Cardiff Met Confrences Newsletter 10 - Welsh

Page 1

RHIFYN 10

Cynadleddau Met Caerdydd Yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi Croesawu Digwyddiadau’n ôl i Met Caerdydd Ar ôl 18 mis hir, rydym yn hynod falch o ddechrau croesawu cleientiaid yn ôl i Met Caerdydd. Ym mis Gorffennaf, cynhaliwyd Rownd Derfynol Genedlaethol y Criw Mentrus gennym. Er nad oedd modd

i’r cystadleuwyr ysgol gynradd fynychu yn y cnawd eleni eto, roedd hi’n wych gweld Cazbah, Syniadau Mawr Cymru, Buffoon Media, a'r tîm i gyd yn cydweithio i greu digwyddiad ffrwd byw mor gyffrous ar gyfer mwy na 100 o blant ysgol gynradd o bob cwr o Gymru.

Gan ein bod ni’n Brifysgol sy'n canolbwyntio ar amrywiaeth a chynwysoldeb, fe wnaethom groesawu diwrnod ymgysylltu B.A.M.E. Heddlu De Cymru i gampws Llandaf â balchder ym mis Gorffennaf. Mynychwyd y diwrnod gan ddeg ar hugain o gynrychiolwyr a gweiniwyd pecyn bwyd bag brown yn yr awyr agored ar ardal patio yr Atriwm. Ym mis Hydref, fe wnaethom gynnal Diwrnod Datblygu Merched CyberFirst ar Gampws Llandaf. Gan mai digwyddiad ychydig yn fwy oedd hwn y’i cynhaliwyd dros y penwythnos, fe’i defnyddiwyd gan y brifysgol fel digwyddiad peilot i brofi'r protocolau Covid ychwanegol sydd wedi’u rhoi ar waith i sicrhau diogelwch ein myfyrwyr, ein staff a'n hymwelwyr. Bu’r digwyddiad yn llwyddiant mawr ac fe wnaeth y myfyrwyr ifanc a fynychodd fwynhau’r cyfle i dreulio eu diwrnod yn dysgu mewn amgylchedd prifysgol uwch-dechnoleg. Ers mis Medi, rydym hefyd wedi dechrau croesawu plant lleol o gymunedau Tsieineaidd a Phwylaidd

yn ôl ar gyfer dosbarthiadau penwythnos, yn ogystal â chleientiaid newydd a rheolaidd eraill i ddefnyddio’n hystafelloedd cynadledda pwrpasol a chynnal digwyddiadau gyda'r nos ar gampws

Cyncoed a Llandaf. Rydym wedi gweld eisiau ein cleientiaid yn fawr felly mae hi wedi bod yn wych i weithio gyda busnesau lleol a'r gymuned, a'u cefnogi, unwaith eto.

01


Mêl Met Caerdydd a Buddion Cymunedol eraill Os ydych chi’n byw yn lleol i Met Caerdydd, efallai byddai gennych ddiddordeb mewn gwybod bod gennym nifer o fentrau cymunedol cynaliadwy y gallwch fanteisio arnynt, gan gynnwys:

Marchnadoedd Ffermwyr Cymunedol

Digwyddiadau Casglu Sbwriel

Caffis Atgyweirio

Gwasanaethu Beiciau

Gweithdai Gwyrdd

Arwyr Draenogod

Eleni yw'r tro cyntaf inni gynhyrchu ein mêl ein hunain hefyd, sydd ar gael i'w brynu yn ein marchnadoedd Ffermwyr, tra bod y stoc yn para!

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod rhagor neu os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â: sustainability@cardiffmet.ac.uk neu cymerwch olwg ar ein tudalennau gwe Cynaliadwyedd.

Mêl Met Caerdydd yn mynd ar werth!

Met Caerdydd yn derbyn gwobr genedlaethol Roedd Met Caerdydd yn llawn cyffro i gael ei dyfarnu’n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 gan The Times a The Sunday Times Good University Guide. Dywedodd yr Athro Cara Aitchison, Is-Ganghellor a Llywydd Met Caerdydd:

“Mae cymuned gyfan Met Caerdydd wrth ei bodd o dderbyn gwobr genedlaethol a gydnabyddir mor eang. Bu hon yn flwyddyn heriol, ond rydym wedi perfformio'n dda drwyddi draw yn y prif arolygon a chanllawiau blynyddol. Mae'r wobr hefyd yn cydnabod cynnydd y Brifysgol wrth gyflawni ei strategaeth uchelgeisiol a'i hystod o ddatblygiadau cysylltiedig dros y blynyddoedd diwethaf.” Yn ogystal, rydym hefyd yn falch iawn bod Met Caerdydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Prifysgol y Flwyddyn yn y gwobrau THE mawreddog.

Dychwelyd ati Rydym yn brysur yn derbyn ymholiadau ar gyfer digwyddiadau’r flwyddyn nesaf ar hyn o bryd. Cysylltwch â ni ar conferenceservices@cardiffmet.ac.uk i drafod eich digwyddiad, gwirio argaeledd neu drefnu taith dywys.

02


Datblygiadau ar y Campws Rydym wedi cyffroi i gyflwyno'r caffi Hyb newydd ar gampws Llandaf. Mae'r Hyb wedi'i leoli ar flaen y campws ac mae ganddo seddi i hyd at 181 o bobl, gan gynnwys bythod, gorsafoedd gwaith unigol, seddi lolfa, byrddau caffi, ystafell gyfarfod a digonedd o wyrddni i ychwanegu at yr awyrgylch. Bydd y caffi ar agor i ymwelwyr unigol yn ogystal â grwpiau cynadledda.

Mae caffi'r Galeri yn y prif adeilad ar gampws Llandaf hefyd wedi cael adnewyddiad helaeth a gweddnewidiad llwyr. Ceir seddi hyblyg ar gyfer mwy na 100 o bobl ynghyd â 4 ystafell gyfarfod gyfforddus a gofod arddangos gorlanw.

Yn ystod y cyfnod clo gorfodol, gwellodd y brifysgol nifer o'n mannau awyr agored gan ychwanegu mwy o ardaloedd glaswellt a blodau gwyllt a hyd yn oed nodwedd ddŵr. Mae ambell i fan awyr agored newydd anhygoel wedi’u creu gan roi lle anffurfiol ychwanegol i gwrdd a chymdeithasu, pan fydd y tywydd yn caniatáu hynny neu â siwmper gynnes amdanoch. Rhoddwyd cyfle i staff y brifysgol eu henwi a dyma oedd y canlyniad!

Sied Zeppelin ar Gampws Llandaf

Gwnaed llawer o waith dros y 18 mis diwethaf ar adeiladau’r Ysgol Dechnolegau newydd ar Gampws Llandaf.

Ewch ar rith-daith 3D o gwmpas Ysgol Dechnolegau CaerdyddTechnologies

Y Cwtsh ar Gampws Llandaf a SiedMet ar Gampws Cyncoed

03


Edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf Er bod busnes wedi bod yn araf yn y diwydiant digwyddiadau, mae'r Tîm Cynadledda wedi parhau i chwarae eu rhan yn y Brifysgol drwy gynorthwyo adrannau eraill ar adleoliadau dros dro wrth fod ar ffyrlo rhan amser. Roedd hyn yn cynnwys defnyddio amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy i gefnogi Tîm Cydymffurfiaeth Ymgysylltu Byd-eang â myfyrwyr rhyngwladol, diweddaru'r tudalennau gwe ar gyfer y Tîm Cynaliadwyedd a darparu gwasanaeth Cymorth Hunanynysu (CH) i fyfyrwyr preswyl. Mae'r Brifysgol wedi bod yn hynod gefnogol yn ystod y pandemig gan gyflwyno mentrau, rhaglenni, cyrsiau hyfforddi iechyd a lles a'r Polisi Dim Anfantais.

“Roedd helpu adrannau eraill yn heriol ac yn werth chweil wrth ddysgu sgiliau trosglwyddadwy newydd. Roedd y tîm CH yn gyswllt hanfodol rhwng y myfyrwyr a'r brifysgol a oedd yn amhrisiadwy yn ystod yr adeg hon.” Dywedodd Sally

“Yn ystod cyfnod mor heriol, mae cael cefnogaeth ragorol gan Met Caerdydd, gan fy rheolwr llinell a'r tîm ehangach wedi bod yn rhyddhad mawr. Cefais yr hyblygrwydd i weithio gartref, i helpu fy mab ag addysgu gartref, i gymryd rhan mewn hyfforddiant, i chwarae fy rhan wrth gynorthwyo adrannau eraill, ac rydw i wedi derbyn cefnogaeth ariannol drwy gydol y cyfnod.” Dywedodd Eva

Yn ystod Pasg 2021, yn hytrach na siocled, derbyniodd pob un o dros 100 o aelodau'r tîm Gwasanaethau Masnachol becyn o hadau, gan gynnwys blodau'r haul, tomatos a mefus. Anogwyd staff i blannu, monitro twf a rhannu lluniau, a chafwyd rhai canlyniadau trawiadol.

“Trwy gydol y pandemig, rydym wedi parhau’n unedig fel tîm ac, fel bob amser, rydym yn parhau i flaenoriaethu buddiannau a diogelwch ein cleientiaid ym mhob penderfyniad a wnawn. Rydw i mor falch o'r tîm am eu hyblygrwydd a'u hagwedd bositif ar hyd y 18 mis diwethaf” Brwydr Dyfu Fawr y Gwanwyn y Gwasanaethau Masnachol #CSGreatSpringGrowOff

Sylwadau Clare

Oes cyfarfod neu ddigwyddiad gennych ar y gorwel y gallem eich helpu ag ef? E-bostiwch ni ar conferenceservices@cardiffmet.ac.uk er mwyn trefnu i weld ein cyfleusterau neu i gael dyfynbris cystadleuol ar gyfer eich digwyddiad nesaf.

Ymunwch â ni ar...

 Twitter

 Facebook

 Linkedin

 Instagram

www.cardiffmet.ac.uk/conferences

04


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.