BBC NOW 2014-15

Page 19

Dros y blynyddoedd dylanwadodd dechreuad y bydysawd ar gyfansoddwyr lawer ac fel sydd hysbys Genesis a ysbrydolodd Haydn yn ei oratorio’r Creu. Yn y dechrau, The Representation of Chaos, defnyddia Haydn anghyseinedd, fawr i gynulleidfaoedd modern synnu ato ond roedd yn ysgytiol i wrandawyr y ddeunawfed ganrif. Pan gychwynna’r unawdydd bas â geiriau cyntaf y Beibl, fodd bynnag, daw cytgord drachefn - a’r gwaith yn mynd â’r gwrandawyr ar daith drwy chwe diwrnod y creu, ac wedyn stori Adda ac Efa. Dylanwad arall ar Y Creu Haydn oedd ei brofiad gyda thelesgop Herschel. Fel yr eglura Cyfansoddwr Preswyl y Gerddorfa Mark Bowden: “Mae adran agoriadol Y Creu yn cyfeirio at ddarlunio anhrefn; efallai mai syniad gan Herschel oedd hwn, a eglurodd i Haydn sut y ffurfir y sêr. Haydn oedd un o’r ychydig o bobol oedd heb fod yn wyddonwyr a edrychodd drwy delesgop Herschel a gweld cyn belled ag a welodd neb erioed i’r ffurfafen.” Ond cerddodd gwyddoniaeth ymhell ers sgrifennu’r Creu. Y tymor yma gwelir cydweithio Mark Bowden â’r llenor o Gymro Owen Sheers i greu gwaith newydd yn portreadu dechreuad y bydysawd o’r enw A Violence of Gifts - a ysbrydolwyd gan yr ymchwil wyddonol ddiweddaraf o’r Gwrthdrawydd Hadronau Mawr yn CERN. Cefnogir y fenter yma hefyd gan Sefydliad Jerwood. Ys dywedodd Owen wrth raglen Arts@CERN, “Yn y sgyrsiau cyntaf un, pan soniodd Mark y byddai hyn i ryw raddau ynghlwm â’r Creu gan Haydn, gwyddwn ei fod yn ymateb i hanes y creu yn ôl y Beibl. At hynny buom yn trafod The Planets gan Holst a’r ffordd y mae ei waith yn myfyrio uwch ddarlunio’r planedau mewn mythau Rhufeinig.” Trefnodd Mark ac Owen dreulio deuddydd yn y Gwrthdrawydd Hadronau Mawr i ymchwilio, i gael dirnadaeth glir o anian naratif gwyddonol. Meddai Owen “Ymestynnid fy meddwl byth a hefyd rhwng eithafion graddfa, yn sôn am y bydysawd ac wedyn am y Plasma Cwarc a Glwon.” Bydd thema’r Creu yn dal i fynd yn ein tymor yn Neuadd Hoddinott y BBC ar dair gwedd wahanol. Defnyddia Les Éléments Rebel anghyseinedd i gynrychioli anhrefn, cyn i’r Gerddorfa ddarlunio elfennau’r ddaear, y gwynt, awyr a thân; ysbrydolwyd La création du monde Milhaud gan fytholeg gwerin Affrica; a ballet ydi Popol Vuh Ginastera wedi’i seilio ar gredoau’r Maiaid, yn ôl disgrifiadau llawysgrifau hynafol.

Mark Bowden A Violence of Gifts 18.04.15 St David’s Hall • Neuadd Dewi Sant

Afternoon with • Prynhawn yng nghwmni Stefan Asbury 21.04.15 BBC Hoddinott Hall • Neuadd Hoddinott y BBC

Haydn The Creation • Y Creu 08.05.15 St David’s Hall • Neuadd Dewi Sant

bbc.co.uk/now 0800 052 1812


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.