Y Selar - Steddfod 08

Page 1

RHIFYN 14 . AWST . 2008

y Selar

AM DDIM

COLOFN LISA GWILYM

ENDAF EMLYN EITHA TAL FFRANCO ADOLYGIADAU

GAI

S M TO RHIFYN ARBENNIG ‘STEDDFOD CAERDYDD 2008

1


ATRIUM SELAR welsh ad 138x190:Layout 1

15/7/08

16:04

Page 1

Cyrsiau unigryw a’r adnoddau gorau posib, mewn campws arloesol yng nghalon dinas fyrlymus Caerdydd. Wrth ddewis astudio yn ATRiuM byddwch chi ar flaen y gad yn eich maes ac yn torri tir newydd yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol. Cyrsiau mewn:

• Drama a Cherddoriaeth • Y Cyfryngau a Chyfathrebu • Celf a Dylunio

Darperir llwybrau astudio dwyieithog mewn pynciau penodol. Am fwy o wybodaeth:

0800 716 925 www.glam.ac.uk/cymraeg

O O

O O

selar.indd 1

17/07/2008 23:36:18


ENDAF EMLYN

L O D D Y GOLYG

rod! eto’n ba teddfod hi’n ‘S d n i’ d h u bod edyn fy d w re c a g . i .. h dydy! i rownd allwch c Wel wel, dolig cyn i ni dro gylch dieflig yn y d w y n h fel r ethol yd Fydd hi’ . Mae o Genedla law to e d d fo d fo d d iste y. G ‘Sted y mai’r E i’r Cymr th dinol yd l y flwyddyn i n re bell boe ff a y p g n n Y far llianno n’ mew y’n y -i s ie s iw ‘l d ip l t h a c n c y a uchafbw ’snos gyfan, trio lu £5 am sosej w ta mae ‘na n r, m r, e a e v o n m e g w o n a h tr h p bo a o n r , a Ond ding ewydd s efo hym rbôrd – be well! wydd a rhifyn n eg gyfoes a e n lc mra blasu fe s, llwyth o CD’s iaeth Gy cerddor gig n o w ra th g y h lw ylc h hoff g ‘na danlli o’c rodd fod i. r o on ni ad Y Selar, ac th e i’ch didd a n w dd thaf mi rhengoe ffrwyth … fel yn diwe roed yn d yn r w a Yn y rhif d r u w dau ma hynny’n dechra Ma’ gennym ni ia id w e n u io. widiada gobeith ydag mae’r ne n hwn yn profi stalgia g o n – n y if w h h ’n r y n y s y d c fyd ifan peth ach o bo ydo pa fandiau egsgliwsif b ig d y h ‘c ffw liad mlyn, pro yn fuan, detho hyflwyno Endaf E r w ac fa n a n y m r d a , mynd i fo cs-set newydd J m. Ar ben hyn ily bo w n ’r G y o a fr u is a ly L o an giad a ewydd g h, adoly colofn n tadleuaeth wyc sbysebion gigs y s h y g o a th ‘n y ma a llw ch? eddaraf i angen dwedw CD’s diw h c a d ll ara fiwch, ballu. Be d, a cho fo d d te r ‘S wch Sela r unlle. Mwynhe lliw a ehedant i’ un adar o’r

GAI TOMS

GERAINY JARMAN

OWAIN S

4 16 Golygydd

Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

Dylunydd

10

Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

MARCHNATA Ellen Davies (hysbysebion@yselar.com)

Cyfranwyr

14

EITHA TAL FRANCO

Shon Williams, Barry Chips, John Rhambo, Lowri Johnston, Dewi Snelson, Ceri Phillips, Hefin Jones

y Selar RHIFYN 14 . AWST . 2008

Ariannir Y Selar gan grant gan y Cyngor Llyfrau Cenedlaethol. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd - Defnyddir iaith gref mewn mannau, a iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.

3


R ’ O M Y AIL DW

L L E R MAC

ON O FFYS AMDANO’N IG DD NA D ’D RO AC ’, RIO FF RELL WEDI MAE PAWB ‘DI CLYWED AM ‘MAC . SELAR EISIAU DYSGU MWY AM ENDAF EMLYN CANU YN Y SESIWN FAWR. OND, RO’DD Y

Gyda’i berfformiad ardderchog diweddar yn Sesiwn Fawr Dolgellau, y tro cyntaf iddo ymddangos ar lwyfan ers dros chwarter canrif, mae cenhedlaeth newydd wedi cael cyfle i ddod i nabod cerddoriaeth Endaf Emlyn, yr athrylith o Ben Llyn. Ond mae hefyd yr un mor enwog am fod yn gyfarwyddwr ffilmiau yn y 1980au a’r 1990au, ac wrth gwrs am sgwennu cerddoriaeth agoriadol ‘Pobol y Cwm’! Aeth Shon Williams i gwrdd ag Endaf mewn tafarn ar gyrion Caerdydd i’w holi a’i stilio am ei orffenol, ei bresennol a’i ddyfodol, gan ofyn yn gyntaf os taw mewn cerddoriaeth yntau ffilmiau oedd ei uchelgais cyntaf:

Endaf Emlyn: Cerddoriaeth yn sicr. Roedd fy nhad wedi bod yn gerddor proffesiynol, felly roedd y rhamant o hanes fy nhad yn gefndir i mi. Yn gryno iawn, cafodd ei hel o’r ysgol am chwarae trombon, aeth i chwarae i fand chwarel Nantlle lle cafodd ei sbotio i fod yn ‘principal trombone’ gyda band Morris Motors yn Rhydychen, a oedd bryd hynny yn un o’r bandiau pres enwocaf ym Mhrydain. Felly mi oeddwn i’n falch o beth yr oedd fy nhad wedi ei wneud, ond roedd yna deimlad nad oedd fy nhad wedi gallu aros yn yr yrfa honno am wahanol resymau, felly o’i ochr o, roedd yna deimlad mod i yn mynd i gario ymlaen, fel mae rhieni yn tueddu i wneud. Roedd fy chwaer Sian hefyd yn gantores enwog, ac roedd fy mam yn gantores, felly mi oedd cefndir cerddorol yn y teulu.

Daeth talent cerddorol Endaf yn amlwg yn gynnar fel ‘boy soprano’, ond y ffidil ac nid y gitar oedd ei offeryn cyntaf, a’i uchelgais oedd bod yn ffidlwr proffesiynol. Roedd yng ngherddorfa ieuenctid Cymru ar yr un pryd gyda John Cale (Velvet Underground) a Karl Jenkins (cyfansoddwr cerddoriaeth ‘Adiemus’).

4

myspace.com/endafemlyn1 ?

Roedd y cyfnod yn y gerddorfa yn gyfnod o addysg pwysig o ran safon, disgyblaeth a chyfeiriadaeth cerddorol. Roedd fy athro ffidil yn yr ysgol, John Newman, yn ddylanwad mawr, ac roedd yn gefnogol iawn i mi fynd i ddilyn gyrfa fel cerddor proffesiynol.

Wedyn, daeth y 60au, a doedd chwarae’r ffidil ddim yn cwl mwyach. Roedd wedi gweld fod gwell ffidlwyr nag o yn y gerddorfa, a sylweddolodd nad oedd gyrfa ddisglair fel ffidlwr o’i flaen, ac nad oedd ganddo chwaith yr awydd i fod yn un ffidlwr ymysg nifer mewn cerddorfa. Fel amryw o’i genhedlaeth, cafodd ei ddeffro i gerddoriaeth gyfoes, rhoddodd y gorau i chwarae’r ffidil yn gyfangwbl, a aeth i weithio yn y cyfryngau. Ond doedd y gerddoriaeth fyth ymhell i ffwrdd, a dechreuodd recordio yn Saesneg i ddechrau, oherwydd y diffyg cyfleoedd ar y pryd i ganu yn Gymraeg. Doedd dim yn digwydd yng Nghymru a oedd yn cyfateb i’r hyn a oedd yn digwydd yn Lloegr ac yng ngweddill y byd. Mi oeddwn i wedi dechrau chwarae gitar a sgwennu caneuon yn wael, ac mi es i a fy nghaneuon i Lundain i Tin Pan Alley, fel yr oedd pawb yn ei wneud yr adeg honno. Mi ges i gytundeb ac mi oeddwn i’n un o sgwennwyr cwmni cyhoeddi bychan Tony Hatch yn Llundain. Mi oeddwn i yn recordio yn Abbey Road ar label Parlophone, ac yn ogystal a gwneud senglau mi oeddwn i yn canu ar ganeuon ‘demo’ i bobl eraill. Felly mi oeddwn i’n cael profiad o weithio mewn stiwdio a gweithio gyda


cyfweliad: endaf emlyn

ENDAF EMLYN

MI OEDDWN I YN RECORDIO YN ABBEY ROAD AR LABEL PARLOPHONE ...

GEIRIAU: SHON WILLIAMS LLUNIAU: ELGAN GRIFFITHS cherddorfa ac yn y blaen. Roedd o’n brofiad da iawn, ond doedd o ddim yn waith llawn amser, yma ac acw oeddwn i’n gwneud y pethau yma.

Ar ôl recordio ei sengl gyntaf i Parlophone, gofynnodd am gael gwneud un ochr ohoni yn Gymraeg, a dyna lle yr ymddangosodd y gan ‘Madryn’ gyntaf, ar ôl iddo ei hysgrifennu ar y tren i Lundain. Yr oedd wedi cael blas ar sgwennu ‘Madryn’, ond yn raddol daeth i sylweddoli gwacter dilyn y freuddwyd canu pop yn Saesneg, a throdd i gyfansoddi mwy yn y Gymraeg. Dechreuodd gydweithio gyda chyfaill oedd gyda’r un cwmni cyhoeddi, Mike Parker, a gydag ef fel cyd-offerynnwr, aeth ati i recordio ‘Hiraeth’ a ‘Salem’. Roedd Mike Parker yn gerddor dawnus iawn ac yn ddylanwad pwysig. Fo sy’n chwarae’r piano ar ‘Madryn’, er mai

chwaraewyr gitar ydi o, ond mae o yn un o’r bobl yna sy’ gallu gwneud bob math o bethau. Fe wnaethom ni ddwy albym gyda’n gilydd, ond roeddwn i’n cael mwy o foddhad allan o’r gwaith yna nag yr oedd Mike, achos mi oeddwn i’n gallu gweithio yng Nghymru ac roedd mwy o arwyddocad i mi yn hynny. Roedd Mike yn dioddef o holl rwystredigaethau bod yn gerddor yn Llundain, a thra roeddwn i wrth fy modd, roedd Mike yn digalonni. Penderfynodd Mike ar ryw bwynt newid gyrfa, a gadawodd cerddoriaeth i fod yn werthwr masnachol teithiol. Roedd yn golled fawr i gerddoriaeth i ni yng Ngymru gan iddo fo hefyd gynhyrchu ail record hir Edward H Dafis ‘Yr Hen Ffordd Gymreig o Fyw’.

Mae’r albwm ‘Hiraeth’ yn eithaf nodweddiadol o’r genre canwrgyfansoddwr oedd yn ei anterth ddechrau’r 1970au, gyda chaneuon

hyfryd telynegol sy’n gymysgfa o ddathlu bro ei febyd ac alawon gwreiddiol i eiriau hen benillion. Un o themau ‘Madryn’ yw’r dynfa rhwng gwlad a thref, a thra bod geiriau’r penillion cyntaf yn nodedig am glodfori cefn gwlad, mae’r bennill olaf fel pe bai’n derbyn realiti y byd ohoni, ac mai’r ddinas oedd ei gartref bellach. Mae’r ddeuoliaeth honno ynom ni i gyd, ac o ran fy anian, tyddynwr ydw i. Mae’n swnio’n grafog i ddweud hynny, ond dwi ddim angen mynd i nunlle a dwi ddim angen llawer o ddim byd. Dwi’n hapus ar fy nhir fy hun. Ar y llaw arall, mae’r profiad dinesig wedi dod i ni yn y ganrif ddiwethaf ac mae Caerdydd yn bwysig iawn-mae’n bwysig ein bod wedi ffeindio ein lle mewn dinas a bod lle i’r Gymraeg yn y ddinas, ac mi rydan ni wedi llwyddo i wneud hynny er ein bod mewn lleiafrif. Wedi dweud hynny, i’r rhai ohonom sydd

5


wedi dod o’r cefndir hwnnw, mae yna dynfa rhwng y filltir sgwar a’r byd mawr, a dyna beth sydd yn ‘Madryn’.

Roedd hefyd yn amlwg o ‘Hiraeth’ fod cryn ofal a meddwl tu ôl i eiriau’r caneuon. O lle ddaeth yr ymhyfrydu hwnnw mewn geiriau? Mi oeddwn i’n swil o fedru sgwennu geiriau yn y Gymraeg, a doeddwn i ddim yn dod o gefndir llenyddol academaidd. Ond mae swn gair i’r nodyn yn bwysig i mi, mae delweddau o ran geiriau yn bwysig i mi-mae barddoniaeth y peth agosaf at ganu a ffilmiau i mi. Felly, mi roeddwn i’n trio rhoi rhyw fath o sglein ar y geiriau, ond yn rhy aml mae’r gerddoriaeth wedi cael blaenoriaeth gen

Efo pwy yr hoffai gydweithio ag o-yn fyw neu’n farw? John Cale, achos dwi’n ei edmygu am beth mae wedi ei wneud. Roedd Karl Jenkins yn yr un ieuenctid gerddorfa, a fuaswn i’n licio gofyn iddo fo pam ei fod wedi dyfeisio iaith pan roedd ganddo iaith werth y byd? Dwi hefyd yn edmygu Frank Sinatra, achos does neb yn lleisio brawddeg cystal hyd heddiw. Sut byddwch chi’n ymlacio? Mae gen i randir lle dwi’n tyfu pethau, a dwi wrth fy modd yn tyfu pethau. Mae gen i gi, Lili, ac mae’n gyfaill da. Dwi’n hoffi chwarae cerddoriaeth, a cherddoriaeth sydd yn cysylltu ddyfnaf gyda’r emosiynau. O ran cerddoriaeth, dwi’n gatholig iawn yn y pethau sydd yn fy mhlesio, o Stevie Ray Vaughan i Aimee Mann a Tom Waits. Beth sydd yn eu cysylltu nhw i gyd yw fod eu cerddoriaeth yn dod o’r bol rhywsut. Wrth edrych yn ôl, dwi’n gweld fod y pethau gorau wedi dod o rywbeth tu fewn, yn hytrach nag o rhyw ‘riff’ glyfar. Felly dwi’n tueddu i wrando ar bobl sydd yn lleisio rhwbeth dynol, gwreiddiol, deifiol a dwys, ac mi allai fod yn John Lennon, Larry Carlton, Lowell George, Little Feat, Dr John, Brahms, Mahler neu Mozart-mae’n rhyfeddol o eang.

6

i—mi oeddwn i‘n canu geiriau ffwrdd-ahi fel ‘rownd a rownd’ a ‘Macrell wedi ffrio yn y badell ffrio’. Roedd hynny yn mynd yn waeth wrth i fy niddordeb mewn cerddoriaeth gynyddu; fel roedd fy ngeirfa cerddorol yn ymestyn, roedd y sylw yr oeddwn i roi i eriau yn prinhau. Bellach, dwi eisiau gwneud yn iawn a dwi’n trio dod yn ôl at y geiriau.

Bythefnos yn ôl, chwaraeodd Endaf Emlyn ei ail albym ‘Salem’ bron yn ei chyfanrwydd yn Sesiwn Fawr Dolgellau. Mae’n cael ei chydnabod fel y ‘concept album’ gyntaf yn y Gymraeg, sef albym gyda chaneuon sy’n troi o gwmpas un syniad neu thema ganolog. Y thema oedd y cymeriadau yn llun enwog Curnow Vosper o gapel bychan Salem ger Harlech. Beth a’i ddenodd at y delweddau arbennig hynny? Roedd o’n ymgais i roi ffurf a thema i’r gwaith. Dwi ddim yn efengylwr nag yn gapelwr, felly doeddwn i ddim yn mynd ati gyda rhyw fath o arddeliad crefyddol. Ond, wrth edrych yn ôl, roeddwn i yn digwydd bod yn rhan o’r genhedlaeth honno a oedd yn ffarwelio gyda’r capel, ac yn cofio ffordd o fyw gwahanol. Roeddwn i wedi cael fy nhrwytho yn y cefndir Hen Gorff ffwndamental Cymreig cadarn iawn hwnnw, a mi oeddwn i’n gweld bod hwnnw’n mynd. Ni oedd y genhedlaeth gyntaf oedd yn cerdded oddi wrth hynny. Mi oeddwn i’n dweud ‘Iawn, o dyna lle dwi di dod, dwi ddim yn gwybod lle dwi’n mynd rwan, ond dwi’n gwybod ein bod ni’n gadael y byd yna, a ddown ni byth yn ôl iddo fo’.

Ar ddiwedd ‘Salem’, mae’r adroddwr yn ffarwelio gyda’i gariad Laura i fynd ar daith o amgylch y byd. Felly y ganwyd ei albym nesaf ‘Syrffio Mewn Cariad’, sydd yn troi o amgych anturiaethau’r adroddwr mewn gwahanol rannau

o’r byd. Roedd yr albym hefyd yn ehangach o ran dylanwadau ac arddulliau cerddorol, gydag elfennau Motown a ffync yn cael ei hychwanegu i’r gymysgfa. Mae’r delweddau hefyd yn fwy sinematig hyd yn oed nag yn ‘Salem’, ac yn awgrym cryf o gyfeiriad diweddarach Endaf Emlyn fel gwneuthurwr ffilmiau. Mae ‘Syrffio Mewn Cariad’ yn record od iawn. Mae yna bob math o bethau ynddi - lobsgows o bethau. Dipyn bach o ‘hubris’ ar fy rhan i. Ar ôl rhyw lefel o lwyddiant efo ‘Salem’, dwi’n meddwl mod i wedi colli fy ffordd ychydig bach efo ‘Syrffio’, er efallai fod pobl eraill yn gweld lle oeddwn i’n mynd. Mae’r dylanwadau ar Syrffio yn cynnwys pobl fel Robert Louis Stevenson, Somerset Maugham, Arthur Grimble a’r syniad o’r Prydeiniwr neu bobl o’r gorllewin allan yn y byd. Roeddwn i hefyd yn gweld bod traddodiad o fynd i’r môr yng Nghymru, felly er ein bod ni’n byw ym mhendraw’r byd ym Mhen Llyn, roedd ambell dy^ gydag enwau fel ‘Valpariso’ a ‘Santiago’, felly roedd yna ramant o fynd i’r môr. Roedd gen i ffrindiau wedi mynd i’r môr o Bwllheli, ac ar un adeg mi oeddwn i eisiau mynd fy hun, ond roedd fy nhad

MI OEDDWN I’N SWIL O FEDRU SGWENNU GEIRIAU YN Y GYMRAEG YN RHY AML MAE’R GERDDORIAETH WEDI CAEL BLAENORIAETH GEN I ...

MAE ‘SYRFFIO MEWN CARIAD’ YN RECORD OD IAWN

ENDAF EMLYN


yn dweud ‘Paid a mynd i’r môr, rhaid iti fynd i’r coleg’. Felly, roedd y cymeriad yr oeddwn wedi ei greu yn ‘Salem’, sef fi mewn ffordd, a oedd yn rhyw fath o gariad i Laura, sef yr Achos, yn dweud ‘Mi ddoi yn ôl’, ond ddaeth o byth yn ôl mi aeth o i ynysoedd Môr y De a gwneud dipyn o lanast yn yr Andes, ond mi oedd o’n dal i hiraethu am y mecryll.

Roedd mymryn o fwlch yng ngyrfa unigol Endaf Emlyn wedyn, wrth iddo dderbyn gwahoddiadau i chwarae yn y ‘supergroup’ Cymraeg cyntaf Injaroc, a oedd yn cynnwys cyn-aelodau Edward H Dafis, Geraint Griffiths a Caryl Parry Jones. Fodd bynnag, byrhoedlog oedd y grwp, ac ni pharodd am fwy na dwsin o gigs ac un albym. Mi oeddwn i’n un o’r rhesymau pam fethodd Injaroc, achos roedd gormod ohonom ni’n sgwennu, ac yn sgwennu pethau gwahanol, ac roedd hi’n rhy gynnar i bobl faddau i ni fod Edward H wedi peidio a bod. Ond roedd o’n bwysig i mi, achos mi oedd o’n mynd a fi ar lwyfan a doeddwn i erioed wedi bod ar lwyfan yn y cyfrwng hwnnw – mi oeddwn i wastad wedi gweld cynulleidfa o gor neu gerddorfa, neu lwyfan eisteddfod, lle roedd pawb yn bihafio eu hunain, ond

Ydach chi’n teimlo fod ‘Macrall wedi Ffrio’ – y gân a gysylltir gyda chi amlaf – yn faich, a’i bod hi’n tynnu sylw oddi wrth nifer o ganeuon cystal os nad gwell yn eich catalog? Dwi’n falch o ‘Macrell wedi Ffrio’. Os medr unrhyw un sgwennu rhywbeth sydd yn plesio pobl, mae’n beth da. Pan oeddwn i’n gwneud ffilm gyda Caryl a Bando, pan ddaethom ni i recordio ‘Chwarae’n troi’n chwerw’, doedd yr un o’r band, yn cynnwys Caryl, yn cymryd y gân o ddifrif. Ond mi oeddwn i’n gwybod fod ‘Chwarae’n troi’n Chwerw’ yn mynd i fod efo ni tra byddwn ni.

roedd bod mewn anarchiaeth cyngerdd roc yn brofiad pwysig a brawychus, yn enwedig o gofio nad oedd pawb yn croesawu Injaroc. Felly, dyna oedd Injaroc i mi-rhyw fath o ddeffroad.

Roedd yna rywfaint o gydweithio efo Meic Stevens yn y cyfnod hwnnw hefyd, a sgwennwyd y gan ‘Traeth Anobaith’ gyda’i gilydd.

Agorwyd fy llygaid mewn mwy nag un ffordd, a rhyw frith gof sydd gen i o hynny i gyd drwy rhyw niwl, ond roedd o’n gyfnod hwyliog iawn. Mi fydda’n dlawd iawn arnom ni heb Meic.

Y band nesaf i Endaf ymuno ag o oedd Jip, lle daeth ar draws un arall a fu’n bwysig i’w yrfa gerddorol, y gitarydd Myfyr Isaac, a gyda’r band yma y daeth, yn ôl ei gyfaddefiad ei hun, i ddysgu sut i chwarae’n fyw. Roedd y band yn chwarae yn rheolaidd yng nghlwb Casablanca yn hen ddociau Caerdydd i gynulleidfa gymysg, ac yn dal eu tir o flaen pobl a wyddai eu stwff. Daeth i gysylltiad a cherddorion y dociau fel Pino Palladino, Arran Ahmun, Dickie Dunn a Hywel Maggs. Pan ddaeth yn amser recordio ei record hir nesaf, roedd ganddo lein-yp o gerddorion oedd yn gallu sefyll ochr yn ochr gydag unrhyw un yn y byd. Y record honno oedd ‘Dawnsionara’. Roeddwn i eisiau sgwennu stwff a oedd yn mynd i roi lle i’r cerddorion yma, felly mae ‘Dawnsionara’ ychydig bach yn ‘indulgent’ yn hynny o beth, ac mae blas yr 80au arni. Cyfrwng ydi ‘Dawnsionara’ i ymhyfrydu mewn cerddoriaeth, mewn chwarae, mewn cerddorion, mewn dylanwadau estron; mae’n ffrwyth yr holl brofiad o rannu efo’r cerddorion yma.’

Mae cyd-destun fwy gwleidyddol i ‘Dawnsionara’ hefyd, gyda chaneuon fel ‘Saff yn y Fro’ yn dirmygu’r syniad o bawb sy’n siarad Cymraeg yn dychwelyd i’r Fro Gymraeg i ffurfio rhyw fath o ‘ghetto’ Cymraeg. Dwi ddim yn ymddangos llawer yn y caneuon, a dwi ddim yn gwneud safiad gwleidyddol yn aml, ac roedd o’n ddigon i mi mod i’n gwneud stwff yn y Gymraeg, yn llenwi bylchau ac yn arloesi. Ond mi deimlais i’n raddol bod angen dweud rhywbeth am yr agwedd ‘regressive’ yma o fynd yn ôl, achos mi roedd o’n groes i bob natur. Roeddwn i wedi teithio llawer erbyn hynny hefyd, ac mewn taith o America roeddwn i’n gweld cyferbyniad rhyngom ni fel Cymry a’r Navajo a’r Chiraqauas. Efallai hefyd mod i’n trio cyfiawnhau fy mod i wedi mopio gymaint efo dylanwadau estron a’i fod o‘n OK i wneud hynny.

Er bod statws clasur ‘Dawnsionara’ bellach yn ddiogel, cymharol lugoer oedd yr ymateb yng Nghymru, ac wrth i yrfa ffilmiau Endaf ddechau blodeuo, aeth ati i lenwi bwlch arall – bwlch y sgrin fawr yng Nghymru – a daeth ei yrfa gerddorol i ben. Ond ar ôl ei berfformiad yn Sesiwn Fawr Dolgellau, dywedodd ei fod wedi cael ei ysbrydoli i ailafael mewn cyfansoddi ac mae’n bwriadu mynd i’r stiwdio recordio yn y dyfodol agos-newyddion da o lawenydd mawr i’w ffans!

7


DAU I’W DILYN YDD I CHI DDARLLENWYR W NE L O AR MH CY ND FA U DA LAR YN ARGYMELL SAF. YM MHOB RHIFYN BYDD Y SE N NHW DROS Y MISOEDD NE NY AR G LW GO W AD CH A W LWCUS WRANDO ARNYN NH NTA’ NI: FELLY DYMA NI’N TOP TIPS CY

Messner

Pwy: Messner ydy prosiect cerddorol Owain Gruffydd Roberts, sy’n wreiddiol o Fangor ond erbyn hyn yn byw ym Manceinion. Mae Owain wedi bod yn cyfansoddi dan yr enw Messner ers Pasg 2007, ar ôl i’w ffrind o Efrog Newydd ei ysgogi i ysgrifennu caneuon gan ddefnyddio ei hen laptop. Mae’n cydweithio gyda nifer o artistiaid eraill gan gynnwys Georgia Ruth Williams. ^ n: Mae Owain yn ei ddisgrifio fel Y sw cerddoriaeth gynnes, “cymysgedd o gerddoriaeth electronica syml ynghlwm ag elfennau o gerddoriaeth

fwy acwstig a gwerin.” Messner yw’r diweddaraf o brosiectau electronica Cymraeg, yn dilyn enghraifft bandiau fel Yucatan a Jakokoyak. Fel y bandiau hynny, mae’n gwneud cerddoriaeth gefndirol braf “…mae’n mynd yn dda gyda phaned a bisged.” Hyd yn hyn: Mae albwm gyntaf Messner, Em Am, wedi ei rhyddhau’n ddiweddar ar label MoPaChi, sef label Owain ei hun. Mae’n cynnwys 11 trac ac mae’r gwaith celf wedi ei ddylunio gan yr artist ifanc, Gethin Wyn Jones, sy’n gweithio i’r enwog Damien Hurst. Gwnaeth Owain yr holl waith ysgrifennu, recordio a chymysgu yn ei ystafell wely, heblaw am “recordio

ychydig ar Bont Menai ar b’nawn dydd Sul.” Mae Messner hefyd wedi perfformio’n fyw ar raglen Bandit a chael tipyn o ‘airplay’ radio, “Oni’n lwcus bod pobl fel Huw Stephens, Magi Dodd C2, ac Adam Walton Radio Wales yn ddigon clên i chwarae fi.” Hefyd, dewiswyd un o ganeuon Messner, Yn Dy Ben, ar gyfer casgliad diweddaraf Dan y Cownter y gellir ei lawrlwytho am ddim ar www. danycownter.com

Yr Ods Pwy: Mae’r Ods yn fand 4 aelod, sef Gruff Pritch, Griff Lynch, Osian Howells ac Osian Rhys. Sefydlwyd y band gan Gruff a Griff tra yn y coleg yn Aberystwyth, gan chwarae’n fyw am y tro cyntaf mewn gig ‘Sw^ n’ yn Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth ym mis Ionawr 2007. Ers hynny maen nhw wedi bod yn creu tipyn o argraff trwy gigs cyson. ^ n: Gellid gosod Yr Ods Y sw yn y categori ‘indie-rock’ ^ ond mae ‘na sw n ffres iawn iddyn nhw, yn arbennig o fewn y sin Gymraeg. Mae cymariaethau gyda rhai o fandiau mwyaf cyffrous

8

yselar@live.co.uk

y sin Prydeinig, megis yr Arctic Monkeys a’r Kooks yn anochel oherwydd ^ n gitâr. amlygrwydd y sw Mae eu cerddoriaeth yn aeddfedu ac yn gwella trwy’r amser wrth iddyn nhw fagu hyder ac arbrofi ^ n, ac maen mwy gyda’i sw nhw wedi datblygu’n fawr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Hyd yn hyn: Mae’r Ods wedi gigio cryn dipyn ond heb ryddhau unrhyw ddeunydd eto. Wedi dweud hynny, fe wnaethon nhw recordio sesiwn C2 Radio Cymru nôl ym mis Mawrth 2008 oedd yn cynnwys y caneuon Chwit Chwat, Dangos Dy Onglau a Gobeithio Heno. Recordiwyd y sesiwn yn ‘stiwdio’r foment’, sef stiwdio Nant y Benglog, gyda John Lawrence.


COLOFN LISA GWILYM

YR HYFRYD HANNER PEI I ^ DDIWEDD Y BADUMDUMW.!

GWRANDWCH ARNYN NHW OS YDYCH CHI’N LICIO: Jakokoyak, Yucatan, Sigur Ross, Super Furry Animals

P’nawn Sul - Ar y Maes Nos Sul – Maes-B

Cynlluniau: Mae’r albwm yn y broses o gael ei hailgymysgu gan artistiaid amrywiol, “mae artistiaid talentog megis Plyci a Cyrion wedi creu traciau ar ei chyfer a ma nhw’n wych!” Mae newydd fod yn cydweithio hefyd gyda’r gantores amryddawn o Aberystwyth, Georgia Ruth Williams, ar gyfer rhaglen Stiwdio Huw Stephens. “Rwy’n gobeithio cwblhau albwm o ailgymysgiadau, adeiladu fy safle we … ac wedyn EP newydd cyn y Nadolig gyda lwc.”

Yn ddiweddar, maen nhw hefyd wedi recordio fersiynau gwych o ddwy o glasuron Geraint Jarman, Tracsiwt Gwyrdd a Siglo ar y Siglen, ar gyfer ei gyfres arbennig ar C2. Cynlluniau: Maen nhw ar fin rhyddhau sengl ‘double A-side’ ar label Ciwdod. Y ddwy gân fydd Defnyddio a Chwyldrofeistr, a gafodd eu recordio gyda Rich Gola Ola. Yn ôl y band bydd y sengl allan ddiwedd mis Awst.

www.myspace.com/messnermusic

GIGS STEDDFOD:

GWRANDWCH ARNYN NHW OS YDYCH CHI’N LICIO: Arctic Monkeys Radio Luxemburg

Dechre’r nawdege, a’r Rhyl oedd y lle i fod! Clwb nos Knightley’s a gigs Hanner Pei! Wnes i wirioni ‘mhen efo nhw! Oedd hi’n barti pob tro, yn hwyl, yn sbort! Y geirie, y rhythme, a jyst y wefr o’u gweld nhw’n joio ar lwyfan! Oedde nhw’n cael hwyl, ac oedde ni’n cael hwyl, o’dd hi mor syml a hynny. A nôl ym mis Ebrill, pan ddaethon nhw nôl at eu gilydd i gigio yng Nghlwb Ifor Bach, doedd dim di newid (er, dwi’n ame bod nhw’n well fel cerddorion erbyn hyn, neu yn sobrach, ^ r!) dwi’m yn siw I’r rhai ohono chi sy’n ^ p rhy ifanc i gofio, grw ffync o Gaerdydd oedd Hanner Pei hefo Matthew Glyn yn canu, ac mae’n ^ siwr ma’r grw p sy’ agosaf ^ atyn nhw o ran sw na hwyl ar hyn o bryd ydy Derwyddon Dr Gonzo. Nes i weld nhw yn Sesiwn Fawr Dolgelle, yn eu gwisgoedd ‘superheroes’, a fel

Hanner Pei, ma nhw just yn creu awyrgylch parti go iawn. Yn gerddorol hefyd, mi oedde nhw’n anhygoel o dda – y brass yn gyrru’r peth ‘mlaen, a solos guitâr tynn. Gwefreiddiol! Ond nôl at Hanner Pei, a nes i wirioni ‘mhen eto pan nes i glywed bod nhw am ryddhau casgliad o oreuon yn ‘steddfod Caerdydd – “Ar Plât”. Sgwn i os mai dyne pam ma’r ferch o Glan Clwyd yn gymaint o ffan o’r hogie o Glan Taf?! Dreiglo! Felly byddwch barod am Parti ac albym llawn Perlau Man! Ffynciwch o Ma a joiwch y steddfod! Ewch i weld Hanner Pei a Derwyddon Dr Gonzo, ac allai ‘mond gobeithio y bydd Derwyddon wrthi ddigon hir i ni gael casgliad tebyg ganddyn nhw yn y dyfodol. Gellir clywed Lisa Gwilym am 10pm bob nos Iau a nos Wener ar C2 Radio Cymru.

GIGS STEDDFOD: P’nawn Mercher – Maes yr Eisteddfod Nos Fercher – Gigs Cymdeithas, Clwb Ifor Bach Nos Iau – Maes-B, Undeb y Myfyrwyr Caerdydd Dydd Gwener – Maes yr Eisteddfod

www.myspace.com/yrods

myspace.com/derwyddondoctorgonzo

9


H T Y W L L D A R A I S N YDIO’

? K N U J O

ND I DDECHRAU PROTESTIO

EI AIL ... OND YDIO’N MY I IAWN AC YN GERDDOR HEB

MA’N FO

AETH Y SELAR I HOLI GAI TOMS AM EI AR BEN COED A NEWID EI ENW I SWAMPIE?

DWI’N DAL I YRRU CAR, FELLY DWI DDIM AM SEFYLL AR FOCS SEBON A PHREGETHU. GEIRIAU: OWAIN SCHIAVONE LLUNIAU: ELGAN GRIFFITHS

10

myspace.com/gaitoms

Yn aelod blaengar o un o fandiau Cymraeg mwyaf poblogaidd y ddegawd diwethaf, Anweledig, ac yna sefydlu ei hun yn un o gyfansoddwyr gorau Cymru fel Mim Twm Llai, mae Gai Toms yn ôl gydag albwm gysyniadol newydd dan ei enw newydd ... Gai Toms. Pa esgus gwell felly i’w holi ^ yngly^ n â chanw s, ffish a Mad Max! Gai, ma’r albwm newydd wedi ei ryddhau a ma’n deg ei ddisgrifio fel albwm eithaf unigryw i ddeud y lleiaf. Deud ‘chydig wrthym ni am gefndir yr albwm, a be oeddet ti eisiau ei gyflawni. Wel ... mae’n anodd ateb honna heb fwydro gormod. Yn y bôn, oni eisiau

ALBWM NEWYDD

neud 3 peth ... yn gyntaf, rhywbeth gwahanol i stwff Mim Twm Llai gan fy ^ an yn Gai Toms. Yn ail, Creu mod i rw albwm gysyniadol. Ac yn olaf, byw yn wyrddach. Ddaru Sara, fy nghymer, a finnau newid i gwmni sy’n cyflenwi trydan sydd 100% yn adnewyddadwy i’r grid. Felly ... mewn egwyddor, o’n i’n gallu recordio popeth yn defnyddio ynni glanach! Rhwng y Llygru a’r Glasu ydi ffrwyth llafur y tri pheth yma. Felly pam wnest ti benderfynu creu’r math yma o albwm? Be oedd yr ysgogiad? Ateb syml, pam ddim? Mae elfen o


cyfweliad: gaitoms

^

MAE’N SIW R ‘SA LOT O CRITICS YN MEDDWL BOD GWNEUD ALBWM O’R FATH DDIM YN ‘ROC A ROL’ A ‘COOL’.

snobyddrwydd ymhob sîn gerddorol, ^ mae’n siw r ‘sa lot o critics yn meddwl bod gwneud albwm o’r fath ddim yn ‘Roc a Rol’ a ‘cool’. I mi, mae hynny jyst yn un enghraifft o pam dwi di gneud yr albwm ‘ma. Fel dynol ryw, da ni’n griw reit rhyfadd felna, os nad wyt ti’n cydymffurfio efo rhyw trend neu ffasiwn arbennig, ti’n gallu cael dy roi mewn blwch. Oni isho codi dau fys i hynny a jyst codi pryderon real drwy gyfrwng cerddoriaeth. Mae pawb yn meddwl ym ^ mod i’n hipi rw an ... dyna chdi enghraifft berffaith arall! Yn symlach na hynny, gan feddwl am yr oes sydd ohoni, rwan ydi’r adeg i wneud ffasiwn beth!

Wyt ti’n hapus gyda’r canlyniad? Wyt ti’n meddwl dy fod di wedi cyflawni be oeddet ti’n gobeithio ei gyflawni? Dw i’n hapus efo’r canlyniad yndw, ond fel bob albwm arall dwi wedi neud, fyswn i wedi licio cael mwy o amser i’w gymysgu. “A mix is never done, it’s just abandoned.” Mae’n dipyn o job blendio ^ hanner canw fewn i’r mix! ^ Ma’r canw wrth gwrs yn rhan amlwg iawn o’r offerynnau nest ti greu allan o ddeunydd wedi’i ailgylchu, sy’n elfen bwysig o’r holl syniad ‘gwyrdd’ sydd ynghlwm â’r albwm. Wyt ti’n bwriadu parhau i gynhyrchu cerddoriaeth fel hyn? Ydy defnyddio technegau gwyrdd wedi bod yn anoddach na dulliau arferol? ^ Beth sy’n bwysig rw an ydi fy mod i’n cadw i egwyddorion gwyrddach yn fy mywyd bob dydd. Ar lefel greadigol a phersonol, mae’n dda gwneud albwm gysyniadol am bwnc fel hyn gan fod y carthasis yn digwydd mewn un shot. Mae gen i un gân ‘eco-gysyniadol’ yn y bag ar gyfer yr albwm nesaf, a na fo wedyn, dim mwy o ganeuon felna. Yn greadigol dwi isho arbrofi efo ^ cysyniadau eraill rw an, symud ymlaen. Mi fyddai’n datblygu dulliau o recordio/ cynhyrchu cerddoriaeth yn wyrddach, ond i wneud hynny’n iawn mae angen buddsoddi mewn turbine a phaneli solar.

Mae angen normaleiddio’r feddylfryd werdd, a gneud pethau ‘gwyrddach’ yn fforddiadwy i bobl gyffredin. Mae ‘na rywbeth ffishy’n mynd ymlaen efo olew does, mae ‘na gymaint o elw i’w wneud efo’r stwff mae economïau yn dibynnu arno fo, yr unig beth all newid hynny ydi chwyldro werdd a chynaliadwy dros y byd. Longshot?! Wyt ti’n gobeithio dylanwadu ar fandiau eraill? Wyt ti’n ceisio arwain y gad i fandiau Cymraeg o ran creu cerddoriaeth mwy ‘gwyrdd’? Tydy’r albwm ddim yn hollol wyrdd a dwi’n dal i yrru car, felly dwi ddim am sefyll ar focs sebon a phregethu. Mae o fyny i unigolion yn y pen draw. Dwi’n reit hyderus fod yr albwm yma wedi defnyddio tua 50% llai o ynni i’w gynhyrchu na albwms Mim Twm Llai - dychmyga os fysa pawb yn torri eu carbon o 50%, dychmyga ‘sa pob cwmni yn torri eu carbon o 50%! Os ydy’r albwm yn cael effaith bositif ar fy ngwrandawyr, byddai’n hapus efo hynny. Ymwybyddiaeth ydi hanner y broblem, ma’i mor hawdd mynd i’r archfarchnad dyddia yma a phrynu cynnyrch hollol anfoesol. Nid yn unig fod hynny’n cael effaith negyddol ar yr amgylchedd, ond ma’n rhoi ergyd anferth i gynaladwyedd hefyd, heb sôn am ddiwylliant! Mae’r pethau ma i gyd yn gysylltiedig! Nid albwm ‘wyrdd’ mohoni, albwm eco-

11


BE DI’R ‘CONCEPT’? Wrth i Gai Toms ddilyn enghraifft Endaf Emlyn a rhyddhau rhywbeth ddigon prin, sef albwm gysyniadol iaith Gymraeg, gofynnodd Y Selar iddo ddisgrifio pob un o ganeuon Rhwng y Llygru a’r Glasu mewn brawddeg. ^

1 BLOEDDIO TRWY HANNER CANW

Cyflwyniad i’r albwm, dryms a llais wedi ei recordio o safbwynt hanner ^ canw ! 2 BALAD YR ATGYFODIAD

Ydi Eryrod, Morfilod neu Llewod yn gweld y gwir y tu ôl i’r holl lygredd a gwastraff? 3 LLOSGI

Inferno Blues Rock. Cân ddychan am ein bywyd bach cyfforddus ni. 4 CARDOTYN

5 ER MWYN EIN PARHAD

Ydi’r ddynoliaeth yn rhy hunanol i oroesi? 6 MELAS

Cân offerynnol a gafodd ei recordio efo John Lawrence yn defnyddio ynni solar a gwynt. 7 HEDDIW

Sut mae’r byd cyfalafol sydd ohoni yn effeithio ar bentref yng nghefn gwlad? 8 CYMERYD FY LLAW

Siwrna hurt yn chwilio am hogan di-faterol. 9 UN GWCH

Dychmygwch y byd fel cwch! Be sa’n digwydd iddi os na fydd y capten a’r morwyr yn ei rheoli’n iawn? 10 FFOADURIAID NORFOLK

Llais o’r dyfodol, os eith Norfolk o dan y môr, a fydda nhw’n dod i chwilio am dir uchel? 11 FY MAB

Cân arall o’r dyfodol ble mae’r Tad yn trio dangos i’w fab sut i oroesi. 12 RHWNG Y LLYGRU A’R GLASU

Y gân obeithiol! 13 JAM JYNK

Union be mae’n ddweud ar y can!

12

myspace.com/gaitoms

gysyniadol, mae ‘na fwy iddo fo na phethau ‘gwyrdd’. Ma’r albwm hefyd yn nodweddiadol gan mai dyma’r cynnyrch cyntaf i ti ryddhau dan yr enw Gai Toms. Pam nest ti benderfynu bod hi’n bryd gollwng yr enw ‘Mim Twm Llai’? Enw’r hen ddyn oedd Mim Twm (Meurig Thomas), a chollais fy nhad ‘chydig flynyddoedd yn ôl. Do’n i ddim yn teimlo’n naturiol yn parhau gyda’r enw. Mae Bright Eyes wedi newid ei enw’n ddiweddar fyd, copi cat! Ti di gneud ychydig o gigs yn ddiweddar hefyd, gan ddefnyddio’r enwog ‘junk kit’ a’r holl offer arall ti wedi ailgylchu. Sut hwyl ti di cael arni? Dwi wrth fy modd yn gigio efo’r Junk Kit, dio’m yn cymeryd dim hirach i’w ^ osod na kit arferol. Mae’r hanner canw yn edrych reit drawiadol ar lwyfan ‘fyd! A dwi’n cael cyfle i waldio’r cachu allan o’r darnau sgrap sy’n hongian ohono! Be sy’n dda amdano fo hefyd ydi ei fod o’n solat, a bydd dim angen prynu gymaint o skins a be sy’ efo kit arferol. Dwi’n gobeithio fod y junk ^ kit yn rhoi naws a sw n arbennig i’r albwm a gigs hefyd, yr un pryd, yn

“Roedd o’n unai yn beiriannydd mewn pwerdy yn Norwy, neu ddarlithydd mewn ffiseg wedi chwalu hi’n llwyr ...”

MAE’N DIPYN O JOB BLENDIO HANNER ^ CANW FEWN I’R MIX!

rhoi awgrym o fyd ‘Mad Maxaidd’ lle ma’ adnoddau a phethau sy’n cael eu cymryd yn ganiataol yn brin. Mae gen ti albwm Saesneg ar y gweill hefyd oes? Pryd ti’n gobeithio rhyddhau hwnnw? Oes ... Ffish Ffresh. Saesneg ei iaith ond Cymraeg ei hunaniaeth. Saesneg ydy’n ail-iaith i felly dwi am fynegi pethau Cymraeg a Chymreig drwy’r iaith honno. Y rhesymau?... gneud pobl ddi-gymraeg yn fwy ymwybodol? ... uno pobl? ... agor drysau? Mae ‘na lot o resymau dros ei wneud. Dim ond tua 25% o Gymry sy’n siarad Cymraeg, pam ddim cyfathrebu efo’r gweddill? Mae hyn wedi berwi ynof ers cân 6.5.99, Anweledig, “Un wlad, dwy iaith.” Cerddoriaeth ydy’r ^ ‘iaith’ ar ddiwedd y gân a ‘sw n i wrth fy modd yn gigio mwy dros y ffin ac Ewrop. Na’i ddim hedfan i’r gigs oni bai bo rhaid cofiwch! Ella fod ’na gyfle i rywun infentio eco-tour bus! ‘Swn i wedi licio rhyddhau Ffish Ffresh ar yr un pryd a Rhwng y Llygru ar Glasu, ‘double-release’ ... ond ella fod hynny’n uchelgeisiol braidd!


Y GOLOFN

GWADD

gyda Barry Chips

Ymosodiad y bechdan jips seimllyd o du hwnt i’r cyrtans Pa mor wael oedd cyfrej S4C o Sesiwn Fawr Dolgellau eto eleni? Mi ddechreuodd petha’n addawol efo’r Sibrydion yn delifro ar eu maniffesto rifftastig fel arfer. Ond lawr allt aeth hi wedyn. Am ryw reswm mi nath gweddill rhaglen nos Wenar droi’n World Music Night. Ciciodd hi off efo Dyn Gwyn a Dyn Du ar lwyfan yn bwydo off feibs ei gilydd – chafo ni ddim gweld rhyw lawer o hyn, drwy ryw drugaredd.Ond wedyn cafwyd sgwrs boenus o hirfaith rhwng Rythm Gitarist Catatonia â’r ddau foi oedd ^ wedi llwyddo i blethu sw ny gitâr roc efo math o feiolin un tant o Affrica. “How did an English guitarist and a Gambian musician find each other?” holodd Alan Partridge, a chafwyd ateb pretentious yn iol y disgwyl. Ar ôl siocled poeth Y Sibrydion, roedd y rwdlan yma’n teimlo fatha cnoi ar fag te deuddydd oed. ‘Y flaenoriaeth i gerddoriaeth’ oedd ar boster ar y llwyfan ... ond roedd o fwy fatha’r flaenoriaeth i flaengroen! Nesa’ o gornel Cerddoriaeth Byd ddaeth Natasha Atlas. Mi wnaeth hi bopeth i drio’n diddori, hyd’noed g’neud tonau efo’i bol. Ond fydd hi byth yn Meinir Gwilym. Ac wele, o ddiffeithwch Yr Aifft, cafwyd combo rhyfeddol o’r enw Ddy Bedouin Jerry Can Band – sef saith boi mewn tyrban a Tad Borat ar y meic. Debyg fod dangos y math yma o beth i fod i neud i rywun deimlo’n eangfrydig a rhyngwladol, ar yr un lefel o fy mrodydd Eifftaidd fel petae. Ond roedd yr arlwy yn uffernol – fatha’r pibfiwsig yna yn Indiana Jones oedd yn gorchymyn y

Cobra i godi o’i fasgiad. Cafwyd Cymry o ryw fath wedyn – Man, yr hen rocars o Abertawe fydda’n ddiolchgar o gael eu disgrifio fel Third Division Eagles. Ddoth blas y bag te ddeuddydd oed yn ôl. Artaith pur ddoth nesa’ – sgwrs efo Huw Chiswell tra’r oedd Bryn Fôn yn canu! Mi fedrwn i glwad canwr mwya’ poblogaidd Cymru yn morio canu’r ‘Na’na’na’s’ ar ddechra’ Plwy Llanllyfni – yr unig ddrwg oedd fod o’n gefndir i rwdlan di-ddim Lisa Gwilym a Huw Chiz. “Be fydd yn y set heno? Y Cwm? Rhywbeth o’i le? Bwbwgi-bw-bwgi-bw? ” “Ie.” Iesu Grist o’r Sowth, jesd dangos y blincin fflip miwsic. Ddoth Chiz ar y sgrin wedyn, dim ond yr ail act o chwech ar y rhaglen i ganu’n iaith y Nefoedd. Y Gymraeg yn iaith leiafrifol ar ei sianel ei hun! Ai er mwyn peth fel hyn y dringodd Mici Plwm i ben mast Nebo? Tiwniais i fewn braidd yn hwyr ar y Sadwrn, a gwrando ar sgwrs sdiwdeo boenus arall efo Endaf Emlyn. Ag oedd, roedd Celt i’w clywed yn rocio’n dynn yn y cefndir. Wrth reswm, ni welwyd lliw tin criw Besda ar y sgrin. Nid bai S4C oedd y dewis o hedleinars ar y Sadwrn wrth gwrs. Yr unig beth ddyweda i ydi bod y Saw Doctors, efo’i caneuon am fynd i brynu byrgyr caws a chips, wedi mynd lawr fatha bechdan gachu yn ty^ ni. Flwyddyn nesa’ – dim rwdlan, jesd miwsig. Parch i Chiz ag Endaf Emlyn, ond dydi gorchymyn cynta’r Duw Roc heb newid ers ^ degawda’... yr ifanc a w yr, yr hen a dybia.

13


MA’N RHAID GWRANDO AR

EITHA TAL FFRANCO

Cwta ddwy flynedd sydd yna ers i Eitha Tal Ffranco ddechrau creu eu cerddoriaeth cnau, ond gyda chaneuon fel Organ Aur Huw a The Hwsmon Incident maen nhw wedi dechrau cymryd drosodd y byd. Maen nhw hyd yn oed wedi bod yn rhif 2 siart C2!! Felly, penderfynodd Y Selar anfon Barry Chips i sgwrsio gyda Gruff o E.T.Ff. ac i ddangos ei werthfawrogiad cyffredinol o’r band yn ei ffordd fach unigryw ei hun … Efo’i gôt laes a’i wallt hir du, mae o’n edrach hannar ffordd rhwng geek a goth. Ond gesha be’? Ma’ Gruff o Eitha Tal Ffranco yn coolio baby, efo sens o hiwmor fatha rasal shafio dy fam (‘chydig yn blunted, efo amball biwban ‘di jamio ynddo). Hwyrach dy fod wedi clywed Gruff a’i fand ar y radio yn canu ‘Dwisho chwarae efo organau rhyw’, ac wedi gwenu wrth gofio’r dyddiau du yna pan oedda chditha hefyd yn un o’r fyddin o fyrjins bach tew heb obaiff o gael sniff...ond sut ddaeth y band a’i caneuon bach rhyfedd i fod? Prosiect ar MySpace oedd Eitha Tal Ffranco tan i Alun Tan Lan syrffio draw i’r wefan a phenderfynu cynnig gig i’r hogia yn Llangefni. Ddoth yr enw allan o het mewn ffordd randym sy’n cael ei adnabod fel ‘Y Dull Cap A Damwain’ – lle mae geiriau gwahanol yn cael eu sgwennu ar ddarnau o gonffeti, eu gosod mewn cap sdabal, a’u tynnu allan fesul un i ffurfio enw. Ma’ Gruff a Daf wedi bod yn chwarae efo’i gilydd ers blynyddoedd.

14

YR UNIG ARCHEOLEGWR O GYMRU YDW I’N GWYBOD AMDANO YDI RHYS MWYN

“Oedda ni methu chwarae ffwtbol, felly dyma ni’n dysgu sud i chwara gitars a ffurfio band,” medda Gruff. “Pan oedda ni’n un ar ddeg oed odda ni’n jamio a chwara’ caneuon roc canol y ffordd. ..wedyn pan oedda ni tua un deg tri natho ni glwad y Gorky’s a sdwff solo Gruff Rhys a meddwl ‘Ma’n cool i neud miwsig weird!”. Ma’r band wedi gorfod wynebu’r Sbanish Incwishishyn oherwydd yr enw – ddoth Eitha Tal Ffranco ar draws criw o Sbaen yn ffilmio rhaglen am y Sin Roc Gymraeg tra’n chwarae gig yng Nghlwb Ifor Bach. Doedd y Sbaenwr ddim yn deall pam fydda rhywun yn enwi band ar ol yr unben ffasgaidd, Franco. Mi gymrodd hi ddipyn o amsar i Gruff berswadio’r criw ffilmio fod o ddim yn licio gwisgo fyny fatha Natsi, a chael ei chwipio ym mwals Stadiwm y Mileniwm. [Roedd y Cadfridog Francisco Franco yn ddipyn o Hen Ddiawl, rwla rhwng Maggie Thatcher ag Adolph Hitler. Fatha Fidel Castro yn Cuba, doedd o ddim yn gadael i bobol Sbaen fotio i ethol llywodraeth. A fatha Rhodri Glyn Thomas yng Nghymru, roedd Franco yn licio sugno ar sigar mawr tew...ond doedd neb yn Sbaen efo’r cojones i ddeutha fo i sdybio hi allan.] Wedi astudio’r clawr am ddwy eiliad wrth wrando ar Os Ti’n Ffosil, dwi wedi dod i’r casgliad bod Dr Lleucu yn archeolegwraigist - cywir? Anghywir! Mam ydy Dr. Lleucu, a dydi hi ddim yn dablo mewn ffosils ac yn sicr ddim yn dystio fi. Yr unig archeolegwr o Gymru ydw i’n gwybod amdano ydi Rhys Mwyn, a dydi o ddim yn fam i neb. Wyt ti isho defnyddio’r erthygl yma i dalu teyrnged i unrhyw ddylanwadau anhepgor

myspace.com/eitahtalffranco

a fu ar y daith i ffurfio Eitha Tal Ffranco, e.e. Tony P.E. nath ddeutha chdi i anghofio bod yn ffwtbolar, a thrio dy lwc efo’r côr? Pawb nath neud yr arsylwad clyfar ac unigryw dros ben ‘mod i angen torri ‘ngwallt. [cefndir: yn y dechreuad roedd Eitha Tal Ffranco yn ddau foi rhyfadd yr olwg efo gwallt hir heb ei gribinio. Deuai sŵn synthetaidd yr offerynnau taro a’r feibs bass o gîbord y canwr Gruff. Ond rhyw bryd yn rhyw le fe ymunodd drymar a basar - fe’i gwelais yn cyd-berfformio ar Uned 5 mewn cragenwisgoedd synthetaidd, a gwalltiau ‘di gribinio’n berffaith brydferth fatha’r modyls trôns yn Catalog Matalan. ‘Ma’ Ertha Dali Sdrancio wedi aberthu’r ddelwedd boho-chic er mwyn gallu creu wal o sŵn’, meddyliais. Ma’n ddeilema kaas - be sy’ bwysicaf dywedwch:edrach yn dda, ynteu swnio’n dda?]


A bedi’r sgôr efo’r ddau Chav yna? Sud ges di nhw i ymuno a’r band?...”ia hogia, yda ni union fatha’r Arctic Monkeys, jesd bo ni’n canu amball gân Gymraeg ia. A ma’r Fodins wrth i bodda...ma fi a Daf yn cael un i bob bys yn Royal Welsh...” Wel, i fod yn onest dwi’n meddwl y bysa nhw’n crio os sa ti’n galw nw’n chavs i’w wynebau. Mwy na thebyg bod nhw’n edrych fwy fel chavs oherwydd bod nhw’n sefyll drws nesa i fi a Daf, sy’n gwisgo yn ‘oh-mor-alternative’. Wedi’i dwyn nhw o fandiau eraill yda ni - Sean y bassist o’r Creision Hud, a Emrys, y drymar o Ladder For The Creatures. Ma nhw’n dod a chydig o sex appeal mewn i fand hyll, sydd wastad yn beth da. Be am i chdi ddisgrifio aelodau erill y band yn dy eiriau dy hun... Sean - Basydd rhywiol ffasiynol efo mwy o strings na sens. Emrys - Mae mwy o gyffuriau yn rhedeg trwy ei waed na alla i gyfri. Duw rhyw y sin roc Gymraeg, heb os nac oni bai. A ma’n dreifio Audi.

MA NHW’N DOD A CHYDIG O SEX APPEAL MEWN I FAND HYLL

GEIRIAU: BARRY CHIPS LLUN: GRUFF DAVIES

Yn wyneb haul a llygad goleuni, a oes Ffosil? Flwyddyn ers ei rhyddhau, dyma daro ôl-penôl-olwg ar albym gyntaf Eitha Tal Ffranco - ‘Os Ti’n Ffosil’. Tasa ti’n llyfu’r glafoer oddi ar oen newydd-anedig, fasa fo ddim mymryn yn fwy ffresh nag albym gynta Eitha Tal Ffranco. Ma’r caneuon yn dathlu holl ogoniant diflas tyfu fyny mewn pentra bach gwledig lle does yna sod-all yn digwydd, heblaw am amball ^ fodan yn cael babi a neb i weld yn siw r iawn pwy ydi’r tad. Ond er mor ifanc ydi’r Ffrancos, ma’ nhw’n sgwennu caneuon sy’n gyfuniad o ddau beth deniadol iawn: alawon hyfryd bachog a straeon doniol am wallgofrwydd y cyfarwydd (neu ‘‘the insanity of familiar, every day life” fel ddudodd Jack The Hat McVitty) Ma’r cyfuniad yma’n ymddangos yn weddol syml ar yr olwg gynta’ - ond os fysa fo mor hawdd â hynna, fysa pawb yn ei neud o. Ma’r gân But it’s not sixty yn ddechra’ trawiadol i’r casgliad yma, efo lyrics sawsi: “Ti’n deud Nos Da am

saith o’r gloch/ Wrth y gwefusau rhywiol coch/ Rhoi hosan am dy ben, hosan am dy ben/ Pan ti’n sdyc ar y trên i Afonwen.” Wedyn daw The Hwsmon Incident - alaw hyfryd, cytgan catchy efo llais plentyn yn ymbilio am gael troi’r cloc yn ôl - sy’n ychwanegu at ryw dristwch iasol annelwig - cân ora’r albym. Os Ti’n Ffosil – ma’ hon yn rocio’n ysgafn, ac yn gofyn y cwestiwn sydd ar wefusau pawb: “Os ti’n ffosil, wyt ti’n cael dy ddysdio?” Mae gan y gân ddiweddglo harmonig hyfryd. Ydw i wedi dewis cân ddoniola’r albym eto? Na, wel 50p ydio, efo’i organ fyrlymus – yr organ ydi injan lot o’r caneuon – a ma’r canwr yn gwneud sŵn iâr yn dodwy wy, fel rhyw fetaffor am ei ddyhead i weld banciau yn dodwy arian. Ella. Un drist ydi Mr Prince am athro sy’n diflannu gan adael “Plant y pentref yn rhedeg adref/ Eu dwylo yn wag, heb dywysog i’w dysgu nhw.” Y ‘radio friendly unit shifter’ Organ Aur Huw sy’n cloi’r casgliad – er mor wych ydi’r sdompar rywiol rwystredig yma, dydi hi ddim wir yn cynrychioli’r albym. Teips Oscar Wilde sydd wedi sgwennu’r caneuon yma, nid rhyw ryffians Limp Bisgitaidd! ôl-nodyn: Ma’ ‘Os Ti’n Ffosil’ wedi tyfu allan o feddwl dyn ifanc sydd wedi treulio’i oes mewn pentref bach cefn gwlad. O’r diflastod (cofiwch chwi Ddinasyddion, does dim sinema, Star Bucks nag Ikea yn Rhosgadfan) daeth casgliad o ganeuon sy’n codi dau fys at y rhwystredigaeth rywiol ac ariannol sy’n ‘part and parcel’ o fyw yn nhwll tin byd. Ond mae newid ar droed, gyda’r band yn symud i fetropolis gosmopolitan Bangor cyn bo hir – diddorol fydd gweld sut fydd y newid amgylchiadau yma yn effeithio ar eu cerddoriaeth. A wnaiff y cwrw a’r mwg a’r genod droog eu gosod ar erchwyn y dibyn, ble mae gwir gelfyddyd yn cael ei chreu?

15


AETH I YSGOL UWCHRADD CATHAYS, LLE’R OEDD YN YR UN DOSBARTH Â TERRY YORATH

L E F F O G T A

ANGOR Cymru fel barddoniaeth ragorol hyd yn oed heb eu cyfeiliant cerddorol ardderchog.

Onibai bod chi wedi bod yn byw mewn ogof, fyddwch chi’n gwybod fod Recordiau Sain yn rhyddhau’r casgliad ‘Atgof fel Angor’ ar faes y ‘Steddfod eleni - bocs-set o 15 CD a llyfryn sy’n olrhain hanes y canwr-gyfansoddwr chwedlonol, Geraint Jarman. Mae Y Selar wedi cael caniatâd arbennig i gynnwys detholiad byr o gynnwys y llyfryn a ysgrifennwyd gan superfan Jarman, Gari Melville – da de! Felly mwynhewch ... Heb os, Geraint Jarman yw canwr a chyfansoddwr mwyaf dylanwadol a thoreithiog ei genhedlaeth. Mae gan lawer o’i gyfansoddiadau statws eiconig yng Nghymru. Saif caneuon fel Ethiopia Newydd a Gwesty

16

Ond beth am y dyn ei hun, Geraint Rhys Maldwyn Jarman?

Fe’i ganwyd ar 17 Awst 1950 yn Ninbych. Symudodd y teulu i ardal Glanyrafon yng Nghaerdydd pan oedd yn bedair oed. Roedd ei dad yn gweithio fel cyfrifydd gyda Julian Hodge. Aeth Geraint i Ysgol Gymraeg Bryntaf cyn symud ymlaen i Ysgol Uwchradd Cathays, lle’r oedd yn yr un dosbarth â Terry Yorath, a ddaeth yn rheolwr tîm pêl-droed Cymru flynyddoedd yn ddiweddarach, a John Morgan, a aeth ymlaen i chwarae gitâr fas gyda’r Cynganeddwyr. Roedd Geraint hefyd yn gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Dinas Caerdydd pan oedd yn llanc ac mae’n dal i garu’r gêm. Ond, barddoniaeth a

cherddoriaeth oedd yn mynd â’i fryd yn ystod ei flynyddoedd olaf yn yr ysgol. Ar 11 Mai 1966 aeth i gyngerdd Bob Dylan yn Theatr y Capitol yng Nghaerdydd a gwelodd berfformiad a chwyldrôdd ei fywyd.

Y Bardd

O dan ddylanwad ei athro, WC Elvet Thomas, a Bob Dylan wrth gwrs, dechreuodd Geraint ysgrifennu cerddi. Cyhoeddwyd ei waith am y tro cyntaf yn Burning the Hands of the Clock, sef cyfrol o lenyddiaeth gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd Cathays a gyhoeddwyd gan Poetry Wales ym 1967. Cyfrannodd un o’i gerddi, Pan Ddaw’r Dydd at EP o gerddi, Clywch y Beirdd, a ryddhawyd ym 1971 ar label Dryw. Roedd yr EP hefyd yn cynnwys cerddi gan feirdd ifanc eraill fel Gerallt Lloyd Owen.

myspace.com/geraintjarmanarcyngangeddwyr

Y Busnes Canu Pop ‘Ma

Dechreuodd Geraint berfformio am y tro cyntaf yn sin canu gwerin tafarnau Caerdydd tua 1967 gyda’i gariad, Heather Jones, Phil Maynard a Graham Hemmingway. Ym 1967 ysgrifennodd Beth Sydd i Mi ar gyfer Heather ac enillodd y gystadleuaeth gân bop yn Eisteddfod yr Urdd, a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin. Flwyddyn yn ddiweddarach yn Y Drenewydd, cyfarfu Geraint a Heather â’r canwr gwerin Meic Stevens am y tro cyntaf, a daethant yn gyfeillion agos. Ar ddiwedd y flwyddyn honno ac yn ystod 1969 roedd Geraint yn teithio’n gyson i Solfach yn Sir Benfro, pentref genedigol Meic, i gydweithio ag ef ar ganeuon newydd. Mae rhai o’u caneuon gorau o’r cyfnod hwn yn cynnwys Y Brawd Houdini a Mynd i’r Bala ar y Cwch Banana. Hefyd ysgrifennon nhw ddigon o ddeunydd ar


Roedd Geraint yn awyddus i ddechrau recordio’i gerddoriaeth ei hun a daeth i gytundeb â’i hen gyfaill Phil Maynard, a threfnodd sesiwn recordio yn stiwdios Stacey Road oddi ar Heol Casnewydd yng Nghaerdydd. Cafodd Gobaith Mawr y Ganrif ei recordio mewn dau ddiwrnod yn unig a’i gymysgu mewn deg awr, ac nid oedd yn swnio fel unrhyw beth a glywyd erioed o’r blaen yn y ^ Gymraeg. Dyma sw n y ddinas trwy lygaid bardd stryd Cymraeg. Roedd yn datgan beth oedd beth ac yn cloriannu’r profiad Cymreig cosmopolitan.

gyfer prosiect llawer mwy uchelgeisiol – opera roc o’r enw Etifeddiaeth Trwy’r Mwg. Dyma oedd pinacl llwyddiant y band. Ar wahân i’r ffaith mai dyma’r opera roc gyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg, roedd yn arloesol hefyd oherwydd ei bod yn ymdrin â materion amgylcheddol. Geraint ysgrifennodd y libreto ac ysgrifennodd Meic y gerddoriaeth. Cafodd y caneuon, a oedd yn cynnwys Mwg, Rhedaf i’r Mynydd a Rhyddid Ffug, eu perfformio’n ardderchog gan Meic a Heather i gyfeiliant cerddorfa a drefnwyd gan Eric Wetherell. Ni chafodd yr opera roc hon ei pherfformio’n gyhoeddus, ond gwnaethpwyd ffilm ohoni gan Deledu Harlech ac fe’i darlledwyd ar 1 Fawrth 1970 i ^ ddathlu Dydd Gw yl Dewi. Tuag adeg ysgrifennu Etifeddiaeth Trwy’r Mwg,

Roedd dwy gân reggae ar Gobaith Mawr y Ganrif - Beth Sy’n Digwydd ar y Stryd a Lawr yn y Ddinas. Roedd clywed geiriau Cymraeg yn cael eu canu i guriad reggae am y tro cyntaf yn brofiad anhygoel. Fel eglurodd Geraint yng nghylchgrawn Curiad yn Rhagfyr 1983: “Mi oedd gen i ddiddordeb yn y rhythmau reggae ers i mi ddechrau sgrifennu caneuon. Ac wrth ddod i ddeall mwy

ffurfiodd Geraint, Heather a Meic ‘Y Bara Menyn’. Rhyddhawyd dwy EP ar label Dryw a werthodd yn dda dros ben. Yn wreiddiol, jôc ^ oedd y grw p mewn ymateb i’r niferoedd dirifedi o grwpiau gwerin gwladgarol unffurf a berfformiai ar y teledu ac ar lwyfannau nosweithiau llawen y cyfnod; ond cawsant lwyddiant mawr yn fuan iawn, gan sathru’r jôc rhywfaint. Ond band “bara menyn” oedd hwn i fod, ffordd o wneud arian cyflym er mwyn iddynt allu fforddio gwneud y pethau yr oeddynt wir eisiau eu gwneud. Yn aml, serch hynny, nid aeth pethau yn ôl y disgwyl ar lwyfan. Geraint oedd aelod tawel Y Bara Menyn ac ni ymddangosai’n hapus iawn yn taro’r tamborîn. Roedd perfformio ar lwyfan gyda Meic Stevens dipyn bach fel chwarae ‘Russian roulette’:

am y gerddoriaeth ei hun ac am y dull Rastaffari o fyw roeddwn i’n gweld bod yna debygrwydd rhwng amgylchiadau trigolion Trenchtown a Chymry Cymraeg. Mae reggae yn gysylltiedig â dioddefaint. Cyfrwng protest yw’r gerddoriaeth. A chan fod Rastaffariaeth yn grefydd ac yn ffordd o fyw roedd reggae yn cyflwyno ffordd o gael gwared ar bob iau, ond roedd rhaid i mi gymhwyso’r peth at fy amgylchiadau fy hun.”

weithiau byddai’n tanio, weithiau ddim. Roedd Meic yn defnyddio cyffuriau o bryd i’w gilydd a ‘doedd hynny ddim yn helpu ‘chwaith. Weithiau roedd yn rhaid i Heather a Geraint wneud y gorau ohoni o flaen cynulleidfa tra bod Meic yn rholio ar lawr y llwyfan, yn methu â stopio chwerthin! Daeth diwedd i’r band yn rhy fuan. Roedd pethau’n symud yn gyflym i Meic. Roedd yn rhaid i rywbeth fynd, ac yn anffodus i Geraint a Heather, Y Bara Menyn oedd hwnnw. Yn ystod gig yn Ysgol

Uwchradd Fodern Abergwaun, cyhoeddodd Meic o’r llwyfan ei fod yn gadael y band. Ni chwalodd Y Bara Menyn yn syth, ond roedd yn amlwg bod Meic yn colli diddordeb. Penderfynodd Geraint gofrestru yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd am y tair blynedd nesaf. Erbyn Nadolig 1969 roedd Heather a Geraint wedi priodi ac yn byw yn eu cartref cyntaf yn Alfred Street yn Y Rhath. Ganwyd merch iddynt, Lisa Grug, y mis Mai canlynol a chynefinodd Geraint â bywyd fel myfyriwr.

I’ve Arrived!

RO’N I’N GWELD BOD YNA DEBYGRWYDD RHWNG AMGYLCHIADAU TRIGOLION TRENCHTOWN A CHYMRY CYMRAEG. 17


Tacsi i’r Tywyllwch

Mae Tacsi i’r Tywyllwch, fel Gobaith Mawr y Ganrif, yn cymysgu arddulliau cerddorol gwahanol yn rhwydd, o roc i reggae a hyd yn oed canu gwlad. Ond mae’n wahanol i’r albym cyntaf oherwydd bod yr albym hwn yn gynnyrch band a fyddai’n teithio gyda Geraint (yn hytrach na band stiwdio) ac roedd hyn ym meddwl Geraint wrth iddo ysgrifennu’r caneuon. Roedd y caneuon wedi gwella’n aruthrol, yn ogystal â’r gerddoriaeth. Mae’r albym hefyd yn cynnwys y campwaith Ambiwlans, efallai’r gân fwyaf a ysgrifennodd Geraint erioed. Roedd y teulu wedi hen adael Alfred Street ac erbyn hyn yn byw ar ystâd dai

enfawr Llanedern yn nwyrain Caerdydd. Cafodd Llanedern ddylanwad mawr ar eiriau caneuon yr albym, ac mae Ambiwlans ei hun yn dyst i hynny.

Hen Wlad Fy Nhadau

Erbyn hyn roedd aelodau craidd Y Cynganeddwyr yn eu lle: Tich Gwilym, gitâr; John Morgan, gitâr fâs; Cat Croxford, drymiau; a Richard Dunn, allweddellau. Nhw fyddai calon y band am y tri albym nesaf. Pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Bentwyn yng Nghaerdydd ym 1978, dim ond un gig a drefnwyd ar gyfer y band - yng nghlwb nos Tito’s. Roedd Tich Gwilym yn sâl cyn y gig, ond parhaodd i chwarae. Cafodd ei ruthro i’r ysbyty’n ddiweddarach oherwydd bod un o’i ysgyfaint wedi

ymgwympo. Fel un a fu’n ddigon ffodus i fod yn bresennol yn y gig honno, rhaid i mi ddweud ei bod yn eiliad ddiffiniol yn fy ngwerthfawrogiad o gerddoriaeth roc Cymraeg. Roedd y perfformiwr swil a phetrusgar a welais y flwyddyn gynt nawr wedi troi’n gymeriad llawer mwy hyderus a chadarn. Chwaraeodd y band yn dynn ^ ac roedd y sw n yn fwy crafog, bron fel pync. Roedd Geraint, yn ei jîns tynn, syth, ei esgidiau rhedeg nodweddiadol a’i wallt hir cyrliog, nawr yn edrych fel prif berfformiwr profiadol, ac roedd yn ddawnsiwr heb ei ail! Roedd cynulleidfaoedd yn tyfu o gig i gig wrth i’r newyddion ledu. Roedd wedi ystyried ei ddwy albym gyntaf fel prosiectau solo, ond pan recordiodd yr albym nesaf, yn stiwdios Sain yn Llandwrog ger Caernarfon

DISGOGRAFFI GOBAITH MAWR Y GANRIF (SAIN 1022 M) 1976 TACSI I’R TYWYLLWCH (SAIN 1096 M) 1977 HEN WLAD FY NHADAU (SAIN 1128 M) 1978 GWESTY CYMRU (SAIN1158 M) 1979 FFLAMAU’R DDRAIG (SAIN 1182M ) 1980 DIWRNOD I’R BRENIN (SAIN 1223 M) 1981 MACSEN (SAIN 1289M) 1983 ENKA (SAIN 1348 M) 1985 CERDDORFA WAG (S4C) 1987 RHINIOG (ANKST 029) 1992 ANGO Y CEUBAL, Y CROSSBAR A’R QU 4 199 D) (ANKST 050C FNYDDIWYD SUB NOT USED / EILYDD NA DDE (SAIN SCD 2210) 1998 MÔRLADRON (SAIN SCD 2363) 2002 1 YN FYW 1977-1981 CYFROL 02 20 ) 105 KST (AN ^ SGAFFALDIAU BAMBW (SAIN) 2008

Eilydd na ddefnyddiwyd

Yr albym hwn oedd gwaith gorau Geraint ers Enka; roedd Geraint nôl ar flaen y gad. Recordiwyd yr albym yn stiwdios Drastic yng Nghaerdydd. Cynhyrchodd Geraint yr albym gyda chymorth Frank Naughton, Richard Dunn a Neil White. Roedd gan yr albym gynhesrwydd ac eglurder a oedd efallai’n absennol yn llawer o’i waith ynghynt yn y ‘90au. I’m clustiau i, mae fel petai’n parhau lle daeth cerddoriaeth Enka i ben. Mae’n albym dewr, ac unwaith eto’n eclectig o ran amrywiaeth y gerddoriaeth. Gan dorri traddodiad a barodd am 20 mlynedd, cynhwysodd Geraint fersiwn o gân a ysgrifennwyd ac a recordiwyd ^ yn wreiddiol gan grw p arall. Mae ei ddehongliad o gân Gorky’s Zygotic Mynci, Pentref Wrth y Môr, yn bum munud a 15 eiliad o hwyl pur. Lansiwyd Eilydd Na Ddefnyddiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a gynhaliwyd ym Mhencoed ger Pen-y-bont. Perfformiodd Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr ym Maes B a chawsant groeso afieithus.

Y Dyn Teuluol

Am y ddwy flynedd nesaf roedd Geraint, fel John Lennon yn y ‘70au hwyr, yn hapus ^ i fod yn w r ty^ ac yn edrych ar ôl ei ddwy ferch fach, Mared a Hanna.

18

yselar@live.co.uk

yn hytrach na Stacey Road, roedd yn ei ystyried fel albym gan fand, fel y soniodd wrth gylchgrawn Sgrech: ^ “Record i’r grw p fydd hon yn fwy na dim. Roedd Huw (Jones) hefo ni - cawsom aros am wythnos a.y.b. Rydan ni wedi llwyddo i ^ gael sw n gwahanol allan o’r stiwdio hefyd. Fe aethom â pheiriannydd ein hunain hefo ni sef Simon Tassano. Felly mae’r ^ sw n rydan ni wedi ei gael allan o’r stiwdio yn wahanol dwi’n gobeithio. “Teitl y record yw “Hen Wlad Fy Nhadau”. Mae’r caneuon yn ymwneud â Chymru gyfan - ein fersiwn ni o “Hen Ffordd Gymreig o Fyw.” Trio dod i adnabod Cymru’n well. Roeddwn wedi anghofio am y pethe fel petai. Mae’r caneuon - heblaw’r caneuon serch ac ati - yn fath o’n hymateb ni i’r sefyllfa yng Nghymru. Mae’r anthem ar y record ei hun.”

Yn Chwefror 2000, derbyniodd Geraint Wobr am Gyfraniad Oes yng Ngwobrau Rap cyntaf Radio Cymru, a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Celt yng Nghaernarfon. Yn y blynyddoedd canlynol, cyflwynwyd y wobr hon i artistiaid fel Meic Stevens a Caryl Parry Jones. Erbyn hyn roedd Geraint wedi dechrau cydweithio’n gerddorol â Llwybr ^ Llaethog, grw p hip hop tecno dyb a oedd wedi’u seilio yng Nghaerdydd. Roedden nhw wedi bod yn rhan o’r sin gerddorol Gymraeg ers yr ‘80au cynnar. Cyfrannodd gân wych, Bae’r Morladron, i’w halbym Stwff a gafodd ei ryddhau yn 2001. Cafodd ei recordio yn Stiwdio Neud Nid Deud. Profodd nad oedd Geraint yn artist a oedd yn barod i orffwys ar ei lwyddiannau cynt .

Pererindod Gerddorol

Yn 2004, bu Geraint ar bererindod gerddorol arbennig i Jamaica. Roedd S4C wedi penderfynu dathlu beth fyddai wedi bod yn ben-blwydd y diweddar Bob Marley’n 60 trwy gomisiynu rhaglen ddogfen am ei fywyd. Mae Geraint a Bob yn cynnwys cyfweliadau diddorol tu hwnt gyda llawer o gyfoedion Marley, gan gynnwys y diweddar Joe Hill o Culture a Cedric Myton o The Congos. Hefyd recordiodd Geraint fersiwn newydd o’i gân deyrnged i Marley, Gerddi Babylon, yn stiwdios Tuff Gong yn Kingston. Cafodd gyfeiliant gan gerddorion lleol medrus.


Enka

Dyma record fwyaf gwleidyddol y band ers Fflamau’r Ddraig. Mae’r teitl - Enka - yn cyfeirio at genre caneuon protest Siapaneaidd a oedd yn boblogaidd ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Yn Saith Can Mlynedd - cân reggae sy’n deyrnged i Llywelyn Ein Llyw Olaf, a ysgrifennwyd ar saith can mlwyddiant ei farwolaeth deallwn nad oes dim wedi newid ers hynny: “Saith can mlynedd yn y bedd Saith can mlynedd heb ddim hedd Saith can mlynedd yn dilyn Hynt y gwynt a’r glaw Saith can mlynedd yn y baw.” Roedd yr albym yn nodedig hefyd oherwydd iddo gynnwys y gân rap gyntaf erioed a recordiwyd yn yr iaith Gymraeg, Dim Lle i Droi – flwyddyn cyn Dyddiau Braf gan Llwybr

Llaethog! Adolygodd Dafydd Rhys a Gareth Sion yr albym yn Y Cymro ar ddiwedd Tachwedd 1985: “Dyma’r record hir fwyaf diamwys wleidyddol ers dechrau’r wythdegau: mae’n ymgorfforiad o’i ddawn eiriol a cherddorol ar ei miniocaf a dengys ddatblygiad ysbrydol yn ogystal â gwleidyddol (“Mae’r oll yn gysegredig”) yn awen y bardd o Gaerdydd. Mae’n fwy na chasgliad o ganeuon : mae’n gyfanwaith o ran cyflwyniad cerddorol athematig, ac mae iddi’r naws hyderus hwnnw na chafwyd gan Jarman ers “Fflamau’r Ddraig”.

Chwyldro’r Fideo a Criw Byw

Roedd 1988 yn flwyddyn dyngedfennol yng ngyrfa Geraint fel cynhyrchydd teledu. Sefydlodd Criw Byw gydag

Andy Brice, Dafydd Rhys a Gethin Scourfield, ac aethant ati i gynhyrchu’r gyfres bop arloesol Fideo 9 ar gyfer S4C. Rhoddodd ddechreuad i lawer o’r dalent a fyddai’n blodeuo ac aeddfedu i fod yn gnewyllyn y mudiad a gafodd ei alw’n Cool Cymru. Fideo 9 oedd y cyntaf i roi sylw i Catatonia a Gorky’s Zygotic Mynci ar y teledu. Cafodd rhai bandiau uchel eu parch fel Datblygu rhifyn cyfan o Fideo 9 i ddangos eu doniau. Oherwydd y gymysgedd o fideos cerddoriaeth y byd, talent gerddorol cartref, ambell i eitem ar y celfyddydau a sgiliau cyflwyno dihafal Eddie Ladd, daeth Fideo 9 yn rhaglen roedd yn rhaid ei gwylio, ym 1988.

Y Ceubal, y Crossbar a’r Quango

Aeth Geraint i’r afael ag ysgrifennu deunydd newydd ar

gyfer CD newydd. Rhyddhawyd Y Ceubal, y Crossbar a’r Quango ym 1994 ar label Ankst – a hwn oedd yr 50fed recordiad iddynt ei ryddhau ers i’r label gychwyn ym 1988. Recordiwyd yr albym dros gyfnod o flwyddyn yn stiwdios Taran a stiwdios Grapevine yng Nghaerdydd. Roedd gan yr albym glawr trawiadol iawn gan dad-yng-nghyfraith Geraint, yr artist Ogwyn Davies, a oedd yn enedigol o Gwm Tawe. Mae’r llun yn dangos mor agos y daeth tîm pêl-droed Cymru at gystadlu yng Nghwpan y Byd ym 1994, pan fethodd Paul Bodin gic gosb gan daro’r croesfar yn erbyn Romania. Aeth Cymru ymlaen i golli’r gêm o ddwy gôl i un. Oherwydd y methiant i gyrraedd Cwpan y Byd, gorfodwyd Terry Yorath (a fu’n gyfaill agos i Geraint pan oedden nhw’n blant) i ymddiswyddo.

Tich

Ym Mehefin 2005, bu farw Tich Gwilym pan aeth ty^ ei gariad (ym Mhontcanna, Caerdydd) ar dân. Roedd Tich yn cysgu yn yr atig ar y pryd ac fe’i lladdwyd gan fwg. Syfrdanwyd holl gymuned gerddorol glos Caerdydd a cherddorion a ffans ledled Cymru a thu hwnt. Cynhaliwyd yr angladd yng Nghapel Wenallt, Amlosgfa Thornhill, Caerdydd. Daeth cannoedd yno i dalu teyrnged iddo. Chwaraewyd recordiad o fersiwn Tich o Hen Wlad Fy Nhadau ar ddiwedd y gwasanaeth. Dywedodd y Parchedig Lionel Fanthorpe, a arweiniodd y gwasanaeth:

eddill y *Mae gw ar gael fel n w h of llyfryn s-set Atg c fo o n a rhan ll a r sydd fel Ango cordiau Re l e ar lab 9.99 r am £4 w a n in Sa

“If we had the chapel booked for a week and each of Tich’s friends and family said one sentence about him, we’d be here for 24 hours a day, seven days a week – and that still wouldn’t be enough time.” Roedd y Parch Fanthorpe yn hollol gywir. Roedd Tich yn ddyn eithriadol o boblogaidd. Ef hefyd oedd un o brif aelodau craidd y Cynganeddwyr. Cafodd yr angladd effaith ddofn ar Geraint. Fel y dywedodd Geraint wrth i mi baratoi i ysgrifennu’r llyfr hwn: “Nid oes un dydd yn mynd heibio heb i mi feddwl am Tich.”

Cyflwynydd Radio

Yn Ebrill 2007 cafodd Geraint ei raglen radio wythnosol ei hun ar Radio Cymru. Rhedodd y rhaglen am 12 wythnos. Bob wythnos, chwaraeodd rhai o’i hoff ddarnau cerddorol a bu’n sgwrsio â pherfformwyr eraill fel Meic Stevens, Dafydd Ieuan (Super Furry Animals), Steve Eaves, Steffan Cravos, Gai Toms a Cofi Bach a Tew Shady. Rhoddodd sylw i lenyddiaeth hefyd, a

gwahoddwyd ysgrifenwyr fel Dewi Prysor ac Aneirin Karadog i ddod ar y rhaglen i sgwrsio ac i ddarllen eu gwaith. Roedd yn rhaglen boblogaidd iawn a arweiniodd at ail gyfres. Felly dyna ni - 13 albym, un EP a CD o ganeuon prin o’r cyfnod rhwng 1979 a 2006. Geiriau: Gari Melville, Haf 2008 o lyfryn Atgof fel Angor

19


MESSNER EM AM MOPACHI

Dyma albwm gyntaf prosiect Messner, sef ‘band un dyn’ Owain Gruffydd Roberts, a’r diweddaraf o artistiaid electronica arbennig o dda i lanio ar yr SRG. Yn wahanol i nifer o brosiectau electronig arbrofol mae hon yn albwm hawdd iawn gwrando arni, gydag un trac yn llifo i’r llall bron heb i chi sylwi. Wedi dweud hynny, nid yw’n undonog mewn unrhyw ffordd chwaith, ond yn hytrach yn cynnig digon o synau bach od i’r glust gael pendroni drostyn nhw. Mae’r 11 trac yn profi fod gan Messner ddawn gyfansoddi arbennig gyda’r uchafbwyntiau’n dod ar ffurf Tra Dy Fod yn Addfwyn a Dal i Wenu. Mae Em Am yn gasgliad o ganeuon sy’n gerddoriaeth gefndirol braf ofnadwy, a heb os gallwch ddisgwyl clywed rhai o’r traciau’n ymddangos ar gyfresi teledu amrywiol. Dyma albwm cyntaf cymwys dros ben gan artist ifanc addawol a rhaid edrych ‘mlaen yn fawr i’r ‘ailgymysgiad’ sydd ar y gweill ganddo. *** OWAIN SCHIAVONE

9BACH YR ENETH GA’DD EI GWRTHOD / PA BRYD Y DEUI ETO? GWYMON Os fysa rhaid rhoi cerddoriaeth 9bach mewn i un genre, yna ‘Gwerin’ fysa hwnnw. Ond mae’r gerddoriaeth yn rhoi cymaint mwy i ni na’r ‘ffaldi raldi ri’ traddodiadol/ eisteddfodol. Yn enwedig ers i’r band dyfu gan ychwanegu drymiau, bas a’r delyn. Mae hyn i’w glywed yn fwy ar yr ail drac Pa Bryd y Deui Eto gyda’r delyn yn mynd a ni i ryw freuddwyd hiraethus, a llais Lisa Jên yn llawn emosiwn. Heb os mae gan Lisa lais pur a hudolus ac mae’r trac cyntaf Yr Eneth Ga’dd ei Gwrthod yn manteisio’n llawn ar hynny. Ar ôl gwrando ar y sengl yma rwy’n awchu am fwy ac yn edrych ymlaen at glywed yr albwm cyn diwedd ^ y flwyddyn, gobeithio. Mae’n siw r bysa’r piwritaniaid gwerin yn wfftio 9bach, ond dyna o bosib sydd yn eu gwneud nhw mor arbennig. **** DEWI SNELSON

20

JEN JENIRO GELENIAETH

SBRIGYN-YMBORTH Mae cryn amser wedi mynd heibio ers EP diwethaf Jen Jeniro, Tallahassee, a’r gobaith oedd gen i wrth dderbyn yr Albwm drwy’r post oedd y byddai’r band wedi datblygu ac aeddfedu ers y cyfnod yna. Dwi’n falch o gael deud fod y datblygiad wedi bod yn rhyfeddol. Mae’r gerddoriaeth yn dipyn mwy

arbrofol ac mae’r albwm yn mynd â ni ar daith ddigon hamddenol yn enwedig yn y gyfres o dair cân offerynnol o dan y teitl Yr Afanc. Eto i gyd trwy’r holl beth ceir teimlad fod rhywbeth yn berwi o dan y wyneb. Aeth y band i recordio yn Stiwdio Nant-y-Benglog gyda John Lawrence yn cynhyrchu. Mae ei ddylanwad i’w glywed ar rannau o’r albwm ac yn llwyddo i ychwanegu dimensiwn arall i’r

GWIBDAITH HEN FRÂN TAFOD DY WRAIG RASAL Cwestiwn kaas: Tasa ti ond yn cael dewis un, pwy fydda’n cael dod draw i ganu – Gwibdaith Hen Frân ynteu Derwyddon Dr Gonzo? Laff v Dawnsho. Plaen v Del. Sdybl v esmwyth, esmwyth, dim blewyn o’i le. Penbleth...fysa raid fi ddewis y Derwyddon - llai o lanast, a fysa nhw’n mynd adra...? Ond o ddifri’, ma’ Gwibdaith yn Ffestinfeibion i’r carn – wedi blodeuo er gwaetha caledi’r graig a diffeithwch y tir.

Fatha’r bandit organig gwreiddiol Twm Sion Cati, ma’ ganddyn nhw le sbesh yng nghalon Y Werin Datws. Yr Hogia’r Wyddfa newydd, fel petai. A pha syndod, efo baledi bachog fatha Twmpath Twrch Daear a Nicyrs Mam Glyn. Pwy feddylia y bydda Cnafon Direidus Efo Iwcaleilis Yn Canu Am Ddillad Isa’ mor boblogaidd yn y flwyddyn dwy fil ag wyth? Y cam naturiol nesa’ ydi sit-com cerddorol am fywyda’r tacla’ gwallgo’ - Gwibdaith Hen Frân Ddy Mwfi? **** BARRY CHIPS

ti’m yn teimlo fatha mwytho wiwar ar ôl gwrando ar y gân yma, wnei di fyth. A COPA hannar ffor’ drwy Bwthyn D I RHA gesha pwy sy’n sibrwd Pan ma’r dryms O D N o’r speakers yn futrach yn cicio fewn ar GWRA na Christine Aguilera ar Bwthyn, mae ystyr hen night? Neb llai na’r bywyd i’w weld yn ei forforwyn felancolig Gwyneth holl ogoniant noethlymun. Glyn - fatha Sandy ar ddiwadd Mor syml. O mor hyfryd. Grease, ma’i ‘di dechra Ma’r gerddoriaeth yma smocio a mwytho’i mojo. mor anhygoel o brydferth Bingo! Fydd y Prifeirdd yn - yn ddigon pwerus i dynnu gwagio’r gynghanedd saim yn dagrau o lygid Ross Kemp. Os

DERWYDDON DR GONZO CHAVIACH/BWTHYN

DAN Y COWNTER 3 SEFYDLIAD CERDDORIAETH GYMRAEG Y drydydd yn y gyfres a grëwyd er mwyn dangos i’r “bobl ifanc” anwybodus fod y fath beth a miwsig cyfoes yn y Gymraeg. A’r tro yma mae’n profi ei gyfoesder drwy fod ar gael i’w lawrlwytho’n unig (www.danycownter3. com), gan achub coeden a cheiniog neu ddau yn y broses. A gan mai ei bwrpas yw rhoi blas ar stwff amrywiol Cymraeg, byddai ei adolygu fel cyfanwaith o ganeuon ac albwm go iawn yn anghywir. Mae’r ystod wedi ei orchuddio o’r Wrightoid a’r Cate le Bon araf i’r MC Mabon a’r Diwygiad gorffwyll, gyda chymysgedd

gerddoriaeth. Band llawn potensial oedd Jen Jeniro i mi ac erbyn hyn maen nhw ar y ffordd i gyflawni’r potensial yna. *** DEWI SNELSON

awdlog dros gopis sgleiniog o Farddas wrth wrando ar hon yn udo’n ddigywilydd. Fel y bydda rywun yn ei ddisgwyl, ma’ Chaviach yn diferu o feiolens - “tud at yr hogia am apwyntiad/ i ni gael tynnu’r wên oddi ar dy wynab”. Oes angan bod cweit mor ymosodol? Dwi’n beio’r rhieni... ***** BARRY CHIPS

o’r sefydledig SRG i’r eithaf newydd. Rhywsut mae’n llwyddo i fod yn ddewr ac yn ddoeth, yn gyffrous ac yn hamddenol, ac fel rhywbeth sydd wedi ei gynllunio i blesio cymaint â phosib, mae’n gwneud y job yn drylwyr. Casgliad cryf, rhai traciau allan yn barod fel Morgi Mawr Gwyn, Os Ti’n Ffosil a’r anhygoel Be Di Be i’r newydd fel Mae ‘na Afon (Wrightoid) Bwthyn (Derwyddon Dr Gonzo) ac yn y blaen. A mwya’r tebyg fod digon o frolio a chwyno gan ieuenctid y genedl am y gwahanol ganeuon yn dibynnu ar eu hanian gerddorol, yn union fel y dylai hi fod. Da iawn pawb, da iawn. *** HEFIN JONES

Postiwch eich cd’s i’r Selar, Llawr 1, Canolfan Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd LL57 5TG


adolygiadau GAI TOMS RHWNG Y LLYGRU A’R GLASU SBENSH

Mae ‘na lot o sôn ‘di bod fod Gai Toms wedi troi’n hipi a dechrau defnyddio’i gerddoriaeth i rantio am ailgylchu, tyrbeini gwynt a phethau felly. Ond byddai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth Gymreig yn cyfaddef fod ganddynt ddiddordeb mawr wrth glywed am y busnes albwm cysyniadol ‘ma. Ydy, mae Gai yn achub ar y cyfle i ddeud ei ddeud am sefyllfa’r amgylchedd ar hyn o bryd, ond mae’r record yma’n llawer mwy na hynny - mae’n arbrawf cerddorol gwirioneddol ddifyr, lle mae un o gyfansoddwyr Cymraeg gorau ei genhedlaeth yn creu cerddoriaeth

wahanol iawn. Mae yna ganeuon arbrofol a genir ^ trwy ganw , fydd ddim at ddant pawb, ond mae ‘na ddigon o adleisiau stwff Mim Twm Llai i gadw’r hen ffans yn ^ hapus hefyd. Mae’n siw r taw Balad yr Atgyfodiad a Ffoaduriaid Norfolk fydd y caneuon poblogaidd, ond bydd traciau eraill yn ennyn digon o drafod ymysg y ‘miwsôs’. Mae’n braf gweld ‘chydig bach o roc gan Gai hefyd gyda’r gân Rhwng y Llygru a’r Glasu yn uchafbwynt yn ^ hynny o beth. Mae pobl yn siw r o brynu’r albwm allan o chwilfrydedd, ond fyddan nhw ddim yn cael eu siomi gan yn hyn maen nhw’n clywed chwaith. O ia, a ma’r ^ clawr yn cw l fyd! *** JOHN RHAMBO

GERAINT LOVGREEN A’R ENW DA BUSNES ANORFFENEDIG ...

BRIGYN BRIGYN 3

Perlan brydferth ydi’r gyntaf o’r un deg a chwech o ganeuon yn y casgliad yma. Mae Yma Wyf Finna i Fod yn plethu alaw hyfryd efo geiriau sy’n talu teyrnged gynnes i dlysni amherffaith Caernarfon. Ma’ Dwi’n Cael Fy Stalkio gan Sian Lloyd lot fwy doniol na mae o’n swnio. Pregath ydi Pobol Od – parchwch bawb o bob hil a chrefydd – neges digon teilwng i’w draddodi o’r Pulpud, ond dio’m yn rocio’r Casbah. Ar y llaw arall, ma’ Bore Da – i Ali Ismaeel Abbas yn gân bwysig. Rhag ofn i ni anghofio am warth rhyfal Irac, mae Lovgreen yn ein hatgoffa o’r celwyddau gath eu dweud yn ein henwau ni. Sdwnsh sentimental braidd ydi Busnes Anorffenedig y gân, ond mae yna ddigon ar yr albym i ddiddori pob un sydd efo un droed yn y bedd a’r llall ar groen banana...a ma’ pawb angan gwenu cyn cicio bwcad. d.s. Does bosib mai “Diolch i Anti Lw am y bara brith/ jesd y peth i lenwi bol Gwil, Dafydd a Keith” ydi’r esiampl orau o odli gwychwarthus mewn cân ers i Stîf Eaves ganu “Esh i adra reit handi / i achub Mandy”? A ma’r clowns yma’n meddwl bo nhw’n feirdd ... ***

Mae rhai yn eu galw’n Proclaimers Cymru. Mae Brigyn yn frodyr hefyd gwelwch. Mae’r rhai yna yn ffyliaid diglem, dibwrpas, a heb eithriad yn gwmni diflas. Oherwydd nid pedlars tri chord mo Brigyn o bell ffordd, ac yma daw albwm o safon, eu 3ydd fe synnwch wrth y teitl, i ramio’r pwynt am 500 milltir a 500 milltir arall heb ddisgyn wrth ryw fflipin drws. Mae’n gryf drwyddo, yn llawn awyrgylch dwys-hamddenol os di hynny’n gyfuniad o unrhyw synnwyr. A mae’r hyn sy’n amlwg ers hydoedd yn amlygu ei hun yn finiog yma, sef fod Ynyr ymysg y lleiswyr gorau o gwmpas. Ei gysondeb drwy’r ystod o ganeuon yma’n ei wneud, ar ben strwythurau hyfryd fel sydd ar Fyswn i ... fysa ti?, Wedi’r Cyfan a Seren, yn gwneud yr holl albwm yn brofiad pleserus tu hwnt. Does na’m pwynt gwan a dweud y gwir. Ella fod y delyn ar Subbuteo yn ddiangen, ychydig yn annifyr hyd yn oed, ond pigo beiau pedantig yw hynny a chwilio am drwbwl lle does dim. Brigyn 3 yw eu pinacl hyd yn hyn, ond ar y dystiolaeth yma dylai fod mwy i ddod. ‘Dyw’r rhain ddim yn swnio fel bod eu creu ar derfyn, a bydd Brigyn 4 werth ei glywed, saff. ****

BARRY THOMAS

HEFIN JONES

SAIN

CYFLE I ENNILL LLWYTH O CDS

GWYNFRYN CYMUNEDOL

Anghytuno gydag un o’r adolygiadau? Un o’r colofnau wedi’ch corddi chi? Meddwl fod Eitha Tal Ffranco ddim yn gall? Mae’r Selar eisiau clywed eich sylwadau ar ffurf llythyr. Byddwn yn argraffu’r llythyrau gorau ym mhob rhifyn a bydd ‘Llythyr y Rhifyn’ yn derbyn pecyn o bob CD a adolygwyd yn y rhifyn blaenorol! Anfonwch eich llythyrau draw ar e-bost i ni – yselar@live.co.uk

TEXAS RADIO BAND GAVIN PESKI

Cyfuniad gwych o ganeuon indi-electroneg. Mae’r albwm yn amrywiol iawn gan ddechrau’n fywiog sy’n profi brwdfrydedd, aeddfedrwydd a thalent Texas Radio Band. Mae’r tair cân gyntaf yn fywiog gyda geiriau ^ l, a churiad sy’n aros yn hollol waci a chw eich pen am oriau. Mae canol yr albwm ychydig yn arafach ac arwyddocaol ac mae’n haws gwneud synnwyr o eiriau Mini. Mae’r trac Cymraeg, Swynol, yn gân wych sy’n ychwanegu at amrywiaeth yr albwm ac eto’n profi gallu’r band i greu cerddoriaeth at ddant pawb. Mae diwedd yr albwm eto’n fywiog ac yn atgoffa ni fwy o’r gerddoriaeth roeddynt yn arfer creu yn enwedig y gân Bea sy’n fy atgoffa o stwff Baccta Crackin. Er dweud hynny mae’r caneuon Planet Attack a Lump It eto’n profi gallu’r band i greu cerddoriaeth electroneg o safon uchel. Mwynheais Gavin yn bennaf oherwydd yr amrywiaeth o wahanol rythmau a churiadau sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus ac annog i chi ddawnsio o gwmpas fel peth gwyllt! Ond mae’r diweddglo I Will Be Coming Home yn dod a chi’n ôl i realiti ac allan o fyd electroneg Texas Radio Band. Ac mae’r gân sydd wedi cael ei chuddio ar ddiwedd yr albwm yn WYCH! Cân hollol ysgafn eto llawn cerddoriaeth a churiadau anhygoel! Da iawn! **** CERI PHILLIPS

CATE LE BON EDRYCH YN LLYGAID CEFFYL BENTHYG PESKI

Dwi’n ffan o Cate le Bon. Caneuon hyfryd, llais gwych, a gan risgio swnio fel merch ^ fach 12 oed, ma hi jyst yn CWL. Felly, yn amlwg, o’n i’n edrych ymlaen at glywed yr EP newydd, a dyw e ddim yn siomi. Yr hyn dwi’n hoffi amdani yw’r amrywiaeth yn ei chaneuon – maent i gyd yn wahanol ac yn swnio mor unigryw. Mae’r EP yn dechrau gyda’r gân hwyliog Hwylio mewn cyfog, bydd yn gyfarwydd i unrhyw un sydd wedi bod yn gweld Cate le Bon yn fyw. Mae’n gân catchy iawn, ac mae’n amhosib peidio tapio eich troed i’r bît, yn union fel dwi’n gwneud wrth ‘sgwennu hwn. Mae’r newid mewn tempo’n gwneud y gân yn gofiadwy. Mae’r caneuon Mas Mas a Byw heb Farw yn arafach a hyfryd, tra bod Baw Waw yn cynnig rhywbeth gwahanol. Mae’r holl beth yn hyfryd o hafaidd, ac mae’n bosib ymgolli’n llwyr yn y gerddoriaeth. Yn syml, blantos, prynwch hi, molwch hi, a gyrrwch negeseuon yn eich miloedd at Cate le Bon yn haslo am albwm yn y dyfodol agos! **** LOWRI JOHNSTON

21


Y SESIWN FAWR

TRWY’R

LENS

?



www.sainwales.com www.rasal.net www.myspace.com/gwymon www.myspace.com/labelcopa

Sain Geraint Løvgreen a’r Enw Da Busnes Anorffenedig Albwm hirddisgwyliedig gan un o feirdd a chyfansoddwyr cyfoes gorau Cymru

Geraint Jarman Atgof fel Angor

Bocs set o 15 cd a llyfr yn olrhain hanes y canwr-gyfansoddwr eiconig am £49.98

Goreuon Jim O’Rourke

Cofnod ym mywyd cerddorol Jim a chofnod hefyd o un o’r cyfnodau mwyaf cyffrous yn stori’r byd roc yng Nghymru

Delwyn Siôn Dyddiau

17 o draciau mwyaf cofiadwy oddi ar gasetiau, record hir, sengl ac EP Delwyn, Hergest ac Omega

Rasal Gwibdaith Hen Frân Tafod dy Wraig

Clincar arall yn cynnwys clasuron fel Twmpath Twrch Daear, Brycheuyn a Hogan Wirion!

Hanner Pei Ar Plat

Trowch eich spicars i fyny, stripiwch yn noeth a gwisgwch eich marigolds achos mae Hanner Pei yn ffyncio nôl yma nawr

Al Lewis Dilyn Pob Cam

EP newydd sy’n diferu gyda chaneuon melodig a hudolus

Gwymon 9bach Yr Eneth Ga’dd ei Gwrthod / Pa Bryd y Deui Eto? Sengl sy’n cymysgu’r traddodiadol a’r cyfoes

Copa Derwyddon Dr Gonzo Bwthyn / Chaviach LAWRLWYTHO AR ITUNES YN UNIG

Sengl newydd gan un o fandiau mwyaf cyffrous y sin Gymraeg ar hyn o bryd

MC Mabon Jonez Williamz

Mae Jonez Williamz yn drysor llawn anrhefn gyda geiriau lliwgar, hiwmor brwnt ac amryw o steiliau cerddorol

www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 ffacs 01286 831.497 archeb@sainwales.com


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.