Llyfryn Cyrsiau Ysgol Haf 2021

Page 1

AR-LEIN 14 – 25 MEHEFIN

2021

áCYá á

RSIA U

AM EHANGU MYNEDIAD DD

YSGOL HAF AR-LEIN

IM!

á

AR GYFER OEDOLION SY’N DYSGU


Croeso i Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu 2021, sy'n darparu amrywiaeth o gyrsiau AM DDIM i oedolion sy'n dysgu o 14 - 25 Mehefin 2021. Rydym ni wrth ein bodd bod Ysgol Haf 2021 yn cael ei chynnal, gan ei bod yn ddigwyddiad blynyddol sy'n darparu cyfleoedd dysgu i'r oedolion hynny nad ydynt wedi cael cyfle i astudio yn y Brifysgol o'r blaen. Ar ôl blwyddyn mor heriol i bawb, rydym ni'n gobeithio y bydd hyn yn cyflwyno rhai deilliannau cadarnhaol ac yn gyfle i bobl roi cynnig ar rywbeth newydd. Oherwydd y cyfyngiadau COVID sy'n dal i fod ar waith, ni allwn gynnig addysgu wyneb yn wyneb ar gyfer yr Ysgol Haf eleni. Fodd bynnag, mae ein Tiwtoriaid i gyd wedi gweithio'n galed iawn i symud eu cyrsiau i addysgu ar-lein. Er nad yw hyn yn ddelfrydol, mae'n golygu y gallwn ni gynnig detholiad o gyrsiau ac edrych ymlaen at adeg pan fyddwn ni'n gallu eich gwahodd i'r Campws a mynd yn ôl i ddarparu ein cyrsiau cymunedol yn eich ardal. Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ein nod yw sicrhau bod oedolion yn cael cyfle teg a chyfartal i astudio mewn modd a gefnogir, waeth beth fo'u cefndir neu eu grŵp ethnig. Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau y dylai pawb sy’n ddigon penderfynol, ac sydd â’r sgiliau a'r awydd i gael mynediad at Addysg Uwch allu gwneud hynny. Rydym ni'n deall pa mor bwysig yw gweithio'n agos gyda chymunedau lleol i helpu i godi dyheadau ac annog pobl sy'n credu nad yw addysg uwch yn addas iddyn nhw i ddechrau meddwl am y cyfleoedd sydd ar gael. Os ydych chi wedi teimlo yn y gorffennol, am ba bynnag reswm, na fyddai cwrs addysg uwch yn addas i chi, rydym ni wedi cyflwyno ystod o fesurau a ddyluniwyd i wneud astudio yma mor syml a hyblyg â phosibl. Gan ein bod ni'n byw mewn cyfnod economaidd mor ansicr, efallai eich bod yn

poeni am sut rydych chi'n mynd i ddatblygu eich sgiliau a chyrraedd eich potensial mewn marchnad swyddi mor anodd. Rydym ni'n deall, gyda'r holl ymrwymiadau sy'n mynd law yn llaw â bywyd modern - gwaith, teulu a bywyd cymdeithasol - nad yw hi'n hawdd sicrhau cydbwysedd rhwng yr holl bethau hyn ac ystyried astudio ar yr un pryd. Efallai eich bod yn teimlo nad ydych chi'n ddigon clyfar i astudio mewn Prifysgol, efallai na wnaethoch chi'n dda yn yr ysgol ac efallai bod bywyd wedi mynd â chi oddi wrth addysg. Yn aml, nid oes gan oedolion sydd heb astudio ers amser maith yr hyder i ddychwelyd i ddysgu, neu efallai eu bod yn meddwl y bydd pobl yn eu barnu'n llym. Mae'r Ysgol Haf yn cynnig cyfle i roi cynnig ar ystod o gyfleoedd dysgu diddorol, yn rhad ac am ddim. Mae ein cyrsiau wedi'u dylunio i'ch helpu chi i fagu hyder, a gallan nhw helpu i ganolbwyntio eich gyrfa neu eich cynllun dysgu. Mae Ysgol Haf Met Caerdydd yn gyfle gwych i roi cynnig ar rywbeth newydd, i gael hwyl neu i wella eich potensial gyrfa. Gall rhoi cynnig ar gwrs Ysgol Haf fod yn ddechrau rhywbeth cyffrous a allai agor mwy o ddrysau i chi os byddwch chi'n dewis symud ymlaen i un o'n cyrsiau cymunedol achrededig ac, yn y pen draw, gall ddarparu llwybr i astudio'n llawn amser neu'n rhan-amser yn y Brifysgol. Mae'r Ysgol Haf hefyd yn ffordd wych o gael blas ar fywyd prifysgol, yn enwedig os ydych chi'n ystyried astudio yma. Aeth llawer o'r oedolion sydd wedi mynychu Ysgol Haf Met Caerdydd yn y gorffennol ymlaen i gofrestru ar gwrs pellach ym Met Caerdydd ym mis Medi, aeth rhai ymlaen i gofrestru ar gyrsiau Sylfaen neu ein rhaglenni achrededig ac aeth rhai ymlaen yn syth i astudio tuag at raddau israddedig. Eleni, efallai mai chi fydd yn gwneud hynny! Pwy bynnag ydych chi, mae gennym ni gwrs y byddwch chi'n ei fwynhau, rhowch gynnig arni. Janet Jones, Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned (Rhaglenni) Prifysgol Metropolitan Caerdydd


PWY ALL ß FYNYCHU? Mae’r Ysgol Haf yn agored i bob oedolyn dros 18 oed. Mae lleoedd ar yr Ysgol Haf yn gallu cael eu harchebu’n gyflym. Byddwch yn ymwybodol felly ein bod yn rhoi blaenoriaeth i'r dysgwyr hynny sy'n byw mewn ardaloedd o amddifadedd lluosog a'r rhai sy'n perthyn i un o’r categorïau canlynol:

á á á á á *

heb gael mynediad at gyfleoedd Addysg Uwch o'r blaen yn hawlio Budd-daliadau'r Llywodraeth (ac eithrio Budd-dal Plant) ar incwm isel neu'n wynebu 'tlodi mewn gwaith’ yn Ofalwr* llawn amser neu wedi Gadael Gofal wedi'u hatgyfeirio gan un o'n sefydliadau cymunedol neu elusennau partner Gofalwr yw unrhyw un sy'n gofalu'n ddi-dâl am ffrind neu aelod o'r teulu sydd, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu gaethiwed, yn methu ag ymdopi heb ei gefnogaeth. (Carers Trust, 2017)

Bydd pob cwrs yn cael ei gyflwyno ar-lein trwy Microsoft Teams neu Zoom. Bydd cyrsiau'n cychwyn am 10.00am ac yn gorffen am 3.00pm oni nodir yn wahanol yn nisgrifiad y cwrs. Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu

1


s

TAITH DYSGWR

Mae'r stori hon yn dathlu llwyddiant dysgwr, a gobeithio y bydd yn ysbrydoliaeth i eraill a allai fod yn ystyried dychwelyd i ddysgu. Adroddir y stori yng ngeiriau'r dysgwr ei hun, ac mae'n dangos pa wahaniaeth mae dysgu wedi'i wneud a sut mae ei bywyd wedi gwella drwy'r broses.

TAITH LARYSA “Dechreuodd fy nhaith yn y DU ym mis Mai 2014 pan fu'n rhaid i fy nheulu ffoi o'm tref enedigol Donetsk, yr ardal o wrthdaro rhyfelgar yn Nwyrain Ukrain. Roedd yn gyfnod anodd iawn yn fy mywyd. Bod ar wahân i'ch teulu a’ch ffrindiau, adnabod neb yma. Nid y pethau materol roedden ni wedi gweithio'n galed i'w prynu oedd yr unig bethau a gollodd fy nheulu. Roedden ni wedi colli ein mamwlad. Collais i fy hunaniaeth a'm statws cymdeithasol. Roeddwn i’n athro Saesneg fel Iaith Dramor am 17 mlynedd ac, mewn dim, roeddwn i'n fudwr anghyfreithlon, yn berson sy'n ceisio lloches, sy’n byw mewn tlodi, nid am nad ydw i'n gallu gweithio neu fy mod i'n ddiog, ond oherwydd y gyfraith mewnfudo gymhleth. Treuliais i bedair blynedd mewn tywyllwch llwyr, mewn ebargofiant, heb ddyfodol a gyda gorffennol mewn distryw. Ddim yn cael breuddwydio hyd yn oed. Mae’n deimlad anesboniadwy. Dychmygwch bedair bedair blynedd o ddim breuddwydio gan nad ydych chi'n blynedd o ddim breuddwydio gan nad ydych chi’n gwybod beth fydd yn digwydd i chi heddiw. A fyddwch chi'n gwybod beth fydd yn digwydd i chi heddiw. A gwybod beth fydd yn digwydd i chi heddiw. A swydd allwch chi ei gwneud os byddwch chi’n cael aros? Pwy ydych chi?

2 Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu


Yn 2015, dechreuais wirfoddoli gyda dosbarthiadau ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) yn y Groes Goch Brydeinig, a dyna pryd y syrthiais i mewn cariad ag addysgu am yr eildro yn fy mywyd. Roedd yn fwy heriol gweithio gyda dysgwyr o wahanol wledydd, gwahanol gefndiroedd addysgol gyda straeon bywyd gwahanol, ond roedd yn rhoi llawer mwy o foddhad. Yn 2018, wrth fynychu'r cwrs ysgol haf a gynhaliwyd gan Ehangu Mynediad Met Caerdydd, y clywais i am yr Ysgoloriaeth Noddfa. Roeddwn i'n ansicr ynglŷn â gwneud cais gan nad oeddwn i'n credu y gallai rhywbeth da fyth ddigwydd i mi eto. Ond fe wnes i. Doeddwn i ddim yn gallu credu'r peth pan gefais fy newis. Fydda i byth yn anghofio'r diwrnod ymrestru. Cefais i bwl difrifol o banig y diwrnod cynt ac fe dreuliais i'r noson yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Doeddwn i ddim yn gallu credu ei fod yn digwydd i mi. Roedd yr Ysgoloriaeth Noddfa fel carreg werthfawr ond bregus a roddwyd i mi ar ôl blynyddoedd o dywyllwch. Rwy'n cofio mynd i mewn i adeilad y brifysgol am y tro cyntaf fel pryfyn bach ofnus ar goll ym myd annheg tywyll anghyfiawnder. Ac yna fe gwrddais i â dau berson anhygoel a wnaeth fy nghefnogi, fy nhywys, gofalu amdanaf, fy ysbrydoli, gwneud i mi gredu, ymddiried a breuddwydio eto. Does gen i ddim geiriau i fynegi fy niolch i Natalie Buckland a Paul Fitzpatrick ym Met Caerdydd. Fe wnaeth y cwrs rwy'n ei wneud, sef cwrs MA TESOL, fy helpu i ddatblygu fy sgiliau proffesiynol, dyfnhau fy nealltwriaeth o'r broses addysgu a dysgu ac, yn bwysicaf oll, gweld y posibiliadau ar gyfer datblygiad pellach. Llywiodd y newidiadau personol a brofais i gyda help addysg y syniad ar gyfer fy ymchwil gyntaf sy'n canolbwyntio ar brofiadau athrawon ESOL wrth weithio gyda cheiswyr noddfa a oedd wedi profi trawma.

At hynny, rwy'n credu ei fod yn fater pwysig i Gymru fel Cenedl Noddfa. Mae'r ysbrydoliaeth, yr arweiniad a'r gefnogaeth a gefais gan fy ngoruchwyliwr, Dr Gabriel Roberts, yn gwneud i mi freuddwydio am wneud PhD, ac rwy'n credu bod hynny'n dweud y cyfan. Weithiau, rwy'n gofyn i mi fy hun a oes rhyw gyfrinach o ran recriwtio staff ym Met Caerdydd. Mae'n rhoi'r teimlad hwnnw o deulu cefnogol, hapus i chi. Boed yn diwtor personol, adran mewnfudo prifysgol, Centro, yr undeb myfyrwyr, gwasanaethau academaidd, stiwdio argraffu neu TG - rydych chi bob amser yn teimlo eich bod yn cael eich croesawu, eich parchu a'ch trin mewn ffordd arbennig. Ac wrth gwrs, fe gwrddais i â'm ffrind gydol oes, Kelly. Byddwn i'n dweud bod blwyddyn gyda Met Caerdydd wedi gwneud i mi ddod o hyd i mi fy hun eto neu, yn well fyth efallai, wedi gwneud i mi gredu, ymddiried, dod o hyd i ystyr mewn bywyd a breuddwydio eto. Rwy'n credu bod y pryfyn bach ofnus wedi troi yn aderyn hyderus, di-ofn sy'n gallu hedfan. I'r rhai sy'n gwneud cais am Noddfa Met Caerdydd, byddwn i'n dweud y canlynol: Mwynhewch eich taith addysgol a thrawsnewidiol ym Met Caerdydd! Bydd yn flwyddyn wirioneddol anhygoel, ac efallai na fyddwch chi'n adnabod eich hun erbyn y diwedd (fel y dywedodd rhywun wrtha i un diwrnod). Yr unig beth rwy'n ei ddifaru yw peidio â chadw dyddiadur o atgofion o sut y digwyddodd y trawsnewidiad hwn. Mae'n bendant yn werth chweil! Mae Met Caerdydd yn Noddfa go iawn!”

Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu

3


YDYCH CHI AM BARHAU Â’CH TAITH DDYSGU? Mae Ehangu Mynediad wedi ymrwymo i weithio gydag ystod eang o bartneriaid i ddatblygu prosiectau a gweithgareddau sy'n gyfle i ystod mor eang â phosibl o bobl roi cynnig ar fathau newydd o ddysgu yn eu cymunedau eu hunain. Rydym ni'n cynnal cyrsiau blasu am ddim a chyrsiau achrededig Lefel 3 mewn cymunedau gydol y flwyddyn i oedolion sydd â diddordeb mewn rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau. Gellir cysylltu cyrsiau â phynciau y gallwch chi eu dilyn wedyn ar lefel uwch ym Met Caerdydd.

DIWRNODAU AGORED Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gwybod mwy am y cwrs mae gennych chi ddiddordeb ynddo, siarad â thiwtoriaid cyrsiau a myfyrwyr a mynd ar daith o amgylch ein cyfleusterau, ein llety a'n campysau. Rydym ni'n cynnal Diwrnodau Agored ar y campws gydol y flwyddyn, sy'n berthnasol i'ch cwrs a'ch maes diddordeb. www.cardiffmet.ac.uk/opendays 029 2041 6042 opendays@cardiffmet.ac.uk

I gael rhagor o fanylion am y cyrsiau sydd ar gael, ewch i'n gwefan www.cardiffmet.ac.uk/tastercourses a www.cardiffmet.ac.uk/accreditedcourses neu ffoniwch ni ar 029 2020 1563.

SUT I WNEUD CAIS I MET CAERDYDD AR GYFER OEDOLION SY'N DYSGU Ydych chi'n oedolyn sy'n dysgu a hoffai wneud cais i Met Caerdydd? Ydych chi'n gwybod sut i wneud cais? Ydych chi eisiau gwybod mwy am y costau a pha gymorth all fod ar gael i chi, fel benthyciadau i fyfyrwyr, grantiau a bwrsarïau? Nid ar gyfer pobl ifanc yn unig y mae prifysgol; mae digon o oedolion sy'n dysgu o bob oedran yn astudio ar bob cwrs gwahanol yma ym Met Caerdydd. Dewch draw i Gampws Llandaf i addysg uwch drwy fynd i'r afael â rhwystrau i fynediad, cynnydd a llwyddiant. Byddwn yn cyflawni hyn drwy gynnig cyfres o ymyriadau hirdymor cynaliadwy i gefnogi codi cyrhaeddiad, codi ymwybyddiaeth a darparu cymorth ar gyfer cynnydd i addysg uwch.

4 Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu

Mae Campws Cyntaf wedi ffurfio partneriaeth ag Ehangu Mynediad ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd i gyflwyno amryw o gyrsiau yn yr Ysgol Haf i Oedolion eleni. Mae Campws Cyntaf yn bartner ehangu mynediad blaenllaw sy'n gweithio gyda Chymunedau yn y De-ddwyrain; yn trawsnewid bywydau drwy ddysgu, yn mynd i'r afael â rhwystrau ac yn llywio llwybrau at addysg uwch. Mae Campws Cyntaf, Ymestyn yn Ehangach yn bodoli i ehangu mynediad at addysg uwch drwy fynd i'r afael â rhwystrau i fynediad, cynnydd a llwyddiant. Byddwn yn cyflawni hyn drwy gynnig cyfres o ymyriadau hirdymor cynaliadwy i gefnogi codi cyrhaeddiad, codi ymwybyddiaeth a darparu cymorth ar gyfer cynnydd i addysg uwch a chyfleoedd dysgu lefel 4. I gael rhagor o wybodaeth am Campws Cyntaf ac i gael gwybod am gyfleoedd dysgu pellach ar draws y bartneriaeth, ewch i'n gwefan yn www.firstcampus.org.


RHESTR CYRSIAU 2021

TUDALEN

SGILIAU ACADEMAIDD

06

DRAFFTIO PATRYMAU SYLFAENOL A GWNEUD NEWIDIADAU

06

DATBLYGU SGILIAU CYFARFOD A PHWYLLGOR

07

CYMRYD RHAN MEWN CEFNOGI ATHRAWON A DISGYBLION MEWN YSGOLION

07

SUT I WNEUD CAIS I MET CAERDYDD

08

SUT I GREU EICH PORTFFOLIO CELF A DYLUNIO

08

CYFLWYNIAD I GODIO ESTHETIG: ARCHWILIO FFORDD GREADIGOL NEWYDD O DDYSGU SUT I RAGLENNU

09

CYFLWYNIAD I BLANT AC IECHYD MEDDWL

09

CYFLWYNIAD I YSGRIFENNU CREADIGOL

10

CYFLWYNIAD I IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL

10

CYFLWYNIAD I BARATOI I ADDYSGU

11

CYFLWYNIAD I SEICOLEG

11

CYFLWYNIAD I GYMDEITHASEG

12

CYFLWYNIAD I DDEALL YMDDYGIAD SY'N TARFU AR ERAILL YN YR YSTAFELL DDOSBARTH

12

CYFLWYNIAD I ADDYSG IEUENCTID AC ADDYSG GYMUNEDOL

13

YMCHWILIO I DAI

13

HYDER AR-LEIN A CHYNLLUNIO EICH DYFODOL

14

ATHRONIAETH YN Y GYMUNED

14

PARATOI AR GYFER IELTS ACADEMAIDD

15

YSGRIFENNU AM HWYL A BLOGIO

15

Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu

5


Dydd Mawrth 22 Mehefin a dydd Mercher 23 Mehefin AR-LEIN 10.00am tan 3.00pm

Dydd Llun 14 a dydd Mawrth 15 Mehefin AR-LEIN 10.00am tan 3.00pm

SGILIAU ACADEMAIDD

DRAFFTIO A NEWID PATRYMAU SYLFAENOL

Mae'r sesiynau hyn yn gyfle cyffrous i chi wella eich sgiliau academaidd. Gan ganolbwyntio ar bedwar maes hanfodol – ysgrifennu, ymchwil, gwneud nodiadau a rheoli amser – bydd y gweithdai hyn yn ddefnyddiol iawn o ran eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach, naill ai yn y coleg neu ar un o'n cyrsiau Ehangu Mynediad achrededig. Yn y sesiwn 'ysgrifennu', byddwn yn edrych ar sut y gallwch ysgrifennu'n glir ac effeithiol. Byddwn hefyd yn ystyried rhai camgymeriadau ysgrifennu cyffredin a sut i'w hosgoi.

Mae'r gweithdy deuddydd hwn yn archwilio technegau newid patrymau sylfaenol ar gyfer gwneud dillad. Bydd y technegau hyn yn cael eu haddysgu gan ddefnyddio darnau o batrymau graddfa chwarter, cyn mynd ymlaen i gymhwyso'r dechneg i batrymau maint llawn. Bydd y gweithdy'n ymdrin â hanfodion patrymau, gan gynnwys: troi a symud dartiau, ymestyn/byrhau, ychwanegu neu dynnu ar gyfer siâp a gwell ffit bersonol. Ar yr ail ddiwrnod, byddwn yn edrych ar y dull slaesio a lledaenu ac yn ychwanegu semau a manylion yn seiliedig ar syniad/patrwm dyluniad sydd gennych chi.

Mae ymchwil yn ymwneud â dod o hyd i'r wybodaeth gywir. Yn y sesiwn hon, byddwn yn archwilio'r adnoddau sydd ar gael i wneud hyn a'r mathau o ffynonellau y gallech Ddod ar eu traws. Bydd gwneud nodiadau yn dangos i chi sut y gallwch droi ysgrifennu gwybodaeth yn rhan bwysicach o ddysgu. Drwy feddwl yn ofalus am yr hyn rydych chi'n ei ddarllen neu'n gwrando arno, gallwch gofio llawer mwy am y pwnc. Bydd rheoli amser yn dangos i chi sut i drefnu eich ymrwymiadau a chadw rheolaeth ar y galwadau ar eich amser yn rhwydd. Mae bod yn drefnus yn golygu y byddwch yn gallu ticio pob un o'r tasgau ar eich rhestr 'i'w wneud' a theimlo'r ymdeimlad hwnnw o foddhad eich bod yn gwneud cynnydd! 6 Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu

Noder: Gellir cymhwyso rhai o'r technegau hyn yn uniongyrchol i ddillad er mwyn eu newid, ond ni fydd y rhan fwyaf ohonynt yn gweithio fel hyn. Maent yn newidiadau ar gyfer patrymau i wneud dillad ohonynt. Gall y rhain fod yn batrymau rydych wedi'u prynu neu eu cymryd o ddilledyn arall neu batrymau rydych am eu gwneud eich hun. Byddwn yn gweithio gyda thempledi graddfa chwarter maint 12/38, ond gellir cymhwyso'r dechneg i ba bynnag faint patrwm a ddewiswch chi (dynion neu fenywod). Mae'r gweithdy hwn yn addas i'r rhai â sgiliau gwneud gwisgoedd dechreuwr i ganolradd sydd am wella neu ddechrau gwneud eu dyluniadau eu hunain.


Dydd Mercher 23 Mehefin AR-LEIN 10.00am tan hanner dydd

Dydd Llun 14 Mehefin AR-LEIN 10.00am tan 11.00am

DATBLYGU SGILIAU CYFARFOD A PHWYLLGOR

CYMRYD RHAN MEWN CEFNOGI ATHRAWON A DISGYBLION MEWN YSGOLION

Bydd y cwrs 2 awr hwn yn rhoi cyflwyniad a mewnwelediad i sut y dylid cynnal cyfarfodydd ar gyfer byrddau a phwyllgorau yn effeithiol a'r protocolau sydd eu hangen ar gyfer gwahanol strwythurau cyfarfod.

Mae'r sesiwn hon yn archwilio'r gwahanol ffyrdd y gallwch gefnogi athrawon a disgyblion mewn ysgolion. Byddwch yn nodi eich sgiliau a'ch priodoleddau personol eich hun, yn archwilio meysydd i'w datblygu ac yn nodi sut y gellir cymhwyso'r rhain mewn lleoliadau ysgol. Byddwch yn deall pwysigrwydd rhieni ac ysgolion yn cydweithio ac yn awgrymu sut y gallech gymryd rhan mewn cefnogi ysgolion.

Byddwn yn ystyried y rolau allweddol, megis cadeirydd ac ysgrifennydd, a'r cyfraniad maent yn ei wneud at sicrhau bod cyfarfodydd yn effeithiol a syml. Byddwn yn edrych hefyd ar y sgiliau sydd eu hangen i gyfrannu'n llawn at brosesau cyfarfod, yn ogystal â sut y gellir datblygu a gwella eich sgiliau unigol.

Mae'r cwrs hwn yn cael ei gefnogi a'i ariannu gan:

Mae'r sesiwn hon wedi'i dylunio i fod yn rhyngweithiol, gyda thrafodaeth grŵp a rhannu profiadau, ond nid oes angen unrhyw brofiad i fynychu.

Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu

7


Dydd Gwener 25 Mehefin AR-LEIN Hanner dydd tan 1.00pm

Dydd Iau 17 Mehefin AR-LEIN 10.00am tan 3.00pm

SUT I WNEUD CAIS I MET CAERDYDD

SUT I GREU EICH PORTFFOLIO CELF A DYLUNIO

Ydych chi'n oedolyn sy'n dysgu a hoffai wneud cais i Met Caerdydd? Ydych chi'n gwybod sut i wneud cais? Ydych chi eisiau gwybod mwy am y costau a pha gymorth all fod ar gael i chi, fel grantiau, benthyciadau a bwrsarïau?

P'un a ydych am symud ymlaen i gwrs sylfaen Celf a Dylunio, datblygu eich astudiaethau yn y maes creadigol neu greu corff o waith ar gyfer eich ymarfer proffesiynol eich hun, bydd y sesiwn adeiladu portffolio hon yn eich helpu i fynd â’ch sgiliau i'r lefel nesaf. Byddwch yn dysgu amrywiaeth o dechnegau sy'n cynnwys archwilio arddulliau newydd a dulliau o gynhyrchu gwaith celf, yn ogystal â syniadau cynllun tudalen, gorffen a golygu eich gwaith.

Nid ar gyfer pobl ifanc yn unig y mae prifysgol. Mae digon o oedolion sy'n dysgu o bob oedran sy'n astudio ar bob cwrs gwahanol yma ym Met Caerdydd. Dewch draw i'r sesiwn hon i gael gwybod mwy.

8 Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu

Dewch â dau neu dri darn o waith gyda chi, darnau 2D yn ddelfrydol ond croesewir darnau 3D hefyd. Gallai fod yn ddarn arbrofol neu derfynol neu hyd yn oed yn llyfr brasluniau wedi'i lenwi â lluniadau/paentiadau yr hoffech eu harddangos yn eich portffolio. Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd ac yn dechrau ar eich portffolio!


Dydd Mawrth 15 Mehefin AR-LEIN 10.00am tan hanner dydd

Dydd Llun 21 Mehefin AR-LEIN 10.00am tan 11.00am

CYFLWYNIAD I GODIO ESTHETIG: ARCHWILIO FFORDD GREADIGOL NEWYDD O DDYSGU SUT I RAGLENNU

CYFLWYNIAD I BLANT AC IECHYD MEDDWL

Y Diwydiannau Creadigol yw un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru, ac mae'n cynnwys gwasanaethau TG, meddalwedd a chyfrifiaduron. Bydd y cwrs byr hwn yn manteisio ar yr holl greadigrwydd hwn drwy gynnig cyfle i chi brofi'n uniongyrchol ffordd newydd a diddorol o raglennu. Gan gyfuno sgiliau dylunio a chod, nod y cwrs yw ysgogi eich diddordeb mewn codio a dangos i chi sut y gall y weithred o godio dyluniadau ysgogi ymgysylltiad naturiol ac ysbrydoli creadigrwydd wrth ddatrys problemau. Drwy ychwanegu haen ddylunio at y profiad rhaglennu, rydym yn gobeithio dod â'r cod yn fyw a'ch cyfoethogi chi gyda'i holl bosibiliadau dychmygus a chreadigol.

Mae'r sesiwn hon yn archwilio beth mae iechyd meddwl yn ei olygu. Byddwch yn trafod y gwahanol fathau o faterion iechyd meddwl sy'n effeithio ar blant, gan gynnwys anhwylderau bwyta, ADHD a defnyddio sylweddau. Byddwch yn nodi sut y gall staff ysgol gefnogi plant â phroblemau iechyd meddwl. Byddwch yn deall pa gymorth proffesiynol arall sydd ar gael ac yn gallu cymhwyso'r wybodaeth hon mewn gwahanol leoliadau. Mae'r cwrs hwn yn cael ei gefnogi a'i ariannu gan:

Mae'r cwrs hwn yn cael ei gefnogi a'i ariannu gan:

Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu

9


Dydd Llun 21 a dydd Mawrth 22 Mehefin AR-LEIN 10.00am tan 3.00pm

Dydd Mercher 16 a dydd Iau 17 Mehefin AR-LEIN 10.00am tan 3.00pm

CYFLWYNIAD I YSGRIFENNU CREADIGOL

CYFLWYNIAD I IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL

Mae'r cwrs rhagarweiniol hwn yn ddelfrydol i ddechreuwyr a'r rhai sydd am fireinio eu sgiliau. Dros y ddau ddiwrnod, byddwch chi'n dysgu hanfodion ysgrifennu ffuglen fer a barddoniaeth.

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn dysgu am yr ystod eang o gyfleoedd diddorol sydd ar gael i chi ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Byddwch yn cael cipolwg ar y cyfreithiau ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ynghyd â chyflwyniad i sgiliau cyfathrebu, gweithio mewn partneriaeth ac ymarfer proffesiynol sy'n allweddol i lwyddiant.

Byddwch yn dadansoddi ysgrifennu o wahanol genres ac yn cymryd rhan mewn ymarferion ysgrifennu a ddyluniwyd i addysgu hanfodion ffurf, disgrifiad, cymeriadu, delweddau a llais i chi. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych chi'r sgiliau naratif sydd eu hangen arnoch chi i gynhyrchu eich cerddi a'ch straeon byrion eich hun, ynghyd â'r offer i ddarganfod a datblygu eich llais ysgrifennu eich hun.

Mae Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn faes cymhleth a byddwn hefyd yn ystyried economi gymysg y ddarpariaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r heriau sy'n deillio o hynny. Mae cymuned yn rhan annatod o'r sector hwn, felly bydd rhan o'r cwrs yn cael ei dreulio yn ennill gwell dealltwriaeth o anghenion y cymunedau a wasanaethir gan ddarparwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ymunwch â ni ar gyfer y cwrs rhyngweithiol hwn sy'n arddangos amrywiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad gwych i'r modiwl Cymunedau ac Iechyd 10 credyd sy'n cael ei redeg yn y gymuned.

10 Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu


Dydd Gwener 18 Mehefin AR-LEIN 10.00am tan 3.00pm

Dydd Mercher 16 Mehefin a dydd Mercher 23 Mehefin AR-LEIN 10.00am tan 3.00pm

CYFLWYNIAD I BARATOI I ADDYSGU

CYFLWYNIAD I SEICOLEG

Mae llawer o oedolion yn dychwelyd i ddysgu a, chyda hyn, daw'r angen am diwtoriaid hynod ysbrydoledig sy'n gallu annog myfyrwyr. Mae'r cwrs hwn yn edrych ar y sgiliau sydd eu hangen ar y rhai sy'n teimlo y gallent wneud gwahaniaeth go iawn o ran helpu eraill drwy addysgu oedolion. Mae'r sesiwn yn un hamddenol a rhyngweithiol ac yn ffordd bleserus o ddarganfod mwy am yrfa newydd bosibl i chi'ch hun. Byddwch yn trafod rôl y tiwtor; yn edrych ar y ffordd y gall cymhelliant personol effeithio ar ddysgu; yn nodi technegau a dulliau sy'n hyrwyddo dysgu llwyddiannus; ac yn archwilio llwybrau cynnydd posibl ar gyfer astudiaeth bellach.

Mae seicoleg yn bwnc hynod amrywiol sy'n apelio at lawer o bobl. O'r cwrs hwn, byddwch yn cael cyflwyniad i astudio seicoleg drwy ystyried rhai o'r prif feysydd pwnc megis ymddygiad cymdeithasol pobl; plant a'u datblygiad a deall yr ymennydd i ddeall ymddygiad. Byddwn hefyd yn cyflwyno'r mathau o ddulliau y mae seicolegwyr yn eu defnyddio i ddeall ymddygiad dynol.

Felly, os ydych chi eisiau gwybod mwy am addysgu oedolion, mae'r cwrs hwn yn berffaith i chi. Mae'n gyflwyniad gwych i'r TAR neu'r AHO PCE a fydd yn eich cymhwyso i fod yn athro yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-16.

Bydd pob diwrnod yn cynnwys darlithoedd bach, yn ogystal â gweithgareddau ymarferol, i gynorthwyo dealltwriaeth o sylfaen ymchwil seicoleg. Os ydych am fynd ymhellach, beth am ystyried ein Modiwl Seicoleg Lefel 3 achrededig neu'r Sylfaen sy'n arwain at BA/BSc mewn Gwyddorau Cymdeithasol.

Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu

11


Dydd Llun 14 Mehefin AR-LEIN 10.00am tan hanner dydd

Dydd Mawrth 15 Mehefin AR-LEIN 10.00am tan 11.00am

CYFLWYNIAD I GYMDEITHASEG

CYFLWYNIAD I DDEALL YMDDYGIAD SY'N TARFU AR ERAILL YN YR YSTAFELL DDOSBARTH

Mae'r sesiwn blasu 2 awr hon wedi'i dylunio ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn deall sut mae materion cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd yn llywio gweithredoedd a chredoau unigol.

Ar ôl y sesiwn hon, byddwch yn deall beth mae ymddygiad sy'n tarfu ar eraill yn ei olygu a sut beth ydyw. Byddwch yn gallu nodi mân faterion ymddygiad cyffredin a materion mwy difrifol mewn ystafelloedd dosbarth a deall pam y gallent ddigwydd. Byddwch yn archwilio sut mae ysgolion ac athrawon yn delio ag ymddygiad sy'n tarfu ar eraill gan gynnwys strategaethau disgyblaeth adferol. Mae hwn yn gwrs blas gwych i'w fynychu os oes gennych ddiddordeb mewn ymddygiad, datblygiad plant, addysg, addysgu a dysgu.

Drwy'r cyflwyniad hwn, bydd myfyrwyr yn gallu nodi enghreifftiau i ddangos sut mae cymdeithaseg yn ein helpu ni i archwilio'n feirniadol y pethau bob dydd rydyn ni'n eu cymryd yn ganiataol. Bydd cyfle hefyd i ddarganfod pa mor berthnasol yw cymdeithaseg wrth ehangu gyrfaoedd galwedigaethol ac academaidd.

12 Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu

Mae'r cwrs hwn yn cael ei gefnogi a'i ariannu gan:


Dydd Mawrth 15 a dydd Mercher 16 Mehefin AR-LEIN 10.00am tan 3.00pm

Dydd Mawrth 22 a dydd Mercher 23 Mehefin AR-LEIN 10.00am tan 3.00pm

CYFLWYNIAD I ADDYSG IEUENCTID AC ADDYSG GYMUNEDOL

YMCHWILIO I DAI

gwahaniaeth yn eu cymunedau, ond nid ydynt yn gwybod beth yw’r ffordd orau o gyfrannu.

Pam mae gennym ni argyfwng tai?

Dyluniwyd y cwrs deuddydd hwn fel cyflwyniad i'r rhai sy'n dymuno ymgymryd â hyfforddiant proffesiynol mewn gwaith ieuenctid a chymunedol a'r rhai a hoffai wybod mwy am astudio yn y maes hwn. Mae'n ddelfrydol i bobl sy'n poeni am eu cymuned ac sydd am wybod mwy, ac mae hefyd yn dda i weithwyr ieuenctid neu gymunedol heb fawr o brofiad blaenorol o astudio. Mae'r themâu a ddatblygir o fewn y cwrs yn cynnwys: dysgu o brofiad, ymdopi mewn amgylchedd newydd a deall eraill. Bydd y cwrs hwn yn rhoi cipolwg ar y rolau a'r sgiliau sydd eu hangen ar y rhai sy'n gweithio gyda phobl ifanc yn y gymuned. Byddwch yn nodi ac asesu gwahanol gymunedau ac yn diffinio cysyniadau o ieuenctid a phobl ifanc.

Mae'r degawd diwethaf wedi bod yn gyfnod heriol i'r sector tai yn y DU. Mae'r cwrs hwn yn edrych ar faterion presennol a sut y gall pobl ymwneud â materion tai yn eu cymunedau ac fel gyrfa. Mae tai yn sector sy'n tyfu sy'n cynnig amrywiaeth o yrfaoedd gwerth chweil, gyda llawer o swyddi gwahanol a llawer o gyfleoedd. Mae'r cwrs hwn yn arbennig o addas i unrhyw un sydd am ddatblygu ei sgiliau a'i wybodaeth, os ydych chi'n ystyried dychwelyd i addysg neu newid eich gyrfa. Mae llawer o gyfleoedd yn bodoli yn y sectorau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol lle gallwch chi weithio neu wirfoddoli mewn meysydd fel cyngor ar dai, cymorth tai, atal digartrefedd a chyfranogiad tenantiaid. Mae'r cwrs byr hwn yn gyflwyniad cyfeillgar ac anffurfiol i'n modiwl Tai a Chymuned Lefel 3 achrededig, y radd BSc (Anrh) llawn amser mewn Astudiaethau Tai neu'r cwrs HNC rhanamser mewn Astudiaethau Tai.

Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu

13


Dydd Mawrth 15 Mehefin AR-LEIN 10.00am tan 3.00pm

Dydd Mercher 23 a dydd Iau 24 Mehefin AR-LEIN 10.00am tan 3.00pm

HYDER AR-LEIN A CHYNLLUNIO EICH DYFODOL

ATHRONIAETH YN Y GYMUNED

Bydd y cwrs undydd hwn yn edrych ar eich hyfedredd ar-lein presennol a sut y gellir gwella hyn. Byddwn yn edrych ar sgiliau cyfathrebu ar-lein, gan gynnwys iaith y corff a gwella hyder, a sut mae angen addasu'r rhain i wahanol senarios ar-lein megis cyfweliadau a dysgu ar-lein. Byddwn yn edrych ar sut i greu CV sy'n addas ar gyfer yr amgylchedd ar-lein ac yn edrych ar osod nodau gyda chyfeiriadau unigol ar sut i symud ymlaen a chynllunio eich dyfodol.

Oes gennych ddiddordeb mewn dysgu sut i feddwl yn feirniadol ac yn greadigol gydag eraill mewn lleoliad cymunedol? Oes gennych ddiddordeb mewn siarad ag eraill am gwestiynau mawr bywyd? Mae'r cwrs hwn yn cyfuno athroniaeth (syniadau o lenyddiaeth) ac athronyddu (sgiliau ar gyfer trafod syniadau gydag eraill) i'ch helpu i wneud synnwyr o feddyliau a syniadau. Byddwch yn dysgu ac yn ymarfer sgiliau ar gyfer meddwl yn feirniadol a allai fod o gymorth ar gyfer astudiaethau yn y dyfodol, neu ar gyfer bywyd yn gyffredinol. Byddwch yn dysgu sut i arwain a/neu gymryd rhan mewn trafodaeth grŵp ar amrywiaeth o faterion gan ddefnyddio'r model 'cymuned ymholi'.

14 Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu


Dydd Mercher 23 Mehefin AR-LEIN 10.00am tan hanner dydd

Dydd Iau 17 a dydd Iau 24 Mehefin AR-LEIN 10.00am tan 3.00pm

PARATOI AR GYFER IELTS ACADEMAIDD

YSGRIFENNU AM HWYL A BLOGIO

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio yn y Brifysgol ond nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, efallai y bydd gennych rai pryderon ynghylch cael mynediad at gyfleoedd dysgu.

Nod y cwrs deuddydd hwn yw eich helpu i fynegi eich syniadau, eich barn a'ch straeon drwy'r gair ysgrifenedig.

Mae'r sesiwn blasu 2 awr hon yn gyfle gwych i unrhyw un sydd yn y sefyllfa honno. Bydd y sesiwn gwbl ryngweithiol hon yn cael ei chyflwyno drwy Microsoft Teams a bydd yn darparu ymarferion byr sy'n cwmpasu'r meysydd craidd canlynol: Siarad, Gwrando, Darllen ac Ysgrifennu. Bydd dysgwyr yn cael eu hannog i fagu hyder drwy gymryd rhan mewn amgylchedd diogel a chefnogol, ac yna byddant yn derbyn cyfeiriadau at gyfleoedd dysgu eraill yn y dyfodol.

Byddwch yn dysgu sut i fynegi eich hun a chyfleu eich syniadau yn llwyddiannus i gynulleidfa. Byddwn yn archwilio mynegiant creadigol, drwy edrych ar sut rydym yn creu cylchgronau, erthyglau a nodweddion ac yn llywio platfformau arlein ar ffurf blogio. Byddwch yn magu hyder yn eich gallu i fynegi eich hun ac yna archwilio platfformau ar-lein. P'un a ydych chi am ysgrifennu i chi'ch hun, cynhyrchu eich erthyglau a'ch straeon eich hun neu rannu eich syniadau gyda'r byd ehangach, bydd y cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau sylfaenol i chi ddechrau ar eich taith ac yn eich cyfeirio at ymgysylltu ymhellach â'r byd cyfathrebu ar-lein a'r cyfan sydd gan hynny i'w gynnig. Croesewir myfyrwyr o bob lefel.

Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu

15


6

CYNLLUNYDD CWRS DEFNYDDIOL I'ch helpu i gynllunio ac archebu lle ar y cyrsiau gorau i chi, rydym wedi cynnwys cynllunydd defnyddiol ar gyfer y ddwy wythnos.  Bydd hyn yn eich helpu i osgoi archebu lle ar ddau gwrs a allai fod yn cael eu cynnal ar yr un dyddiad. 

Bydd POB cwrs yn cael ei gynnal AR-LEIN drwy Microsoft Teams neu Zoom. Ni fydd UNRHYW GYRSIAU ar y campws eleni oherwydd cyfyngiadau COVID 19.

 Bydd pob cwrs yn dechrau am 10.00am ac yn gorffen am 3.00pm, oni nodir yn wahanol.

16 Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu


YSGOL HAF 2021

Llun Maw Mer 14 15 16 Meh Meh Meh

Iau Gwe Llun Maw Mer 17 18 21 22 23 Meh Meh Meh Meh Meh

Iau Gwe 24 25 Meh Meh

Cyflwyniad i Gymdeithaseg Cymryd rhan mewn cefnogi athrawon a disgyblion mewn ysgolion

Drafftio a Newid Patrymau Sylfaenol Hyder ar-lein a Chynllunio eich Dyfodol Cyflwyniad i ddeall ymddygiad sy’n tarfu areraill yn yr ystafell ddosbarth Cyflyniad i Godio Esthetig: Archwilio ffordd greadigol newydd o ddysgu sut i raglennu

Cyflwyniad i Addysg ieuenctid ac Addysg Gymunedol Cyflwyniad i Seicoleg Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol Sut i Greu eich Portffolio Celf a Dylunio Ysgrifennu am Hwyl a Blogio Cyflwyniad i Barato i Addysgu Cyflwyniad i Blant ac Iechyd Meddwl Cyflwynbiad i Ysgrifennu Creadigol Sgiliau Academaidd Ymchwilio i Dai Datblygu Sgiliau Cyfarfod a Ohwyllgor Paratoi ar Gyfer IELTS Academaidd Athroniaeth yn y Gymuned Sut i Wneud Cais i Met Caerdydd

Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu

17


CWESTIYNAU CYFFREDIN Ydy unrhyw un yn cael mynychu cwrs Ysgol Haf?

Beth os nad ydw i wedi astudio am amser hir?

Gall pob oedolyn 18 oed a hŷn fynychu, ond rhoddir blaenoriaeth yn yr Ysgol Haf i'r Dysgwyr hynny sy'n byw mewn ardaloedd o i'r Dysgwyr hynny sy'n byw mewn ardaloedd o perthyn i un o'r categorïau canlynol:

Ni ddisgwylir i chi fod ag unrhyw wybodaeth flaenorol am y pwnc. Mae’r cyrsiau ar gyfer pobl sydd wedi bod allan o addysg am gyfnod. Bydd tiwtoriaid profiadol yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ac ehangu eich gwybodaeth mewn amgylchedd cefnogol, cyfeillgar a hwyliog. Bwriad y cyrsiau hyn yw rhoi blas i chi o sut beth fyddai astudio yn y Brifysgol.

á á á á

heb gael mynediad at gyfleoedd Addysg Uwch o'r blaen yn hawlio Budd-daliadau'r Llywodraeth (ac eithrio Budd-dal Plant ar incwm isel neu'n wynebu 'tlodi mewn gwaith’ yn Ofalwr llawn amser neu wedi Gadael Gofal wedi'i atgyfeirio gan un o'n sefydliadau cymunedol neu elusennau partner

Faint fydd fy nghwrs Ysgol Haf Ehangu Mynediad yn ei gostio? Mae pob un o'n cyrsiau Ysgol Haf Ehangu Mynediad yn rhad ac am ddim.

Oes angen unrhyw gymhwyster arnaf fynychu'r ar gyfer yr ysgol Haf? Nid oes angen unrhyw gymwysterau i fynychu cyrsiau'r Ysgol Haf.

18 Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu

Ble a phryd mae'r cyrsiau? Bydd y cyrsiau'n dechrau am 10am ac yn gorffen am 3pm (oni nodir yn wahanol). Bydd pob cwrs yn cael ei gynnal ar-lein drwy Microsoft Teams neu Zoom. Ni fydd unrhyw gyrsiau wyneb yn wyneb ar y campws eleni.

Alla i archebu lle ar fwy nag un cwrs? Gallwch fynychu mwy nag un cwrs. Fodd bynnag, cyfeiriwch at ein Cynllunydd ar dudalen 17 i wneud yn siŵr nad yw'r cyrsiau rydych chi’n dymuno eu mynychu yn digwydd ar yr un pryd. Ni fydd modd i chi fynychu mwy nag un cwrs ar yr un diwrnod.


Dim ond un o ddiwrnodau'r cwrs y gallaf i fynychu. Ydy hi dal yn bosibl i mi ddod? Yn anffodus, ni fyddwch yn gallu mynychu os na allwch ddod ar bob un o'r diwrnodau mae'r cwrs yn rhedeg. Yn aml iawn, bydd ein cyrsiau'n adeiladu ar y gwaith a wnaed y diwrnod cynt ac mae'n amharu ar y i'r tiwtor a’r dysgwyr eraill os mai dim ond rhan o'r cwrs y gallwch ddod iddo.

Sut mae ymrestru? Gallwch ymrestru ar eich cyrsiau Ysgol Haf drwy lenwi'r Ffurflen Ymrestru ar-lein sydd ar gael yn www.cardiffmet.ac.uk/summerschool. Os nad ydych chi wedi derbyn ymateb, gwiriwch nad yw eich e-bost cadarnhau wedi nad yw eich e-bost cadarnhau wedi Sothach.

Beth os ydw i wedi archebu lle ond ddim yn gallu dod?

Sut ydw i'n ymuno â'r cwrs? Bydd pob cwrs yn cael ei gynnal ar-lein drwy Microsoft Teams neu Zoom. Bydd y ddolen i chi ymuno â'r cwrs yn cael ei hebostio atoch dim hwyrach na 3 diwrnod cyn dechrau'r cwrs (os na fyddwch wedi derbyn y ddolen, gwir iwch eich ffolder ‘Sothach').

Oes angen i mi ddod ag unrhyw beth gyda mi i'r cwrs? Nid oes angen i chi ddod ag unrhyw beth penodol gyda chi i'r cwrs, ond gall pin a phapur fod yn ddefnyddiol.

Os ydw i'n mwynhau mynychu cwrs Ysgol Haf, beth alla i ei wneud nesaf? Os ydych wedi mwynhau eich cwrs Ysgol Haf ac yn dymuno parhau â'ch taith ddysgu, beth am fynychu un o'n cyrsiau blasu neu achrededig sy'n digwydd yn y gymuned. Mae manylion llawn y cyrsiau sy'n rhedeg ar ein gwefan: www.cardiff met.ac.uk/wideningaccess.

Mae lleoedd ar bob un o'n cyrsiau Ysgol Haf yn brin. Os ydych wedi archebu lle ond na allwch ddod, rhowch wybod i ni. Yn aml, bydd gennym restr aros o bobl sydd eisiau dod a, thrwy roi gwybod i ni ymlaen llaw na allwch fod yn bresennol, mae hyn yn golygu y gallwn gynnig eich lle i rywun arall.

Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu

19


TELERAU AC AMODAU CYFFREDINOL

á

á

á

Rhaid i fyfyrwyr gadw at reoliadau Met Caerdydd. Mae’r manylion wedi’u hymgorffori ar wefan Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Rhaid i bob achos o dorri neu ddifrodi eiddo Met Caerdydd gael ei adrodd ar unwaith i aelod o staff. Efallai y bydd hi'n ofynnol i fyfyrwyr wneud iawn am unrhyw golled neu ddifrod i unrhyw lyfr, offer neu gyfarpar yn eu gofal.

á

á

Nid yw Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn derbyn cyfrifoldeb am golled neu ddifrod i eiddo personol ac, os bydd unrhyw gyfryngau digidol yn cael eu cyflwyno fel eiddo coll, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gael mynediad at y ddyfais hon er mwyn dychwelyd yr eiddo i'r perchennog.

á á

20 Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cadw'r hawl i cadw'r hawl i ganslo, atal neu addasu unrhyw raglen os bydd amgylchiadau'n galw am hynny. Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych ar eich ffurflen ymrestru yn cael ei thrin yn unol ag egwyddorion Diogelu Data. Yn unol ag Erthygl 6 1.(f) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), rydym yn prosesu eich gwybodaeth at ddibenion eich buddiannau dilys chi a buddiannau dilys y Brifysgol. Efallai y byddwn yn rhannu eich data â'n sefydliadau partner at ddibenion gweinyddu'r cwrs a chadarnhau eich presenoldeb/ cyrhaeddiad. Am ragor o wybodaeth am sut mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn defnyddio eich data personol, cysylltwch â DataProtection@cardiff.met.ac.uk. Rhaid i feiciau gael eu gadael yn y rheseli beiciau neu'r standiau arbennig a ddarperir a’u cloi'n ddiogel. Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cadw'r hawl i dynnu myfyrwyr oddi ar y cwrs ar unrhyw adeg.


YMDDYGIAD

YMRESTRU

á

á

Disgwylir i chi ymddwyn mewn ffordd resymol a threfnus bob amser, gan roi sylw dyledus i bobl eraill ac i eiddo Met Caerdydd fel yr amlinellir yng Nghod Ymddygiad Myfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

EF

Mae'n ofynnol i bob myfyriwr ymrestru cyn dechrau ar ei raglen astudio. Nid yw'r broses ymrestru wedi’i chwblhau hyd nes bod:

ffurflen ymrestru Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi'i chwblhau'n foddhaol.

unrhyw weithdrefnau gweinyddol eraill wedi'u bodloni.

á

Ni fydd unrhyw fyfyrwyr sydd ag unrhyw ymrwymiadau ariannol dyledus i Met Caerdydd yn cael ymrestru.

Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu

21


ASTUDIAETH BELLACH YM MHRIFYSGOL METROPOLITAN CAERDYDD Dim cymwysterau mynediad traddodiadol? Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnal cyrsiau Sylfaen blwyddyn a all fod yn addas i oedolion sydd heb gymwysterau mynediad traddodiadol ond sydd â sgiliau a phrofiadau eraill. Gall astudio un o'r cyrsiau hyn am flwyddyn helpu i wella eich hyder a'ch sgiliau. Ar ôl cwblhau un o'r cyrsiau hyn, gallwch symud ymlaen i un o nifer o raglenni gradd a gynigir ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Er na ellir gwarantu lle, efallai y byddai'n werth cysylltu â’n harweinwyr rhaglenni i siarad am eich amgylchiadau unigol; byddant yn gallu rhoi cyngor ar gamau i'w cymryd er mwyn cael mynediad at y cwrs. Cysylltwch ag arweinwyr y rhaglenni: Sylfaen sy'n arwain at BSc (Anrh) mewn Gwyddorau Iechyd www.cardiffmet.ac.uk/ foundation-health-sciences Dr Paul Foley pfoley@cardiffmet.ac.uk +44(0) 29 2020 5632

Y

Sylfaen sy'n arwain at BA/BSc (Anrh) mewn Gwyddorau Cymdeithasol www.cardiffmet.ac.uk/ foundation-social-science Sarah Taylor-Jones foundationsocsci@cardiffmet.ac.uk +44(0) 29 2041 7228

22 Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu

Rhaglen Sylfaen: Ysgol Reoli Caerdydd www.cardiffmet.ac.uk/ foundation-management Lisa Wright lwright@cardiffmet.ac.uk +44(0) 29 2041 6318 I wneud ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â Thîm Derbyn Met Caerdydd ar 029 2041 6010 neu e-bostiwch askadmissions@cardiffmet.ac.uk


CYNGOR CYLLID A LLES I FYFYRWYR Mae'r Gwasanaeth Cyngor Cyllid a Lles i Fyfyrwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd ar bob agwedd ar gyllid myfyrwyr, ac mae AM DDIM i bob darpar fyfyriwr. Dyma rai o'r pethau mae’r gwasanaeth yn eu cynnig:

á á á á á á á

Cyfweliadau un-i-un Cyngor ar gyllidebu a rheoli arian Cyngor ar ba gymorth ariannol sydd ar gael Gwybodaeth am ffioedd a chymorth ariannol Cyngor ar fudd-daliadau yn ystod eich amser fel myfyriwr Cyngor ar sut i wneud cais i'r Gronfa Ariannol Wrth Gefn Cymorth brys byrdymor

Os hoffech archebu lle i weld Cynghorydd Cyllid a Lles Myfyrwyr, ffoniwch 029 2041 6170 neu e-bostiwch financeadvice@cardiffmet.ac.uk neu studentservices@cardiffmet.ac.uk I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.metcaerdydd.ac.uk/study/ studentservices/finance/Pages/default. aspx

ANABLEDD A CHYMORTH ARALL

astudio ac nad ydynt o dan anfantais oherwydd anabledd neu anhawster dysgu penodol. Os oes gennych anabledd, cysylltwch â ni i drafod eich anghenion. Weithiau, gall rhai addasiadau gymryd amser i'w trefnu, fel gorau po gyntaf y gallwch roi gwybod i ni. I gael rhagor o fanylion, ewch i: https://www.metcaerdydd.ac.uk/study/ studentservices/wellbeingservice/Pages/Disability-support.aspx Efallai y bydd myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio o'u rhieni neu sydd wedi derbyn gofal gan awdurdod lleol yn gallu cael cymorth ychwanegol gydol eu hastudiaethau. Gweler y ddolen ganlynol am ragor o wybodaeth: https://www.metcaerdydd.ac.uk/study/ studentservices/finance/Pages/careleavers.aspx Os ydych yn gofalu am rywun ac yn darparu cymorth di-dâl i deulu a ffrindiau, efallai y gallwch gael cymorth ychwanegol gydol eich amser ym Met Caerdydd. Gweler y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: https://www.metcaerdydd.ac.uk/study/ studentservices/finance/Pages/Studen t-carers.aspx Mae gan Met Caerdydd amrywiaeth o Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau y gall myfyrwyr gael mynediad atynt i gynorthwyo gyda chost eu hastudiaethau. Gweler y ddolen ganlynol am ragor o wybodaeth: www.cardiffmet.ac.uk/study/ finance/bursaries/Pages/default.aspx

Mae'r Gwasanaeth Anabledd yn cydlynu cymorth i fyfyrwyr anabl ar draws y brifysgol. Ein nod yw sicrhau bod myfyrwyr anabl yn gallu manteisio ar eu rhaglen Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Oedolion sy'n Dysgu

23


YMRESTRWCH NAWR Ehangu Mynediad Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd CF5 2YB

 029 2020 1563  wideningaccess@cardiffmet.ac.uk  @wideningaccess www.facebook.com/wideningaccess  www.cardiffmet.ac.uk/summerschool


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.