Adolygiad Blynyddol 2011-12

Page 1

Adolygiad Blynyddol Mai 2011 – Mai 2012


ac annog rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd, ac yn y proffesiynau, diwydiant a masnach, y celfyddydau a gwasanaeth cyhoeddus;

Hyrwyddo datblygiad dysg ac ysgolheictod a rhannu a chymhwyso canlyniadau ymholiadau ac ymchwil academaidd;

Cenhadaeth

Dathlu, cydnabod, cadw, gwarchod

Gweithredu fel ffynhonnell o gyngor

a sylwadau ysgolheigaidd annibynnol ac arbenigol ar faterion sy'n effeithio ar les Cymru a'i phobl a datblygu trafodaeth a rhyngweithio cyhoeddus ar faterion o bwys cenedlaethol a rhyngwladol. Am fwy o wybodaeth am y Gymdeithas, cysylltwch â: Dr Lynn Williams Prif Weithredwr ac Ysgrifennydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Blwch SP 586 Caerdydd CF11 1NU  (29) 2037 6951 e-bost at: lewilliams@cddc.cymru.ac.uk

Rhif Cwmni 7256948 Rhif Elusen Gofrestredig 1141526

neu ymwelwch â gwefan y Gymdeithas: www.learnedsocietywales.ac.uk

Diffinnir y cyfnod rhwng un Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol o’r Gymdeithas a’r nesaf yn Flwyddyn y Gymdeithas. Mae’r Adolygiad hon yn adrodd ar Flwyddyn y Gymdeithas ar gyfer y cyfnod rhwng y Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ar 25 Mai 2011 a 23 Mai 2012.


Cyflwyniad gan y Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw academi ysgolheigaidd genedlaethol gyntaf Cymru ac yr oedd ei sefydlu ym mis Mai 2010 yn ddatblygiad pwysig iawn ym mywyd deallusol a diwylliannol ein cenedl. Mae gennym ni bellach egin academi dysg o’r math sydd wedi bodoli cyhyd mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Yr ethos sy’n gyrru’r Gymdeithas yw Dathlu Ysgolheictod a Gwasanaethu'r Genedl. Ein nod yw dathlu, cydnabod, gwarchod ac annog rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd, yn y proffesiynau, mewn diwydiant a masnach, yn y celfyddydau ac mewn gwasanaeth cyhoeddus, er mwyn i Gymru gael ei chydnabod yn haeddiannol ym mhob man fel gwlad fechan, fedrus. Dros amser a chyda’r gefnogaeth briodol, bydd modd i’r Gymdeithas sicrhau bod gallu deallusol Cymru yn cael ei chynrychioli a’i hyrwyddo’n rhyngwladol. Bydd yn harneisio ac yn sianelu doniau'r genedl er budd y wlad, gan sicrhau bod modd i’n pobl, ein gwleidyddion a’n gwneuthurwyr polisi, ynghyd â’n pobl fusnes, gael gafael ar gyngor ysgolheigaidd, gwrthrychol, seiliedig ar ymchwil dda, ar faterion o bwys allweddol. Bydd yn gwarchod ac yn cynnal yr union weithgareddau hynny sy'n sail i fedr a deheurwydd Cymru, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Dros gyfnod o flynyddoedd y bydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn aeddfedu'n llawn, ac, yn naturiol, bydd yr ystod o ddigwyddiadau a drefnir ganddi yn cynyddu dros amser. Does dim dadlau bod taith hir o’n blaenau cyn i ni allu efelychu academïau mawr Llundain a Chaeredin, a’r rhai sydd mor llewyrchus ledled Ewrop, Gogledd America a thu hwnt, ond fel y byddwn ni'n dangos yn y tudalennau nesaf, gyda chymorth hael Prifysgol Cymru ynghyd â chyfraniadau gwerthfawr o fannau eraill hefyd, yn enwedig y prifysgolion yng Nghymru sydd wedi cynnal ein digwyddiadau, mae’r Gymdeithas wedi mwynhau ail flwyddyn galonogol.

ac mae pethau eraill yn dal i fynd yn eu blaen, megis:  datblygu rhaglen gyffrous o

ddarlithoedd ac achlysuron eraill;  creu cysylltiadau â rhanddeiliaid

allweddol ym myd academia Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Sifil a thu hwnt; a  chyfrannu at y drafodaeth ar

bolisi cyhoeddus, er enghraifft wrth drafod cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'n prifysgolion, polisi ar wyddoniaeth a pholisi cyllido ymchwil. Edrychaf ymlaen at gael adrodd ar ei chynnydd mewn Adolygiadau Blynyddol yn y dyfodol.

Er enghraifft rydym ni wedi:  ethol cohort cryf o saith deg a thri

o Gymrodyr newydd, i ategu'r rhestrau rhagorol o Gymrodyr Cychwynnol a Chymrodyr a etholwyd yn yr Etholiad Cyntaf y llynedd; a  dechrau ar hyd y llwybr at sicrhau

Siarter Brenhinol i’r Gymdeithas (sydd ar hyn o bryd wedi’i chyfansoddi’n gwmni cyfyngedig drwy warant dan Femorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu);

 Syr John Cadogan CBE DSc FRSE FRSC PLSW FRS Llywydd

Dathlu Ysgolheictod a Gwasanaethu’r Genedl Tudalen 3 |Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru


Rhaglen Digwyddiadau’r Gymdeithas: Cyfresi a Themâu Yn ystod y flwyddyn rydym ni wedi parhau i ddatblygu nifer o gyfresi o ddarlithoedd gyda rhai themâu arbennig sy’n ategu byd dysg, ac wedi trefnu a chyfrannu at raglen lwyddiannus sydd wedi cynnwys dros ugain o ddigwyddiadau.

Ein Themâu yw: Dyfeisio, Arloesi a Newidiaeth

Wrth galon ein dealltwriaeth o newidiaeth mae'r berthynas ryngweithiol rhwng agweddau technegol, masnachol a chymdeithasol darganfyddiadau, gwelliannau ac Y Cyfresi Darlithoedd ar hyn o bryd yw: arloesi. Mae’r digwyddiadau a drefnir dan y thema hon yn archwilio’r elfennau sylfaenol hyn yn yr “economi Ffiniau - cyfres o ddarlithoedd lle gwahoddir academyddion o fri i drafod gwybodaeth”. estyn ffiniau ymchwil ac i osod eu Hanes Gwyddoniaeth a Thechnoleg cyfraniadau eu hunain yn eu cydBu gan Gymru a’i phobl ran sylweddol destun. Mae’r darlithwyr hyn yn ysgolheigion blaenllaw yn eu gwahanol yn nhwf gwybodaeth wyddonol ac yn y defnydd ohoni, ond mae hanes ac ddisgyblaethau gyda rhai ohonynt yn etifeddiaeth gwyddoniaeth a ymwelwyr â Chymru. thechnoleg yng Nghymru wedi’u hesgeuluso i raddau helaeth. Mae’r Penblwyddi - cyfres o ddarlithoedd yn thema hon yn datblygu hanes nodi dathliadau arbennig neu bengwyddoniaeth a thechnoleg yn blwyddi, yn aml am bobl neu gyffredinol, a’r etifeddiaeth wyddonol a gyflawniadau cysylltiedig â Chymru. thechnolegol Gymreig yn benodol. Gwahoddir academyddion nodedig i drafod arwyddocâd rhyw Y Prifysgolion ddarganfyddiad neu’i gilydd neu i Mae Prifysgolion yn ganolog i ddathlu bywyd neu ddigwyddiad. ddatblygiad y byd modern. Mae'r hyn y mae unigolion, busnesau a llywodraethau yn ei ddisgwyl gan brifysgolion yn cynyddu, ac mae’r disgwyliadau hyn yn gwrthdaro ȃ’i gilydd weithiau. Mae'r cwestiwn Beth yw diben Prifysgolion? yn un y gellir ei ofyn ar hyd a lled y byd. Yn y digwyddiadau a drefnir dan thema Y Prifysgolion ceir cyfle i drafod eu swyddogaethau cymdeithasegol, economaidd, deallusol a diwylliannol.

Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru |Tudalen 4

Ynni Mae cynhyrchu ynni, a'i ddefnyddio, yn sylfaenol i’n bywyd cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Mae'r problemau sydd ynghlwm wrth ynni wedi esgor ar dechnolegau mawreddog, mentrau masnachol enfawr, dadleuon rhyngwladol chwerw, trafodaethau rhethregol brwd, daliadau tanbaid, a dyheadau sydd weithiau’n afrealistig. Dan y thema hon mae’r Gymdeithas yn edrych ar un o bynciau mawr y dydd, ynni, o sawl agwedd wahanol, gan herio damcaniaethau a chredoau gyda thrylwyredd academaidd a thystiolaeth. Yn ystod y flwyddyn penderfynwyd y dylid datblygu dwy thema arall hefyd: Bydd thema amlddisgyblaethol Nawdd yn edrych ar y gwahanol fathau o nawdd yn y celfyddydau a’r gwyddorau ac mewn bywyd cyhoeddus, fel y’i gwelir yng Nghymru, y DU a thu hwnt, gan drafod y cymhelliannau a’r dulliau o weithredu nawdd a’i ganlyniadau; Bydd Cymdeithas Sifil Cymru’n edrych ar ddatblygiad penodol y gymdeithas sifil yng Nghymru yng nghyd-destun datganoli pwerau hunan-reoli sylweddol yn ddiweddar i Gynulliad Cymru lled-annibynnol, drwy gyfres o ddarlithoedd sy’n rhychwantu cymdeithaseg a gwleidyddiaeth, hanes, astudiaethau diwylliannol a chyfryngau, a llenyddiaeth.


Y Rhaglen Digwyddiadau 4 Mehefin 2011 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Ancient Britons, Europe and Wales: New Research in Genetics, Archaeology, and Linguistics, Cynhadledd undydd a noddir ar y cyd gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a Chymdeithas Ddysgedig Cymru, ac a drefnir gan yr Athro Syr Barry Cunliffe CBE FSA FLSW FBA a'r Athro John Koch FLSW.

7 Mehefin 2011 ym Mhrifysgol Caerdydd The coldest march of Robert Falcon Scott, darlith yn y Gyfres Benblwyddi gan yr Athro Susan Solomon FRS, Prifysgol Colorado yn Boulder, a noddir gan y Gymdeithas, fel rhan o Gyfres Ddarlithoedd Scott, a drefnir gan Yr Athro Dianne Edwards CBE ScD FRSE FLSW FRS, Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr ym Mhrifysgol Caerdydd, i ddathlu canmlwyddiant taith y Capten Scott i Begwn y De.

13 Gorffennaf 2011 ym Mhrifysgol Caerdydd Gravitational Waves: Listening to the True Music of the Spheres!, darlith gan yr Athro Bernard Schutz FInstP FLSW, Cyfarwyddwr Athrofa Ffiseg Disgyrchiant Max Planck (Sefydliad Albert Einstein) Potsdam, ac Athro yn yr Ysgol Ffiseg ac Astronomeg Prifysgol Caerdydd; trefnwyd gan yr Ysgol ar y cyd â Chymdeithas Ddysgedig Cymru ar achlysur Cynadleddau Amaldi-9 a NRDA-2011. 20  22 Gorffennaf 2011 ym Mhrifysgol Bangor Writing Welsh History, 1850-1950: Contexts and Comparisons, cynhadledd i ddathlu Canmlwyddiant History of Wales (1911) J. E. Lloyd; gan nodi’r gwaith arloesol a wnaed gan Syr John Edward Lloyd yn sefydlu hanes Cymru fel disgyblaeth academaidd, trefnwyd y gynhadledd gan yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Bangor ar y cyd â’r Gymdeithas; ymhlith y siaradwyr roedd nifer o Gymrodyr y Gymdeithas (yr Athro Thomas Charles-Edwards FRHistS FLSW FBA, yr Athro Robert Evans FLSW FBA, yr Athro Ralph Griffiths OBE DLitt FRHistS FLSW, yr Athro Prys Morgan FRHistS FSA FLSW a’r Athro Huw Pryce FLSW).

27 Hydref 2011 ym Mhrifysgol Caerdydd Stability and Complexity in Model Banking Systems, darlith gan yr Athro yr Arglwydd May o Rydychen OM AC Kt FRS, Prifysgol Rhydychen, Llywydd y Gymdeithas Frenhinol 2000-2005. Yng nghyd-destun yr argyfyngau bancio diweddar, sydd wedi amlygu’r ffaith na chefnogwyd strategaethau cynyddol gymhleth ar gyfer rheoli risg mewn banciau unigol a chronfeydd buddsoddi â sylw cyfatebol i’r risgiau systemig cyffredinol, bu’r ddarlith yn trafod goblygiadau brasluniau mathemategol syml o “ecosystemau bancio” gan ddangos bod strategaethau sy’n tueddu i leihau risg i fanciau unigol yn gallu cynyddu tebygolrwydd methiant systemig.

Yr Athro yr Arglwydd May

Tudalen 5 |Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru


Y Rhaglen Digwyddiadau 1 Tachwedd 2011, ym Mhrifysgol Abertawe Forty Years of Software Engineering, darlith a drefnwyd ar y cyd â Changen De Cymru Cymdeithas Cyfrifiadura Prydain, gan yr Athro Brian Randell DSc FBCS FLSW, Athro Emeriws Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol ac Uwch Ymchwilydd, Prifysgol Newcastle, y cyntaf mewn cyfres o ddarlithoedd ym Mhrifysgol Abertawe gan wyddonwyr cyfriadura nodedeig.

1 Rhagfyr 2011 ym Mhrifysgol Caerdydd, a 2 Rhagfyr 2011 ym Mhrifysgol Abertawe

7 Rhagfyr 2011 i 2 Mai 2011 yn Adeilad y Pierhead Bae Caerdydd ac ym Mhrifysgol Caerdydd

The Genius of Michael Faraday; a William Grove: Wales’s Most Famous Scientist?, dwy ddarlith gan yr Athro Syr John Meurig Thomas DSc ScD FLSW FRS, Prifysgol Caergrawnt, a drefnwyd fel rhan o ddathliadau Blwyddyn Ryngwladol Cemeg, ar y cyd a chyda chefnogaeth grant hael gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

Reforming European Economic Governance: Implications for the United Kingdom and Wales, cyfres o chwe digwyddiad, a drefnwyd gan yr Athro Kenneth Dyson AcSS FRHistS FLSW FBA, yr Athro Alistair Cole FRHistS AcSS FLSW, et al, ac a nodwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd ac Ysgol Ieithoedd Ewropeaidd, Cyfieithu a Gwleidyddiaeth Caerdydd, gyda chefnogaeth y Gymdeithas.

Roedd y ddarlith ym Mhrifysgol Caerdydd yn trafod llwyddiannau a darganfyddiadau Faraday gan ystyried athrylith un o’r cemegwyr gorau erioed.

Yr Athro Syr John Meurig Thomas Roedd yr ail ddarlith, darlith Penblwyddi ym Mhrifysgol Abertawe, yn dathlu daucanmlwyddiant geni William Grove, “tad y gell danwydd”, a’i ymchwil arloesol ar dechnoleg celloedd tanwydd a chadwraeth ynni.

Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru |Tudalen 6

Roedd siaradwyr y gyfres yn ystyried goblygiadau’r heriau digynsail i lywodraethiant economaidd Ewrop, a ysgogwyd gan yr argyfwng ariannol ac economaidd byd-eang mwyaf ers y 1930au, sydd wedi codi cwestiwn am gyfeiriad yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol a bodolaeth yr Ewro. Fe’u tynnwyd o lywodraethau’r DU a Chymru ac o’r sector preifat, o sefydliadau’r UE, o Aelod Wladwriaethau eraill, ac o academia, i drafod dyfodol yr Undeb Ewropeaidd a’r opsiynau strategol y mae llywodraethau Ewrop, y DU a Chymru’n eu hwynebu wrth ymateb i’r materion hyn.


Clocwedd o’r chwith: Jonathan Scheele, Y Comisiwn Ewropeaidd, Pennaeth Cynrychiolaeth yn y DU; Dr Kay Swinburne ASE, Y Blaid Geidwadol; Yr Athro Kenneth Dyson FLSW, Prifysgol Caerdydd; Yr Athro Alistair Cole FLSW, Prifysgol Caerdydd; Professor Bela Greskovits, Prifysgol Canolbarth Ewrop; Dr David Grant FLSW, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd; y Gwir2011-12 Anrh. Carwyn Jones, AS, PrifCymru Tudalen 7 |Adolygiad Blynnyddol Cymdeithas Ddysgedig Weinidog Cymru.


Y Rhaglen Digwyddiadau 2011/12 7 Mawrth 2012 ym Mhrifysgol Bangor Dylunio Bloodhound SSC, darlith

26 Mawrth 2012 ym Mhrifysgol Caerdydd

17 a 18 Ebrill 2012 ym Mhrifysgol Caerdydd

Darlith Goffa William Menelaus, From Here to Infinity, darlith gan yr Arglwydd Rees o Lwydlo OM FRS, y Seryddwr Brenhinol a Chyn Lywydd (2005-2010) y Gymdeithas Frenhinol, a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Addysgol Sefydliad Peirianwyr De Cymru (SWIEET2007) ar y cyd â’r Gymdeithas.

Back to the Big Bang, the Large Hadron Collider, gan yr Athro Lyn Evans CBE FLSW FRS (CERN), a The Spectral Point of View on Geometry and Physics, gan yr Athro Alain Connes (College de France, IHES a Vanderbilt).

Ffiniau Gymraeg, ar ddylunio’r car uwchsonig Bloodhound, gan yr Athro Kenneth Morgan FREng FLSW, a drefnwyd gan y Gymdeithas ar y cyd â’r Ysgol Peirianneg Electronig ym Mangor a’r Sefydliad Ffiseg (Cymru).

Dwy ddarlith Ffiniau oedd y rhain a draddodwyd yn ystod Cyfarfod Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol a Chyfrifiannol Cymru (WIMCS) ar Geometreg Anghymudol, a gyllidwyd gan WIMCS, Sefydliad Gwyddorau Mathemategol Isaac Newton, Prifysgol Caergrawnt a Gwasg Prifysgol Rhydychen, ac a drefnwyd gan yr Athro David Evans FLSW ar y cyd â’r Gymdeithas.

Yn ogystal â chynnig golwg ar ymchwil yr Arglwydd Rees i seryddiaeth ac astroffiseg, roedd y ddarlith yn trafod rhai o’r themâu a archwiliwyd ganddo yn ei Ddarlithoedd Reith i BBC Radio 4 yn 2012 ac yn ei lyfr dilynol (â’r teitl From Here to Infinity): gwyddoniaeth a’i swyddogaeth yn y gymdeithas yn gyffredinol a’i phwysigrwydd yn yr 21ain Ganrif.

Syr John Cadogan, Yr Arglwydd Rees a’r Athro Vernon Morgan FLSW Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru |Tudalen 8


Y Rhaglen Digwyddiadau 20 Ebrill 2012 yng Nghanolfan Celfyddydau Sain Dunwyd, Coleg yr Iwerydd Castell Sain Dunwyd, Llanilltud Fawr

The Prince of Welsh Romantics: Iolo Morganwg and his legacy, darlith am yr un a sefydlodd Orsedd Beirdd Ynysoedd Prydain gan yr Athro Geraint Jenkins FLSW FBA, cyn Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a phrosiect y Ganolfan, Iolo Morganwg a’r Traddoiad Rhamantaidd yng Nghymru 17401918, a drefnwyd gan y Gymdeithas mewn partneriaeth â Choleg yr Iwerydd ac Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.

10 May 2012 yn Theatr Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

15 May 2012 ym Mhifysgol Caerdydd

Saunders Lewis: Ein Theatr Heddiw, darlith Gymraeg gan yr Athro Tudur Hallam (Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe) ar gyflwr y theatr Gymraeg gyfoes a’i pherthnasedd i weithiau dramatig Saunders Lewis, a drefnwyd gan Gronfa Goffa Saunders Lewis, ar y cyd ag Academi Hywel Teifi, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Gymdeithas.

Building a Stronger Innovation Culture: The Benefits for Universities, business and the Economy in Engaging in Innovation and Enterprise, darlith Dyfeisio, Arloesi a Newid gan yr Athro Syr Christopher Snowden FRS FREng FIET FIEEE FCGI (Is-Ganghellor Prifysgol Surrey), a drefnwyd gan Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd, ar y cyd â’r Gymdeithas.

Croesewir cynigion gan academyddion ac eraill, yng Nghymru a thu hwnt, am ddarlithoedd, symposia a gweithgareddau a digwyddiadau eraill, fydd yn cryfhau a datblygu ein Rhaglen.

Tudalen 9 |Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru


Cyllid, Cymorth a Staffio Bu sefydlu a gweithrediad y Gymdeithas ers iddi gael ei lansio yn 2010 yn bosibl diolch i gymorth hael Prifysgol Cymru, a ymrwymodd yn y lle cyntaf i ddarparu grant dros gyfnod o dair blynedd rhwng 2009/10 a diwedd 2011/12, yn ogystal â gofod swyddfa a chymorth sylweddol arall o ran seilwaith. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf cafwyd ymrwymiad pellach ar gyfer y cyfnod o dair blynedd hyd at 2014/15. Rydym ni’n ddiolchgar i Gyngor y Brifysgol am ei hymrwymiad i'n helpu ni i wireddu’r weledigaeth o academi genedlaethol i Gymru a galluogi’r Gymdeithas i barhau i gynnal ei busnes yn gwbl annibynnol.

Rydym hefyd wedi parhau i dderbyn cymorth hael gan sefydliadau eraill. Maent yn cynnwys Prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor, ac APCC, a ddarparodd neuaddau ar gyfer digwyddiadau'r Gymdeithas yn ystod 2011/12. Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn darparu cartref i wefan y Gymdeithas. Yn ogystal mae PricewaterhouseCoopers yn eu haelioni wedi darparu gwasanaethau archwilio i’r Gymdeithas pro bono. (Roedd cyfrifon archwiliedig cyntaf y Gymdeithas yn cwmpasu’r cyfnod rhwng ei hymgorffori ar 18 Mai 2010 a 31 Gorffennaf 2011 ac fe'u cyflwynwyd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 23 Mai 2012.)

“Elfen hanfodol o’n Cymdeithas yw annibyniaeth  heddiw yn fwy nag erioed  felly er bod ein Cymdeithas yn ddyledus iawn i’r cyllid cychwynnol a ddarparwyd gan Brifysgol Cymru, hoffem bwysleisio yr ystyriwn mai ni yw’r sefydliad Cymru-gyfan cyntaf sy’n annibynnol i’r Llywodraeth ac sy'n cefnogi rhagoriaeth ym mhob un o'r disgyblaethau ysgolheigaidd a’r proffesiynau, diwydiant, masnach a'r Celfyddydau a gwasanaeth cyhoeddus." Syr John Cadogan, Llywydd

Yn 2011/12, am y tro cyntaf cawsom incwm drwy danysgrifiadau Cymrodyr, a ffioedd mynediad Cymrodyr newydd. Yn dilyn ein cais llwyddiannus i’r Comisiwn Elusennau i sicrhau statws elusennol, lansiodd y Cyngor Gronfa Apêl i Gymrodorion ym mis Tachwedd 2011.

Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru |Tudalen 10

Wrth iddi weithio i ddatblygu cynlluniau busnes a strategol y Gymdeithas (a fydd yn realistig ac yn gyflawnadwy yn ogystal â bod yn uchelgeisiol), mae’r Cyngor wedi cydnabod bod angen ymchwilio i ffynonellau eraill o gyllid ar frys er mwyn ein galluogi i ddatblygu rhaglen y Gymdeithas dros y blynyddoedd nesaf. Mae hyn ar waith eisoes a bydd yn datblygu ymhellach yn 2012/13. Staffio Mae’r lefelau cyllido cyfredol yn galluogi'r Gymdeithas i weithredu ar lefel gymharol syml ond ystyrlon. Adlewyrchir hyn yn y lefelau staffio yn 2011/12 - Prif Weithredwr llawn amser (Dr Lynn Williams), a gefnogwyd ar y dechrau (tan fis Medi 2011) gan Swyddog Gweinyddol rhan amser (Dr Ben Curtis). Ymddiswyddodd Dr Curtis ym mis Medi i ymgymryd â swydd academaidd. Rydym ni’n ddiolchgar iawn iddo am ei wasanaeth ac yn dymuno pob llwyddiant iddo. Ym mis Rhagfyr 2011, roedd y Gymdeithas yn falch i groesawu Dr Sarah Morse, a ymgymerodd â swydd newydd lawn amser Swyddog Gweithredol.


Meithrin Cysylltiadau Gan gydnabod pwysigrwydd creu cysylltiadau â rhanddeiliaid i ddatblygiad y Gymdeithas, yn ystod y flwyddyn treuliodd y Swyddogion gryn amser yn sefydlu cysylltiadau ag amrywiaeth o sefydliadau a chyfarfod â chynrychiolwyr ohonynt. Roedd y rhain yn cynnwys:  Is-Gangellorion a swyddogion eraill Prifysgolion Cymru a’u cyrff cynrychioliadol, Addysg Uwch Cymru a Chadeiryddion Addysg Uwch Cymru;  amrywiaeth o wleidyddion Llywodraeth Cymru ac eraill ac uwch weision sifil (gan gynnwys: David Jones AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru; y Gwir Anrh. David Willetts AS, Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth; y Fonesig Gill Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru; yr Athro John Harries FLSW, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru; Dr Emyr Roberts, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru);

 swyddogion a chynrychiolwyr cymdeithasau dysgedig eraill, gan gynnwys y Gymdeithas Frenhinol, yr Academi Brydeinig, Cymdeithas Frenhinol Caeredin, y Gymdeithas Cemeg Frenhinol, Sefydliad Ffiseg (Cymru) a Chymdeithas Cyfrifiadura Prydain;  swyddogion a chynrychiolwyr cyrff cenedlaethol eraill yng Nghymru, gan gynnwys y Llyfrgell Genedlaethol, yr Amgueddfa Genedlaethol, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Sefydliad Materion Cymreig;  cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd;  swyddogion a chynrychiolwyr elusennau eraill gan gynnwys Ymddiriedolaeth Leverhulme ac Ymddiriedolaeth Addysgol Cymdeithas Peirianwyr De Cymru – SWIEET2007.

Mae datblygiad y berthynas â SWIEET2007 yn enwedig yn werth ei nodi:  yn ystod y flwyddyn derbyniodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymdeithas, yr Athro John Tucker, wahoddiad i eistedd ar Fwrdd Ymddiriedolwyr SWIEET;  cydweithiodd y Gymdeithas a SWIEET yn y Ddarlith Goffa William Menelaus flynyddol;  cyflwynodd SWIEET grant o £3,000 i gynorthwyo gweithgareddau’r Gymdeithas yn ystod 2011/12 (y mae rhan o’r grant hwn yn cael ei defnyddio ar gyfer prosiect tymor hir i ddatlbygu Llyfryddiaeth Gwyddoniaeth, Technoleg a Pheirianneg yng Nghymru); a  chan ddechrau yn 2013, bydd y Gymdeithas yn dyfarnu Medal Menelaus dan nawdd SWIEET.

Tudalen 11 |Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru


Mentrau Polisi Rhan o’n Cenhadaeth yw: Gweithredu fel ffynhonnell o gyngor a sylwadau ysgolheigaidd annibynnol ac arbenigol ar faterion sy'n effeithio ar les Cymru a'i phobl, a datblygu trafodaeth a rhyngweithio cyhoeddus ar faterion o bwys cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym ni wedi nodi amrywiaeth o feysydd polisi cyhoeddus y dylai’r Gymdeithas ymwneud â hwy dros y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys:  cyllid a pholisi addysg uwch  cyllid a pholisi ymchwil

“Y prifysgolion yw ceidwaid tymor hir dyfodol y Genedl. Ynddynt hwy heb os y ceir y rhan helaethaf o unrhyw ragoriaeth sydd yng Nghymru  conglfaen ein gwybodaeth.” Parhaodd gwaith ar y pwnc hwn yn ystod rhan gyntaf 2011/12 ac ar 18 Hydref 2011, cyhoeddom ni The Funding Gap, gohebiaeth y Gymdeithas gyda’r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews AC, parthed cyllido Prifysgolion Cymru. “Mae gamblo dyfodol y prifysgolion, sydd eisoes yn fregus, […] yn beryglus i Gymru.”

 polisi gwyddoniaeth gan gynnwys yr amgylchedd ac ynni

Cylchredwyd y papur, sydd hefyd ar y wefan (http://learnedsocietywales

 polisi diwylliannol a threftadaeth

.ac.uk/node/283), yn eang a chafodd sylw yn y cyfryngau Cymreig.

 polisi cymdeithasol gan gynnwys cydlyniad ac allgau cymdeithasol  polisi economaidd

Polisi Gwyddoniaeth

a buom yn ymdrin â nifer o’r rhain yn ystod y flwyddyn.

Yn ystod hydref 2011, gwahoddwyd ni i gynnig sylwadau ar ddrafft o Gwyddoniaeth i Gymru: agenda strategol ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Swyddfa’r Prif Ymgynghorydd Gwyddonol. Yn dilyn ymgynghori ag aelodau o’r Cyngor, ar ran y Gymdeithas cyflwynodd y Llywydd sylwadau’n bersonol i’r Prif Ymgynghorydd. Cyhoeddwyd fersiwn terfynol y ddogfen, a roddodd ystyriaeth i'r sylwadau a gyflwynwyd gan y Gymdeithas, gan Lywodraeth Cymru ar 12 Mawrth 2012.

Y Bwlch Cyllido Ar 1 Mawrth 2011, cyhoeddodd y Cyngor bapur ar y Bwlch Cyllido (ar gael ar ein gwefan: http://learned societywales.ac.uk/node/62). Dangosodd y bu’n bolisi gan Lywodraeth Cymru dros y degawd diwethaf i dangyllido prifysgolion Cymru o’u cymharu â rhai Lloegr a’r Alban a bod y bwlch cronnol rhwng Cymru a Lloegr dros y deng mlynedd rhwng 2000 a 2009 dros £360 miliwn tra bod y bwlch rhwng Cymru a’r Alban dros £1 biliwn.

Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru |Tudalen 12

Polisi Cyllido Ymchwil Ar 21 Ionawr 2012, yn dilyn trafodaeth am y pwnc gan y Cyngor, ysgrifennodd y Llywydd at y Gwir Anrh. David Willetts AS, y Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth, i fynegi pryderon am newidiadau polisi diweddar a gyflwynwyd gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) dan y teitl Shaping Capability ac yn benodol am y gofyniad newydd y bydd rhaid i ymgeiswyr am grantiau EPSRC “nodi’n glir y pwysigrwydd cenedlaethol sydd i’w prosiect ymchwil arfaethedig, dros gyfnod o 10-50 mlynedd”. Roedd y pryderon hyn yn adleisio'r hyn a fynegwyd gan nifer mawr o academyddion ar draws y Deyrnas Unedig. “Ni fyddai’r un o’r darganfyddiadau mawr sydd wedi newid y byd yn diwallu’r maen prawf hwn. Bydd lol ysgubol fel hyn yn ffafrio gwaith tymor byr yn seiliedig ar wybodaeth heddiw ond ni fydd o unrhyw werth i’r sawl sydd am fforio i feysydd anhysbys. Mae’n awgrymu diffyg gwybodaeth am natur darganfyddiadau gwyddonol sy’n tanategu cymwysiadau’r dyfodol. Mae cynllunio darganfyddiadau’n amhosibl .”

Cyllido’r Celfyddydau Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol Mae ystyriaeth yn cael ei roi i osod y trafferthion ariannol penodol sy’n wynebu’r Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol yn bwnc ar gyfer menter polisi nesaf y Gymdeithas.


Cyhoeddiadau Yn ystod y flwyddyn cafwyd nifer o gyhoeddiadau gan y Gymdeithas, sydd i gyd ar gael drwy dudalen Cyhoeddiadau’r Gymdeithas. Y rhain yw:  ail Anerchiad Blynyddol y Llywydd (25 Mai 2011);  Adolygiad Blynyddol 2010/11 (25 Mai 2011);  Trafodion Symposiwm y Gymdeithas, What are Universities for?, a gynhaliwyd ar 18 Mai 2011 (21 Mehefin 2011);  Sylwadau’r Gymdeithas ar ffioedd dysgu addysg uwch yng Nghymru (14 Gorffennaf 2011);  The Funding Gap, gohebiaeth rhwng y Gymdeithas a’r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews AC, am gyllid Prifysgolion Cymru (18 Hydref 2011);  Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon am y cyfnod 18 Mai 2010 i 31 Gorffennaf 2011 (1 Chwefror 2012). Yn ogystal, yn ystod mis Medi 2011, cyhoeddwyd ysgrifau gan dri o’n Cymrodorion (yr Athro Wyn Roberts, yr Athro Dai Smith a’r Athro John Tucker) yn y Western Mail fel rhan o’r gyfres Education in Wales must do better: discuss.

Tudalen 13 |Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru


Anrhydeddau, Gwobrau a Dyfarniadau

Hoffem longyfarch y Cymrodyr canlynol yn gynnes iawn ar eu hanrhydeddau, gwobrau a dyfarniadau yn ystod y flwyddyn:  Yr Athro John Aggleton FMedSci FLSW FRS, Athro Niwrowyddoniaeth Wybyddol, Ysgol Seicoleg, Prifysgol Caerdydd – etholwyd yn FRS, 2012  Yr Athro Michael Charlton FInstP FLSW, Athro Ffisseg Arbrofol, Adran Ffiseg, Prifysgol Abertawe – cydenillydd Gwobr James Dawson Cymdeithas Ffisegol America am Ragoriaeth mewn Ymchwil Ffiseg Plasma, 2011  Yr Athro Dianne Edwards CBE ScD FRSE FLS FLSW FRS, Is-Lywydd y Gymdeithas, ac Athro Ymchwil Nodedig mewn Palaeobotaneg, Yr Ysgol Gwyddorau Daear a Morol, Prifysgol Caerdydd - etholwyd yn Llywydd y Linnean Society of London (gan ddechrau ar 24 Mai 2012)

 Yr Athro Jim Murray FLSW, Pennaeth Adran Biowyddorau Moleciwlar, Yr Ysgol Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd – cyd-enillydd gwobr Arloeswr Masnachol y Flwyddyn BBSRC, 2012  Yr Athro Ole Petersen CBE FRCP FMedSci FLSW FRS – gwahoddwyd i draddodi ei ddarlith gyhoeddus gyntaf fel Aelod newydd o Academi Gwyddorau Genedlaethol yr Almaen Leopoldina ar noswyl agoriad ffurfiol Pencadlys newydd yr Academi yn Halle, 23 Mai 2012  Yr Athro Hywel Thomas FREng FLSW FRS, Athro Peirianneg Sifil ac Athro UNESCO Datblygu Amgylchedd Cynaliadwy, Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd – etholwyd yn FRS, 2012

 Yr Athro Steve Jones DSc FLSW FRS, Athro Geneteg, Coleg Prifysgol Llundain – etholwyd yn FRS, 2012

Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru |Tudalen 14

 Yr Athro Syr John Meurig Thomas DSc ScD FLSW FRS, Athro Er Anrhydedd Cemeg Cyflwr Soled, Adran Gwyddoniaeth Deunyddiau Prifysgol Caergrawnt - dyfarnwyd Medal Aur Kapitza gan Academi Gwyddorau Naturiol Rwsia, 2011; gwahoddwyd i draddodi Darlith Gwobr Henri LaBarre Jayne i Gymdeithas Athroniaeth America, 2012  Yr Athro Kenneth Walters DSc FLSW FRS, Athro Ymchwil Nodedig, Y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg, Prifysgol Aberystwyth – dyfarnwyd Gradd DSc er Anrhydedd gan Brifysgol Strathclyde, 2011  Yr Athro Geraint Williams OBE FMedSci FRCP FRCPath FLSW, Athro Patholeg, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd – penodwyd yn OBE am wasanaethau i feddygaeth yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines, 2011


Cymrodyr a Etholwyd yn 2011/12 Un o’r camau pwysicaf i ni eu cymryd yn ystod 2011/12 oedd cynnal ein hail Etholiad ar gyfer Cymrodyr newydd. Etholwyd 73 o Gymrodyr newydd ym mis Ebrill 2012, gan ddod â chyfanswm y Cymrodyr i 250. Mae’r Gymdeithas wedi’i chryfhau’n sylweddol gyda’r etholiad hwn, sy’n rhan o broses dreigl - un a fydd yn parhau am dair blynedd neu fwy - a fydd yn adeiladu Cymrodoriaeth gref, gynrychioliadol sy’n ymgorffori’r gorau o’r hyn y gall Cymru ei wneud yn y prif ddisgyblaethau academaidd. Rhestrir y Cymrodyr newydd ar y tudalennau sy’n dilyn.

Y broses etholiadol Drwy enwebiad gan y Cymrodyr a etholwyd eisoes yr etholir Cymrodyr newydd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r etholiad yn agored i wŷr a gwragedd o bob oed ac o bob cefndir ethnig: a ragorodd ac a enillodd fri mewn unrhyw un o'r disgyblaethau academaidd, neu, a hwythau'n perthyn i’r proffesiynau, i’r celfyddydau, i ddiwydiant, i fasnach neu i’r gwasanaethau cyhoeddus, sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fyd dysg; ac

Cafodd yr enwebiadau a gyflwynwyd ar gyfer 2011/12 eu hystyried yn y lle cyntaf gan naw Pwyllgor Craffu gyda chyfanswm o 58 o Gymrodyr ac ar sail eu cyngor hwy lluniodd y Cyngor ei restr o ymgeiswyr cymeradwy. Cyflwynwyd y rhestr honno i’r Gymrodoriaeth ei chadarnhau a’i hethol yn ffurfiol.

sydd yn preswylio yng Nghymru, neu a aned yng Nghymru ond sydd yn preswylio yn rhywle arall, neu sydd fel arall â chyswllt penodol â Chymru.

““Rydym wedi ethol cohort cryf o Gymrodyr newydd, i ychwanegu at y rhestr ragorol o Gymrodyr Cychwynnol a Chymrodyr.

Mae ein Cymrodoriaeth yn cynrychioli arbenigedd a gwybodaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol yn estyn o economeg i beirianneg drydanol ac o athroniaeth i ffiseg gronynnau. Mae’n gronfa o wybodaeth y gellir galw arni nad yw wedi'i chyfyngu gan rwystrau sefydliadol na gwleidyddol ac am y tro cyntaf mae gennym ni adnodd arbenigol hygyrch er budd Cymru. Dros y blynyddoedd nesaf, bydd ein Cymrodoriaeth yn parhau i dyfu drwy etholiad a fernir drwy adolygiad cymheiriaid. Bydd cael eu hethol yn parhau i fod yn darged i’n hysgolheigion ifanc.” Syr John Cadogan

Tudalen 15 |Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru


Cymrodyr a Etholwyd yn 2011/12 Yr Athro (John) Hagan (Pryce) Bayley FRSC FRS FLSW Athro Bioleg Cemegol, Prifysgol Rhydychen Yr Athro Deirdre Beddoe FLSW Athro Emerita, Ysgol y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Morgannwg Yr Athro David Blackaby FLSW Athro Economeg, Prifysgol Abertawe Yr Athro Javier Bonet FLSW Athro Peirianneg, Pennaeth y Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe Yr Athro (Anthony) Gareth Brenton FLSW Athro Spectometreg Más, Cyfarwyddwr yr Athrofa Spectometreg Más, Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe Yr Athro Joseph Cartwright FGS FLSW Athro Geoffiseg, Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr, Prifysgol Caerdydd Yr Athro David Charles FLSW Athro Athroniaeth, Prifysgol Rhydychen Yr Athro Nickie Charles FLSW Athro Cymdeithaseg a Chyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Menywod a Rhywedd, Prifysgol Warwick Yr Athro Min Chen FBCS FEG FLSW Athro Delweddu Gwyddonol, Canolfan e-Ymchwil Rhydychen, Prifysgol Rhydychen Yr Athro y Fonesig June Clark DBE FRCN FAAN FLSW Athro Emeritws, Y Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd, Prifysgol Abertawe Yr Athro Alan Clarke FLSW Pennaeth Ymchwil, Ysgol Biowyddorau Caerdydd, Prifysgol Caerdydd Yr Athro Vincenzo Crunelli FMedSci FLSW Athro Niwrowyddoniaeth, Adran Ymchwil Niwrowyddoniaeth, Prifysgol Caerdydd Y Parchedig Athro Douglas (James) Davies DLitt AcSS SBStJ FLSW Athro Astudiaethau Crefydd, Adran Diwinyddiaeth a Chrefydd, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Marwolaeth a Bywyd, Prifysgol Durham Yr Athro Sioned Davies FLSW Athro y Gymraeg a Phennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd Dr Peter Dorey FRHistS FLSW Darllenydd mewn Gwleidyddiaeth Prydain, yr Ysgol Ieithoedd Ewropeaidd, Cyfieithu a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd

Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru |Tudalen 16


Cymrodyr a Etholwyd yn 2011/12 Yr Athro Gillian Douglas FLSW Athro y Gyfraith, Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd Yr Athro David (Eric) Edmunds FLSW Athro Emeritws, Adran Mathemateg, Prifysgol Sussex Yr Athro Nancy (Margaret) Edwards FSA FLSW Athro Archaeoleg Ganoloesol, Prifysgol Bangor Yr Athro Peter (Gerald) Edwards FLSW Athro Cemeg Anorganig, yr Ysgol Cemeg, Prifysgol Caerdydd Yr Athro Ralph (William) Fevre FLSW Athro Ymchwil Cymdeithasol, yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd Yr Athro John (Eirwyn) Ffowcs Williams DSc ScD FREng FIMA FRAeS FInstP FIOA FAIAA FRSA FLSW Yn flaenol: Athro Peirianneg Rank a Meistr Coleg Emmanuel, Prifysgol Caergrawnt Yr Athro Kevin (John) Flynn FLSW Athro Bioleg Forol a Phennaeth yr Adran Biowyddorau, Prifysgol Abertawe Yr Athro (Thomas) Anthony Ford FLSW Athro Emeritws, Ysgol Cemeg, Prifysgol KwaZulu-Natal, Durban Yr Athro Walter (Kieran) Gear FLSW Athro Ffiseg Arbrofol a Phennaeth yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, Prifysgol Caerdydd Yr Athro William George DSc FRSC FLSW Athro Emeritws, Yr Adran Gwyddoniaeth a Chwaraeon, Prifysgol Morgannwg Yr Athro Claire (Jacqueline) Gorrara FRHistS FLSW Athro Astudiaethau Ffrengig, yr Ysgol Ieithoedd Ewropeaidd, Cyfieithu a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd Yr Athro Matthew (Joseph) Griffin FLSW Athro Astroffiseg, yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, Prifysgol Caerdydd Y Parchedig Ddr Arglwydd Leslie (John) Griffiths o Benbre a Phorth Tywyn FLSW Gweinidog Goruchwyliol, Capel Wesley, Llundain; yn flaenorol Llywydd Cynhadledd y Methodistiaid Yr Athro John (Martin) Harper DMus FRCO(CHM) FRSCM FLSW Athro Ymchwil RSCM mewn Cerddoriaeth a Litwrgi, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ryngwladol er Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig, Prifysgol Bangor; Cyfarwyddwr Emeritws yr Ysgol Cerddoriaeth Eglwysig Frenhinol Y Gwir Barchedig a’r Gwir Anrhydeddus Athro Richard (Douglas) Harries o Bentregarth FRSL FLSW Athro Diwinyddiaeth Gresham; Athro Diwinyddiaeth a Chymrawd er Anrhydedd, Kings College, Llundain; yn flaenorol Esgob Rhydychen

Tudalen 17 |Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru


Cymrodyr a Etholwyd yn 2011/12 Yr Athro Oubay Hassan MBE DSc(Eng) FICE FLSW Pennaeth y Ganolfan Peirianneg Sifil a Chyfrifiannol, Ysgol Peirianneg, Prifysgol Abertawe Yr Athro John Heywood Thomas DD FLSW Athro Emeritws Diwinyddiaeth, Prifysgol Nottingham Yr Athro Karen (Margaret) Holford FIMechE , FICE, FInstP FLSW Cyfarwyddwr Ysgol Peirianneg Caerdydd, Prifysgol Caerdydd Yr Athro Colin Hughes ScD FLSW Athro Microbioleg, Prifysgol Caergrawnt; Cymrawd, Coleg y Drindod, Caergrawnt Yr Athro Angela (Vaughan) John FRHistS FLSW Athro Hanes er Anrhydedd, Prifysgol Aberystwyth; yn flaenorol Athro Hanes, Prifysgol Greenwich Yr Athro (David) Barrie Johnson DSc FLSW Yr Ysgol Gwyddorau Biolegol, Prifysgol Bangor Yr Athro David Wyn Jones FLSW Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Caerdydd Yr Athro Ian Rees Jones FLSW Athro Cymdeithaseg a Phennaeth yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Bangor Yr Athro John (David Stuart) Jones FLSW Athro Mathemateg, Prifysgol Warwick Yr Athro (William) Jeremy Jones FRSC FLSW Yn flaenorol: Athro a Phennaeth yr Adran Cemeg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth; Athro Cemeg a Deon Cyfadran y Gwyddorau, Prifysgol Cymru Abertawe Yr Athro Bhushan (Lal) Karihaloo DEng FICE FLSW Athro Arloesi Concrit Hybrid Laing O’Rourke, yr Athrofa Mecaneg a Deunyddiau Uwch, Ysgol Peirianneg Caerdydd, Prifysgol Caerdydd Yr Athro David Kay FRSPH FRGS FLSW Pennaeth y Ganolfan Ymchwil i’r Amgylchedd ac Iechyd, Prifysgol Aberystwyth Yr Athro Douglas Kell FIBiol FLSW Athro Ymchwil Gwyddoniaeth Fioddadansoddiol, Prifysgol Manceinion; Prif Swyddog Gweithredol, y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) Yr Athro Wolfgang (Werner) Langbein FLSW Athro Ffiseg, Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, Prifysgol Caerdydd Yr Athro Andrew M L Lever FMedSci FRCP FRCPath FRSC FLSW Athro Clefydau Heintus, Yr Adran Meddygaeth, Prifysgol Caergrawnt Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru |Tudalen 18


Cymrodyr a Etholwyd yn 2011/12 Yr Athro Michael Levi DSc(Econ) AcSS FLSW Athro Troseddeg, yr Ysgol Gwyddoniaeth Gymdeithasol, Prifysgol Caerdydd Yr Athro Dewi (Meirion) Lewis FInstP FRAS FLSW Ymgynghorydd Diwydiant, Labordy Ffiseg Enynnol CERN, Geneva Yr Athro Roland (Wynne) Lewis DSc FREng FICE FLSW Athro Emeritws, Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe Yr Athro Anthony (Stephen Reid) Manstead FBPsS AcSS FBA FLSW Ysgol Seicoleg, Prifysgol Caerdydd Yr Athro Haydn Mason FLSW Athro Emeritws Ffrangeg, Prifysgol Bryste Yr Athro April (Mary Scott) McMahon FRSE FBA FLSW Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; yn flaenorol Pennaeth Ieithyddiaeth a’r Iaith Saesneg, ac Athro Iaith Saesneg Forbes, Prifysgol Caeredin Yr Athro (William) John Morgan FRAI FRSA FLSW Athro Addysg Rhyngwladol ac Economi Gwleidyddol, yr Ysgol Addysg, Prifysgol Nottingham; Cadeirydd y Comisiwn Cenedlaethol Y Deyrnas Unedig dros UNESCO Yr Athro Russell (Edward) Morris FRSE FRSC FLSW Athro Cemeg Deunyddiau Strwythurol, Prifysgol St Andrews Yr Athro Tavi Murray FLSW Athro Rhewlifeg, Ysgol yr Amgylchedd a Chymdeithas, Prifysgol Abertawe Yr Athro Andrew Pelter DSc FRIC FLSW Athro Emeritws Cemeg Organig, Prifysgol Abertawe Yr Athro Djordje Peric DSc FLSW Canolfan Peirianneg Sifil a Chyfrifiannol, Prifysgol Abertawe Yr Athro Glyn O Phillips DSc FRSC FLSW Cadeirydd Gweithredol, Cwmni Phillips Hydrocolloid Research; yn flaenorol Pennaeth Gweithredol, Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru Yr Athro Judith (Eleri) Phillips AcSS FLSW Athro Gerontoleg, a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil ar gyfer Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol, Prifysgol Abertawe Yr Athro Timothy (Nigel) Phillips DSc FLSW Ysgol Mathemateg, Prifysgol Caerdydd Yr Athro Timothy Porter FLSW Athro Emeritws Mathemateg, Prifysgol Bangor

Tudalen 19 |Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru


Cymrodyr a Etholwyd yn 2011/12 Yr Athro Alun (David) Preece FLSW Athro Systemau Gwybodaeth a Dealltwriaeth, Ysgol Gwyddor Gyfrifiadurol a Hysbyseg Caerdydd, Prifysgol Caerdydd Yr Athro Robert D Rafal FLSW Athro Niwrowyddoniaeth a Niwroseicoleg, Prifysgol Bangor Yr Athro Michael (Ivor) Reed AcSS FLSW Athro Dadansoddi Trefniadol, Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd Yr Athro Teresa (Lesley) Rees CBE AcSS FRSA FLSW Athro Gwyddorau Cymdeithasol, yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, a Chyfarwyddwr (Cymru) y Sefydliad Arweiniad mewn Addysg Uwch Yr Athro Anne (Elizabeth) Rosser FRCP FLSW Athro Niwrowyddoniaeth Glinigol, Ysgol Biowyddorau Caerdydd, Prifysgol Caerdydd Yr Athro John Rowlands FLSW Athro Emeritws, Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth Yr Athro Qiang Shen FBCS FLSW Athro Cyfrifiadureg a Phennaeth yr Adran Cyfrifiadureg, Prifysgol Aberystwyth Yr Athro Robin Stowell FLSW Athro Cerddoriaeth, Prifysgol Caerdydd Yr Athro Andrew Vincent FRHistS FLSW Athro Emeritws a chyn Gyfarwyddwr yr Ysgol Astudiaethau Ewropeaidd, Prifysgol Caerdydd Yr Athro Valerie Walkerdine FRSA FLSW Athro Ymchwil Nodedig, Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd Yr Athro Christopher (John) Wickham FBA FLSW Athro Chichele Hanes Canoloesol, Prifysgol Rhydychen Y Parchedig Athro John Tudno Williams FLSW Yn flaenorol: Pennaeth y Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth Yr Athro John (Patrick) Woodcock OBE DSc FInstP FIPEM FLSW Athro Emeritws Peirianneg Glinigol a Ffiseg Feddygol, yr Ysgol Peirianneg, Prifysgol Caerdydd

Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru |Tudalen 20


Tudalen 21 |Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru


Cyngor y Gymdeithas Cynhaliwyd pum cyfarfod o’r Cyngor, bwrdd llywodraethu’r Gymdeithas, yn ystod 2011/12.

Aelodau newydd o’r Cyngor

Daeth tymor chwe aelod o Gyngor y Gymdeithas i ben yn ystod y flwyddyn (oni nodir yn wahanol, ar ddiwedd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 23 Mai 2012):

Etholwyd y Cymrodyr canlynol yn ystod y flwyddyn i wasanaethu fel aelodau o’r Cyngor am gyfnod o dair Blwyddyn y Gymdeithas, o ddiwedd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 23 Mai 2012 tan ddiwedd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn 2015:

- Yr Athro Roy Evans CBE FREng FICE FIStructE FLSW

Etholir aelodau’r Cyngor gan y Cymrodyr, o blith eu nifer.

- Yr Athro Farwnes Ilora Finlay FRCP FRCGP FLSW - Yr Athro Geraint H Jenkins DLitt FLSW FBA (6 Hydref 2011) - Sir Ronald Mason KCB FRSC FIMMM FLSW FRS - Yr Athro Susan Mendus FLSW FBA - Yr Athro Derec Llwyd Morgan DLitt FLSW Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu gwasanaeth mewn cyfnod allweddol yn natblygiad y Gymdeithas.

Yr Athro Jane Aaron FLSW

Yr Athro Ole Petersen CBE FLSW FRS

Yn ogystal â’r pum Swyddog, aelodau eraill y Cyngor yn ystod y flwyddyn oedd: - Yr Athro Kenneth Dyson AcSS FRHistS FLSW FBA - Yr Athro Robert Evans FLSW FBA - Yr Athro Prys T J Morgan FRHistS FSA FLSW

Yr Athro David Boucher FRHistS AcSS FLSW

Yr Athro Alan Shore FInstP FLSW

- Yr Athro John Wyn Owen CB FRGS FHSM FRSocMed FLSW - Yr Athro Keith G Robbins DLitt FRSE FRHistS FLSW - Yr Athro Sir John Meurig Thomas DSc ScD FLSW FRS - Yr Athro Robin H Williams CBE FInstP FLSW FRS Yr Athro Roger Owen FREng FLSW FRS Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru |Tudalen 22

Yr Athro Keith Smith FRSC FLSW


Swyddogion y Gymdeithas Parhaodd y pum Cymrawd a etholwyd i wasanaethu fel Swyddogion Cyntaf y Gymdeithas yn eu swyddi drwy’r flwyddyn:

Y Trysorydd

Y Llwyydd a Chadeirydd y Cyngor

Syr John Cadogan CBE DSc FRSE FRSC PLSW FRS

Is-Lywydd

Is-Lywydd

(Gwyddoniaeth, Technoleg a Meddygaeth)

(Y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol)

Yr Athro Dianne Edwards CBE ScD FRSE PLS FLSW FRS

Yr Athro M Wynn Thomas OBE FLSW FBA

Yr Ysgrifennydd Cyffredinol

Y Trysorydd

Oherwydd pwysau dyletswyddau eraill, cyhoeddodd Syr Roger Jones OBE FLSW, a etholwyd gan y Cyngor yn 2010 i wasanaethu fel Trysorydd Cyntaf y Gymdeithas, ei fwriad i ymddiswyddo ar ddiwedd y flwyddyn (hynny yw diwedd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 23 Mai 2012). Ym mis Mawrth 2012 etholodd y Cyngor yr Athro John Wyn Owen CB FRGS FHSM FRSocMed FLSW i olynu Syr Roger fel Trysorydd, i wasanaethu am y cyfnod o dair Blwyddyn y Gymdeithas yn dechrau ar 23 Mai 2012. Rydym ni’n hynod o ddiolchgar i Syr Roger am ei gyfraniad i waith y Gymdeithas yn ystod ei blynyddoedd cynnar, ac rydym ni’n falch ei fod wedi cytuno i barhau i wasanaethu fel aelod o'r Cyngor. Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Athro Owen yn ei rôl newydd.

Yr Athro John Wyn Owen CB FRGS FHSM FRSocMed FLSW

Yr Athro John Tucker FBCS FLSW

Syr Roger Jones OBE FLSW

Tudalen 23 |Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru


Adolygiad Blynyddol Mai 2011 – Mai 2012


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.