British Academy Cymru Awards 2013 programme

Page 27

Wel, nid yw’n gyfrinach mwyach Peter Capaldi fydd y 12fed Doctor, a bydd yn camu i esgidiau nodedig Matt Smith yn ystod rhaglen arbennig y Nadolig eleni.

MLYNEDD O DOCTOR WHO TRWY RHODRI TALFAN DAVIES

52

Roedd yn gyffrous gweld y croeso a gafodd Peter: mae’r ffaith bod Doctor Who yn dal i allu creu’r fath gynnwrf hanner canrif yn ddiweddarach yn rhyfeddol. Wrth gwrs, bydd y gyfres yn dathlu hanner canmlwyddiant mewn steil ar y 23ain o Dachwedd. Mae’r pen-blwydd arbennig sydd ar y gorwel hefyd yn gyfle i ni ystyried effaith y gyfres fytholwyrdd hon yma yng Nghymru. Roedd ail-eni Doctor Who yng Nghymru, bron i ddeng mlynedd yn ôl, yn drobwynt. Rwy’n credu bod uchelgais a safon y gyfres wedi newid pethau’n llwyr – ac wedi creu gwir ymdeimlad o bosibilrwydd ynglyn â Chymru a’n dylanwad creadigol. Bron i ddegawd ar ôl ymddangosiad cyntaf Christopher Ecclestone – o dan arweiniad Russell T Davies a Julie Gardner – oes ‘na unrhyw un yn cwestiynu gallu cynhyrchu Cymru mewn gwirionedd? Mae llwyddiannau’r dramâu rhwydwaith yng Nghymru ers 2005 yn aruthrol, gan gynnwys Doctor Who, Casualty, The Indian Doctor (Rondo), Wizards vs Aliens, The Sarah Jane Adventures, Being Human (Touchpaper), Sherlock (Hartswood), Merlin (Shine), Torchwood, Da Vinci’s Demons (Starz/BBC Worldwide) ac Upstairs Downstairs. Mae llawer mwy i ddod hefyd. Mae cyfres newydd gan BBC ONE, Atlantis (Little Monster), yn cael ei ffilmio yng

Nghas-gwent ar hyn o bryd, ac mae S4C a’r BBC yn cefnogi cynhyrchiad drama fawr newydd gan Fiction Factory, Hinterland a Y Gwyll. Mae Modern TV yng Nghaerdydd yn gweithio gyda’r awdur, Andrew Davies, ar ddrama arbennig, A Poet in New York, ar gyfer BBC TWO a BBC Cymru, i nodi canmlwyddiant Dylan Thomas yn 2014. Ac mae ein tîm mewnol wrthi’n cynllunio dwy gyfres ddrama fawr newydd ar gyfer BBC ONE: cyfres am y byd ysbïo, The Game, ac addasiad epig o nofel Tolstoy, War and Peace. Mae’n bosib mai stiwdios drama’r BBC ym Mhorth y Rhath yma ym Mae Caerdydd sy’n ymgorffori’r degawd hwn o gynnydd orau – gyda 50 milltir o geblau, 38 ystafell newid, 30 o welyau ysbyty, 23 ystafell olygu, 23 babi prosthetig, 16 Dalek, 2 flwch ffôn TARDIS, dwy dafarn ac un capel. Ond ry’n ni gyd yn gwybod bod llwyddiant yn golygu llawer mwy na brics a mortar. Mae wedi bod yn ymdrech tîm, sy’n cynnwys partneriaid ar draws y sector annibynnol, S4C, Llywodraeth Cymru a’r asiantaeth hyfforddi ar gyfer y sector, Skillset. Ac yn y diwedd wrth gwrs, talentau’r unigolion sy’n gwneud y gwahaniaeth creadigol pwysig – yr awduron, y cynhyrchwyr, y dylunwyr a’r artistiaid sydd wedi achub ar y cyfleoedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac sydd wedi dangos i’r byd y gall Cymru fod yn wirioneddol flaenllaw. Dyma un o’r rhesymau pam y mae nosweithiau gwobrau BAFTA Cymru mor bwysig – mae’n gyfle i ddiolch i bawb sydd wedi chwarae eu rhan wrth gyflwyno Cymru i’r byd.

53


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.