Adolygiad Blynyddol 2011-12

Page 4

Rhaglen Digwyddiadau’r Gymdeithas: Cyfresi a Themâu Yn ystod y flwyddyn rydym ni wedi parhau i ddatblygu nifer o gyfresi o ddarlithoedd gyda rhai themâu arbennig sy’n ategu byd dysg, ac wedi trefnu a chyfrannu at raglen lwyddiannus sydd wedi cynnwys dros ugain o ddigwyddiadau.

Ein Themâu yw: Dyfeisio, Arloesi a Newidiaeth

Wrth galon ein dealltwriaeth o newidiaeth mae'r berthynas ryngweithiol rhwng agweddau technegol, masnachol a chymdeithasol darganfyddiadau, gwelliannau ac Y Cyfresi Darlithoedd ar hyn o bryd yw: arloesi. Mae’r digwyddiadau a drefnir dan y thema hon yn archwilio’r elfennau sylfaenol hyn yn yr “economi Ffiniau - cyfres o ddarlithoedd lle gwahoddir academyddion o fri i drafod gwybodaeth”. estyn ffiniau ymchwil ac i osod eu Hanes Gwyddoniaeth a Thechnoleg cyfraniadau eu hunain yn eu cydBu gan Gymru a’i phobl ran sylweddol destun. Mae’r darlithwyr hyn yn ysgolheigion blaenllaw yn eu gwahanol yn nhwf gwybodaeth wyddonol ac yn y defnydd ohoni, ond mae hanes ac ddisgyblaethau gyda rhai ohonynt yn etifeddiaeth gwyddoniaeth a ymwelwyr â Chymru. thechnoleg yng Nghymru wedi’u hesgeuluso i raddau helaeth. Mae’r Penblwyddi - cyfres o ddarlithoedd yn thema hon yn datblygu hanes nodi dathliadau arbennig neu bengwyddoniaeth a thechnoleg yn blwyddi, yn aml am bobl neu gyffredinol, a’r etifeddiaeth wyddonol a gyflawniadau cysylltiedig â Chymru. thechnolegol Gymreig yn benodol. Gwahoddir academyddion nodedig i drafod arwyddocâd rhyw Y Prifysgolion ddarganfyddiad neu’i gilydd neu i Mae Prifysgolion yn ganolog i ddathlu bywyd neu ddigwyddiad. ddatblygiad y byd modern. Mae'r hyn y mae unigolion, busnesau a llywodraethau yn ei ddisgwyl gan brifysgolion yn cynyddu, ac mae’r disgwyliadau hyn yn gwrthdaro ȃ’i gilydd weithiau. Mae'r cwestiwn Beth yw diben Prifysgolion? yn un y gellir ei ofyn ar hyd a lled y byd. Yn y digwyddiadau a drefnir dan thema Y Prifysgolion ceir cyfle i drafod eu swyddogaethau cymdeithasegol, economaidd, deallusol a diwylliannol.

Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru |Tudalen 4

Ynni Mae cynhyrchu ynni, a'i ddefnyddio, yn sylfaenol i’n bywyd cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Mae'r problemau sydd ynghlwm wrth ynni wedi esgor ar dechnolegau mawreddog, mentrau masnachol enfawr, dadleuon rhyngwladol chwerw, trafodaethau rhethregol brwd, daliadau tanbaid, a dyheadau sydd weithiau’n afrealistig. Dan y thema hon mae’r Gymdeithas yn edrych ar un o bynciau mawr y dydd, ynni, o sawl agwedd wahanol, gan herio damcaniaethau a chredoau gyda thrylwyredd academaidd a thystiolaeth. Yn ystod y flwyddyn penderfynwyd y dylid datblygu dwy thema arall hefyd: Bydd thema amlddisgyblaethol Nawdd yn edrych ar y gwahanol fathau o nawdd yn y celfyddydau a’r gwyddorau ac mewn bywyd cyhoeddus, fel y’i gwelir yng Nghymru, y DU a thu hwnt, gan drafod y cymhelliannau a’r dulliau o weithredu nawdd a’i ganlyniadau; Bydd Cymdeithas Sifil Cymru’n edrych ar ddatblygiad penodol y gymdeithas sifil yng Nghymru yng nghyd-destun datganoli pwerau hunan-reoli sylweddol yn ddiweddar i Gynulliad Cymru lled-annibynnol, drwy gyfres o ddarlithoedd sy’n rhychwantu cymdeithaseg a gwleidyddiaeth, hanes, astudiaethau diwylliannol a chyfryngau, a llenyddiaeth.


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.