Issuu on Google+

RHIFYN 15 . HYDREF . 2008

y Selar

AM DDIM PUMP PERL HUW STEPHENS

CANOLFANNAU CERDDORIAETH CYMRU HANNER PEI DAU I’W DILYN

T N A PL

W U D

l o d d y f e r c lanwad

y d d r a ...

^

^

CYFLE ARBENNIG I ENNILL TOCYNNAU GWYL SWN 2008!

1


www.sainwales.com www.rasal.net www.myspace.com/gwymon www.myspace.com/labelcopa

Sain Maffia Croniclau’r Bwthyn

Casgliad o ganeuon gorau’r grw ˆp roc o Fethesda, Maffia Mr Huws o 1982-1989

Geraint Løvgreen a’r Enw Da Busnes Anorffenedig Albwm hirddisgwyliedig gan un o feirdd a chyfansoddwyr cyfoes gorau Cymru

Geraint Jarman Atgof fel Angor

Bocs set o 15 cd a llyfr yn olrhain hanes y canwr-gyfansoddwr eiconig am £49.98

Goreuon Jim O’Rourke

Cofnod ym mywyd cerddorol Jim a chofnod hefyd o un o’r cyfnodau mwyaf cyffrous yn stori’r byd roc yng Nghymru

Delwyn Siôn Dyddiau

17 o draciau mwyaf cofiadwy oddi ar gasetiau, record hir, sengl ac EP Delwyn, Hergest ac Omega

Rasal Gwibdaith Hen Frân Tafod dy Wraig

Clincar arall yn cynnwys clasuron fel Twmpath Twrch Daear, Brycheuyn a Hogan Wirion!

Hanner Pei Ar Plat

Trowch eich spicars i fyny, stripiwch yn noeth a gwisgwch eich marigolds achos mae Hanner Pei yn ffyncio nôl yma nawr

Al Lewis Dilyn Pob Cam

EP newydd sy’n diferu gyda chaneuon melodig a hudolus

Gwymon 9bach Yr Eneth Ga’dd ei Gwrthod / Pa Bryd y Deui Eto? Sengl sy’n cymysgu’r traddodiadol a’r cyfoes

Copa Derwyddon Dr Gonzo Bwthyn / Chaviach LAWRLWYTHO AR ITUNES YN UNIG

Sengl newydd gan un o fandiau mwyaf cyffrous y sin Gymraeg ar hyn o bryd

www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 ffacs 01286 831.497 archeb@sainwales.com


L O D D Y GOLYG

PLANT DUW

or y d, a thym fnod d e ra r y c wedi yn gy Ma hwn ’r hydref Wel, ma di dod i derfyn. doriaeth we erd gwyliau dd o ran y sin g ’ di bod yn fe sy y b h r w a h bac saib - ma p g hefyd yn cymryd rhyw du e ra m y G f ia a r h w r b sy’n ros y brysur d od y rhai hynny brysur n y g li b do awel bach, tra D’s erbyn y Na l, dawe d n uC y a h th d e d y p ^ h r po ar y dio. Mae ed Swn yn y stiw ust, rwy’n clyw dinas. d if r b y nd rol yn o d ^ iawn ... o w fin cael rd e r g a liedig a g yl y l, w e g w is r d o g h drwg o ir d ntos bac albwm h Mae ‘na u gan griw o bla ’n ben-blwydd ae ha ei rhydd y gogledd, ac m yddus Cymru. ab as n in d d a d f if a r y b barti igs fw g n sgus am a e lf o o n o ig fod o! ar gan d gwrs ei yn yn d h th y r d w y . .. Onid Hanner Selar parti na yfle wmni Y n h w g e n m g t n y ag ian fio, ma n wr Huw ell adlon A pha w fi angho a i m n y ti r h a c b i ,a Pei? O ia i ennill tocynnau ch wedd. gwych i mis Tach m y s a-fonts a n e Steph ma’r fol- ips ar l, te o b â’i ad b i ddod tortillas Felly paw ig yn y popty, y o. Croeso i barti re els rholiau s Ar Plat yn y ste nid ar redeg y ac h, c d w rd fi w o b h y ac l Y Selar, hydrefo . dig mae are

8

^

^

GWYL SWN

OWAIN S

4

HANNER PEI

Golygydd

Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

Dylunydd

18

Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

MARCHNATA Ellen Davies (hysbysebion@yselar.com)

Cyfranwyr

16

PUMP PERL HUW STEPHENS

Barry Chips, Ian Cottrell, Lowri Johnston, Dewi Snelson, Aled Ifan, Hefin Jones, Leusa Fflur, Huw Stephens

y Selar RHIFYN 15 . HYDREF . 2008

Ariannir Y Selar gan grant gan y Cyngor Llyfrau Cenedlaethol. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd - Defnyddir iaith gref mewn mannau, a iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.

3


, T N A L P Y , D A T Y

N Ă‚ G Y D Y R B S AC Y

4

myspace.com/plantduw ?


cyfweliad: plantduw I-MELODIG TRWSIADUS

D PLANT DUW, Y BAND PYNC YD FYDD TEITL ALBWM NEWYD

Y CAPEL HYFR

E’R CANWR CONOR MARTIN YN SÔN AM O FANGOR. WRTH SÔN AM YR ALBWM, MA CERDDORIAETH... DDYLANWAD CREFYDD AR EU

FYSA NI’N FAND LOT MWY TYNN OS FYSA NI’N PRACDISHO

“Mae Y Nefoedd (y gân gyntaf ar yr albym) yn intro i fyd gwahanol, mwy hudol - y capel yma, sy’n lle prydferth.” Rhywle i ddianc iddo pan mae’r byd gwallgof yma’n mynd yn ormod - ryda ni gyd angan Capel Hyfryd i guddio ynddo o dro i dro. Ma’n rhyfadd meddwl bod Conor Martin, yr atheist o’r ddinas, yn medru teimlo’n agos at y Ffestinfeibion fu unwaith yn diolch i Dduw am eu bywydau llawn caledi yn y capel hwn. Ond dyna fo, ma’ Conor llawn sypreisus ...

NATHO NI DYFU FYNY MEWN CYMUNED SNOBYDDLYD DOSBARTH CANOL CYMRAEG

Ma’ isho mynadd efo Snobs Cymraeg sy’n meddwl bo nhw’n well na phawb arall, no? Yda ni gyd yn nabod nhw, que? – ‘Pobol Fawr Gachu’ sy’n smalio bo nhw’n dilyn ‘Y Llwybr Cyfiawn’. Ond go iawn, nhw ydi’r cynta’ i feirniadu a’r ola’ i fadda’. Ond ma’n dda cael ‘Y Rhagrithiwrs’ yma cofiwch - hebddyn nhw, fysa Conor Martin heb ffurfio Plant Duw: “Yn y dechra’ roedda ni’n cymryd y piss o grefydd,” meddai Conor am ddyddiau cynnar y band. “Roedda ni’n rebelio yn erbyn magwraeth Grefyddol. Natho ni dyfu fyny mewn cymuned snobyddlyd dosbarth canol Cymraeg, oedd ddim efo barn teg am ‘bobol is’ na nhw yn y gymdeithas. O ni’n arfar mynd i ysgol gynradd ym Mangor, ag oedd y bobol capal yma yn sefyll tu allan i’r ysgol ac yn gwrthod siarad efo mam sengl.” A sôn am sengl, roedd sengl gynta’r band, Talach Na’r Iesu, yn delio efo’r profiad o weld ‘Cristnogion honedig’ yn troi cefn ar y fam oedd wedi gwneud ‘rhywbeth ofnadwy’ - sef cael plentyn cyn priodi. Ar y gân mae Conor yn poeri’r geiriau “Dwi yn dalach na’r Iesu / Dio’m yn cyffwrdd fi” i’r meicroffon yn llawn angerdd – dyma foi sy’n gwrthod yr hen ffydd, ac yn chwilio am ei atebion ei hun. Wrth edrych yn ôl does gan Conor ddim byd da i’w ddweud am ‘Gristnogion trwynsur ei blentyndod’. Neith o synnu neb i glywad felly nad ydi canwr Plant Duw yn credu mewn Duw - “nath Ysgol Sul ddysgu fi i fod yn neis i bobol hen, ond dim byd arall!” Ond yn rhyfedd ddigon, mae Conor yn gallu gweld bod capeli’n arfer bod yn lefydd daionus oedd yn codi ysbryd pobol. Mae o’n llawn hiraeth wrth sôn am ‘oes aur y capeli’, pan fydda pobol yn byw bywyd symlach, yn gweithio’n galetach, ac yn codi capeli er mwyn cael cysur mewn gweddi a chân. “Roedd Cymru’n arfar bod yn le mor wahanol, lle roedd y bobol yn gweithio dan amodau ofnadwy,” meddai Conor, cyn mynd ymlaen i esbonio pam fod y band wedi cael tynnu eu lluniau yn sefyll yn adfeilion hen gapel.

“Gath y capel ei godi gan chwarelwyr oedd yn gweithio yn ardal Blaenau Ffestiniog. Gath o’i godi gan ddynion o Ynys Môn, oedd yn dod i chwarel Blaenau i weithio. Roedda nhw’n gorfod dal cwch am dri y bora, wedyn cerdded i’r chwarel a bod yna am w’snos heb eu teulu ... roedda nhw’n ffeindio cysur yn y capel.” Ond mae dyddiau syml y swpar chwaral a’r gwely cynnar wedi hen fynd. Ryda ni gyd yn pesgi ar floneg y byd modern, ac eto … ma’n eneidiau ni’n dadfeilio, no? Ac i lenwi’r bwlch, wele’r Angel Conor Martin efo copi o’r Capel Hyfryd dan ei adain, yn barod i borthi’r pum mil. Ma’ Conor yn gweld Y Capel Hyfryd fel cwch, a’r caneuon sydd ar yr albwm fel ‘emynau’ sy’n mynd ar siwrna’ yn y cwch. “Wrth edrych ar ddadfeilion y capal, nesh i feddwl am greu capel yn fy meddwl.

GEIRIAU: BARRY CHIPS LLUNIAU: GRUFF DAVIES

5


cyfweliad: plantduw RYWFAINT O HANAS PLANT DUW Hogia o Fangor ydynt oll, heblaw am Myfyr Prys y drymar. Yn y dechreuad, mi fydda’r P.D. yn jamio yn ystafell wydr rhieni Myfs yn Rhiwlas – pentra’ ar ochor mynydd, 6.9 milltir o Fangor. Erbyn hyn, ma’r band yn ymarfer yn sdafell wely Myfyr – a hynny ryw bedair neu bump gwaith y flwyddyn. Ond peidiwch â meddwl mai ryw shambyls ffwrdd-â-hi ydi perfformiadau byw Plant Duw – mae nhw wastad yn weledol ddiddorol ar lwyfan, ac yn rocio fel tasa’r byd yn dod i ben. “Fysa ni’n fand lot mwy tynn os fysa ni’n pracdisho,” meddai Conor Martin, “ond ma’r ffaith bod ni’n mess ar y llwyfan yn ychwanegu at y perfformiad.” I fod yn deg, mae Conor yn gweithio fel meddyg llawn amser, mewn ysbyty go iawn, ac mae aelodau eraill y band hefyd yn gwneud pethau eraill sy’ ‘chydig yn llai pwysig, ond eto’i gyd yn cyfyngu ar eu horiau hamddena. Hefyd, ma’ rhai o’r band yn byw ym Mangor a’r lleill yng Nghaerdydd. Felly rhwng popeth, ddyla ni faddau i’r P.D. am beidio â bod mor dynn â bandiau fwy graenus. Ma’n ddiddorol clywed Conor yn sôn am y profiad o chwarae’n fyw ar lwyfan – mae o’n gwneud i’r peth swnio fel profiad ysgytwol, ysbrydol ... bron â bod yn grefyddol. “Yn fyw, dwi ddim yn mwynhau gig s’na dwi’n mynd i mewn i fy mhen fy hun, ac yn chwara’n galad a chyflym ... dwi’n gallu teimlo fo’n cefn fy ngwddw. “Dwi’n licio sdompio ar y llwyfan, a gallu ffeindio rhywle tu fewn fy mhen a meddwl ‘ma hyn yn cool rwan’”. Ryda ni gyd wedi gweld Plant Duw yn mynd i’r zone mewn gig – mae nhw’n wirioneddol fel plant, yn gwenu ar ei gilydd wrth hyrddio’i cyrff yn wyllt. Ond doeddwn i heb sylwi i’r fath raddau fod yr aelodau’n mynd ar goll yn y miwsig, “Ar ôl dod oddi ar y llwyfan, mae bys Elidir (y basydd) wasdad yn diferu o waed, mae o’n sdrymio’n galad,” meddai Conor. “Ma Myfyr (drymar) yn tynnu ei top o ffwrdd am fod o’n drymio mor galad, a mae Rhys a fi yn sgathru ewinadd wrth sdrymio’n galad”. Ella mai ‘calad’ ydi’r chwarae, ond mae

6

llais a chymeriad Conor Martin yn addfwyn a thyner dros y ffôn. Mae’n canu clodydd ei frawd, y gitarydd Rhys Martin. “Ma’ Rhys lot mwy cerddorol na fi. Mae o’n guitarist amazing, yn medru improfeisho solos yn wych”. Wrth wrando ar Y Capel Hyfryd, un dylanwad amlwg ydi The Libertines. “Ma’ albym cynta’r Libertines (Up The Bracket) yn un o albyms gora fi erioed,” meddai Conor, “mae o llawn angerdd, yn rili sincere, roedda nhw’n meddwl be oedda nhw’n ganu.” Ac ma’r math yna o onestrwydd am deimladau personol yn britho Y Capel Hyfryd’. Ma llawer o’r caneuon yn delio efo cariad. “Y peth mwyaf mewn bywyd ydi ‘cael y ferch’,” meddai Conor, “cariad sy’n rhoi’r fwyaf o angerdd i fi, yn ysbrydoli fi.” Mae’r gân Corpora Cavernosa Blues yn sôn am y profiad o hiraethu am ferch, cael gafael ynddi a mynd ati i’w charu’n chwyslyd. [I’r rhai ohona chi oedd yn arfar cael napan yn y gwersi Beioleg – y ‘Corpora

Cavernosa’ ydi’r croen ‘lasdig yna sy’n chwyddo pan mae gwaed yn cael ei anfon o’r galon i’r bidlan] Ar Corpora Cavernosa Blues ma’ Conor i’w glywed yn brolio “paid â boddran cyfri’ faint o weithiau wyt ti’n dod!” – ond rhag i chi enethod ffein y genedl feddwl mai hysbyseb slei o’i ddawn cariadu sydd yma, mae’n rhaid i mi eich siomi drwy ddatgelu fod gan Conor gariad. Ond, mae Elidir Fasydd, Myfyr Ddrymar a Sion Corned a’u traed yn rhydd ac yn barod am anturiaethau cnawdol rif y gwlith. (Faswn i’n mynd am Elidir fy hun – ma’n edrach fatha Daniel Glyn ifanc, ond efo gwell jôcs) Ddyla chi gael gwybod fod hyfrydlais Kate Le Bon ar y trac Byw ar Gwmwl  - y gân hynaf ar yr albwm, a ddechreuodd ei bywyd fel cân offerynnol. Ond roedd Conor wastad yn teimlo fod angen llais dynas ar y trac. Fel nifer o ganeuon Plant Duw, mae Byw ar Gwmwl yn syml a gonest, yn llawn hiraeth am gael byw mewn lle heb dristwch na dicter na phobol.

Bydd albwm newydd Plant Duw, Y Capel Hyfryd, yn cael ei rhyddhau yn ystod mis Hydref ... neu cyn ‘dolig beth bynnag!


Y GOLOFN

WADD

gyda Hef in Ty Newydd

MES Y PRS Yn dilyn yr ymgyrchu diweddar yn erbyn lleihau’r taliadau i grwpiau Cymraeg o 90% mae’r PRS (dosbarthwyr yr arian darlledu a pherfformiadau cyhoeddus) wedi penderfynu cwtogi’r 80c y funud ar Radio Cymru i 47c y funud. Ia, ei leihau. Eu dadl yw bod Radio 1 er enghraifft, sy’n cael £20 y funud, yn cael cynifer yn fwy o wrandawyr na Radio Cymru. Sy’n amlwg yn wir. Fodd bynnag, 600,000 o bobl sy’n medru siarad Cymraeg yng Nghymru. Sy’n union 1% o boblogaeth Mighty Blighty gyfan. Wrth gwrs, petai popeth ar lefel deg a hafal a bod Radio1 yn cynrychioli Prydain oll, yna oni ddylai 1% o gerddoriaeth Radio1 fod yn stwff Cymraeg? Ond dydy o ddim wrth gwrs. Mi ddewisir cerddoriaeth Saesneg ei hiaith bob tro dros stwff Cymraeg am ddau reswm amlwg 1) Ni fyddai gwrandawyr Colin a Edith yn deall y geiriau 2) Nid ydi’r stwff Cymraeg yn cyrraedd y siartiau Prydeinig (sefyllfa hunangynhaliol oherwydd 1) Sy’n golygu fod rhesymeg a dull dadansoddi PRS yn un annheg oherwydd y duedd naturiol sydd gan y gorsafoedd mawr yn erbyn y cynnyrch Cymraeg. Mae’n bosib cofio dau achlysur lle glywyd geiriau Cymraeg yn siartiau Prydain, ac felly ar raglenni poblogaidd Radio 1, sef International Velvet , Catatonia a Patio Song, Gorkys - dwy gân gan grwpiau oedd wedi selio eu lle yn y sin Saesneg yn barod gyda chaneuon oedd oddeutu hanner Saesneg a Chymraeg. Heb waith John Peel ac yna Huw Stephens dyna fyddai’r unig achlysuron o gwbl dybiwn i. Y ddadl arall yw bod miwsig Cymraeg yn cael yr union sylw ma’n haeddu achos ei fod o’n ‘shit’. Dyma’r bobl sy’n ystyried bod eu barn ar y maes

yn ddilys ar ôl gwylio tri munud o Noson Lawen yn 1998 yn nhy^ modryb ond mewn gwirionedd yr un mor wybodus am sin Uruguay. Enghraifft o’r math yma ydi Iolo Williams, y cerddwr-gyflwynydd a ddatganodd yn ddisymwth ar Uned 5 yn 2004 bod miwsig Cymraeg yn dda i ddim, cyn nodi Coldplay a rhywun arall oedd wedi gwerthu deg miliwn dros y byd fel ei ffefrynnau. Gwelir llond ystafell o’r creaduriaid yma yn Cofi Roc bob penwythnos. Petai’r rhain ond yn ymestyn ar eu sgiliau beirniadu trylwyr wrth gymharu’r stwff Cymraeg i’r hyn sydd ar restr chwarae Chris Moyles. Wnawn nhw ddim trafeilio 2 filltir i weld The Gentle Good, Pwsi Meri Mew neu Y Rei ond eto’n ebychu mewn anghrediniaeth goeglyd ar unrhyw feirniadaeth o Kaiser Chiefs, The Zutons neu James Blunt. Iddyn nhw mae enwogrwydd yn cyfateb yn ddi-gwestiwn i werth. Gan nad oes ganddynt unrhyw dast beirniadol eu hunain mae’r fformiwla’n syml iddynt: Byd-enwog = da. Erioed yn y top 40 = sad Wrth adolygu’r flwyddyn ar sioe Huw Stephens ym mis Ionawr dywedodd Ian Cottrell fod albwm yn cyrraedd bob hyn a hyn sy’n dangos yn glir fod y cynnyrch Cymraeg yn medru sefyll ochr yn ochr â’r gorau sydd ar gael yn y byd. Roedd yn sôn am Penmon gan Lleuwen Steffan, ond mae’n wir am gymaint o albyms a setiau byw diweddar fel bod unrhyw feirniad call yn gweld fod cyfansoddwyr a pherfformwyr Cymraeg ar y foment yn gor-gyflawni, fel yr oedd hi hefo grwpiau dechrau’r 90au, a bod hyn ar draws yr ystod gerddorol, o Gwilym Morus i Derwyddon Dr Gonzo i MC Mabon. Ydi un Leona Lewis werth mwy na phob cerddor Cymraeg hefo’i gilydd? Ydy, yn ôl PRS.

Tanysgriffiiwch trwy ymuno a grw^p Y Selar ar facebook neu ebostiwch eich enw, cyfeiriad ac ebost i

hysbysebionyselar@googlemail.com

fel arall mae modd mynnu copi’n rhad ac am ddim o’ch siop Gymraeg leol.

www.myspace.com/yselar


UST ...^BE DI’R

SWN ‘NA?

^

^

MAE GWYL SWN YN CAEL EI CHYNNAL AM YR AIL FLWYDDYN YM MIS TACHWEDD. MAE’R ^ WYL YN WAHANOL IAWN I WYLIAU ERAILL CYMRU - YN UN PETH MAE’N CAEL EI CHYNNAL MEWN NIFER O LEOLIADAU GWAHANOL LEDLED CAERDYDD. YN BETH ARALL, DYDY HI DDIM YN CAEL EI CHYNNAL YN YSTOD YR HAF! FELLY, PENDERFYNODD Y SELAR HOLI’R TREFNYDD, ^ HUW STEPHENS YNGLY N Â’R ^ WYL ELENI, AC I DDARGANFOD ‘CHYDIG BACH MWY AM PAM EI FOD WEDI MYND ATI I SEFYDLU’R DIGWYDDIAD.

LLUNIAU: MISSIONPHOTOGRAPHIC.COM

8

yselar@live.co.uk

^ ^ Huw, ti’n trefnu Gw yl Sw n am yr ail dro eleni – ydy hyn yn arwydd o lwyddiant ^ yl y llynedd? yr w ^ ^ yl Sw n cynta yn lot Ydi. Roedd y Gw fawr o hwyl a sbri; llwythi o fandiau, celf, ffilmiau a phobl yn cal amser da yn y ddinas. Roedd rhaid i ni neud yr holl beth eto i gael cario’r momentwm wnaethon ni ddechre llynedd. Naethon ^ n cynta’, sy’n ni ddysgu dipyn o’r Sw ^ gneud Swn 08 dipyn bach yn haws i drefnu. Roedd yr adborth gaethon ni llynedd yn bositif iawn - pawb di mwynhau a pawb yn gweld fod e’n ^ syniad da neud gw yl o’r fath yng Nghaerdydd.

Ble gest ti’r ysgogiad i drefnu’r ^ yl, a pham dilyn y fformat yma? w Wyt ti wedi mwynhau’r math yma o ddigwyddiadau mewn rhannau eraill o’r byd? ^ yl Airwaves yn Reykjavik oedd Mynd i w y trobwynt. Mae prifddinas Gwlad yr Ia yn eitha bach, fel Caerdydd, ac ro’n ^ i’n gweld fod gw yl yn gallu digwydd mewn lle gweddol fach. Ddes i nôl a chael mynd i South by South West yn Texas, a mewn ffordd gweld y ddau ^ begwn o w yl mewn dinas. Ond yn ^ agosach at adre mae gw yl In the City ym Manceinion yn un enwog sydd yn gneud rhywbeth tebyg, er ma honna’n fwy i’r diwydiant cerddoriaeth yn ^ hytrach na ffans. Felly mae Sw n wedi

cael ysbrydoliaeth o wyliau eraill, ond gyda gymaint o fandiau Cymraeg yn chware drws nesa i rai o weddill y byd, mae’n un eitha unigryw. Faint o leoliadau sy’n cael eu ^ defnyddio eleni? Ydy’r w yl wedi tyfu ers y llynedd? Dyden ni ddim yn defnyddio prifysgol Caerdydd na Chapter eleni. Ond ni yn defnyddio mwy o lefydd yn y canol, fel Dempsey’s a Tafod. Mae rhain yn ogystal â’r Point, Clwb Ifor Bach (bydd arddangosfa o 25 mlynedd o Clwb yn ^ n), Buffalo, Barfly, Ten Feet ystod Sw Tall, Dirty Sue’s (yr hen Europa), The Gate, Tommy’s Bar a Revoltion. Am y tro cynta mewn 20 mlynedd, ni’n


defnyddio theatr y Reardon Smith yn Amgueddfa Cenedlaethol Cymru. Felly fydd hwna’n eitha arbennig gyda gigs gan Young Marble Giants (un o hoff fandiau Kurt Cobain) ac Euros Childs. Mae mwy o fandiau yn chware eleni na llynedd, a mwy o Gymru hefyd. Oes yna lot o bobl yn dy helpu gyda’r trefniadau? Fyddi di’n cael cyfle i fwynhau a gwylio’r bandiau o gwbl, neu fyddi di’n rhy brysur yn rhedeg ^ r fod popeth rownd yn gwneud yn siw yn mynd yn iawn? Fi a John Rostron, sy’n rhedeg label My Kung Fu, yw’r prif drefnwyr. Ni sy’n bwcio’r bands a trio sortio pethe allan ^ yl, ond ma lot o yn y misoedd cyn yr w bobl yn helpu gydag anfon contracts i’r bandie ag yn y blaen. Yn ystod yr ^ w yl llynedd naethon ni yrru rownd y lle yn gweld dipyn o fandie, rhyw un cân fan hyn fan draw, a sortio pethe allan wrth i ni fynd o gwmpas.

artistiaid yn chware felly fi wir ddim yn gwbod lle i ddechre!

^ yl? Beth fydd uchafbwyntiau’r w

Bydd Young Marble Giants, sydd o Gaerdydd ac yn cael eu cyfri fel arwyr post punk, yn gig arbennig. Bydd Euros Childs yn gig a hanner yn yr amgueddfa. Mae’r noson drwm a bas gyda High Contrast (o Benarth) yn mynd i fod yn un mawr, a Futre of the Left o Gaerdydd yn Clwb ar y nos Sul. Ond mae gymaint o fandiau gwych yn chware fi ddim yn gwbod lle i ddechre. Bydd y noson electronica gyda Seindorff a PSI a’r criw yn un da, a’r gig dydd yn Glo Bar gyda Wrightoid a Gwyneth Glyn a’r lleill yn un da fyd ^ r. Mae dros 150 o fandie, dj’s a dwi’n siw

Lle all pobl gael mwy o wybodaeth a phrynu tocynnau? Mae’r tocynnau ar gael o www. sebon.co.uk, a ma www.swnfest.com, ^ n myspace.com/swnfest a facebook Sw yn llawn gwybodaeth. Bydd rhaglen yn rhad ac am ddim gyda’r amseroedd i gyd ar gael ryw bythefnos cyn yr ^ w yl. Mae mwy o gelf a seminarau a digwyddiadau eraill yn digwydd eleni hefyd, felly lot i’w weld a’i glywed! Diolch yn fawr am dy amser Huw, a phob lwc gyda’r trefniadau.

CYSTADLEUAETH ^ ^ Mae Gw yl Sw n 08 yn digwydd ar Dachwedd 14, 15 a 16 ac mae’r trefnydd neis, Huw Stephens, wedi cynnig pâr o docynnau penwythnos sy’n werth dros £90 fel gwobr i chi ddarllenwyr Y Selar ... os allwch chi ateb cwestiwn syml iawn:

MAE’R GENOD DROOG YN^ GNEUD EU GIG OLA YN SWN, A’R DIWYGIAD YN LAWNSIO EU ALBYM. BETH YW ENW’R DDAU RAPIWR SYDD YN Y DDAU FAND? Anfonwch eich atebion, ynghyd â’ch enw a chyfeiriad at yselar@live.co.uk erbyn 4ydd Tachwedd 2008.

9


DAU I’W DILYN

I GADW GOLWG ARNYN NHW CH I ND FA U DA LL ME GY AR YR Y SELAR YN UNWAITH ETO, MAE ARBENIGW DAU FAND Y DAETH O YN FLW CY ’N SY LL RE TT CO Y RHIFYN YMA, IAN YN Y DYFODOL AGOS. YN BANDIAU MAES B 2007 Y DR WY BR TH AE LEU AD ST HY NG AR EU TRAWS YN GYNTAF YNG

CREISION HUD Pwy: Creision Hud yw Rhydian Lewis, Ifan Williams, Sion Llwyd a’i frawd Cai Llwyd. Mae’r aelodau i gyd yn gyn-ddisgyblion Ysgol Syr Huw Owen, Caernarfon (heblaw am Cai sydd yn dal yno) ac maen nhw wedi ffurfio ers ^ 2006. Daw enw’r grw p o lyfr Mihangel Morgan. Ifan nath ddarllen y llyfr ar ôl ei fenthyg o lyfrgell yr ysgol. Dio dal heb ddychwelyd y llyfr. Mae’r ‘fine’ i hwnna yn mynd i fod yn enfawr.

^ n: Dim byd tebyg i sut oedden Y Sw nhw ddeunaw mis yn ôl.

Hyd yn hyn: Creision Hud enillodd Brwydr y Bandiau Maes B 2007 ac ers hynny maen nhw wedi recordio sesiwn i C2, gafodd ei darlledu ym mis Gorffennaf 2008 yn cynnwys y caneuon Ffyrdd Gwyrdd, Amser a Taw. Fel rhan o’u gwobr maen nhw hefyd wedi ymddangos ar ‘bandstand Bandit’ ac wedi gwario eu gwobr ariannol ar gitâr newydd i Ifan ac allweddellau i Sion, sydd i’w clywed

www.myspace.com/creisionhud  

Y PROMATICS Pwy: Y Promatics yw Daniel Williams, Rhys Roberts, Shon Thomas a Dafydd Foxhall. Ffurfiwyd y band yn 2006 yn Nyffryn Nantlle a dechreuon nhw gigio yn ystod haf 2007 cyn mynd ymlaen i gystadlu yng nghystadlaethau Brwydr y Bandiau C2/Mentrau Iaith a Maes B yn 2007. Nathon nhw ddim ennill yn anffodus, ond nath Yr Ods ddim ennill chwaith a ‘drychwch ble maen nhw nawr. ^ n: Er bod gan y 4 aelod chwaeth Y Sw gwahanol mewn cerddoriaeth mae gan ^ Y Promatics sw n cyfarwydd sy’n cyfuno elfennau o gerddoriaeth electroneg i mewn i’r steil draddodiadol o’r band roc arferol. Yr enghraifft amlycaf o hyn yw’r defnydd o allweddellau yn eu caneuon, sy’n cael eu chwarae gan Rhys. Mae’r allweddellau wedi cael ^ eu cyflwyno’n raddol i sw n y band ac yn cael eu defnyddio yn effeithiol i ychwanegu ochr mwy dawnsiadwy ac oeraidd i’r caneuon.

10

yselar@live.co.uk

ar ganeuon sesiwn C2. Ym mis Medi ymddangosodd dwy gân newydd arall ar raglen ‘Stiwdio Huw Stephens’ ar Radio Cymru sef Dianc a Tynnu. Maen nhw’n hoffi teitlau byr, yn dydyn? Cynlluniau: Ers yr haf mae’r band wedi bod yn recordio gyda Rich Roberts(Gola Ola) yn Stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth. Roedd Rich yn hoffi eu stwff nhw gymaint nath o arwyddo’r band i’w label o sef Bluprint a bydd albwm allan erbyn Nadolig. Ond cyn hwnna, bydd sengl ar label Ciwdod sy’n cynnwys y caneuon Ffyrdd Gwyrdd a Dianc. Sion o’r band


COLOFN LISA GWILYM

NHW OEDD Y GENOD DROOG!

sydd wedi gwneud y gwaith celf i’r clawr hefyd. Yn groes i be’ fysech chi’n disgwyl, mae Sion yn mynd i astudio Pensaernïaeth ac nid Celf yn y Brifysgol. Efallai dylai’r sengl ddod mewn clawr siâp ty^ neu rywbeth. Byse hwnna’n dda.

GWRANDWCH ARNYN NHW OS YDYCH CHI’N LICIO: Arctic Monkeys, Klaxons, Ffa Coffi Pawb.

myspace.com/thepromatics Hyd yn hyn: Daeth rhan fwyaf o bobl ar draws y Promatics yn sgil eu perfformiad o Commeo ar ‘bandstand Bandit’ yng Ngwanwyn 2007, gafodd ei ddilyn gan y caneuon byw Skin a Seisnigeiddio ar y rhaglen fis Hydref diwetha’. Mae dau drac newydd wedi cael eu chwarae ar ‘Stiwdio Huw Stephens’ ar Radio Cymru yn ddiweddar sef Glass a Soho. Efallai eich bod chi hefyd wedi eu gweld yn perfformio trac Gruff Rhys Gyrru, Gyrru, Gyrru ar Uned 5 ym mis Awst eleni. O, ac mae Bethan Elfyn ar Radio 1 a Magi Dodd ar C2 hefyd yn ffans mawr o’r band.

Cynlluniau: Ar hyn o bryd mae’r band yn recordio tair cân newydd ar gyfer Sesiwn C2 fydd yn cael eu darlledu ar ddiwedd 2008. Er nad yw’r band yn gigio gymaint â bysen nhw’n hoffi, byddan nhw’n chwarae yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar Hydref 25ain gyda Derwyddon Dr Gonzo, Yr Ods a DJ Ian Cottrell.

Ro’n i ddigon lwcus i weld un o gigs cynta’ erioed y Genod Droog, yn noson Gwobrau RAP Radio Cymru 2006. Ers hynny, dwi di bod yn ffan o’u cerddoriaeth, ac hefyd ‘di sgwrsio lot a chwerthin yng nghwmni Carwyn, Dyl, Ed, Geth, a Nei! Felly, mi oedd gen i deimlade eitha cymysg pan nes i glywed fod y Genod Droog yn dod i ben, hefo’r gig ola yng ^ ^ yl Sw n mis Tachwedd Ngw (tocynnau o sebon.co.uk) Mae’n hawdd i ni anghofio gymaint o hwyl a chyffro ma nhw ‘di dod i’r sîn yn y ddwy flynedd a hanner ddwetha. A mae’n hawdd hefyd i ni gym’ryd yn ganiataol y sioeau, y ^ n, a’r egni ma nhw ‘di sw dod i’r holl gigs a gwylie gwahanol. Un peth sy’n sicr, ma’ nhw di codi safon perfformio byw yng Nghymru, ac hefyd di pwysleisio’r ffaith mai nid jyst y gerddoriaeth sy’n bwysig wrth chware’n fyw, ond hefyd y berthynas efo’r gynulleidfa. Mi oedde nhw bob tro’n llwyddo i greu awyrgylch drydanol, ac yn amlwg yn cael pleser pur o ddiddanu’r dorf. ^ Mae’n siw r bod llawer o bobol yn meddwl am y Genod Droog fel jyst ^ grw p ‘hwyliog’ byw. Ond mi oedde nhw’n lot mwy na hynny. Y Genod Droog ^ oedd y grw p cynta i ddod â hip-hop i’r ‘mainstream’

yng Nghymru. Cyn i’r Genod Droog ddechre, mi fydde wedi bod yn anodd iawn dychmygu ^ grw p hip-hop Cymraeg yn cloi Sesiwn Fawr ar y nos Sadwrn, ac yn cael eu chware yn ystod y dydd ar Radio Cymru. Mi ddaeth y Genod Droog a rapio Cymraeg at lot o glustie newydd. ^ yr beth fydd lle y Pwy a w Genod Droog yn hanes y Sin Roc Gymraeg? Ond, ar ôl nifer o gigs anhygoel, a dim ond un albym ‘hir-ddisgwyliedig’ wych, mi fydda i’n cofio’r Genod Droog efo gwên fawr ar fy wyneb!

Mi fydd Geth a Carwyn dal yn perfformio hefo Yucatan, Ed a Nei yn rhyddhau albym yn fuan iawn hefo’r Diwygiad, ac ma gan Dyl Mei bob math o brosiecte eraill i’w gadw’n hapus! Dwi’n edrych ‘mlaen at glywed be wnawn nhw nesa. Yng ngeiriau John Lennon am y Beatles – “does na neb isho bod yr un sy’n deud fod y parti drosodd.” Yn anffodus, mae’r parti drosodd, felly y cyfan sydd ar ôl i ddeud, ‘di diolch yn fawr iawn, a pharch i’r Genod Droog! Gellir clywed Lisa Gwilym am 10pm bob nos Iau a nos Wener ar C2 Radio Cymru.

GWRANDWCH ARNYN NHW OS YDYCH CHI’N LICIO: Bloc Party, Editors, Ashokan

11


rad cym ad crowd 138x190 c2 prinPage 1

29/4/08

15:43:58

Calon Cerddoriaeth Cymru

C

M

Y

CM

MY

CY

CMY

K

Llun - Gwener 8pm bbc.co.uk/c2 hysbys 273 y selar:273

18/4/08

16:58

Page 1

• Copiau o’n prospectws newydd a manylion cyrsiau ar gael ar gyfer mynediad yn 2009 • Dewis helaeth o gyrsiau, gyda mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru • Sicrwydd llety i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf, gyda’r dewis yn cynnwys neuadd Gymraeg sy’n gartref i fyfyrwyr o bob cwr o Gymru • Bywyd cymdeithasol sy’n fywiog ac yn wirioneddol gyfeillgar • Costau byw isel a chefnogaeth ariannol sy’n cynnwys Ysgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethau newydd yn ogystal a bwrsari o £500 i’r rhai sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. MAE’R CYRSIAU A GYNIGIR YN CYNNWYS: Addysg; Astudiaethau Crefyddol; Astudiaethau Plentyndod; Astudiaethau Theatr a’r Cyfryngau; Amaethyddiaeth a Choedwigaeth; Busnes; Cyfrifeg; Bioleg Môr; Cemeg; Cerddoriaeth; Cyfathrebu a’r Cyfryngau; Cyfrifiadureg; Cymdeithaseg; Cymraeg (Iaith a Llenyddiaeth); Daearyddiaeth; Dylunio a Thechnoleg; Dysgu Cynradd; Gwaith Cymdeithasol; Gweinyddu Busnes a Chymdeithasol; Gwyddorau’r Amgylchedd; Gwyddorau Biolegol; Gwyddor Chwaraeon; Hanes a Hanes Cymru; Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Ieithoedd Modern; Marchnata; Nyrsio; Newyddiaduraeth; Polisi Cymdeithasol; Peirianneg Electronig; Saesneg; Seicoleg; Twristiaeth;Y Gyfraith; Y Gyfraith a’r Gymraeg; Ysgrifennu Creadigol.

Ffôn: 01248 382005/383561•e-bost: marchnata@bangor.ac.uk

12

www.bangor.ac.uk


PEN-BLWYDD HAPUS

or bach clwb ififo Does dim amheuaeth mai Clwb Ifor Bach yw un o’r canolfannau gigs Cymraeg amlycaf a mwyaf poblogaidd yn y wlad. Eleni, mae ‘Clwb’ yn dathlu ei ben-blwydd yn 25 oed. Felly, penderfynodd Y Selar gael sgwrs gyda Guto Brychan, fu’n gweithio yno am ddeng mlynedd rhwng 1994 a 2004, ac sydd erbyn hyn yn ôl yn gweithio’n llawrydd yng Nghlwb Ifor ers llynedd. Pan sefydlwyd Clwb Ifor Bach 25 mlynedd yn ôl, y weledigaeth oedd creu canolfan i Gymry Cymraeg Caerdydd, ble roedd modd iddynt gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ôl Guto Brychan, mae’r weledigaeth honno’n dal i fod yn bwysig ond wedi esblygu rhywfaint, “ma’r weledigaeth wreiddiol yn dal yn rhan annatod o feddylfryd y clwb, ond o ganlyniad i wahanol ffactorau - megis lleoliad yr adeilad, cynnydd yn y nifer y llefydd eraill sy’n darparu gweithgareddau Cymraeg yng Nghaerdydd ag ati - ma’r pwyslais bellach ar ddarparu adloniant i Gymry ifanc, boed hynny mewn gigs neu nosweithiau DJ’s, lle mae modd cymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.” Yn sicr mae Clwb Ifor yn lleoliad eiconig i Gymry Cymraeg sy’n byw yn y ddinas, a rhai sy’n ymweld â’r brifddinas, a does dim amheuaeth mai fel lleoliad gigs byw a DJ’s mae’n cael ei adnabod orau. Does yr un ganolfan yn cymharu o ran cynnal cynifer o gigs Cymraeg â Chlwb Ifor Bach. “Da ni’n ceisio gwneud o leiaf 2 gig y mis ar gyfartaledd efo bandiau Cymraeg. Yn amlwg pan ma’r myfyrwyr yn y ddinas yna ma fwy o gynulleidfa ac yn aml ma’ ‘na 3 neu 4 gig y mis. Gigs penodol Cymraeg ei naws di rhain ond ma nifer o fandiau Cymraeg hefyd yn chware mewn gigs sy’n cael eu trefnu gan hyrwyddwyr allanol yn y clwb.” Mae Guto’n amcangyfrif fod y ganolfan yn rhoi llwyfan i tua 100 o fandiau Cymraeg eu hiaith bob blwyddyn, sy’n ffigwr cwbl ryfeddol. Ond, mae’n ymddangos fod y ffigwr hwn yn debyg o gynyddu eto, gyda chynlluniau i sefydlu noson “... mwy acwstig / lo-fi yn y flwyddyn newydd’”.

Nid dim ond bandiau Cymraeg eu hiaith sy’n perfformio yn ‘Clwb’ cofiwch. Mae wedi rhoi llwyfan i nifer fawr o fandiau rhyngwladol sydd wedi creu enw i’w hunain yn y siartiau Eingl – Americanaidd. Mae’r ganolfan yn brolio enwau fel The Strokes, Coldplay, The Killers, Pavement, Stereophonics, Catatonia, Super Furry Animals, Duffy, Ting Tings, Damien Rice, Kasabian a Groove Armada ymysg y miloedd o fandiau sydd wedi perfformio yno. ^ r mae job gymharol hawdd Mae’n siw ydy denu cynulleidfaoedd i enwau fel y rhai uchod, ond pa mor anodd ydy hi i ddenu torf i wylio bandiau Cymraeg? Efallai y byddai canolfannau eraill ledled y wlad yn dadlau bod hi’n llawer haws i gigs Cymraeg dalu eu ffordd mewn ardal mor boblog? “Ar y cyfan ma’r gigs yn talu am eu hunain - ma rhaid iddynt. Di Clwb Ifor ddim yn derbyn unrhyw nawdd o gwbl felly ma angen i’r hyn da ni’n ei gynnal dalu ffordd. O ran denu cynulleidfa - mae’n dibynnu pwy sy’n chware fel arfer, ond mae’n debyg ein bod yn cael hi’n haws na rhan fwyaf o hyrwyddwyr i ddenu cynulleidfa oherwydd statws y clwb fel canolfan cerddoriaeth byw a’i leoliad.” Felly ar ôl bod yn rhan o fwrlwm gigs Clwb Ifor cyhyd, sut mae Guto Brychan yn teimlo am safon y sin ar hyn o bryd o’i gymharu â’r dyddiau a fu? “Ar y cyfan ma natur a safon y gigs wedi bod yn reit gyson dros y degawd diwethaf. Y prif newid efallai mai dim ond cynulleidfa Gymraeg oedd gigs Cymraeg yn eu denu, ond erbyn hyn ma na fwy o ddiddordeb mewn artistiaid Cymraeg ymysg pobl sy’n mwynhau mynd i gigs, boed hwy’n siarad Cymraeg neu beidio.” Mae’n amlwg fod Clwb Ifor Bach wedi bod yn rhan hollbwysig o’r sin gerddoriaeth Gymraeg dros y 25 mlynedd diwethaf, a bydded i hynny barhau. Mae’n addas iawn fod y clwb wedi chwarae rhan ym mwrlwm yr Eisteddfod Genedlaethol yn y brifddinas, gyda Chymdeithas yr Iaith yn cynnal eu gigs yno. Gydag adnoddau sain a goleuon proffesiynol a thechnegwyr a staff effeithiol,

Ffeil-o-Ff

aith Clwb Ifor Bach

Capasiti: 200 (llawr top) Offer Tec hnegol: Sy stem sain goleuo a , thechnegw yr mewnol . Gigs ar y Gweill: Hydref 11 – Eitha Ta l Ffranco Nos Sadwr , n Bach, Cr eision Hu Hydref 18 d - Cowbois Rhos Botwnnog , Jen Jenir o Hydref 25 – Derwydd on Dr Gonzo, Yr Ods, Y Pro matics, DJ Ian Cottr ell Mwy o fan ylion: ww w.clwb.net

mae hefyd yn ddewis amlwg fel un ^ ^ yl Sw n. Does dim o leoliadau Gw amheuaeth y byddai hyrwyddwyr a bandiau Cymru’n llawer tlotach heb Clwb Ifor Bach, ond beth ydy’r amcanion ar gyfer y dyfodol? Mae’r ateb yn syml iawn yn ôl Guto, “Cario mlaen i gynnig digwyddiadau gwych o safon, ac ella côt o baent i’r adeilad!”

13


Canolfannau Cerddoriaeth Gymraeg DOES ‘NA’M DADL - CLWB IFOR BACH SY’N ARWAIN Y FFORDD O RAN CANOLFANNAU SY’N CYNNIG LLWYFAN I FANDIAU CYMRAEG. OND PA LEOLIADAU ERAILL SY’N CYNNAL GIGS CYMRAEG CYSON LEDLED Y WLAD? DYMA RYFF-GEID CANOLFANNAU CERDDORIAETH GYMRAEG Y SELAR I CHI SY’N CHWILIO AM GIG YN EICH ARDAL CHI, NEU SY’N FFANSIO TRIO HYRWYDDO GIGS EICH HUNAIN:

PORTHMADOG Clwb Chwaraeon Porthmadog Capasiti: Rhwng 250 a 300 Sain a goleuo: Dim system sain a goleuo mewnol, ond mae yna bobl leol a all ei darparu am bris rhesymol. Faint o gigs Cymraeg: Does yna ddim byd rheolaidd, ond mae ‘na gigs Cymraeg yno pob 2-3 mis. Pwy sy’n trefnu/hyrwyddo: Mae Cymdeithas yr Iaith, Maes-B a Slacyr wedi cynnal gigs yno’n ddiweddar. Gigs ar y gweill: Rhagfyr 26 - Derwyddon Dr Gonzo Mwy o fanylion: Gwyn Griffiths – 01766 512 055 / clwbmadog@deudraeth.net

BANGOR

Mae sawl canolfan wedi cynnal gigs Cymraeg ym Mangor, yn cynnwys y Greek Taverna, Clwb y Rheilffordd a’r Undeb, ond efallai taw Hendre Hall, ychydig y tu allan i’r ddinas yw’r gorau:

Hendre Hall

o’r Capasiti: 500 gan ddefnyddi mwy yn tip ond g, uni yn n few tu an. all tu ’ ard wrth agor y ‘courty nol few tem sys Dim : euo Sain a gol barhaol, ond yn gallu trefnu yn llogi system a thechnegydd rhwydd. Faint o gigs Cymraeg: Dim byd g, rheolaidd o ran gigs Cymrae ’n byw u dia ond mae ‘na fan chwarae yno’n wythnosol a g yn bandiau Cymraeg yn eu mys aml. Pwy sy’n trefnu/hyrwyddo: Yn o bennaf hyrwyddwyr allanol ran y gigs Cymraeg. Gigs ar y Gweill: s Hydref 24 – ‘Oxjam’ yn cynnwy g rae Cym aid nifer o artisti Mwy o fanylion: www.hendrehall.com

14

yselar@live.co.uk

CAERNARFON

Fel Bangor, mae ‘na nifer o ganolfannau sy’n cynnal gigs Cymraeg yn gyson megis Cofi Roc a’r Galeri. Yr Anglesey Arms sydd wedi bod yn cynnal nosweithiau Cymraeg yn fwyaf cyson yn y misoedd diwethaf:

Anglesey Arms

Capasiti: 150 tu fewn, ond mwy os ydy hi’n braf a bod modd cynnal y gig tu allan! Sain a goleuo: Dim byd mewnol, ond hawdd trefnu rhywbeth. Sesiynau acwstig maen nhw’n eu cynnal yn bennaf. Faint o gigs Cymraeg: Gig bob nos Wener, gan amlaf gyda band Cymraeg. Pwy sy’n trefnu/ hyrwyddo: Trefnu’n fewnol Gigs ar y gweill: Hydref 17 – Yucatan Hydref 24 – Calansho Hydref 31 – Banda Bacana Mwy o fanylion: mel.jones@ theangleseyarms.co.uk


PEN LLYN

Mae Tafarn y Fic, Llithfaen yn brysur o ran adloniant Cymraeg, ond Ty^ Newydd, Sarn sydd fwyaf adnabyddus fel lleoliad gigs:

Ty Newydd, Sarn ^

Capasiti: 125 Sain a goleuo: System sain fewnol a goleuo syml. Faint o gigs Cymraeg: Mae oddeutu 3 y mis ar gyfartaledd. Cymysgedd o rai mawr a rhai acwstig cynnes. Pwy sy’n trefnu/hyrwyddo: Hefin, y rheolwr (a chyfrannwr cyson i’r Selar) sy’n trefnu’r rhan helaeth, ond weithiau mae trefnwyr allanol yn cynnal gig fel rhan o achlysur. Gigs ar y gweill: Hefin - ‘heb drefnu dim i’r hydref yn iawn eto.’ (Gol - wedi bod yn rhy brysur yn sgwennu stwff i’r Selar ma’n rhaid) Mwy o fanylion: www.myspace.com/tynewyddsarn

DOLGELLAU Ty Siamas ^

Capasiti: Mae’r Awditoriwm perfformio’n dal 86 o bobl. Sain a goleuo: System oleuo ‘elfennol’, sy’n ddigonol ar gyfer y gigs lled-acwstig a gynhelir yn Nhy^ Siamas. Mae system sain lawn, ac mae modd recordio yn y stiwdio hefyd. Faint o gigs Cymraeg: Mae lleiafswm o 12 gig Cymraeg yn flynyddol, a gigs gyda bandiau eraill o ledled y byd hefyd. Mae yna hefyd sesiynau jamio; meic agored; a sesiynau yn y bar. Pwy sy’n trefnu/hyrwyddo: Mae cyfres o gigs/cyngherddau’n cael eu trefnu’n fewnol, 9 mis ymlaen llaw. Mae hefyd modd i hyrwyddwyr annibynnol logi’r ganolfan. Gigs ar y gweill: Hydref 17 – Dafydd Iwan a’r Band (wedi gwerthu allan) Hydref 22 – Sesiwn Ioan Rhagfyr (sesiwn jamio gwerin) Tachwedd 7 – Caryl Parry Jones Mwy o fanylion: www.tysiamas.com

CAERDYDD

Mae gormod o ddewis a dweud y gwir. Clwb Ifor ydy’r amlycaf o bell ffordd, ond mae Tafod, The Point a Dempseys oll wedi cynnal gigs Cymraeg. Mae Buffalo Bar wedi bod ymhlith y prysuraf yn ddiweddar:

Buffalo Bar

ABERTAWE

Cwpl o ‘blant newydd ar y bloc’ yn ddiweddar, yn enwedig Tafarn y Gwachel, gerllaw ym Mhontardawe, a hefyd Milkwood Jam yn y ddinas sy’n ganolfan arbennig o dda yn ôl y sôn. Dros y blynyddoedd diwethaf, Ty^ Tawe sydd wedi bod yn bennaf gyfrifol am ddenu bandiau Cymraeg i’r ddinas:

Ty Tawe ^

Capasiti: 120 Sain a goleuo: System sain fewnol, ond dim system oleuo. Faint o gigs Cymraeg: Gig Cymraeg fel arfer ar nos Wener olaf bob mis, yn ogystal â sesiynau gwerin ar drydedd nos Wener bob mis. Pwy sy’n trefnu/hyrwyddo: Menter Iaith Abertawe sy’n trefnu’r gigs fel arfer, ond mae croeso i hyrwyddwyr annibynnol. Gigs ar y gweill: ^ Hydref 11 – Gwyneth Glyn (rhan o Wyl Tyrfe Tawe www.tyrfe-tawe.com) Mwy o fanylion: menter@ menterabertawe.org / 01792 460 906

120, ond Capasiti: Fyny grisiau - tua afell yst yr oherwydd siâp rhyfedd ym n yfa llw y ld does dim modd gwe mhob rhan. n fewnol Sain a Goleuo: Mae System Sai n o’r rha yn dod a thechnegydd sy’n goleuo’n i’i wed ll afe yst ffi llogi. Ma’r u, nia neis, a ma modd taflunio llu in ar sgr y ar gwaith celf neu fideos n. gefn y llwyfa eth Faint o gigs Cymraeg: Mi wna ‘stafell fyw gynnal saith gig oedd oedd dwyieithog yna’n ystod y mis rdydd, Cae d dfo Sted at y fyn yn arwain fnu dre i ond does dim cynlluniau ki wedi rhagor ar hyn o bryd. Mae Pes l, ac fe nno ffe gor y ’n yno s cynnal gig o’r bar fel wnaeth Gw^ yl Sw^ n ddefnyddi d. ned un o’u lleoliadau lly gan Pwy sy’n trefnu/hyrwyddo: Ma idd, ola rhe au thi wei nos rai o Buffal nnol iby ann dwr ond ar y cyfan hyrwyd . yna sy’n trefnu stwff Gigs ar y gweill: bod Dim gigs Cymraeg da ni’n gwy ^n Sw yl ^ Gw d byd amdanyn nhw, ond o’i un fel an olf gan ’r yn defnyddio yg. teb pob ôl yn u ada lleoli Mwy o fanylion: lobar www.myspace.com/wearebuffa

15


YM MHOB RHIFYN BYDD Y SELAR YN BUSNESA YNG NGHASGLIAD CDS RHAI O BOBL DDYLANWADOL Y SIN GERDDORIAETH GYMRAEG I WELD PA ALBYMS SYDD WEDI DYLANWADU ARNYN NHW. YN Y RHIFYN HWN, CYFLWYNYDD RADIO CYMRU A RADIO 1, TREFNYDD GWYL SWN, A BOI NEIS CYFFREDINOL, HUW STEPHENS, SY’N DEWIS EI BUMP PERL AC YN EGLURO PAM EI FOD MOR HOFF OHONYN NHW: ^

^

pump perl ...

Huw

STEPHENS HELO. YN DYDI CERDDORIAETH YN BETH BRAF? DYMA FY MHUMP PERL. DYDYN NHW DDIM MEWN UNRHYW DREFN PENODOL COFIWCH … ACHOS FYSE HYNNY JYST DDIM YN DEG. JOHNNY CASH - AMERICAN RECORDINGS Roeddwn i wedi clywed rhai o ganeuon Cash ar recordiau yn nhy^ Mam a Dad, ac yn cofio canu i Walk the Line. Cyn i Cash farw aeth e mewn i’r stiwdio i recordio gyda’r cynhyrchydd Rick Rubin a recordio caneuon gwreiddiol a fersiynau o ganeuon pobl eraill, fel Hurt gan y Nine Inch Nails. Ro’n i’n ffeindio’r caneuon yn drist, roedd y dyn ar fin marw, ond yn hynod o brydferth ag amrwd. Un dyn, oedd wedi byw bywyd digon cyffrous, ac un gitâr. Dim

16

yselar@live.co.uk

byd arall, dim cerddorfa yn ymuno yn y gytgan, dim gormod o gynhyrchu yn amharu ar y caneuon. Mae’r pump albwm iddo ryddhau, ac un ar ôl iddo farw, yn hynod o bersonol a gwych.

TYSTION - RHAID I RYWBETH DDIGWYDD Mae’r albwm yma gan y Tystion yn ddeg mlwydd oed bellach. Ydy hyn yn neud fi deimlo’n hy^n nag o’n i bore ma? Ydy, ond mae’n dangos hefyd fod hip hop Cymraeg wedi palu mlaen eitha tipyn ers i Steffan Cravos a Gruff Meredith benderfynu cychwyn band hip hop yng Nghaerfyrddin. Hwn oedd yr albwm hip hop cyntaf i fi glywed yn ei chyfanrwydd, cyn Beastie Boys neu Public Enemy neu unrhyw un tebyg. Nath e chwythu fy mhen achos yr egni, yr agwedd a’r geiriau oedd yn fanwl, yn brydferth, yn onest ac yn


BRUCE SPRINGSTEEN - NEBRASKA Nôl at yr un arddull â Johnny Cash - un dyn a un gitâr. Dyma ichi albwm hynod o drist, a gwahanol i bopeth arall ma Springsteen wedi recordio. S’dim anthemau ar hon. Dwi’n gwrando arno fo bron iawn bob nos cyn mynd i’r gwely, ac mae fel arfer ar gael mewn siopau ail law am ryw ddwy bunt. Mae gen i rhyw dri copi. Nath e recordio’r albwm adre ar 4-trac cyn mynd i’r stiwdio i’w recordio gyda’r band, ond naethon nhw benderfynu fod y fersiwn gwreiddiol yn well na’r fersiwn gyda band. Dyna pam ei fod yn albwm mor dda. Digwydd bod, mi nath Cash recordio cwpl o’r caneuon oddi ar yr albwm yma ar un o’i albyms e hefyd. Gwych iawn.

NATH E CHWYTHU FY MHEN ACHOS YR EGNI, YR AGWEDD A’R GEIRIAU ...

rapio am bethe fel cael dim byd i fwyta yn y cwpwrdd heblaw am halen. Mae gymaint o hip hop yn ffug, ond roedd hwn yn swnio’n wefreiddiol. Mae angen i’r albwm yma gael ei wasgu eto achos mae siawns eitha da bod chi heb ei chlywed hi. Ers Y Tystion? Mae Cofi Bach a Tew Shady, Diwygiad, Pep le Pew, Saizmundio, Rufus Mufassa, Tom C, Hoax a Dybl L wedi cario’r faner hip hop Cymraeg yn uchel.

GORKY’S ZYGOTIC MYNCI – BARAFUNDLE Allen i wedi dewis bob un o albyms y Gorky’s - mae nhw gyd yn cynnig rhywbeth gwahanol a gwych. Roedd, Patio, yr albwm gynta yn gasgliad o sesiynau naethon nhw recordio i raglenni fel un Nia Melville ar Radio Cymru, a rhaglenni teledu oedd mlaen ar y pryd. Yn ddiweddarach fe

ddatblygodd cynulleidfa ehangach i’r band, yn ogystal ag albyms ar amryw labeli mawr. Mae Barafundle yn cynnwys Patio Song, o bosib cân enwocaf y band, nath grasho mewn i’r siartiau yn rhif 41! Mae caneuon fel Heywood Lane, Pen Gwag Glas a Diamond Dew yn dangos gymaint o steils gwahanol sydd gan y band pan mae’n dod at sgwennu caneuon. Mae albyms unigol Euros a Rich yn gampweithiau hefyd.

TEXAS RADIO BAND - GAVIN Mae’r albwm yma wedi bod yn barod i’w rhyddhau ers tipyn, ond allan haf yma o’r diwedd. Mae’r caneuon yn rhai rhyfedd, arbrofol ond yn swnio’n berffaith bob tro. Fi’n clywed rhywbeth newydd yng ngeiriau Mini bob tro fi’n clywed traciau’r band. Mae’n biti bod nhw ddim yn cael mwy o sylw, ac mae’r gigs yn gallu bod yn shambolic weithiau ar y gorau, ond mae nhw wastad yn tynnu trwodd ac yn rhoi gig da. I Will Be Coming Home ydy un o’r tracie gore ma nhw wedi’i recordio erioed fi’n meddwl, a mae’n rhyfedd meddwl bod nhw wedi bod yn recordio ers deng mlynedd erbyn hyn.

17


GYDA CWPL O GIGS AR EU PATCH EU HUNAIN YN EISTEDDFOD CAERDYDD AC ALBWM GOREUON ALLAN AR LABEL RASAL, MAE’R BAND FFYNC A FFURFIODD YN YSGOL GLANTAF, HANNER PEI, YN ÔL YN GIGIO AC YN YSGRIFENNU DEUNYDD NEWYDD. IAN COTTRELL AETH I GWRDD Â DAFYDD A CERI O’R BAND I’W HOLI AM Y GORFFENNOL, Y PRESENNOL A’R DYFODOL I HANNER PEI.

FFYNCIA NÔL

MA NAWR Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, diwedd yr 80au: Ceri Evans, Dafydd Palfrey a Matthew Glyn yw “ymgorfforiad y Glantaf show offs” ac mae Sion Edwards rhywle yn y cefndir. Mae nhw wedi trefnu sesiwn fyrfyfyr o gomedi a cherddoriaeth yn y neuadd er mwyn codi arian i Dr Barnardos. Does na’r un ohonyn nhw’n gallu chwarae offeryn ... yn dda iawn. Dyma ddechreuad ar “giddy love affair” fyddai’n ymestyn ar draws dwy ganrif ac i bedwar ban Cymru. Daf: “Ar y pryd bechgyn ifanc, 16 oed oedden ni - ac oni’n eitha fed up o’r

18

...OEDDEN NI MOYN BOD FEL RHYW FATH O ‘CULT’

yselar@live.co.uk

bandiau oedd yn bodoli yn Glantaf a beyond ar y pryd - do’dd dim lot o hiwmor yno. Fi’n cofio gweld Y Cyrff yn Steddfod Llanrwst ym 1989 a meddwl - mae’r gerddoriaeth yn dda ond so ultra serious. Ag o’dd loads o ferched yn yr ysgol mewn i’r Cyrff a Crumblowers. Ag oedd e fel bod e’n almost angenrheidiol bod rhaid i chi fod mewn i’r bandiau ‘ma. A hwnna o’dd yr ysbrydoliaeth i ni - oni ishe gweud “fuck off with your miserablist Welsh bollocks”. Felly ar ôl siarad gyda Ceri a’r bois penderfynon ni greu rhyw fath o fersiwn o’r bandiau ‘sulky’ hynny a chanu caneuon am y llywodraeth, ag ati, albeit yn hollol tongue in cheek.. Ceri: “Cymryd y piss really a cael laff oedd y bwriad ar y cychwyn. Doedd ‘na ddim maniffesto. Ges i 12 string acoustic gitâr ar fy mhen-blwydd yn 15 neu 16 ac oni’n benthyg gitars gan bobol. In fact, o’dd un o’n gitars cynta ni di dod gan hen lodger Mam fi. Doedd dim bass yn y line up gwreiddiol na drummer, er o’dd

accordion ‘da ni. O’dd gig cynta ni yn Clwb - ac o’dden ni jyst yn jamio tra o’dd Math yn darllen o’r Hen Destament. Doedd dim clem gan y band pa fath o music oedden ni’n trio creu. Nes i brynu chord book a dysgu chord progressions a dysgodd Daf i chwarae’r gitâr ac a’th pethau o fanna. Fel dwedodd Daf, pethau “tongue in cheek” oedden ni’n neud felly o’dd un gân o’r enw Gwarchae Berlin am y wal o’dd jyst ‘di dod lawr ac hefyd Bychan a’i Bel am foi unig sy’n hoffi treulio amser ar ei ben ei hun. A fel mae’n digwydd, bennodd y gân yna lan ar ein casét cynta Locsyn. Daeth Locsyn allan ym 1990, jyst mewn pryd i Steddfod Cwm Rhymni a gyda fideo hafaidd i’r gân Pererin ar y rhaglen ‘Fideo 9’ cafodd Cymru flas ar Hanner Pei am y tro cynta’. Roedd y fideo yn adlewyrchu teimlad yr albwm yn berffaith ac yn gyflwyniad delfrydol i’r band gyda golygfeydd o’r aelodau i gyd yn cael laff gyda’i gilydd, ar y traeth yn cael bbq, ac yn reidio beics lawr lonydd coediog,


NA GYD DWI’N COFIO YW PA MOR SMELLY OEDD TRAINERS DAF YN Y CAR...

Haf 1990 dyma be o’dd wedi arwain at y ^ n sydd ar Boomshakaboomtang. sw Ar yr un pryd roedd noson ‘Juice Joint’ yn Clwb Ifor Bach ar ei hanterth. Roedd Clwb Ifor Bach dal ond yn 7 mlwydd oed ac roedd nosweithiau di-Gymraeg yn bethau prin yno. Er, bob nos Iau roedd y lle dan ei sang gyda phobl yn mynd yno i ddawnsio ac i glywed y Dj Kris Jenkins yn chwarae soul, funk, disco a hip-hop. Daf: “O’dd pawb yn edrych mlaen at fynd bob nos Iau i glywed stwff newydd a hen amazing o’chi erioed di clywed o’r blaen a dyna lle daethon ni yn nes at Euros Wyn a Huw Lloyd - o’dd jyst di cychwyn yn y Brifysgol yng Nghaerdydd - a daethon nhw yn rhan allweddol o line-up y band wedyn felly gyda’r ysbrydoliaeth o’r gerddoriaeth yma o’dd momentwm anferth i ni i greu stwff tebyg ein hunain.” Felly gyda dau aelod newydd ar y sax i ychwanegu at y trwmped a chornet yn y band, dechreuwyd ar y gwaith o recordio’r ail gasét ‘Boomshakaboomtang’, ddaeth allan ym mis Chwefror, 1991. Ac o gychwyn y trac cynta’ Parti, roedd y bwriad yn glir: dawnsio oedd hi am fod, a mwynhau mas draw. Gyda’r gân honno, y trac teitl ei hun a chaneuon wedi eu - ahem - “benthyg” o lefydd eraill, gwthiodd ‘Boomshakaboomtang’ y botymau cywir gyda chynulleidfaoedd ifanc Cymru. Roedd hi’n albwm oedd yn teimlo’n iawn ar y pryd, ac roedd yr amseru’n berffaith. Meddyliwch am y flwyddyn mae Derwyddon Dr Gonzo newydd gael a dych chi’m yn bell ffwrdd o sut oedd hi i Hanner Pei hefyd.

heulog yn eu crysau-t llewys hir gwyn ^ oedd i gyd yn cynnwys logo y grw p ar y ffrynt (wedi ei gynllunio gan Daf - elfen fyddai’n parhau yng ngwaith celf y band am y blynyddoedd i ddod). Yn syml, oedden nhw’n edrych yn cwl ond - yn annhebyg i lot fawr o grwpiau’r pryd - yn edrych yn “approachable” ac yn lân. Y math o bobl fysech chi ishe cael peint a sgwrs ysgafn efo nhw ac ar yr un pryd yn ^ gallu bod yn siw r nad oedden nhw’n drewi o B.O. na chwaith di bod yn gwisgo’r un jeans am bythefnos. I gyd yn rhan o’r steil ac apêl Glantaf ‘na.

Daf: “Y bwriad ar y dechrau oedd cael massive follwing ac yna gorffen ar ôl blwyddyn - oedden ni moyn bod fel rhyw fath o ‘cult’. Ond o’dden ni’n mwynhau e gormod i stopio ... Actually mwynhau sgwennu caneuon a cael buzz allan ohono fe ond sylweddolon ni yn reit fuan na alli di gario joke mlaen am fwy na un albwm. Ceri: “Ie. oedden ni’n excited ar ôl y derbyniad gath Locsyn felly aethon ni ati i sgwennu mwy o ganeuon. Daf: “O gwmpas yr un adeg o’dd ‘3 Feet High And Rising’ gan De La Soul di dod mas a Soul II Soul ‘Club Classics Vol 1’ ac o’dd James Taylor Quartet a’r Brand New Heavies yn rhyddhau stwff ac o’dd Ceri, Math a fi’n caru’r bandiau yna o’n nhw’n neud stwff mwy ffynci a mewn ffordd oni’n trio copïo’r bandiau hynny. Ar ôl i Locsyn ddod mas yn

Ceri: “Steddfod Wyddgrug 1991 o’dd un o atgofion gorau fi, yn y Tivoli yn Bwcle, yn chwarae gyda Tynal Tywyll. Ac hefyd pan nathon ni chwarae yn Knightlys yn Rhyl. Dwi’n cofio pawb ar y llwyfan gyda ni. Oni wastad di cael derbyniad ffantastig fanna a byse pawb yn mynd yn reit nyts. Be o’dd yn grêt am neud gigs yr adeg yna o’dd bod ni dal yn yr ysgol ein hunain a rhywsut oedden ni wastad yn llwyddo conio un o ffrindiau Daniel Glyn i yrru fan i ni achos oni’n rhy ifanc i heirio un. Felly, bydde’r fan yn dod i bigo ni fyny o’r ysgol ar bnawn dydd Gwener yn barod am benwythnos o gigs ag o’dd o just yn teimlo fel y peth mwya ‘rock and roll’ erioed pan ti’n 17 neu 18! Invariably, bydden ni’n cyrraedd y Gogledd yn hammered - ond oni wastad yn dynn fel band ac o’dd pobl wastad yn neud yr ymdrech i fynd i’n gigs ni - ag oni’n annog nhw i fynd yn nyts hefyd” Yn coroni’r cyfan ym 1991 oedd Ffynciwch O Ma; cân gafodd ei recordio ar gyfer ‘Fideo 9’ a chafodd ei rhyddhau ar yr albwm aml-gyfrannog ‘O’r Gad’ ar label Ankst ym mis Hydref y flwyddyn honno.

19


dibynadwy fel hwyl, hiwmor a digon o “fenthyg caneuon gan bobl eraill” ar draciau fel Rhydd a Badumdum, un peth am yr albwm oedd ei aeddfedrwydd cerddorol mewn rhai mannau; yn amlwg ar ganeuon offerynnol fel Aqua Libra a thraciau mwy uchelgeisiol fel Uno Bosso.

Parhaodd Hanner Pei i gigio yn ystod Hydref 1991 a Gwanwyn 1992 ac erbyn Steddfod Aberystwyth roedd caneuon newydd wedi dechrau cropian mewn i’r sets - caneuon fyddai’n ymddangos ar yr albwm nesa, a welodd olau dydd ym 1993 - bron i ddwy flynedd ar ôl ‘Boomshakaboomtang’. Gyda phrin chwe mis rhwng y ddwy gasét cynta, roedd y disgwyl yn hir am y trydydd offrwm gan y band. Dafydd Ieuan o Ffa Coffi Pawb ar y pryd oedd wrth y llyw yn cynhyrchu. Ceri: O’dd ‘Vibroslap’ di cymryd oes i recordio. Oni di mynd off i’r coleg i Lundain ac yn hytrach na sgwennu caneuon yn gynta’, oedd lot o’r caneuon di cael eu sgwennu wrth recordio - felly i fi ma’n swnio fel mwy o studio album.

Gyda rhan fwyaf o’r aelodau bellach yn brysur yn y brifysgol ar draws Prydain, daeth cyfnod gigio Hanner Pei i ben yn ddigon distaw a heb fawr o sylw ym 1994, ond gyda’r Steddfod yng Nghaerdydd eleni, daeth y cais iddyn nhw chwarae mewn gig i godi arian, nath arwain at gael cynnig mwy o gigs, gan gynnwys

... SYLWEDDOLON NI YN REIT FUAN NA ALLI DI GARIO JOKE MLAEN AM FWY NA UN ALBWM

Yn cydganu ar y trac oedd Lee Harding, aelod o Mike Harries Root Doctors - band oedd yn perfformio’n fyw yn aml ar y pryd yn y Four Bars Inn, sydd bellach yn fwy adnabyddus fel tafarn Dempseys. Nid yn unig oedd Hanner Pei wedi dod o hyd i gantores ddu i ganu gyda’r band, ond cantores ddu oedd yn gallu canu yn Gymraeg. Ac am bedair munud pan gafodd y fideo ei dangosiad cynta’ ar y ^ teledu, Hanner Pei oedd y band mwya cw l nid yn unig yng Nghymru, ond YN Y BYD.

Daf: Oedden ni ishe tyfu fyny - ishe bod yn fwy cerddorol a mwy hyderus am chord sequences. Oni’n teimlo fel bod ni’n rhan o rhywbeth mwy sef y symudiad Acid Jazz oedd yn enfawr ar y pryd a gallech chi glywed hwnna yn y caneuon offerynnol ar yr albwm, er o’dd yr holl adolygiadau i ‘Vibroslap’ yn dismissive am yr instrumentals yn gweud taw “fillers” ar yr albwm oedden nhw. Oni’n teimlo fel gweiddi wrthyn nhw “Do you know how difficult these fucking chords I’m playing are?!”.

Daf: O’dd popeth di cael ei recordio yn y Gogledd yn stiwdio Gorwel Owen yn Rhosneigr ag o’dd e fel rhyw fath o antur bob tro oedden ni’n mynd i recordio basically yn gorfod cyfuno fe efo gigs a gorfod chwilio am Dafydd Ieuan bob penwythnos. Cofia, doedd dim mobile phones so oedden ni’n mynd lan o Gaerdydd ar nos Iau neu nos Wener ac wedyn yn gorfod trio ffeindio Daf mewn parti rhywle yn y Gogledd, atgoffa fe bod e’n recordio gyda ni ac yna cael e i’r stiwdio. Na gyd dwi’n cofio yw pa mor smelly oedd trainers Daf yn y car ... ie, green suede trainers ... Ych. Er i’r albwm gynnwys yr elfennau

LLUNIAU: CARWYN EDWARDS

20

dwy yn y Steddfod ei hun, rhyddhau cd o oreuon o’r enw ‘... Ar Plat’ (cyfeiriad at enw gwreiddiol y band) a’r addewid o fwy i ddod ... Ceri: Ni di cael ymateb ffantastig - yn well nag oni’n disgwyl. Ni di rhoi lot o ymdrech mewn iddo fe o ran yr ymarfer, ac ma’r bobl sy di dod i’r gigs di rhoi’r ymdrech mewn hefyd - yr un agwedd ag oedd arfer bod - pobl yn dod i’r gig yn disgwyl cael noson “up for it”. Ac ma’r ysgrifennu wedi dechrau eto. Daf yw’r sbardun tu ôl i’r peth, ma’n rhaid i fi gyfadde’. Cyn i ni chwarae eto oni’n meddwl “Shit, ydy hwn yn mynd i weithio allan? Allwn ni dynnu fe off?” ond dwi’n credu nathon ni. Mae dal yr un berthynas a dynamig gyda ni ac er fod e’n mynd i fod yn challenge ma’ ‘na buzz wrth neud e i gyd eto ac mae’r buzz dal yno ...


CDS FYDD ALLAN YN FUAN S NEWYDD FEL ARFER. OND, CD N RA O EL W TA D O FN GY FOD YN YDD MA’R HYDREF YN DUEDDOL O U BARATOI I RYDDHAU DEUN IA ND FA I H RT W EL RW GO Y AR MAE ‘NA CHYDIG O FWRLWM DDWEUD AM EU CYNLLUNIAU. I’W IAU ND BA ’R O I RA N GA . DYMA SYDD WYDD MEWN PRYD I’R NADOLIG

NE

defnyddio cerddorion newydd a’r gobaith ydi creu rhywbeth hollol wahanol i stwff Dan Lloyd a Mr Pinc. Ma’r pwyslais dal ar y melodis ond ma ne fwy o ddylanwad jazz/rock fel Steely Dan i’w clywed tro ma. Dwi di bod yn sgwennu ar y cyd efo’r cynhyrchydd, Greg Plamer. Does dim enw iddi eto, ond recordio drwy law Rasal/Sain fyddai.”

THE GENTLE GOOD

Gareth – “Enw CD newydd The Gentle Good yw ‘While You Slept I Went Out Walking’ ac mae’n gymysgedd o ganeuon traddodiadol a chyfansoddiadau fy hun yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae cynnwys yr albwm yn debyg i gynnwys yr EP ‘Dawel Disgyn’ o ran steil - gitâr acwstig gyda threfniannau llinynnol ysgafn a phrydferth. Cerddoriaeth werin gyfoes yw’r disgrifiad gorau ohoni, ac mae’n dod allan yng nghanol mis Hydref gobeithio”

ASHOKAN

MC SAIZMUNDO

Deian - “Does ‘na’m sicrwydd pryd fydd hi allan, bosib mis Hydref ond fydd hi’n sypreis. Ond mae prosiect hir ddisgwyliedig Docfeistr bron bron bron bron iawn a chael ei orffen, dwi’n gwbod mod i wedi deud hynne gannoedd o weithie, ond mae hyn yn go iawn, go iawn tro ma! Pedair blynedd lawr y lon a dim ond mater o ddyddie yn llythrennol sy’ na i orffen y prosiect! Fydd y rhyddhad yn enfawr, o’r diwedd ga’i wared o’r Docfeistr allan o fy mhen unwaith ac am byth ac wedyn off i’r clinic! Fydd hi’n bleser, yn fy amser sbâr wedyn, bydd yn rhaid imi fynd allan i New York i gyfansoddi rap yn y Grand Central Station. Ac wedyn mynd ar raglen Radio Cymru yn deud, “O dwi mor lwcus mod i wedi cael y cyfle i weld mwy na Chymru”. Allan ar Label Abel,

bydd opera roc yn dilyn hynt a helynt y Meistr y Moroedd ac yn cynnwys Gruff Rhys, Endaf Presli, Mr Huw, The Stilletoes a mwy. A dyna ni, dyna ddiwedd ar fy nonsens.”

DAN LLOYD A MR PINC

Dan - “Ma Dan Lloyd a Mr Pinc yn bwriadu recordio blwyddyn nesa ond dwi’n recordio albym solo yn y flwyddyn newydd efo’r bwriad ei rhyddhau cyn haf nesa. Ma’r caneuon yn barod ac yn cael eu recordio mis Chwefror. Fyddai’n

Marc - “Roedd Ashokan yn y stiwdio rhwng Ebrill 30 a Mai 16. Ry’n ni’n bwriadu rhyddhau’r albwm yn fuan, ond sdim dyddiad pendant wedi’i gadarnhau ar hyn o bryd. Mae ‘na lein-up newydd ers i Slug adael ym mis Ebrill 2007 a’r aelodau yw ... Aled Davies, Rhys Jones, Cretin Davies, Marc Anthony Real, Owen Weeks. Mae cynnwys yr albwm yn gyfrinach ar hyn o bryd ond bydd Ashokan yn ceisio diweddaru’r adran ^ newyddion bob hyn a hyn ar ein grw p Facebook ‘Bore da gyllell!’, Ffan Clyb Ashokan.” Gallwch chi hefyd ddisgwyl CD’s newydd gan Mattoidz, Derwyddon Dr Gonzo, Threatmantics a Jakokoyak yn y dyfodol agos. Mae’n debyg fod dyddiad rhyddhau albwm newydd Euros Childs, Cheer Gone (Wichita), hefyd wedi cael ei fwrw ymlaen i ddiwedd mis Hydref.

CYFLE I ENNILL LLWYTH O CDS

CYFRANNWCH I’R SELAR

Oes gennych chi farn ynglyn a chynnwys y rhifyn yma o’r Selar neu unrhyw beth yn ymwneud â’r sin gerddoriaeth Gymraeg? Mae’r Selar eisiau clywed eich sylwadau ar ffurf llythyr. Byddwn yn argraffu’r llythyrau gorau ym mhob rhifyn a bydd ‘Llythyr y Rhifyn’ yn derbyn pecyn o bob CD a adolygwyd yn y rhifyn blaenorol! Da de! Anfonwch eich llythyrau draw ar e-bost i ni – yselar@live.co.uk

Mae’r Selar yn chwilio am gyfranwyr, boed yn adolygwyr Cds neu erthyglau mwy. Os ydych chi wedi bod mewn gig da / gwael neu CD wedi eich plesio / siomi yna anfonwch eich adolygiad draw i ni ar e-bost – yselar@ live.co.uk. Efallai mae eich erthygl chi fydd yn ymddangos ar y dudalen yma tro nesaf!

^

21


AL LEWIS DILYN POB CAM

RASAL Rhaid cyfadde’ nad oeddwn i ‘di clywed Al Lewis cyn gwrando ar ei EP diweddara sy’n cynnwys pedair cân ddigon rhwydd gwrando arnyn nhw, yn eitha’ canol-y-ffordd ond eto does dim gormod yn bod ar ^ hynny nawr ac yn y man. Dwi’n siw r y bydd llawer o bobl wrth eu bodd gyda Al Lewis, ond dyw e ddim yn llwyddo i nghyffroi i a gwneud i fi stampio’n nhraed a gweiddi ‘mwy, mwy, mwy’. Mae’r CD’n gwella wrth iddo fynd yn ei flaen fodd bynnag, gyda’r gân gyntaf Pryfed yn Dy Ben braidd yn rhy boplyd a Maharishaidd at fy nant i (ond eto on in canu e am sbel rol i’r CD orffen, damo). Ma’ Dilyn Pob Cam yn fwy ‘blues-y’, tra bod Tybed Be Ddaw yn arafach a bron yn eich anfon chi i gysgu ... Ond na phoener, achos y bedwerydd trac oedd fy ffefryn, gyda Gwaed ar fy Mysedd yn fwy up-beat, ac yn gorffen yr EP’n daclus reit. Yn syml, CD neis, rhwydd i wrando arni ond dim byd neith newid eich bywyd. 5/10 LOWRI JOHNSTON

LOWRI EVANS ....DIM DA MARIA RASP

Gyda chymaint o ferched wedi dod i’r amlwg yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, anodd iawn yw hi i artist ifanc benywaidd dorri cwys newydd iddi hi ei hun. Efallai mai dyma broblem fwyaf yr EP 6 chân yma gan Lowri Evans. Nid yw ‘... Dim da Maria’ yn torri cwys

FRIZBEE CREADURIAID NOSOL COSH

Dwi’n un o’r rhai sydd wedi edmygu Fizbee erioed. Di’r gerddoriaeth ddim wastad wedi taro deuddeg gyda mi, ond mae’r ffordd mae’r hogia o ‘Stiniog wedi creu gyrfa broffesiynol i’w edmygu’n fawr. Esiampl i artistiaid Cymraeg eraill! Ac felly dyna pam na chefais fy synnu wrth wrando ar Creaduriaid Nosol am y tro cyntaf. Albwm daclus, broffesiynol, safonol sy’n dangos eu bod bellach wedi meistroli’r broses o recordio yn ogystal â pherfformio’n fyw. ^ Gyda’r sw n ‘roci’ newydd, a mwy o bwyslais ar

GENOD DROOG NI OEDD Y GENOD DROOG SLACYR Roedd murmur-gwyno gan rai y byddai’r albwm yn llawn caneuon oedd bellach yn hollol gyfarwydd. Ac oes, mae rhai traciau, yn benodol Breuddwyd Oer, Thema Genod Droog (‘Pwy sy’n ddrwg...’), Llong Pleser a Bomiwch y Byd yn adnabyddus ar ôl y gigio mawr a’r chwarae ar y radio, ond y gweddill sy’n coroni hwn fel albwm o fri, diemwntau fel Gig Mawr y Gofod a Dal ni Lawr (y fideo Badminton ar Bandit a Youtube). Mae’r tempo yn egniol ac yn ddidostur, y cynhyrchu yn rhagorol tu hwnt a symudiadau lleisiol talentog Nei Karadog ac Ed Holden yn serennu ar y fath blatfform, trefniant a lleisiau cefndir hollol berffaith yn nodwedd amlwg o fanylder y gwaith hefyd. Albwm gwych, llawn graen, agwedd a gofal ^ gan grw p sydd wedi hawlio eu seddi moethus ym mhlas ymddeol hanesyddol cerddoriaeth Cymraeg, sy’n gadael ar y top hefo winc heb or-ymestyn ar eu croeso. Ni welir eu math eto. 8/10 HEFIN JONES

22

newydd. Cyfuniad a geir yma o wahanol arddulliau sydd wedi eu meistroli gan artistiaid benywaidd eraill dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Edrych mor Wyn yn werinol ei naws. Mae cyffyrddiadau jazz yn perthyn i Dim da Maria a Mas o’r Glas, tra bod Rho Siawns i Fi mewn arddull gwlad. Serch hynny mae safon dderbyniol i’r cynhyrchu gyda llais Lowri’n gweddu i’r trefniadau yn ddigon taclus.

ALED IFAN

SBRIGYN YMBORTH Odd rhaid iddo fe ddigwydd rhywbryd yn doedd ‘na? A na, dwi ddim am gwympo am y cliche o ddweud bod Gwyneth Glyn yn neud-bob-dim (wps), ond wir, diolch byth ei bod hi achos mae’r bartneriaeth yma yn wych. Tair cân - dwy yn gyfarwydd i ffans Cowbois Rhos Botwnnog a’r llall i ffans ‘rhen Gwyneth - a’r tair yn arbennig. Dwi wrth fy modd gyda Paid a Deud y Cowbois ta beth, ond

LABEL ABEL O’n i’n hanner disgwyl y byddai hwn yn adolygiad bach annifyr. Yn rhagfarnllyd ro’n i wedi hanner paratoi llith yn dweud fod petrol y peiriant gynhyrchodd glasuron fel Helo Dymbo a Nwy yn y Nen wedi hen ddarfod. Ond mae’r Tebot yn rhagdybio’r feirniadaeth bosib honno ar y trac Crac gyda llinellau clyfar fel “Bill y Barnwr yn ei fedd erbyn hyn a’r arwyddion i gyd yn Gymraeg” ac yn gwneud ffyliaid o’r

ALED IFAN

riffs yn hytrach nac alawon, ai albwm ar gyfer y ffans ydi Creaduriaid Nosol, ynteu Frizbee’n tyfu fyny, ac yn y broses o symud ymlaen gyda’i gyrfa? Mae caneuon megis Dysgu, Gwyn a Pendraphen yn gweddu i gynulleidfaoedd y tu allan i Gymru yn fwy na Ti (Si Hei Lw) a Dora Gusan a gafwyd yn y gorffennol. Mae dylanwad Kings of Leon a grwpiau tebyg yn amlwg, ond biti fod yr unig drac Saesneg, Reach 4 the ^ ^ Skies yn adlewyrchu’r hen sw n yn lle’r sw n newydd! Os nad ydych wedi bod yn ‘ffan’ o Frizbee yn y gorffennol, mynnwch gopi. Efallai y cewch eich siomi ar yr ochr orau! 7/10

COWBOIS RHOS BOTWNNOG A GWYNETH GLYN PAID A DEUD

TEBOT PIWS TWLL DU IFAN SAER

Mewn geiriau eraill, nid oes dim o’i le gyda’r EP hwn, ond yn sicr nid yw’n EP fydd yn chwyldroi cerddoriaeth Cymraeg am y ddeg mlynedd nesaf chwaith! 5/10

gyda llais hyfryd Gwyneth yn gefndir, mae’n gwneud y cyfan yn un cyfanwaith perffaith. Ma’ Mhen i’n Llawn yn fwy ‘up-beat’, tra bod Musus Glaw (sef un o’n hoff ganeuon Cowbois i) yn och-a-gwae, araf! Ond mae’r cyfan yn gweithio, a llais Iwan a Gwyneth yn gweithio mor dda gyda’i gilydd. Rhaid cyfaddef mod i dal yn hoffi’r wreiddiol ore fodd bynnag ... Ond mae sain y cyfan yn wych - wedi ei recordio yn Nhy^ Newydd Sarn wyddoch chi - a’r cynhyrchu yn sbot on. Da, da iawn wir! 7/10 LOWRI JOHNSTON

amheuwyr drwy gyflwyno albwm hyderus a phleserus. Mae Twll yn Un a MOMFFG yn nodio at draddodiad ffwlbri’r hen Debot, yn gymysg â chaneuon mwy meddylgar a chrefftus. Ond, ar y llaw arall, mae Sat Nav yn troedio’n amheus ar diriogaeth beryglus Dylan a Neil-aidd. Y Tebot fyddai’r cyntaf i gyfaddef na fydd yr albwm yma’n dechrau unrhyw chwyldro ond mae’n ffordd ddymunol o dreulio tri chwarter awr ac yn saff o blesio’u ffans oedd yna ers y cychwyn. 5/10 HEFIN JONES

Postiwch ? eich cd’s i’r Selar, Llawr 1, Canolfan Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd LL57 5TG


adolygiadau DATBLYGU THE PEEL SESSIONS 1987 – 1993 ANKSTMUSIK

Dros gyfnod o 6 mlynedd llwyddodd Datblygu i neud 5 sesiwn ar gyfer rhaglen John Peel. Mae’r ffaith yma’n unig yn dangos pa mor uchel eu parch oedd Datblygu yn y sin tanddaearol a thu hwnt. Heb os, Datblygu ydy un o’r bandiau mwyaf dylanwadol os nad y band mwyaf dylanwadol yng Nghymru. Be sy’n wych am y casgliad yma ydy ein bod yn gallu gweld y gerddoriaeth yn newid a (sori) datblygu wrth i ni symud o un sesiwn/

cyfnod i’r llall. Does dim amheuaeth fod gan David R Edwards ddawn aruthrol o drin geiriau ond mae’r ffordd mae’n llwyddo i drosglwyddo’i feirniadaeth, ei emosiynau a’i deimladau yn ei ffordd unigryw o gân/rap yn ychwanegu gymaint. Dyma’r tro cyntaf i’r caneuon yma ^ ry ymddangos ar CD a dwi’n siw byddai’n ychwanegiad gwerthfawr i unrhyw gasgliad. Fel dywedodd Peel “You’d have to be a bit of a ninny to ignore Datblygu”. 7/10 DEWI SNELSON

YR ODS DEFNYDDIO

MAFFIA MR HUWS CRONICLAU’R BWTHYN

SAIN Wrth wrando ar y casgliad yma o oreuon Maffia Mr Huws yr hyn sydd yn dod i’r amlwg yn syth yw bod teimlad, angerdd a brwydrau lu’r wythdegau i’w clywed yn glir. Mae elfen wleidyddol i nifer o’r caneuon fel Da Ni’m yn Rhan, sy’n cyfeirio at y rhyfel oer a Halen yn y Briw am streic fawr chwarel Penrhyn. Mae’r ddwy gân yma a Gitâr yn y To yn sefyll allan i mi ond mae’n anodd iawn ffeindio cân wan. Cryfder mawr Maffia ydy eu perfformiadau RHAID byw felly mae’n braf NDO gweld dau drac byw GWRA Ffordd Osgoi Trwy’r Coed a Tri Chynnig i Gymro ar y CD. Sain unigryw’r cyfnod sydd yma, ond mae’r caneuon dal yn ffres ac wedi llwyddo i oroesi’r blynyddoedd. Os ydych yn newydd ddyfodiad i ganeuon Maffia, neu’n ffan selog ers yr wythdegau, ewch i brynu’r CD yma - neith hi mo’ch siomi. 8/10 DEWI SNELSON

CIWDOD Be da chi’n gal os ydach chi’n croesi radio hefo mwncis oer iawn? Rhywbeth tebyg i Yr Ods fyswn i’n tybio. Nid fi ydy’r cyntaf i dynnu sylw at ddylanwad amlwg bandiau fel Radio Luxemburg a’r Arctic Monkeys ac Yr Ods. Ond ma’r dylanwad yn amlycach nac erioed wrth wrando ar eu sengl gyntaf. Nid peth negyddol ydy hyn cofiwch - ma’r Ods ^ n un wedi llwyddo i gyfuno elfennau o sw o fandiau gorau Cymru ac un o fandiau ^ gorau Prydain i greu sw n bach cyffrous eu hunain. Mae’r ddwy gan, Defnyddio a Chwyldrofeistr yn popi ac yn fachog. Maen nhw eisoes yn cael eu chwarae’n gyson ar y radio ac yn sicr ma na ‘buzz’ am y band. Dwi’m teimlo fod modd ^ barnu sw n stiwdio band trwy sengl, felly bydd hi’n ddiddorol gweld os oes digon o amrywiaeth a syniadau ffres i greu albwm da. Allai ddim disgwyl. 7/10 OWAIN SCHIAVONE

CYRION

CYRION MUSIC Wedi cydweithio â Dilwyn Llwyd ar albwm gyntaf Yucatan, gadawodd Rhodri Owen i gyfansoddi project cerddorol ei hun a’i alw’n ^ Cyrion. Disgwyliais i sw n yr albwm fod yn ^ n Yucatan felly, o ystyried hefyd fod debyg i sw Theston Jones a Derfel Griffiths sy’n ymuno â Rhodri wrth chwarae’n fyw hefyd yn aelodau gwreiddiol o Yucatan. Ond nid oes tebygrwydd amlwg, oni bai am y trac Agor - sy’n Sigur Ross-esque iawn hefo’r defnydd o glocenspiel ac offerynnau llinynnol. Dyma’r gân orau o bell ffordd. Oni bai am y gân honno, mae’r ^ offerynnau yn brin iawn a’r unig sw n piano sydd ar yr albwm yn cael ei foddi gan effeithiau llusgo ag ail-weindio curiadau. Mae’n albwm electroneg sy’n llawn adeiladweithiau trawiadol, ond yn anffodus doedd y rheini ddim yn arwain at yr uchafbwyntiau anhygoel a ddisgwylid gan y fath adeiladwaith hir. Ceir cymysgfa dda o synths a break beats yn y gân Llwch, y naill ^ sw n a’r llall yn brwydro yn erbyn ei gilydd fel cystadleuaeth rhwng dau DJ. Mae Etcher yn cynnwys curiadau oddi ar y synth hefo ^ effeithiau sw n tebyg i hen gemau cyfrifiadurol fel Space Invaders a synau robotaidd. Mae’n anodd tynnu tebygrwydd rhwng Cyrion ag unrhyw ddeunydd Cymraeg tebyg, heblaw am brojectau electroneg Geraint Ffrancon a’i Recordiau Safon Uchel a oedd yn arfer cynrychioli’r genre electroneg Cymraeg cyfan, mwy neu lai! Felly er nad yw Cyrion yn broject cwbl chwyldroadol yn fy marn i, mae’n haeddu ei le fel project cyffrous i lenwi’r bwlch electroneg yn sin gerddorol Cymru. 6/10 LEUSA FFLUR

HANNER PEI AR PLAT

RASAL Dwi’n rhyw hanner cofio’r ffenomena Hanner Pei gwreiddiol ... wel, dwi’n cofio Ffynciwch o ‘Ma’n iawn! Be oedd yn syndod wrth wrando ar Ar Plat oedd gymaint o’r caneuon eraill o’n i’n adnabod. Mae’n fy atgoffa o hen drysorau Petula a Parti, ac yn fy nghyflwyno i draciau llai adnabyddus (a mwy swynol na fyddech chi’n disgwyl) fel Blodau. Mae Ar Plat yn gasgliad o oreuon y band o’r tri CD a ryddhawyd rhwng 1990 a 1992, ac o wrando, ac astudio’r llawes, y ffordd orau o’u disgrifio heddiw fyddai rhyw gyfuniad o Genod Droog a Gwibdaith Hen Fran - ma’n ddigon i ddychryn rhywun dydy! Ond o ddifrif, ma’r hiwmor sy’n ymdebygu i Gwibdaith, a’r awyrgylch o barti mewn gigs, a ddisgrifir mewn pwt difyr gan Llwyd Owen yn y llawes, yn debyg iawn i’r hyn rydym wedi gweld gan y Genod Droog. Mae’r albwm yn llawn ffync a hwyl ac yn berffaith ar gyfer ... wel, parti. 7/10 OWAIN SCHIAVONE

23


NOS SU SUNDAYL 26 HYDREF 26 OCT OBER

21∑00

Con Passion ate

Rheswm One fin neu angerd al fling d? ?

s4c.co. uk /clic


Y Selar - Hydref 08