Gwerthfawrogi lle

Page 26

Y pethau rydym yn ei wneud i ni ein hunain ac i’n gilydd Gall traddodiad gwaith, diwydiant, sefydliadau neu ffordd o fyw ym mhob lle hefyd roi ymdeimlad cryf o hunaniaeth i bobl. Mae beth mae pobl yn ei wneud - sut maent yn gwneud eu bywoliaeth a sut maent yn treulio eu hamser yn werth allweddol36. Yn benodol, mae’r cysylltiadau hanesyddol a chyfredol â diwydiant ym Mhort Talbot yn gryf iawn: “Rwy’n credu ein bod yn dref ddiwydiannol yma a bod hynny’n ein gosod ar wahân i lefydd fel Abertawe neu Gaerdydd ... y gwaith dur yw eicon y dref o hyd. Pan fydd pobl yn meddwl am y dref fe fyddan nhw’n meddwl am y gwaith dur. Ochr gadarnhaol hyn yw bod gyda chi le sy’n hynod falch o’r hyn sy’n cael ei gynhyrchu, a hefyd balchder eithriadol o fod yn dîm ac o gydweithio.” (MP, Port Talbot) Mae’r cysylltiadau hanesyddol hyn yn atgyfnerthu’r ymdeimlad o hunaniaeth a rennir a dynnir o bwrpas cyffredin. Gall y nodweddion cymdeithasol, galwedigaethol a thirweddol uno a chyd-adweithio i roi ymdeimlad cryf o’r cysylltiadau rhwng nodweddion lle a’i normau a’i werthoedd cymdeithasol - yn ogystal â’i werth i eraill. Er enghraifft, fe wnaeth Elen, sy’n cadw siop lysiau yng Nghei Connah, sefyll yn ei siop a dweud wrthym am hanes ei groseriaid, busnes teuluol a etifeddodd gan ei thad. Gallai hi olrhain hanes, nid yn unig ei theulu, ond hefyd y gwaith roedd hi’n ei wneud, a lle roedd yn ei wneud. Ystyriai bod yr elfennau hyn o berthyn a galwedigaeth wedi eu cysylltu’n anorfod a’i gilydd. Fel y mae dyn ifanc ym Mhort Talbot yn dweud, byddwch yn derbyn adborth cadarnhaol gan y gymuned yn seiliedig ar sut yr ydych yn gweithio: “Rwy’n cael llawer o gefnogaeth gan y genhedlaeth hŷn i fod yn onest gyda chi ac rwy’n hoffi meddwl eu bod yn meddwl yn fawr ohona i a dwi’n weithiwr caled.” 36  In Wales, the nature of place and its social effects are strongly shaped by industry. It is argued to be more evident here than elsewhere (Day, 2002).

| 26

Yn yr un modd mae Aberystwyth yn ymfalchïo mewn bod yn groesawgar, yn gosmopolitan ac agored37. Mae ei sefydliadau byd-eang yn gweithredu fel safleoedd sy’n hwyluso rhyngweithio: “Mae gynnoch chi’r bobl sydd wedi cael eu geni a’u magu yma, ac oherwydd ein bod yn byw mewn tref brifysgol, sy’n dod â phobl i mewn o bob cwr o’r byd, mae gennych agwedd gosmopolitan iawn i’r dref.” (Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion) Nid yw’r ymdeimlad hwn o hunaniaeth yn cael ei amlygu’n unig mewn pethau y mae pobl yn ei wneud drostynt eu hunain, fel y gwaith y maent yn ei wneud, ond mae hefyd am y pethau y maent yn ei wneud i’w gilydd a chyda’i gilydd. Mae’r ymdeimlad cryf o fod yn rhan o gymuned o bobl wedi eu clymu at ei gilydd gan y lle y maent yn byw ynddo yn darparu sail resymegol gref i bobl weithredu mewn ffordd sy’n dangos gwerthoedd y gymuned honno, sy’n ymdrin â’r anawsterau o fyw mewn lle, ac sy’n cadw’r pethau da am y llefydd y maent yn eu caru. Mae pobl yn teimlo eu bod yn rhannu gwerthoedd cymdeithasol cryf wrth ofalu am ac wrth dderbyn gofal gan y cymunedau lle maent yn byw: “Wnewch chi ddim diflannu o dan y radar. Mae pobl yn eich gweld. Mae pobl yn poeni amdanoch chi fan hyn.” (Gweithiwr cymdeithasol, Aberystwyth) Mae pobl yn dweud eu bod yn awyddus i edrych ar ôl ei gilydd ac i gefnogi ei gilydd pan fydd arnynt angen cymorth. Ystyrir pethau syml fel dweud helo neu roi biniau cymdogion allan, fel rhan o gyfraniadau pob dydd pobl at fywyd eu cymunedau: “Ni fyddai 90% o bobl yn cerdded heibio unrhyw un maent yn ei weld ar y llawr yn y stryd a phe bai ar rywun angen cael ei wthio yn y car byddent yn gwneud hynny.” (Swyddog Diogelwch Cymunedol, Port Talbot)

37  Mae hyn yn cefnogi awgrym Tuan (1996), wrth ystyried y berthynas rhwng tirwedd a diwylliant, o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn gwbl ac yn hapus ddynol - cael eich angori gan y ddwy raddfa; y “cosmos” a’r “aelwyd”. Mae Tuan yn cynnig yr “aelwyd gosmopolitan” fel cysyniad diwygiedig o ddiwylliant sy’n annog bod wedi eich gwreiddio yn eich diwylliant eich hun yn ogystal â chofleidio chwilfrydedd am y byd.


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.