Entreprenuership Impact Review - Welsh

Page 1

A D O LY G I A D E F FA I T H

A DOLYGI A D EFFA I T H 2 02 0 1


Y R AT HRO S H E L D ON HA NTON ( D ir pr wy I s - g a n g h e l l o r, Ym c hw i l a c A r l o e s i )

Mae 2020 yn flwyddyn a fydd yn aros yn y cof am amser maith, ac nid yw’n glir eto pa effaith mae’r pandemig wedi’i chael ar bob un ohonom. Yr hyn y gallwn ei gydnabod yw’r ymrwymiad ar draws Met Caerdydd i barhau i ddarparu profiad rhagorol i’n myfyrwyr, ein graddedigion a’n partneriaid, er gwaethaf yr heriau rydym wedi’u hwynebu gyda’n gilydd. Mae Met Caerdydd yn brifysgol wirioneddol entrepreneuraidd, a dangoswyd hyn eleni trwy wydnwch, hyblygrwydd ac ymrwymiad ein holl staff, yn arbennig tîm y Ganolfan Entrepreneuriaeth.

2 C A N O L FA N E N T R E P RE NE URIAETH

Mae’r tîm wedi ymateb yn gadarnhaol i’r heriau o gyflwyno rhaglenni o bell, gan weithio ar y cyd â chydweithwyr yn ein holl ysgolion academaidd a thu hwnt er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr a’n graddedigion entrepreneuraidd yn cael eu hysbrydoli a’u cefnogi. Mae’r adolygiad hwn yn sôn am y gwaith a wneir trwy’r Brifysgol i gefnogi entrepreneuriaeth, a hefyd mae’n tynnu sylw at rai o’r busnesau cyffrous a’r mentrau cymdeithasol a gaiff eu creu, er gwaethaf y pandemig byd-eang.


MET CA ERDY D D – P R I FYS G OL E NTR E PR E NE URAI D D Elfen hollbwysig sy’n perthyn i entrepreneur llwyddiannus yw’r gallu i ffynnu mewn sefyllfaoedd amwys, ansicr a llawn risg (Entrecomp, 2016). Mae cryn alw wedi bod am y cymhwysedd hwn yn ystod 2020, ac rydym yn falch ein bod ni fel #UnMetCaerdydd, trwy gael ein tywys gan ein gwerthoedd moesegol, wedi dangos ein gallu i addasu’n llwyddiannus i newid cyflym, gan addasu ein gwasanaethau’n ddi-oed ac yn effeithiol. Mae’r llwyddiant hwn yn ymgorffori EDGE Met Caerdydd (Moesegol, Digidol, Byd-eang, Entrepreneuraidd), a dyma’r ffordd orau o ddangos bod entrepreneuriaeth yn rhan annatod o’n DNA.

R Ô L Y GA N O L FA N E N TR E PR E NE UR I A E TH Cafodd y Ganolfan Entrepreneuriaeth ei sefydlu yn 2013 ac mae’n gatalydd gweledol i’r gweithgarwch a’r cymorth entrepreneuraidd sydd ar gael trwy’r Brifysgol. Eleni, rydym wedi darparu’r rhan fwyaf o’n gwasanaethau mewn modd digidol, gan alluogi ein myfyrwyr a’n graddedigion i gael gafael ar gymorth o bob cwr o’r byd. Mae ein staff yn cydnabod pa mor werthfawr yw meithrin graddedigion entrepreneuraidd, ond yn arbennig maent yn cydnabod pa mor werthfawr yw creu busnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau newydd a’r effaith a gaiff hyn wrth i’r economi adfer ar ôl Covid-19. Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at weithgarwch y Ganolfan, gan ddangos ein hymrwymiad i gefnogi menter ac entrepreneuriaeth.

Mae ein gwaith yn cwmpasu tri llwybr datblygu allweddol:

CYMORTH ‘ENTACT’ CYN CYCHWYN gweithgarwch sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o entrepreneuriaeth a meithrin dymuniad i ymhél mwy â gweithgarwch entrepreneuraidd.

CYMORTH CYCHWYN BUSNES ‘CF5’ gweithgarwch sydd â’r bwriad o helpu unigolion a thimau i sefydlu a thyfu sefydliadau newydd.

CYMORTH ACADEMAIDD gweithgarwch sydd â’r nod o integreiddio entrepreneuriaeth ymhellach yn niwylliant Met Caerdydd a chynorthwyo’r holl staff i gefnogi entrepreneuriaeth a bod yn entrepreneuraidd.

A DOLYGI A D EFFA I T H 2 02 0 3


PWY YDYM NI Mae’r Ganolfan Entrepreneuriaeth a’n staff yn rhan o gymuned gydnerth, weithgar ac ymgysylltiol. Ein cenhadaeth yw eich galluogi i gydnabod a datblygu cyfleoedd i greu gwerth.

EIN GW EL E D I G A E T H Byddwn yn ysbrydoli entrepreneuriaid i gael effaith yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang trwy greu gwerth cymdeithasol, diwylliannol ac ariannol. Byddwn yn gweithredu fel catalydd wrth greu sefydliadau cynaliadwy newydd, gan roi’r hyder a’r sgiliau ymarferol i sylfaenwyr greu gwerth yn eu syniadau. Byddwn yn cael ein cydnabod yn genedlaethol am y gweithgaredd hwn. Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd a byddwn yn hwyluso hyn trwy weithio ar y cyd â chydweithwyr academaidd i gefnogi addysg entrepreneuriaeth, sy’n ymgysylltu, yn grymuso ac yn cael ei arwain gan ymchwil. Byddwn yn cyfrannu at gynhyrchu a chymhwyso ymchwil sy’n arwain y byd, fel bod y brifysgol yn cael ei chydnabod fel canolfan ragoriaeth mewn addysg entrepreneuraidd, creadigrwydd entrepreneuriaeth, ac arloesedd.

4 C AN O L FA N E N T R E P RE NE URIAETH


MA N IF F ESTO ’ R G A NOL FA N E NTR E PR E NE UR I AE TH E RTHYG L 1 Chi sy’n diffinio llwyddiant, nid yw’n cael ei ddiffinio gennym ni, y farchnad nac unrhyw awdurdod arall. Credwn fod bod yn hapus yn rhan hanfodol o fod yn llwyddiannus. Felly, p’un a ydych chi eisiau gweithio ar eich liwt eich hun am ychydig o incwm ychwanegol, sefydlu elusen sy’n achub bywydau neu fod yr Elon Musk nesaf, byddwn ni’n trin eich llwyddiant yr un mor bwysig.

E RTHYG L 2 Credwn y gall y byd fod yn lle gwell, ac y gallwn, trwy weithredu, gyflawni hyn - dyma ystyr entrepreneuriaeth. Nid ydym yn tanamcangyfrif yr her hon, a dyna pam y byddwn yn eich herio chi a ninnau i darfu ar fusnes fel arfer.

E RTHYG L 3 Mae ein cymuned yn agored, yn amrywiol, yn gadarnhaol ac yn groesawgar; mae’n agored i bobl o bob rhyw, rhywioldeb, hil, lliw a chrefydd. Nid oes croeso i anghwrteisi nac agweddau negyddol. Byddwn bob amser yn eich trin â pharch, ac rydym yn disgwyl i chi wneud yr un fath. Nid yw hyn yn golygu y byddwn bob amser yn cytuno â chi, neu y byddwch bob amser yn cytuno â ni - adborth yw un o’r pethau mwyaf gwerthfawr y gall person ei roi neu ei dderbyn.

E RTHYG L 4 Mae entrepreneuriaeth yn grefft sy’n cymryd ymarfer i’w meistroli, ac mae sgiliau sylfaenol y gellir eu dysgu a’u profi yn sail iddi.

E RTHYG L 5 NID entrepreneuriaeth yw ysgrifennu cynllun busnes. Er bod y gallu i ysgrifennu cynllun busnes yn offeryn rheoli defnyddiol, mae rheolaeth ac entrepreneuriaeth yn ddisgyblaethau gwahanol. Nid yw ysgrifennu cynllun busnes yn eich paratoi i redeg busnes, ac ni all asesu gallu entrepreneuraidd unigolyn ychwaith. Mae arloesi ac entrepreneuriaeth, yn ôl eu natur, yn newid y dyfodol - gan wneud cynllun busnes yn ddarfodedig.

E RTHYG L 6 Mae elw yn rhoi bwyd ar y ford, mae newid cadarnhaol yn rhoi tân yn eich bol. Mae entrepreneuriaeth yn creu gwerth cymdeithasol, diwylliannol ac ariannol, nid yw’n symud arian o un lle i’r llall yn unig. Mae ymwybyddiaeth fasnachol a llythrennedd ariannol yn offer hanfodol wrth greu gwerth.

E RTHYG L 7 Mae gweithredu heb feddwl yn beryglus. Mae meddwl heb weithredu yn ddibwrpas.

A DOLYGI A D EFFA I T H 2 02 0 5


STEVE AI CHELER Rheolwr Ymg ysy lltu E ntrep ren eu ria eth 0.8 FT E e: s a icheler@ ca rd if f met.a c.uk

DEWI GRAY Rh eolwr Cychwy n B us n es 0.8 FT E

DR DAN ANTO NY Arweinyd d Aca d ema id d Ad d ys g Menter 0.5 FT E

HANNAH WI LLI S Swyddog Marchnata, Dig wyd d ia d a u a G weinyd d ia eth 0.5 FT E e: hwillis @ ca rd if f met.a c.uk

LYNDSEY BO ULTO N Swyddog Marchnata, Dig wyd d ia d a u a G weinyd d ia eth 0.5 FT E

Ffoniwc h n i: 02 92 0 2 0 5 6 6 4 E-bostiwch ni: entrepreneurship@cardiffmet.ac.uk

 C ardiffM e t En t  C ardiffM e t En t  cardiffm e te n t

6 C AN O L FA N E N T R EP RENE URIAETH

Wy neb y n wy neb : Ca nolfa n E ntrep ren eur i aeth Prif ys g ol Metrop olita n Ca erd yd d , Ca mpws Lla n d a f, Rhod fa ’r G orllewin, Ca erd yd d CF5 2 YB


Y GWEIT H G OR A D DYSG ME NTE R Yn ystod y deuddeg mis diwethaf aethom ati i sefydlu gweithgor Addysg Menter, ac mae cynrychiolwyr o bob ysgol academaidd yn rhan ohono. Bydd y grŵp hwn yn gnewyllyn cymuned ymarfer mewn Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth ym Met Caerdydd, a’i gylch gwaith fydd; Rhannu arferion gorau’n ymwneud â Menter ac Entrepreneuriaeth Cynnal a chyhoeddi ymchwil addysgegol yn y maes Cefnogi a meithrin yr arfer o ddatblygu rhwydwaith cryf o staff academaidd a chanddynt ddiddordeb angerddol mewn Menter ac Entrepreneuriaeth Mae’r grŵp hwn eisoes yn cael effaith, gan gynnig cymorth ar gyfer datblygu nifer o ymyriadau Menter ac Entrepreneuriaeth yn y cwricwlwm trwy’r Brifysgol.

CYN N WYS E NTR E P R E NE UR I A E TH YN E I C H AD DYS GU – DAT BLYGIAD P R OFFE S I Y N OL PA R HAUS (D PP) Mae Dr Dan Anthony wedi cyflwyno dau weithdy DPP ffurfiol, mewn partneriaeth â’n Cyfarwyddiaeth Gwella Ansawdd, gan gynorthwyo staff academaidd i feithrin eu hyder a’u gwybodaeth mewn addysg menter. Fe wnaeth y rhaglen hanner diwrnod hon annog y cyfranogwyr i archwilio egwyddorion addysg menter, meincnodi yn erbyn arferion gorau a chydweithio i ddatblygu ymyriadau Menter ac Entrepreneuriaeth effeithiol. Mae darparu ac ymhél â’r cyfleoedd DPP hyn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i gynnwys Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth ym mhopeth a wneir ym Met Caerdydd, gan wireddu ein nod o ddod yn Brifysgol wirioneddol entrepreneuraidd.

21 Mynychwyd y gweithdai gan 21 o staff AD N O DDAU M OOD L E Yn ôl Syr Isaac Newton, “Os wyf wedi gweld ymhellach, gwneuthum hynny trwy sefyll ar ysgwyddau Cewri.” Mae hyn yn wir am Addysg Menter, ac fel addysgwyr mae hi’n bwysig i ni fod yn ymwybodol o’r wybodaeth a’r arbenigedd sydd ar gael i ni yn ein maes, a’u defnyddio. I hwyluso hyn, ym Met Caerdydd rydym yn creu casgliad o ddogfennau defnyddiol ar safle Moodle hygyrch. Mae’r adnodd hwn yn cynnwys polisïau, safonau a fframweithiau, ynghyd ag addysgeg awgrymedig a dogfennau modiwlau, a bydd yn ein helpu i ledaenu arferion gorau trwy’r Brifysgol.

A DOLYGI A D EFFA I T H 2 02 0 7


CY MO RT H CY N CYC H WY N – E NTAC T Elfen sylfaenol o’n gwaith wrth annog a chefnogi entrepreneuriaeth yw gweithio gyda myfyrwyr sydd heb gychwyn busnes neu fenter gymdeithasol eto. Gall ein dylanwad a’n cefnogaeth yn ystod y cam hwn gynyddu’r diddordeb mewn entrepreneuriaeth a chynnig sylfaen gadarn y gall y myfyrwyr adeiladu arni wrth iddynt ddatblygu eu syniadau a’u priodoleddau personol.

CY FA R F O D A C HY M YSGU/CYSYLLTU

digwyddiad

Chwefror

Mawrth

Hydref

63 o fynychwyr i gyd

8 C A N O L FA N E N T R E PRE NE URIAETH

Rhagfyr

Iechyd, ffitrwydd a llesiant

IWD Esgor ar newid

Beth mae entrepreneuriaeth yn ei olygu i chi

Entrepreneuriaeth i gyd-fynd â’ch ffordd o fyw


GWE I T H DA I A SE SIYN AU GRYMUSO

63 9

o weithgareddau i gyd

o weithdai wyneb yn wyneb 10 (cyn covid)

o weminarau Dysgu dros Ginio (rhithwir)

o fynychwy 283 unigol

Gan ymateb yn gadarnhaol i ffyrdd newydd o weithio, newidiodd y Ganolfan e gweithrediadau’n ddi-oed er mwyn cyflwyno pob rhaglen mewn modd rhithwi gan arwain at ymgysylltiad parhaus ac ymateb cadarnhaol ymhlith y myfyrwy

Most Popular Event

Digwyddiad Mwyaf Poblogaidd Instagram i fusnesau bach 55 o fynychwyr

CR O N FA F F LAC H Diben Cronfa Fflach yw helpu myfyrwyr i gymryd eu cam cyntaf neu eu camau nesaf i ddatblygu eu busnes. Mae’r gystadleuaeth micro-ariannu hon yn cynnig gwobrau ariannol o hyd at £200 i gynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu eu syniad busnes.

Mawrth

dyfarnwyd £3000

Tachwedd

cynorthwywyd cynorthwywyd cynorthwywy 14 9 5 myfyriwr myfyriwr myfyriwr

A DOLYGI A D EFFA I T H 2 02 0 9


MENTER GYMDEITHASOL - EIN HYMRWYMIAD Yn ystod 2020, aethom ati i adeiladu ar ein hymrwymiad i roi lle cydradd i bobl a’r blaned mewn perthynas ag elw. Fel arwydd o’r ymrwymiad hwn, buom yn gweithio gyda’r Academi Mentrau Cymdeithasol i gyflwyno Rhaglen Mentrau Cymdeithasol tri diwrnod. Y bwriad oedd cynnal y rhaglen hon ym mis Mai 2020, a bu’n rhaid i ni symud yr holl weithgareddau ar-lein yn ddi-oed. Llwyddodd y rhaglen i helpu myfyrwyr i feithrin eu gwybodaeth am fentrau cymdeithasol, gan wella’r hyder a oedd ganddynt yn eu gallu i esgor ar newid cymdeithasol trwy entrepreneuriaeth.

14 o fynychwyr

cwblhawyd 6 chymhwyster ILM Lefel 5

lansiwyd 1 Fenter Gymdeithasol (hyd yn hyn)

10 C A N O L FA N E N T R EP RENE URIAETH


AST U D IA E T H ACHOS

N AT H A N JACKSON ME N TA L HEALTH MONSTER Helo. Nathan ydw i ac rydw i’n rhedeg menter gymdeithasol o’r enw Mental Health Monster CIC. Rydym yn hoffi meddwl ein bod yn asiantaeth atal stigma, yn yr ystyr ein bod yn credu mai ein gwaith ni yw perswadio’r Siôn neu’r Siân gyffredin i ofalu am eu hiechyd meddwl, gan ddangos iddyn nhw sut i wneud hynny. Ym mis Mai, cymerais ran yn rhaglen hyfforddi’r Academi Mentrau Cymdeithasol, a gallaf ddweud â’m llaw ar fy nghalon nad ydw i wedi edrych yn ôl ers hynny. Cyn hynny, roedd gen i dudalen Facebook ddi-nod yn hyrwyddo fy ymgyrch i wneud addysg iechyd meddwl yn orfodol mewn ysgolion. Erbyn hyn, mae’r dudalen Facebook ddi-nod honno wedi’i thrawsnewid yn fusnes cymdeithasol go iawn. Mae gen i le i ddiolch i’r Academi Mentrau Cymdeithasol, i Ganolfan Cydweithredol Cymru ac i’m tîm entrepreneuriaeth gwych yn y brifysgol am hyn. Pan oedd pobl yn ymhél yn gyson â’m platfform, daeth yn amlwg bod modd gwneud rhywbeth o hyn. Y cwbl yr oedd angen ei wneud ar y cychwyn oedd troi at aelodau’r tîm entrepreneuriaeth am help. Nhw oedd y grym trosiadol y tu ôl i ddomino cyntaf y gadwyn. Nid yn unig gan eu bod wedi fy annog i feddwl fel entrepreneur, ond gan eu bod hefyd wedi fy nerbyn ar y rhaglen hyfforddi mentrau cymdeithasol mewn partneriaeth â’r Asiantaeth Mentrau Cymdeithasol. Erbyn hyn, mae’r holl ddominos eraill yn dechrau syrthio i’w lle. Ar y rhaglen, fe wnes i ddysgu cymaint am y sector busnesau cymdeithasol i gyd. Yn ogystal â dysgu sut i fesur effaith gymdeithasol, sut i weithredu gyda nodau cymdeithasol, sut i gael gafael ar gymorth ariannol, a llawer mwy am strwythurau cyfreithiol a sefydliadol busnesau cymdeithasol. Roedd yr wybodaeth yn hawdd ei deall, yn enwedig gan fy mod â menter mewn golwg yn barod, oherwydd fe wnaeth fy ngalluogi i ofyn y cwestiynau perthnasol a gwneud cynlluniau i roi’r wybodaeth ar waith. Ond doedd hi ddim yn hanfodol cael menter mewn golwg, oherwydd roedd yna ddigonedd o astudiaethau achos a digonedd o gyfleoedd i siarad ag entrepreneuriaid gwirioneddol lwyddiannus drwy gydol y rhaglen. Ar ôl hynny, es ati’n rhagweithiol i roi pethau ar waith i ymgorffori Mental Health Monster fel Cwmni

Buddiannau Cymunedol. Roeddwn i’n teimlo fy mod yn barod i gymryd y cam nesaf hwnnw, ac fe wnaeth rhaglen yr Asiantaeth Mentrau Cymdeithasol fy nghyfeirio at Ganolfan Cydweithredol Cymru i wireddu hyn. Ers hynny, rydw i wedi treulio cryn dipyn o amser yn paratoi ac yn cynllunio ar gyfer cynaliadwyedd ariannol. Ond rydw i wedi llwyddo i greu cymuned gryfach fyth ar y cyfryngau cymdeithasol, diolch i gynnwys addysgol rheolaidd a diolch i’n hymgyrch hysbysfwrdd digidol ym mis Hydref. Mae llwyddiannau eraill yn cynnwys penodi cyd-gyfarwyddwr, ennill cymhwyster ILM, y gwaith a wnes ar astudiaeth gydag ymchwilwyr o’r Sefydliad Arloesi Iechyd Byd-eang, a chyd-gyflwyno gweminar yn ymwneud ag iechyd meddwl gyda Chyngor Caerdydd. Erbyn hyn, mae gennym gynhyrchion a gwasanaethau arloesol i’w cynnig. Heb sôn am y ffaith fy mod wedi ennill Bwrsariaeth Entrepreneuriaeth Santander, sydd wedi fy ngalluogi i weithio ar ein busnes cymdeithasol heb i mi orfod poeni am fy sefyllfa ariannol. Mae hyn wedi gwneud gwyrthiau i’m hyder wrth symud y busnes yn ei flaen, oherwydd mae wedi ategu fy nghred bod gen i rywbeth sy’n werth buddsoddi ynddo. Rhan enfawr o hyn fu cymhwyso rhywfaint o’r wybodaeth a gefais yn sgil yr hyfforddiant mentrau cymdeithasol ynghyd â’r help a gefais gan y tîm entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Yn cynnwys eu help i dreiddio at galon a chraidd Mental Health Monster a meddwl yn feirniadol am ein cynlluniau hirdymor, ein cynulleidfaoedd, ein model busnes, hunaniaeth ein brand a llawer mwy. Ac fe ddeilliodd y cwbl o’r ffaith fy mod wedi mynychu rhaglen hyfforddi’r Asiantaeth Mentrau Cymdeithasol! Serch hynny, y llwyddiannau gorau oll yw’r sgyrsiau rydym wedi’u tanio, y syniadau rydym wedi’u hysbrydoli a’r bobl rydym wedi’u cymell i gymryd camau tuag at iechyd meddwl da. Bob tro mae rhywun yn gwneud hynny, mae’n ein hysgogi gam neu ddau arall yn ein blaen. Dilynwch ein siwrnai ar Instagram (@MHealthMonster_), Twitter and Facebook (@MHealthMonster).

A DOLYGI A D EFFA I T H 2 02 0 11


CY MO RT H CYC H WY N B U S NE S - C F5 Cynorthwyo’r myfyrwyr a’r graddedigion hynny sy’n mentro i hunangyflogaeth neu sy’n cychwyn busnes gyda’r uchelgais o’i ddatblygu – dyna ddarn olaf y jig-so. Credwn fod ein cymorth yn gynhwysfawr a’i fod hefyd yn ategu’r cymorth a roddir gan ddarparwyr ecosystem eraill, fel Syniadau Mawr Cymru, Ymddiriedolaeth y Tywysog, Busnes Cymru, UnLtd a NatWest.

BŴ T- C AM P CF 5 Rhaglen ddwys wythnos o hyd oedd Bŵt-camp CF5, ac fe’i cynhaliwyd yn gyfan gwbl ar-lein. Datblygwyd y cwrs trwy gyfuno dulliau Fframwaith Entrecomp, Disciplined Entrepreneurship (Aulet 2014) a Chychwyn Darbodus, a dylanwadwyd arno gan waith yr Athro Heidi Neck. Bwriad y cwrs oedd meithrin meddylfryd entrepreneuraidd y cyfranogwyr, gan eu helpu yr un pryd i ddatblygu eu syniadau a’u cynlluniau busnes.

PARTNE R

“Wn i ddim sut i ddechrau disgrifio fy mhrofiad ym Mŵt-camp CF5 gyda’r Ganolfan Entrepreneuriaeth ym Met Caerdydd. Tri gair, efallai: ysbrydoledig, addysgiadol a bythgofiadwy.” “Byddaf yn cofio’r profiad hwn fel un o’r adegau pwysicaf o ’mhrofiad yn y brifysgol.” Eve Woods, myfyriwr graddedig yn y Celfyddydau Cain ac un o gyfranogwyr Bŵt-camp CF5.

dyfarnwyd cyllid o £16500

30 o oriau Zoom dros 5 diwrnod

31 o gyfranogwyr i gyd

180 o ddatganiadau disgrifiadol mewn 90 munud

12 C A N O L FA N E N T R EP RENE URIAETH

16 o westeion anhygoel

350 cwpanaid o de

crëwyd 120 o fodelau lego


BWRSARIAETHAU A CHYLLID

ACC E L E RATOR PR OGRAM

Yn ychwanegol at yr arian a addawyd yn ystod Bŵt-camp CF5, rydym hefyd wedi rhoi bron i £14,000 o arian i fusnesau newydd trwy ein Bwrsariaethau Entrepreneuriaeth Santander, sy’n rhoi incwm bach i raddedigion am hyd at 13 wythnos, gan eu galluogi trwy hynny i neilltuo mwy o amser i’w busnes ac anelu at ddod yn hunangynhaliol.

Cynhelir y rhaglen hon o fis Medi bob blwyddyn, ac mae’n cynnig cymysgedd o arweiniad un-i-un, cymorth cymheiriaid i gymheiriad, sesiynau arbenigol mewn Eiddo Deallusol, cyfrifyddu, cyllid a marchnata, yn ogystal â chyfle i ddefnyddio ein man deori yng Nghampws Llandaf. Bu’r rhaglen hon o fudd i 12 o raddedigion yn 2020, ynghyd â busnesau fel Ruby Harry Designs, Rosy Cheeks a Consumer Insights Lab Ltd.

A B BIE L AW RE NC E SY L FA E NY D D AC Y M C H W I LY DD A RW E IN IO L

AST UD I A E T H ACHOS

Mae Consumer Insight Lab (CIL) yn arbenigo mewn ymchwil manwerthu, dealltwriaeth defnyddwyr, a dylunio pecynnau trwy ddefnyddio ffug-amgylchedd profi defnyddwyr, sef gwaith sydd wedi deillio o ymchwil a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae CIL yn gweithio ar y cyd â Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ac mae wedi’i leoli yn Labordy Profiad Canfyddiadol Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Y bwriad oedd gweithio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd i greu cwmni deilliedig ar sail fy ymchwil PhD. Fodd bynnag, pan drawodd Covid-19 ym mis Mawrth 2020, doedd gweithio yn y brifysgol ddim yn opsiwn mwyach, a phenderfynais fasnacheiddio’r busnes fy hun. Trwy gymorth ac arweiniad y Ganolfan Entrepreneuriaeth, bu modd i mi roi Consumer Insights Lab ar waith rai misoedd ar ôl i mi benderfynu mynd ar fy liwt fy hun. Bu Bŵt-camp CF5 yn amhrisiadwy i’m datblygiad. Doedd gen i ddim profiad blaenorol mewn entrepreneuriaeth a doedd gen i ddim syniad sut i gychwyn fy musnes fy hun. O wybod dim, fe wnaeth Bŵt-camp CF5 fy helpu i ddeall fy lle yn y farchnad a beth yw fy musnes, a rhoddodd i mi’r adnoddau a’r wybodaeth i gofrestru’r cwmni. Ers Bŵt-camp CF5, mae’r Ganolfan Entrepreneuriaeth yn parhau i’m cynorthwyo i ac entrepreneuriaid eraill

trwy awgrymu ffrydiau arian, trosglwyddo gwybodaeth berthnasol a chynnal gweminarau llawn gwybodaeth. Ers cofrestru’r cwmni, mae CIL wedi cwblhau ei brosiect masnachol cyntaf ac mae wedi ennill cystadleuaeth a gynhaliwyd gan Design Dough, sef asiantaeth ddylunio a leolir ym Mae Caerdydd. Mae Design Dough wedi llunio canllawiau dylunio ar gyfer CIL, ac ar hyn o bryd mae wrthi’n cwblhau gwefan y cwmni. Mae CIL yn paratoi ar gyfer ei brosiect masnachol nesaf – sef astudiaeth ymchwil farchnata gyda Roast Busters, BBaCh bwyd o Gymru. Fy nodau nesaf ar gyfer dyfodol CIL yw creu presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol ac adeiladu cleientiaid. Er mwyn gwneud hyn, byddaf yn creu proffil LinkedIn ar gyfer CIL, gan ddefnyddio LinkedIn i rannu’r ymgyrch ar gyfer lansio’r wefan. Byddaf yn creu deunyddiau marchnata i’w hanfon at BBaCh bwyd trwy Gymru a’r DU. Hefyd, rydw i’n bwriadu hyrwyddo CIL fel gwasanaeth ategol ar gyfer asiantaethau dylunio o gwmpas y DU. Yn ddiweddarach yn y dyfodol, rydw i’n anelu at ymestyn gwasanaethau CIL i gynnwys casglu data ar gyfer pensetiau realiti rhithwir a phrofiad cartref. Ymhellach, rydw i’n bwriadu mynd i’r afael â phrosiectau y tu hwnt i’r diwydiant bwyd a sefydlu fy nghyfleusterau ffug-amgylchedd fy hun mewn mannau strategol o gwmpas y DU.

A DOLYGI A D EFFA I TH 2 02 0 13


AST U D IA E T H ACHOS

Z YAD R E DA SYLFA E N YDD HE XAPO Cafodd fy syniad busnes ei ffurfio gyntaf ym mis Tachwedd 2018 ar ôl i mi sylweddoli bod fy nghydweithwyr yn y brifysgol yn cael trafferth gyda phrosiect y modiwl electroneg roeddem yn ei astudio ac nad oedd ganddyn nhw mo’r wybodaeth na’r sgiliau i greu cylched weithredol na chreu system galedwedd sylfaenol a allai wneud tasg benodol. Felly, meddyliais am greu ateb mewn bocs, trwy lunio siwrnai a fyddai’n tywys y defnyddiwr o wybod dim am gylchedau caledwedd at adeiladu robot gweithredol a allai symud a rhyngweithio â’r byd o’i gwmpas! Trwy’r siwrnai hon, bydd y defnyddiwr nid yn unig yn dysgu am raglennu a chylchedau caledwedd, ond bydd hefyd yn dysgu sgiliau dwylo/technegol fel sodro PCB (Bwrdd Cylched Printiedig) a chydosod ac addasu caledwedd. Sut gwnaeth y bŵt-camp eich cynorthwyo i gychwyn eich busnes? Yn y bŵt-camp, fe wnaeth amrywiaeth y cynnwys a’r ffordd y cafodd ei gyflwyno roi cyfle i mi - a’r holl gyfranogwyr, yn fy nhyb i - gael profiadau ymarferol gwahanol. I mi, fe wnaeth y bŵt-camp weddnewid cynnydd fy musnes, oherwydd llwyddodd i ymestyn fy ngorwelion o ran sut i adeiladu model busnes llwyddiannus ac fe wnaeth fy helpu i greu cynlluniau gwell ar gyfer y dyfodol. Rhoddodd gyfle i mi gyfarfod â chyfeillion newydd a phobl y gallwn gydweithio â nhw, gan ymestyn fy rhwydwaith. Ar ôl y bŵt-camp, roeddwn i’n fwy hyderus i gyflwyno fy syniad i bobl, a chefais well gweledigaeth o ran sut gallaf gyrraedd fy nodau a beth yw’r pethau pwysig y

14 C A N O L FA N E N T R EP RE NE URIAETH

dylwn i eu hystyried yn y broses o ddiffinio’r syniad cyn gweithio arno. Pa gynnydd ydych chi wedi’i wneud ers cymryd rhan yn y bŵt-camp? Ar ôl y bŵt-camp, fe wnes i a’r tîm ganolbwyntio ar feithrin ymwybyddiaeth dda o’r brand. Felly, fe wnaethon ni ddechrau mynychu digwyddiadau i arddangos ein cynnyrch o flaen cynulleidfa er mwyn cael gweld beth oedd eu barn, a hefyd fe fuon ni’n gweithio ar greu tudalen lanio broffesiynol i gyflwyno’r syniad wrth wraidd y cynnyrch a’r broses o’i adeiladu. Roedden ni’n ddigon hyderus i gyflwyno cais am grant o’r enw Rhaglen Ddeori EBNI, sy’n rhoi 200,000 EGP = 9000 GBP i fusnesau newydd ar sail cynhyrchion IoT. Trwy lwc, ni oedd un o’r busnesau a enwebwyd ar gyfer y ‘llwyfan cynnig syniadau’. O ran eich busnes, beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol? Ein bwriad ar gyfer y dyfodol yw creu cynulleidfa gadarn ar gyfer ein cynnyrch er mwyn i ni allu lansio ymgyrch cyllido torfol a dechrau gwerthu’r pecyn i academïau STEM yn yr Aifft a’r DU am brisiau fforddiadwy. Mae gennym weledigaeth ar gyfer y dyfodol yn ymwneud â chynhyrchion newydd sy’n gysylltiedig â’r categori cymorth yn y cartref – cynhyrchion a allai ddatrys nifer o broblemau yn ein bywydau bob dydd.


CA N LY N IA DAU

Ymgysylltu 1149

Grymuso 298

Cymhwyso 104

profi masnachu 26

crëwyd 41 o fusnesau

crëwyd 2 fenter gymdeithasol

CYF RA N Y M Y FY RWY R A FYNYC HOD D W EIT H GA R E D DAU ’ N Y M W NE UD AG E NTR E PR E NE UR I A E T H

30.00% 25.00%

Ymgysylltu

20.00%

Grymuso

15.00%

Cymhwyso

10.00%

Yn dechrau

5.00% 0.00%

CSM

CSAD

CSSHS

CSESP

CST

A DOLYGI A D EFFA I TH 2 02 0 15


C a n o l fa n E n trep reneuria eth P ri f ys g o l Me tropolitan Cae rdydd Cam pws Llan daf Rh odfa’ r G or llewin Cae rdydd CF5 2YB 0292 0 20 5664  e n tre p re n eu rs h ip @ ca rd if f met.a c.uk

 Ca rd if f MetE nt  Ca rd if f MetE nt  ca rd if f metent

I MPACT R EVI EW 2 02 0 16


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.