Adolygiad Blynyddol 2013-14 Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Page 1

Adolygiad Blynyddol 22 Mai 2013 - 14 Mai 2014


Cenhadaeth

Dathlu, cydnabod, cadw, gwarchod ac annog rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd, ac yn y proffesiynau, diwydiant a masnach, y celfyddydau a gwasanaeth cyhoeddus;

Hyrwyddo datblygiad dysg ac ysgolheictod a rhannu a chymhwyso canlyniadau ymholiadau ac ymchwil academaidd;

Gweithredu fel ffynhonnell o gyngor a sylwadau ysgolheigaidd annibynnol ac arbenigol ar faterion sy'n effeithio ar lesiant Cymru a'i phobl a datblygu trafodaeth a rhyngweithio cyhoeddus ar faterion o bwys cenedlaethol a rhyngwladol.

Lluniau clawr (gyda’r cloc o’r gwaelod ar y dde): Huw Edwards; Cymrodyr y Gymdeithas yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 14 May 2014; Rhaglenni Colocwiwm UNESCO Cymru; Cynulleidfa’r gynhadledd Wales, the United and Europe; Dr Peter Douglas.



TUDALEN 2 | ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013-14 CYMDEITHAS DDYSGEDIG CYMRU

Rhagair y Llywydd Mae’n fraint arbennig cael fy ethol yn Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn her wirioneddol i olynu Syr John Cadogan a gyflawnodd gymaint fel Llywydd cyntaf. Fel yr wyf i, mae Swyddogion eraill y Gymdeithas, aelodau ei Chyngor, ei Chymrodoriaeth ehangach a’i staff yn gwerthfawrogi cyfraniad Syr John ac yn ei longyfarch ar ddatblygiad y Gymdeithas fel academi ysgolheigaidd genedlaethol annibynnol gyntaf Cymru gyfan, a’r unig un. Yn ei Anerchiad i’r Cymrodyr yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ar 14 Mai 2014, dywedodd Syr John fod y Gymdeithas wedi cyflawni llawer mwy nag y credai a fyddai’n bosibl pan gafodd ei lansio ym mis Mai 2010. Yn wir, wrth i mi edrych yn ôl ar gyflawniadau’r gorffennol a’r amrywiaeth o weithgareddau sydd wedi’u cofnodi yn yr Adolygiad Blynyddol hwn a rhai blaenorol, mae’r hyn sydd wedi’i gyflawni mewn cyfnod byr yn drawiadol. Yn ystod 2013/14, yn benodol:  cwblhawyd ein Strategaeth a’n Cynllun Datblygu Cynaliadwy;  parhawyd i wneud y canlynol: 

datblygu ein rhaglen hynod a chyffrous o ddarlithoedd a digwyddiadau eraill;

ymgysylltu â thrafodaethau ar bolisi cyhoeddus, er enghraifft ym meysydd polisi Llywodraeth Cymru ar addysg uwch a pholisi cyllido ymchwil Llywodraeth Cymru a’r DU, yn ogystal â materion yn ymwneud ag etifeddiaeth ddiwylliannol Cymru;

creu cysylltiadau gyda rhanddeiliaid allweddol ym myd academaidd Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Sifil a thu hwnt;

 etholodd y Gymdeithas ddau Gymrawd newydd a deugain ac erbyn hyn mae gennym dros 350 o Gymrodyr;  cydsyniodd Ei Uchelder Brenhinol Tywysod Cymru i fod yn Noddwr Brenhinol y Gymdeithas oedd yn gam sylweddol i ni ac sy’n rhoi momentwm i’n huchelgais i gael Siarter Brenhinol.

Yn y ffyrdd hyn ac mewn ffyrdd eraill, mae’r Gymdeithas wedi parhau i ychwanegu gwerth i lais Cymru’n genedlaethol ac yn rhyngwladol ac mae wedi dechrau cyfnerthu ei safle o fewn bywyd academaidd a chyhoeddus Cymru. Gan edrych i’r dyfodol, rwyf i’n ymwybodol o’r ymrwymiadau sy’n deillio o fy rôl newydd fel Llywydd. Fel y dywedai arwyddair fy hen ysgol ‘Ym mhob braint y mae dyletswydd’. Fy nyletswydd i yw adeiladu ar y seiliau a osodwyd gan fy rhagflaenydd a’i dîm bach o Swyddogion ymroddgar a chynorthwyo i gyflawni’r Strategaeth a’r Cynllun uchelgeisiol ac eang a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Ionawr 2014. Yr her sy’n wynebu’r Gymdeithas bellach yw blaenoriaethu ei huchelgais, gweithredu a chyflawni’r Cynllun mewn modd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy. Elfen hanfodol o hynny fydd ymdrech gyfunol y Swyddogion a’r Cyngor gyda chymorth a chefnogaeth y Cymrodyr.

Mae Cymrodoriaeth yn anrhydedd, yn gydnabyddiaeth o lwyddiant a rhagoriaeth. Ond bydd yn bwysig i’r Gymdeithas allu dangos ei pherthnasedd i’w Chymrodyr, nid yn nhermau’r bri a ddaw yn sgil aelodaeth yn unig ond hefyd yn nhermau’r gweithgareddau sy’n ychwanegu gwerth a thrwy eu tynnu i mewn a manteisio ar eu galluoedd perthnasol o ran trafodaethau a gweithgareddau penodol. Bydd cydweithio’n agosach gyda’r Cymrodyr a’u cynnwys yn ein gwaith yn haws yn sgil penodi Swyddogion Cyswllt o blith y Cymrodyr hynny sydd mewn Prifysgolion yng Nghymru. Mae’r Gymdeithas yn rhannu diddordeb y sector Addysg Uwch mewn cynaladwyedd ariannol. Mae hyn yn parhau’n sylfaenol i ni ac yn gofyn am ymrwymiad parhaus gan y Cyngor a’r Cymrodyr. Ond mae cyflawni hynny’n mynd law yn llaw â chyflawni’r holl elfennau eraill rwyf i wedi cyfeirio atynt uchod. Bydd llwyddiant yn heintus.

Mae angen corff ar Gymru sy’n gallu cynnig cyngor gwybodus ar y materion allweddol sy’n wynebu’r genedl, ac mae’n haeddu cael un. Bydd y Gymdeithas yn parhau i geisio cyfleoedd i wneud sylwadau ar faterion pwysig y dydd - er enghraifft y Bil Addysg Uwch ac Adolygiad Diamond o Gyllido Addysg Uwch. Dylai’r ymagwedd hon gyfnerthu enw da a rôl y Gymdeithas fel corff y dylid ceisio ei gyngor a’i werthfawrogi’n gynyddol. Ac wrth gwrs, drwy godi ei llais ei hun, mae’r Gymdeithas hefyd yn codi llais Cymru. Cryfder y Gymdeithas yw ei Chymrodoriaeth. Y materion allweddol o ran cyfansoddiad y Gymrodoriaeth yw rhagoriaeth, safonau a theilyngdod, ond gan adeiladu ar y dechrau da a wnaed gan Adroddiad y Gweithgor Cydbwysedd Rhywedd a gomisiynwyd ac a gyhoeddwyd gennym yn ystod y flwyddyn, mae angen i ni fynd i’r afael â’r anghydbwysedd presennol o ran rhywedd drwy wneud mwy i gydnabod a sicrhau enwebiadau i fenywod talentog. Yn ogystal, Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw hi, felly mae cynyddu ein hôl troed ar draws y genedl hefyd yn flaenoriaeth, yn nhermau cyfansoddiad y Gymrodoriaeth a hefyd ei gweithgareddau a’i digwyddiadau.

 Syr Emyr Jones Parry GCMG FInstP PLSW


Mae trefnu a chefnogi rhaglen o ddarlithoedd academaidd, symposia, cynadleddau a digwyddiadau eraill wedi parhau’n rhan bwysig o waith y Gymdeithas. Cynhaliwyd y darlithoedd canlynol yn ystod y cyfnod rhwng y Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ym mis Mai 2013 a mis Mai 2014: 24 Mai 2013 (Y Pierhead, Bae Caerdydd) a 31 Mai 2013 (yr Academi Brydeinig, Llundain) Cymru, y DU ac Ewrop Dwy gynhadledd undydd gysylltiedig (Europeanising Devolution a Wales, the UK and Europe: Welsh Devolution in Perspective) a gynhaliwyd gan yr Academi Brydeinig a Chymdeithas Ddysgedig Cymru, ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Leverhulme, y Comisiwn Ewropeaidd (Canolfan Jean Monnet Caerdydd), Cymdeithas Prifysgolion Er Astudiaethau Ewropeaidd Cyfoes (UACES), Uned Llywodraethiant Ewropeaidd, Hunaniaeth a Pholisi Cyhoeddus (Prifysgol Caerdydd) a Chanolfan Llywodraethiant Cymru (Prifysgol Caerdydd); a drefnwyd gan yr Athro Alistair Cole FRHistS FAcSS FLSW, Prifysgol Caerdydd Gweler isod — David Hughes, Mona Bras and Hywel Ceri Jones yn siarad yn y Pierhead, 24 Mai 2013

6 Mehefin 2013, Prifysgol Aberystwyth Supporting UNESCO Effectiveness and Reform: How Can Wales Contribute? Colocwiwm Cymru Comisiwn Cenedlaethol UNESCO y DU; trefnwyd gan y Comisiwn ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth a Chymdeithas Ddysgedig Cymru; roedd y siaradwyr yn cynnwys y Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC PC, yr Athro John Morgan FRAI FRSA FLSW (Cadeirydd Comisiwn Cenedlaethol y DU), yr Athro April McMahon FBA FRSE FLSW (IsGanghellor Prifysgol Aberystwyth), Syr John Cadogan CBE DSc FRSE FRSC MAE PLSW FRS (Llywydd y Gymdeithas), a’r Athro John Wyn Owen CB FRGS FHSM FRSocMed FLSW (Trysorydd y Gymdeithas)

7 – 8 Mehefin 2013, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth Thomas Pennant’s Tours of Wales and Scotland Yr ail o ddwy gynhadledd ryngddisgyblaethol ar waith y naturiaethwr a’r hynafiaethwr Thomas Pennant (1726-1798); trefnwyd gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, noddwyd gan yr Academi Brydeinig a chefnogwyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru

TUDALEN 3 | ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013-14 CYMDEITHAS DDYSGEDIG CYMRU

Darlithoedd a Chynadleddau


TUDALEN 4 | ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013-14 CYMDEITHAS DDYSGEDIG CYMRU

19 Mehefin 2013, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth Wales, Israel, Palestine Darlith Cymdeithas Ddysgedig Cymru gan Dr Jasmine Donahaye, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Abertawe, yn trafod problemau gwladychiaeth Gymreig, Seioniaeth Gristnogol, cenhadon fel proto-ethnograffwyr, a defnydd diwylliannol o ddelweddu semitig

25 – 26 Mehefin 2013, Prifysgol De Cymru (Campws Pontypridd) Cynhadledd Flynyddol WISERD (Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru); gyda chefnogaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru

3 Gorffennaf 2013, Prifysgol Caerdydd Cyflwyno Medal Menelaus Cymdeithas Ddysgedig Cymru am y tro cyntaf i Syr Terry Matthews KBE FIEE FREng, am ragoriaeth mewn peirianneg a thechnoleg; yn dilyn y cyflwyniad cafwyd darlith gan Syr Terry, ym mhresenoldeb myfyrwyr ysgolion a cholegau lleol, ymhlith eraill Gweler uchod

3 Gorffennaf 2013, Prifysgol Caerdydd

6 Medi 2013, Prifysgol Caerdydd

Can university-business collaboration be used to maximise short-term economic growth and reduce unemployment levels in Wales?

A Tale of Two Friends: Richard Price and Thomas Bayes

Trafodaeth gan y Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg; trefnwyd gan y Sefydliad ar y cyd â Chymdeithas Ddysgedig Cymru a Phrifysgol Caerdydd; cadeiriwyd gan Iarll Selborne GBE FRS, Cadeirydd y Sefydliad, gyda siaradwyr yn cynnwys yr Athro Colin Riordan FLSW, Syr Leszek Borysiewicz FRS FRCP FMedSci FLSW, Syr Terry Matthews KBE FIEE FREng ac Edwina Hart MBE CStJ AM

9 Awst 2013, yr Eisteddfod yn Sir Ddinbych Yr Hen Fam: RS Thomas a’r Eglwys yng Nghymru Darlith (darlith flynyddol Prifysgol Cymru) gan yr Athro M Wynn Thomas OBE FLSW FBA; trefnwyd ar y cyd â Chymdeithas Ddysgedig Cymru

Darlith Pen-blwyddi gan Sharon McGrayne, Seattle; trefnwyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru ar y cyd â Chymdeithas Richard Price

16 a 17 Medi 2013, Prifysgol Caerdydd Bio-Nano-Photonics Symposiwm deuddydd rhyngwladol a drefnwyd gan, inter alia, yr Athro Paola Borri FLSW a’r Athro Walter Langbein FLSW (o Brifysgol Caerdydd); gyda chefnogaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru

17 Hydref 2013, Prifysgol Caerdydd Honeybee comb: a marvel of sophisticated cellular structure Darlith gan yr Athro Bhushan Karihaloo DEng DSc FICE FLSW, Ysgol Peirianneg, Prifysgol Caerdydd (darlith yng Nghyfres Darlithoedd Nodedig yr Ysgol Peirianneg); trefnwyd gyda chefnogaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru


13 Tachwedd 2013, Prifysgol Caerdydd

Gwyn Thomas in the Kingdom of the Chip

Cracking Pancreatitis

Trafodaeth Pen-blwyddi Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar fywyd, gwaith ac etifeddiaeth yr awdur a’r darlledwr Gwyn Thomas (ganwyd 1913), gan yr Athro Dai Smith FLSW a’r Athro Peter Stead FLSW

Darlith Cymdeithas Wyddonol Caerdydd gan yr Athro Ole Petersen CBE FMedSci MAE FLSW FRS; trefnwyd ar y cyd â Chymdeithas Ddysgedig Cymru

1 Tachwedd 2013, Prifysgol Abertawe

19 Tachwedd 2013, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

Laboratories of the Spirit

Ar Drywydd Edward Lhwyd

Digwyddiad Pen-blwydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru gyda dau Gymrawd, y Parchedicaf Dr Barry Morgan FLSW a’r Gwir Barchedig Dr Rowan Williams PC DD FRSL FLSW FBA, yn trafod barddoniaeth grefyddol RS Thomas, i goffáu canmlwyddiant geni’r diweddar fardd (dan gadeiryddiaeth yr Athro M Wynn Thomas OBE FLSW FBA); trefnwyd ar y cyd â Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru (CREW), Prifysgol Abertawe Gweler isod

Darlith Goffa Flynyddol gyntaf Edward Lhuyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru gan yr Athro Brynley Roberts CBE DLitt FLA FLSW

2 Rhagfyr 2013, yr Academi Brydeinig, Llundain The Witness of RS Thomas Darlith Pen-blwyddi Cymdeithas Ddysgedig Cymru gan yr Arglwydd Gowrie PC FRSL (Grey Gowrie of Ruthven); trefnwyd ar y cyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru a’r Academi Brydeinig

6 Rhagfyr 2013, Prifysgol Abertawe Championing the Chapels Darlith Cymdeithas Ddysgedig Cymru gan y darlledwr, Huw Edwards

9 Rhagfyr 2013, Prifysgol Abertawe The Representation of Lady Rhondda: a biographical challenge Darlith Cymdeithas Ddysgedig Cymru gan yr Athro Angela John FRHistS FLSW

17 Rhagfyr 2013, Prifysgol Caerdydd Chemistry and Light Darlith Nadolig Gyntaf Cymdeithas Ddysgedig Cymru gan Dr Peter Douglas, Prifysgol Abertawe; ym mhresenoldeb myfyrwyr ysgolion a cholegau lleol, ymhlith eraill Gweler drosodd

TUDALEN 5 | ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013-14 CYMDEITHAS DDYSGEDIG CYMRU

31 Hydref 2013, Barry Art Central


TUDALEN 6 | ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013-14 CYMDEITHAS DDYSGEDIG CYMRU

14 Ionawr 2014, Prifysgol Caerdydd

3 Ebrill 2014, Prifysgol Abertawe

10 Ebrill 2014, Prifysgol Abertawe

Wallace and the Limits to Evolution

From the Lab to Wall Street (and to patients): the ups and downs of a drug hunter

Viking Swansea – Fact or Fable?,

Darlith gan yr Athro Steve Jones DSc FLSW FRS, Coleg Prifysgol Llundain, yng Nghyfres Darlithoedd Wallace Prifysgol Caerdydd, 2013/14; trefnwyd ar y cyd a gyda chefnogaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Darlith gan yr Athro Chris McGuigan, Prifysgol Caerdydd; trefnwyd gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol ar y cyd â Phrifysgol Abertawe a Chymdeithas Ddysgedig Cymru

20 Mawrth 2014, Brackla House, Pen-ybont Iolo Morganwg: Radical and Romantic Darlith gan yr Athro Prys Morgan, FRHistS, FSA, FLSW; trefnwyd gan Gymdeithas Richard Price ar y cyd â, a gyda chefnogaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru 24 Mawrth 2014, Prifysgol Caerdydd Delivering the Olympics Darlith (54ydd darlith William Menelaus), gan Syr John Armitt CBE FREng FICE, Cadeirydd, Awdurdod Cyflenwi’r Gemau Olympaidd; trefnwyd gan SWIEET2007, ar y cyd â Chymdeithas Ddysgedig Cymru

Symposiwm undydd a drefnwyd gan Ganolfan Ymchwil Canoloesol a Modern Cynnar Prifysgol Abertawe, ar y cyd â a gyda chefnogaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru; gyda Dr John Davies FLSW ymhlith y siaradwyr

12 Ebrill 2014, Prifysgol Caerdydd Atlantic Europe in the Metal Ages

8 Ebrill 2014, Prifysgol Caerdydd Wallace and vaccination: great minds don’t always think alike Darlith gan Dr Stephen Inglis, Cyfarwyddwr y Sefydliad Cenedlaethol Er Safonau a Rheolaeth Fiolegol yng Nghyfres Darlithoedd Caerdydd Prifysgol Wallace, 2013/14; trefnwyd ar y cyd â, a gyda chefnogaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Fforwm undydd wedi’i drefnu gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru gyda chefnogaeth Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a Chymdeithas Ddysgedig Cymru; siaradwyr yn cynnwys yr Athro John Koch FLSW a Syr Barry Cunliffe CBE FSA FLSW FBA

Croesewir cynigion gan academyddion ac eraill, yng Nghymru a thu hwnt, am ddarlithoedd, symposia a gweithgareddau a digwyddiadau eraill, a fydd yn cryfhau ac yn datblygu ein Rhaglen


Hoffem longyfarch y Cymrodyr canlynol, y cyflwynwyd iddynt anrhydeddau, gwobrau a dyfarniadau yn ystod y flwyddyn. Rhestrir rhai o’r rhain isod a cheir rhestr lawn ar wefan y Gymdeithas Syr John Cadogan CBE DSc FRSE FRSC MAE PLSW FRS – yr ail berson i dderbyn Medal Menelaus Cymdeithas Ddysgedig Cymru (cyflwynwyd ym Mhrifysgol Abertawe, 1 Gorffennaf 2014)

Yr Athro Ieuan Hughes FMedSci FRCP FRCP(C) FRCPCH FLSW – enillydd Medal James Spence 2014 y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant aem ei gyfraniadau eithriadol i bediatreg

Yr Athro Norman Davies FRHistS MAE FBA FLSW – enillydd Gwobr Cyflawniad Oes Longman History Today, 2014

Yr Athro Graham Hutchings DSc FIChem FRSC FLSW FRS – enillydd Medal Davy 2013 y Gymdeithas Frenhinol, am ddarganfod catalysis drwy aur a chyfraniadau i’r maes cemegol hwn

Yr Athro Lyn Evans CBE FInstP FLSW FRS – enillydd Medal Glazebrook y Sefydliad Ffiseg, 2013; enillydd Medal Simon Ramo IEEE, 2014; enillydd cyffredinol categori Arloesi a Thechnoleg Gwobrau Dewi Sant, 2014 Yr Athro Syr Richard Evans DLitt FRHistS FRSL FLSW FBA – enillydd Medal Norton Medlicott am wasanaethau i hanes gan y Gymdeithas Hanesyddol, 2014

Yr Athro Ronald Hutton FSA FRHistS FLSW FBA – etholwyd yn Gymrawd yr Academi Brydeinig, 2013

Yr Athro Jonathan Shepherd CBE FRCS FFPH FRCPsych FMedSci FLSW – enillydd Medal Aur Colyer Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr, 2014 Yr Athro Hywel Thomas FREng MAE FLSW FRS – enillydd Gwobr Pen-blwydd y Frenhines (fel Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Geoamgylcheddol Prifysgol Caerdydd), 2014 Yr Athro Syr John Meurig Thomas DSc ScD MAE FLSW FRS – Penodwyd yn Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 2014

Yr Athro Douglas Kell CBE FIBiol FLSW – penodwyd yn Gomander Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2014, am wasanaeth i wyddoniaeth ac ymchwil Mr Alwyn Owens FLSW – enillydd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, 2013

Yr Athro Peter Wells CBE DSc FREng FMedSci FIET FInstP FLSW FRS (Uchod) – enillydd Medal Frenhinol y Gymdeithas Frenhinol, 2013, am waith arloesol yn datblygu uwchsain fel offeryn diagnostig a llawfeddygol Yr Athro Barwnes Ilora Finlay o Landaf FRCP FRCGP FLSW (Uchod) – penodwyd yn Llywydd Cymdeithas Feddygol Prydain (o fis Mehefin 2014) Yr Athro Geraint Gruffydd DLitt FBA FLSW – enillydd Medal Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion, 2014 Yr Athro John Harries FInstP FRMetS FLSW – enillydd Medal Aur Mason y Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol, 2013 Yr Athro John Harwood DSc FLSW – enillydd Medal Chevreul, 2014

Yr Athro Judith Phillips FAcSS FLSW (Uchod) – Penodwyd yn Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines, Mehefin 2013, am wasanaeth i bobl hŷn Ceridwen Roberts OBEFAcSS FLSW – Penodwyd yn Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2014, am wasanaeth i wyddor gymdeithasol

Yr Athro Alasdair Whittle FLSW FBA – enillydd Gwobr Europa y Gymdeithas Cynhanes, 2014 Yr Athro Julie Williams CBE FLSW – penodwyd yn Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, Medi 2013 Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Rowan Williams o Ystumllwynarth PC DD FRSL FLSW FBA - enillydd Medal Llywydd yr Academi Brydeinig, 2013

TUDALEN 7 | ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013-14 CYMDEITHAS DDYSGEDIG CYMRU

Cydnabyddiaeth i ragoriaeth ein Cymrodyr: anrhydeddau, gwobrau a dyfarniadau


TUDALEN 8 | ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013-14 CYMDEITHAS DDYSGEDIG CYMRU

Adeiladau perthnasau a chreu cysylltiadau Mae adeiladu cysylltiadau yn agwedd bwysig o ddatblygiad y Gymdeithas. Yn ystod y flwyddyn mae ein Swyddogion wedi gohebu a chynnal trafodaethau gyda chynrychiolwyr o amrywiaeth o gyrff, gan gynnwys: 

Is-Gangellorion a swyddogion a staff Prifysgolion Cymru;

Gwleidyddion Cymru a’r DU ac uwch weision sifil, gan gynnwys:  y Gwir Anrhydeddus David Willetts AS, y Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth; 

Huw Lewis AC, Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru;

Edwina Hart MBE CStJ AC Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth;

Y Prif Gynghorydd Gwyddonol newydd, yr Athro Julie Williams CBE FLSW;

uwch swyddogion Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru;

 swyddogion a chynrychiolwyr cymdeithasau dysgedig eraill, gan gynnwys yr Academi Brydeinig, Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol, Cymdeithas Frenhinol Caeredin, y Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg;  Swyddfa EUB Tywysog Cymru;  swyddogion a chynrychiolwyr cyrff cenedlaethol eraill yng Nghymru, gan gynnwys yr Amgueddfa Genedlaethol a’r Eisteddfod Genedlaethol;

 swyddogion a chynrychiolwyr cyrff cenedlaethol eraill yng Nghymru, gan gynnwys yr Amgueddfa Genedlaethol, yr Eisteddfod Genedlaethol a Chrwsibl Cymru;  swyddogion Comisiwn Cenedlaethol y DU dros UNESCO;  swyddogion a chynrychiolwyr elusennau eraill. Mae nifer o gysylltiadau - er enghraifft gyda’r Academi Brydeinig, y Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg (y mae ein Llywydd yn aelod ex officio o’i Gyngor), UNESCO a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn ogystal â gyda phrifysgolion Cymru wedi dwyn ffrwyth wrth i ni gyd-drefnu darlithoedd a digwyddiadau eraill. Mae mentrau eraill ar y gweill yn 2014/15.

Rydym ni wedi gweithio gyda Gwasg Prifysgol Cymru ar lansio cyfres y mae’r Gymdeithas yn ei chefnogi The Scientists of Wales, y mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymdeithas, yr Athro John Tucker MAE FBCS FLSW, wedi’i benodi i’w Bwrdd Golygyddol. Mae’r Athro Tucker hefyd yn cynrychioli’r Gymdeithas ar Fwrdd Ymgynghorol y Bywgraffiadur Cymreig, sy’n cael ei drefnu ar y cyd gan y Llyfrgell Genedlaethol a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru ac mae’r Prif Weithredwr wedi’i benodi’n gynrychiolydd y Gymdeithas ar Lys Prifysgol Abertawe.


TUDALEN 9 | ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013-14 CYMDEITHAS DDYSGEDIG CYMRU

O’r chwith: Iarll Selborne GBE FRS, Cadairydd y Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Syr Terry Matthews KBE FIEE FREng ac Edwina Hart MBE CStJ AM yn y digwyddiad y Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Prifysgol Caerdydd, 3 Gorffennaf 2013

Swyddogion Cyswllt Prifysgol Rydym ni wedi penderfynu, er mwyn gwella’r cysylltiadau rhwng y Gymdeithas â Phrifysgolion, y dylid penodi Swyddog Cyswllt yn y Prifysgolion hynny yng Nghymru sydd â Chymrodyr. Y Swyddogion Cyswllt yw prif gyswllt Ysgrifenyddiaeth a Swyddogion y Gymdeithas yn y Brifysgol, gan gynorthwyo’r Ysgrifenyddiaeth wrth drefnu digwyddiadau, a gweithio i sefydlu rhwydwaith colegol o Gymrodyr lleol a threfnu digwyddiadau academaidd a chymdeithasol iddynt. Hyd yma gwnaed y penodiadau canlynol (gyda’r cloc o’r chwith uchaf) : Prifysgol Abertawe Yr Athro Tavi Murray FLSW Prifysgol Aberystwyth Yr Athro Jamie Newbold FLSW Prifysgol Bangor Yr Athro Nancy Edwards FSA FLSW Prifysgol Caerdydd Yr Athro David Knight FRSC FLSW Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Y Parchedig Athro Densil Morgan DD FLSW Prifysgol Cymru Dr Mary-Ann Constantine FLSW


TUDALEN 10 | ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013-14 CYMDEITHAS DDYSGEDIG CYMRU

Hysbysu a dylanwadu: cyngor polisi a sylwadau Darperir yn ôl Cenhadaeth y Gymdeithas y caiff weithredu fel ffynhonnell o gyngor a sylwadau ysgolheigaidd annibynnol ac arbenigol ar faterion sy'n effeithio ar lesiant Cymru a'i phobl a datblygu trafodaeth a rhyngweithio cyhoeddus ar faterion o bwys cenedlaethol a rhyngwladol.

Ymhlith nifer o faterion eraill, roedd yr ymgynghoriad yn gwahodd sylwadau ar y cynnig y dylid dod â swyddogaethau Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) a gwasanaeth yr amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, Cadw, at ei gilydd “yn un gwasanaeth integredig ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol naill ai o fewn neu y tu allan i Lywodraeth Cymru.”

Unwaith eto ystod y flwyddyn, rydym ni wedi ymdrin â nifer o feysydd polisi llywodraeth, yn ogystal â materion eraill o ddiddordeb cyhoeddus, drwy gyhoeddi sylwadau ac ymatebion i ymgynghoriadau a chyfrannu i ddialog gyda ffigurau allweddol. Cyllid Cynghorau Ymchwil ar gyfer Ymchwil yng Nghymru Dangosodd data a gyhoeddwyd yn hydref 2013 fod cyfradd llwyddiant ar gyfer dyfarniadau Cynghorau Ymchwil i ymchwilwyr yng Nghymru wedi syrthio i 2% o gyfanswm y cyllid ar gyfer y DU. Yn sgil hyn cyhoeddodd y Gymdeithas bapur yn cynnig sylwadau ar y sefyllfa. Er bod y gyfradd isel hon yn niweidiol, roedd yn ddealladwy o ystyried y bwlch parhaus rhwng y lefel o gyllido a roddir i addysg uwch yng Nghymru a’r sefyllfa yn Lloegr ac yn arbennig yn yr Alban – mater y gwnaeth y Gymdeithas sylwadau arno’n flaenorol yn ei gyhoeddiad ym mis Hydref 2011, Y Bwlch Cyllido. Aethom ymlaen i dynnu sylw at y ffaith fod prifysgolion Cymru, er gwaethaf eu rhwystrau ariannol, wedi perfformio’n eithriadol o dda, yn enwedig yn y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, ond pe baent yn cael eu cyllido’n iawn, gallent wneud yn well fyth. Dyfodol ein gorffennol Ym mis Gorffennaf 2013, gwahoddodd Llywodraeth Cymru sylwadau ar Dyfodol ein gorffennol, sef ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru a chyflwynom ni ymateb manwl ym mis Hydref 2013. Cafodd hwn ei ddrafftio mewn ymgynghoriad â nifer o Gymrodyr y Gymdeithas (Syr Barry Cunliffe CBE FSA FLSW FBA, yr Athro Nancy Edwards FSA FLSW, yr Athro Ralph Griffiths OBE DLitt FRHistS FLSW, yr Athro Beverley Smith FRHistS FLSW a’r Athro Geoffrey Wainwright MBE FSA FLSW).

“Meddyliwch yn wir beth y gellid ei wneud â hanner y cyllid llywodraethol sydd ar gael yn yr Alban gyda 4 o’i phrifysgolion yn y 200 gorau drwy’r byd (does gan Gymru ddim un), gan nodi bod cyfran ddiweddaraf yr Alban o gyllid Cynghorau Ymchwil wedi cynyddu i 10.7%. Nid mater o ddaearyddiaeth yw hyn ond mae’n fater o gred y llywodraeth yng ngwerth prifysgolion a’u cyllid. Mae angen i’n hysgolheigion a’n hymchwilwyr rhagorol allu cystadlu yn erbyn y gorau yn y DU, heb fod eu dwylo wedi’u clymu y tu ôl i’w cefnau oherwydd diffyg seilwaith o’r radd uchaf, y mae’n gyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i’w ddarparu. Mae ein prifysgolion … wedi dangos beth y gallant ei wneud ar friwsion yn unig. Dylem atgyfnerthu llwyddiant.” O sylwadau’r Gymdeithas ar Cyllid Cynghorau Ymchwil ar gyfer Ymchwil yng Nghymru

Roedd Gymdeithas eisoes wedi tynnu sylw at y risg yr oedd uno arfaethedig y ddau sefydliad o fewn y Llywodraeth yn ei beri i’r sgiliau ysgolheigaidd a’r arbenigedd sydd eu hangen i gyflawni swyddogaethau craidd CBHC yn llawn ac, yn ein hymateb i ymgynghoriad Gorffennaf 2013, roeddem yn atgyfnerthu’r dadleuon yn erbyn uno. Roeddem yn falch i nodi’r cyhoeddiad gan y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon John Griffiths AC ym mis Ionawr 2014 ei fod wedi penderfynu, yn dilyn ystyriaeth ofalus o farn yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad, yn ogystal â’r dystiolaeth a’r dadansoddi a wnaed gan ei swyddogion, y dylai’r ddau gorff barhau ar wahân am y tro. Rhai o’r materion eraill rydym ni wedi cyflwyno sylwadau arnynt ers diwedd Blwyddyn y Gymdeithas sy’n destun yr Adolygiad hwn yw Bil Addysg Uwch (Cymru), gan gyflwyno sylwadau arno i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol; y ddogfen ymgynghori Deddfu yn y Pedwerydd Cynulliad a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad; ac ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, Iaith Fyw: Iaith byw. Yn ddiweddarach yn ystod 2014/15, byddwn yn ymateb i wahoddiad i gyflwyno tystiolaeth i’r Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru (Adolygiad Diamond). Mae gwahoddiadau o’r math hwn yn arwydd fod y Gymdeithas yn datblygu’n gorff y mae ei farn a’i gyngor yn cael eu gwerthfawrogi mewn cylchoedd swyddogol.


Yn ystod y flwyddyn, cyhoeddodd y Gymdeithas nifer o gyhoeddiadau, ac mae’r cyfan i’w gweld drwy dudalen Cyhoeddiadau gwefan y Gymdeithas. Yn ogystal ag Adolygiad Blynyddol 2012/13 a phedwerydd Anerchiad Blynyddol y Llywydd, roedd y rhain yn cynnwys:  Wales, the United Kingdom and Europe, adroddiad ar y cyd â’r Academi Brydeinig, ar y ddwy gynhadledd ar ddatganoli a gynhaliwyd ym mis Mai 2014, sy’n edrych ar y cysylltiadau cymhleth rhwng Cymru a’r Deyrnas Unedig yn gyffredinol, ac o fewn Ewrop (Hydref 2013);  sylwadau’r Gymdeithas ar Dyfodol ein gorffennol, ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru (Hydref 2013);  sylwadau’r Gymdeithas ar gyllid gan Gynghorau Ymchwil ar gyfer ymchwil yng Nghymru (Tachwedd 2013);

Rydym ni wedi penderfynu dechrau ar Raglen o Astudiaethau a chyhoeddi’r canlyniadau. Hyd yma mae papurau wedi’u comisiynu ar:

 Ar Drywydd Edward Lhwyd testun Darlith Edward Lhuyd gyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru, gan yr Athro Brynley Roberts CBE DLitt FLA FLSW, pa gyhoeddwyd ar y cyd gan y Coleg a’r Gymdeithas (Tachwedd 2013);  Adroddiad ac Argymhellion Gweithgor Cydbwysedd Rhywedd y Gymdeithas (Mawrth 2014) dan Gadeiryddiaeth yr Athro Teresa Rees CBE FAcSS FRSA FLSW . Uchod

 Curiosity-driven ‘Blue Sky’ Research: a threatened vital activity?, papur (a gyhoeddwyd eisoes ym mis Mehefin 2014) gan Lywydd cyntaf y Gymdeithas, Syr John Cadogan CBE DSc FRSE FRSC MAE PLSW FRS, sy’n cwestiynu rhagdybiaethau arwynebol am werth cyllido ymchwil ‘awyr las’; gan ddadansoddi ac dathlu’r effaith mae’n ei gael ar ein heconomi ac ansawdd bywyd; ac yn beirniadu’r pwyslais cyfoes trwm ar raglenni ymchwil cyfeiriedig sydd wedi’u cyllido’n dda gan dynnu sylw at rai sgil effeithiau negyddol;  The Value of Postgraduate Students to the Economy, astudiaeth a gynhelir gan weithgor dan gadeiryddiaeth yr Athro Graham Richards CBE DSc FRSC FLSW, gyda chymorth yr Athro David Blackaby FLSW a’r Athro Gareth Rees FAcSS FLSW.

TUDALEN 11 | ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013-14 CYMDEITHAS DDYSGEDIG CYMRU

Adroddiadau a chyhoeddiadau eraill


TUDALEN 12 | ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013-14 CYMDEITHAS DDYSGEDIG CYMRU

Ein Cymrodoriaeth Yn dilyn ei phedwerydd cylch o etholiadau blynyddol, erbyn hyn mae gan y Gymdeithas dros dri chant a hanner o Gymrodyr, sy’n ffigurau blaenllaw yn eu meysydd penodol. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ragoriaeth a chyflawniad wrth i ni adeiladu Cymrodoriaeth gref a chynrychioliadol fydd yn cynrychioli’r gorau y gall Cymru ei gyflawni yn y prif ddisgyblaethau academaidd. Rhestrir y pedwar deg dau o Gymrodyr newydd ar y tudakennau sy’n dilyn.

Meini prawf ar gyfer ethol i’r Gymrodoriaeth Etholir i Gymrodoriaeth y Gymdeithas Ddysgedig drwy drefn o enwebiadau gan Gymrodyr cyfredol. Mae ar agor i ddynion a menywod o bob oed ac o bob grŵp ethnig:  sydd â hanes clir o ragoriaeth a chyflawniad mewn unrhyw un o'r disgyblaethau academaidd, neu, a hwythau'n aelodau o'r proffesiynau, y celfyddydau, diwydiant, masnach neu wasanaethau cyhoeddus, sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fyd dysg; ac  sydd yn preswylio yng Nghymru, neu sydd yn unigolion sydd wedi'u geni yng Nghymru ond sy'n preswylio mewn man arall, neu sydd fel arall â chyswllt penodol â Chymru.

Cymrodyr newydd a etholwyd yn 2014 Yr Athro John Andrews CBE FLSW, Prifysgol De Cymru; yn flaenorol: CCAUC, Prifysgol Cymru, Aberystwyth

Y Gyfraith

Yr Athro Anthony Atkins ScD FREng FIMechE FIMMM FLSW, Prifysgol Reading

Mecaneg

Yr Athro Paul Atkinson FAcSS FRAI FLSW, Prifysgol Caerdydd

Cymdeithaseg

Yr Athro David Austin FSA FRHistS FLSW, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Archaeolog

Yr Athro Martin Ball FRCSLT FRSA FLSW, Prifysgol Louisiana

Ieithyddiaeth

Yr Athro Malcolm Brown FLSW, Prifysgol Caerdydd

Cyfrifiadureg

Yr Athro Ian Cameron CBE FRCP FMedSci FLSW, yn flaenorol: Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru; United Medical and Dental Schools of Guys and St Thomas’s

Meddygaeth

Yr Athro Ruth Chadwick FAcSS FSB FRSA FLSW, Prifysgol Caerdydd

Moeseg Feddygol a Biofoeseg

Yr Athro Michael Dear FLSW, Prifysgol California, Berkeley (Gweler cyferbyn gyda Syr John Cadogan)

Cynllunio Dinas a Rhanbarth

Dr Sara Delamont DSc FAcSS FLSW, Prifysgol Caerdydd

Cymdeithaseg

Yr Athro Richard Delbridge FAcSS FBAM FLSW, Prifysgol Caerdydd

Gwyddorau Cymdeithasol / Rheolaeth

Yr Athro Geoffrey Gadd DSc FRSE FIUPAC FLS FAAM FSB FLSW, Prifysgol Dundee

Microbioleg

Yr Athro Katie Gramich FEA FLSW, Prifysgol Caerdydd

Llenyddiaeth Saesneg

Yr Athro Keith Harding CBE FRCGP FRCP FRCS FLSW, Prifysgol Caerdydd

Meddygaeth


TUDALEN 13 | ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013-14 CYMDEITHAS DDYSGEDIG CYMRU

Mr Anthony Harrington FCIWEM FLSW, DĹľr Cymru

Peirianneg Amgylcheddol

Yr Athro Mark Haskins FLSW, Coleg Imperial Llundain

Mathemateg Bur

Yr Athro Ann Heilmann FEA FLSW, Prifysgol Caerdydd

Llenyddiaeth Saesneg

Yr Athro Andrew Hopkins FRSC FSB FLSW, Prifysgol Dundee

Gwybodeg Feddygol

Yr Athro Nigel John FEG FLSW, Prifysgol Bangor

Cyfrifiadureg

Dr Aled Gruffydd Jones FRHistS FRAsiaticS FHEA FLSW, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hanes

Yr Athro Mark H Lee FIET FLSW, Prifysgol Aberystwyth

Cyfrifiadureg

Yr Athro David Lloyd FLSW, Prifysgol Caerdydd

Microbioleg

Yr Athro John Loughlin FRHistS FRSA FAcSS FLSW, Prifysgol Caergrawnt

Gweilyddiaeth

Yr Athro Christopher McGuigan FLSW, Prifysgol Caerdydd

Cemeg Feddyginiaethol

Yr Athro Gennady Mishuris MAMS FLSW, Prifysgol Aberystwyth

Mathemateg Gymwysedig

Mr Dennis O'Neill FLTC FLSW, Academi Llais Ryngwladol Cymru

Cerddoriaeth (Opera)

Yr Athro Richard Palmer FRSC FInstP FLSW, Prifysgol Birmingham

Ffiseg

Yr Athro Stephen Palmer FFPHM FRCP FLSW, Prifysgol Caerdydd

Epidemioleg ac Iechyd Cyhoeddus


TUDALEN 14 | ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013-14 CYMDEITHAS DDYSGEDIG CYMRU

Yr Athro Christopher Pollock CBE FSB FRAgS FLSW, yn flaenorol Prifysgol Aberystwyth

Ffisioleg Cnydau a Phorfa

Yr Athro Michael Scott FLSW, IQE plc

Peirianneg

Yr Athro James Scourse FLSW, Prifysgol Bangor

Daeareg Forol

Yr Athro Frank Sengpiel FSB FLSW, Prifysgol Caerdydd

Niwrowyddoniaeth

Mr Richard Suggett FSA FRHistS FLSW, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Hanes cymdeithasol a phensaern誰ol

Yr Athro Alessandra Tanesini FLSW, Prifysgol Caerdydd

Athroniaeth

Yr Athro Howard Thomas FWIF FLSW, yn flaenorol, Prifysgol Aberystwyth

Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig

Dr Geoffrey Thomas FLSW, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; yn flaenorol, Coleg Kellogg, Prifysgol Rhydychen

Addysg Barhaus

Yr Athro Lancelot Thomas FInstP FLSW, yn flaenorol, Prifysgol Aberystwyth

Ffiseg

Yr Athro David Trotter FLSW, Prifysgol Aberystwyth

Ffrangeg

Yr Athro Hazel Walford Davies FLSW, Prifysgol De Cymru

Astudiaethau Llenyddol, Diwylliannol a Theatr

Yr Athro Gareth Williams FRCPath FLSW, Coleg y Brifysgol Llundain

Patholeg

Yr Athro Gruffydd Aled Williams FLSW, yn flaenorol, Prifysgol Aberystwyth

Cymraeg

Yr Athro Alison Wray FAcSS FLSW, Prifysgol Caerdydd

Ieithyddiaeth

Fellows at the 2013 Annual General Meeting


TUDALEN 15 | ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013-14 CYMDEITHAS DDYSGEDIG CYMRU

Yr Athro Meirion Wyn Roberts DSc FRSC FLSW (1 Chwefror 1931 – 5 Mawrth 2014) Gyda thristwch mawr cofnodwn farwolaeth yr Athro Wyn Roberts yn 83 oed, a etholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas yn 2011 ac a wasanaethodd fel Aelod o’i Chyngor o fis Mai 2013. Cydnabuwyd ei arbenigrwydd fel cemegydd ffisegol a’i waith arloesol mewn gwyddoniaeth arwynebau modern inter alia gyda dyfarniad Medal Tilden y Gymdeithas Gemeg Frenhinol (1976), Gwobr y Gymdeithas Gemeg Frenhinol mewn Cemeg Arwyneb (1987) a Medal A G Evans (2008). Rhwng 1979 a 1988 roedd yn Bennaeth yr Adran Cemeg Ffisegol a rhwng 1988 a 1997, roedd yn Bennaeth yr Ysgol Cemeg yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd / Prifysgol Cymru, Caerdydd (erbyn hyn Prifysgol Caerdydd), lle bu hefyd yn Ddirprwy Bennaeth rhwng 1989 a 1992. Pan ymddeolodd ym 1998 daeth yn Athro Ymchwil yn yr Ysgol.

Adroddiad Gweithgor Cydbwysedd Rhywedd y Cyngor Yn ddarostyngedig i’r maen prawf pwysicaf sef rhagoriaeth y sawl a etholir, mae’r Gymdeithas yn dymuno cyflawni cydbwysedd priodol ymhlith ei Chymrodoriaeth o safbwynt oed, dosbarthiad pwnc, dosbarthiad daearyddol ac yn benodol, rhywedd. Yn dilyn y trydydd cylch etholiadol i ethol Cymrodyr newydd yn 2012/13, dim ond 11.8 y cant o’r Cymrodyr oedd yn fenywod. Hyd yn oed nawr, yn dilyn etholiad 2013/14 pan oedd menywod yn 16.6 y cant o’r Cymrodyr newydd, mae’r ffigur cyffredinol yn 12.4 y cant yn unig. Ym mis Hydref 2013, sefydlodd y Cyngor Weithgor Cydbwysedd Rhywedd gyda grŵp bach o Gymrodyr dan gadeiryddiaeth aelod o’r Cyngor, yr Athro Teresa Rees CBE FAcSS FRSA FLSW. Cylch gorchwyl y Grŵp oedd cynghori’r Cyngor ar y ffordd orau i fynd i’r afael â’r anghydbwysedd o ran dosbarthiad rhywedd y Gymrodoriaeth. Croesawyd Adroddiad ac Argymhellion y Gweithgor yn fawr ac fe’u cymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Mawrth 2014. Mae’r Argymhellion yn cynnig nifer o addasiadau i weithdrefnau’r Gymdeithas ynghyd â mentrau fel ailgyfansoddi’r Pwyllgor Enwebiadau gyda chylch gorchwyl mwy rhagweithiol o ran cydbwysedd rhywedd, a chaiff y rhain eu rhoi ar waith yn ystod Cylch Etholiad 2014/15. Mae testun llawn yr Adroddiad i’w weld ar wefan y Gymdeithas.


TUDALEN 16 | ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013-14 CYMDEITHAS DDYSGEDIG CYMRU

Cynllunio ar gyfer dyfodol cynaliadwy Nod Strategol y Gymdeithas yw, erbyn diwedd y cyfnod cynllunio cyfredol (Gorffennaf 2018), ei datblygu ei hun yn gorff cynaliadwy sy’n addas i’r diben ac sy’n cael ei gydnabod fel cynrychiolydd dysg Cymru’n rhyngwladol ac fel ffynhonnell sylwadau a chyngor awdurdodol, ysgolheigaidd a beirniadol i’r Cynulliad Cenedlaethol a chyrff eraill ar faterion polisi sy’n effeithio ar Gymru. Yn ystod y pedair blynedd ers iddi gael ei lansio yn 2010, mae’r Gymdeithas wedi gallu codi ei phroffil a sicrhau cydnabyddiaeth yn y sectorau addysg uwch a llywodraeth yng Nghymru, yn ogystal ac yn fwy cyffredinol, ac mae ein bwriad i adeiladu ar y llwyddiant cychwynnol hwn yn cael ei adlewyrchu yn y Strategaeth a’r Cynllun a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Ionawr 2014. Mae’r Cynllun yn realistig ac yn gyflawnadwy, a hefyd yn dangos dyheadau ac uchelgais priodol, gan ddarparu ar gyfer datblygu’r gweithgareddau craidd a ddisgrifir mewn mannau eraill yn yr Adolygiad hwn

ymhellach, eu hehangu a’u cyfoethogi. Mae hefyd yn darparu’n benodol ar gyfer dwy fenter arbennig: 

sefydlu Academi Ieuenctid Cymru i ysgolheigion ifanc addawol ac aelodau talentog a chreadigol o’r genhedlaeth iau nad ydynt (eto) yn diwallu’r meini prawf ar gyfer eu hethol i’r Gymrodoriaeth; a

trefnu Symposia Rhyngwladol a fydd yn trafod pynciau o bwys i Gymru a’r byd (gan gynnwys yr economi, diogelwch byd-eang, cynaladwyedd a datblygu cynaliadwy, ac ynni) gan siaradwyr nodedig, proffil uchel o bob rhan o’r byd, â’r nod o gyfrannu at welliannau yn ansawdd bywyd pobl yng Nghymru (a thu hwnt).

Caiff yr Academi Ieuenctid ei lansio yn 2016 a chynhelir y Symposiwm cyntaf (ar ddatblygu economaidd mewn rhanbarthau ymylol ag arian cyfred canolog), ym Mhortmeirion ym mis Ebrill 2015, ar y cyd â Phrifysgol Bangor, sydd yn ei haelioni wedi cytuno i gyfrannu at y costau. Mae’r cynlluniau ar gyfer y mentrau hyn yn dangos ymrwymiad y Gymdeithas i ddatblygu dysg a gwybodaeth a buddsoddi ac ychwanegu gwerth i fywyd economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a deallusol.


Rydym ni’n ymwybodol bod sicrhau cymorth ymarferol ac ariannol o amrywiaeth o ffynonellau yn allweddol i roi’n cynlluniau datblygu a thwf ar waith yn llwyddiannus. Gan adlewyrchu’r ffaith eu bod nhw a’u hacademyddion ymhlith cefnogwyr mwyaf naturiol y Gymdeithas, yn ystod 2013/14 roedd cyfran fawr o’n hincwm yn deillio o nifer o Brifysgolion Cymru. Dechreuodd Prifysgolion Bangor, Caerdydd ac Abertawe gyfrannu cymorth ariannol am y tro cyntaf, i ategu’r grant blynyddol oedd eisoes yn cael ei roi gan Brifysgol Cymru (yr oedd ei chymorth cychwynnol gwreiddiol ers 2010 wedi galluogi i’r Gymdeithas gael ei lansio a’i datblygu). Mae ein Swyddogion a’n Cyngor yn ddiolchgar iawn i’r Prifysgolion hyn am eu hymrwymiad ariannol hael, yn ogystal ag am y cymorth gwerthfawr mewn da maen nhw (ynghyd â Phrifysgolion eraill Cymru a sefydliadau eraill, gan gynnwys ein Harchwilwyr, PricewaterhouseCoopers) wedi’i ddarparu.

Yn ystod y flwyddyn, cawsom rhywfaint o incwm hefyd o danysgrifiadau a ffioedd mynediad Cymrodyr, o grantiau gan elusennau eraill (yn fwyaf nodedig Ymddiriedolaeth Addysgol Sefydliad Peirianwyr De Cymru – SWIEET2007), a thrwy roddion. Mae’n bwysig nodi, er gwaethaf ein dibyniaeth gyfredol ar rai ffynonellau incwm, ein bod ni wedi gallu cynnal ein busnes yn gwbl annibynnol. Byddwn yn parhau i wneud hynny. I’r graddau bod hyn yn angenrheidiol yn y lle cyntaf, byddwn yn buddsoddi i ddatblygu gweithgareddau, gan ddefnyddio cyfalaf gwaith o’n cronfeydd, er mwyn sicrhau bod mentrau’n cael eu lansio’n llwyddiannus ac er mwyn dangos pwysigrwydd a gwerth ein gwaith i ddarpar gyllidwyr allanol. Fodd bynnag mae’r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd strategol sicrhau incwm ychwanegol sylweddol o ffynonellau newydd, er mwyn cyllido gweithgareddau newydd, yn ogystal â thalu costau craidd y Gymdeithas. Yn ogystal â cheisio perswadio Prifysgolion eraill yng Nghymru i’n cefnogi’n ariannol yn ystod 2014/15 byddwn yn anelu at ehangu sail

ein cymorth ymhellach drwy gysylltu ag ymddiriedolaethau elusennol a busnesau yn y sector corfforaethol a thrwy weithio i berswadio ein Cymrodyr ac unigolion eraill i gefnogi ein gwaith drwy gyflwyno rhoddion a chymynroddion. Ymhlith y ffynonellau posibl eraill o grantiau ar gyfer prosiectau penodol mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru, yr Undeb Ewropeaidd, Cynghorau Ymchwil y DU a Chymdeithasau Dysgedig eraill.

TUDALEN 17 | ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013-14 CYMDEITHAS DDYSGEDIG CYMRU

Ein strategaeth cyllido


TUDALEN 18 | ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013-14 CYMDEITHAS DDYSGEDIG CYMRU

Llywodraethiant Corfforaethol Aelodau’r Cyngor 2013/14

Aelodau Newydd o’r Cyngor

Ein Llywydd newydd

(oni nodir yn wahanol, bydd y cyfan yn parhau i wasanaethu yn 2014/15)

(elected to serve from 14 May 2014)

Yr Athro Jane Aaron

Yr Athro David Evans

Yr Athro David Boucher

Yr Athro Peter Wells

Mae’r Gymdeithas wrth ei bodd yn croesawu’r cyn-ddiplomydd, Syr Emyr Jones Parry yn Llywydd a Chadeirydd newydd ei Chyngor. Dechreuodd ar ei dymor o dair blynedd yn swydd y Llywydd ar 14 Mai 2014, ac fe’i hetholwyd drwy bleidlais o holl Gymrodyr y Gymdeithas ar argymhelliad unfrydol y Cyngor a’i Bwyllgor Ceisio Llywydd.

Yr Athro Michael Charlton

Syr John Cadogan (until 14 May 2014) Yr Athro Dianne Edwards

Swyddogion Newydd

Yr Athro Kenneth Dyson

(elected to serve from 14 May 2014)

Yr Athro Robert Evans

Y Llywydd a Cadair y Cyngor Syr Emyr Jones Parry

Syr Roger Jones Yr Athro John Wyn Owen Yr Athro Roger Owen

Vice-President (Gwyddoniaeth, Technoloeg a Meddygaeth)

Yr Athro Ole Petersen

Yr Athro Ole Petersen

Yr Athro Teresa Rees Yr Athro Keith G Robbins Yr Athro M Wyn Roberts (ob. 6 Mawrth 2014) Yr Athro Alan Shore Yr Athro Keith Smith Yr Athro M Wynn Thomas Yr Athro John Tucker Yr Athro Robin H Williams

Daeth tymor Llywydd Cyntaf y Gymdeithas, Syr John Cadogan, a’r IsLywydd dros Wyddoniaeth, Peirianneg a Meddygaeth, yr Athro Dianne Edwards, i ben ar ddiwedd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 14 Mai 2014. Rydym ni’n ddiolchgar i’r ddau am eu gwasanaeth a’u hymrwymiad diflino i’r Gymdeithas yn ei blynyddoedd ffurfiannol hanfodol.

Swyddogion 2013/14 (oni nodir yn wahanol, bydd y cyfan yn parhau i wasanaethu yn 2014/15)

Y Llywydd a Cadair y Cyngor Syr John Cadogan (tan 14 Mai 2014) Yr Is-Lywyddion Yr Athro Dianne Edwards (tan 14 Mai 2014) (Gwyddoniaeth, Technoloeg a Meddygaeth) Yr Athro M Wynn Thomas (y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol) Y Tryorydd Yr Athro John Wyn Owen Yr Ysgrifennydd Cyffredinol Yr Athro John Tucker

“Mae Syr John Cadogan wedi gwneud cyfraniad enfawr i ddatblygiad Cymdeithas Ddysgedig Cymru: mae ei ddealltwriaeth a’i weledigaeth, ei egni a’i benderfyniad wedi helpu i sicrhau, o fewn cyfnod byr o amser, bod y Gymdeithas wedi datblygu fel sefydliad sylweddol uchel ei barch ym mywyd academaidd a chyhoeddus Cymru. Mae dyled fawr gan Gymrodyr eraill y Gymdeithas – ac yn wir cenedl Cymru gyfan – iddo.” Yr Athro John Tucker MAE FBCS FLSW Yr Ysgrifennydd Cyffredinol

Ag yntau’n gyn-ddiplomydd, mae Syr Emyr yn fwyaf adnabyddus am ei swydd ddiplomyddol olaf, sef Llysgennad y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd lle bu’n cynrychioli’r DU rhwng 2003 a 2007. Mae ei gefndir academaidd ym maes ffiseg. Enillodd ei radd Baglor a Diploma Ôlraddedig mewn Grisialograffaeith yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd, lle bu’n astudio Ffiseg Ddamcaniaethol, a’i radd PhD mewn Ffiseg Polymer ym Mhrifysgol Caergrawnt (Coleg St Catharine’s), lle bu’n gweithio yn Labordy Cavendish. “Mae’n fraint fawr cael ymgymryd â’r rôl hon, ac yn arbennig cael dilyn Syr John Cadogan sydd wedi gwneud cymaint o gyfraniad at sefydlu’r Gymdeithas Ddysgedig. Rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda fy nghydweithwyr i adeiladu ar y gwaith hwnnw ac ychwanegu at y gydnabyddiaeth i ysgolheictod Cymru.” Syr Emyr Jones Parry GCMG FInstP PLSW Llywydd


TUDALEN 19 | ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013-14 CYMDEITHAS DDYSGEDIG CYMRU

Noddwr Brenhinol

Siarter Brenhinol

Staff

Ym mis Mawrth 2014 roeddem wrth ein bodd pan gadarnhawyd fod Ei Uchelder Brenhinol wedi derbyn gwahoddiad y Cyngor i fod yn Noddwr Brenhinol y Gymdeithas ac y byddai’n ymgymryd â’r rôl am gyfnod cychwynnol o bum mlynedd.

Elusen gofrestredig yw’r Gymdeithas ac fe’i cyfansoddwyd yn ddiweddar fel cwmni cyfyngedig drwy Warant dan Femorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu. Mae’r Cyngor wedi penderfynu deisebu am Siarter Brenhinol (ac fel cam cyntaf ffurfiol yn y broses hon, ym mis Mehefin 2014, cyflwynodd lythyr o fwriad i’r Cyfrin Gyngor).

Prif Weithredwr ac Ysgrifennydd

“Mae hyn yn newyddion rhagorol. Mae penderfyniad Ei Uchelder Brenhinol i ddod yn Noddwr Brenhinol yn anrhydedd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Bydd ein Cymrodoriaeth yn croesawu’r cyhoeddiad yn fawr.” Syr John Cadogan CBE DSc FRSE FRSC MAE PLSW FRS

(Inaugural President 2010 – 2014)

Os bydd ein cais yn llwyddo, bydd y newid hwn i’w threfniadau cyfansoddiadol yn gosod y Gymdeithas ar sail gyfansoddiadol sy’n cyfateb i gymdeithasau dysgedig cenedlaethol mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig a bydd yn gwbl gydnaws â’i statws fel academi ysgolheigaidd genedlaethol Cymru.

Dr Lynn Williams Swyddogion Gweithredol Dr Sarah Morse Georgia Burdett (o 1 Hydref 2013)


TUDALEN 20 | ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013-14 CYMDEITHAS DDYSGEDIG CYMRU

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Yr Athro Alistair Cole FRHistS FAcSS FLSW yn y gynhadledd ‘Cymru, y DU ac Ewrop’; Dr Gretchen Kalonji, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cynorthwyol y Gwyddorau Naturiol, UNESCO, yn siarad yng Ngholocwiwm Cymru Comisiwn Cenedlaethol y DU dros UNESCO; Dr Rowan Williams PC DD FRSL FLSW FBA yn llofnodi Cofrestr Cymrodyr y Gymdeithas; Dr Jasmine Donahaye yn cyflwyno ‘Wales, Israel, Palestine’; Cynulleidfa’r gynhadledd ‘Cymru, y DU ac Ewrop’; Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, yn siarad yn y Colocwiwm Cymru UNESCO.


TUDALEN 21 | ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2013-14 CYMDEITHAS DDYSGEDIG CYMRU

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Amy Jones, Prifysgol Abertawe, enillidd gwobr poster PhD Canolfan Hyfforddi Ddoethurol Cymru yr ESRC (gwobr a’i noddwyd gan y Gymdeithas), yng Nghynhadledd WISERD, Gorffennaf 2013; darlith ‘Chemistry and Light’ gan Dr Peter Douglas; Syr John Cadogan CBE DSc FRSE FRSC MAE PLSW FRS, yn derbyn Yr Athro Katie Gramich FLSW yn ffurfiol i mewn i’r Gymrodoriaeth; Cynulleidfa o bobl ifanc a gwesteion gwadd yn Narlith Medal Menelaus cyntaf y Gymdeithas; Syr Adam Roberts KCMG FBA, Llywydd yr Academi Brydeinig, yn y gynhadledd ‘Cymru, y DU ac Ewrop’; Huw Edwards yn hyrwyddo achos capeli Cymru


Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw academi ysgolheigaidd genedlaethol gyntaf Cymru. Fe’i sefydlwyd a’i lansio ym mis Mai 2010. Bellach mae iddi dros dri chant o Gymrodyr, sy’n ffigurau blaenllaw yn eu disgyblaethau academaidd perthnasol. Ethos arweiniol y Gymdeithas yw Dathlu Ysgolheictod a Gwasanaethu’r Genedl: yn ogystal â dathlu, cydnabod, diogelu ac annog rhagoriaeth ym mhob un o’r disgyblaethau ysgolheigaidd, ei diben hefyd yw harneisio a sianelu talent y genedl, fel y’i hymgorfforir yn ei Chymrodyr, er budd, yn bennaf, Cymru a’i phobl. Ei Nod Strategol yw bod yn gorff cynaliadwy sy’n addas i’r diben ac a gydnabyddir yn gynrychiolydd cydnabyddedig dysg Cymru’n rhyngwladol a hefyd yn ffynhonnell sylwadau awdurdodol, ysgolheigaidd a beirniadol i’r Cynulliad Cenedlaethol a chyrff eraill ar faterion polisi sy’n effeithio ar Gymru.

Cymdeithas Ddysgedig Cymru Coftrestfa’r Brifysgol Rhodfa’r Brenin Edward VII Parc Cathays Caerdydd CF10 3NS +44(0) 29 2037 6951 cddc@cymru.ac.uk www.cymdeithasddysgedigcymru.ac.uk Flickr Learned Society of Wales Twitter @LSWalesCDdCymru YouTube LearnedSocietyWales

Rhif Cofrestredig Elusen 1141526 Rhif Cwmni 7256948 Ma’r Adolygiad hon ar gael hefyd ar: : http://bit.ly/cddc1314


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.