Teithlyfr llwybr Traws Eryri

Page 1

Traws Eryri

Antur 200km oddi ar y ffordd ar draws

tirweddau godidog gogledd Cymru

Guy Kesteven

Cyhoeddwyd yn gyntaf yn y Deyrnas Unedig yn 2023 gan Cycling UK, Parklands, Railton Rd, Guildford GU2 9JX

Traws Eryri: Antur 200km oddi ar y ffordd ar draws tirweddau godidog gogledd Cymru © 2023 Cycling UK

Testun © 2023 Cycling UK

Mae rhestr lawn o hawlfraint y ffotograffau ar dudalen 73

Ymchwiliwyd a dyluniwyd y llwybr gan Kieran Foster ac Andy Braund

Awdur y teithlyfr yw Guy Kesteven

Golygwyd gan Sophie Gordon a Rob Kingston

Dyluniad gan Roger Morgan www.morgan-creative.co.uk

Y mapiau wedi’u cynhyrchu gan Kieran Foster a Sophie Gordon

Data map gan yr Arolwg Ordnans © Hawlfraint y Goron 2022 OS 100045061

Datblygwyd llwybr Traws Eryri gan Cycling UK drwy nawdd Cyfoeth Naturiol Cymru

Diolch i:

Andy Braund a’r tîm yn Cyfoeth Naturiol Cymru am eu cydweithrediad a’u cyngor ar gyfer y llwybr

Connaire Cann a Shaun Denny am eu cymorth yn cysylltu â’r tirfeddianwyr

Coed Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a thirfeddianwyr unigol am gydweithredu ar rannau o lwybrau caniataol

Gair gan Guy Kesteven

Mae’r canllaw hwn wedi’i gyflwyno i fy mam Margaret Kesteven, a hunodd yn ddiweddar. Yn seiclwr di-ofn a oedd yn hynod falch o’i gwreiddiau yng Nghymru, treuliodd ei hieuenctid yn seiclo ar hyd llwybrau a chopaon gogledd Cymru a’r canolbarth pan oedd ffyrdd metlin yn bethau prin o hyd. Ei straeon hi oedd fy ysbrydoliaeth i wneud yr hyn a wnaf yn awr.

Croeso

Olonydd deniadol tawel yn dirwyn trwy ddyffrynnoedd, i lwybrau trwy goedwigoedd neu ar hyd rhostir yn dringo i fyny i fynyddoedd fry, mae tirweddau bendigedig gogledd Cymru yn galw arnoch i’w harchwilio ar gefn beic.

Mae Cycling UK wedi gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i greu llwybr antur oddi ar y ffordd sy’n cysylltu rhai o deithiau gorau Eryri. Tu hwnt i gopa brysur yr Wyddfa, mae milltiroedd o draciau a llwybrau’n arwain i ganol coedwigoedd ac ar hyd pennau mynyddoedd trawiadol.

Gan ddringo bron 4,000m, mae’r llwybr yn gofyn am ddyfalbarhad – ond os ydych chi’n fodlon derbyn yr her, mae’r gwobrau’n anferthol. Cewch deimlo’r wefr o ddisgyniadau cyffrous â golygfeydd yn ymestyn am filltiroedd, ac ymdeimlad o arwahanrwydd nad oes dim yn tarfu arno ond lletygarwch y pentrefi a deithiwch drwyddynt.

Mae seiclo oddi ar y ffordd yn dda i’r enaid, ac mae’n newyddion da i fusnesau gwledig hefyd: mae ymwelwyr sy’n pedalu’n creu incwm gwerth £520 miliwn y flwyddyn ar draws y DU.

Mae Cycling UK wedi bod ar y blaen o ran gwella mynediad i seiclo oddi ar y ffordd ers amser maith – o ennill yr hawl i seiclo ar lwybrau ceffylau yn 1968 i ymgyrchu’n llwyddiannus dros hawl i fynediad cyfrifol yn yr Alban yn 2003. Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, rydym wedi datblygu llwybrau hirbell oddi ar y ffordd yn Lloegr a’r Alban er mwyn ysbrydoli mwy o bobl i fynd i’r awyr agored. Rydym yn gyffrous i gyflwyno ein llwybr cyntaf yng Nghymru i chi.

Trwy brynu’r canllaw hwn neu drwy ymuno â Cycling UK, rydych chi’n ein helpu ni i barhau â’r gwaith hwn.

Gobeithiwn y byddwch yn mwyhau teithio ar hyd llwybr Traws Eryri.

Sarah Mitchell

Prif Weithredwr Cycling UK

3

Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Eryri, sef y trydydd parc cenedlaethol yn y DU, yn 1951, ac mae’n cynnwys mwy na 2,000 o gilometrau sgwâr. Naddwyd y dirwedd ddramatig gan rewlifau, a greodd ddyffrynnoedd llydan yr aberoedd arfordirol, wrth ochr rhesi o fryniau a mynyddoedd creigiog a serth.

4 Cycling UK
5 Cynnwys Sut mae eich cymorth yn helpu ..................................... 6 Trosolwg o’r llwybr................................................................. 7 Rhagymadrodd .......................................................................... 10 Rhan 1: Machynlleth i Lyn Penmaen .......................... 18 Rhan 2: Llyn Penmaen i Drawsfynydd ....................... 28 Rhan 3: Trawsfynydd i Fetws-y-coed ......................... 36 Rhan 4: Betws-y-coed i Gonwy ....................................... 44 Lleoedd a chyfleusterau ................................................ 58 Teithiau a awgrymir ......................................................... 60 Credydau delweddau ....................................................... 61 Diweddglo .................................................................................... 62 Yr awdur .......................................................................................... 63

Mae eich cymorth yn ein helpu ni i agor mwy o lwybrau di-draffig

Dychmygwch allu seiclo ar hyd a lled y wlad ar lwybrau

cysylltiedig oddi ar y ffordd, drwy fannau hynod ddiddorol a thirweddau anhygoel.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer

ohonom wedi darganfod pleser syml

teithio ar hyd cefn gwlad ar gefn beic, a’r ymdeimlad o ddihangfa sydd ar gael ar ein hynysoedd. Ein gweledigaeth yw sicrhau

mynediad i bawb at yr antur hon a’r cysylltiad hwn â natur.

Fel elusen seiclo y DU, mae Cycling UK yn gweithio i wireddu’r weledigaeth hon drwy ymgyrchu dros fynediad ehangach oddi ar y ffordd i seiclo a thrwy ddatblygu llwybrau hirbell newydd er mwyn cysylltu’r llwybrau sy’n bodoli eisoes. Ond ein haelodau a’n noddwyr yn unig sy’n sicrhau y gallwn ni wneud y gwaith hwn.

Os hoffech gefnogi mynediad ehangach

i’r awyr agored a’r gwaith o greu mwy o lwybrau hirbell, ymunwch â Cycling UK heddiw a helpu mwy o bobl i ddarganfod y pleser o seiclo oddi ar y ffordd.

Trwy ymuno â Cycling UK, byddwch yn ein galluogi ni i greu newid gwirioneddol, drwy elwa o’n pecyn aelodaeth gwych, gan gynnwys yswiriant, disgowntiau manwerthwyr, a llawer mwy. cyclinguk.org/join

Helpwch ni i agor cefn gwlad i fyny drwy ymuno â’n 70,000 o aelodau heddiw. Gyda’n gilydd, gallwn greu byd gwell ar gefn beic.

Cycling UK 6

Ni yw elusen seiclo y DU

Mae seiclo yn anhygoel, a dyna pam yr hoffem i bawb fwynhau’r wefr o fod ar gefn beic. Rydym yn gwneud newidiadau cadarnhaol i seiclo ar draws y DU, o goridorau grym i weunydd gwyllt yr ucheldir. Rydym yn gwneud ein strydoedd yn fwy diogel, gan agor llwybrau di-draffig newydd ac ysbrydoli mwy o bobl i deithio ar feic.

Trwy ddod yn aelod, gallwch ein helpu ni i wireddu ein gweledigaeth, a byddwch hefyd yn cael:

Yswiriant atebolrwydd trydydd parti am ddim a chymorth cyfreithiol ar, ac oddi ar y ffordd

cyclinguk.org/join

Disgownt ar yswiriant beic

(yn cynnwys beiciau mynydd ac e-feiciau) gyda Yellow Jersey

Disgowntiau manwerthwyr a buddion

Tanysgrifiad am ddim i gylchgrawn Cycle

bob deufis, i gael llwybrau sy’n ysbrydoli, cyngor, newyddion ac adolygiadau

Os nad ydych yn dymuno ymaelodi, ystyriwch roi rhodd ariannol i Cycling UK i’n helpu ni i barhau â’n gwaith i sicrhau mwy o fynediad gwledig i feiciau, ac i ymgyrchu dros amodau gwell i’r rhai sy’n seiclo ledled y DU.

cyclinguk.org/donate

7 Sut mae eich cymorth yn helpu

Trosolwg o’r llwybr

8 Machynlleth
Penmaen Trawsfynydd
Llyn

Betws-y-coed

9 Conwy

Traws Eryri

Darganfyddwch hanes cyffrous, dirgelwch gwyllt a thirweddau mynyddog mawreddog Eryri ar yr antur 200km heriol hon ar draws gogledd Cymru.

Tref hanesyddol Machynlleth yn y canolbarth yw man cychwyn llwybr Traws Eryri. O’r fan hon, mae’n eich hudo ac yn eich herio ar draws Parc Cenedlaethol Eryri i gadarnle castell canoloesol Conwy. Mae ein llwybr ni, a ddyfeisiwyd gan arbenigwr, yn cysylltu coedwigoedd gwyllt, golygfeydd godidog o fynyddoedd a hanes hudolus gan ddefnyddio traciau hynafol, ffyrdd Rhufeinig a lonydd tawel trwy ddyffrynnoedd irlas a chopaon geirw’r dirwedd epig hon.

Mae’r llwybr llinellol yn dechrau ar aber hardd Dyfi ar ymyl deheuol y Parc

Cenedlaethol, gan godi’n syth i’r bryniau a choedwigoedd gwyllt. Gan droi i fyny ac o amgylch Cadair Idris drwy filoedd o flynyddoedd o hanes a golygfeydd godidog, mae’n disgyn wedyn ar hyd dyfroedd llawn bywyd gwyllt aber Mawddach i Ddolgellau.

Byddwch yn teithio ar hyd traciau toreithiog beicio mynydd Coed y Brenin, cyn ymuno ag olion ffordd Rufeinig Sarn Helen. Gan amgylchynu llyn llonydd Trawsfynydd, byddwch yn dychwelyd at gaerau Rhufeinig Sarn Helen, cyn teithio ymlaen at gopaon godidog ac olion cloddio llechi Ffestiniog. Byddwch yn rhodio’r bryniau at Benmachno wledig, lle bydd ffigur wyth trwy’r coedwigoedd yn cynnig mwy o hanes Cymru ichi, neu gallwch ddewis opsiynau llwybr beicio mynydd ychwanegol.

Mae canolfan fynydd Betws-y-coed yn newid llawn prysurdeb ar ôl y mannau gwyllt anghysbell, ond mae’n cynnig cyfle da i orffwys a chymryd lluniaeth cyn mentro i ddyfnderoedd coedwig Gwydir. Byddwch yn teithio tuag at yr Wyddfa, heibio Capel Curig i’r Llwybr Llechi anfarwol a phyramidiau llechi aruthrol Bethesda. Mae cymeriad y llwybr yn newid yn llwyr wrth ichi ddirwyn ar hyd ffyrdd gwledig tawel gyda’r mynyddoedd ar y dde a golygfeydd godidog dros afon Menai ac Ynys Môn i’r chwith.

10
Cycling UK

Gan ddisgyn bron yr holl ffordd i’r arfordir, rydych wedyn yn dringo yn ôl i’r mynyddoedd a chynhanes ar hyd traciau creigiog lle ceir adleisiau’r sandalau Rhufeinig o hyd. Mae’n debyg mai merlod gwyllt, defaid ac adar ysglyfaethus fydd eich unig gwmni wrth ichi fynd heibio carneddau, cylchoedd cerrig a chaerau hynafol cyn disgyn am y tro olaf at ddyfroedd llydan a strydoedd cul tref hanesyddol Conwy.

Gellir rhannu llwybr Traws Eryri dros dri neu bedwar diwrnod, neu ei gyfuno â llwybr Sarn Helen yn mynd i’r gogledd o Gastell-nedd i gael wythnos gyfan o antur yng Nghymru. Os na fydd gennych ddigon o amser i wneud y llwybr cyfan ar unwaith, gallwch ei dorri’n ddarnau gan ddefnyddio gorsafoedd rheilffordd Machynlleth, Abermaw, Betws-y-coed a Chonwy. Beth bynnag yw hyd eich taith, gobeithio y byddwch yn mwynhau’r llwybr hwn cymaint â ni, a bod y canllaw hwn yn cyfoethogi eich profiad.

Fformat y canllaw hwn

Rydym wedi rhannu’r canllaw yn bedair rhan, wedi’u seilio ar ddaearyddiaeth a llif naturiol y llwybr. Bydd pob pennod yn rhoi ichi ymdeimlad o’r tirwedd a’r llwybrau y teithiwch ar eu hyd, uchafbwyntiau’r golygfeydd a’r hanes y byddwch yn mynd trwyddynt, opsiynau am lwybrau/ dargyfeiriadau amgen ac unrhyw heriau technegol neu o ran llywio.

Rydym hefyd wedi awgrymu teithiau posibl ar ddiwedd y taithlyfr sy’n nodi pellteroedd cronnus at bwyntiau allweddol a lleoliadau cyfleusterau defnyddiol. Mae cefn y canllaw llwybrau printiedig hefyd yn dangos mapiau manwl o ddarnau allweddol ynghyd â llwybrau amgen, a gallwch lawrlwytho

ffeil GPX cyflawn o wefan Cycling UK yn cyclinguk.org/traws-eryri

11 Rhagymadrodd
Castell Conwy

Tir

Nid yw llwybr Traws Eryri mor hir o ran pellter â’r rhan fwyaf o lwybrau Cycling UK sy’n cymryd mwy na diwrnod, ond peidiwch â’i dan-amcangyfrif. Mae’r nifer o ddringfeydd serth, estynedig a’r disgyniadau cyffrous oddi ar y ffordd yn ei wneud yn antur heriol go iawn. Bydd yn rhoi profiad gwych o wylltir mewn ardaloedd anghysbell prin eu hymwelwyr, sy’n gwneud yr ymdrech ychwanegol yn werth chweil.

Mae natur linellol y llwybr yn ychwanegu haenen arall o ymrwymiad, ond mae’r siâp tonnog yn golygu y ceir opsiynau llwybrau byr ar y rhan fwyaf o gamau’r daith, os yw’r golygfeydd godidog yn eich arafu chi’n fwy na’r disgwyl. Rydym yn argymell eich bod yn cynnwys y tonnau os gallwch: mae rheswm da fel arfer os yw’r llwybr fel petai’n mynd allan o’i ffordd.

Mae gan y rhan fwyaf o’r llwybrau a ddefnyddiwn sylfaen greigiog, felly ni fyddwch yn mynd yn sownd mewn cors beth bynnag yw’r tywydd. Mae rhai darnau’n eithaf garw a chreigiog, sy’n ychwanegu anhawster technegol i rai o’r disgyniadau, yn enwedig mewn amodau gwlyb.

Oherwydd y llethrau serth a’r gyfran uchel o feicio oddi ar y ffordd, mae’r llwybr

hwn yn gweddu orau i feicwyr profiadol.

Sicrhewch fod gennych feic ac yn defnyddio gêr rydych chi’n hyderus â nhw. Gallwch bob amser ddod oddi ar y beic a gwthio os na fyddwch yn teimlo’n gyfforddus.

Oherwydd y llethrau serth a’r gyfran uchel o feicio oddi ar y ffordd, mae’r llwybr hwn yn gweddu orau i feicwyr profiadol.

Beic a phac

Dyluniwyd llwybr Traws Eryri ar gyfer beiciau mynydd, a bydd y rhai sy’n defnyddio gerau isel a theiars mawr yn bendant yn cael y pleser mwyaf o’r llethrau serth a’r wynebau creigiau rhydd. Mae defnyddio beic mynydd hefyd yn rhoi cyfle i brofi rhai o’r llwybrau beicio mynydd pwrpasol yng nghoedwig Dyfi, Coed y Brenin, Penmachno a Choedwig Gwydir. I’r rhai sy’n mwynhau her, gellid cwblhau’r llwybr ar feic graean â gerau isel a theiars llydan os na fydd ots gennych wthio’r beic i fyny a cherdded i lawr mewn mannau. Nid ydym yn argymell defnyddio beiciau ffordd, beiciau teithio na beiciau hybrid â gerau cyfyngedig

a/neu teiars cul. Bydd e-feic yn gwneud y dringfeydd yn haws, ond dylech gynllunio’r

Cycling UK 12

mannau gwefru ymlaen llaw. Bydd Eryri yn defnyddio eich batri’n gynt na’r rhan fwyaf o dirweddau eraill.

Ceir nifer o siopau beic ar y ffordd, ond sicrhewch fod eich beic mewn cyflwr da cyn ichi fynd i Fachynlleth. Rhowch gynnig ar unrhyw beth newydd – gan gynnwys

bagiau a dillad – ymlaen llaw, fel eich bod yn siŵr bod popeth yn gweithio. Ewch ag offer a darnau sbâr gyda chi er mwyn datrys unrhyw anawsterau sy’n debyg o godi ar y llwybr, ynghyd â phecyn cymorth cyntaf, gan y byddwch yn bell o gymorth mewn mannau, ac mae’r signal ffonau’n amrywio’n fawr. Os yw’r tywydd yn debyg o fod yn wlyb, mae iriad cadwyn a phadiau brêc sbâr yn rhagofalon doeth hefyd.

Bydd cynnwys eich pac, yn fawr neu’n fach, yn amlwg yn dibynnu arnoch chi, eich amserlen a ble fyddwch chi’n cysgu. Ceir nifer o siopau ar hyd y llwybr ar gyfer ailgyflenwi, a siopau awyr agored arbenigol ym Machynlleth, Dolgellau, Betws-y-coed a Chapel Curig. Mae natur oddi-ar-y-ffordd y daith yn ffafrio bagiau beicio â strapiau a/ neu gwarbac yn hytrach na raciau a chewyll sy’n gallu siglo a dod yn rhydd.

Yn olaf, er bod y rhan fwyaf o’r llwybr yn anghysbell iawn, gall darnau ohono – yn enwedig y darn cyd-ddefnyddio ar hyd aber Mawddach – fod yn brysur, felly gallai cloch fod yn ddefnyddiol iawn o ran bod yn gwrtais. Ymddengys eu bod yn gweithio’n dda ar ddefaid hefyd, sy’n anhawster mwy cyffredin.

Llywio

Nid oes cyfeirbwyntiau gan lwybr Traws

Eryri ei hun. Er ei fod yn dilyn llwybrau ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol

neu lwybrau eraill megis Llwybr Llechi

Eryri mewn mannau, dim ond darnau

bach yw’r rhain, ac yn aml bydd yn gwyro oddi wrthynt. Y ffordd hawsaf o lywio’r llwybr yw llwytho’r ffeil GPX ar ei gyfer i gyfrifiadur neu ffôn clyfar GPS dibynadwy y gallwch ei weld wrth ichi seiclo. Ond peidiwch â dibynnu ar ddiweddariadau safle byw ar ap mapio, gan fod y signal yn ddarniog. Dylech gadw map ‘go iawn’ wrth gefn bob amser rhag ofn i fatri eich system llywio electronig fethu.

Er bod y llywio’n syml gan fwyaf, mae’r llwybr yn dargyfeirio o’r llwybr amlwg mewn sawl man. Rydym wedi rhestru’r rhain yn y taithlyfr, ond rydym yn eich cynghori chi i wirio llwybr pob darn cyn mynd ar ei hyd a chadw eich pen i fyny i fwynhau’r golygfeydd a sylwi ar droadau, yn hytrach na mynd fel cath i gythraul

â’ch pen i lawr.

13 Rhagymadrodd

Diogelwch

Tirwedd wirioneddol fynyddog yw Eryri, a bydd y trigolion lleol yn eich rhybuddio bob amser i baratoi ar gyfer tywydd o bob math mewn diwrnod. Nid oes unrhyw gysgod rhag yr hyn a ddaw o’r awyr ar hyd darnau mawr o’r llwybr, felly gall pethau droi’n ddifrifol yn gyflym os yw’r tywydd yn gwaethygu pan fyddwch wedi gorfod aros i ymdrin ag anhawster mecanyddol. Dylech ystyried mynd â haenen thermal sbâr, dillad gwrth-ddŵr a bag goroesi argyfwng fan lleiaf, hyd yn oed yn ystod yr haf. Mae’r holl ddringo’n golygu y byddwch yn llosgi’r calorïau’n gyflym hefyd, felly ewch â mwy o fwyd a bwyta’n rheolaidd i sicrhau bod eich lefelau egni a chanolbwyntio’n ddigon uchel. Bydd teithio mewn grŵp yn fwy diogel, ond os ydych chi mewn grŵp neu ar eich pen eich hun, byddai defnyddio dyfais neu ap ‘tywysydd’, fel bod rhywun arall yn gwybod ble ydych chi a beth yw eich amserlen, yn gallu achub eich bywyd.

O ran y llwybr, mae ein cynllunwyr wedi cynnwys cyn lleied â phosibl o groesfannau prif ffyrdd a darnau prysur o ffyrdd. Er mwyn helpu i’ch cadw’n ddiogel, rydym hefyd wedi tynnu eich sylw at unrhyw ffyrdd

prysur neu bwyntiau eraill â mwy o berygl yn y rhestr ‘Byddwch yn ofalus’ ar ddechrau pob pennod. Efallai bydd angen ichi rannu lonydd cul a ffyrdd mewn coedwigoedd â thraffig ffermydd, coedwigaeth neu chwareli, felly byddwch yn barod i dynnu mewn a rhoi digon o le i gerbydau eraill. Boed yn ddefaid yn ymddangos o’ch blaen, darnau creigiog neu raean rhydd, mae beicio oddi ar y ffordd yn gallu achosi syndod, felly arhoswch o fewn terfynau eich sgìl a’ch cyfarpar bob amser.

Yn olaf, ond yn bwysig iawn, byddwch yn ymwybodol o ddiogelwch a phryderon pobl eraill bob amser. Mae’r llwybr yn croesi llawer o ardaloedd lle ceir da byw yn pori, felly dylech sicrhau eich bod yn cau gatiau ac yn arafu neu’n stopio os oes rhaid, yn hytrach na chodi ofn ar ddefaid. Dylech arafu, cyfarch defnyddwyr eraill y llwybr, ffermwyr neu weithwyr coedwigaeth, a gadael iddyn nhw fynd heibio. Bydd angen cau neu arallgyfeirio llwybrau mewn coedwigoedd o dro i dro ar gyfer gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwigol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar arwyddion. Dilynwch y Cod Cefn Gwlad, casglwch unrhyw sbwriel y dewch ar ei draws ar y ffordd a byddwch y llysgennad gorau posibl dros seiclo. Fel hyn, bydd seiclwyr fel ni yn cael ein hystyried yn hwb cadarnhaol i’r ardal, a fydd yn helpu i sicrhau y caiff Cycling UK barhau i ddatblygu mwy o lwybrau mewn mannau anhygoel i chi eu mwynhau.

Cycling UK 14

Awgrymiadau ar gyfer taith dda

Seiclwch yn gyfrifol: Dangoswch barch at yr holl ddefnyddwyr eraill a gofalu am yr amgylchedd.

Gadewch ôl cadarnhaol: Defnyddiwch arferion seiclo effaith isel. Dylech fynd ar hyd llwybrau sydd eisoes yn bodoli, trwy byllau dŵr yn hytrach na lledaenu traciau, osgoi llwybrau mwdlyd lle bo’n bosibl ac osgoi sgidio. Peidiwch byth â gadael ysbwriel, ac yn well fyth, casglwch unrhyw sbwriel a welwch ar y llwybr.

Cadwch eich beic dan reolaeth: Canolbwyntiwch, gwiriwch eich cyflymder a meddwl am bobl eraill.

Peidiwch â tharfu ar anifeiliaid: Gall sŵn annisgwyl ddychryn da byw, anifeiliaid anwes ac anifeiliaid gwyllt. Byddwch yn ystyrlon, peidiwch â mynd yn agos atyn nhw a gadewch gatiau fel y maent.

Cynlluniwch ymlaen llaw: Byddwch yn ymwybodol o’ch beic, eich cyfarpar a’ch gallu, ac o’r tir rydych chi’n seiclo arno. Byddwch yn barod am dywydd garw ac anawsterau mecanyddol posibl.

Gadewch i bobl eraill fynd heibio: Rhybuddiwch bobl eraill eich bod yn dod drwy ganu gloch, chwibanu neu alw ‘bore da!’ Ewch heibio i eraill, yn enwedig rhai ar gefn ceffyl, yn araf gan adael digon o le. Byddwch yn ofalus wrth ddynesu at gorneli cudd a disgyniadau. Byddwch yn gwrtais a dweud helo!

Rhagymadrodd 15

Tirwedd wirioneddol fynyddog yw Eryri, a bydd y trigolion lleol yn eich rhybuddio bob amser i baratoi ar gyfer tywydd o bob math mewn diwrnod. Nid oes unrhyw gysgod rhag yr hyn a ddaw o’r awyr ar hyd darnau mawr o’r llwybr, felly gall pethau droi’n ddifrifol yn gyflym os yw’r tywydd yn gwaethygu pan fyddwch wedi gorfod aros i ymdrin ag anhawster mecanyddol.

16 Cycling UK

Eryri

Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Eryri, sef y trydydd parc cenedlaethol yn y DU, yn 1951, ac mae’n cynnwys mwy na ac mae’n cynnwys mwy na 2,000 o gilometrau sgwâr. Naddwyd y dirwedd ddramatig gan rewlifau, a greodd ddyffrynnoedd llydan yr aberoedd arfordirol, wrth ochr rhesi o fryniau a mynyddoedd creigiog a serth. Mae llynnoedd niferus Eryri yn cael eu cadw’n llawn gan hinsawdd wlypaf y DU, ac yn cynnal poblogaeth amrywiol iawn o fywyd gwyllt, gan gynnwys llawer o rywogaethau prin sy’n ffynnu yn y gwarchodfeydd natur a’r ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig niferus.

Mae pobl wedi byw yn yr ardal ers o leiaf y cyfnod Neolithig (4000 CC) a chafwyd hanes terfysglyd o wrthryfel a thywysogion enwog Cymru drwy gydol y cyfnodau Rhufeinig a chanoloesol. Mae hyn wedi gadael tirwedd llawn archaeoleg a chestyll ar ei ôl, sy’n gefndir i hanesion mytholegol fel y Mabinogi.

Cafodd yr economi amaethyddol hynafol hwb gan fwyngloddio a chwarela am lechi yn y 19eg ganrif, pan oedd yr ardal wrth galon y diwydiant byd-eang. Golyga dirywiad mwyngloddio bod twristiaeth awyr agored a choedwigaeth yn hollbwysig i’r ardal, gyda beicio mynydd yn benodol yn chwarae rhan fwyfwy pwysig.

17 Rhagymadrodd

Machynlleth i Lyn Penmaen

RHAN UN

Cycling UK 20
DECHRAU GORFFEN

Rhan 1 Machynlleth i Lyn Penmaen

Pellter: 52km (33 o filltiroedd)

Dringfa: 966m

Llywio

Mae’r llwybr yn dechrau ar lwybr beiciau o Fachynlleth ac yna ffordd dawel i fyny i

Gorris, lle mae’n dilyn darn byr o ffordd yr

A487 cyn mynd ar hyd hen lôn tu ôl i lyn

Tal-y-llyn. Ar ôl Abergynolwyn, mae’r llywio’n

gymharol hawdd yr holl ffordd i aber Mawddach.

Uchafbwyntiau

• Coedwigoedd ar fynyddoedd a dyffrynnoedd sy’n angof

• Hanes tirwedd dwfn

• Cadair Idris a llynnoedd Cregennen

• Golygfeydd panoramig o’r arfordir a’r aber

• Cefnffyrdd tawel a llwybrau coedwigol anghysbell

• Pentrefi bychain a golygfeydd godidog

• Bywyd gwyllt prin

Byddwch yn ofalus

• Byddwch yn ofalus ar hyd y darn bach iawn o briffordd yr A487 i fyny o Gorris cyn ichi droi oddi ar y ffordd

• Mae darnau is y ddisgynfa at lynnoedd

Cregennen yn cynnwys cerrig talpiog a rhigolau oherwydd erydu dŵr

• Mae’r ffordd i lawr o lynnoedd

Cregennen yn serth iawn ac yn

droellog i ddechrau, a gall fod yn

llithrig pan fydd yn wlyb

21
Rhan 1: Machynlleth i Lyn Penmaen
400m 200m 0m 0km 10km 40km 20km 50km 30km
Ger Cadair Idris

Heddiw mae Machynlleth yn ganolfan leol brysur ac yn dref i dwristiaid sy’n canolbwyntio ar gynhyrchion amgen a chrefft, crochendai a siopau llyfrau.

Machynlleth i Abergynolwyn

Mae eich taith at ben pellaf Eryri yn dechrau yn ymyl tŵr cloc eiconig

Machynlleth, gan deithio i’r gogledd allan o’r dref, heibio’r bont newydd ac i fyny’r llwybr beiciau ar hyd afon Dyfi, gan groesi dros bont grog gerfluniol y Mileniwm. Aiff ffordd trac sengl tonnog â chi i’r gogledd i fyny’r dyffryn, gyda llethrau serth Coedwig Dyfi i’r dde ac afon Dulas fyrlymus i’r chwith.

O ddringo dros yr afon i Gorris, cewch y cyfle cyntaf i aros mewn caffi am gacen cyn ichi ymuno â ffordd yr A487 dros dro ac wedyn mynd o amgylch pen pellaf llyn Tal-y-llyn at bentref Abergynolwyn. Gall hwn fod yn lle defnyddiol iawn i aros gan fod yma siop leol, caffi a thoiledau, yn ogystal â chwmni trwsio beiciau a llywio Wheelism.

Parc Beicio Dyfi

Mae Parc Beicio Dyfi yn cael ei redeg gan Dan, Rachel a Gee Atherton – y teulu mwyaf llwyddiannus erioed mewn cystadlaethau beicio lawr mynydd a rasio slalom beicio mynydd, wedi iddyn nhw ennill sawl

Pencampwriaeth y Byd a rasys Cwpan y Byd. Maen nhw hefyd yn cynnal y ras enwog Red Bull Hardline, sydd trwy wahoddiad yn unig, ar lethr i’r dwyrain o Fachynlleth.

Mae’r teulu wedi agor ffatri beiciau mynydd fodern yn y dref yn ddiweddar.

Cycling UK 22

Machynlleth

Mae Machynlleth wedi bod yn lle pwysig iawn yn y Canolbarth erioed, oherwydd ei leoliad ar groesfan a man rheoli pwysig ar afon Dyfi, ar y groesffordd rhwng ardaloedd mwyngloddio Eryri a’r tiroedd amaethyddol mwy gwastad tua’r dwyrain.

Mae hanes pobl leol yn dechrau yn yr Oes Efydd gynnar, a mwyngloddio am gopr bron 3,000 o flynyddoedd yn ôl. Sefydlwyd caer gan y Rhufeiniad ym Maglona, bedair milltir i’r gorllewin. Yn 1291, rhoddodd Edward I ei ganiatâd i sefydlu marchnad yn y dref, sy’n ffynnu ar ddyddiau Mercher hyd heddiw, ac yn dal i fod yn rhan bwysig o fywyd y dref. Coronwyd y gwrthryfelwr enwog Owain

Glyndŵr yn Dywysog Cymru yma yn 1404, o flaen cynulleidfa o bwysigion o’r Alban, Ffrainc a Sbaen. Mae ei Senedd-dy’n un o’r tri thŷ yn y dref sydd wedi goroesi o’r canol oesoedd, a dyma lle arhosodd Siarl I pan ymwelodd â Chymru.

Heddiw mae Machynlleth yn ganolfan leol brysur ac yn dref i dwristiaid sy’n canolbwyntio ar gynhyrchion amgen a chrefft, crochendai a siopau llyfrau. Mae hefyd yn ganolfan i seiclo o bob math, gan gynnwys y llwybrau Mach 1, 2 a 3 sy’n arwain at y bryniau cyfagos, a llwybrau Coedwig Dyfi a Pharc Beicio Dyfi i’r gogledd.

Abergynolwyn

Yng nghysgod bryngaer o’r Oes Haearn, daeth Abergynolwyn yn amlwg yn hanes Cymru pan gerddodd Mari Jones, merch 15 oed, 26 o filltiroedd yn droednoeth ar draws cefn gwlad i brynu Beibl Cymraeg. Dyma oedd ysbrydoliaeth sefydlu Cymdeithas y Beibl, sydd bellach wedi dosbarthu cannoedd o filiynau o Feiblau ledled y byd.

Canolfan y Dechnoleg Amgen (CAT)

Agorwyd Canolfan y Dechnoleg

Amgen yn 1973 i ddatblygu

syniadau ac arloesedd a oedd

yn radical ar y pryd megis

tai ynni isel, ailgylchu, a thechnoleg solar, hydro a

gwynt. Bellach mae’r Ganolfan

yn cynnwys ymchwil o bob

math i fyw’n gynaliadwy. Mae

hefyd yn ganolfan addysg sy’n cynnig cyrsiau dydd a chyrsiau

preswyl, ynghyd â siop a bwyty eco sy’n werth ymweld â nhw.

Mae’r pentref hefyd yn gartref i reilffordd stêm lwyddiannus Tal-y-llyn, a adeiladwyd yn wreiddiol yn y 1850au i gysylltu’r chwarel lechi leol â’r arfordir yn Nhywyn. Ganrif yn ddiweddarach, y rheilffordd oedd y llinell dreftadaeth gyntaf yn y DU i gael ei rhedeg gan wirfoddolwyr, ac mae bellach yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Lechi Gogledd Orllewin Cymru.

23 Rhan 1: Machynlleth i Lyn Penmaen
Rheilffordd stêm Tal-y-llyn

Abergynolwyn i aber Mawddach

Mae dwy ffordd bosibl o adael y pentref. Mae’r llwybr interim yn dilyn y ddringfa serth allan o Abergynolwyn ac yn mynd ar hyd y ffordd sy’n codi ac esgyn ar hyd ochr ogleddol y dyffryn.

Mae angen ychydig mwy o sgÌl i ddilyn y llwybr amgen, gan ei fod yn mynd i lawr heibio ochr nant yn hytrach na’r ffordd. Ar ôl croesi pont droed, bydd angen ichi wthio eich beic ar hyd darn byr o lwybr troed. Pan fyddwch wedi mynd heibio i’r fferm, mae’r llwybr ceffylau y gallwch chi seiclo arno yn gyfreithlon yn daith hyfryd ar hyd de’r dyffryn.

Nid yw llwybr Traws Eryri yn mynd trwy Gaer Berllan fel y cyfryw, ond mae dau reswm creigiog ardderchog i fynd allan o’ch ffordd. Maen hir o’r oes gynhanes yw’r cyntaf –

a arferai sefyll yng nghanol cae. Roedd y ffermwr lleol yn fwy ymarferol na phagan, gan ei fod wedi symud y garreg i’w defnyddio fel postyn gât. Er nad yw’r fan hon yn amlwg, ni allwch fethu brigiad creigiog dramatig Castell y Bere, ychydig o gannoedd o fetrau i’r gogledd ddwyrain.

Gan fwrw ymlaen ar hyd y dyffryn gwledig, llydan yng nghysgod cawraidd Cadair Idris, byddwch hefyd yn mynd heibio i frigiad dramatig Craig yr Aderyn. Byddwch yn gweld arwyddion llwybr 82 y Rhwydwaith

Beicio Cenedlaethol ac yn ei ddilyn dros hen bontydd cerrig tuag at yr arfordir cyn troi’n ôl i ddringo godre gorllewinol Cadair Idris ei hun ar hyd ffordd trac sengl syfrdanol arddull Alpaidd.

Craig yr Aderyn

Mae Craig yr Aderyn yn safle hyd yn oed mwy trawiadol, gyda muriau cerrig noeth yn torri allan o waelod gweddol wastad y dyffryn. Roedd y lleoliad aruchel yn ddelfrydol ar gyfer bryngaer o’r Oes Haearn, a gafodd ei defnyddio yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid hefyd. Bellach mae’r clogwyni anhygyrch yn safle bridio perffaith i adar prin, gyda theuluoedd o’r frân goesgoch a hebogiaid tramor yn ymgartrefu ar y safle hwn sydd wedi’i warchod.

Cycling UK
24
Coedwig ger Abergynolwyn

Castell y Bere

Roedd Castell y Bere, y castell cerrig cyntaf a adeiladwyd gan Llywelyn Fawr yn 1221, ar ben brigiad craig naturiol cul a thal, yn ganolfan i wrthryfelwyr Cymru am nifer o ddegawdau. Daeth yn ganolfan i frenhiniaeth Lloegr ar ôl gwarchae gan Edward I yn 1283, a sefydlodd dref fach yno hefyd. Fodd bynnag, ail-gipiwyd y dref a’r castell gan y Cymry yn 1294, a losgodd bopeth yn ulw, cyn troi cefn ar y safle am byth. Yn ddiweddar, cliriwyd y llystyfiant ar y safle, a chafwyd rhywfaint o gloddio yno hefyd.

Y rhan hon o’r llwybr yw lle mae ein cyndeidiau hynafol wedi gadael eu hôl ar y dirwedd, gyda charneddau cerrig (olion tomenni claddu wedi erydu o bosibl), corlannau hynafol a chylchoedd cytiau o’r Oes Efydd ar hyd ochr y bryn i’r gogledd. O Gadair Idris, ceir golygfeydd panoramig o’ch taith hyd yma hyd at y môr tu ôl i chi yn Nhywyn, ac wrth ichi fynd dros y bwlch, daw aber llydan Mawddach, Bae Abermaw a mynyddoedd mawreddog canol Eryri i’r golwg.

Gan symud ymlaen o’r olygfa eang hon, byddwch yn dilyn olion traed trigolion cynharaf y rhan hon o Gymru wrth ichi fynd ar hyd trac creigiog y Ffordd Ddu tua’r gogledd-ddwyrain. Mae carneddau a meini

hir ar hyd yr aliniad hwn yn awgrymu

tarddiad Neolithig (6,000 o flynyddoedd yn ôl), ac roedd y llwybr yn bendant yn cael ei ddefnyddio erbyn yr Oes Efydd (4,000 o flynyddoedd yn ôl). Roedd hefyd yn

ffordd bwysig iawn i borthmyn a’u da byw tan yn ddiweddar, felly mae hanesion o bob math yn adleisio yn y bryniau cyfagos.

25 Rhan 1: Machynlleth i Lyn Penmaen
Golygfa dros aber Mawddach Ffordd Ddu

Ceir tystiolaeth o hanes mwy diweddar

wrth ichi fynd heibio plac yn y wal sy’n

coffau’r safle lle wnaeth awyren fomio B17

‘Flying Fortress’ gwympo ar ei ffordd yn

ôl i’r Unol Daleithiau. Yn greulon, bu farw

10 aelod o’r criw a 10 o deithwyr, oedd rywsut wedi goroesi cyfraddau marwolaeth

enbyd y cyrchau dros yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ar ôl disgynfa fwyfwy creigiog a chyffrous, mae ffordd â gât yn mynd â chi trwy ystâd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

sy’n amgylchynu llynnoedd mynydd eiconig Cregennen, a’u hynysoedd. Wedyn byddwch yn disgyn yn serth at yr aber ar hyd ffordd gam, gan fynd heibio coed cam, a gwrthgloddiau artiffisial Neuadd Arthog a’r rhaeadrau hardd tu ôl iddynt.

Wrth fynd i lawr at yr aber, byddwch yn troi i’r dde ac yn ymuno â’r Ffordd Traws

Prydain a Llwybr Mawddach, sydd wedi’u cyfuno, ac yn dilyn llwybr 8 y Rhwydwaith

Beicio Cenedlaethol. Mae wyneb llydan a gwastad y llwybr rheilffordd aml-ddefnyddiwr yn newid hamddenol ar ôl y seiclo hyd yma.

Gan droi i fyny ac o amgylch Cadair Idris drwy filoedd o flynyddoedd o hanes a golygfeydd godidog, mae’n disgyn wedyn ar hyd dyfroedd llawn bywyd gwyllt aber Mawddach i Ddolgellau.

Cycling UK 26
Y ffordd at lynnoedd Cregennen

Cadair Idris

Cadair Idris yw’r mynydd mwyaf yn ne Eryri. Gan ddibynnu ar ba chwedl a gredwch, mae’r mynydd naill ai wedi’i enwi ar ôl Idris Gawr a adawodd bant, sydd bellach yn llyn, lle roedd yn eistedd; neu ar ôl tywysog Cymru o’r 7fed ganrif a enillodd frwydr yn erbyn y Gwyddelod. Llwybr Pilin Pwn yw’r unig lwybr y gallwch deithio arno’n gyfreithlon i fyny i’r copa 893m, ond dylech fod yn ofalus os byddwch yn gwersylla’n wyllt. Bydd unrhyw un sy’n cysgu ar lethrau’r mynydd yn deffro naill ai’n fardd neu’n wallgofddyn.

Mae’n caniatáu i chi edmygu golygfeydd

godidog y dirwedd morfa heli agored, a’r boblogaeth o adar gwyllt sy’n newid o hyd.

Byddwch yn ofalus o ddefnyddwyr

eraill yma, gan fod y llwybr hardd di-draffig hwn rhwng Dolgellau a’r arfordir yn ddealladwy o boblogaidd gyda cherddwyr, rhedwyr a beicwyr sy’n ddechreuwyr.

Mae tafarn o’r 17eg ganrif a thoiledau cyhoeddus ym mhentrefan Llyn Penmaen ac mae rhan gyntaf y llwybr yn dod i ben yn ymyl y bont dollau. Gellir dewis parhau ar hyd y llwybr beiciau am 4km i Ddolgellau er mwyn aros dros nos, cyn mentro ar hyd ffyrdd tawel llwybr 82 y Rhwydwaith

Beicio Cenedlaethol yr holl ffordd i’r ganolfan ymwelwyr yng Nghoed y Brenin. Fel arall, mae llwybr Traws Eryri yn mynd â chi i’r gogledd dros yr afon ac i fyny i’r mynyddoedd, lle rydym yn dechrau Rhan 2.

Llwybr

82 Rhwydwaith

Beicio Cenedlaethol Sustrans

Mae rhannau o lwybr Traws Eryri yr un peth â rhannau o lwybr 82 y Rhwydwaith

Beicio Cenedlaethol nas gorffennwyd, rhwng Bangor ac Abergwaun. Yn y pen draw, mae’r cynlluniau llawn yn cynnwys dolen o Aberystwyth i Fachynlleth a fydd, o’i chwblhau, yn ei gwneud yn bosibl i ymestyn llwybr Traws Eryri yn llwybr â chysylltiad rheilffordd o un arfordir i’r llall.

Rhan 1: Machynlleth i Lyn Penmaen 27
Llyn Penmaen

Llyn Penmaen i Drawsfynydd

RHAN DAU

DECHRAU

Cycling UK 30
GORFFEN

Rhan 2 Llyn Penmaen i Drawsfynydd

Pellter: 37km (23 o filltiroedd) Dringfa: 915m

Uchafbwyntiau

• Pont dollau Restredig Gradd II

• Dringfeydd ar hyd nentydd at fannau gwyllt agored

• Rhaeadrau rhyfeddol

• Llwybrau a chanolfan ymwelwyr Coed y Brenin

• Ffyrdd Rhufeinig garw

• Pensaernïaeth niwclear ddramatig

Llywio

Byddwch yn ofalus

• Cymerwch ofal wrth groesi ffordd yr A496 yn Taicynhaeaf a ffordd yr A470 yn Nhrawsfynydd – gallan nhw fod yn brysur yn ystod yr haf

• Mae’r darnau o ffordd Rufeinig Sarn Helen sy’n dringo a disgyn ar ôl Coed y Brenin yn greigiog mewn mannau

• Ceir dringfa a disgynfa graean serth ar lwybr llyn Trawsfynydd

Hon yw un o rannau symlaf y llwybr, cyn belled â’ch bod yn defnyddio’r cyffyrdd cywir ar ben dyffryn Mynach. Gwyliwch allan am droad sydyn ar ochr bellaf llwybr llyn Trawsfynydd hefyd. Mae’r ffordd yr ydych yn ei dilyn yn mynd dros grid gwartheg yma cyn mynd i lawr, ond mae’r llwybr beiciau’n troi’n serth i fyny trwy gât bren. Cadwch at ymyl y llyn heibio’r orsaf bŵer er mwyn cadw at y llwybr beiciau.

31
Drawsfynydd
Rhan 2: Llyn Penmaen i
300m 200m 100m 0m 0km 40km 10km 30km 20km

Llyn Penmaen i Goed y Brenin

Ar ôl mynd yn swnllyd dros afon Mawddach ar y bont dollau bren, ar hyd y ffordd trac sengl a chroesi ffordd yr A496 yn ofalus, rydych yn dringo’n serth heibio bythynnod hardd Taicynhaeaf. Does dim dal p’un ai’r gwres wrth i bobl anadlu’n ddwfn wrth fynd lan y bryn neu achosion naturiol sy’n ei achosi, ond mae gan ddyffryn isaf Mynach ei ficrohinsawdd istrofannol ei hun, gyda rhododendron yn blodeuo ar ddiwedd mis Chwefror pan oedden ni’n rhoi cynnig ar y llwybr. (Roedd y mynachod mae enw’r dyffryn yn cyfeirio atynt yn arfer perchen ar, a gweithio yn Abaty Cymer gerllaw.)

Gyda’r ddringfa ychydig yn llai serth, mae’r llwybr yn mynd ar hyd ochr nant y mynydd groyw loyw wrth ichi deithio i fyny dros bontydd hynafol a thrwy ffermydd gwasgaredig. At y gweundiroedd gwyllt wedyn, sydd â choedwig i ddechrau cyn troi’n dir agored gyda thraciau â wynebau da, a mynediad wedi’i ganiatáu gan Goed Cadw a ffermwr lleol.

Codwyd y bont bren ysblennydd hon, sydd bellach yn Rhestredig Gradd II, yn 1879. Cofiwch gario arian mân er mwyn talu’r doll. £1 yw’r lleiafswm, ond doedd dim ots gen i dalu mwy ar gyfer cynnal a chadw’r strwythur arbennig hwn.

32 Cycling UK
Pont Llyn Penmaen Coed y Brenin

Mae’r rhain yn mynd â chi i ganol gwylltir Gwarchodfa Natur Genedlaethol y Rhinogydd. Byddwch yn troi tua’r dwyrain cyn disgyn heibio’r Rhaeadr Ddu, felly edrychwch am y llwybr ar y dde os ydych chi eisiau mynd i’w gweld. Mae yma gyfle hefyd i ymuno â darn gwaelod y Tarw Du, llwybr trac sengl cyntaf y DU a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer beicio mynydd. Byddwch yn ofalus os ydych chi’n gwneud hyn, gan fod adeiladwaith y cerrig yn fwriadol heriol – cafodd gradd ddu yn wreiddiol ond mae bellach yn agosach at radd goch. Byddwch yn mwynhau

diweddglo’r llwybrau beth bynnag wrth

ichi fynd dan y ffordd trwy dwnnel ac i fyny at rotwnda ecogyfeillgar canolfan ymwelwyr Coed y Brenin.

Mae’r siop feiciau ragorol

Beics Brenin a chaffi CNC ar agor saith diwrnod yr wythnos

Rhaeadr Ddu

Rhaid cerdded tua 200 metr o lwybr

Traws Eryri i gyrraedd y Rhaeadr Ddu, ond mae’n werth yr ymdrech. Mae’r

rhaeadrau niferus yn disgyn 18 metr (60 o droedfeddi) yng nghanol coetir mwsoglyd hynafol gwarchodfa natur Coed Ganllwyd. Mae grisiau cerrig yn arwain i lawr at fan gwylio, ond cymerwch ofal ar y mwsogl, sy’n gallu bod yn llithrig.

Coed y Brenin

Coed y Brenin oedd canolfan mwyngloddio aur Cymru am filoedd o flynyddoedd cyn

troi’n ganolfan i feicio mynydd. Crëwyd

llwybrau beicio mynydd pwrpasol cyntaf

Coed y Brenin gan y coedwigwr hamdden

Dafydd Davis a rhai o’i ffrindiau ar ddiwedd y 1990au. Mae’r llwybrau troellog a thonnog yn wych ym mhob tywydd ac yn teimlo’n naturiol iawn, felly daethant yn gyrchfan i feicwyr y DU o fewn dim, ac yn dempled ar gyfer twf canolfannau tebyg ar draws y DU.

Bellach mae gan Goed y Brenin naw llwybr beicio mynydd ar gyfer beicwyr o bob lefel, yn ogystal â llwybrau rhedeg, cerdded a mynediad i bawb trwy’r goedwig. Mae’r siop feiciau ragorol Beics Brenin a chaffi CNC ar agor saith diwrnod yr wythnos (mae’r oriau’n amrywio) ac mae toiledau a chawodydd yn y ganolfan ymwelwyr.

33 Rhan 2: Llyn Penmaen i Drawsfynydd
(mae’r oriau’n amrywio) ac mae toiledau a chawodydd yn y ganolfan ymwelwyr.

Coed y Brenin i Drawsfynydd

O’r ganolfan ymwelwyr, byddwch yn mynd i fyny trwy’r maes parcio a dringfa estynedig ar hyd ffordd cerbydau brys sy’n ymuno’n

ôl â ffordd Rufeinig Sarn Helen. Mae’r tir yn troi’n serth ac yn greigiog wrth ichi gyrraedd y gweundir agored, felly peidiwch

â synnu os bydd angen ichi wthio‘r beic ar y rhan olaf. Mae’r golygfeydd ar draws y Rhinogydd yn pwysleisio natur wyllt yr ardal hon, ac mae’r ddisgynfa’n gymysgedd hwyliog o olion Rhufeinig creigiog rhydd ac yna ffordd trac sengl i Drawsfynydd.

Gallwch fynd y ffordd fyr ac anelu’n syth am Drawsfynydd ar y llwybr beiciau, ond mae’r llwybr o amgylch y gronfa ddŵr yn

fonws llawn golygfeydd. Nid yw’r llwybr yn un gwastad: ceir dringfa raean fyr, serth ar y pen draw sy’n arwain at ddisgynfa droellog bleserus. Dros yr argae concrit wedyn a heibio dau floc gorthrymus gorsaf ynni niwclear Trawsfynydd sydd wedi’i datgomisiynu. Mae’r blociau’n fawreddog mewn ffordd filain, ond yn annaturiol ynghanol yr ardal hon nas difethwyd, gyda’i hawyr agored a chopaon geirwon. Mae darn bach o lwybr beiciau’n mynd â chi yn ôl at ffordd yr A470, lle gallwch ei chroesi a dechrau Rhan 3 y llwybr, neu fynd yn ôl ar hyd cilometr o’r llwybr beiciau i Drawsfynydd.

Cycling UK 34

Dringfa greigiog at ffordd

Rufeinig Sarn Helen

Gallwch fynd y ffordd fyr ac anelu’n syth am Drawsfynydd ar y llwybr beiciau, ond mae’r

llwybr o amgylch y gronfa ddŵr yn fonws llawn golygfeydd.

Trawsfynydd

Grwpiau gwasgaredig o gytiau cylchol

cynhanesyddol oedd tarddiad pentref

Trawsfynydd (canfuwyd tancard o’r Oes

Haearn yn lleol) cyn troi’n ganolfan

Cristnogaeth Geltaidd gynnar. Bellach

mae’n gymuned brysur â nifer syfrdanol o siopau a chyfleusterau, gan gynnwys tafarn/hostel beicio, opsiynau llety eraill, siop bentref a fferyllfa.

Cronfa ddw ^ r a gorsafoedd

pw ^ er Trawsfynydd

Adeiladwyd cronfa ddŵr Trawsfynydd i bweru generaduron hydro drydanol Maentwrog, ond yn 1965 daeth yn ffynhonnell oeri gorsaf bŵer niwclear hefyd. Cafodd yr orsaf ei datgomisiynu yn 1991 ar ôl 26 o flynyddoedd yn unig, ond bydd yn cymryd mwy na 90 o flynyddoedd i glirio’r safle’n gyfan gwbl. Yn eironig, mae agweddau wedi newid sy’n golygu bod cynlluniau ar y gweill i adeiladu adweithydd bach nesaf at yr hen orsaf.

35
Drawsfynydd
Rhan 2: Llyn Penmaen i

Trawsfynydd i Fetws-y-coed

RHAN TRI

DECHRAU

Cycling UK 38
GORFFEN

Rhan 3

Trawsfynydd i Fetws-y-coed

Pellter: 51km (31 o filltiroedd)

Dringfa: 1279m

Uchafbwyntiau

• Caerau Rhufeinig a chestyll Normanaidd

• Dringfeydd a phentrefi Alpaidd

• Tirweddau mynyddog dramatig

• Archaeoleg ddiwydiannol a Beiblaidd

• Disgynfeydd cyffrous ac opsiynau

llwybrau beicio mynydd

• Coedwigoedd tawel

Byddwch yn ofalus

• Mae’r caeau ar ddechrau’r daith yn llithrig pan fyddan nhw’n wlyb, felly peidiwch â synnu os ydych chi’n dewis cerdded ar y rhan hon

• Mae sawl tro yn y ffyrdd dosbarth B ar ôl Llan Ffestiniog, ac maen nhw’n gallu bod yn brysur ar adegau, felly byddwch yn ofalus

• Mae’r llwybr yn ymuno â ffordd yr A470 am oddeutu 1.5km cyn

Betws-y-coed

Llywio

Mae llywio rhan hon y llwybr yn syml, heblaw am y darn cyntaf. Mae’r traciau i fyny trwy gaeau at y gaer Rufeinig yn annelwig mewn mannau, felly cofiwch ddilyn yr arwyddion â helmed Rufeinig

borffor a chadw ar ochr dde’r ffens a’r wal sy’n codi’n serth i fyny at y gaer ei hun.

Ar ôl y gaer, mae’r llwybr yn amlwg ac yn hawdd i’w ddilyn os ydych yn cadw golwg ar ble ydych chi yn y dirwedd.

39 Rhan 3: Trawsfynydd i Fetws-y-coed
Machlud haul dros Lan Ffestiniog
400m 200m 0m 0km 10km 40km 20km 50km 30km

Mae ein llwybr ni, a ddyfeisiwyd gan arbenigwr, yn cysylltu coedwigoedd gwyllt, golygfeydd godidog o fynyddoedd a hanes hudolus gan ddefnyddio traciau hynafol, ffyrdd Rhufeinig a lonydd tawel trwy ddyffrynnoedd irlas a chopaon geirw’r dirwedd epig hon.

Trawsfynydd i Lan Ffestiniog

Gan groesi’r brif ffordd, cyn bo hir byddwch yn dringo i fyny traciau fferm glaswelltog

tuag at dwmpath y castell Normanaidd sydd yng nghanol adfeilion Rhufeinig

helaeth Castell Tomen y Mur. Mae’r darn

o ffordd ar ôl y safle’n rhedeg ar hyd yr aliniad Rhufeinig hefyd, gan fynd heibio i domenni gwningaroedd canoloesol mewn silwét yn erbyn copaon mawreddog y gogledd.

Castell Tomen y Mur

Caer Rufeinig yw Castell Tomen y Mur a adeiladwyd i amddiffyn ffordd Sarn Helen. Mae’r safle helaeth yn cynnwys amffitheatr, maes paredio a baddondy. Ailddefnyddiwyd y gwrthgloddiau amddiffynnol i adeiladu castell Normanaidd, ac adeiladwyd neuadd ganoloesol gan dywysogion Cymru ar y safle hefyd.

40 Cycling UK
Y ffordd yn dringo o Lan Ffestiniog

Llan Ffestiniog i Fetws-y-coed

Gan droi i’r dwyrain o Lan Ffestiniog, cewch ddringfa raddol ar y ffordd sy’n eich gwobrwyo chi â golygfeydd syfrdanol o’r bryniau cyfagos. Cymerwch eiliad i ddal eich gwynt yn y man golygfa er mwyn gweld Rhaeadr y Cwm yn ymdroelli’n ddramatig trwy’r ceunant.

Mae’r troad i’r chwith tuag at Benmachno yn parhau i ddringo nes cyrraedd lôn droellog fel rhuban yn mynd wrth odre’r bryniau, lle byddwch yn llithro’n esmwyth i lawr at Gwm Penmachno.

Mae’n bryd ailafael ynddi wedyn, wrth ichi ddringo i’r coedwigoedd uwchben

y pentref ar gyfer dolen ddwbl llawn

golygfeydd gwyrdd a nentydd croyw. Byddwch yn mynd heibio safle pwysig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nhŷ

Mawr Wybrnant ar ffordd trac-dwbl droellog cyn croesi’r afon ac ymuno â ffordd yr A470 am ryw 1.5km. Byddwch wedyn yn diflannu i fryniau a choedwigoedd ffordd Rufeinig

Sarn Helen unwaith eto. Ewch heibio

i’r llecyn hardd a chofeb cronfa ddŵr

Llyn Elsi cyn disgyn i lawr trwy’r goedwig

i’r ffordd gefn at Fetws-y-coed, y pentref prysur arddull Alpaidd sy’n nodi diwedd Rhan 3.

Llan Ffestiniog a

Blaenau Ffestiniog

Mae pentrefi Ffestiniog yn dyddio’n ôl i’r cyfnod canoloesol o leiaf. Rhain oedd

canolfan y diwydiant llechi trwy’r 19eg ganrif ac ar ddechrau’r 20fed ganrif. Er nad ydyn

nhw ar y llwybr, mae digon o siopau

ac opsiynau llety yma sy’n eu gwneud yn fannau defnyddiol i stopio neu ail-lenwi eich cyflenwadau.

41 Rhan 3: Trawsfynydd i Fetws-y-coed

Llwybrau Penmachno

Mae’r llwybrau a gynhelir gan wirfoddolwyr ym Mhenmachno wedi’u rhannu yn ddwy ddolen, gyda hyd cyfunol o 30km o feicio gradd goch. Maen nhw’n ychwanegiad heriol ond hwyliog i lwybr Traws Eryri. Cofiwch roi rhodd i grŵp cymunedol Menter Bro Machno os yw’r llwybrau’n plesio.

Chwarel Manod

Sefydlwyd y chwareli llechi i’r dwyrain o Flaenau Ffestiniog, sydd bellach yn segur, gan ddau ddyn yn 1812, gan ddefnyddio ceibiau, ceffylau pwn a hen ffordd y porthmyn. Erbyn 1858, gwerthwyd y chwarel am swm sy’n cyfateb i bron £11 miliwn, ac roedd ganddi injan stêm â’r dechnoleg ddiweddaraf yn gweithredu nifer o winshis ar y llethrau. Ar ei hanterth yn 1869, cynhyrchwyd 8,000 o dunelli o lechi gorffenedig gan y chwarel, ond roedd wedi cau erbyn 1952.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd siambrau tanddaearol y chwareli hyn fel stordy gan yr Oriel Genedlaethol, pan symudwyd gweithiau celf

amhrisiadwy o Lundain a’u cuddio’n ddwfn yn y mwynfeydd, yn ddiogel o fomiau’r Almaen. Parhawyd â’r trefniant cyfrinachol hwn hyd at y Rhyfel Oer.

Mae’r llwybr cerdded Llwybr Llechi Eryri yn mynd trwy adfeilion y chwarel, ac mae Cycling UK yn gweithio i sicrhau caniatâd gan y tirfeddiannwr fel bod llwybr Traws Eryri yn mynd yr un ffordd. Byddai seiclo trwy’r safle yn ffordd atmosfferig dros ben i werthfawrogi’r effaith cafodd y chwareli llechi ar dirwedd yr ardal hon, ac rydym yn gobeithio ei gynnwys ar y llwybr. Am y tro, fodd bynnag, ewch o amgylch y chwarel ar y ffordd i gyrraedd Penmachno.

Cycling UK 42

Betws-y-coed

Saif pentref bach Betws-y-coed ar gydlifiad

afonydd Llugwy, Lledr a Chonwy. Mae ei

safle wedi’i wneud yn groesfan allweddol

ers y cyfnod cynhanes, a sefydlwyd

mynachlog gan gymuned Gristnogol

Geltaidd yma ar ddiwedd y 6ed ganrif.

Daeth yn bwysig i’r diwydiant mwyngloddio

plwm yn y canol oesoedd, a chafodd Pont

Wybrnant

Y ffermdy canoloesol

hardd hwn yw man geni’r

Esgob William Morgan, a gyfieithodd y Beibl i’r

Gymraeg am y tro cyntaf

yn y 1580au. Ar adeg

pan oedd y Beibl yn

chwarae rhan bwysig ym

mywydau’r bobl, roedd

hwn yn ddatblygiad

hollbwysig yn y broses

o gadw’r iaith yn fyw

wedi uno Cymru a Lloegr.

Mae toiledau cyhoeddus

ar gael yno hefyd.

Waterloo a adeiladwyd gan Thomas Telford ei hagor yn 1815, er mwyn cludo’r ffordd bost o Lundain i Gaergybi dros afon Conwy.

Bellach mae’r pentref yn ganolfan awyr agored a thwristiaeth gyda llawer o siopau awyr agored, caffis ac opsiynau llety sy’n ei wneud yn lle delfrydol i gymryd saib yn eich antur Traws Eryri.

43 Rhan 3: Trawsfynydd i Fetws-y-coed
Ty ^ Mawr

Betws-y-coed i Gonwy

RHAN PEDWAR

Cycling UK 46
GORFFEN DECHRAU

Rhan 4

Betws-y-coed i Gonwy

Pellter: 51km (31 o filltiroedd) Dringfa: 1279m

Uchafbwyntiau

• Llwybrau beicio mynydd ychwanegol dewisol

• Mynyddoedd am filltiroedd

• Pyramidiau uchel o lechi

• Y llinell wib gyflymaf a hiraf yn Ewrop

• Golygfeydd godidog o Ynys Môn

• Hen lonydd a thirweddau gwledig

• Caerau, cylchoedd cerrig a charneddau hynafol

• Ffyrdd Rhufeinig, castell canoloesol, peirianneg anhygoel

Byddwch yn ofalus

• Mae darn byr o’r llwybr yn mynd ar hyd prif ffordd yr A5 yn ymyl Llyn Ogwen. Mae llwybr beiciau wedi’i nodi ond mae pafin wedi’i godi yma hefyd os yw’n well gennych wthio’r beic

• Gall Llwybr Llechi Eryri at Fethesda fod yn brysur gyda cherddwyr. Rhaid cymryd pob gofal oherwydd ei wyneb rhydd, llethrau serth a chorneli cudd

• Mae’r ffyrdd yn ymyl Bangor yn gul

iawn felly byddwch yn barod i dynnu mewn i adael i draffig fynd heibio

• Bydd y ddringfa fawr ar y diwedd yn

boenus ar ôl y 200km a gwblhawyd eisoes, ond mae’n werth yr ymdrech

• Mae’r ddisgynfa olaf at Gonwy yn

boblogaidd ymysg ymwelwyr a phobl

leol, felly byddwch yn synhwyrol o ran eich cyflymder a chofiwch fod yn gwrtais a dweud helo

Llywio

Mae’r gwaith llywio ar ddechrau’r rhan hon yn ofnadwy o hawdd. Ymunwch â Llwybr

Llechi Eryri tu ôl i’r siop awyr agored yng Nghapel Curig, a pheidiwch â mynd heibio i le mae’n ailddechrau ymhellach i lawr y dyffryn.

Mae pethau’n mynd yn fwy cymhleth ar

ôl Bethesda, gan fod angen cymryd sylw cyson i gadw ar y ffordd iawn trwy’r ddrysfa o lonydd bach a phentrefi pitw ar draws y ffermdir hynafol.

Bydd angen bod yr un mor ofalus wrth ichi lywio ar hyd y llwybrau merlod niferus ar draws y gweundiroedd.

47 Rhan 4: Betws-y-coed i Gonwy
400m 200m 0m 0km 40km 50km 10km 30km 20km

Betws-y-coed i Gapel Curig

Pan fyddwch yn barod i adael bwrlwm Betws-y-coed, ewch i fyny’r stryd fawr a chroesi’r bont fwa uchel gul lle byddwch yn dechrau dringo ar ffordd drac sengl. Mae’n serth i ddechrau, yn enwedig os ydych wedi bwyta gormod yn y caffis cyn gadael. Os ydych yn teimlo’n arbennig o anturus, gallwch fynd ar hyd y trac ar y dde sy’n dringo i’r goedwig, a chynnwys rhai o’r llwybrau beicio mynydd gwreiddiol hefyd.

Fel arall, mae’r ffordd yn amlinellu ochr y bryn yn gyfochrog â’r afon, nes ichi droi ar hyd trac heibio’r Rhaeadr Ewynnol rhyfeddol.

Cymerwch ofal wrth ichi blymio i lawr y lôn serth a chroesi ffordd brysur yr A5. Cewch eich tywys i ffwrdd o draffig yr oes sydd ohoni wrth ichi gyrraedd caer Rufeinig

Llwybrau beicio mynydd

Coedwig Gwydir

Roedd llwybrau Coedwig Gwydir ymysg y cyntaf yng Nghymru, a chawsant eu hadeiladu gan yr un tîm a greodd llwybrau gwreiddiol

Coed y Brenin. Mae yna ddau lwybr swyddogol, un yn 25km a’r llall yn 8.7km, y ddau’n radd goch ac yn adnabyddus am eu dringfeydd serth, golygfeydd syfrdanol o’r mynyddoedd, a disgynfeydd llawn cyffro.

Caer Llugwy, sy’n 2,000 oed. Enw arall arni yw Bryn y Gefeiliau, sy’n awgrymu bod y gaer wedi’i sefydlu er mwyn rheoli cloddio am blwm yn yr ardal. Does dim llawer o’r gaer ar ôl erbyn hyn, felly bydd angen ichi edrych yn fanwl i weld olion y cloddiau allanol.

O groesi’r bont, yn anffodus mae angen ymuno â’r briffordd dros dro i gyrraedd Capel Curig (rhan arall y mae Cycling UK yn gobeithio ei gwella yn y dyfodol).

Cycling UK 48

Capel Curig

Yn safle i gaer ymdeithio Rufeinig, daw enw

Capel Curig o’r eglwys a’r fynwent Geltaidd

hynafol ger pont yr afon. Mae’n ganolfan

brysur i’r rhai sydd wrth eu boddau â’r

awyr agored, ac yn gartref i Ganolfan

Awyr Agored Genedlaethol Plas y Brenin, gwersyll hyfforddi’r fyddin, gwersyllfa, sawl caffi, gwestai a siopau cyfarpar.

Capel Curig i Lyn Ogwen

Wrth ichi bedalu i fyny trac dwbl creigiog

hanesyddol Llwybr Llechi Eryri, rydych yn mynd heibio copaon mawreddog dau o fynyddoedd Cymru sydd dros 1,000 metr sef Glyder Fawr a Charnedd Llewelyn.

Gyda’r Wyddfa ei hun ond rownd y gornel, mae’r dirwedd yn gallu crynhoi tywydd garw a blaenwyntoedd, felly byddwch yn barod i ddefnyddio haenau ychwanegol ac i weithio’n galetach.

Bydd y dirwedd anhygoel sydd o’ch cwmpas yn eich ysbrydoli ac yn creu atgofion erbyn ichi gyrraedd pen y bwlch

Byddwch yn ofalus wrth ymuno â’r darn bach o ffordd yr A5 wrth ochr Llyn Ogwen, a pheidiwch â methu’r cyfle i ymweld â

Rhaeadr Ogwen hardd. Mae siop yn gwerthu byrbrydau a thoiledau cyhoeddus yma hefyd, ynghyd â hostel a maes gwersylla.

Llwybr Llechi Eryri 49
Rhan 4: Betws-y-coed i Gonwy

Llyn Ogwen i Fethesda

O Lyn Ogwen, mae’n ddisgynfa ar hyd dyffryn rhewlifol ysblennydd Nant Ffrancon, lle byddwch yn codi a disgyn ar hyd llwybr beiciau Lôn Las Ogwen, rhan o Lwybr Llechi Eryri. Mae’r llwybr hwn yn boblogaidd ymysg ymwelwyr oherwydd y pyramidiau anferth o lechi a’r hen weithfeydd sydd o’ch cwmpas, felly cymerwch bwyll ac ewch i lawr y disgynfeydd troellog a’r corneli cudd yn ofalus, cyn cyrraedd chwareli llechi Penrhyn.

Yr hen drac rheilffordd cul o’r chwareli sy’n rhoi ichi lwybr di-draffig i mewn i Fethesda, lle gwelwch yr hen linellau rheilffordd yng nghoncrit yr hen stad ddiwydiannol/mwyngloddio o hyd. Mae gan Fethesda ddigon o gyfleusterau a llety gerllaw i’w gwneud yn fan aros posibl. Mae Bangor, sy’n fwy o faint ac yn fwy prysur, 10km i ffwrdd os oes angen mwy o opsiynau arnoch.

Bethesda

Tyfodd hen dref Bethesda i’w maint presennol oherwydd y twf yn y diwydiant llechi lleol, sy’n dal i fod yn ganolog i’r dref hyd heddiw. Mae’n dref sy’n falch o’i Chymreictod, gyda 80% o’r bobl leol yn siarad Cymraeg a sîn cerddoriaeth Gymraeg cryf iawn. Mae’r archfarchnadoedd bach, caffis a thafarndai yma yn ei wneud yn lle da os oes angen ichi ail-lenwi eich cyflenwadau.

Cycling UK 50
Lôn Las Ogwen

Chwareli llechi Penrhyn

Penrhyn oedd y chwarel fwyaf yn y byd ar ddiwedd y 19eg ganrif, gan gyflogi 3,000 o weithwyr. Hi oedd lleoliad streic tair blynedd gan Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru rhwng 1900 a 1903. Roedd y teimladau chwerw a grëwyd gan y streic cynddrwg, mae Tregarth (y pentref a adeiladwyd gan berchennog y chwarel ar gyfer y rhai o Fethesda a dorrodd y streic) yn cael ei alw’n Rhes y Bradwyr neu Stryd y Gynffon hyd heddiw.

Mae’r chwareli yn dal i weithio, ac maen nhw hefyd yn gartref i Zip World gyda’i llinell wib Velocity 2 sy’n 1.5km o hyd, gyda

chyflymder o 100mya – uchafbwynt yn llawn adrenalin. Mae yma gaffi hefyd, os yw’n well gennych fwyta na gwylio.

51 Rhan 4: Betws-y-coed i Gonwy

Ynys Môn

Roedd Ynys Môn yn gartref i’r derwyddon yng nghyfnod y Rhufeiniad, ac mae’n

glytwaith o safleoedd cynhanesyddol a hanes hwyrach, gan gynnwys y castell

mawreddog ym Miwmares. Mae croesi

i’r ynys dros y Fenai wrth ochr pont grog

Thomas Telford yn brofiad anhygoel ynddo

ei hun, a cheir traethau ysblennydd hyd at ben draw’r ynys, lle mae fferis yn mynd

i’r Iwerddon o borthladd Caergybi. Mae’r ynysoedd a’r dyfroedd o gwmpas Ynys Môn yn llawn adar môr, morloi a llamhidyddion, a byddai trip mewn cwch i weld y bywyd

gwyllt yn ychwanegiad gwych i daith mwy

hamddenol ar hyd llwybr Traws Eryri.

Mae’n ddigon agos i’r llwybr i ganiatáu arhosiad dros nos hefyd.

52
Y ddringfa i Lwybr Gogledd Cymru

Abergwyngregyn

Mae gan bentref Abergwyngregyn

gymaint o hanes oherwydd ei leoliad yn

ymyl aber nant ar yr arfordir – ceir yma

olion cynhanesyddol i ffwrdd o’r môr

a chaer Maes y Gaer o’r Oes Haearn yn edrych drosto. Cofnodwyd ei

bwysigrwydd fel canolfan seremonïol yn

y 5ed neu’r 6ed ganrif, ac eto yn 1090

pan adeiladwyd castell mwnt a beili yno

gan Iarll Caer. Defnyddiwyd y safle’n

hwyrach fel cartref brenhinol Llywelyn

Fawr. Mae’n lle mwy prysur na’r

disgwyl, gyda chwpl o gaffis a siop.

Bethesda i Abergwyngregyn

Mae’r dirwedd ar ôl gadael Bethesda yn ddramatig o wahanol i’r dyddiau blaenorol, ond yr un mor ddiddorol a syfrdanol. Mae’r waliau cerrig monolithig sy’n ymylu’r ffyrdd bychain troellog rhwng caeau’n arwydd clasurol o gysylltiadau hynafol yr ardal hon â diwylliannau Celtaidd gorllewinol eraill ar arfordiroedd Llydaw, Cernyw, Iwerddon ac Alban yr Iwerydd. Bydd yr archaeolegwyr brwd yn gallu sylwi ar y nifer fawr o olion aneddiadau cynhanesyddol a’r carnau ar lethrau Moel Wnion i ffwrdd o’r môr.

Mae’r golygfeydd godidog o’r Fenai a hud

a lledrith Ynys Môn i’r gogledd yn cynnig

cefndir panoramig i unrhyw seibiannau

ar gyfer llywio, bwyta neu werthfawrogi’r

harddwch. Mae’r lonydd i lawr yn cynnig

milltiroedd o feicio hawdd wrth ichi

ddisgyn tuag at yr arfordir a phentref

Abergwyngregyn.

53 Rhan 4: Betws-y-coed i Gonwy

Llanfairfechan

O’i chymharu â’i hanterth fel cyrchfan

gwyliau glan môr ar ddiwedd y 19eg

ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, mae

Llanfairfechan tipyn yn llai prysur erbyn hyn. Er hynny, mae yma ddigon o opsiynau

siopa a bwyta i’w gwneud yn lle defnyddiol

i aros cyn y bryniau olaf. Mae wedi ymddangos ar fap ers yr ail ganrif o leiaf, pan gododd peirianwyr Rhufeinig garreg

filltir fawr yma. Mae’r garreg bellach yn yr

Amgueddfa Brydeinig.

Abergwyngregyn i Gonwy

Mae’r trac i gerbydau â wyneb da sy’n croesi’r gweundir o Abergwyngregyn i Rowen yn debyg iawn o fod yn hen ffordd Rufeinig, ond er mawr syndod, nid yw’r ffordd wedi’i chofrestru fel hawl tramwy. Mae Cycling UK yn gobeithio trefnu mynediad i’r darn hwn yn y dyfodol, gan ei fod yn cynnig golygfeydd mwy anhygoel fyth dros Ynys Môn a Môr Iwerddon.

Yn y cyfamser, mae’r llwybr yn dilyn y llwybr beiciau sy’n gyfochrog â’r brif ffordd ar hyd yr arfordir. Ar ôl treulio dyddiau yn y gwyllt, mae prysurdeb y traffig sy’n mynd heibio’r darn hwn o’r llwybr beiciau yn anghydnaws, ond cyn bo hir, byddwch nôl ar lonydd tawel yn dringo i ffwrdd o’r môr. Mae ein llwybr yn mynd heibio i gyrion Llanfairfechan, ond efallai bydd golwg o’r bryn sydd o’ch blaen yn eich denu chi i archwilio i atyniadau glan môr y pentref, a phrynu digon o fyrbrydau cyn cam olaf eich antur epig Traws Eryri.

Nid yw diwedd y daith yn un hawdd, ac efallai y byddwch yn falch o’r mannau aros rheolaidd yn ymyl gatiau wrth ichi newid o ffyrdd i draciau hynafol. Efallai bydd eich coesau’n cwyno, ond mae’r golygfeydd at y tir a nôl dros y môr yn odidog unwaith eto, yn enwedig gan nad oes llawer o bobl yn

mwynhau’r ardal anghysbell ac angof hon. Ychwanegir at ddirgelwch a thawelwch yr

54
Tuag at Fynydd Conwy Y ddringfa i fyny o Lanfairfechan

ardal gan gylchoedd cerrig seremonïol, carneddau, cylchoedd cytiau ac olion eraill sy’n dyddio’n ôl 6,000 o flynyddoedd.

Mae’r daith ar hyd y topiau’n codi a disgyn yn bleserus dros lwybrau igam ogam a borir gan ddefaid a merlod, gydag adar ysglyfaethus Eryri yn hedfan fry uwch eu pennau. Fodd bynnag, rhaid ichi gadw eich sylw ar y ddisgynfa, neu gallech fethu’r pwynt lle mae’r llwybr yn troi ac yn mynd trwy’r wal at y gweundir.

Yn anffodus, lle mae’r llwybr yn croesi’r nant yn Nhy’n-y-ffrith, bydd angen ichi gario eich beic ar hyd cilffordd gyfyngedig am ychydig, lle mae’r tir yn gorslyd a’r llwybr yn anodd i’w ddilyn. Rydym yn gobeithio bydd y gwelliannau i’r llwybr yn y dyfodol yn caniatáu defnyddio’r llwybr troed â wyneb gwell a’r bont ychydig i’r de, ond ar hyn o bryd, byddai hynny’n golygu codi’ch beic dros gamfa.

Byddwch yn ofalus o’r cerrig lletchwith ar y trac sengl wrth fynd i lawr at lecyn hardd Bwlch Sychnant, a’i frigiad folcanig ysblennydd ag acwsteg unigryw sy’n creu adlais. Byddwch yn gwibio i lawr y ffordd cyn ymuno â thrac sy’n mynd ar hyd ymyl Mynydd Conwy, gyda dwy fryngaer hynafol uwch eich pen.

Nesaf cewch wobr haeddiannol sef disgynfa greigiog heibio cylchoedd cytiau Neolithig ar hen ffordd y porthmyn a’i waliau cerrig yng nghysgod coed llydan.

Mae’r wyneb yn rhydd a gallai’r trac fod yn brysur gyda cherddwyr a defnyddwyr eraill, felly cymerwch bwyll a seiclo’n urddasol i dref frenhinol Conwy, yn hytrach na bod yn rebel gwyllt!

Mae’n bryd ichi ystyried eich cyflawniad a’ch profiadau wrth ichi deithio’n hamddenol drwy strydoedd cefn Conwy, cyn troi’r gornel olaf a gweld y castell mawreddog a’i bontydd. Ewch o dan furiau canoloesol y dref a heibio i’r tŷ lleiaf ym

Mhrydain at y cei, lle gallwch roi’r gorau i bedalu a dechrau meddwl am eich hanesion chi yn Eryri.

55
Bwlch Sychnant

Bryngaerau Mynydd Conwy

Mae’r ddwy fryngaer o’r Oes Haearn ar Fynydd Conwy yn gyfuniad o ‘hanner caer’ ac ‘un gaer a hanner’. Mae’r gaer gyntaf ar gopa aruchel Allt Wen yn fach iawn, ond byddai ei lleoliad a’i wal â wyneb cerrig 3 metr o uchder wedi’i gwneud yn lle anodd i ymosod arno.

I’r dwyrain, mae Castell Caer Seion, sy’n dyddio o’r 6ed ganrif CC, llawer yn fwy,

ac yn nodedig am ei fod wedi’i feddiannu a’i ddefnyddio’n barhaus, fel y dengys y 50 o sylfeini cytiau, ac oherwydd yr ychwanegwyd caer fewnol lai yn y 4edd ganrif CC. Roedd y ffos a’r rhagfuriau’n amddiffynfeydd pwysig hefyd, gan fod 600 o gerrig tafl wedi’u darganfod mewn cwt wrth ymyl y fynedfa, yn barod i’w taflu at unrhyw ymosodwyr.

Conwy

Wedi’i lleoli ar aber afon sy’n creu harbwr cysgodol naturiol, gyda ffyrdd o fynd ar hyd yr arfordir ac i ffwrdd o’r môr i’r de, mae safle Conwy wedi bod yn bwysig ers cyn hanes. Cadarnhawyd ei bwysigrwydd pan adeiladodd Edward I ei gastell enfawr yma, ac Abaty Aberconwy oedd yr abaty mwyaf yng ngogledd Cymru.

Rhaid mynd i’r ardaloedd gwledig cyfagos i weld olion cynhanesyddol a Rhufeinig, ond mae’r strydoedd cul tu mewn i furiau’r dref, sydd wedi’u cadw’n arbennig o dda, yn llawn hanes. Mae hyn yn cynnwys Tŷ Aberconwy o’r 14eg ganrif, dan berchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a Phlas Mawr, cartref y teulu Wynn o gyfnod Elizabeth I, a adferwyd gan Cadw ac sydd ar agor i’r cyhoedd.

Mae’n dref brysur, gyda digonedd o opsiynau bwyta a llety, sy’n ei gwneud yn lle delfrydol i fwyta, yfed a gorffwys cyn eich taith adref ar drên neu mewn car.

Cycling UK 56
Y tŷ lleiaf ym Mhrydain Trac ar Fynydd Conwy

Croesi’r aber

Pont grog Conwy oedd un o’r pontydd crog cyntaf yn y byd, a ddyluniwyd gan y peiriannydd enwog Thomas Telford. Yn ddiweddarach, adeiladodd y peiriannydd ac arloeswr trên stêm enwog Robert Stephenson ei bont reilffordd radical o diwbiau a bocsys wrth ei hochr. Yr arloesedd anweledig yw twnnel tiwb claddedig cyntaf Prydain, sy’n mynd â ffordd arfordirol yr A55 dan afon Conwy er mwyn osgoi’r dref hanesyddol.

Castell Conwy

Castell Conwy yw un o’r cestyll mwyaf trawiadol yn y DU, ac un o’r rhai sydd wedi’i gynnal a’i gadw orau hefyd. Mae ei furiau uchel a’i wyth tŵr wedi tremio dros y dref ers 1287, pan adeiladodd brenin Lloegr Edward I ei gyfres o gadarnleoedd ar hyd arfordir gogledd Cymru. Mae’r ystafelloedd mewnol

a’r grisiau tro mewn cyflwr eithriadol o dda, felly mae’r safle’n rhan hanfodol o ymweliad â Chonwy. Mae’r castell yn rhan mor annatod o’r dref, rhoddir y llysenw ‘jac-do’ ar unrhyw un sy’n cael ei eni tu mewn i furiau Conwy hyd heddiw, ar ôl yr adar sy’n byw ar ei furiau.

Ewch o dan furiau canoloesol y dref a heibio i’r tŷ lleiaf ym Mhrydain at y cei, lle gallwch roi’r gorau i bedalu a dechrau meddwl am eich hanesion chi yn Eryri.

57 Rhan 4: Betws-y-coed i Gonwy
57

Lleoedd a chyfleusterau

Ar gyfer lleoedd sy’n gwyro ychydig o’r llwybr ei hun, mae’r pellter a’r ddringfa’n cyfeirio at y pwynt agosaf ar y llwybr.

Cycling UK 58 Pellter o’r dechrau (km) Pellter rhyngddynt (km) Cyfanswm y ddringfa (m) Y ddringfa rhyngddynt (m) Machynlleth 0 0 0 0 Corris 9 9 184 184 Abergynolwyn 21 12 380 196 Arthog 44 23 952 572 Abermaw (4km oddi ar y llwybr) 49 0 952 0 Llyn Penmaen 52 8 966 14 Dolgellau (4km oddi ar y llwybr) 52 0 966 0 Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin 68 16 1404 438 Bronaber (2km oddi ar y llwybr) 75 7 1695 291 Trawsfynydd (cyn dolen y llyn) 78 3 1695 0 Trawsfynydd (ar ôl dolen y llyn) 89 11 1881 186 Llan Ffestiniog 96 7 2117 236 Blaenau Ffestiniog (4km oddi ar y llwybr) 96 0 2117 0 Penmachno (1km oddi ar y llwybr) 109 13 2350 233 Betws-y-coed 140 31 3160 810 Capel Curig 150 10 3488 328 Canolfan Ymwelwyr Llyn Ogwen 158 8 3654 166 Bethesda (1km oddi ar y llwybr) 166 8 3757 103 Bangor (8km oddi ar y llwybr) 168 2 3769 12 Abergwyngregyn 176 8 3901 132 Llanfairfechan 181 5 4050 149 Conwy 194 13 4424 374
Blaenau Ffestiniog
59
Lleoedd a chyfleusterau Conwy
Gwely a brecwast/gwesty Hostel Gwersyllfa Tafarn/ bwyty Caffi Siop Siop feiciau Gorsaf reilffordd

Teithiau a awgrymir

Rydym wedi rhannu’r canllaw yn bedair rhan ar sail daearyddiaeth a mannau aros amlwg, ond gellir rhannu’r llwybr mewn ffyrdd eraill hefyd. Cofiwch y gall y tir a’r llethrau serth eich arafu chi’n fwy na’r disgwyl, felly cynlluniwch eich pellter dyddiol yn unol â hynny.

Mae Dolgellau yn wyriad o’r prif lwybr o’r prif lwybr – mae’r pellteroedd a ddangosir yma yn cynnwys dargyfeiriadau i mewn i’r dref ar hyd llwybr 8 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

Eglurhad y map

Gallwch lawrlwytho ffeil GPX cyflawn o wefan Cycling UK yn cyclinguk.org/traws-eryri

Cycling UK 60
3
– 50km y dydd Pellter (km) Dringfa (m) Machynlleth i Ddolgellau 61 1199 Dolgellau i Drawsfynydd (ar ôl dolen y llyn) 41 915 Trawsfynydd i Fetws-y-coed 51 1279 Betws-y-coed i Gonwy 54 1264 2 noson – 70km y dydd Pellter (km) Dringfa (m) Machynlleth i Ddolgellau 61 1199 Dolgellau i Fetws-y-coed 92 2194 Betws-y-coed i Gonwy 54 1264
noson
Gwely a brecwast /gwesty Hostel Gwersyllfa Tafarn/bwyty Caffi Siop Siop feiciau Gorsaf reilffordd Prif lwybr Opsiynau amgen Graddfa 1:50
000

Traws Eryri –Credydau delweddau

Yr holl luniau gan Samantha Saskia Dugon

heblaw:

Croeso

Llun gan Rob Spanring/Cycling UK.

Sut mae eich cymorth yn helpu

Tud.7, top chwith gan Joolze Dymond/Cycling UK, gwaelod chwith gan Julie Skelton/Cycling UK.

Rhagymadrodd

Tud.11 gan Sophie Gordon/Cycling UK; tud.13, top dde gan Sam Jones/Cycling UK, gwaelod chwith gan Joolze Dymond/Cycling UK; tud.14, gwaelod chwith gan Sam Jones/Cycling UK, top dde gan Phill Stasiw/MTB Cymru; tud. 15, gwaelod dde gan Denise Furlonger/Surrey Hills

AONB; tud.16 gan Phill Stasiw/MTB Cymru; tud.17 Machynlleth gan Ruth Hartnup (CC BY 2.0).

Rhan 1

Tud.22, Parc Beicio Dyfi gan Barc Beicio Dyfi; tud.23, Canolfan y Dechnoleg Amgen gan

Jonathan Billinger (CC BY-SA 2.0), rheilffordd

stêm Tal-y-llyn gan Peter Trimming (CC BY 2.0); tud.24, Craig yr Aderyn gan Mike Finn (CC BY 2.0); tud.25, Castell y Bere gan Tanya

Dedyukhina (CC BY 3.0); tud.27, Llyn Penmaen gan David Merrett (CC BY 2.0), Cadair Idris gan John K Thorne (CC0 1.0).

Rhan 2

Tud.32, Pont Llyn Penmaen gan David Merrett (CC BY 2.0), tud.33, Rhaeadr Du gan Andrew Bowden (CC BY-SA 2.0); tud.35, Trawsfynydd gan Tanya Dedyukhina (CC BY 3.0), Llyn Trawsfynydd gan Jim Killock (CC BY-SA 2.0).

Rhan 3

Tud.39 gan Phill Stasiw/MTB Cymru; tud.40, Castell Tomen y Mur gan Davina Ware (CC BY-SA 2.0); tud.41, Blaenau Ffestiniog gan artq55 (CC BY-SA 2.0); Chwarel Cwt y Bugail gan Sophie Gordon/Cycling UK; : tud. 43, prif lun Betws-y-coed gan Croeso Cymru a’r mewnosodiad gan CK Travels/Shutterstock.

Rhan 4

Tud.48, canol dde gan Phill Stasiw/MTB Cymru; tud.50, Bethesda gan Croeso Cymru; tud.51, chwareli llechi Penrhyn gan Hefin Owen (CC BY-SA 2.0); tud.52, Ynys Môn gan Barry (CC BY 2.0); tud.53, Abergwyngregyn gan hagger71; tud.54, Llanfairfechan gan cattan2011 (CC BY 2.0).

Lleoedd a chyfleusterau

Tud.58, gwaelod chwith gan Steve Way (CC BY 2.0); Blaenau Ffestiniog gan Hefin Owen (CC BY-SA 2.0); tud.59, hostel gan Phill Stasiw/MTB Cymru.

Yr awdur Llun gan Guy Kesteven.

61

Diweddglo

Dychmygwch allu seiclo hyd a lled y wlad ar lwybrau cysylltiedig oddi ar y ffordd, trwy leoedd hynod ddiddorol a thirweddau anhygoel.

Fel elusen seiclo y DU, mae Cycling UK yn gweithio i wireddu’r freuddwyd hon drwy ymgyrchu dros ehangu mynediad i feiciau oddi ar y ffordd a datblygu llwybrau hirbell newydd er mwyn cysylltu’r llwybrau presennol.

Dechreuasom gyda llwybr seiclwyr North Downs Way, cyn symud ymlaen at Ffordd Fawr y Gogledd (Great North Trail).

Traws Eryri yw’r cam nesaf ar y daith. cyclinguk.org/offroadcampaigns

Ni yw elusen seiclo’r DU

Mae seiclo’n anhygoel, a dyna pam rydyn ni eisiau i bawb fwynhau’r wefr o fod ar feic drwy wneud ein strydoedd yn fwy diogel, agor llwybrau di-draffig newydd ac ysbrydoli mwy o bobl i fynd ar y beic.

Mae gennym fwy na 140 o flynyddoedd o brofiad o gefnogi seiclwyr ac ymgyrchu dros eu hawliau.

Credwn fod gan bawb yr hawl i seiclo, i fwynhau mynediad i lwybrau diogel ac i gael y sgiliau i reidio’n hyderus.

Ond ni allwn greu newid ar ein pen ein hunain. Mae ein cymuned o aelodau a chefnogwyr brwd yn rhoi inni lais uwch er mwyn lobïo llywodraethau ac ysbrydoli miliynau yn fwy o bobl i seiclo.

Mae anturio yn ein coedwigoedd, ar ein gweundiroedd ac yn ein dyffrynnoedd ar feic yn eich ysbrydoli ac yn codi’r galon. Dyma’r ffordd orau i ddarganfod lleoedd newydd, ac mae’n hwb arbennig i dwristiaeth wledig. Credwn y dylai pawb gael y cyfle i feicio o’i ddrws ar lwybrau cysylltiedig di-draffig.

Os ydych chi’n rhannu ein gweledigaeth, gwnewch rywbeth anhygoel ac ymuno â Cycling UK heddiw. Gyda’n gilydd, gallwn greu byd gwell ar gefn beic.

cyclinguk.org/join

Ymaelodwch â Cycling UK

Ymunwch â mwy na 70,000 o aelodau a derbyn:

• Yswiriant atebolrwydd trydydd parti a chymorth cyfreithiol am ddim.

• Disgownt ar yswiriant beic (yn cynnwys beiciau mynydd ac e-feiciau) gyda Yellow Jersey.

• Buddion a disgowntiau manwerthwyr.

• Cylchgrawn beicio bob deufis, yn llawn llwybrau sy’n ysbrydoli, cyngor, newyddion ac adolygiadau.

• Mae eich aelodaeth yn cefnogi’n uniongyrchol y gwaith a wnawn i greu byd gwell ar gefn beic.

cyclinguk.org/join

Os nad ydych yn dymuno ymaelodi, ystyriwch roi rhodd ariannol i helpu Cycling UK i barhau â’n gwaith o agor mwy o fynediad gwledig i feiciau, ac ymgyrchu dros wella amodau i seiclwyr ledled y DU.

cyclinguk.org/donate

Cycling UK 62

Yr awdur

Mae Guy Kesteven wedi bod yn archwilio Lloegr hanesyddol ar gefn beic ers i’w fam ei roi mewn sedd plentyn gyda’r siopa ar deithiau i Gaerefrog. Yn archaeolegydd cymwys a enillodd ei blwyf, mae wedi aros yn y mwd yn ddyddiol fel profwr beiciau proffesiynol ar gyfer gwefannau a chylchgronau mwyaf blaenllaw’r byd. Mae ganddo hefyd ei sianel YouTube ei hun sef GuyKesTV, lle cewch hyd i ganllawiau fideo ar gyfer llawer o lwybrau Cycling UK.

63

“Mae llwybr Traws Eryri yn gasgliad hardd o draciau sengl, llwybrau graean a lonydd tawel sy’n cysylltu rhai o’r ardaloedd beicio mynydd mwyaf adnabyddus â llecynnau hardd yng ngogledd Cymru.

Mae mynd ar eich beic trwy Barc Cenedlaethol Eryri yn dod â chi’n nes at natur. Cewch ddarnau cudd o goetir hynafol, golygfeydd agored o fynyddoedd a chipolwg o hanes diwydiannol diddorol yr ardal, cyn cyrraedd pen y daith ar hyd arfordir y gogledd a’r golygfeydd at Fôr Iwerddon a’r arfordir gwyllt.

Mae’n llwybr mwy heriol na rhai o lwybrau eraill Cycling UK, felly dewch â choesau cryf a byddwch yn barod am antur.”

Claire Frecknall, Mason Cycles/HUNT Beyond

Ffôn: 01483 238301

cyclinguk.org

Cycling UK, Parklands, Railton Road, Guildford, Surrey GU2 9JX

Cycling UK yw enw masnachu Cyclists’ Touring Club (CTC), cwmni cyfyngedig drwy warant, wedi’i gofrestru yn Lloegr rhif: 25185.

Wedi’i gofrestru fel elusen yng Nghymru a Lloegr rhif elusen: 1147607

ac yn yr Alban rhif elusen: sco42541.

Swyddfa gofrestredig: Parklands, Railton Road, Guildford, Surrey GU2 9JX.

Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.