byw creu cynhyrchu‌
BA Y Cyfryngau Creadigol
0300 500 1822 www.ydds.ac.uk
Y CELFYDDYDAU PERFFORMIO
2 | www.ydds.ac.uk
BA Y Cyfryngau Creadigol
Y CELFYDDYDAU PERFFORMIO
PRIF FFEITHIAU Cynnwys y cwrs Mae grym a dylanwad y cyfryngau cyfoes yn parhau i gael effaith aruthrol ar ein bywydau o ddydd i ddydd. Yn sgil datblygiadau’r chwyldro digidol, mae sgiliau arbenigol a llythrennedd digidol bellach yn ofynnol gan gyflogwyr ar draws ystod eang o feysydd proffesiynol. Mae’r maes datblygol yma felly, ynghyd â’r cyfleon i ddatblygu sgiliau a gwireddu syniadau creadigol a chyffrous, yn rhan anhepgor o apêl y pwnc fel maes astudiaeth. I unrhyw ddarpar fyfyriwr sydd am ddatblygu ei syniadau creadigol neu sydd â diddordeb i ddatblygu sgiliau cynhyrchu ar draws sawl cyfrwng, fe ddylai’r radd yma apelio’n fawr. O safbwynt creadigrwydd, mae’r maes digidol yn un sy’n datblygu’n gyson ac yn gyflym, a diben y rhaglen yma yw datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gyfredol o rôl a photensial y cyfryngau hyn. Wrth astudio arferion a chynnyrch cyfredol ar draws meysydd radio, teledu, ffilm a’r rhyngrwyd, rhoddir pwyslais amlwg ar feithrin a datblygu creadigrwydd yr unigolyn ynghyd ag ymwybyddiaeth o arferion, safonau a’r gwerthoedd cynhyrchu uchaf. Mae pwyslais yr Ysgol yn benodol felly ar ddatblygu a hyfforddi ‘gwneuthurwyr’. Hynny yw, ymarferwyr sydd â’r gallu a’r parodrwydd i fentro’n greadigol drwy greu, datblygu ac arddangos eu gwaith ar draws sawl math o lwyfan, cyfrwng a genre. Rhoddir pwyslais o fewn yr Ysgol ar y grefft elfennol o adrodd neu drosglwyddo storïau, boed trwy gyfrwng theatr, ffilm, radio neu deledu.
Y bwriad felly wrth ddatblygu a hogi sgiliau ymarferol a thechnegol yw rhyddhau yr unigolyn i ddatblygu eu syniadau creadigol eu hunain a’u galluogi i’w gwireddu ar draws ystod o gyfryngau. Yn ogystal â meithrin doniau creadigol ac ymarferol, y nod yw cyflwyno dealltwriaeth gadarn o ofynion ac arferion y diwydiannau cyfryngol cyfredol.
Meysydd astudiaeth • • • • • • • • • •
Sgiliau cyflwyno a chyfweld Hyfforddiant camera, sain a golygu Cynhyrchu radio Cynhyrchu ffilm Gohebu digidol Hanes a datblygiad y cyfryngau Creu rhaglenni dogfen Y cyfryngau ar blatfformau amrywiol Dadansoddi delweddau Natur cynulleidfaoedd
Prif nodweddion • Darlithwyr gwadd o'r diwydiant yn cyfrannu'n helaeth i'r modylau • Hyfforddiant mewn grwpiau bychain • Cyfle i ennill profiad yn y cyfryngau trwy gysylltiadau'r Ysgol • Gweithdai a chyfle i arddangos gwaith • Sgiliau trosglwyddadwy • Meithrin a datblygu creadigrwydd a dyfeisgarwch yr unigolyn • Ystyriaeth i ddatblygu potensial pob unigolyn yn llawn • Cyfle i ymestyn galluoedd ymarferol ac academaidd • Tîm o fyfyrwyr Cymraeg brwdfrydig • Awyrgylch Cymreig a bywyd unigryw • Cyfle i ddatblygu doniau newydd a chael cyfle i'w harddangos • Cyfle i feithrin nifer fawr o sgiliau galwedigaethol hollbwysig
Cod UCAS BA Y Cyfryngau Creadigol - P306
Lleoliad Campws Caerfyrddin
Hyd y cwrs 3 blynedd llawn-amser
Gofynion derbyn Gwahoddir pob ymgeisydd i glyweliad er mwyn asesu eu priodoldeb i'r rhaglen. Mae angen meddu ar sgiliau llythrennedd da, gan amlaf, gyda TGAU Gradd C neu uwch yn y Gymraeg.
Cyfleoedd gyrfa Bwriad y cwrs yw creu unigolion creadigol sy'n meddu ar sgiliau technolegol cyfredol ar gyfer rhychwant eang o swyddi o fewn y cyfryngau a thu hwnt. Rhagwelir y bydd sgiliau llythrennedd mewn oes ddigidol yn ffactor dylanwadol mewn ystod eang o feysydd a chyflogaeth yn y dyfodol.
www.ydds.ac.uk | 3
Gwybodaeth bellach Am fwy o wybodaeth, cysyllter â: Mair George 01267 676669 m.george@ydds.ac.uk Neu ewch i’r wefan www.ydds.ac.uk/cy/ysgoltheatrcerddarcyfryngau