Ehangu Mynediad - Ysgol Haf ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion

Page 1

dysgwyr
oedolion Campws Llandaf 12 – 23 Mehefin 2023 Ë
Prifysgol orau yn y DU am gynaliadwyedd
Ehangu Mynediad Ysgol Haf ar gyfer
sy'n
Cyrsiau am Ddim!

Croeso!

Croeso i Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan 2023. Mae ein Tîm Ehangu Mynediad yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau blasu AM DDIM ar gampws Llandaf a gynhelir rhwng 12 a 23 Mehefin, 2023.

Pwy ydyn ni?

Mae’r Tîm Ehangu Mynediad yn gweithio’n agos gyda chymunedau lleol i gynnal amrywiaeth o gyrsiau sy’n targedu’r rhai hynny sydd heb gael cyfle yn flaenorol i astudio ym maes Addysg Uwch. Mae ein Hysgol Haf yn gyfle i ddysgwyr i weld ein cyfleusterau a phrofi sut beth fyddai astudio mewn prifysgol. Gall y cyrsiau blasu hyn hefyd arwain at gyrsiau hirach achrededig a all ddarparu mynediad ar gyfer astudio ar ein rhaglenni Sylfaen yma ym Met Caerdydd. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Thîm Ymestyn yn Ehangach yma ym Met Caerdydd sy’n cynnig profiadau ychwanegol a chyfleoedd ar gyfer oedolion o ddysgwyr i gyrchu Addysg Uwch. Mae Ymestyn yn Ehangach yn cynnal rhai cyrsiau newydd cyffrous yn ystod rhaglen eleni.

Pwy all fynychu?

Mae ein Hysgol Haf ar agor i bob oedolyn dros 18 oed. Fodd bynnag, rhoddir blaenoriaeth i ddysgwyr sydd:

✔ yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd lluosog

✔ ddim wedi cyrchu cyfleoedd Addysg Uwch

✔ yn hawlio Budd-daliadau’r Llywodraeth (ac eithrio budd-dal plant)

✔ ar incwm isel neu’n wynebu ‘tlodi mewn gwaith’

✔ yn ofalwr llawn amser di-dâl neu’n rhywun sy’n gadael gofal

✔ wedi cael eu hatgyfeirio gan un o’n sefydliadau partner

Sut ydw i’n cofrestru?

Gallwch gofrestru drwy lenwi’r ffurflen archebu ar-lein sydd ar gael ar ein gwefan www.cardiffmet.ac.uk/summerschool neu drwy sganio’r cod QR. Os ydych yn cael anhawster i gyrchu’n ffurflen neu angen help i’w chwblhau, cysylltwch â’n Tîm Ehangu Mynediad a fydd yn barod i’ch cynorthwyo:

 029 2020 1563

 wideningaccess@cardiffmet.ac.uk

Sganiwch yma i gofrestru gan ddefnyddio ein ffurflen archebu ar-lein

Ë

Mynegai

Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Dysgwyr sy'n Oedolion 1 Page Sgiliau Academaidd 2 Mynediad i addysgu: Gwnewch fi’n athro 2 Celf â Chalon 3 Paentio Artistig 3 Ffotograffiaeth i Ddechreuwyr 4 Newid cymunedau: Rhagarweiniad i weithredu cymdeithasol 4 Datblygiad Plentyn 5 Ysgrifennu Creadigol a Darlunio 5 Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol 6 Datblygu Swydd Lletygarwch Ychwanegol 6 Ysgrifennu Amgylcheddol 7 Game Jam: Dylunio a Chwarae Gemau 7 Sut i Greu eich Portffolio Celf a Dylunio 8 Rhagarweiniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol 8 Rhagarweiniad i Baratoi i Addysgu Oedolion 9 Rhagarweiniad i Wnïo 9 Rhagarweiniad i Gymdeithaseg 10 Rhagarweiniad i Waith Ieuenctid a Gwaith Cymunedol 10 Cynllunio’ch Dyfodol 11 Paratoi ar gyfer IELTS Academaidd 11 Cychwyn eich Menter eich Hun 12 Deall Iechyd Meddwl a Llesiant Plant/Pobl Ifanc 12 Uwch-gylchu Ffasiwn 13 Ysgrifennu Ffurflen Wyddonol a Ffantasi 13 Adborth Dysgwyr 14 Cynllunydd Cwrs Defnyddiol 15 Taith Dysgwyr 16-17 Cwestiynau Mynych 18-19 Y Camau Nesaf 20-21 Cymorth Ychwanegol 22-23 Telerau ac Amodau 24-25

Dydd Mawrth 13

a Dydd Mercher 14 Mehefin

Cwrs 2-ddiwrnod

10.00am to 3.00pm

Sgiliau Academaidd

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Campws Llandaf

Mae’r cwrs dau ddiwrnod hwn yn cynnig cyfle cyffrous i chi wella’ch

sgiliau academaidd. Mae’r ffocws ar bedwar maes hanfodol – ysgrifennu, ymchwil, cymryd nodiadau a rheoli

amser – bydd y gweithdai hyn yn

ddefnyddiol iawn i’ch paratoi ar gyfer

astudiaeth bellach, naill ai yn y coleg neu ar un o'n cyrsiau Ehangu

Mynediad achrededig. Yn y sesiwn

‘ysgrifennu’, byddwn yn ystyried sut y gallwch ysgrifennu’n glir ac effeithiol.

Byddwn hefyd yn ystyried rhai o’r

camgymeriadau ysgrifennu mwyaf

cyffredin a sut i’w hosgoi. Mae 'ymchwil' yn ymwneud â dod o hyd i’r wybodaeth gywir. Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych ar yr adnodau

sydd ar gael i wneud hyn a’r mathau o adnoddau a ddewch chi o hyd iddyn nhw. Bydd 'cymryd nodiadau' yn dangos i chi sut gall ysgrifennu

gwybodaeth ar bapur ei droi’n rhan bwysig o’r dysgu. Drwy feddwl yn

ofalus am yr hyn yr ydych yn ei

ddarllen neu'n gwrando arno, gallwch

gofio llawer mwy am y pwnc. Bydd

'rheoli amser' yn dangos i chi sut i drefnu’ch ymrwymiadau a rheoli’r

galwadau ar eich amser. Mae bod yn

drefnus yn golygu y byddwch yn gallu

ticio bob un o'r tasgau ar eich 'rhestr o bethau i’w gwneud' a theimlo

boddhad eich bod yn gwneud

cynnydd!

Dydd Mercher, Mehefin 14

neu Ddydd Mercher, Mehefin 21

Cwrs ½ diwrnod

(dau ddyddiad ar gael)

10.00am to 12 y prynhawn

Mynediad i addysgu: Gwnewch fi’n athro

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Campws Llandaf

Ydych chi wedi ystyried gyrfa ym maes addysgu? Ydych am wybod ai addysgu ydy’r yrfa i chi? Ydych chi am wneud gwahaniaeth ond heb y wybodaeth am sut orau i gychwyn ar eich taith addysgu? Lluniwyd y sesiwn hon i ddarparu cipolwg ar fywyd

athro yn ogystal a ble i gychwyn ar eich taith addysgu. Mae'r sesiwn hon yn ystyried y llwybrau i mewn i addysgu ac yn rhoi cyfle i chi ofyn

cwestiynau i’ch helpu ystyried eich sgiliau chi eich hunain, eich gwybodaeth a’ch profiad i’ch cynorthwyo i gychwyn ar yrfa ym maes addysgu.

Mae’r sesiwn yn un ymlaciol, yn rhyngweithiol ac yn fodd pleserus o ddarganfod rhagor am ddarpar yrfa newydd ar eich cyfer. Cewch drafod a chlywed am rôl addysgu yn y sector cynradd ac uwchradd; ystyried yr hyn sy’n gwneud athro perffaith; nodir hyn sydd ei angen arnoch chi i fod yn llwyddiannus; ac ystyried darpar lwybrau dilyniant ar gyfer astudiaeth bellach. Felly, os ydych am wybod rhagor am addysgu, hon ydy’r sesiwn i chi. Mae’n gyfle gwych i chi gynllunio eich camau gyrfaol nesaf.

2 Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Dysgwyr sy'n Oedolion

Dydd Mercher, Mehefin 14

Cwrs 1 diwrnod

10.00am to 3.00pm

Celf â Chalon

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Campws Llandaf

Byddwn yn ymarfer sgiliau arsylwi, cofnodi'n weledol a datblygu’ch arddulliau eich hunan i greu lluniau bywyd llonydd sy’n hardd a diddorol. Ar y dechrau byddwn yn defnyddio pensiliau a chyfryngau eraill, ond byddwn yn ffocysu ar arbrofi gyda tecstilau, yn dysgu sut i ddal a chyfleu’r gwrthrychau sydd o'n blaenau. Byddwch yn datblygu portffolio bach i gyfrannu at eich casgliad o gelf personol a allai gael ei gyflwyno tuag at wneud cais am gwrs sylfaen celf Lefel 3 neu radd prifysgol lefel 4, neu'n rhywbeth i’w fwynhau adre. Byddwn yn ymarfer ac arbrofi gyda dulliau newydd o arsylwi a darlunio soledrwydd, pwysau, cysgod, gwead, tôn, teimlad, cynrychiolaeth a chalon a pherthynas dau wrthrych â’i gilydd. Cewch ddatblygu’ch hyder a mynegi’ch hunan mewn ffyrdd newydd wrth i ni wthio’r ffiniau a chanfod y byd a ni’n hunain yn wahanol.

Dydd Iau, Mehefin 15

a Dydd Gwener, Mehefin 16

Cwrs 2 ddiwrnod

10.00am to 3.00pm

Paentio Artistig

Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf

Croeso i bob lefel o brofiad!

Nod y cwrs paentio Artistig hwyliog dau ddiwrnod hwn ydy ein hysbrydoli i fynegi ein hunain yn greadigol ac ystyried gwahanol dechnegau marcio a lluniadu gan gynnwys sgiliau arsylwi, cynllunio darlun a deall lliw. Bydd digon o gyngor ar gael i chi ddatblygu a mireinio'ch sgiliau artistig a magu’ch hyder. Mae’r cwrs hwn yn ymwneud â’ch taith artistig ac mae’n caniatáu i chi symud ar eich cyflymder eich hun a mwynhau’r broses o fod yn greadigol. Drwy gyfrwng paent acrylig, gallwch ymdrochi mewn bod yn greadigol a llunio darn gorffenedig/campwaith ar gynfas!

Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Dysgwyr sy'n Oedolion 3

Dydd Iau, Mehefin 22 – Dydd

Gwener, Mehefin 23

Cwrs 2-ddiwrnod

10.00am to 3.00pm

Ffotograffiaeth i Ddechreuwyr

Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf

Tuesday 20th June 1-day course 10.00am to 2.30pm

Newid cymunedau: Rhagarweiniad i weithredu cymdeithasol

Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf

Mae’r cwrs dau ddiwrnod hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr ac yn dadelfennu cydrannau sylfaenol ffotograffiaeth llwyddiannus. Byddwn yn ystyried technegau yn cynnwys dinoethiad a chyfansoddiad, yn eich helpu chi i dynnu lluniau gwell a nodi yr hyn sy’n ddeniadol am ffotograffau. Bydd y cwrs hefyd yn canolbwyntio ar eich helpu i ddeall y cyfarpar yr ydyn yn ei ddefnyddio, boed y camera llaw diweddaraf neu’r camera ar eich ffôn. Mae hwn yn gwrs creadigol ac yn cynnig rhagarweiniad defnyddiol i bwnc celf a dylunio.

Rydym yn cynghori bod gan bob myfyriwr fynediad i gamera digidol neu ffôn gamera ac yn gwybod sut i’w ddefnyddio.

Bydd y cwrs byr hwn yn cynnig rhagarweiniad i ddysgwyr i weithredu cymdeithasol a’r buddion i unigolion a'r gymuned ehangach a’r sialensiau cyffredin a wynebir. Mae’r cwrs yn cynnig trosolwg ar sut i nodi anghenion y gymuned, deall sut i weithio ag eraill i osod targedau a’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer newid effeithiol drwy ddigwyddiadau cymunedol, drwy weithredu ac ymgyrchoedd yn y gymuned. Mae’n gwrs delfrydol os ydych am gychwyn neu barhau i weithio neu wirfoddoli yn y gymuned ac am ddysgu sut i sicrhau newid.

Mae’r cwrs hwn yn rhagarweiniad gwych i fodiwl 10 credyd Addysg

Ieuenctid a Chymuned a gynhelir yn y gymuned.

Cefnogir ac ariennir y cwrs gan Ymestyn yn Ehangach.

4 Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Dysgwyr sy'n Oedolion

Dydd Llun, Mehefin 19

a Dydd Mawrth, Mehefin 20

Cwrs 2 ddiwrnod

2-day course

10.00am to 3.00pm

Datblygiad Plentyn

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Campws Llandaf

Mae’r cwrs byr hwn yn cyflwyno gwerth chwarae ac yn edrych ar ei botensial i gynorthwyo datblygiad babanod a phlant ifanc.

Byddwch yn ystyried gwahanol gysyniadau a syniadau i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o chwarae plant ac yna nodi dulliau o gymhwyso'r rhain. Mae’r cwrs yn rhagarweiniad gwych i’r pwnc gyda chyfleoedd dilynol ar gael drwy’r modiwl achrededig Lefel 3, Plant a Phlentyndod yn y Blynyddoedd Cynnar.

Dydd Llun, Mehefin 19, Dydd Iau, Mehefin 22

a Dydd Gwener, Mehefin 23 Cwrs 3 diwrnod

10.00am to 3.00pm

Ysgrifennu Creadigol a Darlunio

Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf

Mae’r cwrs byr hwn yn cyfuno celf neu ddarlunio gyda’r gair ysgrifenedig.

Bydd deunydd celf ar gael i’ch galluogi i archwilio’ch syniadau creadigol. Cewch eich annog i ddatblygu'ch sgiliau ysgrifenedig drwy gydweithredu ag eraill. Bydd y cwrs yn annog trafodaeth grŵp ac adborth positif i annog twf personol, cynyddu gallu technegol a magu hyder.

Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Dysgwyr sy'n Oedolion 5

Dydd Mercher, Mehefin 21

Cwrs 1 diwrnod

10.00am to 2.30pm

Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol

Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf

Lluniwyd y cwrs rhagarweiniol hwn er mwyn i’r rhai sydd â diddordeb ddeall cysyniadau trosedd a gwyredd, o safbwynt ‘pobl’ cymdeithasegol. Bydd y sesiwn hon yn ystyried swyddogaeth rheolau a thorri rheolau o fewn cymdeithasau modern a bydd yn creu cyfle i fyfyrwyr ymglymu gyda materion a syniadau cyfamserol.

Mae’r cwrs hwn hefyd yn rhagarweiniad delfrydol i’r modiwl 10 credyd Cymdeithaseg a/neu Seicoleg a fydd yn cael ei gynnal yn y gymuned.

Cefnogir ac ariennir y cwrs gan Ymestyn yn Ehangach.

Dydd Gwener, Mehefin 16

a Dydd Llun, Mehefin 19

Cwrs 2 ddiwrnod

10.00am to 2.30pm

Datblygu Swydd Lletygarwch Ychwanegol

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Campws Llandaf

Ydych chi am ddatblygu’ch sgiliau i fod yn fos arnoch chi eich hun? Yn ystod y blynyddoedd diweddar, gwelwyd cynnydd mewn cychwyn busnes gartref (@home business start-up), tuedd sy’n parhau. Ar y cwrs dau ddiwrnod hyn byddwch yn ystyried byd cychwyn busnes, cynhyrchu ac entrepreneuriaeth ym maes Lletygarwch a Bwyd. Cewch gyfle i edrych ar y gystadleuaeth, cwsmeriaid, a’r costau o greu busnes USP (cynnig unigryw sy'n gwerthu). Yn gyffrous, cewch eich cynorthwyo i greu 5 munud o gyflwyniad i geisio cyfleu’r cysyniad busnes i’n dreigiau ni sef y ‘Cardiff Met Dragons’.

Cyfle gwych ar gyfer y rhai sydd yn ystyried, neu ddatblygu gwaith lletygarwch ychwanegol neu fel prif swydd!

Cefnogir ac ariennir y cwrs gan Ymestyn yn Ehangach.

6 Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Dysgwyr sy'n Oedolion

Dydd Llun, Mehefin 12

a Dydd Mawrth, Mehefin 13

Cwrs 2 ddiwrnod

10.00am to 3.00pm

Ysgrifennu Amgylcheddol

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Campws Llandaf

Gyda’r amgylchedd yn dal i ddirywio, ni fu erioed adeg fwy pwysig ar gyfer ffuglen am newid hinsawdd. Dros y ddau ddiwrnod, cewch eich cyflwyno i’r ‘genre’ sydd ar gynnydd. Byddwn yn ystyried amrywiaeth o awduron amgylcheddol i astudio eu defnydd o thema, cymeriad a’u harddull ysgrifennu. Byddwch yn dysgu am hanfodion ffuglen amgylcheddol, ennill dealltwriaeth o’r themâu

allweddol sy’n hollbwysig i’r ‘genre’ a dysgu sut i saernïo eich straeon eich hun. Drwy drafodaethau dan arweiniad tiwtor ac ymarferion ysgrifennu creadigol, byddwch yn dysgu sut i dorri drwy’r jargon sy’n nodwedd o ffuglen newid hinsawdd ac ysgrifennu straeon sy’n cyrraedd y bobl.

Dydd Iau, Mehefin 15

a Dydd Gwener, Mehefin 16

Cwrs 2 ddiwrnod

10.00am to 2.30pm

Game Jam: Dylunio a Chwarae Gemau

Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf

Ydych chi’n hoffi chwarae gemau fideo?

Beth am greu a dylunio eich gemau eich hun? Mae’r cwrs blasu dau

ddiwrnod hwn yn cynnwys

cyfranogwyr yn creu gêm o fewn

ffrâm amser ac yn unol â’r brîff neu’r thema a osodwyd. Bydd digon o amser i chwarae a phrofi mecaneg y gêm gan ddefnyddio adnoddau

safonol y diwydiant. Cyflwynir y gêm ar ddiwedd y cwrs ar gyfer adborth y grŵp.

Ar ôl cwblhau’r sesiwn, bydd cyfle i symud ymlaen i gwrs byr mwy trylwyr.

Cefnogir ac ariennir y cwrs gan Ymestyn yn Ehangach.

Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Dysgwyr sy'n Oedolion 7

Dydd Llun, Mehefin 19

Cwrs 1 diwrnod

10.00am to 3.00pm

Sut i Greu eich Portffolio Celf a Dylunio

Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf

Os ydych yn meddwl gwneud cwrs sylfaen Celf a Dylunio, datblygu eich astudiaethau yn y maes creadigol neu greu corff o waith ar gyfer eich ymarfer proffesiynol chi eich hun, bydd y sesiwn adeiladu portffolio yn eich helpu i ddatblygu'ch sgiliau. Byddwch yn dysgu amrywiaeth o dechnegau a fydd yn cynnwys ystyried arddulliau newyddion a dulliau o greu gwaith celf yn ogystal â syniadau am gynllun tudalennau, gorffen a golygu eich gwaith.

Dewch â dau neu dri darn o waith gyda chi. Gallai fod yn ddarn arbrofol neu’n ddarn terfynol neu hyd yn oed lyfr braslunio yn llawn o luniadau/peintiadau yr hoffech chi eu harddangos yn eich portffolio. Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i gychwyn ar eich portffolio!

Dydd Mawrth, Mehefin 13

a Dydd Mercher, Mehefin 14

Cwrs 2 ddiwrnod

10.00am to 3.00pm

Rhagarweiniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn dysgu am ystod eang o gyfleoedd diddorol sydd ar gael o fewn maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Cewch gipolwg ar ddeddfau Iechyd a Gofal

Cymdeithasol, ynghyd â chyflwyniad i sgiliau cyfathrebu, gweithio mewn partneriaeth ac ymarfer proffesiynol sy’n allweddol i lwyddiant.

Mae maes Iechyd a Gofal

Cymdeithasol yn un cymhleth a byddwn hefyd yn ystyried economi gymysg darpariaeth Iechyd a Gofal

Cymdeithasol a’r sialensiau dilynol. Cymuned ydy canolbwynt y sector hwn, felly treulir rhan o'r cwrs hwn ar sicrhau dealltwriaeth well o anghenion y cymunedau a wasanaethir gan

ddarparwyr Iechyd a Gofal

Cymdeithasol. Ymunwch â ni ar gyfer y cwrs rhyngweithiol hwn yn dangos amrywiaeth Iechyd a Gofal

Cymdeithasol.

Mae’r cwrs hwn yn ragarweiniad gwych i’r modiwl 10 credyd

Cymunedau a Iechyd a gynhelir yn y gymuned.

8 Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Dysgwyr sy'n Oedolion

Dydd Llun, Mehefin 12

Cwrs 1 diwrnod

10.00am to 3.00pm

Rhagarweiniad i Baratoi i Addysgu Oedolion

Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf

Mae llawer o oedolion yn dychwelyd i fyd addysg a gyda hyn daw’r angen am diwtoriaid anogol ac ysbrydoledig i’w haddysgu.

Mae’r cwrs hwn yn ystyried y sgiliau sydd eu hangen ar y rhai hynny sy’n teimlo y gallen nhw wir wneud gwahaniaeth drwy helpu eraill drwy addysgu oedolion. Mae’r sesiwn hon yn un ymlaciol, mae’n rhyngweithiol ac yn fodd pleserus o ddarganfod rhagor am yrfa newydd posibl i chi eich hun. Byddwch yn trafod rôl y tiwtor; yn edrych ar y modd y gall ysgogiad personol effeithio ar ddysgu; yn nodi technegau a dulliau sy’n hyrwyddo dysgu llwyddiannus ac yn ystyried llwybrau dilyniant ar gyfer astudiaeth bellach.

Os ydych am wybod rhagor am addysgu oedolion, hwn ydy’r cwrs i chi. Mae’n rhagarweiniad gwych i gwrs TAR (Tystysgrif Addysg

Raddedig) neu AHO (Addysg ac Hyfforddiant Ôl-orfodol) a fydd yn eich cymhwyso i fod yn athro yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-16.

Dydd Gwener , Mehefin 16 a Dydd Llun, Mehefin 19

Cwrs 2 ddiwrnod

10.00am to 3.00pm

Rhagarweiniad i Wnïo

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Campws Llandaf

Bydd y cwrs rhagarweiniol 2 ddiwrnod hwn yn ystyried swyddogaethau a gosodiadau gwahanol y peiriant gwnïo. Bydd y cwrs yn eich helpu i fagu hyder ac i drio amrywiaeth o sgiliau gwnïo â llaw a gwnïo gyda pheiriant. Yna byddwn yn defnyddio’r sgiliau hyn i drafod sut y gallech uwch-gylchu neu atgyweirio dillad. Darperir peiriannau ond croeso i chi ddefnyddio’ch peiriant eich hun os oes gennych un a chewch ganfod sut gael y gorau ohono.

Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Dysgwyr sy'n Oedolion 9

Dydd Iau, Mehefin 15

a Dydd Gwener, Mehefin 16

Cwrs 2 ddiwrnod

10.00am to 3.00pm

Rhagarweiniad i Gymdeithaseg

Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf

Lluniwyd y cwrs hwn ar gyfer y rhai sydd am ddeall beth ydy cymdeithaseg. Byddwch yn dysgu sut gall materion cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol, ac economaidd lunio camau gweithredu a chredoau unigolyn. Bydd myfyrwyr yn gallu nodi enghreifftiau yn dangos sut mae cymdeithaseg yn eich helpu i ystyried yn gritigol, y pethau cyffredin o ddydd i ddydd a gymerwn yn ganiataol a sut gall ein helpu ni i ddeall materion cymdeithasol, economaidd byd-eang a gwleidyddol ehangach.

Bydd hefyd gyfle i ddarganfod pa mor berthnasol gall cymdeithaseg fod wrth ehangu gyrfaoedd galwedigaethol ac academaidd.

Mae’r cwrs hefyd yn rhagarweiniad delfrydol i fodiwl 10 credyd Cymdeithaseg a gynhelir yn y gymuned.

Dydd Mercher, Mehefin 14, Dydd Iau, Mehefin 15 a Dydd Gwener, Mehefin 16

Cwrs 3 diwrnod

10.00am to 3.00pm

Rhagarweiniad i Waith

Ieuenctid a Gwaith

Cymunedol

Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf

Mae mwy o bobl yn awyddus i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau ond mae diffyg gwybodaeth am y dull gorau i ymglymu. Lluniwyd y cwrs hwn fel rhagarweiniad i’r rhai hynny sy’n dymuno ymgymryd â hyfforddiant proffesiynol mewn gwaith ieuenctid a gwaith cymunedol ac ar gyfer y rhai hynny a hoffai wybod rhagor am astudio yn y maes hwn.

Mae’n ddelfrydol ar gyfer pobl sy’n malio am eu cymuned ac am wybod rhagor, ac mae hefyd yn dda ar gyfer gweithwyr ieuenctid neu weithwyr cymunedol heb fawr o brofiad blaenorol o astudio. Mae’r themâu a gaiff eu datblygu yn ystod y cwrs yn cynnwys dysgu o brofiad, ymdopi mewn amgylchoedd newydd a deall eraill.

Mae’r cwrs hwn yn rhagarweiniad gwych i’r modiwl 10 credyd Addysg Ieuenctid a Chymunedol a gynhelir yn y gymuned.

10 Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Dysgwyr sy'n Oedolion

Dydd Mawrth, Mehefin 13

Cwrs 1 diwrnod

10.00am to 3.00pm

Cynllunio’ch Dyfodol

Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf

Chwilio am gyfeiriad newydd? Angen ysgogiad?

Yna nod y cwrs undydd hwn ydy rhoi hwb i’ch hunan-barch, magu’ch hyder a’ch helpu i ‘Gynllunio’ch Dyfodol’ drwy gyfres o ymarferion hwyliog i osod targedau.

Rydyn ni’n ystyried eich set sgiliau cyfredol ac archwilio’ch darpar opsiynau ynghyd â digon o gymorth ymarferol ac ymarferion codi hyder a luniwyd i’ch symbylu i gyflawni’ch targedau personol a phroffesiynol.

Drwy ystyried eich disgwyliadau, eich profiadau, eich cyflawniadau a’ch uchelgeisiau, byddwn yn rhoi’r adnoddau i chi i wneud y dewisiadau sy’n briodol i’ch darpar gyfeiriad. Ceir cyngor gyrfaol a hyfforddiant unigol wedi’i deilwra er mwyn eich arwain at adnoddau perthnasol yn ogystal â chynnig help rhagweithiol gyda chynllunio neu ddiweddaru'ch CV, awgrymiadau a thechnegau ar gyfer cyfweliad, sgiliau cyfathrebu a gwelywio llwyfannau swyddi. Gadewch i ni eich helpu i gychwyn arni!

Dydd Iau, Mehefin 22

Cwrs 1 diwrnod

10.00am to 3.00pm

Paratoi ar gyfer IELTS Academaidd

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Campws Llandaf

Os oes diddordeb gyda chi mewn astudio mewn prifysgol, ond mae’r ffaith nad Saesneg ydy’ch mamiaith yn peri pryder i chi o ran cyrchu cyfleoedd dysgu.

Mae’r sesiwn blasu undydd hwn yn gyfle gwych i unrhyw un yn y sefyllfa hon. Bydd y sesiwn hon yn cynnig ymarferion byr ar gyfer y meysydd craidd canlynol: Siarad, Gwrando, Darllen ac Ysgrifennu. Anogir dysgwyr i fagu hyder drwy gyfranogi mewn amgylchedd diogel a chefnogol ac yna’n cael eu cyfeirio at ddarpar gyfleoedd dysgu.

Mae’r cwrs hwn yn rhagarweiniad i gwrs llawn Paratoi ar gyfer IELTS Academaidd Ehangu Mynediad.

Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Dysgwyr sy'n Oedolion 11

Dydd Mawrth, Mehefin 13

Cwrs 1 diwrnod

10.00am to 3.00pm

Cychwyn eich Menter eich Hun

Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf

Prif nod y cwrs byr undydd hwn ydy cynnig ‘profiad blasu’ i gyfranogwyr sy’n ystyried syniad busnes ac am gychwyn eu menter eu hunain.

Bydd y cwrs hwn yn helpu i ehangu eu gwybodaeth, magu hyder a sgiliau ar gyfer darpar entrepreneuriaid uchelgeisiol i gychwyn eu mentrau micro, bychan a chanolig eu hunain a/neu fentrau cymdeithasol.

Bydd y cwrs hwn hefyd yn helpu perchnogion/rheolwyr i gynnal eu mentrau cyfredol yn fwy effeithiol.

Ar ddiwedd y cwrs hwn, byddwch ‘yn gallu a dangos eich addasrwydd i fod yn entrepreneur; yn gallu trafod eich disgwyliadau, ysgogiadau a’r risgiau o sefydlu eich menter. Byddwch yn gallu egluro’r broses o sefydlu menter/busnes, gan amlinellu’r adnoddau ariannol a dynol sydd eu hangen. Byddwch hefyd yn gallu nodi pa fath o gwmni sy’n gweddu orau i’ch syniad busnes, sut i gydymffurfio â chyfreithiau cwmni, rheoliadau, mynediad i gyllid, meysydd allweddol ar gyfer marchnata, gwerthiant a chyfryngau cymdeithasol.

Dydd Iau, Mehefin 22

Cwrs 1 diwrnod

10.00am to 2.30pm

Deall Iechyd Meddwl a Llesiant Plant/Pobl Ifanc

Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf

Bydd y cwrs byr hwn yn rhoi syniad i chi o iechyd meddwl a llesiant gyda ffocws ar blant a phobl ifanc. Bydd y cwrs yn ystyried y gwahaniaethau rhwng iechyd meddwl a llesiant, ystyried y sialensiau sy’n effeithio ar ein hiechyd meddwl/llesiant ac ystyried strategaethau i gefnogi/cyfeirio a gwella iechyd meddwl/llesiant.

Mae’r cwrs hwn yn rhagarweiniad da i’r rhai hynny sy’n gweithio gyda neu gofalu am blant a phobl ifanc adre, yn yr ysgol neu yn y gymuned. Gallai ysgogi diddordeb i symud ymlaen i gyrsiau cymunedol Plant a Phlentyndod yn y Blynyddoedd Cynnar a Seicoleg, cyrsiau a achredir gan Ehangu Mynediad.

Cefnogir ac ariennir y cwrs gan Ymestyn yn Ehangach.

12 Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Dysgwyr sy'n Oedolion

Dydd Iau, Mehefin 22

a Dydd Gwener, Mehefin 23

Cwrs 2 ddiwrnod

10.00am to 3.00pm

Uwch-gylchu Ffasiwn

Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf

Dydd Mercher, Mehefin 14, Dydd Iau, Mehefin 15 a Dydd Gwener, Mehefin 16

Cwrs 3 diwrnod 3

10.00am to 3.00pm

Ysgrifennu Ffuglen

Wyddonol a Ffantasi

Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf

Dewch â dillad nad ydych yn eu gwisgo bellach i’w troi’n rhywbeth newydd. Caiff y cwrs deuddydd hwn ei rannu’n ddwy adran. Yn ystod y diwrnod cyntaf, byddwn yn edrych ar nodweddion y dilledyn a pham mae yn eich meddiant? Pam nad ydych yn ei wisgo bellach?

Beth ellir ei wneud i’w newid –ystyried opsiynau a chynllunio’r trawsnewid? Yn ystod yr ail ddiwrnod, rydyn ni’n casglu’r deunyddiau gofynnol a gwneud y newidiadau. Byddai’n ddefnyddiol petaech yn meddu ar rai sgiliau gwnïo yn cynnwys gwybodaeth am sut i ddefnyddio peiriant gwnïo.

Oherwydd cyfyngiadau amser, rhaid cyfyngu cyfranogwyr i drawsnewid un dilledyn yn unig.

Mae’r cwrs ysgrifennu creadigol cyffrous tridiau hwn yn ystyried y ‘genre’ mwyaf poblogaidd o ffuglen, ffuglen wyddonol a ffantasi. Cewch brofiad ymarferol o ysgrifennu ffuglen wyddonol a straeon ffantasi drwy drafodaethau dan arweiniad tiwtor, cyflwyniadau ac ymarferion ysgrifennu creadigol.

Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i ystod o themâu cyffredinol y ‘genre’ a’ch helpu i ddarganfod sut i ymglymu gyda’ch dewis thema yn eich gwaith ysgrifennu. Dros y tridiau, byddwch yn ystyried arddulliau a thechnegau awduron sefydledig a dysgu sut i ddarganfod eich arddull a’ch llais eich hun a chreu cymeriadau cymhleth ac eto’n realistig.

Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Dysgwyr sy'n Oedolion 13

Taswn i’n gwybod y baswn teimlo fel hyn, baswn i wedi gweithio’n galetach yn yr ysgol :)

Cwrs pleserus iawn, tiwtor hyfryd a hefyd grŵp hyfryd o bobl

Wedi mwynhau’r cwrs yn fawr iawn, trueni na allen ni ei ymestyn ymhellach. Hoffwn i wneud hyn eto...

Roedd y cwrs yn wych, y tiwtor yn wybodus ac yn meddu ar sgiliau personol, wedi cwrdd â phobl hyfryd iawn –wedi fy helpu gyda fy newisiadau

14 Cardiff Met Summer School for Adult Learners

Cynllunydd Cwrs Defnyddiol

Defnyddiwch y daflen hon i’ch helpu i gynllunio a neilltuo lle ar y cyrsiau gorau ar eich cyfer chi. Bydd y cynllunydd yn sicrhau eich bod yn osgoi neilltuo lle ar ddau gwrs ar yr un pryd. Mae’r holl gyrsiau yn cychwyn am 10 AM ac yn gorffen am 3.00 PM oni bai y nodir fel arall.

Ysgrifennu Amgylcheddol

Rhagarweiniad i Baratoi i Addysgu Oedolion

Sgiliau Academaidd

Cynllunio’ch Dyfodol

Cychwyn eich Menter eich Hun

Rhagarweiniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ysgrifennu Ffurflen

Wyddonol a Ffantasi

Mynediad i addysgu:

Gwnewch fi’n athro

Rhagarweiniad i Waith Ieuenctid a Gwaith Cymunedol

Celf â Chalon

Paentio Artistig

Rhagarweiniad i Gymdeithaseg

Game Jam:

Dylunio a Chwarae Gemau

Rhagarweiniad i Wnïo

Datblygu Swydd Lletygarwch Ychwanegol

Datblygiad Plentyn

Sut i Greu eich Portffolio Celf a Dylunio

Ysgrifennu Creadigol a Darlunio

Newid cymunedau: Rhagarweiniad i weithredu cymdeithasol

Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol

Mynediad i addysgu: Gwnewch fi’n athro

Ffotograffiaeth i Ddechreuwyr

Paratoi ar gyfer IELTS Academaidd

Uwch-gylchu Ffasiwn

Deall Iechyd Meddwl a Llesiant Plant/Pobl Ifanc

Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Dysgwyr sy'n Oedolion 15 YSGOL HAF 2023 Llun 12 Mehefin Maw 13 Mehefin Mer 14 Mehefin Iau 15 Mehefin Gwen 16 Mehefin Llun 19 Mehefin Maw 20 Mehefin Mer 21 Mehefin Iau 22 Mehefin Gwen 23 Mehefin

Taith Dysgwyr

Fy enw i ydy Esther.

Cychwynnodd fy nhaith ym

Met Caerdydd drwy fynychu

cwrs Lefel 3 (10 credyd)

achrededig Ehangu

Mynediad mewn gwaith

Ieuenctid a Chymunedol.

Ces fy ysbrydoli i ddilyn y

cwrs gradd ac wrth fy modd

i gael cyfle i astudio ar y

cychwyn ar lefel Sylfaen ym

Met Caerdydd.

Bu fy nhaith i mewn i waith Ieuenctid yn gyffrous a boddhaus. Mae fy nhaith wedi bod yn anhygoel! Roedd y syniad i ddychwelyd i fyd addysg yn eitha brawychus, Roeddwn yn

pryderu a fyddai digon o amser gen i i ffitio astudio i mewn i fy mywyd

prysur fel mam i dri o blant. A fyddai gen i’r symbyliad a’r gallu i barhau gyda’r cwrs?

Fodd bynnag, aeth fy astudiaeth ym

Met Caerdydd tu hwnt i fy

nisgwyliadau. Rydw i wedi cwblhau y cwrs BA Anrhydedd ac wedi rhyfeddu

i gael Dosbarth Cyntaf am fy

Mhortffolio ar ymarfer Proffesiynol ac wrth fy modd i raddio gyda dwy

16 Cardiff Met Summer School for Adult Learners

Wobr y Deon, un mewn Ymarfer Proffesiynol ac un mewn Gwobr Gymunedol. Rydw i nawr wedi symud ymlaen i astudio am radd Meistr mewn Uwch Waith Ieuenctid ac wrth fy modd ar hyn o bryd yn ei astudio.

Dw i’n credu mai buddsoddiad a gofal tiwtoriaid gwaith Ieuenctid a Chymunedol ym Met Caerdydd ydy’r rheswm dros fy llwyddiant. Roedd eu dull o fynd ati i addysgu wedi effeithio arna i nid yn unig yn academaidd ond hefyd ar lefel bersonol, oherwydd eu cred ynddo i a’u hanogaeth. Nid yn unig yn fy annog i astudio ond hefyd yn gofalu am fy llesiant ac yn fy nghefnogi pryd bynnag fo’n bosibl.

Ces gyfle ymarferol i ddysgu gan fy holl diwtoriaid yr hyn y mae gweithiwr ieuenctid yn ei olygu a wna i byth anghofio’r profiad hwnnw. Mae astudio ym Met Caerdydd hefyd wedi creu cyfleoedd gwaith ieuenctid ar fy nghyfer. Ers astudio ym Met

Caerdydd rydw i wedi cael nifer o swyddi â thâl sydd wedi cynnwys gweithiwr tymhorol mewn clwb ieuenctid, Gweithiwr Prosiect, Uwch Swyddog Ieuenctid sefydliad elusennol ac, ar hyn o bryd, mae gen i’r fraint o weithio mewn ysgol uwchradd.

Dw i’n ei theimlo hi’n fraint wrth geisio galluogi pobl ifanc i ddatblygu’n bobl ifanc cyfrifol a hapus. Dw i wir yn credu mai fy nghyfrifoldeb i ydy hi nawr ac y galla i ddewis o nifer o swyddi fel dwedodd fy nhiwtor Lefel chwech, ‘Esther mae gen ti’r sgiliau i weithredu mewn unrhyw leoliad neu sefyllfa a ddymuni’.

Cliciwch yma i ddarllen argraffiad diweddaraf ein cyhoeddiad ‘Journeys’ Met Caerdydd

Sganiwch yma i ddarganfod y cyrsiau achrededig sydd ar gael neu cysylltwch â

wideningaccess@cardiffmet.ac.uk

Cardiff Met Summer School for Adult Learners 17

Cwestiynau Cyffredin

All unrhyw un fynychu cwrs Ysgol Haf?

Gall pob oedolyn dros 18 oed wneud cais ond rhoddir blaenoriaeth yn ein Ysgol Haf i’r grwpiau hynny o ddysgwyr a restrir tu fewn i glawr y llyfryn hwn.

Faint fydd fy nghwrs Ehangu Mynediad yn yr Ysgol Haf yn ei gostio?

Mae holl gyrsiau Ehangu Mynediad ein Hysgol Haf AM DDIM.

A oes angen unrhyw gymhwyster arnaf i fynychu Ysgol Haf?

Nid oes angen unrhyw gymwysterau i fynychu cyrsiau Ysgol Haf.

Oes angen i mi neilltuo lle?

Rhaid i chi neilltuo lle ar y cwrs y dymunwch ei fynychu gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein, sganiwch yma i’w chyrchu neu deipio www.cardiffmet.ac.uk/summerschool i mewn i’ch porwr. Os na fyddwch wedi derbyn ymateb o fewn 7 diwrnod, gwiriwch nad ydy eich ebost cadarnhau ddim yn y ffolder ‘Spam’ neu ‘Junk’. Os ydych yn cael anhawster gyda'r ffurflen, ffoniwch y tîm Ehangu Mynediad ar 02920

201563 a gallwn ni eich helpu ymhellach. Peidiwch â dod i’r campws heb neilltuo lle.

A alla i neilltuo lle ar fwy nag un cwrs?

Gallwch fynychu mwy nag un cwrs. Gwiriwch ein taflen 'Cynllunydd' ar dudalen 15 er mwyn sicrhau nad ydy’r cyrsiau y dymunwch eu mynychu yn cael eu cynnal ar yr un pryd. Ni fydd yn bosibl i chi fynychu mwy nag un cwrs ar yr un diwrnod.

Ble a phryd y cynhelir y cyrsiau?

Bydd ein holl gyrsiau yn cychwyn am 10am a gorffen am 3pm (oni bai y nodir yn wahanol) a’u cynnal ar Gampws Llandaf. Ceir gwybodaeth bellach a chyfarwyddiadau ar ein gwefan: www.cardiffmet.ac.uk/llandaff

Alla i barcio ar y campws?

Prin ydy’r lleoedd parcio ar y campws ac os ydy’n bosibl, defnyddiwch

Gludiant Cyhoeddus, dyma’r opsiwn o ddewis. Mae Met Caerdydd yn gweithredu system parcio talu ac arddangos, yn costio £1 am hanner diwrnod a £2 am barcio am ddiwrnod cyfan. Os ydych yn bwriadu parcio ar y campws, bydd angen i chi ddefnyddio’r prif fynediad, troi i’r chwith i mewn i faes parcio

gwahoddedigion a mannau parcio ymwelwyr. Ewch i’r Dderbynfa i gofrestru’ch car a thalu am y parcio a bydd y dderbynfa yn eich cyfeirio at y mannau parcio sydd ar gael. Bydd Llysgennad Myfyrwyr ar gael yn y Dderbynfa i gynnig help i chi.

18 Cardiff Met Summer School for Adult Learners
Cyfarwyddiadau yma

I ble dwi’n mynd ar y bore cyntaf?

Ewch i’r Brif Dderbynfa ar ffrynt y campws ar gyfer cychwyn y cwrs. Bydd ein Llysgenhadon o Fyfyrwyr yno i’ch croesawu, eich helpu i gofrestru a mynd â chi i'r dosbarth. Byddan nhw hefyd ar gael i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych am eich cwrs neu am gyfleusterau’r Brifysgol.

Oes angen i mi ddod ag unrhyw beth gyda mi i’r cwrs?

Does dim angen i chi ddod ag unrhyw beth penodol ar gyfer cwrs. Darperir pensiliau a phapur a bydd eich tiwtor yn darparu adnoddau fydd eu hangen arnoch chi ar gyfer y cwrs.

Beth os nad ydw wedi gwneud unrhyw astudio ers amser hir?

Ni ddisgwylir bod gennych unrhyw wybodaeth flaenorol am y pwnc. Lluniwyd y cyrsiau ar gyfer pobl sydd wedi bod allan o fyd addysg ers tro. Bydd tiwtoriaid profiadol yn eich helpu i ddatblygu’ch sgiliau ac ehangu’ch gwybodaeth mewn amgylchedd cefnogol, cyfeillgar a hwyliog. Nod y cyrsiau hyn ydy rhoi blas i chi o sut beth fyddai astudio yn y brifysgol.

Fydd rhaid i mi siarad ar goedd ar y cwrs?

Yn ein barn ni, fe gewch brofiad dysgu gwell os gallwch gyfrannu at drafodaethau’r dosbarth. Fodd bynnag, os ydych yn pryderu am hyn, ni chewch eich gorfodi. Rydyn ni am i chi fwynhau’r cwrs a chyfrannu cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch.

A ddarperir cinio?

Ni ddarperir lluniaeth fel rhan o’n cyrsiau. Fodd bynnag, mae rhai cyfleusterau arlwyo ar gael ar y campws lle gallwch brynu diod a bwyd oer.

Dim ond un o ddyddiau’r cwrs galla i ei fynychu. Ydy hi’n dal yn bosibl i mi ddod?

Ni fyddwch yn gallu mynychu os na allwch fynychu pob diwrnod o'r cwrs. Yn aml, mae ein cyrsiau yn adeiladu ar y gwaith a wnaed ar y diwrnod blaenorol ac mae’n tarfu ar waith y tiwtor a dysgwyr eraill os mai dim ond rhan o'r cwrs y gallwch eu fynychu.

Beth os ydw i wedi neilltuo lle ond heb fod yn gallu mynychu nawr?

Mae lleoedd ar gyrsiau ein Hysgol Haf yn brin. Felly, os ydych wedi neilltuo lle, ond bellach ddim yn gallu mynychu, rhowch wybod i ni. Yn aml, bydd gennym restr aros o bobl sydd am ddod a thrwy ein hysbysu ymlaen llaw na allwch fynychu, gallwn gynnig lle iddyn nhw.

Os ydw i’n mwynhau cwrs Ysgol Haf, beth alla i wneud nesaf ?

Os ydych wedi mwynhau’ch cwrs yn ystod yr Ysgol Haf ac yn dymuno

parhau ar eich taith ddysgu, pam na wnewch chi fynychu un o'n cyrsiau blasu achrededig sy’n cael eu cynnal yn y gymuned. Ceir manylion llawn am gyrsiau sy’n cael eu cynnal ar ein gwefan: www.cardiffmet.ac.uk/ wideningaccess

Cardiff Met Summer School for Adult Learners 19
Map y Campws yma
Ë

Y camau nesaf ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd

Heb gymwysterau mynediad traddodiadol? Mae Prifysgol

Metropolitan Caerdydd yn cynnal cyrsiau Sylfaen blwyddyn sydd efallai’n addas ar gyfer oedolion heb gymwysterau mynediad traddodiadol ond yn meddu ar sgiliau eraill a phrofiad. Gall astudio un o’r cyrsiau hyn am flwyddyn helpu i fagu’ch hyder a datblygu’ch sgiliau.

O gwblhau hyn, gallwch symud ymlaen i un o amrediad o raglenni gradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Er na ellir gwarantu lle, gallai fod yn werth i chi gysylltu ag un o arweinwyr ein rhaglenni i gael sgwrs am eich amgylchiadau unigol, a bydd rhain yn gallu’ch cynghori ar y camau sydd eu hangen i gael mynediad i'r cwrs.

Rhaglen Gradd Sylfaen:

Ysgol Reoli Caerdydd

www.cardiffmet.ac.uk/foundationmanagement

Lisa Wright

lwright@cardiffmet.ac.uk

+44(0)29 2041 6318

Rhaglen Gradd Sylfaen:

Ysgol Dechnolegau Caerdydd

www.cardiffmet.ac.uk/technologies/ courses/pages/foundationengineering-and-computer-science

Paul Jenkins

pjenkins2@cardiffmet.ac.uk

+44 (0)29 2041 6070

Rhaglen Gradd Sylfaen:

Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Cysylltwch ag arweinwyr y rhaglenni:

Sylfaen yn arwain at gwrs gradd

BSc (Anrhydedd) mewn Gwyddorau

Iechyd

www.cardiffmet.ac.uk/foundationhealth-sciences

Dr Paul Foley

pfoley@cardiffmet.ac.uk

+44(0)29 2020 5632

Sylfaen yn arwain at gwrs gradd

BA/BSc (Anrhydedd) mewn

Gwyddorau Cymdeithasol www.cardiffmet.ac.uk/foundationsocial-science

Sarah Taylor-Jones

foundationsocsci@cardiffmet.ac.uk

+44(0)29 2041 7228

www.cardiffmet.ac.uk/foundationcertificate-youth-and-communitywork.asp

Louise Cook

Lcook@cardiffmet.ac.uk

+44 (0)29 2020 5947

Ymholiadau Derbyniadau

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â Thîm Derbyniadau Met Caerdydd ar 029 2041 6010 neu anfon e-bost at:

askadmissions@cardiffmet.ac.uk

20 Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Dysgwyr sy'n Oedolion

Sut i wneud cais i Met Caerdydd?

Ydych chi’n oedolyn o ddysgwr a hoffai wneud cais i Met Caerdydd? Ydych chi’n gwybod sut i wneud cais? Ydych chi am wybod rhagor am y costau a pha gymorth sydd ar gael i chi megis

grantiau, benthyciadau a bwrsarïau?

Dydy Prifysgol ddim ar gyfer pobl ifanc yn unig. Mae llawer o ddysgwyr o oedolion o bob oed yn astudio ar wahanol gyrsiau yma ym Met Caerdydd.

Bob amser cinio bydd

gwybodaeth a staff ar gael yn yr

atriwm ar lawr gwaelod Ysgol

Reoli Caerdydd fel y gallwch

ddysgu rhagor am gyrsiau

pellach yn y gymuned neu ofyn

unrhyw gwestiwn am eich taith

ddysgu. Rydyn ni'n edrych

ymlaen at eich gweld – does dim angen apwyntiad, dim ond galw heibio.

Mentora Ymestyn yn Ehangach Os penderfynwch yr hoffech wneud cais i’r Brifysgol, a'ch bod yn diwallu ein meini prawf cymhwystra, gall

Ymestyn yn Ehangach neilltuo Mentor ar eich cyfer i’ch cynorthwyo ar bob cam o’ch taith drwy Addysg Uwch. Gall mentoriaid gynnig cyngor a chanllawiau ar gwblhau eich cais, gwneud cais am gyllid a sicrhau eich bod yn gyfforddus ac yn hyderus i symud ymlaen gyda’ch addysg.

Sganiwch yma i fynegi eich diddordeb a gweld os ydych yn gymwys ar gyfer mentora. Os nad ydych yn gymwys, byddwn yn eich cyfeirio at wasanaethau cymorth amgen.

Neu, fel arall, cysylltwch â

Ceri o Dîm Ymestyn yn

Ehangach

cnicolle@cardiffmet.ac.uk

Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Dysgwyr sy'n Oedolion 21

Cymorth Ychwanegol

Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr

Mae timau Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig cymorth i fyfyrwyr gydag ystod o anableddau, anawsterau dysgu neu gyflyrau iechyd meddwl. Mae’r cymorth am ddim ac ar gael i holl fyfyrwyr Met Caerdydd.

Mae ystod eang o gymorth ar gael arlein ac wyneb yn wyneb mewn gweithdai grŵp, mynediad i adnoddau ar-lein ac mewn apwyntiad 1:1.

Gall y tîm Llesiant gynnig cyngor arbenigol drwy gydol eich astudiaethau, yn cynnwys cysylltu â’ch ysgol academaidd i argymell addasiadau i’ch astudiaeth (e.e. trefniadau arholiad) a gwneud cais am gymorth arbenigol un i un a chyfarpar arbenigol. Gallwn hefyd eich helpu i ddod o hyd i’r cymorth priodol tu allan i’r Brifysgol.

Rydyn ni’n annog myfyrwyr i gysylltu â’r tîm cyn cychwyn yn y Brifysgol gan fod hyn yn rhoi amser ychwanegol i ni gydweithio er mwyn sicrhau bod y cymorth priodol ar gael i chi ar ddechrau’r flwyddyn academaidd.

Os hoffech gysylltu ag aelod o'r tîm, cysylltwch â wellbeingsupport@cardiffmet.ac.uk

neu

http://www.cardiffmet.ac.uk/student services

Tîm Cyngor Ariannol

Mae Tîm Cyngor Ariannol Met Caerdydd yn cynnig cyngor cyfrinachol a di-duedd ar bob agwedd o gyllid myfyrwyr ac mae AM DDIM ar gyfer holl ddarpar fyfyrwyr.

Isod, ceir rhai o'r pethau y gallan nhw ei gynnig/ ei gefnogi:

✔ Apwyntiadau un i un (yn bersonol neu ar Teams/ffôn)

✔ Cyngor ar gyllidebu a rheoli arian

✔ Cyngor ar ba gymorth ariannol sydd ar gael a sut i’w gyrchu

✔ Cymorth ariannol brys (drwy gronfeydd ariannol wrth gefn y brifysgol)

✔ Cyfeirio pobl at asiantaethau perthnasol

Os hoffech drefnu apwyntiad gydag aelod o'r Tîm Cyngor Ariannol, cysylltwch ag 'izone' drwy ffonio 029 2041 6170 neu anfon e-bost: financeadvice@cardiffmet.ac.uk neu studentservices@cardiffmet.ac.uk

22 Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Dysgwyr sy'n Oedolion

Mae pecyn cymorth ar gael ar gyfer myfyrwyr sydd:

• ewedi ymddieithrio oddi wrth eu teulu (rhywun sy’n astudio heb gymorth na chefnogaeth rhwydwaith teuluol ac wedi llwyr ymddieithrio oddi wrth eu rhieni),

• rhywun sydd wedi gadael gofal (unigolyn sy’n 25 oed neu’n ifancach sydd wedi derbyn gofal gan awdurdod lleol am o leiaf 13 wythnos ers 14 oed),

• neu rhywun sy’n ofalwr i fyfyriwr (os ydych yn gofalu am rywun ac yn darparu gofal di-dâl ar gyfer teulu a/neu cyfeillion).

Am fanylion y cymorth sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio neu’n fyfyrwyr sydd wedi gadael gofal, ewch i: www.cardiffmet.ac.uk/study/finance/ bursaries/Pages/care-leavers

ac ar gyfer rhywun sy'n fyfyrwyr gofal, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/study/finance/ bursaries/Pages/Student-carers

neu cysylltwch ag Emma Cook, Ymgynghorydd Arian a Lles, i drafod eich opsiynau: ecook@cardiffmet.ac.uk

Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Dysgwyr sy'n Oedolion 23

Telerau ac Amodau

Ymddygiad

Disgwylir i chi, bob amser, i ymddwyn mewn modd rhesymol a threfnus, gan dalu'r sylw dyladwy i bobl eraill ac i eiddo Met Caerdydd fel yr amlinellir yng Nghod Ymddygiad Myfyrwyr.

Cofrestru

Mae gofyn i bob myfyriwr cofrestru cyn iddyn nhw gychwyn ar eu rhaglen astudiaeth. Dydy ymrestru ddim yn uned gyflawn tan:

• i ffurflen gofrestru Prifysgol

Metropolitan Caerdydd gael ei chwblhau’n foddhaol.

• i unrhyw weithdrefnau gweinyddol eraill gael eu cyflawni.

Ni chaiff unrhyw fyfyriwr sydd ag ymrwymiadau ariannol dyledus i Brifysgol Metropolitan Caerdydd gofrestru.

Telerau ac Amodau

Rhaid i fyfyrwyr gydymffurfio â rheoliadau Met Caerdydd, a cheir y manylion ar wefan Prifysgol

Metropolitan Caerdydd.

Rhaid riportio unrhyw niwed neu ddifrod i eiddo Met Caerdydd ar unwaith i aelod o'r staff. Efallai bydd gofyn i fyfyrwyr dalu am y colledion

24 Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Dysgwyr sy'n Oedolion

neu am ddifrod i unrhyw lyfr, cyfarpar neu offer yn eu gofal.

Dydy Met Caerdydd ddim yn gyfrifol am golli eiddo personol neu ei ddifrodi ac os digwydd i gyfrwng digidol gael ei ddychwelyd fel eiddo coll, mae Met Caerdydd yn cadw’r hawl i roi’r ddyfais yn ôl i’w wir berchennog.

Mae Met Caerdydd yn cadw’r hawl i ganslo, gohirio neu addasu unrhyw raglen petai amgylchiadau yn gofyn am hynny.

Caiff unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gennych ar y ffurflen ymrestru hon ei thrin yn unol ag egwyddorion Diogelu Data, yn unol â gofynion Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR).

Efallai byddwn yn rhannu’ch data gyda sefydliadau partner at ddibenion gweinyddu’r cwrs a chadarnhau eich presenoldeb/cyflawniad. Sefydliadau yn y gymuned ydy ein sefydliadau partner sy’n ein cyfeirio at ba gyrsiau sydd eu hangen yn y gymuned leol yr ydyn ni’n gweithio ynddi.

Bydd y wybodaeth a rannwn gyda'r sefydliadau yn gyfyngedig i’r canlynol:

• Cyfnewid gwybodaeth sylfaenol (e.e. enwau’r mynychwyr os mai’r sefydliad partner sy'n cynnal y cwrs yn un o’u lleoliadau); a chrynodeb o'r wybodaeth o ran y nifer o fyfyrwyr sydd wedi symud ymlaen i addysg bellach ar ôl cwrs. Am wybodaeth bellach ar sut yr ydyn ni'n defnyddio’ch data personol, darllenwch Hysbysiad Prosesu Teg y Myfyrwyr.

Rhaid gadael beiciau yn y raciau arbennig a ddarparwyd yn benodol ar eu cyfer a’u cloi yn briodol. Gofynnwch am gymorth yn y Prif Dderbynfa.

Mae Met Caerdydd yn cadw’r hawl i symud myfyrwyr o'r cwrs ar unrhyw adeg

Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Dysgwyr sy'n Oedolion 25

Prifysgol orau yn y DU am gynaliadwyedd

Ë

Cofrestrwch nawr!

Ehangu Mynediad, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd CF5 2YB

 029 2020 1563

 wideningaccess@cardiffmet.ac.uk

 @wideningaccess www.facebook.com/wideningaccess

 www.cardiffmet.ac.uk/summerschool

Mae'r cyhoeddiad hwn wedi'i argraffu gyda phapur cynaliadwy a charbon cytbwys. Ailgylchwch y cyhoeddiad hwn.

Sganiwch yma i gofrestru gan ddefnyddio ein ffurflen archebu ar-lein

Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.