Helpu canolfannau cymunedol i leihau eu hôl troed carbon

Page 1

Dewch yn Ganolfan Gymunedol Carbon Isel Canllaw i leihau 么l troed carbon eich canolfan

... 1


Fel rhan o her Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, cymerodd tair o ganolfannau cymunedol Cymru ran mewn cystadleuaeth gyfeillgar i ddod o hyd i ffyrdd arloesol a difyr o leihau eu hôl troed carbon. Nod yr her oedd dangos y gallai gweithredoedd unigolion a chymunedau helpu i leihau ôl troed carbon Cymru. Mae’r canllaw hwn yn seiliedig ar brofiadau tair canolfan – Canolfan Gymunedol Pontrobert ym Mhontrobert, Powys, Canolfan Gymunedol Bridges yn Sir Fynwy a Chanolfan Gymunedol Bloomfield yn Arberth. Mae’n rhoi tair lefel o gamau y gallwch eu cymryd i helpu i leihau ôl troed carbon eich canolfan gymunedol. Maent yn amrywio o awgrymiadau cyflym a hawdd i syniadau mwy cymhleth y gallech eu rhoi ar waith yn raddol. Y newyddion da yw bod y rhan fwyaf o’r camau gweithredu yn perthyn i lefel un, sy’n golygu eu bod yn ffyrdd cyflym, hawdd a rhad i ganolfannau cymunedol leihau eu hôl troed carbon ac arbed arian ar yr un pryd. Ond y ffordd orau o sicrhau llwyddiant yw dod â’ch cymuned yn rhan o’r gwaith. Yn ogystal â hybu cynlluniau rhannu ceir a phrynu cynnyrch lleol ymhlith ei haelodau, cynhaliodd Canolfan Gymunedol Pontrobert gwisiau newid hinsawdd ac arddangosiadau ffilmiau rheolaidd i helpu i addysgu defnyddwyr y ganolfan am y gwahaniaeth y gallant ei wneud.

... 2

Felly, i sicrhau’r llwyddiant mwyaf, cyn dechrau ceisiwch: •S icrhau ymrwymiad uwch dîm eich canolfan drwy gytuno ar amcanion carbon isel •H ysbysu defnyddwyr y ganolfan a’r prif randdeiliaid ynghylch y broses i sicrhau eu bod yn deall eich gweithredoedd a’r rhesymau tu ôl iddynt •G weld beth yw ôl troed carbon cyfredol yr adeilad a gosod targedau.


Lefel 1 Araf bach mae dal iâr... newidiadau syml i leihau eich ôl troed carbon •S iarad – Mae’n bosibl y bydd y staff a’r defnyddwyr wedi gweld ffyrdd o leihau ôl troed carbon y ganolfan. Siaradwch â nhw a rhannu syniadau a hefyd eu hannog nhw i feddwl sut y gallant adrodd yr hyn a ddysgwyd yn ôl i’r gymuned leol. •A ddysgu – Cynnal dosbarthiadau ar gyfer eich cymuned leol i’w hysbysu ynghylch y newid yn yr hinsawdd a dangos iddynt sut mae lleihau eu hôl troed carbon. Cynhaliodd Canolfan Gymunedol Bloomfield ddosbarthiadau gwnïo i annog pobl i ailddefnyddio deunydd a’i droi yn ddillad. Cynhaliodd Canolfan Gymunedol Bridges gwrs coginio i greu prydau am brisiau rhesymol gan ddefnyddio cynnyrch lleol. • Ailgylchu – Mae modd ailgylchu y rhan fwyaf o ddeunyddiau erbyn hyn gan gynnwys papurau, plastig, metelau neu wastraff bwyd a all gael ei gompostio. Dangosodd Canolfan Gymunedol Bridged sut mae ailgylchu ffonau symudol ac anfonodd ei hen bapurau newydd i gwmni lleol eu hailgylchu a’u defnyddio i inswleiddio waliau. • Prynu’n lleol – Mae prynu bwyd lleol yn golygu nad yw wedi teithio mor bell i gyrraedd y siop, gan olygu eich bod yn cael bwyd mwy ffres o’ch ardal sy’n cefnogi cynhyrchwyr lleol. .

Ceisiwc h defnyd farn eich dwyr. C awson anoga ni eth gan y g a syniadau d ymune d yngh i-ri y ffyrd y dg lch wyneb wahanol o u’r her . John Ro se, Can olf Gymun edol Po an ntrober t 3

...


• Diffodd – Gall diffodd goleuadau ac offer gan ofalu nad ydynt ar standby arbed symiau sylweddol o drydan ac arian! Ar wahân i’r allyriadau carbon sy’n cael eu cynhyrchu wrth gyflenwi trydan i’r offer segur hyn, mae cyflenwi trydan i offer segur yn gwastraffu arian ac yn costio £6,000 i bob swyddfa ‘gyffredin’ yn y DU. • Gweld y goleuni – Defnyddiwch fylbiau golau sy’n arbed ynni • Paned lai gwastraffus – Mae peidio â berwi mwy o ddŵr nag sydd ei angen arnoch ar gyfer eich diod boeth yn eich helpu i beidio â gwastraffu ynni. Llai o ddŵr = llai o ynni! • Meddwl cyn prynu – Edrychwch ar becynnau cynhyrchion cyn eu prynu a cheisiwch ddewis y cynhyrchion sydd â llai o ddeunydd pacio er mwyn creu llai o wastraff. • Rhannu gydag eraill – Os oes gan eich cymuned nwyddau diangen, dylid eu rhoi i bobl mewn ardaloedd cyfagos yn lle eu taflu i ffwrdd. Rhoddodd Canolfan Gymunedol Pontrobert ei llestri diangen i’w chanolfan argyfwng teulu lleol yn lle eu taflu i ffwrdd.

an yn yr Her Drwy gymryd rh , rydym Newid Hinsawdd ar ein biliau. wedi gwario llai n hysgogi’n Mae hyn wedi ei en fawr gan mai elus ni. gofrestredig ydyn , Canolfan Heather Vincent 4 Gymunedol Bridges

...

• Teithio’n wyrdd – Mae teithio ar y bws a rhannu ceir yn ffyrdd syml a mwy cymdeithasol o deithio a lleihau allyriadau carbon. Rhowch anogaeth i staff a defnyddwyr y ganolfan i rannu ceir a gosodwch amserlenni bysiau a threnau mewn mannau hawdd eu gweld. Dylai gwybodaeth i ymwelwyr (ar wefannau neu mewn taflenni) hefyd roi cyfarwyddiadau cerdded a beicio i’ch canolfan yn ogystal â manylion trafnidiaeth gyhoeddus. Mae plant lleol Canolfan Gymunedol Bloomfield yn defnyddio bws cymunedol y ganolfan yn hytrach na cheir eu rhieni a thrwy wneud hyn maent yn lleihau eu hôl troed carbon.


Lefel 2 Gweithredu mwy… cymerwch gam mwy i leihau eich ôl troed • Fflysio fforddiadwy – Gosodwch ddyfais arbed dŵr ar sestonau eich tai bach i arbed oddeutu tri litr o ddŵr bob tro y byddwch yn tynnu’r dŵr mewn tŷ bach. Mae hyn yn gyfwerth yn gyffredinol â £3 y pen y flwyddyn, gan ddibynnu ar nifer y bobl sy’n defnyddio’ch canolfan. Gallai hyn arbed symiau sylweddol os oes gennych fesurydd dŵr. • Y tapiau gorau – Mae tapiau gwasgu lawr a rhai gyda synwyryddion yn helpu i arbed dŵr o’u cymharu â thapiau safonol sydd â llif cyson o ddŵr. Mae’r tapiau hyn yn ddelfrydol ar gyfer canolfannau cymunedol a gweithleoedd lleol lle mae’r tapiau yn cael eu defnyddio’n fwy aml. Defnyddiodd Canolfan Gymunedol Pontrobert lawer llai o ddŵr gan osod tapiau gwasgu lawr • Inswleiddio – Mae sawl ffordd o inswleiddio’ch adeilad i leihau costau gwresogi a defnyddio llai o ynni. Gallwch inswleiddio pibelli dŵr poeth a rhoi siaced inswleiddio ar eich tanc dŵr poeth i’w gadw’n dwym. Mae’n hawdd ychwanegu inswleiddiad atig neu wal geudod at lawer o adeiladau a bydd y costau’n cael eu had-dalu’n gyflym wrth i’r biliau gwresogi ostwng. Mae’r H Mae adeilad heb inswleiddiad yn colli tua 20% er N w edi dan ewid Hinsaw o’i wres drwy’r to a 33 y cant drwy’r waliau. gos ei b dd bod yn o d y n g ha a • Atal drafftiau – Cymerwch gamau i atal â’r new wdd mynd i’r llu id a f drafftiau o ffenestri a drysau. Gellir gwneud Gall y n yn yr hinsawd ael ewidiad d. hyn yn gyflym heb wario lot o arian a gall a wneud gwaha u lleiaf leihau’r angen i ddefnyddio system wresogi. niaeth gallant maw fod yn d difyr he r a Vicki Tr ave fyd. Canolfa rs-Milne, nG Bloomfie ymunedol 5 ld


Lefel 3 Mynd amdani... cymerwch bob cam posibl i helpu i leihau eich ôl troed carbon • Mynd am radd A – Os oes oergell neu unrhyw nwyddau gwynion eraill gan eich canolfan gymunedol, meddyliwch am brynu offer rhad-ar-ynni pan fydd angen eu newid. Defnyddir y raddfa A++ i G i fesur effeithlonrwydd ynni nwyddau gwynion. Y rhai gradd A yw’r rhai rhataf-ar-ynni. Mae defnyddio’r offer rhataf-ar-ynni yn ffordd wych o leihau costau rhedeg. • Gwydr dwbl – Newidiwch hen ffenestri am rai gwydr dwbl. Bydd hyn yn gofyn am fuddsoddiad ymlaen llaw ond byddwch yn colli 50% yn llai o wres drwy’r ffenestri. Bydd hefyd yn lleihau sŵn o’r tu allan ac yn atal drafftiau yn eich canolfan. • Boeleri gwell – Gallwch leihau allyriadau carbon drwy osod boeler cyddwyso neu foeler cyddwyso cyfun. Y boeleri safonol yw’r boeleri hyn erbyn hyn, sydd wedi cymryd lle systemau gwresogi tanwydd solet a thrydan. Maent yn lleihau biliau gwresogi ac allyriadau carbon.

• Golau’r haul – Mae trydan Aeth yr holl ganolfannau oedd solar o baneli solar ffotofoltäig wdd Hinsa d Newi Her yn rhan o’r yn ffordd o gynhyrchu trydan o â’r her i’w cymunedau gan ffynhonnell ynni adnewyddadwy, u cama yd gymr annog pobl leol i felly mae’n lleihau’ch ôl troed ithio gobe ni’n n Rydy isel. n carbo carbon ac mae’n cynhyrchu y bydd mwy o ganolfannau a trydan am ddim. Gosodir paneli yn mru Nghy yng au chymuned ffotofoltäig a boeler newydd rhaddilyn eu hesiampl a dechrau lleihau ar-ynni yng Nghanolfan Gymunedol eu hôl troed carbon eu hunain. Pontrobert wrth iddi barhau i leihau ths, Griffi John ei hallyriadau carbon. Gweinidog yr Amgylchedd

... 6


Felly am beth y’ch chi’n aros? Cam wrth gam mae gwella’ch ôl-troed! Cymryd rhai o’r camau uchod yw’r cwbl y mae angen i ganolfannau cymunedol Cymru ei wneud i leihau eu hôl troed carbon yn sylweddol. Y peth pwysicaf, a hawsaf efallai, yw codi ymwybyddiaeth defnyddwyr eich canolfan a’ch cymuned leol o sut y gallant leihau eu hôl troed carbon, gartref, yn y gwaith neu yn eu hardal leol. Mae nifer o’r camau uchod yn berthnasol i gartrefi a gweithleoedd yn ogystal â chanolfannau cymunedol.

... 7


I gael rhagor o wybodaeth am sut gall eich canolfan helpu i leihau ôl troed carbon Cymru ewch i: • Ôl Troed Carbon Cymruwww.cymruoltroedcarbon.gov.uk. Mae’n rhoi rhagor o gyngor am leihau eich ôl troed carbon • Ymddiriedolaeth Garbon Cymru www.carbontrust.co.uk/wales Mae’n helpu busnesau yng Nghymru i leihau eu hôl troed • Ymddiriedolaeth Arbed Ynni Cymru www.energysavingtrust.org.uk Mae’n cynnig cyngor am ddim i berchnogion tai i’w helpu i leihau eu hallyriadau • Dwr Cymru www.dwrcymru.com Cyngor am arbed dŵr • Cynnal Cymru www.cynnalcymru.com Mae’n rhoi gwybodaeth am yr hyn y mae pobl eraill yn ei wneud yng Nghymru • Cynllun Craff am Wastraff www.cynlluncraffamwastraff.org.uk Mae’n rhoi cyngor am ddelio â’ch gwastraff • Freecycle www.freecycle.org Gwefan lle y gallwch gael gwared â’ch eitemau diangen am ddim a chael eitemau pobl eraill am ddim • Freegle www.ilovefreegle.org Gwefan arall lle y gallwch brynu eitemau a gwerthu’ch eitemau diangen.

Nid mater moesol yn unig yw penderfynu torri allyriadau carbon eich canolfan, gan fod gwneud hyn hefyd yn lleihau eich biliau ynni’n sylweddol, yn arbed arian i chi ac yn gwella’ch enw da yn y gymuned. Adeiladau annomestig sy’n cynhyrchu bron i ugain y cant o allyriadau carbon y DU. Gan fod 60 y cant o’r adeiladau a fydd yn bodoli yn 2050 eisoes wedi’u hadeiladu bydd angen eu hailwampio gan ddefnyddio mesurau carbon isel er mwyn cyrraedd targedau lleihau ynni. Os hoffech ragor o wybodaeth ynghylch sut gall grwpiau cymunedol helpu Cymru i leihau ei hôl troed carbon edrychwch ar ‘Brif Bwyntiau Gweithredu’r Trydydd Sector’ yn Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd. Mae’r strategaeth ar gael yn www.cymru.gov.uk/newidhinsawdd yn yr adran ‘Ein Cyhoeddiadau’.

... 8

© Hawlfraint y Goron 2011 WG13877


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.