Page 1

Archwiliad Ynni Ceredigion Adolygiad o arferion defnyddio a chynhyrchu ynni yng Ngheredigion, 2005. Prif nod Archwiliad Ynni Ceredigion 2005 yw pennu’r man cychwyn o ran ynni ac ysgogi cynllun gweithredu a strategaeth ynni ar gyfer y sir. Bydd yr archwiliad yn adolygu’r arferion cyflenwi a defnyddio gwres a thrydan yng Ngheredigion, gan nodi nifer y cartrefi sy’n anodd i’w gwresogi a graddau tlodi tanwydd. Ystyrir trafnidiaeth mewn archwiliad yn y dyfodol.

Y Sefyllfa Bresennol x x

Mae Ceredigion yn defnyddio 1,778 GWh o wres a thrydan bob blwyddyn.

Energy Consumption in Ceredigion by Sector (based on regional consumption and HECA data)

Y sector sy’n defnyddio rhan fwyaf yr ynni yw’r sector domestig, sy'n defnyddio gwerth 1,004GWh bob blwyddyn, 56% o'r ynni a ddefnyddir yn gyffredinol.

1,200,000

1,000,000

LPG Petroleum

800,000

x

Mae Ceredigion yn cynhyrchu gwerth 318GWh o drydan adnewyddadwy, 89% o gyfanswm y trydan a ddefnyddir. Fodd bynnag, mae trydan yn cyfateb â 18% yn unig o’r holl ynni a ddefnyddir yng Ngheredigion.

x

Mae Ceredigion yn rhyddhau 612,866 tunnell o lygredd CO2 bob blwyddyn.

x

Mae 213,043 tunnell o CO2 yn cael ei wrthbwyso gynhyrchu ynni adnewyddadwy.

x

I gyrraedd Targed 2050 y llywodraeth o sicrhau gostyngiad mewn lefelau CO2 er lefelau 1990, mae angen gostwng gollyngiadau CO2 gymaint â 225,138 tunnell.

Mains Gas

MWh

Mae Ceredigion yn cynhyrchu gwerth 345GWh bob blwyddyn o ffynonellau ynni adnewyddadwy, 19.3% o’r holl ynni a ddefnyddir.

600,000

Electricity Solid fuel

400,000

200,000

0

Domestic

Industrial

Service

Transport

Ffig.1 Defnyddio Ynni yng Ngheredigion fesul Sector Ceredigion Carbon Emissions (tonnes CO2) and Energy Footprints (ha) 450,000 400,000

1.89

350,000 Tonnes CO2 p.a.

x

300,000

1.12

250,000

0.93

0.82

200,000 150,000 100,000

x

Cyfanswm Eco ôl troed trigolion Ceredigion yw 3.9 hectar. Er mwyn parhau i fyw ein ffyrdd o fyw presennol, byddai angen 2.05 o blanedau fel y Ddaear arnom i fyw mewn ffordd gynaliadwy.

50,000 Current

2050 target

Global Average Sustainable Fair Share

Ffig. 2 Olion troed Eco Cymharol


Ynni Domestig a Ddefnyddir x

Ceredigion Domestic Energy Use 800,000

Mae Ceredigion yn defnyddio gwerth 1,004GWh o ynni domestig bob blwyddyn.

700,000 600,000

Caiff 88% o’r ynni domestig a ddefnyddir ei ddefnyddio ar gyfer gwresogi: defnyddir 71% ar gyfer gwresogi mannau ac 17% ar gyfer gwresogi dðr.

MWh

500,000

x

Oil Electricity

400,000

Gas Solid fuel

300,000 200,000 100,000 0

x

Olew a thanwydd solet yw’r ffynonellau tanwydd mwyaf yn y sector domestig.

Space heating

Water heating

Cooking

Lighting and Appliances

Ffig.3 Ynni a Ddefnyddir yn y Sector Domestig yng Ngheredigion

Defnyddio tanwydd yng Ngheredigion x

Mae trafnidiaeth yn defnyddio 370GWh bob blwyddyn, 21% o’r holl danwydd a ddefnyddir.

x

Ac eithrio trafnidiaeth, mae Ceredigion yn defnyddio 20% yn fwy o danwydd solet, 15% yn fwy o betrolewm a 33% yn llai o nwy na’r lefelau ar gyfartaledd yn y DU

Ceredigion Fuel Use (excluding transport)

Solid fuel 23%

Petroleum 29%

Gas 24%

Electricity 24%

Ffig.4 Defnyddio tanwydd (ac eithrio trafnidiaeth)

Pris Tanwydd yn y DU x Ar y cyfan, mae’r pris a delir am yr holl danwydd a thrydan wedi codi 5.8% mewn termau go iawn rhwng Q3 2003 a Q3 2004. x Er mis Ebrill 2004 mae pris olew wedi codi o $34 y gasgen i $57 y gasgen ar hyn o bryd.

Tlodi Tanwydd x

Caiff ei ddiffinio fel rhywun sy’n gwario dros 10% o’u hincwm ar ynni, megis trydan a gwresogi.

x

Dylanwadir ar dlodi tanwydd gan dri phrif ffactor: cost tanwydd, pa mor effeithlon y mae’r annedd yn defnyddio ynni a’r systemau gwresogi ac incwm y trigolion.

x

Amcangyfrifir bod 17.2% o’r cartrefi yng Nghymru yn dioddef tlodi tanwydd*. Mae hyn yn cyfateb â 5,335 o dai yng Ngheredigion.

x

Gal tlodi tanwydd niweidio ansawdd bywyd ac iechyd pobl, yn ogystal ag arwain at gostau ehangach i’r gymuned. Mae cartrefi oer yn golygu bod pobl yn fwy tebygol o ddioddef afiechyd, sy’n arwain at absenoldebau o’r gwaith.

x

Mae’r angen i wario cyfran uwch o’u hincwm ar danwydd yn golygu bod yn rhaid i gartrefi sy'n dioddef tlodi tanwydd wneud penderfyniadau anodd ynghylch hanfodion eraill ar gyfer y cartref. Gall hyn arwain at ddiet gwael a/neu encilio o’r gymuned.

*2003 Ymrwymiad Tlodi Tanwydd i Gymru. Llywodraeth Cynulliad Cymru


Mesurau i Leihau Gollyngiadau CO2 Ar hyn o bryd, mae gan Geredigion falans CO2 blynyddol o 399,826 tunnell. Cyfrifir y ffigwr hwn o gyfanswm y CO2 a gynhyrchir, yn llai y swm a arbedir o ran llygredd gan ffynonellau ynni adnewyddadwy. Mae llywodraeth y DU wedi pennu targedau er mwyn lleihau gollyngiadau CO2 erbyn 2020 ac mae'n bwriadu bodloni targedau rhyngwladol erbyn 2050. Erbyn 2050, bydd yn rhaid i Geredigion ostwng ei ollyngiadau CO2 blynyddol i 225,138 tunnell.

Ceredigion CO2 Reduction Targets CO2 balance

800000

C O2 E m issions (tonnes/yr)

700000

2050 Target

600000 500000

2020 Target

400000 Increasing energy consumption with no further RE and EE

300000 200000

lefelau 1990

100000

lefelau 2050

0 1980

1990

2000

2010

2020

2030

2040

2050

2060

Ffig. 5 Targedau Gostwng CO2 Ceredigion Mae’r linell las yn dangos balans CO2 Ceredigion dros y 15 mlynedd ddiwethaf. Mae’r gostyngiad mwyaf diweddar mewn gollyngiadau o ganlyniad i gomisiynu fferm wynt Cefn Croes. I sicrhau gostyngiadau CO2 gallai Ceredigion fabwysiadu mesurau amrywiol nad ydynt yn ymwneud â thrafnidiaeth, erbyn 2020: x

Gallai fferm wynt 58.5MW newydd, yr un maint â fferm wynt Cefn Croes, ostwng gollyngiadau CO2 gymaint â 100,545 tunnell. Yn wir, byddai modd datblygu 65km2 o dir yng Ngheredigion at ddefnydd ffermydd gwynt, gan ddarparu potensial ar gyfer 388 MW*, gan ostwng gollyngiadau CO2 gymaint â 667,000 tunnell.

x

Byddai gosod 2KW o drydan solar mewn 20% o’r tai yng Ngheredigion yn atal gwerth 12.8MW o drydan neu danwydd ffosil yn cael ei ddefnyddio i wresogi dðr, gan ostwng gollyngiadau CO2 gymaint ag 8,371 tunnell.

x

Byddai gosod systemau gwresogi dðr solar 3m2 mewn 20% o’r tai yng Ngheredigion yn cynhyrchu 9.6MW, gan ostwng gollyngiadau CO2 gymaint â 2,774 tunnell.

x

Byddai gosod 10,000 o fylbiau ynni isel yn gostwng gollyngiadau gymaint â 523 tunnell.

x

Byddai gosod gwerth 100mm ychwanegol o ddefnydd inswleiddio mewn 1000 o dai yn gostwng gollyngiadau gymaint â 200 tunnell.

Casgliad x

Mae’r twf amcangyfrifedig ym mhoblogaeth Ceredigion a’r duedd o ddefnyddio mwy o ynni ym mwyafrif y sectorau, yn dyblu’r gofynion gostwng CO2 blynyddol i bob pwrpas.

*Macauly Insitiute, 2002 Spatial Planning for Wind Turbine Development in Wales. CCGC


Argymhellion x

Datblygu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol i Geredigion lle y defnyddir ynni mewn ffordd gynaliadwy.

x

Dylai Cyngor Sir Ceredigion arwain trwy esiampl, trwy leihau’r galw am ynni, prynu “trydan gwyrdd”, defnyddio mwy o ynni adnewyddadwy ar gyfer gwresogi dðr a mannau ar draws ei holl adeiladau.

x

Dylid sicrhau anogaeth gref i bob cais cynllunio gynnwys offer a thechnegau dylunio solar goddefol ac sy’n defnyddio ynni yn effeithlon. Dylid ystyried ynni adnewyddadwy cyn gynted ag y bo modd.

x

Dylid datblygu arweiniad atodol ymarferol yn benodol ar gyfer ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd adnewyddadwy. Dylai hon fod yn ddogfen sy’n hawdd troi ati ac sy’n cynnwys astudiaethau achos, sy’n nodi cynghorwyr a ffynonellau ariannu grant ac sy’n cyfeirio pobl at arbenigedd.

x

Dylai’r holl gynlluniau tai cymdeithasol newydd roi sylw i ddarparu “gwresogi fforddiadwy” i’w tenantiaid, trwy gyfrwng dylunio sy’n defnyddio ynni mewn ffordd effeithlon iawn, a chan gynnwys ynni adnewyddadwy trwy gyfrwng gwresogi dðr solar ym mhob eiddo. Dylid ymchwilio i gynlluniau gwresogi cymunedol yn ystod y cyfnod cysyniadol.

x

Byddai modd sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol yn y tymor hir trwy gyfrwng cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol. Ceir nifer o ddewisiadau ar gyfer “perchnogaeth gymunedol” sy’n amrywio o fanteision cymunedol gan weithrediadau masnachol sy’n rhoi rhoddion i gymunedau, i weithrediadau sy’n eiddo i’r gymuned ac sy’n cael eu harwain gan y gymuned.

x

Gwella’r ffordd y mae’r holl gartrefi yng Ngheredigion yn defnyddio ynni mewn ffordd effeithlon, gan roi sylw penodol i’r cartrefi ar incwm isel, gan leihau’r lefelau tlodi tanwydd sy’n uchel ar hyn o bryd. Trowch at wefan Asiantaeth Ynni Canolbarth Cymru gan ddefnyddio’r system gyfrifo CO2 i brofi’r mesurau amrywiol a allai helpu i ostwng gollyngiadau CO2 yng Ngheredigion.

Am wybodaeth bellach: Asiantaeth Ynni Canolbarth Cymru

0845 4585973

www.mwea.org.uk

Ymlaen Ceredigion

01970 633395

bobj@ymlaenceredigion.org.uk

Ymchwiliwyd gan Dr Tim Dunbabin Asiantaeth Ynni Canolbarth Cymru Uned 7, Parc Eco Dyfi, Machynlleth, Powys SY20 8AX

info@mwea.org.uk

Cefnogir yr archwiliad gan Amgylchedd Cymru a phrosiect rhanbarthau RES-e, ac fe’i ariannir yn rhannol gan gynllun Cymunedau’r Dyfodol Bwrdd Rheoli Partneriaeth Ceredigion, Cronfa Adfer Leol y Cynulliad Cenedlaethol a’r Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd.

Archwiliad Ynni Ceredigion - crynodeb  

Crynodeb o'r Archwiliad Ynni Ceredigion -2005

Read more
Read more
Similar to
Popular now
Just for you