Business plan 2014 final welsh

Page 1

Y Cynllun Busnes 2014 i 2018

twf cryf a chynaliadwy i wneud gwahaniaeth i fywydau, cartreďŹ a chymunedau pobl


gwneud gwahaniaeth

agored

gonest

cyfrifol

cartrefi

Cryf

callach twf cynaliadwy

pobl ymroddiad

gwell

cymunedau

Gyda’n gilydd twf

llwyddiannus

cefnogol

teg doethach

mwy gwyrdd gwneud y peth iawn

effeithlon

callach

rhagor


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | 1

Yr hyn sy’n bwysig i WWH Pa un ai adeiladu cartrefi, creu cymunedau neu yn syml torri glaswellt, rydym yn gofalu am yr hyn rydym yn ei wneud ac a ydym yn gwneud gwahaniaeth. Rydym yn gwybod beth rydym yn sefyll drosto ac mae cael cartref gweddus lle mae pobl yn ddiogel ac yn gallu bwrw’u gwreiddiau yn hanfodol. Nid yw’r cwmni’n cymryd elw, nid yw’n talu difidendau, ac rydym yn gwneud i bob ceiniog gyfrif. Rydym yn defnyddio ein hincwm i wella gwasanaethau ac eiddo. Rydym hefyd yn buddsoddi yn y dyfodol, gan adeiladu mwy o dai lle mae pobl yn gwneud eu cartref ac adeiladu eu bywydau. Fel busnes gyda phwrpas cymdeithasol cryf, mae’r rhan fwyaf o'n harian yn cael ei wario yn lleol i wneud y gwahaniaeth mwyaf. Mae cefnogi cynhyrchwyr, cyflenwyr a chyflogwyr o Gymru yn helpu ein preswylwyr a'r cymunedau lle maent yn byw. Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifrif. Mae dros 17,000 o bobl yn dibynnu arnom am y cartrefi lle maent yn byw ac mae dros 30,000 o bobl ledled Cymru yn dibynnu arnom i fod yno 24 awr y dydd, bob dydd, i ymateb i'w hangen am waith atgyweirio, argyfyngau, cyngor a chefnogaeth. Mae ein defnyddwyr gwasanaeth yn dod o bob math o gefndiroedd, gan gynnwys rhai o'r bobl mwyaf agored i niwed a bregus yn y gymdeithas, ac mae bod yno, wrth law, yn rhan bwysig o'r hyn rydym yn ei wneud.

Kathy Smart, Cadeirydd WWH, ac Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH, gyda Jane Styles, un o’r preswylwyr, yng Ngwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2012.

Pobl sy’n cael blaenoriaeth yn ein byd ni, ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth. Barnwyd mai ni oedd y 7fed lle gorau i weithio ynddo yn y Deyrnas Unedig ar restr Cwmnïau Gorau (nid­er­elw) y Sunday Times ac mae yn agos at naw o bob deg o’n preswylwyr yn fodlon iawn gyda ni fel eu landlord. Yn wir, mae bodlonrwydd preswylwyr wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn am bron i ddegawd. Nid yw'r cyflawniadau hyn yn digwydd trwy ddamwain, gan eu bod yn ganlyniad gwrando ar breswylwyr a staff a gwneud y pethau iawn ­ ymadrodd hen­ffasiwn efallai, ond un y mae pawb yn ei ddeall, ac rydym yn ei olygu o ddifrif. Mae ein busnes wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf wrth i ni ymateb i gyfleoedd newydd.

Rydym wedi creu tri chwmni newydd, sy'n eiddo yn gyfan gwbl i WWH; Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, sydd bellach yn cwmpasu Cymru gyfan ac yn cyflogi yn agos at 90 o bobl, Datblygiadau Enfys, sy’n adeiladu dros 350 o gartrefi, a bydd is­adran arlwyo Cartrefi Castell yn gweini ei bryd cyntaf o fwyd yn ystod yr hydref eleni. Mae cyrhaeddiad ein sefydliad a'n cryfder ariannol yn golygu y gallwn helpu hyd yn oed mwy o breswylwyr i wneud yn fawr o'r cyfleoedd maen nhw’n eu cael. Dyma beth rydym yn ei gynrychioli ac rydym yn falch o'r gwahaniaeth a wnawn. Kathy Smart, Cadeirydd WWH, Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH


2 | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | Tai Wales & West

Amgylchedd Gweithredu Mae cael cartref gweddus a fforddiadwy yn hanfodol i fywyd llwyddiannus ac i greu Cymru lwyddiannus. Mae pawb yn gwybod hyn, ac mae'r flaenoriaeth barhaus a roddir i’r sector tai gan Lywodraeth Cymru a chynghorau lleol yn gwneud gwahaniaeth mawr. Er gwaethaf hyn, nid oes digon o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu, ac mae angen trafodaeth sylfaenol am safon y cartrefi hyn a beth yw ystyr 'fforddiadwy'. Mae angen mwy o gartrefi ar frys, ac mae rhai o'r rhwystrau i gynyddu'r cyflenwad yn parhau. Mae’r tir sydd ar gael i’w ddatblygu yn gyfyngedig, ac mae'r gofynion gan y llywodraeth a chynghorau lleol yn cynyddu cost adeiladu cartrefi newydd yn sylweddol. Os yw'r broblem tai am gael ei datrys, mae’n hanfodol meithrin consensws rhwng rhanddeiliaid fel bod pawb yn

deall hyfywedd cymharol datblygiadau a pha fudd cymdeithasol sy’n rhesymol. Mae'r diwygiadau lles mewn perygl o danseilio'r budd sylweddol a all ddod drwy’r sector cymdeithasau tai. Mae'r cysyniad y tu ôl i newidiadau fel y Credyd Cynhwysol yn rhywbeth i’w groesawu ­ mae angen system symlach, un sy'n cefnogi cyflogaeth ac sy’n helpu unigolion i gymryd mwy

o gyfrifoldeb drostynt eu hunain. Fodd bynnag, mae angen ei gyflwyno’n ofalus ac ystyried amgylchiadau preswylwyr unigol, neu mae perygl iddo achosi caledi gormodol. Mae cymhwyso’r hyn a elwir yn dreth ar ystafelloedd gwely ar aelwydydd presennol wedi gadael rhai mewn sefyllfaoedd arbennig o anodd, ac rydym

Mae ein datblygiad ar Kingsmills Road yn Wrecsam ar fin cael ei gwblhau, a fydd, ynghyd â safle cyfagos Rivulet Road, yn darparu 147 o gartrefi newydd fforddiadwy,


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | 3

Cynllun Gofal Ychwanegol / Gofal Dementia Llys Jasmine yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, gyda 61 o fflatiau a 2 fyngalo, y credir ei fod y cyntaf o'i fath yng Nghymru i gynnwys fflatiau pwrpasol i ddioddefwyr dementia.

yn cynorthwyo pob un ohonyn nhw i allu fforddio eu rhent neu i symud. Mae ein proffil stoc yn golygu bod y newidiadau yn effeithio llai arnom ni na'r rhan fwyaf o fudiadau tebyg, gan fod gennym nifer fawr o gartrefi llai ac mae llawer yn benodol ar gyfer pobl hŷn, gyda galw cynyddol am y math hwn o lety. Mae effaith y ddiwygiadau lles niferus yn parhau i fod yn aneglur, ac

mae ein dadansoddiad yn dangos bod ein cynllun busnes yn gadarn hyd yn oed os yw'r rhagolygon gwaethaf yn cael eu gwireddu, er na fydd hyn yn wir am y sector yn ei gyfanrwydd. Gyda lefelau is o gymhorthdal cyfalaf ar gael, cynnydd cyfyngedig mewn rhenti a chapiau ar lefel y lwfans tai lleol, mae cymdeithasau tai yn gorfod defnyddio mwy o'u gallu ariannol i bontio'r bwlch.

Er ein bod ni, a nifer o rai eraill, yn gallu parhau i wneud hyn am rai blynyddoedd, mae angen ffynonellau eraill o incwm os ydym am barhau i gynyddu ein stoc tai yn y tymor hwy. Mae angen i reoleiddio gadw’n gyfredol ag arallgyfeirio yn y sector a'r newidiadau sydd ar ddod, a chroesewir yr adolygiad diweddar a’r ymrwymiad i gyd­reoleiddio yn fwy cymesur.


4 | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | Tai Wales & West

Mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol Rydym mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol; yn gymdeithasol gyfrifol, yn llai gwastraffus, yn fwy ymatebol ac yn deg yn y ffordd rydym yn trin ein preswylwyr a’n staff. Mae pobl eisiau cael eu trin fel unigolion ac eisiau i bobl wrando arnyn nhw – nid cael gwasanaeth 'yr un fath i bawb', ond yn hytrach cael rhywbeth sydd wedi'i deilwra i'w hanghenion penodol. Rydym i gyd yn disgwyl mwy, a landlordiaid llwyddiannus yw'r rhai sy'n gwrando, sy’n hyblyg ac sy’n ymateb i ofynion newidiol.


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | 5

Carl Sargeant, y Gweinidog Tai, gyda Ryan Baillie a Nathan Platt, prentisiaid, ac Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH, ar sae cynllun Gofal Ychwanegol / Gofal Dementia Llys Jasmine yn yr Wyddgrug


6 | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | Tai Wales & West

Rhan ganolog o’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yw gwneud gwahaniaeth ym mhopeth rydym yn ei wneud. Nid ydym yn berchen ar eiddo mewn rhai siroedd yng Nghymru erbyn hyn, fel Ynys Môn, Gwynedd a Cheredigion, gan fod landlordiaid cymdeithasol eraill mewn sefyllfa well i wneud gwahaniaeth yn y cymunedau hynny. Nid yw Landlordiaid fyth yn dy­ muno trosglwyddo stoc, ond roeddem yn teimlo mai dyna’r peth cyfrifol i'w wneud, a chafodd yr un olaf ei werthu ym mis Ionawr 2013. Rydym yn awr mewn sefyllfa well i ganolbwyntio ar y siroedd hynny lle mae gennym fwy o gartrefi a lle gallwn gael effaith go iawn yn yr ardal. Rydym yn buddsoddi mwy na £65 miliwn bob blwyddyn yn yr ardaloedd hyn, gan gadw mwy na 1,000 o bobl mewn gwaith ­ er enghraifft, mae ein datblygiad â 150 cartref newydd yn Wrecsam wedi cefnogi 19 o brentisiaid a thros 10,000 o oriau hyfforddiant.

“Mae ein hymrwymiad i gadw pob ceiniog mor lleol ag y gallwn yn golygu bod ein gwariant blynyddol o £65 miliwn yn arwain at dros £160 miliwn i’r economi, gyda’r

Staff WWH mewn gwisg ffansi yn ein Cynhadledd flynyddol i’r Staff, 2013

rhan fwyaf ohono yn aros yng Nghymru.” Mae sawl agwedd ar y ddarpariaeth gyhoeddus yn cael eu 'diwygio' ­ lles, iechyd, gofal cymdeithasol ­ gwasanaethau yr ydym i gyd yn eu defnyddio. Mewn adegau o newid mae pawb ohonom angen ychydig o gymorth i ddysgu sgiliau newydd neu ymdopi mewn amgylchedd newydd. Bob

wythnos rydym yn ymweld â mwy na 1,000 o bobl yn eu cartrefi gan eu helpu i beidio â mynd i ddyled, eu cadw rhag bod angen mynd i’r ysbyty, eu cadw mewn gwaith neu mewn addysg. Drwy ein canolfan gwasanaethau cwsmeriaid achrededig rydym yn ateb dros 600 o alwadau bob dydd a thrwy'r nos, gan wneud yn siŵr bod argyfyngau yn cael sylw, pa un ai a yw'n


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | 7

waith atgyweirio, cymydog swnllyd neu fonitro a yw rhywun wedi syrthio. Mae tai fforddiadwy a gweddus yn hanfodol. Mae ein holl gartrefi'n cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru, ac mewn sawl maes ­ yn enwedig effeithlonrwydd ynni ­ yn rhagori ar y safon honno. Tra bod prisiau nwy a thrydan yn ymddangos fel eu bod yn cynyddu o hyd, rydym wedi

torri costau byw mewn llawer o'n cartrefi ­ mewn rhai achosion gymaint â channoedd o bunnoedd y flwyddyn. Rydym yn un o landlordiaid mwyaf Cymru, ac rydym yn parhau i dyfu ar garlam. Ar draws y Grŵp, rydym yn cyflogi yn agos i 500 o bobl, gyda phob un yn chwarae rhan allweddol yn ein cyflawniadau.

Mae ein maint a’n cryfder ariannol yn bwysig, gan ein galluogi i ddarparu cartrefi newydd, creu mentrau cymdeithasol newydd a manteisio ar gyfleoedd i fod yn fwy effeithlon drwy dwf. Mae ein maint hefyd yn ein galluogi i chwarae rhan gynyddol yn y gwaith o ddylanwadu ar y sector a helpu i lunio polisïau cenedlaethol sy'n effeithio ar ein preswylwyr, eu cymunedau ac ar ein busnes.


8 | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | Tai Wales & West

Rhagor Fe wnawn ni adeiladu mwy na 1,000 o gartreďŹ yn ystod y blynyddoedd nesaf


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | 9

Darparu cartrefi i bobl sydd angen tai Fe wnawn ni adeiladu mwy na 1,000 o gartrefi yn ystod y blynyddoedd nesaf. Y cyntaf o chwe thema'r cynllun busnes yw darparu mwy o gartrefi i bobl sydd angen tai. Mae’r prinder tai difrifol yng Nghymru yn cael ei wneud yn waeth gyda'r lefel isaf o dai newydd a gwblhawyd ers degawdau. Rydym wedi ymateb i'r her hon, ac o flwyddyn i flwyddyn rydym yn adeiladu mwy o gartrefi, gan adeiladu 460 o dai yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae angen hyd yn oed mwy o gartrefi, serch hynny, ac yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf rydym wedi canolbwyntio ar sut gallwn gynyddu'r cyflenwad ymhellach. Fel rhan o’n rhaglen gyfredol byddwn yn adeiladu mwy na 1,000 o gartrefi yn ystod y pum mlynedd nesaf, gyda buddsoddiad o bron i £140 miliwn yn economi Cymru. Tai i deuluoedd gafodd y prif sylw gennym, ac yn y dyfodol bydd mwy o gartrefi ar gyfer pobl hŷn, yn enwedig cynlluniau gofal ychwanegol a chartrefi llai o faint. Mae’r awdurdodau lleol sy’n bartneriaid i ni yn wirioneddol bwysig i'n helpu i gynnal y lefel hon o ddatblygiadau, ac mae’r enw da am yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn yn ein rhoi mewn sefyllfa dda.

Rydym wedi creu dau gwmni newydd a fydd yn

Mae Cefn y Nant, datblygiad o 55 cartref fforddiadwy newydd, yn rhan o raglen adeiladu sy’n werth £17 miliwn rhwng dau safle yn Wrecsam, ac rydym yn eu hadeiladu mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

ein helpu gyda'n rhaglen ddatblygu. Bydd Enfys yn rheoli datblygiadau ar gyfer y Grŵp, ac ar hyn o bryd mae dros 350 o gartrefi wrthi’n cael eu hadeiladu, gan arbed £1 miliwn i ni yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf, tra'n darparu cartrefi o safon hyd yn oed yn well nag o'r blaen. Bydd Castell yn adeiladu dros 90 o dai newydd yn y pum mlynedd nesaf, gyda’r rhain yn cael eu gwerthu.

Rydym yn ystyried fforddiadwyedd fel rhywbeth allweddol ­ o ran y rhent a chostau eraill byw yn yr eiddo. Mae ein holl gartrefi o fewn y terfynau rhent ar gyfer budd­dal tai

fel y gall pawb fforddio unrhyw un o'n heiddo, rhai gyda chymorth budd­dal ac eraill yn annibynnol. Dim ond rhan o'r ateb yw cadw rhenti yn is na'r farchnad. Mae angen i bobl allu fforddio cynnal eu cartref, yn enwedig gwresogi’r adeilad. Rydym wedi newid dyluniad cartrefi newydd rydym yn eu hadeiladu fel eu bod yn rhagori ar isafswm safonau rheoliadau adeiladu, ac yn eu gwneud yn rhatach i'w cynnal. Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar wneud y strwythur mor effeithlon o ran ynni ag y bo modd, gan leihau'r angen am wresogi a gostwng eu hôl troed carbon gyda nodweddion fel paneli solar sy’n darparu trydan am ddim yn ystod y dydd.

Gyferbyn: Michaela a Michael Williams a’u plant Lacey, sy’n 18 mis oed, a Joseph, sy’n 5 mis oed, yn eu cartref newydd yn Llys Bryniau, Bryniau Road, Llandudno.


10 | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | Tai Wales & West

Sicrhau’r effaith orau posibl Daw gwelliant parhaus drwy wrando ar breswylwyr. Dim ond trwy wrando y gallwn deilwra ein gwasanaethau i’r hyn sy'n bwysig i bob preswyliwr. Rydym yn canolbwyntio ar yr hyn y mae preswylwyr yn ei ddweud wrthym, ac ar y cefndir hwn y byddwn yn mesur ein hunain. Mae anghenion ac amgylchiadau pobl yn newid ac rydym yn dysgu sut mae modd i ni wella ein hymateb i'r newidiadau hyn yn gyflym ac yn ddibynadwy. Rydym yn gwybod ein bod yn nesu at y nod, gan fod mwy o'n preswylwyr yn fodlon gyda ni fel eu landlord a gyda'r cartref lle maent yn byw. Nid ydym yn hunanfodlon, ac rydym eisiau mwy o lwyddiant. Rydym eisiau i'n preswylwyr fod yn brif lysgenhadon ar ein rhan a bydd yn ehangu sut mae preswylwyr yn gallu ymgysylltu â ni a llunio'r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i ddiwallu eu hanghenion. Bydd ehangu parhaus cynllunio gwella ardaloedd yn sicrhau bod staff a phreswylwyr yn cydweithio i gadw ein cynlluniau yn lleoedd byw gwych. Mae effaith diwygio lles yn bellgyrhaeddol ac mae wedi effeithio ar ein gwasanaethau rhentu a gosod. Rydym yn parhau'n benderfynol o beidio â gadael i'r newidiadau danseilio ein hymrwymiad i helpu ein preswylwyr i aros yn eu cartrefi cyhyd ag y dymunant. Byddwn yn cryfhau ein gwasanaeth i helpu pobl i reoli eu harian a pheidio â mynd i ddyled, symleiddio mynediad at ein cartrefi ac archwilio sut gallwn ehangu ein tenantiaeth a chymorth tai i bob preswyliwr, waeth beth fo'u hoedran na lleoliad eu cartref.

Mae Connect24, ein canolfan larwm mewn argyfwng a gwasanaethau cwsmeriaid, yn parhau i dyfu, ac yn awr mae’n cefnogi mwy na 27,000 o bobl ledled Cymru. Rydym yn gweithio gyda rhagor o gymdeithasau tai i ddarparu eu gwasanaeth atgyweirio y tu allan i oriau gwaith, ac yn hyderus y gallwn ddod yn un o'r darparwyr mwyaf o’r gwasanaethau hyn yng Nghymru.

Mae Cambria hefyd wedi tyfu, ac mae effaith y cwmni yn cael ei deimlo yn fwy eang. Mae'r cwmni, a sefydlwyd ar ddechrau 2011, bellach yn cwmpasu Cymru gyfan, ac yn ymgymryd ag ystod eang o wahanol fathau o waith atgyweirio a gwella. Y llynedd, trodd y cwmni ei sylw at adnewyddu ceginau ac

Craig Davis, y Swyddog Dewisiadau Tai, yn trafod ein cynlluniau ar gyfer cynllun Gofal Ychwanegol/Gofal Dementia Llys Jasmine gyda rhai o drigolion yr Wyddgrug

ystafelloedd ymolchi ac ailweirio trydanol, gan gwblhau gwaith mewn 180 cartref. Fe wnaeth Cambria arbed dros £400,000 i WWH yn 2012 ac mae’n rhoi sicrwydd o waith i fwy na 90 o bobl. Nid ar hap y gwneir gwahaniaeth; mae’n digwydd drwy ymroddiad a gwaith caled ein staff. Y gorau ydyn nhw, y mwyaf y gellir ei wneud dros ein preswylwyr, a dyna pam y gwnawn ni fuddsoddi mewn hyfforddi ein staff, a’n preswylwyr pan fydd hynny’n bosibl, fel eu bod nhw’n gallu manteisio ar y dechnoleg a’r systemau gwaith newydd. Gyferbyn: Craig Atherton, y Swyddog Tai, gydag un o drigolion y Drenewydd, Nicola Jarmen, yn ein digwyddiad ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddar ynghylch cynlluniau ar gyfer ein cynllun gofal ychwanegol newydd.


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | 11

Gwell Daw gwelliannau parhaus drwy wrando ar breswylwyr


12 | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | Tai Wales & West

Mwy gwyrdd Gwario ein harian yn wahanol, gan brynu cynnyrch gwell a mwy cynaliadwy


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | 13

Chris Ruane, AS, y Cynghorydd Andy Rutherford, Maer y Rhyl, y Cynghorydd Margaret McCarroll (De Orllewin y Rhyl) gydag Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH, a phreswylwyr yn agoriad swyddogol gerddi cymunol Buxton Court

Lleihau effaith WWH a’n preswylwyr ar yr amgylchedd Mae gwario ein harian yn wahanol ­ prynu cynnyrch gwell a mwy cynaliadwy ­ yn rhan ganolog o drydedd thema’r cynllun busnes hwn. Rydym yn newid ein busnes i un sy’n cael llai o effaith negyddol ar yr amgylchedd, gan helpu ein preswylwyr i wneud yr un fath.

Owen Jones, Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd WWH, ar y safle yng Ngardd Gymunedol Llaneirwg yng Nghaerdydd.

Rydym yn credu bod arbed arian i bobl ac achub y blaned yn gysyniadau sy’n perthyn yn agos i’w gilydd. Mae dod o hyd i ffyrdd o helpu pobl i leihau cost gwresogi eu cartref, bwyta llysiau ffres neu yrru llai o filltiroedd, yn dda i'r amgylchedd ac i’r boced. Rydym yn newid ein cynlluniau i rai gyda choed ffrwythau, lleiniau llysiau a phaneli solar; yn newid cartrefi i rai sydd â lefelau uchel o inswleiddio a mathau newydd o systemau gwresogi, a thrydan o ffynonellau adnewyddadwy. Rydym wedi gwneud

cynnydd da gyda'r newidiadau hyn, gan gwblhau dros 30 o brosiectau yn 2012, a byddwn yn parhau i weithio gyda phreswylwyr ar ffyrdd newydd o leihau ein heffaith. Rydym wedi ei chael yn anodd gwneud gwahaniaeth o ddifrif i’r milltiroedd busnes y mae ein staff yn eu teithio bob blwyddyn. Mad mwy o'n staff yn gweithio yn y cynlluniau, ac mae llawer o bobl eraill yn gweithio o adref, sydd wedi lleihau’r effaith carbon. Mae gennym fwy i'w wneud, ac mae hyn yn parhau i fod yn her.


14 | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | Tai Wales & West

Gwneud y defnydd gorau o’n hasedau Fe wnawn ni barhau i helpu ein preswylwyr i fyw mewn cartrefi sy'n diwallu eu hanghenion orau – y cyfleusterau priodol mewn cartrefi fforddiadwy sydd o faint priodol. Rydym wedi cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru ac mae ein cartrefi ymysg y rhai mwyaf effeithlon o ran ynni o’r holl dai cymdeithasol, a byddwn yn gwella hyn ymhellach i leihau tlodi tanwydd. Rydym eisiau i'n preswylwyr gadw eu cartref am gyhyd ag y dymunant – bydd eu gwneud yn fwy fforddiadwy yn helpu yn yr un modd â gwneud addasiadau wrth i bobl heneiddio ac wrth i’w hamgylchiadau newid. Rydym yn addasu dros 200 o gartrefi, gan wario yn agos at £1 miliwn bob blwyddyn, gan eu gwneud yn addas fel nad oes yn rhaid i’n preswylwyr symud. Gyda’i gilydd, byddwn yn gwario oddeutu £70 miliwn yn y pum mlynedd nesaf i gadw tai mewn cyflwr ardderchog, wedi'u haddasu, yn gynnes ac yn fforddiadwy. Gyda gwariant blynyddol yn agos at £8 miliwn ar ddeunyddiau adeiladu, atgyweirio a chynnal a chadw ein heiddo, byddwn yn ceisio gwella'r gwerth a gawn drwy safoni yr hyn y byddwn yn ei brynu a chan bwy y byddwn yn prynu i wneud yn siŵr eu bod o'r ansawdd gorau, yn hynod gynaliadwy, a lle bo modd, yn gwneud y cyfraniad

Anne Dixon, un o breswylwyr WWH yn Llaneirwg, Caerdydd, yn falch o ddangos ei hystafell ymolchi newydd ei haddasu i’r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, AC, diolch i grant addasiadau corfforol, a fydd yn galluogi Anne a’i gŵr i aros yn eu cartref eu hunain.

mwyaf i'r economi leol. Gellir defnyddio asedau o safon fel gwarant i fenthyg a chyllido adeiladu cartrefi newydd. Mae gennym dros 3,000 o dai sydd ar gael ar hyn o bryd i’w cynnig fel gwarant, a sawl cant yn fwy os yw'r tir yn cael ei roi ar brydles. Byddwn yn ystyried prynu rhydd­ddaliad y tir hwn fel ein bod yn gallu gwneud gwell defnydd o'r asedau hyn. Mae gennym y potensial i fenthyg swm ychwanegol o £150 miliwn i ddatblygu 2,800 yn rhagor o gartrefi cymdeithasol ar rent yng Nghymru.

Becky Pierce, sy’n byw yn y byngalo wedi’i addasu o’r enw ‘Bala’ yn Henllan, Sir Ddinbych, gyda’r gweithiwr cymorth Becky Cumming.


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | 15

Doethach Fe wnawn ni barhau i helpu ein preswylwyr i fyw mewn cartrefi sy’n cwrdd â’u hanghenion yn y ffordd orau – y cyfleusterau priodol, am bris fforddiadwy ac o’r maint priodol


16 | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | Tai Wales & West

Callach Fe wnawn ni roi mynediad am ddim i tua 2,500 o breswylwyr at fand eang WiFi


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | 17

Gwneud y defnydd gorau o dechnoleg Fe wnawn ni roi mynediad am ddim i tua 2,500 o breswylwyr at fand eang WiFi. Rydym yn dymuno gwneud mwy na hynny, ac wrth i’r dechnoleg a'r isadeiledd ffôn/cebl wella ledled Cymru, byddwn yn chwilio am ffyrdd o ehangu'r gwasanaeth hwn. Mae mynd ar­lein mor bwysig i gadw mewn cysylltiad, cael y fargen orau, ac yn fuan bydd yn brif ffordd i wneud cais am fudd­daliadau lles. Mae technoleg yn chwarae rôl bwysicach nag erioed yn y ffordd rydym yn cynnal ein busnes. Mae gwybodaeth am breswylwyr yn ein helpu ni i deilwra'r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau ac yn dweud wrthym sut i wella ein perfformiad. Byddwn yn newid ein technoleg yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf i gefnogi ein staff a’n

preswylwyr yn well, a rhoi'r wybodaeth reoli sydd ei hangen arnom. Rhan allweddol o hyn yw sicrhau mynediad hawdd at wybodaeth i’n staff sy'n gweithio o bell yn y cymunedau lle mae ein tai wedi eu lleoli. Rydym hefyd eisiau deall yn well sut byddai ein preswylwyr yn hoffi cyfathrebu â ni a swyddogaeth bosibl y cyfryngau cymdeithasol.

Y Gweinidog Cyllid Jane Hutt, AC, gyda Lorraine Morgan yn Nhŷ Pontrhun, Merthyr Tudful. Mae Lorraine wedi bod yn mwynhau hyfforddiant TG yn y cynllun. Gyferbyn: Mae Anne Winterbottom wrth ei bodd gyda’i sgiliau TG newydd, diolch i hyfforddiant cyfrifiadurol yng nghynllun gofal ychwanegol Nant y Môr ym Mhrestatyn.


18 | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | Tai Wales & West

Gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau Mae cymdogaethau ar eu gorau pan fydd pawb yn gweithio gyda'i gilydd i ddatrys y problemau maent yn eu hwynebu. Byddwn yn ehangu ein gwasanaeth wedi'i ail­ddylunio i ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, sydd wedi bod mor llwyddiannus yn helpu ein preswylwyr i chwarae eu rhan wrth ddatrys problemau yn eu cymunedau. Mae grymuso cymunedau yn y ffordd hon yn elfen allweddol o'r chweched thema – y thema olaf – yn y cynllun busnes. Mae bywyd da yn golygu bod yn iach, yn weithgar ac yn annibynnol. Gall y meddygon ac ysbytai ein helpu ni pan fyddwn yn sâl, ond mae cyfrifoldeb ar bawb ohonom i ofalu amdanom ein hunain. Byddwn yn cefnogi iechyd y cyhoedd a gwasanaethau cymdeithasol gyda'u hymgyrchoedd a’u mentrau fel y rhai i helpu pobl i stopio ysmygu, ac efallai y bydd WWH a'i holl eiddo yn ddi­fwg ryw dro! Gan aros ar thema bywydau da, rydym yn mynd ati i geisio cyfleoedd newydd fel busnes, ac rydym eisiau i'n preswylwyr wneud yr un peth. Mae Cambria wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac rydym yn gobeithio y bydd Arlwyo Castell yn mwynhau llwyddiant tebyg.

Byddwn yn defnyddio'r mentrau hyn, ac eraill, i roi cyfleoedd i’n preswylwyr gael cyflogaeth, addysg a phrofiad y gallan nhw eu defnyddio yn eu bywydau bob dydd. Mae ein staff yn gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau bob dydd. Yn unol â'n hegwyddorion gweithredu, byddwn yn grymuso ein staff i wneud y peth iawn i gyflawni'r hyn sy'n bwysig, fel bod problemau preswylwyr yn cael eu eu datrys neu eu hymholiadau yn cael eu hateb y tro cyntaf y byddan nhw’n cysylltu â ni. Byddwn yn cyflawni hyn drwy arfogi ein staff gyda mwy o sgiliau o ran cyngor ar ddyledion ac arian, effeithlonrwydd ynni a chael gafael ar fudd­daliadau.

Meleri Jones, Rheolwr Grantiau gyda Waite Recycling Environmental Ltd, yng nghwmni Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, Vy Cochran, y Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau, a phlant ym mhrosiect offer chwarae pontio’r cenedlaethau yn Hightown.


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | 19

Gyda’n gilydd Mae cymdogaethau ar eu gorau pan fydd pawb yn cydweithio i ddatrys y problemau maen nhw’n eu hwynebu


20 | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | Tai Wales & West

1. 2.

3.

8.

4. 5.


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | 21

Cyfrifoldeb cymdeithasol Rydym yn deall pwysigrwydd rheoli effaith economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ein busnes er mwyn creu cymunedau ffyniannus, cynaliadwy yn awr ac yn y dyfodol.

6.

7. 1.

2. 3.

4.

5. 6.

7.

8.

Staff Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn ailosod warws ar gyfer Banc Bwyd Caerdydd Anne Hinchey a Kathy Smart yn cyfrannu £600 at Tŷ Hafan Yn dilyn ein hymarfer ailfrandio, fe wnaethom roi ein crysau polo â’r hen frand arnyn nhw i dîm pêl­droed yn Uganda Andrew Richards, y Rheolwr Masnachol (Atgyweiriadau) yn helpu un o breswylwyr Bux­ ton Court, Keith Owen, i fraenaru’r tir ar gyfer y gerddi cymunol newydd. Fe wnaeth ein tîm elusenau’r staff gyflwyno siec am £26,500 i Help for Heroes Anne Hinchey yn cyflwyno eu cit newydd i Tom Griffiths a Kyle Offer o dîm Roman Villains, Caerdydd Fe wnaeth Diane Barnes, Verity Kimpton ac Anne Hinchey neidio o 13,000 troedfedd uwchlaw maes awyr Abertawe, gan godi mwy na £10,000 ar gyfer Cymdeithas Strôc Cymru Fe wnaethom helpu tîm dan 14 oed Canton Rangers i brynu siacedi glaw â’r brand newydd arnyn nhw

Y cymhelliant i ni ym mhopeth a wnawn yw sicrhau twf cynaliadwy cryf i wneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl, ac rydym eisiau i’r gwahaniaeth a wnawn i fod yn real ac ymarferol. O raglenni ymgysylltu â'r gymuned i fentrau tacluso, rydym yn rhoi llawer o bwyslais ar ofalu am y gymuned a'r amgylchedd drwy ein Grant Gwneud iddo Ddigwydd a'r Gronfa Amgylcheddol. Yn awr yn ei chweched blwyddyn, ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yw ein ffordd o gydnabod a gwobrwyo cryfder, anhunanoldeb a synnwyr cymunedol cymaint o'n preswylwyr. Bob blwyddyn mae ein Bwrdd yn neilltuo swm sylweddol i’w roi i elusen sy'n gysylltiedig â thai yng Nghymru, fel Prime Cymru, Clybiau ar gyfer Pobl Ifanc Cymru a Gofal Croesffyrdd Cymru, yn ogystal ag ychwanegu at weithgaredd elusennol staff drwy roi arian cyfatebol at y cyfanswm blynyddol. Fel y nodwyd yn barod, nid ar ddamwain y mae gwneud gwahaniaeth yn

digwydd ­ mae'n cael ei gyflawni trwy ymroddiad a gwaith caled ein staff. Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae staff wedi codi dros £75,000 ar gyfer elusennau, gan gynnwys Cymdeithas Alzheimer, Help for Heroes a Chymdeithas Strôc Cymru. Rydym hefyd yn falch o ddarparu cyfle i'r holl staff gael diwrnod o wyliau â thâl bob blwyddyn i ddefnyddio eu hamser, eu sgiliau a’u hegni er lles pobl eraill, a chyfrannu at gymunedau ein preswylwyr y tu allan i'w swyddogaethau arferol o ddydd i ddydd. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, rydym yn deall fod hyd yn oed symiau bychan o arian yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau lleol, ac rydym yn cefnogi nifer o fentrau lleol, gan gynnwys dau dîm pêl­droed o Gaerdydd, y Roman Villains a thîm dan 14 oed Canton Rangers, Clwb Bowlio Rhydycar ym Merthyr a Chlwb Pêl­droed Tref Merthyr, Clwb Rygbi’r Gynghrair Gwent Chiefs yn Rhymni, tîm criced Ysgol Sant Christopher yn Wrecsam a sawl banc bwyd ledled Cymru.


22 | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | Tai Wales & West

Ble rydyn ni’n gweithredu Anghenion

cyffredinol

251 Ymddeol Tai â chymorth

Ymddeol

204 cyffredinol

Perchnogaeth cartrefi

36

34

Anghenion

58

12

Anghenion cyffredinol

600

Gofal ychwanegol

58 Ymddeol

137 Tai â chymorth

Sir y Fflint

19

Conwy Sir Ddinbych

Anghenion cyffredinol

Wrecsam

694 Tai â chymorth

32 Ymddeol

Ymddeol Tai â chymorth

Perchnogaeth cartrefi

23

88

158

49 Anghenion cyffredinol

Cyfanswm y stoc

632

9,354

Powys

Perchnogaeth cartrefi

1

Ymddeol

245

Ymddeol

Anghenion cyffredinol

149

228

Perchnogaeth cartrefi

Tai â chymorth

2

5

Anghenion cyffredinol

Perchnogaeth cartrefi

31

Abertawe

Anghenion cyffredinol

959

Ymddeol

Rhondda Cynon Taf Caerffili t n o r b yn- gw Caerdydd Pe ar O Bro Morgannwg

Anghenion cyffredinol

65

93

l dfu r Tu rthy Me

64

106 Tai â chymorth

Ymddeol

305

Perchnogaeth cartrefi

26 Perchnogaeth cartrefi

164

Perchnogaeth cartrefi

599

Anghenion cyffredinol

243

Ymddeol

128

Perchnogaeth cartrefi

31

31

Tai â chymorth

26

Anghenion cyffredinol

Ymddeol

Anghenion cyffredinol

712 2,052


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | 23

Nifer y cartrefi sy’n cael eu hadeiladu yn ôl ardal Awdurdod Lleol Sir Ddinbych

24 Conwy

28

Sir y Fflint

189 Wercsam

197

Cyfanswm

647 Powys

71 Merthyr Tudful

2

Pen-y-bont ar Ogwr

68

Caerdydd

20

Mae’r ffigyrau hyn yn cynrychioli datblygiadau sydd ar y safle ar hyn o bryd ac y trefnwyd eu bod yn dechrau yn y 12 mis nesaf.


24 | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | Tai Wales & West

Sut rydym yn rhedeg ein sefydliad Rydym wedi gwneud cynnydd rhagorol wrth gyflawni ein gweledigaeth o dwf cryf, cynaliadwy i wneud gwahaniaeth. Rydym wedi adeiladu mwy o gartrefi, creu mwy o swyddi ac erbyn hyn rydym yn darparu ystod ehangach o wasanaethau nag oeddem yn ei wneud 12 mis yn ôl. Rydym yn sefydliad cryf sy'n gwybod yr hyn y mae'n sefyll drosto a'r hyn y mae am ei gyflawni. Mae'r cynllun hwn yn amlinellu ein cyfeiriad yn y dyfodol ac mae'r adran hon yn egluro rhagor ar y rhesymau pam ein bod mor hyderus. Rydym yn gwella o ran deall sut gallwn fesur yr hyn sy'n bwysig i'n preswylwyr

Mae ein gwerthoedd yn bwysig i ni, ac mae ein hymddygiad fel cwmni yn adlewyrchu hyn. Rydym yn falch o'n diben cymdeithasol a'r cyfraniad a wnawn yng Nghymru, ac rydym o ddifrif ynghylch ein rôl fel un o'r prif ddarparwyr tai. Rydym yn byw ein gwerthoedd, ac fel mae'r camau a grybwyllir yn y cynllun hwn yn ei ddangos, rydym yn canolbwyntio ar effeithlonrwydd, bod yn agored i newid a chefnogi ein preswylwyr yn tstod cyfnod sy’n parhau i fod yn anodd.

Ein gwerthoedd

Ein gwerthoedd Teg

Agored

Cyfrifol

Cefnogol

Cytbwys, gan roi canmoliaeth lle mae’n ddyledus ac yn adeiladol wrth fod yn feirniadol. Yn gynhwysol yn ein dull gweithredu, gan barchu urddas ac unigolrwydd pawb

Yn agored i newid, wedi ymrwymo i welliant ac addysg barhaus. Yn dryloyw, yn onest ac yn ddibynadwy

Yn broffesiynol, gan herio trefniadau presennol, perchenogi materion o bwys a defnyddio ein menter i sicrhau eu bod yn cael eu datrys

Yn hawdd delio â ni, yn hawdd mynd atom ni ac yn hygyrch. Yn groesawgar, yn ofalgar, yn gwrando ac yn ymateb

Effeithlon Yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau ac yn gwneud yn fawr o effaith ein gweithgareddau


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | 25

a defnyddio hyn i wella perfformiad. Rydym yn cydweithio'n agos â'n partneriaid strategol ac mae ein prosesau cynllunio asesu a corfforaethol yn canolbwyntio ar dueddiadau mewn perfformiad dros amser, a gwybod beth sy'n amharu ar welliant. Y ffordd orau o ganfod atebion yw trafod gyda’r staff sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau, ac mae sicrhau bod gan ein staff y sgiliau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt yn flaenoriaeth barhaus. Rydym yn newid y diwylliant ­ mae'n cymryd amser, ond mae ein cynnydd yn dda. Ein gwerthoedd a’n hegwyddorion gweithredu yw dwy sylfaen graidd ein sefydliad, a dyma sy’n cyfeirio’r hyn rydym yn ei wneud. Mae ein hegwyddorion gweithredu yn llywio yr hyn rydym yn ei wneud fel busnes, gyda'r pwyslais ar 'wneud y peth iawn' ar gyfer ein preswylwyr. Mae gormod o gwmnïau yn rhoi blaenoriaeth i elw, ond rydym ni yn rhoi blaenoriaeth i’n preswylwyr, drwy ail­ddylunio’r hyn rydym yn ei wneud i gyflawni'r hyn maen nhw wedi ei ddweud sydd bwysicaf iddyn nhw. Gwrando ar breswylwyr a theilwra’r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau yn unol â hynny yw'r hyn sydd wedi ein gwneud ni yn gryf a sicrhau bod lefelau bodlonrwydd mor uchel. Nid ydym yn canfod yr ateb iawn bob tro, ond rydym yn dysgu ac rydym yn gwella.

Egwyddorion gweithredu

Fe wnawn ni’r peth iawn i gyflawni’r hyn sydd o bwys i gwsmeriaid

Diben

Fe wnawn ni ddeall ein diben a’r hyn sydd o bwys i’n cwsmeriaid

Perfformiad

Fe wnawn ni ddeall ein perfformiad, gan ddefnyddio tystiolaeth a phrofiad

Problemau

Pobl

Fe wnawn ni ddatrys y problemau sy’n ein rhwystro rhag gwneud y peth iawn

Fe wnawn ni alluogi a chefnogi pobl i wneud y peth iawn


26 | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | Tai Wales & West

Tai Wales & West – grŵp sy’n tyfu Gyda rhagor o ddatblygu a gwasanaethau newydd, rydym wedi newid sut mae Tai Wales & West yn gweithredu. Rydym wedi creu is­gwmnïau i’n helpu i wneud popeth rydym ei eisiau yn fwy effeithiol na gwneud hynny drwy un cwmni. Gyda’i gilydd, rydym wedi ffurfio tri chwmni newydd, sy’n eiddo i Tai Wales & West yn gyfan gwbl ond sydd â swyddogaethau gwahanol iawn: Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria Wedi ei sefydlu yn 2010, mae Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, gydag adrannau yng ngogledd a de Cymru, nawr yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith cynnal a chadw tai ar gyfer WWH ledled gogledd, canolbarth a de Cymru Datblygiadau Enfys Mae’n ymgysylltu ag ymgynghorwyr a chontractwyr, a bydd yn

adeiladu ein holl gartrefi newydd i’w rhentu. Bydd Cartrefi Castell Cyf yn ymgorffori nifer o adrannau sy’n canolbwyntio ar fenter gymdeithasol, a’r cyntaf o’r rhain yw Arlwyo Castell. Bydd Arlwyo Castell yn darparu prydau yn ein cynlluniau gofal ychwanegol, ac fe fyddan nhw’n gweithio gyda phartneriaid i ddarparu hyfforddiant, gan gynorthwyo pobl i ganfod cyflogaeth. Cartrefi Castell yw’r ail adran, a bydd yn adeiladu cartrefi i’w gwerthu, yn aml ochr yn ochr â’r eiddo cymdeithasol a rhentu canolradd a ddatblygir ar gyfer Tai Wales & West.


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | 27

Yn dilyn ymestyn gwaith Cambria i ogledd Cymru, cyfrannwyd offer cyfrifiadurol nad oedd ei angen i MIND Cymru, elusen sy’n hyrwyddo iechyd meddwl da ac sy’n herio stigma am iechyd meddwl. Yn y llun, gwelir Phil Parry, y Rheolwr Adnoddau, ynghyd â Nigel Parry, Pennaeth Cambria (y Gogledd) yng nghwmni Meaghan McCauley o Fforwm Anabledd Sir y Fflint yn yr Wyddgrug.

Llun o Peter Jackson, Pennaeth Cambria (y De), a Neal O’Leary, Cadeirydd Bwrdd Cambria, gyda staff o ranbarth de a chanolbarth Cymru.


28 | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | Tai Wales & West

Gwybodaeth am y bwrdd a swyddogion gweithredol Bwrdd y cyfarwyddwyr Mae arweinyddiaeth yn hanfodol i unrhyw gwmni allu cyflawni ei nodau, ac yn WWH mae gennym dîm rhagorol sydd â’r sgiliau a'r profiad i arwain y sefydliad yn y blynyddoedd a ddaw. Mae cryfder ein Bwrdd yn dod o'i amrywiaeth ­ deuddeg o bobl sydd gyda'i gilydd yn meddu ar gannoedd o flynyddoedd o brofiad yn rhedeg busnesau, darparu gwasanaethau cyhoeddus a phreifat, magu teuluoedd, cefnogi elusennau a mentrau cymdeithasol a gweithredu fel eiriolwyr brwd dros bwysigrwydd tai yn ein cymunedau. Wedi'u dewis a'u hethol gan breswylwyr a chyfranddalwyr mewn dwy broses wahanol, mae aelodau ein Bwrdd yn defnyddio eu sgiliau a'u gwybodaeth yn llwyddiannus i lywodraethu’r Grŵp yn gyfrifol ac effeithiol.

Kathy Smart Cadeirydd y Bwrdd Mae gan Kathy radd meistr mewn Entrepreneuriaeth a Busnes ac mae ganddi ddealltwriaeth gadarn o'r farchnad datblygu eiddo. Mae Kathy yn adnabyddus yn nghymuned fusnes de Cymru ac mae'n eiriolwr cryf dros y sector tai. Mae hi wedi bod yn aelod o'n Bwrdd ers 2004.

Alex Ashton Is­gadeirydd y Bwrdd Mae gan Alex flynyddoedd lawer o brofiad o weithio gyda theuluoedd ac unigolion ar incwm isel o’i gyfnod gydag adran budd­daliadau tai awdurdodau lleol ac yn sgil ei waith fel gweinidog eglwys yn Mhen­y­bont ar Ogwr. Mae ganddo gymhwyster MBA a dealltwriaeth gadarn o gyllid a menter gymdeithasol, ac mae wedi bod yn aelod gweithgar o'n Bwrdd ers 2005, gan ymgymryd â nifer o rolau. Barrie Scholfield Bu Barrie yn gweithio am flynyddoedd lawer fel nyrs iechyd meddwl hyd ei ymddeoliad. Roedd Barrie yn un o sefydlwyr menter gymdeithasol a chymunedol yn

Bradford a oruchwyliodd y gwaith o adfywio tair stad o dai a oedd yn cynnwys mwy na 4,500 o gartrefi. Cafodd Barrie, sy’n ddeiliad prydles, ei ethol gan breswylwyr i'r Bwrdd yn 2013. David Davies Cafodd David, aelod o'r Bwrdd sy'n breswyliwr, ei ethol yn 2006. Mae'n weithgar yn y sector ac wedi cynrychioli tenantiaid ar fyrddau gwahanol sefydliadau. Mae'r rhain yn cynnwys Ffederasiwn Tenantiaid Cymru, y Sefydliad Tai Siartredig a'r Gwasanaeth Cynghori ar Gyfranogiad Tenantiaid (TPAS) Cymru. Emma Del Torto Mae Emma yn gyfreithiwr sy'n arbenigo ar gyfraith cyflogaeth, ac mae'n rheolwr gyfarwyddwr ei chwmni ei hun yn ne Cymru. Cafodd Emma ei hethol i'r Bwrdd yn 2013 ar ôl blwyddyn fel aelod annibynnol o'r Pwyllgor Uniondeb ac Archwilio, ac mae hi'n dal i fod yn aelod o’r Pwyllgor hwnnw. Ivor Gittens Ag yntau wedi ymddeol o'r Llu Awyr Brenhinol a chyda chefndir mewn peirianneg drydanol, mae Ivor wedi bod yn aelod o'n


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | 29

Bwrdd ers 1994 ac ef yw’r aelod sydd wedi gwasanaethu am y cyfnod hiraf o blith yr aelodau cyfredol. Mae Ivor yn ymwneud ag ystod o sefydliadau gan gynnwys monitro annibynnol yng Ngharchar y Parc ym Mhen­y­bont ar Ogwr, ac mae hefyd yn Gadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Mount Stuart, Butetown ac yn Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Parc Ninian yn Grangetown. James Rides Bu James yn ddyn tân ac mae wedi bod yn aelod o'r Bwrdd o’r blaen. Yn ddiweddar, cwbl­ haodd ei radd mewn polisi tai ac mae hefyd yn aelod o'r Panel Cynghori Tenantiaid sy’n cefnogi Bwrdd Rheoleiddio Cymru. Mae James yn aelod o'r Bwrdd sy'n breswyliwr a gafodd ei ethol gan breswylwyr yn 2013. John Williams Bu John yn gweithio fel rheolwr yn y sector gweithgynhyrchu ar gyfer y rhan fwyaf o'i yrfa, ac ers ymddeol wedi bod yn weithgar yn ei gymuned mewn gwahanol rolau gan gynnwys Is­gadeirydd y Cyngor Cymuned Offa, ar fwrdd Cymunedau yn Gyntaf

Hightown ac yn Gadeirydd Cymdeithas Preswylwyr Barracksfield, Wrecsam. Cafodd John ei ethol i'r Bwrdd am y tro gyntaf gan ei gyd­breswylwyr yn 2004 ac eto yn 2009. Mae John hefyd yn aelod o Fwrdd y Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria. Neal O’Leary Mae Neal yn syrfëwr siartredig sydd â chefndir helaeth ym maes cynnal a chadw a rheoli eiddo. Mae Neal yn bennaeth cadwraeth gyda Cadw, a chyn hynny bu'n gweithio ym myd tai cymdeithasol am 16 mlynedd. Ymunodd Neal â'n Bwrdd yn 2009 ac mae hefyd yn Gadeirydd Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria ar hyn o bryd

Rachel Fleri Graddiodd Rachel fel biolegydd morol a bu’n gweithio fel athrawes ysgol uwchradd am sawl blwyddyn cyn gadael i weithio ym maes gwerthu cynnyrch fferyllol. Ers 2004 mae Rachel wedi rhedeg ei chwmni diogelwch ei hun yng Nghaerdydd yn cyflogi mwy na 100 o bobl. Ymunodd Rachel â’r Bwrdd yn 2012 ar ôl nifer o

flynyddoedd fel aelod annibynnol o'r Pwyllgor Uniondeb ac Archwilio, a hi yw cadeirydd y pwyllgor hwnnw erbyn hyn. Sharon Lee Bu Sharon yn weithiwr proffesiynol yn y sector tai, ac mae ganddi 14 mlynedd o brofiad yng Nghymru a Lloegr fel uwch reolwr. Mae gan Sharon brofiad eang o reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol, o ganolfannau galw i gysylltiadau cyhoeddus. Ymunodd Sharon â’r Bwrdd yn 2011. Winnie Davies Mae Winnie yn eiriolwr brwd dros ymgysylltiad y gymuned a phreswylwyr. Bu'n gweithio am 7 mlynedd i’r Comisiwn Archwilio fel Arolygydd Tenantiaid, ac mae wedi bod yn aelod gweithgar o Ffederasiwn Tai'r Fro am flynyddoedd lawer. Mae Winnie hefyd yn aelod o nifer o Fyrddau a phaneli gan gynnwys Gofal Croesffyrdd Caerdydd a’r Fro a'r Senedd ar gyfer Pobl Hŷn a drefnir gan Age Cymru. Bu Winnie yn aelod o’r Bwrdd ers 2006.


30 | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | Tai Wales & West

Cyfarwyddwyr gweithredol Yn yr un modd â’n Bwrdd, daw cryfder ein Tîm Gweithredol drwy ei amrywiaeth. Mae’r sgiliau a’r profiad gwahanol wedi dod ag arloesi, syniadau ac egni i gyfeirio’r grŵp a dylan­ wadu ar y modd y caiff ei reoli. Anne Hinchey Prif Weithredwr Ar ôl graddio mewn gwleidyddiaeth ac addysg yn ogystal â meddu ar gymhwyster proffesiynol ym maes tai, dechreuodd Anne ei gyrfa fel casglwr rhenti yng Nghaerdydd yn 1985. Gyda phrofiad helaeth yn y sectorau awdurdod lleol, gwirfoddol a chymdeithasau tai, ymunodd Anne â Thai Wales & West yn 1999 a daeth yn Brif Weithredwr ym 2006. Mae Anne yn aelod o nifer o fyrddau gan gynnwys Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, Datblygiadau Enfys a Chartrefi Castell. Shayne Hembrow Dirprwy Brif Weithredwr / Cyfarwyddwr Masnachol Mae gan Shayne fwy nag 20 mlynedd o brofiad ym myd tai ac adfywio ar ôl gweithio yng Nghymru a Lloegr. Ar ôl saith mlynedd yn y sector preifat, daeth Shayne i’r sector tai cymdeithasol i weithio i Gyngor Dinas Caerloyw ac yna i’r Comisiwn Archwilio, gan reoli eu gwaith yn y sector tai yn Ne­orllewin Lloegr. Yn WWH

mae Shayne yn gyfrifol am wasanaethau cefnogi, datblygu a gwella perfformiad, ac yn aelod o Fyrddau Tai Cymunedol Cymru, Shelter Cymru, Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, Datblygiadau Enfys a Chartrefi Castell. Tony Wilson Cyfarwyddwr Cyllid Cyn ymuno â WWH yn 2002, treuliodd Tony 18 mlynedd mewn swyddi uwch reoli, yn bennaf mewn cwmnïau o'r radd flaenaf a restrwyd ar FTSE, a’r olaf o'r rhain oedd Centrica. Yn meddu ar radd economeg ac yn gyfrifydd siartredig gyda phrofiad mewn sawl sector, mae Tony wedi gweithio ym maes bancio a chyfalaf menter hefyd. Yn WWH mae Tony yn gyfrifol am gyllid, systemau gwybodaeth, iechyd a diogelwch, archwilio a chywirdeb. Mae Tony hefyd yn aelod o weithgor SORP sy'n pennu arfer gorau ar gyfer y mudiad cymdeithasau tai ledled y Deyrnas Unedig, ac mae hefyd yn aelod o fwrdd Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, Datblygiadau Enfys a Chartrefi Castell.

Steve Porter Cyfarwyddwr Gweithrediadau Yn raddedig mewn gwaith syrfëwr gyda chymhwyster proffesiynol ym maes adeiladu, mae gan Steve dros 20 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector tai mewn amrywiaeth o rolau cleient a chontractio. Ar ôl bron i bum mlynedd yn WWH fel Pennaeth Gwasanaethau Eiddo, penodwyd Steve yn Gyfarwyd­ dwr Gweithrediadau ym 2012. Mae'n gyfrifol am Dai, Gwasanaethau Eiddo a Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, a’r tu allan i WWH mae'n aelod o Fwrdd Tai Cymunedol Tai Calon. Mae'n aelod o fwrdd Datblygiadau Enfys a Chartrefi Castell.


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | 31

Cyflawniadau ac Achrediadau Rydym wedi cael cydnabyddiaeth gan nifer o sefydliadau annibynnol am y ffordd rydym yn gweithio a’r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Dyma rai enghreifftiau. 7fed safle yn rhestr y Sunday Times o gwmnïau nid­er­elw gorau 2013 a graddfa 3 seren ‘Eithriadol’ gan Best Companies 2013 Ni yw’r sefydliad nid­er­elw uchaf o Gymru ar y rhestr, rydym ymysg y 10 gorau ledled y Deyrnas Unedig, ac fe wnaethom ddal gafael yn ein sgôr 3 seren mawr ei fri am yr ail flwyddyn yn olynol.

Cymdeithas y Gwasanaethau Teleofal Mae ein gwasanaeth Larwm mewn Argyfwng wedi cael ei achredu gan y Gymdeithas Gwasanaethau Teleofal (TSA), sydd drwy fonitro galwadau yn sicrhau fod ein staff yn darparu’r gwasanaeth larwm mewn argyfwng o’r radd uchaf i’n preswylwyr a’n cleientiaid corfforaethol.

30 cyflogwr gorau i deuluoedd sy’n gweithio – 2012 Rydym yn cael ein cyfrif fel un o’r 30 cwmni gorau yn y Deyrnas Unedig, a ni yw’r unig gymdeithas tai o Gymru i ennill y wobr hon, ac un o ddwy gymdeithas tai yn unig ledled y Deyrnas Unedig i gyrraedd y 30 uchaf. Ymysg y rhai eraill a oedd yn y 30 uchaf roedd cwmnïau blaenllaw fel Deutsche Bank, Dell Corporation, McDonalds a Sainsburys.

Cymdeithas Rheolwyr Tai er Ymddeol Rydym wedi cael ein hachredu gan Gymdeithas y Rheolwyr Tai er Ymddeol, sy’n golygu ein bod yn darparu gwasanaeth o safon uchel i’n preswylwyr hŷn.

Buddsoddwyr mewn Pobl Cawsom y raddfa uchaf posibl yn yr asesiad a gynhaliwyd yng ngwanwyn 2012. Stonewall Cymru – ‘Hyrwyddwr Amrywiaeth’ Ers 2008 rydym wedi caelein cydnabod fel cwmni sy’n ymrwymedig i gydraddoldeb ac amrywiaeth ar sail tueddfryd rhywiol. Age Positive – Hyrwyddwr Cyflogwyr Mae’r wobr hon yn cydnabod ein bod ni’n ymrwymedig i gydraddoldeb ar sail oedran ym mhob agwedd ar ein busnes. Gwobr y Ddraig Werdd Ers 2010 mae gwobr amgylcheddol Lefel 2 y Ddraig Werdd wedi cael ei dyfarnu i’n swyddfeydd yng Nghaerdydd a’r Fflint.

Gwobrau i’r staff Mae ein staff hefyd yn cael eu cydnabod yn rheolaidd gan y sector tai a chyrff dyfarnu eraill am eu gwaith gwych. Mae’r rhain yn cynnwys: • Roeddem ar y rhestr fer ar gyfer y categori Cydweithiwr Ysbrydoledig yng Ngwobrau Arwyr Tai 2013 • Gwobrau Arwyr Tai Cenedlaethol ­ ar restr fer 2011 ac yn gyd­enillydd yn 2010 • Fe wnaethom ennill Gwobr Hyrwyddwr Cymunedol 2011 Partneriaethau a Chymunedau Ynghyd (PACT) • Yn 2011, roeddem ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Tai Sefydliad Siartredig Tai y Deyrnas Unedig yn ogystal â thair o wobrau Tai Cymru CIH. • Hefyd yn 2011 fe wnaethom ennill Annibyniaeth 2011 Gwobr Comisiynu Da Hyrwyddo Cymorth Cymru. • Rydym ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Tai CIH y Deyrnas Unedig 2012 ac wedi ennill nifer o wobrau TPAS (Gwasanaeth Cynghori Cyfranogaeth Tenantiaid) Cymru.


32 | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | Tai Wales & West

Sefyllfa ariannol Mae ein sefyllfa ariannol gadarn yn ein galluogi i fenthyg symiau sylweddol o arian i ariannu twf ein stoc yn y sector tai, gan wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a darparu ysgogiad economaidd yn eu cymunedau. Mae’r ffyrdd effeithlon a chost isel rydym yn ymdrin â chyllid hefyd yn cyfrannu at wargedion blynyddol iach a llifau arian parod sy'n cael eu hail­fuddsoddi yn y busnes. Rydym yn disgwyl cyflawni cynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn yn yr arian sydd wrth gefn hyd yn oed ar ôl amsugno y dyledion drwg a chostau ychwanegol helpu preswylwyr i dalu’r hyn fydd yn deillio o newidiadau i fudd­daliadau lles. Yn ystod y cyfnod o bum mlynedd hyd 2018, byddwn yn ail­fuddsoddi £36 miliwn yn ein stoc tai presennol, fel eu bod yn parhau i gydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru, sydd wedi ei gyflawni eisoes. Mae hyn nid yn unig yn cynnwys ceginau newydd, ystafelloedd ymolchi ac asedau newydd eraill, ond hefyd wasanaethau ychwanegol fel WiFi rhad ac am ddim i lawer o breswylwyr lle mae gosodiadau cymunedol yn ymarferol. Bydd hyn i gyd, ynghyd â'r ad­daliadau benthyciad cytundebol presennol sy’n ddyledus, yn cael eu cyllido drwy ein hincwm a thrwy reoli gwariant yn ofalus. Byddwn yn buddsoddi £ 139 miliwn dros y pum mlynedd nesaf, gan adeiladu a chaffael mwy na 1,000 o gartrefi, a bydd tua 200 o dan gynllun Grant Cyllid Tai, lle bydd swm sy'n cyfateb i Grant Tai Cymdeithasol yn cael ei dderbyn mewn rhandaliadau dros 30 mlynedd. Mae hyn yn golygu y byddwn yn benthyg swm mwy ymlaen llaw o'i gymharu â chynlluniau mwy traddodiadol a gyllidir drwy grantiau. Er bod grantiau yn cael eu cadarnhau ar gyfer y rhan fwyaf o gynlluniau yn ystod dwy flynedd gyntaf y cynllun, mae

gallu'r Llywodraeth i ddyfarnu grantiau y tu hwnt i 2016 yn llai sicr. Byddwn yn datblygu gan ddefnyddio grantiau pan fyddan nhw ar gael, gan y bydd hynny'n gwneud y gorau o ddarparu tai rhent fforddiadwy a gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau a chymunedau pobl. Lle nad oes grant ar gael, byddwn yn dal i ddatblygu cartrefi a chodi rhenti ar lefel uwch na rhenti cymdeithasol fel bod cynlluniau yn hyfyw, a gall o leiaf 1,000 o unedau gael eu cyflenwi yn ystod cyfnod o bum mlynedd. O safbwynt cynllunio, rydym wedi tybio y byddwn yn derbyn £46 miliwn mewn derbyniadau grant, a bydd yn codi £60 miliwn o fenthyciadau newydd, yn ychwanegol at gyfleusterau presennol fel ym mis Gorffennaf 2013, ynghyd â £25 miliwn yn ychwanegol y disgwylir iddo gael ei godi yn yr ail hanner 2013 dan y trefniadau "Bond Cymru" sy'n gysylltiedig â'r cynllun Grant Cyllid Tai. Rydym yn disgwyl y bydd o leiaf 750 o'r cartrefi, y mae eu hangen yn fawr, i fod yn dai rhent tai cymdeithasol, gyda'r gweddill ar lefelau rhent canolradd neu bris y farchnad. Rydym hefyd yn bwriadu adeiladu 90 o gartrefi ar bris y farchnad drwy ein his­gwmni

Cartrefi Castell, gan ysgogi'r economi ymhellach a darparu elw a fydd yn cael ei ail­fuddsoddi mewn darparu cartrefi i'w rhentu. Mae cynhyrchu arian dros ben yn ein galluogi i gynyddu ein cronfeydd wrth gefn, er bydd ein cymhareb gerio benthyciadau yn erbyn gwerth net yn dal i godi, o 37% ar ddiwedd 2012 i 48% erbyn 2018, o ganlyniad i ddatblygiadau naill ai heb grantiau neu gyda derbyniadau grant gohiriedig. Ar y lefel hon, byddwn yn aros o fewn y cyfyngiad cyfamod gerio isaf o 50% a osodwyd gan ddau o'n benthycwyr, ac yn bodloni gofynion sicrwydd llog benthycwyr yn gyfforddus. Er bod llawer o ansicrwydd ynghylch gweithredu ac effaith y diwygiadau lles ar reoli dyledion, mae ein cynllun yn ddigon darbodus i baratoi ar gyfer lefel uwch o gyfalaf gweithio ac adnoddau ychwanegol er mwyn gweithio gyda phreswylwyr. Mae ein sefyllfa a’n rhagolygon ariannol cryf yn golygu ein bod mewn sefyllfa dda i gael mynediad at y cronfeydd sylweddol y bydd eu hangen arnom ar gyfer ein dyheadau twf.


Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2014 i 2018 | 33

CRYNODEB ARIANNOL 2014 – 2018 CYFRIF INCWM A GWARIANT 2014 Cynllun £m

2015 Cynllun £m

2016 Cynllun £m

2017 Cynllun £m

2018 Cynllun £m

2014 Ͳ 2018 Cyfanswm £m

41.4 (31.1) 10.3 (5.0) 5.3

44.0 (32.3) 11.7 (5.2) 6.5

47.1 (34.1) 13.0 (6.5) 6.5

49.8 (34.9) 14.9 (7.2) 7.7

52.7 (36.9) 15.8 (8.3) 7.5

235.0 (169.3) 65.7 (32.2) 33.5

2014 Cynllun £m

2015 Cynllun £m

2016 Cynllun £m

2017 Cynllun £m

2018 Cynllun £m

488.6 (271.5) (45.7) 171.4 (143.3) 21.2 49.3 45%

525.0 (282.3) (51.1) 191.6 (157.2) 21.4 55.8 47%

555.2 (290.9) (56.9) 207.4 (166.5) 21.5 62.4 47%

584.9 (300.3) (63.2) 221.4 (172.6) 21.3 70.1 47%

625.6 (311.7) (70.0) 243.9 (185.3) 19.0 77.6 48%

Ar gyfer blynyddoedd a ddaw i ben ar 31 Rhagfyr

2014 Cynllun £m

2015 Cynllun £m

2016 Cynllun £m

2017 Cynllun £m

2018 Cynllun £m

2014 Ͳ 2018 Cyfanswm £m

Llif arian net o weithrediadau Taliadau llog net Gwariant cyfalaf amnewid Cydrannau amnewid Llif arian rhydd i mewn Gwariant datblygu SHG/HFG Llif arian net allan cyn cyllido

14.5 (5.0) (0.8) (7.4) 1.3 (28.2) 3.8 (23.1) 27.5 0.0 (2.1) 2.3

17.2 (5.2) (0.6) (7.0) 4.4 (29.5) 11.1 (14.0) 6.5 9.5 (2.0) (0.0)

19.0 (6.5) (0.7) (7.2) 4.6 (23.0) 9.1 (9.3) 0.0 11.3 (2.0) 0.0

21.7 (7.2) (0.7) (5.6) 8.2 (24.1) 9.8 (6.1) 0.0 8.9 (2.8) 0.0

22.7 (8.3) (0.7) (6.0) 7.7 (34.7) 11.9 (15.1) 0.0 30.6 (17.9) (2.4)

95.1 (32.2) (3.5) (33.2) 26.2 (139.5) 45.7 (67.6) 34.0 60.3 (26.8) (0.1)

2014 Cynllun

2015 Cynllun

2016 Cynllun

2017 Cynllun

2018 Cynllun

4.0% 3.8% 3.5% 3.0%

4.0% 4.0% 3.8% 3.0%

4.5% 4.5% 4.5% 3.5%

4.5% 4.5% 4.5% 3.5%

4.5% 4.5% 4.5% 3.5%

4.8% 58.0%

5.0% 58.0%

5.3% 58.0%

5.6% 58.0%

5.9% 58.0%

Ar gyfer blynyddoedd a ddaw i ben ar 31 Rhagfyr

Incwm Rhenti/taliadau gwasanaeth net Costau gweithredu Gwarged gweithredol Llog net sy’n daladwy Gwarged MANTOLEN Fel yr oedd ar 31 Rhagfyr

Costau eiddo gros Grant Tai Dibrisiad Cost net eiddo Benthyciadau Asedau net eraill Asedau net ac arian wrth gefn Cymhareb gerio LLIF ARIAN

Tynnu i lawr y prif fenthyciad Ͳ cyfleuster hysbys

Gofynion cyfleuster ychwanegol AdͲdaliadau’r prif fenthyciad Cynnydd/(gostyngiad) mewn arian parod TYBIAETHAU Ar gyfer blynyddoedd a ddaw i ben ar 31 Rhagfyr

Chwyddiant Rhent Cyflogau Costau cynnal a chadw RPI Cyllido Cyfradd benthyciadau net Cyfradd grantiau


Tai Wales & West 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. ac Uned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fflint CH6 5YN. Ffoniwch ni ar 0800 052 2526 E­bost: contactus@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.co.uk @wwha wwhahomesforwales

Cyhoeddwyd ym Medi 2013


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.