Age Cymru Impact report

Page 1

Mae oedran ar ein cyfer ni i gyd ...gan fod oedran yn rhan o fywyd

Cynghori Ymgyrchu Cy northwyo


Rydym yn angerddol am sicrhau bod pobl hŷn yn cymryd eu lle dilys mewn cymdeithas. Rydym yn gweithio i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ar sail oedran sy’n parhau i fod yn gyffredin yn ein cymunedau.

Cynnwys 01 Neges gan y Cadeirydd Neges gan y Prif Weithredwr 02 Byd lle mae pobl hŷn yn ffynnu 04 Heneiddio’n well gyda’n gilydd 06 My Home Life Cymru Gwanwyn 07 Hysbysu a dylanwadu 08 Gweithio mewn partneriaeth 09 Diogelu ein dyfodol 10 Incom/gwariant elusennol 11 Ni fyddem yn gallu ei wneud hebddoch chi 12 Cymryd rhan


helo

Rwy’n falch iawn cael cyflwyno adroddiad effaith Age Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf (hyd at 31 Mawrth 2012). Mae’r pamffled hwn yn arddangos, er gwaethaf yr hinsawdd economaidd lem bresennol, mae Age Cymru’n parhau i gyflwyno ar gyfer pobl hŷn ledled Cymru. Wrth i ni edrych yn ôl ar yr hyn rydw i’n ei hystyried yn flwyddyn ryfeddol, rydym hefyd yn rhoi cipolwg i chi o’n gwaith yn y dyfodol. Hoffwn ddiolch yn bersonol yn ogystal i bawb sy’n gysylltiedig ag Age Cymru am eu gwaith caled ac ymdrech parhaus. Dr Bernadette Fuge MB BCH, LLM, MPH Cadeirydd

Mae oedran yn rhan naturiol o fywyd

Mae’n bleser mawr edrych yn ôl ar y flwyddyn ddiwethaf ac edrych ymlaen at y dyfodol. Mae ein gwaith ymgyrchu’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl hŷn yng Nghymru, ac rydym yn ei ategu gyda’n gwaith ymchwil a pholisi annibynnol ein hunain i sicrhau bod yr hyn rydym ni’n ei ddweud wedi’i seilio ar yr hyn y mae pobl hŷn ei eisiau mewn gwirionedd. Rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda’n teulu o bartneriaid Age Cymru annibynnol, lleol, sy’n darparu ystod eang o wasanaethau gwerthfawr, ar sail angen lleol, yn uniongyrchol i’w cymunedau. Rydym ni wedi gweithio’n galed eleni i sefydlu sylfaen gadarn i ddatblygu ein gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor blaenllaw arni – gwasanaeth sy’n hanfodol bwysig i bobl hŷn, eu gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Mae ein cefnogwyr ymroddedig, yn rhai unigol a chorfforaethol, yn gwneud gwahaniaeth enfawr i Age Cymru, ac ar ran ein helusen, hoffwn eu diolch yn bersonol am eu cyfraniad ni waeth beth yw ei ffurf. Mae Age Cymru’n parhau’n ymrwymedig i weledigaeth o fyd lle mae pobl hŷn yn ffynnu. Rwy’n eich gwahodd a’ch annog i weithio gyda ni i wireddu’r weledigaeth honno. Robert Taylor OBE Prif Weithredwr

Robert Taylor OBE a Dr Bernadette Fuge

Cynghori


02 Age Cymru Impact Report 2011

Byd lle mae pobl h天n yn ffynnu


Oedran yw popeth sy’n eich gwneud chi’n chi Gweledigaeth Age Cymru yw byd lle mae pobl hŷn yn ffynnu. Ysbrydolodd y weledigaeth hon sefydlwyr Age Cymru i greu sefydliad, a oedd eisoes â mwy na 60 mlynedd o brofiad, yn dwyn Age Concern Cymru a Help the Aged yng Nghymru ynghyd. Rydym yn cydnabod bod ffordd bell i fynd hyd nes i ni ei gwireddu, ond byddwn yn chwarae’n rhan ac yn gofyn i chi wneud yr un peth. Cenhadaeth Age Cymru yw gwella bywyd i bobl hŷn, gan wneud gwahaniaeth ymarferol gwirioneddol i bobl heddiw, wrth weithio ar gyfer bywyd hwyrach gwell yn y dyfodol. Rydym yn ymgyrchu, yn codi arian, yn ymchwilio, yn gwneud i’r rhai sydd mewn grym i wrando, a’u herio pan maen nhw’n methu, gan roi gwybod iddyn nhw sut dylid gwneud pethau. Dyma beth rydym ni’n ei wneud a dyma sut rydym ni’n ei wneud... Age Cymru ydym ni.

Cymryd rhan gyda’n gilydd Rydym yn angerddol am sicrhau bod pobl hŷn yn cymryd eu lle dilys mewn cymdeithas. Rydym yn gweithio i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ar sail oedran sy’n parhau i fod yn gyffredin yn ein cymunedau. Nid oes dim mor bwerus â chlywed pobl hŷn yn dweud eu dweud. Trwy ein gwaith ymgysylltu, rydym yn sicrhau y clywir lleisiau pobl hŷn, wrth ffurfio a

dylanwadu ar bolisi, neu ddatblygu a chyflwyno gwasanaethau allweddol. Mae’n ffaith drist bod gan Gymru niferoedd uwch o achosion o gam-drin bobl hŷn nag unrhyw ran arall o’r DU. Mae ein hymgyrch Diwedd ar Gam-drin yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i ddiogelu oedolion rhag camdriniaeth. Cyflwynom ddeiseb â 6,000 o lofnodion i’r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol i gefnogi ein hachos. Trwy gydol 2011, cyflwynodd Age Cymru hyfforddiant Mynd yn hŷn yng Nghymru ledled Cymru. Hyfforddwyd cannoedd o gynrychiolwyr, i’w cynorthwyo nhw i herio gwahaniaethu ar sail oed. Rydym yn parhau i gynnal a chynorthwyo rhwydweithiau allweddol o bobl hŷn – gan gynnwys Cynghrair Pobl Hŷn Cymru; Cymdeithas Genedlaethol y Pensiynwyr; Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol; Fforwm Pensiynwyr Cymru; a Senedd Pobl Hŷn Cymru. Mae Rhwydweithiau Lleiafrifoedd Ethnig, a Phobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol Hŷn, yn sicrhau y rhoddir llais i ystod amrywiol o safbwyntiau.

Gwaith yn y dyfodol

Cyflwyno deiseb Diwedd ar Gam-drin ar 14 Mehefin 2012 y tu allan i’r Senedd, Caerdydd.

Byddwn yn parhau i herio gwahaniaethu ar sail oed o bob math. Byddwn yn ceisio dylanwadu ar ddeddfwriaeth ac ymarfer ar gyfer diogelu pobl hŷn. Byddwn yn datblygu’r cymorth a’r cyngor rydym yn ei ddarparu i eiriolwyr.

Ym

u h c r gy


04

Heneiddio’n well gyda’n gilydd

yn w l f Cy

o

0 0 0 , 4

o

rdig o N ded d r e uC a d fia bro


Oedran yw bod yn gysurus â chi’ch hun O fynd am dro hanner milltir i daith gerdded pum milltir, mae ein rhaglen Cerdded Nordig yn addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd a gallu. Mae’n un o’r gweithgareddau corfforol sy’n tyfu gyflymaf yn Ewrop. Yn ystod 2011, cyflwynodd Age Cymru dros 4,000 o brofiadau Cerdded Nordig trwy ein harweinwyr cerdded hyfforddedig gwirfoddol. Cydlynodd Age Cymru raglen Gofal Piau Hi y Gaeaf Hwn Llywodraeth Cymru. O thermomedrau ystafelloedd i’r llyfryn ‘Yn Gynnes Dros y Gaeaf’, dosbarthom fwy na 70,000 o adnoddau i 150 o bartneriaid, a darparom wybodaeth gynhwysfawr ar-lein. Mae arwahanrwydd ac unigrwydd yn parhau mewn cymunedau ledled Cymru; dosbarthodd Age Cymru 38 o Grantiau Dathlu i grwpiau bobl hŷn, i gynorthwyo digwyddiadau i fynd i’r afael â’r broblem wirioneddol hon.

Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol, roedd cyfrifiaduron ar gael i ymwelwyr fynd ar-lein. Dangosom fuddion e-bost, Skype a pha mor hawdd yw hi i gael mynediad at y cyfoeth o wybodaeth sydd ar gael ar ein gwefan. Yn ein cynhadledd lwyddiannus, Heneiddio’n Dda, arddangosom y defnydd o dechnoleg ddigidol mewn cymunedau lleol, gan gynnwys ei rôl o ran mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol. Mewn lleoliad cymunedol, mae rhaglen Hyfforddiant Ymarferol Effaith Isel (LIFT) Age Cymru yn mynd o nerth i nerth. Cynhaliwyd dros 2,000 o sesiynau ledled Cymru yn ystod y flwyddyn.

Gwaith yn y dyfodol Byddwn yn sicrhau y gall pobl hŷn wneud dewisiadau gwybodus o ran cynnal eu hiechyd a’u hannibyniaeth. Byddwn yn cynyddu ein rhwydwaith o wirfoddolwyr ac yn creu cyfleoedd i gymryd rhan. Trwy gyfres o fentrau, byddwn yn ceisio gwella gwybodaeth pobl hŷn am heneiddio’n iach.

Roedd rhoi hyder i bobl hŷn ddefnyddio technoleg ddigidol yn thema allweddol i Age Cymru yn 2011. Daethom â thechnoleg ddigidol at bobl trwy fentrau fel ‘i Te a Bisgedi’, ac yn y Sioe Amaethyddol

Cyflwynwyd

2,000 o sesiynau LIFT

h t r o Cyn

o y w


06

My Home Life Cymru Mae My Home Life Cymru yn ymwneud â hyrwyddo ansawdd bywyd mewn cartrefi gofal. Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â mwy na 25% o gartrefi gofal yng Nghymru, ac eleni, derbyniodd bob cartref set lawn o ganllawiau arfer da sy’n cwmpasu themâu allweddol My Home Life. Mae’r canllawiau’n darparu trafodaethau, hyfforddiant ac ysgogiad i ysbrydoli pob cartref i ganolbwyntio ar ansawdd bywyd. Eleni, bu mwy na 1,500 o staff proffesiynol cartrefi gofal, perthnasau a phreswylwyr yn bresennol mewn digwyddiadau i glywed am My Home Life Cymru, ac i rannu arfer da.

Gwaith yn y dyfodol Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ariannu My Home Life Cymru, ac rydym yn awyddus i’w weld yn ehangu. Rydym yn credu petai pob cartref yn ceisio dilyn egwyddorion My Home Life Cymru, y byddai gofal preswyl a nyrsio yng Nghymru yn ffynnu.

Ym mis Mai 2011, dathlodd Gwanwyn, sef gŵyl gelfyddydol Age Cymru ar gyfer pobl hŷn, ei phen-blwydd yn bump oed. Cynhaliom bedwar digwyddiad arddangos mewn lleoliadau mawr ledled Cymru, gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, a Galeri yng Nghaernarfon. Trefnwyd bron 300 o ddigwyddiadau gan grwpiau cymunedol a sefydliadau a dderbyniodd grantiau Gwanwyn.

Gwanwyn

Cymerodd dri pherfformiwr hŷn ran yng Ngŵyl Gomedi Caerdydd yn dilyn gweithdy lle rhoddwyd awgrymiadau a hyfforddiant iddyn nhw, a darpar gomediwyr eraill, gan gomediwyr proffesiynol ar sut i berffeithio eu perfformiad. Gweithiom mewn partneriaeth ag uned asesu dementia Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar brosiect uchelgeisiol i ddod â byd nyrsio a’r byd artistig at ei gilydd. Bydd y gwaith hwn yn galluogi gweithwyr proffesiynol i arsylwi cleifion sy’n cymryd rhan yn y celfyddydau; mae wedi gwella amgylchedd ward yr ysbyty, ac mae wedi cynnwys y gymuned artistig leol i greu’r gelf.

296

o ddigwyddiadau gyda 9,500 o bobl yn cymryd rhan

Gwaith yn y dyfodol

Mae Gwanwyn yn ymwneud â dathlu creadigrwydd yn hwyrach mewn bywyd. Mae’n unigryw yng Nghymru, ac nid yw wedi’i gyfyngu i fathau penodol o gelf. Mae Age Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chael mynediad atynt.


Oedran yw bod yn falch o’ch cyflawniadau

Hysbysu a dylanwadu Ers cenedlaethau lawer, mae pobl wedi ymddiried ynom i ymdrin â phob mater sy’n ymwneud ag oed. Rydym ni yma i ddarparu cymorth ymarferol a chyngor i bob unigolyn hŷn, eu ffrindiau, teulu a gweithwyr proffesiynol. Mae Age Cymru yn cynnig gwybodaeth a chyngor cywir, perthnasol, diduedd ac arbenigol mewn partneriaeth ag Age UK, trwy wasanaeth ffôn rhad ac am ddim a chyfrinachol. Bob blwyddyn, rydym yn cynhyrchu ystod gynhwysfawr o ffeithlenni a chanllawiau.

Mae Age Cymru wrth galon gwleidyddiaeth yng Nghymru, a chaiff ei barchu am gynnig barn wybodus. Yn y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi: • darparu 36 o ymatebion ffurfiol i ymgynghoriadau • llunio gwybodaeth allweddol ar amrywiaeth o bynciau o Gymryd Rhan mewn Chwaraeon i Ddiogelwch Cymunedol • llunio maniffesto Llywodraeth Leol yn galw ar ymgeiswyr i gofrestru fel llysgenhadon ar gyfer pobl hŷn • ailsefydlu’r grŵp trawsbleidiol ar Bobl Hŷn a Heneiddio • cyflwyno cyfarfodydd ymylol yng nghynadleddau’r Pleidiau yng Nghymru yn y Gwanwyn • cael ein penodi’n ymgynghorwyr arbenigol ar gyfer Ymchwiliad i Ofal Preswyl.

Gwaith yn y dyfodol Byddwn yn arwain a llunio dadleuon ynglŷn â materion sy’n ymwneud â phobl hŷn, ac yn gweithredu fel ffynhonnell arbenigedd i wleidyddion, gwneuthurwyr polisïau a rhanddeiliaid allweddol. Bydd ein gwasanaeth gwybodaeth a chyngor yn parhau i alluogi pobl hŷn i gynnal eu hannibyniaeth a gwneud y mwyaf o’u lles.

CA


08

Gweithio mewn

partneriaeth www.agecymru.org.uk/local

Mae Age Cymru yn falch o gael saith partner Age Cymru lleol sy’n darparu cyfoeth o wasanaethau’n uniongyrchol i bobl hŷn yn eu cymuned. Mae’r gwasanaethau hyn yn amrywio o ardal o ardal, ac yn cynnwys eiriolaeth, cyngor a gwybodaeth am fudd-daliadau, torri ewinedd traed, clybiau cinio, cyfeillio, dosbarthiadau rhyngrwyd, gwasanaethau rhyddhau o’r ysbyty, tasgmon, cyngor ar dreth a siopa. Mae pob partner yn darparu gwasanaethau ‘blaenllaw’ o’r safon uchaf, felly gallwch fod yn dawel eich meddwl am gysondeb ac ansawdd ym mha le bynnag y gwelwch enw a logo Age Cymru. Mae rhai canghennau llai Age Concern yn darparu llinell bywyd i’w cymdogaeth trwy gynnal gweithgareddau fel clybiau cinio a theithiau dydd. Rydym ni nawr yn gweithio tuag at eu galluogi i fod yn ‘Ffrindiau Age Cymru’ swyddogol.

Gwaith yn y dyfodol Byddwn yn arwain trwy enghraifft – yn gwella’r amrywiaeth o wasanaethau rydym ni’n eu cynnig. Byddwn yn parhau i gynorthwyo cydweithio ymhlith sefydliadau sydd wedi ymrwymo i bobl hŷn yng Nghymru.

Mae Age Cymru yn rhoi cymorth i Gynghrair Henoed Cymru, sydd ag 20 o aelodau elusennol a Senedd Pobl Hŷn Cymru, sy’n dod â 57 o sefydliadau pobl hŷn at ei gilydd i ddarparu llais cryfach i bobl hŷn. Mae ein gwaith gyda’n partneriaid cenedlaethol yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn parhau, a chafwyd llwyddiant nodedig dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn arbennig, y consesiynau a gyflawnwyd pan ddaeth yr elusennau cenedlaethol at ei gilydd i ymgyrchu yn erbyn cyflymder y newid i oedrannau pensiwn gwladol. Mae nifer o Age Concerns wedi mabwysiadu brand Age Cymru. Dyma ein Partneriaid Age Cymru Lleol: Age Cymru Ceredigion Age Cymru Gwent* Age Cymru Gwynedd a Môn* Age Cymru Afan Nedd Age Cymru Powys Age Cymru Sir Gâr Age Cymru Swansea Bay*

Ein siopau elusennol a mannau masnachu: Age Cymru Bangor Age Cymru Cardiff* Age Cymru Colwyn Bay Age Cymru Ebbw Vale Age Cymru Mold Age Cymru Monmouth Age Cymru Pontypridd* Age Cymru Porthcawl Age Cymru Rhyl Age Cymru Shotton Age Cymru Wrexham

Cynnyrch a gwasanaethau masnachu ar gael yma *


Oedran yw gwybod ei bod hi’n iawn i ofyn am help

diogelu ein

dyfodol

Mae cynhyrchu incwm newydd ar gyfer Age Cymru yn hanfodol i sicrhau ein cynaliadwyedd. Mewn un ffordd neu’r llall, rydym ni wedi bod yma ers cenedlaethau, ers 1947, a gwyddom nad yw’r daith honno yn bell o fod drosodd. Mae eisoes gennym ni rai pobl wych sy’n codi arian trwy ddringo mynyddoedd, beicio o Lands End i John O’Groats, a gwau’r hetiau gwlanog mwyaf rhyfeddol. Ond mae angen i ni wneud mwy, ac mae arnom angen eich help i wireddu ein gweledigaeth i greu byd lle mae pobl hŷn yn ffynnu. Rydym yn deall bod yn rhaid i unrhyw berthynas gorfforaethol fod o fudd i bawb. Mae gennym ni rai cefnogwyr gwych yn y sector preifat, ac rydym yn diolch iddyn nhw i gyd o waelod calon.

Nid codi arian yn unig sydd o bwys – rydym yn gwybod bod arian yn dynn i nifer o bobl. Dyna pam rydym ni’n buddsoddi mewn menter gymdeithasol gyda swyddfeydd newydd ar y stryd fawr yn hyrwyddo cyfres o gynhyrchion a gwasanaethau wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer pobl hŷn. Rydym hefyd yn cynnig cyngor wyneb yn wyneb amhrisiadwy. Ac nid dyna’r cyfan... yn ystod 2012, rydym ni wedi prynu cadwyn o siopau manwerthu ledled Cymru i roi hyd yn oed mwy o bresenoldeb i Age Cymru ar y stryd fawr. Bydd yn ddechrau cyfnod newydd i Age Cymru a bydd yn cynnig llawer mwy na siop yn unig.

Gwaith yn y dyfodol Byddwn yn parhau i werthfawrogi ein cefnogwyr gwych ac yn ceisio recriwtio mwy ohonynt. Yn sgil ein presenoldeb newydd ar y stryd fawr, bydd cymaint yn fwy ar gael. Ochr yn ochr â’r siop draddodiadol, mae cynigion gwych o ran yswiriant a gwasanaethau, yn ogystal â gwybodaeth a chyngor wyneb yn wyneb.

ers 1947


10 Incwm elusennol

Gwariant elusennol

Cymynroddion

Llywodraethu

Grantiau

Cydraddoldeb a hawliau dynol

Rhoddion

Heneiddio’n iach

Age UK Digwyddiadau Incwm o fuddsoddiadau

Incwm elusennol

Gwariant elusennol

Menter gymdeithasol

Cynhwysiad a chyfrannu Esgeulustod a thlodi Menter gymdeithasol

Manwerthu

Partneriaid a fforymau

Arall

Adnoddau incwm Grantiau

Mae’r siartiau cylch uchod yn siartiau cynrychioliadol o’r ffigurau a dynnwyd o adroddiad blynyddol llawn yr Ymddiriedolwyr a datganiadau ariannol cyfunol a gymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ac a lofnodwyd ar eu rhan ar 20 Awst 2012. Lluniodd yr archwilwyr Broomfield & Alexander adroddiad archwilio

diamod yn seiliedig ar y datganiadau ariannol llawn ar 23 Awst 2012. Mae’r archwilwyr wedi cadarnhau i’r Ymddiriedolwyr, yn eu barn nhw, bod y datganiadau ariannol cryno yn gyson â’r datganiadau ariannol llawn ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2012. Efallai na fydd y datganiadau ariannol cryno hyn yn

cynnwys gwybodaeth ddigonol i gael dealltwriaeth lawn o faterion ariannol yr elusen. Gellir cael copïau o adroddiad llawn yr Ymddiriedolwyr, datganiadau ariannol ac adroddiad yr archwilwyr o: Age Cymru, Tŷ John Pathy, 13/14 Cwrt Neptune, Ffordd Blaen y Gad, Caerdydd, CF24 5PJ.


Oedran yw cael rhywbeth gwerth chweil i’w roi’n ôl

Rhod Gilbert

Rhys Ifans

Cerys Matthews

Ni allem ei wneud

hebddoch

Derek Brockway Shân Cothi Warren Gatland Rhod Gilbert Rhys Ifans Cerys Matthews Roy Noble Rhydian Roberts Mark Taylor

Age UK Cyfreithwyr Hugh James Cyngor Celfyddydau Cymru Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Dŵr Cymru Go Wales Grunvig Llywodraeth Cymru Nwy Prydain Pwyllgor Codi Arian Caerdydd RLE Law Sefydliad Rayne Trenau Arriva Cymru Wales and West Utilities Western Power Distribution Wilkinsons Stores Cyf Y Gronfa Loteri Fawr Y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru

Ystad y diweddar LC Baldwyn H Davies T Davies B Evans WJH Evans D Hobbs JC Howells Brown J Jones GH Ladlow CE Smith


12

Cymryd rhan

Rydych chi nawr wedi gweld y gwaith gwych rydym ni’n ei wneud, ac rydych chi’n gwybod bod Age Cymru, ers cenedlaethau, wedi bod yma ar eich cyfer chi. Allwch chi roi ychydig bach yn ôl?

Codi arian

Mae cymaint o ffyrdd gwahanol ac unigryw y gallwch godi arian ar ein cyfer ni. O bobi cacennau i naid bungee, bydd ein tîm codi arian ymroddedig yn eich helpu chi i wneud y mwyaf o’ch digwyddiad a sicrhau eich bod chi’n cael y boddhad a’r gydnabyddiaeth rydych chi’n ei haeddu.

Gwirfoddoli

Gwirfoddolwch ar gyfer un o’n gwasanaethau elusennol, gan gynnwys ein siopau, yn ein swyddfeydd neu yn un o’n digwyddiadau codi arian.

Rhoddi

Gwerthfawrogir pob rhodd, boed yn fach neu fawr, gan ei fod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n gwaith parhaus. Mae ein siopau elusennol ledled Cymru angen rhoddion bob amser o ddillad, llyfrau, addurniadau, gemwaith a dodrefn cartref. Rydym yn falch bod yr arian rydym ni’n ei godi trwy ein siopau yn cael ei wario ar brosiectau yng Nghymru.

Prynu

Mae nifer ohonom eisiau parhau i fod yn annibynnol, felly dyma pam rydym yn cynnig cynhyrchion a gwasanaethau gwych. Mae nifer o bobl hŷn yn dewis trefnu eu hyswiriant* trwy Age Cymru neu un o bartneriaid lleol Age Cymru. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth wych o gynigion cystadleuol ar gynhyrchion, gan gynnwys lifftiau grisiau, cymhorthion bath a chynhyrchion symudedd eraill. www.agecymru.org.uk/local

Noddi

Ydych chi eisiau codi proffil eich busnes? Siaradwch â ni am bartneriaeth gorfforaethol gydag Age Cymru a byddwn yn dweud wrthych sut y gallwn helpu. www.agecymru.org.uk/getinvolved Rhif ffôn: 029 2043 1555

Cofiwch amdanom yn eich ewyllys

Tŷ John Pathy 13/14 Cwrt Neptune, Ffordd Blaen y Gad, Caerdydd CF24 5PJ

Bydd gadael rhodd i Age Cymru yn sicrhau ein bod yma ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Ffôn 029 2043 1555 Ffacs 029 2047 1418 e-bost enquiries@agecymru.org.uk www.agecymru.org.uk

*Darperir yswiriant cartref, teithio a moduro gan Ageas Insurance Limited.

Rhif elusen gofrestredig 1128436


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.