LDAG News 3 winter 2013/2014 Easy Read (Cymraeg)

Page 1

Hawdd ei Ddeall

Newyddion GCAD

Gaeaf 2013/2014

30 Mlynedd a Dal i Gyfrif Strategaeth Cymru Gyfan 1983

Ar 14 Hydref 2013 cynhaliwyd digwyddiad i ddathlu 30 mlynedd o Strategaeth Cymru Gyfan. Ysgrifennwyd Strategaeth Cymru Gyfan gan y Swyddfa Gymreig ym 1983. Amcan Strategaeth Cymru Gyfan oedd gadael i bobl ag anabledd dysgu fyw bywydau cyffredin yn eu cymunedau. Dywedodd y dylai pobl ag anabledd dysgu: 

gael dewisiadau

cael eu trin fel unigolion

cael help a chefnogaeth i fyw yn y gymuned.

Helpodd Strategaeth Cymru Gyfan bobl ag anabledd dysgu i ddechrau symud allan o ysbytai mawr fel Hensol ac Threlái. (Muy ar dudalen 2)

Cylchlythyr Hawdd ei Ddeall


Dudalen 2

Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 1)

Dechreuodd pobl fyw yn y gymuned gyda chefnogaeth am y tro cyntaf yng Nghymru. Gwnaeth Grŵp Cynghori ym maes Anabledd Dysgu (GCAD), Mencap Cymru a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan i gyd helpu i dalu am y digwyddiad.

“To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story here.”

Gwnaeth Anabledd Dysgu Cymru a Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan helpu i gynllunio’r digwyddiad. Daeth pobl ag anabledd dysgu, teuluoedd a phobl sy’n gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu i gyd i’r digwyddiad. Gwnaeth Roger Banks a Sophie Hinksman gadeirio’r dydd gyda’i gilydd.

Roger

Sophie

Gwenda Thomas

Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

Siaradodd Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol, am y newidiadau yng Nghymru i bobl ag anabledd dysgu dros y 30 mlynedd diwethaf. Siaradodd hefyd am y dyfodol a Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). (Muy ar dudalen 3)


Gaeaf 2013/2014

Dudalen 3

(O dudalen 2)

Deddf newydd Cymreig yw hwn ynglŷn â ffyrdd y gall pobl gael help a chefnogaeth i fyw eu bywydau. Siaradodd Pobl yn Gyntaf Caerdydd am eu prosiect yn ymwneud â’r profiad o fyw yn Ysbyty Trelái. Siaradodd Pauline Young am fod yn rhiant i fab ag anabledd dysgu.

“To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story here.”

Cafodd pobl yn y digwyddiad gyfle i ddweud eu storïau eu hunain am fyw yng Nghymru dros y 30 mlynedd diwethaf. Cafodd pawb gyfle hefyd i siarad mewn grwpiau bach am wahanol bethau sy’n rhan o fywyd cymunedol fel: 

gwaith

trawsnewid

trosedd casineb.

Siaradodd pobl am eu bywydau eu hunain a rhai o’r problemau roedden nhw’n eu hwynebu. (Muy ar dudalen 4)


Dudalen 4

Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 3)

Siaradon nhw hefyd ynghylch sut i wneud pethau’n well. Gwnaeth pob grŵp nodyn o beth roedd pobl yn ei feddwl. Adroddiad

“To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story here.”

Bydd y nodiadau hyn yn cael eu rhoi mewn adroddiad er mwyn i’r Grŵp Cynghori edrych arnynt a meddwl beth y bydd arnyn nhw angen ei wneud. Gyda’r nos roedd pryd bwyd a disgo. Siaradodd Jane Hutt, AC a’r Gweinidog Cyllid, am brosiect Nimrod.

Jane Hutt

Cychwynwyd prosiect Nimrod ym 1981 gyda gwasanaethau yn gweithio gyda’i gilydd yn y gymuned. Erbyn 1986 roedd prosiect Nimrod yn rhoi cefnogaeth i 150 o bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru fyw yn y gymuned. (Muy ar dudalen 5)


Gaeaf 2013/2014

Dudalen 5

(O dudalen 4)

Strategaeth

Ysgrifennwyd Strategaeth Cymru Gyfan ym 1983 oherwydd y gwaith roedd prosiect Nimrod wedi ei ddechrau. Mae Jane Hutt yn ymddiriedolwr i Bobl yn Gyntaf Y Fro. Roedd yn dweud cymaint roedd Pobl yn Gyntaf yng Nghymru wedi tyfu dros y ddeng mlynedd ar hugain diwethaf. “To catch the reader's attention, place an

interesting sentence or quote from the story here.”

Dywedodd Jane hefyd bod y Fframwaith ar gyfer Byw’n Annibynnol yr un mor bwysig â’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

Nawr?

30 mlynedd?

Roedd y digwyddiad yn gyfle i edrych yn ôl ar y 30 mlynedd diwethaf. Roedd yn gyfle hefyd i feddwl ynghylch ble rydyn ni nawr a ble mae arnon ni eisiau bod mewn 30 mlynedd.


Dudalen 6

Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall

Iechyd Hawdd ei Ddeall Cymru Mae gwefan Iechyd Hawdd ei Ddeall Cymru yn helpu pobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd i ddod o hyd i wybodaeth hawdd ei deall am iechyd a lles.

“To catch the reader's attention, place an

Mae llawer o wybodaeth hawdd ei deall ar y wefan am bethau fel cael prawf gwaed neu sut i wneud yn siŵr nad ydych chi’n mynd yn rhwym.

interesting sentence or quote from the story here.”

Mae’r wefan yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae fideos i helpu pobl ddeall y geiriau ar brif dudalennau’r wefan. Os oes arnoch chi eisiau help i ddod o hyd i wybodaeth ar y wefan neu ei deall, gallwch chi ffonio’r llinell gymorth ar 0808 808 1111. Mae Iechyd Hawdd ei Ddeall Cymru yn cael ei dalu amdano gan Lywodraeth Cymru. Cafodd y wefan ei gwneud fel rhan o brosiect am wybodaeth hawdd ei deall.

(Muy ar dudalen 7)


Gaeaf 2013/2014

Dudalen 7

(O dudalen 6)

Gweithiodd Anabledd Dysgu Cymru, Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, Mencap Cymru a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan gyda’i gilydd ar y prosiect. Daeth y prosiect i ben ar 31 Mawrth 2013. Mae Llywodraeth Cymru yn talu arian fel bo Samantha Williams yn gallu diweddaru’r wefan a gwneud yn siŵr bod pobl yn gwybod amdano. “To catch the reader's attention, place an

interesting sentence or quote from the story here.”

Samantha Williams yw Swyddog Gwybodaeth y Grŵp Cynghori ym maes Anabledd Dysgu. Samantha Williams

Ym aml mae iechyd pobl ag anabledd dysgu yn waeth na iechyd pobl eraill. Nid yw gwasanaethau iechyd bob amser yn gwneud newidiadau i helpu pobl ag anabledd dysgu gael gofal iechyd da. Un ffordd y gall pobl ag anabledd dysgu aros yn iach yw trwy gael gwybodaeth o safon dda y gallan nhw ei deall. (Muy ar dudalen 8)


Dudalen 8

Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 7)

Mae grŵp bach o bobl o’r Grŵp Cynghori yn edrych pam y mae pobl ag anabledd dysgu â gwaeth iechyd na phobl eraill a sut i’w wneud yn well. Bydd y grŵp yn dweud wrth y Grŵp Cynghori beth maen nhw wedi ei ddarganfod.

“To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story here.”

Fe allwch chi edrych ar wefan Iechyd Hawdd ei Ddeall Cymru yma: www.iechydhawddeiddeallcymru.org.uk. Gadewch i Samantha Williams wybod beth rydych chi’n ei feddwl o’r wefan.

Samantha Williams

E-bost

Gallwch chi hefyd siarad â Samantha os oes gennych chi unrhyw wybodaeth hawdd ei deall ynghylch iechyd i’w hychwanegu at y wefan neu os hoffech chi gael posteri a chardiau i ddweud wrth bobl eraill am y wefan. Gallwch chi ffonio Samantha ar 029 20681177 neu anfon e-bost ati yn samantha.williams@ldw.org.uk.


Gaeaf 2013/2014

Dudalen 9

Prosiect yn ysbytai Gogledd Cymru Daeth Dr Delia Wainwright i gyfarfod y Grŵp Cynghori ym mis Mehefin i siarad am brosiect yn ysbytai Gogledd Cymru. Mae Delia yn Rheolwr Rhaglenni Nyrsys Anabledd Dysgu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dechreuwyd y prosiect oherwydd rhai pryderon am y ffordd yr oedd staff yr ysbyty yn gofalu am bobl ag anabledd dysgu. “To catch the reader's attention, place an

interesting sentence or quote from the story here.”

Prif amcan y prosiect oedd ei gwneud hi’n haws i bobl ag anabledd dysgu gael gafael ar wasanaethau mewn 3 phrif ysbyty yng Ngogledd Cymru: 

Ysbyty Gwynedd

Maelor Wrecsam

Ysbyty Glan Clwyd.

Gweithiodd Nyrsys Cysylltu ym maes Anabledd Dysgu ar y prosiect i roi cefnogaeth i bobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd pan oedden nhw’n mynd i’r ysbyty am driniaeth neu’n gorfod aros yn yr ysbyty. (Muy ar dudalen 10)


Dudalen 10

Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 9)

Fe weithion nhw fel Nyrsys Cysylltu Gofal Trylwyr ym mhob ysybyty. Mae hyn yn meddwl eu bod yn gweithio gyda llawer o wahanol bobl i wneud yn siŵr bod pobl ag anabledd dysgu yn cael gofal iechyd da pan oedden nhw’n mynd i’r ysbyty.

“To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story here.”

Gweithiai’r Nyrsys Cysylltu Gofal Trylwyr gyda staff o wasanaethau iechyd a chymdeithasol yn ogystal â’r bobl sy’n mynd i’r ysbyty a’u teuluoedd a’u gofalwyr. Roedden nhw’n gwneud yn siŵr bod pobl yn cael gwybodaeth oedd yn hawdd ei deall. Roedden nhw’n rhoi hyfforddiant a gwybodaeth i staff ynghylch cefnogi pobl ag anabledd dysgu. Roedden nhw’n ymweld â phobl tra oedden nhw’n aros yn yr ysbyty nes roedden nhw’n mynd adref.

(Muy ar dudalen 11)


Gaeaf 2013/2014

Dudalen 11

(O dudalen 10)

Weithiau roedden nhw’n ymweld â phobl ar ôl iddyn nhw adael yr ysbyty i weld sut roedd pethau’n mynd.

Pasport Goleuadau Traffig

Gwelodd y prosiect bod gan bron i hanner y bobl ag anabledd dysgu a aeth i’r ysbyty Basport Goleuadau Traffig yn barod neu eu bod wedi llenwi un tra oedden nhw yno. Mae’r Pasport Goleuadau Traffig yn gallu cael eu llenwi i mewn gyda help gan deuluoedd, gofalwyr neu staff cefnogi. “To catch the reader's attention, place an

interesting sentence or quote from the story here.”

Nid yw’r Pasport Goleuadau Traffig i fod i gael ei ddefnyddio yn lle asesiad iawn gan staff iechyd. Mae’n ffordd hawdd a chyflym i ysbytai ddod o hyd i wybodaeth bwysig am y claf a’i anghenion. Mae’n gallu helpu staff i ddeall sut i gyfathrebu â’r claf a gweld beth yw’r ffyrdd gorau o’u cefnogi tra byddan nhw yn yr ysbyty.

(Muy ar dudalen 12


Dudalen 12

Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 11)

Dyma rai o’r ffyrdd y gwnaeth y prosiect wella gwasanaethau ysbyty i bobl ag anabledd dysgu: 

“To catch the reader's attention, place an

interesting sentence or quote from the story here.”

Roedd staff yn gwybod mwy am beth roedd ar bobl ag anabledd dysgu ei angen ac roedden nhw’n teimlo’n fwy hyderus i’w cefnogi. Roedd gwasanaethau yn y gymuned yn gwybod mwy am rai o’r problemau oedd yn wynebu staff oedd yn gweithio ym myd iechyd. Roedd iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio’n well gyda’i gilydd. Roedd cleifion a’u teuluoedd a’u gofalwyr yn teimlo’n llai pryderus ynglŷn â mynd i’r ysbyty ac roedden nhw’n cael gwell cefnogaeth pan oedden nhw yn yr ysbyty.

Dyma rai o’r newidiadau y buasai’r prosiect yn hoffi eu gwneud: 

Mae angen ar i ofal mewn ysbyty fod yn fwy hyblyg. Weithiau mae hyn yn meddwl gwneud pethau mewn ffordd wahanol. (Muy ar dudalen 13)


Gaeaf 2013/2014

Dudalen 13

(O dudalen 12)

Pan fydd pobl yn mynd i’r adran Ddamweiniau ac Achosion Brys dylai’r wybodaeth ar y cyfrifiadur ddweud wrth staff bod gan y person anabledd dysgu. Gwneud yn siŵr bod gwell gwybodaeth ar gael pan fydd pobl ag anabledd dysgu yn mynd i’r ysbyty. Dylai pob ysbyty gael Nyrs Gysylltu Gofal Trylwyr.

“To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story here.”

Dylai’r Nyrs Gysylltu Gofal Trylwyr fod ynghlwm wrth yr achos cyn i’r person ag anabledd dysgu fynd i’r ysybyty neu cyn gynted â phosibl ar ôl iddo gyrraedd. Dylai gwybodaeth fod yn hawdd i’w deall. Dylai Pasportau Goleuadau Traffig gael eu defnyddio. Dylai pob aelod o staff ysbytai gael eu hyfforddi. Dylai staff a theuluoedd a gofalwyr weithio gyda’i gilydd.


Dudalen 14

Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall

Cyfarwyddwr ag anabledd dysgu Mae Joe Powell yn Gyfarwyddwr Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan ac yn aelod o’r Grŵp Cynghori. Y mae wedi bod yn siarad am y ffordd y daeth yn Gyfarwyddwr cyntaf ag anabledd dysgu.

“To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story here.”

Pan benderfynodd Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan geisio dod o hyd i rywun ag anabledd dysgu i fod yn Gyfarwyddwr newydd, roedd llawer o bobl yn llawn cyffro. Ond dywedodd rhai pobl na fuasai byth yn gweithio gan nad oedden nhw’n gwybod am neb ag anabledd dysgu fuasai’n gallu gwneud y gwaith hwnnw. Roedd Cyngor Cenedlaethol Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn siŵr bod rhywun ag anabledd dysgu fuasai’n gallu gwneud y gwaith. Dywedodd Joe Powell nad oedd neb yn gwybod mewn gwirionedd beth fyddai’n digwydd, ddim hyd yn oed ef ei hun.

(Muy ar dudalen 15)


Gaeaf 2013/2014

Dudalen 15

(O dudalen 14)

Dywedodd Joe y dylen ni fod yn ofalus i beidio â cheisio gwneud pethau dim ond am ein bod ni’n meddwl y dylen ni. Efallai ei fod yn swnio’n dda i gael person ag anabledd dysgu fel Cyfarwyddwr i bob mudiad sy’n gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu. Ond fuasai ddim yn beth da i roi gwaith i bobl na fuasen nhw byth yn gallu ei wneud yn iawn.

“To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story here.”

Dywedodd bod Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan wedi meddwl llawer am hyn cyn penderfynu rhoi gwaith Cyfarwyddwr i rywun ag anabledd dysgu. Doedd Joe erioed wedi bod yn Gyfarwyddwr o’r blaen ac roedd ganddo lawer i’w ddysgu. Gweithiodd gydag aelodau eraill o’r staff yn Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan: John Pearse a Yvonne Boxall. John a Yvonne

Pan ddechreuodd Joe ei waith fel Cyfarwyddwr roedd yn poeni y byddai rhai pobl yn anhapus am nad oedd yn dod o un o grwpiau Pobl yn Gyntaf. (Muy ar dudalen 16)


Dudalen 16

Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 15)

Ond roedd pawb yn garedig iawn ac yn helpu Joe i ddod i arfer â’i waith newydd. Dywedodd Joe y bu bron iddo beidio ag anfon ei ffurflen gais am y swydd. Enw

Enw Gyfeiriad Addysg Gwaith

“To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story here.”

Nid oedd hyn am ei fod yn meddwl na allai rhywun ag anabledd dysgu wneud y gwaith. Roedd am ei fod wedi cael amser caled mewn gwaith arall pan oedd yn ifanc a gwnaeth hyn iddo feddwl na allai byth gael gwaith iawn. Dywedodd Richard Mills o ‘Research Autism’ a Chymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth wrth Joe ei fod yn meddwl y gallai’n bendant wneud y gwaith o fod yn Gyfarwyddwr. Ond dywedodd y buasai angen y gefnogaeth briodol ar Joe iddo fedru gwneud y gwaith yn iawn. Dywedodd y byddai ar unrhyw Gyfarwyddwr angen cefnogaeth, nid dim ond rhywun ag anabledd.

(Muy ar dudalen 17)


Gaeaf 2013/2014

Dudalen 17

(O dudalen 16)

Roedd gan Bobl yn Gyntaf Cymru Gyfan gynllun clir yn barod ynglŷn â’r ffordd o ddod o hyd i’r Cyfarwyddwr newydd a’i gefnogi. Edrychodd aelod Pobl yn Gyntaf Caerffili ar yr holl geisiadau ar gyfer y gwaith a phenderfynu pa bobl i’w cyfweld. Y cynllun oedd i’r Cyfarwyddwr newydd weithio am 2 ddiwrnod o’r wythnos am 9 mis gyda chefnogaeth Yvonne Boxall fel prawf. “To catch the reader's attention, place an

interesting sentence or quote from the story here.”

Yvonne Boxall

Petai’r prawf yn mynd yn dda, yna byddai’r Cyfarwyddwr newydd yn dechrau gweithio 3 diwrnod yr wythnos gyda chefnogaeth Cynorthwy-ydd Personol. Byddai’r Cyfarwyddwr yn rhannu rheolaeth o’r mudiad gyda’r Rheolwr Busnes, John Pearse.

John Pearse

Ond newidiodd y cynllun hwn. Doedd dim angen Cynorthwy-ydd Personol ar Joe. Doedd arno ddim angen 9 mis cyfan o brawf.

(Muy ar dudalen 18)


Dudalen 18

Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 17)

6

Roedd yn barod i ddechrau gweithio 3 diwrnod yr wythnos ar ôl dim ond 6 mis. Roedd Joe a John hefyd yn teimlo ei bod hi’n bwysig cadw Yvonne yn rhan o’r tîm rheoli gan ei bod hi wedi gweithio i Bobl yn Gyntaf Cymru Gyfan am gymaint o hyd.

“To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story

Yvonne Boxall

here.”

Fe ofynnon nhw i Yvonne ymuno â nhw fel aelod cyfartal o’r tîm rheoli a dywedodd hi y buasai’n gwneud. Mae Joe wedi dysgu llawer gan Yvonne ers iddo ddechrau ac mae’n falch iawn ei bod wedi dweud y gwnâi hi. Roedd grwpiau Pobl yn Gyntaf hefyd yn falch iawn o glywed bod Yvonne yn ymuno â’r tîm rheoli newydd. Mae Joe yn gwybod bod ganddo lawer i’w ddysgu eto ac y byddai hyn yn cymryd amser. Mae wedi caru pob eiliad fel Cyfarwyddwr Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan.

(Muy ar dudalen 19)


Gaeaf 2013/2014

Dudalen 19

(O dudalen 18)

Mae e wrth ei fodd yn cyfarfod aelodau Pobl yn Gyntaf a staff. Mae e’n falch o gael gweithio i fudiad y mae’n credu ynddo. Mae e’n falch o fedru dweud wrth bobl beth y mae aelodau Pobl yn Gyntaf yn ei feddwl. Mae stori Joe ei hun wedi ei helpu i egluro pam y mae ar wasanaethau angen newid i wneud bywyd yn well i bobl ag anabledd dysgu. “To catch the reader's attention, place an

interesting sentence or quote from the story here.”

Cafodd Joe brofiadau gwael iawn pan oedd mewn gofal pan oedd yn ifanc. Mae’n dweud nad yw hi’n iawn bod rhai pobl ag anabledd dysgu yn dal i gael eu trin yn wael heddiw. Mae e’n falch ei fod e’n gweithio gyda’r Grŵp Cynghori i wneud bywyd yn well i bobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd yng Nghymru.


Dudalen 20

Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall

Gwybodaeth am bobl ag anabledd dysgu sy’n byw yng Nghymru

Gwenda Thomas

“To catch the reader's attention, place an interesting sentence or quote from the story here.”

Yn 2009 gofynnodd Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol, i Uned Ddata Cymru gasglu llawer o wybodaeth am bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru at ei gilydd. Roedd hyn oherwydd bod yr hen grŵp ymgynghori wedi dweud wrthi bod angen yr wybodaeth hon i helpu gwasanaethau i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Cafodd yr wybodaeth hon ei galw’n Set Ddata Ofynnol Anableddau Dysgu. Talodd Llywodraeth Cymru i’r wybodaeth gael ei chasglu at ei gilydd gan Uned Ddata Cymru. Daeth yr wybodaeth o’r awdurdodau lleol yng Nghymru. Roedd yr wybodaeth ar wefan InfoBaseCymru. Roeddech chi’n gallu edrych ar yr wybodaeth mewn gwahanol ffyrdd. Er enghraifft, mapiau a thablau. (Muy ar dudalen 21)


Gaeaf 2013/2014

Dudalen 21

(O dudalen 20)

Roedd gwybodaeth am: 

ble mae pobl ag anabledd dysgu yn byw

pa wasanaethau maen nhw’n ei gael

faint o arian mae gwasanaethau cymdeithasol yn ei wario ar wasanaethau ar gyfer pobl ag anabledd dysgu plant a phobl ifainc ag anabledd dysgu. “To catch the reader's attention, place an

Roedd yr arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer casglu’r wybodaeth at ei gilydd wedi dod i ben beth amser yn ôl.

interesting sentence or quote from the story here.”

Penderfynodd Uned Ddata Cymru beidio â rhoi’r wybodaeth at ei gilydd ar gyfer 2012 i 2013 ac fe dynnon nhw ef oddi ar y wefan. Cafodd Samantha Williams, Swyddog Gwybodaeth GCAD, gyfarfod gyda phobl sy’n gweithio yn Uned Ddata Cymru i siarad am yr wybodaeth.

Samantha Williams

Dywedodd wrthyn nhw pa mor bwysig yr oedd a pham roedd hi’n meddwl y dylen nhw ei rhoi hi’n ôl ar y wefan. (Muy ar dudalen 22)


Dudalen 22

Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall (O dudalen 21)

Roedd hi wedi dweud wrth bobl am y wefan yn gynt pan oedden nhw wedi bod yn chwilio am wybodaeth am bobl ag anabledd dysgu oedd yn byw yng Nghymru. Ond nid oedd y rhan fwyaf o bobl yn gwybod am yr wybodaeth ar y wefan. Dywedodd y buasai mwy o bobl yn edrych ar yr wybodaeth ar y wefan petai mwy o bobl yn gwybod amdani. Dywedodd Uned Ddata Cymru y buasen nhw’n rhoi gwybodaeth 2011 i 2012 yn ôl ar y wefan fel bo pobl yn medru edrych a phenderfynu os ydyn nhw’n meddwl ei bod yn ddefnyddiol. Bydd Samantha Williams yn siarad gydag aelodau o’r Grŵp Cynghori am hyn ac yn gadael i Uned Ddata Cymru wybod beth maen nhw’n feddwl. Gallwch chi edrych ar yr wybodaeth yma yn: http://www.infobasecymru.net/IAS/themes/ learningdisabilities(adults)minimumdataset? themeId=4311. (Muy ar dudalen 23)


Gaeaf 2013/2014

Dudalen 23

(O dudalen 22)

Adroddiad

? E-bost

Gadewch i Samantha wybod pa wybodaeth rydych chi’n meddwl sy’n ddefnyddiol ac os ydych chi’n meddwl y byddai’n well dangos yr wybodaeth mewn ffordd wahanol. Er enghraifft, adroddiad yn lle tablau a mapiau. Gallwch chi ffonio Samantha ar 029 20681177 neu anfon e-bost at samantha.williams@ldw.org.uk i adael iddi wybod beth rydych chi’n ei feddwl.

Am ragor o wybodaeth neu i adael i ni wybod beth rydych chi'n feddwl, ffoniwch Sam Williams ar 029 20681160 neu ebostiwch: samantha.williams@ldw.org.uk. Dilynwch ni ar Facebook a Twitter @LDAdvisoryGroup


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.