Tir Hen Ysgol y Bont - Haf 2023

Page 1

TIR HEN YSGOL Y BONT YNYS MÔN

Datblygiad 52 o gartrefi

newydd fforddiadwy effeithlon

o ran ynni, yn cael eu hadeiladu

gan Williams Homes ar

ran ClwydAlyn ac mewn

partneriaeth â Chyngor Ynys

Môn a Llywodraeth Cymru.

Y DIWEDDARAF AM Y CYNNYDD

AC EDRYCH YMLAEN

Mae’r gwaith ar y safle yn mynd yn ei flaen yn dda, ac ym Mawrth a Mai, symudodd 23 o breswylwyr / teuluoedd i’w cartrefi newydd.

Mae’r gwaith plannu a thirlunio wedi eu cwblhau ar gyfer y 2 gam cyntaf gan gynnwys y goeden Nadolig gymunedol!! Bydd cam olaf datblygu’r cartrefi newydd yma yn cael ei gwblhau yn hwyr yn yr haf. Cyn i breswylwyr symud i mewn byddant yn cael cyfle i fynd ar daith o gwmpas eu cartrefi newydd a chael digwyddiad croesawu, lle byddwn yn rhoi gwybodaeth iddyn nhw am eu cartrefi newydd a’r technolegau newydd (pympiau gwres ffynhonnell aer) a llawer mwy. Allwn ni ddim aros i roi eu goriadau i bawb.

CLWYDALYN.CO.UK
YNYS MÔN HAF 2023

EIN DATBLYGIAD TAI MWYAF ARLOESOL ETO!

Gwelir y cartrefi yma fel rhai o’n datblygiadau tai mwyaf arloesol eto, £13.9m (tir, adeiladu a chostau eraill) gyda grant o £9.1m o Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru. Mae Rhaglen Tai Arloesol

Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffyrdd newydd o gyflawni tai fforddiadwy, yn canolbwyntio ar gartrefi carbon isel, effeithlon o ran ynni, gan helpu i daclo tlodi tanwydd.

Ymrwymodd ClwydAlyn i archwilio syniadau ar gyfer cartrefi carbon isel a dyluniadau arloesol ac nid yw datblygiad Hen Ysgol y Bont yn eithriad, gyda chynaliadwyedd a chymuned yn ganolog i’r cynllunio.

Trwy gydol gwahanol gamau’r datblygiad rydym wedi bod yn

ffilmio, gyda 4 ffilm wahanol i gyd, o ddechrau’r gwaith hyd ei gwblhau. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar y ffilmiau yma gyda

Llywodraeth Cymru a byddant yn cael eu rhannu’n fuan trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol

Llywodraeth Cymru!

PRESWYLWYR YN SYMUD I’W CARTREFI!

Llongyfarchiadau i’n holl breswylwyr sydd wedi symud i’w cartrefi newydd yn Hen Ysgol y Bont, a elwir yn awr yn Faes yr Ysgol a Stryd y Bont. Ar eu diwrnod symud, gofynnwyd i breswylwyr amrywiol beth oedden nhw’n ei feddwl o’u cartrefi newydd, a dyma oedd gan Ruth, Nicole, Annest a Mr a Mrs Jones i’w ddweud…

RUTH - SYMUD I MEWN YM

MAWRTH 2023

“ Bydd symud i fy nghartref newydd yn newid llawer ar fy mywyd gan ei fod mor braf, modern a ffasiynol. Roeddwn yn byw mewn tŷ tri llawr sydd wedi ei gondemnio ac yn damp a pheryglus i fyw ynddo, y gwresogi’n wael a’r biliau trydan yn costio £70 i £80 yr wythnos. Mae gen i fab anabl sy’n 35 oed ag awtistig, a bydd byw yn fan hyn rŵan a chael cymaint o le yn help mawr iddo. Gyda’r paneli solar a system wresogi iawn hefyd bydd yn arbed arian i ni ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael byw yma.”

NICOLE - SYMUD I MEWN YM

MAWRTH 2023

“ Mae ein cartref newydd yn wych ac rydym wedi cyffroi ac rwyf yn teimlo’n lwcus iawn o’i gael. Mae gan ein plant anghenion ychwanegol a gan mai dim ond 5 munud i ffwrdd mewn car yw eu hysgol erbyn hyn, bydd hyn yn arbed arian i ni ar gostau petrol. Bydd y patrwm a’r gawod newydd hefyd yn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau helpu eu hunain a’u hannibyniaeth, ac mae’r cyfan yn wahaniaeth anferth i’n cartref blaenorol. Yno roedd gennym nwy LPG, ac mae hanner tanc o danwydd yn costio llawer – bydd byw mewn cartref effeithlon o ran ynni yn arbed arian i ni a bydd mor dda i’n teulu cyfan.”

MR A MRS JONES – SYMUD

I MEWN YM MAI 2023

ANNEST – SYMUD I MEWN YM MAI 2023

“ Mae’n rhyddhad mawr symud i mewn a dweud y gwir. Rwy’n fam i 2 blentyn - mae’r hynaf yn 2 oed ac mae gennyf fabi 9 mis oed. Bydd byw yma yn rhoi cyfle iddyn nhw gael eu hystafell eu hunain; cyn hyn roedden ni’n aros yn nhŷ fy rhieni yn eu hystafell fyw ac roeddwn yn gorfod cysgu ar y soffa. Erbyn hyn mae genno ni i gyd ein lle i ni ein hunain, a gyda’r ysgol yn agos, mae hyd yn oed yn fwy cyfleus. Rwy’n edrych ymlaen at weld faint y gallaf ei arbed ar filiau mewn cartref effeithlon o ran ynni, a rŵan mod i’n gallu creu patrwm, fe allaf chwilio am waith rhan-amser yn yr ardal leol.”

“ Rydym wedi gwirioni ein bod yn cael symud ac mae ein cartref newydd yn bendant yn mynd i newid ein bywydau ni. Mae’n wahanol iawn i’n hen gartref, lle’r oeddem wedi byw ers 12 mlynedd heb ystafell ymolchi i fyny’r grisiau. Roedden ni hefyd yng nghanol nunlle a thywydd drwg, eira, glaw a llifogydd yn effeithio arnon ni. Er bod ein cartref newydd ar stad, dydio ddim yn teimlo felly hefo’r holl le sydd ar gael, a gyda’r prisiau’n codi, mae pob ceiniog yr ydym yn ei harbed mewn cartref effeithlon o ran ynni yn helpu. Y pethau syml y mae pobl eraill yn eu cymryd yn ganiataol sy’n fawr i ni, ac yn bennaf oll, byddwn yn gallu byw rŵan, nid dim ond bodoli.”

CANLYNIADAU’R AROLWG

HYD YN HYN!

Er mwyn sicrhau ein bod yn datblygu’r cartrefi gorau ar gyfer ein preswylwyr a’u bod yn hapus gyda nhw, ac sy’n gwneud gwahaniaeth i’w bywydau, rydym yn gofyn iddyn nhw lenwi arolwg 6 wythnos ar ôl symud i mewn a 9 mis ar ôl symud i mewn. Gallwn wedyn adolygu a dysgu o’r canlyniadau. Dyma gipolwg ar rai o’r cwestiynau / canlyniadau.

Dros 90% o’r preswylwyr yn fodlon ar safon a gorffeniad eu cartref newydd.

Arolwg 6 wythnos…

Cwestiynau y gwnaethom eu gofyn i breswylwyr a symudodd i’r cartrefi newydd…

A ydych chi’n fodlon ar batrwm eich cartref newydd, a oes digon o fannau storio, os na, pa ystafelloedd yn benodol?

Dros 90%

o’r preswylwyr yn fodlon ar batrwm eu cartref newydd.

Rydym eisiau dysgu a gwella dyluniad ein cartrefi newydd bob amser. A oes rhywbeth y dylem ei ystyried ar gyfer cartrefi yn y dyfodol?

Fe wnaeth rhai preswylwyr nodi y byddent yn hoffi defnyddio’r mannau storio yn y nenfwd ond am fod offer yn cael ei gadw yno ni allant ei ddefnyddio oherwydd problemau mynediad. Er enghraifft, mae offer fel: Tanciau chwistrellwyr, trosglwyddydd PV, systemau awyru.

Dywedodd dros

90%

o breswylwyr a holwyd nad oedd unrhyw beth y dylem ei ystyried ar gyfer cartrefi yn y dyfodol.

A ddangoswyd i chi sut i wneud y defnydd gorau o’r systemau technoleg yn eich cartref newydd (fel y System Wresogi, y Paneli Solar, y Batri), a esboniwyd hyn yn glir ac a oedd yn ddefnyddiol, neu a ellir gwella hyn?

Dywedodd dros

90%

o’r preswylwyr a holwyd eu bod wedi cael gweld sut i ddefnyddio’r systemau technoleg newydd.

?? NEWYDD

3 cyfle profiad gwaith wedi eu creu: seiri coed safle ac mae 2 wedi dod yn brentisiaid.

RHOI YN ÔL I’R GYMUNED

Rhan bwysig o ymrwymiad ClwydAlyn i adeiladu tai fforddiadwy o safon uchel yw sicrhau bod yr holl bartneriaid sy’n rhan o’r cynllun yn ymrwymo i roi yn ôl i’r cymunedau lleol yr ydym yn gweithio ynddyn nhw mewn amrywiaeth eang o ffyrdd yn unol â’n blaenoriaethau tlodi. Bydd hynny yn ei dro yn helpu i gyfoethogi ein cymunedau trwy roi cefnogaeth lle mae ei angen, boed hynny yn helpu pobl yn ôl i waith, brwydro yn erbyn bod yn ynysig yn gymdeithasol, cefnogi preswylwyr sydd mewn tlodi tanwydd neu roi mynediad at fwyd maethlon.

Wrth ddatblygu Maes yr Ysgol a Stryd y Bont, dyma rai o’r ffyrdd y gwnaeth ClwydAlyn a Williams Homes gefnogi’r gymuned leol:

Recriwtio a hyfforddi Cynorthwyydd Gweinyddu Adeiladu a Gweithredwr Cynllun Safle trwy Môn Cyf, sy’n cefnogi pobl i oresgyn rhwystrau i gael gwaith ac sydd yn awr yn gweithio’n barhaol i Williams Homes.

97%

Gwariwyd 97% o werth y cynllun ar nwyddau / gwasanaethau yng Nghymru.

98%

Dargyfeiriwyd 98% o’r gwastraff o safleoedd tirlenwi.

Cefnogi sefydlu cynllun Bwyd Da Môn, sy’n cynnig bwyd rhad ac o safon dda a fyddai’n cael ei wastraffu fel arall.

6 Prentisiaeth wedi eu cefnogi gan gynnwys cefnogaeth barhaus a hyfforddiant/mentora, sy’n cynnwys:

• 1 hyfforddeiaeth gwaith coed ar y safle wedi ei chreu.

• 2 dreial Gwaith Coed Mainc.

• 2 dreial Gwaith Coed Safle.

75%

o Ddeunyddiau a ddefnyddiwyd

o adnoddau adnewyddadwy.

68% o Ddeunyddiau wedi eu hailgylchu wedi eu defnyddio ar y safle, ee coed dros ben i greu.

TACLO TLODI TANWYDD

Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl.

Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:

• Pympiau gwres ffynhonnell aer

• Paneli trydan solar

• Batris storio trydan solar

• Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol

• Cyfleusterau gwefru ceir trydan

• ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl

• Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.

• Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.

RHEOLI’R SAFLE AC ORIAU GWEITHREDU

Disgwylir i’r gwaith o ddatblygu’r cartrefi newydd yma fod wedi ei gwblhau yn fuan gyda’r holl breswylwyr yn symud i mewn. Hyd hynny, mae Tîm Rheoli Safle ar y safle bob amser, sydd wedi ei hyfforddi i reoli’r holl weithrediadau a gweithgareddau’r isgontractwyr yn ddiogel. Yr oriau gweithredu nodweddiadol yw

dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm a

dyddiau Sadwrn 8am hyd 1pm. Os bydd angen i waith arbenigol ddigwydd ar unrhyw adeg tu hwnt i’r oriau hyn, byddwn yn cysylltu â chi. Byddwn yn parhau i gyfathrebu yn gyson trwy gylchlythyr wrth i’r datblygiad symud yn ei flaen.

CYSYLLTWCH Â NI

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Penny Lofts (Rheolwr Tir a Chaffael) ar 01678 521781 a fydd ar gael i ateb unrhyw ymholiadau all fod gennych. Fel arall, os byddai’n well gennych gysylltu â ni trwy e-bost, ein cyfeiriad yw: info@williams-homes.co.uk

DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Am y newyddion diweddaraf am y datblygiad, gan gynnwys delweddau o’r ffordd mae’r safle’n datblygu, dilynwch ClwydAlyn a Williams Homes ar y cyfryngau cymdeithasol @ClwydAlyn @WilliamsHomes_

Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.