Newid ar Droed

Page 1

Newid ar Droed – ydy Cymru’n barod? Gwneud yr economi cymreig yn fwy gwydn i newid hinsawdd a phrisau olew sy’n codi Mae angen gweithredu’n radical gan bob plaid wleidyddol yng Nghymru os ydyn nhw am gadw eu haddewidion ar newid hinsawdd ac atal prisiau ynni sy’n codi rhag gwthio pobl i mewn i dlodi. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gosod rhai o’r targedau mwyaf uchelgeisiol yn y byd i’w hun i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae wedi addo gostyngiad blynyddol o 3%, o fewn meysydd sydd wedi’u datganoli, gyda’r bwriad o leihau allyriadau o 40% ar lefelau 1990 erbyn 2020. Ond nid yw’r cynnigion cyfredol ar sut i gyrraedd y darged hon yn cyflawni ar y raddfa na’r cyflymder angenrheidiol o newid sydd ei angen yn ddirfawr. Yn yr hinsawdd ariannol cyfredol deallwn fod rhaid gwneud penderfyniadau anodd, ond mae’r perygl o beidio buddsoddi nawr mewn mesurau i atal newid hinsawdd yn golygu difrod economaidd ac amgylcheddol di-droi’n-ôl. Mae Atal Anrhefn Hinsawdd, mudiad o 14 sefydliad dylanwadol Cymreig, mewn paertneriaeth ag Uned Ymchwil Economiadd yn Ysgol Fusnes Caerdydd, wedi adnabod/ dynodi ffyrdd y gall Llywodraeth y Cynulliad helpu Cymru ar ei thaith at ddyfodol carbon îs, tra ar yr un pryd yn creu swyddi, buddsoddi mewn gwell tai a gwella iechyd a lles.

Y daith at/I ddyfodol carbon isel O ystyried yr hinsawdd economiadd mae AAHC wedi adnabod tri prif blaenoriaeth i Lywodraeth y Cynulliad fuddsoddi ynddynt, sydd yn ein tyb ni yn rai fforddiadwy, a chyrraeddadwy a fydd yn y tymor hir yn dod â buddion i iechyd, yn gymdeithasol yn ogystal â rhai amgylcheddol.

Symudiad diwylliannol o’n dibyniaeth ar y car i ‘Ddewisiadau Call’ Mae defnyddio’r car yn cyfrannu’n sylweddol tuag at allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae tystiolaeth yn dangos pan fod pobl yn derbyn gywbodaeth benodol am ddewisiadau amgen i’r car, mae cynnydd arwyddocaol yn y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus neu seiclo. Mae teithiau pell hefyd yn lleihau os yw pobl yn ymwybodol o’r atebion busnes arloesol megis gweithio o bell a chynadledda fideo. Mewn tair ardal peilot yn Lloegr, lleihaodd defnydd o’r car gan 9% tra gwelwyd cynydd mewn teithiau bws o 35% a

chynydd teithiau ar feic o 113%, yn syml ddigon drwy roi y wybodaeth sydd ei angen ar bobl i’w helpu i gynllunio’u teithio. Am £10 y pen yn unig gall rhaglen ‘Dewisiadau Teithio Call’ dorri allyriadau; elwa busnesau, sy’n colli £20m y flwyddyn o ganlyniad i orlenwad heolydd, yn ogystal â gwella iechyd. Mae Ysgol Fusnes Caerdydd yn amcangyfrif y gall newid i gludiant cyhoeddus a di-fodur fod gwerth cymaint â £11m o elw i’r economi Gymreig a 300 swydd, bob blwyddyn, tra hefyd yn arbed 170,000 tunnell o garbon. Mae LlCC yn dechrau gweithredu’r cynllun yn gyfyngedig yng Nghymru ond mae angen cynyddu’r raddfa yn sylweddol os ydym am gyflawni targedau allyriadau.


Rhaglen o fuddsoddi yn sgiliau ‘cynaladwyedd’ Mae angen i Strategaeth Swyddi Gwyrdd Llywodraeth y Cynulliad fod ar ben blaen ei chynlluniau adnewyddu economaidd a chynnwys y gofyn cynyddol am arbenigedd yn nhechnoleg gwres, ôl-ffitio ac adeiladau newydd cynaladwy. Mae lefel sgil y gweithlu yn gyrru cystadleuaeth rhwng cwmnїau ac yn rhanbarthol. ac mae diffyg hyfforddi yn dangos ei fod yn cyfyngu ar dwf/ gynnydd. Serch hynny, mae cwmnїau bach yn hyfforddi llai, ac mae hyn yn broblem fawr i Gymru gan fod nifer fawr o’i busnesau yn gwmnїau bychain, yn enwedig o fewn y sector adeiladu. Mae angen buddsoddi mewn hyfforddiant sy’n darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i

Aelodaeth Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru Oxfam Cymru, Unison, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Cyfeillion y Ddaear Cymru, RSPB Cymru, Sustrans Cymru, WWF Cymru, CAFOD, Cymorth Cristnogol Cymru, Coed Cadw – The Woodland Trust, Tearfund, Sefydliad y Merched Cymru, Ymddiriedolaethau Natur Cymru, Canolfan y Dcnoleg Amgen

weithio ym maes ddatblygiedig cynaladwyedd. Yn y sector adeiladu yn unig, yn fuan iawn bydd Cymru yn profi cynnydd mawr yn yr angen am adeiladwyr sgilgar, gosodwyr generadu meicro a chreftwyr, sydd yn ymwybodol o’r rheolau amgylcheddol newydd a newidiadau polisi. Fel rhan o strategaeth Llywodraeth y Cynulliad, dylid creu canolfannau hyfforddi ledled y wlad gan dargedu ardaloedd sydd a lefelau uchel o ddiweithdra a chynnig cyfleoedd i bobl Cymru fod ar ben blaen y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg gwyrdd. Bydd cael rhwydwaith o bobl broffesiynnol yng Nghymru sydd wedi’u hyfforddi’n addas yn angenrheidiol i gefnogi darpariaeth o sawl ymyriad newid hinsawdd, gan gynnwys rheiny sydd yn y ddogfen hon, a fydd yn creu Cymru gystadleuol ym marchnadoedd gwaith/ swyddi y DU ag Ewrop.

Rhaglen genedlaethol o adnewyddu ynni cartrefi Mae cartrefi yn gyfrifol am bron i un pumed o allyriadau cenedlaethol Cymru. Drwy weithredu rhaglen genedlaethol o adnewyddu ynni catrefi, mae tai yng Nghymru yn cynnig y potensial o wneud torriadau allyriadau dwfn a sydyn. Bydd y rhaglen hon nid yn unig yn yn lleihau defnydd o ynni a thorri carbon ond hefyd yn lleihau biliau tannwydd, gan helpu miloedd o bobl allan o dlodi tannwydd, yn ogystal â chreu swyddi newydd. Mae angen strategaeth Gymreig gynhwysfawr er mwyn adnewyddu o leiaf 400,000 o gartrefi yng Nghyrmu drwy dorri eu allyriadau o ryw 60% neu fwy, yn ogystal â mesurau i annog perchnogion tai eraill i fabwysiadu mesurau ynni effeithlon, er mwyn cyrraedd targed 2020. Mae hyn yn gryn dasg fydd angen buddosddiad o £700m y flwyddyn dros 10 mlynedd all gael ei godi os yw Llywodraeth y Cynulliad am fuddsoddi mewn tai ac annog y sector breifat i gymryd rhan. Mae’r buddion tymor hir o raglen mor feiddgar yn sylweddol ac yn cynnwys creu 20,000 o swyddi, chwystrelliad o £3bn i GYC Cymreig dros 10 mlynedd ac arbed miliynnau o dunelli o garbon. Cyn bwysiced, gall yr adnewyddu helpu i warchod llawer o boblogaeth Cymru, gan gynnwys y tlotaf, rhag effeithiau y codiad disgwyliedg ym miliau nwy a thrydan yn y degawdau sydd i ddod.

Supported by: Published and printed by Stop Climate Chaos Cymru - stopclimatechaoscymru.org


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.