Mwy na Meddyginiaeth - Atodiad - Coronafeirws a chanser

Page 1

Mwy na meddyginiaeth Ein syniadau ar gyfer Llywodraeth Cymru Atodiad - Coronafeirws a chanser


Coronafeirws a chanser Yn ystod pandemig y coronafeirws, gwnaethom ddangos pan mae angen gwneud penderfyniadau yn gyflym, roedden nhw’n cael eu gwneud yn gyflym. Fodd bynnag, tra’r ydym yn dioddef yr argyfwng hwn, rydym yn symud i un arall hefyd - gyda mwy o alw sydd wedi cronni, capasiti sydd wedi’i gwtogi ac oedi wrth dderbyn diagnosis sy’n creu bom amser canser, sy’n ticio o dan y GIG. Yn yr adran hon, rydym wedi amlinellu nifer o syniadau yr ydym ni’n meddwl y mae Llywodraeth Cymru angen ymdrin â nhw er mwyn sicrhau bod gwasanaethau canser yn ailddechrau cyn gynted ag sy’n bosibl. Gwasgu’r gromlin ganser

Dylai Llywodraeth Cymru wneud defnydd llawn o Ganolfannau Diagnostig Cyflym fel rhan o gynllun dewr a phenderfynol i glirio’r ôlgroniad o sgrinio a thrin.

Yn ei hanfod, gwnaeth cam aciwt cynnar y pandemig droi’r GIG yn wasanaeth coronafeirws, gyda’r holl adnoddau yn cael eu hailgyfeirio i’r argyfwng cenedlaethol. Diolch byth, gwnaethom lwyddo i osgoi’r GIG gael ei orlethu gan achosion Covid-19. Fodd bynnag, cafodd llawer o wasanaethau eraill fel sgrinio a thrin canser eu hanwybyddu. Arhosodd unigolion i ffwrdd o ofal sylfaenol, gan golli’r neges i ymweld â meddyg teulu os ydyn nhw’n poeni am symptomau canser posibl, ac weithiau ei hanwybyddu, ymysg y panig ynghylch COVID-19. Cwympodd y nifer o bobl a oedd yn dilyn y Un Llwybr Canser - ar gyfer ymchwilio symptomau - ym mis Ebrill 2020. Yn ystod y mis llawn cyntaf ar ôl y cyfyngiadau symud, gwelwyd dim ond 40% o’r bobl a welwyd yn ystod cyn y cyfyngiadau symud. Er bod ffigyrau wedi gwella ychydig ym mis Mai, ni welwyd miloedd o bobl a ellid bod wedi disgwyl cael eu hatgyfeirio at y Un Llwybr Canser. Yn ystod misoedd Ebrill a Mai yn unig, mae hyn gyfwerth â mis cyfan o gleifion ‘coll’ yn ystod deufis. O fis Mehefin 2020, amcangyfrifir bod 21,000 o atgyfeiriadau canser ar goll o’r Un Llwybr Canser.50 Wrth i’r cyfyngiadau symud ddechrau llacio, a phobl yn dechrau addasu i fywyd gyda COVID-19, rydym yn wirioneddol obeithio y bydd unrhyw un sy’n poeni am symptomau canser posibl, a oedd wedi gohirio mynd at eu meddyg teulu yn ystod y cyfyngiadau symud, yn chwilio am gefnogaeth yn awr. Fodd bynnag, mae rhyddhau’r ‘galw cronedig’ hwn i’r GIG, sydd â heriau capasiti go iawn am wasanaethau diagnostig cyn y cyfyngiadau symud, yn peryglu gorlethu’r GIG gyda math newydd o benllanw - canser heb dderbyn diagnosis. Bywydau sydd ddim yn cael eu byw Rydym i gyd yn gwybod mai’r hwyraf y bydd unigolyn yn derbyn diagnosis o ganser, gwaeth yw ei siawns o oroesi. Er hynny, mae 21,000 llai o bobl wedi dilyn Un Llwybr Canser rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2020 nag a ddisgwyliwyd. Mae’r rhain yn filoedd o bobl y gellid derbyn diagnosis o ganser yn hwyrach, neu ddim o gwbl. Rydym wedi atal marwolaethau COVID-19, bron yn sicr ar draul bywydau a fydd yn cael eu colli i ganser ymhellach ymlaen. Rydym wedi symud marwolaethau o un clefyd i glefyd arall, ac rydym ni angen bod yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â hynny.

50

Stats Cymru, 2020. Amseroedd aros canser; Misol

Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu ymchwil i amcangyfrif beth yw’r cynnydd mewn marwolaethau o ganser a fydd yn cael ei briodoli i’r pandemig ac egluro’r marwolaethau hyn mewn unrhyw asesiad o effaith argyfwng COVID-19.


Data a thryloywder Un o’r newyddbethau gwych yn ystod argyfwng COVID-19 fu’r defnydd o’r platfform Tableau. Mae hwn yn darparu gwybodaeth reolaidd, ryngweithiol a hygyrch ynglŷn â chlefydau a marwolaethau ar gyfer y cyhoedd. Mae gwybodeg ganser ar gyfer y cyhoedd ar hyn o bryd wedi cael ei gwasgaru rhwng cronfa ddata WCISU a Stats Cymru, ac mae angen dehongli sylweddol i wneud synnwyr o’r ffigyrau a welir yno.

Dylai Llywodraeth Cymru uwchraddio a chydgrynhoi gwybodeg ar gyfer y cyhoedd at lefel a all pawb ei deall – gan sicrhau bod yn agored a thryloyw ar gyfer holl ddefnyddwyr y gwasanaeth.

Cyfathrebu, cyfathrebu, cyfathrebu Yn ystod argyfwng COVID-19, rydym wedi gweld nifer helaeth o wasanaethau yn symud ar-lein. Heb amheuaeth, mae hyn yn ddatblygiad i’w groesawu, mae’n ehangu mynediad ar gyfer llawer ac yn galluogi rhannu adnoddau ar draws y GIG. Fodd bynnag, mae’n rhaid inni osgoi credi bod gan bawb fynediad at dechnolegau digidol.

Dylai Llywodraeth Cymru ddiogelu’r enillion a wnaed i alluogi cyflawni gwasanaeth digidol, gan gynnwys ymgynghoriadau o bell, tra’n sicrhau bod y gagendor digidol yn cael ei gau.

Wrth i wasanaethau sgrinio ailddechrau, mae llawer o waith i wneud am yr amser a gollwyd. ‘Rydym yn gwybod bod cymunedau Du, Asiaidd, Lleiafrifoedd Ethnig a Ffoaduriaid, a grwpiau eraill sydd yn anodd i gysylltu, yn ymgysylltu llai â gwasanaethau sgrini - ac ni allwn ni fforddio iddyn nhw syrthio’n ôl ymhellach yn nhermau canlyniadau iechyd.

Dylai Llywodraeth Cymru gynyddu’r ymyriadau a dargedir, sicrhau bod cymunedau sy’n galetach i gysylltu gyda yn manteisio ar y gwasanaeth sgrinio.


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.