformio’r perl hwn o goncerto.

O’i dechrau, mae symffoni gyntaf Walton yn mynd ar wib ac yn fwrlwm o egni ac, er gwaethaf ei symudiadau mewnol tywyllach, mae’n gorffen â holl rwysg a gogoniant ffilm. A hithau’n cydoesi â William Walton, yn ei Galargan i’r Llinynnau cawn gipolwg cynnar ar y gerddoriaeth hynod neilltuol y byddai Grace Williams yn ei chyfansoddi yn hwyrach ymlaen yn ei bywyd. Pleser o’r mwyaf i ni yw cael croesawu Martyn Bobbins, un o ffefrynnau BBC NOW, yn ôl i arwain.

MEISTROLGAR URDDASOL CELFYDD

NOS WENER 8/3/24 7.30PM

Neuadd Brangwyn, Abertawe

NOS SADWRN 9/3/24 7.30PM

Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

G. WILLIAMS

Elegy for Strings

SIBELIUS

Concerto i’r Ffidil

WALTON

Symffoni Rhif 1 –

MARTYN BRABBINS

Arweinydd

INMO YANG

Ffidil

TUDALEN 50 |
A
CERDDORFA
CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

BOED I’R HOLL FYD GANU YM MHOB CWR

Mae ysbryd y Pasg, er ei fod yn gynnil, yn treiddio drwy’r cyngerdd hwn, gyda Harry Bicket yn dychwelyd i arwain Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC. Y cyfansoddwr o Frasil, José Maurício Nunes Garcia, fydd yn dechrau’r noson gyda’i Agorawd Zemira, ac mae’r bariton anhygoel, Julien Van Mellatens, yn perfformio Ich habe genug gan Bach. Mae’r gwaith hwn yn gwbl addas ar gyfer unrhyw gyngerdd y Pasg, gyda thestun sy’n adrodd hanes puro Mair ac yn cyhoeddi ei hawydd i ddianc rhag trallod y ddaear yn ôl at Iesu.

Nid oes llawer yn gwybod mai ar gyfer y Pasg y cafodd Symffoni Rhif 26 Haydn ei hysgrifennu, er pan edrychwn yn ddyfnach ar y gerddoriaeth, mae llawer o awgrymiadau amlwg. Cafodd ei hysgrifennu mewn Sturm und drang (storm a straen) nodweddiadol, mae’r awyrgylch dymhestlog a’r cywair lleiaf yn sail i ddyfyniadau o ganeuon plaen Passontide, sy’n fwy perthnasol i eglwys na’r neuadd gyngerdd. Hefyd ar gyfer y Pasg, ysgrifennwyd Five Mystical Songs gan Vaughan Williams, sy’n gosod pedwar testun o ‘The Temple: Sacred Poems’ gan y bardd a’r offeiriad o Gymru, George Herbert. Yn ysbrydol ac yn uniongyrchol wrth gyflwyno, mae’r pum symudiad yn cyferbynnu o ddistaw a myfyriol i weiddi o ganmoliaeth fuddugoliaethus.

NOS WENER 22/3/24 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

GARCIA

Agorawd Zemira

J.S. BACH

Ich habe genug

HAYDN

Symffoni Rhif 26 ‘Lamentazione’

VAUGHAN WILLIAMS

Five Mystical Songs

HARRY BICKET

Arweinydd

GOGONEDDUS | YSBRYDOL | SWYNGYFAREDDOL

PIER Y MWMBWLS, Y MWMBWLS, PENRHYN GŴYR.
TYMOR 23-24 | TUDALEN 51
CWM BYCHAN GER BEDDGELERT, PARC CENEDLAETHOL ERYRI. NANT FACH AR FYNYDD YN LLIFO DRWY’R CREIGIAU, Y GRUG A’R EITHIN. TUDALEN 52 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

TADAAKI OTAKA YN ARWAIN…

Dim ond 18 oed oedd Mozart pan gyfansoddodd ei Symffoni

Rhif 29 ac ynddi mae’n arddangos meistrolaeth ymhell tu hwnt i’w oed. Gyda’i hwythfedau ysgafn, curiadau cynnes y serenâd, ei haddurniadau Rococo hudolus a’i minuet sionc, mae’r symffoni’n byrlymu â disgleirdeb y Mozart ifanc.

Bu farw Bruckner cyn gorffen ei Nawfed Symffoni ond mae’r gwaith, mewn tri symudiad, yn cynrychioli popeth oedd yn bwysig iddo. Gan ddyfynnu ei Misere o’r Offeren yn D, yr Adagio o’i Wythfed Symffoni ac elfennau o’i agoriad i’w Seithfed Symffoni, nid yw ymroddiad diflino Bruckner i’w grefydd – ei gymhelliant a’i raison d’être –ynghyd â’i ymroddiad artistig byth yn bell o’r wyneb. Efallai bod yr olwg yn ôl a geir yma yn rhagarwydd o’i dranc, ei lafur cariad olaf.

NOS IAU 11/4/24 7.30PM

Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

NOS WENER 12/4/24 7.30PM

Neaudd Brangwyn, Abertawe

MOZART

Symffoni Rhif 29

BRUCKNER

Symffoni Rhif 9 (fersiwn wreiddiol)

Arweinydd

TADAAKI OTAKA
TYMOR 23-24 | TUDALEN 53
PONT WERDD CYMRU, SIR BENFRO. CODIAD HAUL GER Y BWA A’R PILERI CREIGIOG NATURIOL AR ARFORDIR Y DE-ORLLEWIN. TUDALEN 54 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

LLWCH SÊR AC ENEIDIAU

Gyda dau berfformiad cyntaf y byd ac un o berlau’r repertoire corawl, mae’n bleser gennym groesawu’r arweinydd dihafal Sofi Jeannin yn ôl ochr yn ochr â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, y Fonesig Evelyn Glennie ac enillydd Gwobr Cynulleidfa Canwr y Byd Caerdydd, Julieth Lozano Rolong, am noson o archwilio a darganfod cerddorol.

Ond yn gyntaf, premiere byd gan Alexander Campkin a’i Sounds of Stardust. Bydd y Fonesig Evelyn Glennie, yr offerynnwr taro o fri, yn camu i’r llwyfan i berfformio concerto newydd Dani Howard i offerynnau taro am y tro cyntaf, cyn i ni ddathlu campwaith lleisiol Poulenc 60 mlynedd ar ôl ei farwolaeth. Wedi’i ysgrifennu mewn ymateb i farwolaeth ei gyfaill agos, yr artist Christian Bérard, mae Stabat Mater yn cwmpasu’r tywyll a’r golau – cynrychiolaeth wirioneddol o’i Gatholigiaeth ddidwyll, ond hefyd ei ffraethineb a’i gymeriad bywiog.

NOS IAU 18/4/24 7.30PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

ALEXANDER CAMPKIN

Sounds of Stardust [Premiere Byd]

DANI HOWARD

New Work [Premiere Byd]

POULENC Stabat Mater

SOFI JEANNIN

Arweinydd

DAME EVELYN GLENNIE

Offerynnau taro

JULIETH LOZANO ROLONG

Soprano

CORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

ARALLFYDOL ATMOSFFERIG DIRGEL
TYMOR 23-24 | TUDALEN 55

ARCHWILIADAU AMERICANAIDD

Ymunwch â ni i ddathlu cerddoriaeth glasurol Americanaidd gyda’n Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, a aned yn Los Angeles fis Mai eleni!

Mae Adagio for Strings Barber, sy’n boblogaidd ledled y byd, yn un o’r darnau mwyaf nodedig yn y repertoire cerddorfaol a dyma’i waith enwocaf mae’n siŵr – caiff ei ddefnyddio mewn ffilm a theledu, ac mae’n deimladwy am iddo gael ei berfformio yn angladd Roosevelt ac yn dilyn llofruddiaeth JFK, rydych chi’n siŵr o fod wedi clywed y darn eiconig hwn!

Mae ei goncerto i’r ffidil yn llai adnabyddus, ond yr un mor drawiadol. Cafodd alaw draddodiadol, rhythm, harmoni ac offeryniaeth cerddoriaeth Barber eu cyfansoddi yn y 1930au pan oedd digyweiredd yn cystadlu am sylw, ac fe gafwyd ymateb brwdfrydig dros ben. Mae themâu gorfoleddus ac oriog weithiau’n dominyddu, gydag awgrym o ddwyreinioldeb, gwerin a chaledni Rwsiaidd; mae trawsacennu a gwrthrhythmau nodedig yn sbarduno naratif cyffrous ac mae meistrolaeth yn trechu bob tro. I berfformio’r unawd, rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r fiolinydd carismataidd, Ben Baker.

Rydym yn parhau i archwilio cerddoriaeth Charles Ives gyda Ryan Bancroft, gyda’i Ail Symffoni. Yn enwog am ddyfynnu alawon enwog America, y symffoni hon yw ei waith pwysig cyntaf sy’n archwilio’r benthyca hwn yn llawn, wedi’i gyfuno â dylanwadau Ewropeaidd –cipolwg ar ddod â’i blentyndod a’i fywyd fel oedolyn at ei gilydd.

EMOSIYNOL DYLANWADOL SYFRDANOL

NOS WENER 3/5/24 7.30PM

Glan yr Afon, Casnewydd

NOS SADWRN 4/5/24 7.30PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

BARBER

Adagio for Strings

BARBER

Violin Concerto

IVES

Symphony No. 2 –

RYAN BANCROFT

Arweinydd

BEN BAKER

Ffidil

TUDALEN 56 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
PONT GLUDO, CASNEWYDD. MACHLUD HAUL Y TU ÔL I’R BONT HANESYDDOL A ADEILADWYD YM 1906 ER MWYN CROESI AFON WYSG.

“Rwy’n cael mwy o fudd o gydweithio ag Abel a’i holl ffrindiau nag yr ydw i’n ei gyfrannu. Mae chwarae gydag

ef yn ddiddorol ac yn rhoi ynni a nerth newydd i mi. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth i roi nerth newydd i chi , ymunwch â mi ym mis Mai!”

Nick Whiting, Arweinydd Cyswllt

“Pe bai’n rhaid i mi ddewis un gwaith, byddwn yn mynd am Verklarte Nacht gan Schoenberg. Os nad ydych chi’n argyhoeddedig bod Schoenberg yn addas i chi, mae angen i chi glywed y gwaith hwn, a’i glywed yn fyw. Dyma un o’r enghreifftiau gorau o stori gothig am gariad, colled a galar a sut mae eu goresgyn.”

Laura Sinnerton, Fiola

TYMOR 23-24 | TUDALEN 57
TUDALEN 58 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL
BAE CAERFAI, SIR BENFRO. EITHIN AR LWYBR ARFORDIR SIR BENFRO AR HYD Y BAE.
CYMREIG Y BBC

ABEL SELAOCOE

A’R CONCERTO I GERDDORFA

Gan gyfuno traddodiadau cerddoriaeth y Gorllewin ac Affrica i greu rhywbeth cyfareddol ac unigryw, mae’r anhygoel Abel Selaocoe yn dychwelyd i Gymru am y tro cyntaf yn ei rôl newydd fel Artist Cyswllt BBC NOW i berfformio ei goncerto i’r soddgrwth – Four Spirits

Dyma’r tro cyntaf i waith Caroline Shaw, The Observatory, gael ei berfformio yn y DU. Gyda’i gyfuniad o ddryswch ac eglurder, blaendir a chefndir, yr ysbrydoliaeth ar gyfer y darn oedd ymweliad ag Arsyllfa Griffin ger Hollywood Bowl. Ynddo, mae’n archwilio ffyrdd newydd o edrych ar y bydysawd, gan asio’r hen a’r newydd mewn llif ymwybod nad yw byth yn dod i ben yn yr union le y dechreuodd.

Dathliad pur o gerddoriaeth a lliwiau offerynnau, I gloi’r rhaglen syfrdanol hon, cawn berfformiad o Goncerto Bartok i Gerddorfa, gyda’i adleisiau o gerddoriaeth werin, dan arweiniad Giancarlo Guerrero, yr arweinydd o Costa Rica sydd wedi ennill Gwobr Grammy.

LLIWGAR DEINAMIG GAFAELGAR

Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

NOS WENER 10/5/24 7.30PM

Neuadd Brangwyn, Abertawe

CAROLINE SHAW

The Observatory [Premiere DU]

ABEL SELAOCOE

Four Spirits

BARTÓK

Concerto i Gerddorfa –

GIANCARLO GUERRERO

Arweinydd

ABEL SELAOCOE

Soddgrwth

BERNHARD SCHIMPELSBERGER

Offerynnau taro

TYMOR 23-24 | TUDALEN 59
MAEN LLIA, PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG, POWYS. Y LLWYBR LLAETHOG YN DISGLEIRIO’N GLIR Y TU ÔL I’R MAEN HIR. TUDALEN 60 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

YCHYDIG O GANU NOSWEITHIOL

Mae goleuadau nefolaidd, pefriol yn disgleirio yn y noson hon o gerddoriaeth arloesol. Mae cyfres Fauré o Pelléas et Mélisande yn agor mewn arddull sionc ond cythryblus – lleoliad cerddorol cyntaf drama Maurice Maeterlinck o’r un enw, a fyddai’n ysbrydoli cyfansoddwyr enwog eraill fel Debussy, Sibelius a Schoenberg.

Rydyn ni’n symud i uchelfannau mwy etheraidd gyda’r perfformiad cyntaf erioed o The Celestial Stranger gan Stephen McNeff; ac yna, 150 mlynedd ers geni Schoenberg, rydym yn dathlu’r cyfansoddwr radical hwn gyda pherfformiad o waith a newidiodd gwrs yr hanes cerddorol rydyn ni’n gyfarwydd ag ef – gyda symudiad chwyldroadol mewn tonyddiaeth a’r dadansoddiad o’r system draddodiadol donyddol, sef Verklärte Nacht, yn taflu ei enw allan i’r byd ac yn nodi dechrau ei daith fel y crëwr cerddoriaeth dodecaffonig, sy’n fwy adnabyddus fel cyfresiaeth. I arwain BBC NOW am y tro cyntaf, rydyn ni’n croesawu’r arweinydd hyfryd o Bortiwgal, Joana Carniero.

NOS IAU 16/5/24 7.30PM

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

FAURÉ

Cyfres Pelléas et Mélisande

STEPHEN MCNEFF

The Celestial Stranger [Premiere Byd]

SCHOENBERG

Verklärte Nacht (fersiwn 1943)

JOANA CARNEIRO

Arweinydd

GAVAN RING

Tenor

CHWYLDROADOL ANGERDDOL GOLEUOL
TYMOR 23-24 | TUDALEN 61
TUDALEN 62 | CERDDORFA A
CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

CBEEBIES: ANTUR Y

CEFNFOROEDD GYDA CHERDDORFA GENEDLAETHOL GYMREIG Y BBC

Ymunwch ag antur gerddorol arforol llawn hwyl CBeebies i’r teulu i gyd! Cymerwch anadl ddofn a phlymio o dan y dŵr yn llong danfor y neuadd gyngerdd gyda’i chriw cerddorol, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae ffrindiau CBeebies, JoJo a Gran Gran ar fwrdd y llong danfor gyda chynllun Gran Gran, ac mae llong danfor saffari Andy yn barod i fynd. Ymunwch â’r criw i chwilio am greaduriaid sydd mewn perygl, darganfod ffeithiau diddorol, a chasglu synau a lluniau ar gyfer eich llyfr lloffion o’r môr. Digwyddiad aml-gyfrwng hudolus sy’n cynnwys alawon thema CBeebies, danteithion cerddorfaol, ffilm ac animeiddiad byw gydag ambell syrpreis ar hyd y ffordd.

DYDD SADWRN 1/6/24 3PM

Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

KARIN HENDRICKSON

Arweinydd

TEULUOL HWYLIOG RHYNGWEITHIOL
TYMOR 23-24 | TUDALEN 63
ADEILAD CANOLFAN MILENIWM CAERDYDD, NEUADD HODDINOTT AC ADEILAD Y PIERHEAD, BAE CAERDYDD. TUDALEN 64 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

CYNGERDD CLOI’R TYMOR

Mae Alisa Weilerstein, y chwaraewr soddgrwth byd-enwog, yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yng nghyngerdd olaf y tymor ar gyfer un o’r concerti i’r soddgrwth uchaf ei barch. Wrth i Dvořák ail-fyw ei fywyd llawn mwynhad ond hefyd yn llawn colled, disgleiria arbenigedd alawol, egni bywiog a chariad at gerddoriaeth gwerin ei famwlad yn ei goncerto soddgrwth rhagorol. Yn yr un modd, mae dyfeisiadau cerddorol greddfol, offeryniaeth gyfoethog, ac archwiliad o’r gadeirlan “fel drws symbolaidd i mewn ac allan o’r byd hwn” yn llwyfan ar gyfer awyrgylch breuddwydiol, synfyfyriol, arallfydol. Mae hyn yn ymledu drwy waith medrus Higdon o daith sonig drwy ofod cysegredig ac i fyny i’r nefoedd – Blue Cathedral

Dychmygwch hyn – Tachwedd 1934, yn Neuadd Carnegie a symffoni newydd sbon yn cael ei chyflwyno, gan dderbyn cymeradwyaeth frwd a llawer o bobl yn moesymgrymu i’r cyfansoddwr diymhongar.

Y cyfansoddwr hwnnw oedd William Dawson, Americanwr Affricanaidd

35 oed, a oedd wedi ffoi o’i gartref yn 13 oed er mwyn gwireddu ei freuddwyd o astudio cerddoriaeth; a’r darn oedd... y Negro Folk

. Dechreuodd Dawson gyfansoddi cerddoriaeth synhwyrus

a gonest a oedd “yn sicr ddim yn waith gan ddyn gwyn” a chafodd ei ysbrydoli gan “gerddoriaeth werin negroaidd” pan oedd yn blentyn bach. Mae’r symffoni hon, sydd wedi’i llunio’n fedrus ac yn llawn emosiwn, yn athrylith pur, a phwy well i arwain y diweddglo cyffrous hwn i’r tymor na’n Prif Arweinydd, Ryan Bancroft.

NOS IAU 6/6/24 7.30PM

Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

NOS WENER 7/6/24 7.30PM

Neuadd Brangwyn, Abertawe

DVOŘÁK

Concerto i’r Soddgrwth

JENNIFER HIGDON

Blue Cathedral

DAWSON

Negro Folk Symphony –

RYAN BANCROFT

Arweinydd

ALISA WEILERSTEIN

Soddgrwth

EICONIG
YSBRYDOLEDIG
AMRYWIOL
TYMOR 23-24 | TUDALEN 65

COLABORATORY: ABEL SELAOCOE

Yn dilyn y noson gyffrous o gydweithio ag Abel Selaocoe ym mis Mehefin 2023, rydyn ni’n falch iawn o fod yn archwilio ymasiadau Gorllewinol ac Affricanaidd gyda’r artist arloesol yma unwaith eto.

Gydag un o gerddorion jazz mwyaf nodedig De Affrica, Nduduzo Makhathini, rydym yn archwilio “adrodd straeon drwy gyfrwng diwylliant ac atgofion cenedlaethau De Affrica sy’n tystio i wead dynoliaeth”. O berfformiad meistrolgar Abel ar y soddgrwth, canu gwddf traddodiadol a hyblygrwydd lleisiol anhygoel, i biano jazz heb ei ail Nduzo a byrfyfyrio rhyfeddol, mae hon yn argoeli i fod yn noson i’w chofio.

BYWIOG YSBLENNYDD

RHYFEDDOL

NOS SUL 23/6/24 6PM DEPOT, Caerdydd

ABEL SELAOCOE

Unawdwyr

NDUDUZO MAKHATHINI

Unawdwyr

TUDALEN 66 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

“Mae llawer i edrych ymlaen ato yn y tymor newydd, ond rwy’n arbennig o gyffrous bod y chwaraewr soddgrwth o Dde Affrica, Abel Selaocoe, yn dychwelyd atom ym mis Mai 2024 i berfformio ei goncerto newydd i’r soddgrwth. Mae’n chwaraewr soddgrwth ac yn gerddor rhyfeddol ac yn ddyn hynod sy’n ysbrydoli ac yn ysgogi. Mae ei garisma a’i egni yn syfrdanol!

Mae’n dod â seiniau newydd godidog a thrydanol i’r llwyfan cyngerdd, wedi’u hysbrydoli gan gerddoriaeth ac offerynnau traddodiadol Affrica. Rydw i mor ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle i weithio gydag ef ac rydw i wrth fy modd mai ef yw ein Hartist Cyswllt newydd. Concerto Bartók i’r Gerddorfa a gawn yn yr ail hanner – gwaith sy’n galw am berfformiad virtuoso gan bob un ohonom – mae’n eithriadol o anodd, ond hefyd yn hyfryd.

Mae’n werth yr ymdrech!”

Jessica Feaver, Is-brif Chwaraewr Soddgrwth

TABLE MOUNTAIN, DE AFFRICA. MACHLUD HAUL AR GOPA GWASTAD Y MYNYDD, SY’N DIRNOD ARWYDDOCAOL UWCHBEN CAPE TOWN.
TYMOR 23-24 | TUDALEN 67

CADW’R DYDDIAD...

NOS WENER 13/10/23

7.30PM

Theatr Donald Gordon, WMC

‘BOTH SIDES NOW’ – CELEBRATING JONI MITCHELL

Yn cynnwys Charlotte Church, Gwenno, Eska, Laura Mvula a Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

DYDD SUL 19/11/23 3PM

Neuadd Hoddinott y BBC

CYNGERDD OCHR-YN-OCHR CERDDORFA GENEDLAETHOL GYMREIG Y BBC A CHERDDORFA GENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU

NOS SADWRN 13/7/24 7PM

Lichfield Cathedral, Lichfield

GŴYL EGLWYS GADEIRIOL LICHFIELD

Ryan Bancroft sy’n arwain Egdon Heath gan Holst, Concerto Soddgrwth Elgar, gyda Senja Rummukainen fel unawdydd, a Symffoni Rhif 3 Brahms.

TUDALEN 68 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.