Y Selar - Hydref 08

Page 7

Y GOLOFN

WADD

gyda Hef in Ty Newydd

MES Y PRS Yn dilyn yr ymgyrchu diweddar yn erbyn lleihau’r taliadau i grwpiau Cymraeg o 90% mae’r PRS (dosbarthwyr yr arian darlledu a pherfformiadau cyhoeddus) wedi penderfynu cwtogi’r 80c y funud ar Radio Cymru i 47c y funud. Ia, ei leihau. Eu dadl yw bod Radio 1 er enghraifft, sy’n cael £20 y funud, yn cael cynifer yn fwy o wrandawyr na Radio Cymru. Sy’n amlwg yn wir. Fodd bynnag, 600,000 o bobl sy’n medru siarad Cymraeg yng Nghymru. Sy’n union 1% o boblogaeth Mighty Blighty gyfan. Wrth gwrs, petai popeth ar lefel deg a hafal a bod Radio1 yn cynrychioli Prydain oll, yna oni ddylai 1% o gerddoriaeth Radio1 fod yn stwff Cymraeg? Ond dydy o ddim wrth gwrs. Mi ddewisir cerddoriaeth Saesneg ei hiaith bob tro dros stwff Cymraeg am ddau reswm amlwg 1) Ni fyddai gwrandawyr Colin a Edith yn deall y geiriau 2) Nid ydi’r stwff Cymraeg yn cyrraedd y siartiau Prydeinig (sefyllfa hunangynhaliol oherwydd 1) Sy’n golygu fod rhesymeg a dull dadansoddi PRS yn un annheg oherwydd y duedd naturiol sydd gan y gorsafoedd mawr yn erbyn y cynnyrch Cymraeg. Mae’n bosib cofio dau achlysur lle glywyd geiriau Cymraeg yn siartiau Prydain, ac felly ar raglenni poblogaidd Radio 1, sef International Velvet , Catatonia a Patio Song, Gorkys - dwy gân gan grwpiau oedd wedi selio eu lle yn y sin Saesneg yn barod gyda chaneuon oedd oddeutu hanner Saesneg a Chymraeg. Heb waith John Peel ac yna Huw Stephens dyna fyddai’r unig achlysuron o gwbl dybiwn i. Y ddadl arall yw bod miwsig Cymraeg yn cael yr union sylw ma’n haeddu achos ei fod o’n ‘shit’. Dyma’r bobl sy’n ystyried bod eu barn ar y maes

yn ddilys ar ôl gwylio tri munud o Noson Lawen yn 1998 yn nhy^ modryb ond mewn gwirionedd yr un mor wybodus am sin Uruguay. Enghraifft o’r math yma ydi Iolo Williams, y cerddwr-gyflwynydd a ddatganodd yn ddisymwth ar Uned 5 yn 2004 bod miwsig Cymraeg yn dda i ddim, cyn nodi Coldplay a rhywun arall oedd wedi gwerthu deg miliwn dros y byd fel ei ffefrynnau. Gwelir llond ystafell o’r creaduriaid yma yn Cofi Roc bob penwythnos. Petai’r rhain ond yn ymestyn ar eu sgiliau beirniadu trylwyr wrth gymharu’r stwff Cymraeg i’r hyn sydd ar restr chwarae Chris Moyles. Wnawn nhw ddim trafeilio 2 filltir i weld The Gentle Good, Pwsi Meri Mew neu Y Rei ond eto’n ebychu mewn anghrediniaeth goeglyd ar unrhyw feirniadaeth o Kaiser Chiefs, The Zutons neu James Blunt. Iddyn nhw mae enwogrwydd yn cyfateb yn ddi-gwestiwn i werth. Gan nad oes ganddynt unrhyw dast beirniadol eu hunain mae’r fformiwla’n syml iddynt: Byd-enwog = da. Erioed yn y top 40 = sad Wrth adolygu’r flwyddyn ar sioe Huw Stephens ym mis Ionawr dywedodd Ian Cottrell fod albwm yn cyrraedd bob hyn a hyn sy’n dangos yn glir fod y cynnyrch Cymraeg yn medru sefyll ochr yn ochr â’r gorau sydd ar gael yn y byd. Roedd yn sôn am Penmon gan Lleuwen Steffan, ond mae’n wir am gymaint o albyms a setiau byw diweddar fel bod unrhyw feirniad call yn gweld fod cyfansoddwyr a pherfformwyr Cymraeg ar y foment yn gor-gyflawni, fel yr oedd hi hefo grwpiau dechrau’r 90au, a bod hyn ar draws yr ystod gerddorol, o Gwilym Morus i Derwyddon Dr Gonzo i MC Mabon. Ydi un Leona Lewis werth mwy na phob cerddor Cymraeg hefo’i gilydd? Ydy, yn ôl PRS.

Tanysgriffiiwch trwy ymuno a grw^p Y Selar ar facebook neu ebostiwch eich enw, cyfeiriad ac ebost i

hysbysebionyselar@googlemail.com

fel arall mae modd mynnu copi’n rhad ac am ddim o’ch siop Gymraeg leol.

www.myspace.com/yselar


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.