Ydy Pobl Dda yn Mynd i'r Nefoedd

Page 1

Mwy o wybodaeth:

Text © Mathew Bartlett 2015. Cover Image © Redbaron. Design by Blitz Media. Faithbuilders: A Division of Apostolos Publishing Ltd, 3rd Floor 207 Regent St LONDON W1B 3HH Further copies of this tract from www.biblestudiesonline.org.uk

Ydy Pobl Dda Yn Mynd I'r Nefoedd.indd 1

21/11/2016 10:30:14


Mae’n gwestiwn syml – ac onid yw’r ateb yn amlwg? Siawns fod pobl dda i gyd yn mynd i’r nefoedd - iawn? Na. Dydyn nhw ddim. Ddim yn ôl dysgeidiaeth Iesu, Mab Duw. Nododd Iesu’n glir mai dim ond Duw sy’n dda. Yn wir, dywed y Beibl wrthym fod yr holl bobl wedi pechu ac yn brin o gyrraedd gogoniant Duw. Yn amlwg felly, ni allwn fynd i’r nefoedd am ein bod yn dda – gan nad ydym yn ddigon da! Safon Duw yw perffeithrwydd a dim ond un person erioed sydd wedi byw bywyd perffaith a dibechod - Iesu Grist. Gan ein bod i gyd yn bechaduriaid, yr hyn sydd ei angen arnom i allu mynd i’r nefoedd yw maddeuant. Mae Iesu wedi ei gwneud yn bosibl i bob person yn y byd gael maddeuant. Bu farw ar groes gan gymryd ein pechod a’r gosb amdano arno’i hun fel y gallwn ni bob un dderbyn maddeuant Duw. Heddiw, mae Duw yn addo y bydd pawb sy’n credu yn ei fab Iesu Grist yn cael maddeuant ac yn derbyn bywyd newydd – bywyd tragwyddol. Dyma fywyd Iesu ynom ni, sy’n ei gwneud yn bosibl i ni fyw yn y nefoedd rhyw ddydd. Derbyniwn y bywyd newydd hwn pan

Ydy Pobl Dda Yn Mynd I'r Nefoedd.indd 2

wahoddwn yr Arglwydd Iesu i ddod yn Waredwr i ni ac i fyw yn ein calonnau – galwodd Iesu’r profiad hwn yn ‘eni o’r newydd’. Gall pob person gael ei eni o’r newydd. Mae mor syml ag 1, 2, 3: 1. Cyfaddef i Dduw eich bod wedi pechu ac angen ei faddeuant. Allwch chi byth bythoedd obeithio bod yn ddigon da i fynd i’r nefoedd drwy eich teilyngdod eich hun. 2. Credu i Iesu farw ac atgyfodi i roi bywyd tragwyddol i chi. Deallwch y gallwch fynd i’r nefoedd drwy ei deilyngdod ef. 3. Cyffesu eich ffydd yn Iesu Grist fel Arglwydd a Gwaredwr i chi. Dywed y Beibl “Os wnei di gyffesu ‘â’th wefusau’, “Iesu ydy’r Arglwydd”, a chredu ‘yn dy galon’ fod Duw wedi ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, cei dy achub.” (Rhuf. 10:9)

RHOWCH EICH FFYDD YN IESU FEL GWAREDWR HEDDIW A BYDDWCH AR EICH FFORDD I’R NEFOEDD!

21/11/2016 10:30:14


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.