Page 1

Papur-newydd C y m r a e g Myfyrwyr Bangor am ddim

Rhifyn y Gwanwyn 2014

@y_llef

Llef Bangor

BUDDU-GOL! Y TÎM NEWYDD: Etholiadau UM: Dewch i ’nabod eich Swyddogion Sabothol newydd

Gethin Griffiths

PONTIO: Y DIWEDDARAF Dwy dudalen yn llawn o’r diweddaraf ynghylch y prosiect

Ar ôl siomiant yn 2013, doedd dim ond un peth ar feddyliau criw Bangor wrth iddynt ymlwybro tuag Abertawe ar benwythnos Gŵyl Dewi y flwyddyn hon – dychwelyd i’r Gogledd fel pencampwyr. Ar ôl wythnosau o baratoi ac ymarfer at uchafbwynt calendr y myfyrwyr

Cymraeg, roedd y colegau i gyd yn barod am ddiwrnod o gystadlu brwd, a dyna’n union a gafwyd. Gan gychwyn yn brydlon amser cinio, roedd yn amlwg o’r cychwyn fod Undeb Myfyrwyr Cymraeg Abertawe wedi cymryd yr Eisteddfod o ddifrif, gan wahodd

yr Archdderwydd Christine James i’w hagor yn swyddogol. Roedd y neuadd o’i blaen dan ei sang, ac roedd brwdfrydedd y colegau i’w deimlo o’r cychwyn. Parhad ar dudalen 4

Cymreigio gwefan y Brifysgol FFASIWN Golwg ar y Brits

CHWARAEON RHYNG-GOL

Adroddiad o’r gemau

Siôn Elwyn Hughes Mae cryn stŵr wedi cael ei godi yn ddiweddar ymysg Cymry Cymraeg Prifysgol Bangor ynghylch amlygrwydd y Gymraeg ar wefan y Brifysgol. Diweddarwyd gwefan Prifysgol Bangor yn ddiweddar i gystadlu â gwefannau prifysgolion eraill gan fod yr hen wefan wedi’i beirniadu am fod yn hen ffasiwn.

Yn ogystal â moderneiddio’r wefan, diweddarwyd gwasanaethau ar-lein i fyfyrwyr y Brifysgol, e.e. newidwyd Bangor360 yn FyMangor a throsglwyddwyd yr hen system e-bost (Webmail) i Outlook 365. Fodd bynnag, er yr holl welliannau, nid yw’r gymuned Gymraeg yn teimlo bod lle amlwg i’r iaith ar y wefan. Parhad ar dudalen 3


6

Cynnwys: Tudalennau:

Golygyddol Helo bawb! Dyma gyflwyno Rhifyn y Gwanwyn o’r Llef i chi. Uwantih eto yn y rhifyn hwn cynwhysir amrywiaeth o adrannau gwahanol o erthyglau i golofnau arbennig, gyda dwy dudalen wedi’u dynodi i ddathlu buddugoliaeth Bangor yn yr Eisteddfod Rynggolegol a dwy dudalen yn adrodd y diweddaraf ynghylch prosiect Pontio. Yn dilyn y newid yn y ffordd o roi’r Llef at ei gilydd, a ddaeth i rym yn y rhifyn diwethaf, rydw i’n falch o ddatgan bod pethau wedi gwella’n sylweddol, gyda phob is-olygydd yn cael mwy o fewnbwn i’w adran ei hun, yna’n cael ei brawfddarllen a’i gysoni gan y Golygydd cyn ei anfon i gael ei argraffu. Gobeithir bod hyn yn rhoi gwedd fwy proffesiynol i’r papurnewydd, ac yn hwyluso ac yn rhoi mwy o foddhad i chi fel darllenwyr wrth bori yn y Papur. Fel bob amser, rydw i’n hynod o ddiolchgar i bawb a gyfrannodd ddeunydd ac a fu ynghlwm â’r broses o roi’r Papur at ei gilydd, ac am eu hamynedd wrth i mi fod yn boen wrth holi am waith ar ben eu dyddiadau cau arferol. Unwaith eto, cofiwch mai’ch papur-newydd chi ydi’r Llef a myfyrwyr y Brifysgol sydd yn gofalu amdano, felly mae croeso i chi gyfrannu ato. Os oes gennych ddawn ysgrifennu, awydd bod yn newyddiadurwr neu os ydych yn awyddus i’n helpu mewn unrhyw ffordd arall (gall hynny fod yn ddylunio neu gynnal gwefan, trefnu hysbysebion a.y.y.b), cysylltwch efo fi neu aelod o dîm Y Llef i fynegi diddordeb! Mwynhewch y rhifyn! Siôn Elwyn

Newyddion

3-8

Yr Eisteddfod Ryng-golegol

4-5

Diweddaraf Pontio

12-13

Tudalen y Cymdeithasau

14

Yr Hadau

16-18

Y Gornel Greadigol

19-21

Adolygiadau

22-25

Ffasiwn

26-27

Tudalen UMCB

29

Chwaraeon

30-32

19

14

20 26

22

Is-olygyddion: Llio Mai Carys Tudor Manon Elwyn Holly Gierke Fflur Williams Elis Dafydd Rhys Dilwyn Jenkins Carwen Richards Gethin Lewis Green

Is-olygydd Cyffredinol Is-olygydd Newyddion Is-olygydd Adolygiadau Is-olygydd Ffasiwn Is-olygydd Ffasiwn Is-olygydd y Gornel Greadigol Is-olygydd Yr Hadau Is-olygydd Chwaraeon Is-olygydd Chwaraeon

Cyfranwyr:

Benjiman Angwin Ceris James Elen Huws Gruffudd Antur Elidyr Glyn Tomos Jones Elen Ifan Alaw Jones Nicola Brown Gethin Griffiths

Nid yw’r farn a fynegir yn y Papur hwn o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Y Llef, Undeb Myfyrwyr Bangor na Phrifysgol Bangor. Argreffir Y Llef gan NWN Media, Dinbych.

Diolchiadau... Mae fy niolch yn fawr, fel arfer, i bob un o’r Is-olygyddion a’r cyfranwyr sy’n rhoi o’u hamser prin i ysgrifennu a threfnu cynnwys ar gyfer yr adrannau gwahanol a welwch yn Y Llef. Hebddyn nhw, ni fyddai Papur-newydd, felly diolch i chi i gyd am eich gwaith. Daeth y rhifyn at ei gilydd yn weddol ddi-ffwdan, ar y cyfan, ac mae’r broses a ddechreuwyd gyda’r rhifyn diwethaf yn parhau i weithio’n effeithlon. Fel gyda phob rhifyn hyd yn hyn, cafwyd problemau technegol, problemau a ddatryswyd yn gyflym iawn gan Gymorth TGCh y Brifysgol. Hoffwn ddiolch eto i Richard Russell, fy nghyswllt yn NWN Media, am fy rhoi ar ben ffordd pan fu angen.


...Yr Eisteddfod Ryng-golegol 5

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

Abertawe 2014

Cystadleuaeth Ensemble lleisiol Unawd Merched Grŵp Llefaru Unawd Bechgyn Unawd Cerdd Dant Unawd Sioe Gerdd Unawd Piano Ensemble Offerynnol Llefaru Unigol Côr Bechgyn Dawns Stepio Unigol Parti Cerdd Dant Deuawd Ddoniol Grŵp Dawnsio Gwerin Grŵp Dawnsio Creadigol / Disgo Meimio Côr Sioe Gerdd Côr Cymysg

Safle 2il 3ydd 1af 3ydd 1af 2il 2il 1af 2il 2il 2il 2il 3ydd 2il 1af 3ydd 2il 2il

Cystadleuaeth Y Gadair Englyn Parodi Limrig Y Goron Llên Meicro Ymson Brawddeg Portread Y Fedal Gelf Y Fedal Ddrama Tlws y Cerddor Cyfieithu: Saesneg - Cymraeg Cyfieithu: Ffrangeg - Cymraeg Cyfieithu: Almaeneg - Cymraeg Cyfieithu: Sbaeneg - Cymraeg Cyfieithu: Ieithoedd Celtaidd - Cymraeg

Safle 1af - Gruffudd Antur, 3ydd - Ceris James 1af - Siôn Elwyn Hughes 3ydd - Tomos Jones 1af a 3ydd - Siân Davenport 1af - Elen Huws 1af a 3ydd - Awen Mair 1af - Manon Elwyn, 2il - Mared BerthAur 1af - Nonni Williams, 2il Mared BerthAur, 3ydd Einir Jones 1af - Mared BerthAur, 3ydd - Meleri Williams 3ydd - Molly 1af - Ffion Haf 1af - Heledd Besent, 3ydd - Siôn Elwyn Hughes 1af Llŷr Titus, 2il - Ceris James 3ydd - Gethin Griffiths 2il - Gethin Griffiths, 3ydd - Mared BerthAur 1af - Mared BerthAur, 2il - Gethin Griffiths 1af - Gethin Griffiths


Looking for Books? Try Us First! Support your Local Bookshop AR Y STRYD FAWR AC AR LEIN ON THE HIGH STREET AND ON LINE

palasprint.com

170 Stryd Fawr/High Street, Bangor, 01248 362676 10 Stryd y Plas, Caernarfon, 01286 674631 eirian@palasprint.com

Edrych am Lyfrau? Tria Ni Gyntaf Cefnoga dy Siop Lyfrau Lleol

Palas PRINT


...Etholiadau 9

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

ETHOLIADAU 2014 Llio Mai

Rhys Taylor Llywydd

“Fedra i ddim diolch ichi ddigon am bleidleisio dyn. Dw i’n edrych ymlaen i dreulio blwyddyn dewis Taylor werth pob pleidlais!”

Lydia Richardson IL Addysg a Lles

“Diolch yn fawr bawb! Rydw i mor hapus fy mod wedi cael fy ethol ac ni fyddwn wedi gallu gwneud yr hyn y gwnes heb eich cefnogaeth! Dw i’n edrych ymlaen gweithio efo’r tîm!”

O’r 3ydd i’r 5ed o Fawrth cynhaliwyd etholiad sabothol Undeb y Myfyrwyr. Roedd pedwar safle i’w lenwi, a bu cystadlu brwd ar eu cyfer. Mae’n bwysig iawn ein bod ni fel myfyrwyr yn mynd ati i bleidleisio ar gyfer yr etholiad hwn, gan mai’r rhai sy’n cael eu hethol fydd yn ein cynrychioli am y flwyddyn academaidd nesaf. Braf yw gweld fod nifer o fyfyrwyr wedi bod yn bwrw’u pleidlais, ac ar y 5ed o Fawrth cyhoeddwyd y canlyniadau. Cawn felly ddweud llongyfarchiadau mawr i Rhys Taylor ar gael ei ethol yn Llywydd yr Undeb; i Lydia Richardson ar gael ei hethol yn Is-Lywydd Addysg a Lles; i Mark Stanley ar gael ei ethol yn Is-Lywydd Cymdeithasau a’r Gymuned, ac i Nicola Pye ar gael ei hethol yn Is-Lywydd Chwaraeon a Byw’n Iach. Ynghyd â Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (sydd eto i’w bennu ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf), y rhain sy’n dod at ei gilydd i greu y Tîm Sabothol. Byddant yn cymryd blwyddyn allan o’u cwrs ac yn rhedeg Undeb y Myfyrwyr ac yn ein cynrychioli ni – y myfyrwyr. Eu swydd yw gwneud yn siŵr bod yr hyn sy’n cael ei wneud gan yr Undeb yn bodloni ein hanghenion a’n dymuniadau yn ystod ein cyfnod yn y Brifysgol. Mae gan bob aelod o’r tîm ei faes penodol, ei ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau ei hun a byddant hefyd yn ceisio sicrhau ein bod yn cael ein cynrychioli’n deg yn y Brifysgol, yn y gymuned leol, a thu hwnt. Unwaith eto, llongyfarchiadau mawr i’r pedwar sydd wedi eu hethol, a phob lwc iddynt yn eu swydd newydd.

Mark Stanley IL Cymdeithasau a’r Gymuned

“Yr unig beth y medra i ei ddweud yw diolch yn fawr i bawb a bleidleisiodd amdanaf i, ac i’r ymgeiswyr eraill a gwych eleni.”

Nicola Pye IL Chwaraeon a Byw’n Iach

“Rydw

i

wir

yn

edrych

fel IL Chwaraeon a Byw’n Iach. Byddaf yn parhau i weithio’n galed, ac roedd yn wych i rannu syniadau efo ymgeiswyr eleni, a chael etholiad garnhaol.”


...Adroddiad 11

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

Prif: Prifysgol Harvard. Mewnol: Elen Ifan

O Fangor i Harvard

Adroddiad arbennig gan Elen Ifan a aeth i UDA dros yr hydref Yn ystod tymor yr hydref, fe fuais i’n ddigon ffodus i gael mynd i Brifysgol Harvard i astudio – diolch i gynllun cyfnewid sy’n bodoli rhwng Ysgol y Gymraeg ac Adran Astudiaethau Celtaidd Harvard. Roedd yr holl beth yn brofiad anhygoel, ac rydw i mor falch fy mod i wedi gallu mynd. Treuliais i bron i bedwar mis yno i gyd, yn byw yn neuadd Perkins, un o neuaddau preswyl Harvard ar gyfer myfyrwyr ôl-radd. Roedd hi’n rhyfedd astudio yn rhywle heblaw Bangor – rydw i wedi bod yma ers dechrau fy nghwrs BA yn 2008! Roedd Perkins yn anhygoel o ryngwladol, â’m cyd-fyfyrwyr yn dod o gymaint o wahanol wledydd, gan gynnwys Twrci, yr Eidal, Georgia, Awstralia ac Israel, i enwi rhai yn unig! Diolch i facebook bydd hi’n hawdd cadw mewn cysylltiad â’r holl

ffrindiau a wnes i tra ‘mod i yno, ac rwy’n gobethio cael cyfle i fynd nôl i ymweld – byddan nhw i gyd yno am flynyddoedd eto – mae PhD yn America’n cymryd rhyw 7 mlynedd! A sôn am waith caled drwy’r holl flynyddoedd hynny! Ym Mangor, rydym ni’n arfer â pyb crôls, a mynd i’r llyfrgell ond pan fo rhaid... Yn Harvard, mae na gymaint o waith i’w wneud, mae’n rhaid gwneud crôl llyfrgell. Mae Widener, y brif lyfrgell yn cau am ddeg y nos, ac felly ar ôl bod yn gweithio yno drwy’r dydd, rhaid symud ‘mlaen i Lyfrgell y Gyfraith, sydd yn aros ar agor tan hanner nos. Os ydych chi’n ddigon hardcore, byddwch chi wedyn yn mynd i lyfrgell Lamont, sydd ar agor bedair awr ar hugain. Does dim rhaid dweud nad oeddwn i’n rhan o’r crôls lly-

and so I decided to study it at college’), ac eraill wedi taro ar y pwnc Diolch byth, roedd criw Astudi- ar hap (‘I needed some extra credits aethau Celtaidd ychydig yn fwy to make up my first year, and so took chilled. Bob nos Fercher, fe fyddai’r this Celtic class’) – mae’n deg dweud criw a oedd yn dysgu Cymraeg yn nad yw Americanwyr yn neud pethe cwrdd i gael bwyd a pheint, a sgwrs by halves! yn y Gymraeg. Profiad rhyfedd, ond cŵl iawn, oedd cael bod yn eistedd Buaswn i’n gallu mynd ymlaen am mewn bar Americanaidd yn siarad dudalennau yn sôn am fy holl broCymraeg gyda phobl o Ohio, Cali- fiadau, ond yn anffodus does gen i fornia a Kentucky. Hollol boncyrs – ddim lle! Cefais i brofiad anhygoel ond mae gen i gymaint o edmygedd yn Harvard – os cewch chi gyfle i tuag atyn nhw yn dysgu iaith, a rhai fynd yno, cymrwch e! ohonyn nhw heb fyth wedi bod yng Nghymru! Roeddwn i’n gofyn id- Os hoffech chi ddarllen mwy am dyn nhw pam yr oedden nhw wedi brofiadau Elen draw yn America, penderfynu astudio’r Gymraeg a’i gellwch wneud hynny trwy fynd i’r llenyddiaith, ac wedi ymrwymo gy- wefan isod a darllen y blog a fu’n ei maint o amser ac ymdrech i’r pwnc. gadw pan oedd yno: Roedd gan rai gysylltiadau teuluol http://bangorboston.wordpress.com (‘My great-grandma was half Welsh frgell-aidd..!

Milltir Sport Relief 2014 yn dod i Fangor gan Ash Kierans (Is-Lywydd Cymdeithasau a’r Gymuned Undeb Myfyrwyr Bangor)

Ddydd Sul, Mawrth 23, bydd Milltir Sport Relief Mile yn dod i Drac Athletau Treborth! Felly os ydych yn fyfyriwr, aelod o staff neu hyd yn oed yn aelod o’r gymuned leol, byddwn Trefnir y digwyddiad gan Undeb y Myfyrwyr wrth ein boddau yn eich croesawu chi i gyd yma ym Mangor, ac mae’n argoeli i fod yn un yn y digwyddiad, a chymryd rhan ynddo, neu o’r digwyddiadau mwyaf ar ein calendr eleni. Yn gefnogi’ch ffrindiau neu’ch teulu! ogystal â hynny, mae’n gyfle gwych i godi arian i achos da! Mae gennym rywbeth i bawb, gyda Fe’ch gwelwn ni chi ddydd Sul felly! llwybrau 1, 3 a 6 milltir ar gael, gydg ambell ran ohonynt yn mynd ar hyd y llwybrau arfordirol Am ragor o wybodaethchwiliwch am Milltir hyfryd sydd yma yng ngogledd Cymru! Sport Relief Mile 2014 ar Facebook!


12 Pontio...

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

Y diweddaraf ynghylch adeilad Pontio

Aeth un o Is-Olygyddion Y Llef, Manon Elwyn, i gyfweld ag Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio.

Mae yna waith intensif iawn yn mynd ymlaen ar y safle ar hyn o bryd. Bydd y sgaffoldiau yn dod i lawr cyn bo hir ac wedyn bydd modd gweld mwy o’r adeilad ei hun. Dros y misoedd nesaf, un o’r pethau yr ydym ni’n edrych ymlaen ato yw cael yr adeilad yn sychach er mwyn symud ymlaen i’r cam adeiladu nesaf. Mae’r adeilad cynnal perthynas glos rhyngom a yn gymhleth gan ei fod ar lethr felly chymdeithasau’r Undeb. Hefyd, dw mae’n her, ond rydym ni’n mynd i’r i’n meddwl y bydd posibiliadau yn cyfeiriad iawn. mynd i ddeillio o ymweliadau gan Beth fydd gan Pontio i’w gynnig i gwmnïau proffesiynol i fyfyrwyr. Efallai bydd gweithdai’n cael eu fyfyrwyr Bangor? cynnig i’r gymuned, gan gynnwys O ran adnoddau y gofodau myfyrwyr Prifysgol Bangor. Bydd perfformio, mi fydd theatr graddfa prosiectau ar gael er mwyn cysylltu’r ganolig yn yr adeilad. Felly, o’r myfyrwyr efo’r gymuned. Er diwedd, bydd gan Fangor lwyfan enghraifft, bydd Gandini Juggling, ar gyfer cynhyrchiadau sy’n teithio, cwmni teithiol rhyngwladol, yn dod megis Theatr Genedlaethol Cymru. i gynnig gweithdy er mwyn plethu Hefyd, bydd sinema yn dod i Fangor. gwahanol fathau o bobl o fewn Mae hynny’n bwysig, ac mi fydd yn cymuned Bangor. Mae gan Theatr gaffaeliad mawr i’r adeilad. Mae’r Genedlaethol Cymru ddiddordeb sinema’n ofod sydd yn cael ei mewn cydweithio efo Cymdeithas rannu rhwng deunydd y Brifysgol Ddrama Gymraeg Prifysgol Bangor, – yn ystod y dydd, bydd y sinema’n sydd newydd ailffurfio. ddarlithfa yn ystod y tymor, ond ar I fyfyrwyr, mae yna gyfleodd brynhawniau Mercher, nosweithiau, gwirfoddoli, stiwardio a dosbarthu, a a phenwythnosau, bydd yn troi’n byddem ni wrth ein bodd yn clywed sinema i’r cyhoedd. Mae’r stiwdio’n beth mae myfyrwyr ei eisiau allan o’r ofod llai, sy’n ffitio 120 o bobl. adeilad. Gellwch symud y seddi allan, neu eu symud yn ôl er mwyn creu lle gwag Beth yw arwyddocad yr adeilad i fyfyrwyr Bangor? defnyddiol a phwrpasol. Mae gwahanol fathau o Mi fydd yr adeilad yn gaffaeliad gyfleodd yn mynd i fod ar gael ar o ran yr hyn sy’n cael ei gynnig i gyfer myfyrwyr. Rydan ni’n bwriadu fyfyrwyr, o ran adloniant, lle cyfoes, neilltuo amser i gymdeithasau allu lle i ymlacio a chwrdd a ffrindiau, a gwneud defnydd o’r stiwdio a’r lle, gobeithio, i fod yn falch o hynny. theatr. Rydan ni mewn trafodaeth efo’r Undeb ar hyn o bryd er mwyn A oes gennych chi unrhyw

Y datblygiad mewn lluniau

yn ymddangos ar lwyfan Pontio, pantomeim Nadolig a Gŵyl Dylan Thomas. Bydd hefyd gyfle i ddathlu Theatr Gwynedd. Bydd arddangosfa aml-gyfrwng ar ail lawr Pontio i gofio am straeon difyr a chreadigrwydd Theatr Gwynedd. Dw i’n meddwl ei bod yn bwysig cofio’r cyswllt rhwng y gorffennol a’r presennol. Bydd cwmni arloesol iawn o Lundain yn ymweld hefyd, cwmni o’r enw Invertigo. Mae un o’r cyfarwyddwyr ddatblygiadau diddorol ar y gweill yn dod o Sir Fôn, ac maen nhw’n ar hyn o bryd? mynd i fod yn perfformio Y Tŵr gan Llawer iawn! Ar hyn o bryd, rydw Gwenlyn Parry. i mewn trafodaethau er mwyn Sut mae’r adeilad yn ffitio i mewn i croesawu ‘circuit comedy’ i ddod i fywyd myfyriwr Cymraeg, ac a fydd Fangor. Mi fydd mewn partneriaeth unrhyw beth penodol i’w gynnig i’r efo Prifysgol Aberystwyth. ‘Comedy myfyrwyr Cymraeg? Central Live’ yw ei enw, ac maen nhw’n dod â ‘stand up comedy’ i Mae ethos yr adeilad yn Gymreig, theatrau a chanolfannau sy’n rhan ac mae staff Pontio i gyd yn gorfod o Brifysgolion. Myfyrwyr yw eu bod yn ddwyieithiog, felly rydym cynulleidfa nhw, ond mae’n agored ni wirioneddol angen myfyrwyr i’r cyhoedd hefyd. Cymraeg y Brifysgol i wirfoddoli efo ni ar hyn o bryd. Mi fydd yr holl hyrwyddo’n ddwyieithog hefyd. n e g n a eddol n io ir w i n y Rydym ni wedi penderfynu ein Rydym bod am gael yr wyddor Gymraeg ymraeg C r y fo ni ar resi seddi’r theatr. Rydym ni’n e myfyrw i ol d od f i wir trio meddwl am ffordd o wreiddio’r Brifysgol ryd. ar hyn o b Gymraeg yn y ffordd yr ydym yn gweithredu, nid yn y ffyrdd amlwg. ‘Lle chi’ yw thema’r rhaglen Mae’r cynhyrchiad agoriadol o agoriadol. Gall hynny olygu’n y ‘Chwalfa’, gan T. Rowland Hughes, Saesneg, ‘Your place’, ond yn y yn rhywbeth eiconig a fydd yn Gymraeg mae hefyd yn ‘llechi’, ac digwydd yn exclusive i Pontio gan mae’r cyswllt yna efo’r gymuned yn Theatr Genedlaethol Cymru mewn bwysig, a tharddiad y Brifysgol wrth partneriaeth efo Pontio, a Theatr gwrs, drwy gefnogaeth chwarelwyr Frân Wen. Mae’n dweud rhywbeth i helpu sefydlu’r Brifysgol yn y lle am y ffordd yr ydym yn gweithio efo’n cyntaf. Byddwn i’n hoffi meddwl partneriaid er mwyn cael gymaint ag bod myfyrwyr Cymraeg Prifysgol y medrwn allan o brosiectau. Bydd Bangor yn gwerthfawrogi’r syniad. cynhyrchiadau gan Theatr Bara Caws

Sut mae’r adeilad yn dod yn ei flaen erbyn hyn?


...Pontio 13

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

Bryn Terfel yn ymweld â Pontio

Fis Ionawr, ymunodd Bryn Terfel â phlant Ysgol Hirael ac Ysgol Glancegin ar safle Pontio i gydnabod yn swyddogol enwi’r brif theatr ar ei ôl. Cyn y perfformiad, cafwyd cyfle i weld rhannau o’r adeilad newydd. Mae cymysgedd dda o adnoddau, gan gynnwys sinema sy’n

dyblu fel darlithfa, prif ddarlithfa, llawr cyfan i Undeb y Myfyrwyr, Canolfan Arloesedd, stiwdio, ystafell wrthsain, a nifer o ystafelloedd dysgu a bwytai. Dywedodd Dylan Roberts, Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau Prifysgol Bangor: ‘Mae’n adeilad eithriadol o

arwyddocaol i fyfyrwyr, ac mae’n rhoi’r Brifysgol ar y map. Rydw i eisiau pwysleisio mai fy nod yw galluogi myfyrwyr i fwynhau’r adeilad.’ Diweddwyd y daith o amgylch yr adeilad â pherfformiad teimladwy gan Bryn Terfel ac Ysgolion Hirael a Glancegin o

‘Anfonaf Angel’ ar y llawr arloesi. Dyma ymweliad cyntaf Bryn Terfel â’r safle, ac meddai: ‘Mae’n fraint gennyf ddod a bwrw golwg ar y Ganolfan newydd unigryw hon a chanu gyda phlant ysgol ifainc Bangor, ac edrychaf ymlaen at ddychwelyd, fel perfformiwr a hefyd fel aelod o’r gynulleidfa’.

gyfer prosiectau a gweithgareddau, a hefyd creu achos dros ddod yn gleiant refeniw gyda Chyngor y Celfyddydau. Yr hyn sydd yn fy nghyffroi ac yn fy ysbrydoli yw gweld sut mae cymuned Bangor yn synhwyro’r bwrlwm sydd ar droed gyda dyfodiad Pontio. Mae na awch am ganolfan newydd y medrith bobl gymryd perchenogaeth ohoni. Mae yna edrych ymlaen ymhlith ieuenctid yr ardal ynghyd â myfyrwyr, ac mae yna ddisgwyliadau yn dod yn sgil hynny wrth gwrs!

felly mae’r cyd-destun yn wahanol mae na fendithion yn dod yn sgil bod yn rhan o Brifysgol ond rydan ni hefyd angen gweithio ychydig bach yn galetach efallai i gyrraedd at y rheiny sydd yn gweld Prifysgol yn rhywbeth dieithr - bydd y sinema yn help garw wrth geisio annog pobl i fentro dros y rhiniog.

Dod i ’nabod: Elen ap Robert 1. Er mwyn i ddarllenwyr ‘Y Llef ’ ddod i’ch adnabod yn well, ellwch chi ddweud gair neu ddau am eich cefndir.

Dwi’n dod o Gaerdydd. Mynychais Ysgol Uwchradd Llanhari, Prifysgol Sheffield, Ysgol Cerdd a Drama’r hunaniaeth Gymreig yn y Ganolfan Guildhall,Llundain a Choleg newydd - o recriwtio staff Frenhinol Cerdd a Drama Cymru dwyieithog, i roi llythrennau’r wyddor Gymraeg ar resi’r seddi yn 2. Fel cyfarwyddwr artistig Pontio, y gofodau perfformio dyma dorri beth yw’ch swydd o ddydd i ddydd? cwys newydd o fynegi ein hyder yn ein hunaniaeth mewn ffordd Dw i’n gyfrifol am ddatblygu gweledigaeth artistig y prosiect a’r ymarferol! Mae creu rhaglen artistig ar ganolfan, sy’n cynnwys trefnu’r rhaglen ar gyfer gofodau perfformio gyfer Canolfan sydd heb ei gorffen yn sialens mae rhywun yn gorfod Pontio ar draws y sbectrwm celfyddydol: drama, dawns, theatr, gweithio oddi ar gynlluniau ar bapur. Mae yna elfen o arbrofi gyda’r hyn cerdd, ffilm. sydd yn mynd i weithio a’r hyn sydd 3. Pa her neu heriau sydd wedi’ch ddim yn mynd i weithio, ac felly mae wynebu’n ystod y flwyddyn yna, wrth reswm elfen o risg wrth ddiwethaf ers ichi fod yn y swydd? raglennu. Mae yna sialensau ariannol. Mae’r swydd hon yn swydd Dyw’r celfyddydau ddim yn rhad ac newydd sbon ac felly does neb wedi mae angen sicrhau cyllid digonnol ei gwneud o’r blaen mae hyn yn ei i’n galluogi i gynnig arlwy o’r radd hun yn her. Ond mae hefyd yn gyfle flaenaf, ynghyd â denu artistiaid a cyffrous i rywun roi ei stamp ei hun chwmnïau o ansawdd gyda phroffil arni. Mae hefyd yn fraint cael uchel. Mae llawer o’m hamser wedi cyfrannu at y broses o greu bod yn mynd ar geisio am grantiau ar

4. Mi oeddech chi’n gyfarwyddwr artistig Galeri, sut mae Pontio¹n wahanol? Ni fuaswn wedi gallu ymgymryd â’r gwaith hwn heb fy mod wedi cael profiad o ddatblygu gwelediaeth artistig Canolfan Galeri. Roeddwn yno am wyth mlynedd a dysgais gymaint yn ystod y cyfnod hwnnw am bobl, am yr hyn sy’n denu cynulleidfa, ac am sialensau cyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol. Mae Pontio yn ganolfan mwy o ran maint, yn gymhlethach os rhywbeth. Mae Bangor yn ddinas Prifysgol, ac mae Pontio yn rhan o’r Brifysgol,

5. Be ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf unwaith y bydd yr adeilad wedi agor? Cael gweld y theatr yn llawn pobl yn mwynhau eu hunain wedi noson o ansawdd artisig - ac ar eu traed eisiau mwy. Llwyddo i wireddu rhai o syniadau da plant a phobl ifanc yr ardal boed yn biano pinc yn y cyntedd, helipad ar y to (ddim mor debygol!) neu Cwtsh Cynganeddu, gan ddangos ein bod, nid yn unig yn gwrando ar ddymuniadau pobl ond ein bod hefyd yn gallu gweithredu arnyn nhw. Clywais rhywun yn dweud wrth ffrind wrth safle bysus - be oeddan ni’n ei wneud cyn Pontio? Manon Elwyn


...Yr Hadau 17

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

Cymdeithas Llywelyn Dyma’r cyfle gorau ichi ddechrau dysgu/gwella eich sgiliau Cymraeg, achos y mae cymdeithas ar gael i chi nawr! Y mae Cymdeithas Llywelyn ar agor i’r rheiny sydd eisiau dysgu’r iaith Gymraeg, ac i’r rheiny sydd eisiau cyfathrebu a chymdeithasu yn yr iaith Gymraeg mewn awyrgylch a lleoliad anffurfiol. Yn anffodus, nid oedd hi’n bosib cynnal cymdeithas fel hon dros

y misoedd diwethaf, felly y mae’n anhygoel i’w hail-sefydlu nawr! Cadeirydd y gymdeithas yw Benjiman Angwin sef myfyriwr Cymraeg yn ei flwyddyn gyntaf, ac yntau’n ddysgwr yr iaith Gymraeg hefyd. Daeth â nifer o bobl at ei gilydd i ddysgu’r iaith Gymraeg drwy drefnu Noson Ffilmiau Cymraeg, yn ogystal â digwyddiadau eraill. Hyrwyddir

y Gymraeg hefyd trwy gynnal “gair y dydd” er mwyn hybu’r rheiny sydd eisiau defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau. Wrth i’r gymdeithas ddatblygu a thyfu, dyma’r cyfle ichi ymuno. Mae dolen i’r grŵp Facebook isod, a gellwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am gyfarfodydd y dyfodol ac yn y blaen!

This is now the best chance for you to start learning/improving your Welsh, as we have a society available! Y Gymdeithas Llywelyn is open to anyone who wants to learn the Welsh language, or even just to converse in Welsh in an informal setting. Unfortunately, Y Gymdeithas Llywelyn hasn’t been able to run over the last few months, so

it’s excellent to finally have it re-established now. The society is being run by first year Welsh student, Benjiman Angwin, who is a learner of the language himself. He has brought many people together to learn Welsh by organising Welsh Language Film Nights, among other things, not to mention aiding

the learning of Welsh by offering a “word of the day” scheme in order to promote using Welsh in day-today life.

As the society develops more and more, now is the chance to join. Go to the following link to join the Facebook group and find out more about future meetings etc!

Nicola’n dweud ei barn...

Yn wreiddiol o Wrecsam, mae Nicola bellach wedi dysgu Cymraeg ac yn byw ar Safle Ffriddoedd ym Mangor, ac yn ei hail flwyddyn yn astudio Cymraeg.

you arrived did we not?’. Naddo. Gwaeddaist ‘Natalie’ ac fy enw i yw NICOLA. ‘Oh we’re terribly sorry I’ll get you an appointment right away’. Hanner awr yn ddiweddarach, dyna fi at ddesg y dderbynfa eto. ‘Oh the receptionist you spoke to has gone on her lunch and hasn’t re-arranged your appointment’. O wel, mae hwnna’n berffaith iawn, dwi’n hoffi eistedd yn yr ystafell aros am ddwy awr i weld y meddyg am 10 munud, plis paid â brysio.

fewn 15 munud neu baswn i’n cael dirwy o £300 a buasai fy Micra annwyl i’n cael ei autorecovered gan yr Heddlu. Pam? Oherwydd mi wnaeth rhyw ddyn ffonio’r Heddlu yn dweud bod fy nghar yn ‘blocking the entire lane and he had to reverse the whole way out’. O na, sut wnest ti ymdopi? Roedd fy nghar ar ffordd Y Cilgant ger Ffordd y Coleg, sy’n lôn gul beth bynnag, ond mae maes parcio perffaith addas i droi eich car o gwmpas ynddo felly nid oes rhaid pagio yn ôl o gwbl. Ond y peth a’m gwylltiodd i fwya oedd pam oedd rhaid i ffonio’r Heddlu? Pe bai o wedi mynd i dŷ fy ffrind a gofyn a allwn i Trin pobl y ffordd y symud fy nghar, mi faswn i’n fodlon basech ch iawn i wneud hynny. Dwi’n gallu i’n licio cae l bod yn rhesymol a dw i’n gwybod eich trin, a bydd pawb ei bod hi’n rhwystredigaethus pan yn hapus! mae’n rhaid dreifo heibio ceir ar lôn gul. Mae pobl yn gallu bod mor sbeitlyd ac anystyriol tuag at eraill, Symud at ddydd Sadwrn. Ces i a dyna sy’n mynd ar fy nerfau. Trin alwad ffôn gan fy ffrind yn dweud pobl y ffordd basech chi’n licio cael bod rhaid imi symud fy nghar o eich trin, a bydd pawb yn hapus!

cymhariaeth â’r iaith gyntaf dduwiol. Haia! Nicola ydw i a dw i yn yr ail flwyddyn yn astudio Cymraeg. idd o Baswn i’n disgrifio fy hun fel fersiwn iwn fenywa s r fe . .. a fenywaidd o Rhod Gilbert (dig a rt - dig Rhod Gilbe Chymraeg, nid doniol) a’r ansoddair Chymraeg! Saesneg mwyaf perthnasol yw ‘easily rattled’. Dyma fy erthygl gyntaf ar gyfer y Llef a hoffwn eich cyflwyno i wythnos arferol yn fy mywyd bach i. Yna symud i ddydd Mawrth. Os nad ydych yn fy nabod i, a dwi’n cwyno ’Na i ddechrau yn y dechrau, dydd am hyn yn ddiddiwedd, ar y funud Llun. Es i, dau o fy ffrindiau, yn mae fy nhrywn wedi ei dorri (bai cynnwys Rhys Jenkins sy’n sgwennu geneth o Academi sy’n hoffi dawnsio ar gyfer yr Hadau, sy’n Gymraeg fel mwnci) a dw i’n brwydro efo’r ‘ail-iaith’, i Cheese yn Academi ac NHS i gael llawdriniaeth. Felly mi roedden ni’n siarad â hogyn yn es i i A and E oherwydd y boen ac Gymraeg yn y lle ysmygu. Pan roeddwn i’n aros am dair awr i rhyw ffeindiodd allan bod ni i gyd yn ail- nyrs ddweud wrthaf i bod rhaid imi iaith (shock horror) penderfynodd aros tair awr arall, yn sgîl hyn mi es i siarad â ni yn Saesneg oherwydd adre mewn dipyn o dymer. Y diwrnod nad oedd gennyn ni’r ddawn i siarad nesa, es i at y meddyg i gael mwy o yn Gymraeg erbyn hyn yn ei farn wrthfiotogau ac anti-inflammatories o. Swn i’n licio enwi fo ond basai ac roedd yr apwyntiad i fod am hynny’n andros o amhroffesiynol, 11.10. Arhosais tan 11.45 tan es i ond dyna pam mae’r criw ‘ail-iaith’ at y derbynnydd i ofyn lle oedd fy yn colli hyder ac yn teimlo’n is mewn apwyntiad. ‘Oh we shouted you when


18 Yr Hadau...

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

Pam lai cwyno?

Mae Benjiman Angwin yn dod yn wreiddiol o Houston, Texas ond daeth i Gymru wedi darganfod hoffter tuag at Gymru, y Gymraeg, a’i phobl. Dysgodd yr iath ac mae nawr yn fyfyriwr yn Ysgol y Gymraeg yma ym Mangor. Benjiman originates from Houston, Taxas, but came over to Wales after discovering his love of Wales, the Welsh and the Welsh language. He learnt the language and is now a student in the School of Welsh here at Bangor.

Benjiman Angwin

hyn. Yn seicolegol, triniwyd y Gymraeg yn israddol i Saesneg. Gallai'r brifysgol newid y gosodia- Gwefan. Mae'r Gymraeg ar gael yn y gornel bron Hoffwn i dynnu sylw at 3 o bethau y gallai newid dau diofyn un o'r ddau beiriannau i Gymraeg yn yn anhysbys. Ar bob cyfrifiadur y brifysgol, nid a chael newid positif i’r iaith Gymraeg yn y bri- hawdd ymhlith syniadau eraill. yw'r Gymraeg yn amlwg fel iaith gyfartal. Gallai'r fysgol. defnyddiwr wynebu dewis o'i flaen bob tro, neu Argraffyddion. Ni wyddai fyfyriwr yn ei 3edd fl- well hyd yn oed (o ysyried Gwynedd yw hon) rhoi Y llyfrgell. Nid yw'r peiriannau tynny llyfrau'n wyddyn y gallai ddefnyddio'r argraffyddion yn Saesneg yn y gornel fel dewis ychwanegol i'r iaith trinio'r iaith Gymraeg yn gyfartal. Y mae rhaid Gymraeg. Mae'r sefyllfa hon yn bodoli oherwy- frodorol. i ddefnyddiwyr Cymreig pwyso Cymraeg ar dd nid oes Cymraeg ar yr argraffyddion ac eithrio waelod y scrin er mwyn cael Cymraeg bob tro. pwyso'r botwm 'Languages', ble mae'r Gymraeg Gallai’r pethau hyn newid petach i eisiau hynny Nid oes rhaid i ddefnyddiwyr Saesneg gwneud yn dod islaw Dansk. Mae hynny'n bitw. a chwyno amdanynt. Pam lai cwyno amdanynt?

Why not complain? Benjiman Angwin

langauge. The University could change the default invisible. On every computer in the university, settings on one or two of the machines easily. the Welsh language is not obvious as an equal I’d like to draw attention to 3 things that could be language. Could there be an option to choose changed, and that would have a positive impact Printers. 3rd year Welsh students did not know which language to use before arriving at the main on the Welsh language in the university. that they could use the printers in Welsh. This screen, or even better, (considering we are in situation exists because the Welsh language is not Gwynedd) placing the English button at the top The Library. The machines used to take a book out visible on the screen without pressing ‘Languages’, right-hand corner as an alternative option to the do not treat the Welsh language equally. Welsh- where the Welsh language appears below Dansk. native language. language users have to push ‘Cymraeg’ on the That is spiteful. bottom of the screen every time. English-language These things could change if you wanted it enough users do not have to do this. Psychologically, the Website. The Welsh language, which has to be and if you were willing to complain about them. Welsh language in treated as inferior to the English selected at the top right-hand corner, is almost So why not complain?

Sefyllfa’r Gymraeg yng Nghaerdydd Rhys Jenkins

Cynhaliwyd Cynhadledd gan Gyngor Caerdydd gyda Phrif Weinidog Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg i drafod dyfodol yr iaith yng Nghaerdydd ar ddechrau mis Mawrth. Cafodd y gynhadledd ei chynnal yn Neuadd y Ddinas, lle’r oedd cynllun gweithredu yn cael ei drafod. Yr oedd yn gyfle cyfoethog i lwyth o sefydliadau’r Gymraeg yng Nghaerdydd ddod at ei gilydd – yn cynnwys S4C. Ar destun Addysg Gymraeg, yr oedd nifer o bobl

holl gyfarfodydd, a gallem weld newidiadau i’r Gymraeg yn y brifddinas ac ar draws Cymru hefyd. Nod y gynhadledd oedd penderfynu sut allai’r cyngor weithio gyda phartneriaid, er mwyn sicrhau y bydd y brifddinas yn dod yn fwy dwyieithog. Wrth ystyried y syniadau am yr ysgolion newydd, mae’n glir ei bod hi’n gallu fod yn brifddinas ddwyieithog mewn cyfnod byr o amser.

yn gobeithio gweld Cyngor Caerdydd yn cadw at eu haddewid a sefydlu dwy ysgol Gymraeg newydd yn Nhrebiwt a Grangetown. Y mae tua £6 miliwn eisioes wedi’i glustnodi ar gyfer darparu’r ddwy ysgol newydd. Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas fod “chwe safle posib ar gyfer ysgol newydd o dan ystyriaeth” mewn cyfweliad diweddar, ac fod y Cyngor yn “ateb galw am addysg Gymraeg yn y brifddinas”. O’i safbwynt ef, y mae “dyfodol disglair iawn i’r Gymraeg yng Nghaerdydd” yn sgil yr

The state of the Welsh language in Cardiff Rhys Jenkins A conference was held by Cardiff Council with the Prime Minister of Wales and the Commissioner of Wales to discuss the future of the Welsh language in Cardiff at the beginning of March. The conference was held in the City Hall, where an action plan was discussed. It was an excellent chance for a lot of Welsh-language stations in Cardiff to come together – including S4C.

On the topic of Welsh Education, a lot of people hoped to see Cardiff Council keep to their promise and establish two new Welsh-language schools in Butetown and Grangetown. £6 million has already been earmarked for providing to the new schools. Councilor Huw Thomas said that there were “six possible places for new schools were under considereation” in a recent interview, and that the council was “answering a calling for Welsh-language education in the capital city”.

From his viewpoint, there was a “bright future for the Welsh Language in Cardiff ” in light of all of the meetings, and we could see changes to the Welsh Language not only in Cardiff but across Wales too. The chief aim of the conference was to decide how the council could work with a partnership, in order to ensure that the capital city will become more bilingual. Considering the ideas about the new schools, it’s clear that Cardiff can be a bilingual capital in a short space of time.


Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

...Cornel Creadigol 19

Dyma’r rhifyn cyntaf o’r Llef i ddod o’r wasg ers yr Eisteddfod Ryng-golegol yn Abertawe lle cipiwyd y tair prif wobr lenyddol gan fyfyrwyr o Fangor. Llongyfarchiadau calonnog i Elen Huws ar ei Choron, i Ffion Haf Williams ar ei Medal Ddrama, ac i Gruffudd Antur am ennill ei bedwaredd Cadair Ryng-golegol - a’i gyntaf fel myfyriwr ym Mangor. Diolch i bawb sydd wedi cytuno i gyhoeddi eu gwaith yn gornel. Braf iawn ydi gweld criw mor awyddus. Rydym wastad yn chwilio am ragor o bobl i gyfrannu felly os oes gennych chi unrhyw beth llenyddol – straeon byrion, llên meicro, ymsonau, cerddi o unrhyw fath – anfonwch nhw ataf i ar weue0f@bangor.ac.uk Tan y tro nesaf, Elis

Pellter (Detholiad)

Dw i’n cofio teimlo nghlustia’ fi’n mynd yn wirion pan ddeudodd hi wrtha’ i. Fatha taswn i newydd ddod oddi ar awyren ‘lly, a bob dim yn fud heblaw yr un frawddeg fach fer honno. Nes i wirioni’n bot. Nes i ddim meddwl rhyw lawer am y beichiogrwydd, er mawr g’wilydd i mi, y naw mis caled y byddai Elain yn dreulio yn cario’r babi. Na, mi aeth trên fy meddyliau i yn gynt dros y cledrau na hynny, heibio’r enedigaeth hyd yn oed, a dod i stop ar bâr o lygaid tywyll yn syllu i fy rhai i yn edmygus, llygaid fyddai’r un spit â rhai fy nghariad. Person bach meddal yn gwingo yn fy nwylo i. Yr hogan fach ddela’ welai neb erioed. Roedd o fel taswn i’n byw ar rhyw gyffur ewfforig am bythefnos, yn cael lledaenu’r newyddion da i bawb. Cymysglyd oedd yr ymateb gan rai o’m cyfoedion. Yn methu gweld y pleser yn y cyfrifoldeb. Fy nheulu bach i oedd ar fin egino. Ro’n i’n gallu teimlo cynhesrwydd fy ngwraig yn llenwi’r tŷ fferm, a fy un innau’n llenwi’r buarth. Mor annisgwyl, mor werthfawr oedd yr anrheg hon a roddwyd i ni. *** Dw i wrth y ffenest yn syllu i lawr ar y buarth, sy’n llawn bywyd. Mae’r defaid yn syllu ar Huw fel dosbarth o blant, yn gwthio eu pennau’n rheibus drwy’r giatiau i gyrraedd y bwyd. Mae Nel y ci yn chwarae mig gyda’r mamogiaid barus a chuddio’n siap welingtons fy ngŵr. Gam yn gam ag ef heb unwaith fynd ar ei draws, er i’w llygaid lynnu ar y rhes o wynebau gwynion. Gwibia fy meddwl eto, fel y gwna’n aml yn ddiweddar. Bron na alla’ i weld yr hogyn bach yn dilyn camau ei dad, yn gwneud ati i gopïo ei osgo, ac yn crefu am sylw’r ast ffyddlon... Dw i’n ysgwyd fy mhen i glirio’n meddwl, rhaid peidio rhoi’r drol o flaen y ceffyl, ac wedyn yn sbio nôl ar y buarth. Ma’r olygfa’n un gwbl wahanol, y defaid i gyd yn bwyta heb wneud smic, a dim golwg o Huw, na’r ci, nac unrhyw enaid arall. Braidd yn annifyr gweld yr holl fywyd yn diflannu mor sydyn, heb i mi sylwi, a distawrwydd llethol yn llenwi’r lle. Yna, mi glywaf y brefu. Yn dod yn nes. Y peth cyntaf ydw i’n sylwi arno ydi’r pen. Y bwlch gwag lle ddylai ei lygaid fod yn dwll du. Y clustiau rhacs, y croen wedi’i rwygo, a’r cnawd yn slafan goch. Cysgod y gwlân fel amdo’n glynu i’r ddaear. Brown y pridd yn cuddio’r gwyn. Yn llaw gadarn fy ngŵr, mae’r corff bach yn llonydd. A dacw hi, a’i thrwyn yn sownd i’w gynffon, yn dal i frefu. Greddf ei fam, a’i phwrs yn boenus o llawn. Gwyliaf yr olygfa, wrth i Huw gyrraedd y giat. Ceisio ei chau hi’n sydyn, ond mae’r hen ddafad yn gwthio heibio. Yn gwrthod cael ei gwahanu oddi wrth ei hoen. Yn mynnu ei sylw wrth frefu’n aflafar i glust yr anifail marw. Tybed ydi hi’n deall? Ydi hi’n teimlo? Dw i’n dychryn braidd mod i’n ystyried ei theimladau hi. Gwyliaf y gweddill yn symud yn araf oddi wrth y cafnau gweigion. Eu boliau chwyddiedig a’u carnau’n suddo’n ddyfn i mewn i’r cae gwlyb. Agoraf y ffenestr, a daw chwa o wynt i mewn. Clywaf ogla’r mwd. Y silwair chwyslyd. Y gwlân seimllyd. Mor gyfarwydd ac eto yn codi pwys. Troi’r stumog. Symudaf o’r ffenestr ac anelu am ddrws y stafell molchi am y tro cyntaf bora ‘ma. *** Wedi bod yn porthi o’ni, fel arfer, fymryn yn gynharach na’r arfer gan fod yna fuwch yn ymyl llo. Doedd yna’m golwg o lestri ar bwrdd pan ddois i’r tŷ. Roedd y teciall yn oer, dw i’n cofio sylwi ar hynny. Yn nhraed ’yn sanna, mi gerddish i’n frysiog i fyny’r grisia’, yn teimlo rhyw gwlwm yn fy stumog er na wyddwn i pam yn sicr. A dyna lle roedd hi. Ar lawr y stafall molchi, yn sbio i nunlla. A fedrwn i ddim peidio syllu ar ei choesau hi, a’i dwylo hi. Yn wlyb o waed. A hwnnw’n waed tywyll, tywyll yn staeniau ar hyd ei chroen hi. Ddeudish i ddim byd, dim ond syrthio ar fy mhenaglinia’ a gafael ynddi. Cydio’n dynn, dynn, dynn ynddi. A theimlo’r dagrau fel cyfog yn codi o waelod fy mol. Elen Huws


20 Cornel Greadigol...

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

Pelydrau

Noson Allan Unwaith eto, daw blodau hardd I ardd y byd o’r tir, Pinciant a pharatoant Ar gyfer eu heinioes hir. Yn barti yn barod am grôl; ’Mond unwaith ’ych ifanc a ffôl.

Gadael Aberystwyth

Mae, yn nhafarn oera’r nos, hen wŷr sy’n mynnu aros. Maen nhw’n dod at ddiodydd i wadu’r ’fory a fydd; dod i gau eu dyrnau’n dynn, dod i wadu’r byd wedyn a chael dweud eu dweud o hyd. Hyn a wnaf finnau hefyd ryw fin hwyr ar derfyn haf: anwylo’r gwydryn olaf. Gwasgaf bob dafn o’r gasgen; fe fwynhaf, cyn tyfu’n hen, wanwyn byw pob swigen bur, a gwadaf fod y gwydr yn wag, fod bore’n agos, a’r wawr yn neheulaw’r nos. Gwadaf fod gaeaf i’w gael a gwadu bod rhaid gadael. Gwadaf fod rhew ar gydio yn y gwyll. Wyf un o’i go’ yn edliw mor fyrhoedlog yw’r nos hir yn Nhír na nÓg, ac mor fyr yw awyr iach y rhegfeydd a’r gyfeddach am mai gwynfyd ennyd yw; byw drwy’r byd ar wib ydyw.

***

Mae heulwen loywa’r ennyd yn gorfod darfod o hyd, a rhaid i’r ha’ droi ei hun yn hydref. Pob pelydryn o olau sy’n troi’n niwlen yma mwy, ac yn fy mhen y trai sy’n gwatwar o hyd, yn arafu’r wawr hefyd, a moryd o furmuron yn dal dig hyd ael y don yn yr hwyr. Mae’r tonnau’n rheg, yn torri eu gwatwareg.

Llifa’r gwyrddni fel tonnau’r môr, Fel côr daw’r adar i’r coed, Goleua olau strôb yr haul Gr’aduriaid ar ysgafn droed. Rhwng y dawnsio a’r sgwrsio maith, Fydd y chwech ddim adre’ cyn saith. Daw terfyn i gân yr adar A’u trydar, syrth dail i’r llawr, Yn raddol, try lliwiau byw’r haf Yn llymder a moelni mawr. Daw hefyd derfyn i hwyl chwech, Peidia’r gân ac amser yn drech.

Yn y co’, rhyw sŵn cerrynt o wydrau gwag ydi’r gwynt yn ubain, ond rwy’n gwybod fod heulwen y bore’n bod, a bod o hyd funud fach o haul arall disgleiriach, ac er i’r nos agosáu, yn y niwl, mae ’na olau. A, rywle, un bore bach, yn y wawr, caf weld, hwyrach, ennyd o wynfyd a oedd a haul yn toddi’r niwloedd. Af i ail-fyw hwyl a fu unwaith, ac af i fynnu rhywfaint o hen wrthryfel hafau a fu; af i hel cregyn mân fy hafan i a herio’r don sy’n torri. Mi wn i, a minnau’n hen, yn rhywle, fod yr heulwen yn obaith, a bod Aber yma, mi wn, yn fy mêr, a gwn fod yr haf i’w gael yma o hyd, er ymadael. Gruffudd Antur

Hed yr adar ymaith o’r coed, Heb oed, heb edrych yn ôl, Mae’r brigau’n foel dan awyr lom, A natur yn glyd dan siôl. Cysga’r ffrindiau dan sêr y nef, Dônt drachefn i liwio’r dref. Siôn Elwyn Hughes

Afon Tawe

(Englyn buddugol yr Eisteddfod Ryng-golegol) Fe fu’n araf ei thafod – a hi’n llwyd roedd lli iaith ar ddarfod, Ond mae geiriau’i dafnau’n dod: Nerth Tawe wrth y tywod. Siôn Elwyn Hughes

Bangor y myfyriwr Cymraeg Yn y Glôb y mae’r rhai glân – yn ynys o wenau mewn cytgan, Yma caiff claf ei hafan, Yma’r iaith a’i gwaith sy’n gân. Siôn Elwyn Hughes


... Cornel Greadigol 21

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

Peintio’r byd yn wyn Er cof am Gwenno Fflur Tudor (19 oed), a laddwyd mewn damwain car dridiau cyn ei phen-blwydd yn ugain oed. Gwenno Fflur- cyfaill cynnes a chariadus, Merch fwyn a hapus! Sbardun pob parti a gwregys diogel dy deulu. Wrth ddilyn heol bywyd yn ddiniwed, ti, y Tudor las, wen, ddrygionus oedd catalydd hoffus cymdeithas glos Llysfasi a Llanilar, heb os. Modur heb allwedd. Gwacter unig sy’n dilyn dy golli a hynny mewn modd mor annheilwng. Fferrodd ddŵr y Caron yn anfodlon pan ddatgelwyd y newyddion fod un o’i thrigolion mewn perygl rhwng Llanrhystud a Llanon. Daeth Ef i rwystro dy daith a gwlith y bore’n flanced fud dros y Sir. Taith bywyd byrhoedlog ond godidog oedd. Mae’r trisiedi nawr mewn trasiedi, dy ffrindiau mor swnllyd â lili a’th deulu’n dorcalonnus, yn methu â chredu. Ac wedi dilyn heol bywyd mor ddiniwed, Pam mai hi a’i cosbed? Llosgodd dy gannwyll yn oer ond dagrau’r gwêr barha. Nos da, lili wen. Carwen Richards

Melin

Rhod yn troi - meddwl yn chwarae gemau. Darluniau’n driciau. Llafn ar ôl llafn yn batrwm ailadroddus. Crafiad ar ben crafiad, yn greithiau mynych. Grym cerrynt yn gwthio’r dŵr at y dibyn, gan lapio’n dwt dros y dibyn. Gwlithyn yng nghrombil llygedyn yn llifo’n ddeigryn. Awchu am lafn awchlym i gloddio’r gwirionedd a’r boen ddirdynnol. Rasal Gillette ProGlide Dad yn daclus ar rimyn y sinc. Hoff gyllell torri winwns Mam a’i charn goch yn sleifio i’m llaw. Cyfleus yw siswrn gwnïo Mam-gu. Cyllell boced Tad-cu wedi hogi’n ddyddiol ar garreg isa’r tŷ fferm gwyngalchog. Llafn llyfn miniog. Maen melin sy’n malu’n gyllell, gan erydu’r cnawd perffaith. Purdeb croen ar freichiau, brest, arddwrn a chluniau. Rhwd yn grachen. Rhwd yn berwi’n grwstyn browngoch a chrawn melynwyn. Crafu’r clwyf i ddatgelu’r llif. Cydio mewn llafn cyn cael cyfle i iachau. Melin meddwl yn brwydro â’r elfennau. Mwsogl yn llawes hir. Rhwygiadau’n chwarae cwato. Cuddio tolc a chraith a rhwd a chrachen. Mwsogl o lawes er gwaethaf arogl chwyslyd, a phelydryn o’r haul gwynnaf berwedig. Anwedd yn codi’n stêm ac oedi’n gysgodion. Heb felin drafod. Rhod yn troi - heb wybod pam bellach. Darluniau’n driciau. Llafn ar ôl llafn yn batrwm ailadroddus. Crafiad ar ben crafiad, yn greithiau mynych. Grym cerrynt yn fy ngwthio at y dibyn. Gwlithyn sych yng nghrombil llygedyn. Poen? Pleser. Ceris Mair James


...Adolygiadau 23

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

APOLYGIADAU

QUIZUP

hefyd herio’ch ffrindiau i chwarae yn eich herbyn, ac mae’r dewis o bynciau’n eang iawn - o feddygaeth i Friends, ac mae mwy yn cael eu hychwanegu yn ddyddiol! Gyda phob testun, byddwch yn dechrau ar lefel un, ac mae’n rhaid i chi weithio’ch hun i fyny i’r lefel uchaf posib, ac yna, mae posibilrwydd i chi ennill teitl y chwaraewr gorau yn eich gwlad dan y pwnc penodol, neu hyd yn oed, y chwaraewr gorau yn y byd!

Erbyn hyn, QuizUp yw gêm cwis mwyaf y byd, gyda 150,000 o gwestiynau a 250 o bynciau i ddewis ohonynt! Mae pob gêm yn cymryd ryw funud neu ddau i’w chwarae ar y mwyaf, ac mi fyddwch yn chwarae’n erbyn rhywun gwahanol bob tro, o wledydd gwahanol! Mae’n fonws gwych ein bod ni fel Cymry yn cael yr hawl i chwarae fel gwlad annibynnol, yn hytrach na gorfod chwarae fel rhan o’r Deyrnas Unedig. Gellwch Manon Elwyn

FLAPPY BIRD Mae llawer iawn o sôn wedi bod am y gêm yma, a gafodd ei datblygu gan Dong Nguyen o Fiet-nam. Daeth yn boblogaidd iawn ddechrau’r flwyddyn yn fyd-eang, ac yn addicting iawn i nifer fawr o bobl. Mae’r gêm wedi’i lawrlwytho fwy na 50 miliwn o weithiau, ond yn ddiweddar, tynnodd Dong Nguyen y gêm oddi ar siopau ar lein. Dywedodd fod y gêm yn difetha ei fywyd syml, gan nad oedd wedi rhagweld y byddai’r ap yn datblygu ledled y byd, a chreu stŵr. Mae’r gêm yn anodd, er ei bod

yn ymddangos yn syml. Mewn gwirionedd, roedd ei symlrwydd yn achosi cur pen mawr i’w holl chwaraewyr! Wrth imi chwarae’r gêm, roedd yn hawdd gweld sut oedd pobl yn methu stopio ei chwarae, gan fy mod yn cael y teimlad o reidrwydd i guro fy sgôr blaenorol bob tro - gêm effeithiol, ond peryg! Manon Elwyn

Mae hwn yn ap y dylai pob myfyriwr ei lwytho i lawr i’w ffônau symudol. Hyd yma, mae wedi profi i fod yn ap defnyddiol tu hwnt, ac yn un sy’n arbed amser. Beth felly y mae’r ap hwn yn ei wneud? Wel – mae’n creu llyfryddiaeth i chi. Mae sgwennu traethawd yn gallu achosi digon o straen, heb sôn am orfod meddwl am y pethau ychwanegol – fel y llyfryddiaeth. Y cyngor y caiff pob myfyriwr gan ei diwtor/ddarlit hydd yw y dylid mynd ati i gadw cofnod o bob llyfr/erthygl ayb. wrth weithio ar y traethawd. Ond, rhaid cyfaddef mai’r llyfryddiaeth (a throednodiadau) yw rhai o’r pethau olaf sy’n cael sylw yn y broses o lunio traethawd. Mae’r ap hwn yn gwneud y broses o greu llyfryddiaeth yn un hawdd ofnadwy. Wedi agor yr ap mae’r sgrin yn edrych fel petaech wedi agor eich ap camera. Yr unig beth sydd rhaid i chi ei

gan Llio Mai wneud wedyn yw dal eich ffôn fel petaech am dynnu llun o god bar y llyfr. Bydd yr ap yn mynd ati i sganio’r cod bar a phrosesu manylion y llyfr cyn cyflwyno’r manylion ar ffurf eitem o lyfryddiaeth. Bydd yr ap yn cadw cofnod o bob llyfr yr ydych yn ei sganio ar ffurf rhestr, a phan fyddwch wedi gorffen mae modd i chi anfon y rhestr hwnnw at eich cyfrif e-bost. Os nad yw’r llyfr gennych, mae modd i chi ddewis yr opsiwn ‘chwilio’ a theipio enw’r llyfr yno er mwyn cael y manylion. Efallai nad yw’r ap yn cofnodi’r manylion yn union fel y dylent fod ar gyfer eich llyfryddiaeth (mae’n dibynnu pa ddull sydd rhaid i chi ei ddefnyddio), ond mater bach yw ychwanegu cromfachau neu ambell goma. A dyna’ch llyfryddiaeth wedi’i gwblhau!


24 Adolygiadau...

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

Gig Gŵyl Ddewi Arall Ar ddiwrnod olaf fis Chwefror, i groesawu Dydd Gŵyl Dewi Sant yr oedd Gig Gŵyl Ddewi Arall gan 4 a 6 yng Nghlwb Canol Dre Caernarfon. I ddechrau’r noson fe berfformiodd Georgia Ruth rai caneuon yn arddangos ei doniau fel cantores a thelynores. Mae gan Georgia Ruth lais swynol sydd wedi mynd â cherddoriaeth Gymraeg i gynulleidfaoedd newydd ar hyd y lle. Cafodd lwyddiant gyda gwobr ‘Welsh Music Prize’ yn ôl yn yr Hydref ac ers hynny mae wedi mynd o nerth i nerth. Yna daeth Saron i’r llwyfan – wel am berfformiad! Band o’r 70au wedi dod o Saron i berfformio yng Nghlwb Canol Dre oedd y rhain. Fe berfformiwyd sawl cân ganddynt ac roedd yr awyrgylch, ynghyd â’r gwisgoedd yn gwneud i rywun deimlo eu bod wedi mynd yn ôl bedwardeg mlynedd! Roedd y ddwy ferch ifanc yn

perfformio rhai o’u clasuron coll o’r deorllewin. Llongyfarchiadau i Siwan a Siân – y ddwy ohonynt yn swnio cystal ac yn edrych cystal ag yr oeddynt yn y 70au! I gloi’r noson fe ddaeth Kizzy Crawford draw yn syth ar ôl canu ar Cân i Gymru i mesmereiddio a hudo’r gynulleidfa gyda’i cherddoriaeth newydd. Merch ifanc o Ferthyr yw Kizzy sydd yn wir wedi creu argraff ar Gymru gyfan ac mae’n rhaid cymeradwyo ei thalentau fel cerddor – yn symud o gitâr i greu rhythmau, beat bocsio a chanu. Yn wir i chi, mae hon yn un i’w dilyn ac o wrando arni mae’n bosib iawn y bydd hi’n mynd yn bell yn y dyfodol agos!

Carys Tudor

Bronco

gan Gwyn Thomas Roeddwn wedi clywed sawl peth am y gyfrol hon o straeon byrion cyn mynd ati i’w darllen. Y prif sylwadau oedd ei bod yn gyfrol ‘wahanol’, ac yn ‘rhyfedd’. Yn wir, ni chefais fy siomi. Ceir un ar ddeg stori fer i gyd, a phob un yn cynnwys rhyw elfen od, i ddweud y lleiaf! Does ond angen darllen teitl ambell stori er mwyn cael gwybod ei bod am fod yn stori anghyffredin – e.e. ‘Wynston Draciwla Davies’, ‘Ffrancenstein Taliesin Ifas’ ac ‘Yr Ystlym-fachan’. O’r teitlau hyn, rwy’n siŵr eich bod wedi casglu erbyn hyn fod sawl creadur chwedlonol i’w canfod yn y gyfrol hon. Maent oll yn gymeriadau sy’n cael eu cysylltu â straeon arswyd, ac er i mi fod yn gall iawn a mynd ati i ddarllen y straeon yng ngolau dydd (rhag ofn!), nid ydynt yn straeon i godi braw. I’r gwrthwyneb, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn straeon llawn hiwmor sy’n dod a gwen i’ch wyneb. Ceir ymdriniaeth ddiddorol o grefydd, materion gwleidyddol a themâu megis twyll a bwlio. Wrth gwrs, mae stamp Gwyn Thomas yn amlwg iawn arni. Gwna ddefnydd helaeth o chwarae ar eiriau ac mae dylanwad y diwydiant ffilmiau yn gryf ar nifer o’r straeon, megis ‘Arwr, U.D.A.’, ‘Atrebates Huws’ a ‘Cofiant Crocodeil’. Yr hyn sy’n gwneud i’r gyfrol hol sefyll allan yw’r ffaith ei bod mor wahanol i unrhyw beth arall yw wyf wedi’i ddarllen yn y Gymraeg. Maent oll yn straeon doniol a bywiog ac mae’r elfen od ac anghyffredin yn ychwanegu cymaint atynt.

Llio Mai

Frozen Mae’r ffilm hon wedi’i hanelu at blant, ond wrth imi glywed nifer cynyddol o’m ffrindiau yn ei chanmol i’r cymylau, penderfynais fynd i’w gwylio. Y peth cyntaf sydd gen i i’w ddweud am y ffilm, yw bod y gerddoriaeth yn anhygoel. Wedi dweud hynny, mae’r stori ei hun yn ychwanegu at swyn y caneuon. Stori am ddwy chwaer ydyw, sef Anna ac Elsa, gydag un yn dywysoges a’r llall yn frenhines. Mae gan y frenhines, sef Elsa, bwerau i droi popeth yn rhew. Y drwg ydi, nid yw hi’n gallu rheoli’r pwerau, felly mae ei

theyrnas mewn perygl o ganlyniad i’r holl eira a stormydd eira y mae hi’n ei achosi’n anfwriadol. Mae ei chwaer, Anna, yn gymeriad cymhleth iawn, ond yn y bôn, down i sylweddoli mai stori hyfryd am chwaeroliaeth yw Frozen. Mae neges y stori’n wych i blant, ond mae’r plot a’r ffordd y mae’r stori wedi’i dweud yn apelio’n fawr i oedolion hefyd.

Manon Elwyn


Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

Merêd Fedar Cwmni Da wneud dim o’i le’n ddiweddar. Dros y misoedd diwethaf rydym wedi cael rhaglenni gwirioneddol afaelgar ganddyn nhw, gan gynnwys Pethe, Darn Bach o Hanes, Afal Drwg Adda, Gerallt, Dafydd Iwan ac, wrth gwrs, Dim Byd. Y ddiweddaraf yw Merêd, sef portread o Dr Meredydd Evans, a braf yw gallu nodi ei bod yn sefyll gyfuwch ag unrhyw gynhyrchiad arall gan Cwmni Da. Mae’n anodd gwybod ble mae dechrau wrth geisio disgrifio Merêd. Dyma’r llanc o Danygrisiau a adawodd yr ysgol yn ifanc, ond a fyddai, ymhen blynyddoedd, yn ennill gradd Ph.D mewn Athroniaeth o Brifysgol Princeton yn yr Unol Daleithiau. Dyma’r canwr gwerin, yr ymgyrchydd iaith, yr hanesydd, y casglwr, ond, yn bennaf oll efallai, y Cymro. Sut, felly, mae gwneud cyfiawnder â dyn mor eithriadol mewn dim ond awr o raglen? Yr unig ffordd ydi drwy adael i’r gwrthrych ei hun adrodd y stori. Ac yntau bellach yn 95 oed, cawn hanes bywyd Merêd yn ei eiriau’i hun, ynghyd â chyfraniadau gan rai o’i gyfeillion a’i gydweithwyr ar hyd y blynyddoedd. Mae’n rhaglen debyg ei naws i’r rhaglen am Gerallt Lloyd Owen, gyda gwaith camera hynod o chwaethus, ac mae’n anodd peidio â theimlo cwlwm yn y gwddw ar y diwedd wrth i Merêd ddychwelyd i fro ei febyd ac i Gwmorthin, a hynny, efallai, am y tro olaf. Dyma raglen sy’n gofnod amhrisiadwy am un o Gymry mwyaf ac amlycaf y ganrif ddiwethaf, ac sy’n bortread tyner o ŵr bonheddig na welwn mo’i debyg am flynyddoedd lawer. Da chi, ewch draw i S4Clic i’w gwylio cyn iddi ddiflannu. Gruffudd Antur

...Adolygiadau 25

Gig yr Eisteddfod Ryng-golegol Yn Abertawe yr oedd yr Eisteddfod Ryng-golegol eleni ac yn ôl y traddodiad cynhaliwyd Gig wedi’r cystadlu. Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor oedd enillwyr yr Eisteddfod ac fe ddaeth y darian newydd yr holl ffordd yn ôl i’r gogledd. Dyddiad yr Eisteddfod oedd y cyntaf o Fawrth a pha ffordd well i ddathlu dydd ein nawddsant nag yng nghwmni myfyrwyr Prifysgolion Cymru. Pris tocyn mynediad oedd deg punt, pris

rhesymol am y llu o artistiaid a berfformiodd. Yr artistiaid eleni oedd Cowbois Rhos Botwnnog, Sŵnami, Yr Eira, Y Banditos ac Uumar. Artistiaid amrywiol â digonedd o ganeuon at ddant pawb. Bandiau ifanc a chyfoes a oedd yn hollol addas a chyfoes ar gyfer y digwyddiad a’r gynulleidfa. Braf hefyd oedd gweld pobl ifanc di-Gymraeg a nifer oedd yn dysgu’r iaith o Brifysgol Abertawe yn rhan o’r gynulleidfa. Uchafbwynt y

noson i mi oedd gweld Sŵnami ynghyd â Gethin Griffiths yn perfformio’r gân ‘Dydd yn Dod’ ar y llwyfan. Roedd y bechgyn wedi cystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru'r noson flaenorol ar Ynys Môn. Rhaid i mi gyfaddef fod yr awyrgylch yn un arbennig, a heb os mai dyma’r Gig gorau i mi fynychu ers dechrau bywyd coleg. Ceris James

The Delivery Man Vince Vaughan yw seren y ffilm hon, ac mi ydw i wrth fy modd efo’r actor yma! Ond, mae’n rhaid imi ddweud fod y ffilm ei hun yn siomedig. Roedd y plot yn dila, gyda Vince Vaughan yn actio cyfrannwr sberm sydd yn darganfod ei fod yn dad biolegol i dros bum cant o blant. Mae’n ergyd fawr iddo, ond nid yw’n barod i ddod yn dad i ddim un ohonynt. Yn hytrach, mae o’n mynd i chwilio amdanynt yn eu tro, gan gymryd arno nad yw’n

adnabod yr un ohonynt, felly nid yw’r plant yn dod i ddeall mai, mewn gwirionedd, eu tad ydyw. Mae’r plant i gyd yn unigryw, sy’n arwain cymeriad Vince Vaughan, David Wozniak, ar daith i ddarganfod y math o dad y gallai fod wedi bod, a pa fath o berson y mae o wedi datblygu i fod. Ar ben popeth, mae cariad cyfredol cymeriad David Wozniak, yn feichiog efo’i blentyn! Manon Elwyn

Cyngherddau Coffi Ensemble Cymru

Cerddoriaeth i ffliwt, fiola a thelyn gan Prokofiev, Mathias, Debussy, Bax a Devienne.

HEFYD! Cerddoriaeth Ym Mangor: Ensemble Cymru gydag aelodau o Bedwarawd Mavron ac aelodau o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC. Ebrill 3 | 8yh | Neuadd Powis, Bangor

Ebrill 1 | 8yh | Capel Gad, Cilcain Ebrill 2 | 11yb | Neuadd Dwyfor, Pwllheli Ebrill 3 | 10:30yb | Venue Cymru, Pwllheli Ebrill 4 | 10:30yb | Canolfan Ucheldre, Caergybi Ebrill 5 | 10:30yb | Venue Cymru, Llandudno


...Ffasiwn

26 Ffasiwn ...

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014


Ffasiwn ... 27

Pixie

...Ffasiwn

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014 Lott

Lilly

Allen

Rita

Ora

Ellie Goulding Kimberley Walsh

Fearne Cotton


28 ... Hysbyseb

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014


30 ...Chwaraeon

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

Gobeithio parhau â phêl-droed slic

Parhad o’r dudalen gefn

Yn ystod y misoedd cyntaf, fe chwaraeodd y myfyrwyr 9 gem ac enillon nhw 8 ohonynt. Y gêm i ffwrdd yn erbyn Valley FC, y tîm ar frig y gynghrair oedd yr unig siom yn ystod y cyfnod llwyddiannus yma i’r UMCB. Felly wrth i ni gael seibiant o’r pêl-droed dros y gwyliau Nadolig, roedd Valley ar frig y gynghrair ac UMCB yn ail o ddau bwynt, a'r myfyrwyr felly yn gobeithio i drechu eu gelynion yn eu cyfarfod nesaf, adref yn Beach Road i gymryd eu lle ar frig y tabl. Ers y flwyddyn newydd, mae’r tywydd erchyll wedi difrodi y rhan fwyaf o’r caeau pêl-droed lleol, felly dim ond tair gem mae UMCB wedi gallu chwarae hyd yn hyn yn 2014. Roedd y gyntaf o’r rhain adref i Adelphi Vaults (Amlwch). Er bod y garfan yn andros o fyr ar ddydd y gêm fe enillodd UMCB 2-0,

efo goliau gan Guto Ifan a Rhodri Williams. “Business as usual”, tri phwynt arall i’r myfyrwyr yn ogystal â pherfformiad a ddangosodd talent y tîm o chwarae pêl-droed deniadol. Yn bwysicach, fe ddangosodd y gêm yma cryfder y garfan. Roedd llawer iawn o newidiadau i’r tîm gwreiddiol a chwaraewyr amhrofiadol yn gorfod cymeryd eu lle, ond ni ddaru nhw siomi o gwbl wrth iddynt berfformio yn gryf iawn. Ar ôl y gêm yna, fe aeth UMCB am fis heb gêm, ac fe gafodd hyn effaith ar eu gem nesaf sef gem gwpan (Presidents Cup), adref yn erbyn Penbont Celts. Eto, efo llawer o’r garfan yn absennol oherwydd eu cyfraniad i’r Eisteddfod Rynggolegol, roedd y gêm yma yn erbyn gwrthwynebwyr o gynghrair uwch am fod yn un anodd. Y sgôr terfynol oedd UMCB 0-3 Penbont Celts. Er i

ni fethu chwarae ers mis, yn ogystal â cholli chwaraewyr, doedd hyn ddim yn esgus i berfformiad andros o wan gan y myfyrwyr. Fe sgoriodd Penbont dair gôl o fewn yr ugain munud agoriadol, fe aeth pennau UMCB i lawr, a methon nhw chwarae eu pêl-droed arferol yn enwedig yn nhraean olaf o’r cae. Doedd y perfformiad ddim yn un o gymeriad arferol y myfyrwyr o gwbl, roedd Penbont yn well tîm ar y dydd ac yn llawn haeddu eu buddugoliaeth. Roedd siom y tîm yn amlwg ar ôl y chwiban olaf oherwydd dylai’r myfyrwyr wedi cystadlu llawer gwell o ystyried talent y chwaraewyr yn y crysau coch. O leiaf fe ddaru UMCB ddangos cymeriad i ddod yn ôl i’r gêm a gollwyd yn erbyn Valley cyn y Nadolig, ond dim hyn oedd yr achos i’r gêm yma yn anffodus. Roedd yn rhaid i’r UMCB

godi eu pennau yn ôl i fyny a gweithio yn galed er mwyn parhau i lwyddo yn y gynghrair yn eu gêm ganlynol i ffwrdd yn erbyn Adelphi Vaults. Er i’r tîm chwarae lawer gwell a dangos perfformiad o’r arfer, fe gollodd y myfyrwyr y gêm 1-0. Fe greodd y tîm cyfle ar ôl cyfle am 90 munud, ond yn anffodus ni ddaru ddim un ymdrech daro cefn y rhwyd. Yn amlwg felly yn ddiwrnod anlwcus i’r myfyrwyr, ond mae diwrnodau fel hyn yn digwydd yn aml ym mhêldroed felly gobeithiwn i Valley gael profiad tebyg rhwng nawr a diwedd y tymor! Gem nesaf UMCB fydd gem gwpan (Division 1 Cup) i ffwrdd yn erbyn Bro Lleu. Mae’r myfyrwyr yn barod ar y blaen 4-0 ar ôl y gornest cyntaf, felly gobeithiwn i ymdrechu yn dda yn y gêm yma er mwyn mynd ymlaen i’r rownd gynderfynol!

Parhad o’r dudalen gefn

Cwpan y Byd 1958. Mae Andorra, Cyprus ac Israel llawer is na Chymru

yn y safleoedd rhyngwladol gan FIFA, ac er bod Bosnia a Gwald Belg yn wledydd a fydd yn cystadlu yng Nghwpan y Byd eleni ym Mrasil, fe fydd Cymru yn awyddus iawn am bwyntiau yn eu herbyn wedi iddynt ddal Belgium i gêm gyfartal (1- 1) llynedd yn y rhagbrofion i Frasil. Mae rhaid ystyried hefyd y dalent sydd gan Gymru. Mae’r tîm yn cynnwys cymysgiad o chwaraewyr talentog, profiadol, ifanc ac addawol fel Joe Allen, Ashley Williams, Ben

Davis, Emyr Huws, Joe Ledley a'r ddau seren Aaron Ramsey a Gareth Bale. Efo tîm mor addawol a grŵp rhesymol, gobeithiwn mai hyn fydd y dechreuad o gyfnod llwyddiannus i bêl-droed rhyngwadol Cymru! Mi fydd gan Coleman gem gyfeillgar yn erbyn Yr Iseldiroedd ar Fehefin y 4ydd er mwyn arbrofi efo’i dim, yna bydd cyfle i’r Cymry fwynhau gwylio Cwpan y Byd dros yr haf cyn ffocysu ar y gêm gyntaf o’r rhagbrofion Ewropeaidd ar Fedi'r 9fed yn erbyn Andorra.

a ‘Fly Fairs’ Galway (Iwerddon) a Chymru yn 2012 a 2013. Clyma blu ledled Cymru a thu hwnt mewn sawl ffair wledig a digwyddiadau tebyg. Yn y gorffennol, mae Ilan wedi derbyn gwahoddiadau lu i glymu plu mewn mannau megis Iwerddon, Denmarc a’r British Fly Fair Internation (BFFI). Yn Siop y Gwyniad, Bala mae Ilan yn gwerthu ei blu. Y mae hefyd yn clymu plu ar gyfer gwahanol dimau megis Tîm Ieuenctid Cymru. Gwertha ei blu i bobl o bob cwr o Ewrop, ac mae e hefyd yn gweithio i gwmnïau mawr megis Partrage yn datblygu eu cynnyrch hwy a’u

hysbysebu. Edrycha Ilan ymlaen at sioeau blwyddyn nesaf a dymunwn bob llwyddiant iddo yn ei faes yn y dyfodol.

Ewro 2016 - Golwg ar obeithion Cymru Mae'r fformat newydd yn gweld ehangiad o 24 o dimau yn medru cymryd rhan yn y twrnamaint yn 2016, sy'n golygu bod timau sy'n gorffen yn drydydd yn eu grwpiau cymwys yn cael y cyfle i symud ymlaen trwy chwarae mewn ‘’playoff ’’. Golyga hyn fod y gemau rhagbrofol yma yn gyfle euraidd i’r tîm Cymraeg gymryd rhan yn eu twrnamaint rhyngwladol cyntaf ers

Pysgotwr yn ein plith

Carwen Richards

Dechreuodd Ilan Wyn Evans, sy’n astudio Dylunio a Thechnoleg-QTS, bysgota pan yn 4 oed. Cychwynnodd bysgota pluen pan yn 6 oed, ar ôl i’w Dad ddysgu, ar ôl i’w Dad yntau (Dad-cu Ilan) ddysgu hwnnw. Treulia’i Haf yn pysgota, a chanu wrth wneud, ar yr afon Dyfrdwy, Tryweryn a Llyn Tegid. Âi’n aml i bysgota gyda’i Dad a’i Dad-cu ar Lyn Brenig hefyd, yn ogystal â Thal y Llyn. Bu’n dysgu sut i bysgota’r afon gan griw o Czechoslovakia. Yn 8 oed, dysgodd sut i glymu plu, eto gan ei Dad. Mae Ilan eisoes

wedi ennill nifer o gystadlaethau gyda Chlwb Pysgota Bala. Mynycha wersi clymu plu yn y Clwb pan oedd yn iau- Fe sydd nawr yn dysgu’r gwersi hyn! Cafodd dreialon ar gyfer tîm ieuenctid Cymru yn 16 mlwydd oed, lle daeth yn y 4ydd safle. Aeth ymlaen, felly, i gynrychioli Cymru yn Yr Alban ar Lake of Menteith yn 2011, lle gorffennodd Cymru yn 2il allan o’r 4 gwlad. Daeth Ilan yn bersonol yn 6ed allan o 56 o bysgotwyr, ac yn 3ydd allan o’r Cymry. Derbyniodd wahoddiad i glymu plu yn Ffair Wledig Gogledd Cymru yn 2010, 2011, 2012 a 2013,


...Chwaraeon 31

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

Cydnabyddiaeth i’r Cymry

O’r dudalen gefn Iwerddon oedd y dasg nesaf i Gymru ac yn anffodus, colli oedd eu hanes. Mae'r gystadleuaeth rhwng Cymru ac Iwerddon bob amser yn un cyffrous ac agos, ond ni chafodd Cymru unrhyw gyfleoedd i sgorio gyda thri phwynt yn unig yn dod gan Leigh Halfpenny. Y sgôr terfynol oedd 26-3 sydd yn adlewyrchiad perffaith o berfformiad Cymru ar y diwrnod yma. Bu sawl un o aelodau UMCB ddigon ffodus i brofi naws

cyffrous y diwrnod yn Nulyn ar drip gan yr Undeb. Y sialens nesaf a oedd yn wynebu Cymru oedd Ffrainc yn Stadiwm y Mileniwm, lle bu cyfle i Gymru ddangos i’r cefnogwyr mai nhw oedd y pencampwyr eto eleni. Chwaraewyd y gêm yn gyflym ac yn gryf yn yr hanner cyntaf – Nid oedd Ffrainc yn gwybod sut i ymateb,gyda’r sgôr yn 20 - 6 ar hanner amser. 27 - 6 oedd y sgôr terfynol gyda cheisiau gan George North (1) a Sam Warbuton (1).

yn y bencampwriaeth ond wedi chwarae bob un gêm gyda chalon ac angerdd. Iwerddon bu’n fuddugol eleni, a phrofwyd Brian O’Driscoll yn chwarae ei gêm olaf dros ei wlad. Er na gipiwyd unrhyw darian mae cyfle i ni'r cefnogwyr wneud yn siwr fod y tîm yn cael rhyw fath o wobr am eu hymdrech. Bydd chwaraewr y bencampwriaeth yn cael ei gyhoeddi ar Ddydd Gwener y 21ain o Fawrth: Yn rhedeg am y wobr o Gymru mae Taulupe Faletau a Sam Warburton.

Llongyfarchiadau

FeBRAry Carwen Richards Eleni, am yr ail flwyddyn yn olynol, cynhaliwyd digwyddiadau yn dilyn teitl ‘FeBRAry’, sef ymgais y Brifysgol a’r Undeb Athletau yn benodol i godi arian ac ymwybyddiaeth o Gancr y Fron, a hynny ym mis Chwefror. Gwerthwyd crysau â’r geiriau ‘Save your jugs’ arnynt, sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Cafwyd nos Fercher UA penodol ar gyfer yr achos, ar y deuddegfed o Chwefror, a hwn-

Daeth gweddill y pwyntiau eto o droed Halfpenny. Roedd y gêm nesaf yn erbyn Lloegr am fod yn brawf caled ar Gymru ac yn bosib o benderfynu os oedd y tîm am fod yn bencampwyr eto eto eleni. Yn anffodus, colli wnaeth y tîm. Doedd y ffaith bod y gêm yn cael ei chwarae bant yn Twickenham ddim yn helpu Cymru. Roedd y gêm ei hun yn un cyffrous gyda dim ond ambell gamgymeriad gan Gymru yn caniatáu Lloegr i gipio 2 gais. Y sgôr derfynol oedd 28 - 19 gyda phwyntiau Cymru i gyd yn dod gan Leigh Halfpenny, a gafodd ei anafu yn y munudau olaf. Er bod ennill y bencampwriaeth erbyn hyn allan o’r cwestiwn doedd y chwaraewyr ddim yn barod i roi eu pennau yn eu plu. Chwaraeodd y tîm eu gem gorau yn y bencampwriaeth yn erbyn yr Alban, lle cafodd dros 50 o bwyntiau eu sgorio. Y sgôr terfynol oedd 51 - 3 gyda’r ceisiau’n llifo mewn gan Jamie Roberts (2), George North (2) a Liam Williams (1). Dan Biggar dderbyniodd y ddyletswydd o gicio'r wythnos hon gan fod Halfpenny wedi ei anafu o hyd. Bu Biggar yn llwyddiannus iawn a chiciodd 4 trosiad a 2 gic gosb. Gorffennodd Cymru’n 3ydd

nw hefyd yn noson lwyddiannus dros ben. Cynhaliwyd gêm rygbi cyffrous - Bechgyn rygbi’r undeb yn erbyn bechgyn rygbi’r gynghrair. Chwarae mewn bra a shorts oedd y nod, i godi ymwybyddiaeth o’r clefyd unwaith yn rhagor. Bu trefniadau ar gyfer twrnamaint pêl-rwyd ar y 23ain hefyd, ond bu rhaid canslo ar fyr rybudd. Mae’r twrnamaint hwnnw i’w gynnal ar Ddydd Sul olaf mis Mawrth.

Holi: Ruth

1. Enw llawn? Ruth Jones 2. O ble wyt ti’n dod? Dinas Mawddwy 3. Pa gamp wyt ti’n chwarae? Rygbi 4. Beth wyt ti’n ei astudio ym Mhrifysgol Bangor? Cemeg 5. I ba dîm wyt ti’n perthyn? Tîm Prifysgol Bangor/Tim UMCB 6. Safle? Mae’n dibynnu pwy sydd ar gael i chware! Dw i fel arfer yn slotio i mewn lle mae nhw fy angen i! Ond dw

Yn ogystal â bod yn amddiffynnwr i dîm UMCB, mae Rhydian Owens hefyd yn chwarae i’w dim lleol, C.P.D Llangefni. Nos Wener, Mawrth 14, roedd Llangefni yn rownd derfynol y Dargie Cup yn erbyn C.P.D Morawelon (Caergybi) yn Stadiwm Bookpeople ym Mangor. Roedd y frwydyr yn andros o gyffrous ac roedd y dorf fawr yn creu awyrgylch gwych. Roedd Llangefni ar y blaen 2-0 erbyn hanner

i’n chware fel blaenwr gan amlaf. 7. Beth yw dy lwyddiant mwyaf o fewn y gamp? Fy llwyddiant mwyaf oedd sgorio fy nghais cyntaf yn y gêm gyntaf efo’r Brifysgol. 8. Y profiad gorau o fewn y gamp? Cael y cyfle i ymarfer a chware fel rhan o dîm. 9. Dy arwr(es)? Elen Evans sy’n chware rygbi i dîm merched Cymru.

amser, ond yn y deng munud olaf sgoriodd Morawelon ddwywaith i fynd â’r gêm i amser ychwanegol. Efo’r ddau dîm yn amlwg wedi blino, fe aeth y gêm i giciau o’r smotyn. O ganlyniad i’r rheiny enillodd Llangefni gyda’r sgôr terfynol yn 2-2, a Llangefni yn ennill 5-3 ar giciau o’r smotyn. Llongyfarchiadau mawr i Rhydian a gweddill y garfan o Langefni, a phob lwc i chi yn ngweddill y tymor!

Pob lwc i’r Undeb Athletau yn nhwrnament Varsity ddydd Sadwrn y 29ain Mawrth, ym Mhrifysgol Aberystwyth. ABER V BANGOR: 40 o chwaraeon, 1000 o fyfyrwyr, ac hyd yma mae’n 3-3.. Pwy aiff â hi eleni?


32 ...Chwaraeon

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

...Chwaraeon

Cystadlu ar y Caeau

Carwen Richards Ar Ddydd Gwener, Chwefror 28, teithiodd bws o fyfyrwyr UMCB i Abertawe i gystadlu yng ngemau chwaraeon Rhyng-gol 2014. Yn hanner cyntaf y prynhawn, bu’r merched yn chwarae rygbi 7 bob ochr tra roedd y bechgyn yn curo ar y cae pêl-droed. Yn yr ail hanner, symud i’r cyrtiau pêl-rwyd a phêldroed wnaeth y merched tra aeth y bechgyn ymlaen i chwarae rygbi 7 bob ochr. Yng ngharfan pêl-rwyd y merched a ddaeth yn 2il oedd: Anna Prysor, Heledd Angell, Ceri Hollywood, Chloe Evans, Carwen Richards, Einir Jones, Sera Jones. Yng ngharfan pêldroed 5-bob-ochr y bechgyn oedd Gruffydd John, Tomos Jones, Dion Davies, Rhodri Williams, Aled Jones ac Einion Edwards, a gipiodd y wobr gyntaf! Enillwyr y drydedd wobr yng nghystadleuaeth rygbi’r bechgyn oedd Mac Jones, Einion, Tomos, Brychan ap Geraint, Rhodri, Aled Jones, Llion Jones ac Ynyr Jones. Y merched a fu’n chwarae rygbi oedd Einir Jones, Awen Mair, Nia Eleni, Carwen, Leusa Dwyfor, Heledd, Chloe a Mared Williams; ac yn chwarae pêl-droed oedd Rhiannon O’Marah, Leusa, Sioned Evans, Nia a Mared. Prifysgol Bangor oedd yr unig brifysgol i anfon tîm i bob cystadleuaeth. 2il oedd safle Bangor yn y tabl chwaraeon.

Ewro 2016: Yno i Gymru ei gydio Gethin Lewis Green

ar gyfer Euro 2016 yn Ffrainc.

Mae Cymru yng ngrŵp B sydd yn

“It’s up for grabs!”, dyna oedd cynnwys Andorra, Cyprus, Israel, Bosnia geiriau Chris Coleman ar ôl gweld Herzegovina a'r ffefrynnau, Gwlad Belg. grŵp Cymru i’r gemau rhagbrofol

Parhad ar dudalen 30

Y Chwe Gwlad: Adroddiad

Pêl-droed UMCB

Tomos Jones

Gethin Lewis Green

Cychwynnodd Cymru eu pencampwriaeth chwe gwlad

Fel nodwyd yn y rhifyn cynt, fe gafodd Clwb

eleni adref yn Stadiwm y Mileniwm, yn erbyn yr Eidal. Er bod y sialens hon erbyn hyn yn cael ei hadnabod fel un hawdd, gwahanol oedd y stori. Bu’r gêm yn brawf ar Gymru ac yn agoriad llygad o beth oedd o’n blaenau.

Pel-Droed UMCB hanner cyntaf arbennig o dda i’r tymor Ngynghrair Sul Môn a Gogledd Gwynedd. Mae hi’n saff dweud bod pêl-droed sydyn a slic y

23 -15 i Gymru oedd y sgôr terfynol, gyda’r pwyntiau’n

tîm, yn ogystal â’u gallu i ymosod yn gyson wedi

dod o droed dibynadwy Leigh Halfpenny a cheisiau Alex

cael effaith trawiadol ar weddill y gynghrair.

Cuthbert (1) a Scott Williams (1). Parhad ar dudalen 31

Holi:

Parhad ar dudalen 30

RUTH (t.31)


Rhifyn y Gwanwyn 2014  

Trydydd rhifyn papur newydd Cymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor

Advertisement
Read more
Read more
Similar to
Popular now
Just for you